-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archives: Dyfrig
Blog Answyddogol: Cau Cob
11 oed oeddwn i’n mynd i Cob Records ym Mangor am y tro cyntaf. Ishio copi o Anfield Rap oeddwn i, ond doedd ‘na ‘run ar ol, a mi es i o’no efo copi o Bad Young Brother Derek B. Diddordeb mewn pel-droed nath fy ngyrru yno i ddechrau, ond yn fuan iawn m… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Pam fy mod yn cefnogi Elin Jones
Mae’r papur pleidlais wedi cyraedd o’r diwedd, ac mae’n cael ei lenwi a’i bostio nol heddiw. Os ydych wedi darllen fy negeseuon blaenorol, fe ddylech wybod nad oes gen farn eithriadol o gref y naill ffordd neu’r llall ar yr ymgeisyddion. Dwi wedi rhoi … Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Yr arweinyddiaeth – Leanne Wood
Mae ymgeisyddiaeth Leanne Wood am arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi bod ar fy meddwl tipyn heddiw. Cafodd le amlwg mewn erthygl yn y Guardian ddoe a arweiniodd at flog diddorol gan Betsan Powys heddiw A fel mae’n digwydd, mae hi wedi bod yn Nyffryn Nanll… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Arweinyddiaeth Plaid Cymru – Dafydd Ellis Thomas
Wedi cyfnod hir iawn o beidio blogio, mae’r ras am arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi fy hudo yn ol. Dwi wedi gwneud rhyw sylwadau wrth basio ar Twitter, ond mae cymlethdodau’r ras yn gofyn am fedru dweud mwy nac y gellid ei ffitio mewn i 140 llythyren.He… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Diwedd i gyfnod anodd dros ben
Fe fydd rhai ohonoch yn gwybod fod Heddlu Gogledd Cymru wedi dwyn achos yn fy erbyn yn ddiweddar, yn dilyn cwyn gan y Cynghorydd Seimon Glyn ynglyn a deunydd y mae’n honni iddo ei weld ar fy nhudalen Facebook. Ers i’r honiadau hyn gael eu gwneud yn fy … Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Gwneud y pethau bychain
Diolch i Rhodri ap Dyfrig a chriw Pethau Bychain am drefnu’r digwyddiad heddiw. Mae’r blog wedi bod yn ddistaw dros ben yn ddiweddar, ac mae gweithgarwch criw Pethau Bychain, ynghyd a’r ffaith fy mod wedi dod yn syfrdanol o uchel yn rhestr flynyddol Bl… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Ysgol y Parc – Ymateb Ffred Ffransis
Mae Ffred, fel finnau, yn ddyn hynod o brysur sydd yn gorfod ffitio gwaith gwleidyddol o amgylch bywyd go iawn. Yn dilyn protestiadau ychydig wythnosau yn ol, a’r drafodaeth a ddilynnodd, mae wedi ysgrifennu neges ataf. Roedd wedi bwriadu ei rhoi yn ad… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Cymdeithas yr Iaith – Cau Ysgol y Parc
Heddiw fe benderfynodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cyngor Gwynedd argymell y dylid cau Ysgol y Parc, ger y Bala, fel rhan o gynllun i ad-drefnu addysg gynradd yn yr ardal. Bydd y cynlluniau hyn yn golygu codi ysgol newydd gydol-oes yn y Bala ei hun, a… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Canlyniadau 2010 – Targedau Plaid Cymru
Ychydig iawn o gyfle ydw i wedi ei gael i flogio dros yr wythnosau diwethaf, a hynny oherwydd pwysau gwaith, yn bennaf. Ond yn dilyn canlyniadau neithiwr, mae fy mhen i’n troi braidd, a dwi’n teimlo’r hen awydd ‘na i chwydu popeth allan ar y blog. Mae … Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Plaid Cymru a’r LCO iaith
Ar ei ffrwd Twitter, gofynnodd Rhys Llwyd pan nad oes mwy o aelodau amlwg Plaid Cymru wedi arwyddo deiseb Cymdeithas yr Iaith yn galw am ail-wampio’r LCO iaith. Fy ateb syml i oedd y bod modd i genedlaetholwr wrthwynebu galwad y Gymdeithas am resymau e… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Y ding-dong arferol
Os nad oes gennych chi ddiddordeb yn y frwydr rhwng Llais Gwynedd a Phlaid Cymru yng Ngwynedd, yna does dim diben i chi ddarllen ymhellach. I fod yn onest, dwi’n diflasu fy hun ar adegau, ac mae ‘na berygl weithiau bod y blog yma yn troi yn rhyw fath o… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Clirio’r ucheldiroedd a Chyngor Gwynedd
Blwyddyn newydd dda, un ac oll. A hithau’n bumed diwrnod o’r mis, mae’n amlwg bod tymor ewyllys da byd blogiau Gwynedd wedi dod i ben. A’r berl hon sydd wedi tanio ergyd gyntaf 2011. Rhag i chi orfod darllen y llith cyfan, datganiad i’r wasg sydd yno, … Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Hywel Teifi Edwards
Newydd glywed y newyddion hynod o drist ynglyn a marwolaeth Hywel Teifi Edwards. Cefais y fraint o gyfarfod Hywel nifer o weithiau, drwy fy ngwaith gyda Ffilmiau’r Bont a Barn, ac roedd yn ddyn hynod o ddifyr i fod yn ei gwmni. Roedd hefyd yn genedlaet… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Pigion cerddorol y flwyddyn
Roedd ‘na oes pan fyddwn i wedi llunio rhestrau deg uchaf lu ar ddiwedd pob blwyddyn. Erbyn hyn, dwi’n mynd yn hen, ac mae’r cof yn pallu, felly fe fydd rhaid i mi fodloni ar restr blith-drafflith o be’ dwi ‘di mwynhau. O ran cerddoriaeth fyw, efall… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Cyng. Dewi Owen ac Ysgol Aberdyfi
‘Dyw’r Cambrian News ddim yn cyrraedd Dyffryn Ogwen, felly dwi’n ddiolchgar i Hen Rech Flin am dynnu fy sylw at y stori bach hyll hon. Yn ol pob tebyg, mae ‘na rai o drigolion Aberdyfi wedi rhoi’r gorau i wartio eu harian yn siop cigydd y pentref, a hy… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Cau ysgolion Bro Dysynni
Wedi cael fy ngwynt ataf, dwi’n barod i ddweud rhyw bwt ynglyn a’r hyn ddigwyddodd yng ngyfarfod Cyngor Gwynedd ddydd Iau dwytha. Gwnaed penderfyniad i gau 5 ysgol wledig ym Mro Dysynni, de Meirionnydd, gyda mwyafrif llethol y Cynghorwyr yn cefnogi. Wr… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Cyfieithydd Google
Oce, dwi’n gwbod mod i fisoedd ar ei hol hi. Ond dwi wedi bod yn brysur, a dim ond rwan dwi’n cael y cyfle i chwarae efo’r gwasanaeth cyfieithu Google. Yr hyn dwi’n ei hoffi yw’r ffordd mae’n methu a chyfeitithu rhai geiriau, gan arwain at frawddegau m… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Diolch o galon, Aeron
Dwi am sgwenu rhywbeth difri ynglyn a’r hyn ddigwyddodd yng nghyfarfod Cyngor Gwynedd heddiw, pan fydd gen i’r nerth a’r amynedd. Roedd y penderfyniad a wnaed parthed Bro Dysynni yn un cadarnhaol, a fydd yn cryfhau addysg wledig yn y fro, ac yn sicrhau… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Mohammed Asghar, unwaith eto
Mae ‘na ddau beth wedi codi wrth drafod penderfyniad Mohammed Ashgar i groesi’r llawr.1) Beth ddigwyddith i’w staff?Mae ‘na lawer wedi cyfeirio at y ffaith fod Asghar wedi gwneud tro gwael gyda’i staff. Mae nhw’n cael eu cyflogi gan Asghar fel unigolyn… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Vote Plaid Cymru, get Tory
Newydd glywed y newyddion am Mohammed Ashgar yn croesi’r llawr at y Toriaid. Dwi ddim am basio barn ynglyn a chymhellion y dyn, na doethineb ei droedigaeth wleidyddol. Ond mae’r pwynt a wnaeth gan Heledd Fychan yn berffaith gywir. Etholwyd Mohammed A… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Newid hinsawdd, eto
Yn syth ar ol sgwenu’r cofnod dwytha, fe es am dro o amgylch y blogosffer Cymraeg, a dod ar draws y cofnod yma gan Hen Rech Flin. Mae’n gwneud y pwynt diddorol yma”Gan nad ydwyf yn wyddonydd nac yn fab i wyddonydd y mae’n anodd imi wneud sylw teg am y … Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Yr Athro Andrew Watson – Arwr go iawn.
Flynyddoedd yn ol, roeddwn i’n digwydd bod yn gwylio Newsnight pan ddaeth Michael Howard ben-ben a Jeremy Paxman, gyda Paxman yn ail-adrodd yr un cwestiwn 14 o weithiau. Bob tro dwi’n gweld y clip yn cael ei chwarae ar raglenni hanes, dwi’n cofio’r wef… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Llongyfarchiadau Carwyn Jones
O’r diwedd, fe all Carwyn roi’r gorau i smalio ei fod yn aelod o’r Blaid Lafur, a datgelu mae cynllwyn cenedlaetholgar oedd ei ymgais i gipio’r arweinyddiaeth, er mwyn rhoi Nashi yn swyddfa’r Prif Weinidog.Wel, ddim cweit. Ond dwi yn falch nad yr un o’… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Er eglurder
Byd bach yw’r blogosffer Cymraeg, ac mae’r rhan ohono sydd yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth Gwynedd yn llai fyth. Yn ol pob tebyg, os ydych chi’n darllen y blog hwn, rydych chi hefyd yn dilyn sylwadau fy nghyd-aelod o Gyngor Gwynedd, Gwilym Euros Rober… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Llongyfarchiadau i Barn
Er nad ydw i’n gysylltiedig a’r cylchgrawn bellach, fe gefais i ddwy flynedd hapus iawn yn golygu Barn, cyn ymuno ac Awdurdod S4C yn gynharach eleni. Felly roedd hi’n bleser clywed bod dyfodol y cylchgrawn wedi ei sicrhau am ddwy flynedd arall. Dwi’n c… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Adroddiad Estyn
Roeddwn i wedi cynnwys neges yn y fan hyn ynglyn ac adroddiad Estyn ar Addysg yng Ngwynedd. Ail-adrodd sibrydion oeddwn i, yn hytrach na datgelu gwybodaeth yr oeddwn i wedi cael mynediad ato. Serch hynny, dwi wedi tynnu’r cofnod oddi yma, tan ar ol i’r… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Rhag ofn i mi golli rhagor o dir
Chwarae teg i Golwg 360 am fy nghynnwys ar restr 10 uchaf blogwyr “amatur” y we Gymraeg. A dwi’n llawn haeddu’r cerydd am beidio a blogio yn amlach. Pwysau gwaith sydd yn bennaf ar fai, ond mae ‘na reswm da arall. Ar y funud, mae Cyngor Gwynedd yn wyn… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Y Blaid Lafur a’r Sun
“We do not need an Australian/American coming to our country with a paper that has never supported one progressive policy and telling us how politics should be run in this country,” meddai Tony Woodley o Unite yng nghynhadledd y Blaid Lafur heddiw. Pam… Parhau i ddarllen
Blog Answyddogol: Carchar i Ynys Mon?
Neithiwr, yn ol fy nealltwriaeth i, bu cyfarfod rhwng Peter Hain ac Albert Owen. Heddiw, mae Peter Hain yn datgan ei fod yn ffafrio Ynys Mon fel safle carchar yng Nghymru. Oes angen dweud mwy? Mae fy nghofnod blog diwethaf wedi ennyn cryn ddiddordeb … Parhau i ddarllen

