Canlyniadau Chwilio: s4c

Anffyddiaeth: Y Cymry adweithiol

Oherwydd cyfuniad rhyfedd o amlygrwydd y mudiad #MeToo a gwleidyddiaeth fewnol Plaid Cymru, mae yna adwaith gwrth-ffeminyddol amlwg wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg a Chymreig dros yr wythnosau diwethaf. Mae hyn yn amlwg yn siomedig, … Parhau i ddarllen

: Y Cymry adweithiol

Oherwydd cyfuniad rhyfedd o amlygrwydd y mudiad #MeToo a gwleidyddiaeth fewnol Plaid Cymru, mae yna adwaith gwrth-ffeminyddol amlwg wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg a Chymreig dros yr wythnosau diwethaf. Mae hyn yn amlwg yn siomedig, … Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Lleiafrifoedd ethnig a’r Gymraeg

Mae llawer o siaradwyr Cymraeg yn hiliol.Ffaith syml ac anniddorol yw’r uchod. Ceir hilgwn ym mhob carfan o’r boblogaeth, felly byddai’n rhyfedd petai siaradwyr Cymraeg yn eithriad. Nid yw hynny’n reswm i’w anwybyddu, wrth reswm; mae’n hanfodol ein bod… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Camddeall hiliaeth

Os oedd y stori am fflôt hiliol Carnifal Aberaeron yn ddigon drwg, mae’r ymateb, yn enwedig ar Facebook, wedi bod yn waeth. ‘Dim ond bach o hwyl’ yw’r sylw mwyaf cyffredin, o beth y gwelaf i. Mae’n amlwg nad yw llawer o bobl, gan gynnwys nifer sy’n sgrechian ‘hiliaeth!’ bob tro mae rhywun yn gwneud sylw angharedig am Gymru neu ei hiaith, yn deall beth yw hiliaeth. Mae’r holl beth yn dwyn i gof helynt Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc ar S4C rai blynyddoedd yn ôl.

Mae’n debyg bod gormod o bobl yn credu mai ystyr hiliaeth yw casineb. Os nad ydych yn casáu pobl â chroen tywyll, na’n bwriadu’u pechu, mae’n amhosibl eich bod yn hiliol. Nid oes modd, felly, trwy ddiffiniad, i ‘ddim ond bach o hwyl’ fod yn hiliol.

A bod yn garedig, mae hynny’n hen-ffasiwn. Mae hiliaeth amrwd ac ymosodol yn llai cyffredin heddiw nag yn y gorffennol (er bod Brexit a Trump yn bygwth dad-wneud y cynnydd hwnnw). Bwystfil cynilach o lawer yw hiliaeth fodern.

Nid oes amwysedd am y fflôt: roedd yn hiliol. Fel y dywed Gary Raymond, mae blackface, yn gwbl ddi-eithriad, yn hiliol. Mae mor syml â hynny. A’r ateb i’r ddadl mai dim ond talu teyrnged i ffilm hoffus ac ysgafn oedd y fflôt yw bod Cool Runnings ei hun yn ffilm hiliol. Daeth y sylweddoliad hwnnw’n raddol iawn i mi, gan fod gennyf atgofion hapus o’i mwynhau’n fawr pan yn blentyn, ond mae’n chwerthinllyd o amlwg erbyn hyn.

Yr hyn sy’n arwain pob trafodaeth am stori’r fflôt ar gyfeiliorn yw’r syniad bod galw’r weithred yn hiliol gyfystyr â galw’r hogiau eu hunain yn hilgwn. Rwy’n siwr eu bod wedi dychryn, yn ddiffuant, â’r ymateb, ac nad oeddent wedi bwriadu unrhyw beth cas. Ond mae hynny’n hollol amherthnasol. Y weithred sy’n bwysig, ac roedd y weithred yn hiliol. Dyna ddechrau a diwedd y mater. Nid yw galw’r peth yn gamgymeriad naïf yn gwneud y weithred yn llai hiliol. Yn ddelfrydol, bydd y stori’n wers addysgol i ni gyd, ond yn anffodus nid yw’r ymateb wedi fy llenwi â hyder. Parhau i ddarllen

: Camddeall hiliaeth

Os oedd y stori am fflôt hiliol Carnifal Aberaeron yn ddigon drwg, mae’r ymateb, yn enwedig ar Facebook, wedi bod yn waeth. ‘Dim ond bach o hwyl’ yw’r sylw mwyaf cyffredin, o beth y gwelaf i. Mae’n amlwg nad yw llawer o bobl, gan gynnwys nifer sy’n sgr… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Cymru: Dal I Gredu?

Roedd cyfres o dair rhaglen, Cymru: Dal I Gredu, yn gorffen ar S4C heno. Roeddwn i’n ymddangos yn y rhaglen olaf (28 munud i mewn, ond wrth gwrs dylech wylio’r rhaglen gyfan, a’r ddwy flaenorol hefyd).

Cyn-efengylwr yw Gwion Hallam, y cyflwynydd, sydd bellach wedi colli’i ffydd ond sy’n petruso o hyd ynghylch galw’i hun yn ‘anffyddiwr’. Mae’r gyfres yn ei ddilyn wrth iddo deithio’r wlad yn cwrdd â phobl o bob ffydd, a heb ffydd, er mwyn gweld beth yw cyflwr crefydd yng Nghymru heddiw. Mae’n werth ei gwylio.

Nid wyf yn siwr pa mor llwyddiannus oeddwn i wrth geisio’i ddarbwyllo i gofleidio’r label. Yn ôl pob tebyg, mae ein safbwyntiau diwinyddol (neu, yn hytrach, eu habsenoldeb) yn bur debyg, felly mater semantig yw hyn mewn ffordd. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig bod anffyddwyr yn defnyddio’r gair hwnnw er mwyn disgrifio’u hunain, hyd yn oed os nad yw o reidrwydd yn ddyletswydd ar bob un ohonom i ddadlau’n gyhoeddus am y pwnc. Anffyddiwr fel fi yw Gwion yn barod i bob pwrpas; waeth iddo ymfalchïo yn hynny, ddim! Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Lol anwyddonol ‘DNA Cymru’

Gwych yw gweld blog newydd Cymraeg am ‘wyddoniaeth, technoleg, tystiolaeth a’r cyfryngau’: Syndod. Mae’r blogiad cyntaf yn rhagorol: ‘Profion llinach genetig, DNA Cymru ac S4C‘.

Gwerthusiad damniol ydyw o raglen fydd yn dechrau ar ein sianel genedlaethol ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Bwriad y rhaglen yw ateb y cwestiwn ‘pwy yw’r Cymry?’ trwy olrain llinallau genetig unigolion. Ond mae hynny’n amhosibl ac anystyrlon. Nid oes modd darllen DNA person penodol fel rhyw fath o fap. Mae S4C wedi cynhyrfu’n lân am rwtsh siwdowyddonol. Mae’n rhaid eu bod yn deall hynny’n dawel bach, ond ni welwch unrhyw arwydd o sceptigiaeth yn y deunydd hyrwyddo. Nid oes rheswm i beidio disgwyl i’r rhaglen ei hun fod yr un mor grediniol chwaith.

Rhag ofn eich bod yn credu bod hyn yn hallt, ystyrier y ffaith nad yw Alistair Moffat, y dyn sy’n bennaf gyfrifol am hyn i gyd, yn wyddonydd o fath yn y byd. Yn hytrach, mae’n berchen ar fusnes sy’n elwa trwy werthu ‘profion’ genetig. Mae S4C wedi cytuno’n llon a digywilydd i hyrwyddo propaganda masnachol ar ran quack llwyr sy’n debygol o wneud ffortiwn o’r fath sylw. Cyd-ddigwyddiad, rwy’n siwr, yw’r ffaith bod Moffat a phennaeth y sianel yn hen ffrindiau.

Darllenwch y cwbl, a rhannwch. Mae’n bwysig ein bod fel Cymry yn beirniadu’r nonsens yma’n chwyrn, rhag iddo ategu’r ystrydeb amdanom fel cenedl sy’n obsesiynu ynghylch ein hynafiaid a syniadau dwl am waed a rhyw fath o burdeb Celtaidd. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Hacio

Roeddwn ar y rhaglen Hacio heno, yn trafod y Victory Church yng Nghwmbrân. Gallwch wylio ar y we fan hyn (mae’r darn gorau yn dechrau ar ôl 6 munud a hanner!). Yn benodol, yr honiadau ynghylch iacháu trwy weddi oedd yn dwyn fy sylw. Fel yr eglurais o’r blaen, mae’r lol yna’n gwbl ddi-sail, gwallgof ac anghyfrifol. Nid wyf am ddweud mwy am hynny am y tro o leiaf.

Yn hytrach, hoffwn ddweud pwt am brif ffocws yr eitem, sef bod yr eglwys wedi helpu Shannia Morgan Thomas, merch 15 oed, i droi ei chefn ar gyffuriau, alcoholiaeth ac iselder (gan gynnwys ymgais i ladd ei hun). Mae hi’n amlwg yn ddiolchgar iawn i’r Victory Church am hynny, ac mae’n hawdd deall pam. Ond (ac mae’n ond anferth ac amlwg), nid yw hynny’n golygu bod cristnogaeth yn gywir. Mae’n gyfan gwbl amherthnasol yn hynny o beth. Nid oes y  mymryn lleiaf o ots pa mor fuddiol (neu niweidiol, yn wir) yw crefydd; er mwyn i mi ei pharchu, dim ond un peth sy’n bwysig: a yw’n wir?

Rwy’n hapus iawn ei bod wedi llwyddo i gael trefn ar bethau, wrth reswm. Mae’n wych ei bod wedi gallu rhoi’r gorau i beryglu a difetha ei bywyd, hyd yn oed os yw wedi troi at gelwydd anferth er mwyn gwneud hynny. Ond nid yw crefydd yn unigryw yn y rôl yma. Mae pobl sydd wedi plymio’r dyfnderoedd yn aml yn dringo o’r gwter trwy daflu eu hunain yn gyfan gwbl i mewn i rywbeth arall. Mae’n wir mai crefydd yw un o’r cyrchfannau pennaf; mae efengylwyr yn aml yn targedu pobl bregus, wedi’r cyfan. Ond gall fod yn unrhyw beth arall sy’n cynnig teimlad o bwrpas (gwaith elusennol, achos gwleidyddol, chwaraeon, cerddoriaeth ac yn y blaen). Y pwynt yw bod y pwrpas newydd yma’n cymryd lle’r stwff niweidiol. “Got to get high on something“, mewn ffordd. Efallai mai dyna’r peth caredicaf y gallaf ei ddweud am dduw: nid yw cynddrwg ag amffetaminau. Parhau i ddarllen

Blog Dylan: Gwin Mr Urdd

Roedd gan Wynford Ellis Owen lythyr yn y Western Mail ddoe yn cwyno eto am benderfyniad yr Urdd i ganiatáu gwerthu llymaid bach o win ar faes Eisteddfod yr Urdd. Fo oedd un o sêr Syr Wynff a Plwmsan, un o raglenni gorau a mwya hwyliog S4C erioed, ond… Parhau i ddarllen