Archives: Dylan Wyn

: Fydd y chwyldro gwleidyddol ddim ar y teledu gyfaill

Bues i ar fy nhrafals yn ddiweddar. Stockholm y tro hwn. Dinas wâr, lân, gyda strydoedd coblog ag adeiladau siwgr eisin, amgueddfeydd a chaffis yn ymestyn dros 14 o fân ynysoedd. Parch i feicwyr a theuluoedd a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus. A rhyw … Parhau i ddarllen

: S’long Sheryl Ann!

Ro’n i wedi amau byth ers neges a llun ar gyfrif trydar un o gyfresi arfaethedig y Sianel, @35AWR1. Ynddi, roedd cast o ddeuddeg aelod o’r rheithgor mewn drama waedlyd wedi’i ’sgwennu gan Fflur Dafydd, yn eu plith, Lisa Victoria sy’n fwy enwog inni fel… Parhau i ddarllen

: Merwino’r glust

Aaaargh!Digwydd troi i wylio penawdau hwyr ITV Wales wnes i pan ddigwyddodd yr anffawd. Ynddi, roedd stori am bla o bryfed oedd yn poeni trigolion tai teras yn “Claneckley”. Anffodus iawn, meddyliais, ond lle gebyst mae’r dref sydd yng nghanol yr hunll… Parhau i ddarllen

: Cefn-gefn

Yr Heliwrsbardunodd bopeth. Y busnes cynyrchiadau cefn wrth gefn ’ma. Dw i’n cofio’r ffilm beilot ar S4C Nadolig 1991 fel ddoe, ac ymgolli’n lân yn hynt a helynt DCI Noel Bain (Philip Madoc) a’i ferch Hannah (Ffion Wilkins), wrth i lofrudd stelcian row… Parhau i ddarllen

: Tewach na dwr II

Maen nhw’n ôl. Y ddau frawd a chwaer anghymarus o ynysoedd Åland, rhwng Sweden a’r Ffindir, a orfodwyd i gallio a chymodi yn y gyfres gyntaf wrth i’w mam farw a gadael gwesty’r teulu yn eu meddiant. Gyda chyfrinach dywyll yn eu clymu i’r hen le am byth… Parhau i ddarllen

: Nid Poirot mohoni

Mae ’na Ewrodditectif newydd yn y dre. Un arall o stabl ardderchog Walter Presents yn slot dramâu tramor More4 bob nos Wener am 9 – sianel sy’n well nag arlwy nos Sadwrn BBC Four ar hyn o bryd. Dyna chi ddeud mawr! Un o Fflandrys y tro hwn (Gwlad Belg … Parhau i ddarllen

: Fydd Gobaith Cariad

Ymwadiad – dw i ddim yn gapelwr.  Mi oeddwn i ers talwm, ac yn cael blas mawr ar yr ysgol Sul adra’ yng Ngharmel a’r cymdeithasu hyfryd adeg Diolchgarwch a’r Dolig pan fyddai bron pob teulu’r ardal yn cnesu’r hen feinciau treuliedig. Dw i’m yn si… Parhau i ddarllen

: Sut i wella Cân i Gymru…

…cael gwared â’r gystadleuaeth am byth! mi glywaf y sinigiaid mwyaf yn gweiddi.Yn gam neu’n gymwys, mae Eurovision Cymru yn rhan annatod o ddathliadau Gŵyl Ddewi S4C, law yn llaw â thwrnamaint lluchio cennin(!) Pobol y Cwm, lluniau o blant mewn gwisg… Parhau i ddarllen

: Cyn delo’r hwyr

Mae’n ddwy flynedd ers inni ddweud farväl wrth Kurt Wallanderpruddglwyfus y BBC, wrth i ddiabetes ac yna Alzheimer lapio’n araf amdano, fel ei dad o’i flaen. A chyda’r awdur ei hun wedi’n gadael o ganser, a’r llyfr olaf wedi’i addasu ar gyfer y sgrin … Parhau i ddarllen

: Alba Noir

Shetland! Croeso’n ôl, gyfaill triw. Ar ôl darllen nofelau gwreiddiol Ann Cleeves (awdures cyfresi Vera hefyd) am ymchwiliadau’r Ditectif Jimmy Perez (Douglas Henshall) a’i dîm i fwrdwrs go hyll ar yr ynys bellennig yng nghanol tonnau gwyllt Môr y Gog… Parhau i ddarllen

: Heini

Brits waste a staggering £558m a year on unused gym memberships – with more than one in 10 people saying they hadn’t stepped foot inside their gym for a whole year…              A poll o… Parhau i ddarllen

: Gwylio neu beidio

Ychydig yn ôl, fe sgwennais i argymhellion am gyfresi dramâu da i’n cario drwy felan mis Ionawr ac anghofio am fanion Brecshitaidd a biliau’r Dolig. Roeddwn i’n edrych ymlaen at yr arlwy felly… ond pylu wnaeth y mynadd a’r diddordeb erbyn 2il bennod… Parhau i ddarllen

: Dilyn Saga a Sarah Lund

Bron i flwyddyn yn ôl, es am benwythnos hir i Ddenmarc a Sweden. Copenhagen yn bennaf, er mwyn porthi’r obsesiwn Nordig byth ers i BBC Four ddechrau darlledu’r goreuon o’r gwledydd hynny. Dyma gipolwg yn ôl ar y daith fer fythgofiadwy – ac oer – honno… Parhau i ddarllen

: Becks ar y bocs

Dafad ddu’r teulu yn dychwelyd i fro ei mebyd, ymhell o’r ddinas fawr. Merch dridegwbath oed â rhyw ddirgelwch ynglŷn â’i chefndir. Natur a’r wlad o’i chwmpas yn ddelfrydol ar yr olwg gyntaf, ond gydag elfennau sinistr yn llechu dan yr wyneb sinemati… Parhau i ddarllen