Archives: Dylan

Anffyddiaeth: Y DUP

Gan fod y DUP ar hyn o bryd mewn trafodaethau ffurfiol i gefnogi llywodraeth Prydain, mae safbwyntiau crefyddol gwirion a hyll y blaid yn cael cryn dipyn o sylw. Dyma erthygl gennyf ar y wefan newydd (ac ardderchog) Nation.Cymru ar y pwnc hwnnw. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Diddymwch y frenhiniaeth

Mae’r Tywysog Philip wedi cyhoeddi ei fod am ‘ymddeol’, felly dyma amser cystal ag unrhyw un i ladd ar gysyniad dwl y frenhiniaeth. Cefais gyfle i wneud hynny ar Taro’r Post heddiw (ewch i 24:30).

Mae Philip ei hun yn embaras llwyr, wrth gwrs. Hawdd yw chwerthin am lawer o’r pethau gwirion mae wedi’u dweud dros y blynyddoedd, ond mae rhai ohonynt yn gywilyddus. Dyma ddyn sydd wedi bod yn ‘cynrychioli’ Prydain ers 65 o flynyddoedd bellach, a hynny heb i’r un ohonom ofyn iddo.

Nid oes gennyf lawer o amynedd â seremonïau a defodau ac ati’n gyffredinol, felly rwy’n aml yn cwestiynu’r angen o gwbl ar gyfer pennaeth ar y wladwriaeth sydd ar wahan o’r llywodraeth. Ond gan dderbyn bod galw am y math yna o rôl, dylem fabwysiadu system debyg i un yr Iwerddon. Mae’r Gwyddelod, ar ôl eu penderfyniad doeth ym 1948 i dorri pob cysylltiad â theulu rhyfedd Windsor, yn ethol eu harlywydd eu hunain, a rhaid iddo neu hi roi’r gorau iddi ar ôl dau dymor. Maent felly’n gallu ethol pobl sy’n addas ar gyfer y swydd, yn hytrach na dioddef bron i saith degawd o ffŵl fel y Dûg sydd wedi cyflawni dim o werth yn ei fywyd ond priodi ei gyfnither. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Erledigaeth ffug y Cristion

Stori wirion y dydd yw’r honiad bod Cadbury’s wedi hepgor y gair ‘Easter’ o’u deunydd marchnata ar gyfer helfa wyau pasg ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roeddwn yn trafod yr helynt ar Taro’r Post yn gynharach (yr eitem gyntaf, ar ôl 2 funud). Fel sy’n aml yn wir pan mae Cristnogion yn cwyno am bethau fel hyn, lol llwyr yw’r stori, fel y dengys eiliad neu ddwy o bori gwefan y cwmni.

Mae’n debyg bod gan lawer o Gristnogion ryw fath o complex merthyrdod (sy’n addas, am wn i, o gofio’r chwedl sy’n sail i’r Pasg). Mae rhyw fath o urddas mewn cael eich herlid ar gam, ac rwy’n credu bod nifer o Gristnogion yn awyddus i hawlio peth o’r urddas hwnnw heb wneud y gwaith caled o ddioddef unrhyw erledigaeth go iawn eu hunain. Gan nad yw Cristnogion ym Mhrydain yn profi unrhyw ormes o gwbl – i’r gwrthwyneb, maent garfan grymus a breintiedig iawn – rhaid iddynt ei ddyfeisio. Dyma sydd hefyd yn gyfrifol am y ‘rhyfel’ chwedlonol blynyddol yn erbyn y Nadolig, sy’n draddodiad arbennig o amlwg yn America. Ysywaeth, yn yr hinsawdd wleidyddol hurt sydd ohoni, gallwn ddisgwyl mwy o hyn ym Mhrydain hefyd.

Yn wahanol i’r Nadolig, sy’n ddim byd o gwbl i’w wneud â Christnogaeth, mae’n anodd gwadu mai stori Iesu Grist oedd sail y Pasg i ddechrau. I’r mwyafrif helaeth o bobl erbyn hyn, fodd bynnag, gan gynnwys fy hun, nid yw’n ddim mwy na phenwythnos hirach na’r arfer i ffwrdd o’r gwaith ac esgus i fwyta siocled. A bod yn blaen, rwy’n croesawu’r ffaith bod llai a llai o bobl yn rhoi lle creiddiol i chwedl y croeshoelio, gan fod y stori honno, a’r athrawiaethau sy’n deillio ohoni, yn ffiaidd. Mae pob croeso i Gristnogion wneud hynny, yn naturiol, ond nid oes ganddynt hawl i ddisgwyl i bawb arall eu dilyn (a llai fyth o hawl i ddisgwyl cydymdeimlad pan maent yn creu helynt ffug). Mae’n beth iach eu bod yn prysur golli’r frwydr honno, ond bydd y cwynion parhaus yn syrffedus iawn yn y cyfamser. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Pwy sy’n nawddoglyd?

Mae pawb sy’n cefnogi Donald Trump yn hiliol. Pawb, yn ddi-eithriad.

Mae’r datganiad uchod yn aml yn ennyn ymateb chwyrn, a hynny gan lawer o ryddfrydwyr yn ogystal â chefnogwyr y ffasgydd oren twp. Efallai mai’r mwyaf cyffredin yw gofyn yn rhethregol ‘felly mae bron hanner poblogaeth America’n hiliol?’ fel petai’r cwestiwn ei hun yn abswrd a bod ateb y gadarnhaol yn golygu colli hygrededd yn anorfod. Ond ‘ydyn’ yw’r ateb yr un fath. Nid yw’r ffaith bod canran sylweddol o’r boblogaeth yn arddel daliadau hiliol yn gwneud y daliadau hynny’n llai hiliol.

Rwy’n credu bod llawer hefyd yn camddeall y cyhuddiad. Nid yw dweud bod rhywun yn hiliol o reidrwydd yn golygu eu bod yn casáu pawb â chroen tywyll. Mae hiliaeth yn ffenomen gynilach na hynny (er mae’n llai cynnil bellach nag yr oedd flwyddyn yn ôl, gan fod buddugoliaeth Trump wedi rhoi ‘caniatâd’ i bobl arddel eu hiliaeth yn fwy agored yn hytrach na chadw’n dawel).

Fel rheol, mynnir mai dadrithiad economaidd oedd yn bennaf gyfrifol am ganlyniad yr etholiad. Nid yw hynny’n hollol anghywir, o reidrwydd; fe chwaraeodd ran, yn enwedig mewn taleithiau ôl-ddiwydiannol fel Michigan ac Ohio. Ond mae’n anghyflawn, a hefyd yn gamarweiniol o gofio bod cefnogwyr Trump, ar gyfartaledd, yn gyfoethocach na rhai Clinton. Y gwir plaen yw bod arolygon academaidd wedi dangos dro ar ôl tro mai’r hyn sy’n esbonio’r canlyniad orau yw ‘pryderon’ ynghylch amrywiaeth ethnig. Os oes un peth sy’n rhagweld cefnogaeth unigolyn tuag at Trump, yna’u safbwyntiau am hil yw hwnnw. Mae’r patrwm yn hollol glir.

Nid yw’r syniad bod cyni economaidd yn troi pobl yn hiliol yn dal dŵr beth bynnag. Fe all wneud y rhagfarn sydd eisoes yn llechu ynddynt yn fwy amrwd, am wn i, ond mae hynny’n amlwg yn golygu bod yr hiliaeth yn bodoli’n dawel yn barod. Yn ogystal, roedd ymgyrch Trump ei hun mor amrwd hiliol, mae’n berffaith synhwyrol dweud bod pawb oedd yn fodlon anwybyddu hynny’n hiliol hefyd, hyd yn oed os oedd ganddynt flaenoriaethau eraill.

Cwyn cyffredin yw bod galw cefnogwyr Trump i gyd yn hiliol yn nawddoglyd. Mae’n anodd gwadu hynny mewn gwirionedd. Mae hiliaeth yn dwp, felly mae’n dilyn bod galw pobl yn hiliol gyfystyr â’u galw’n dwp. Ni wadaf chwaith fy mod yn llawn dirmyg tuag at gefnogwyr Trump i gyd, er fy mod ar yr un pryd yn cydymdeimlo i raddau helaeth â syniadau Chris Arnade ynghylch y ‘rhes flaen’ a’r ‘rhes gefn’. Mae Arnade yn dadlau’n gryf yn erbyn datganiadau fel yr un sy’n agor y blogiad hwn. Ond onid yw dadansoddi ymddygiad cefnogwyr Trump mewn termau anthropolegol a sosio-economaidd hefyd yn nawddoglyd, os nad hyd yn oed yn fwy felly? Fel petaem ni bobl addysgiedig yn deall y trueiniaid hyn yn well na hwy eu hunain. Rwy’n credu ei bod yn amhosibl osgoi bod yn nawddoglyd y naill ffordd na’r llall fan hyn. Weithiau mae’r gwir ei hun yn nawddoglyd.

Cwyn arall yw bod galw cefnogwyr Trump yn hiliol yn annhebygol iawn o’u darbwyllo i droi’u cefnau arno a throi’n rhyddfrydwyr da. Mae’n siwr bod hynny’n gywir (er yn achos y rhan fwyaf ohonynt, rhaid gofyn a oes unrhyw beth all newid eu meddyliau?). Eto i gyd, erys y ffaith eu bod yn hiliol, ac mae anwybyddu hynny’n beryglus. Yr hiliaeth ei hun yw’r broblem. Mae mynd i’r afael â dirywiad sosio-economaidd yn orchwyl hanfodol ynddi’i hun, ond mater ar wahan yw hwnnw (a Trump yw’r person gwaethaf un i ddatrys y broblem honno beth bynnag).

Os mai’r nod yw newid meddyliau cefnogwyr Trump, mae angen osgoi eu galw’n hilgwn er mai dyna ydynt mewn gwirionedd (fel y dysgodd Clinton wedi helynt y ‘basket of deplorables‘). Y broblem felly yw bod dweud y gwir weithiau’n strategaeth annoeth. Nid yw hynny’n sefyllfa anghyffredin. Er enghraifft, wrth drafod â chreadyddion, mae nifer o anffyddwyr yn awgrymu nad oes rhaid ymwrthod â Duw er mwyn credu mewn esblygiad. Mae rhai o’r anffyddwyr yn credu hynny’n ddidwyll, ond diau mai strategaeth sydd ar feddwl y rhan fwyaf. Mae’n hynod annhebygol bod ffwndamentalwyr Cristnogol yn mynd i droi’n anffyddwyr mewn chwinciad, felly mae’n gwneud synnwyr i geisio’u darbwyllo bod modd iddynt ddal eu gafael ar syniad creiddiol bodolaeth Duw tra’n derbyn ffeithiau syml eraill am y byd. Ond y gwir yw nad yw esblygiad theistaidd yn gwneud y mymryn lleiaf o synnwyr mewn gwirionedd, ac mae rhaid dewis: Duw ynteu esblygiad. Rwy’n cael trafferth cyfaddawdu â’r gwirionedd am resymau strategol, a hynny’n rhannol oherwydd ei fod yn…nawddoglyd. Dyna reswm arall, am wn i, na allwn i fod yn wleidydd. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Osgoi’r demtasiwn i ystyried ein gelynion gwleidyddol yn athrylithwyr strategol

Fel rwyf wedi’i ddweud droeon, mae yna esboniad syml a chyffredinol sy’n esbonio popeth am Donald Trump: mae’n ddyn eithriadol o dwp. Am y rheswm hwnnw, mae angen i bawb stopio dweud bod popeth sy’n tasgu o’i geg neu’i fysedd yn ymgais fwriadol i dynnu’n sylw oddi ar faterion eraill. Y cyfan sydd ei angen er mwyn deall beth sy’n digwydd yw i ni gydnabod bod arlywydd newydd America’n blentyn 70 oed hollol anwybodus a chroen-denau heb ronyn o hunan-ddisgyblaeth. Wedi i ni werthfawrogi hynny, nid oes angen cyflwyno unrhyw hypotheses ychwanegol.

Mae modd deall pam mae cynifer yn parhau i lynu wrth y syniad bod rhaid meddu ar hyn a hyn o ddeallusrwydd a dawn strategol er mwyn cyrraedd y Tŷ Gwyn, ac felly mae’n rhaid bod rhyw fath o method in the madness. Wedi’r cyfan, mae ymgyrchu gwleidyddol, yn enwedig ar lefel arlywyddol, i fod yn hynod anodd. Ond yn achos Trump: nagoedd. Roedd Trump yn ffodus i ddewis amser lle roedd ymddiriedaeth Americanwyr yn eu system wleidyddol wedi plymio i’r fath ddyfnderoedd, felly roedd bwlch yn y farchnad ar gyfer ymgeisydd anghonfensiynol. Ond wedi hynny, y cyfan yr oedd ei angen arno oedd y math o ddiffyg cywilydd sydd ond yn bosibl mewn twpsyn. Yn wir, byddai unrhyw un llai anwybodus wedi methu rhedeg ymgyrch fel ei un ef; byddai’r embaras o ddweud y fath bethau yn y fath ffordd wedi bod yn drech na hwy. Yn yr un modd, nid yw dinistrio system wleidyddol a’i throi’n awtocrataeth o reidrwydd yn anodd. Os rywbeth, mae bod yn dwp yn help. Mae yna lawer iawn mwy o ffyrdd o dorri rhywbeth nag o’i gadw’n gyfan.

Temtasiwn gyffredin yw meddwl bod ein gelynion gwleidyddol yn fwy deallus nag ydynt mewn gwirionedd. Diffyg parodrwydd i dderbyn bod modd i ynfytyn gael ei afael ar awennau gwlad fel America (a’i sefydliadau gwydn, honedig) sydd i gyfrif yn bennaf am hynny. Efallai hefyd bod yna reddf siwdo-grefyddol debyg i’r hyn sydd ar waith yn achos theorïau cynllwyn, sef dyhead i feddwl bod pethau’n digwydd am resymau pwrpasol. Mae’r syniad bod polisïau America’n cael eu llywio gan y rhechfeydd random sy’n gwibio trwy ymennydd Trump ar unrhyw eiliad penodol hyd yn oed yn fwy hunllefus i rai na’r syniad bod ganddo gynllun (hyd yn oed os yw’r cynllun hwnnw’n wrthun).

Am resymau tebyg, rwy’n amheus o’r syniad bod popeth mae Trump yn ei wneud yn cael ei lywio gan Vladimir Putin. Mae’r syniad mai prosiect cyfrwys hir-dymor o eiddo Rwsia oedd hwn o’r dechrau’n deg yn gofyn i ni gredu bod Putin yn mastermind. Mae llawer yn credu hynny, am wn i, ond mae’n debygol iawn mai myth ydyw mewn gwirionedd. Fel mae Masha Gessen (y sylwebydd doethaf, yn fy marn i, ar ffenomen Trump a’r cysylltiadau honedig â Rwsia) wedi’i ddweud, mae Putin ei hun yn ddyn digon symol ac analluog yn y pen draw. Mae’n graffach na Trump, yn sicr (mae hynny’n wir am bawb), ond dylem osgoi’r demtasiwn i’w ystyried yn ddihiryn cartŵn hollalluog (er ei fod, wrth gwrs, yn ddihiryn). Nid yw’n amhosibl o bell ffordd bod Rwsia’n blacmêlio Trump mewn rhyw ffordd, ond y pwynt yw nad oes angen i hynny fod yn wir er mwyn esbonio beth sy’n digwydd. Nid bod hynny’n gysur o fath yn y byd. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Blogio am anffyddiaeth tra mae’r byd yn mynd i’r gwellt

Blog am anffyddiaeth yw hwn. Gan fod y pwnc hwnnw’n eang iawn, mae’n caniatáu i mi drafod gwleidyddiaeth yn fynych. Yn wir, rwyf wedi dweud droeon nad yw gwrthwynebu crefydd heb drafod gwleidyddiaeth yn gwneud synnwyr. Mae hyrwyddo hawliau sifil, cydraddoldeb, democratiaeth a rhyddid yn ran annatod o anffyddiaeth; crefydd, wedi’r cyfan, sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am lesteirio’r rhinweddau hynny yn hanesyddol.

Yn anffodus, mae fy mlogiadau wedi mynd ychydig yn llai rheolaidd yn ddiweddar, ac er bod hynny i raddau helaeth oherwydd y ffaith bod gennyf fabi, rwy’n rhoi llawer o’r bai ar Donald Trump. Pan rwyf wedi blogio tros y flwyddyn ddiwethaf, y ffasgydd twp oren oedd y pwnc yn amlach na pheidio. Ers iddo gyhoeddi’i fwriad i ymgeisio, mae twf Trumpaeth wedi datblygu’n dipyn o obsesiwn i mi. Rwy’n treulio llawer mwy o amser nag sy’n iach yn darllen am yr hyn sy’n digwydd yn America, a’n colli gobaith yn gyffredinol am gyfeiriad y byd yn ehangach. Ni fynnaf ddiflasu’r ychydig ddarllenwyr sydd gennyf, fodd bynnag, a chan fod Trump ymhob man yn barod, rwy’n ceisio osgoi swnio fel tôn gron am y peth fan hyn (mae fy ffrwd Twitter yn fater arall).

Mae’n wir hefyd bod rôl crefydd yn yr hyn sy’n digwydd yn gymhleth. Petai rhywun wedi dweud wrthyf ddegawd yn ôl y byddai’r dde eithafol yn cipio grym yn America, buasai wedi bod yn rhesymol i mi dybio mai ffwndamentaliaid Cristnogol fyddai wrthi. Ond fel y digwyddodd pethau, nid yw Trumpaeth mor syml â hynny. Mae llawer iawn o bleidleisiwyr Trump yn ffitio’r disgrifiad hwnnw, wrth reswm, ond go brin bod y ffasgydd twp oren ei hun yn gwneud. Nid yw Trump yn ddigon deallus i ffurfio safbwyntiau diwinyddol y naill ffordd na’r llall, ond nid oes cysur yn hynny, gan y bydd yn berffaith hapus i daflu cig coch at y ffwndamentaliaid er mwyn cadw’u cefnogaeth. Hiliaeth a misogynistiaeth – panig ynghylch tranc arfaethedig statws goruchafol y dyn gwyn – yw craidd Trumpaeth mewn gwirionedd, ac er bod crefydd yn chwarae rhan fawr yn hynny, rwy’n gorfod derbyn nad dyna lle mae’r bai i gyd. Ysywaeth, mae llawer o’r ‘alt-right’, yn enwedig y rhai ifainc, yn ddigon seciwlar.

Efallai bod fy mlaenoriaethau yn newid, felly. Nid yw fy safbwyntiau yngylch crefydd wedi newid o gwbl: lol yw’r cwbl o hyd. Ond yr hyn sy’n fy mhryderu fwy na dim yn y byd erbyn hyn yw dirywiad democratiaeth, a thwf y dde adweithiol. Awtocrat yw Trump, ac mae’r difrod a gyflawnodd yn ei wythnos gyntaf, heb sôn am beth sy’n mynd i ddigwydd dros bedair blynedd, yn frawychus. Nid dim ond America sy’n wynebu’r broblem hon, wrth gwrs. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae democratiaeth wedi cilio yn Rwsia, Twrci, Gwlad Thai, Y Philipinau a De Affrica. Mae hyd yn oed gwledydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd, fel Hwngari, Gwlad Pwyl, Slofacia a’r Weriniaeth Siec wedi dechrau dilyn trywydd anrhyddfrydol, ac mae’r dde senoffobig ar gynnydd mewn sawl gwlad gorllewinol arall, gan gynnwys Prydain. Ar ben hynny, mae gwledydd nad oedd hyd yn oed yn ddemocrataidd o gwbl yn y lle cyntaf, fel China, wedi dechrau canoli a thynhau grym drachefn yn hytrach na chymryd camau i’r cyfeiriad arall. Mae pethau’n edrych yn dduach o lawer nag yr oeddent ddegawd yn ôl.

Rwyf o hyd wedi gwrthod y syniad bod democratiaeth a rhyddid yn anochel o gynyddu gydag amser, ac rwy’n gofidio bod y degawd presennol yn fy mhrofi’n gywir. Mae gobaith mai blip dros dro – ochenaid olaf yr hen ddyn gwyn blin cyn i rymoedd demograffig ei drechu – yw hyn. Gallaf ddeall y demtasiwn i obeithio y bydd popeth yn gwella ar ôl i’r baby boomers hunanol farw allan ymhen degawd neu ddau. Ond gochelwn rhag disgwyl yn ddiog i’r gwellhad hwnnw ddigwydd yn awtomatig. Mae am fod yn frwydr, ac yn hynny o beth, mae llawer o grefyddwyr rhyddfrydol am fod ar yr un ochr â mi. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Arlywydd Trump

Daeth y dydd. Mae Donald Trump bellach yn arlywydd Unol Daleithiau America. Fe ddywedais drannoeth yr etholiad fy mod yn anobeithio am gyflwr y byd; nid oes unrhyw beth wedi digwydd ers hynny i godi fy nghalon. Os rywbeth, rwy’n argyhoeddedig bod pethau hyd yn oed yn fwy trychinebus nag mae llawer o bobl yn ei sylweddoli. Os oedd unrhyw un dal i gydio yn y ffantasi bod Arlywydd Trump yn mynd i fod yn greadur gwahanol i’r ymgyrchydd Trump, dylai heddiw ddryllio hynny: mae’r dyn wedi bod yn obsesiynu am faint y dorf wrth iddo dyngu llw ddoe, gan gyhuddo’r cyfryngau o ddweud celwydd er ein bod i gyd wedi gweld y lluniau. Mae’r ffaith bod y mater yma mor bitw’n rybudd difrifol ynddo’i hun: os yw’n fodlon neilltuo bron diwrnod cyfan i falu cachu yn gelwyddog am bethau di-nod, mae’n ddychrynllyd meddwl sut fydd pethau pan ddaw materion sylweddol ar yr agenda.

Heb ail-adrodd fy hun yn ormodol, mae’r dyn yn fwli hollol dwp, ansefydlog, narsisitig, llwgr a rhagfarnllyd. Os oes llygedyn o obaith o gwbl, yna hwnnw yw bod ei weinyddiaeth am fod yn eithriadol o ddi-glem a bod eu diffyg crebwyll am eu rhwystro rhag cyflawni llawer o’u hagenda. Nid yw hynny’n gysur i gyd, fodd bynnag, oherwydd mae’r cyfuniad hwnnw o ddiffyg gallu, ar y naill law, a hyder haerllug ar y llaw arall, yn debygol o niwieidio hygrededd sefydliadau a strwythurau sifil y wlad (a’r byd, o ran hynny). Bydd hynny’n fwriadol i raddau helaeth: nid oes ganddynt lawer o syniad sut mae pethau’n gweithio, ond nid ydynt yn poeni am hynny gan mai e llosgi llawer ohonynt i lawr yw’r union nod.

Ar lawr gwlad, mae Arlywydd Trump am gael effaith anferth ar un maes yn arbennig heb orfod gwneud unrhyw beth: heddlua. Mae adrannau heddlu America eisoes yn hynod asgell-dde, ac mae eisoes yn amlwg bod hiliaeth yn eu mysg yn broblem anferth. Yn fuan iawn, rhywle yn America, mae swyddog heddlu yn mynd i saethu dyn ifanc croenddu di-euog yn farw. Mae hynny wrth gwrs eisoes wedi digwydd sawl tro dros y blynyddoedd diwethaf. Yn yr hinsawdd wleidyddol newydd, fodd bynnag, rwy’n credu ei fod hyd  yn oed yn fwy tebygol, a diolch i’r ffŵl yn y Tŷ Gwyn mae’r ymateb i’r protestio anochel fydd yn dilyn yn sicr o fod yn llanast. Mae’n hawdd dychmygu Trump yn troi’r sefyllfa yn greisis, boed yn fwriadol neu trwy dwpdra, gan beryglu hawliau sifil a lleiafrifoedd ethnig ymhellach eto.

Rhywbeth arall sydd bron yn sicr o ddigwydd yn fuan yw ymosodiad terfysgol gan y Wladwriaeth Islamaidd. Buaswn i’n tybio bod hyn yn flaenoriaeth strategol i IS, gan fod ymateb twp anochel Trump – sef ymosod ar fwslemiaid a datgymalu hawliau sifil – yn sicr o fod yn fuddiol iddynt. Byddaf yn synnu’n fawr os na fydd ymosodiad, neu ymdrech amlwg i gyflawni un, ar dir mawr America erbyn yr haf.

Dyma pam rwy’n sicr bod Trump am fod hyn yn oed yn waeth na’r disgwyl. Mae heddiw – ei ddiwrnod llawn cyntaf, ei fis mêl, heb unrhyw ddigwyddiad cas iddo orfod ymateb iddo – wedi bod yn drychinebus. Dychmygwch, mewn difrif, ei greisis cyntaf. Ac wedyn dychmygwch ei ugeinfed. Doed a ddelo, mae pethau anffodus yn mynd i ddigwydd. Ym mhob un senario rwy’n gallu’i ddychmygu, mae Trump am eu gwneud yn waeth.

Ar ben hynny, wrth gwrs, mae Trump yn mynd i lenwi o leiaf un sedd wag ar Oruchaf Lys America, wedi i’r Gweriniaethwyr, heb gywilydd yn y byd, wrthod gadael i Obama wneud am bron i flwyddyn gyfan. Mae Trump yn sicr o ddefnyddio’r cyfle yma i daflu cig coch at y ffwndamentalwyr eithafol ymysg ei gefnogwyr. Mae’n dweud cyfrolau na fuaswn yn synnu o gwbl petai’n enwebu rhywun fel Roy Moore, ffasgydd theocrataidd o’r iawn ryw.

Cefais fy ngeni ym 1984. Am y tro cyntaf erioed, rwyf wedi dechrau dychmygu fy marwolaeth fy hun mewn rhyfel niwclear. Mae’n annhebygol iawn o hyd, wrth reswm, ond mae’r posibilrwydd wedi rhoi’r gorau i fod yn chwerthinllyd. Mae Rwsia a China ill dau’n fwy tebygol o geisio manteisio a gwthio’u lwc yn y gêm fawr geopoliticaidd, ac mae sawl senario trychinebus, a fu gynt fwy neu lai’n amhosibl diolch i gytundebau amlochrog y mae Trump yn ddirmygus iawn ohonynt, bellach yn gredadwy. Mae Wcraniaid, a hyd yn oed Latfiaid, yn teimlo’n nerfus, ac mae ganddynt resymau i wneud. Mae dyfodol NATO a’r Undeb Ewropeaidd yn edrych yn ddu, ac af mor bell ag awgrymu bod obsesiwn macho Trump â delio â phobl mano a mano, ar draul trafodaethau amlochrog pwyllog a gofalus, yn mynd i beryglu’r Cenhedloedd Unedig hefyd. Mae ei gefnogwyr craidd, wedi’r cyfan, yn casáu’r sefydliad hwnnw â chas perffaith. Pwy a ŵyr?

Dim ond crafu’r wyneb yw hyn. Nid oes unrhyw beth am hyn nad yw’n drychinebus. Rwy’n besimistig dros ben. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Dyneiddiaeth

Lansiwyd Dyneiddwyr Cymru, cangen o’r Gymdeithas Dyneiddwyr Prydain, wythnos diwethaf, ac i gyd-fynd cafwyd arolwg barn newydd sy’n dangos bod 51% o Gymry bellach yn ystyried eu hunain yn anghrefyddol. Bûm yn trafod y canlyniadau hynny, a dyneiddiaeth yn gyffredinol, ar Taro’r Post (dechrau ar ôl 25:45).

Mae’n bwysig cofio’r caveats arferol wrth ystyried arolygon barn am bwnc mor bersonol a goddrychol. Mae diffiniad pobl o grefydd yn amrywio, ac mae’n debygol bod llawer o’r bobl hynny sy’n ystyried eu hunain yn ‘anghrefyddol’ yn parhau i gredu mewn rhyw fath o dduw. Vice versa, fe ddichon bod llawer hefyd yn galw’u hunain yn Gristnogion am resymau diwylliannol, er mai’r unig adegau maent yn meddwl am y pwnc yw pan mae rhywun o YouGov yn gofyn y cwestiwn. Eto i gyd, rwy’n credu bod y patrwm dros amser yn amlwg: mae crefydd, ar y cyfan, yn dirywio. Parhau i ddirywio fydd ei thynged, hefyd, gan fod yr ‘anghrefyddol’ yn llawer iawn mwy niferus ymysg y to ifanc. Mae hyn i gyd yn newyddion da iawn, wrth gwrs.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng anffyddiaeth a dyneiddiaeth, felly? Yn bersonol, rwy’n cofleidio’r ddwy label, a buaswn yn hapus i wneud y ddwy gyfystyr â’i gilydd yn llwyr. Gwn fod ambell un yn gwrthwynebu hynny: mae rhai anffyddwyr yn mynnu mai’r cyfan yw anffyddiaeth yw ‘diffyg cred mewn duw’, ac nad oes ganddi unrhyw beth i’w ddweud am y byd y tu hwnt i hynny. Fel rwyf wedi’i grybwyll sawl tro ar y blog, rwy’n credu bod hynny’n hurt.

Mae elfen o wirionedd i’r caricature o anffyddwyr fel pobl hunan-fodlon sy’n mwynhau galw pobl grefyddol yn dwp ar y we. Rwyf wedi gwneud hynny fy hun, ac mae’n gallu bod yn llawer o hwyl. Ond rwy’n gyndyn bod angen i anffyddiaeth olygu mwy na hynny. Mae goblygiadau anferthol i absenoldeb duw, a dylem eu hwynebu. Nid yw’n gwneud synnwyr o gwbl i wrthwynebu crefydd heb wrthwynebu’r rhagfarnau hynny mae crefydd wedi gwneud cymaint i’w hyrwyddo. O’r herwydd, nid wyf yn gallu gwahanu gwerthoedd positif fel cydraddoldeb a hawliau sifil oddi wrth anffyddiaeth ei hun. Dyneiddiaeth yw’r label traddodiadol ar gyfer y casgliad hwnnw o werthoedd positif, ond dylai anffyddiaeth olygu’r un peth yn union yn fy marn i. Ysywaeth, mae’r ffaith i’r ymadrodd ‘atheism plusgael ei fathu rai blynyddoedd yn ôl i ddisgrifio’r fersiwn o anffyddiaeth rwy’n ei disgrifio fan hyn yn awgrymu ein bod wedi colli’r ddadl.

Mae’r anghrefyddol yn cofleidio nifer o labelau gwahanol: anffyddwyr, dyneiddwyr, freethinkers neu rationalists. I mi, maent i gyd yn gyfystyr, a llai dryslyd fyddai i ni gyd ddewis un. Fel yr awgrymais, buaswn i’n ffafrio ‘anffyddiaeth’ i gwmpasu’r cyfan. Eto i gyd, ac er nad yw anffyddiaeth geidwadol yn gwneud synnwyr fel cysyniad, rwy’n cydnabod bod pobl yn bodoli sy’n gwrthod bodolaeth duw ond sydd, am ba bynnag reswm, yn parhau i wrthwynebu syniadau fel ffeminyddiaeth. Petai rhaid i mi ddewis, byddai’n well gennyf Gristion blaengar ei gwleidyddiaeth nag ‘anffyddiwr’ fel yna sy’n gwadu bodolaeth duw heb wrthod y rhagfarn (er bod rhesymeg y ddau yr un mor od i mi). Mae cydraddoldeb a hawliau sifil yn bwysicach na labelau, ac, yn wir, yn bwysicach na materion diwinyddol. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Pam mae gwirionedd yn bwysig

Darllenais Why Truth Matters gan Ophelia Benson a Jeremy Stangroom yn ddiweddar. Fe’i cyhoeddwyd yn 2006, a beirniadu ôl-foderniaeth academaidd a wna’n bennaf. Mae nifer o athronwyr a beirniaid yn mynnu nad oes y fath beth â gwirionedd gwrthrychol, hyd yn oed ym maes gwyddoniaeth. Y syniad felly yw nad oes rheswm i dderbyn bod honiadau gwyddonwyr ynghylch y byd yn gywirach na chwedlau llwythau brodorol, er enghraifft. Yn wir, byddai gwneud hynny’n drefedigaethol a hiliol a ‘tyrannical‘. Sonnir yn hytrach am ‘wirioneddau’ (lluosog), a haerir mai rhesymau cymdeithasol pur sydd i gyfrif am oruchafiaeth un fersiwn dros un arall. Mae awduron Why Truth Matters yn meddwl bod y syniadau hyn yn wirion a pheryglus, ac rwy’n cytuno.

Mae paradocs amlwg yn y ddadl yn erbyn gwirionedd: os nad yw’n bod, nid oes rheswm i dderbyn bod y ddadl ei hun yn gywir chwaith. Ar ben hynny, beth yw pwynt astudio unrhyw beth os nad ydym yn derbyn bod gwirionedd yn bodoli yn y lle cyntaf? Heb rhyw fath o ffrâm allanol, byddai’n amhosibl trafod y peth ag eraill beth bynnag. Siarad heibio’n gilydd fyddai ein tynged, gyda phob unigolyn yn byw yn ei ‘realiti’ idiosyncratig ei hun. Am y rhesymau hyn, mae Benson a Stangroom yn pledio achos y gwirionedd:

[R]eal inquiry presupposes that truth matters. That it is true that there is a truth of the matter we’re investigating, even if it turns out that we can’t find it. Maybe the next generation can, or two or three or ten after that, or maybe just someone more skilled than we are. But we have to think there is something to find in order for inquiry to be genuine inquiry and not just an arbitrary game that doesn’t go anywhere. We like games, but we also like genuine inquiry. That’s why truth matters. (t.180)

Mae wir yn anodd osgoi’r canfyddiad mai gêm yw hyn i lawer o’r beirniaid ôl-fodernaidd, yn enwedig gan fod cynifer ohonynt yn ysgrifenu mewn arddull mor fwriadol o niwlog ac aneglur. Mae hynny’n cyferbynnu â Why Truth Matters, sy’n gyfrol ddarllenadwy dros ben o ystyried astrusrwydd y pwnc. Mae’n perthyn i’r un genre â llyfrau eraill tebyg megis Fashionable Nonsense gan Alan Sokal a Jean Bricmont (Sokal yw’r ffisegydd a lwyddodd i gyhoeddi papur ffug hollol ddiystyr mewn cyfnodolyn ôl-fodernaidd, gan achosi stwr enwog).

Wrth gwrs, creadur y chwith academaidd yw’r math yma o ôl-foderniaeth. Pan ddywedir heddiw ein bod yn byw mewn oes ‘ôl-ffeithiol’, fodd bynnag, cyfeirio at y dde eithafol a wnawn yn bennaf. Trwy danseilio ‘gwirionedd’ o’r chwith, mae’n bosibl bod beirniaid ôl-fodernaidd wedi braenaru’r tir ar gyfer y tactegau a welwn bellach gan neo-ffasgwyr a ffwndamentalwyr crefyddol. Fel mae’n digwydd, mae’r neo-ffasgwyr a ffwndamentalwyr crefyddol hyn yn casáu academyddion asgell-chwith. Awgrymaf felly bod yma wers amlwg: wrth arddel syniad, dylem eu dychmygu yn nwylo ein gelynio, a’r posibilrwydd y byddent yn cael eu defnyddio yn ein herbyn.

Mae’r rhybuddion wedi bod yno ers tro, yn hynny o beth. Mae creadyddion, er enghraifft, wedi mabwysiadu rhethreg yr ôl-fodernwyr, gan gyhuddo biolegwyr o orthrymu syniadau amgen. ‘Teach the controversy‘ yw eu cri ers degawdau, er nad oes amheuaeth o gwbl mewn gwirionedd bod esblygiad yn wir. Mae’r ymgyrch i wadu bodolaeth newid hinsawdd yn defnyddio tactegau tebyg, sef creu dryswch a niwl ffug. Dylem gofio mai crefydd a syniadau cymdeithasol adweithiol oedd rhai o brif dargedau ôl-foderniaeth ar y dechrau, ond mae’r rhod wedi troi erbyn hyn. Ys dywed Benson a Stangroom:

Take away reasoned argument and the requirement of reference to evidence … and what can be left other than force of one kind or another? Either rhetorical force, via equivocation, fuzzy emotive vocabulary, straw men, exaggeration, appeals to the community or the nation or the deity; or physical force, via laws and the police. If the postmodernist academic Left is busy asserting that reason is merely a mask for power then who is going to prevent US legislators from simply mandating the teaching of ID or creationism in the secular public schools?  And how will they go about it? With rhetoric and emotive appeals? But the other side, the theist side, is at least as good at that, and often better: evangelists tend to be good rhetoricians. Thus if postmodernism has busily eroded public belief in reason, evidence, logic and argument for the past 40 years or so, as it has, then all too often it is the case that rhetoric is all that’s in play. And behold, it wins, even though the other side has the better case. All rhetoric has to do to win convince people; it doesn’t have to do it legitimately or reasonably or honestly. (t.171-172)

Eironi’r sefyllfa bresennol yw ei bod yn haws cael gafael ar wybodaeth gywir heddiw nag erioed o’r blaen. Mae’r gwirionedd ar flaenau ein bysedd, bron yn llythrennol. Hawdd fyddai maddau unrhyw un a broffwydodd, yn nyddiau cynnar y rhyngrwyd, bod democrateiddio gwybodaeth fel hyn yn debygol o arwain at boblogaeth eithriadol o wybodus. Teg fyddai disgwyl i’n democratiaeth elwa o’r herwydd, gan y byddai gan yr etholwyr eu hunain y gallu i wirio honiadau ein gwleidyddion yn syth. Wrth gwrs, nid dyna sydd wedi digwydd, ac mae anwybodaeth, camddealltwriaeth a conspiracy theories gorffwyll yn ffynnu cymaint, os nad mwy, nag erioed. Yn hytrach na democrateiddio gwybodaeth, mae’r we wedi cynhyrchu llond lle o siambrau eco lle mae syniadau a honiadau gwirion yn bwydo oddi ar ei gilydd.

Nid yw’n hawdd dweud yn union faint o fai sydd am hyn ar y math o syniadau a dargedir yn Why Truth Matters. Pan mae fideos o Donald Trump yn dweud pethau ar gael yn rhwydd ar YouTube, ac mae’r dyn wedyn yn gallu gwadu eu dweud yn blaen a digywilydd, ac nad yw hynny’n poeni dim ar ei gefnogwyr, mae’n debygol bod rhywbeth mwy o lawer o’i le. Ond hyd yn oed os nad gemau dwl ôl-fodernaidd arweiniodd yn uniongyrchol at y sefyllfa sinistr bresennol, teg yw awgrymu eu bod wedi hwyluso’r broses. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Andrea Wulf: The Invention Of Nature

Nid wyf yn un am arwyr, ond mae Alexander von Humboldt (1769 – 1859), y gwyddonydd a’r anturiaethwr, yn dod yn agos iawn. Cefais flas arbennig ar fywgraffiad Andrea Wulf, The Invention Of Nature, sy’n adrodd hanes ei grwydro a’i enwogrwydd anferth yn ei ddydd.

Teg iawn yw dweud mai Humboldt ddyfeisiodd ecoleg fel maes, ac felly’r cysyniad modern o natur: ei obsesiwn mawr oedd astudio’r byd cyfanwaith, gyda phob rhan ohono mewn perthynas ddeinamig â’i gilydd.. Roedd yn bolymath rhyfeddol, ac eisiau dysgu popeth am bopeth.

Uchafbwynt ei fywyd oedd crwydro De America rhwng 1799 ac 1804. Ymysg campau eraill, ef oedd y cyntaf i gadarnhau bod yr afonydd Amazon ac Orinoco wedi’u cysylltu trwy gyfrwng y canal  naturiol Casiquiare, ac i ddringo llosgfynydd Chimborazo bron i’r copa. Mae’r rhannau hyn o’r llyfr yn enwedig yn darllen fel stori antur, ac roedd yn anodd ei roi i lawr.

Roedd brwdfrydedd Humboldt ynghylch gwyddoniaeth yn ddigon i ennyn ein hedmygedd, ond roeddwn yn hapus dros ben i ddysgu pa mor flaengar oedd ei wleidyddiaeth hefyd. Er i’w daith i Dde America gael ei hariannu gan Sbaen, cefnogodd Simon Bolivar ac ymdrechion hwnnw i ennill annibyniaeth i wledydd y cyfandir. Yn ogystal, er iddo ymweld ag America a chwrdd ag Thomas Jefferson, roedd yn danbaid yn erbyn caethwasiaeth. Roedd o flaen ei amser mewn sawl ffordd.

Nid oedd yn anffyddiwr (roedd anffyddwyr go iawn yn greaduriaid hynod brin ar y pryd), ond roedd yn ddrwgdybus iawn o grefydd draddodiadol. Deistiaeth yw’r label orau ar gyfer ei ddaliadau diwinyddol, fwy na thebyg. Bu cryn gynnwrf pan gyhoeddodd ei gampwaith Kosmos gan nad oedd, er yn trafod natur y bydysawd, yn crybwyll Duw o gwbl. Yn hynny o beth, fe wnaeth gymwynas enfawr trwy normaleiddio’r arfer o drafod natur heb yr angen i grybwyll bodau goruwchnaturiol. A dweud y gwir, buaswn wedi gwerthfawrogi mwy o drafod yn y llyfr am agweddau Humboldt tuag at grefydd a duw, a’r ymateb iddo gan yr eglwys.

Nid oes amheuaeth ynghylch dylanwad Humboldt: mae’r rhestr o lefydd, anifeiliaid a nodweddion daearyddol sydd wedi’u henwi ar ei ôl yn anferth. Y peth od yw ei fod, er yn un o bobl enwocaf y blaned erbyn diwedd ei oes, wedi mynd braidd yn angof yn ystod yr ugeinfed ganrif. Gobaith Wulf wrth ysgrifennu’r llyfr oedd cywiro hynny, ac rwy’n credu ei bod wedi llwyddo. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Anobeithio

Cloais y blogiad diwethaf trwy ddweud fy mod yn teimlo’n besimistaidd am gyflwr y byd. Roedd hynny cyn i Donald Trump, ffasgydd twp hiliol, ennill etholiad arlywyddol America. Teg dweud felly bod pethau’n edrych hyd yn oed yn dywyllach erbyn hyn.

Rwyf wedi diflasu ers misoedd ar y syniad mai pryderon economaidd sy’n gyrru cefnogwyr Trump, a chefnogwyr mudiadau dde eithafol Ewrop. Y gwir amdani yw bod y Trumpiaid yn llawer mwy cyfforddus yn ariannol na chyfartaledd y boblogaeth. Dro ar ôl tro, rydym wedi clywed y bobl hyn yn egluro’u rhesymau’n ddigon plaen, ac mae’n hen bryd i ni eu trin fel oedolion a derbyn eu gair: hiliaeth a misogynistiaeth sydd wedi gyrru’r ffenomen. Nid cefnogi Trump er gwaethaf ei sylwadau am fwslemiaid a phobl croenddu a Hispaniaid a wnant, ond o’u herwydd. Adwaith yn erbyn edwiniad goruchafiaeth y dyn gwyn yw hyn, a dyhead i droi’r cloc yn ôl i oes aur ddychmygol na fodolodd erioed mewn gwirionedd. Mae hyd yn oed y grwgnach am gytundebau masnach a’r ‘sefydliad’ yn drewi o hiliaeth, gan ei bod yn amlwg mai côd ar gyfer iddewon yw’r holl gyfeiriadau at global elites.

Rwy’n gweld rhai rhyddfrydwyr yn cwyno nad yw dadansoddiad fel yr uchod yn adeiladol, a bod angen i ni wneud mwy i ‘ddeall’ pryderon y ffasgwyr newydd. Ond beth yn fwy sydd yna i’w ddweud? Nid oes gennyf lawer o empathi i’w gynnig i hilgwn fel y rhain. I garfan sydd wedi arfer mwynhau statws mor freintiedig, mae cydraddoldeb i grwpiau eraill yn teimlo fel bygythiad. Ymddengys bod llawer o ryddfrydwyr yn amharod i dderbyn bod cynifer o hilgwn yn ein plith. Mae’n ddigalon, ond nid oes gobaith o ddatrys y sefyllfa heb i ni gydnabod y broblem yn y lle cyntaf.

Beth yw’r ateb, felly, heblaw am aros ambell ddegawd i’r genhedlaeth fwyaf hunanol erioed – y baby boomers gwyn – farw? Oes yna un? Mae pethau’n sicr o waethygu cyn gwella yn fy marn i. Mae buddugoliaeth Trump yn debygol o roi hwb i fudiadau tebyg mewn gwledydd eraill. Cynhelir etholiad arlywyddol nesaf Ffrainc, er enghraifft, ym mis Ebrill a Mai flwyddyn nesaf, a bydd y gwynt yn hwyliau Marine Le Pen. Felly hefyd Geert Wilders yn yr Iseldiroedd yn eu hetholiad cyffredinol hwythau ym mis Mawrth. Ar ben hynny, bydd hyn yn annog arweinwyr lled-awtocrataidd rhai o wledydd dwyrain Ewrop, fel Hwngari a Gwlad Pwyl, i barhau ar eu trywydd anrhyddfrydol. Yn wir, af mor bell â darogan bod yr Undeb Ewropeaidd bellach yn ei degawd olaf. Byddai hyn wedi swnio’n anhygoel ddwy flynedd yn ôl, ond y gwir yw bod ein sefydliadau a strwythurau cenedlaethol a rhyngwladol yn dadfeilio o flaen ein llygaid. Rwy’n nerfus. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Y broblem â deddf Godwin

Mae unrhyw un sydd wedi ffraeo am wleidyddiaeth ar y rhyngrwyd wedi dod ar draws ‘deddf Godwin‘. Fe’i bathwyd gan ddyn o’r enw Mike Godwin yn y 1990au, ac roedd ei fersiwn wreiddiol ef yn osodiad digon syml: wrth i drafodaeth ar y we fynd yn ei blaen, bydd rhywun, yn hwyr neu’n hwyrach, yn gwneud cymhariaeth â’r Natsïaid.

Ers hynny, mae ystyr y ‘ddeddf’ wedi esblygu. I lawer, mae’n golygu bod y person cyntaf i grybwyll y Natsïaid wedi colli’r ddadl yn awtomatig. Mae hefyd wedi ehangu i gyfeirio at gyfeiriadau at ffasgaeth yn gyffredinol, nid Natsïaeth yn unig. Defnyddir y ddelwedd isod yn aml:

Mae’n wir, wrth gwrs, bod llawer o bobl yn or-barod i ddefnyddio enw gwenwynig y Natsïaid fel arf rethregol. Dylid bod yn ofalus, oherwydd mae taflu’r label o gwmpas pan nad yw hynny’n briodol (cofio ‘Bushitler‘?) yn ei gwneud yn anos i’w defnyddio pan mae’n addas. A dyna’r pwynt: mae yna achosion prin pan mae galw rhywun yn ffasgydd (os nad Natsi) yn gyhuddiad cwbl ddilys.

Un o’r camgymeriadau mwyaf y gallwn ei wneud wrth ystyried dyddiau tywyll ffasgaeth ail chwarter y ganrif ddiwethaf yw tybio nad yw’n bosibl iddynt ddigwydd eto. Mae tuedd i feddwl am yr holl beth fel cartŵn, bron, fel rhywbeth a ddigwyddodd ar blaned arall heb unrhyw berthnasedd i’n hoes fodern ni. Ond pobl yn trin pobl oedd ffasgaeth; nid oedd unrhyw beth lledrithiol yn perthyn i’r ffenomen. A’r gwir yw bod llawer o’r hyn a welwn heddiw yn debyg iawn i’r hyn a arweiniodd at ffasgaeth yn Ewrop yn y gorffennol cymharol agos.

Ie: ffordd hirwyntog arall o alw Donald Trump yn ffasgydd eto fyth yw’r blogiad hwn. Rwy’n grediniol ei fod yn ticio’r blychau, ond hyd yn oed os oes modd hollti blew yn academaidd, nid yw’r cyhuddiad yn chwerthinllyd o bell ffordd.

Gwers amlwg i’w dysgu o’r hyn a welwyd yn Ewrop yn y 1920au a’r 1930au yw pwysigrwydd osgoi gwneud yr un camgymeriad eto. Y gwir yw bod llawer iawn o’r hyn y mae Trump yn ei wneud (a’r dde eithafol ymhob man) yn frawychus o gyfarwydd. Mae ymateb i bobl sy’n gwneud y pwynt pwysig hwnnw trwy weiddi ‘deddf Godwin!’ yn ddi-feddwl yn beryglus. Modd o gau’r drafodaeth lawr yw hynny, ac mae angen ei herio. Rwy’n besimistaidd iawn am y blynyddoedd nesaf, ac mae atgoffa’n hunain o hanes datblygiad ffasgaeth yn bwysicach heddiw nag erioed. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Polio rhagfarn

Roedd yn ddigalon darllen canlyniadau’r arolwg yma ynghylch agweddau pobl Cymru tuag at ddeg o wahanol grwpiau ymysg y boblogaeth. Mae’n wir bod y canlyniadau’n well nag yr oeddent y tro diwethaf i’r cwestiynau gael eu holi yn 2011, ond mae 33% dal i ddweud yn blaen bod ganddynt agweddau anffafriol tuag at bobl sy’n ffoi rhag rhyfel, a 28% yn dweud yr un peth am fwslemiaid. Yn wir, mae 12% yn rhoi’r ateb lleiaf ffafriol posibl yn achos ceiswyr lloches, sy’n frawychus. 10% sy’n gwneud hynny ar gyfer mwslemiaid.

Efallai bod gwendid yng ngeiriad y cwestiwn, sef “[U]sing a scale from 0 to 10, where 0 means very unfavourable and 10 means very favourable, how do you feel about…” Rwy’n credu bod yma amwysedd. Petawn i, fel anffyddiwr rhonc, yn gorfod ateb y cwestiwn yma am fwslemiaid, ni fyddai’n rhwydd gwneud hynny o’i ddarllen yn llythrennol. Wedi’r cyfan, yr hyn sydd gan fwslemiaid yn gyffredin yw eu ffydd yn islam, a fy marn onest yw bod islam yn grefydd hollol hurt. Os oes gennyf agwedd mor negyddol tuag at yr hyn sy’n diffinio’r grŵp yma o bobl, oni ddylwn adlewyrchu hynny yn yr ateb?

Ond er fy nirmyg tuag at athrawiaethau islam, rwy’n hollol daer fy ngwrthwynebiad i ragfarn yn erbyn pobl sy’n arddel y ffydd. Mae’n amlwg yn hanfodol bod eu hawliau sifil yn cael eu parchu, a’u bod yn derbyn yr un croeso yn ein cymunedau ag unrhyw berson arall. Wrth ateb y cwestiwn, felly, buaswn yn gorfod defnyddio mymryn o synnwyr cyffredin. Byddai’n amlwg mai mesur rhagfarn yw nod yr arolwg, ac o ddeall hynny buaswn yn ateb 10 heb feddwl dwywaith. Nid oes lle i nuance fan hyn; mae’n debygol iawn mai rhagfarn islamoffobig sy’n ysgogi’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhoi ateb anffafriol i’r cwestiwn hwn, a byddai unrhyw hollti blew am y geiriad yn cael ei gynnwys yn yr un blwch â’r casineb hwnnw.

Mae geirio cwestiynau fel hyn yn hynod anodd, wrth gwrs, ac mae angen bod yn gryno. Byddai perygl i unrhyw gwestiwn sy’n osgoi’r amwysedd uchod droi’n draethawd ynddo’i hun, a chanlyniad hynny fyddai anfon yr atebwyr i gysgu.

Byddai’n ddiddorol cynnwys Cristnogion ac anffyddwyr yn yr arolwg hefyd, gyda llaw, er y byddai’r un amwysedd yn bodoli yn yr achosion hynny hefyd. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Wedi’r Chwyldro

Os oes un thema gyson i wleidyddiaeth y blynyddoedd diweddar, yna dyhead cynifer i gicio’r ‘sefydliad’ yw hwnnw. Eu cwyn, mae’n debyg, yw bod y bobl sydd â grym wedi colli cysylltiad â’r werin gyffredin, felly mae rhaid troi at bobl ‘o’r tu allan’ er mwyn ysgwyd pethau.

Mae hyn yn deg i raddau. Mae cyflwyno gwaed newydd a phersbectifau gwahanol i’r  dosbarth llywodraethol yn amlwg yn gallu bod yn fuddiol, ac mae cadw ein harweinwyr ar flaenau’u traed yn hanfodol. Ond yn anffodus, ymddengys bod llawer o bobl bellach yn ystyried bod yn ‘wrth-sefydliadol’ yn rhinwedd ynddo’i hun. Eu hunig ystyriaeth yw sicrhau bod y ‘sefydliad’ presennol yn cael cweir.

Mae cael gwared ar ‘y sefydliad’ yn amhosibl, wrth gwrs, felly mae’n ddwl bod cynifer yn ei drin fel cysyniad haniaethol. Mae cicio’r sawl sydd mewn grym allan yn golygu gosod pobl eraill yn eu lle, ac hyd yn oed os yw’r bobl hynny wedi dod o’r ‘tu allan’, trwy gipio’r awennau mae’r rheiny wedyn yn dod yn aelodau o’r ‘sefydliad’. Os cael rhyw fath o lywodraeth (ac oni bai eich bod yn anarchydd, mae rhaid), rhaid cael sefydliad. Nid yw hyn yn gymhleth.

Am ryw reswm, mae llawer yn dymuno i’w harweinwyr fod yn debyg iawn iddynt hwy’u hunain. Rwy’n casáu, â chas perffaith, y syniad mai’r ystyriaeth bwysicaf wrth ddewis eich hoff ymgeisydd yw ‘pa un fyddai’n cynnig y gwmnïaeth orau dros beint?’ Dylai’r bobl sy’n rhedeg y wlad fod yn llawer iawn iawn galluocach na fi. Mae rhedeg llywodraeth yn gamp rhyfeddol o anodd; ni ddylai fod yn swydd y gall unrhyw un ei chyflawni. Mae rhaid iddi fod yn swyddogaeth elitaidd yn ei hanfod.

Nid oes gan y ‘sefydliad’ ddiffiniad clir. Mae Nigel Farage yn ffigwr gwrth-sefydliadol poblogaidd, er ei fod yn filiwnydd a wnaeth ei ffortiwn yn y Ddinas ac sydd bellach yn wleidydd proffesiynol. Yn y cyfamser, mae Donald Trump wedi seilio’i holl ymgyrch arlywyddol ar y syniad ei fod yn eithriadol o wrth-sefydliadol, ond os nad yw biliwnydd sydd wedi bod yn ffigwr amlwg ers degawdau yn aelod o’r ‘sefydliad’, pwy ddiawl sydd? Dyna ddau ddyn sydd wedi llwyddo i feithrin y myth eu bod yn un o’r bobl gyffredin, er bod y syniad yn chwerthinllyd mewn gwirionedd. Dyma sut sut y darbwyllwyd cynifer o Lafurwyr traddodiadol, sy’n casáu’r Ceidwadwyr, i droi at UKIP, a hynny’n groes i’w buddiannau’u hunain gan fod y blaid honno’n fwy Thatcheraidd na Thatcher ei hun.

Yn achos Bernie Sanders, mae’r ffigwr gwrth-sefydliadol hwnnw wedi bod yn aelod o Gyngres UDA ers 1991. Rwy’n edmygu Bernie, a’n gresynu na chafodd enwebiad arlywyddol y Democratiaid, ond mae rhai o’i gefnogwyr yn dangos yn gliriach na dim bod y dicter gwrth-sefydliadol presennol yn gallu mynd yn hurt. Rwyf wedi sôn hyd syrffed am bobl sydd wedi pwdu wedi i Clinton ennill enwebiad y blaid, ac sydd o’r herwydd am gefnogi Trump neu Gary Johnson, ymgeisydd y Libertarians. Ymhob achos, mae Trump (sy’n ffasgydd) a Johnson (sydd am weld y wladwriaeth yn crebachu’n ddim ac sy’n credu mai’r farchnad yw’r ateb i bob un o broblemau bywyd) yn benderfynol o chwalu a datgymalu pob un dim sy’n annwyl i Sanders. Gallwn felly ddiystyru’r posibilrwydd bod y bobl hyn wedi cefnogi Sanders am resymau egwyddorol. Chwyldro er mwyn chwyldro yw eu nod. Chwalu’r consensws presennol heb boeni dim am yr hyn a fyddai’n cymryd ei le, hyd yn oed os yw’n arwain at ffasgaeth. Rwy’n ystyried yr agwedd yna’n bathetig o blentynnaidd.  Rwy’n berwi â dirmyg at bobl fel hyn ar y funud.

Nid yw dymchwel y system bresennol yn ddigon felly. Mae’n hanfodol sicrhau bod rhywbeth gwell ar gael i’w osod yn ei le. Mae torri pethau’n hawdd. Gall unrhyw dwpsyn wneud hynny. Adeiladu yw’r gamp.

Fel mae’n digwydd, mae hyn yn berthnasol i ddadl fawr sydd wedi hollti’r ‘mudiad anffyddiaeth’ (os gellir ei alw’n hynny) ers ychydig o flynyddoedd bellach. Mae yna garfan sy’n mynnu mai’r cyfan yw anffyddiaeth yw’r diffiniad geiriadurol ‘diffyg ffydd mew duw‘, a dyna ni. Yn ôl yr anffyddwyr hyn, nid oes gan anffyddiaeth unrhyw beth pellach i’w ddweud am yr hyn a ddylai gymryd lle crefydd. Rwy’n anghytuno’n chwyrn â’r safbwynt hwnnw. Mae goblygiadau anferthol i’r ffaith bod duw’n absennol, ac rwy’n gyndyn bod cyfrifoldeb ar anffyddwyr sy’n dadlau’n erbyn crefydd i egluro sut fyd yr hoffem ei weld. Mae hyn yn anorfod yn golygu pwysleisio cyfiawnder cymdeithasol. Wedi’r cyfan, crefydd sy’n gyfrifol am lawer o’r gormes a ddioddefir gan fenywod, pobl gyfunrywiol a lleiafrifoedd ethnig (ac, yn wir, lleiafrifoedd crefyddol), ac fe ddylai cefnogi’r frwydr i sicrhau cydraddoldeb yn y meysydd hyn fod yn ran annatod o anffyddiaeth ei hun. Nid yw’n gwneud synnwyr i gael gwared ar grefydd heb geisio cael gwared ar y rhagfarnau hynny sydd wedi bod mor ddibynnol arni ar hyd y blynyddoedd. Mae’r anffyddwyr geiriadurol yn nawddoglyd a hunanfodlon. Hawdd yw dangos pam mae crefydd yn anghywir. Mae’r gwaith caled yn dod wedyn. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Clinton a Trump: y ‘chwith’ adweithiol a phurdeb ideolegol

Rwyf wedi sôn am y ffenomen ‘Bernie or Bustyn America o’r blaen, lle mae rhai o gefnogwyr Bernie Sanders wedi pwdu ac am gefnogi Trump ym mis Tachwedd yn hytrach na chefnogi’r ymgeisydd Democrataidd. Agoriad llygad a braw oedd gweld bod agwedd debyg i’w gweld ymysg Cymry hefyd, gan gynnwys aelodau Plaid Cymru.

Gall burdeb ideolegol eich dallu i’r fath raddau nes i chi golli synnwyr persbectif. I rai, dim ond dau bosibilrwydd sydd: eu hoff opsiwn, neu bob dewis arall, ac mae’r dewisiadau eraill cyn waethed â’i gilydd. Mynnir y perffaith, neu wfft i bopeth. Pwdu plentynnaidd yw’r amharodrwydd yma i roi opsiynau amherffaith mewn trefn. Rwy’n anffyddiwr sy’n gwrthwynebu crefydd yn gyffredinol, ond gan fy mod yn berson synhwyrol a chall rwy’n meddu ar y gallu i weld nad yw pob math neu elfen o grefydd cyn waethed â’i gilydd. Er fy mod yn anghytuno â’u diwinyddiaeth i gyd, mae gennyf y gallu i weld nad yw methodist o Gymru cyn waethed ag efengylwyr rhagfarnllyd Mississippi, ac nad yw’r rheiny cyn waethed â llywodraeth Sawdi Arabia. Ni fyddai’n anodd i mi ddewis rhwng y tri petai rhaid. Nid yw hyn yn gymhleth. Mae pobl aeddfed a normal yn meddwl fel hyn drwy’r amser.

Yn anffodus, er fy mod yn llawer mwy hoff o Sanders na Clinton, ymddengys nad yw llawer o gefnogwyr hwnnw’n aeddfed a normal. O’r herwydd, maent yn mynnu bod Clinton cyn waethed â Donald Trump, a’n gwrthod derbyn mai hi enillodd. Mae rhai’n colli’r plot yn llwyr gan fynd gam ymhellach, gan fynnu bod Clinton yn waeth na Trump. Mae’n anodd canfod y geiriau i fynegi pa mor dwp yw hyn

Rwyf wedi dadlau (neu reslo yn y llaid) gyda rhai o’r bobl hyn ar Twitter. Y ddau fater sy’n codi fynychaf yw polisi tramor Clinton (sydd, mae’n debyg, gyfystyr â hil-laddiad) a’r awgrym ei bod yn llwgr (mae un ffwl arbennig yn mynnu ei bod yn llofrudd). Nawr, mae’n berffaith bosibl beirniadu polisi tramor a ‘llygraeth’ Clinton, gan osgoi’r honiadau mwy lloerig. Mae hi braidd yn or-awyddus i ddefnyddio grym milwrol yn y Dwyrain Canol, ac wrth gwrs fe gefnogodd y rhyfel yn Irác yn 2003 ar y pryd, y camgymeriad sy’n rhannol gyfrifol am gynifer o’r problemau presennol. Yn y cyfamser, mae yna bryderon gwirioneddol ynghylch ei gweinydd ebost preifat, ac mae cwestiynau i’w hateb ynglŷn â’r berthynas rhwng ei helusen y Clinton Foundation a’i gweithgareddau gwleidyddol. Ond unwaith eto, mae’r feirniadaeth synhwyrol yn cael ei foddi allan gan conspiracy theories o byllau tywyllaf y rhyngrwyd.

Mae Clinton ymhell o fod yn ddelfrydol. Nid yw’r syniad o Arlywydd Clinton yn fy nghyffroi o gwbl. Rwy’n cydnabod ei gwallau. Petai’r ymgeiswyr eraill yn wahanol, buaswn yn eu hystyried (yn anffodus nid yw ymgeiswyr chwerthinllyd y Gwyrddion na’r Libertarians yn opsiynau synhwyrol). Ond eleni mae ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn ffasgydd gwirioneddol dwp. Dylai hynny fod yn ddigon i ysgogi pobl i sicrhau nad yw Trump yn cael ennill: mae ei ymgyrch wedi bod yn amrwd o hiliol, ac mae’n dangos yn ddyddiol nad yw’n agos at fod yn gymwys. Hyd yn oed o dderbyn y problemau ynglŷn a Clinton yn y paragraff blaenorol, mae Trump yn waeth.

Un peth am Trump sy’n apelio i rai a ddylai wybod yn well yw’r argraff hollol ddi-sail bod y dyn yn gyndyn o ddefnyddio grym milwrol. Y gwrthwyneb llwyr sy’n wir. Er ei ymdrechion i ail-ysgrifennu hanes, roedd yn cefnogi rhyfel Irác ar y pryd. Cyhuddir Clinton o gefnogi rhyfeloedd ac ymgyrchoedd bomio, ond roedd Trump yn fwy brwd byth: mae hwnnw o blaid bomio Libya’n ulw, ac mae wedi sôn yn llawn cynnwrf am ei fwriad i ‘bomb the shit out of’ tiriogaethau’r Wlawriaethau Islamaidd yn Irác a Syria er mwyn dwyn yr olew! Mae hefyd yn awyddus i gynyddu gwario ar y fyddin yn sylweddol; eto, llawer iawn iawn mwy na Clinton. Mae’n ddi-hid ynglŷn â’r syniad o ddefnyddio arfau niwclear yn erbyn terfysgwyr neu yn Ewrop. Mae wedi dangos pa mor denau yw ei groen: nid yw’n anodd ei ddychmygu’n ymateb yn fyrbwyll petai’n teimlo bod rhywun wedi’i sarhau. Nid oes ganddo’r syniad lleiaf am faterion tramor; nid yn unig hynny, ond nid yw hyd yn oed yn chwilfrydig. Rwy’n gwbl argyhoeddedig na fyddai’n gallu canfod Lithiwania ar fap, er enghraifft, ac ar ben hynny na fyddai ganddo ddiddordeb petai rhywun yn ceisio dangos iddo. Er ffaeleddau Clinton, mae’n bosibl dilyn ei rhesymeg a deall ei hegwyddorion, hyd yn oed os nad ydych yn cytuno. Nid oes modd dweud hynny am Trump. Byddai byddin y wladwriaeth rymusaf a welwyd erioed yn nwylo clown erratig hollol anwybodus. Hyd yn oed o dderbyn y ddadl yn erbyn Clinton, mae rhaid ffieiddio hyd yn oed yn waeth at Trump.

Ar ben hynny, mae Trump yn llwgr o’i gorun i’w sawdl. Conman ydyw, fel mae stori ei ‘brifysgol’ ffug yn ei ddangos. Mae ganddo hefyd record hir o gamddefnyddio cyfreithiau prynu gorfodol er mwyn dwyn eiddo oddi wrth bobl gyffredin, ac o gamwahaniaethu’n systemataidd yn erbyn pobl groenddu. Mae hyd yn oed ei ymgeisyddiaeth yn sgam i raddau helaeth: mae ei ymgyrch yn llogi swyddfeydd gan ei gwmni ei hun, ac unwaith y dechreuodd dderbyn rhoddion gan ffynonellau allanol, fe gynyddodd y llog bum gwaith drosodd. Mae llawer o’r arian y mae ei gefnogwyr yn ei roi iddo’n mynd i boced Trump ei hun.

Dim ond blas yw hyn o’r ffordd mae Trump yn rhedeg ei fusnes. Ac i ail-adrodd, mae’r dyn yn ffasgydd hiliol. Er ffaeleddau niferus Clinton, mae’r dewis i bawb synhwyrol yn hollol, hollol syml: rhaid sicrhau nad yw’r conman ffasgaidd, misogynistaidd, twp, anwybodus, ansefydlog yn cael dod yn agos at y swydd bwysicaf yn y byd. Rwy’n credu, gyda llaw, y byddai ffasgydd mwy slic yn gallu ennill yr etholiad. Y dychryn yw bod Trump wedi braenaru’r tir ar gyfer eithafwr llai twp y tro nesaf. Pe cytunech â mi neu beidio bod Trump ei hun yn ffasgydd, nid oes amheuaeth o gwbl y byddai ei gefnogwyr yn barod iawn i gefnogi ffasgydd textbook petai un yn ymddangos. Mae hynny’n hollol amlwg.

Ffrwyth ydde amgenhiliol (yr alt-right) yw llawer o’r conspiracy theories a gyfeiriaus atynt yn gynharach, felly mae’n destun gofid eu bod bellach yn cael eu cofleidio’n frwd gan gymaint o ‘sosialwyr’ honedig. Mae’n teimlo fel petai yna aildrefnu gwleidyddol rhyngwladol ar y gweill, lle mae rhannau o’r chwith yn cynghreirio ag eithafwyr asgell-dde er mwyn rhoi cic i’r ‘sefydliad’, troi’n erbyn mewnfudwyr, a chofleidio Rwsia. Taflu bomiau rhethregol yw’r flaenoriaeth, heb boeni am y goblygiadau nac am y cwmni a gedwir. Mae’r ‘sosialwyr’ hyn hyd yn oed yn barod i amddiffyn Trump, gan wadu’n blaen bod y dyn yn hiliol a misogynistaidd. Wrth gwrs, unwaith mae rhywun wedi mynd mor bell â hynny, nid yw’n gwneud synnwyr i’w gosod ar y chwith wleidyddol mwyach mewn gwirionedd.

Nid gormodiaith, yn fy marn i, yw dweud bod hyn yn dwyn i gof y modd y trodd nifer o gyn-gomiwnyddion at ffasgaeth yn y 1930au. Nid trwy ddirgel hud a lledrith y daeth ffasgaeth i rym yn Ewrop bryd hynny; mae’n rhy hawdd i ni ddiystyru’r posibilrwydd y gall ddigwydd eto. Ond fe all. Mae peidio neilltuo condemniaeth arbennig ar gyfer ffasgwyr yn hynod beryglus, gan ei fod yn eu normaleiddio. Os yw pobl yn dweud bod Clinton cyn waethed â Trump, neu’n waeth, yr awgrym wedyn yw oes unrhyw beth anghyffredin nac eithriadol o annerbyniol amdano. Dyma’r pwynt: mae purdeb ideolegol yn gallu arwain yn uniongyrchol at normaleiddio ffasgaeth. Fe wnaeth unwaith, ac fe all ddigwydd eto. Pe daw ffasgaeth i rym eto, ar bobl sy’n gwrthod gwneud pethau syml fel gwahaniaethu rhwng Trump a Clinton fydd llawer iawn o’r bai. Mae’n anodd dweud faint o bobl fel hyn sy’n bod yn union, ond rwy’n ofni bod yr agwedd yn llawer iawn mwy cyffredin nag yr ydym yn ei sylweddoli. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Plismyn dillad Ffrainc

Mae’r ideoleg crefyddol sy’n cyfiawnhau’r gorchudd islamaidd yn annifyr dros ben. Ond dylai pawb ddychryn o weld plismyn arfog yn gorchymyn dynes i ddadwisgo ar draeth yn ne Ffrainc. Mae hyn yn dangos yn gliriach na dim arall bod angen dybryd i’r Ffrancwyr ail-ystyried eu diffiniad idiosyncratig o seciwlariaeth, neu laïcité. Rwy’n seciwlarydd rhonc, ond mae’r ddelwedd yna wedi codi braw gwirioneddol arnaf.

Cafodd y ddynes ei dirwyo am beidio dangos digon o gnawd (nid oedd yn gwisgo burkini, er mai dyna prif darged y gwaharddiad). Yr esboniad a gafodd oedd nad oedd ei dewis o ddillad yn ‘parchu moesoldeb da’. Mae hynny’n frawychus o amwys a goddrychol, ond yn waeth na hynny mae’n swnio fel y math o gyhuddiad a wneir gan heddlu crefyddol Sawdi Arabia. Sylwch, gyda llaw, bod y plismyn hwythau wedi’u gorchuddio i’r un graddau. Un rheol i’r dynion, ac ati.

Fel mae’n digwydd, mae’r burkini‘n cynyddu mewn poblogrwydd, ac nid dim ond gan fwslemiaid y daw’r galw. Am wn i, gall fod yn ffordd ddefnyddiol o fwynhau traethau heb boeni cymaint am effeithiau pelydrau’r haul. Bydd yn ddiddorol gweld a ddaw dydd pan fydd mwyafrif y bobl sy’n ei wisgo’n gwneud hynny am resymau amgenach na chrefydd. Go brin y byddai’r gwaharddiad yn gynaliadwy wedyn. Dengys hyn pa mor fympwyol yw’r cyfan.

Heb sôn am fod yn erchyll, rhaid gofyn sut yn y byd mae’r Ffrancwyr yn dychmygu bydd hyn o fudd. Dyma’r ffordd berffaith o ddangos eu bod yn defnyddio grym y wladwriaeth er mwyn targedu ac erlyn mwslemiaid yn benodol. Beth bynnag eich barn am grefydd sy’n mynnu bod angen i fenywod orchuddio’u cnawd rhag ofn i bob dyn yn y cyffuniau ei threisio yn y fan a’r lle, mae’r gwaharddiad yma’n beryglus o wrth-gynhyrchiol a thwp.

Dyma’r peth gorau rwyf wedi’i ddarllen am y pwnc, gyda llaw. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ynghylch pwyntio bys

Darllenais So You’ve Been Publicly Shamed gan Jon Ronson yn ddiweddar. Mae’n sôn am bobl sydd wedi cael eu cywilyddio’n gyhoeddus oherwydd rhywbeth maent wedi’i ddweud neu ei wneud, yn gam neu’n gymwys. Mae’r we, a’r cyfryngau cymdeithasol yn enwedig, wedi hwyluso ein gallu i bwyntio bys, ac mae’n hawdd i feirniadaeth ysgafn droi’n pile-on blin o fewn dim o dro. Un o’r enghreifftiau a drafodir yw Justine Sacco, a bostiodd jôc ‘eironig’ (neu hynod hiliol) cyn i’w hawyren ddechrau am Cape Town. Erbyn iddi lanio, roedd hi’n elyn pennaf ar Twitter ac fe gafodd fraw ei bywyd wrth droi ei ffôn yn ôl ymlaen. Mae’r llyfr yn ddiddorol, a’n ein gorfodi i gofio bod person go iawn ar yr ochr arall. Mae’r wers honno’n bwysig, hyd yn oed os ydynt wedi dweud rhywbeth gwirioneddol erchyll.

Efallai y dylem gadw hyn mewn cof wrth ystyried y stori ddiweddaraf i gorddi’r Gymry Gymraeg, sef bod ymchwilydd i BBC Radio 5 Live wedi gwneud ymholiadau ar Twitter yn chwilio am gyfranwyr, gan ddweud yn benodol ei bod yn chwilio yn benodol am rywun ‘to talk about why the Welsh language should die‘. Aeth ati’n arbennig i wahodd dau ddyn sydd wedi gwneud sylwadau hynod ymfflamychol a thwp am yr iaith yn y gorffennol agos. Roedd ei dewis o eiriau’n syfrdanol o drwsgl a hyll.

Nawr, rwyf am rannu cyfrinach. Ers dechrau’r flwyddyn, rwyf wedi bod yn rhedeg cyfrif Twitter o’r enw Take That, Welsh. Y bwriad yw ail-drydar sylwadau dwl neu ddiflas am yr iaith Gymraeg. Nid mynd i ddadlau â’r bobl hyn yw’r nod; dim ond rhoi proc bach cynnil a gwneud y pwynt nad yw eu jôcs neu fyfyrdodau yn wreiddiol na’n ddiddorol o gwbl mewn gwirionedd. Beth bynnag, Take That, Welsh ail-drydarodd yr ymholiad uchod (ddiwrnod a hanner wedi iddio gael ei bostio), ac fe ffrwydrodd y Twitter Cymraeg bron yn syth. Er ei bod yn debygol y byddai rhywun arall wedi sylwi ar y neges yn hwyr neu’n hwyrach (mae’n rhyfeddol o hawdd dod o hyd i’r deunydd crai ar gyfer y cyfrif), rwyf felly’n teimlo peth cyfrifoldeb am y ffaith bod hyn wedi troi’n stori newyddion (gan ennyn ymateb y Comisiynydd, gwleidyddion a gwefan y Daily Mail). Mae gennyf deimladau cymysg am yr ymateb a gafwyd.

Nid yw’r ymchwilydd wedi dweud unrhyw beth o gwbl ers i’r sylw fynd yn feiral, ond buaswn yn dychmygu ei bod wedi cael braw gan ei bod wedi dileu’r trydariadau erbyn hyn. Er bod yr hyn a ddywedodd yn ymfflamychol, rwy’n gyndyn i’w beio hi’n unigol. Symptom o broblem sefydliadol a strwythurol yw beth ddigwyddodd mewn gwirionedd: cyfuniad o anwybodaeth lwyr am y Gymraeg a’i siaradwyr, a dyhead golygyddol i gynnwys safbwyntiau mor eithafol â phosibl er mwyn denu sylw. Mae’r rhan fwyaf o’r ymatebion rwyf wedi’i gweld yn beio’r BBC fel corfforaeth, sy’n deg yn yr achos yma, ond mae ambell un wedi mynd ar ôl yr ymchwilydd yn benodol, sy’n anffodus. Gwnaed cwyn i’r heddlu, hyd yn oed, sy’n hollol wirion.

Fel cyfrwng, mae Twitter yn tueddu i annog pile-ons ar adegau fel hyn. Mae unigolion yn gweld yr hyn a ddywedwyd, a’n teimlo’r angen i leisio’u barn. Wrth gwrs, os oes cannoedd (neu filoedd, hyd yn oed) o unigolion yn gwneud hynny, gall fod yn brofiad anghynnes iawn i’r sawl sydd o dan y lach, hyd yn oed os nad dyna fwriad y rhan fwyaf o’r beirniaid.

Mae’r mater yma’n ddyrys. Roedd y trydariad yn annerbyniol, felly ni ddylid fod wedi’i anwybyddu. Mae’n syrffedus eithriadol gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth byth a beunydd. Nid yw’n help chwaith bod cynifer ohonom yn teimlo o dan warchae ers y stori ffug wirion am yr Orsedd a’n tîm pêl-droed y penwythnos diwethaf. Ond mae angen ystyried pwy yw’r person sy’n gyfrifol am ein gwylltio. Ni ddylid ymateb yn yr un modd i sylw gan ymchwilydd ag i sylw gan berson o statws uwch. Mae hefyd yn wahanol os yw’r person yn pigo ffrae neu’n bod yn ymosodol. Byddaf weithiau’n gweud hwyl am ben creadyddion ffwndamentalaidd, er enghraifft, sydd mor hyderus ac awyddus i herio er gwaethaf eu hanwybodaeth lwyr am theori esblygiadol. Ond dim ond gwneud ei swydd (a dilyn cyfarwyddiadau ei rheolwyr, yn ôl pob tebyg) oedd yr ymchwilydd.

Gyda llaw, fe ddarlledwyd yr eitem yn gynharach heddiw. Roedd yn sgwrs adeiladol a diddorol yn y diwedd, heb gyfraniad gan eithafwyr (roedd yno ddyn o’r Alban yn anhapus â’r syniad o wario rhyw lawer o arian cyhoeddus ar ieithoedd lleiafrifol, ond heb fod yn rhy ddwl am y peth). Efallai bod hyn yn dangos bod yr awydd i chwilio pob twll a chornel i ganfod y pobl mwyaf eithafol posibl yn wrth-gynhyrchiol, a bod hynny’n wers ychwanegol a ddysgwyd yn sgil yr helynt hwn. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Pleidlais brotest

Mae mis a mwy wedi bod bellach ers y refferendwm, ac rwy’n dal i grafu pen ynghylch y bobl hynny a bleidleisiodd dros Brydain i adael yr Undeb Ewropeaidd ond yn y gobaith na fyddai’n digwydd. Yn y dyddiau wedi’r refferendwm, cafwyd llawer iawn o sôn am bobl yn difaru eu pleidlais yn syth, ac fe gafwyd erthyglau fel hon gan ambell un.

Nid ail-bobi’r dadleuon ar y ddwy ochr yw’r bwriad fan hyn. Er fy mod yn credu bod y canlyniad yn drychineb, rwy’n fodlon derbyn bod nifer anferth o’r bobl bleidleisiodd i adael wedi gwneud hynny ag arddeliad, a’u bod yn hapus â’r canlyniad. Rwy’n anghytuno’n chwyrn, ac rwy’n credu eu bod wedi pleidleisio ar sail celwyddau, ond maent i weld yn hapus felly llongyfarchiadau iddynt am wn i. Ond roedd fy nicter tuag at bobl fel awdur yr erthygl uchod yn chwyrn, ac nid yw’r dicter hwnnw wedi pylu o gwbl yn ystod y mis. Os rywbeth, mae wedi gwaethygu. Mae hi’n chwilio am ein cydymdeimlad, ond dim ond casineb sydd gennyf o hyd.

Mae dymuno rhoi ‘cic i’r sefydliad’ yn un peth. Gall fod yn opsiwn teg, pan mae yna ddewis amgen yr ydych yn digwydd ei hoffi, neu o leiaf yn gallu dygymod ag ef. Ond ni allaf fyth ddeall y dyhead i bleidleisio dros rywbeth sydd mewn gwirionedd yn wrthun i chi. Mae fel plentyn, sydd wedi pwdu â’i mam, yn penderfynu llosgi’r tŷ i gyd lawr a hithau’i hun y tu mewn. Refferendwm syml cenedlaethol a gafwyd ym Mehefin, ac roedd yn hysbys ei fod yn debygol o fod yn agos. Roedd pleidleisio dros yr union opsiwn nad oeddech yn dymuno’i weld yn anhygoel o anghyfrifol a thwp. Gyda phob difrifoldeb, rwy’n methu’n lân â deall y peth. Ac rwyf wedi trio.

Mae fersiwn debyg i’w gweld yn America ar hyn o bryd. Er i Bernie Sanders gydnabod mai Hillary Clinton sydd wedi cipio enwebiad arlywyddol y Democratiaid, a datgan ei fod am ei chefnogi, mae rhai o’i gefnogwyr pennaf yn mynnu na fyddent yn ei efelychu. ‘Bernie or bust’. Bydd rhai yn troi at y Gwyrddion (sy’n rhedeg ymgyrch syfrdanol o dwp), ond mae’n ddychrynllyd faint sy’n dweud yn agored y byddent yn cefnogi Donald Trump cyn Clinton. Mae hyn fel mynd allan am fwyd, sylweddoli nad yw eich hoff bryd ar gael rhagor, ac ymateb trwy saethu’ch hun yn eich llygad. Fel un oedd yn cefnogi ymgyrch Sanders, a’n ddigon llugoer tuag at Clinton, rwy’n gegrwth bod cynifer o’i gefnogwyr yn fodlon dweud yn gyhoeddus y byddai’n well ganddynt gefnogi ffasgydd go iawn os nad yw eu hoff ddewis ar gael mwyach. Mae’r peth yn pathetig, ac, yn llythrennol, yn berygl bywyd. Rhaid iddynt gallio. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Cyflafan Orlando

Dyma ffaith syfrdanol: dros y penwythnos yn America, bu chwech achos gwahanol o saethu torfol. Un o’r rhain oedd y gwaethaf yn hanes y wlad; mae cadarnhad bod 51 wedi’u lladd mewn clwb nos yn Orlando sy’n boblogaidd â phobl hoyw. Dyma’r gyflafan waethaf yn erbyn hoywon yn y gorllewin ers yr Holocost.

Americanwr oedd y llofrudd, yn enedigol o Efrog Newydd, ond mae ei rieni o Affganistan. Mae’n debyg bod Omar Mateen wedi ffieiddio o weld dau ddyn yn cusanu, ac wedi mynd ati’n benodol i dargedu’r clwb hwn. Fe ddatganodd ei gefnogaeth i’r Wladwriaeth Islamaidd, ac er ei bod yn annhebygol bod y grŵp hwnnw wedi chwarae rhan yn y cynllunio, roeddent yn berffaith hapus i dderbyn y ‘clod’. Unwaith y daeth i’r amlwg bod modd beio’r cyfan ar islam, roedd ymateb ceidwadwyr y wlad mor anochel ag y buasech wedi tybio.

Byddai ychydig o gyd-destun yn ddefnyddiol fan hyn. Bu ymosodiad erchyll ar Ysgol Sandy Hook yng Nghonnecticut ar Ragfyr 14, 2012, a lladdwyd 27. Roedd 20 ohonynt yn blant chwech a saith oed. Y gyflafan yn Orlando oedd y 998fed achos o saethu torfol ers hynny. Mae hynny’n cyfateb i bron un bob dydd, tros gyfnod o dair blynedd a hanner. Er y sgrechian gan geidwadwyr bod ‘islamiaeth radical’ yn bygwth y weriniaeth, dim ond tri o’r ymosodiadau hyn a gyflawnyd gan fwslemiaid eithafol. Wrth gwrs mae terfysgaeth islamaidd yn broblem (fel rwyf wedi’i drafod droeon), ond mae’n berffaith amlwg i bawb synhwyrol bod perthynas rhwng y rhestr anferth yma o achosion o saethu (sy’n hollol unigryw yn y byd gorllewinol) ac obsesiwn Americanwyr â gynnau. Er bod Mateen eisoes wedi dod i sylw’r gwasanaethau cudd yn y gorffennol, bu modd iddo brynu assault rifle AR-15 yn gwbl gyfreithlon. Arf ar gyfer maes rhyfel yw hwnnw; nid oes rheswm o fath yn y byd i’r fath beth fod ar gael i unigolion preifat.

Cri ceidwadwyr yw bod angen cadw Americanwyr yn saff. Y ffordd amlwg o wneud hynny yw newid y polisi gynnau, ond mae hynny’n wrthun iddynt. Yn anffodus, o gofio na newidiodd unrhyw beth yn dilyn y golygfeydd arswydus o Sandy Hook, nid oes llawer o obaith y bydd pethau’n wahanol y tro hwn chwaith. Mynnir na ddylid ‘politiceiddio’ digwyddiadau fel hyn. ‘Nid nawr yw’r amser’ i drafod y broblem gynnau, meddent. Lol llwyr yw hynny: dyma’r union amser i siarad am y peth a gweithredu. Os nad nawr, pryd? Esgus i aros i’r mater fynd yn angof a llithro oddi ar yr agenda yw dweud na ddylid trafod newid polisi fel ymateb uniongyrchol i’r fath ymosodiadau.

Llawer gwell gan y Gweriniaethwyr yw eistedd ar eu dwylo a gwneud dim ond cynnig eu ‘meddyliau a’u gweddïau‘. Dyna un o’m cas ymadroddion. Mae’n waeth nag ofer, a’n cymryd lle ateb go iawn. Mae gan aelodau’r Gyngres y gallu i rwystro ymosodiadau fel hyn trwy gyflwyno deddfau. Nid yw’r malu cachu diog a gwag yna’n helpu unrhyw un. Yn wir, mae hyd yn oed yn fwy rhagrithiol na’r arfer yn yr achos hwn, gan fod polisïau’r Gweriniaethwyr tuag at bobl hoyw’n llawn casineb hyll. Cafwyd y datganiad hwn gan Ted Cruz, er enghraifft, y dyn a ddaeth yn ail i Trump yn ras ar gyfer enwebiad arlywyddol y blaid eleni. Dywedodd:

If you’re a Democratic politician and you really want to stand for LGBT, show real courage and stand up against the vicious ideology that has targeted our fellow Americans for murder.

Mae’r rhagrith yn codi cyfog. Nid oes gan Cruz unrhyw hawl i’r tir uchel moesol ar fater hawliau pobl LHDT, gan fod poeri casineb tuag atynt wedi bod yn sail i’w holl yrfa wleidyddol. Yn wir, fe rannodd lwyfan â Christion eithafol o’r enw Kevin Swanson sy’n dweud yn blaen y dylid dïenyddio pobl hoyw. Pan mae ymgeiswyr arlywyddol yn cofleidio rhywun felly, pa ryfedd bod rhywun yn mynd i geisio rhoi’r syniadau ar waith? Gan fod Cruz wedi gwrthod sawl cyfle i gondemnio Swanson, dylai fod yn onest a chymeradwyo Mateen.

Yr unig reswm mae ceidwadwyr y Gweriniaethwyr wedi cynhyrfu am y gyflafan hon yw mai mwslem oedd yn gyfrifol. Yn y cyfamser, ar yr un diwrnod, arestwyd dyn yn Los Angeles oedd ar ei ffordd i ymosod ar ddigwyddiad LA Pride. Roedd ganddo lond car o arfau a ffrwydron. Dyn gwyn o’r enw James Howell oedd hwnnw, a Christion yn ôl pob tebyg. Rhagfarn a chasineb yn erbyn pobl hoyw yw’r broblem fan hyn. Dylid canolbwyntio ar y dioddefwyr. Nid yw union ffydd y sawl sy’n eu targedu’n arbennig o bwysig; ffwndamentaliaid treisgar a rhagfarnllyd yw’r gelyn, beth bynnag eu hunion ddaliadau crefyddol. Mae’n anodd dweud y gwahaniaeth rhyngddynt yn y pen draw. Os yw’r Gweriniaethwyr o ddifrif am wrthwynebu’r Wladwriaeth Islamaidd, dylent gofleidio ac arddel hawliau pobl LHDT. Y gwir yw eu bod yn debycach i’w gelynion honedig nag y maent yn barod i’w gydnabod. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Dylai Clinton ddewis Elizabeth Warren fel dirprwy

Er mai Bernie Sanders yr oeddwn i’n ei gefnogi, mae’n gyffrous bod un o ddwy brif blaid America wedi dewis menyw fel ei hymgeisydd arlywyddol am y tro cyntaf yn hanes y wlad. Yn anochel, mae’r dyfalu wedi dechrau ynghylch ei dewis ar gyfer y dirprwy-arlywyddiaeth. Rwy’n credu bod y dewis gorau’n amlwg: Elizabeth Warren, seneddwraig Massachusetts ac un o wleidyddion gorau’r wlad. Mae ei haraith ddiweddar yn y fideo yma’n arbennig, lle mae’n ymosod yn chwyrn ar Donald Trump, y ffasgydd oren sydd wedi llwyddo i gipio enwebiad y Gweriniaethwyr:

Er ei bod o anian debyg i Sanders, o asgell chwith boblyddol y blaid, mae hi bellach wedi datgan ei chefnogaeth i Clinton. Byddai ei chynnwys ar y ‘tocyn’ yn fodd o ail-uno’r blaid, wedi i’r ras ar gyfer yr enwebiad droi’n chwerw ar brydiau. Byddai’n gallu denu llawer o gefnogwyr Sanders, sydd efallai wedi pwdu braidd ar hyn o bryd. Mae Clinton yn ymgeisydd digon ceidwadol wedi’r cyfan, a byddai’n dda cael rhywun fel Warren i barhau â’r gwaith, a ddechreuwyd gan Sanders, o’i gorfodi i symud yn nes i’r chwith.

Rhaid cyfaddef, mae yna ran fawr ohonof yn hoff iawn o’r syniad o weld y fenyw gyntaf i ennill yr enwebiad yn dewis menyw arall fel dirpryw. Pam lai, wedi’r cyfan? Yn fwy na hynny, yn fy marn i, byddai’n ddewis strategol arbennig o graff eleni. Mae Donald Trump eisoes wedi dangos nad yw’n gallu ymdopi â chael ei herio gan fenywod. Byddai pum mis o gael ei golbio’n ddi-baid gan ddwy ohonynt yn sicr o ennyn mwy fyth o sylwadau hyll ganddo, gan niweidio eto fyth yr ychydig obaith sydd ganddo o ennill yr etholiad ym mis Tachwedd. Fel yn y fideo uchod, byddai Warren yn gallu gwneud y gwaith o roi Trump yn ei le. Byddai’n golygu ymgyrch etholiadol swreal a digalon, ond byddai’r fuddugoliaeth yn y pen draw gymaint â hynny’n felysach o’r herwydd.

Y cwestiwn yw: a fyddai Warren ei hun eisiau’r swydd? Mae hi wedi cael dylanwad aruthrol yn y Senedd ers cael ei hethol yn 2013, ac rwy’n cydymdeimlo â’r awgrym bod modd iddi gyflawni mwy yn y siambr honno nag fel dirprwy-arlywydd. Mae’n amheus faint o rym sydd gan ddirprwy-arlywyddion mewn gwirionedd; rôl symbolaidd ydyw i raddau helaeth. Diau mai prif resymau’r rhan fwyaf o ddirprwy-arlywyddion iddynt dderbyn y cynnig yw ei fod yn blatfform da i ymgyrchu ar gyfer y brif swydd wedi i ddau dymor y bós ddirwyn i ben (er nad yw hynny wedi digwydd ers i George HW Bush olynu Reagan ym 1988). Ond petai Clinton yn ennill dau dymor, byddai’n arlywydd nes 2024. Byddai cael Democrat yn y Tŷ Gwyn am 16 blynedd yn olynol yn gamp anarferol, ond mae hirach na hynny’n teimlo bron yn amhosibl (gan gymryd mai eithriad yw penderfyniad y Gweriniaethwyr eleni i ddewis yr ymgeisydd gwaethaf posibl).

Mae’n siwr byddai’n benderfyniad anodd iddi petai’n cael y cynnig, ond rwy’n hyderus y byddai’n gam buddiol. Hyd yn oed os nad yw’r swydd yn golygu grym uniongyrchol, mae’n wleidydd craff a byddai’n gallu defnyddio’i dylanwad i osod diwygio’r economi er budd pobl gyffredin yn gadarn ar yr agenda. Bonws hyfryd fyddai’r olwg ar wyneb Trump ar fore’r 9fed o Dachwedd, wedi iddo dderbyn ei gweir haeddiannol. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Y broblem gyda Duw Yw’r Broblem

Mae Duw Yw’r Broblem yn gyfrol od. Yn anffodus, roedd f’argraffiadau ar ôl ei gorffen yn debyg iawn i’r hyn a ddywedais yn y blogiad blaenorol, pan yr oeddwn chwarter ffordd drwodd.  Roeddwn yn cydweld yn llawen â rhesymau’r awduron dros ymwrthod â’r cysyniadau traddodiadol o dduw, ac os rywbeth mae Cynog Dafis yn mynd ymhellach o lawer nag yr oeddwn wedi’i ddisgwyl. Eto i gyd (er nad yw hyn yn syndod, efallai) nid yw’r ymgais i esbonio pam eu bod yn parhau i alw’u hunain yn Gristnogion yn foddhaol o gwbl.

Rhagymadrodd gweddol fyr yw cyfraniad Aled Jones Williams, a’i brif neges yw ei fod yn ystyried ‘Duw’ yn ferf yn hytrach nag fel enw neu wrthrych. Rwy’n canfod fy hun yn cytuno ag adolygiad y Parchedig Gwynn ap Gwilym (o bawb) yn y rhifyn cyfredol o Barn, lle mae’n galw hyn yn ‘gawl eildwym o hen syniadau’. Yn fy marn i, fflwff ffug-ddwys yw’r rhan yma (er fy mod yn hynod hoff o nofelau’r awdur).

Cyfraniad Cynog Dafis yw mwyafrif helaeth y llyfr, ac mae llawer ohono’n ddiddorol. Dro ar ôl tro, wrth i Dafis gyflwyno syniadau diwinyddion fel John Houghton neu Richard Swinburne neu Dewi Z Phillips, roeddwn yn pigo’r tyllau yn y dadleuon wrth ddarllen, eisoes yn hanner-llunio fy mlogiad nesaf yn fy mhen (mae dadleuon Swinburne yn enwedig yn hollol frawychus). Yna, o droi’r dudalen, dyna ganfod bod Dafis ei hun yn mynd yn ei flaen i egluro’r union wallau hynny, gan wneud fy ngwaith drostof. Roeddwn yn cytuno ag ef yn amlach na pheidio, ac roeddwn hyd yn oed yn lled fodlon â’i ymdriniaeth â’r ‘anffyddwyr newydd’, er fy mod wrth reswm yn anghytuno mewn rhai mannau.

Erbyn i’r gyfrol dynnu at ei therfyn, mae crefydd a Christnogaeth wedi’u datgymalu’n ddigon trylwyr. Yn wir, buaswn yn hapus iawn i fod wedi ysgrifennu’r geiriau canlynol fy hun:

Yr hyn a agorai’r drws i drafodaeth eglur fyddai cydnabod, yn blwmp ac yn blaen, nad oes unrhyw reswm i gredu bod y fath beth yn bod â’r Goruwchnaturiol, mai ffrwyth y dychymyg creadigol yw crefyddac mai creadigaeth Dyn yw Duw. (t. 163)

Rhwystredigaeth felly oedd darllen y paragraff dilynol:

Nid amharchu’r syniad, fel y mae’r ‘atheistiaid newydd’ yn ei wneud, fyddai hynny. Duw yw un o greadigaethau gwychaf diwylliant dyn, arwydd o aruthredd ei gyrhaeddiad, nid o’i anaeddfedrwydd a’i gamddealltwriaeth. Bydd parchu, rhyfeddu at a myfyrio ar blygion anchwiliadwy y cysyniad gogoneddus yma ar gael i ni o hyd i gyfoethogi defod a defosiwn. Mi allwn ddal i ymateb i odidowgrwydd salmau’r Iddewon gynt. Mi allwn gael ein hysbrydoli eto gan emynyddiaeth y traddodiad efengylaidd Cymraeg. Mi allwn yn wir anghofio’n hanghrediniaeth, ei ohirio’n wirfoddol, dros dro. Ond rhan annatod o fod yn driw i ysbryd ein hoes ni, parhad o Oes y Goleuo, fydd ein hatgoffa ni’n hunain yn gyson mai dyna’n union yr ydyn ni’n ei wneud’ (t.163-4)

Mor agos!

Nid wyf yn siwr pam mae Dafis yn credu bod arddel anffyddiaeth yn golygu nad oes modd gwerthfawrogi rhannau o’r Beibl fel llenyddiaeth, neu emynau fel darnau o gelfyddyd. Mae Dawkins ei hun wedi dweud droeon ei fod yn hoffi canu emynau, ac (cadwch hyn yn dawel) mae gennyf ambell ffefryn fy hun. Nid oes angen anghofio’n hanghrediniaeth am eiliad er mwyn gwneud hynny, ac mae’r awgrym i’r gwrthwyneb yn rhyfedd.

Mae’n drawiadol nad oes ymdrech i gyfiawnhau’r honiad mai Duw yw un o ‘greadigaethau gwychaf diwylliant dyn’, yn enwedig gan fod Dafis ei hun newydd dreulio 130 tudalen yn esbonio pam nad yw’r syniad yn gwneud synnwyr o gwbl. Ceisio’i chael hi’r ddwy ffordd yw hyn, rwy’n amau. Dywed ei fod yn arddel rhyw fath o ddyneiddaeth grefyddol, gyda ‘lle allweddol’ i’r ‘mythos Cristnogol’ (t.169), ond unwaith eto dyma ganfod fy hun yn dyfynnu beirniadaeth Gwynn ap Gwilym: ‘Anwybyddir y cwestiynau sy’n codi wedyn, sef os nad yw Iesu’n Dduw, pa awdurdod sydd i’w ddysgeidiaeth mwy nag i ddysgeidiaeth unrhyw fod meidrol arall? Ac o’i amddifadu o wyrth ei ymgnawdoliad, ac yn arbennig ei atgyfodiad, pa ystyr sydd i’w farwolaeth ar y groes?’ Yr elfennau hynny yw holl sail y ‘mythos Cristnogol’; hebddynt, rhaid i’r gweddill i gyd syrthio.

Os yw popeth am grefydd yn gelwydd, beth yw pwrpas glynu ati? Mae Dafis yn ‘gweld cysyniad y dwyfol nid yn unig fel rhan o ymdrech dyn i ddod o hyd i gysur ac ystyr ond hefyd fel ffordd iddo ymgyrraedd at ymwybod a safonau uwch, i drosgynnu cyfyngiadau ei natur e ei hun’ (t.167). A dyna’n amlwg lle mae’n fy ngholli’n llwyr. Rwy’n anghytuno bod crefydd yn cynnig cysur beth bynnag, hyd yn oed ar ei thelerau ei hun. Ond gan fod Dafis yn cytuno nad yw crefydd yn adlewyrchu realiti, o ble yn y byd y daw’r cysur yma (heb sôn am yr ‘ystyr’!)? Mae’r cysur yn ddibynnol ar wirionedd yr athrawiaeth. Os yw’r athrawiaeth yn anghywir, nid oes sail i’r cysur chwaith. Mae hyn yn chwerthinllyd o amlwg. Ymddengys mai agwedd Dafis fan hyn yw’r hyn y geilw Daniel Dennett yn ‘belief in belief‘: y syniad bod crefydd yn ‘beth da’, gan fod ei angen ar bobl eraill, hyd yn oed os nad yw’n gallu iselhau ei hun i gredu’r stwff ei hun. Mae’n agwedd eithaf nawddoglyd, a bod yn onest.

Yn union fel nad oes angen crefydd er mwyn teimlo rhyfeddod, neu gariad, neu garedigrwydd, nid oes ei hangen er mwyn ‘ymgyrraedd at safonau uwch’ chwaith. Rwy’n benderfynol o chwalu’r syniad anghynnes bod gan grefydd fonopoli ar y pethau hyn. Ar ôl mynd i’r draferth o chwalu’r pileri sy’n cadw crefydd i fyny, mae’n rhwystredig bod Dafis yn mynnu ceisio gosod y piler ffug hwn yn eu lle. Dyma sy’n difetha’i thesis yn llwyr. Mae’n debyg mai rhesymau emosiynol sy’n gyfrifol am ei gyndynrwydd i gymryd y cam olaf amlwg a chofleidio anffyddiaeth, ac mae hynny’n biti. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Gwrthsemitiaeth a’r chwith

Mae’n hen bryd i ni gydnabod a datrys problem ddifrifol, sef bod gan lawer gormod o bobl y chwith wleidyddol obsesiwn annifyr gydag Iddewon. Wrth gwrs, mae rhagfarn yn erbyn Iddewon yn hen stori, ac mae’r traddodiad yn parhau ymysg y dde eithafol hefyd. Ond y gwir yw bod llawer ar y chwith, er yn brolio’u hatgasedd tuag at hiliaeth, yn euog o’r un peth, hyd yn oed os nad ydynt yn sylweddoli hynny.

Mewn gwirionedd, mae hyn wedi bod yn berwi o dan yr wyneb ers talwm. Fe ffrwydrodd dros y dyddiau diwethaf, fodd bynnag, ar ôl i hen sylwadau gan yr aelod seneddol Llafur, Naz Shah, ddod i’r amlwg, ac ar ôl i Ken Livingstone waethygu pethau’n waeth o lawer wrth geisio’i hamddiffyn. Disgyblwyd mwy o wleidyddion o’r blaid heddiw wedi i hen sylwadau o’u heiddo hwythau ddod i sylw’r wasg. Ni fyddai’n syndod os oes mwy i ddod. Y canlyniad rhyfeddol yw mai stori fawr wleidyddol y foment, yn 2016, a hithau’n wythnos etholiadau pwysig, yw gwrthsemitiaeth o fewn prif blaid y chwith ym Mhrydain. Yn hytrach na thrafod y gwasanaeth iechyd ac addysg, rydym yn canfod ein hunain yn siarad am Hitler, cytundeb Haavara 1933, a Seionaeth. Fel rhywun sy’n gosod ei hun yn sicr iawn ar begwn chwith y sbectrwm, rwyf wedi cael llond bol.

Rwyf wedi esbonio fy safbwynt ynghylch Israel a Phalesteina o’r blaen. Yn syml iawn, rwy’n cytuno’n llwyr bod llawer o bolisïau llywodraeth Israel yn anfaddeuol, tra’n cydnabod bod Hamas yn fudiad adweithiol a threisgar sy’n gwneud y sefyllfa’n amhosibl. Dyna’r cyfan sydd angen ei ddweud am y pwnc, oherwydd dylem fod yn gofyn cwestiwn pwysicach: pam siarad am Israel o gwbl fan hyn?

Yr ymateb diflas i ffrae Livingstone gan gymaint o’i gefnogwyr oedd bod ei sylwadau’n ffeithiol wir. Na: nac oeddent. Ond y drwg, rwy’n credu, yw bod mynd i ddadl fanwl ynghylch union fwriad a chyd-destun hanesyddol cytundeb Haavara ac ati’n methu’r pwynt yn llwyr. Hyd yn oed petai sylwadau Livingstone yn berffaith wir, buasent yn dal i fod yn wrthsemitig, a buasai’r dyn yr un mor hiliol am eu dweud. Nid cywirdeb ei fersiwn o hanes sy’n berthnasol, ond yn hytrach y ffaith iddo benderfynu ymateb i sylw dwl rhywun arall am Israel trwy sôn am Hitler o gwbl. Nid oedd gan y Führerunrhyw beth i’w wneud â’r mater o dan sylw. Mae’r ffaith mai malu awyr am hwnnw oedd greddf Livingstone yn hen ddigon o dystiolaeth i’w alw’n dwpsyn hiliol, heb fod angen ffonio hanesydd. Dylid cofio hefyd bod ganddo record hir o ddweud pethau dwl am Iddewon. Nid un sylw unigol yw’r drwg, felly, ond y ffaith mai dyma’r diweddaraf yn unig. Mae’n dipyn o obsesiwn ganddo.

Wrth gwrs ei bod yn wir bod y label ‘gwrthsemitiaeth’ yn aml cael ei ddefnyddio i bardduo a thawelu beirniadaeth deg o lywodraeth Israel. Ond nid dyna ddigwyddodd yn yr achos yma. Mae Ken Livingstone wedi cael ei gyhuddo o fod yn wrthsemitydd oherwydd ei fod, mewn gwirionedd, yn hilgi gwrthsemitig. Rwy’n amheus iawn o unrhyw un sy’n cael trafferth deall hynny, ac o unrhyw un sy’n gwadu bodolaeth y broblem ehangach yn ehangach.

For those in any doubt, this is just a little snapshot of what Antisemitism in 2016 looks like. It is very real. pic.twitter.com/aCImyG6OeC

— Luciana Berger (@lucianaberger) April 28, 2016

Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Rhagrith y gwrth-erthylwyr

Roedd yn hwylio gwylio’r ymateb i sylwadau Donald Trump ynghylch erthyliad ychydig ddyddiau yn ôl. Wrth geisio egluro ei safbwynt ynghylch erthyliad, dywedodd y dylid cosbi menywod sy’n dewis difa’u ffetws (fe dynnodd y sylwadau’n ôl yn fuan wedyn). Mae’r syniad hwnnw’n erchyll, ac fel byddai rhywun yn ei ddisgwyl, cafodd feirniadaeth chwyrn gan bawb sy’n cefnogi hawl menywod i reolaeth dros eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Ond cafodd ei gondemnio gan lawer o’r garfan gwrth-erthyliad hefyd, gan gynnwys yr ymgeiswyr eraill ar gyfer enwebiad arlywyddol ei blaid, ac roedd eu sylwadau’n ddadlennol.

Mae Ted Cruz yn eithafwr yn ngwir ystyr y gair ynghylch y mater yma. Mae’n gwrthwynebu erthyliad ym mhob senario, gan gynnwys pan gafodd perchennog y groth ei threisio, ac mae wedi brolio cefnogaeth oddi wrth grwpiau sy’n annog trais yn erbyn doctoriaid. Condemnio Trump o’r dde a wna Cruz, gan ddweud bod hyn yn dangos nad yw hwnnw’n deall y pwnc yn iawn ac nad yw, mewn gwirionedd, yn wrth-erthylwr o argyhoeddiad.

Fel mae’n digwydd, mae’r cyhuddiad hwnnw’n berffaith wir. Ychydig flynyddoedd yn ôl, wedi’r cyfan, roedd Trump yn llafar o blaid hawl menywod i erthylu. Er mai apêl Trump i’w gefnogwyr yw ei fod yn ‘ei dweud hi fel y mae’, mae’n amlwg mai dweud beth bynnag sy’n gyfleus ar y pryd a wna.

Mae ymgyrchwyr gwrth-erthyliad profiadol wedi treulio degawdau lawer yn llunio’u neges yn ofalus. Gwyddant yn iawn bod y syniad o gosbi menywod yn hynod amhoblogaidd, felly ânt i ymdrech fawr i osgoi dilyn y trywydd hwnnw’n gyfan gwbl. Gan fod Trump yn ddyn gwirioneddol dwp, fodd bynnag, nid oedd yn deall hyn, a phan ofynnwyd y cwestiwn, fe syrthiodd yn rhwydd i’r trap. Trwy roi’r fath sylw i’r syniad o gosbi menywod, mae Trump wedi peryglu naratif ofalus yr ymgyrchwyr mwy slic.

Nid oes ryfedd i’r rheiny ddychryn. Eu problem yw bod Trump wedi amlygu gwall anferth yn eu rhesymeg: os yw erthylu gyfystyr â llofruddio, pam gwrthwynebu cosbi’r llofruddwyr? Rydym yn cosbi llofruddwyr ym mhob achos arall. Yr unig wahaniaeth yw amhoblogrwydd y syniad ymysg trwch y boblogaeth. Ond yn rhesymegol, nid yw’r anghysondeb yn dal dŵr o gwbl. Am yr un rheswm, mae safbwynt Cruz, sydd eisiau gwrthod caniatáu eithriadau yn achos trais a llosgach, yn fwy cyson nag un Kasich, sydd am eu caniatáu. Os derbyn mai lladd yw difa ffetws, nid yw amgylchiadau creu’r ffetws hwnnw’n berthnasol o gwbl.

Mae ateb syml iawn i’r anghysondeb yma, wrth gwrs: nid lladd yw erthylu. Hawdd. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Duw Yw’r Broblem

Nid fy ngeiriau i, ond teitl llyfr newydd gan Aled Jones Williams a Chynog Dafis. Rwyf wedi prynu’r gyfrol (mae’r teitl yn apelio, wedi’r cyfan), ac wedi darllen tua’i chwarter hyd yn hyn.

Mae’r awduron, er yn galw’u hunain yn Gristnogion, yn gwadu bodolaeth y duw personol, Cristnogol, traddodiadol. Cyn i mi ddechrau darllen, fy nhybiaeth oedd eu bod am arddel rhyw fath o ddeistiaeth, ond maent yn mynd ymhellach na hynny, gan wrthod y syniad o fod goruwchnaturiol yn gyfan gwbl. Er eu bod yn gwrthod pob athrawiaeth a gysylltir â’r grefydd honno, maent yn mynnu mai Cristnogion ydynt o hyd, a’n ymwrthod yn gyndyn â’r label ‘anffyddiaeth’. Dyma un o’r pynciau a gafodd sylw gan Taro’r Post heddiw, ac roeddwn i’n un o’r cyfranwyr (mae cyfweliad gyda Chynog Dafis yn dechrau ar ôl 37:50, a’m hymateb i a chyfranwyr eraill ar ôl 48 munud).

I bob pwrpas, maent eisoes wedi gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith o ddiosg eu crefydd, ac un cam bach pellach yn unig sydd ei angen arnynt er mwyn cyrraedd anffyddiaeth. Er eu bod yn diffinio’r fersiwn gyfarwydd o dduw allan o fodolaeth, maent yn dal eu gafael ar ryw gysyniad annelwig, cymylog, llithrig, trosiadol, a galw hwnnw’n dduw yn ei le. Afraid dweud nad yw hyn yn dal dŵr yn fy marn i. Nid yw’r ‘ysbrydol’, beth bynnag yw ystyr hynny, yn gysyniad defnyddiol mewn gwirionedd, ac mae’r dystiolaeth o’i blaid yr un mor absennol ag ydyw yn achos y syniadau crefyddol mwy traddodiadol.

Yn ei gyfweliad yntau, un o ddiffiniadau Cynog Dafis ar gyfer ‘ffydd’ yw ‘cydymdeimlad at gyd-ddyn’. Diau bod y diffiniad yna’n un diarth i 99% o Gristnogion, ond dyna’r rheswm am y llyfr, am wn i. Rwy’n credu ei fod yn ddiffiniad digon anghynnes, a bod yn onest. Go brin mai ei fwriad yw awgrymu bod gan grefydd fonopoli dros y syniad o ‘fod yn berson dymunol’, ond felly mae’n swnio i mi. Rwy’n gwneud fy ngorau i drin fy nghyd-ddyn â pharch ac i fod yn berson da, ond nid yw hynny’n fy ngwneud yn Gristion o fath yn y byd. Nid oes angen ffydd i fod yn dda, ac nid oes gennyf syniad yn y byd sut y byddai derbyn syniadau ‘crefyddol’ neu ‘ysbrydol’ yn fy ngwneud yn berson gwell.

Chwarae gemau di-angen yw diffinio ‘ffydd’ neu ‘dduw’ fel hyn. Rwy’n hapus i dystio bod y teimlad o ryfeddod wrth syllu ar y sêr ar noson glir, neu’r teimlad o gariad wrth edrych ar wynebau hapus ein plant, yn hynod ddwfn. Gallant deimlo’n anesboniadwy o gryf. Ond nid yw eu mynegi mewn termau ‘crefyddol’ neu ‘ysbrydol’ yn ychwanegu unrhyw beth o gwbl. Fflwff ffug-ddwys yw hyn mewn gwirionedd.

Fel y soniais, nid wyf wedi gorffen y llyfr eto. Mae’n bosibl iawn y bydd mwy i’w ddweud amdano’n fuan, felly. Yn benodol, rwy’n edrych ymlaen i gyrraedd y darn eithaf helaeth am yr ‘Anffyddiaeth Newydd’. Cawn weld faint o dir cyffredin fydd rhyngom. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Tony Judt: Postwar

Nid oedd gennyf gymaint â hynny o ddiddordeb mewn hanes yn fy nyddiau ysgol, am ryw reswm, ond erbyn hyn mae’n un o’m hoff bynciau. Rwyf newydd orffen Postwar, campwaith cynhwysfawr y diweddar Tony Judt, ac mae’n glamp o lyfr. Hanes cyfandir Ewrop gyfan rhwng 1945 a 2005 ydyw. Roeddwn wrth fy modd â’r gyfrol o’r dechrau i’r diwedd (er iddi gymryd misoedd o ddarllen gofalus), ac mae’n enwedig o dda wrth ddisgrifio, wlad wrth wlad, sut y dymchwelodd cyfundrefnau comiwnyddol dwyrain y cyfandir. Hoffais hefyd y portread o Gorbachev fel creadur heb lawer o syniad y byddai glasnost a perstroika yn arwain at ddiwedd yr Undeb Sofietaidd. Ni ddeallodd erioed yr hyn a ddechreuodd, yn ôl Judt, ac (er gwaethaf honiadau ceidwadwyr America) nid i bolisïau Ronald Reagan oedd y diolch chwaith; roedd yr Undeb Sofietaidd yn sicr o syrthio o dan ei phwysau ei hun yn hwyr neu’n hwyrach.

Wedi dweud hynny, efallai mai un o themâu’r gyfrol yw nad yw unrhyw sefyllfa’n anochel. Roedd cyfnod y Rhyfel Oer, er y tensiwn, yn eithriadol o sefydlog (mae Judt hyd yn oed yn awgrymu bod ambell lywodraeth gorllewinol wedi ochneidio’u rhyddhad yn dawel bach pan godwyd Wal Berlin ym 1961), i’r graddau bod y rhan fwyaf o bobl wedi dod i dderbyn mai fel hynny fyddai pethau am byth. Dywed Judt:

For forty-five years – beyond the living memory of most Europeans – the uneasy outcome of World War Two had been frozen in place. The accidental division of Europe, with all that it entailed, had come to seem inevitable. And now it had been utterly swept away. In retrospect the post-war decades took on a radically altered significance. Once understood as the onset of a new era of permanent ideological polarization they now appeared for what they were: an extended epilogue to the European civil war that had begun in 1914, a forty-year interregnum between the defeat of Adolf Hitler and the final resolution of the unfinished business left behind by his war. (t.749)

Yn hynny o beth, roedd rhaid i chwyldroadau 1989 newid sut yr edrychasai Ewropeaid ar eu gorffennol yn ogystal ag ar eu dyfodol. Yn yr un modd, rwyf wedi dadlau droeon yn erbyn y syniad bod hanes yn datblygu, yn anochel, tuag at fwy o gyfiawnder. Mae perygl i ni fod yn ymfodlonus a thybio bod rhaid i ddatblygiad er gwell ein cymdeithas ers 1945 fod yn barhaol. Ond ers cyhoeddi Postwar yn 2005, mae Twrci, Hwngari ac (yn enwedig) Rwsia wedi dilyn trywydd mwy awtocrataidd a sinistr. Am yr un rheswm, rwy’n gwrthod y syniad bod mwy o seciwlariaeth yn anochel; heb ymdrech barhaus, hawdd iawn fyddai i ni lithro’n ôl.

Os oedd gan Judt un thema fawr wrth ysgrifennu’r llyfr, yna’r broses o gofio yw honno. Cyn darllen, roeddwn eisiau gwybod sut y bu i Orllewin yr Almaen newid o fod yn wlad Natsïaidd i fod yn wlad ryddfrydol a democrataidd mor sydyn. Yr ateb syml, mae’n debyg, yw i’r wlad fynd ati’n fwriadol i ‘anghofio’ beth ddigwyddodd yn ystod y rhyfel, a dyfeisio’r myth bod y wlad wedi cael ei herwgipio gan Hitler a’i griw, fel petai’r Natsïaid yn estroniaid a ymddangosodd yn ddi-rybudd allan o ryw fath o wagle. Mewn gwirionedd, roedd 8 miliwn o boblogaeth y wlad yn aelodau o’r Blaid Natsïaidd wrth i’r rhyfel ddirwyn i ben, a’r unig beth amdani ar ôl i bawb gallio oedd cytuno i arddel rhyw fath o amnesia torfol.

Er i lywodraeth newydd Konrad Adenauer ddechrau proses o ‘ddadnatsïeiddio’, sef gwahardd cyn-Natsïaid o’r gwasanaeth sifil, maes addysg, yr heddlu a phroffesiynau pwysig eraill, y gwir amdani oedd bod llawer gormod ohonynt i’r wlad allu parhau hebddynt. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ôl yn eu swyddi o fewn ychydig o flynyddoedd, mae’n debyg. Ar ben hynny, yn ôl arolwg ym 1946,

one German in three agreed with the proposition that ‘Jews should not have the same rights as those belonging to the Aryan race’. This is not especially surprising, given that respondents had just emerged from twelve years under an authoritarian government committed to this view. What does surprise is a poll taken six years later in which a slightly higher. percentage of West Germans—37 percent—affirmed that it was better for Germany to have no Jews on its territory. But then in that same year (1952) 25 percent of West Germans admitted to having a ‘good opinion’ of Hitler. (t.58)

Canlyniadau tebyg oedd i arolygon yn Awstria hefyd, er i’r wlad honno lwyddo i bortreadu’i hun fel ‘Hitler’s first victim‘. Roedd y rhagrith yn rhyfeddol, ond efallai mai’r amnesia oedd yr unig ateb ymarferol. Roedd cosbi pawb yn amhosibl, a fwy na thebyg yn wrth-gynhyrchiol.

Yn ei epilog, mae Judt yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu’r gorffennol o’r newydd i bob cenhedlaeth. Fel hyn mae’r gyfrol yn cloi:

Unlike memory, which confirms and reinforces itself, history contributes to the disenchantment of the world. Most of what it has to offer is discomforting, even disruptive—which is why it is not always politically prudent to wield the past as a moral cudgel with which to beat and berate a people for its past sins.  But history does need to be learned—and periodically re-learned. In a popular Soviet-era joke, a listener calls up ‘Armenian Radio’ with a question: ‘Is it possible’, he asks, ‘to foretell the future?’ Answer: ‘Yes, no problem. We know exactly what the future will be. Our problem is with the past: that keeps changing’.  So it does—and not only in totalitarian societies. 

All the same, the rigorous investigation and interrogation of Europe’s competing pasts—and the place occupied by those pasts in Europeans’ collective sense of themselves—has been one of the unsung achievements and sources of European unity in recent decades. It is, however, an achievement that will surely lapse unless ceaselessly renewed. Europe’s barbarous recent history, the dark ‘other’ against which post-war Europe was laboriously constructed, is already beyond recall for young Europeans. 

Within a generation the memorials and museums will be gathering dust—visited, like the battlefields of the Western Front today, only by aficionados and relative.

If in years to come we are to remember why it seemed so important to build a certain sort of Europe out of the crematoria of Auschwitz, only history can help us. The new Europe, bound together by the signs and symbols of its terrible past, is a remarkable accomplishment; but it remains forever mortgaged to that past.  If Europeans are to maintain this vital link—if Europe’s past is to continue to furnish Europe’s present with admonitory meaning and moral purpose—then it will have to be taught afresh with each passing generation. ‘European Union’ may be a response to history, but it can never be a substitute. (t.830-1)

Yn anffodus, bu farw Judt yn rhy gynnar yn 2010, felly nid oes modd i ni wybod ei farn am sefyllfa Ewrop heddiw. Teg fyddai dweud bod pethau wedi newid yn sylweddol mewn degawd. Mae’r ‘prosiect Ewropeaidd’ o dan straen aruthrol. Mae ansicrwydd mawr o hyd yn dilyn yr argyfwng economaidd a helynt Gwlad Groeg, gan beryglu’r arian sengl. Ar ben hynny, fel mae’r ymosodiadau ym Mrwsel yr wythnos hon wedi’n hatgoffa eto, mae terfysgaeth islamaidd yn bygwth llawer mae Ewropeaid wedi dod i’w cymryd yn ganiataol, megis yr hawl i symud yn rhydd a’n ddi-ffwdan ar draws y cyfandir. Yn y bôn, mae rhyddfrydiaeth ddemocrataidd amlddiwylliannol ei hun yn y fantol. Fe oroesodd Ewrop am fron i hanner canrif yng nghysgod y llen haearn; yn wir, fe ffynnodd. Ond yr her bresennol, efallai, yw’r un fwyaf. Bydd ein hymateb i’r terfysg – ac mae hwnnw’n sicr o barhau – yn diffinio Ewrop yn union fel y gwnaeth y ddau Ryfel Byd. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Protestio Trump

Mae’r protestio’n erbyn Donald Trump yn cynyddu eto, gyda lonydd sy’n arwain at ei ralïau’n cael eu blocio. Rydym eisoes wedi gweld protestwyr yn amharu ar ei ddigwyddiadau trwy weiddi (a chael eu taflu allan yn ddisymwth am eu trafferth). Rwy’n cytuno’n frwd â hwy ynghylch yr angen i wrthwynebu’r ffasgydd twp oren, wrth reswm, ond mae gennyf bryderon am eu dulliau.

Fel mater o egwyddor, rwy’n credu bod gan Trump bob hawl i leisio’i farn a bod gan ei gefnogwyr, yn eu tro, bob hawl i fynd i wrando arno. Digwyddiadau wedi’u trefnu gan Trump ei hun yw’r rhain, wedi’r cyfan, ac mae atal pobl sy’n dymuno gwrando arno rhag gwneud hynny, yn fy marn i, yn amharu ar eu hawliau. Mae Trump yn erchyll, a ffyliaid yw ei gefnogwyr, ond holl bwynt rhyddid mynegiant yw gwarchod yr hawl i ddweud pethau gwrthun (ac i wrando arnynt). Nid oes pwrpas gwarchod safbwyntiau mae pawb yn cytuno â hwy.

Er ei bod yn anodd peidio cydymdeimlo rywfaint â’r protestwyr oherwydd natur y gelyn, mae glynu at yr egwyddor hwn yn hawdd gan fy mod yn amau bod eu dulliau hefyd yn wrth-gynhyrchiol ar lefel ymarferol. Fel rwyf wedi’i ddweud, mae taflu protestwyr allan bellach yn ran o’r sioe yn ralïau Trump. Os rywbeth, mae’r protestiadau’n cryfhau ei gefnogaeth (a dyma’n union pam mae Trump bellach yn mynd ati’n fwriadol i annog gwrthdaro yn ei ddigwyddiadau). Creadur y cyfryngau yw Trump, ac mae’n awchu am sylw; mae’r dyn yn ystyried unrhyw beth sy’n ei gadw yn y newyddion yn fuddugoliaeth. Mae’n bur sicr nad yw blocio prif-ffyrdd yn mynd i ennyn llawer o gydymdeimlad tuag at y protestwyr, chwaith.

Mae’n bwysig protestio, ond ni ddylent wneud hynny yn y ralïau eu hunain. Mae protestio tu allan i’r digwyddiadau’n berffaith iawn, ac efallai byddai’n syniad iddynt gynnal eu ralïau eu hunain. Er bod mawr angen gwrthwynebu’r ffasgydd twp oren, mae’n debygol bod y tactegau presennol yn gwneud mwy o ddrwg nag o dda. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Donald Trump, ffasgydd

Wrth drafod Donald Trump yn ddiweddar, rhestrais rai o’r nodweddion sy’n gyffredin rhyngddo a ffasgwyr hanesyddol, ond fe ymataliais rhag ei alw’n ffasgydd o’r iawn ryw, yn rhannol gan fod y cyhuddiad hwnnw’n gallu bod yn un diog. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r label yn addas. Mae Trump yn ffasgydd o ddifrif.

Y trais cynyddol yn ei ralïau sy’n ei gario dros y trothwy. Mae awyrgylch lled-fygythiol wedi bod yno ers y cychwyn, ac mae taflu protestwyr allan wedi bod yn ran o’r sioe. Ond mae wedi gwaethygu’n arw dros yr wythnosau diwethaf, ac mae bellach yn amlwg bod Trump yn defnyddio trais fel arf wleidyddol. Nid rhywbeth sy’n digwydd ar y cyrion ydyw, bellach, ond elfen ganolog o’r ymgyrch ei hun. Erbyn hyn, mae Trump, o’r podiwm, yn rhoi sêl clir ei fendith i’w gefnogwyr ymosod ar brotestwyr. Nid oes amwysedd, mwyach.

Gohirwyd ei rali yng nghanol Chicago nos Wener. Dywedodd ei ymgyrch eu bod wedi dod i’r penderfyniad hwnnw ar ôl derbyn cyngor gan yr heddlu bod perygl o drais oherwydd protestiadau. Mae’r heddlu, serch hynny, yn gwadu hynny’n llwyr. Penderfyniad ymgyrch Trump yn unig oedd gohirio. Rwy’n cytuno’n llwyr â Rachel Maddow, sy’n dweud mai dyma’n union oedd bwriad Trump o’r dechrau. Roedd cynnal rali yng nghanol Chicago, ardal â llawer iawn o bobl o leiafrifoedd ethnig, yn fwriadol bryfoclyd, a gobaith Trump oedd denu protestwyr (mae’n debyg ei bod wedi bod yn llawer haws cael mynediad i’r digwyddiad hwn o’i gymharu â’i ralïau eraill). Roedd Trump yn gobeithio gweld pobl yn ymladd, a dyna a fu (ac nid mater o ‘fai ar y ddwy ochr’ mo hynny chwaith; cefnogwyr Trump sydd bennaf ar fai).

Pam y bwriad yma? Un o hoff dechnegau ffasgwyr yw annog trais, ac wedyn honni bod angen person cryf (dyfalwch pwy?) er mwyn adfer cyfraith a threfn, ac i gael gwared ar yr union drais y maent hwy eu hunain yn gyfrifol am ei gorddi. Mae hefyd yn ei alluogi i bortreadu’i hun fel dioddefwr, yn groes i’r dystiolaeth, ac i honni bod protestwyr yn ei sensro a’n ymosod ar ei gefnogwyr. Mae’n hen dric. Mae’n bosibl bod Trump yn ddyn rhy dwp i ddeall ei fod yn efelychu ffasgwyr – mae’n sicr yn rhy dwp i ddeall a thrafod polisi – ond dyna’r union draddodiad y mae’n ei ddilyn, ac mae’n ddigon craff i wneud hynny’n llwyddiannus. Go brin mai cyd-ddigwyddiad yw’r tebygrwydd. Mae hefyd yn mynd yn anos ac anos ei ddychmygu’n troi tua’r canol cymhedrol ar ôl cipio’r enwebiad (y pivot bondigrybwyll). Y ffaith ryfeddol yw bod ffasgydd erbyn hyn yn debygol o gynrychioli un o ddwy brif bleidiau America mewn etholiad arlywyddol. Mae’r jôc drosodd ers talwm.

Y consensws yw y byddai’n sicr o golli ym mis Tachwedd. Dyna, yn wir, sy’n debygol; mewn amgylchiadau cyffredin, ni fyddai ganddo obaith. Ond mae’n hawdd dychmygu amgylchiadau anghyffredin. Beth os yw’r economi’n ffrwydro eto? Neu (yn fwy tebygol yn fy marn i) beth os oes ymosodiad terfysgol yn fuan cyn yr etholiad? Petawn i’n strategydd ar ran y Wladwriaeth Islamaidd, buaswn i’n gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod Trump yn dod yn arlywydd, gan eu bod bron â marw (yn llythrennol) eisiau brwydr fawr apocalyptaidd rhwng y ‘gorllewin’ a’r byd mwslemaidd. Awn mor bell â mentro y byddai’n syndod pe na bai terfysgwyr mwslemaidd yn ceisio ymosod ar America yn wythnosau olaf mis Hydref. Ni fyddai raid iddynt fod yn llwyddiannus, hyd yn oed; gall y bygythiad fod yn ddigon i ddychryn digon o Americanwyr i gorlan Trump. Rwy’n credu bod Arlywydd Trump yn annhebygol ar y cyfan, ond rwy’n cael trafferth diystyru’r senario yma. Mae’r posibilrwydd yn hollol frawychus. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Theorïau cynllwyn

Roeddwn yn westai ar Dan Yr Wyneb gyda Dylan Iorwerth neithiwr, yn trafod theorïau cynllwyn (mae’r eitem yn dechrau ar ôl 27:20).

Mae miloedd o’r rheiny’n hedfan o gwmpas, wrth gwrs. Gofynwyd yn benodol am lofruddiaeth John F Kennedy, a’n anffodus mae’n sbel go hir ers i mi astudio manylion yr achos hwnnw felly roedd yn anodd ymateb i honiadau penodol am yr hyn a ddigwyddodd. Y prif bwynt (ac rwy’n gresynu i mi beidio’i wneud yn gliriach ar y rhaglen) yw bod bywyd yn flêr. Hynny yw, mae cymaint o wybodaeth (a mwy fyth o gamwybodaeth) ar gael am bob digwyddiad o dan haul, mae’n ddigon hawdd dewis a dethol y darnau sy’n cefnogi’ch hoff naratif. Roedd hyn eisoes yn ddigon gwir yn y blynyddoedd wedi saethu JFK, ond mae’n amlwg yn llawer i awn gwaeth ers dyfodiad yr we.

Byddai optimydd wedi gobeithio byddai’r we, gyda’r holl wybodaeth am y byd ar flaen ein bysedd, yn ei gwneud yn haws lledaenu’r gwir ffeithiau ac felly’n ei gwneud yn anos i theorïau amgen ac ecsentrig ffynnu. Y gwrthwyneb sydd wedi troi i fod yn wir, wrth gwrs: mae’r rhyngrwyd wedi’i gwneud yn llawer haws i bobl od ganfod pobl od eraill, gan eu galluogi i atgyfnerthu eu rhagdybiaethau ei gilydd mewn siambr eco. Os rywbeth, mae’r we wedi lleihau ein dibyniaeth ar y cyfryngau prif lif, ac mae hynny’n hwb mawr i rith-gymunedau sydd fel petaent yn byw mewn bydysawd amgen.

Mae pobl yn credu yn y theorïau hanner pan yma am resymau seicolegol, neu sosio-wleidyddol, neu gyfuniad o’r ddau. Y gwir yw bod person sy’n arddel un yn tueddu i dderbyn llawer o rai eraill hefyd, hyd yn oed os ydynt yn gwrthddweud ei gilydd. Mae’n ffenomen ddiddorol, ac roedd yn ddiddorol clywed yr hyn yr oedd gan y seicolegydd Dr Mair Edwards i’w ddweud. Fel anffyddiwr, yr hyn sydd wedi fy nharo ers tro yw bod greddf grefyddol iawn yn amlwg yn y sawl sy’n hyrwyddo’r theorïau mwy cynhwysfawr, (fel David Icke a’i ddilynwyr, er enghraifft) sy’n beio popeth, yn llythrennol ar yr Illuminati bondigrybwyll. Mae pobl felly’n methu’n lân ag amgyffred y syniad bod pethau anffodus weithiau’n digwydd heb fod yna reswm ehangach. Weithiau, mae twysogesau’n marw mewn damweiniau car. Weithiau, mae terfysgwyr yn ymosod. Weithiau, mae pobl yn marw’n annisgwyl. Maent yn ddigwyddiadau anarferol ar lefel unigol, ond y paradocs (yn arwynebol, o leiaf) yw bod pethau anarferol yn digwydd drwy’r amser. Yn union fel y mae’n dra annhebygol i chi ennill y loteri, eto i gyd, bron bob wythnos, mae rhywun yn rhywle’n llwyddo i wneud hynny. Ond i Icke a’i debyg, rhaid bod popeth yn ran o gynllwyn bwriadol. Mewn ffordd, mae’r Illuminati (neu bwy bynnag) yn chwarae rhan y Diafol.

Felly ydw, rwy’n ddrwgdybus o theorïau cynllwyn ar y cyfan. Fel y trafodwyd, mae angen sceptigiaeth; byddai derbyn gair swyddogol y llywodraeth yn ddi-gwestiwn bob tro’n gofyn am drafferth. Pan mae newyddiadurwyr yn y broses o ymchwilio i awgrymiadau bod y llywodraeth wedi camymddwyn, ‘theori gynllwyn’ yw honno ar y pryd, mewn rhyw ystyr. Ond pan ddaw cadarnhad ei bod yn wir, mae’n colli’r label hwnnw ac mae angen ei alw’n rywbeth arall. ‘Sgandal’, er enghraifft. Mewn gwirionedd, pan mae pobl yn sôn am theorïau cynllwyn, sôn y maent am honiadau lle nad oes tystiolaeth o’u plaid (a’n aml, lle mae llawer o dystiolaeth yn eu herbyn). Mae cadw meddwl agored yn iawn, ond nid i’r graddau bod eich hymennydd yn syrthio allan. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Donald Trump a chyflwr y Gweriniaethwyr

Cefais fy synnu pan gyhoeddodd Donald Trump ei fwriad i ymgyrchu i fod yn arlywydd UDA. Roedd wedi chwarae â’r syniad yn gyhoeddus ers blynyddoedd, ond tybiais cyn hynny mai tacteg i gadw’i enw yn y newyddion oedd hynny, ac nad oedd ganddo unrhyw fwriad i ymgymryd â’r gwaith caled o redeg ymgyrch go iawn. Wrth gwrs, nid yn unig yr oedd y dybiaeth honno’n anghywir, ond mae’n bosibl iawn y bydd yn ennill yr enwebiad.

Ers iddo ymuno â’r ras, mae’r sylwebyddion wedi bod yn proffwydo’i dranc, a’n enwedig felly ar ôl iddo ddweud pethau twp (sy’n ddigwyddiad wythnosol). Y gwrthwyneb sydd wedi bod yn wir, wrth gwrs: mae cefnogaeth Trump, os rywbeth, wedi cryfhau gyda phob sarhad hyll a ddaw o’i enau. Yn groes i bob disgwyl, erbyn heddiw, lai na phythefnos cyn yr etholiadau cynradd cyntaf yn Iowa, mae ei sefyllfa’n gryfach nag erioed. Mae ymhell ar y blaen yn yr arolygon cenedlaethol. Ni ddylid canolbwyntio’n ormodol ar rheiny mewn gwirionedd, gan mai fesul taleithiau unigol y daw’r pleidleisiau, ond er ei bod yn wir mai Ted Cruz sydd ar y blaen yn Iowa, mae Trump yn ail agos (a’n bell ar y blaen yn y taleithiau nesaf, sef New Hampshire a De Carolina). Mae llawer, gan gynnwys Nate Silver, yn mynnu ei fod yn annhebygol o gipio’r enwebiad yn y pen draw, ond rwy’n credu bod ganddo siawns ryfeddol o dda. Gobaith mawr ei wrthwynebwyr yw bod ei ddiffyg profiad gwleidyddol yn golygu nad oes ganddo’r drefniadaeth – y ground game bondigrybwyll – i sicrhau bod ei gefnogwyr i gyd yn llwyddo i bleidleisio drosto (gall y system fod yn gymhleth, diflas ac affwysol o hir mewn rhai taleithiau).

Rhethreg gwrth-fewnfudwyr yw ei brif thema, wrth gwrs. Wrth lansio’i ymgyrch, fe ddywedodd bod Mecsico’n ‘anfon’ eu troseddwyr rhyw dros y ffin. Dyna’i ddymuniad hefyd i fonitro  mwslemiaid yn America, a hyd yn oed i’w gwahardd rhag cael mynediad i’r wlad yn gyfan gwbl. Mae hefyd wedi ymfalchïo bod rhai o’i gefnogwyr wedi rhoi cweir i brotestwyr croenddu, ac mae’n hoff o bardduo a sarhau menywod. Er hynny, neu, fwy na thebyg, o’r herwydd, mae wedi mwynhau mwy o sylw yn y cyfryngau na’r ymgeiswyr eraill i gyd gyda’i gilydd.

Ai ffasgydd yw Trump?  Mae’n gyhuddiad a deflir yn rhy rhwydd yn aml, ond yn yr achos hwn mae’n gwestiwn teg. Yn sicr, mae’n ticio nifer o’r bocsys. Ei arfer o godi bwganod senoffobaidd yw’r un amlwg: fel y dywedais, mae Trump wedi mynd i ymdrech arbennig i ddieithrio’r ‘arall’, gan fwydo paranoia llawer o’i ddilynwyr (hiliol, gwyn) ynghylch y newidiadau demograffig sy’n digwydd mor gyflym i’r boblogaeth ar hyn o bryd. Ceir hefyd y rhethreg ffasgaidd glasurol ynghylch palingenesis, yr angen i ‘ad-ennill y wlad’, sydd wedi dirywio i’r graddau bod angen ei ail-godi’n llwyr (teitl llyfr newydd Trump yw Crippled America).

Mae machismo yn elfen berthnasol arall. Ateb Trump i bopeth yw ei fod am gyflawni campau trwy wydnwch  a grym pur ei bersonoliaeth (nid oes sôn o fath yn y byd am fanylion na sylwedd yn ei areithiau). Ei hoff sarhad yw galw’r ymgeiswyr eraill yn ‘wan’ a dweud bod ganddynt ‘ddiffyg egni’. Mae’r misogynistiaeth yn rhan o hyn hefyd, wrth gwrs, a cheir awgrym clir o reddf unbeniaethol. Bwli ydyw, i bob pwrpas.

Wedi dweud hyn i gyd, oedaf cyn ei alw’n ffasgydd o’r iawn ryw. Yn un peth, mae gan ffasgwyr fel arfer adain barafilwrol. Mae’n ddychrynllyd pa mor agos mae Trump yn dod at dicio’r bocs yma hefyd, oherwydd mae Trump wedi annog trais yn erbyn protestwyr, ac mae sawl ciwed o ffug-filwyr hunan-benodedig hanner-pan asgell-dde (fel yr Oath Keepers) wedi datgan eu cefnogaeth. Ond (am y tro!) mae digon o bellter rhyngddo a’r ffyliaid sinistr hyn fel nad oes modd eu galw’n fyddin bersonol. Fodd bynnag, y prif reswm nad yw Trump yn ffasgydd yw ei fod, yn llythrennol, yn rhy dwp. Nid dyn ideolegol ydyw, mewn gwirionedd. Rwy’n gyndyn nad oes ganddo syniadaeth wleidyddol ystyrlon. Yn wir, awn mor bell â mynnu nad oes ganddo’r gallu i ffurfio’r fath beth. Beth bynnag eich barn am arweinwyr ffasgaidd hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, roeddent yn bobl ddeallusol gyda gweledigaeth bendant a thrwyadl.

Cofier bod ‘Y Donald’ yn ffigwr cyhoeddus ers degawdau. Nes yn gymharol ddiweddar, bu’n weddol ryddfrydol ynghylch materion cymdeithasol (yn wir, fe roddodd arian i’r Clintoniaid yn y 90au). Mae’r ffaith ei fod bellach yn smalio bod yn Gristion o argyhoeddiad yn adrodd cyfrolau; mae’n amlwg nad oes ganddo’r syniad cyntaf am y ffydd. Ysywaeth, mae’r ffars, rywsut, yn plesio. Mae’n amlwg felly mai’r unig bethau sy’n gyrru Trump yw ei ego, a’r dyhead i gipio grym er ei fwyn ei hun. Os oes y fath beth â Thrwmpiaeth, yna’r diffiniad yw ‘beth bynnag sy’n dda i Donald Trump’. Y jôc yw mai un o’i brif rinweddau, yn ôl llawer o’i gefnogwyr, yw ei ‘barodrwydd i’w dweud hi’n blaen fel ag y mae hi’. Dyna wrthwyneb llwyr y gwir.

Demagog poblyddol ydyw felly, fwy na ffasgydd. Ni ddylai hynny gynnig cysur, gyda llaw. Rhaid holi sut y daeth y fath gymeriad yn ffigwr mor amlwg yng ngwleidyddiaeth gwlad rymusaf y byd. Y broblem yw bod yr holl sylw i Trump, a’r modd y mae’r cyfryngau’n ei drafod, yn awgrymu ei fod yn bodoli mewn rhyw fath o wacter, fel petai wedi ymddangos o nunlle; roedd y modd y tybiodd y cyfryngau ar y pryd bod ei sylwadau ymfflamychol yn debygol o’i niweidio yn dangos yn glir nad ydynt wedi deall y ffenomen. Y gwir amdani yw mai symptom o broblem ddyfnach yw Trump. Nid y dyn ei hun yw’r drwg, ond bodolaeth cynifer o bobl sydd mor barod i’w gefnogi. Dyma ffaith y mae’n hanfodol i America ymgynefino â hi: mae cyfran anferth o’i phoblogaeth yn arswydus o dwp a rhagfarnllyd. A bai’r Gweriniaethwyr yw’r ffaith bod y garfan yma bellach mor swnllyd.

Mae hanes y dde adweithiol yn America yn hysbys. Gwyddom bod hiliaeth yn broblem anferthol yno hyd heddiw, hyd yn oed os nad yw bellach yn dderbyniol i’w fynegi yn yr un termau amrwd ag y bu yn y gorffennol. Yn hytrach, defnyddir y ‘chwiban ci‘, sef math o gôd sy’n swnio’n gymharol ddi-niwed a didwyll ar un olwg ond sy’n glir ei oblygiadau hiliol i’r gynulleidfa darged. Dyma oedd craidd Strategaeth y De, o gyfnod Nixon ymlaen. Mynegwyd y syniad orau yn 1981 gan un o’i arloeswyr, Lee Atwater, a oedd ar y pryd yn ymgynghorydd yng ngweinyddiaeth Reagan:

You start out in 1954 by saying, “Nigger, nigger, nigger.” By 1968 you can’t say “nigger”—that hurts you. Backfires. So you say stuff like forced busing, states’ rights and all that stuff. You’re getting so abstract now [that] you’re talking about cutting taxes, and all these things you’re talking about are totally economic things and a byproduct of them is [that] blacks get hurt worse than whites. And subconsciously maybe that is part of it. I’m not saying that. But I’m saying that if it is getting that abstract, and that coded, that we are doing away with the racial problem one way or the other. You follow me—because obviously sitting around saying, “We want to cut this,” is much more abstract than even the busing thing, and a hell of a lot more abstract than “Nigger, nigger.”

Dyma sut mae llywodraethau Gweriniaethol wedi llwyddo i hyrwyddo polisïau hiliol tra’n cadw’r gallu i wadu’r peth (gyda winc). Mae’r pleidleisiwyr hiliol yn gwybod yn iawn beth yw’r amcan, ac felly’n eu cefnogi’n frwd. Mae’r blaid wedi bod yn bwydo a meithrin yr hiliaeth ‘gudd’ yma ers blynyddoedd. Nid ymddangos o nunlle y mae cefnogwyr Trump wedi’i wneud, eithr magu hyder (a dychryn o weld arlywydd croenddu yn y Tŷ Gwyn). Digwyddiad allweddol yn y broses hon, efallai, oedd penderfyniad hollol anghyfrifol John McCain – aelod o sefydliad ‘cymhedrol’ y blaid – i ddewis Sarah Palin fel ei ddarpar-is-arlywydd yn 2008. Fel Trump, mae hi’n glown llwyr, ac fe fanteisiodd i’r eithaf ar y sylw gan ddod yn un o arwyr ysbrydol y Tea Party. Fel mae’n digwydd, fe ddatganodd Palin ei chefnogaeth i Trump heno; mae’r ffaith ei bod yn gwneud hynny er i Trump ymosod yn hyll ar McCain yn symbol berffaith o’r modd y creodd y blaid fwystfil sydd wedi tyfu tu hwnt i’w rheolaeth. Mae arweinwyr sefydliadol y Gweriniaethwyr bellach mewn panig.

Y perygl yw bod eithafiaeth Trump wedi gwthio ffenestr Overton hyd yn oed ymhellach i’r dde nag yr oedd yn barod, gan wneud i rywun fel Ted Cruz edrych yn dderbyniol mewn cymhariaeth. A dweud y gwir, buaswn i’n awgrymu bod Cruz hyd yn oed yn waeth na Trump mewn sawl ffordd. Er mai Trump sy’n cael y rhan fwyaf o’r sylw oherwydd ei ymgyrch anghonfensiynol a’i ddiffyg urddas, mae Cruz yn cytuno ag ef ynghylch y materion mwyaf dadleuol. Efallai bod y ffaith bod Cruz yn Seneddwr, a’n wleidydd medrusach, yn gwneud iddo swnio’n llai eithafol. Mae hefyd, yn wahanol i Trump, yn ddyn deallus a chanddo weledigaeth ac egwyddorion clir (er hollol frawychus). Yn hynny o beth, gellir dadlau bod Cruz hyd yn oed yn nes at fod yn ffasgydd nag yw Trump. Beth bynnag, mae’r ddau’n arddel y math o wleidyddiaeth sy’n cael ei neilltuo, fwy neu lai, yn Ewrop, i bleidiau penodol lled neo-ffasgaidd. Y ffaith bod Trump a Cruz yn gweithredu o fewn system wleidyddol dwybleidiol America sy’n niwlogi’r ffin.

Fe ddywedais yn gynharach nad ffasgydd mo Trump. Ond mae’n hawdd dychmygu ei gefnogwyr yn cefnogi ffasgydd go iawn petai un o’r rheiny’n ymddangos. Mae arwyddion mai Cruz yw ail ddewis llawer o gefnogwyr Trump. Felly’r gwir plaen amdani yw bod oddeutu 60% o gefnogwyr y Gweriniaethwyr yn cefnogi rhywbeth tebyg i ffasgaeth. Mewn geiriau plaen, mae mwyafrif o gefnogwyr un o ddwy brif blaid America yn agos at fod yn ffasgwyr. Ni fyddai’n cymryd llawer iddynt gymryd y naid olaf yna, yn fy marn i. Mae’r deunydd crai yno.

Oni bai bod cefnogaeth Marco Rubio – unig obaith y sefydliad erbyn hyn – yn cynyddu’n sydyn, ymddengys yn fwyfwy tebygol mai dewis rhwng Trump a Cruz fydd raid. Y ffaith ryfeddol yw ei bod yn bosibl, yn fy marn i, y byddai’n well gan sefydliad y Gwerinaiethwyr weld Trump yn ennill yr enwebiad na Cruz. Mae hyd yn oed llawer o gyd-weithwyr Cruz, gan gynnwys rhai o aelodau’r Tea Party, yn casáu Cruz oherwydd ei unplygrwydd a’i drahauster. Mewn etholiad cyffredinol, mae’n bosibl dychmygu Trump – sy’n fodlon dweud beth bynnag sy’n gyfleus iddo – yn anghofio popeth am ei ddaliadau blaenorol a smalio bod yn greadur y canol drachefn. Nid yw hynny’n wir o gwbl yn achos Cruz. Ar ben hynny, mae posibilrwydd cryf y byddai Trump yn pwdu’n arw petai’n colli, a’n sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Byddai hynny’n gwneud pethau hyd yn oed yn haws i’r Democratiaid.

Pwy bynnag sy’n ennill yr enwebiad, mae’n anodd iawn dychmygu Arlywydd Trump neu Arlywydd Cruz. Er eu poblogrwydd o fewn eu plaid eu hunain, nid yw gweddill y boblogaeth yn meddwl rhyw lawer o’r naill na’r llall. Ond yn y wlad ryfedd yna, ni ddylid bod yn ddi-hid am y posibilrwydd, a dylai’r syniad godi braw ar bawb call. Beth bynnag yw’r canlyniad ym mis Tachwedd, mae’r broblem ar ochr y Gweriniaethwyr yn achosi niwed aruthrol i wleidyddiaeth America. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Hysbyseb Eglwys Loegr

Roeddwn ar Taro’r Post yn gynharach heddiw (31 munud i mewn), yn trafod y penderfyniad i beidio dangos hysbyseb gan Eglwys Loegr yn sinemâu Odeon, Cineworld a Vue. Mae’n ffrae ffug mewn sawl ffordd. Nid gwahardd hysbyseb unigol a wnaed. Yn hytrach, mae gan y cwmnïau bolisi cyffredinol, ers tro, o beidio dangos unrhyw hysbysebion o natur gwleidyddol neu grefyddol. Yn hynny o beth, mae cynnwys yr hysbyseb benodol – sef pobl amrywiol yn adrodd llinell yr un o Weddi’r Arglwydd – yn hollol amherthnasol (mae rhywbeth bron yn annwyl, gyda llaw, am y syniad mai problem yr Eglwys yw nad yw pobl rywsut yn gyfarwydd â’r weddi honno).

Dau ddewis sydd gan y cwmnïau hyn mewn gwirionedd: y polisi presennol, neu agor y drws i hysbysebion gwleidyddol a chrefyddol o bob math. Byddai polisi o ddewis a dethol hysbysebion crefyddol neu wleidyddol unigol yn creu problemau ymarferol dyrys (a chyfreithiol, fwy na thebyg), felly chwarae’n saff yw peidio’u derbyn o gwbl.

Penderfyniad masnachol llwyr yw hynny. Mae’r mwyafrif o’r cwsmeriaid, wedi’r cyfan, yno’n unswydd er mwyn mwynhau awr a hanner o adloniant di-feddwl. Pryder perchnogion y sinemâu yw y byddai’u gorfodi i eistedd drwy bregeth, neu i wrando ar rywun ar ei focs sebon gwleidyddol, yn diflasu, dadrithio neu dramgwyddo’r cwsmeriaid hynny, gan beri iddynt aros adref yn y dyfodol. Efallai bod hynny’n wir; efallai ddim. Ond cytuno neu beidio, mae gofid y cwmnïau’n berffaith ddealladwy, a gallaf weld y ddwy ochr. Yn bersonol, petawn yn berchen ar sinema, rwy’n credu buaswn i’n fodlon derbyn arian yr Eglwys; ni welaf wahaniaeth egwyddorol o bwys rhwng hysbysebion ‘gwleidyddol’ a rhai ar gyfer unrhyw gynnyrch cyfalafol; mewn ffordd, mae pob hysbyseb yn wleidyddol. Ond y pwynt yw mai mater o chwaeth bersonol yw hyn, yn y pen draw.

Un peth sy’n sicr: nid mater o ryddid mynegiant mohono, o fath yn y byd. Nid yw rhyddid mynegiant yn golygu hawl awtomatig i fynnu bod rhywun arall yn darparu’r platfform. Roedd Taro’r Post yn ddigon caredig i’m gwahodd i gyfrannu heddiw, ond petawn i’n dechrau mynnu bod rhaid i Garry Owen ddarparu slot deg munud i mi bob dydd, nid amharu ar fy rhyddid mynegiant fyddai gwrthod, eithr penderfyniad golygyddol synhwyrol. Yr un yw’r egwyddor yn union yn achos y sinemâu.

Y peth hanfodol am ryddid barn, wrth gwrs, yw’r hawl i gwyno am farn pobl eraill. Oes, wrth gwrs, mae gan gwsmeriaid Cristnogol y sinemâu bob hawl i roi pwysau arnynt i ail-ystyried y polisi. Ac mae gan y cwmnïau wedyn yr hawl unai i gyd-synio neu i barhau i’w hanwybyddu. Yr hyn sy’n fy nghorddi, fodd bynnag, yw tuedd barhaus a syrffedus gormod o Gristnogion i gwyno bod achosion fel hyn yn symptom o ryw fath o erledigaeth yn eu herbyn. Dyma rwy’n ei gasáu fwyaf am Gristnogaeth fodern: mae gan y ffydd statws breintiedig a gor-barchus yn ein cymdeithas o hyd, ond nid yw hynny’n ddigon i rai o’i lladmeryddion. Yn eu tyb hwy, mae trin Cristnogaeth yr un fath â phob ffydd arall (neu fel unrhyw ideoleg arall o ran hynny) gyfystyr â’u herlid a’u croeshoelio. Mae llawer iawn o’r ymateb i’r stori yma (megis ymdriniaeth ragweladwy’r Daily Mail) yn drewi o’r persecution complex pathetig yma. Yn absenoldeb unrhyw annhegwch go iawn yn erbyn Cristnogion, rhaid iddynt ei ddychmygu.

Mae’n bur amlwg, a dweud y gwir, mai ffrwyth ymgyrch PR ddigon sinigaidd gan yr Eglwys yw hyn i gyd. Mae polisïau o’r fath yn gyffredin dros ben. Wedi’r cyfan, mae cyfyngiadau llym ar y math o hysbysebion y mae modd eu darlledu ar y teledu. Ni fyddai’n syndod petai’r Eglwys yn deall hynny’n iawn o flaen llaw, ac mai’r bwriad o’r cychwyn cyntaf oedd manteisio ar gyfle i bortreadu’u hunain fel merthyrod. O gofio’r holl sylw – a hynny’n rhad ac am ddim – teg dweud bod yr ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus. A dyma fi fy hun yn cyfrannu i’r sylw hwnnw.

Dyma ddolen i’r hysbyseb, gyda llaw; mae’r teitl a roddwyd i’r clip yn profi fy mhwynt. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Paris. Eto.

Erbyn hyn mae’n anodd canfod yr egni i ddychryn am ddigwyddiadau fel y terfysg ym Mharis neithiwr. Maent yn rhy gyfarwydd o lawer yn ddiweddar. Anobaith blinedig rwy’n ei deimlo’n bennaf.

Beth mae’r Wladwriaeth Islamaidd yn ceisio’i wneud? Mae’u fersiwn o’r ffydd fwslemaidd yn apocalyptaidd, yn llythrennol. Eu nod yw denu byddinoedd ‘Rhufain’ (sef y gorllewin) i’r Dwyrain Canol, ac i ardal Dabiq yn Syria yn enwedig (rhanbarth sydd bellach yn eu meddiant). Yn ôl hen broffwydoliaeth, bydd brwydr fuddugol yno’n esgor ar ddiwedd y byd (sydd, yn eu tyb hwy, yn beth i’w ddeisyfu). Er mwyn gwireddu’r senario eschatolegol yma, mae gwylltio’r gorllewin a’u pryfocio i ymateb yn fyrbwyll yn strategaeth bwrpasol. Rhyfel ‘clash of civilisations’ rhwng y ‘gorllewin’ ac ‘islam’ yw eu hunion obaith. Wrth reswm, dylem bwyllo ac osgoi llyncu’r abwyd.

Yn yr un modd, maent yn awyddus i gynhyrfu rhagfarn yn erbyn mwslemiaid yng ngwledydd y gorllewin, fel ffordd o hwyluso’r nod o’n polareiddio. Y peth olaf y mae’r Wladwriaeth Islamaidd am ei weld yw mwslemiaid wedi’u cymhathu’n ddedwydd yng ngwledydd democrataidd, rhyddfrydol a seciwlar Ewrop. Ystyrier y targedau: bwytai a theatr, ar nos Wener, yn orlawn o bobl ifainc o bob tras a chefndir yn cymysgu’n gosmopolitanaidd braf. Diau hefyd bod gweld miloedd o ffoaduriaid yn derbyn croeso cynnes ym mhrifddinasoedd canol Ewrop wedi bod yn atgas i’r terfysgwyr. Mae troi ‘brodorion’ Ewrop yn erbyn y lleiafrifoedd mwslemaidd, a vice versa,  yn ran hanfodol o’u strategaeth. Dagrau pethau yw ei bod yn debygol o fod yn weddol llwyddiannus. Mwy na thebyg, bydd braw neithiwr yn gaffaeliad i bleidiau asgell-dde senoffobig Ewrop.

Yn anffodus, mae’n debyg bod o leiaf un o’r ymosdwyr wedi teithio i Ffrainc o Syria trwy Wlad Groeg fel un o’r miloedd o ffoaduriaid sydd wedi bod yn dilyn trywydd tebyg yn ddiweddar. Ni fyddai’n syndod os oedd y terfysgwyr wedi bwriadu i ni ddarganfod hynny, er mwyn ennyn adwaith cas yn erbyn ffoaduriaid. Wrth gwrs, ffoi rhag y Wladwriaeth Islamaidd y mae bron pob un o’r bobl yma, ond mae’r paranoia bod ceffylau Trojan terfysgol yn eu plith yn sicr o waethygu ymhellach.

Cliché diog yw ‘maent yn ein casáu oherwydd ein rhyddid’ ar un olwg, ond rhaid derbyn bod llawer o wirionedd yn yr ymadrodd. Mae ffwndamentaliaid crefyddol yn casáu rhyddfrydaeth, sy’n mynd yn hollol groes i’w hideoleg theocrataidd gormesol. Dymuniad arall ganddynt felly yw difa’r ryddfrydaeth honno. Yn anffodus, ymddengys ein bod yn rhy barod i wneud hynny ein hunain, oherwydd ymateb ein llywodraethau ar ôl digwyddiadau fel hyn, bron bob tro, yw i erydu ein hawliau a’n rhyddid. Cri ceidwadwyr ‘gorllewinol’ ar ôl terfysg yw bod angen grymuso’r gwasanaethau diogelwch ymhellach; yn eu hôl hwy, mae gwrthwynebu hynny gyfystyr ag ildio i’r ymosodwyr. Y gwrthwyneb sy’n wir yn fy marn i; ildio yw gwireddu dyheadau’r gelyn trwy ddifetha ein rhyddid ein hunain ar eu rhan.

Yn ogystal, rwy’n sicr nad oes fawr o obaith heb dderbyn y gwirionedd syml mai crefydd sy’n ysgogi’r Wladwriaeth Islamaidd. Mae tuedd gyffredin i fynnu nad ‘mwslemiaid go iawn’ mohonynt, ac mae hyd yn oed hashnod o’r enw #TerrorismHaNoReligion ar Twitter ar hyn o bryd. Lol amlwg yw hynny. Wrth reswm, mae yna ffactorau hanesyddol, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol yn gyfrifol am greu’r amodau sy’n ffafriol i grwpiau fel y Wladwriaeth Islamaidd. Ond nid yw cydnabod eu natur grefyddol amlwg yn golygu diystyru’r ffactorau eraill. Imperialwyr theocrataidd ydynt, a’u pryd ar goncwest crefyddol. Mae’n amlwg yn wir (ac mae’n ddigalon bod angen egluro wrth rai pobl) nad yw pob mwslem yn cefnogi terfysgaeth. Ond mae’r un mor wir mai mwslemiaid yw’r terfysgwyr hyn. Nid oes gennyf y syniad lleiaf beth yw’r ateb llawn i’r hunllef yma, ond mae cydnabod cymhellion y terfysgwyr, o leiaf, yn fan cychwyn hanfodol. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Yr astudiaeth yna ynghylch anffyddiaeth ac allgaredd

Bu tipyn o drafod dros y dyddiau diwethaf ynghylch astudiaeth sy’n awgrymu bod plant i rieni di-grefydd yn arddangos mwy o allgaredd na phlant o deuluoedd crefyddol. Gan fod gan gymaint o bobl grefyddol yr argraff mai ganddynt hwy y mae’r monopoli dros foesoldeb ac allgaredd, mae’n debyg bod y newyddion wedi taro nerf.

Mae rhai rhesymau posibl am y canlyniadau wedi’u hawgrymu. Er enghraifft, oherwydd y gred gyffredinol (a di-sail) bod galw’ch hun yn Gristion gyfystyr, yn awtomatig, â bod yn berson moesol a chydwybodol, efallai, yn baradocsaidd, bod hynny’n gallu arwain rhai Cristnogion i beidio rhoi llawer o bwys ar ymddygiad. Wedi’r cyfan, os ydych eisoes yn ‘berson da’ yn eich hanfod, nid oes angen ymdrechu i ddangos hynny. Ar y llaw arall, yn achos anffyddwyr, eu hymddygiad yn unig sy’n penderfynu ai person da ydynt ai peidio.

Nid wyf yn siwr a yw hynny’n dal dŵr. Yn wir, dylai anffyddwyr wrthod y demtasiwn i glochdar am yr astudiaeth, sydd, hyd y gwelaf i, yn ddiffygiol. Yn un peth, nid wyf wedi f’argyhoeddi bod ‘gêm yr unben‘ yn ffordd arbennig o effeithiol o fesur altrwistiaeth (a’n enwedig felly mewn plant). A dweud y gwir, rwy’n ansicr ei bod yn bosibl ‘mesur’ allgaredd mewn modd ystyrlon o gwbl (heb sôn am y ffaith bod modd cwestiynu bodolaeth allgaredd yn y lle cyntaf). Mae gormod o ffactorau amrywiol eraill i’w hystyried, ac mae’n anodd, onid amhosibl, eu rheoli i gyd. Gydag astudiaethau cymdeithasegol, yr her yw sicrhau bod pob ffactor wedi’i reoli heblaw am yr un sy’n cael ei fesur; nid yw’n glir bod hynny wedi digwydd, fan hyn. Yn ogystal, tybwyd ym mhob achos bod safbwynt diwinyddol y plant (os oes modd i blant bach feddu ar y fath beth) yr un fath â rhai eu rheini. Ar ben hyn i gyd, gweddol fach oedd y gwahaniaeth beth bynnag.

Pwyll piau hi, felly. Mae llawer o anffyddwyr wedi bod yn brysur yn rhannu’r newyddion, ond rwy’n ofni eu bod efallai’n euog o rywbeth tebyg i’r Cristnogion hypothetig a ddisgrifiais uchod. Gan fod anffyddwyr i fod yn bobl mwy sgeptigol a rhesymegol, dylem fod yn wyliadwrus nad ydym yn cymryd hynny’n ganiataol. Os ydym yn hawlio rhyw allu arbennig i osgoi llyncu pethau’n ddi-gwestiwn, gall y dybiaeth hunanfodlon honno ein harwain i esgeuluso ein hymddygiad ac i wneud yr union beth hwnnw.

Cyn i unrhyw Gristnogion gynhyrfu gormod o weld anffyddiwr rhonc yn beirniadu’r astudiaeth yma, dyma gloi trwy’u hatgoffa bod hyn i gyd yn amherthnasol yng nghyd-destun yr hen ddadl rhwng crefydd ac anffyddiaeth. Hyd yn oed petai’r gwrthwyneb i ganlyniadau’r astudiaeth yn wir, sef bod ffydd mewn duw yn peri i bobl ymddwyn yn well, ni fyddai hynny’n ddadl o fath yn y byd o blaid crefydd. Y rheswm syml am hynny yw’r ffaith nad oes tystiolaeth o gwbl bod duw yn bod yn y lle cyntaf. Heb y dystiolaeth honno, nid oes pwynt ceisio mynnu bod crefydd a moesoldeb yn mynd law yn llaw. Dadlau o blaid celwydd defnyddiol fyddai hynny. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Guto Ffowc

Mae’n debygol nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl rhyw lawer am darddiad ‘dathliadau’ heddiw. Oes angen esgus i fwynhau ychydig o dân gwyllt, wedi’r cyfan? Eto i gyd, mae Guto Ffowc wedi dod yn boblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd y ffilm V For Vendetta (2005). Portreadir Guto Ffowc yn y ffilm fel ffigwr chwyldroadol, sy’n chwythu senedd San Steffan i fyny er mwyn dymchwel llywodraeth dotalitaraidd. Bellach, mae mygydau Guto Ffowc i’w gweld mewn amryw o brotestiadau gwrth-sefydliadol, megis rhai’r mudiadau Occupy ac Anonymous. Dywedir mai ef oedd y person olaf i fynd i Dŷ’r Cyffredin gyda chymhellion didwyll.

Teg dweud bod y fytholeg yma’n garedig iawn i’r ffigwr hanesyddol go iawn. Erbyn hyn,  rydym wedi anghofio mai Pabydd adweithiol ffwndamentalaidd oedd Guto Ffowc (nes yn gymharol ddiweddar, dathliad Protestannaidd oedd Tachwedd y 5ed i ddiolch i Dduw am drechu’r ymdrech i’n troi i gyd yn Babyddion drachefn). Do, fe geisiodd ymosod ar gyfundrefn ormesol Brotestannaidd y brenin Iago, ond ei obaith oedd gosod llywodraeth Babyddol ormesol yn ei lle. Nid gormes oedd y broblem yn ei farn ef, ond y ffaith mai’r ochr anghywir oedd â’r grym. Roedd eisiau gormesu yn hytrach na chael ei ormesu. A dweud y gwir, nid oedd hyd yn oed wedi chwarae rhan arbennig o flaenllaw yn y cynllwyn. Robert Catesby oedd yr arweinydd; dim ond digwydd cael ei ddal tra’n goruchwylio’r powdwr gwn wnaeth Guto.

A yw hyn yn bwysig? Cyfyd cwestiynau diddorol, am wn i, am natur a tharddiad mytholeg a symbolau. Mae ffigurau hanesyddol yn aml yn dod i gynrychioli a symboleiddio gwerthoedd yn y dyfodol a fyddai, fwy na thebyg, wedi bod yn destun syndod iddynt (rwy’n fodlon mentro, er enghraifft, nad oedd Owain Glyndŵr yn ddyn arbennig o ddymunol mewn gwirionedd). Os oes gwers fan hyn, efallai mai honno yw nad yw chwyldro’n amcan ddefnyddiol ynddi’i hun. Rhaid cael syniad gwell i’w osod yn lle’r gyfundrefn bresennol. Mae chwyldro er mwyn chwyldro, er yn hwyl a chyffrous ar y pryd, yn gêm beryglus.

Eironi druenus i gloi. Mae protestwyr gwrth-gyfalafol yn gwario ffortiwn ar y mygydau Guto Ffowc yma. I ble aiff yr arian? I goffrau Time Warner, un o gwmnïau masnachol mwyaf y byd. Chwyldro yn wir. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Cynnydd anferth yn nifer y di-grefydd yng Nghymru

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi dadansoddiad o sefyllfa crefydd yng Nghymru yn ôl y cyfrifiad diwethaf, ac maent yn ddiddorol tu hwnt (yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd, yn anffodus).

Rwy’n hapus iawn i weld bod y nifer sy’n dweud nad ydynt yn grefyddol wedi dyblu, bron, o 500,000 (18.5% o’r boblogaeth) yn 2001 i 980,000 (32.1%). Yn y cyfamser, mae’r nifer o Gristnogion wedi gostwng o 2.1m (71.9%) i 1.8m (57.6%), a hynny er bod poblogaeth Cymru 160,000 yn fwy yn 2011 nag yn 2001. Mae hyn, wrth reswm, yn codi calon anffyddiwr rhonc fel fi.

Dylid cofio’r cafeatau arferol, serch hynny, gan fod diffiniadau pobl o grefydd yn amrywio. Nid yw’n dilyn, o reidrwydd, bod person ‘di-grefydd’ yn anffyddiwr. Mae llawer yn ymwrthod â’r label crefydd ond yn galw’u hunain yn ‘ysbrydol’ (safbwynt sy’n mynd ar fy nerfau, ond mater arall yw hynny). Mae sawl ffordd amgen o fod yn ddi-grefydd hefyd. Fel mae’r adroddiad yn ei ddweud, mae’r 32.1% yma’n cynnwys ‘No religion, Jedi Knight, Agnostic, Atheist, Humanist, Heavy Metal, Free Thinker, Realist‘. Mae rhai o’r rhain yn gor-gyffwrdd, ac mae eraill yn enghreifftiau o’r ymatebwyr yn cael hwyl.

Ar yr un pryd, fe ddichon bod llawer o bobl sy’n ticio’r blwch ‘Cristnogaeth’ (neu un o’r crefyddau eraill) yn gwneud hynny am resymau diwylliannol a traddodiadol; nid ydynt yn arfer y ffydd yn eu bywydau pob dydd, ac nid ydynt yn meddwl rhyw lawer am y mater, ond maent yn parhau i dderbyn y label os yw rhywun yn gofyn.

Nid gwyddoniaeth bur yw holiaduron, felly. Ond dyma’r wybodaeth orau sydd gennym, ac maent yn galonogol. Er bod arolygon gwahanol ynghylch crefydd yn rhoi canlyniadau amrywiol, yn ddibynnol ar eiriad y cwestiynau, mae’r duedd gyffredinol yn amlwg. Edwino y mae crefydd, ac mae ‘dim crefydd’ – ac anffyddiaeth, fel is-set o’r categori hwnnw – yn mynd o nerth i nerth. Gan fod Cristnogion, y garfan grefyddol fwyaf, yn hŷn, a’r di-grefydd yn ifanc, mae’n anochel y bydd hyn yn parhau (mae’n wir bod Mwslemiaid yn iau eto, ond mae llawer llai ohonynt). Rwy’n disgwyl y bydd mwyafrif o bobl Cymru’n ddi-grefydd o fewn cenhedlaeth, ac rwy’n falch dros ben am hynny. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Canlyniadau peryglus amharodrwydd y chwith i feirniadu islam

Mae’n debyg bod grŵp o’r enw ‘Infidels of North Wales‘ yn bwriadu cynnal rali yn Llangefni ymhen mis. Fel inffidel balch o ogledd Cymru, dylai’r enw fod yn atyniadol i mi. Yn anffodus, buan iawn y daw i’r amlwg mai ffasgiaid hiliol ‘Britain First’-aidd asgell dde ydynt. Mae ganddynt obsesiwn ynghylch mewnfudo, ond dim ond, fe ymddengys, yn achos mwslemiaid, er mai canran fechan iawn o fewnfudwyr mwslemaidd sy’n dewis ymgartrefu yng ngogledd Cymru. Saeson gwyn yw’r mwyafrif anferth o fewnfudwyr i’r rhan yma o’r byd, ond ymddengys nad ydynt hwy’n cyfrif yn ôl y bobl yma. Afraid dweud nad oes gair o Gymraeg ar eu tudalen, er eu cynlluniau ar gyfer Llangefni o bob man, ond nid dyna’r broblem fwyaf o bell ffordd. Maent yn ffiaidd ym mhob ffordd.

Rwyf wedi trafod amharodrwydd y chwith i feirniadu islam hyd syrffed. Heb ail-adrodd fy hun eto, mae problemau enfawr gydag islam, ac mae pethau ofnadwy yn cael eu cyfiawnhau yn enw’r ffydd honno. Dylid beirniadu’r grefydd o safbwynt rhyddfrydol asgell chwith, ond mae tuedd i osgoi gwneud hynny oherwydd pryderon dwl bod hynny’n hiliol. Y broblem wedyn yw bod y cyndynrwydd yma i feirniadu islam yn gall a phwyllog yn creu gwacter sy’n cael eu lenwi gan ffyliaid paranoid ffasgaidd fel y grŵp uchod. Os mai prif wrthwynebwyr islam yw hilgwn fel hyn, sy’n blaenoriaethu rhagfarn ar draul dadleuon synhwyrol, byddai hynny’n drychinebus a pheryglus. Mae angen beirniadu islam, ac mae’n bwysig mai ni sy’n gwneud hynny yn hytrach na ffyliaid fel hyn. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Y ‘canol’ gwleidyddol

Gyda Jeremy Corbyn bellach wedi’i ethol yn arweinydd y Blaid Lafur, mae’n sicr y clywn fwy fyth o ddadlau ynghylch y broblem fawr honedig sy’n ei wynebu, sef na fyddai’n etholadwy. Mae llawer o bwysigion sefydliadol y blaid yn pryderu ei fod yn rhy bell i’r chwith yn wleidyddol, ac mai symud yn ôl i’r ‘canol’ ddylai Llafur ei wneud os ydynt am greu llywodraeth yn 2020. Y broblem, yn fy marn i, yw bod y ‘canol gwleidyddol’, neu’r ‘cymhedrol’, yn gysyniad trafferthus.

Y broblem gyntaf yw’r dybiaeth mai’r ‘canol’, yn anorfod, yw’r lle cywiraf i fod. Os yw person A yn dadlau un peth, a pherson B yn arddel y gwrthwyneb, mae yna duedd, yn enwedig yn y cyfryngau modern, i gasglu bod rhaid i’r gwir fod rywle yn y canol rhyngddynt. Diau bod hynny’n wir weithiau. Ond dro arall, mae un person yn iawn a’r llall yn hollol anghywir, ac mae chwilio am gyfaddawd ‘cymhedrol’ yn anonest.  Gwelir hyn yn aml mewn dadleuon am bynciau gwyddonol, a’r sylw anhaeddiannol a roddir i bobl sy’n gwadu ein bod yn cael effaith ar yr hinsawdd, er enghraifft, neu i greadyddion. Mae’r un peth yn wir, weithiau, gyda gwleidyddiaeth.

Mae’r ail broblem yn ymwneud â holl bwrpas gwleidydda, ac rwyf wedi cyffwrdd arni ar y blog o’r blaen. Yn arddangosol, o leiaf, pan mae rhywun yn penderfynu mynd yn wleidydd, eu rheswm yw bod ganddynt gasgliadau o safbwyntiau ac egwyddorion y maent yn deisyfu eu rhoi ar waith. Rwy’n cytuno’n llwyr â’r athronydd ceidwadol Edmund Burke: cyn etholiad, dylai gwleidyddion egluro’u polisïau’n onest, a cheisio darbwyllo’r etholwyr bod y polisïau hynny’n gywir. Ar ôl yr etholiad, dylent barhau i ddilyn eu cydwybod, gan gynnwys pan all hynny fod yn niweidiol i’w gobeithion yn yr etholiad nesaf.  Celwydd yw addasu safbwyntiau er mwyn cydymffurfio â barn y cyhoedd. Yn fy marn i, mae gwleidyddion yn treulio llawer iawn gormod o amser yn ceisio ‘apelio’ at eu hetholwyr, a llawer gormod o amser yn eu hetholaethau. Rwy’n disgwyl i aelodau seneddol dreulio’u hamser yn ceisio gwireddu eu syniadau ideolegol mewn deddfwrfa genedlaethol. Yn y bôn, fy nadl yw na ddylai gwleidyddion adael i’r cyhoedd gael unrhyw ddylanwad ar eu hymddygiad. Breuddwyd gwrach iwtopaidd yw hyn, wrth reswm, ond dyma’r ddelfryd y dylid anelu amdano, yn fy marn i.

Mae hyn yn arwain at y brif broblem, sef y syniad bod y ‘canol gwleidyddol’ rywsut yn bodoli fel endid annibynnol, y tu hwnt i’n rheolaeth, a bod unrhyw shifft i’r dde neu’r chwith yn anochel. Lol amlwg yw hyn. Do, mae’r canol gwleidyddol ym Mhrydain wedi symud cryn dipyn i’r dde, ar faterion economaidd, dros y degawdau diwethaf. Ond y rheswm am hynny yw mai’r Blaid Geidwadol sydd wedi’i symud yno. Wrth i ‘eithafwyr’ (yn ystyr llythrennol yr ymadrodd) geisio gwthio’r ffiniau ymhellach ac ymhellach, mae ffenestr Overton, sef yr amrediad o safbwyntiau a ystyrir yn ‘dderbyniol’, yn dilyn ychydig y tu ôl. Hynny yw, er mwyn gwneud i syniad swnio’n fwy credadwy, mae’n help os oes rhywun arall, ar yr un pryd, yn gwyntyllu syniad mwy ‘eithafol’ fyth ar yr un pryd. Pe cyflawnir hynny, gellir wedyn gwthio pethau ymhellach ac ymhellach eto, ac yn y blaen.

Nid oes dwywaith mai’r Ceidwadwyr sydd wedi bod yn symud ffenestr Overton i’w dibenion eu hunain ers cenhedlaeth, bellach. Dyma alluogodd Margaret Thatcher i ddatgan mai ei llwyddiant gwleidyddol pennaf oedd Tony Blair a Llafur Newydd. Mewn termau absoliwt, roedd llywodraeth Blair ymhellach o lawer i’r dde, yn economaidd, nag oedd Thatcher erioed. Yng nghyfnod Callaghan, byddai hyd yn oed y Ceidwadwyr wedi ystyried synaidau Blair yn eithafol. Dilyn ffenestr Overton yn dawel bach y mae Llafur wedi bod yn gwneud yn y cyfnod yma; roeddent wedi rhoi’r gorau i frwydro i geisio tynnu’r ffenestr i’r chwith drachefn. Yn y pen draw, roeddent yn cydnabod eu bod wedi colli’r ddadl i raddau helaeth, a’n gwerthu’u hunain fel fersiwn ychydig yn llai milain na’r Blaid Geidwadol.

Nid felly raid i bethau fod. Rwy’n amheus iawn o’r dybiaeth bod newidiadau a datblygiadau ideolegol yn anorfod (ac rwyf felly’n anghytuno â syniadau Marx ynghylch penderfyniaeth). Yn yr un modd, roedd Martin Luther King (neu, yn hytrach, Theodore Parker) yn anghywir, yn fy marn i, pan ddywedodd bod ‘the arc of the moral universe is long, but it bends toward justice.’ Mae’n wir bod cymdeithas erbyn heddiw yn fwy cyfiawn nag y bu mewn sawl ffordd, gan roi hawliau i grwpiau a ormeswyd gynt, ond dim ond trwy ymgyrchu caled iawn y cafwyd hynny. Nid oedd yn sicr o ddigwydd o bell ffordd, ac os nad ydym yn ofalus gall y bwa blygu’r holl ffordd yn ôl i’r cyfeiriad anghywir drachefn, fel sy’n digwydd yn Rwsia, er enghraifft, ar hyn o bryd.

Efallai bod y Ceidwadwyr yn hollol gywir, yn wrthrychol, i ddweud mai llymder yw’r unig ateb, a bod rhaid torri ar fudd-daliadau. Nid yw hynny’n f’argyhoeddi yn bersonol, a dweud y lleiaf. Ond ar hyn o bryd, mae’n cael ei dderbyn yn ddi-gwestiwn. Y dybiaeth yw bod y ‘canol’ yn derbyn y dadleuon, a dyna’i diwedd hi.

Os dim byd arall, efallai bydd arweinyddiaeth Corbyn yn ehangu ffenestr Overton a’n rhoi llwyfan amlycach i well amrediad o syniadau. Mae’n hen bryd i Lafur roi cynnig ar symud y ‘canol’ i’r cyfeiriad arall yn hytrach na dilyn hen olion traed eu gelynion yn ddi-gwestiwn. Agwedd syrffedus mewn gwleidyddiaeth yw bod angen osgoi mynegi polisïau a ystyrir yn amhobologaidd. Os nad yw’r syniad yn cael ei wyntyllu’n gyhoeddus yn y lle cyntaf, mae’r broffwydoliaeth honno’n gwireddu’i hun. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ffolineb gwahardd cnydau wedi’u haddasu’n enetig

Digalon oedd darllen am fwriad llywodraeth yr Alban i wahardd cnydau wedi’u haddasu’n enetig. Mae obsesiwn y mudiad gwyrdd â’r pwnc hwn yn peri cryn rwystredigaeth i mi, a dweud y gwir, gan nad oes sail wyddonol o gwbl i’r pryderon. I’r gwrthwyneb, mae’n faes addawol dros ben, gyda llawer o fanteision o safbwynt amgylcheddol a sosio-economaidd.

Y gwir yw ein bod wedi bod yn ddiwyd yn addasu planhigion, ac anifeiliaid o ran hynny, yn enetig ers miloedd o flynyddoedd. Dyna holl sylfaen amaethyddiaeth: rydym yn dewis y cnydau neu’r da byw sy’n diwallu ein hangenion orau, a defnyddio’r rheiny er mwyn cynhyrchu’r genhedlaeth nesaf. Dyma sut y bu i india-corn gynyddu mor ddramatig mewn maint dros gyfnod o 10,000 o flynyddoedd, er enghraifft. Esblygiad wedi’i lywio gan bobl ydyw yn y pen draw. Mewn geiriau eraill: addasu genetig.

Yr unig wahaniaeth yn achos yr hyn sy’n peri braw i rai pobl heddiw yw bod yr addasu hwnnw’n digwydd mewn labordy, a’n cael ei wneud gan wyddonwyr mewn cotiau gwyn. Yr un yw’r nod yn union, sef cynhyrchu mathau o fwyd sy’n haws i’w cynhyrchu. Er enghraifft, mae cynhyrchu cnydau newydd sy’n apelio llai at bryfetach yn golygu bod angen defnyddio llai o blaladdwyr. Mae hynny – yn hollol ddi-amwys – yn fuddiol dros ben i’r ffermwr a’r amgylchedd. Yn yr un modd, bydd modd cynnyrchu mwy a mwy o fwyd gan ddefnyddio llai o dir a gwrtaith. Unwaith eto, da yw hyn i gyd, heb ddadleuon da yn erbyn. Mewn gwledydd tlawd yn arbennig, mae addasu cnydau’n enetig yn cynnig gobaith anferthol.

Mae carfan o’r mudiad amgylcheddol sy’n obsesiynu ynghylch y ‘naturiol’, sydd, yn eu tyb hwy, yn rhagori ar yr ‘artiffisial’. Nonsens fel hyn sy’n arwain at honiadau hanner-pan fel y syniad bod ‘cemegion’ yn ddrwg yn eu crynswth, er mai cemegion yw popeth, yn llythrennol, yn y byd i gyd (gan gynnwys quinoa). Nid syniadau blaengar mo’r rhain, eithr y gwrthwyneb. Lol emosiynol gwrth-wyddonol ydyw, ac mae’r sawl sy’n ei harddel yn Luddites adweithiol. Dylai amgylcheddwyr call ymbellhau oddi wrthynt. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Cwyno i’r heddlu am ddarn o ffuglen

Ymddengys bod rhyw berson od yn rhywle wedi anfon ‘gwaith’ gwirioneddol anghynnes at gystadleuaeth Gwobr Daniel Owen eleni. ‘Nid nofel oedd hi, ond cyfres o ddisgrifiadau graffig o blant yn cael eu treisio’ yn ôl Dewi Prysor, un o’r beirniaid.

Yn anffodus, ymateb yr Eisteddfod oedd anfon y stwff at yr heddlu, ynghyd â manylion yr awdur. Sinigaidd fyddai nodi’r ffaith i hyn i gyd ddigwydd ym mis Mawrth ond bod y ‘newyddion’ wedi torri ddiwrnod cyn i’r brifwyl ddechrau, wrth gwrs. Beth bynnag am hynny, rwy’n gyndyn o’r farn na ddylai hyn fod yn fater i’r heddlu o gwbl. Roeddwn yn credu hynny cyn i natur y cynnwys ddod i’r amlwg, ac rwy’n credu hynny o hyd.

Fel mater o egwyddor pendant, rwy’n chwyrn yn erbyn y syniad o anghyfreithloni geiriau ar bapur, oni bai eu bod yn enllibus neu’n bygwth rhywun yn uniongyrchol. Yn sicr, ni allaf feddwl am senario lle byddai’n briodol galw’r heddlu oherwydd darn o ffuglen.

Y ddadl yw bod pryder am y posibilrwydd bod yr awdur yn bwriadu gwireddu’r hyn a ddisgrifia, a bod y disgrifiadau hynny’n neilltuol o ffiaidd. Ond mae pob math o lyfrau – llawer ohonynt yn ‘glasuron’ yn nhyb rhai – yn cynnwys golygfeydd pur anweddus. Mae nofelau Raymond Chandler neu Agatha Christie, er enghraifft, yn llawn llofruddiaethau, ond nid oedd unrhyw un yn credu bod hynny’n reswm i boeni am gymhellion yr awduron. Rwy’n berchen ar gopïau o Naked Lunch gan William S Burroughs a Trout Fishing In America gan Richard Brautigan, dwy nofel sy’n cynnwys disgrifiadau o weithredoedd pedoffeilaidd. Ystyrir y ddwy’n gyfrolau arwyddocaol (fymryn yn ormodol felly yn fy marn i, yn enwedig Naked Lunch), er eu bod yn cynnwys darnau gwirioneddol fochedd. Ystyrier Lolita hefyd fel enghraifft arall.

A dweud y gwir, byddai ‘pryderon’ yr Eisteddfod yn swnio’n fwy didwyll pe na baent wedi denu’r holl sylw yma at yr hyn a ddigwyddodd. Canlyniad y cyhoeddusrwydd yma yw bod gan lawer o bobl – a minnau yn eu plith – awydd darllen y deunydd anweddus dirgel yma, er chwilfrydedd pur. Ni fyddem wedi cael gwybod am ei fodolaeth yn y lle cyntaf petai’r Eisteddfod o ddifrif am eu gofidion bod rhywbeth sinistr ar droed. Mae’n bosibl iawn mai creu braw ymysg y ‘sefydliad’ fel hyn oedd union obaith yr awdur, trwy fod yn edgy a gwasgu’r botymau ‘anghywir’ i gyd. Dyna oedd nod Burroughs yn Naked Lunch, a gyhoeddwyd ym 1959, i bob pwrpas. Y jôc yn achos y gyfrol honno yw mai f’ymateb pennaf iddi wrth ei darllen yn lled ddiweddar oedd bod rhywbeth eithaf hen-ffasiwn – quaint, bron – am yr ysfa yna i ddychryn er mwyn dychryn.

Yn rhwystredig ddigon, yn rhy aml mae amddiffyn yr hawl i ysgrifennu rhywbeth yn cael ei ddehongli fel amddiffyniad o safon y gwaith. Y gwir yw ei bod yn swnio fel bod yr hyn a ysgrifennodd yr awdur anhysbys yma’n ofnadwy ym mhob ystyr y gair. Ond yr ateb syml i hynny oedd i beidio rhoi gwobr Daniel Owen iddo,  hynny’n dawel bach. Gwaherdder yr awdur rhag cystadlu eto, ar bob cyfrif (mae’n debyg iddo wneud rhywbeth tebyg yn 2007 hefyd). Ond mae mynd at yr heddlu’n wirion. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Cymru: Dal I Gredu?

Roedd cyfres o dair rhaglen, Cymru: Dal I Gredu, yn gorffen ar S4C heno. Roeddwn i’n ymddangos yn y rhaglen olaf (28 munud i mewn, ond wrth gwrs dylech wylio’r rhaglen gyfan, a’r ddwy flaenorol hefyd).

Cyn-efengylwr yw Gwion Hallam, y cyflwynydd, sydd bellach wedi colli’i ffydd ond sy’n petruso o hyd ynghylch galw’i hun yn ‘anffyddiwr’. Mae’r gyfres yn ei ddilyn wrth iddo deithio’r wlad yn cwrdd â phobl o bob ffydd, a heb ffydd, er mwyn gweld beth yw cyflwr crefydd yng Nghymru heddiw. Mae’n werth ei gwylio.

Nid wyf yn siwr pa mor llwyddiannus oeddwn i wrth geisio’i ddarbwyllo i gofleidio’r label. Yn ôl pob tebyg, mae ein safbwyntiau diwinyddol (neu, yn hytrach, eu habsenoldeb) yn bur debyg, felly mater semantig yw hyn mewn ffordd. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig bod anffyddwyr yn defnyddio’r gair hwnnw er mwyn disgrifio’u hunain, hyd yn oed os nad yw o reidrwydd yn ddyletswydd ar bob un ohonom i ddadlau’n gyhoeddus am y pwnc. Anffyddiwr fel fi yw Gwion yn barod i bob pwrpas; waeth iddo ymfalchïo yn hynny, ddim! Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Clap araf i’r Pab

Mae’r Pab wedi derbyn llawer o glod yr wythnos yma wedi iddo gyhoeddi cylchlythyr yn dweud bod angen gwneud mwy i ddatrys y broblem newid hinsawdd, ac mai cyfrifoldeb gwledydd cyfoethog yw hynny’n bennaf. Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad i raddau; gwell hyn na dim, am wn i. Ond peidied â mynd dros ben llestri; nid yw’n agos at fod mor arwyddocaol ag y mae rhai’n ei awgrymu.

Yn un peth, nid yw pobl – gan gynnwys Pabyddion eu hunain – yn tueddu i ddilyn cyngor yr eglwys ynghylch materion economaidd a’r amgylchedd. Mae’r eglwys, er ei holl ffaeleddau, wedi bod yn gymharol flaengar ynghylch pethau felly ers rhai degawdau – mwy felly na’r rhan fwyaf o’i haelodau ar lawr gwlad – ond go brin bod hynny wedi cael unrhyw effaith.

Mewn ffordd, mae hynny’n gyfiawn. O ystyried statws yr eglwys fel y cartel gwarchod pedoffeiliaid gwaethaf a welodd y byd erioed, nid oes ganddi unrhyw hygrededd moesol ar ôl mewn gwirionedd. Ni ddylai pobl wrando arni. Yn anffodus, fodd bynnag, pery’r eglwys yn ddylanwadol mewn rhai meysydd cymdeithasol. Yn arbennig felly, wrth gwrs, yn achos atalgenhedlu ac erthylu, dau beth y mae’r eglwys yn ei wahardd yn chwyrn.

Nid mater moesol yn unig mo hawl menywod i reoli’u cyfarpar atgenhedlu eu hunain. Mae’n fater ymarferol hefyd yng nghyd-destun yr amgylchedd. Dau ffactor allweddol sy’n cyfrannu’n helaeth at ddirywiad ein byd yw gorboblogaeth a thlodi. Mae’n amhosibl datrys y ddwy broblem honno heb sicrhau bod gan bob menyw’r hawl a’r gallu i ddefnyddio dulliau atgenhedlu, gan gynnwys erthyliad. Dyna’r man cychwyn. Ond ategu ei wrthwynebiad i’r ateb hwnnw a wna’r Pab yn ei gylchlythyr, wrth gwrs, gan danseilio’r gweddill yn llwyr. Mae popeth arall yn amherthnasol heb y cam amlwg a hanfodol yma.

Gwn mai ofer yw disgwyl i’r Pab gefnogi dosbarthu condoms a chaniatáu erthylu ledled y trydydd byd; mae gyfystyr â disgwyl iddo roi’r gorau i fod yn Babydd. Ond dyna’n union sydd raid iddo’i wneud er mwyn i mi ystyried ei gymryd o ddifrif. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Post Cyntaf: gweddïo mewn ysgolion

Roeddwn ar y Post Cyntaf bore ‘ma, yn trafod yr arfer o weddïo yn ystod gwasanaethau ysgol (mewn ymateb i’r adroddiad yma). Mae’r darn perthnasol yn dechrau ar ôl 1:43:40.

Nid yn unig y mae’n gyfreithiol i ysgolion y wladwriaeth arwain eu disgyblion mewn gweddi orfodol, ond mae’n anghyfreithlon iddynt beidio gwneud hynny. Mae’n sefyllfa ryfedd ac mae’n hen bryd i ni ddiddymu’r fath arferiad hen-ffasiwn a dwl.

Fel y dywedais yn yr eitem, nid lle’r wladwriaeth yw gorfodi crefydd ar bobl, yn enwedig gan fod plant ysgol yn rhy ifanc i fod wedi gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch eu daliadau diwinyddol. Fe geisiodd fy ngwrthwynebydd ddadlau nad ‘gorfodi’ mo hyn, a bod yr arferiad hyd yn oed yn ‘gynhwysol’, ond go brin y byddai mor barod i amddiffyn y sefyllfa bresennol petai pob un o’r gweddïau’n rai Hindŵaidd, dyweder. Mater o freinio a hyrwyddo un crefydd benodol yw hyn mewn gwirionedd, a’r unig beth synhwyrol i’r wladwriaeth ei wneud yw cadw draw o’r math yna o beth yn llwyr.

Roeddwn wedi bwriadu dweud llawer mwy, a dweud y gwir. Yn benodol, mae’n biti nad oedd amser i mi egluro fy mod yn daer o blaid gwersi addysg grefyddol. Hynny yw, mae gorfodi’r disbyblion i gymryd rhan mewn defod grefyddol yn anfoesol, ond mae’n bwysig eu dysgu am grefyddau’r byd, er fy mod, fel anffyddiwr, yn eu hystyried i gyd yn wirion. Mae pobl yn credu pob math o bethau, a dylid sicrhau bod plant yn deall hynny. Os rywbeth, mae’n bosibl fy mod yn gryfach o blaid hynny nag y mae llawer o Gristnogion, efallai oherwydd bod deall bod llawer iawn o grefyddau gwahanol yn bodoli yn gallu arwain yn ei dro at y sylweddoliad nad yw’r un ohonynt yn fwy arbennig na’r llall; mae’n fwy tebygol eu bod i gyd yn anghywir na bod un yn unig yn wir ar draul y gweddill.

Ond dywedaf eto y dylid gwahardd eu gorfodi i addoli. Dyma achos lle dylid efelychu UDA. Er bod y wlad honno’n fwy crefyddol na Phrydain a Chymru, mae’r wladwriaeth yn fwy seciwlar o lawer. Mae’r hyn sy’n ofyniad cyfreithiol ar ochr yma’r Iwerydd yn erbyn y gyfraith yn America. Yn wir, mae’n mynd yn groes i gymal cyntaf un eu cyfansoddiad. Mae pob croeso i’r disgyblion weddïo yn eu hamser eu hunain, wrth gwrs, cyn belled nad ydynt yn tarfu ar unrhyw un arall neu ar y gwersi.

Nid mater o ryddid rhag crefydd yn unig mo hyn, ond o ryddid crefyddol hefyd. Mae’r hawl i arddel eich ffydd eich hunain yn golygu’r hawl i ddewis peidio arddel ffydd arall. Gwahardd cyd-addoli mewn ysgolion yw’r unig fodd o sicrhau tegwch i bawb, o bob ffydd yn ogystal â’r di-ffydd. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Sut i beidio herio coegfeddygon

Mae cylchgrawn a gwefan ofnadwy o’r enw What Doctors Don’t Tell You wedi bodoli ers rhai blynyddoedd, bellach. Casgliad o gelwyddau a honiadau di-sail am ffug-driniaethau ‘amgen’ ydyw, ac mae sceptigiaid – gan gynnwys fi – yn llawn dirmyg tuag at y cyhoeddiad. Siom enfawr, fodd bynnag, oedd gweld y pwt yma yn y Private Eye diweddaraf:

Dylid nodi, efallai, bod gan Private Eye hanes o fod yn or-garedig i WDDTY. Tybed a yw’r ffaith bod y ddau gylchgrawn yn cael eu dosbarthu gan yr un cwmni, Comag, yn ffactor yn hynny o beth? Nid oes manylion am y sylwadau cas ar Facebook ac ati, felly mae’n anodd barnu (os oedd rhai ar eu tudalen, maent wedi’u dileu). Rwyf wedi edrych yn frysiog ond heb ganfod unrhyw enghreifftiau o’r hyn a awgrymir. Ond os nad yw hynny’n eglur, mae’r bygythiadau a’r hacio’n swnio’n ddi-amwys. Mae ymddygiad felly’n amlwg yn warthus ac anfaddeuol.

Mae’r arfer o fygwth trais rhywiol yn ddirgelwch anferth i mi: beth ddiawl sy’n mynd trwy feddwl y math o berson sy’n hapus i wneud hynny? Yn anffodus, mae wedi dod i’r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf bod rhywiaeth yn broblem o fewn y ‘gymuned’ o sceptigiaid ac anffyddwyr ar y we, ac nad ydym fawr gwell, os o gwbl, na’r boblogaeth yn gyffredinol yn hynny o beth. Os oes gan garfan ohonom yr argraff bod yr uchod yn ffordd synhwyrol o ymateb i’n ‘gelynion’, yna mae gennym broblem fawr y mae angen ei datrys ar fyrder.

Yn ogystal â bod yn anfoesol, mae nonsens fel hyn yn wrth-gynhyrchiol gan ei fod yn dilysu persecution complex y bobl sy’n hyrwyddo ‘triniaethau’ amgen. Mae cyhoeddwyr WDDTY eisoes yn awchu i bortreadu eu hunain fel Dafyddiaid bychain yn brwydro’n ddyfal yn erbyn Goliath y sefydliad meddygol gormesol a llwgr, sef naratif gyfarwydd pob quack. Y peth olaf sydd ei angen yw i rai ffyliaid roi hygrededd i’r naratif honno. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Seientoleg

Darllenais Going Clear: Scientology, Hollywood, and the Prison of Belief gan Lawrence Wright yn ddiweddar. Mae’r llyfr yn adeiladu ar yr ysgrif hon a gyhoeddodd yr awdur yn y New Yorker yn 2011. Mae’r erthygl yn anferthol ynddi’i hun – bron yn 25,000 o eiriau – ond rwy’n ei hargymell yn fawr iawn.

Hanes Seientoleg a gawn, a bydd llawer o’r cefndir lled-gyfarwydd i unrhyw un sy’n dilyn hynt a helynt yr ‘eglwys’ (i unrhyw un nad yw’n gwybod sut beth yw Eglwys Seientoleg, argymhellaf y gwefannau Operation Clambake ac Ex-Scientology Kids.

Wrth i ni ddilyn anturiaethau L Ron Hubbard, y dyn a sefydlodd y ffydd, yr hyn a ddaw’n amlwg yw ei fod, ymhell cyn dyddiau Seientoleg, wedi cael trafferth gwahaniaethu rhwng realiti a ffrwyth ei ddychymyg. Roedd yn gelwyddgi heb ei ail; gellir priodoli llawer o hynny i anonestrwydd digywilydd, ond roedd yn freuddwydiwr gwirioneddol. O ystyried hynny, nid oes rhyfedd iddo droi at ysgrifennu gwyddoniaeth yn gynnar iawn; am gyfnod o rai blynyddoedd bu’n ysgrifennu 100,000 o eiriau, ar gyfartaledd, bob mis. Roedd yn gorfod ysgrifennu pob syniad hanner-pan a groesai’i feddwl. Wedi creu cymaint o fydoedd ffantasïol, cam bychan wedyn oedd sefydlu crefydd. Mae chwedl Xenu, er enghraifft, sef ‘stori greu’ Seientoleg, yn darllen fel ffuglen wyddonol gwael (ond wedi dweud hynny, roedd ei stwff i gyd yn bur sâl, fel y gall unrhyw un sydd wedi gwylio Battlefield Earth dystio).

Mae athrawiaethau Seientoleg yn chwerthinllyd. Yn anffodus, nid oes unrhyw beth yn ddoniol am y ffordd y mae’r eglwys yn trin ei haelodau; gwae unrhyw un sy’n ceisio gadael. Mae’n costio ffortiwn i ddilyn ‘cyrsiau’ yr eglwys ac i gael yr audits angenrheidiol. Er mwyn ‘gwella’, rhaid bod yn hollol agored a chyfaddef pob cyfrinach, sy’n golygu bod yr eglwys yn casglu deunydd blacmêl yn ogystal â symiau anferthol o arian. Ar ben hynny, disgwylir i’r aelodau dorri pob cysylltiad â theulu nad ydynt yn fodlon ymuno â’r eglwys. Maent yn barod iawn i fynd i eithafion i rwystro pobl rhag gadael, ac maent wedi meistrioli’r grefft o ganfod unrhyw un a lwyddodd i ddianc.

Mewn sawl ffordd, nid yw Seientoleg yn arbennig o anarferol. Fe’i dirmygir yn fwy na chrefyddau eraill, ond nid yw’r athrawiaethau na’r chwedloniaeth ynddynt eu hunain yn wirionach na’r hyn a geir mewn unrhyw grefydd arall. Y gwahaniaeth pennaf yn achos Seientoleg yw ei fod mor newydd, felly mae amgylchiadau sefydlu’r ffydd yn fwy hysbys i ni. Treigl amser yn unig sy’n gwneud i grefyddau eraill ymddangos yn barchusach. Gwyddwn bod crefydd newydd yn gallu ennill ei phlwyf yn gymharol sydyn; wedi’r cyfan, mae Mormoniaeth, sy’n wirion bost, yn llai na 200 oed, ond roedd modd i Mitt Romney, sy’n aelod selog, enill ymgeisyddiaeth y Blaid Weriniaethol i fod yn arlywydd America yn 2012.

Yr hyn sy’n gwneud Seientoleg ychydig yn wahanol yw’r modd y mae’r eglwys yn mynd i raddau rhyfeddol er mwyn ceisio gwarchod ei henw da. Nid dim ond aelodau o’r ffydd ei hun sy’n dioddef, ond unrhyw un sy’n feirniadol o’r eglwys a’i harweinwyr. Efallai eich bod y cofio Panorama yn darlledu rhaglen am Seientoleg yn 2007, er enghraifft. Dilynwyd John Sweeney a’r criw cynhyrchu bob cam o’r ffordd gan staff Seientoleg, a oedd yn eu ffilmio hwythau drachefn. Y canlyniad, er boddhad i’r eglwys, oedd fideo o Sweeney’n sgrechian yng ngwyneb llefarydd ar ran yr eglwys o’r enw Tommy Davis (dyn arall a gawn ei hanes yn llyfr Wright, ac sydd ei hun wedi gadael erbyn hyn).

Mae Seientoleg yn cyflogi byddin anferth o gyfreithwyr, ac maent wedi meistroli’r grefft o wneud bywyd yn anodd dros ben i unrhyw ymchwilwyr sy’n ceisio cael gwybodaeth am droseddau’r eglwys. Roedd Wright ei hun yn gorfod bod yn eithriadol o ofalus wrth baratoi’r llyfr, sy’n gyforiog o droed-nodiadau’n egluro bod yr eglwys yn gwadu’r cyhuddiadau niferus. Yn wir, oherwydd cyfraith enllib hallt Prydain, nid yw’r gyfrol wedi’i chyhoeddi yn y wlad hon o gwbl. Cynhyrchwyd ffilm ddogfen o’r un enw hefyd, wedi’i seilio ar y llyfr; er iddi gael ei dangos yn America yn ddiweddar, mae’n edrych yn annhebgygol y bydd honno’n cael eu darlledu ym Mhrydain. Mae hynny’n hurt.

Diolch i ddyfodiad y we ac ambell achos llys pwysig, rydym yn gwybod llawer mwy am gredoau’r ffydd, a’r modd y mae’r eglwys yn gweithredu, nag yr oeddem yn y gorffennol, ac mae hynny wedi gwneud peth difrod i hygrededd yr eglwys. Ond nid digon. Mae miloedd o bobl yn cael eu twyllo a’u niweidio o hyd. Maffia yw Seientoleg i bob pwrpas, a dylid croesawu pob ymdrech i fwrw goleuni arnynt. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ymosodiad arall eto fyth ar yr hawl i lunio cartwnau

Texas y tro hwn, lle bu ymdrech i ymosod ar gystadleuaeth llunio cartwnau o Fohammed.

Mae gwleidyddiaeth y trefnwyr yn wahanol iawn i ideoleg Charlie Hebdo. Mae’r American Freedom Defense Initiative, a’r llywydd, Pamela Geller, yn geidwadwyr asgell-dde adweithiol tu hwnt, a’n arddel paranoia a chasineb amrwd yn erbyn Mwslemiaid. Nid oes ots am hynny. Dylid condemnio’r ymosodiad yma’n chwyrn a’n ddi-amod. Nid oes unrhyw beth o gwbl yn bod ar ddychanu Mohammed, ac mae’n hanfodol ein bod i gyd yn amddiffyn yr hawl honno’n groch, heb ‘ond’.

Rwy’n rhagweld perygl fan hyn, sef bod llawer o ryddfrydwyr asgell-chwith am fod hyd yn oed yn llai parod i feirniadu’r trais fan hyn nag yn achos y gyflafan ym Mharis. Trychineb fyddai sefyllfa lle mai’r unig bobl sy’n amddiffyn yr hawl i gableddu yw adweithwyr rhagfarnllyd. Brwydr ryddfrydol yw hon i fod. Peidiwch â gadael i ffyliaid ei meddianu i’w dibenion eu hunain. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Charlie Hebdo eto

Mae cyflafan Charlie Hebdo  wedi bod yn y newyddion eto’r wythnos hon, wedi i chwech aelod o PEN America wrthod mynychu gala flynyddol y sefydliad, oherwydd roedd staff Charlie Hebdo am fod yno i dderbyn gwobr am eu dewrder o blaid rhyddid mynegiant. Rwy’n credu bod ymddygiad y chwech – awduron adnabyddus i gyd – yn pathetig.

Mae Salman Rushdie wedi’u beirniadu’n chwyrn, ac felly hefyd Alex Massie yn The Spectator. Ers hynny mae un o’r chwech, Francine Prose, wedi ceisio egluro’r penderfynaid yn The Guardian. Afraid dweud nad yw’n darbwyllo. Rwyf am ddyfynnu’r cyfan yn ei dro:

When I learned that PEN had decided to award the Freedom of Expression Courage Award to Charlie Hebdo, I was dismayed. I had agreed to serve as a literary table host and I wondered what I would do when the crowd around me rose to its feet to applaud an award being given – in my name – to what I felt was an inappropriate recipient.

Rwy’n cael yr argraff bod Prose yn un o’r rheiny sy’n camddeall pwy yw targed cartwnau’r cylchgrawn.

Let me emphasize how strongly I believe in the ideals of PEN; for two years I was president of the PEN American Center. I believe in the indivisibility of the right to free speech, regardless of what – however racist, blasphemous, or in any way disagreeable – is being said. I was horrified by the tragic murders at the Charlie Hebdo office; I have nothing but sympathy for the victims and survivors. I abhor censorship of every kind and I despise the use of violence as a means of enforcing silence. I believe that Charlie Hebdo has every right to publish whatever they wish.

Dyna’r ddefod gyfarwydd o glirio llwnc cyn dod at yr hyn y mae wir eisiau’i ddweud:

But that is not the same as feeling that Charlie Hebdo deserves an award. As a friend wrote me: the First Amendment guarantees the right of the neo-Nazis to march in Skokie, Illinois, but we don’t give them an award. The bestowing of an award suggests to me a certain respect and admiration for the work that has been done, and for the value of that work and though I admire the courage with which Charlie Hebdo has insisted on its right to provoke and challenge the doctrinaire, I don’t feel that their work has the importance – the necessity – that would deserve such an honor.

Mae llawer o’i gwrthwynebwyr wedi neidio i’w chyhuddo o ‘gymharu’ Charlie Hebdo â’r Natsïaid. Fel mae’n digwydd, mae hynny’n annheg. Beirniadaeth wahanol sydd gennyf i – ac mae’n ddadl y bûm yn ei wneud ar y pryd – sef bod safon y gwaith fwy neu lai’n amherthnasol erbyn hyn. Yr unig ffaith bwysig yw bod staff cylchgrawn wedi cael eu llofruddio am feiddio cyhoeddi cartwnau.

Gan fod Prose wedi cyfeirio at Natsïaid, rwyf am wneud yr un peth: mae gwrthwynebu gwobrwyo Charlie Hebdo am resymau esthetaidd fel beirniadu safon dyddiaduron Anne Frank o safbwynt llenyddol. Hynny yw, mae’n methu’r pwynt yn llwyr. Mae’r ffaith bod rhywbeth hunllefus wedi digwydd i’r awdur yn gwneud y gwaith yn deimladwy ac ingol ynddo’i hun, ac mae clodfori’r cynnyrch yn fodd o wneud safiad yn erbyn y cam a wnaed. Mae’n ymateb naturiol; ni fyddai brwydr Malala Yusafzai o blaid hawliau merched i gael addysg wedi cael chwarter y sylw pe na bai’r Taliban wedi’i saethu yn ei phen. Ond gan iddi oroesi ymgais i’w llofruddio, mae hi wedi ennill Gwobr Heddwch Nobel. Er gwell neu er gwaeth, fel hynny mae pethau’n gweithio. Mae gwobrwyo Charlie Hebdo, sydd wedi cario ymlaen fel normal (a chyhoeddi llun o Mohammed ar glawr y rhifyn o’r cylchgrawn a ymddangosodd yn syth wedi’r digwyddiad), yn safiad syml o blaid yr hawl i wneud yr hyn y mae’r cylchgrawn yn ei wneud. Cydnabod eu dewrder yw hyn, nid, o reidrwydd, canmol y cartwnau (nid bod unrhyw beth o gwbl o’i le ar y cartwnau chwaith yn fy marn i). Yn y cyfamser, dadl wag a thruenus Prose yn y frawddeg olaf uchod yw ‘rwy’n edmygu dewrder Charlie Hebdo, ond rwy’n gwrthwynebu cydnabod eu dewrder’.

Perhaps my sense of this will be clearer if I mention the sort of writers and whistleblowers whom I think would be appropriate candidates: Edward Snowden, Chelsea Manning, the journalists who have risked (and in some cases lost) their lives to report on the wars in the Middle East. Or the extremely brave Lydia Cacho, who has fearlessly reported on government corruption in Mexico, along with the dozens and dozens of Mexican journalists who have been murdered for reporting on the narco wars.

Mae’r diffyg hunanymwybyddiaeth fan hyn yn syfrdanol. Ni ddylid gwobrwyo Charlie Hebdo, meddai, oherwydd dylid ei roi i newyddiadurwyr sy’n peryglu’u bywydau. Oes angen i mi egluro’r broblem fan yna?

I have been deeply shocked to read and hear some critics say that the position I have taken, along with other writers, amounts to an endorsement of terrorism. Nothing could be further from the truth. But I also don’t feel that it is the mission of PEN to fight the war on terrorism; that is the role of our government. Our job, in presenting an award, is to honor writers and journalists who are saying things that need to be said, who are working actively to tell us the truth about the world in which we live. That is important work that requires perseverance and courage. And this is not quite the same as drawing crude caricatures and mocking religion.

Pe na bai mwslemiaid ffwndamentalaidd yn protestio, a’n bygwth a defnyddio trais er mwyn gorfodi pawb arall i ufuddhau i’w hathrawiaethau crefyddol, byddai llawer iawn llai o angen cyhoeddi cartwnau fel rhai Charlie Hebdo. Yr ymateb lloerig yw’r union beth sy’n gwneud eu cyhoeddi’n angenrheidiol.

The bitterness and rage of the criticism that we have received point out how difficult people find it to think with any clarity on these issues and how easy it has been for the media – and our culture – to fan the flames of prejudice against Islam. As a result, many innocent Muslims have been tarred with the brush of Islamic extremism.

The narrative of the Charlie Hebdo murders – white Europeans killed in their offices by Muslim extremists – is one that feeds neatly into the cultural prejudices that have allowed our government to make so many disastrous mistakes in the Middle East. And the idea that one is either “for us or against us” in such matters not only precludes rational and careful thinking, but also has a chilling effect on the exercise of our right to free expression and free speech that all of us – and all the people at PEN – are working so tirelessly to guarantee.

Mae’r gair ‘narrative’ fan hyn yn rhyfedd, a dweud y lleiaf. Nid rhyw ‘naratif’ greadigol mo hynny, ond yr union hyn a ddigwyddodd (er, dylid cofio mai Arabiaid oedd dau o’r rhai a laddwyd).

Yn aml iawn, mae agweddau ‘unai gyda ni neu’n ein herbyn’ yn niweidiol a gwrth-gynhyrchiol. Ond yn yr achos penodol hwn, mewn difrif calon, onid yw’n wir? Nid yw rhyddid mynegiant yn golygu hawl awtomatig i gael gwobr. Ond pe na bai sefydliad fel PEN yn gallu gwneud safiad o blaid yr hawl i fyw mewn byd lle nad yw llunio cartŵn yn reswm i’ch lladd, beth fyddai’u diben o gwbl? Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ynghylch ymateb i gorddwyr proffesiynol

Mae pawb wedi clywed am y golofn warthus a ymddangosodd yn y Sun dros y penwythnos, lle argymhellodd yr awdur (nad wyf am ffwdanu ei henwi) saethu’r ‘cockroaches‘ sy’n ceisio ffoi o ogledd Affrica i Ewrop. Gwarthus iawn wrth gwrs. Mae’r awdur yn llwyddo i wneud bywoliaeth trwy ddweud y pethau mwyaf ymfflamychol sy’n dod i’w phen, ac mae rhai papurau newydd yn hapus i gyhoeddi’r rwtsh, yn rhannol er mwyn denu sylw. Mae’n strategaeth lwyddiannus, oherwydd dyma fi.

Sut ddylai pobl synhwyrol ymateb i’r stwff yma? Dechreuwn trwy ddweud sut na ddylid gwneud. Yn benodol, ni ddylwn alw’r heddlu. Er mor uffernol y safbwynt, ni ddylai ei fynegi fod yn anghyfreithlon. Dylai fod ganddi hawl i’w barn, a dylai fod gan bapurau newydd yr hawl i roi platfform iddi os mai dyna’u dymuniad.

Yn ail, ni ddylwn geisio cysuro’n hunain trwy ddweud bod 1) ei barn yn unigryw, a 2) nad yw’n ddidwyll. Y gwir yw mai’r hyn sy’n frawychus am y golofn yw’r ffaith ei bod yn adlewyrchu barn lled-gyffredin, nid ei bod rywsut yn eithriadol. Rhaid i ni roi’r gorau i dwyllo ein hunain bod rhagfarn yn beth prin erbyn hyn.

Gallwn gymharu’r sefyllfa â phobl fel Ann Coulter a Rush Limbaugh yn America, shock jocks sy’n ymhyfrydu mewn dweud pethau twp ac ymfflamychol iawn am ryddfrydwyr a Democratiaid, ac sy’n gwerthu llyfrau, a denu gwylwyr a gwrandawyr, wrth eu miliynau. Dro ar ôl tro, fe welwch bobl synhwyrol yn gwadu’r posibilrwydd bod y ddau wir yn credu’r hyn y maent yn ei ddweud, gan eu bod mor ‘eithafol’; dim ond chwarae cymeriad er mwyn gwneud arian y maent, meddir. Mae’r celwydd yma’n anghyfrifol. Wedi’r cyfan, os oes ganddynt gynulleidfa o filiynau, a’r rheiny i gyd yn amlwg yn cytuno â’r hyn sy’n cael ei ddweud, yna nid yw’n annhebygol o gwbl bod Coulter a Limbaugh eu hunain yn ei gredu hefyd. QED. Mae’r un rhesymeg yn dilyn yn achos awdur y golofn uchod; gwirion fyddai awgrymu bod mwyafrif, neu nyd yn oed leiafrif sylweddol, o’r darllenwyr yn ffieiddio. Y gwrthwyneb sy’n debygol o fod yn wir.

Dyma pam rwy’n amheus iawn bod anwybyddu pobl fel hyn yn ddoeth. Nid yw cuddio’n pennau yn y tywod yn debygol o gyflawni unrhyw beth o werth. Rhaid ei herio’n ffyrnig. Mae’r byd yn llawn pobl annifyr iawn o hyd, a dylid cydnabod hynny. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Dirywiad parhaol y system ddwy blaid

Mae datgan bod newid parhaol ar droed mewn gwleidyddiaeth yn gêm beryglus. Pan mae plaid a fu’n boblogaidd yn dechrau llithro, ceir milltiroedd o golofnau yn ein papurau newydd yn darogan nad oes ffordd yn ôl iddynt. Ond bron bob tro, yn hwyr neu’n hwyrach, yn ôl y dônt. Rwyf am fentro dweud, serch hynny, bod y gwleidyddiaeth aml-bleidiol newydd sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod yr ymgyrch bresennol yn barhaol.

Y peth pwysig i’w gofio yw nad yw dirywiad y system ddwy blaid – Llafur a’r Ceidwadwyr – yn ffenomen newydd o gwbl. Yn etholiad cyffredinol 1951, cafodd y ddwy blaid honno bron 97% o’r bleidlais rhyngddynt, sy’n ffigwr syfrdanol. Syrthio’n raddol a chyson a wnaeth y cyfanswm hwnnw’n ystod y degawdau canlynol, gan gyrraedd tua dwy draean ar gyfer yr etholiad hwn. Nid oes rheswm i ddisgwyl i’r broses yma newid cyfeiriad.

Llwyddiant yr SNP fydd y stori fawr ar Fai yr 8fed, wrth gwrs. Disgwylir iddynt ennill mwyafrif swmpus o 59 sedd seneddol yr Alban, o’i gymharu â’u chwech presennol. Yn hanesyddol, mae’r system cyntaf i’r felin wedi gweithio’n erbyn y pleidiau llai, gyda’r SNP a Phlaid Cymru yn eu plith. Erbyn hyn, fodd bynnag, gyda thwf rhyfeddol yr SNP, mae’r system, yn sydyn ddigon, yn fanteisiol i’r blaid honno. Mae’n bosibl y bydd tua hanner pleidlais boblogaidd yr Alban yn ddigon iddynt ennill tua 80% o holl seddau’r wlad (cymharer hyn gyda UKIP, sy’n debygol o ennill tua 13% o’r bleidlais ym Mhrydain gyfan ond dim ond rhyw ddwy sedd). Canlyniad anochel hyn yw bod y ddwy blaid fawr, sydd cyn hyn wedi bod yn ddirmygus o’r syniad o gynrychiolaeth gyfrannol, bellach wedi sylweddoli bod y system cyntaf i’r felin yn annheg. Maent yn gywir, wrth gwrs; mae’n annheg dros ben.

Yn dilyn yr etholiad, rwy’n darogan y bydd trafodaeth ddifrifol, o’r diwedd, am ddiwygio’r system etholiadol (mwy felly na’r hyn a gafwyd yn ystod ymgyrch y refferendwm ar y bleidlais amgen). Pwdu’r ddwy blaid fawr oherwydd llwyddiant yr SNP fydd y sbardun, ond er y rhagrith digywilydd, bydd hynny i’w groesawu. Y gwir yw nad oes modd cyfiawnhau cyntaf i’r felin mewn system lle nad oes unrhyw blaid unigol yn ennill mwy na thua traean o’r bleidlais.

Bydd unrhyw elfen o gyfraniaeth wedyn yn golygu mwy o lais, ar y cyfan, i bleidiau amgen, a bydd hynny yn ei dro yn ei gwneud yn anos i’r system ddwy blaid ddychwelyd i’w hanterth. Mantais arall i hyn i gyd yw y bydd pawb yn cael eu gorfodi i ymddwyn yn llawer aeddfetach ynghylch clymbleidio. Os yw llwyddiant cynyddol yr SNP am olygu ail refferendwm, a honno’n llwyddiannus, efallai mai anrheg gadael yr Alban i weddill Prydain fydd system etholiadol mwy synhwyrol. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Yn erbyn goddefgarwch

Mae tybiaeth gyffredinol bod goddefgarwch yn beth da. Os mai’r hyn a olygir yw ‘cyd-fyw yn ddedwydd’, mewn ffordd arwynebol, pwy all anghytuno? Ond wrth feddwl am y peth am funud, fe sylwch nad yw’r cysyniad yn gwneud rhyw lawer o synnwyr.

Er enghraifft, beth yn union mae ‘goddefgarwch’ yn ei feddwl wrth ystyried agweddau tuag at bobl cyfunrywiol neu o leiafrifoedd ethnig? Mae’r gair yn awgrymu dygymod â rhywbeth annymunol. Os ydych yn ‘goddef’ grwpiau fel hynny, mae’n dilyn bod gennych broblem â hwy ond eich bod yn cadw’n dawel am y peth, oherwydd bod cyfaddef hynny bellach yn dabŵ. Mewn gwirionedd, mae’n rhaid i chi fod yn ragfarnllyd i orfod goddef o gwbl yn y cyd-destun hwn. Os nad ydych yn meddu ar y rhagfarnau hynny, a’n deall nad oes unrhyw beth yn bod ar gyfunrywioldeb neu liw croen gwahanol, nid oes unrhyw beth i’w oddef yn y lle cyntaf. Camargraff cyffredin yw mai ‘goddefgarwch’ yw gwrthwyneb ‘rhagfarn’, ond rhagfarn gyfrinachol ydyw mewn gwirionedd.

Ar y llaw arall, os ydych yn credu bod rhywbeth yn annerbyniol, pam ei oddef? Rwy’n ffieiddio at homoffobia, hiliaeth a rhywiaeth, ac rwy’n gwrthod eu ‘goddef’. Yn wir, mae ‘goddef’ y fath anoddefgarwch yn anfoesol. Wrth gwrs, rwy’n ffieiddio hefyd at y syniad o wahardd mynegi’r safbwyntiau hynny mewn unrhyw ffordd. Ond nid ‘goddefgarwch’ mo ‘caniatáu’ i bobl rhagfarnllyd ddweud eu dweud; nid yw, ac ni ddylai fod, o fewn fy ngallu i’w rhwystro hyd yn oed petai hynny’n ddymuniad gennyf.

Mae ‘goddefgarwch crefyddol’ yn gysyniad llithrig arall. Beth mae’n ei olygu i ddweud eich bod yn goddef crefydd benodol? Na ddylai’r sawl sy’n credu ynddi (gan gymryd nad ydynt yn niweidio eraill) gael eu herlyn neu eu herlid? Dylai hynny fod yn sylfaenol ac amlwg. Yn aml, defnyddir y syniad o oddefgarwch crefyddol er mwyn ceisio gorfodi pobl eraill i ‘barchu’ rheolau crefydd nad ydynt yn credu ynddi. Un o ganlyniadau chwerthinllyd hyn yw cyhuddo pobl o ‘anoddefgarwch’ am iddynt lunio cartwnau di-niwed o ddyn Arabaidd barfog, er enghraifft. Nid wyf yn parchu rheolau nac athrawiaethau crefyddol o gwbl, ond rwy’n chwyrn o blaid hawl pobl i’w harddel. Unwaith eto, nid yw ‘goddefgarwch’ nac yma nac acw. Da fyddai claddu’r gair. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Wel, dyna ddiwedd ar fy ngyrfa wleidyddol cyn dechrau

Yn dilyn y ffrae wirion ynghylch erthygl o 2001 o eiddo Mike Parker, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, dyma ddau ddarn ardderchog, y naill gan Jasmine Donahaye a’r llall gan Vaughan Roderick. Mae cwyno parhaus am wleidyddion proffesiynol, sydd wedi mynd i weithio i’w pleidiau gwleidyddol yn syth o’r coleg. Ond ar yr un pryd, mae rhywun wedi tyrchu a dewis a dethol geiriau a ysgrifennodd Parker ddegawd a mwy cyn iddo roi cynnig ar wleidydda, a’u defnyddio er mwyn ceisio tanseilio’i ymgyrch. Nid af i fanylion; maent eisoes yn hysbys, fwy na thebyg, i ddarllenwyr y blog hwn. Mae’r helynt wedi amlygu, fodd bynnag, na fyddai gennyf fawr o obaith petawn, yn hypothetig, yn ceisio dilyn trywydd tebyg.

Anghofiwn am funud y buaswn yn gwneud gwleidydd crap beth bynnag. Nid oes gennyf y gallu na’r dyhead i gamu i’r maes hwnnw. Dychmygwn, serch popeth, fy mod yn rhoi cynnig arni. Trwy ysgrifennu’r blog yma – hobi, wedi’r cyfan – buaswn wedi gwneud pethau’n bur hawdd i’m gwrthwynebwyr. Dyma fi’n dadlau o blaid cyfreithloni llosgach, er enghraifft (buaswn yn ystyried sefyll etholiad dim ond er mwyn mwynhau comedi’r ffrae wleidyddol swreal a fyddai’n deillio o hynny!). Rwy’n ‘casáu’r Pab a’i grefydd‘ (‘cabal rhyngwladol sy’n gwarchod treisiwyr plant‘, cofiwch!). A dyma fi’n dweud mai ‘teg fyddai fy ngalw’n wrth-islamaidd‘. Mae’n sicr bod llawer iawn mwy, a’r cyfan ar un wefan fach gyfleus. Heb sôn am Twitter (neu Faes-E, sydd efallai’n farwol i ddarpar-yrfaoedd gwleidyddol cenhedlaeth gyfan o Gymry anaeddfed!). Rydym eisoes wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd i un o ymgeiswyr 20 oed yr SNP, sy’n defnyddio’r un cyfrif Twitter ag yn ei harddegau, sy’n golygu bod sylwadau dwl ac phlentynnaidd a wnaeth tra’n ifanc iawn bellach yn ei niweidio’n wleidyddol.

Mae natur disgwrs wleidyddol fodern yn ddidrugaredd. Nid oes lle i nuance. Hyd yn oed pan mae rhywun fel Mike Parker yn gwneud pwynt gwrth-hiliaeth syml ac amlwg, mae modd troi’r geiriau hynny ben i waered ac awgrymu ei fod wedi dweud y gwrthwyneb. Yn achos yr ychydig enghreifftiau uchod, buasai’n anodd i mi’u hegluro’n ddigonol mewn cyd-destun ymgyrch etholiadol danllyd, er fy mod yn gyndyn eu bod yn gyfiawn.

Buasai f’ymgyrch ar ben fwy neu lai cyn iddi ddechrau, felly. Ni fyddai hynny’n golled fawr, fel y dywedais. Ond mae’n debygol bod yna bobl mwy dawnus o lawer mewn sefyllfaoedd tebyg. Rydym am fod yn dlotach ein byd os ydym am gloi’r rhain allan o’n gwleidyddiaeth am iddynt feiddio, mewn bywyd cynharach, ysgrifennu rhywbeth beiddgar. Neu, yn wir, sgribls byrbwyll angof rhywun ifanc. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Y Fam Teresa

Darllenais The Missionary Position (cyhoeddwyd ym 1994) gan Christopher Hitchens yn ddiweddar. Polemig byr ydyw. Afraid dweud nad yw’n garedig â’r diweddar Anjezë Gonxhe Bojaxhiu (mae’n debyg mai teitl amgen cynnar oedd Sacred Cow).

Amcan Hitchens oedd chwalu’r argraff gyffredinol ohoni fel santes llawn daioni. Mae rhai o’r problemau gyda’i gwaith bellach yn gymharol hysbys, ond mae tuedd o hyd i’w hesgusodi. Roedd ei chalon yn y lle iawn, meddir. Ond na. Dylid bod yn berffaith glir fan hyn: nid camgymeriadau’n deillio o fwriadau da oedd y rhain. Roedd yr amcanion eu hunain yn warthus. Yn fy marn i, roedd hi’n ddynes wirioneddol ofnadwy ym mhob ffordd.

Asgetig oedd hi, yn clodfori tlodi a dioddefaint er eu mwyn eu hunain. Er i’w helusen dderbyn miliynau lawer mewn rhoddion (gan gynnwys o ffynonellau pur amheus), llwm iawn oedd yr amodau i bawb yn ei gofal. Nid yw’n glir hyd heddiw i ble aeth llawer o’r arian yma.

Mae’n amhosibl dyfalu faint a fu farw’n gwbl ddi-angen. Ar ben hynny, ac er iddi geisio honni nad creadur gwleidyddol mohoni, roedd hi’n weithgar iawn ei gwrthwynebiad i atalgenhedlu ac erthyliad (dyna oedd prif bwnc ei haraith wrth dderbyn Gwobr Heddwch Nobel ym 1979). O gofio sefyllfa Calcota o bob man, lle mae problemau gorboblogi’n cyrraedd lefelau hurt dros ben, mae hynny’n arbennig o anghyfrifol. (Gyda llaw, mae’n werth nodi fan hyn bod Hitchens, yn anffodus, yn arddangos peth cydymdeimlad â’r farn gwrth-erthyliad, er bod ei feirniadaeth o safbwynt y lleian yn chwyrn hefyd).

Yn dilyn trychineb diwydiannol Bhopal ym 1984, ei chyngor hollol annefnyddiol i’r dioddefwyr a’r rhai mewn galar, yn syth wedi’r digwyddiad, oedd ‘maddeuer, maddeuer, maddeuer’. Rwy’n credu bod hynny’n dweud cyfrolau am wacter anfoesol ei diwinyddiaeth. Lladdwyd miloedd gan esgelustod Union Carbide, ac nid trwy faddau y ceir cyfiawnder. Yn yr un ffordd, ni ddylid maddau i’r Fam Teresa chwaith am y niwed enbyd a wnaeth hithau. Parhau i ddarllen