Dewis Mis
Chwilio
Archives: cathasturias
Asturias yn Gymraeg: Derbyn Diwedd ETA
Roeddwn i wedi disgwyl cael mwy heddiw am gytundeb gwleidyddion Sbaen ar Wlad y Basg, ond does na ddim, felly af i dros yr hyn ddigwyddodd ddoe – yr unig beth ddaeth heddiw oedd y bleidlais ar lawr y Senedd. Mae’r cyfryngau Basgaidd yn ei alw’n gytundeb na welwyd mo’i fath o’r blaen. Holl bleidiau [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Llyfr yn erbyn Pastwn
Dewis anodd heddiw: dim ond amser gyda fi ysgrifennu un cofnod a dwy stori werth eu hadrodd. Ond gan fy mod wedi ymdrin â’r Basgwyr yn ddiweddar, wna’i adael hanes y gytundeb rhwng pleidiau mawr Sbaen ar ddatblygiadau yno, ac edrych ar y gwrthdystiadau yn Valencia. Ddydd Iau diwethaf, fe gafodd nifer o brotestwyr yn [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: O’r Ardd: Gwaith Bob Dydd
Mae gweithio yn yr ardd yn dod â bodlonrwydd ar ddiwedd y dydd. Hyd yn oed os taw dim ond paratoi yr ydym at dymor yr hau mawr a’r plannu, mae’r llecyn yn edrych yn well heno nag oedd e bore ‘ma. Haul drwy’r dydd heddiw hefyd, sy’n help, a’r gwynt main o’r dwyrain yn [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: I’r Stryd
Hanner miliwn yn Madrid, 400,000 yn Barcelona. Miloedd mwy yn ninasoedd mawrion ledled Sbaen. 40,000 yn y glaw yn Gijón, Asturias, (poblogaeth 2011: 277,000). Mae’r gwrthdystiadau heddiw wedi denu llawer mwy o gyfranogwyr nag oeddwn i wedi ei ddisgwyl. Tan neithiwr, o leiaf, mae oedd cyfeillion yn y bar yn sôn am godi’n fore i [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Moliannwn
Roeddwn yn gallu gwynto’r gwanwyn pan ddihunais i. Rhyw newid bach yn yr aer, fel petai pethau byw eraill ar fin deffro. Does dim llawer i’w weld eto; pan es i am dro i lawr ar hyd glan yr afon roedd ambell i lygad Ebrill a llu o grafanc-yr-arth (lle na droediodd arth ers blynyddoedd [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Dyfodol Gwlad y Basg – Eto
Adroddiad yn El País heddiw am araith ddiddorol gan un o aelodau senedd Ewrop dros Wlad y Basg. Cynrychiolydd y PNV (y Blaid Genedlaethol Basgaidd) yw Izaskun Bilbao, ac roedd yn siarad mewn fforwm a drefnwyd gan Nueva Economía, corff annibynnol sy’n gweithredu ar draws Sbaen i gynnal trafodaethau ar faterion economaidd. Ei phwnc oedd, [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Daw Lliw â Llawennydd
Rwyf yn teithio drwy’r dydd heddiw, felly dyma ychydig o luniau lliwgar i hala ti feddwl am y gwanwyn – rownd y gornel nesaf, onest! Dim byd tebyg i dafod y gors Cymru o ran blodyn, ond maen nhw’n perthyn. Welais i hwn yn tyfu ar lwybr Bulnes. Mimosa. Sdim byd tebyg i’r goeden yma [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Chwaraeon 1 – Gwyddoniaeth 0
Er gwaetha’r sefyllfa economaidd, mae pwyllgor Olimpaidd Sbaen wedi penderfynu cadw ymlaen â chynnig Madrid i fod yn lleoliad y Gemau Olimpaidd yn 2020. Roedd aelodau’r IU (Chwith Unedig) wedi gofyn am roi’r gorau i’r holl beth nawr, ond mae’r ddinas wedi cyflwyno’i phapurau at gyfer rownd gyntaf y penderfynu. Mae Rhufain, ar y llaw [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Nodiadau ar Arianfyd Sbaen
Dywed gweinidog economi Sbaen nad yw’n deall pam fod asiantiaeth Moody’s wedi penderfynu israddio statws credyd y wlad (o A1 i A3), dim ond wythnosau ar ôl iddi ganmol yr hyn y mae’r llywodraeth yn ei wneud i wella’r sefyllfa. Cwestiwn digon teg, ond yr un yn union ag oedd y llywodraeth sosialaidd yn ei [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Cymdeithas Adeg y Cyni
Rhannu’r hyn sydd gyda ni, cyfrannu at fywyd ein cynefin – neu cau’n hunain yn ein ‘cestyll’ nes bod y cyfnod drwg wedi mynd heibio? Digon hawdd dweud beth ddylid ei wneud, ond beth sy’n fy niddori yw’r hyn mae pobl y byd real o’n cwmpas yn gwneud, heddiw a fory. Yn bendant mae ‘na [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: O’r Ardd: Dechrau Newydd
Er ein bod ni ymhell o gyrraedd dyddiad swyddogol dechrau’r gwanwyn (21ain o Fawrth yn Sbaen), mae llysiau’n dangos tyfiant glas. Dros y misoedd diwethaf, er enghraifft, ryn ni wedi hau ffa llydan bedair gwaith, nid am fod y llygod yn eu bwyta nhw, er bod hynnny’n wir hefyd, ond er mwyn ymestyn tymor un [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Trafferthion Tref Twristaidd
Oerfel a lleithder sy’n ein hamgylchynnu, ond rydym ni’n meddwl am yr haf. Bydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn ystod y dyddiau byrion yn dod i ffrwythlondeb yn union pan fyddwn ni eisiau eistedd o gwmpas yn yr haul yn siarad â chyfeillion. Nid felly wrth gwrs i bobl sy’n gweithio ym myd [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Pili-Palas y Picos
Mae hanner y mathau o pili-pala sydd i’w cael yn Sbaen – a chwarter holl mathau Ewrop – i’w gweld yn y Picos de Europa. Fel rhywun heb lawer o amynedd, fe wyddwn yn iawn bod yno llawer o rai gwahanol eu lliw a’u maint, ond doeddwn i erioed wedi ceisio gwneud rhestr o’r rhai [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Garzón yn Euog: Pwy Arall?
Wel dyna ddiwedd ar yrfa un o farnwyr mwyaf pwysig Sbaen. Barnwr oedd yn gweithredu er mwyn cyfiawnder yn yr ystyr mwyaf eang posib. Heddiw fe gafwyd Balthasar GarzóGn yn euog o orchymyn gwrandawiadau cudd ar ddifynyddion yr achos Gurtel (llygredd cynllunio a chontractau cyhoeddus yn Valencia) . Fe fydd yn cael ei wahardd o’r [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Ar Adain Pres
Beth sy’n digwydd gyda Ryanair? Mae’r cwmni, sy’n hedfan rhwng maes awyr Santander (yn Cantabría, ond dim ond awr i ffwrdd o’r tŷ) a Stansted, Dulyn a nifer o ddinasoedd yn Sbaen a gweddill Ewrop, newydd gyhoeddi ei fod am ddechrau hedfan o Bilbao (dwyawr o’t tŷ) – i’r DU, Iwerddon, a dinasoedd eraill o [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Pysgota Draenog
Dyfala beth yw pwnc llosg y cyfryngau yn Asturias heddiw. Na, nid yr etholiad, nid a fydd arweinydd newydd yn adennill y gymuned i’r sosialwyr. Nid achos y barnwr Balthasar Garzón a’r holl dystiolaeth annisgrifiadwy o amser y rhyfel ac wedyn. Nid hyd yn oed yr argyfwng economaidd a’r cyni cyffredinol. Dim un o’r rhain. [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Pysgota Draenog
Dyfala beth yw pwnc llosg y cyfryngau yn Asturias heddiw. Na, nid yr etholiad, nid a fydd arweinydd newydd yn adennill y gymuned i’r sosialwyr. Nid achos y barnwr Balthasar Garzón a’r holl dystiolaeth annisgrifiadwy o amser y rhyfel ac wedyn. Nid hyd yn oed yr argyfwng economaidd a’r cyni cyffredinol. Dim un o’r rhain. [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Dathlu Treftadaeth
Rhyfedd meddwl y gallai’r feidir fach sy’n mynd heibio tŷ ni ddod yn rhan o Safle Treftadaeth Byd. Mae’n rhan fechan o lwybr gogleddol y pererinion ar eu ffordd i Santiago de Compostela, llwybr llai adnabyddus o lawer na’r prif lwybr, sydd eisoes yn STB ac sy’n dilyn ucheldir y meseta drwy taleithiau Burgos a [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Enw Newydd: Rubalcaba
Cymryd hoe rhwng yr holl rygbi sydd ar y teledu i gofnodi ambell i beth am arweinydd newydd y PSOE (sosialwyr). Alfredo Pérez Rubalcaba sydd wedi ei hennill o 22 bleidlais yn unig 487 yn erbyn 465. Dyw hynny ddim yn bleidlais eang iawn, medd rhywun, wel nag yw. Mae’r PSOE yn dilyn yr hen [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Cwtogi Cyflogau Bancwyr
Rwy’n synnu fy hunan yn cael cyfle i sgrifennu’r geiriau yma: mae llywodraeth Rajoy (PP) yn gwneud rhywbeth nad wyf yn syml yn ei gymeradwyo ond yn ei groesawu. Heddiw daeth cyhoeddiad eu bod nhw am roi terfyn pendant ar gyflogau bancwyr – rhai bancwyr. Mae sawl banc a sefydliad cynilo yn Sbaen wedi derbyn [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Ceidwadwyr yn Bygwth y Costas
Mae gweinidog newydd yr amgylchedd yn Sbaen wedi cyhoeddi ei fod e am wneud newidiadau dirfawr yn y ddeddf sy’n diogelu natur yr arfordir. Mae’r ddeddf wedi bodoli ers achau, ond dim ond o dan y llywodraeth ddiwethaf, Zapatero a’r PSOE, y defnyddiwyd hi i dynnu i lawr adeiladau oedd wedi cael eu codi’n rhy [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Y Menywod Ga’s eu Saethu
Yn Madrid mae’r achos yn erbyn y barnwr Balthasar Garzón yn parhau. Ddoe, fe bleidleisiodd y barnwyr sy’n ei glywed o 4 i 3 i gadw ymlaen, a gwrthod gofyniad i rhoi terfyn arno. Heddiw, daeth hen fenyw o Toledo yn Andalucia o flaen y llys i dystio paham roedd hi’n dadlau y dylid ymchwilio [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Senedd yn Cael ei Diddymu
Ym Mrwsel mae’r cytundeb sydd i fod i achub yr € wedi ei arwyddo, yn Madrid mae cannoedd o bobl yn protestio tu fâs i’r llys lle mae’r barnwr Balthasar Garzón yn sefyll ei brawf – ac yn Asturias mae’r llywydd cymunedol wedi diddymu’r senedd a galw etholiad newydd i’w gynnal ddiwedd mis Mawrth. Chwe [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Mordaith Anhygoel y Cwch Gwag
Tair blynedd a hanner gymrodd e i’r cwch bach â neb wrth y llyw. Pan gafwyd y ‘Queen Bee’ gan wasanaeth achub bywyd Sbaen oddi ar arfordir Asturias 10 diwrnod yn ôl, roedd hi wedi dod o’r Unol Daleithiau – a nawr mae’r hanes wedi ei adrodd yn llawn. Nôl ym mis Awst 2008, roedd [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Trybini Brenhinol
Lleoliad: Rhan 1: ynys ym Môr y Canoldir. Rhan 2: cenedl sy’n bodoli o fewn gwladwriaeth arall Cymeriadau: aelod o deulu brenhinol y wladwriaeth fawr, wedi ei gyhuddo o droseddau ariannol mawr; y ‘barnwr dewr’ (nid Garzón yw e heddiw); pennaeth cwmni teledu y genedl llai, aelod o senedd y genedl llai sydd yn erbyn [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Diwedd y Gân heb Geiniog
Llywodraeth leiafrifol yn gorfod gweithredu heb gyllideb oherwydd gwrthwynebiad pob plaid arall yn y senedd; llywodraeth sy’n ddibynnol ar arian trethi o Madrid; a gwasanaeth iechyd sydd eisoes mewn dyled hyd at €100m. Rhybudd na fydd cyflogau gweithwyr iechyd yn ddiogel. Dyna fel mae pethau yn Asturias heddiw. Ychwanegwch yr halen: mae llywodraeth Sbaen yn [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Cam Arall i’r Basgwyr?
Ychydig dros flwyddyn ers cadoediad ETA, 4 mis ers i’r mudiad terfysgaidd gyhoeddi diwedd ei ymgyrch arfog. 4 mis hefyd ers sefydlu’r Comisiwn Gwireddu Cydwladol, gyda’r bwriad o wireddu’r hyn a ddywedodd ETA drwy weithio gyda phob ran o gymdeithas y Basgwyr. Dros yr wythnos ddiwethaf mae aelodau’r Comisiwn wedi bod yno yn cynnal trafodaethau [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Gwleidydd yn Ddi-Euog
Fe adawodd Francisco Camps, cyn-lywydd y gymuned Valenciana, y llys yn ddyn rhydd, wedi ei gael yn ddi-euog o dderbyn llwgrwobrwyon yn yr achos Gurtel. Oriau wedyn, roedd yn barod wedi derbyn galwad ffôn gan Mariano Rajoy, ei gyd-bleidiwr (PP) ac yn awr prif weinidog Sbaen. Ond wedi darllen ymhellach, daw’n amlwg nad oedd penderfyniad [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Y Picos yn Mynd yn Fwy
I’r rhai sy’n ystyried ymweld â Pharc Cenedlaethol y Picos de Europa, newyddion da: bydd mwy ohono fe i gael eleni! Bydd 2500ha o dir ar ffin ogledd-ddwyreiniol y parc yn cael ei ychwanegu at yr ardal sy’n cael ei diogelu. Dyw’r rhain ddim yn erwau y bydd y rhan fwyaf o dwristiaid yn ymweld [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Synhwyro
Y bore ‘ma rwyf yn mwynhau o’r newydd yr holl bethau sydd o’m cwmpas. Heno rwy’n gorfod hedfan i Lundain, lle mae cyfeilles bore oes yn ddifrifol wael. Sdim dal a fydd hi’n fy nabod i nac yn ymwybodol fy mod i yno. Ymgolli felly yn yr hyn sydd i’w weld, a’i glywed. Yn y [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Llong Hwylio’r Unben
Wyddwn i ddim o hanes ‘iot´ yr unben Franco – tan heddiw. Ie, roedd ganddo yntau long hwylio, yr Azor, (gwalch – yr aderyn, h.y.) oedd yn cael ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd pwysig yn ogystal â mordeithiau pleser. Ar ôl ei farwolaeth doedd y wladwriaeth newydd ddim yn fodlon derbyn y llong fel rhan [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Barnu´r Barnwr
Mae disgwyl y daw’r rheithfarn yn achos y barnwr Balthasar Garzón yn gynnar yr wythnos hon – yfory efallai. Bydd rhai’n cofio Garzón: nôl ym 1998, fe oedd y barnwr wnaeth ofyn i awdurdodau’r DU (Jack Straw os wy’n cofio’n iawn) arestio cyn-lywydd Chile, Augusto Pinochet, am orchymyn lladd nifer o Sbaenwyr yn ystod ei [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: San Anton 2012
Mae fiestas pentrefi Asturias – a gweddill Sbaen am wn i – yn rhyfeddod yn enwedig yn awr yn oes y cyni a’r diweithdra. Deg-ar-hugain o ferched yn talu €50 yr un – a hanner hwnnw i ddwsin o blant bach – i hurio gwisg draddodiadol am ddiwrnod, er mwyn cerdded (OK, gorymdeithio) lan a [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Dirgelwch y Cwch Gwag
Cwch bach fel y rhai sy’n cael eu defnyddio gan bysgotwyr crancod a chimychiaid – neu a oedd e’n gwch fu’n perthyn i dîm o smyglwyr drygiau, wedi ei adael yn rhydd ar donnau’r Iwerydd ar ôl i forwyr y prif long weld yr heddlu’n agosau? Fe gafwyd y cwch ddeuddydd yn ôl gan long [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Iaith yr Ysgol yn y Senedd
Bydd cwestiynau’n cael eu gofyn yn Senedd Sbaen am yr iaith Astwreg – ac yn yr iaith Astwreg. Mae cynrychiolydd IU Asturias yn y senedd, Gaspar Llamazares, wedi cyhoeddi ei fod am ofyn nifer o gwestiynau am addysg Astwreg. Beth sy’n ei boeni fwyaf yw’r diffyg clirdeb yn y drefn cyhyd ag y mae’r iaith [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Cysgod y Cryman a’r Unben
Mae hanes yr unben Franco, a fu farw ym 1975, a’r frwydr yn erbyn ef a’i ddilynwyr yn taflu cysgod oer dros fywyd cyhoeddus Asturias a gweddill Sbaen hyd heddiw. Ddoe fe gladdwyd Manuel Fraga, a fu farw yntau yn 89 mlwydd oed ar ôl hir oes wleidyddol, yn gyntaf fel Gweinidog y Wasg a [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: O’r Ardd: Clirio
Dim glaw heddiw felly mâs i’r ardd eto i wneud mwy o waith clirio a glanhau. Mae dail yn dal i gwympo o’r coed afalau – ym mis Ionawr! – digon i ychwanegu sawl whilberaid i’r domen deilbridd. Rwyf i yn mynd i’w orchuddio nawr â phlastig du, wedi darllen na ddylid ei adael yn [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Tywydd Od neu Newid Hinsawdd
Oer (9C) a gwlyb yw hi ar yr arfordir heddiw, ac wedi bod ers bron i 24 awr. Ym mynyddoedd y Cordillera Cantábrica, cyrhaeddodd yr eira; rhaid defnyddio cadwyni i groesi’r bylchau llai prysur, ac ar rai heolydd bach eraill hefyd. Ond does dim digon o eira i’r canolfannau sgio: mae rhai heb agor o [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Dilyn yr Afon
Heb gael yr agoriad swyddogol eto, ond mae llwybr glan y Guadamia wedi ei glirio o’r pentref hyd at y môr. Afon hynod yw hi hefyd, dim ond 7km i gyd ond yn pasio drwy bob math o dirwedd. Yn anffodus cymylog yw hi heddiw, ac erbyn hyn yn bwrw glaw, ond fe lwyddon ni [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Haul y Gaeaf
Diwrnod hyfryd heulog heddiw: diwrnod perffaith i lanhau’r mwsogl o’r pafin a gwylio tymheredd y dŵr yn y tanc haul yn codi heibio 40 gradd. Dyw hi ddim wedi bod yn dwym achos daw’r gwynt o’r dwyrain, ond dyw hynny ddim yn poeni’r paneli haul. A’r mwsogl: rwy’n gwybod ei fod yn blanhigyn pwysig, ond [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Pigion: Pysgod a Phethau Eraill
Ar ôl prynhawn caled yn yr ardd eto braf cael eisedd i lawr gyda phaned a darllen y newyddion lleol. Dyma’r pigion wnaeth fy nharo. Fe gyhoeddwyd eisoes bod pysgotwyr cychod yr arfordir wedi cael blwyddyn dda llynedd; ond ddoe fe gafodd cyfrinfa Llanes diwrnod record, gan ddala 4000k o wahanol fathau o bysgod. Chwyrnwyr [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: O’r Ardd: ganol Gaeaf
Dipyn bach o haul yn rhyfeddol o gryf: yn gorfodi rhywun (fi) i godi a mynd mâs i’r ardd a gwneud tipyn o waith clirio. Y phormiwms oedd yn ei chael hi gyntaf; mae’r dail mawr trwchus yn gwiwo ac yn marw ar ôl misoedd, fesul un. Maen nhw’n rhy gryf o lawer i gyllell, [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Mac Llew
Wel ych chi’n lwcus o gael cofnod o gwbl heddiw, ac un digon byr bydd e, mae arna’i ofn. Bore ‘ma fe dorrodd yr hen gyfrifiadur i lawr – ei galon neu ei ymennydd wedi rhoi’r gorau iddi a rhyw sŵn rhyfedd fel haid o wenyn (neu un wenynen ddig iawn) yn dod o’r berfeddion. [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Had Maip…ac Eraill
Mae’r awyr wedi dechrau sychu ond y pridd yn dal yn wlyb: amser i feddwl am hau a phlannu, ond yn bendant heb droedio ar dir yr ardd. Byddwn ni’n cadw llawer o’n hadau ein hunain, yn enwedig pethau cymharol mawr a hawdd eu trin fel tomatos, ffa a phwmpen – a thato, wrth gwrs. [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Aur y Tylwyth
Rwyf i wedi sôn o’r blaen am deulu’r Cosmen, pobl busnes hynod gyfoethog – ymysg y cyfoethocaf yn Sbaen. Ond heddiw wnes i ddarllen hanes newydd (imi: hen iawn yn eu datblygiad nhw) sy’n dangos nad oeddwn i ddim yn hollol iawn yn dweud taw o Luarca yr oedd y teulu’n hanu. O orllewin Asturias, [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Esgeulustod yn Bygwth Anifeiliaid
Flwyddyn yn ôl fe drosglwyddwyd rheolaeth Parc Cenedlaethol y Picos de Europa i gynrychiolwyr y dair cymuned sydd â thiroedd yno: Asturias, yn bennaf, ond hefyd Cantábria a Léon. Pawb yn llawn gobaith y byddai datganoli pwerau o Madrid yn gwella’r ffordd yr oedd y lle gwyllt a hyfryd hwn yn cael ei ddiogelu a’i [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Symudiadau Ariannol
O dipyn i beth yr ydym yn dechrau clywed lle bydd cyfyngiadau a thoriadau llywodreth newydd Sbaen yn gwasgu. Cyn yr etholiad, ddwedodd Mariano Rajoy fawr ddim am y manylion; yn awr os rhywbeth mae’n dweud llai. Mae’n hala ei ddirprwy-lywydd i siarad ar ei ran, ac mae honno wedi gwneud yn eglur na fydd [...]
Parhau i ddarllen
Asturias yn Gymraeg: Mwy o Bysgod yn y Môr
Mae pysgotwyr, fel ffermwyr, yn hoff iawn o gonan – y tywydd, y rheolau, pris tanwydd, y pris maen nhw’n cael am y pysgod. Rheolau newydd Ewrop, yn fwy na dim, wedi arwain llawer un at adael y môr yn gyfangwbl. Ond pan ddaeth cyfrifon lonjas (cymdeithasau’r pysgotwyr) dwyrain Asturias mâs ddiwedd y flwyddyn, dyma [...]
Parhau i ddarllen
















