-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archives: Carl Morris
Blog Carl Morris: Sut i sicrhau bod arloesi agored yn wneud lles i’r byd
Dw i wedi bod yn meddwl lot am anfanteision arloesi agored a sut mae cwmniau/’actorion’ yn gallu defnyddio cynnyrch arloesi agored i wneud drwg. Er enghraifft mae Plaid Genedlaethol Prydain yn defnyddio cod agored WordPress fel sail gwefan nhw. Hefyd rydym ni newydd clywed am Prism, sef system sydd yn chwilio llwyth o ddata ar [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Radio Cymru: diwylliant Cymraeg a diwylliannau yn Gymraeg
Mae pwyslais gwahanol yn yr erthygl Saesneg am sylwadau Rhodri Talfan. [...] Mr Davies said it suggested the “language is in the midst of a fundamental shift” and, therefore, broadcasters like BBC Wales which produces English and Welsh language content across TV, radio and online faced challenges to appeal to a broad audience. He said [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Llyfr Martin Luther King a’r dull di-drais o brotestio
Gadawodd Martin Luther King y byd hwn union 45 mlynedd yn ôl. Heno dw i wedi cael cip arall ar y llyfr Martin Luther King gan T.J. Davies y cyhoeddiwyd yn 1969. Mae darn sylweddol am y dull di-drais o brotestio. O’n i ddim o gwmpas yn ’69 ond mae’n debyg y darllenodd aelodau Cymdeithas [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Yr ystafell uchaf gyda Mahalia Jackson
Haleliwia. Dw i wedi bod yn gwrando ar y gân yma yn gyson ers yr wythnos diwethaf ar finyl a YouTube. Fel arfer dw i’n gwrando pedair neu bum gwaith – tro ar ôl tro! Mae mwy am Mahalia Jackson ar Wicipedia Cymraeg. Parhau i ddarllen
Y Twll: Paris: nofel newydd gan Wiliam Owen Roberts
Wiliam Owen Roberts ydy un o’r awduron mwyaf trawiadol yn ein hoes ni. Wel, ymhlith fy ffrindiau i. Mae nofel newydd ganddo fe o’r enw Paris ar fin cael ei rhyddhau. Mae’n anodd cael gafael ar wybodaeth ond dyma ddatganiad … Parhau i ddarllen → Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Dyfyniad profoclyd Hugo Chávez
Roedd Hugo Chávez yn dyn profoclyd a diddorol dros ben. Dwedodd e yn 2006: “Ar ôl i mi weld methiant diwygiadau cyfalafol a gefnogir gan Washington yn America Ladin, dydw i ddim yn meddwl bod trydedd ffordd rhwng cyfalafiaeth a sosialaeth yn bosibl. Cyfalafiaeth yw ffordd y diawl ac ymelwad. Os ddych chi eisiau gweld pethau trwy [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Mwynhau cerdded Rhondda ac Ogwr
Mae gymaint o lefydd tu hwnt i’r A470! Ac mae’r bryniau o gwmpas y cymoedd Rhondda ac Ogwr yn hyfryd iawn yn yr haul, ymhlith y gorau ar ddaear Duw. Diolch i Glwb Mynydda Cymru am drefnu’r anturiaeth dydd Sadwrn. Bydd rhaid i mi ail-ymweld. Oes unrhyw argymelliadau o lwybrau tra fy mod i’n aros [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Mwynhau cerdded Rhondda ac Ogwr
Mae gymaint o lefydd tu hwnt i’r A470! Ac mae’r bryniau o gwmpas y cymoedd Rhondda ac Ogwr yn hyfryd iawn yn yr haul, ymhlith y gorau ar ddaear Duw. Diolch i Glwb Mynydda Cymru am drefnu’r anturiaeth dydd Sadwrn. Bydd rhaid i mi ail-ymweld. Oes unrhyw argymelliadau o lwybrau tra fy mod i’n aros [...] Parhau i ddarllen
Y Twll: Cam o’r Tywyllwch: sioe Peski / Gwenno Saunders ar Radio Cardiff
Disco, dyb, electronica, pop… Dw i’n bwriadu tiwnio mewn i’r sioe radio Cam o’r Tywyllwch pob nos Iau am 8yh hyd yn oed os yw’r cyd-denant yn mynnu gwylio Pawb a’i Farn ar S4C ar yr un pryd. Mae modd gwrando … Parhau i ddarllen → Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Mudiadau cymdeithasol a’r rhyngrwyd
Mae Evgeny Morozov wastad yn brofoclyd: There are two ways to be wrong about the Internet. One is to embrace cyber-utopianism and treat the Internet as inherently democratizing. Just leave it alone, the argument goes, and the Internet will destroy dictatorships, undermine religious fundamentalism, and make up for failures of institutions. Another, more insidious way [...] Parhau i ddarllen
fideobobdydd: Bore da Bochdew
Braf iawn i weld gwasanaeth newyddion annibynnol newydd yn y Gymraeg
Parhau i ddarllen
Y Twll: Praxis Makes Perfect: gig theatr Neon Neon (Gruff Rhys a Boom Bip) ym mis Mai 2013
Os oeddet ti’n meddwl pa fath o waith celf yn union fydd yr artist amlgyfryngol Gruff Rhys o Fethesda yn wneud nesaf ar ôl ffilm ddogfen realaeth hudol, llew papur ac arddangosfa o westy a wneud o boteli siampŵ, wel … Parhau i ddarllen → Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Y Bont: cwrdd â Kye a Dwynwen (Theatr Genedlaethol)
Y Bont yw’r sioe newydd gan Theatr Genedlaethol. Dyma nodyn bach sydyn i ddweud dy fod ti’n gallu cwrdd â dau cymeriad o’r sioe ar y we. Daw Dwynwen o Landwrog yng Ngwynedd ac mae’n disgrifio ei hun fel ‘Cyflwynwraig. Ymchwilydd PhD. Cymraes.’ ar ei gwefan. Mae hi wedi bod yn cyfweld rhai o’r bobl [...] Parhau i ddarllen
Y Twll: Celf clawr newydd David Bowie
Cyn: Wedyn: Dw i’n methu ymdopi gyda chelf clawr The Next Day. Mae’r peth mor anhygoel o shit. Ond dw i’n methu stopio edrych ar y peth. Hilariws. Ar y dechrau o’n i’n meddwl bod y stori am y clawr … Parhau i ddarllen → Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Wythnos yng Nghymru Fydd – ym Mhatagonia
Mae Gruff Rhys yn dweud: [...] Yn ystod ymweliad ar Gaiman yn y ffilm dwi’n cyfeirio at y reddf ddynol/ddynesol/fynwesol (?) sy’n galluogi ieithoedd i barhau er gwaethaf gormes. Barn optimistaidd (fyrbwyll efallai) ydi hon yn amlwg – gan mai iaith atodol ydi’r Gymraeg bellach o fewn y gymuned leiafrifol wledig Gymreig ym Mhatagonia. Beth sy’n arswydus ydi fod [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: BBC Newyddion: amser cyhoeddi fel problem ‘dan y cownter’
Efallai dylwn i wneud adduned blwyddyn newydd i beidio cwyno gymaint am ddiffyg buddsoddiad BBC yn y Gymraeg ar-lein. Ond yn y cyfamser… BBC yn torri stori yn Saesneg (e.e. Recordiau Sain ar werth heno) Lot o bobl yn rhannu ac yn anfon traffig i’r stori yn Saesneg Maent yn cyhoeddi stori yn Gymraeg 38 munud wedyn [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Stori’r Ynyswyr Chagos: trosedd yn erbyn dynoliaeth
Dw i newydd wylio’r ffilm Stealing A Nation gan John Pilger am sut cynllwyniodd gwladwriaeth Prydain a’r UDA i symud Ynyswyr Chagos oddi ar eu tir gan gynnwys yr ynys Diego Garcia. Bellach mae’r UDA yn defnyddio sylfaen milwrol anferth ar Diego Garcia i lansio ymosodiadau bomio ar Irac ac Afghanistan. Oeddwn i eisiau gwybod mwy [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Gwleidyddion, plant a’r iaith
Mae pobl yn anghofio sut mae’r byd yn edrych trwy lygaid ifanc. Mae plant yn sylwi pethau, maen nhw yn casglu data trwy’r amser sydd yn eu helpu i wneud penderfyniadau. Pan o’n i’n ifanc roedd rhaid i mi astudio lot o bynciau yn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd gan gynnwys y Gymraeg. Ond, o’n i’n [...] Parhau i ddarllen
Ein Caerdydd: Canllaw Bach Caerdydd – llyfr hanfodol
Mae’r gyfrol newydd Canllaw Bach Caerdydd yn fy llaw – ac mae’n llyfr arbennig iawn. Mae rhywbeth i’w ddarganfod am Gaerdydd ar bob tudalen am hanes, bwyd, celf, llefydd i … Parhau i ddarllen →
Parhau i ddarllen
fideobobdydd: Iwan Rees, Tafodieithegydd ac Ifor ap Glyn
diolch i Ar Lafar
Parhau i ddarllen
Y Twll: Aelod o’r Gorwel
Dyma grŵp newydd o’r enw Aelod o’r Gorwel. ‘Grŵp arbrofol’ yw’r unig disgrifiad sydd gyda ni hyd yn hyn. Gwnes i benderfynu bostio’r fideo yma yn syth ar ôl i mi ei darganfod. Mae grŵp addawol newydd yn peth cyffrous … Parhau i ddarllen → Parhau i ddarllen
Ein Caerdydd: Stephen Doughty – llythyr agored am ohebiaeth yn Ne Caerdydd a Phenarth, Cymru
Dyma copi o’r ebost dw i wedi anfon at Stephen Doughty: Annwyl Stephen Diolch am yr ohebiaeth ynglŷn â’r etholiad yn Ne Caerdydd a Phenarth. Mae rhaid i mi ddweud … Parhau i ddarllen →
Parhau i ddarllen
Y Twll: MOBO, Mr Phormula a rap ar yr ymylon
O’n i’n edrych ymlaen i weld pennill rap Cymraeg (neu dwyieithog) gan Mr Phormula ar y gwobrau MOBO ymhlith rhai o’r artistiaid hip-hop mwyaf addawol ar hyn o bryd. Yn anffodus penderfynodd y digwyddiad i beidio rhoi statws ‘cyntaf o’i fath … Parhau i ddarllen → Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Gwynfor v Margaret a dwy rhaglen radio arall am y Gymraeg
Beth achosodd tair rhaglen gwahanol am y Gymraeg ar radio BBC y mis hwn?
Learning to Love Dafydd (ap Gwilym), BBC Radio 4
Gwynfor v Margaret, BBC Radio 4
The Dragon with Two Tongues, BBC Radio 3
(Mae’r drydedd, sgwrs am sefyllfa’r iaith, … Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Rough notes on using social media in one’s second language
My emphasis on this blog has changed over the years. It’s interesting to read back over old posts where I documented my progress with Welsh. Later on I was pretty uninhibited about blogging through the medium of Welsh on here, as a means of practising and as a method of seeing more stuff in Welsh [...] Parhau i ddarllen
Y Twll: Arddulliau newydd Colorama
Dw i’n hoff iawn o’r gân newydd Colorama; Hapus… a’r ailgymysgiad gan Begin… O safbwynt fy nghlustiau mae’n braf iawn i glywed bod nhw wedi ffeindio seiniau gwahanol. Mae’r gân Wyt Ti’n Hapus? yn yr un ardal a Ulrich Schnauss … Parhau i ddarllen → Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Cyfeiriadau gwe yn Gymraeg a rhyngwynebau dwyieithog
Atgoffodd sylw ar Golwg360 fi o’r strwythur cyfeiriadau gwe ar wefannau yng Nghymru. Gweler y gwahaniaeth rhwng yr enghreifftiau isod: http://www.assemblywales.org/abthome/about_us-commission_assembly_administration/abt-commission-membership.htm http://www.assemblywales.org/cy/abthome/about_us-commission_assembly_administration/abt-commission-membership.htm Maen nhw dau yn mynd i fersiynau gwahanol o’r un dudalen. Yn fy marn i, mae’r datblygwyr wedi dewis yr opsiwn diog ar gyfer y system yma. Dw i wedi rhoi ffocws ar [...] Parhau i ddarllen
Y Twll: Underpass a Martin Carr – The Crash
Mae’r gân The Crash yn dod o’r albwm Submergence gan Underpass, cynhyrchydd a chyfansoddwr sydd yn dod o Gaerdydd. Tro yma mae’r gwestai Martin Carr (o Boo Radleys / bravecaptain) yn cyfrannu geiriau a llais. Ardderchog. Am rhagor o wybodaeth … Parhau i ddarllen → Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Bil ieithoedd swyddogol: o #westernfail i fethiannau go iawn
Cofia #westernfail ym mis Mai? Roedd yr erthygl barn yn cyfeirio at bil ieithoedd swyddogol. Roedd cwynion gan gannoedd o bobl – yn y ddwy iaith. Wel, digwyddodd y bleidlais yn y Cynulliad ddoe. Cyhoeddodd BBC Wales News erthygl Saesneg amdano fe, Language bill puts Welsh and English on equal footing, sydd yn waeth na’r erthygl barn gan Martin Shipton [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Lefi Gruffudd, Amazon a’r dewis amgen
Mae Lefi Gruffudd yn ddefnyddio ei golofn Western Fail heddiw i gwyno am Amazon – eto! Yn ystod y flwyddyn diwethaf mae’r Lolfa a chyfryngau Cymraeg wedi rhoi cyhoeddusrwydd i’r un darparwr e-lyfrau sawl gwaith. Gweler: sawl stori Golwg 360 ers 2011 a chofnod mis yma ar blog newydd Y Lolfa. Roedd erthygl yn gylchgrawn Lol eleni hefyd am Dafydd El [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Mwy o fideos coginio plîs, gwe Gymraeg
Mae gymaint o flogiau Cymraeg am fwyd. Ond does dim llawer o fideos coginio. Dw i’n methu credu bod blwyddyn wedi mynd heibio braidd ers fy fideo difrifol iawn am sut i greu bara garlleg. Mwy o fideos coginio plîs, gwe Gymraeg. Bara brith falle? Dw i eisiau dychmygu bod pobl eraill yn meddwl ‘byddwn [...] Parhau i ddarllen
fideobobdydd: Cymdeithas y Cymod – Hysbyseb Heddwch
Diolch i Sianel 62 am gyhoeddi’r fideo o’r hysbyseb.
Gweler hefyd:
Gwrthod hysbyseb heddwch ar S4C (Golwg360)
Ffrae am ddarlledu hysbyseb heddwch ar S4C (Newyddion BBC)
a’r stori ar BBC News yn Saesneg
Blog Carl Morris: Lubuntu: system cyflymach na Windows 7
Recordiais i’r fideo yma ym mis Gorffennaf eleni pan o’n i’n dechrau ar Lubuntu. Ers hynny dw i wedi bod yn rhedeg Lubuntu fel fy prif system gweithredu. Mae gen i Windows 7 ar fy mheiriant hefyd – maen nhw dau yn rhannu’r un system ffeiliau gan gynnwys e-bost. Ond does dim angen defnyddio Windows [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Madge Breese – Hen Wlad Fy Nhadau
Nos da. Ond cyn i ni orffen y rhaglennu heno, dyma’r anthem. Gwnes i ffeindio’r recordiad yma ar Wicipedia. “Cyntaf o’i fath yn y Gymraeg!” Pam ydy hi’n canu ‘rhyddid’ fel ‘na? Ddoedd hi ddim yn gyfarwydd ar y gair am ryw reswm? Mwy gan Madge – mae’r recordiadau i gyd yn y parth cyhoeddus [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Sut i ddechrau gorsaf radio ar y we
Dw i newydd dechrau’r dudalen ar Hedyn gyda chanllaw cam-wrth-gam ar ustream.tv.
Sut i ddechrau gorsaf radio (Cymraeg) ar y we
Roedd fy ffrind yn gofyn am help a does dim rheswm i beidio cyhoeddi’r help i bawb.
Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Pwll aur yn Rwmania
Wrthi’n gwrando ar sioe BBC Gwasanaeth y Byd am gynllun i adeiladu’r pwll aur mwyaf yn Ewrop yn Rwmania. Bydd MP3 ar gael cyn hir. Os oes rhywbeth mae Gwasanaeth y Byd yn licio maen nhw yn joio siarad am broblemau tramor. Mae’r stori yn debyg i ambell i gynllun datblygiad yng Nghymru. Wel, mae tebygrwydd. [...] Parhau i ddarllen
fideobobdydd: Gorchuddio cerflun Henry Morton Stanley yn Ninbych
http://www.youtube.com/watch?v=s5NEkL4qc3Y
Parhau i ddarllen
Y Twll: Akala – Fire In The Booth RHAN 2
Wyt ti’n cofio Fire In The Booth gan Akala llynedd?
Sut ydw i newydd ffeindio rhan 2 heno, tair mis yn hwyr? Mae’n amhosib gwerthfawrogi pob gair ar y gwrandawiad gyntaf. Ac mae allfloedd fach i bobl Celtaidd hefyd.
Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: BBC + S4C + Ti == PYC
Beth mae pob(o)l yn meddwl o’r datganiad S4C heddiw? Mae S4C yn cynnig cyfle arbennig i gwmnïau neu unigolion sy’n gweithio yn y cyfryngau digidol i fod yn rhan o brosiect arloesol. Pobol y Cwm yw un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C, ac yn ystod hydref 2012 bydd BBC Cymru yn cynhyrchu prosiect traws-blatfform er [...] Parhau i ddarllen
Y Twll: Terry Waite ar Asid, Pop Negatif Wastad a Big Black
Mae Turquoise Coal newydd rhannu recordiadau o EP gasét 1988 gan Terry Waite ar Asid. Aelodau y band oedd Paul O’Brien, Bonz, Gwion Llwyd, Al Edwards, Iwan Griffiths a, fel y welwch yn y fideo, Llŷr Ifans. Mae’r fideo yn … Parhau i ddarllen → Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Crwydro caeau Pentre-baen
Wel, mae Dic Mortimer wedi bod yn crwydro Pentre-baen a’r hen reilffyrdd yn ddiweddar: Apart from Fairwater and Pentrebane locals, few Cardiffians ever go here. [...] I was still conscious of treading on blighted ground marked for future destruction. The ravishing beauty was intensified by a dull ache of regret. I’d heard it so often before: “I remember when [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Amlieithrwydd Global Voices (Eidaleg, Rwsieg a mwy)
Mis diwethaf gwnes i sgwennu erthygl am heriau i’r we Gymraeg i Global Voices. Mae pobl wedi cyfieithu’r erthygl bellach i Eidaleg a Rwsieg. Gwych! (Diolch i Barbara Constantino a GV Russian.) Oes galw am erthyglau Global Voices o bob math yn Gymraeg? Os oes galw, oes gwirfoddolwyr sydd yn fodlon cyfieithu o ieithoedd eraill [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Cofio bywyd Eileen Beasley
Bu farw Eileen Beasley bore dydd Sul. Mae’r teulu Beasley wedi cael effaith pellgyrhaeddol ar Gymru ers eu gweithred lwyddiannus i sicrhau biliau treth yn Gymraeg. Roedd yr arddangosfa ar faes yr Eisteddfod wythnos diwethaf yn bwerus iawn. Ac mae’r stori heddiw yn haeddu sylw yn y cyfryngau. Ar hyn o bryd, yr unig beth newydd [...] Parhau i ddarllen
Blog Carl Morris: Sawl wici sydd yn Gymraeg?
Tra o’n i’n siarad gyda chyfieithiwr MediaWiki ar y maes ddoe o’n i’n meddwl: sawl prosiect wici sydd yn Gymraeg? Rydyn ni’n casglu blogiau, beth am wiciau? WikiMedia yw’r sefydliad tu cefn i MediaWiki sydd yn gyfrifol am: Wicipedia Wicitestun Wiciquote Wiciadur Diolch i WikiMedia mae’r system wici meddalwedd rydd MediaWiki yn bodoli. Dw i wedi [...] Parhau i ddarllen
Y Twll: Gigs Cymdeithas, Clwb Rygbi Llanilltud Fawr
Roedd Ian Dury and The Blockheads yn canu am resymau dros fod yn siriol. Wel, mae lot o bobl yn cyffroi am gigs Cymraeg ar hyn o bryd. Mae ‘na lot llai o bryderon am gerddoriaeth Cymraeg yn yr arddull … Parhau i ddarllen → Parhau i ddarllen











