Archives: cathasturias

Asturias yn Gymraeg: Rhifyddeg Etholiad Astwrias

Wel nawr rŷn ni’n gwybod. Gwybod, hynny yw, faint o seddi sydd gan bob plaid yn senedd Astwrias. Gad imi esbonio beth digwyddodd. Heddiw, dridiau ar ôl yr etholiad, roedden nhw’n agor pleidleisiau oedd wedi cyrraedd gan Astwriaid yn byw dramor. Mae cymuned Astwrias yn cael ei rhannu’n dair ar gyfer etholiadau: dwyrain, canol (yr [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: O’r Ardd: Wrth Aros Canlyniad

Dim malu mlaen am yr etholiad heddiw: mae’r trafodaethau wedi dechrau a’r pleidleisiau olaf (yr Astwriaid ar wasgar) heb eu cyfrif. ‘Fory bydd rhaid imi esbonio’r syms, ond heddiw buom ni yn yr ardd drwy’r dydd, yn gweithio ie, ond hefyd yn mwynhau’r tywydd mwyn. Penawdau newyddion y lleuarth: mae’r hen eirinen wedi gorchfygu’r oerfel [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Canlyniad Etholiad Asturias

A dechrau yn y diwedd: fyddwn ni ddim yn gwybod tan ddydd Mercher o leiaf pwy fydd yn ffurfio llywodraeth nesaf Asturias – ac efallai ddim bryd hynny. Ar hyn o bryd mae dwy blaid adain dde, PP a FAC, mewn sefyllfa i wneud hynny petaen nhw’n gallu orchfygu’r hanes o elyniaeth a diffyg ymddiried [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Etholiad Asturias

Diwrnod yr etholiad: yma  yn Asturias ac yn bell i’r de yn Andalucia, mae pobl yn penderfynu pa blaid fydd yn llywodraethu ar eu cymuned awtonomaidd. I’r rheiny sydd wedi bod yn gofyn, fedra’i ddim dweud wrthoch chi i ba blaid rwy’n bwrw pleidlais, achos dwi ddim yn cael gwneud! Fel dinesydd o wlad Ewropeaidd [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Moliant Mawrth

Gwanwyn – neu haf? Y bore ma fe ddaeth y parasol mâs o dan y stâr am y tro cyntaf eleni, a hebddo ni fyddwn wedi bod yn gyffyrddus yn bwyta brecwast ar y teras. Cyffaith ffigys, ac un lemwn, o’m gwaith i, a mêl a brynais i neithiwr gan gymydog yn y bar. Mêl [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: O’r Ardd: Perlysiau a Chwyn

Diwrnod heulog ar y cyfan ac yn eithaf twym; mae’r paneli solar wedi bod yn gweithio’n galed. Ninnau hefyd, yn yr ardd a’r lleuarth, yn chwynnu ac yn hau. Gorchwyl y gŵr yw’r tato, ac fel arfer mae gyda ni ormod ar gyfer y lle sydd i gael iddyn nhw. Hyd yn hyn rwyf i [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Ystadegau Asturias

Mae’r mynyddoedd yn ymestyn o un pen o Asturias i’r llall. Y mwyaf yw Torrecerredo (2648m) yn y Picos de Europa yn nwyrain y gymuned. Mae’r llyn mwyaf, ar y llaw arall, y Lago del Valle (24ha), draw yn y gorllewin ym mharc cenedlaethol Somiedo. Mae Torrecerredo’n fwy na dwywaith uchder yr Wyddfa (1085m), ond [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Rhyddfrydwr o Ribadesella

Teimlo’n dwp y bore ‘ma ar ôl dysgu am y perthynas agos rhwng Cyfansoddiad cyntaf Sbaen a Ribadesella, y dref nesaf atom ni fan hyn.  Un dyn yw e, ond yn ddyn pwysig iawn. Ganwyd Agustín Argüelles yn y dref, yn ardal L’Atalaya, ym 1776. Crwt deallus, ond yn wan ac yn aml yn glaf. [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Llygredd a Thwyll

Chwe blynedd o garchar i cyn-lywydd cymuned awtonomaidd Ynysoedd y Baleares. Heddiw fe gafwyd Jaume Matas yn euog o dwyll a llygredd mewn swydd cyhoeddus – y pedwerydd llywydd (o dair plaid wahanol) ers marwolaeth Franco i glywed y ddedfryd ‘euog’. Yn annifyr ar gyfer y newyddiadurwyr oedd yn gohebu’r achos, craidd y peth heddiw [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Gwersi Hanes

Heddiw mae cyfryngau Sbaen yn dangos yn eglur sut y mae pobl o farn gwleidyddol gwahanol iawn i gyd yn gallu gafael mewn digwyddiad hanesyddol bwysig er mwyn cyfiawnhau, a chefnogi, eu golwg nhw ar y byd. Mae’n ddaucanmlwyddiant cyfansoddiad cyntaf go iawn y Sbaen sy’n dal i fodoli heddiw, a gyhoeddwyd yn Cádiz ym [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Atsain o’r Rhyfel Oer

Ym mis Ionawr 1966, roedd awyren B-52 o awyrlu UDA yn hedfan dros Sbaen a Môr y Canoldir ar ei ffordd i ffiniau Dwyrain Ewrop, oedd bryd hynny yn rhan o floc y Sofietiaid. Doedd hi ddim ar gennad bomio: mynd i ddangos ei hun, mynd i edrych, a dychwelyd dros yr Iwerydd. Ar daith [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Diwrnod y Gamp Lawn?

Dim afradu llawer o eiriau heddiw ond, cyn inni fynd i ganolbwyntio ar ddiwrnod olaf y 6 Gwlad a’r posibilrwydd o ddiweddglo llwyddiannus iawn i’r cochion, dyma ychydig o luniau o’m hoff afon, y Guadamía. Y ddwy gyntaf yn ei dangos yn llonydd, ond yr olaf wedi ei chynhyrfu wrth geisio cyrraedd pen ei thaith [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Helwyr Wrthi Eto

Fyddan nhw byth yn rhoi’r ffidil yn y to? Eleni eto, mae ffederasiwn helwyr Sbaen wedi gofyn i’r llywodraeth lacio’r rheolau a chaniatau hela anifeiliaid gwyllt ac adar o fewn parciau cenedlaethol a safleoedd amgylcheddol arbennig eraill. Mae rhywun yn gallu gweld pam: os wyt ti eisiau mynd mâs i ladd, hyfryd fyddai cael ei [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Etholiadau Asturias

Mae Asturias (ac Andalucia) yng nghanol ymgyrch etholiadol. Bob dydd mae gweinidog dros rywbeth-neu’i-gilydd yn glanio yn Uviéu/Oviedo er mwyn dweud wrthym ni pa mor hapus fyddai pawb petai’r un blaid yn rheoli yma ag sydd yn Madrid – h.y. y PP (ceidwadol, am gadw undod Sbaen). Dwi ddim mor ffôl ag i geisio rhagweld [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Diogelu’r Clogwyni

‘Ma ni off ‘to. Rwy’n gwybod fy mod i wedi ysgrifennu sawl cofnod am bufones Llames de Pría dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yma mae’r mordyllau yng ngharreg galch y clogwyni yn chwistrellu dŵr y môr hyd at 50m i’r awyr – yn dibynnu ar y gwynt, y llanw, a stâd y môr. O’r blaen, [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Colledion Gêm Sbaen

Anodd, os nad amhosib, gorbrisio pwysigrwydd pêl-droed yn Sbaen. Mae ‘na chwaraeon eraill fel pêl-fasged a seiclo sy’n denu mliynau o ddilynwyr, ond os ei di fewn i far pêl-droed fydd testun sgwrs y dynion yno. Hyd yn oed yma yn Asturias, lle mae tîm Sporting Gijón lan a lawr rhwng yr adran gyntaf a’r [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: 20% i Athrawon!

Mae athrawon yr Ariannin wedi cyhoeddi cynlluniau am streic gyffredinol ar ôl gwrthod cynnig y Weinyddiaeth Addysg o godiad cyflog o 20%. Do, rwyt ti wedi darllen hwwnw’n gywir. 20%. Maen nhw’n gofyn am godiad o 23% ar ôl cyfnod o dŵf economaidd ar draws y wlad dros y blynyddoedd diwethaf. Ond maen nhw wedi [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Hawliau’r Gweithwyr

Heddiw eto mae cannoedd o filoedd o bobl wedi gorymdeithio drwy strydoedd dinasoedd mwyaf Sbaen yn galw ar y llywodraeth i ailfeddwl ynglŷn â’u newidiadau i hawliau gweithwyr. Yn Gijon roedden nhw’n 80,000, mewn talaith lle mae nifer y diwaith bron â chyrraedd 100,000 – mâs o boblogaeth o filiwn. Byddai’r newidiadau arfaethedig yn ei [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Pigion Penwythnos

Yn ôl y polau piniwn diweddaraf, y PSOE (sosialwyr) sy’n debyg o ennill yn etholiadau Asturias bythefnos i ‘fory. Disgwylir y byddai’n rhaid i’r blaid ddod i gytundeb gyda’r IU (comiwnyddion) er mwyn ffurfio llywodraeth. Y PSOE oedd mewn grym tan y llynedd pan enillodd plaid personol cyn-weinidog PP (ceidwadol) Cascos. Ond heb fwyafrif llwyr, [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Ar Hynt yr Hen Droseddau

Dwy o edafedd hiraf cymdeithas y penrhyn Iberaidd yn dod at ei gilydd yng Ngwlad y Basg y dyddiau hyn. Mae’r gwaith o baratoi’r gyfundrefn iawndal gyntaf ar y gweill ers misoedd bellach, a’r hyn fydd efallai’n syndod yw taw iawndal am ladd ac anafu gan yr heddlu a’r lluoedd diogelwch (amryw ohonyn nhw) yw [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Dathlu ac Amddiffyn Menywod

Wyddwn i ddim fod Diwrnod Rhyngwladol y Merched wedi ei gynnal am y tro cyntaf dros ganrif yn ôl, ym 1911. Bryd hynny, dyrnaid o wledydd Ewrop a’i farciodd: erbyn hyn mae wedi ennill pwysigrwydd newydd wrth i filiynau o fenywod mewn gwledydd sy’n datblygu frwydro am driniaeth gyfartal gan eu cymdeithas. Dyddiau du, e.e. [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Real Academi v Byd Real

Rwy’n mynd yn ôl at y ddadl ynglŷn â’r iaith – yr iaith Sbaeneg – achos mae erthygl yr academwyr real wedi cynnau tân byw. Yr hyn mae’n dangos yw pa mor bwysig yw iaith i’w siaradwyr, gymaint y mae’n rhan o’n hunaniaeth ac adeiladwaith ein bywydau. I ddechrau, dwy ochr oedd i’r ddadl: y [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: O’r Gegin: Teisen Cnau Ffrengig

Ddeuddydd yn ôl ffindes i fag o wyau ar ford y teras – 2 ddwsin i gyd, yn anrheg gan gymydog sydd yn cadw ffowls. Penderfynais i wneud teisen i ddiolch iddo, wedyn wrth gwrs roedd yn rhaid imi wneud dwy er mwyn inni gael un hefyd. Nid ar chwarae bach y mae agor 400g [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Etholiad Eto

Fferi ni yn hwylio heno! Wedi cael tocynnau i gêm yr Eidal ddydd Sadwrn, wedi’r cwbl roeddwn i bownd o weld un o’r gemau eleni â’r bois yn chwarae cystal. Cyfle i wneud cylchdaith i weld y teulu hefyd. Erbyn down ni nôl i Asturias fe fydd y lle’n llawn bwrlwm etholiad, llai na blwyddyn [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Iaith y Merched

Dadl newydd ar wefannau Sbaen: nid y chwith yn erbyn y de, na’r canol yn erbyn y cymunedau, na hyd yn oed gweriniaethwyr yn erbyn y brenin a’i dylwyth. Na, yn wythnos Diwrnod Rhyngwladol y Merched mae Academi Brenhinol Sbaen wedi dewis mynd i’r gad dros purdeb traddodiad yr iaith Sbaeneg ac yn erbyn y [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Llynnoedd y Picos

  Dau lyn yn ymyl ei gilydd yn rhan orllewinol y Picos de Europa yn Asturias yw Enol ac Ercina, wedi eu ffurfio pan ddiflannodd y rhewlifoedd ddiwedd Oes yr Iâ. O’r bryncyn sydd rhyngddyn nhw fe allech weld y ddau – ond dim ond o’r awyr y byddech chi’n gweld y ddau ‘run pryd. [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Cerdded yn yr Eira

Llwyddiant! Codi’n ddigon cynnar i gyrraedd y farchnad yn Posada cyn neb arall (ond y stondinwyr), lan i’r llynnoedd heb drafferth o gwbl (dim eira ar yr heol, dim ceir chwaith) a cherdded peth o daith Vega de Ario. Mae’r daith hon yn dair awr bob ffordd, ond oherwydd yr eira a rhagolygon tywydd gwael [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Cynllun Cerdded

Yfory yr ydym ni am fynd lan i’r mynyddoedd, i lynnoedd enwog y Picos de Europa, i weld a oes yno olwg o’r gwanwyn eto. Dim ond awr i ffwrdd mewn car, ac mewn llinell syth llai na 50km i’r de, ond mae’r tywydd yn gallu bod yn wahanol iawn. Eira, wrth gwrs, ond yn [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Streic!

Mae’r tebygrwydd o gael streic gyffredinol yn Sbaen yn erbyn y newidiadau yn hawliau gweithwyr yn  cryfhau. Bydd y ddau fudiad undebol mawr, UGT (sosialaidd) a CCOO (comiwnyddol), yn cwrdd yr wythnos nesaf i benderfynu a fyddan nhw’n ymuno yn (cymryd drosodd) y streic sydd eisoes wedi ei galw gan fudiadau undebau cenedlaetholwyr Gwlad y [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: O’r Ardd: yn y Gwynt

Ar y teras, yn wynebu’r de a’r mynyddoedd: haul twym fel haul Ebrill. Unwaith yr wyt ti’n camu mâs o loches y tŷ, yn enwedig tua’r dwyrain neu’r gogledd: gwynt main oer. Glaw sydd eisiau arnom mi a dweud y gwir, ond rhaid gwneud y gorau o’r cyfnod sych i gadw ymlaen gyda’r gwaith o [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Di-Euog ond Wedi ei Wahardd

A minnau wedi meddwl cofnodi ychydig o waith y tir yn lle hanesion llys a gwleidyddiaeth, dyma canlyniad yr achos yn  erbyn y barnwr Baltasar Garzón yn cael ei gyhoeddi. Chwi gofiwch ei fod e eisoes wedi ei gael yn euog o wrando’n anghyfreithlon ar sgyrsiau diffynyddion a’u cyfreithwyr yn ystod achos yn ymwneud â [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: ‘Nid y Fi Wnaeth’

Rwy’n mynd i aros gyda hanes dug Palma heddiw eto. Penwythnos gwael gafodd e mae’n siŵr, yn gorfod teithio nôl o’r UDA lle mae’n byw a treulio deuddydd cyfan yn ateb cwestiynau gan farnwr a chyfreithwyr eraill. Yr esgusodion arferol a gafwyd gan fab-yng-nghyfraith brenin Sbaen: nid fi oedd yn gyfrifol (am symudiadau arian oedd [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Dug mewn Trafferth

Dechreuad hir a manwl i ddug Palma o flaen barnwyr Ynysoedd y Baleares heddiw. O 10.00 tan 14.00, ac wedyn o 15.30 tan nawr, mae Iñaki Urdangarin wedi bod yn ystafell y llys yn ateb cwestiynau am ei fusnesau. Diddorol taw busnesau yw’r gair sy’n cael ei ddefnyddio nawr, achos o’r blaen sôn am sefydliadau [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Pigion i’r Penwythnos

Nid pawb sy’n cael aros mewn palas y noson cyn iddo fynd i flaen ei well, ond dyna lle bydd dug Palma, Iñaki Urdangarin, yn aros heno. Bydd ef a’i wraig, y dywysoges Cristina, merch brenin Sbaen yn hedfan o Madrid heno i Mallorca ac yn treulio’r nos mewn un o’r palasau llai sydd gan [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Claddu’r Pysgodyn

Dyma ni nawr yn ail ddiwrnod y Grawys – er nad oes llawer o bobl fan hyn yn ymprydio rhag bwyd da na gwinoedd y dyddiau hyn. Ganrifoedd yn ôl (ganrif hyd yn oed) pan oedd pobl yn cymryd rheolau’r eglwys o ddifri, roedd bwyta cig a bwydydd moethus yn waharddedig, a dyna sut ddechreuodd [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Derbyn Diwedd ETA

Roeddwn i wedi disgwyl cael mwy heddiw am gytundeb gwleidyddion Sbaen ar Wlad y Basg, ond does na ddim, felly af i dros yr hyn ddigwyddodd ddoe – yr unig beth ddaeth heddiw oedd y bleidlais ar lawr y Senedd. Mae’r cyfryngau Basgaidd yn ei alw’n gytundeb na welwyd mo’i fath o’r blaen. Holl bleidiau [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Llyfr yn erbyn Pastwn

Dewis anodd heddiw: dim ond amser gyda fi ysgrifennu un cofnod a dwy stori werth eu hadrodd. Ond gan fy mod wedi ymdrin â’r Basgwyr yn ddiweddar, wna’i adael hanes y gytundeb rhwng pleidiau mawr Sbaen ar ddatblygiadau yno, ac edrych ar y gwrthdystiadau yn Valencia. Ddydd Iau diwethaf, fe gafodd nifer o brotestwyr yn [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: O’r Ardd: Gwaith Bob Dydd

Mae gweithio yn yr ardd yn dod â bodlonrwydd ar ddiwedd y dydd. Hyd yn oed os taw dim ond paratoi yr ydym at dymor yr hau mawr a’r plannu, mae’r llecyn yn edrych yn well heno nag oedd e bore ‘ma. Haul drwy’r dydd heddiw hefyd, sy’n help, a’r gwynt main o’r dwyrain yn [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: I’r Stryd

Hanner miliwn yn Madrid, 400,000 yn Barcelona. Miloedd mwy yn ninasoedd mawrion ledled Sbaen. 40,000 yn y glaw yn Gijón, Asturias, (poblogaeth 2011: 277,000). Mae’r gwrthdystiadau heddiw wedi denu llawer mwy o gyfranogwyr nag oeddwn i wedi ei ddisgwyl. Tan neithiwr, o leiaf, mae oedd cyfeillion yn y bar yn sôn am godi’n fore i [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Moliannwn

Roeddwn yn gallu gwynto’r gwanwyn pan ddihunais i. Rhyw newid bach yn yr aer, fel petai pethau byw eraill ar fin deffro. Does dim llawer i’w weld eto; pan es i am dro i lawr ar hyd glan yr afon roedd ambell i lygad Ebrill a llu o grafanc-yr-arth (lle na droediodd arth ers blynyddoedd [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Dyfodol Gwlad y Basg – Eto

Adroddiad yn El País heddiw am araith ddiddorol gan un o aelodau senedd Ewrop dros Wlad y Basg. Cynrychiolydd y PNV (y Blaid Genedlaethol Basgaidd) yw Izaskun Bilbao, ac roedd yn siarad mewn fforwm a drefnwyd gan Nueva Economía, corff annibynnol sy’n gweithredu ar draws Sbaen i gynnal trafodaethau ar faterion economaidd. Ei phwnc oedd, [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Daw Lliw â Llawennydd

Rwyf yn teithio drwy’r dydd heddiw, felly dyma ychydig o luniau lliwgar i hala ti feddwl am y gwanwyn – rownd y gornel nesaf, onest! Dim byd tebyg i dafod y gors Cymru o ran blodyn, ond maen nhw’n perthyn. Welais i hwn yn tyfu ar lwybr Bulnes. Mimosa. Sdim byd tebyg i’r goeden yma [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Chwaraeon 1 – Gwyddoniaeth 0

Er gwaetha’r sefyllfa economaidd, mae pwyllgor Olimpaidd Sbaen wedi penderfynu cadw ymlaen â chynnig Madrid i fod yn lleoliad y Gemau Olimpaidd yn 2020. Roedd aelodau’r IU (Chwith Unedig) wedi gofyn am roi’r gorau i’r holl beth nawr, ond mae’r ddinas wedi cyflwyno’i phapurau at gyfer rownd gyntaf y penderfynu.  Mae Rhufain, ar y llaw [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Nodiadau ar Arianfyd Sbaen

Dywed gweinidog economi Sbaen nad yw’n deall pam fod asiantiaeth Moody’s wedi penderfynu israddio statws credyd y wlad (o A1 i A3), dim ond wythnosau ar ôl iddi ganmol yr hyn y mae’r llywodraeth yn ei wneud i wella’r sefyllfa. Cwestiwn digon teg, ond yr un yn union ag oedd y llywodraeth sosialaidd yn ei [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Cymdeithas Adeg y Cyni

Rhannu’r hyn sydd gyda ni, cyfrannu at fywyd ein cynefin – neu cau’n hunain yn ein ‘cestyll’ nes bod y cyfnod drwg wedi mynd heibio? Digon hawdd dweud beth ddylid ei wneud, ond beth sy’n fy niddori yw’r hyn mae pobl y byd real o’n cwmpas yn gwneud, heddiw a fory. Yn bendant mae ‘na [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: O’r Ardd: Dechrau Newydd

Er ein bod ni ymhell o gyrraedd dyddiad swyddogol dechrau’r gwanwyn (21ain o Fawrth yn Sbaen), mae llysiau’n dangos tyfiant glas. Dros y misoedd diwethaf, er enghraifft, ryn ni wedi hau ffa llydan bedair gwaith, nid am fod y llygod yn eu bwyta nhw, er bod hynnny’n wir hefyd, ond er mwyn ymestyn tymor un [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Trafferthion Tref Twristaidd

Oerfel a lleithder sy’n ein hamgylchynnu, ond rydym ni’n meddwl am yr haf. Bydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn ystod y dyddiau byrion yn dod i ffrwythlondeb yn union pan fyddwn ni eisiau eistedd o gwmpas yn yr haul yn siarad â chyfeillion. Nid felly wrth gwrs i bobl sy’n gweithio ym myd [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Pili-Palas y Picos

Mae hanner y mathau o pili-pala sydd i’w cael yn Sbaen – a chwarter holl mathau Ewrop – i’w gweld yn y Picos de Europa. Fel rhywun heb lawer o amynedd, fe wyddwn yn iawn bod yno llawer o rai gwahanol eu lliw a’u maint, ond doeddwn i erioed wedi ceisio gwneud rhestr o’r rhai [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Garzón yn Euog: Pwy Arall?

Wel dyna ddiwedd ar yrfa un o farnwyr mwyaf pwysig Sbaen. Barnwr oedd yn gweithredu er mwyn cyfiawnder yn yr ystyr mwyaf eang posib. Heddiw fe gafwyd Balthasar GarzóGn yn euog o orchymyn gwrandawiadau cudd ar ddifynyddion yr achos Gurtel (llygredd cynllunio a chontractau cyhoeddus yn Valencia) . Fe fydd yn cael ei wahardd o’r [...] Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Ble mae’r Tapas Gorau?

Draenog môr, cig moch wedi ei drin mewn cant o ffyrdd, llysiau bychain twym neu oer, caws o bob math, danteithion bwyd môr fel llyswennod a chimychiaid: pob un am bris o dan €2. Mae’n dymor y gystadleuaeth pinchos (tapas) yn Asturias, a 156 o farau wedi cofrestru eleni. Mae’n hen arfer cynnig rhyw fyrbryd [...] Parhau i ddarllen