Archives: Cer i Grafu

Cer i Grafu: Galar colli ffrindiau annwyl a thriw

Wi heb flogo ers sbelan nawr ond rwyf inna wedi bod â’r felan arno i, wddost ti. Collas dri ffrind – un ar ôl y nall yn weddol ddiweddar, pob un o’ nhw o fewn wthnos a gwed y gwir – a diflannws yr awydd, yr awen a phob un rheswm arall ifi fodol… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Troeon gwaith, Geoff a ‘rehab’.

Own i’n gwitho shifft nos nithwr – nos Wenar odd hi ‘ed – ond wi ddim yn mynd i gonan. A gwed y gwir, buo i’n conan shwt gymid bo fi’n gwitho shiffts cynnar, fel nag oes troed gen i sefyll arno. At hynny, ma’n well gen i witho shifft hwyr… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Fi, Fabien y Ffrancwr a’r Bwytawyr Angau

Own i wedi cyffroi drwyddoi ddydd Merchar dwetha; fe ath fy ffrind Fabien a finna i gofrestru gidag un o’r casting agencies ‘ma. Man nhw’n dychra ffilmo rhanna o ‘Harry Potter and the Deathly Hallows’ i lawr ‘ma yn Llundain ac oen nhw’n moyn … Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Gwaith, fy ffrind newydd a’r goleuni

Dyma fi’n dychra nôl i witho heddi ar ôl hirlwm gwila’r ‘Dolig. Bach o shit yw gwitho ‘to ond ma’ rhaid i ddyn ennill ei ginog. Odd biti 70 o bobol newydd yn dychra nôl ar y gwaith wi’n ei ‘neud ar fysus Llundain ac own i’n gorffod h… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Paxo, Nigella a Betsan

Un o’m hoff raglenni teledu yw University Challenge. Wi ddim yn ei gwylio hi ar y teledu, cofia, ne’ bysa rhaid ifi dalu am y liswns. A gwed y gwir, wi’n watsho pob ffycin dim sy’n dod off y teli ar y we erbyn hyn. Mae pethach i gal fel youtube… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: ‘Loads of money’, ei golli a ‘shadenfreude’

Loes calon yw’r wasgfa ariannol, ontefe. Ots ‘da fi am y ‘city types’ bondigrybwyll sydd wrthi’n colli popith. Ma’ rhyw deimlad o schadenfreude yn dod drosto i biti nhw. ‘Ha ha’ – ac eto ‘ha ha’ chwetyn. Ots gen i eu gweld nhw’n canu’n iach… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Pinna bach a netwyddi mawr a’r anaf atchwipio

Bach yn broblematig odd ‘Dolig a’r Flwyddyn Newydd eleni, ac er bo fi’n dueddol o mysdyn coes amall i stori, dim ond y gwir a’r gwir yn unig yw’r hanas ‘ma. Dyma fi’n bennu lan ryw dridiau cyn y ‘Dolig yn yr Accident & Emergency yn … Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Y boi a gollws ei bidyn, yr orchest glatsho bant a’r plentyn siawns

Digwiddws ifi fwrw ar draws hen ffrind ysgol yn Basingstoke ddoe. Odd e’n dipyn o syrpreis idd’i weld e, ond draw fynna ma fe’n byw nawr ac yn gwitho fel pensaer. Ma’n rhaid bo fe’n rowlo mewn arian ond hei – wi ddim yn genfigennus. Un dwyrno… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Tits, blew a ffani go lew, un corrach cas a dynon tew

Yn Basingstoke wi’n gwitho’r wthnos hyn ac ma’r lle ma’n llawn dop o bishis siapus â’u coesa’n mynd i lan tsha’r Nefoedd. Yn anffodus, wi’n gwitho gida Mair Gorrach ac dyw hi ddim ymysg y petha perta a greodd Duw. Ma’ ddi ond biti four… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Caerwynt, Alffred Fawr a ‘Brithyll’

Wi’n gwitho yng Nghaerwynt yr wthnos hyn – wel ‘blaw am heddi am bo rhaid ifi seino ‘mlan. Wel, ‘sdim rhaid ifi ac mewn gwirionadd ddylswn i ddim, ond ma’ ‘na wasgfa ariannol yn sgubo’r wlad ac ma’ angan pob cinog ar ddyn.Lle’r cracha… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: O gath i gath

Rŷn ni’n cal cyfarfodydd o bryd i’w gilydd er mwyn trafod rheola’r fflat – ma’r tri o’ni’n ffrindia ers sbel nawr ac byddwn ni’n mynd mas, sniffan amall i gyffur a smoco un arall, stryman gitar, cal jôc a chwpwl o beints o flan y teli… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Dickhead, Leatherhead, Fu Manchu a’r lesbian cannibals

Bu uffach o rycshwns yn y tŷ nithwr. Odd Xosé wedi bod mas ar griws gida’r bobol o’i waith a dath e nôl yn feddw racs – yn wath nag ifi wedi ei weld e eriod. Odd Pablo a finna’n watsho The Texas Chain Saw Massacre ar y pryd, ond ar ôl gweld… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Jack The Porn Ripper a fforymau trafod

Ethon ni i weld Jack The Porn Ripper yn y Vauxhall Tavern nos Lun a joias i mas draw. Dath y dyn ‘ma ar y llwyfan a thynnu ei ddillad e off nes bo fe’n borcyn a gofyn i’r gynulleidfa mewn acen Bwyleg – Do you want to see me let one rip? – ac wir … Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Y claf a’r traed diglefyd

Wi wedi ffwcan ‘y nhroed i lan nawr – o’s ‘da fi ddim clem beth ifi wedi ei ‘neud, ond ma’n ‘ala los y diawl pob tro wi’n doti pwysa arni. Dim ond un drod sydd fel ‘ny; ma’r drod dde yn iawn, ond alla i ddim clunhercan rownd y lle a… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Cadw dy blydi myshrwms

‘Bthdi mish yn ôl, buas i’n watsho rhaglen ddogfen ambiti’r fenyw ‘ma sydd yn y llun wrth ochor y cofnod ‘ma. Lauren Harries yw ei henw hi ond dyn odd hi ar un adeg – James Harries – a dath e i amlygrwydd fel crwtyn bach teip Lord Fauntl… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: O’r closèt yn ‘Crud yr Awel’ i Battersea a Soho Square

Pwy benwthnos, dyma Tomos Gerwyn Williams yn bwrw drws rhif 55, St George Mansions a gofyn noddfa gyda fi – fe yw fy mab bedydd.Mab i Siriol a Deiniol yw e – ac mae Deiniol a finna’n ffrindia gora ers dyddia plentyndod. Roedd fy mam i a Ruth – ei f… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Enwau rhyfedd

Mae’n debyg bod y llysoedd yn Seland Newydd yn gallu stopo rhieni rhag rhoi enwau twp ar eu plant. Daeth un achos lan yn ddiweddar lle’r oedd y grotan naw mlwydd oed ‘ma isha newid ei henw bedydd o Talula Does The Hula From Hawaii i rwpath gwell … Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Gwaith y mab a’r tad a’r tad-cu a’r hen dad-cu…

‘Taswn i’n fab i rywun yn y byd cyfryngol Cymraeg ei iaith, mae’n siwr gen i y bysa’r drysau ar agor led y pen ifi gal ymuno â’r criw dethol a dilyn ôl traed fy nhad – a bod ar ben fy nigon â’r cyflogau mawr. Er hynny, dyw meibion ddim y… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Melltith trais a’i ganlyniadau

Odd Xosé, Pablo a fi’n cerad yn hamddenol braf i lawr Battersea High Street ddoe ac wrth droi’r cornel tuag at Clapham Junction, fe welson ni’r ddou Bwyliad ‘ma’n ymladd â’i giddil y tu fas i dafarn y ‘Cock ‘n Hen’ – ffeit eithaf … Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Fi wela i â’m llygad bach i rwpath yn dychra ag U.

“Veo, veo una cosa que empieza con U.” – medda fi“Una botella de Vodka” – medda XoséRoedd Xosé yn llygad ei le, felly fe bennon ni’r gêm a mynd ati i bennu’r botel ‘na hefyd. Ryw ‘chydig wedyn, ethon ni i’r siop i brynu potelai… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Todo sobre mi tia Sofia – All about Sophie

Fi geso i alwad ffôn gin mam y dwyrnod o’r blan, a hitha’n mynnid ‘bo fi’n mynd i lan i weld Anti Sophie yn Tottenham. Dyna’r peth ola own i’n moyn neud, ond ma’ rhaid ifi blygu glin ac uffuddhau witha er mwyn cadw’r heddwch. ‘The de… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Teyrnged i Ffred Ffransis ar ei benblwydd yn 80 oed

Odd ffrind arbennig ifi yn dathlu ei ben-blwydd yn bedwar ugain oed ddydd Satwn diwethaf ond yn anffodus, ‘odd dim digon o arian ‘da fi i fynd i lan i Aberystwyth i ymuno yn y dathliadau. Ta p’un i, dyma fy nheyrnged fach iddo fe ar ffurf bywgraffi… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Fy modryb a’i phlentyn siawns

Gas Grizilda a fi ffrae nithiwr a bu’r ddou o’ni wrthi fel ci a chath tan y bora bach. Mae Dracula yn lico dangos ei ddannadd ar ôl agor clawr ei arch am hannar nos, ond mae Grizilda yn lico agor ei cheg sbelan cyn hannar nos a does byth cau arni Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Cwlffyn o fara ‘chaws a phowlid o uwd o fewn petar wal

Geson ni bach o ffradach yn y ‘Three Cocks’ yn Walthamstow nos Satwn ond wi’m yn mynd i fecso ryw lot biti fe. Cal peint bach tawal ôn i gyda Rob pan ddath y landlord hibo wrth glasgu gwydrau a gwed rhyw gachu twp wrthon ni ambiti’r ffaith ‘… Parhau i ddarllen

Cer i Grafu: Pel-droed, ffrindiau a Chymry Llundain (2)

Collws Caerdydd yn erbyn Portsmouth ond own i’m yn talu lot o sylw a gwed y gwir. Buas i wrthi’n wara ‘table football’ gydag Aeron, plentyn bach Eluned sy’n gwitho fel ‘bus driver’ i lawr ‘ma yn Llundain. Wi’m yn lico ‘bo nhw’n gatal pl… Parhau i ddarllen