Archives: Dyfrig Williams

Gwneud pethau gwell - Medium: Hierarchaeth o wybodaeth: Pam dydyn ni ddim yn rhoi beth ni’n dysgu ar waith

Does dim syniad gyda fi am y swm y mae sefydliadau’n gwario ar ddysgu a datblygu, ond mae rhaid bod e’n swm sylweddol. Ond faint o’r dysgu yma sy’n cael ei roi ar waith?

Rydw i wedi dysgu siwd gymaint wrth symud i mewn i’r maes ymchwil. Rydw i wedi dod ar draws lot o lenyddiaeth academaidd sydd wedi gwneud i mi edrych ar fy mhrofiadau ychydig yn wahanol. Mae fy nghefndir mewn ymgysylltu wedi golygu fy mod i’n credu’n gryf y dylem gynnwys pobl wrth gynllunio a darparu gwasanaethau. Rydw i wedi gweld beth sy’n digwydd pan mae dinasyddion yn cael ei weld fel derbynwyr goddefol o wasanaeth cyhoeddus — maen nhw’n cyrchu gwasanaethau “un maint i bawb” sy’n cyd-fynd â gweledigaeth y gwasanaeth cyhoeddus ei hun.

Byddwn i byth wedi meddwl byddai’r un model hierarchaidd yma’n berthnasol i’r modd mae gwasanaethau cyhoeddus eu hunain yn dysgu a datblygu. Ond disgwylir i’r mynychwyr mynd i’r afael â’r wybodaeth, mynd mas a’i weithredu yn yr union yr un modd.

Felly os ydym am roi gwybodaeth gymhleth fel ymchwil ar waith wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ni fydd y model yma’n gweithio. Fe wnaeth Dez Holmes rhannu Camsyniad y Biblinell (neu “Fallacy of the Pipeline”) gyda mi, sy’n edrych ar pam nad yw lot o ymchwil yn bwydo mewn i waith ar y rheng flaen.

Hierarchaeth

Mae fy mlogbostau i ers dechrau gyda Research in Practice a Research in Practice for Adults wedi cyffwrdd ag hierarchaeth. Roedd y rhain yn edrych ar rwydweithiau ffurfiol o fewn sefydliadau, ond mae Camsyniad y Biblinell hefyd yn dangos effaith hierarchaeth o ran arbenigedd rhwng sefydliadau.

“The blame for gaps between science and practice falls variously on the stubbornness of the practitioners insisting on doing it their way, their hubris in believing they know their patients best and the smugness of scientists believing that if they publish it, practitioners will use it. None of these characterizations of the culprits is entirely fair, but they and yet others share in the blame.”

Mae’r agwedd hon hefyd yn adleisio sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio â phobl a chymunedau. Rydw i wedi clywed cymaint o sefydliadau’n dweud bod “rhaid i gymunedau sylweddoli nad oes digon o arian i fynd o gwmpas, felly mae rhaid iddynt wneud mwy ar gyfer eu hunain.” Y broblem yw bod sefydliadau’n aml eisiau cael eu cacen a’i fwyta. Maent am gadw pŵer a rheolaeth tra bod cymunedau’n darparu gwasanaethau ar eu cyfer. Mae hyn yn hynod o glir pan mae cyd-gynhyrchu yn cael ei gamddefnyddio — mae cymunedau’n cael problemau’r sefydliad i’w datrys.

Felly sut allwn ni symud y tu hwnt i strwythurau hierarchaidd? Mae lot o enghreifftiau defnyddiol o sefydliadau sydd wedi rhoi’r gorau i hierarchaidd yn y blogbost yma gan Paul Taylor — mae defnydd Zappos o holocratiaeth yn hynod o ddiddorol. Dylai gwasanaethau cyhoeddus weithio fel rhan o rwydweithiau o fewn cymunedau, yn hytrach nag edrych i lawr arnynt. Mae’r erthygl yma o’r Harvard Business Review yn edrych ar sut mae sefydliad rhwydweithiol yn edrych, ac mae’n disgrifio hefyd sut y gallem weithio gyda chymunedau:

“I am talking about a whole new system that is much bigger, more powerful and involves far more people. Over the past few years, I’ve started to see many high-performing organizations use a network-like structure outside their traditional hierarchy to lead change, and with great results.”

Fe wnaeth Esko Reinikainen cyflwyno cysyniad Amy C. Edmondson o Dîmio i mi yn yr Ŵyl Tai (ac rydw i wedi’i blogio amdano ar gyfer Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru), sy’n ymwneud â nodi sut all pobl weithio’n hyblyg er mwyn rheoli rhyngddibyniaethau cymhleth. Un o’r pethau rwy’n rili hoffi amdano’r cysyniad yw bod Edmondson yn rhoi empathi wrth wraidd ei methodoleg, tra bod hierarchaeth yn rhoi bwlch rhwng pobl a chanlyniadau eu penderfyniadau.

Methiant

Nid tîmio yw’r unig fodel defnyddiol y mae Edmondson wedi’i ddyfeisio. Fe wnes i ddod ar draws ei Sbectrwm o Fethiant sy’n Haeddu Bai yn fy swydd flaenorol, ac mae’n arbennig o ddefnyddiol yng nghyd-destun y papur hwn.

“The attrition of some 17% of original research that never gets submitted, usually because the investigator assumed negative results were unpublishable, is particularly disturbing from the standpoint of what practitioners might consider most helpful in their attempts to adapt guidelines for patient or community interventions to their practice circumstances. Negative results of interventions are of interest because they often tell the practitioner about the intervention’s misfit with patients or conditions other than those in which the original research leading to guidelines was conducted.”

Trwy fethu â rhannu methiant, mae’n fwy tebygol y byddwn yn ailadrodd y camgymeriadau hynny. Yn ystod fy nyddiau cyntaf yn fy swydd newydd, dywedwyd wrthyf fod rhaid rhannu camgymeriadau ac i osgoi “green shifting”. Rwy’n ddigon ffodus i fod yn gweithio mewn sefydliad sy’n agored i ddysgu sy’n deillio o fethiant, ond os ydych chi’n ddigon anlwcus i fod yn gweithio mewn sefydliad sy’n dyrannu bai ar gyfer gamgymeriadau sydd ddim yn gallu cael eu hosgoi, rydych chi’n annhebygol o allu cymryd y risgiau sy’n ofynnol er mwyn arloesi.

Data ansoddol

Mae cam nesaf y model piblinell yn taro cloch i mi o ran pa mor anodd mae fe i’r cyhoedd cyfathrebu â gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n adlewyrchu Camsyniad y Biblinell, gan ein bod ni’n cyfyngu ar y llif gwybodaeth i sefydliadau.

“The studies that would fail to survive this leg of the journey will increase because randomized methods are more likely to face ethical and logistical challenges.”

Mae’r blogbost yma gan Dan Slee yn amlinellu materion tebyg, gan fod sefydliadau’n anwybyddu dysgu defnyddiol achos nid ydy’n dod mewn ffurf ddelfrydol iddynt. Mae’r enghraifft lle mae cyngor yn gwrthod derbyn sylwadau ar ymgynghoriad trwy gyfryngau cymdeithasol yn achos da o sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gallu gweithio i’w gofynion eu hunain yn hytrach na’r hyn sy’n gweithio i gymunedau.

Camsyniad y gynhwysydd o gwthio gwybodaeth i’r ymarferydd

“The recipient is full of prior knowledge, attitudes, beliefs, values and, above all, contextual constraints at any given point in practice time. Each of these influences the practitioner’s receptivity to new guidelines, their perception of the guidelines’ utility and their eventual use of them.”

Nid ydym yn llechen lân. Mae beth ni’n dysgu yn dibynnu ar ein credoau a’n profiadau. Mae Rhagfarn Cadarnhad yn golygu ein bod ni’n hoffi syniadau sy’n cadarnhau ein credoau presennol, ac achos Rhagfarn Rhagamcanol rydym yn tueddu i feddwl bydd canlyniadau ein dewisiadau cyfredol yn gweithio mas yn yr un ffordd yn y dyfodol.

Mae’n bron yn amhosibl cofio pob rhagfarn, ond yn ffodus fe wnaeth Helen Reynolds a Ben Proctor rhannu’r erthygl dda yma ar Fias Gwybyddol pan wnes i gymryd rhan ym mhodlediad Natteron. Mae’n ddogfen ddefnyddiol iawn sy’n gallu’ch helpu chi i checio’ch tybiaethau a’r cymhellion sydd y tu ôl i’ch gweithredoedd.

https://medium.com/media/a8f6b4d673a46e6b4c07ce65ab52dc11/href

Ymchwil gyfranogol, rhwydweithiau ymchwil, a gwella ansawdd parhaus

“The most promising lines of remedy have been in bringing the research (or even better, producing the research) closer to the actual circumstances of practice….. The promise inherent in these is that the research results are made more relevant, more actionable, more tailored, more particular to their patients or populations and to their circumstances of practice and with more immediate feedback to the practitioners themselves. The promise of this ‘pull’ approach has led to the suggestion that if we want more evidence-based practice, we need more practice-based evidence.”

Mae hyn yn dangos y gwerth o fod yn rhan o, neu o leiaf fod yn agos ato newid. Pan rannais waith yr Athro Roz Searle ar ymddiriedaeth yn Bara Brith Camp, y rhan wnaeth wir daro cloch oedd bod sefydliadau mwy yn fwy tebygol o gael lefelau is o ymddiriedaeth. Mae hyn achos bod mwy o hierarchaeth yn golygu bod gweithredoedd cadarnhaol y bobl sydd ar frig y sefydliad yn cael eu gwanhau. I mi, dyma pam rydym yn parhau i fethu â gweithredu newid cadarnhaol o fewn cymunedau — rydym yn rhy bell ohonynt, ac yn aml nid oes gan y cyhoedd lot o ffydd ynddo ni. I brofi bod hyn yn fwy na barn bersonol, cewch gipolwg ar y Baromedr Edelman ar gyfer 2017, sy’n datgelu’r cwymp mwyaf erioed mewn faint mae’r cyhoedd yn ymddiried mewn sefydliadau’r llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol.

Cymhellion a chosbau er mwyn ysgogi ymarferydd i dynnu

“What practitioners in clinical, community and policy making roles crave, it appears, is more evidence from practices or populations like their own, more evidence based in real time, real jurisdictions, typical patients, without all the screening and control and with staff like their own. The ideal setting in which to conduct such studies would be their own, which takes us back to the participatory research strategy.”

Rwy’n meddwl bod gan Research in Practice rôl hynod o ddiddorol yma, gan ein bod ni’n ddolenni ymchwil academaidd a gwasanaethau cyhoeddus. Gall ein gwaith helpu i rannu ac i roi gwybodaeth ymchwil ar waith wrth ddarparu gwasanaethau.

Rydw i hefyd yn rili hoffi’r syniad o ddarparu tystiolaeth mewn amser real. Mae’r papur yn nodi bod “yna ddatganiad brawychus a dyfynnir yn aml am yr athreuliad yn y biblinell a’r gap rhwng ymchwil ac arfer, sef ei fod yn ‘cymryd 17 mlynedd i droi 14 y cant o’r ymchwil wreiddiol fel ei fod er budd gofal gleifion.’” Mae hwn yn swnio’n afreal i mi yn y byd digidol sydd ohoni. Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o hyn yn gysylltiedig ag arfer, ond mae yna broblemau sy’n ymwneud â rhannu data hefyd. Mae ymchwil yn aml yn cael ei gyhoeddi y tu ôl i waliau talu neu’n cael ei reoli gan arianwyr. Ond ydyn ni’n gwneud cymaint ag y gallem? Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru rhyddhau ein set ddata gyntaf gyda thrwydded llywodraeth agored, a defnyddiom Power BI i arddangos data mewn amser real. Mae yna rhai adnoddau ar-lein da y gellir rhoi ar waith ym maes ymchwil, gan gynnwys adnoddau Creative Commons ar Wyddoniaeth Agored, a darn gwych gan Gymdeithas Cyhoeddwyr Mynediad Agored Anrhydeddus ar fanteision Creative Commons.

Cael mwy o sylw i ddilysrwydd allanol ym mhroses adolygiad cymheiriaid a pholisïau golygyddol o gylchgronau

“One might reasonably conclude that science will always have a gap to bridge to reach practice as long as it is generated in academic circumstances that put such a high premium on scientific control for internal validity that it squeezes out the needed attention to external validity.”

Mae hyn yn cysylltu yn ôl â’m blogbost flaenorol ar gymhlethdod, gan nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu mewn amodau labordy. Yn hytrach nag esgus y gallwn roi ymchwil ar waith mewn amgylcheddau delfrydol sydd o dan reolaeth, mae rhaid i ni ystyried cymhlethdod yr amgylchedd ni’n gweithio mewn ac i feddwl yn feirniadol am sut y gellir rhoi’r wybodaeth honno ar waith. Yr unig ffordd all hyn digwydd yw os all staff gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau cael y pŵer a’r cyfle i ddadansoddi eu hamgylchedd eu hunain. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni gyd rhyddhau ein gafael ar bopeth. Ydyn ni’n ddigon dewr i wneud hynny?


Hierarchaeth o wybodaeth: Pam dydyn ni ddim yn rhoi beth ni’n dysgu ar waith was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Cymhlethdod: A allwn ni newid sut ni’n dysgu?

Ar fy ffordd i waith yr wythnos diwethaf, fe wnes i wrando ar raglen TED Radio Hour NPR ar Ailfeddwl Ysgol. Roedd trafodaeth Sal Khan ar y Khan Academy yn hynod o ddiddorol. Mae fe “wedi fflipio’r ystafell ddosbarth” fel bod myfyrwyr yn gallu gwylio darlithoedd yn eu cartrefi trwy YouTube a gallant wneud y gwaith cartref ymarferol gyda’i gilydd yn yr ystafell dosbarth. Gallwch ei weld yn siarad am hyn tua 6 munud i mewn i’r fideo isod.

https://medium.com/media/4c08e318e257ea97c184ef25e10147af/href

Mae hyn yn ymgymryd â rhai cysyniadau rydw i wedi dechrau eu hystyried mewn perthynas â sut rydyn ni’n darparu’r profiad dysgu gorau posibl. Y pwynt fwyaf amlwg i’w gymryd i ffwrdd yw sut allwn wneud ddefnydd mwy effeithiol o dechnoleg. Mae fy nghydweithiwr Leo ymhell o flaen i ar hyn, ac mae fe wedi sefydlu ffyrdd da o weithio ar gweminarau a fersiynau sain ohonynt, ac rydw i wedi cwrdd â Stuart (ein Cydlynydd Systemau Gwe) i siarad am beth mae ein dyfodol digidol yn ei olygu ar gyfer ein digwyddiadau dysgu. Mae Ami hefyd wedi gwneud i mi feddwl ychydig am achredu’n cyrsiau a sut all dysgu cyfunol gweithio yn y cyd-destun yma.

Peth arall a ddaeth i mi wrth i mi wylio Sal yn trafod y Kahn Academy oedd sut y gallwn ni symud addysg i ffwrdd o ddull “un maint sy’n addas i bawb” i fod yn rhywbeth sy’n lot fwy personol a hyblyg. Drwy “fflipio’r ystafell dosbarth”, mae Sal wedi galluogi myfyrwyr i gael profiad dysgu rhyngweithiol sy’n wahanol iawn i’r hyn y mae pobl wedi cymryd rhan mewn yn draddodiadol.

Symud i ffwrdd o ddull un maint sy’n addas i bawb

Yn ystod fy wythnos gyntaf, cwrddais â’n Cyfarwyddwr Dez Holmes i siarad am sut allai weithio yn y rôl o Gydlynydd Dysgu. Un o’r pethau y trafodom oedd yr amgylchedd cymhleth y darperir gwasanaethau cyhoeddus ynddo a beth mae hynny’n golygu ar gyfer dysgu mewn modd effeithiol.

Mewn gweithgynhyrchu, mae’r amgylchedd yn rhagweladwy, ac mae achos ac effaith yn llinol. Ond mae pethau ychydig yn wahanol ym myd gwasanaethau cyhoeddus. Mae bywydau pobl yn gymhleth, felly mae’n annhebygol y bydd eu sefyllfaoedd yn ffitio i’r blychau rydym wedi’u datblygu ar eu cyfer yn ein gwasanaethau.

Yn amlach na pheidio, mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu sefydlu gyda gofynion y sefydliad mewn golwg (mwy ar hyn yn fy mlogbost diweddaraf ar gyfer Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru, ble rydw i wedi blogio ar pam nad yw cyd-gynhyrchu wedi cael ei roi ar waith yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymreig). Rydym yn canolbwyntio ar beth sy’n hawdd i ni o ran darpariaeth, sy’n golygu bod dull un maint i bawb yn tueddu i gael ei ffafrio gan ei bod yn ffordd symlach o gynllunio a chyflwyno gwasanaethau. Ond mae cymhwyso’r ymagwedd hon yn llawn anhawster oherwydd nad yw gwasanaethau’n cael eu darparu mewn amgylcheddau sydd dan reolaeth.

Felly rhaid cwestiynu pam bod PRINCE2 mor boblogaidd yn y sector cyhoeddus, gan ei fod yn sefyll am “PRojects IN Controlled Environments”?

Felly sut allwn ni weithio’n wahanol?

Roedd rhai o’r cyfyngiadau i weithio i Swyddfa Archwilio Cymru yn ddefnyddiol iawn o ran rhannu dysgu ym modd gwahanol. Doedden ni ddim yn gallu datblygu polisi gan ein bod ni’n archwilio’r polisi hynny. Felly doedden ni ddim yn gallu dweud “dyma beth ddylech chi wneud”. Ond dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol dro ar ôl tro y dylai sefydliadau edrych ar yr arfer yr oedden ni’n rhannu a’i addasu i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith a’r amgylchedd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu. Datblygodd y Gyfnewidfa Arfer Da eu methodoleg o adolygiad Jean Hartley o raglen y Beacon Councils a thrafodaethau gyda’r Athro Dave Snowden. Datblygwyd Fframwaith Cynefin gan yr Athro Snowden, a bwriad y Fframwaith yma yw i helpu pobl i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar yr amgylcheddau y maen nhw’n gweithredu ynddo.

Fframwaith Cynefin

Ar ddiwedd yr wythnos diwethaf, rhannodd Dez bapur gwych gyda mi o’r enw Mobilising knowledge in complex health systems: a call to action. Dyma beth wnes i gymryd o’r papur:

“Reviews of large-scale organisational change highlight the role of culture in facilitating and mediating improvements consistent with a complexity view of knowledge-to-action”

Mae hwn yn bwynt rili ddefnyddiol am rôl diwylliant, ond rhaid osgoi meddwl am ddiwylliant fel problem gymhleth ynddo’i hun. Gellir adnabod diwylliant pob un o’r mudiadau rydw i wedi gweithio ynddo trwy ateb y cwestiwn yma’n onest: “Pa ymddygiad ydych chi’n gwobrwyo a chosbi?” (rydw i wedi dwyn y syniad yma o’r blogbost wych yma gan Jocelyn Goldfein).

“System change initiatives do not stop at organisational boundaries. Beyond one organisation may be higher-level authorities such as governments — both the public service and elected officials — as well as extra-organisational stakeholder groups on which success depends, but with which there may be no formal reporting relationship.”

Mae’n anodd anghytuno â hyn. Yr unig beth y gallwn ni ei wneud yw gweithio gyda’r pŵer sydd gennym er mwyn helpu newid i gymryd lle a dangos goblygiadau eu penderfyniadau i arweinwyr. Rhaid i arweinwyr fod yn barod i fod yn hunan ymwybodol ac yn agored i ddysgu os oes newid yn mynd i gymryd lle. Dysgais i siwd gymaint o’r Gynghorydd Barry Parsons ynglŷn â sut mae’n agor ei hunain i fyny er mwyn dysgu mwy am sut mae cyngor digidol effeithiol yn edrych. Mae Research in Practice a Research in Practice for Adults yn paratoi ei rhaglen o waith ar gyfer blwyddyn nesaf ar hyn o bryd, ac mae’n wych bod yn rhan o drafodaethau lle mae rheolaeth y sefydliad mor agored i ffyrdd newydd o weithio a dysgu.

“In a complex system, however, it is not possible to predetermine what steps will bring about positive and long-lasting change. Complex problems are similar to complex systems. The components within the problem are in synergistic multiple interaction with each other and cannot be solved in a step-by-step linear manner. Multiple interactions mean that outcomes are not easily predictable but are emergent.”

Rhaid i ni symud i ffwrdd o feddwl am ddysgu fel canlyniad ynddo’i hun. Mae hyn yn digwydd yn rhy aml yng ngwasanaethau cyhoeddus. Pan mae anghenion dysgu yn cael eu nodi mewn arfarniadau maen nhw wastad yn arwain ato gwrs hyfforddiant. Mae rhaid i ni ddarparu gofod yn ein gweithgareddau dysgu fel bod pobl yn cael y cyfle i feddwl amdano sut y gallant roi’r dysgu maen nhw’n derbyn ar waith yn eu hamgylchiadau nhw. Rydw i wedi darllen cwpl o flogbostau da’r wythnos yma ar gynhyrchiant ac ychwanegu gwerth (mae Paul Taylor wedi ysgrifennu un ar y gwahaniaeth rhwng bod yn brysur a bod yn gynhyrchiol ac mae Thomas Oppong wedi ysgrifennu i The Mission ar waith gwerth isel), ac rwy’n meddwl y gallwn roi’r un meddylfryd ar waith yn ein gweithgareddau dysgu — os wnawn ni edrych ar ein gwaith gyda gweledigaeth glir o beth rydyn ni’n ceisio’i gyflawni, gallwn sicrhau ein bod ni’n ychwanegu gwerth go iawn.

A promising shift in health system thinking that supports emergence is away from pilot projects and towards prototypes (Riley et al, 2015). Well-designed pilot projects serve important functions, including testing of innovations before widespread implementation, and making a case for organisational investments. However, in complex systems, it is not likely that a pilot can offer much in the way of guidance for the next implementation: the determinants of success shift with every new context; it is the interaction between the intervention and its context that determines outcome (Pawson, 2013).

Byddai’n hawdd i ddefnyddio prawf a pheilotiaid i ganfod ffyrdd newydd o weithio ac i roi’r gwaith hwnnw ar waith yn gyfan gwbl achos ei fod eisoes wedi’i brofi mewn amgylchedd cymhleth. Gall fframwaith Cynefin fod o gymorth mawr yma — os ydym yn rhoi’r fframwaith ar waith gyda’r dysgu yn ogystal â’r gweithgaredd cychwynnol, yna rydym mewn sefyllfa gwell i sicrhau bod y newid cadarnhaol yma’n cymryd lle.

“In many ways the command and control nature of organisational structures — in place to enact such accountability — runs counter to how successful knowledge-to-action would work best in practice….. People may have job descriptions that limit their responsibilities, or suffer punitive measures for not following rules.”

Rydw i wedi blogio yn barod amdano sut yr oeddwn i’n gobeithio arwain y tîm digwyddiadau mewn ffordd wahanol, ac rwy’n credu bod y blogbost yna’n gysylltiedig â hwn achos bod rhaid i ni fod yn siŵr nad ydy’r wybodaeth ar wahân o’r gwaith. A yw staff yn cael eu grymuso i roi’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu ar waith yn y cyd-destunau y maen nhw’n gweithio ynddynt? Neu ydyn nhw’n dal i roi egwyddorion Taylorism ar waith, lle mae gwybodaeth yn nwylo’r rheolaeth ac mae pobl yn gweithio fel cogiau mewn peiriant? Mae’r erthygl hon o’r Economist ychydig yn frawychus, ond dylai ysgogi ni i feddwl amdano sut mae meddylfryd gorchymyn a rheolaeth yn cael ei weithredu mewn cyd-destun digidol. Gallai nawr ychwanegu “arferion gwaith” at y rhestr o resymau pam rwy’n casáu Amazon (mae’r rhain yn dilyn “osgoi treth” a “diystyru preifatrwydd”).

“While Mode 1 research will and should continue, there is a need to rethink the current division of research and practice or policy.”

Dyma le rwy’n credu bod Research in Practice a Research in Practice for Adults yn ychwanegu gwerth. Pan blogiais i ar gyfer Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru amdano fy swydd newydd i, ysgrifennais am sut roeddwn i’n hoffi ei model triongliad.

https://medium.com/media/4b421cba76bbb85f54f428dbf0853bf0/href

Rwy’n hoffi sut maen nhw’n dod ag ymchwil, arfer a phrofiad pobl at ei gilydd gan nad yw’n diystyru cymhlethdod. Mae’n cydnabod nad ydy’r dull o roi dysgu ar waith yn digwydd ym modd achos ac effaith. Mae’r Uned Ymchwil ar Ddefnyddio Ymchwil wedi gwneud lot o waith defnyddiol ar hyn, felly yn yr wythnosau nesaf rwy’n bwriadu gwneud rhywfaint o ddarllen ynglŷn â’i gwaith.

Fel y dywedodd Dez i mi, mae pobl yn gymhleth — ni’n gweithio mewn amgylcheddau cymhleth, nid mewn profion labordy. Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau ein bod ni’n byw i fyny i’n henw ni, a bod ymchwil a gwybodaeth yn cael ei roi ar waith mewn gofal cymdeithasol, does dim ots pa mor gymhleth yw’r amgylchiadau.


Cymhlethdod: A allwn ni newid sut ni’n dysgu? was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Fy wythnos gyntaf i yn RiP/fA: Arweinyddiaeth

Rydw i’n wythnos i mewn i weithio ar gyfer Research in Practice a Research in Practice for Adults, ac mae fe wedi bod yn wych hyd yn hyn. Mae gen i ddigon o ddeunydd ar gyfer sawl blogbost, ond bydd un yn gwneud y tro! Dyma fy adlewyrchiadau cychwynnol ar ôl yr wythnos yma.

Arweinyddiaeth

Roedd fy ngwaith yn Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnwys mentora gyda chydweithwyr mewnol ac allanol er mwyn ei helpu nhw i feddwl am sut y gallant alluogi gwasanaethau cyhoeddus i wella, ond dyma’r tro cyntaf i mi reoli staff yn uniongyrchol. Fe wnaethon ni gynnal digwyddiadau diddorol yn Swyddfa Archwilio Cymru a roddodd lot i mi gysidro am natur arweinyddiaeth dda, ac fe wnaethom hefyd gyhoeddi blogbostau gwych fel yr un yma gan Kelly Doonan ar arweinyddiaeth ddigidol. Roeddwn i eisiau adeiladu ar fy steil arweinyddiaeth cyn dechrau’r swydd yma felly rwyf wedi mynd i’r afael â’r theori trwy ddarllen cwpl o lyfrau.

Mae Neil Tamplin eisoes wedi ysgrifennu blogbost wych ar Turn The Ship Around gan David Marquet, felly fel rhywun sy’n credu’n gryf y dylwn ni ddim ail-ddyfeisio’r olwyn, ni fyddaf yn dyblygu’r hyn mae fe eisoes wedi’i ysgrifennu. Ond fe wnâi ychwanegu fideo o TED Talk Marquet, sy’n drosolwg wych. Yn y fideo mae’n disgrifio sut wnaeth ddatganoli penderfyniadau a chyfrifoldeb i’r lefel fwyaf priodol, sef lle mae gwaith yn cymryd lle.

https://medium.com/media/20bcef6512f41e46b663afbf06958d02/href

Yr ail lyfr rydw i wedi bod yn darllen yw Freedom from Command and Control: A better way to make the work work gan John Seddon. Mae hyn yn rhannol oherwydd dydw i ddim yn meddwl rydw i’n arweinydd sy’n gorchymyn ac yn rheoli’n gor-gadarn (ac nad yw fy rheolwyr gorau wedi bod o’r natur honno chwaith), ac hefyd achos rwy’n ffodus y byddai’n arwain tîm galluog sydd wedi adeiladu arbenigrwydd yn ei swyddi.

Rwy’n gweld fy rôl fel Arweinydd Gwas. Ym myd Rheoli Prosiectau Ystwyth, mae fframwaith Scrum yn diffinio’n glir y Meistr Scrum fel Arweinydd Gwas. Mae hyn yn golygu mai fy rôl i fel arweinydd yw helpu’r tîm i gwrdd â’i nodau, ac i ddatblygu a pherfformio mor uchel â phosib. Arweiniodd Steve Lisle o Swyddfa Archwilio Cymru brosiect Archwilio Sydd Ar Flaen y Gad gyda’r math hwn o feddylfryd, ac mae’n rhywbeth yr hoffwn i integreiddio yn fy ngwaith i. Mae’r dyfyniad yma gan Robert Greenleaf, a ddyfeisiodd y cysyniad fel rhan o’i draethawd “The Servant as Leader”, yn un sy’n crynhoi pethau’n dda:

“The servant-leader is servant first… It begins with the natural feeling that one wants to serve, to serve first. Then conscious choice brings one to aspire to lead. That person is sharply different from one who is leader first, perhaps because of the need to assuage an unusual power drive or to acquire material possessions…The leader-first and the servant-first are two extreme types. Between them there are shadings and blends that are part of the infinite variety of human nature.

“The difference manifests itself in the care taken by the servant-first to make sure that other people’s highest priority needs are being served. The best test, and difficult to administer, is: Do those served grow as persons? Do they, while being served, become healthier, wiser, freer, more autonomous?”

Gan fod y tîm eisoes yn gweithredu eu swyddi i’r dim, does yna unrhyw synnwyr mewn symud cam yn ôl. Mae’n werth edrych ar y trydar yma er mwyn darllen llif Twitter ar gyfer cipolwg o beth all ddigwydd os ydych chi’n dychwelyd yn ôl i arweinyddiaeth gorchymyn a rheoli (rhybudd bach i chi, mae yna ychydig o regi ynddo).

Quick story. I worked in a uni bookshop once. A manager, and four new staff including me. About 3 months into the job, our boss was caught..

 — @Grimeandreason

Rwy’n benderfynol o arwain y gwaith yma’n wahanol, ac yn y dyfodol, rwy’n siŵr o rannu’r heriau rwy’n wynebu a’r pethau da ni’n gwneud ar y ffordd.

Gorbwysedd ar reolau

Rydw i wedi blogio’n ddiweddar am gymhlethdod sefydliadol ar ôl i mi hwyluso trafodaeth ar arloesi yn yr Ŵyl Tai (ac mae Paul Taylor wedi blogio ar hyn yn arbennig ar ei flog ef). Yn ddiweddar, rydw i wedi ffeindio bod lot o bobl wedi dweud bod angen iddynt newid eu polisïau i gynnwys mwy a mwy o gafeatau er mwyn amlinellu pa fath o waith na allant ei wneud, sydd yn ychwanegu mwy a mwy o haenau biwrocrataidd. Felly roedd e’n grêt i ddarllen hwn yn Llawlyfr Staff Neuadd Dartington (lle mae Research in Practice a Research in Practice for Adults wedi’i leoli):

“What is it about rules? Love ’em or hate ’em, they can keep things running smoothly or they can divide nations. We could have policies to cover everything (in fact, we almost used to) but as long as you treat your colleagues and yourself with respect and take care of each other, our customers, and our environment you can’t go far wrong.”

Mae’n braf iawn i weithio i sefydliad sy’n gweld hyn fel y ffordd ymlaen!

Mae’n werth edrych hefyd ar y gwerthoedd yr wyf wedi’u tanysgrifio hefyd fel rhan o’m swydd:

Be Inspiring. We draw on our creativity and uniqueness to inspire positive change.

Be Committed. We are committed to creating the best experience for all.

Be Open. We are open, honest, respectful and fair.

Be Collaborative. Working and learning together, we have the courage to challenge and achieve great things

I mi, dyma’r rhinweddau o pam y dylai pobl weithio’n agored (a dyma lyfr arall sydd ar fy rhestr ddarllen i). Er nad yw cyfryngau cymdeithasol bellach wedi’i sgwennu i mewn i fy nisgrifiad swydd fel yr oedd yn fy swydd ddiwethaf, rwy’n credu fod ganddo rôl bwysig i fy helpu i i ddysgu o bobl eraill ac i rannu beth rwy’n dysgu a gwneud. Hefyd, rwy’n gobeithio bydd hyn hefyd yn galluogi mi i gadw fy sgiliau Cymraeg! Rwy’n rili edrych ymlaen at weithio mewn swydd lle mae dysgu yn ganolog i’m rôl, yn enwedig mewn sefydliad sy’n gweld y gwerthoedd uchod fel rhinweddau hanfodol. Mae yna amser cyffrous o’m mlaen i!


Fy wythnos gyntaf i yn RiP/fA: Arweinyddiaeth was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Gwneud newidiadau mawr

Kelly a fi yn Nyfnaint (Budleigh Salterton i fod yn fanwl gywir)

Cyhoeddais blogbost ddoe ar blog y Gyfnewidfa Arfer Da i rannu fy mod i’n symud i Ddyfnaint i weithio i Research in Practice. Roedd e’n teimlo’n dda i rannu’r newyddion gyda’r byd ehangach, ond roedd e hefyd yn teimlo fel hanner stori, gan fod y rhesymeg dros wneud penderfyniad mor fawr yn un personol.

Dros flwyddyn yn ôl fe wnes i gyfarfod â chariad fy mywyd yn LocalGovCamp, sef anghynhadledd i bobl sy’n gweithio mewn (neu gyda, neu sydd â diddordeb mewn) llywodraeth leol. Doeddwn i heb gynllunio ar gyfer hyn pryd wnes i dal y trên 05:30 o Gaerdydd, ond cymerodd Kelly fy anadl i ffwrdd — mae hi’n hynod o glyfar, doniol a phrydferth. Cwympais mewn cariad â hi’n syth, ond wnaeth e gymryd ychydig o wythnosau i mi i gael fy mhen i o amgylch beth yn union oedd jyst wedi digwydd. Cafodd popeth ei gymhlethu gan fod hi’n byw yng Nghaerwysg.

Mae’n bythefnos nawr nes rwy’n symud i Gaerwysg, ac rydw i’n mynd i flogio amdano bopeth, jyst fel ar ôl anghynhadledd.

Profi, prototeipio, iteru

Roeddwn i wedi bod yn mynd mas gyda Kelly am chwe mis pan es i ar siwrne fawr i Ogledd Cymru gyda fy ffrind a fy nghydweithiwr Ena ar gyfer priodas aelod arall o’r tîm, Bethan. Roedd e’n ddiwrnod hyfryd, ac fe wnaeth y daith pedair awr rhoi cyfle da i ni sgwrsio. Doeddwn i ddim yn gallu gweld ffordd ganolig rhwng byw a gweithio yng Nghaerdydd a rhoi’r gorau i fy swydd a symud i Gaerwysg. Fe wnaeth Ena agor fy llygaid i’r posibilrwydd o weithio o gartref am ddau ddiwrnod yr wythnos yn Ne Orllewin Lloegr. Roedd hyn yn golygu y gallem weld a allem fyw gyda’n gilydd heb gymryd y cam enfawr o symud i Ddyfnaint. Mae cymryd y cam nesaf mewn perthynas wastad yn beryglus, ond nawr roeddwn i’n gallu rheoli’r risg a rhoi’r cyfle gorau i’n berthynas i lwyddo. Byddai’n ddiolchgar i Ena am weddill fy mywyd am y sgwrs honno, ac i Swyddfa Archwilio Cymru am fod mor hyblyg.

Byddwch yn feiddgar, ac yn ddewr

Mae gweithio i Swyddfa Archwilio Cymru wedi golygu fy mod i wedi gorfod fod yn ddiduedd ac yn niwtral yn wleidyddol, sydd wedi bod yn anodd ar adegau. Ond mae fe hefyd wedi golygu bod rhaid i mi fod yn ddewr. Ers ymuno â’r Gyfnewidfa Arfer Da mae fy nghydweithwyr wedi dweud wrtho fi i “ofyn am faddeuant, nid am ganiatâd”. Mae Janet Hughes wedi ysgrifennu blogbost anhygoel am feiddgarwch fel gwerth yn y gwasanaeth sifil. Rydw i wedi meithrin y meddylfryd yma yn fy mywyd gwaith, ac mae hyn wedi ffeindio’i ffordd i mewn i fy mywyd personol.

“fear isn’t always an accurate measure of danger, and that after trepidation there often comes great relief and reward.”

Fe wnaeth e gymryd mwy o amser nag y dylai fe wedi i mi symud o Aberystwyth i Gaerdydd pum mlynedd yn ol. Doeddwn i ddim yn teimlo’n arbennig o ddewr am adael fy nghartref, teulu a ffrindiau yng Ngorllewin Cymru. Roeddwn i’n teimlo’n ansicr iawn i ddweud y gwir. Ond gadael oedd y peth iawn i’w wneud. Ar ôl gwneud hynny, rwy’n teimlo’n fwy parod i symud y tro yma. Ie, mae’n newid mawr, ond trwy fod yn feiddgar rwy’n gallu ffeindio allan os allwn wneud i’r berthynas yma i weithio. Ac mae hynny’n hynod o gyffrous.

Mae popeth amdano bwrpas

Mae gweithio o gartref yn Nyfnaint wedi fy ngalluogi i edrych yn fanwl ar beth rwy’n gwneud ar gyfer fy mywoliaeth a pam rwy’n gwneud y gwaith rwy’n gwneud. Ysgrifennais blogbost sbel yn ôl am reoli amser a chydbwysedd bywyd a gwaith. Dyma beth wnes i ddweud:

“Os ydych chi’n edrych i fod yn fwy effeithlon er mwyn gwneud gwaith diddiwedd, yna mae’n debyg na fyddwch yn osgoi’r straen rydych chi’n ceisio osgoi. Ond os ydych chi’n edrych i gydbwyso’ch bywyd yn well, mae’n gallu’ch helpu chi i sicrhau eich bod chi’n canolbwyntio ar ble mae gan eich gwaith y gwerth mwyaf. Mae’r dull yma wedi gwneud fy ngwaith yn fwy boddhaol, ac mae fe wedi fy ngalluogi i i ganolbwyntio ar fy mywyd personol a gwneud mwy o’r pethau sy’n bwysig i mi.”

Y ferch fwyaf cŵl yn y byd?

Pum mis lawr y lein, ac rydw i wedi bod yn meddwl am bwrpas fy ngwaith a sut mae’n ffitio i mewn i fy mywyd. Rwy’n gweithio’n galed i wneud bywydau pobl yn well — mae hynny wedi bod yn ffocws i mi ers i mi ddechrau fy swydd gyntaf yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn ôl yn 2005. Ond rydw i hefyd yn gwybod fy mod i’n gweithio i fyw, a dydw i ddim yn barod i wneud yr aberth anhygoel a wnaeth fy nhad pan oeddwn i’n tyfu i fyny, er bod yr aberth hynny wedi rhoi cymaint o gyfleoedd mewn bywyd i mi. Mae bod yn llystad wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i byth eisiau gweithio ar ddydd Nadolig fel fy nhad i, ac mai’r defnydd gorau o’ch amser yw i’w wario fe gyda’r bobl chi’n caru. Rwy’n teimlo bod fy mhwrpas gwaith wedi’i sortio; nawr rwy’n teimlo fel bod pwrpas fy mywyd i wedi’i sortio hefyd.


Gwneud newidiadau mawr was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Rhyddhau Data Agored

Rydw i wedi blogio o’r blaen ar sut y mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ystyried herio ein defnydd presennol o ddata a thechnoleg fel rhan o’r prosiect Archwilio sydd ar Flaen y Gad. Roedd fy rhan i o’r brosiect yn edrych ar sut rydyn ni’n mynd i’r afael â data.

Sut mae Data Agored yn ffitio i mewn i gaffael data?

Mae’r diagram isod yn dangos y rhesymeg y tu ôl i fy ngwaith i. Yn fy marn i, mae rhaid i ni rannu’r data sydd gennym er mwyn i ni ddatblygu ein perthynas â’r cyrff sy’n gleientiaid fel y gallwn gasglu data’n effeithiol. Mae rhan o hyn ynglŷn â “bod y newid yr ydych chi’n dymuno ei weld.” Mae rhai pobl yn meddwl bod archwilwyr yn bobl sy’n ymwrthod â risg, ond yn y Gyfnewidfa Arferion Da rydym wedi gweld ein bod ni’n galluogi eraill i wneud yr un peth pan fyddwn yn gweithio mewn ffordd wahanol. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi adrodd yn ôl inni am sut y maen nhw wedi gallu herio cyfyngiadau’r gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol y maen nhw’n cyrchu oherwydd y ffordd rydyn ni’n rhannu gwybodaeth. Drwy sicrhau bod data ar gael yn agored, gallwn ddangos mai ychydig o risg sydd yna, cyn belled â bod y broses yn cael ei rheoli’n dda.

Fel y soniais yn fy nodyn gwreiddiol, roedd dod o hyd i set ddata priodol yn fwy heriol nag yr oeddwn wedi disgwyl, gan nad oes gennym yr hawl i rannu’r data yr ydym yn ei gasglu o bob cleient yn ystod ein harchwiliadau. Fodd bynnag, ar ôl ychydig o ymchwil, canfuom y data y tu ôl i Adroddiad Datganiadau Ariannol Llywodraeth Leol, sef adroddiad ar gyfrifon cyrff llywodraeth leol. Roedd hwn yn ddata diogel i’w ryddhau oherwydd ei fod eisoes ar gael ar wefan pob cyngor fel rhan o’u cyfrifon, ond ni yw’r unig sefydliad sy’n casglu’r data hwn. Dadansoddir y data yn yr adroddiad ar sail genedlaethol, ond drwy ryddhau’r set ddata gallwn alluogi cynghorau a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb i edrych ar y data fesul sir, a chymharu a chyferbynnu eu cyfrifon yn erbyn eraill. Defnyddir y data gan Swyddfa Archwilio Cymru i gefnogi gwaith archwilio lleol ac ar gyfer meincnodi cyffredinol. Mae’r adroddiad ei hun yn edrych ar ansawdd y cyfrifon, ac mae’n seiliedig ar y data sy’n cael ei ryddhau cyn gwelliannau — nid ydym yn olrhain addasiadau cyfnodau blaenorol.

Sut aethom o gwmpas gwneud y data hwn yn agored?

Ein man cychwyn oedd taenlen a ddefnyddiwn yn fewnol sy’n cynnwys y setiau data sy’n dyddio’n ôl i 2008–09. Roeddem ychydig yn siomedig i ffeindio mas bod y gofynion ar awdurdodau lleol i ddarparu’r data hwn yn y strwythur hwn bellach wedi newid ac felly na fydd data cymharol ar gael y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, roedd y set ddata hon yn brawf da ar gyfer ein dull. Yn y tymor hirach, byddai’n werth inni edrych ar sut y gallem wneud data di-dor ar gael er mwyn lleihau baich y gofynion adrodd. Mae gan Lucy Knight o Gyngor Sir Dyfnaint enghraifft ddefnyddiol yn ei darlith amser cinio ar gyfer y Sefydliad Data Agored ar ‘Gwneud i Ddata Agored Ddigwydd mewn Llywodraeth Leol’.

https://medium.com/media/0d788ff0f60ab1f75a8d194273a47dbc/href

Fe wnaethom ddefnyddio blogbost Hendrik Grothuis ar wneud data’n agored a Rhestr Wirio Defnyddwyr y Sefydliad Data Agored fel canllawiau bras ar gyfer y broses. Ein cam cyntaf wrth lanhau’r data oedd gweld pa ddata yr oedd gennym yr hawl i’w rannu, a pha ddata oedd eisoes ar gael o ffynonellau eraill. Fe wnaethom benderfynu gael gwared ar y data a oedd eisoes ar gael drwy StatsCymru er mwyn osgoi dyblygu, ond pe baech chi’n meddwl am ddefnyddio rhai o’r rhain, efallai y bydd y rhain yn fan cychwyn da:

Wedyn fe wnaethom ddefnyddio CSV Lint i weld a oedd y ffeil yn ddarllenadwy. Roeddem yn falch o ddarganfod bod gennym ffeil ddilys, ond canfuom hefyd ffyrdd y gallem ei gwella. Fe wnaethom droi’r set ddata o gwmpas fel bod yr eitemau data yn mynd yn llorweddol a’r blynyddoedd yn mynd yn fertigol. Fe wnaethom hefyd greu gwerth nwl i ddangos lle nad oedd y data ar gael. Roedd ymchwil sydyn ar Google yn ddigon inni ddarganfod sut i nodi celloedd gwag.

Fel sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru, mae’n ofynnol inni sicrhau bod y data ar gael yn ddwyieithog, ac felly fe wnaethom ei anfon at y cyfieithwyr i wneud yn siŵr fod pob term technegol yn hollol gywir gennym.

Cyhoeddi’r data

Pan ddaeth yn fater o gyhoeddi’r data, fe wnaethom benderfynu ei gyhoeddi fel rhan o’r blogbost yma ar flog Y Gyfnewidfa Arfer Da. Byddai’r set ddata yn edrych yn unig iawn ar lwyfan Data Agored ar hyn o bryd, ond y gobaith yw y gallwn nodi setiau data eraill y gallwn eu rhyddhau wrth symud ymlaen. Buom yn edrych ar lwyfannau posibl y gellid eu defnyddio, gan gynnwys dewisiadau ffynhonnell agored fel CKAN a DKAN (y byddai’r ddau ohonynt yn integreiddio gyda’n System Rheoli Cynnwys Drupal), yn ogystal â llwyfannau sy’n seiliedig yn y cwmwl fel Socrata. Fel sefydliad rydym yn symud i’r cwmwl pan fydd hynny’n gwneud synnwyr, ond efallai bod pethau y gallem eu dysgu oddi wrth Barth Arloesi Archwilio’r Alban, a sefydlwyd i alluogi eu staff i roi prawf ar feddalwedd a llwyfannau newydd mewn gofod sy’n cael ei reoleiddio’n ysgafn. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i staff roi prawf ar ffyrdd newydd o weithio.

Fel y nodwyd yn ein gweminar ddiweddar ar Safonau Agored, rydym wedi dewis cyhoeddi’r data mewn CSV yn hytrach na ffurf berchnogol fel Excel. Mae hyn yn golygu y gall gael ei ddefnyddio gan amrywiaeth eang o feddalwedd, a, gobeithio, gan amrywiaeth mor eang o bobl â phosibl.

Bellach, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod modd canfod y data hwn drwy ei dagio’n effeithiol, a byddwn hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r set ddata drwy’r rhwydweithiau yr ydym wedi eu hadeiladu drwy ein gwaith blaenorol ar Ddata Agored. Ein her nesaf yw ffeindio mas sut y defnyddir y data. Felly, os byddwch yn defnyddio’r set ddata, byddem wrth ein bodd i gael eich adborth ar y fformat ac i gael gwybod sut y gwnaethoch ei defnyddio.

Dysgu o Lywodraeth Cymru

Roedd Llywodraeth Cymru yn gymorth mawr drwy gydol fy ngwaith ar y Prosiect Archwilio sydd ar Flaen y Gad. Fe wnaethon nhw rannu pethau yr oeddent wedi eu dysgu o’u gwaith nhw, ac fe wnaethom hefyd fynychu cyfarfodydd gyda’n gilydd i ddysgu mwy am ddulliau Cyngor Caerdydd a Chyngor Sir Fynwy. Roedd yn ddiddorol iawn clywed bod staff Llywodraeth Cymru eu hunain yn defnyddio StatsCymru i rannu ac i gasglu data gan ei fod yn agored ac yn dryloyw. Mae hyn yn rhywbeth i ni feddwl amdano ar ein siwrne ein hunain — sut allwn ni wneud data yn fwy hygyrch ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Fe wnaethom ddefnyddio ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at Metadata fel templed ar gyfer ein gwaith ein hunain. Set o ddata yw Metadata sy’n disgrifio ac yn rhoi gwybodaeth am ddata arall, ac mae’n wirioneddol bwysig oherwydd ei bod yn rhoi cyd-destun o gwmpas y data sy’n cael ei rannu. Gellwch weld y Metadata ar waelod y neges hon ochr yn ochr â dolen gyswllt at y data ei hun.

Adborth

Mae eich adborth am ein dull yn bwysig iawn. Gan mai prawf cychwynnol yw hwn o sut y gallem wneud data yn agored ac yn barod i’w rannu, fe fyddwn yn defnyddio’ch adborth i ddylanwadu ar sut y gallai’r agenda yma symud ymlaen. Rydym yn awyddus iawn i edrych ar sut y gallwn wneud gwell defnydd o ddata er mwyn cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i wella, a hefyd i fod yn gyson o ran ein ffordd ni o weithredu’n ddigidol. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn trafod galluogi arloesedd drwy risgiau sydd wedi eu rheoli’n dda o flaen pob un o’n digwyddiadau rhannu dysgu. Rydym yn bwriadu rhannu ein dysgu ni ein hunain fel y gall pobl ddysgu oddi wrth ein profiadau, hyd yn oed os maen nhw’n brofiadau gwael. Rydym o hyd yn dweud nad oes diben ailddyfeisio’r olwyn. Drwy weithio mewn ffordd agored a thryloyw, rydym yn gobeithio y gall sefydliadau adeiladu ar yr hyn yr ydym ni’n ei wneud fel y gallant rannu data mor effeithiol â phosibl er mwyn gwella’r gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Set Data: Datganiadau Ariannol Llywodraeth Leol

Metadata

https://medium.com/media/ba76b2dfdb1def526bdbe32651e73cf1/href

Geirfa

Cafodd y blogbost yma ei gyhoeddi’n wreiddiol ar flog Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.


Rhyddhau Data Agored was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Astudio a diben: Meddwl ar ffurf systemau a gwasanaethau cyhoeddus

Ar ôl cael ysbrydoliaeth gan sgyrsiau â Kelly Doonan a Sianel Llyfrau GovCamp Cymru ar Slack, rwyf newydd orffen darllen “The Whitehall Effect” gan John Seddon. Disgrifiwyd y llyfr fel “gyfrif digyfaddawd o’r ffordd y mae Whitehall wedi gwaethygu gwasanaethau cyhoeddus yn systematig ac yn wrthnysig”, felly doeddwn i ddim yn disgwyl darllen rhywbeth ysgafn. Mae Seddon hefyd yn weddol feirniadol am rôl archwilio ac arolygu, felly dydw i ddim yn hollol siŵr y byddai eisiau cael ei ddal mewn lifft gyda mi. Wedi dweud hynny, rwy’n siŵr yr hoffai gael sgwrs dda â mi amdani. Dyma’r hyn a ddysgais o’r llyfr:

Diben

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Gyfnewidfa Arfer Da ein diwrnod i ffwrdd cyntaf fel tîm er mwyn rhoi cyfle i ni feddwl a ydym yn gweithio mor effeithiol ag y gallem. Roedd rhywfaint o drafodaeth am sut rydym yn mesur llwyddiant, rhywbeth rwyf wedi meddwl amdano gryn dipyn ers fy rôl flaenorol, lle roedd targedau arianwyr yn golygu fy mod yn cyfrif pethau nad oedden nhw mewn gwirionedd yn dangos gwelliant gwasanaeth. Yn y pen draw, roeddwn i’n mesur pethau fel nifer y tanysgrifwyr i’n cylchlythyr. Gofynnwyd i ni wneud hyn gan ei fod yn rhywbeth hawdd ei fesur, sy’n cyferbynnu â’r dasg anodd o ddangos tystiolaeth o newid gwasanaeth gwirioneddol. Pwynt Seddon yw bod y fath feddwl yn creu diben mewn ffaith (cael mwy o danysgrifwyr) yn lle’r diben gwirioneddol (hwyluso gwelliant). Drwy ddeillio mesuriadau o safbwynt cwsmer o ddiben y sefydliad, rydym yn mesur pethau sydd o bwys.

Wrth gymhwyso hyn i’n gwaith, pe baem yn mesur llwyddiant yn ôl nifer y cynrychiolwyr sy’n mynd i’n digwyddiadau, gallem roi’r gorau i wneud gwaith ar bethau fel Safonau Agored a chanolbwyntio ar bynciau poblogaidd yn lle hynny, er ein bod yn gwybod bod eu defnydd yn cefnogi integreiddio gwasanaethau cyhoeddus. Dylai ein mesuriadau go iawn ddeillio o’n diben, sef helpu gwasanaethau cyhoeddus i wella a chyflwyno gwasanaethau gwell. Mae hyn yn golygu edrych ar ganlyniadau yn hytrach nag allbynnau — mae angen i ni barhau â’n dull gwerthuso lle rydym yn dangos tystiolaeth o sut mae ein gwaith wedi arwain at wella gwasanaethau cyhoeddus.

Dysgu o…. astudio

Mae John Seddon yn myfyrio ar System Gynhyrchu Toyota yn y llyfr. Mae’n siarad am sut mae adnoddau’r broses wedi cael eu defnyddio fel rhan o fethodoleg ddarbodus i gyflawni arbedion.

Dyma ychydig o gefndir i chi — datblygodd Toyota gortyn Andon, sy’n grymuso gweithwyr i stopio’r broses gynhyrchu pan mae yna broblem a galw am help. Roedd hyn yn groes i’r ffordd gonfensiynol o feddwl, gan fod pobl yn meddwl y byddai hyn yn arafu cynhyrchiant. Digwyddodd hynny ar y cychwyn, cyn iddyn nhw ddechrau cynhyrchu’n gyflymach, yn rhatach ac yn fwy dibynadwy.

Yr hyn mae Seddon yn cynghori yn ei erbyn yw rhoi’r adnoddau hynny ar waith heb ddeall yn gyntaf y cyd-destun mae pobl yn gweithio ynddo, sy’n arbennig o wir mewn amgylcheddau gwasanaethau cyhoeddus cymhleth. Rydym wedi blogio o’r blaen ar sut gellir defnyddio Fframwaith Cynefin er mwyn deall y broses o ddefnyddio’r adnoddau hyn yn well pan fo’r berthynas rhwng achos ac effaith yn aneglur.

Felly sut rhoddodd Toyota hynny ar waith? Mae Seddon yn sôn y byddai Ohno yn “darlunio cylch sialc ar lawr y ffatri ac yn dweud wrth ei reolwyr am sefyll yno ac astudio’r system ar waith, ar y llawr.” Prin y rhoddir adnoddau arwyddocaol i’r cam astudio hwn yn y sector cyhoeddus, ond mae’n rhywbeth y mae sefydliadau fel Ricoh UK yn ei wneud drwy fat Gemba ac mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth yn ei wneud drwy ganolbwyntio ar anghenion defnyddwyr.

Roeddwn i’n cytuno â hyn gan mai egwyddorion sylfaenol ein tîm yw nad yw un ateb yn addas i bawb ac y dylai pobl geisio addasu, nid mabwysiadu’r dulliau rydym yn eu rhannu. Felly, mae’r cam astudio’n allweddol er mwyn deall sut y gellir rhoi unrhyw beth sy’n cael ei ddysgu o waith y Gyfnewidfa Arfer Da ar waith. A throi’n ôl at enghraifft Toyota, ni fydd gosod cortyn Andon yn gwella ansawdd ceir ynddo’i hun. Mae angen rhoi’r meddwl sydd y tu ôl i’r cortyn ar waith hefyd. Ni ellir disgwyl yr un canlyniadau heb y meddylfryd iawn neu os nad yw’r sefydliad wedi cymryd y camau priodol i rymuso staff.

Ble awn ni nesaf?

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y cam astudio, mae Simon Pickthall wedi ysgrifennu blogbost gwych i ni ar sut mae astudio’n lliniaru risg. Yn y gorffennol, mae hefyd wedi edrych ar sut mae Vanguard yn defnyddio profiadau normadol er mwyn annog ymrwymiad mewn post ardderchog arall.

Os hoffech weld enghreifftiau o sut mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn rhoi Meddwl Systemau ar waith, rhannodd Dilwyn Williams, Cyngor Gwynedd, â ni sut mae’n gwneud hynny’n union, a rhannon ni hefyd sut defnyddiodd Cyngor Sir Fynwy ddull FISH (Find Individiual Solutions Here) yn ein seminar Atal. Mae’r fideo isod yn drosolwg gwych o’r hyn maen nhw’n ei wneud.

https://medium.com/media/d609bccecc28eb6f3e2dc2b0cc5c9d32/href

O’m rhan i, byddaf yn meddwl am feddwl! Rwy’n mynd i feddwl am sut rydym yn cymhwyso’r cam astudio hwn i’n gwaith, a hefyd yn trosglwyddo rhywfaint o’r meddwl hwn ynghylch mesuriadau i’n dulliau gwerthuso. Wrth i ni weithio i wella gwasanaethau cyhoeddus, mae’n bwysig i ni weithredu ar yr hyn a ddywedwyd, a bod ein mesuriadau wir wedi deillio o ddiben er mwyn i ni gefnogi sefydliadau yng Nghymru yn effeithiol i gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus gwell.

Cafodd y blogbost yma ei gyhoeddi’n wreiddiol ar flog Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.


Astudio a diben: Meddwl ar ffurf systemau a gwasanaethau cyhoeddus was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Galluogi staff i ddefnyddio data’n well

Yn fy ngwaith ar y prosiect Archwilio sydd ar Flaen y Gad, rydw i wedi bod yn edrych ar sut y gallwn dynnu data o gyrff cyhoeddus at ei gilydd mewn ffordd sy’n agored i bawb ac yn hawdd cael gafael arno fel y gallwn ni fel archwilwyr gael mewnwelediad pellach. Fe wnaeth y Tîm Archwilio Iechyd wirfoddoli i weithio gyda ni fel y gallem edrych i weld beth allai hyn ei olygu’n ymarferol.

Fe wnes i ddatblygu personau ar gyfer staff mewn swyddogaethau amrywiol fel y gallem ddod i wybod mwy am y gwaith yr oedd angen i ni ei wneud. Roedd hyn yn help mawr i ni wrth i ni nodi sut y mae amser ymchwil yn cael ei ddefnyddio a phwy sy’n gwneud y gwaith ymchwil hwnnw.

Yr adborth a dderbyniais oedd ei bod yn anodd cael mynediad at ddata, felly rydym wedi datblygu prototeip i ddod â data a gwybodaeth iechyd defnyddiol at ei gilydd mewn un lle.

Dulliau profi

Prawf o gysyniad yw ein hymgais gychwynnol i ddod â’r data hwn at ei gilydd mewn un lle er mwyn gweld sut y gellid datblygu hyn ymhellach. Ar y dechrau, roeddem yn meddwl am geisio creu tudalen ar gyfer pob Bwrdd Iechyd, yn ogystal â thudalen ar gyfer gwaith cenedlaethol sy’n ymdrin â Chymru gyfan neu’r DU gyfan. Wrth inni ddyfalu sut y byddai prototeip yn edrych, fe wnaethom benderfynu defnyddio’r enghraifft genedlaethol fel ein prawf.

Fe wnaethom benderfynu defnyddio Sharepoint Online oherwydd ei fod yn rhoi’r cyfle inni edrych ar sut y gallem ddatblygu ein defnydd o’r gwasanaeth i wneud data yn fwy hygyrch yn fewnol. Fe wnaeth hyn gweithio fel prawf cychwynnol, ond doedd e ddim yn bosib i ni rannu’r safle i bawb o fewn y mudiad, gan ein bod ni’n profi’r fersiwn yma o’r meddalwedd gyda grŵp bychan o ddefnyddwyr. Roedden ni eisiau rhannu’r canlyniadau drwy’r sefydliad i gyd fel y gallai archwilwyr ystyried a fyddai’r dull yma’n ddefnyddiol yn eu gwaith nhw. Felly penderfynom roi’r wybodaeth ar ein mewnrwyd (y Hwb), sy’n safle Drupal.

Fe wnaethom ddefnyddio adborth o’r Swyddog Cefnogi Perfformiad er mwyn dod â phorthwyr gwybodaeth at ei gilydd i arbed amser ymchwilio. Fe wnaethom greu widgets o borthwyr RSS lle roeddent ar gael (Really Simple Syndication, sy’n darparu cynnwys sy’n newid yn gyson o’r we, fel safleoedd newyddion, blogiau a chyhoeddwyr ar-lein). Hefyd fe wnaethom gynhyrchu ein widget ein hunain (cymhwysiad bychan y gellir ei osod o fewn tudalen ar y we) ar gyfer cyfrifau Twitter, a gynhyrchwyd o restr ar gyfrif y Gyfnewidfa Arfer Da. Fe wnaethom sefydlu’r porthwyr hyn fel I-Fframiau o fewn y safle.

Gwneud data yn fwy cyfeillgar i ddefnyddwyr

Roedden ni hefyd eisiau gwneud data’n haws i’w ddeall a’i ddefnyddio. Roedd teimlad cryf ymhlith y staff a gyfwelais na ddylai gwybodaeth a dealltwriaeth o ddata gael ei chladdu allan o gyrraedd ac felly buom yn edrych i weld sut y gallem wneud data’n fwy hygyrch.

Fe wnaethom benderfynu defnyddio Microsoft Power BI (cyfres o offer dadansoddi busnes i ddatblygu mewnwelediad) i wneud setiau data iechyd yn fwy hygyrch ac yn haws i’w ddeall. Roedd hyn yn meddwl nad oedd angen inni brynu unrhyw feddalwedd ac y gallem gynnal y data’n uniongyrchol drwy Power BI. Wnaethon ni ddim defnyddio unrhyw ddata sensitif ar gyfer ein prawf ac felly doedd ei gyhoeddi yn syth ar y we ddim yn broblem. Roedd yr adborth wnaethon ni gael o staff yn gymysglyd ynghylch a ddylai’r safle gynnwys data preifat, ac felly bydd angen inni edrych ar ein dewisiadau eto os byddwn yn dewis mynd i lawr y llwybr yma.

Mae’r setiau data a ddefnyddiwyd gennym ar gael yn gyhoeddus ac yn defnyddio APIs (Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau, sy’n cael gafael ar nodweddion neu ddata system weithredu, cymhwysiad, neu wasanaeth arall ar y we). Mae hyn yn golygu bod offer data Power BI wedi eu cysylltu’n uniongyrchol â StatsCymru ar gyfer y data fel nad oes angen lawrlwytho data â llaw ar ôl ei osod i fyny. Mae hyn hefyd yn golygu ein bod ni bob amser yn defnyddio’r data mwyaf cyfredol sydd ar gael.

Ble ydyn ni’n mynd o fan hyn?

Mae defnydd ein prototeip bellach wedi’i ddatblygu a’i ymestyn fel y gellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiect Gofal Sylfaenol mewn iechyd. Mae hyn yn meddwl y gall fy nghydweithwyr ei ddefnyddio i ddadansoddi data ar gyfer eu Bwrdd Iechyd eu hunain, felly mae’n wych gwybod bod y gwaith wedi bod o werth ymarferol yn barod.

Mae ein defnydd o ddyfeisiadau ac API yn golygu mai ychydig iawn o waith sydd ei angen i gynnal y wybodaeth gyfredol sy’n cael ei dal ar y safle. Fodd bynnag, os bydd arnom eisiau datblygu’r data y mae’n ei ddal, bydd angen inni feddwl pwy sy’n mynd i fod yn gyfrifol am ei gynnal, pe bai’n cael ei ystyried yn werthfawr.

Y cam nesaf i ni fel sefydliad yw defnyddio’r personau a gynhyrchwyd gennym, yn ogystal ag adborth anffurfiol o’r gwaith hwn, i weld sut y byddai safle a gwasanaeth data effeithiol yn edrych, a sut y gellid addasu hynny ar gyfer rhannau eraill o’r sefydliad. Bydd hynny’n ein galluogi i ddysgu oddi wrth unrhyw gamgymeriadau a wnaethom fel ein bod yn gwneud pethau’n wahanol yn y dyfodol, a hefyd adeiladu ar ein llwyddiannau. Ac os gallwn adeiladu ar y dysgu hwnnw, byddwn mewn sefyllfa dda i ddatblygu ein gwaith er mwyn bod y Swyddfa Archwilio arloesol yr ydym am fod.

Cafodd y blogbost yma ei gyhoeddi’n wreiddiol ar flog Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.


Galluogi staff i ddefnyddio data’n well was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Newid ymddygiad ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus digidol gwell

Cynhaliodd Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru ddigwyddiad ar Ailddylunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol y llynedd. O’n safbwynt ni, bu’n ddigwyddiad llwyddiannus iawn. Cawsom y sgorau boddhad uchaf erioed ar gyfer unrhyw seminar a gynhaliwyd gennym, a bu’n ffordd ddefnyddiol i’n siaradwyr hefyd gyfleu syniadau ynghylch sut roeddent yn datblygu eu harfer da. Dywedodd y Cynghorydd Barry Parsons wrthym fod y seminar wedi bod yn hynod o werthfawr iddo, ac yn sicr roeddwn i’n teimlo bod y gweithdy a gyflwynodd gyda Carl Haggerty yn ysgogi’r meddwl — i’r fath graddau fel fy mod o ganlyniad wedi blogio amdano.

Roedd y blogbostau ar y seminar yn rhai o’r rhai mwyaf poblogaidd rydym erioed wedi eu hysgrifennu. Gwnaethom hefyd brofi rhai ffyrdd newydd o weithio drwy ddatblygu personau gydag Y Lab i gael y proffil cywir o ran cynrychiolydd. Ar y cyfan, roedd hyn yn llwyddiannus am ein bod wedi llwyddo i ddenu staff a oedd am i’w gwasanaethau fod yn fwy ystwyth ac ymatebol i anghenion defnyddwyr; staff a oedd am weithio ar draws ffiniau gwasanaethau cyhoeddus; a staff sy’n meddwl y gall y dull digidol gael ei ddefnyddio i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus.

Fodd bynnag, ni wnaethom lwyddo’n llwyr i gyrraedd pob un o’r cynrychiolwyr roeddem am eu cyrraedd. Wrth gynllunio’r seminar sylweddolwyd bod bwlch rhwng pobl sydd â’r awdurdod efallai ond nid yr arbenigedd i alluogi gwasanaethau digidol, a’r rhai sydd â’r arbenigedd ond nid yr awdurdod. Roeddem yn gobeithio y byddai’r seminar yn gyfle i wneuthurwyr penderfyniadau gysylltu â’r bobl sy’n gwybod sut i drawsnewid yn ddigidol. Yn anffodus, nid oedd llawer o wneuthurwyr penderfyniadau yno.

Digidol fel galluogydd

Bydd digidol yn thema allweddol yn ein gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, felly rydym wedi penderfynu rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol ar gyfer yr ail seminar ddigidol. Rydym yn mynd i ddefnyddio dull ar sail asedau o weithio gyda’r sgiliau sydd gennym yn yr ystafell ac edrych i weld sut y gall y rhai sy’n bresennol gyflawni newid digidol yn eu sefydliadau.

Mae Paul Taylor o Bromford wedi ysgrifennu blogbost gwych ar sut y gall sefydliadau rwystro creadigrwydd cymunedol. Ynddo mae’n myfyrio ar sut y gall amgylcheddau sefydliadol sy’n rheoli rwystro cryfderau dinasyddion a chymunedol hefyd. Mae hyn yn cysylltu’n berffaith â’r meddylfryd a ddatblygwyd gennym.

Roedd y darnau cyntaf o waith a wnes i pan ymunais â Swyddfa Archwilio Cymru yn ymwneud â thema rheoli asedau. Rwy’n cofio meddwl ei fod yn bwnc gwirioneddol ddiflas, ond mewn gwirionedd roedd yn gyflwyniad perffaith i athroniaeth y Gyfnewidfa Arfer Da. Gwnaeth fy nghydweithiwr Ena Lloyd wneud i mi feddwl yn hollol wahanol am yr holl beth — doedden ni ddim yn chwilio am adeiladau a oedd yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf, ond yn hytrach roeddem yn chwilio am adeiladau a oedd yn gwneud gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau yn well. Roeddem yn edrych am ganlyniadau gwell i bobl, nid ystadegau. Rwy’n cofio mwynhau ein seminar ar Reoli Cyfleusterau yn fawr, sef rhywbeth na fyddwn wedi credu a fyddai’n bosibl rai misoedd yn gynt. Trefnais i Charlotte Lythgoe o Ganolfan Mileniwm Cymru ddod i gynnal gweithdy lle yr edrychodd ar symud y tu hwnt i ddulliau steil yn lle sylwedd a chyflawni newid go iawn.

Sleid o gyflwyniad Charlotte Lythgoe am mynd tu hwnt i “Eco Bling”

Rydym yn ystyried cynnwys y meddylfryd hwn yn ein seminar ddigidol ar gyfer y blwyddyn yma. Byddwn yn ystyried sut y gall digidol alluogi gwasanaethau cyhoeddus gwell, yn hytrach na meddwl amdano fel diben ynddo’i hun ac ohono’i hun. Byddwn yn ystyried rhoi’r wybodaeth a’r adnoddau i’r rhai sy’n ceisio gwireddu newid er mwyn sicrhau bod eu sefydliadau yn addas at y diben yn yr unfed ganrif ar hugain.

Bydd Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn edrych ar rai o’r prosiectau digidol y bu’n gweithio arnynt yn y cyngor a sut y nododd ac y gweithiodd gyda’r grym a oedd ganddi i wneud i bethau newid. Bydd Stephen Lisle a fi yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad gan Swyddfa Archwilio a ddatblygwyd i osgoi biwrocratiaeth sefydliadol draddodiadol a strwythurau pŵer. Bydd Esko Reinikainen yn cynnal gweithdy ar symud o reoli rhaglenni i addasu digidol ac fe dydd David Jones yn arwain sesiwn ar sut i gael aelod anweithredol i brynu mewn i brosiect digidol

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn gweithio ar ein hastudiaeth genedlaethol gyntaf eleni, sy’n canolbwyntio ar newid ymddygiad. Yn y sesiwn olaf bydd Chris Bolton (whatsthepont) yn arwain trafodaeth ar sut y gall y rhai sy’n bresennol ystyried newid ymddygiad a gweithredu dull o feddwl yn ddigidol yn eu sefydliadau.

Adborth

Fel y dangoswyd uchod, rydym yn brosiect iteraidd sy’n adeiladu ar ein dysgu wrth i ni symud ymlaen. Mae’r gwaith o ddatblygu’r seminar hon wedi cael ei seilio i raddau helaeth ar ganlyniad ein gwaith blaenorol. Yn debyg i’r digwyddiad ei hun, rydym yn waith ar droed, yn ystyried bob amser sut i ddatblygu’r ffordd rydym yn gweithio er mwyn diwallu anghenion ein rhanddeiliaid, ac yn bwysicaf oll, bobl Cymru yn y ffordd orau. Mae’r digwyddiad hwn ond yn digwydd oherwydd y safbwyntiau a’r syniadau a gawsom. Os oes gennych unrhyw syniadau ar sut y gallwn wella ein gwaith ar y thema hon neu unrhyw thema arall, hoffem glywed gennych.

Cafodd y blogbost yma ei gyhoeddi’n wreiddiol ar flog Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.


Newid ymddygiad ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus digidol gwell was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Gall ariannu torfol helpu i ail-lunio gwasanaethau?

Fel rhywun sydd ddim yn gwybod ystyr y gair ‘gwyliau’, mae Chris Bolton a.k.a. whatsthepont, Rheolwr y Gyfnewidfa Arfer Da, wedi bod yn dysgu am waith y Comisiwn Gwarantau yn Nova Scotia.

Mae’r comisiwn wedi bod yn gwneud bach o waith ar ariannu torfol, gan fod nhw’n edrych i gynnig eithriadau fel bod busnesau bach a chanolig yn gallu codi arian mewn ffordd newydd. Mae fe hefyd yn golygu bod gan fuddsoddwyr ffordd arall o fuddsoddi ynddynt. Maen nhw wedi cynnal sesiynau gwybodaeth i’r cyhoedd er mwyn ffeindio allan barn pobl.

Ariannu torfol yw lle mae prosiect yn cael ei ariannu trwy gyfraniadau o nifer fawr o bobl, fel arfer dros y rhyngrwyd. Fel ffan mawr o gerddoriaeth, rydw i wedi cymryd rhan mewn ychydig o ymarferion ariannu torfol, lle mae cerddorion yn edrych i gynhyrchu gwaith byddai ddim yn gweld golau dydd fel arall. Dim ond un enghraifft yw hynny — mae ‘na gymaint o brosiectau rhyfedd a rhyfeddol, o lyfr coginio da’r thema o facwn i gerflun pwmpiadwy tri metr uchel o ben Lionel Richie.

Ydy e’n bosib i wasanaethau cyhoeddus gymryd rhan mewn ariannu torfol? Mae ariannu torfol wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae yna sawl platfform gwahanol, o IndieGoGo i Kickstarter. Mae’n ddiddorol gweld bod yna hyd yn oed platfform ar gyfer prosiectau dinesig, sef Spacehive. Mae fe eisoes ‘di cael ei ddefnyddio i lenwi’r bwlch cyllid yng Nghanolfan Gymunedol Glyncoch, lle bydd canolfan gymunedol newydd yn cael ei hadeiladu i gwrdd ag anghenion y gymuned.

Mae Nesta wedi gofyn rhai cwestiynau allweddol yn y blogbost yma — oes ‘na pherygl bydd arian torfol yn cymryd lle arian cyhoeddus? Ydyn e’n bosib i ariannu torfol gweithio ar gyfer gwasanaethau a chynnyrch? Mae’r rhain yn gwestiynau pwysig iawn i’w gofyn. Ond maent hefyd yn edrych ar bwyntiau cadarnhaol, a hoffwn ychwanegu un arall — gallai hwn newid y berthynas rhwng darparwyr a phobl sy’n derbyn gwasanaethau?

Yn y Gyfnewidfa Arfer Da rydym yn cydnabod bod rhaid i wasanaethau cyhoeddus newid y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu darparu a gan bwy. Rydyn ni eisoes wedi gweld hynny yn ein seminar dysgu a rennir ar Ail-lunio Gwasanaethau yng Nghaerdydd, lle wnaethon ni arddangos gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu darparu gan ymddiriedolaethau, y sector gwirfoddol a chynghorau cymuned. Yn yr un seminar dywedodd Tony Bovaird wrthym fod chwe miliwn o bobl yn gweithio i wasanaethau cyhoeddus, a bod yna chwe deg miliwn o ddinasyddion yn y Deyrnas Unedig. Serch hyn, mae cydbwysedd y grym yn dal i ffafrio’r lleiafrif. Gallai ariannu torfol helpu i newid y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweld pobl, fel bod nhw ddim yn cael eu gweld fel derbynwyr diolchgar, ond yn hytrach fel pobl sydd â rhan allweddol i chwarae mewn gwasanaethau cyhoeddus?

Cafodd y blogbost yma ei gyhoeddi’n wreiddiol ar flog Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.


Gall ariannu torfol helpu i ail-lunio gwasanaethau? was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen

Gwneud pethau gwell - Medium: Trefnu fy nghynhyrchiant a llif gwaith

Mae newid mewn amgylchiadau personol wedi meddwl fy mod i wedi bod yn gweithio mwy o gartref. Nid fy nghartref yng Nghaerdydd, ond cartref fy nghariad yng Nghaerwysg. Mae Kelly yn sgwennu’n lot gwell ‘na fi, felly fe wnâi’ch cyfeirio at ei blogbost gwych ar ein perthynas a rhamant ddigidol yn lle amlinellu sut y dechreuodd hyn i gyd.

Cyn i mi ddechrau’n o iawn, rhaid i mi ddweud fy mod i’n hynod o lwcus i weithio mewn sefydliad sydd wedi fy helpu i i gydbwyso fy ymrwymiadau gwaith gyda fy hapusrwydd personol. Rydw i hefyd yn ddigon ffodus i weithio o fewn tîm ffantastig sy’n hynod o gefnogol. Dyw hyn ddim wedi achosi unrhyw drafferth mor belled. Efallai bod hyn achos ni’n gweithio mewn sawl lleoliad yn barod — mae Bethan yn byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru ac ar hyn o bryd mae Chris yn treulio hanner ei amser ar secondiad gyda Phrifysgol Bangor. Yn ffodus i ni, mae Ena hefyd yn gweithio yn anhygoel o galed yn ein swyddfa yng Nghaerdydd.

Beth rydw i wedi dysgu

Fy nghalendr, sydd wedi’i integreiddio gyda Trello

Mae yna sawl her i weithio o gartref, ond mae’r ymarfer wedi fy ngalluogi i i edrych yn agosach ar sut rwy’n gweithio. I roi hyn mewn cyd-destun, rydw i’n anhrefnus i’r pwynt ble rydw i wedi bod ar ddau gwrs rheoli amser. Ni wnaeth un o’r rhain gweithio, a dydw i ddim yn sicr mai cwrs hyfforddiant oedd y ffordd fwyaf priodol i ddatrys y broblem. Serch hyn, rydw i’n ymwybodol iawn o fy ngwendid, felly rydw i wedi setio fyny systemau a phrosesau i fy helpu i i drefnu fy ngwaith yn fwy effeithiol. Rwy’n sefydlu bwrdd Trello ar gyfer pob pwnc rwy’n gweithio arno, a nawr mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi uwchraddio meddalwedd Microsoft i Office 365, rydw i wedi sicrhau bod fy nghalendr Outlook wedi ei ddolenni iddo fel bod gennyf ddiweddariad pan fod rhaid i mi wneud tasg.

Yn fwy na dim, mae gweithio o gartref wedi dangos i mi faint o amser rwy’n gwastraffu yn ystod y diwrnod gwaith. Rwy’n credu’n gryf y dylai cyfryngau cymdeithasol fod yn gymdeithasol, felly roeddwn i’n mewngofnodi ar ein cyfrifon gwaith sawl gwaith y dydd i ddysgu oddi wrth eraill ac i rannu negeseuon allweddol. Fy ngwir bwrpas oedd addysgu fy hun yn y modd cymdeithasol a hwyl yma, ac i osgoi rhai o’r tasgau hanfodol undonog sy’n sicrhau bod y Gyfnewidfa Arfer Da yn gweithio’n effeithiol. Roedd rhaid i mi gael sgyrsiau anodd gyda fy hun. Nawr rwy’n canolbwyntio fy ngwaith o gwmpas sicrhau newid a dangos tystiolaeth o ganlyniadau.

Y dasg aruthrol o reoli negeseuon e-bost

Yn fy ngwaith ar brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, rydw i wedi bod yn gofyn i aelodau o’n staff sut yr hoffan nhw glywed am newidiadau i’n systemau. Yr ymateb nodweddiadol oedd mai e-bost oedd y ffordd gorau yn ôl pob tebyg, ond bod rhaid i staff ddelio a nifer mawr ohonynt. Nid ni yw’r unig gorff sy’n wynebu’r her hon — ffeindiodd Tai Halton bod ei gweithwyr yn gwario 40% o’u hwythnos waith yn delio ag e-bost mewnol sydd ddim yn ychwanegu unrhyw werth i’r busnes. Fe wnaethon nhw droi ei e-bost mewnol i ffwrdd.

Fe wnaeth un person cwestiynu sut oedd gan bobl yr amser i fynd ar Yammer. Beth rwy’n ffeindio’n ddiddorol yw bod pobl yn gweld gwahaniaeth clir rhwng dau fodd o sgyrsio a all arwain i’r un diben. Weithio mae’n ymddangos fel petai e-bost yn waith yn ei hun. Yn hytrach, nad yw e-bost yn tynnu ein sylw o waith cynhyrchiol? Roedd fy e-bost arfer bod ar agor drwy’r dydd. Roedd hyn yn golygu roeddwn i’n delio â negeseuon wrth iddynt ddod i mewn. Nawr rwy’n agor fy e-bost cwpl o weithiau pob dydd i ateb negeseuon. Wedi’r cyfan, does neb yn gyrru e-bost os oes yna argyfwng.

Ar ôl darllen erthygl Oliver Burkeman ar reoli amser (sydd hefyd ar gael fel podlediad), rwy’n sicr bod dull Inbox Zero Merlin Mann, sy’n anelu i gadw ein mewnflychau yn wag, yn arwain pobl i ateb negeseuon e-bost ar draul gwaith go iawn. Ac fel y dywedodd Burkeman, “mae prosesu e-bost mewn modd gor-effeithlon yn golygu fy mod i’n cael mwy o e-bost: wedi’r cyfan, mae’n aml yn wir fod ymateb i neges yn creu ateb i’r ateb hwnnw, ac yn y blaen.” Felly mae e-bost yn dod yn ddull diofyn o gyfathrebu, boed yn briodol neu beidio. Y dywediad yma gan Burkeman sydd wrth wraidd hyn i gyd: “Rydych chi dal yn Sisyphus, yn rholio eich clogfaen i fyny’r bryn am byth — ond nawr rydych chi’n gwneud hyn ychydig yn gyflymach”.

Oes angen cael gwared ar y swyddfa?

Mae gweithio o gartref wedi golygu bod gen i ddau ddiwrnod sy’n rhydd o gyfarfodydd pob wythnos, sy’n rhoi digon o gyfle i mi ymgymryd â gwaith dwfn heb ymyrraeth. Rwy’n person cymdeithasol tu hwnt felly dydw i ddim yn dadlau dros roi’r gorau i ryngweithio cymdeithasol. Mae Dydd Iau Heb Sgyrsio Basecamp a Rheolau Llyfrgell yn swnio fel uffern i mi. Rwy’n credu’n gryf bod angen pobl i fuddsoddi’n emosiynol ac i brynu mewn i’w gwaith, ac mae mwynhau gwaith yn rhan allweddol o sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud. Fodd bynnag, gall offer fel Doodle ein helpu ni i ddewis amser priodol ar gyfer cyfarfodydd, gan fod rhaid i bobl optio mewn i amser penodol, yn hytrach na chreu amserlennu sy’n seiliedig ar yr amser rhydd yn ein calendrau.

I mi, mae dulliau Basecamp yn dangos does dim rheol blanced ar gyfer gweithio effeithlon. Dim ond trwy hap a damwain dwi wedi cael y cyfle i edrych ar sut rwy’n gweithio a beth sy’n gweithio mewn amgylcheddau gwahanol. Rydw i wedi ysgrifennu hwn o safbwynt personol, ac nid yw pawb yn gweithio yn yr un ffordd. Mae’n bwysig ein bod ni’n edrych ar y dulliau yma yng nghyd-destun sut allant fod yn fwy cynhyrchiol fel timau ac unigolion.

Dechreuais y blogbost yma drwy sôn am gydbwysedd bywyd/gwaith a sut mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi hwyluso hynny. I mi, mae hyn wrth wraidd rheoli amser. Os ydych chi’n edrych i fod yn fwy effeithlon er mwyn gwneud gwaith diddiwedd, yna mae’n debyg na fyddwch yn osgoi’r straen rydych chi’n ceisio osgoi. Ond os ydych chi’n edrych i gydbwyso’ch bywyd yn well, mae’n gallu’ch helpu chi i sicrhau eich bod chi’n canolbwyntio ar ble mae gan eich gwaith y gwerth mwyaf. Mae’r dull yma wedi gwneud fy ngwaith yn fwy boddhaol, ac mae fe wedi fy ngalluogi i i ganolbwyntio ar fy mywyd personol a gwneud mwy o’r pethau sy’n bwysig i mi. Rydw i’n dechrau fy nhaith ac rwy’n mynd i gadw llygaid ar sut mae hyn yn datblygu. Fel y soniais uchod, does dim un ateb i bawb. Felly os oes gennych awgrymiadau rheoli amser sy’n gweithio i chi, fe wir hoffwn i glywed o chi.

Cafodd y blogbost yma ei gyhoeddi’n wreiddiol ar flog Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.


Trefnu fy nghynhyrchiant a llif gwaith was originally published in Gwneud pethau gwell on Medium, where people are continuing the conversation by highlighting and responding to this story.

Parhau i ddarllen