Archives: Dyfed

Maes Rhos Rhyfel: Sut i gyrraedd wyth ola Cwpan y Byd 2011

WEDI’R siop siafins yn erbyn Ffiji ar Dachwedd 19, ac yn sgîl sioe dda Samoa yn erbyn Lloegr a’r Alban, mae Cymru’n wynebu andros o job i gyrraedd rowndiau go-gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn nesa. Mae Cymru yng Ngrwp D gyda De Affrica, Ffiji, Samoa, a Namibia. Dwi’n credu mai’r unig ffordd o sicrhau [...] Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Thomas Emson yn brysur

AR hyn o bryd, a tan y flwyddyn 2012, dwi’n sgwennu dwy nofel y flwyddyn. Ac ni rhyw fan bethau 50,000 o eiriau yr ydyn nhw, chwaith. Maen nhw rhwng 90,000 a 120,000 o eiriau. Anghenfilod o bethau sydd yn mynd fel y mynnon nhw, er i mi drio fy ngorau glas i’w cadw nhw [...] Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Diolch byth am y BBC

MI dwi wedi cael newyddion diflas ar gownt Tân Mewn Drain, enillodd y Fedal Ddrama i mi yn Y Bala’r llynedd: mae’r Theatr Genedlaethol wedi penderfynu peidio ei chynhyrchu. Digalon, braidd. Be sydd rhaid neud, ‘dwch, i gael eich drama ar y llwyfan yng Nghymru? Ennill Y Fedal Ddrama, efalla? O… na… Wel, diolch byth [...] Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Y bydysawd, a ninnau’n ddim

DYMA ffilm anhygoel sydd yn dangos pa mor ddi-ddim yr ydan ni yn y bydysawd. Dwi’n credu bod y chwe munud a hanner yma yn emosiynol dros ben.

Am fwy o fanylion, sut y cafodd y fideo ei chynhyrchu, ac yn y blaen, ewch yma.
Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Totley’n wynebu llid Duw

PAN benderfynodd Y Parch David Rhodes, ficer Eglwys yr Holl Saint, Totley, ger Sheffield, wahardd pensiynwyr rhag ymarefer Tai Chi yn neuadd ei eglwys, doedd o ‘mond yn dilyn y Beibl. Mae’r Hollalluog yn reit glir ar gownt ddilynwyr “crefyddau” eraill: “LLADDWCH NHW!” (Exodus 22:20). Yn wir, mae’r Duw’n blwmp ac yn blaen ar y [...] Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Eistedd yn dawel

MI ddaru fi eistedd yn dawel pnawn ddoe (Sul) a gwrando ar gynhyrchiad y BBC o fy nrama “Cors Oer”. Ac mi ges i fy mhlesio. Cynhyrchiad gwych. Cast gwych. Os liciwch chi wrando, ewch yma. Dyma’r tro cynta i un o fy nramau fod ar y radio, ac roedd o’n brofiad cyffrous iawn. Diolch [...] Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Cors Oer ar y radio

BYDD addasiad o fy nrama “Cors Oer,” a enillodd Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008, yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru, Dydd Sul (Mawrth 14) am 2 p.m. Dwi’n naturiol wrth fy modd. Mae hi wedi cymryd amser i “Cors Oer” ddod o hyd i gartre. Ond o’r diwedd, mae hi [...] Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Amser maith

EWADD, blwyddyn newydd dda a ballu. Mae hi wedi bod yn amser maith ers i mi sgwennu’r blog yma. Mae rhywun yn diogi braidd dros y Dolig, dwi’n meddwl. Wel, drwy gydol Ionawr a Chwefror hefyd, yn amlwg. Beth bynnag, dwi heb fod yn gyfangwbl ddiog. Fis Ionawr, mi roeddwn i ar brosiect sgrifennu efo’r [...] Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Y gân Nadolig orau erioed?

DWI’N credu mai’r gân hyfryd yma gan y diddanwr o Awstralia, Tim Minchin, ydi’r gân Nadolig orau dwi erioed wedi ei chlywed. Be ydach chi’n feddwl?

Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Chwaraeon yn gwneud i ni heneiddio

MAE dilyn chwaraeon yn gwneud i rhywun deimlo’n hen. Mae chwaraeon i fod i gadw rhywun yn heini, yn iach – yn ifanc. Ond dim ond os ydach chi’n cymryd rhan mae hynny’n digwydd. Os ydach chi’n wyliwr, teimlo’n hen newch chi. Yn enwedig pan fydd rhywun fel Ryan Giggs yn ennill Personoliaeth Chwaraeon 2009. [...] Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Llythyr ato ni’r cwsmeriad

FIS Medi cyhoeddodd y “London Review of Books” erthygl gan ddyn post o’r enw Roy Mayall. Ffugenw, wrth gwrs. “Royal Mail . . . Roy Mayall” . . . ydach chi’n gweld? Cyhoeddwyd yr erthygl yn ystod cyfnod streic y post. Esboniodd Roy Mayall sut y buo’s Post Brenhinol anghofio am eu cwsmeriad tra’u bod [...] Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: “Dowch â nhw adre,” ydi’r alwad – ond be wedyn?

ADRODDODD y Daily Post heddiw bod “Milwyr dewr o Ogledd Cymru ar eu ffordd i’r rhyfel yn Affganistan”. Mi fyddan nhw yno dros y Dolig, ac am fisoedd wedi hynny. 500 ohonyn nhw sy’n mynd. O’r Cymry Brenhinol. Bydd hwn yn gyfnod anodd i’w teuluoedd. Ond dyna mae’r dynion a’r merched yma’n ei wneud; dyma [...] Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Ar werth ar ôl 5 miliwn o eiriau

MAE awdur yn ofalus iawn o’i offer. Mae rhai awduron yn sgrifennu gyda phensil a phapur, eraill gyda inc mewn llyfrau nodiadau crand. Mae eraill – y rhan fwya’r dyddiau yma, debyg – yn sgrifennu ar gyfrifiadur. Rydwi’n defnyddio laptop 10 oed sydd yn pwyso bron gymaint a bricsen. Ond dyna’r teclyn dwi’n hoffi. Sgwn [...] Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Beti A’i Phobol

ROEDDWN i’n westai ar raglen Beti A’i Phobol ar Radio Cymru ddoe. Os oes gan rhywun ddiddordeb mewn gwrando eto, dyma ail-ddarllediad. Mi gewch chi fy nghlywed i’n cyfadde mai blogiwr symol ar y naw yr ydw i, er mod i wedi gwella mymryn ers recordio’r sgwrs efo Beti George.
[...] Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Prynwriaeth yn ennill y dydd

MAE aelodau seneddol wedi bod yn ymchwilio i mewn i homeopathi’r wythnos yma. Rhwng 2005 a 2008, mi wariodd y gwasanaeth iechyd £12m ar homeopathi – gwastraff arian, meddai nifer o wyddonwyr a doctoriaid, gan nad oes tystiolaeth i ddangos bod y stwnsh yma’n effeithiol.
Mae Boots yn gwerthu “meddyginiaeth” homeopathig, ac yn gwneud andros o [...] Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Stori fer

DYMA stori fer i chi o’r enw “Dydd Yr Holl Saint”. Mae hi’n rhan o’r gyfrol Y Moch A Straeon Eraill, gyhoeddwyd gan Gwasg Carreg Gwalch yn 2007. Tydi hi ddim yn rhy frawychus, gobeithio.
Parhau i ddarllen

Maes Rhos Rhyfel: Dadlau dros Darwin – hyd heddiw

CYHOEDDWYD “On The Origin Of Species” 150 mlynedd yn ôl i heddiw. Mi sgytiodd llyfr Charles Darwin y byd. Roedd ei ddamcaniaeth yn ddaeargryn drwy Gristnogaeth ar y pryd. Roedd pawb, radeg honno, yn credu mai yn oruchnaturiol y creuwyd y byd a popeth byw. Dangosodd Darwin bod yna esboniad arall, esboniad gwell – esboniad [...] Parhau i ddarllen