Canlyniadau Chwilio: deddf

Anffyddiaeth: Y broblem â deddf Godwin

Mae unrhyw un sydd wedi ffraeo am wleidyddiaeth ar y rhyngrwyd wedi dod ar draws ‘deddf Godwin‘. Fe’i bathwyd gan ddyn o’r enw Mike Godwin yn y 1990au, ac roedd ei fersiwn wreiddiol ef yn osodiad digon syml: wrth i drafodaeth ar y we fynd yn ei blaen, bydd rhywun, yn hwyr neu’n hwyrach, yn gwneud cymhariaeth â’r Natsïaid.

Ers hynny, mae ystyr y ‘ddeddf’ wedi esblygu. I lawer, mae’n golygu bod y person cyntaf i grybwyll y Natsïaid wedi colli’r ddadl yn awtomatig. Mae hefyd wedi ehangu i gyfeirio at gyfeiriadau at ffasgaeth yn gyffredinol, nid Natsïaeth yn unig. Defnyddir y ddelwedd isod yn aml:

Mae’n wir, wrth gwrs, bod llawer o bobl yn or-barod i ddefnyddio enw gwenwynig y Natsïaid fel arf rethregol. Dylid bod yn ofalus, oherwydd mae taflu’r label o gwmpas pan nad yw hynny’n briodol (cofio ‘Bushitler‘?) yn ei gwneud yn anos i’w defnyddio pan mae’n addas. A dyna’r pwynt: mae yna achosion prin pan mae galw rhywun yn ffasgydd (os nad Natsi) yn gyhuddiad cwbl ddilys.

Un o’r camgymeriadau mwyaf y gallwn ei wneud wrth ystyried dyddiau tywyll ffasgaeth ail chwarter y ganrif ddiwethaf yw tybio nad yw’n bosibl iddynt ddigwydd eto. Mae tuedd i feddwl am yr holl beth fel cartŵn, bron, fel rhywbeth a ddigwyddodd ar blaned arall heb unrhyw berthnasedd i’n hoes fodern ni. Ond pobl yn trin pobl oedd ffasgaeth; nid oedd unrhyw beth lledrithiol yn perthyn i’r ffenomen. A’r gwir yw bod llawer o’r hyn a welwn heddiw yn debyg iawn i’r hyn a arweiniodd at ffasgaeth yn Ewrop yn y gorffennol cymharol agos.

Ie: ffordd hirwyntog arall o alw Donald Trump yn ffasgydd eto fyth yw’r blogiad hwn. Rwy’n grediniol ei fod yn ticio’r blychau, ond hyd yn oed os oes modd hollti blew yn academaidd, nid yw’r cyhuddiad yn chwerthinllyd o bell ffordd.

Gwers amlwg i’w dysgu o’r hyn a welwyd yn Ewrop yn y 1920au a’r 1930au yw pwysigrwydd osgoi gwneud yr un camgymeriad eto. Y gwir yw bod llawer iawn o’r hyn y mae Trump yn ei wneud (a’r dde eithafol ymhob man) yn frawychus o gyfarwydd. Mae ymateb i bobl sy’n gwneud y pwynt pwysig hwnnw trwy weiddi ‘deddf Godwin!’ yn ddi-feddwl yn beryglus. Modd o gau’r drafodaeth lawr yw hynny, ac mae angen ei herio. Rwy’n besimistaidd iawn am y blynyddoedd nesaf, ac mae atgoffa’n hunain o hanes datblygiad ffasgaeth yn bwysicach heddiw nag erioed. Parhau i ddarllen

: Asia Bibi

Asia Bibi yw’r Cristion o Bacistan a gafodd ei dedfrydu i farwolaeth yn 2010 ar ôl honiadau hanner-pan iddi gableddu’n erbyn y proffwyd Mohammed. Cafwyd y newyddion da (ac annisgwyl) rai dyddiau yn ôl y bydd yn cael ei rhyddhau. Yn anffodus, bu pr… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Asia Bibi

Asia Bibi yw’r Cristion o Bacistan a gafodd ei dedfrydu i farwolaeth yn 2010 ar ôl honiadau hanner-pan iddi gableddu’n erbyn y proffwyd Mohammed. Cafwyd y newyddion da (ac annisgwyl) rai dyddiau yn ôl y bydd yn cael ei rhyddhau. Yn anffodus, bu pr… Parhau i ddarllen

: Sylwadau Boris Johnson am y gorchudd islamaidd

Rwyf wedi esbonio fy marn am y nicáb a’r bwrca o’r blaen, felly gwnaiff grynodeb sydyn y tro: nid wyf yn eu hoffi, mae’r rhesymeg crefyddol sy’n eu cyfiawnhau yn ffiaidd, ond ni ddylid eu gwahardd oherwydd rwy’n credu’n gryf na ddylai’r wladwriaeth dde… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Sylwadau Boris Johnson am y gorchudd islamaidd

Rwyf wedi esbonio fy marn am y nicáb a’r bwrca o’r blaen, felly gwnaiff grynodeb sydyn y tro: nid wyf yn eu hoffi, mae’r theoleg sy’n eu cyfiawnhau yn ffiaidd, ond ni ddylid eu gwahardd oherwydd rwy’n credu’n gryf na ddylai’r wladwriaeth ddeddfu ynghyl… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Gwersi’r Holocost

Y broblem gydag anferthedd dychrynllyd yr Holocost yw bod tuedd i’w osod, fel petai, mewn categori ar wahan, y tu allan i hanes arferol, ac i bortreadu’r Natsïaid fel cartwnau. Perygl hynny yw i ni ddod yn ddirmygus o’r syniad bod modd i rywbeth tebyg … Parhau i ddarllen

: Gwersi’r Holocost

Y broblem gydag anferthedd dychrynllyd yr Holocost yw bod tuedd i’w osod, fel petai, mewn categori ar wahan, y tu allan i hanes arferol, ac i bortreadu’r Natsïaid fel cartwnau. Perygl hynny yw i ni ddod yn ddirmygus o’r syniad bod modd i rywbeth tebyg … Parhau i ddarllen

: Ynghylch rhagfarn wrth-Gymraeg

Mae Rod Liddle yn ddyn diflas a dwl a diog, gyda record hir o sarhau siaradwyr Cymraeg a sawl grŵp arall. Bu wrthi eto’n ddiweddar, a bu’r ymateb, yn naturiol, yn ffyrnig.Pob tro mae rhywbeth fel hyn yn digwydd, mae dadl ynghylch y ffordd orau i ni yma… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ynghylch rhagfarn wrth-Gymraeg

Mae Rod Liddle yn ddyn diflas a dwl a diog, gyda record hir o sarhau siaradwyr Cymraeg a sawl grŵp arall. Bu wrthi eto’n ddiweddar, a bu’r ymateb, yn naturiol, yn ffyrnig.Pob tro mae rhywbeth fel hyn yn digwydd, mae dadl ynghylch y ffordd orau i ni yma… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ynghylch dyneiddio natsïaid

Yn ddiweddar, mae genre syrffedus o newyddiaduraeth wedi dod fwyfwy i’r amlwg, sef portreadau tyner o ffasgwyr ac ymgyrchwyr o blaid goruchafiaeth y dyn gwyn. Dyma enghraifft arbennig o anffodus gan y New York Times: proffeil o Natsi o’r iawn ryw o Ohi… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ynghylch dyneiddio natsïaid

Yn ddiweddar, mae genre syrffedus o newyddiaduraeth wedi dod fwyfwy i’r amlwg, sef portreadau tyner o ffasgwyr ac ymgyrchwyr o blaid goruchafiaeth y dyn gwyn. Dyma enghraifft arbennig o anffodus gan y New York Times: proffeil o Natsi o’r iawn ryw o Ohi… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Anobeithio

Cloais y blogiad diwethaf trwy ddweud fy mod yn teimlo’n besimistaidd am gyflwr y byd. Roedd hynny cyn i Donald Trump, ffasgydd twp hiliol, ennill etholiad arlywyddol America. Teg dweud felly bod pethau’n edrych hyd yn oed yn dywyllach erbyn hyn.

Rwyf wedi diflasu ers misoedd ar y syniad mai pryderon economaidd sy’n gyrru cefnogwyr Trump, a chefnogwyr mudiadau dde eithafol Ewrop. Y gwir amdani yw bod y Trumpiaid yn llawer mwy cyfforddus yn ariannol na chyfartaledd y boblogaeth. Dro ar ôl tro, rydym wedi clywed y bobl hyn yn egluro’u rhesymau’n ddigon plaen, ac mae’n hen bryd i ni eu trin fel oedolion a derbyn eu gair: hiliaeth a misogynistiaeth sydd wedi gyrru’r ffenomen. Nid cefnogi Trump er gwaethaf ei sylwadau am fwslemiaid a phobl croenddu a Hispaniaid a wnant, ond o’u herwydd. Adwaith yn erbyn edwiniad goruchafiaeth y dyn gwyn yw hyn, a dyhead i droi’r cloc yn ôl i oes aur ddychmygol na fodolodd erioed mewn gwirionedd. Mae hyd yn oed y grwgnach am gytundebau masnach a’r ‘sefydliad’ yn drewi o hiliaeth, gan ei bod yn amlwg mai côd ar gyfer iddewon yw’r holl gyfeiriadau at global elites.

Rwy’n gweld rhai rhyddfrydwyr yn cwyno nad yw dadansoddiad fel yr uchod yn adeiladol, a bod angen i ni wneud mwy i ‘ddeall’ pryderon y ffasgwyr newydd. Ond beth yn fwy sydd yna i’w ddweud? Nid oes gennyf lawer o empathi i’w gynnig i hilgwn fel y rhain. I garfan sydd wedi arfer mwynhau statws mor freintiedig, mae cydraddoldeb i grwpiau eraill yn teimlo fel bygythiad. Ymddengys bod llawer o ryddfrydwyr yn amharod i dderbyn bod cynifer o hilgwn yn ein plith. Mae’n ddigalon, ond nid oes gobaith o ddatrys y sefyllfa heb i ni gydnabod y broblem yn y lle cyntaf.

Beth yw’r ateb, felly, heblaw am aros ambell ddegawd i’r genhedlaeth fwyaf hunanol erioed – y baby boomers gwyn – farw? Oes yna un? Mae pethau’n sicr o waethygu cyn gwella yn fy marn i. Mae buddugoliaeth Trump yn debygol o roi hwb i fudiadau tebyg mewn gwledydd eraill. Cynhelir etholiad arlywyddol nesaf Ffrainc, er enghraifft, ym mis Ebrill a Mai flwyddyn nesaf, a bydd y gwynt yn hwyliau Marine Le Pen. Felly hefyd Geert Wilders yn yr Iseldiroedd yn eu hetholiad cyffredinol hwythau ym mis Mawrth. Ar ben hynny, bydd hyn yn annog arweinwyr lled-awtocrataidd rhai o wledydd dwyrain Ewrop, fel Hwngari a Gwlad Pwyl, i barhau ar eu trywydd anrhyddfrydol. Yn wir, af mor bell â darogan bod yr Undeb Ewropeaidd bellach yn ei degawd olaf. Byddai hyn wedi swnio’n anhygoel ddwy flynedd yn ôl, ond y gwir yw bod ein sefydliadau a strwythurau cenedlaethol a rhyngwladol yn dadfeilio o flaen ein llygaid. Rwy’n nerfus. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Cyflafan Orlando

Dyma ffaith syfrdanol: dros y penwythnos yn America, bu chwech achos gwahanol o saethu torfol. Un o’r rhain oedd y gwaethaf yn hanes y wlad; mae cadarnhad bod 51 wedi’u lladd mewn clwb nos yn Orlando sy’n boblogaidd â phobl hoyw. Dyma’r gyflafan waethaf yn erbyn hoywon yn y gorllewin ers yr Holocost.

Americanwr oedd y llofrudd, yn enedigol o Efrog Newydd, ond mae ei rieni o Affganistan. Mae’n debyg bod Omar Mateen wedi ffieiddio o weld dau ddyn yn cusanu, ac wedi mynd ati’n benodol i dargedu’r clwb hwn. Fe ddatganodd ei gefnogaeth i’r Wladwriaeth Islamaidd, ac er ei bod yn annhebygol bod y grŵp hwnnw wedi chwarae rhan yn y cynllunio, roeddent yn berffaith hapus i dderbyn y ‘clod’. Unwaith y daeth i’r amlwg bod modd beio’r cyfan ar islam, roedd ymateb ceidwadwyr y wlad mor anochel ag y buasech wedi tybio.

Byddai ychydig o gyd-destun yn ddefnyddiol fan hyn. Bu ymosodiad erchyll ar Ysgol Sandy Hook yng Nghonnecticut ar Ragfyr 14, 2012, a lladdwyd 27. Roedd 20 ohonynt yn blant chwech a saith oed. Y gyflafan yn Orlando oedd y 998fed achos o saethu torfol ers hynny. Mae hynny’n cyfateb i bron un bob dydd, tros gyfnod o dair blynedd a hanner. Er y sgrechian gan geidwadwyr bod ‘islamiaeth radical’ yn bygwth y weriniaeth, dim ond tri o’r ymosodiadau hyn a gyflawnyd gan fwslemiaid eithafol. Wrth gwrs mae terfysgaeth islamaidd yn broblem (fel rwyf wedi’i drafod droeon), ond mae’n berffaith amlwg i bawb synhwyrol bod perthynas rhwng y rhestr anferth yma o achosion o saethu (sy’n hollol unigryw yn y byd gorllewinol) ac obsesiwn Americanwyr â gynnau. Er bod Mateen eisoes wedi dod i sylw’r gwasanaethau cudd yn y gorffennol, bu modd iddo brynu assault rifle AR-15 yn gwbl gyfreithlon. Arf ar gyfer maes rhyfel yw hwnnw; nid oes rheswm o fath yn y byd i’r fath beth fod ar gael i unigolion preifat.

Cri ceidwadwyr yw bod angen cadw Americanwyr yn saff. Y ffordd amlwg o wneud hynny yw newid y polisi gynnau, ond mae hynny’n wrthun iddynt. Yn anffodus, o gofio na newidiodd unrhyw beth yn dilyn y golygfeydd arswydus o Sandy Hook, nid oes llawer o obaith y bydd pethau’n wahanol y tro hwn chwaith. Mynnir na ddylid ‘politiceiddio’ digwyddiadau fel hyn. ‘Nid nawr yw’r amser’ i drafod y broblem gynnau, meddent. Lol llwyr yw hynny: dyma’r union amser i siarad am y peth a gweithredu. Os nad nawr, pryd? Esgus i aros i’r mater fynd yn angof a llithro oddi ar yr agenda yw dweud na ddylid trafod newid polisi fel ymateb uniongyrchol i’r fath ymosodiadau.

Llawer gwell gan y Gweriniaethwyr yw eistedd ar eu dwylo a gwneud dim ond cynnig eu ‘meddyliau a’u gweddïau‘. Dyna un o’m cas ymadroddion. Mae’n waeth nag ofer, a’n cymryd lle ateb go iawn. Mae gan aelodau’r Gyngres y gallu i rwystro ymosodiadau fel hyn trwy gyflwyno deddfau. Nid yw’r malu cachu diog a gwag yna’n helpu unrhyw un. Yn wir, mae hyd yn oed yn fwy rhagrithiol na’r arfer yn yr achos hwn, gan fod polisïau’r Gweriniaethwyr tuag at bobl hoyw’n llawn casineb hyll. Cafwyd y datganiad hwn gan Ted Cruz, er enghraifft, y dyn a ddaeth yn ail i Trump yn ras ar gyfer enwebiad arlywyddol y blaid eleni. Dywedodd:

If you’re a Democratic politician and you really want to stand for LGBT, show real courage and stand up against the vicious ideology that has targeted our fellow Americans for murder.

Mae’r rhagrith yn codi cyfog. Nid oes gan Cruz unrhyw hawl i’r tir uchel moesol ar fater hawliau pobl LHDT, gan fod poeri casineb tuag atynt wedi bod yn sail i’w holl yrfa wleidyddol. Yn wir, fe rannodd lwyfan â Christion eithafol o’r enw Kevin Swanson sy’n dweud yn blaen y dylid dïenyddio pobl hoyw. Pan mae ymgeiswyr arlywyddol yn cofleidio rhywun felly, pa ryfedd bod rhywun yn mynd i geisio rhoi’r syniadau ar waith? Gan fod Cruz wedi gwrthod sawl cyfle i gondemnio Swanson, dylai fod yn onest a chymeradwyo Mateen.

Yr unig reswm mae ceidwadwyr y Gweriniaethwyr wedi cynhyrfu am y gyflafan hon yw mai mwslem oedd yn gyfrifol. Yn y cyfamser, ar yr un diwrnod, arestwyd dyn yn Los Angeles oedd ar ei ffordd i ymosod ar ddigwyddiad LA Pride. Roedd ganddo lond car o arfau a ffrwydron. Dyn gwyn o’r enw James Howell oedd hwnnw, a Christion yn ôl pob tebyg. Rhagfarn a chasineb yn erbyn pobl hoyw yw’r broblem fan hyn. Dylid canolbwyntio ar y dioddefwyr. Nid yw union ffydd y sawl sy’n eu targedu’n arbennig o bwysig; ffwndamentaliaid treisgar a rhagfarnllyd yw’r gelyn, beth bynnag eu hunion ddaliadau crefyddol. Mae’n anodd dweud y gwahaniaeth rhyngddynt yn y pen draw. Os yw’r Gweriniaethwyr o ddifrif am wrthwynebu’r Wladwriaeth Islamaidd, dylent gofleidio ac arddel hawliau pobl LHDT. Y gwir yw eu bod yn debycach i’w gelynion honedig nag y maent yn barod i’w gydnabod. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Y ‘canol’ gwleidyddol

Gyda Jeremy Corbyn bellach wedi’i ethol yn arweinydd y Blaid Lafur, mae’n sicr y clywn fwy fyth o ddadlau ynghylch y broblem fawr honedig sy’n ei wynebu, sef na fyddai’n etholadwy. Mae llawer o bwysigion sefydliadol y blaid yn pryderu ei fod yn rhy bell i’r chwith yn wleidyddol, ac mai symud yn ôl i’r ‘canol’ ddylai Llafur ei wneud os ydynt am greu llywodraeth yn 2020. Y broblem, yn fy marn i, yw bod y ‘canol gwleidyddol’, neu’r ‘cymhedrol’, yn gysyniad trafferthus.

Y broblem gyntaf yw’r dybiaeth mai’r ‘canol’, yn anorfod, yw’r lle cywiraf i fod. Os yw person A yn dadlau un peth, a pherson B yn arddel y gwrthwyneb, mae yna duedd, yn enwedig yn y cyfryngau modern, i gasglu bod rhaid i’r gwir fod rywle yn y canol rhyngddynt. Diau bod hynny’n wir weithiau. Ond dro arall, mae un person yn iawn a’r llall yn hollol anghywir, ac mae chwilio am gyfaddawd ‘cymhedrol’ yn anonest.  Gwelir hyn yn aml mewn dadleuon am bynciau gwyddonol, a’r sylw anhaeddiannol a roddir i bobl sy’n gwadu ein bod yn cael effaith ar yr hinsawdd, er enghraifft, neu i greadyddion. Mae’r un peth yn wir, weithiau, gyda gwleidyddiaeth.

Mae’r ail broblem yn ymwneud â holl bwrpas gwleidydda, ac rwyf wedi cyffwrdd arni ar y blog o’r blaen. Yn arddangosol, o leiaf, pan mae rhywun yn penderfynu mynd yn wleidydd, eu rheswm yw bod ganddynt gasgliadau o safbwyntiau ac egwyddorion y maent yn deisyfu eu rhoi ar waith. Rwy’n cytuno’n llwyr â’r athronydd ceidwadol Edmund Burke: cyn etholiad, dylai gwleidyddion egluro’u polisïau’n onest, a cheisio darbwyllo’r etholwyr bod y polisïau hynny’n gywir. Ar ôl yr etholiad, dylent barhau i ddilyn eu cydwybod, gan gynnwys pan all hynny fod yn niweidiol i’w gobeithion yn yr etholiad nesaf.  Celwydd yw addasu safbwyntiau er mwyn cydymffurfio â barn y cyhoedd. Yn fy marn i, mae gwleidyddion yn treulio llawer iawn gormod o amser yn ceisio ‘apelio’ at eu hetholwyr, a llawer gormod o amser yn eu hetholaethau. Rwy’n disgwyl i aelodau seneddol dreulio’u hamser yn ceisio gwireddu eu syniadau ideolegol mewn deddfwrfa genedlaethol. Yn y bôn, fy nadl yw na ddylai gwleidyddion adael i’r cyhoedd gael unrhyw ddylanwad ar eu hymddygiad. Breuddwyd gwrach iwtopaidd yw hyn, wrth reswm, ond dyma’r ddelfryd y dylid anelu amdano, yn fy marn i.

Mae hyn yn arwain at y brif broblem, sef y syniad bod y ‘canol gwleidyddol’ rywsut yn bodoli fel endid annibynnol, y tu hwnt i’n rheolaeth, a bod unrhyw shifft i’r dde neu’r chwith yn anochel. Lol amlwg yw hyn. Do, mae’r canol gwleidyddol ym Mhrydain wedi symud cryn dipyn i’r dde, ar faterion economaidd, dros y degawdau diwethaf. Ond y rheswm am hynny yw mai’r Blaid Geidwadol sydd wedi’i symud yno. Wrth i ‘eithafwyr’ (yn ystyr llythrennol yr ymadrodd) geisio gwthio’r ffiniau ymhellach ac ymhellach, mae ffenestr Overton, sef yr amrediad o safbwyntiau a ystyrir yn ‘dderbyniol’, yn dilyn ychydig y tu ôl. Hynny yw, er mwyn gwneud i syniad swnio’n fwy credadwy, mae’n help os oes rhywun arall, ar yr un pryd, yn gwyntyllu syniad mwy ‘eithafol’ fyth ar yr un pryd. Pe cyflawnir hynny, gellir wedyn gwthio pethau ymhellach ac ymhellach eto, ac yn y blaen.

Nid oes dwywaith mai’r Ceidwadwyr sydd wedi bod yn symud ffenestr Overton i’w dibenion eu hunain ers cenhedlaeth, bellach. Dyma alluogodd Margaret Thatcher i ddatgan mai ei llwyddiant gwleidyddol pennaf oedd Tony Blair a Llafur Newydd. Mewn termau absoliwt, roedd llywodraeth Blair ymhellach o lawer i’r dde, yn economaidd, nag oedd Thatcher erioed. Yng nghyfnod Callaghan, byddai hyd yn oed y Ceidwadwyr wedi ystyried synaidau Blair yn eithafol. Dilyn ffenestr Overton yn dawel bach y mae Llafur wedi bod yn gwneud yn y cyfnod yma; roeddent wedi rhoi’r gorau i frwydro i geisio tynnu’r ffenestr i’r chwith drachefn. Yn y pen draw, roeddent yn cydnabod eu bod wedi colli’r ddadl i raddau helaeth, a’n gwerthu’u hunain fel fersiwn ychydig yn llai milain na’r Blaid Geidwadol.

Nid felly raid i bethau fod. Rwy’n amheus iawn o’r dybiaeth bod newidiadau a datblygiadau ideolegol yn anorfod (ac rwyf felly’n anghytuno â syniadau Marx ynghylch penderfyniaeth). Yn yr un modd, roedd Martin Luther King (neu, yn hytrach, Theodore Parker) yn anghywir, yn fy marn i, pan ddywedodd bod ‘the arc of the moral universe is long, but it bends toward justice.’ Mae’n wir bod cymdeithas erbyn heddiw yn fwy cyfiawn nag y bu mewn sawl ffordd, gan roi hawliau i grwpiau a ormeswyd gynt, ond dim ond trwy ymgyrchu caled iawn y cafwyd hynny. Nid oedd yn sicr o ddigwydd o bell ffordd, ac os nad ydym yn ofalus gall y bwa blygu’r holl ffordd yn ôl i’r cyfeiriad anghywir drachefn, fel sy’n digwydd yn Rwsia, er enghraifft, ar hyn o bryd.

Efallai bod y Ceidwadwyr yn hollol gywir, yn wrthrychol, i ddweud mai llymder yw’r unig ateb, a bod rhaid torri ar fudd-daliadau. Nid yw hynny’n f’argyhoeddi yn bersonol, a dweud y lleiaf. Ond ar hyn o bryd, mae’n cael ei dderbyn yn ddi-gwestiwn. Y dybiaeth yw bod y ‘canol’ yn derbyn y dadleuon, a dyna’i diwedd hi.

Os dim byd arall, efallai bydd arweinyddiaeth Corbyn yn ehangu ffenestr Overton a’n rhoi llwyfan amlycach i well amrediad o syniadau. Mae’n hen bryd i Lafur roi cynnig ar symud y ‘canol’ i’r cyfeiriad arall yn hytrach na dilyn hen olion traed eu gelynion yn ddi-gwestiwn. Agwedd syrffedus mewn gwleidyddiaeth yw bod angen osgoi mynegi polisïau a ystyrir yn amhobologaidd. Os nad yw’r syniad yn cael ei wyntyllu’n gyhoeddus yn y lle cyntaf, mae’r broffwydoliaeth honno’n gwireddu’i hun. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Diffyg hunanymwybyddiaeth doniol

Mae’n hwyl reslo’n y llaid â chreaduriaid od a dwl ar Twitter o dro i dro. Ambell waith, beglir ar draws rhywun sy’n cyfuno traha digywilydd a diffyg hunanymwybyddiaeth i raddau gwirioneddol arwrol. Yn aml, yn enwedig os ydynt yn defnyddio enw ffug, nid yw bob tro’n sicr nad ydynt yn chwarae’r twpsyn yn fwriadol, mewn rhyw fath o gêm feta-eironig; dyma ddeddf Poe ar waith. Yn yr achos isod, rwyf wedi tybio ei fod o ddifrif. Ymddengys yn ddigon didwyll yn ei ffordd dwp ei hun.

Anwybyddu troliaid yw’r polisi doethaf weithiau, ond dro arall mae gwerth tynnu sylw. Gall fod yn llesol iawn i weld, a dangos, pa mor thick yw rhai o’ch gwrthwynebwyr:

Mae mwy o’r nonsens ‘ma, ond dyna ddetholiad o’r ‘uchafbwyntiau’ os oes modd eu galw’n hynny. Prin bod angen i mi ychwanegu mwy. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Priodasau hoyw yn Vegas

Mae pethau wedi symud yn rhyfeddol o gyflym yn achos priodasau cyfunrywiol yn America dros y flwyddyn ddiwethaf neu ddwy. Erbyn hyn, mae 32 talaith (a Washington, DC) yn caniatáu i gyplau hoyw briodi’n swyddogol, ac mae’r gwaharddiadau sy’n weddill yn debygol o barhau i syrthio fel dominos. Mae’r rhai diweddar yn cynnwys llefydd hynod geidwadol fel Utah, Wyoming, Alaska ac Idaho.

Byddai hyn wedi ymddangos yn hollol amhosibl hyd yn oed ar ddechrau’r degawd hwn. Mae’n wir mai’r llysoedd sy’n bennaf gyfrifol, yn hytrach na deddfwriaeth, ond mae mwyafrif clir o boblogaeth y wlad bellach yn gefnogol, ac mae’r ceidwadwyr rhagfarnllyd yn heneiddio. Yn amlwg, mae’r ddadl wedi’i hen ennill. Yn fuan iawn (efallai mor fuan â 2015 neu 2016, yn dibynnu ar pryd fydd y Goruchaf Lys yn cytuno i wrando ar achos llawn), bydd pob rhan o’r Unol Daleithiau’n rhoi’r un hawliau priodasol i gyplau cyfunrywiol ag y mae pawb arall eisoes yn eu mwynhau.

Talaith arall lle cyfreithlonwyd priodasau hoyw ar ddechrau’r mis yw Nevada. Efallai ei bod yn syndod nad oedd Las Vegas, o bob man, yn caniatáu hynny’n barod, ond mae gweddill y dalaith yn bur geidwadol. Roedd priodi am 4 y bore, yn feddw dwll, â rhywun rydych newydd ei gyfarfod y noson honno, yng nghwmni Elvis ar gefn tandem, yn cyd-fynd yn barchus ac urddasol â’r syniad o briodas draddodiadol, mae’n debyg, cyn belled nad oedd gan y darpar-gymar yr un math o organnau rhywiol. Bid a fo am hynny, rwy’n hapus bod y dalaith lle cefais i fy hun y fraint o briodi’m gwraig bellach wedi cymryd y cam pwysig hwn.

Wrth ddilyn y newyddion, penderfynais edrych i weld beth oedd ymateb y Chapel Of Flowers, lle cawsom y seremoni (er yr enw, roedd modd dewis priodas cwbl seciwlar). Er bod rhai ‘capelau’ yn y ddinas yn gwrthwynebu’r newid, roedd yn dda gweld bod y lle y dewisom ni wedi croesawu’r newyddion â brwdfrydedd a llawenydd. Byddai wedi pwyso ar fy nghydwybod petaent yn wrthwynebus, felly mae gweld hynny’n fy ngwneud yn ddigon hapus. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Yr Iwerddon am ddiddymu’r gyfraith yn erbyn cabledd

Mae cableddu yn drosedd anghyfreithlon yn yr Iwerddon. Nid oes unrhyw un wedi cael ei erlyn ers dros gant a hanner o flynyddoedd, mae’n wir, ond mae’n debyg bod yr embarás o gael y fath lol ar y llyfr statud bellach yn drech na hwy. Ond am ryw reswm, maent yn teimlo bod angen refferendwm. Nid wyf yn siwr sut fyddai poblogaeth yr Iwerddon yn pleidleisio yn hynny o beth, a bod yn onest. Maent yn genedl ddigon od lle mae crefydd o dan sylw.

Heblaw am y ffaith nad yw’r gwleidyddion yn ddigon dewr i ddiddymu’r gyfraith hurt eu hunain (pam ddylai hyn fod yn wahanol i unrhyw ddeddf arall?), dyma sy’n fy mhryderu fan hyn: 

Ó’Ríordáin said it hadn’t been decided yet whether the amendment would simply remove the crime of blasphemy, or replace it with a ban on incitement to religious hatred.

It is also unclear whether the ban on blasphemy found in the Defamation Act would remain law, or be replaced by an offense of incitement to religious hatred.

Un cam ymlaen yna cam arall yn ôl fyddai cyfreithloni cabledd ond gwahardd ‘annog casineb crefyddol’. Cyfraith cabledd yw gwaharddiad ar ‘gasineb crefyddol’ i bob pwrpas, wedi’i fynegi mewn ieithwedd ffug-ryddfrydol. A dweud y gwir, mae’n bosibl i waharddiad ar ‘gasineb crefyddol’ (beth bynnag yw hynny; dyna’r holl bwynt) fod hyd yn oed yn waeth na chyfraith yn erbyn cabledd, gan ei fod yn ehangach a mwy annelwig ei ystyr.

Mae unrhyw waharddiadau o’r fath yn gwbl annerbyniol a gwrthun, ac nid oes lle iddynt mewn cymdeithasau sy’n honni eu bod yn parchu rhyddid mynegiant. Diddymer y gyfraith, a pheidier rhoi unrhyw beth yn ei lle. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Eithafiaeth mewn ysgolion

Mae cryn sylw wedi’i hoelio’n ddiweddar ar y newyddion bod eithafwyr crefyddol yn ymdrechu i ennill rheolaeth dros ysgolion yn Lloegr er mwyn gorfodi athrawiaethau islamaidd ar y disgyblion. Fel mae’n digwydd, rwy’n credu bod ateb eithaf syml i’r broblem: dylid gwahardd ysgolion ffydd yn gyfan gwbl – mae’r syniad yn hollol wrthun – a dylid diddymu pob defod grefyddol o bob ysgol. Rhagrith yw cwyno am orfodi arferion islamaidd ar blant ar un llaw tra’n cefnogi system sy’n ei gwneud yn ofynnol – trwy ddeddf gwlad – i ysgolion arwain disgyblion mewn gweddi Gristnogol bob wythnos. Mae pawb sy’n gwneud hynny wedi hen ildio’r tir uchel moesol.

Fel sy’n digwydd mor aml pan mae eithafiaeth islamaidd o dan sylw, ceir dau begwn afresymol i’r ymateb. Mae hilgwn fel yr EDL a Britain First yn ceisio manteisio ar y stori er mwyn ategu eu neges hurt bod Prydain yn prysur fabwysiadu cyfraith Sharia drwy’r drws cefn ac yn y blaen ac yn y blaen. Ar y llaw arall, mae apologists islamaidd, a rhai rhyddfrydwyr, yn awgrymu mai rhyw fath o helfa wrach hiliol yw’r cyhuddiad, a’i fod yn symptom o islamoffobia lloerig. Mae’r gwir, wrth gwrs, yn y canol.

Mae eithafiaeth islamaidd yn broblem, ac mae’n bwysig wynebu hynny. Ychydig wythnosau yn ôl, aeth prifathro ar Newsnight ac, wrth gael ei holi, nid oedd yn gallu condemnio’r syniad o lofruddio troseddwyr gyda cherrig. Mae’r ateb cywir yn syml; mae ceisio dadlau ei fod yn fater dyrys yn safbwynt erchyll ynddo’i hun:

Os yw pobl fel yr uchod yn rhedeg rhai ysgolion, mae’n anodd honni mai creaduriaid rhyfedd ar yr ymylon ydynt. Mae ganddynt rym, a dylid eu herio.

Ar bwnc tebyg, mae’r Council Of Ex-Muslims wedi cyhoeddi adroddiad pwysig yn ddiweddar ynghylch yr iERA, yr Islamic Education and Research Academy. Mae’r iERA yn cyfleu’r argraff mai “addysgu” pobl am islam yw’r amcan, ond mae safbwyntiau’r arweinwyr a’u haelodau blaenllaw yn eithafol. Er bod eu daliadau ffwndamentalaidd yn hysbys, maent yn tueddu i fod yn gyndyn iawn i ateb cwestiynau syml pan mae eraill yn eu herio. Gan fy mod yn hoffi pigo ffrae ar Twitter o dro i dro, rhoddais innau gynnig arni hefyd, gan ymuno â llu o bobl a oedd wrthi’n ceisio cael ateb syml gan un ohonynt am ei farn ynghylch lladd pobl cyfunrywiol gyda cherrig. Gallwch ddarllen am yr hanes fan hyn, lle mae rhai o drydariadau eich blogiwr hoff wedi’u dyfynnu hefyd. Fel y gwelwch, mae fel ceisio cael gwaed allan o garreg (dim ymddiheuriadau o gwbl am y pun). Mae’r cyndynrwydd i ateb cwestiwn mor syml yn cadarnhau’r dybiaeth ei fod yn cefnogi’r syniad.

Felly er fy mod yr un mor barod i gondemnio paranoia hiliol hyll yr asgell dde eithafol, gocheler rhag gwadu bod problem o gwbl. Yn wir, dylid pwysleisio bod gan Britain First a’u tebyg lawer iawn yn gyffredin â’r grwpiau islamaidd hyn. Eithafwyr asgell dde ydynt i gyd, wedi’r cyfan, ac maent yn cytuno’n ddigon llawen ynghylch cryn dipyn o faterion cymdeithasol. Mae tasg y rhyddfrydwr seciwlar call yn un syml, sef gwrthwynebu’r ddwy garfan fel ei gilydd. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: “Gwlad Gristnogol” David Cameron eto fyth

Mae Julian Baggini’n anghywir i ddweud bod anffyddwyr a seciwlareiddwyr wedi gorymateb i sylwadau David Cameron bod Prydain yn “wlad Gristnogol”. Rydym wedi troedio tir digon tebyg o’r blaen, wrth gwrs.

Ydyw, wrth reswm, mae’n ffaith bod Cristnogaeth wedi chwarae rhan ganolog yn hanes y Deyrnas Gyfunol. Mae Richard Dawkins ei hun wedi’i galw’i hun yn “Gristion Diwylliannol”, yn yr ystyr ei fod yn mwynhau emynau a’n dathlu’r Nadolig ac ati. Rwyf i hefyd yn ddigon tebyg, am wn i: mae’n berffaith bosibl bod yn anffyddiwr rhonc ac eto teimlo ias wrth glywed Dros Gymru’n Gwlad.

Nid oes unrhyw un yn gwadu rôl Cristnogaeth yn natblygiad ein diwylliant ehangach, oherwydd mae’n bwynt amlwg a diflas. Dyna’n union pam mae angen bod yn wyliadwrus pan mae rhai Cristnogion yn mynd ymlaen ac ymlaen am y peth fel tiwn gron. Mae’n hollol amlwg bod rhywbeth arall yn mynd ymlaen hefyd.

Rydym yn gwybod yn iawn bod yna adlach wrth-seciwlar wedi prysur dyfu dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ddiweddar, mae sawl aelod amlwg o blaid y prif weinidog wedi ymosod ar y syniad syml na ddylai’r wladwriaeth ffafrio crefydd (gan ddangos ar yr un pryd nad ydynt yn deall beth yw seciwlariaeth yn y lle cyntaf).

Rydym hefyd yn gwybod yn iawn bod y frwydr i secilwareiddio ein gwladwriaeth ymhell o fod ar ben: neilltuir 26 sedd o hyd i esgobion yn siambr uchaf y ddeddfwriaeth, ac mae’n rhaid i ysgolion arwain eu disgyblion mewn gweddi. Yn wir, os rywbeth mae’r wladwriaeth wedi mynd yn llai seciwlar yn y blynyddoedd diwethaf, wrth i fwy a mwy o arian y trethdalwyr fynd at sefydlu a rhedeg ysgolion ffydd, ac wrth i fudiadau crefyddol ddod i chwarae rhan fwy blaenllaw mewn rhedeg gwasanaethau cyhoeddus. Hyn i gyd er bod ffydd grefyddol yn parhau i ostwng ymysg y boblogaeth yn gyffredinol. Mae herio’r sefyllfa wirion yma’n ennyn ymateb blin iawn gan y sawl sy’n mwynhau gweld eu hoff grefydd yn mwynhau’r fath freintiau.

Yn y cyd-destun hwn, mae’n hollol amlwg beth sy’n digwydd pan mae ceidwadwyr crefyddol (a gwleidyddion yn arbennig felly) yn gwneud cymaint o fôr a mynydd o rôl Cristnogaeth yn ffurfiant y Brydain gyfoes sydd ohoni. Nid gwneud pwynt hanesyddol ffwrdd-a-hi digyswllt y maent. Yn hytrach, mae’n amlwg eu bod o’r farn bod gan y ffaith honno arwyddocâd mawr ac y dylai ddylanwadu ar bolisi cyhoeddus a phrosesau’r wladwriaeth (neu, o leiaf, maent yn ceisio apelio at etholwyr sy’n credu hynny). Mae gwrthod sylweddoli hynny’n od o naïf.  Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Duw blin, hoywon a’r tywydd

Rwy’n mwynhau straeon fel yr un am y y cynghorydd Iwcip sy’n beio’r tywydd garw diweddar ar gyplau cyfunrywiol. Mae David Silvester yn credu bod ei dduw’n aniddig gyda llywodraeth y Deyrnas Gyfunol oherwydd y ddeddfwriaeth arfaethedig sydd am ganiatáu i hoywon briodi.

Mae’n dda gweld bod bron pawb arall ym Mhrydain wedi ymateb gyda chyfuniad o syndod a chwerthin. Nid yw rhywun yn clywed pethau lloerig fel hyn yn arbennig o aml ym Mhrydain, ond mae’n beth digon cyffredin yn America.

Yn ystod corwynt Isaac, a achosodd dros $2bn o ddifrod yn Lousiana yn 2012, eglurodd y digrifwr Stephen Colbert pa mor rymus a phell-gyrhaeddol yw dylanwad yr holl hoywon yma ar atmosffêr ein planed:

“Hurricanes form from rising moisture created by hot steamy man action aboard a gay Caribbean cruise. When that sin gets high enough it makes the angels cry and those tears fall to earth in the form of massive precipitation because homosexuals are a vital part of the water cycle. That’s why the gay symbol is a rainbow!”

Gellir priodolir pob anffawd neu drychineb naturiol i ddicter yr unben blin yn y nen, wrth gwrs. Yn rhyfeddol iawn, gelynion gwleidyddol y sawl sy’n gwneud yr honiad sydd ar fai bob tro. Mae’n siwr mai cyd-ddigwyddiad llwyr yw hynny.

Yn anffodus, nid yw Duw fel arfer yn gallu anelu’n gywir iawn. Mae gwlychu arfordir gorllewinol Prydain (ac Aberystwyth yn arbennig) er mwyn mynegi siom gyda phenderfyniad a wnaed yn Llundain yn ffordd drwsgl braidd o fynd o’i chwmpas hi.

Weithiau, nid yw’r targed a ddewisir gan yr arglwydd nefol yn gwneud y mymryn lleiaf o synnwyr. Ei fab ei hun (neu’n wir ef ei hun, gan ddibynnu ar eich dehongliad o athrawiaeth hurt y drindod) oedd yn ei chael hi’n ddiweddar. Tybed pa ddrygioni oedd yr hen Iesu Grist druan wedi’i gyflawni er mwyn haeddu’r fath gosb gan ei dad? Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: John Stuart Mill, rhyddid a democratiaeth

Mae’r cysyniad o ryddid, fel y’i disgrifir gan yr hen athronydd John Stuart Mill yn ei gampwaith, On Liberty, yn dylanwadu’n fawr iawn ar fy ngwleidyddiaeth, a’n lliwio’r safbwyntiau ynghylch hawliau sifil rwy’n eu harddel ar y blog hwn. Efallai mai’r canlynol yw’r dyfyniad enwocaf:

The only freedom which deserves the name is that of pursuing our own good in our own way, so long as we do not attempt to deprive others of theirs, or impede their efforts to obtain it.

Fersiwn estynedig o’r rheol euraid yw hon. Mae trin pobl eraill fel yr hoffem ninnau gael ein trin yn gorfod golygu mai’r unig gyfiawnhad dros gyfyngu ar ryddid unrhyw unigolyn yw er mwyn rhwystro’r unigolyn hwnnw rhag niweidio rhywun arall. Fel y dywed Zechariah Chafee, “your right to swing your arms ends just where the other man’s nose begins“.

Nid oes gwahaniaeth beth yw maint y mwyafrif sydd o blaid cyfyngu ar ryddid unigolyn:

If all mankind minus one, were of one opinion, and only one person were of the contrary opinion, mankind would be no more justified in silencing that one person, than he, if he had the power, would be justified in silencing mankind.

Mae hon yn egwyddor hynod bwysig. Lle mae hawliau dynol creiddiol (fel rhyddid mynegiant) o dan sylw, mae’n hanfodol eu gwarchod rhag ormes y mwyafrif. Mae angen cyfyngu ar ddemocratiaeth bur, er mwyn sicrhau nad yw’r mwyafrif yn gorthrymu grwpiau lleiafrifol. Dyma, wrth gwrs, swyddogaeth cyfansoddiad (ar ffurf dogfen ffurfiol neu beidio) a’r llysoedd.

Yn hyn o beth, mae rhyddid yn gyffredinol yn bwysicach na democratiaeth. Hynny yw, un math o ryddid yn unig o blith nifer yw’r hawl i ddewis cynrychiolwyr gwleidyddol i ddeddfu a llywodraethu ar ein rhan. Yn hypothetig, o leiaf, mae’n bosibl dychmygu cymdeithas cwbl annemocrataidd sydd, eto i gyd, yn parchu rhyddid yn well na chymdeithas hollol ddemocrataidd. Fel mae’n digwydd, nid oes cymdeithas o’r fath wedi bodoli erioed, a go brin y gwelwn un yn y dyfodol; yn ymarferol, mae gwledydd rhyddion yn tueddu i fod yn lefydd democrataidd. Ond y pwynt yw bod democratiaeth bur yn gallu amharu ar y mathau eraill o ryddid, ac mewn sefyllfaoedd o’r fath, ar ddemocratiaeth y dylid cyfyngu.

Er bod gan bob crefydd a diwylliant, fwy neu lai, fersiwn o’r rheol euraid, mae gormod o lawer o bobl yn talu sylw i hanner y ddysgeidiaeth yn unig. Ond mae’n hawdd cytuno â hi os mai ein rhyddid ein hunain sydd o dan fygythiad; y gwir brawf yw gwrthod y temtasiwn i fygwth hawliau pobl eraill.  Mae llawer, am wn i,  yn camddeall y cysyniad o ryddid.  Fel y dywed Mill:

There are many who consider as an injury to themselves any conduct which they have a distaste for, and resent it as an outrage to their feelings; as a religious bigot, when charged with disregarding the religious feelings of others, has been known to retort that they disregard his feelings, by persisting in their abonimable worship or creed. But there is no parity between the feeling of a person for his own opinion, and the feeling of another who is offended at his holding it; no more than between the desire of a thief to take a purse, and the right of the owner to keep it. And a person’s taste is as much his own peculiar concern as his opinion or his purse.

Yn syml iawn, nid yw’n golygu’r hawl i beidio clywed neu weld pethau rydych yn anghytuno â hwy. Dylid gwarchod pobl rhag niwed go iawn, ond nid oes gan unrhyw un yr hawl i beidio cael eu hypsétio. Mae eithafwyr crefyddol, er enghraifft, yn honni bod priodasau cyfunrywiol rywsut yn amharu ar eu hawliau crefyddol. Swmp a sylwedd eu dadl yw eu bod yn credu bod yr holl beth yn ych-a-fi. Wel pa ots? Nid yw bodolaeth hoywon priod yn cael unrhyw effaith negyddol go iawn ar unrhyw un arall, felly mae’n anfoesol gwadu’r hawl iddynt gael yr un cydnabyddiaeth i’w perthynas ag y mae gweddill y boblogaeth yn cael ei fwynhau. Mae hyn yn ddigon syml.

Yn anffodus, difethir On Liberty gan ddarn digon hyll yn ei gyflwyniad. Am ba bynnag reswm, ar ôl dod mor agos at ei deall hi, mae Mill yn tanseilio’r hyn sy’n dilyn trwy wneud eithriad hiliol:

we may leave out of consideration those backward states of society in which the race itself may be considered as in its nonage. The early difficulties in the way of spontaneous progress are so great, that there is seldom any choice of means for overcoming them; and a ruler full of the spirit of improvement is warranted in the use of any expedients that will attain an end, perhaps otherwise unattainable. Despotism is a legitimate mode of government in dealing with barbarians, provided the end be their improvement, and the means justified by actually effecting that end. Liberty, as a principle, has no application to any state of things anterior to the time when mankind have become capable of being improved by free and equal discussion. Until then, there is nothing for them but implicit obedience to an Akbar or a Charlemagne, if they are so fortunate as to find one.

Mae’n rhaid i hawliau dynol, wrth reswm, fod yn berthnasol i’r holl hil ddynol. Nid yw’r cysyniad yn un ystyrlon fel arall. Mae darllen y dyfyniad uchod felly’n ddigon digalon, gan fod yr awdur, ym mron pob ffordd, wedi arloesi yn y maes. Roedd rhagfarn tuag at “farbariaid” yn gyffredin tu hwnt ar y pryd, wrth gwrs. Ond mewn ffordd, mae’n anos maddau Mill fan hyn na’i gyfoedion. Nid oes llawer o syndod bod ceidwadwyr Fictorianaidd, ar un llaw, heb feddwl bod unrhyw beth o’i le ar fwynhau rhyddid adref tra’n ei wrthod i’r tramorwyr anwaraidd a drigai o dan gysgod ymerodraeth Prydain. Yn achos Mill y rhyddfrydwr, ar y llaw arall, ar ôl ei holl waith diwyd yn ystyried ac esbonio rhyddid fel cysyniad cyffredinol, mae’n siomedig ei weld yn syrthio i’r un trap. Mae’n deg awgrymu y dylai fod wedi gwybod yn well. Norm diog oedd rhagfarn fel hyn i bawb arall, ond roedd rhaid i Mill ei wasgu i mewn yn bwrpasol. Go brin mai cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith bod Mill yn gweithio i Gwmni Dwyrain India ar y pryd; roedd yr eithriad ynghylch “barbariaid” yn cyfiawnhau ymddygiad ei gyflogwyr.

Mae llawer wedi beirniadu Mill am hyn, gan ei alw’n “ryddfrydwr imperialaidd”. Mae’r cyhuddiad yn deg, yn enwedig gan ei fod hefyd wedi bod yn gefnogol i’r egwyddor o ymyrryd yn filwrol er mwyn lledaenu ei syniad o ryddid (rhywbeth arall yr wyf i’n anghytuno’n llwyr ag ef, am resymau ymarferol a moesol). Eto i gyd, rwy’n cytuno â Nick Cohen sy’n dadlau bod llawer o’r beirniaid ôl-drefedigaethol ac ôl-fodern sy’n condemnio hiliaeth Mill yn euog o’r un peth yn union. Fel y gofynna Cohen:

Who now believes that rights are all very well for Englishmen but not for the lesser breeds? Who now says that the emancipation of women is essential for white-skinned women in the West but not brown-skinned women in the East? Who, in short, is the inheritor of the old imperialist double standard?

Fel rwyf wedi’i ddweud droeon ar y blog hwn, mae anffyddwyr cyson – hynny yw, rhai sy’n beirniadu erchyllterau a gyflawnir yn enw crefydd dim ots pa ffydd sydd o dan sylw – yn aml yn wynebu cyhuddiad o “imperialaeth ddiwylliannol”. Ond fel mae Cohen yn ei ddweud, mae’r cyhuddiad ynddo’i hun yn arwydd o hiliaeth yn y person sy’n ei wneud, gan ei fod yn ail-adrodd camgymeriad Mill. “Hiliaeth y disgwyliadau isel” yw gosod safonau gwahanol ar gyfer ein cymdeithas ni, ar un llaw, a chymdeithasau mwslemaidd (er enghraifft) ar y llaw arall.

Er hyn, rwy’n parhau i edmygu Mill am ei gyfraniad.  Er nad wyf yn cytuno chwaith â’i agwedd laissez faire tuag at economeg ac union ddyletswyddau’r wladwriaeth, mae dyled anferth iddo am amlinellu ystyr rhyddid a hawliau’r unigolyn mor glir. Petai mwy o bobl yn deall a gwerthfawrogi’r hyn a ddywedodd, ni fyddai angen i ni orfod dioddef cymaint o eithafwyr crefyddol yn cwyno mor syrffedus bod peidio caniatáu iddynt ormesu eraill gyfystyr â sathru ar eu hawliau hwy. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Russell Brand, apathi gwleidyddol a phwrpas democratiaeth

Esgusodwch fi: mae gennyf awydd rhefru fel un o hen ddarllenwyr crintachlyd y Daily Mail. Mae’r hyn sy’n dilyn yn eithaf adweithiol a snobyddlyd.

Yn ogystal â’r pethau arferol rwy’n cwyno amdanynt ar y blog, rhywbeth arall sy’n fy syrffedu yw apathi gwleidyddol. Yn benodol, mae’n gas gennyf glywed pobl (ifainc fel arfer) sy’n cyfiawnhau eu diffyg diddordeb mewn materion cyfoes trwy fynnu bod angen i wleidyddion “wneud mwy” i apelio iddynt. Nid ymhelaethir beth y dylid ei wneud er mwyn hoelio’u sylw. Pa liw crayon yn union dylid ei ddefnyddio, tybed?

Mae trafod polisi’n fater dyrys. Beth yw’r ffordd orau o strwythuro’r gwasanaeth iechyd? Sut mae gwella’r system addysg? Sut mae hybu’r economi? A ddylid adeiladu gorsafoedd niwclear newydd? Nid oes atebion syml i gwestiynau fel hyn, a’r unig beth i’w wneud yw eu trafod yn ddifrifol a phwyllog.

Mae’r un peth yn wir ar lefel mwy lleol. Mae gan y person mwyaf apathetig ei wleidyddiaeth farn gref fel arfer am ysbwriel ar y strydoedd, ymddygiad gwrth-gymdeithasol, problemau parcio ac yn y blaen ac yn y blaen. Ond materion gwleidyddol yw’r rhain i gyd hefyd yn y pen draw, ac maent yn gofyn am atebion gwleidyddol. Mae rhywun sy’n dweud nad oes ganddynt ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth yn dweud nad oes ganddynt unrhyw ots pa mor aml bydd eu biniau’n cael eu casglu.

Fy mhwynt yw bod dyletswydd ar bob dinesydd i ymgyfarwyddo â’r pethau hyn yn hytrach na disgwyl popeth ar blât. Nid wyf yn deall y math o berson sy’n cwyno nad yw gwleidyddion yn “gwneud digon” ar un llaw ond sydd ar y llaw arall yn gwneud dim math o ymdrech i wylio’r newyddion neu i ddarllen papur newydd er mwyn canfod beth yn union y mae’r gwleidyddion hynny’n eu gwneud yn y lle cyntaf. Esgusodi eu diogi eu hunain yw hynny.

Mae pobl fel yr uchod yn cytuno bod gwleidyddion yn crap a bod angen rhyw fath o “newid” annelwig, ond beth? Am ba bynnag reswm, penderfynodd Newsnight wythnos ddiwethaf y byddai’n syniad da i Jeremy Paxman gyfweld â Russell Brand. Mae hwnnw’n chwyrn a thaer yn erbyn cyfundrefn wleidyddol bresennol Prydain, ond nid yw erioed wedi bwrw pleidlais mewn etholiad. Yn wir, mae’n annog pawb arall i atal eu pleidlais hefyd, gan honni bod cymryd rhan yn y broses yn dilysu ac atgyfnerthu’r sefyllfa sydd ohoni. Gweler y fideo isod, os y gallwch ei ddioddef.

Mae’n swnio fel cymeriad o un o raglenni dystopaidd Charlie Brooker, a dweud y gwir. Ei gŵyn yw bod pob gwleidydd gynddrwg â’i gilydd, ac nad oes diben pleidleisio o blaid un dros y llall. Fel yr hen jôc: no matter who you vote for, the government always gets in. Mae Brand o ddifrif, fodd bynnag. Mae’n teimlo’n arbennig o gryf bod angen gwneud “rhywbeth”; y broblem yw nad yw’n siwr beth yn union yw’r “rhywbeth” hwnnw. Yr unig fanylion a gawn ganddo yw ei fod yn dyheu gweld chwyldro’n arwain at “a socialist egalitarian system based on the massive redistribution of wealth and heavy taxation of corporations”. Efallai dylai rhywun ddweud wrtho nad yw’r syniad hwnnw’n un arbennig o wreiddiol.

Fel rhyw fath o glown Leninaidd, mae Brand yn honni mai ef yw llais y bobl, tra’n lladd ar ddemocratiaeth yn yr un gwynt. Nid yw democratiaeth yn berffaith o bell ffordd (“y system waethaf heblaw am y gweddill i gyd” ac ati) ond dylai Brand fod yn onest a chyfaddef mai ei ddymuniad yw llywodraeth unbeniaethol. Ni ddylid ei gymryd o ddifrif, ond mae’n werth gwerthfawrogi serch hynny bod ei agwedd yn beryglus.

A dweud y gwir, rwy’n credu bod gwleidyddion eisoes yn treulio llawer iawn gormod o amser yn ceisio “apelio” at eu hetholwyr. Rwy’n cytuno’n llwyr â’r hyn a ddywedodd yr hen athronydd ceidwadol Edmund Burke yn ei araith enwog ym 1774 (heblaw am y darn am ragluniaeth ddwyfol, wrth gwrs):

it ought to be the happiness and glory of a representative to live in the strictest union, the closest correspondence, and the most unreserved communication with his constituents. Their wishes ought to have great weight with him; their opinion, high respect; their business, unremitted attention. It is his duty to sacrifice his repose, his pleasures, his satisfactions, to theirs; and above all, ever, and in all cases, to prefer their interest to his own. But his unbiassed opinion, his mature judgment, his enlightened conscience, he ought not to sacrifice to you, to any man, or to any set of men living. These he does not derive from your pleasure; no, nor from the law and the constitution. They are a trust from Providence, for the abuse of which he is deeply answerable. Your representative owes you, not his industry only, but his judgment; and he betrays, instead of serving you, if he sacrifices it to your opinion.

Cyn etholiad, dylai’r holl ymgeiswyr egluro’u safbwyntiau’n llawn a’n onest, gan obeithio bod yr etholwyr yn cydweld. Cyfrifoldeb y cyhoedd yw gwrando a darllen, cyn pwyso a mesur. Unwaith y mae’r gwleidyddion yn ennill eu lle yn y ddeddfwriaeth, dylai’r rheiny ddilyn eu cydwybod yn unig, hyd yn oed os yw hynny’n debygol o fod yn niweidiol pan ddaw’r etholiad nesaf. Dylent wrando ar ddadleuon eu hetholwyr (a phawb arall hefyd), wrth reswm, ond os nad yw hynny’n eu darbwyllo fel arall o ddifrif, dylent barhau i arddel eu polisïau’n ddidwyll.

Delfryd bur yw hon, wrth gwrs, ac roedd y syniad yn naïf, hen-ffasiwn ac anymarferol hyd yn oed yng nghyfnod Burke. Mynnaf o hyd mai dyna amcan democratiaeth gynrychiadol, fodd bynnag, hyd yn oed os yw gwneud hynny fel piso mewn i’r gwynt. Ond mae’n ddelfryd llawer iawn mwy adeiladol na’r nonsens gwag a gafwyd gan Brand. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Crefydd a dillad

Mae’r gorchudd islamaidd yn y newyddion unwaith eto, wedi i farnwr fynnu bod rhaid i fenyw ddangos ei gwyneb wrth roi tystiolaeth mewn achos llys.

Mae’r nicáb, a dillad tebyg fel y bwrca, yn ofnadwy, ac maent yn sarhad mawr ar fenywod a dynion. Ond, fel yr wyf wedi’i ddweud o’r blaen, nid wyf yn cefnogi gwaharddiad llawn a chyffredinol, fel a geir yn Ffrainc. Yn syml, nid lle’r wladwriaeth, yn fy marn i, yw deddfu ym maes ffasiwn. Mae gorfodi’r wisg ar unrhyw un yn anfoesol, ond mae gwahardd pobl sy’n dymuno gwisgo’r gorchudd rhag gwneud yr un mor broblematig.

Eto i gyd, roedd penderfyniad y barnwr yn hollol gall. Nid yw peidio gwahardd y gorchudd ym mywyd pob dydd yn golygu nad oes amgylchiadau arbennig lle mae angen gwneud am resymau ymarferol. Mae rhoi tystiolaeth mewn llys (lle mae angen i’r rheithgor weld yr ymatebion yn ogystal â’u clywed) yn un o’r amgylchiadau hynny.

Fy nadl yma eto yw na ddylid trin credoau crefyddol yn wahanol i unrhyw gredoau eraill. Roedd trafodaeth ar y pwnc ar raglen Today (2:40:40) y bore ‘ma, a gofynnodd John Humphrys i un o’r gwesteion a ddylid caniatáu iddo wisgo sach am ei ben petai’n ymddangos mewn llys. Ei hymateb hi oedd bod hynny’n “abswrd”, gan fod dyhead y fenyw o dan sylw’n deillio o’i chredoau crefyddol. Ond nid yw’r cwestiwn yn abswrd o gwbl. Pam trin credoau crefyddol yn wahanol? Pam ddylai’r rheswm am ei dymuniad i wisgo dillad dwl fod yn berthnasol?

Problem ymarferol gyda gwneud eithriad ar gyfer crefydd yw nad yw’n bosibl diffinio’r credoau hynny’n wrthrychol. Dychmygwch, er hwyl, bod John Humphrys yn cael profiad od sy’n ei sbarduno i ddechrau crefydd newydd, ac mai un o reolau’r ffydd yw bod angen i ddynion wisgo sachau am eu pennau. Mae’r syniad yn ddoniol, ond beth petai’n cydio? Nid cellwair hypothetig yn unig mo hyn: soniais ddwy flynedd yn ôl am ddyn o Awstria’n ennill yr hawl i wisgo hidlydd ar ei ben yn ei lun drwydded yrru. Gwneud pwynt ydoedd, ac mae’n un dilys. Pwy sy’n penderfynu beth sy’n cyfrif fel credoau crefyddol didwyll? Yr unig ddatrysiad ymarferol i’r broblem yma yw i roi’r gorau i roi credoau crefyddol ar bedestal yn y lle cyntaf. Parhau i ddarllen

Blog Dylan: Iddi, gyfeillion!

Mae Confensiwn Cymru Gyfan wedi cyhoeddi’r adroddiad mae anoracs gwleidyddol Cymru wedi bod yn aros amdano, ac mae’r casgliad yn ddigon clir. Mae angen refferendwm.Mae’n dweud yn glir bod modd ennill. Mae’n nodi nad yw hynny’n sicrwydd. Ond dw i ddim y… Parhau i ddarllen

Blog Dylan: Arolwg YouGov

Mae canlyniad arolwg gwleidyddol gan YouGov wedi’i gyhoeddi. Mae’r pôl yma i’w groesawu, gan ei fod yn craffu’n benodol ar Gymru. Dydi polau Prydain gyfan ddim yn ddibynadwy o gwbl yng Nghymru na’r Alban gan nad ydynt yn ystyried y ffaith bod ein gwle… Parhau i ddarllen