Archives: Dylan

Anffyddiaeth: Yn erbyn goddefgarwch

Mae tybiaeth gyffredinol bod goddefgarwch yn beth da. Os mai’r hyn a olygir yw ‘cyd-fyw yn ddedwydd’, mewn ffordd arwynebol, pwy all anghytuno? Ond wrth feddwl am y peth am funud, fe sylwch nad yw’r cysyniad yn gwneud rhyw lawer o synnwyr.

Er enghraifft, beth yn union mae ‘goddefgarwch’ yn ei feddwl wrth ystyried agweddau tuag at bobl cyfunrywiol neu o leiafrifoedd ethnig? Mae’r gair yn awgrymu dygymod â rhywbeth annymunol. Os ydych yn ‘goddef’ grwpiau fel hynny, mae’n dilyn bod gennych broblem â hwy ond eich bod yn cadw’n dawel am y peth, oherwydd bod cyfaddef hynny bellach yn dabŵ. Mewn gwirionedd, mae’n rhaid i chi fod yn ragfarnllyd i orfod goddef o gwbl yn y cyd-destun hwn. Os nad ydych yn meddu ar y rhagfarnau hynny, a’n deall nad oes unrhyw beth yn bod ar gyfunrywioldeb neu liw croen gwahanol, nid oes unrhyw beth i’w oddef yn y lle cyntaf. Camargraff cyffredin yw mai ‘goddefgarwch’ yw gwrthwyneb ‘rhagfarn’, ond rhagfarn gyfrinachol ydyw mewn gwirionedd.

Ar y llaw arall, os ydych yn credu bod rhywbeth yn annerbyniol, pam ei oddef? Rwy’n ffieiddio at homoffobia, hiliaeth a rhywiaeth, ac rwy’n gwrthod eu ‘goddef’. Yn wir, mae ‘goddef’ y fath anoddefgarwch yn anfoesol. Wrth gwrs, rwy’n ffieiddio hefyd at y syniad o wahardd mynegi’r safbwyntiau hynny mewn unrhyw ffordd. Ond nid ‘goddefgarwch’ mo ‘caniatáu’ i bobl rhagfarnllyd ddweud eu dweud; nid yw, ac ni ddylai fod, o fewn fy ngallu i’w rhwystro hyd yn oed petai hynny’n ddymuniad gennyf.

Mae ‘goddefgarwch crefyddol’ yn gysyniad llithrig arall. Beth mae’n ei olygu i ddweud eich bod yn goddef crefydd benodol? Na ddylai’r sawl sy’n credu ynddi (gan gymryd nad ydynt yn niweidio eraill) gael eu herlyn neu eu herlid? Dylai hynny fod yn sylfaenol ac amlwg. Yn aml, defnyddir y syniad o oddefgarwch crefyddol er mwyn ceisio gorfodi pobl eraill i ‘barchu’ rheolau crefydd nad ydynt yn credu ynddi. Un o ganlyniadau chwerthinllyd hyn yw cyhuddo pobl o ‘anoddefgarwch’ am iddynt lunio cartwnau di-niwed o ddyn Arabaidd barfog, er enghraifft. Nid wyf yn parchu rheolau nac athrawiaethau crefyddol o gwbl, ond rwy’n chwyrn o blaid hawl pobl i’w harddel. Unwaith eto, nid yw ‘goddefgarwch’ nac yma nac acw. Da fyddai claddu’r gair. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Wel, dyna ddiwedd ar fy ngyrfa wleidyddol cyn dechrau

Yn dilyn y ffrae wirion ynghylch erthygl o 2001 o eiddo Mike Parker, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, dyma ddau ddarn ardderchog, y naill gan Jasmine Donahaye a’r llall gan Vaughan Roderick. Mae cwyno parhaus am wleidyddion proffesiynol, sydd wedi mynd i weithio i’w pleidiau gwleidyddol yn syth o’r coleg. Ond ar yr un pryd, mae rhywun wedi tyrchu a dewis a dethol geiriau a ysgrifennodd Parker ddegawd a mwy cyn iddo roi cynnig ar wleidydda, a’u defnyddio er mwyn ceisio tanseilio’i ymgyrch. Nid af i fanylion; maent eisoes yn hysbys, fwy na thebyg, i ddarllenwyr y blog hwn. Mae’r helynt wedi amlygu, fodd bynnag, na fyddai gennyf fawr o obaith petawn, yn hypothetig, yn ceisio dilyn trywydd tebyg.

Anghofiwn am funud y buaswn yn gwneud gwleidydd crap beth bynnag. Nid oes gennyf y gallu na’r dyhead i gamu i’r maes hwnnw. Dychmygwn, serch popeth, fy mod yn rhoi cynnig arni. Trwy ysgrifennu’r blog yma – hobi, wedi’r cyfan – buaswn wedi gwneud pethau’n bur hawdd i’m gwrthwynebwyr. Dyma fi’n dadlau o blaid cyfreithloni llosgach, er enghraifft (buaswn yn ystyried sefyll etholiad dim ond er mwyn mwynhau comedi’r ffrae wleidyddol swreal a fyddai’n deillio o hynny!). Rwy’n ‘casáu’r Pab a’i grefydd‘ (‘cabal rhyngwladol sy’n gwarchod treisiwyr plant‘, cofiwch!). A dyma fi’n dweud mai ‘teg fyddai fy ngalw’n wrth-islamaidd‘. Mae’n sicr bod llawer iawn mwy, a’r cyfan ar un wefan fach gyfleus. Heb sôn am Twitter (neu Faes-E, sydd efallai’n farwol i ddarpar-yrfaoedd gwleidyddol cenhedlaeth gyfan o Gymry anaeddfed!). Rydym eisoes wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd i un o ymgeiswyr 20 oed yr SNP, sy’n defnyddio’r un cyfrif Twitter ag yn ei harddegau, sy’n golygu bod sylwadau dwl ac phlentynnaidd a wnaeth tra’n ifanc iawn bellach yn ei niweidio’n wleidyddol.

Mae natur disgwrs wleidyddol fodern yn ddidrugaredd. Nid oes lle i nuance. Hyd yn oed pan mae rhywun fel Mike Parker yn gwneud pwynt gwrth-hiliaeth syml ac amlwg, mae modd troi’r geiriau hynny ben i waered ac awgrymu ei fod wedi dweud y gwrthwyneb. Yn achos yr ychydig enghreifftiau uchod, buasai’n anodd i mi’u hegluro’n ddigonol mewn cyd-destun ymgyrch etholiadol danllyd, er fy mod yn gyndyn eu bod yn gyfiawn.

Buasai f’ymgyrch ar ben fwy neu lai cyn iddi ddechrau, felly. Ni fyddai hynny’n golled fawr, fel y dywedais. Ond mae’n debygol bod yna bobl mwy dawnus o lawer mewn sefyllfaoedd tebyg. Rydym am fod yn dlotach ein byd os ydym am gloi’r rhain allan o’n gwleidyddiaeth am iddynt feiddio, mewn bywyd cynharach, ysgrifennu rhywbeth beiddgar. Neu, yn wir, sgribls byrbwyll angof rhywun ifanc. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Y Fam Teresa

Darllenais The Missionary Position (cyhoeddwyd ym 1994) gan Christopher Hitchens yn ddiweddar. Polemig byr ydyw. Afraid dweud nad yw’n garedig â’r diweddar Anjezë Gonxhe Bojaxhiu (mae’n debyg mai teitl amgen cynnar oedd Sacred Cow).

Amcan Hitchens oedd chwalu’r argraff gyffredinol ohoni fel santes llawn daioni. Mae rhai o’r problemau gyda’i gwaith bellach yn gymharol hysbys, ond mae tuedd o hyd i’w hesgusodi. Roedd ei chalon yn y lle iawn, meddir. Ond na. Dylid bod yn berffaith glir fan hyn: nid camgymeriadau’n deillio o fwriadau da oedd y rhain. Roedd yr amcanion eu hunain yn warthus. Yn fy marn i, roedd hi’n ddynes wirioneddol ofnadwy ym mhob ffordd.

Asgetig oedd hi, yn clodfori tlodi a dioddefaint er eu mwyn eu hunain. Er i’w helusen dderbyn miliynau lawer mewn rhoddion (gan gynnwys o ffynonellau pur amheus), llwm iawn oedd yr amodau i bawb yn ei gofal. Nid yw’n glir hyd heddiw i ble aeth llawer o’r arian yma.

Mae’n amhosibl dyfalu faint a fu farw’n gwbl ddi-angen. Ar ben hynny, ac er iddi geisio honni nad creadur gwleidyddol mohoni, roedd hi’n weithgar iawn ei gwrthwynebiad i atalgenhedlu ac erthyliad (dyna oedd prif bwnc ei haraith wrth dderbyn Gwobr Heddwch Nobel ym 1979). O gofio sefyllfa Calcota o bob man, lle mae problemau gorboblogi’n cyrraedd lefelau hurt dros ben, mae hynny’n arbennig o anghyfrifol. (Gyda llaw, mae’n werth nodi fan hyn bod Hitchens, yn anffodus, yn arddangos peth cydymdeimlad â’r farn gwrth-erthyliad, er bod ei feirniadaeth o safbwynt y lleian yn chwyrn hefyd).

Yn dilyn trychineb diwydiannol Bhopal ym 1984, ei chyngor hollol annefnyddiol i’r dioddefwyr a’r rhai mewn galar, yn syth wedi’r digwyddiad, oedd ‘maddeuer, maddeuer, maddeuer’. Rwy’n credu bod hynny’n dweud cyfrolau am wacter anfoesol ei diwinyddiaeth. Lladdwyd miloedd gan esgelustod Union Carbide, ac nid trwy faddau y ceir cyfiawnder. Yn yr un ffordd, ni ddylid maddau i’r Fam Teresa chwaith am y niwed enbyd a wnaeth hithau. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Hunangofiant John Davies

Profiad digon pruddglwyfus oedd darllen hunangofiant John Davies yn ddiweddar, ac yntau wedi marw’n fuan ar ôl ei gyhoeddi. Dywed tua diwedd y gyfrol ei fod yn disgwyl byw am ryw saith blynedd arall, ac roedd yn bwriadu gwneud defnydd o’r amser hwnnw hefyd, er enghraifft i deithio ymhellach (roedd eisoes wedi gweld cryn dipyn o’r byd).

Mae’n lyfr hoffus dros ben, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan ddyn mor annwyl, a cheir sawl anecdôt difyr wrth fynd heibio. Chwarddais yn uchel am y stori amdano’n cwrdd â Gore Vidal yn yr Eidal, er enghraifft.

Os oes gennyf gŵyn, mae’r hunangofiant yn rhy fyr. Diau mai fi sy’n farus, yn enwedig o sylweddoli’n drist mai dyma’r peth olaf un a gawn gan yr awdur. Ond roedd sawl man lle roeddwn yn awchus i glywed mwy. Er enghraifft, er fy mod yn deall mai anffyddiwr ydoedd, nid oeddwn yn sylweddoli cyn darllen pa mor chwyrn yn union oedd ei atgasedd at grefydd. Ceir ambell awgrym ei fod yn chwerwach na mi, hyd yn oed. Fe ddichon bod hynny’n rhannol oherwydd yr ohebiaeth hyll a dderbyniodd gan rai efengylwyr ar ôl datgan ei ddeurywioldeb yn nhudalennau Barn. Byddai wedi bod yn dda cael gwybod mwy o fanylion, ond dim ond megis cyffwrdd â hyn a wna’r gyfrol.

Defnyddir y gair ‘gogleisiol’ yn aml yn y llyfr, ac mae’n air addas i ddisgrifio’r gyfrol ei hun hefyd. Mae’n bleser i’w ddarllen, ac mae’r golled yn aruthrol. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Amcanion a chymhellion y Wladwriaeth Islamaidd

Mae yna erthygl ragorol iawn yn rhifyn cyfredol The Atlantic, yn trafod gwreiddiau ac ideoleg y Wladwriaeth Islamaidd. Mae’n hir dros ben, ond mae’n werth darllen y cyfan.

Prif neges yr ysgrif yw ei bod yn amhosibl deall y Wladwriaeth Islamaidd heb werthfawrogi dwy ffaith bwysig. Yn gyntaf, crefydd – hynny yw, fersiwn apocalyptaidd o islam y seithfed ganrif – sy’n lliwio popeth maent yn ei wneud. A’n ail, maent yn wahanol iawn i al-Qaeda mewn sawl ffordd.

Rwyf eisoes wedi trafod tuedd anffodus rhai pobl (gan gynnwys Barack Obama) i alw’r terfysgwyr yn ‘anislamaidd’. Yn achos Obama, ymgais i gefnogi mwslemiaid cymhedrol yw hynny ac mae’n anodd peidio cydymdeimlo â hynny i raddau. Ond rwy’n gobeithio’n arw bod yr arlywydd, yn breifat, yn cydnabod mai nonsens yw hynny. Nid oes un ‘gwir’ islam. Y ffaith ddigalon yw bod adnodau niferus yn y Corán sy’n cefnogi’r hyn a wneir yn enw’r Wladwriaeth Islamaidd.

Wrth gwrs mae ffactorau gwleidyddol, hanesyddol a diwylliannol ar fai am roi’r cyfle i’r Wladwriaeth Islamaidd feddiannu darn maint Prydain o’r Dwyrain Canol. Ond erys y ffaith mai cwlt crefyddol ydyw. Mae’r bobl yma’n credu, gydag arddeliad, bod proffwydoliaeth am gael ei gwireddu, sef bod brwydr fawr waedlyd gyda byddinoedd ‘Rhufain’ (sef ‘y byd Cristnogol’, sef America) ar fin digwydd yng ngogledd Syria, a bod hynny’n mynd i fod yn arwydd bod y byd yn mynd i orffen. Gosod popeth yn ei le er mwyn annog y senario yma y mae’r Wladwriaeth Islamaidd yn ei wneud ar hyn o bryd (y cam cyntaf oedd sefydlu califfiaeth), a dyna, efallai, y rheswm pennaf y byddai America’n wirion i gael eu temtio i anfon milwyr i ymladd ar lawr gwlad yno. Dyna’n union fyddai’r Wladwriaeth Islamaidd yn awyddus iawn i’w weld.

Cwestiwn academaidd, efallai, yw ai ffasgaeth grefyddol ynteu crefydd ffasgaidd yw’r hyn a geir yma. Fy ngreddf yw mai’r ail sy’n wir. Mae tuedd weithiau i dybio mai rhyw fath o facade yw’r hyn y mae grwpiau fel y Wladwriaeth Islamaidd yn ei ddweud, sef bod eu cwynion go iawn yn rai seciwlar a gwleidyddol ac mai modd o ddenu cefnogaeth yw eu mynegi mewn termau crefyddol. Hwyrach bod elfen fach o wirionedd i hynny yn achos al-Qaeda, ond mae’r Wladwriaeth Islamaidd yn wahanol yn ei hanfod. Eschatoleg pur sy’n sail i bopeth yn eu hachos hwy. Yn syml iawn, dylem eu derbyn wrth eu gair.

Goblygiadau hyn yw nad oes modd trafod â’r Wladwriaeth Islamaidd. Mae hyn yn llythrennol wir; nawr bod ganddynt eu califfiaeth, nid ydynt yn cydnabod unrhyw endid gwleidyddol arall. Iddynt hwy, byddai unrhyw drafod gyda rhywun allanol yn anislamaidd. Sicrhau diwedd y byd cyn gynted â phosibl yw’r nod. Mae mor ddu a gwyn â hynny. Nid oes gennyf syniad beth yw’r ateb yn y pen draw, ond mae deall a derbyn eu cymhellion yn fan cychwyn hanfodol, ac mae’r ysgrif yn eu hegluro’n gampus. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Lol anwyddonol ‘DNA Cymru’

Gwych yw gweld blog newydd Cymraeg am ‘wyddoniaeth, technoleg, tystiolaeth a’r cyfryngau’: Syndod. Mae’r blogiad cyntaf yn rhagorol: ‘Profion llinach genetig, DNA Cymru ac S4C‘.

Gwerthusiad damniol ydyw o raglen fydd yn dechrau ar ein sianel genedlaethol ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Bwriad y rhaglen yw ateb y cwestiwn ‘pwy yw’r Cymry?’ trwy olrain llinallau genetig unigolion. Ond mae hynny’n amhosibl ac anystyrlon. Nid oes modd darllen DNA person penodol fel rhyw fath o fap. Mae S4C wedi cynhyrfu’n lân am rwtsh siwdowyddonol. Mae’n rhaid eu bod yn deall hynny’n dawel bach, ond ni welwch unrhyw arwydd o sceptigiaeth yn y deunydd hyrwyddo. Nid oes rheswm i beidio disgwyl i’r rhaglen ei hun fod yr un mor grediniol chwaith.

Rhag ofn eich bod yn credu bod hyn yn hallt, ystyrier y ffaith nad yw Alistair Moffat, y dyn sy’n bennaf gyfrifol am hyn i gyd, yn wyddonydd o fath yn y byd. Yn hytrach, mae’n berchen ar fusnes sy’n elwa trwy werthu ‘profion’ genetig. Mae S4C wedi cytuno’n llon a digywilydd i hyrwyddo propaganda masnachol ar ran quack llwyr sy’n debygol o wneud ffortiwn o’r fath sylw. Cyd-ddigwyddiad, rwy’n siwr, yw’r ffaith bod Moffat a phennaeth y sianel yn hen ffrindiau.

Darllenwch y cwbl, a rhannwch. Mae’n bwysig ein bod fel Cymry yn beirniadu’r nonsens yma’n chwyrn, rhag iddo ategu’r ystrydeb amdanom fel cenedl sy’n obsesiynu ynghylch ein hynafiaid a syniadau dwl am waed a rhyw fath o burdeb Celtaidd. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ynghylch ‘eithafiaeth’

Bu cryn drafod yn ddiweddar am eithafiaeth islamaidd, yn dilyn terfysg ym Mharis, Copenhagen a gogledd Nigeria. Mae hynny’n gwneud synnwyr: mae pobl sy’n fodlon lladd eraill er mwyn ceisio gorfodi pawb arall i ufuddhau rheolau eu crefydd, trwy ddiffiniad, yn eithafwyr. Ond dylem osgoi cyfystyru eithafiaeth a pharodrwydd i ddefnyddio trais. Mae pob terfysgwr yn eithafol, ond nid yw pob eithafwr yn derfysgwr.

Mae hyn yn amlwg yn achos Cristnogaeth. Pan feddyliwn am eithafwyr Cristnogol, nid ydym o reidrwydd yn meddwl am bobl treisgar. Mae rhai Cristnogion ffwndamentalaidd yn ceisio lladd doctoriaid sy’n erthylu, ond eithriadau cymharol brin yw’r rhain. Ar y cyfan, rydym yn hapus i alw Cristnogion adweithiol yn eithafwyr hyd yn oed os nad yw’r syniad o ddefnyddio trais er mwyn cyflawni eu dyheadau’n croesi eu meddyliau.

Nid oes diffiniad clir ar gyfer eithafiaeth, wrth gwrs, a dyna ran o’r broblem. Yng nghyd-destun crefydd, fy nghynnig personol i yw mai ‘eithafwyr’ yw’r sawl sy’n disgwyl i bawb arall ufuddhau rheolau eu crefydd,  neu sy’n ceisio gorfodi eu crefydd ar eraill. Diffyg amlwg y diffiniad hwn yw’r posibilrwydd bod mwyafrif o fewn cymuned grefyddol yn credu neu’n gwneud hynny. Os mai’r norm yn eu mysg yw bod rheolau eu crefydd yn berthnasol i bobl nad ydynt yn rhannu’r ffydd honno, yna’n amlwg mae’n anodd galw hynny’n ‘eithafol’. Os yw bron pawb yn eithafol, cyll y gair ei ystyr. Ond nid yw’n hawdd mesur barn carfannau o bobl fel hyn. Gweler, er enghraifft, arolygon sydd wedi ceisio mesur agwedd mwslemiaid Prydeinig tuag at bobl cyfunrywiol: cymysg yw’r canlyniadau.

Symptom o eithafiaeth yw’r defnydd o drais. Y dyhead i gyfyngu ar hawliau pobl eraill yw gwraidd y broblem. Mae llawer o bobl sydd, er na fuasent yn ystyried defnyddio trais am eiliad, yn arddel safbwyntiau hyll; trwy eu gwireddu, buasent yn cyfyngu ar hawliau pobl. Yn wir, mae’n bosibl i rywun heddychlon fod yn fwy eithafol eu diwinyddiaeth na therfysgwr. Gwahaniaeth methodolegol a strategol yw’r defnydd o drais yn y pen draw. Nid eithafiaeth ynddi’i hun yw’r broblem, ond y pwnc y maent yn eithafol yn ei gylch. Byddai bod yn ‘eithafol’ o blaid dyneiddiaeth, hawliau cyfartal neu seciwlariaeth yn rinwedd. Nid felly yn achos islamiaeth, yn amlwg.

Er mwyn gweld pam mae’r cyfystyru yma’n broblem, edrychwn yn ôl at yr helynt rai misoedd yn ôl am eithafiaeth islamaidd mewn ysgolion yn Lloegr. Gan fod y ddau gysyniad wedi’u cymysgu ym meddyliau llawer, casgliad cyffredin oedd bod yr ysgolion hyn yn dysgu plant i droi at derfysgaeth. Rhoddodd hyn gyfle hawdd i’r ysgolion wadu’r cyhuddiad o ‘eithafiaeth’ – na, nid oedd yr athrawon yn pregethu am rinweddau jihad – ac anwybyddu’r ffaith eu bod yn gorfodi’r disgyblion i ddilyn rheolau crefyddol adweithiol. Y perygl yw bod diffinio eithafiaeth islamaidd fel ‘trais’ yn gwneud i’r safbwyntiau adweithiol eu hunain ymddangos yn llai ‘eithafol’ mewn cymhariaeth. Os yw arddel safbwyntiau adweithiol, cul a gormesol (ond heb hyrwyddo hynny trwy drais) yn cael ei ystyried yn ‘gymhedrol’, rydym eisoes wedi colli’r ddadl. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Pan mae anffyddwyr yn lladd

Gan fy mod wedi bod yn trafod llofruddiaethau gan derfysgwyr islamaidd yn ddiweddar, gwell fyddai peidio anwybyddu’r newyddion ofnadwy bod anffyddiwr wedi saethu tri mwslem yn farw yng Ngogledd Carolina yr wythnos ddiwethaf.

Mae gwahaniaethau amlwg a sylfaenol, wrth gwrs. Nid yw’n sicr pa mor berthnasol oedd anffyddiaeth Craig Hicks  wrth iddo wneud yr hyn a wnaeth; mae’n debyg mai ffrae ynghylch llefydd parcio oedd asgwrn y gynnen. Yn achos yr ymosodiadau ym Mharis a Chopenhagen, ar y llaw arall, roedd cymhellion crefyddol ac ideolegol y llofruddwyr yn hollol ddi-amwys. Eto i gyd, mae marwolaethau torcalonnus Deah Shaddy Barakat, Yusor Mohammad Abu-Salha a Razan Mohammad Abu-Salha yn codi cwestiynau am natur anffyddiaeth, troseddau casineb, a’r disgwyliad bod aelodau o leiafrifoedd yn condemnio popeth drwg a gyflawnir gan unrhyw aelodau eraill o’r lleiafrifoedd hynny.

Rhoddodd y cyfryngau Americanaidd gryn sylw i’r ffaith bod cyfrif Facebook Hicks yn llawn deunydd gwrth-grefyddol, gan ofyn a ydynt wedi’i ddylanwadu i gyflawni’r fath drosedd. Mae hynny’n destun ychydig o ofid ar un olwg, oherwydd, wel, mae f’un innau hefyd. Ond dylid pwysleisio nad oedd unrhyw awgrym yn y stwff yma ei fod yn arddel trais. Yn wir, dywed yn blaen, ar fwy nag un achlysur, ei fod yn cefnogi hawl pob person i arddel a mynegi ffydd grefyddol, ac mae ei safbwyntiau yn gyffredinol yn ddigon blaengar. Buaswn yn cyd-fynd yn llon â llawer. Hyd y gwelaf i, y gwahaniaeth mwyaf rhyngddo a mi yw ei hoffter o ddrylliau a’r hawl i’w cadw (gyda chanlyniadau trychinebus yn yr achos hwn).

Efallai wir mai ffrae wirion am le i barcio car oedd wrth wraidd y digwyddiad. Mae rhai anffyddwyr wedi defnyddio hyn er mwyn osgoi’r cwestiynau uchod ac i wadu’r posibilrwydd bod ei anffyddiaeth wedi chwarae rhan. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod hynny’n dal dŵr. Os mai dyna’r rheswm y lladdwyd y tri pherson yma, faint o ryddhad yw hynny mewn gwirionedd o’n safbwynt ni? Mae lladd pobl oherwydd llefydd parcio yn boncyrs. Red herring yw’r ffrae am barcio, mewn gwirionedd. A fyddai Hicks wedi saethu tri pherson yn farw, mewn amgylchiadau cyffelyb, pe na baent yn fwslemiaid? Mae’n gwestiwn teg, heb fodd o ganfod yr ateb. Rwy’n ei chael yn anodd anwybyddu’r posibilrwydd y byddai wedi bod yn llai tebygol o wneud hyn petaent yn wyn.

Mae rhai wedi galw’r llofruddiaethau’n weithred derfysgol, a pham lai? Beth bynnag oedd cymhelliad Hicks (ac mae’n bosibl iawn na chawn fyth ateb clir), mae’r sgil-effeithiau yr un fath â gweithred derfysgol glasurol. Arbrawf meddwl defnyddiol ar adegau fel hyn yw dychmygu’r gwrthwyneb: petai mwslem wedi saethu tri Christion neu anffyddiwr gwyn yn farw, ffrae am barcio neu beidio, gallwch fod yn sicr mai terfysgaeth fuasai’r gair. Er gwell neu er gwaeth, mae pwy laddodd pwy yn ffactor lawn mor arwyddocaol â’r weithred ei hun. Nid oes modd dadansoddi troseddau fel hyn mewn modd haniaethol. Oherwydd hyn, rwy’n teimlo’r angen i wneud pwynt o gondemnio’r lladd.

Rwyf wedi bod yn dweud ers peth amser bod angen i anffyddiaeth fod yn fwy na ‘diffyg cred mewn duw’ yn unig, dim ots beth a ddywed yr anffyddwyr hynny sy’n hoff o chwifio geiriaduron. Cyhuddiad crefyddol cyffredin iawn yn erbyn anffyddiaeth yw ei bod yn arwain at wacter moesol. Nid yw achosion fel hyn yn help o gwbl. Dyma’n union pam nad yw ‘dim duw’ yn ddigon. Mae gan anffyddiaeth oblygiadau, ac mae’n amhosibl gwahanu’r ddau beth. Rhywsut neu ei gilydd, cafodd yr anffyddiwr penodol hwn yr argraff bod lladd tri mwslem yn syniad gwerth chweil. Dylem gondemnio hynny’n chwyrn, ac egluro bod anffyddiaeth yn golygu ein bod i gyd yn rhannu planed heb oruchwyliaeth ddwyfol. Ein hunig ddewis yw canfod ein moesoldeb yn ein perthynas â’n gilydd, a thrin eraill fel y dymunem iddynt ein trin ninnau. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Bwrw Golwg

Roeddwn ar Bwrw Golwg y bore ‘ma (10:20 i mewn), yn trafod anffyddiaeth a’r blog. Y rheswm oedd canlyniadau arolwg a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnos: mae’n debyg bod 42% o bobl y Deyrnas Gyfunol bellach yn dweud nad ydynt yn grefyddol, a bod 19% hyd yn oed yn cofleidio’r label ‘anffyddiwr’. Mae’r ffigurau hyd yn oed yn uwch ar gyfer y genhedlaeth iau. Calonogol iawn, wrth gwrs.

Roeddwn yn hapus â’r sgwrs ar y cyfan, er fy mod yn gwybod yn iawn sut y gallaswn fod wedi gwella rhai o’r atebion. Yn arbennig, rwyf wedi bod yn gwingo, bron yn barhaus, ers i’r gair ‘gwrywgydiaeth’ lithro allan o’m ceg wrth recordio’r eitem. Mae’n air gwirion, ac nid oes gennyf syniad pam y’i dywedais. Fel un sydd wedi dweud droeon bod angen i bawb roi’r gorau i’w ddefnyddio, mae’n destun embaras. Buaswn yn pledio nerfusrwydd, ond mae’n esgus dila braidd. Ymddiheuriadau i bawb arall sy’n casáu’r gair.

Gwn mai’r ateb gwanaf oedd i’r cwestiwn ynghylch Cristnogion sy’n cael eu hysbrydoli gan eu ffydd i arddel safbwyntiau digon blaengar. Mae’n amlwg bod hynny’n wir am lawer iawn o Gristnogion, fel y cydnabyddais. Ond byddai ymateb gwell wedi mynd ati i egluro mai problem crefydd fan hyn yw ei bod fel canfas gwag i raddau helaeth. F’argraff i yw y byddai Cristnogion blaengar yn arddel y safbwyntiau rhyddfrydol hynny beth bynnag, ffydd neu beidio. Cyfiawnhad post hoc yw’r ddiwinyddiaeth. Rwyf wedi cyffwrdd ar y pwnc hwn mewn cofnod blaenorol hefyd.

Dywedodd y Parchedig Pryderi Llwyd Jones rai pethau digon clên am y blog yn ei sgwrs ddilynol yntau, chwarae teg. Wrth gwrs, nid yw mor hoff o’m defnydd o ymadroddion fel ‘ofergoeliaeth afresymegol’ a ‘fflwff diwinyddol ffug-ddwys’. F’amddiffyniad i yw fy mod yn ceisio egluro’n gymharol drylwyr pam fy mod yn credu bod y rhain yn ddisgrifiadau teg. Nid cyhuddiadau ffwrdd-a-hi mohonynt. Gwn nad yw eu defnyddio’n debygol iawn o arwain at berswadio Cristnogion bod eu fydd yn seiliedig ar gelwydd, ond, wel, mae hynny’n annhebygol iawn o ddigwydd doed a ddelo. Os oes gennyf obaith o ddenu unrhyw un i’r gorlan hon, yna pobl sydd ar hyn o bryd ar y ffens yw’r rheiny. Ond yn anad dim, mae’r disgrifiadau’n adlewyrchu fy marn, felly byddai’n anonest i mi’u hosgoi. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Mwy fyth o ladd

Y tro hwn mewn seminar – am ryddid mynegiant! – yng Nghopenagen, gyda chartwnydd sydd, yn y gorffennol, wedi cynhyrchu cartwnau o Fohamed. ‘Dim ond’ un person yn y gynulleidfa a lofruddwyd, diolch byth, ond anafwyd tri arall.Yn anffodus, nid oes gwobr … Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Taro’r Post: cau ac addasu capeli

Roeddwn ar raglen Taro’r Post heddiw yn trafod cau capeli a’u haddasu er dibenion amgen. Dyna oedd pwnc y rhaglen gyfan heddiw, ac mae fy nghyfraniad i’n dechrau ar ôl tua 31:20 (ar gael am 29 diwrnod).

Mae capeli chwarter gwag a dirywiad Cristnogaeth yn codi calon anffyddiwr rhonc fel fi, wrth gwrs, ond rwy’n gobeithio fy mod wedi dangos nad yw anffyddwyr yn dymuno’u dymchwel i gyd, chwaith. Er gwell neu er gwaeth, maent yn ran o’n hanes, ac nis gwn am unrhyw anffyddwyr sy’n dymuno dinistrio pob arwydd o’r dreftadaeth honno. Os oes modd gwneud defnydd gwahanol o’r adeiladau, nid oes rheswm i beidio croesawu’r peth. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Cywirdeb gwleidyddol a rhyddid mynegiant

Dywedais yn ddiweddar fy mod yn greadur digon ‘gwleidyddol gywir’ ar y cyfan. Rwyf wedi bod yn meddwl llawer am hyn yn y cyfamser, yn enwedig gan fod cryn ddadlau wedi bod yn ddiweddar yn dilyn cyhoeddi’r erthygl hon gan Jonathan Chait, lle mae’r awdur yn cwyno am ‘gywirdeb gwleidyddol’, gan ddadlau ei fod yn arwain at sensoriaeth.

Rhestra Chait nifer o achosion sydd, yn ei dyb ef, yn dangos rhyddid mynegiant yn cael ei lyffetheirio. Mae rhai o’r cyhudddiadau’n deg; yn amlwg, ni ddylid bygwth pobl, ymosod arnynt, na dinistrio eiddo. Mae eraill yn annheg.

Prif broblem yr ysgrif, yn fy nhyb i, yw’r dybiaeth bod cywirdeb gwleidyddol yn ffenomen sy’n nodweddu’r chwith wleidyddol, gyda’i phwyslais ar gyfiawnder cymdeithasol, yn unig. Dewisa Chait ganolbwyntio ar gampysau prifysgolion, gan bryderu bod America wedi magu cenhedlaeth o sensoriaid gor-sensitif o’r chwith sy’n gormesu pawb nad ydynt yn atddel yr orthodocsi ynghylch cyfiawnder cymdeithasol. Y gwir, wrth gwrs, yw nad yw hyn yn ffenomen newydd o gwbl, a bod y dde lawn mor ‘euog’ o’r un hen beth. Mae gwrthwynebwyr erthyliad, er enghraifft, yn defnyddio’r un tactegau’n union (ac mae llawer ohonynt yn fwy ymosodol o lawer na’r enghreifftiau a restra Chait).

Mae pawb – pob un ohonom, yn ddi-eithriad – yn ‘wleidyddol gywir’ yn ein ffyrdd ein hunain. Beth yw cywirdeb gwleidyddol, wedi’r cyfan? Yn y pen draw, dyma’r syniad bod rhai labelau neu safbwyntiau yn ‘annerbyniol’, er enghraifft oherwydd eu bod yn sarhus. Tros y degawdau diwethaf mae lled-gonsensws wedi datblygu yn ein cymdeithas bod defnyddio epithetau hiliol, homoffobig neu rywiaethol yn arferiad drwg. Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod hyn yn ddatblygiad iach.  Dyna esiampl glasurol o’r math o beth sy’n neidio i’r meddwl wrth i ni feddwl am gywirdeb gwleidyddol, oherwydd cysylltir y cysyniad fel arfer ag ymdrechion i warchod carfannau llai grymus ein cymdeithas.

Sylwer, gyda llaw, nad mater i’r gyfraith yw hyn. Mae’n wir bod ‘cyfreithiau casineb’ yn bodoli, ond rwy’n eu gwrthwynebu’n chwyrn. Y cyfan sydd ei angen yw i’r defnydd aneironig o’r fath dermau fod yn dabŵ. Nid yw condemnio’r defnydd o air hiliol yn tarfu ar ryddid mynegiant y siaradwr o gwbl. Mae hyn yn allweddol: os dywedaf ‘na ddylech’ ddweud rhywbeth, nid wyf yn arddel eich gwahardd rhag dweud hynny. Modd o fynegi anghytundeb ydyw, dyna i gyd.

Dychwelwn at y pwynt: ceir tabŵs ynghylch pob math o bynciau, gan gynnwys llawn cymaint sy’n annwyl i’r dde ag sydd i’r chwith. Er enghraifft, ydych chi’n cofio’r ffwdan yn America ar ôl i’r Dixie Chicks feirniadu’r rhyfel yn Irác? Fe’u hesgymunwyd, i bob pwrpas. Beth oedd hynny os nad ‘cywirdeb gwleidyddol’ ar waith? Mae’n ‘wleidyddol anghywir’ i ddweud unrhyw beth angharedig am y fyddin, boed yn America neu ym Mhrydain. Mae’r un peth yn wir am y frenhiniaeth, i’r graddau bod clywed gwleidydd yn cyfeirio at Elizabeth II fel ‘Mrs Windsor’ yn destun sioc. Cywirdeb gwleidyddol hefyd sy’n golygu bod crefydd yn parhau i dderbyn parch anhaeddiannol. Yn y Gymru Gymraeg, rydym yn cynhyrfu’n lân pan mae rhywun hanner-enwog yn dweud rhywbeth dwl am ein hiaith, a’r gwrthwyneb sy’n wir os yw Cymro amlwg yn tynnu sylw at yr hyn sy’n ei bygwth, megis y mewnlifiad. Enghraifft waeth o lawer yw’r math o ymateb lloerig sy’n wynebu ffeminyddion ar y we. Ie, adwaith yn erbyn cywirdeb gwleidyddol ffeminyddol ydyw, ond math o gywirdeb gwleidyddol adweithiol yw hyn hefyd yn ei dro. Bygythiadau a phoenydio yw hoff dactegau llawer o’r misogynistiaid hyn, ac mae hynny’n haeddu sylw gan yr heddlu. Ond y pwynt yw bod pawb yn ystyried rhai mathau o safbwyntiau’n gwbl wrthun.

Felly, pan glywch bobl yn cwyno am ‘gywirdeb gwleidyddol y chwith’, y cyfan y maent yn cyfeirio ato mewn gwirionedd yw math penodol o gywirdeb gwleidyddol y maent yn digwydd anghytuno ag ef. Mae’r union bobl hynny’n coleddu cywirdeb gwleidyddol gwahanol eu hunain (a’n cwyno pan mae rhywun yn torri eu hoff dabŵs hwythau). Nid cywirdeb gwleidyddol y maent yn galw’u fersiynau eu hunain, wrth gwrs, ond nid oes gwahaniaeth ymarferol. Ystyr ‘cywirdeb gwleidyddol’, yn hynny o beth, yw ‘pan mai’r ochr arall sydd wrthi’.

Mae Chait yn amlygu’r pwynt yn berffaith trwy fod yn euog o ragrith yn ei ysgrif. Cyfeiria at achos lle cafodd myfyriwr o leiafrif ethnig ei ddiswyddo o bapur newydd prifysgol am ddychanu ‘culture of taking offense that pervades the campus‘. I Chait, mae hyn yn bygwth rhyddid mynegiant. Beth bynnag eich barn am hynny, y ffaith yw bod Chait ei hun, yn 2009, wedi galw am ddiswyddo newyddiadurwr am ddweud rhywbeth nad oedd yn ei hoffi. Digon pitw oedd y rheswm, hefyd. Ond mae hynny’n wahanol, am wn i, am resymau dirgel.

Fe welwch ragrith yn aml iawn pan mae pobl yn cwyno am gywirdeb gwleidyddol, felly. Ond rhown y safonau dwbl i’r naill ochr am eiliad. A yw galw am ddiswyddo newyddiadurwr am fynegi safbwynt ‘annerbyniol’ yn niweidio rhyddid mynegiant? Yr ateb plaenaf yw ‘na’. Wedi’r cyfan, mae’r weithred o alw am y diswyddiad yn enghraifft o fynegiant barn ynddo’i hun (cyn belled nas defnyddir trais, wrth gwrs). Nid oes raid i’r papur dalu sylw. Os oes boicot o’r papur, mynegiant o farn yw hynny hefyd. O safbwynt y papur, nid oes dyletswydd arnynt i ddarparu platfform. Ystyr rhyddid mynegiant yw’r hawl i ddweud eich dweud heb boeni am gael eich niweidio neu eich harestio; nid yw’n golygu bod cyfrifoldeb ar bobl eraill i roi llwyfan i chi, nac i wrando arnoch (mae troliaid ar y we yn enwog am eu hanallu i amgyffred y pwynt syml yma). Celwydd llwyr yw’r awgrym bod tactegau fel hyn yn unigryw i’r chwith.

Cwestiwn arall yw doethineb y dacteg yn gyffredinol. Yn gyffredinol, fy marn yw mai’r ateb gorau i farn hyll neu dwp yw defnyddio ein rhyddid mynegiant ein hunain drachefn er mwyn condemnio. Byddai galw am ddiswyddo pob newyddiadurwr sy’n anghytuno â ni’n arwain at fyd lle mae pawb yn byw mewn siambr eco, lle nad yw unrhyw un yn dod ar draws barn wahanol i’r hyn y maent eisoes yn ei harddel. Mae gwerth i amrywiaeth barn. Ond nid mater o ryddid mynegiant yw hyn o gwbl.

Mae’r un peth yn wir yn achos atal gwahoddiadau i draddodi darlithiau, fel (fel y dywed Chait) sydd wedi digwydd yn ddiweddar i Bill Maher, Christine Lagarde, Ayaan Hirsi Ali a Condoleezza Rice, yn dilyn protestiadau gan fyfyrwyr. Fel rheol, unwaith mae siaradwr wedi derbyn gwahoddiad i ddod i siarad, fy nheimlad personol yw ei bod yn anghwrtais a dryslyd i dynnu’r gwahoddiad yn ôl (hyd yn oed yn achos Rice, sy’n derbyn symiau anferthol o arian am wneud y pethau yma, er ei bod nesaf peth at fod yn droseddwraig rhyfel). Ond rwy’n credu bod cwestiynu doethineb y gwahoddiad yn y lle cyntaf yn berffaith resymol. Beth bynnag, fel yn achos y paragraff blaenorol, nid mater o ryddid mynegiant mo hyn y naill ffordd na’r llall.

Nid yw’r cyhuddiad o gywirdeb gwleidyddol yn arbennig o ystyrlon, felly. Gorchest y dde wleidyddol yn y 90au cynnar oedd bathu’r ymadrodd, ei gysylltu’n benodol a daliadau llawer ar y chwith, a’i bortreadu fel cysyniad newydd eithriadol o niweidiol. Bu’r celwydd hwnnw’n lwyddiant mawr. Ffordd ddiog ydyw, yn y bôn, o golbio pobl sy’n anghytuno â chi. Mae pawb yn wleidyddol gywir. Ac os yw’n wir am bawb, nid oes pwrpas defnyddiol i’r label.

Rhof y gair olaf i Stewart Lee:

Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Fflwff diwinyddol ffug-ddwys

Rwyf wedi dweud droeon bod yr hyn a ddywed rhai diwinyddwyr ‘soffistigedig’ yn gallu fy syrffedu lawn cymaint, os nad mwy, na dadleuon ffwndamentaliaid. Dyma enghraifft, a gyflwynwyd fel ‘dyfyniad y dydd’ (!) gan y sylwebydd pabyddol Andrew Sullivan:

Faith is sensitiveness to what transcends nature, knowledge and will, awareness of the ultimate, alertness to the holy dimension of all reality. Faith is a force in man, lying deeper than the stratum of reason and its nature cannot be defined in abstract, static terms. To have faith is not to infer the beyond from the wretched here, but to perceive the wonder that is here and to be stirred by the desire to integrate the self into the holy order of living. It is not a deduction but an intuition, not a form of knowledge, of being convinced without proof, but the attitude of mind toward ideas whose scope is wider than its own capacity to grasp.

Such alertness grows from the sense for the meaningful, for the marvel of matter, for the core of thoughts. It is begotten in passionate love for the significance of all reality, in devotion to the ultimate meaning which is only God. By our very existence we are in dire need of meaning, and anything that calls for meaning is always an allusion to Him. We live by the certainty that we are not dust in the wind, that our life is related to the ultimate, the meaning of all meanings. And the system of meanings that permeates the universe is like an endless flight of stairs. Even when the upper stairs are beyond our sight, we constantly rise toward the distant goal – Abraham Joshua Heschel, “The Holy Dimension,” in Moral Grandeur and Spiritual Audacity: Essays

Crynodeb: ‘rydym i gyd yn chwilio am ystyr, a phan nad ydym yn gallu ei ganfod, rydym yn ei ddyfeisio allan o ddim’. Sy’n safbwynt gwirion mewn sawl ffordd. Dyna’n union pam, am wn i, mae’r awdur mor gyndyn i fynegi’r peth yn glir.

Salad geiriau gwag yw’r gweddill. Siarad a siarad heb ddweud unrhyw beth o sylwedd. Dyna sy’n nodweddu llawer iawn o ddiwinyddiaeth, o’m profiad i: rwdlan blodeuol ffug-goeth i guddio’r ymerawdr noeth. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Cwestiwn bach ynghylch sarhau’r proffwyd Mohamed

Gofynnais y cwestiwn hwn ar Twitter yn gynharach, ond gan na thalodd unrhyw un sylw (och a gwae), dyma’i ail-adrodd fan hyn:

A ddylid gwahardd cyhoeddiad sy’n cynnwys disgrifiadau pornograffig iawn o Fohamed yn cael ei arteithio’n Uffern?

Dyma ddyfyniad:

Roedd wedi’i rwygo ar agor, o’i ên yr holl ffordd lawr at y twll lle mae’n rhechu. Roedd ei berfedd yn hongian rhwng ei goesau, yn arddangos ei organnau, gan gynnwys y sach sy’n troi beth bynnag aiff lawr ei lwnc mewn i gachu.

(Peidiwch â thwyllo a chwilio am y ffynhonnell. Os nad oedd y cyd-destun yn bwysig yn achos Charlie Hebdo, nid yw’n bwysig fan hyn chwaith. Fe’i datgelir ar y diwedd beth bynang).

Os nad ydych yn credu y dylai cyhoeddi rhywbeth fel hyn fod yn anghyfreithlon, fel y cyfryw, ydych chi efallai o’r farn y dylai cyhoeddwyr ymatal rhag gwneud, fel arwydd o barch tuag at y proffwyd a’r holl bobl sy’n ei fawrygu? Mae’r disgrifiad uchod yn sicr yn fwy gwawdiol o lawer na chartŵn clawr diweddaraf Charlie Hebdo.

Mae’n debygol eich bod yn synhwyro trap o fath fan hyn. Digon teg. Inferno gan Dante yw’r testun. Pery mewn print. A ddylid canslo’r argraffiad nesaf, rhag ofn? Cwestiwn didwyll. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Diffyg hunanymwybyddiaeth doniol

Mae’n hwyl reslo’n y llaid â chreaduriaid od a dwl ar Twitter o dro i dro. Ambell waith, beglir ar draws rhywun sy’n cyfuno traha digywilydd a diffyg hunanymwybyddiaeth i raddau gwirioneddol arwrol. Yn aml, yn enwedig os ydynt yn defnyddio enw ffug, nid yw bob tro’n sicr nad ydynt yn chwarae’r twpsyn yn fwriadol, mewn rhyw fath o gêm feta-eironig; dyma ddeddf Poe ar waith. Yn yr achos isod, rwyf wedi tybio ei fod o ddifrif. Ymddengys yn ddigon didwyll yn ei ffordd dwp ei hun.

Anwybyddu troliaid yw’r polisi doethaf weithiau, ond dro arall mae gwerth tynnu sylw. Gall fod yn llesol iawn i weld, a dangos, pa mor thick yw rhai o’ch gwrthwynebwyr:

Mae mwy o’r nonsens ‘ma, ond dyna ddetholiad o’r ‘uchafbwyntiau’ os oes modd eu galw’n hynny. Prin bod angen i mi ychwanegu mwy. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: A’r ymatebion eraill i’r gyflafan

Rwyf eisoes wedi trafod fy rhwystredigaeth ag ymateb rhai rhyddfrydwyr i’r llofruddiaethau ofnadwy yn swyddfeydd Charlie Hebdo. Y flaenoriaeth i lawer oedd condemnio’r cartwnau yn hytrach na’r lladd, a hynny, ar y cyfan o leiaf, yn annheg. Nid dyna’r unig ymateb gwallus i’r hyn a ddigwyddodd, fodd bynnag. A bod yn onest, mae’r rhan fwyaf o’r ymatebion wedi bod yn wirion a rhagrithiol, a hynny ar sawl ochr o’r ddadl.

Fel un sy’n cefnogi’r cartwnau a’n condemnio’r trais – yn ddi-amwys, heb ‘ond’ – rwyf wedi canfod fy hun ar yr un ochr i’r ddadl ag islamoffobiaid rhagfarnllyd. Nid wyf yn arbennig o hapus am hynny, ond dyna ni (nid yw’r gair ‘islamoffôb’ yn ddelfrydol o bell ffordd; fe’i camddefnyddir yn aml, ond mae rhagfarn paranoid yn erbyn mwslemiaid yn ffenomen sy’n bodoli, felly rhaid i ni ei dderbyn).

Gallaf yn hawdd ddychmygu bod bywyd mwslem normal yn gallu bod yn syrffedus ar adegau (dyma erthygl dda iawn yn lladd ar yr ymadrodd ‘mwslem cymhedrol’, gyda llaw). Pryd bynnag mae rhai o’u cyd-mwslemiaid yn cyflawni gweithred dreisgar, mae gofyn bron yn syth i bob un aelod o’r grefydd gyfan wneud pwynt mawr o leisio condemniad cadarn. Y dyb, am wn i, yw bod eu ‘teyrngarwch’ yn amheus oni chlywn fel arall. Y broblem yw bod y conedmniadau gan amryw gyrff mwslemaidd yn cael llawer iawn llai o sylw yn y cyfryngau na’r bobl sy’n mynnu bod rhaid iddynt wneud y condemniadau hynny. Wrth gwrs, nid yw’n gwneud llawer o synnwyr i ddweud bod pob mwslem yn gyfrifol am yr hyn a gyflawnir yn enw’r grefydd honno, fwy nag ydyw i awgrymu bod pob siaradwr Cymraeg unigol yn siarad ar ran y grŵp ieithyddol cyfan. Ond mae hilgwn twp, serch popeth, wedi bod yn brysur yn ymosod ar fosgiau ledled Ffrainc. Mae hyn yn ddigalon.

Rydym hefyd wedi clywed cyhuddiadau o ragrith yn erbyn rhai o’r gwleidyddion a’r sylwebwyr a ddaeth allan o’r pren i gefnogi Charlie Hebdo yn enw rhyddid mynegiant. Mae’r cyhuddiad hwnnw’n hollol deg. Roedd bron yn ddoniol, mewn ffordd hynod dywyll, gweld llysgennad Sawdi Arabia allan ar strydoedd Paris yn cefnogi’r cylchgrawn, o gofio’r hyn sy’n digwydd yn y wlad honno i’r blogiwr rhyddfrydol Raif Badawi ar hyn o bryd. Dyma restr dda o ragrithwyr eraill tebyg, gan gynnwys y brenin Abdullah o Jordan, prif weinidog Twrci Ahmet Davutoğlu, Benjamin Netanyahu, Sergei Lavrov o Rwsia, taoiseach yr Iwerddon Enda Kenny (gwlad lle mae cabledd yn drosedd hyd heddiw), Khalid bin Ahmed Al Khalifa (gweinidog tramor Bahrain), a llawer iawn mwy. Yr hyn sy’n hyfryd, ac sydd heb gael llawer o sylw, yw bod Charlie Hebdo eu hunain, yn eu rhifyn newydd, yn tynnu sylw at yr union safonau dwbl digywilydd hyn, a’n gwawdio’r rhagrithwyr hyn sy’n gwneud defnydd o’u trasiedi er mwyn gwneud ychydig o grandstanding gwleidyddol ffug a thwyllodrus.

Mae llywodraeth Ffrainc ei hun yn euog o’r un rhagrith. Arestiwyd y digrifwr Dieudonné M’Bala M’bala wedi iddo gyhoeddi neges ar Facebook yn cydymdeimlo â’r terfysgwyr. Nid oes ots pa mor wrthun yw’r neges: rwy’n cefnogi, yn hollol ddi-amwys, ei hawl i fynegi’i farn. Rwy’n ffieiddio at y ffaith iddo gael ei arestio. A dweud y gwir, mae agwedd Ffrainc at ryddid mynegiant wedi bod yn od erioed: mae’r achos yma o 2006, er enghraifft, yn syfrdanol.

Mae’r cyhuddiad o ragrith yn gywir, felly, ond beth yn union yw datrysiad sylwebwyr fel Mehdi Hasan ar gyfer cysoni’r safonau dwbl yma? Hyd y gwelaf i, ei awgrym yw bod angen cyfyngu ar ryddid mynegiant ymhellach er mwyn sensro unrhyw beth sy’n gwawdio islam hefyd. Yr ateb cywir, wrth reswm, yw’r gwrthwyneb: dylid ehangu ar ryddid mynegiant a rhoi’r gorau i sensro yn yr holl achosion eraill yma. Mwy o ryddid mynegiant sydd ei angen, nid llai. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Yr ymateb i gyflafan Charlie Hebdo

Mae wythnos wedi mynd heibio, bellach, ers yr ymosodiad ofnadwy ar swyddfa’r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo. Heddiw, aeth y rhifyn cyntaf ers y digwyddiad ar werth (gweler y clawr ar y dde). Yn fy marn i, mae’r cartŵn yn hyfryd a graslon (‘maddeuir popeth’, medd dyn mewn twrban). Ysywaeth, mae llawer o fwslemiaid wedi gwylltio eto o’i herwydd.

Ymateb rhai o’m cyd-ryddfrydwyr yw testun y blogiad hwn, fodd bynnag. Rwyf wedi fy siomi’n arw gan rai blogwyr rwy’n eu hoffi. Mae’r drafodaeth yn ystod yr wythnos wedi fy nigaloni’n lân, a bod yn berffaith onest. Os rywbeth, rwy’n credu bod yr ymateb y tro hwn wedi bod hyd yn oed yn fwy camsyniol a llwfr nag ydoedd yn 2006 yn ystod helynt y cartwnau Jyllands-Posten.

Yn syth wedi’r digwyddiad, datblygodd yr hashnod #JeSuisCharlie fel modd o fynegi cefnogaeth i’r cylchgrawn. Yn fuan iawn wedi hynny, fodd bynnag, daeth yr adlach anochel gan ryddfrydwyr yn datgan #JeSuisNePasCharlie, gan gwyno bod y cylchgrawn yn hiliol, homoffobaidd, a misogynistaidd. Mae’r cyhuddiadau hyn, ar y cyfan, yn annheg ac anwybodus. Cyn egluro pam, fodd bynnag, hoffwn bwysleisio’r pwynt pwysicaf oll: pan mae rhywun wedi dioddef ymosodiad, neu hyd yn oed fygythiad, yn sgil rhywbeth maent wedi’i fynegi, dylai natur neu safon y gwaith o dan sylw fod yn hollol amherthnasol. Hyd yn oed petai’n wir bod Charlie Hebdo yn gyhoeddiad hiliol a rhagfarnllyd yn ei hanfod, ni ddylai hynny effeithio ar ein cefnogaeth yn dilyn digwyddiad fel hyn. Ystyrier cartwnau Jyllands-Posten; waeth i ni fod yn onest a chydnabod, bron ddegawd yn ddiweddarach, nad oeddent yn arbennig o dda na chlyfar. Ond pa ots? Yn syml iawn, pan mae rhyddid mynegiant yn cael ei fygwth fel hyn, yr unig ateb moesol yw cefnogaeth 100% i bwy bynnag sydd o dan y lach. Heb ‘ond’.

Rwy’n cydnabod bod y gymhariaeth yn un sensitif, ond ystyrier achosion lle mae merch yn cyhuddo dyn o’i threisio. Rydym yn feirniadol iawn o unrhyw un sy’n mynnu siarad am ymddygiad y ferch – ei gwisg, faint o alcohol roedd hi wedi’i yfed, faint o ddiddordeb roedd wedi’i ddangos yn y dyn – ac mae hynny’n berffaith gyfiawn. Nid yw’r pethau hynny’n berthnasol i’r achos, ac effaith eu trafod yw awgrymu bod peth o’r cyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd yn gorffwys ar ei hysgwyddau hithau. Mae hynny’n wrthun; bai’r treisiwr ydyw a neb arall. Rhaid i mi fynnu bod rhywbeth tebyg yn wir yn achos cartwnau Charlie Hebdo. Beth bynnag eich barn am y cartwnau ar unrhyw adeg arall, mae eu beirniadu yng nghyd-destun ehangach ymosodiad fel hyn yn awgrymu bod rhaid iddynt dderbyn peth o’r bai am yr hyn maent wedi’i ddioddef. Efallai nad dyna’r bwriad, ond dyna, heb os, y neges a gyfleir. Fe’u targedwyd gan y terfysgwyr oherwydd bod y cartwnau’n ‘annerbyniol’. Ymateb rhai rhyddfrydwyr oedd, wel, cytuno â’r rhesymeg. Mae hyn yn broblem anferth. Ategaf y pwynt: rhaid hepgor yr ‘ond’. Dylid dechrau a gorffen gyda chondemnio’r ymosodiad; ni ddylai fod yn fodd o glirio’r llwnc cyn beirniadu’r dioddefwyr.

Er fy mod newydd ddadlau bod answdd y gwaith yn amherthnasol, rwyf am amddiffyn y cartwnau beth bynnag, oherwydd rwy’n digwydd credu bod Charlie Hebdo‘n cael cam. Dechreuodd yr adlach gyda phobl ar Twitter yn rhannu lluniau o gloriau fel yr un ar y dde, heb gyd-destun. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys yn anghynnes: yr awgrym yw bod menywod sydd wedi dioddef diolch i Boko Haram ar fin heidio i Ffrainc er mwyn magu plant ar bwrs y wlad. Wrth gwrs, mewn gwirionedd mae’r cylchgrawn yn gwneud defnydd helaeth tu hwnt o eironi. Heb fynd i orfod o fanylder ynghylch cyd-destun y stori sy’n sail i’r clawr – digon yw eich cyfeirio at y dudalen Quora defnyddiol yma lle mae Ffrancwyr yn egluro beth sy’n mynd ymlaen – yr amcan yw gwatwar hiliaeth trwy fynd â’r rhesymeg i eithafion abswrd. Mae mwy o gartwnau wedi derbyn yr un feirniadaeth, ac mae’r gwrth-dadleuon yn debyg iawn yn yr achosion hynny hefyd.

Neidiodd llawer i’r casgliad bod y cylchgrawn yn un asgell-dde, hiliol, gwrth-fewnfudo. Y gwrthwyneb llwyr sy’n wir: mae Charlie Hebdo‘n perthyn i’r chwith radical, sy’n gwrthwynebu hiliaeth yn chwyrn. Os rywbeth, eu prif darged yw’r Le Pens a’r Front National. Mae’n wir eu bod yn dychanu islam a’n cael hwyl gyda delweddau o’r proffwyd Mohamed, ond maent yn targedu pob crefydd yn yr un ffordd. A bod yn blaen, ymddengys yn debygol nad oedd y rhan fwyaf o’r bobl hunan-fodlon a fu’n condemnio delweddau fel yr uchod hyd yn oed wedi clywed am Charlie Hebdo cyn yr ymosodiad, heb sôn am ymgyfarwyddo â bydolwg golygyddol y cylchgrawn, ac â gwleidyddiaeth a diwylliant Ffrainc yn gyffredinol. Ar ben hyn i gyd, wrth gwrs, ysgrifennir y cylchgrawn yn Ffrangeg, ac mae hynny’n rwystr arall i ni, nad ydym yn rhugl yn yr iaith honno, ddeall y cyd-destun. Nid bod hynny wedi atal llu o ryddfrydwyr smýg rhag eu condemnio mewn chwinciad. Nid dadlau ydwyf bod y cartŵn uchod yn enghraifft ardderchog o’r grefft. Fy mhwynt yw bod nifer fawr o’r bobl a fu’n ei ddiawlio heb hyd yn oed gydnabod bod y mater fymryn yn gynilach nag yr oedd yn ymddangos ar yr olwg gyntaf. Ni ddylid cymryd unrhyw un o ddifrif nad ydynt wedi traffferthu i ymgynefino â’r mater yn iawn.

Dylid dweud gair am ddychan ac eironi fan hyn. Mae’n berffaith iawn i benderfynu, ar ôl deall y cyd-destun yn drylwyr, bod y cartŵn yn broblematig o hyd. Rwyf wedi dadlau fy hun bod rhai digrifwyr yn euog o bledio ‘eironi’ er eu bod yn ategu hen ystrydebau diog. Hynny yw, nid yw hawlio label ‘eironi’ yn gerdyn get out of jail free.

Ni ddylid gorddweud arwyddocâd bwriad y dychanwyr chwaith, oherwydd mae eironi yn ddibynnol ar ddealltwriaeth y gynulleidfa. 60,000 yw cylchrediad arferol Charlie Hebdo, a gallwn dybio bod y darllenwyr rheolaidd hynny’n gwerthfawrogi’r ffordd y mae’r cylchgrawn yn mynd ati i wneud eu pwynt. Ond mae’r rhifyn newydd eisoes wedi gwerthu miliynau o gopïau; efallai wir bod rhai o’r darllenwyr ychwanegol yr wythnos hon yn hilgwn sy’n hoffi’r syniad o weld islam fel testun sbort. Petai pobl felly’n dyfalbarhau gyda’r cylchgrawn, byddai angen cydnabod wedyn bod y ffordd y mae’n cael ei ddehongli gan ei ddarllenwyr wedi newid hefyd. Byddai hynny’n newid gwleidyddiaeth y cylchgrawn, yn anffodus, hyd yn oed os nad yw’r deunydd ei hun wedi newid o gwbl. Y gwir amdani yw bod ar eironi, os am lwyddo, angen i’r gynulleidfa fod fel petaent yn aelod o glwb, sy’n deall yn union sut i ddehongli’r deunydd gyda winc. Oherwydd y ddibyniaeth ar ddealltwriaeth y gynulleidfa, mae’n llythrennol amhosibl creu deunydd dychanol lle nad oes risg iddo gael ei gamddehongli gan bobl o’r tu allan i’r ‘clwb’ hwnnw, boed yn bobl sy’n arddel cyfiawnder cymdeithasol sy’n pryderu ei fod yn mynegi rhagfarn hyll, neu’n geidwadwyr adweithiol sy’n ei hoffi am yr un rheswm yn union. Yn hynny o beth, problem yr oes sydd ohoni yw bod y we yn newid y modd y mae gwaith fel hyn yn cael ei ddosbarthu. Mae’n llawer haws rhwygo darnau unigol oddi wrth eu cyd-destun.

Er mwyn amlygu hyn, ystyrier yr erthygl yma o wefan The Onion (euthum am dro i’w gwefan a chwilio am y gair ‘nigger‘, a dyna’r canlyniad cyntaf). Pe na baech yn gyfarwydd â natur y cyhoeddiad hwnnw, efallai wir y buasech yn dychryn. Mae’r erthygl yn ddoniol, gan watwar hiliaeth, ond fel rwyf wedi bod yn dweud, mae’n dibynnu ar ryw faint o ddealltwriaeth ar ran y darllenydd. Wrth gwrs mae gan The Onion y fantais o fod yn gylchgrawn Americanaidd enwog iawn; mae llawer, o’r tu allan i America hefyd, yn gwybod yn iawn nad oes ynddo unrhyw beth i’w gymryd o ddifrif. Hyd y gwelaf, y gwahaniaeth pennaf rhwng erthygl The Onion a’r cartŵn Charlie Hebdo uchod yw bod llawer iawn llai o bobl, nes yr wythnos ddiwethaf o leiaf, wedi clywed am yr ail gylchgrawn.

Mae’r ffrae am y cartwnau wedi esgor ar drafodaeth ehangach ynghylch rhyddid barn. Cri gyfarwydd yw bod rhyddid mynegiant yn dda ond (a dyna’r ‘ond’ annifyr yna eto) nad yw hynny’n golygu y dylid mynd ati’n fwriadol i achosi loes. Wel ie a na. Rwy’n berson eithaf gwleidyddol gywir ar y cyfan. Rwy’n feirniadol iawn pan welaf hiliaeth, homoffobia neu rywiaeth, ac yn yr ystyr yna o leiaf, rwy’n credu bod yna rai pethau na ‘ddylai’ pobl eu dweud. Ond yn amlwg, nid yw hynny’n golygu fy mod yn arddel ymosod ar, neu arestio, hilgwn, homoffobiaid neu fisogynistiaid. O safbwynt rhyddid mynegiant, rwy’n cefnogi, gydag arddeliad, hawl pobl i ddweud pethau anghywir a hyll; rwyf yno’n llechu yn barod i ddefnyddio fy rhyddid mynegiant innau yn fy nhro i’w condemnio pan fyddent yn gwneud. Yn yr ystyr gyfreithiol, mae rhyddid mynegiant yn bwysicach byth pan mae datganiad yn debygol o beri loes; dyna’r union achlysur pan mae’r angen i’w amddiffyn ar ei fwyaf. Nid yw’r rhyddid i ddweud pethau saff yn unig, sy’n annhebygol o dramgwyddo unrhyw un, yn enghraifft ystyrlon o ryddid mynegiant o gwbl. Hynny yw, os nad ydych yn credu bod rhyddid mynegiant yn cynnwys yr hawl i gyhoeddi pethau fel delweddau o’r proffwyd Mohamed, nid ydych yn credu mewn rhyddid mynegiant o gwbl.

Problem gyfarwydd arall fan hyn yw’r syniad bod crefydd yn ran annatod o hunaniaeth pobl, lawn cymaint â’u hil. Mae llawer o’r farn bod hynny’n wir, felly mewn un ystyr mae hynny ynddo’i hun yn gwireddu’r ffaith. Mae pobl yn diffinio’u hunaniaeth eu hunain, wedi’r cyfan. Ond fel rwyf wedi’i ddweud dro ar ôl tro ar y blog hwn, cysyniad ideolegol yw crefydd. Nid oes rheswm o gwbl i drin crefydd yn gyffredinol, heb sôn am un grefydd benodol, yn wahanol i syniadau gwleidyddol megis Marcsiaeth neu geidwadaeth. Mae angen dymchwel y pedestal y mae cymdeithas yn mynnu gosod crefydd arno, a chael gwared ar y ffug-barchusrwydd anhaeddiannol y rhoddir iddi. Ni ddylai unrhyw syniadau fod yn imiwn rhag beirniadaeth na dychan.

Cŵyn berthnasol ychwanegol yw bod angen i ddychan anelu tuag i fyny, a herio’r sawl sydd â grym. Yr awgrym yw bod tynnu coes Mohamed druan yn enghraifft o anelu am i lawr, gan sathru ar fwslemiaid difreintiedig sy’n dehongli’r peth fel ymosodiad personol ar leiafrif. Efallai bod modd dadlau mai taro i fyny a wna’r dychanu gorau. Ond rwy’n gwrthod y syniad bod anelu i lawr yn hollol annilys. Dylai fod yn ddigon i’r targed fod yn abswrd. Ac mae islam, a’r holl lol am Fohamed, yn hollol abswrd. A beth bynnag, awgrymaf ei fod yn deg dweud mai anelu i fyny y mae Charlie Hebdo wrth gyfeirio at yr eithafwyr arfog a laddodd eu cyfeillion, ac sy’n arddel trais fel modd o orfodi eraill i ufuddhau i’w gofynion.

Yr unig reswm y mae hyn i gyd yn ddadleuol yn achos islam yw oherwydd bod cymaint o ffyddloniaid y grefydd honno’n bygwth trais yn erbyn unrhyw un sy’n eu hypsétio. Mae gwirfoddoli i fod yn wystlon i sensitifrwydd eithafwyr treisgar yn syniad syfrdanol o dwp. Yn syml iawn, nid yw’r sensro yma’n digwydd yn achos Cristnogaeth, a da hynny. Ond y ffordd i gysoni pethau yw i drin islam yr un fath ag yr ydym yn trin pob crefydd arall, nid fel arall. Os nad ydych wedi’ch argyhoeddi eto, ystyrier bod ceidwadwyr Cristnogol yn America eisoes wedi llwyddo i ddefnyddio helynt Charlie Hebdo i orfodi’r Associated Press i dynnu llun o’r Piss Christ i lawr. Dylem fod yn onest: roedd ganddynt bwynt, gan fod gan yr AP bolisi o beidio dosbarthu lluniau o Fohamed. Rhagrith a safonau dwbl yw trin y ddau achos yn wahanol. Rhaid eu trin i gyd yr un fath. Fel arall, y neges fawr i Gristnogion y byd yma yw bod angen iddynt ail-afael â dulliau treisgar.

Mewn ffordd, mae gennyf fwy o barch tuag at gyhoeddwyr a golygyddion sy’n cyfaddef yn agored mai pryderon am ddiogelwch sydd wrth wraidd eu penderfyniad i beidio atgynhyrchu’r delweddau. O leiaf mae hynny’n onest. Rhag cywilydd, fodd bynnag, ar y sawl sy’n dyfeisio ffug-esgusodion hanner-pan am ryw ddymuniad i ‘osgoi peri loes’. Y gwir amdani yw ei bod yn amhosibl adrodd stori fawr yr wythnos ddiwethaf heb ddangos yr hyn sydd wedi ysgogi’r holl helynt. Mae unrhyw bapur newydd neu raglen newyddion sy’n gwrthod dangos y cartwnau yn euog o roi darlun pathetig o anghyflawn i’w darllenwyr a’u gwylwyr. Nid yw’n bosibl deall beth sy’n digwydd hebddynt. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Simon Brooks: Rhyddid Barn a’r Wasg Gymraeg

Mae’r hen gwestiwn ynghylch islam a rhyddid mynegiant wedi codi’i ben mewn modd erchyll eto dros y dyddiau diwethaf, yn dilyn cyflafan yn swyddfa’r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo ym Mharis. Bydd gennyf lawer i’w ddweud yn fuan am yr helynt, a’r ymateb iddo’n benodol. Yn y cyfamser, rwy’n hapus i gyhoeddi’r neges isod gan Simon Brooks, ac erthygl berthnasol iawn o’i eiddo a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2006:

Pan gafwyd helynt yn 2006 ynglŷn â phenderfyniad y papur newydd Daneg Jyllands-Posten i gyhoeddi cartwnau o’r Proffwyd Mohamed, lledodd y ffrae i’r Gymru Gymraeg. Ail-gyhoeddwyd y cartwnau mewn papurau ar gyfandir Ewrop, ond nid yng ngwledydd Prydain ac eithrio, yn od iawn, mewn dau gylchgrawn Cymreig, Gair Rhydd a’r Llan, cyfnodolyn yr Eglwys yng Nghymru. Ond gorchmynnwyd fod rhifynnau perthnasol y ddau gylchgrawn hwnnw yn cael eu dinistrio, penderfyniad a groesawyd gan y sefydliad Cymreig yn ei gyfanrwydd. Gwrthwynebais hyn mewn erthygl olygyddol yn Barn ym mis Mawrth 2006, fel y gwnaeth Siôn Jobbins yntau yn y cylchgrawn Cambria ychydig wedyn. Er hynny, ni ymddangosodd y cartwnau yn Barn na Cambria ychwaith.

Ailgyhoeddir erthygl olygyddol Barn isod er mwyn ceisio ysbarduno trafodaeth yn Gymraeg. Ailgyhoeddwyd yr erthygl cyn hyn yn fy llyfr, Yr Hawl i Oroesi, yn 2009, ond nid yw ar gael yn ddigidol, ac yn ddigidol erbyn hyn mae llawer o drafodaethau’n digwydd.

Rwy’n hynod ddiolchgar i Dylan Llŷr am ganiatáu imi ailgyhoeddi’r erthygl ar ei wefan. – Simon Brooks, 11 Ionawr 2015

Wyneb Mohamed

Mae’r cartwnau enwog o Mohamed yn gorwedd ar fy nesg. Pan welais y dychanlun o’r Proffwyd ar dudalen flaen Die Welt, mewn siop papurau yng Nghaernarfon, prynais gopi heb feddwl ddwywaith. Efallai bod The Guardian yn rhy smyg i gredu mewn rhyddid barn bellach, ond mae modd cael gafael ar y wasg Ewropeaidd yn y rhan fwya’ o drefi yng Nghymru heddiw, a diolch byth am hynny.

Rwy’n gwbl glir fy meddwl nad oedd y papur newydd Daneg Jyllands-Posten wedi gwneud cam wrth gomisiynu deuddeg cartŵn yn arddangos wyneb Mohamed. Roedd penderfyniad papurau newydd cyfrifol ar dir mawr Ewrop – megis y Frankfurter Allgemeine Zeitung, Libération ac El Mundo – i’w hailgyhoeddi yn angenrheidiol hefyd yn wyneb hysteria. Ond nid ymddangosodd y cartwnau hyn yn yr un cyhoeddiad print yng ngwledydd Prydain, ac eithrio’r papur myfyrwyr Gair Rhydd. Ac o fewn ychydig oriau i Gair Rhydd weld golau dydd, roedd Undeb Myfyrwyr Caerdydd wedi rhoi sac i’r golygydd, a phwlpio’r rhifyn.

Wele felly wasg rydd wedi’i sensro ym Mhrydain, am y tro cynta’ efallai ers y dyddiau rheiny pryd y penderfynodd Thatcher na chaem glywed llefarwyr Sinn Féin. Mae’n eironig a dweud y lleia’ bod cyfyngiadau hanesyddol ar ryddid barn megis gyda rhywioldeb, y frenhiniaeth neu wleidyddiaeth wedi eu trechu, dim ond i rai newydd gael eu gosod yn eu lle. Mae’n fwy eironig byth mai’r sefydliad rhyddfrydol sydd wedi rhoi sêl ei fendith ar y sensoriaeth newydd hwn. Ond ni fydd neb yn synnu mai’r ceffyl pren Troeaidd yn hyn o beth yw cywirdeb gwleidyddol, un o afiechydon mawr ein hoes.

‘The insensitive actions of a few individuals should not, and will not, stop the atmosphere of respect and tolerance that exists at the university,’ meddai Cadeirydd Ffederasiwn Cymdeithasau Islamaidd Myfyrwyr Cymru wrth gollfarnu Gair Rhydd ar ran Mwslemiaid Prifysgol Caerdydd. Dyma ddefnydd dichellgar, dauwynebog o rethreg gynhwysol y gymdeithas amlddiwylliannol. Sylwer fel y defnyddir ‘insensitive’ ganddo i olygu ‘annerbyniol’, ‘respect’ i olygu ‘sensoriaeth’ a ‘tolerance’ i olygu ‘cau ceg’. Prifysgol o bob man yn methu â chaniatáu rhyddid barn!

Oes ’na rywbeth yn bod ar Islam felly, ac a oes gennym ni hawl i’w feirniadu? Mae digwyddiadau yr wythnosau diwetha’ wedi dangos yn go glir nad ydy Islam fel pe bai’n deall mai seciwlariaeth mewn bywyd cyhoeddus yw un o gonglfeini bywyd Ewrop. Nid yw hyn yn golygu y dylai fod unrhyw wrthwynebiad i Islam mewn bywyd preifat. Yr hawl i ffydd, yr hawl i addoli, yr hawl i addoldai: dyma rai o’r hawliau dynol mwyaf sylfaenol. A’r hawl hefyd i fynegi barn heddychlon ynghylch cabledd, ac i brotestio yn ei erbyn os dymunir.

Ond cyn belled â bod cyfraith a threfn dan ystyriaeth, cymdeithas seciwlar ydy hon, ac mae gennym bob hawl i’w chadw felly. Yma fe ymddengys bod y Gorllewin ac Islam yn bodoli ar ddwy blaned wahanol. Yn y ddeunawfed ganrif y cafwyd y chwyldro mewn athroniaeth Ewropeaidd a olygodd fod mwy o fri yn cael ei roi ar reswm a rhesymeg mewn gwleidyddiaeth nag ar orchmynion offeiriaid. A’r gwir amdani ydy mai un o’r prif resymau dros y diffyg amgyffred presennol rhwng y Gorllewin ac Islam ydy na phrofodd y byd Islamaidd yr Oleuedigaeth honno. Bydysawd oligarchaidd yn anffodus yw’r byd Islamaidd o hyd.

Er gwaetha’ honiadau ffôl rhai Mwslemiaid mai mater o ragfarn hiliol yw dymuno cyhoeddi’r cartwnau hyn, does gan neb – heblaw efallai am y BNP – mo’r mymryn lleia’ o ddiddordeb mewn defnyddio cabledd gwrth-Islamaidd fel ffon i guro lleiafrif ethnig. Yr hyn a gawn yn dramgwyddus, yn hytrach, ydy’r ensyniad na ellid caniatáu bellach drafodaeth ar grefydd.

At hyn hefyd, wrth gwrs, bu golygfeydd cywilyddus yn Llundain pryd y bu Islamiaid eithafol yn galw am ddienyddio newyddiadurwyr a chartwnwyr. Nid chwarae bach yw’r bygythiadau hyn, wrth gwrs. Gorfodwyd Salman Rushdie gan fatwa i guddio am flynyddoedd maith. Yn yr Iseldiroedd, llofruddiwyd cyfarwyddwr ffilm, Theo van Gogh, am feirniadu Islam.

Roedd fy mhenderfyniad fel Golygydd Barn o ran y cartwnau hyn yn un digon hawdd felly. Roeddwn yn dymuno eu cyhoeddi. Nid er mwyn dathlu cabledd, ond er mwyn gwrthsefyll yr Islamiaid eithafol sy’n dewis cefnogi’u bydolwg crefyddol gyda bygythiadau o drais a llofruddiaeth.

Ac eto, ni welwch yn Barn yr un o’r cartwnau yma. Pam hynny? Yn ddigon syml, cachgïaeth. Mae’n well bod yn onest am hyn yn hytrach na bychanu deallusrwydd pawb. Trwy Brydain benbaladr mae golygyddion yn llawn ofn. Ac nid wyf yn eithriad.

Wrth gwrs mae peidio â chyhoeddi’r cartwnau hyn yn datgan buddugoliaeth trais a therfysgaeth dros werthoedd cymdeithas wâr. Mae’n golygu nad yw rheolaeth y Gyfraith yn ddigon cryf ym Mhrydain bellach i warantu rhyddid y wasg. Mae hyn yn drychineb i ni i gyd. Ond byddai cyhoeddi’r cartwnau hyn yn rhy beryglus. Am y tro cyntaf ym Mhrydain ers tri chan mlynedd a mwy, dedfryd o farwolaeth yw’r gosb am feirniadu crefydd. Rhag eu cywilydd yr Islamiaid eithafol sy’n peri hyn, a rhag eu cywilydd hefyd bawb sy’n gwneud esgusodion drostyn nhw. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: The Book Of Mormon

Bûm i weld sioe gerdd The Book Of Mormon yn Llundain ddoe. Trey Parker a Matt Stone a’i creodd. Y ddau yma sy’n gyfrifol am South Park hefyd, a dylai hynny roi rhyw syniad o’r math o hiwmor ynddi. Ond mae’n gynhyrchiad gwirioneddol safonol.

Heb ddifetha gormod ar y plot, mae dau o genhadon Mormonaidd ifainc yn cael eu hanfon i Uganda er mwyn denu’r brodorion i’r ffydd (with hilarious consequences). Ceir llawer o hwyl gyda’r camargraffiadau ystrydebol sydd gan lawer o bobl y ‘gorllewin’ o Affrica. Ond wrth gwrs, Mormoniaeth, a chrefydd yn gyffredinol, yw targed rhan helaeth y dychan (roedd yn bownd o fy mhlesio yn hynny o beth, am wn i). Yn sicr, mae digon o ddeunydd i’w ddychan lle mae Mormoniaeth o dan sylw.

Eto i gyd, efallai mai’r neges yn y diwedd yw bod ffydd grefyddol yn ddi-niwed, neu hyd yn oed yn fuddiol, cyn belled nad ydych yn cymryd pethau’n llythrennol. Yn wir, mae Stone a Parker eu hunain wedi galw’r sioe yn atheist’s love letter to religion“. Ar y llaw arall, y pwynt mawr yn fy marn i mi yw bod dyheadau a sefyllfaoedd personol pobl yn gallu peri iddynt gredu pob math o bethau rhyfedd. Fel rhywun sydd o’r farn bod credu pethau anghywir yn niweidiol, rwy’n mynnu y dylem wneud ein gorau i osgoi syrthio i’r trap hwnnw.

Beth bynnag, mae’n sioe wych. Roeddwn yn fy nyblau ar brydiau. Argymhellaf. Hasa diga eebowai! Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Yn erbyn Siôn Corn

Rwy’n eithaf drwgdybus o’r chwedl (gymharol newydd) am Siôn Corn. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn mynnu mai hwyl di-niwed yw’r holl beth; mae’r plant yn mwynhau, ac mae eu gweld yn cynhyrfu’n lân bob Nadolig yn rhoi pleser i’w rhieni hefyd. Am wn i, mae hefyd yn gelwydd defnyddiol er dibenion annog y diawliaid bach i fyhafio, ond dyna’n union ran o’r broblem sydd gennyf â’r syniad.

Mae’n draddodiad rhyfedd mewn sawl ffordd. Pam mae rhieni mor awyddus i ildio’r clôd am wario ffortiwn ar eu plantos? Yn fwy na hynny, ym mha gyd-destun arall y buasem mor gyfforddus â’r syniad o ddyn oedrannus barfog tew yn torri mewn i’n tai fin nos, gan sleifio’n dawel i ystafelloedd gwely ein hepilod wrth iddynt freuddwydio’n fodlon? Ond yr elfen fwyaf sinistr oll yw’r neges bod Siôn Corn yn gallu gweld ein plant drwy’r amser a’n gwybod popeth amdanynt; yn enwedig, wrth gwrs, a ydynt wedi bod yn dda ynteu’n ddrwg.

Bach o gybolfa yw tarddiad y chwedl mewn gwirionedd, a digon tila yw’r cysylltiad a wneir o dro i dro â’r Sant Niclas Cristnogol. Ar y cyfan, nid oes gan Siôn Corn – sef yr un motiff amlycaf a gysylltir â’r Nadolig – unrhyw beth i’w wneud â Christnogaeth. Nid yw hynny’n syndod, oherwydd nid gŵyl Gristnogol mo’r Nadolig yn y lle cyntaf. Eto i gyd, go brin bod modd ei alw’n ffigwr seciwlar chwaith. I bob pwrpas, mae’r Siôn Corn modern yn hollalluog, hollwybodus a hollbresennol. Yn hynny o beth, nid oes fawr yn wahanol rhyngddo a’r duw monotheistaidd. Am fis bob blwyddyn, mae Siôn Corn yn dadorseddu Duw. Beth yw’r holl lythyrau i Begwn y Gogledd ond gweddïau, wedi’r cyfan? Mae’r cyffelybiaethau’n niferus.

Nid wyf yn credu ei bod yn iach i ddysgu ein plant bod yna rywun yn craffu arnynt bob eiliad o’r dydd, a’n darllen eu meddyliau. Yn un peth, mae’n dilysu syniadau crefyddol am fodau goruwchnaturiol. Ond mae rhywbeth eithriadol o annifyr am y syniad nad oes gan ein plant unrhyw le i ddianc oddi wrth y fath ddewin dirgel. Mae preifatrwydd yn bwysig, o safbwynt seicolegol, hyd yn oed i blant ifainc, ac mae pawb angen rhywle lle mae modd ymlacio heb fod rhywun yn syllu. Mae goruchwyliaeth barhaus yn gysyniad totalitaraidd. Nid wyf yn arbennig o hoff o’r syniad o awgrymu i blant eu bod yn byw mewn siwdo-Ogledd Corea neu rhyw ddystopia Nineteen Eighty-Four-aidd. Am yr un rheswm yn union, mae’n destun rhyddhad nad oes yna dduw’n bodoli.

Nid oes gennyf blant ar hyn o bryd, ond bydd hynny’n newid ym mis Mai (gobeithio). Rwy’n cydnabod bod cael plant eich hunain yn gallu newid eich safbwyntiau ynchylch y pethau yma. Eto i gyd, rwy’n hoffi meddwl mai fy ngreddf fyddai dweud wrth y plentyn “does dim Siôn Corn; dweud wrth dy ffrindiau”. Ond na phoner; rwyf wedi hen golli’r ddadl yma â’m gwraig. Mae’n debyg mai darn o deyrnas Siôn Corn fydd yr aelwyd acw hefyd, er popeth. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Drama’r ddrama

Mae’n rhaid ei bod hi’n fis Rhagfyr, gan fod y cwyno cyfarwydd gan rai Cristnogion am golli ‘gwir ystyr y Nadolig’ yn ei anterth eto fyth.  Un o bynciau Taro’r Post heddiw (y 10 munud olaf) oedd tuedd gynyddol ysgolion i greu fersiynau ‘modern’ o ddrama’r geni, neu i lwyfannu sioeau gwahanol yn gyfan gwbl, yn hytrach na’r fersiwn draddodiadol, ddiflas. Cymerais ran yn y drafodaeth. Fel y gallwch ddychmygu, croesawu’r duedd wyf i.

Felix Aubel oedd yn dadlau y dylid gochel rhag seciwlareiddio’r Nadolig, a bod angen sicrhau bod plant ysgol yn parhau i berfformio stori geni Iesu. Fy nadl i, yn syml, yw nad yw’r Nadolig yn ŵyl Gristnogol yn y lle cyntaf (ac nad ydyw wedi bod erioed). Gŵyl seciwlar yw’r Nadolig, felly mae’n llawer gwell perfformio sioeau amrywiol. Os gorfodi’n plantos bach truain i ‘actio’, mae yna lawer iawn o sioeau mwy diddorol ar gael. Nid oes rheswm o gwbl i barhau gyda’r un hen rigol.

Dyma enghraifft arall o Gristnogion yn raddol golli’r hawl i orfodi pobl eraill i gymryd rhan yn eu defodau, a’n portreadu hynny wedyn fel rhyw fath o ymosodiad ar eu ffydd. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Osgowch Operation Christmas Child

Dyma’r amser o’r flwyddyn pan fydd llawer o’n plant ysgol (neu efallai, yn hytrach, eu rhieni) yn llenwi hen focsys esgidiau gydag anrhegion rhad er mwyn eu hanfon dramor at rai llai ffodus. Roeddwn yn gwneud hyn fy hun am gyfnod pan oeddwn yn yr ysgol (llun ohonof yn y papur lleol a phopeth), gan deimlo’n eithaf hapus fy mod yn gwneud rhywbeth caredig.

Ar y pryd, wrth gwrs, nid oedd gennyf syniad o fath yn y byd bod yr elusen sy’n gyfrifol am Operation Christmas Child – Samaritan’s Purse – yn fudiad Cristnogol efengylol, a sefydlwyd gan Franklin Graham, mab y tele-efengylwr cyfoethog Billy. Wedi i chi lenwi’r bocs yn ofalus, mae’r grŵp yn ddiweddarach yn ychwanegu propaganda crefyddol cyn ei ddosbarthu. Am flynyddoedd, roeddent yn celu’r ffaith honno, gan arwain yn y pen draw at ymchwiliad gan y Comisiwn Elusennol yn 2003. Nid yw pethau wedi gwella rhyw lawer ers hynny chwaith.

Nis gwn a wyddai’r ysgol ar y pryd, ac nid wyf yn siwr a fyddai hynny wedi gwneud gwahaniaeth ai peidio, ond yn sicr nid oeddwn i’n ymwybodol o’r peth. Roeddwn yn anffyddiwr o argyhoeddiad hyd yn oed bryd hynny, felly ni allaf ddychmygu y buaswn wedi bod yn arbennig o hapus i ddarganfod fy mod yn cael fy nefnyddio, trwy dwyll, er dibenion cenhadol. Yn sicr rwy’n flin am y peth wrth edrych yn ôl, ac mae’n annerbyniol bod miloedd o ddisgyblion heddiw’n parhau i gael eu defnyddio i genhadu crefydd nad ydynt o reidrwydd yn ei arddel. Mae angen i OCC fod yn gwbl onest am yr hyn y maent yn ei wneud. Neu’n well byth, gallent roi’r gorau i’r propaganda’n gyfan gwbl. Dylai’r rhoi, er ei fwyn ei hun, fod yn ddigon.

Dyma restr o brosiectau amgen, sy’n llawer mwy haeddiannol. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Cyfiawnhau’r gost o ymchwilio’r gofod

Fel llawer o bobl eraill, roeddwn wedi cynhyrfu’n arw pan lwyddwyd i lanio robot ar gomed yn ddiweddar. Fe gymerodd ddeng mlynedd i Rosetta gludo Philae yno. Mae’r comed tua 530 miliwn o filltiroedd i ffwrdd ar hyn o bryd, ac roedd angen i Rosetta ddefnyddio disgyrchiant Mawrth (a’n ôl eto via’r Ddaear wedyn!) a chwpl o asteroidau er mwyn cyflymu’n ddigonol i gyrraedd mewn da bryd. Fel y dywed Aled Sam, mae hynny ‘fel malwen yn mynd o Landeilo i Lambed drwy Istanbul ond twtsh ymhellach‘. Er bod trafferthion wedi codi ers y glanio – mae Philae bellach yn cysgu gan nad yw ei chelloedd solar yn gallu gweld digon o’r haul i wefru’i batris – roedd y gamp dechnolegol yn syfrdanol.

Roedd ambell un ar Twitter, fodd bynnag, yn gofidio nad yw’n hawdd cyfiawnhau gwariant ar bethau fel hyn – sydd, fe haerir, heb fudd ymarferol amlwg – pan mae cymaint o bobl yn dioddef tlodi ar ein planed ein hunain. Ar un olwg, mae’r pwynt yn un teg. Ond rwy’n anghytuno’n llwyr.

Yn un peth, dim ond 1.4bn oedd cost yr orchwyl. Gan mai yn 2004 y gadawodd y roced y Ddaear, dylid cofio bod gwerth degawd o chwyddiant wedi digwydd ers cyfrifo’r ffigwr hwnnw. Ond hyd yn oed wedyn, mae’n rhyfeddol o isel. Mae’r gost yn bitw iawn o gymharu â’r holl bethau eraill rydym yn gwario ffortiwn arnynt. Byddai’n anodd dadlau â hynny hyd yn oed petai’r orchwyl wedi costio dwywaith cymaint a mwy.

Y ddadl yw bod gwaith fel hyn yn gwastraffu adnoddau – amser ac arian – a fyddai fel arall yn gallu cael eu defnyddio i leddfu tlodi, newyn neu broblemau eraill sy’n nes at adref. Y diffyg mwyaf fan hyn yw’r awgrym na ddylid gwario ar unrhyw beth heblaw’r llond llaw o broblemau mwyaf dyrys oll.

Mae Cymry Cymraeg yn gyfarwydd â’r ddadl flinedig bod gwariant ar bethau sy’n ymwneud â’n hiaith yn gwastraffu adnoddau a ddylai fynd at bethau mwy gwerth chweil, megis y gwasanaeth iechyd. Ond gan nad yw’n bosibl i’r gwasanaeth iechyd fod yn gwbl berffaith, mae o hyd yn wir y byddai’n fuddiol gwario ‘mwy’ arno. Felly hefyd gyda thlodi. Yn hynny o beth, mae’n amhosibl gwario ‘digon’ ar yr un ohonynt. Os mai dyna’r unig feysydd sy’n haeddu cyllid, mae’n dilyn wedyn nad oes fyth modd cyfiawnhau unrhyw arian cyhoeddus ar gyfer prosiectau llai argyfyngus. Ni fydd fyth amser pan nad yw’r ddadl yn arwain yn anorfod at y casgliad hwnnw.

Dyma fynd â’r ddadl i’r eithaf. Ar y llaw arall, mae’n wir bod rhywbeth yn od o weld India, er enghraifft, yn gwario biliynau ar ei rhaglen ofod hithau pan mae ganddi gymaint o broblemau cymdeithasol difrifol o fewn ei ffiniau ei hun. Mae yna linell yn rhywle, felly. Ond nid yw prosiectau fel Philae’n dod yn agos at ei chroesi yn fy marn i. Os oes rhaid cwtogi ar wastraff er mwyn dargyfeirio symiau sylweddol o arian tuag at achosion gwell, dylem dargedu ein byddinoedd.

Yn ogystal, dylid herio’r awgrym nad oes budd ymarferol yn deillio o waith fel hyn. Yn un peth, hyd yn oed petai hynny’n wir, rwy’n gyndyn bod gwerth mewn gwneud stwff fel hyn er ei fwyn ei hun. Mae’n cynyddu ein gwybodaeth, a dylem werthfawrogi unrhyw beth sy’n gwneud hynny. Mae hefyd yn ennyn diddordeb mewn gwyddoniaeth, a’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, sy’n werthfawr ynddo’i hun. Ond y gwir yw bod ymchwil i’r gofod wedi esgor ar gynnydd technolegol amhrisiadwy ac annisgwyl. Mae llawer o’r rhain wedi profi’n ddefnyddiol tu hwnt mewn meysydd hollol wahanol; sylwer, er enghraifft, bod offer puro dŵr yn eu plith. Yn aml iawn, nid oedd modd rhagweld manteision amgen y technolegau newydd hyn o flaen llaw.

Dylwn gydnabod bod y dadleuon yn y paragraff uchod yn wir am wario milwrol hefyd, ond y gwahaniaeth moesol amlwg fan yna yw mai amcan y fyddin yw canfod ffyrdd newydd o ladd pobl. Pwrpas ymchwil wyddonol, ar y llaw arall, yw ein helpu i ddeall mwy am y bydysawd.

Mae’n anffodus ein bod yn mynnu, y dyddiau hyn, bod gwyddonwyr yn amlinellu union ddefnydd ymarferol eu hymchwil o flaen llaw er mwyn cyfiawnhau rhoi grantiau iddynt. Yn amlach na pheidio, ni ddaw hynny i’r amlwg nes yn ddiweddarach. Dylai fod yn ddigon i ddweud bod modd i’r cynnydd yn ein dealltwriaeth agor y drws ar gyfer ymchwil pellach, a all, yn ei dro, roi bod i ddyfeisiau neu dechnegau newydd pwysig. Mae’n amhosibl dweud, a dyna’r pwynt. Petaem yn gwybod yr holl oblygiadau o flaen llaw, byddai llai o bwynt i wyddoniaeth yn y lle cyntaf.

Yn bersonol, rwy’n gresynu nad ydym yn gwario llawer iawn mwy ar ymchwilio’r gofod. Mae’n rhyfedd, yn fy marn i, nad oes unrhyw un wedi cerdded ar y Lleuad ers 1972. Mae’n hen bryd i ni fynd i Fawrth. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: “Mae yna bobl eraill sy’n dioddef yn waeth, felly cau dy geg”

Mae Richard Dawkins wedi bod yn cyfiawnhau yr hyn y mae wedi bod yn ei ddweud am ffeminyddiaeth dros y misoedd diwethaf. Hyn i ddechrau:

“I don’t take back anything that I’ve said,” Dawkins said from a shady spot in the leafy backyard of one of his Bay Area supporters. “I would not say it again, however, because I am now accustomed to being misunderstood and so I will … ”

He trailed off momentarily, gazing at his hands resting on a patio table.

“I feel muzzled, and a lot of other people do as well,” he continued. “There is a climate of bullying, a climate of intransigent thought police which is highly influential in the sense that it suppresses people like me.”

Beth yw natur y ‘gormes’ yma, tybed? Ah, cael ei feirniadu! Mae’n ddigalon gweld rhywun fel Dawkins yn syrthio i’r un fagl bathetig â chymaint o’i elynion crefyddol. A yw Dawkins, trwy fynegi ei ddirmyg enwog tuag at grefydd dros y blynyddoedd, wedi bod yn euog o ormesu‘r ffyddlon o’r herwydd? Naddo, yn amlwg, ac mae’r un peth yn wir pan mai ef ei hun sy’n derbyn y feirniadaeth. Efallai ei fod o hyd yn cael trafferth ymgynefino â’r profiad o gael ei gondemnio gan ei gyd-anffyddwyr. Mae cwyno bod beirniadaeth gyfystyr â sensoriaeth neu fwlio yn chwerthinllyd pan ddaw o enau Cristion, ond mae’n gwbl anfaddeuol yn achos Dawkins, sydd wedi dod yn ddyn hynod gyfoethog a dylanwadol trwy danseilio daliadau diwinyddol cryfion biliynau o bobl.

Mae gwaeth eto i ddilyn:

Dawkins, however, disagrees. He is, he said, not a misogynist, as some critics have called him, but “a passionate feminist.” The greatest threats to women, in his view, are Islamism and jihadism — and his concern over that sometimes leads him to speak off-the-cuff.
“I concentrate my attention on that menace and I confess I occasionally get a little impatient with American women who complain of being inappropriately touched by the water cooler or invited for coffee or something which I think is, by comparison, relatively trivial,” he said.

Mae’n wir mai islamiaeth yw’r bygythiad mwyaf i fenywod. Nis gwn am unrhyw un a fyddai’n dadlau nad yw bod yn fenyw yn Sawdi Arabia neu Affganistan yn waeth o lawer nag yn America neu Brydain. Dadl Dawkins fan hyn yw bod dioddefaint hunllefus cymaint o fenywod mewn gwledydd islamaidd yn golygu na ddylai ffeminyddion gorllewinol gwyno am eu problemau hwythau o gwbl. Hynny yw, mewn termau cyffredinol: os oes rhywbeth gwaeth yn digwydd yn rhywle arall, caewch eich cegau.

Dylai’r broblem fod yn hollol amlwg. Mae yna bob tro broblem waeth yn rhywle arall, felly oni bai eich achos chi yw’r gwaethaf un o’r holl enghreifftiau o ddioddefaint yn y byd, nid yw Dawkins eisiau clywed. Dyna’r rhesymeg, ac mae’n abswrd hyd yn oed ar ei delerau ei hun. Mae’r dyn yn galw’i hun yn ffeminydd, ond os mai dyma yw ffeminyddiaeth nid oes i’r gair ystyr.

Ar ben hynny, mae’r rhagrith yn rhyfeddol unwaith eto. Pa frwydrau y mae Dawkins wedi bod yn eu hymladd dros y degawdau? Yn erbyn ymdrechion i ddysgu siwdowyddoniaeth mewn ysgolion. Yn erbyn gorfodi plant ysgol i weddïo. Yn erbyn y parch awtomatig ac anhaeddiannol a roddir i grefydd yn ein cymdeithas, ac yn y blaen ac yn y blaen. Herio pethau fel hyn sydd wedi bod yn ganolbwynt i’r rhan fwyaf o egni Dawkins ers blynyddoedd maith, a da iawn hynny. Maent yn frwydrau cyfiawn. Ond pam? Mae pethau gwaeth o lawer yn wynebu pobl yn y Dwyrain Canol. Pa ots am ddiffygion mewn gwersi bioleg yn Lloegr pan nad yw merched mewn rhannau helaeth o Bacistan yn cael mynychu ysgol o gwbl? Mae’r problemau ym Mhrydain yn bitw mewn cymhariaeth, felly dylai Dawkins, er mwyn dilyn ei resymu ei hun, roi’r gorau i gwyno amdanynt.

Hyd yn oed pe derbyniwn, er lles dadl, bod ffeminyddion yn bod yn annheg ag ef, mae ei sefyllfa’n ddi-nod o gymharu â’r hyn sy’n digwydd i anffyddwyr mewn rhannau eraill o’r byd. Petai Dawkins yn frodor o Bacistan, mae’n debygol y byddai wedi cael ei lofruddio ymhell cyn hyn. Yn ôl ei ddadl ei hun, felly, dylai gau ei geg a rhoi’r gorau i bwdu am ffeminyddion yn dweud pethau blin amdano ar Twitter.

Mae’n rhyfeddol pa mor ddi-glem a chibddall yw’r sylwadau gan rywun sy’n clodfori rhesymeg a chwestiynu. Gyda llaw, dylai hyn roi’r farwol i’r syniad mai Twitter fel cyfrwng yw problem Dawkins. Dyma oedd ei gyfle i ymhelaethu yn llawn, heb y perygl o’r ‘camddealltwriaeth’ honedig sy’n gallu deillio o gyfyngder y trydariad. Dyma a gafwyd. Nid y cyfrwng yw’r broblem, ond y dyn ei hun. Nid ni sy’n ei gamddehongli. Dyma’i safbwyntiau, yn blwmp ac yn blaen, ac mae’r safbwyntiau’n drewi. Dylai anffyddwyr anghofio amdano. Mae llond lle o anffyddwyr ardderchog eraill sy’n haeddu’r platfform. Diolchwn iddo am ei waith yn y gorffennol, ond ni welaf i bod gan Richard Dawkins unrhyw beth mwy o werth i’w gynnig erbyn hyn. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Band Aid eto fyth

Rwy’n calonogi bod yr ymateb i’r fersiwn ddiweddaraf o Do They Know It’s Christmas wedi bod yn llawer mwy cymysg y tro hwn nag yn y gorffennol. Efallai bod mwy a mwy o bobl yn blino arni o’r diwedd, gan mai dyma’r pedwerydd tro iddi ymddangos. Roedd y gân yn uffernol ym 1984 ac mae’n uffernol heddiw. Mae’r teitl yn anfaddeuol ar ben ei hun, yn drewi o ddirmyg trefedigaethol. Nid ydynt hyd yn oed wedi mynd i’r ymdrech o newid y gytgan, sy’n dal i fwydro am fwydo’r byd, er mai trechu ebola, nid newyn, yw’r amcan honedig y tro hwn.

Mae diffyg hunan-ymwybyddiaeth y perfformwyr yn ymylu ar fod yn arwrol. Maent i gyd bron yn wyn a chyfoethog, wrth gwrs, ac mae sawl un yn manteisio ar drefniadau amheus er mwyn osgoi trethi (yn enwedig Bono, un o’r bobl waethaf a droediodd y blaned hon erioed). Mae defnyddio’r un hen diwn gron eto fyth yn awgrymu’n glir mai un blob homogenaidd yw Affrica yng ngolwg Geldof a’i griw. Edrychwch ar y logo, mewn difrif, sy’n rhoi’r agraff mai problem ym Motswana yw ebola. Mae Botswana, wrth gwrs, yn bellach i ffwrdd o lawer o Guinea, Sierra Leone a Liberia nag ydym ni.

Byddai’n bosibl datgymalu geiriau’r gân linell wrth linell. Yn wir, mae rhai wedi gwneud, felly nid oes angen i mi drafferthu. Nid oes yr un peth caredig i’w ddweud amdani, yn llythrennol. Mae pob un dim am y gân yn warthus.

Yn ogystal, mae’r mater hwn yn amlygu problem arall sy’n fy nghorddi ynghylch codi arian yn gyffredinol. Mae Geldof yn ystyried ei hun yn sant am iddo roi ychydig oriau o’i amser o-mor-werthfawr er mwyn ail-recordio hen hen gân, ac ar ben hynny fe ddiawliodd Adele am beidio ymuno ag ef yn y stiwdio. Wrth gwrs, roedd Adele eisoes wedi rhoi swm o arian i Oxfam. A dyna’r pwynt: mae’n debyg bellach nad yw rhoi arian yn dawel bach yn ddigonol; mae angen cael eich gweld yn perfformio mewn rhyw ffordd er mwyn annog eraill, yn anuniongyrchol, i roi ar eich rhan. Mae’n system od nad wyf erioed wedi’i deall. Mae’r un peth yn wir am y ffrind hwnnw sydd gan bawb sy’n mynnu ein bod yn ei noddi i fynd i’r Himalayas neu i fyny Kilimanjaro ‘er mwyn codi arian’. Byddai’n llawer gonestach canslo’r gwyliau a rhoi’r arian a arbedir yn uniongyrchol i’r elusen. Cut out the middleman.

Yn y pen draw, mae prynu’r sengl gachu yma’n ddull anobeithiol o gyfrannu ceiniogau at y frwydr yn erbyn ebola. Os am fod o gymorth gwirioneddol, anwybyddwch Geldof a Bono a rhowch swm anrhydeddus yn uniongyrchol i Medecins Sans Frontieres neu #TackleEbola. Dylem allu gwneud hyn yn hael heb yr un smic gan sêr pop hunan-fodlon.

A beth bynnag, fel y gwyr pawb, mae ein hannwyl Ddwylo Dros Y Môr yn gân llai crap:

Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Crefydd: mwy o ddrwg nag o dda

Hoffwn ymhelaethu ar yr hyn a ddywedais ar y radio yn gynharach yn yr wythnos, wrth ddadlau bod crefydd yn gwneud mwy o ddrwg nac o dda.

Y pwynt pwysicaf yw’r ffaith nad oes tystiolaeth o gwbl bod unrhyw grefydd yn wir. Rwy’n credu bod credu pethau anghywir – neu yn benodol, gwadu realiti – yn niweidiol ynddo’i hun, a’n rhywbeth y dylem ymdrechu i’w osgoi. Enghraifft amlwg yw’r modd y mae crefydd yn ysgogi cynifer o’r ffyddloniaid i wadu ffeithiau syml am y byd, fel esblygiad. Yn fwy na hynny, mae rhai’n benderfynol o wthio’u camargraffiadau ar y genhedlaeth nesaf.

Yn hynny o beth, nid yw’r cwestiwn ynghylch rai o rinweddau honedig crefydd yn arbennig o berthnasol. Hyd yn oed petai’n wir bod crefydd yn cynnig cysur, er enghraifft (a na, ni welaf gysur o fath yn y byd yn y syniad o fywyd tragwyddol), byddai’r ffaith ei bod yn ddi-sail ac anghywir yn parhau i olygu bod angen gwrthod y syniad. I mi, o leiaf, gwirionedd sy’n bwysig. Nid oes cysur mewn celwydd.

Yn ail, mae’n amlwg bod crefydd yn aml yn gyfrifol am lawer o ddrwg. Nid wyf erioed wedi awgrymu mai cref’ydd yw ffynhonnell popeth gwael. Petai crefydd yn diflannu yfory, ni fyddai’r byd o reidrwydd yn troi’n berffaith ar unwaith, a byddai’n wirion disgwyl mai dyna fyddai’r canlyniad. Mae gan ormod o bobl ddawn arbennig i ddod o hyd i bob math o resymau dwl i niweidio’u cymdogion ar ein planed.

Eto i gyd, byddai byd heb ffydd grefyddol yn gam i’r cyfeiriad cywir. Fel person â safbwyntiau rhyddfrydol iawn ar faterion cymdeithasol, crefydd yw’r gelyn ym mron pob dadl, er enghraifft ynghylch erthyliad a hawliau menywod, hawliau pobl hoyw, yr hawl i farw, neu’r hawl i ddychanu daliadau ofergoelus ac ati. Creadigaethau dynol yw’r gorchmynion crefyddol sy’n gwrthwynebu cydraddoldeb a hawliau sifil, wrth gwrs. Fel y crybwyllais ar Taro’r Post, rôl Cristnogaeth yn hynny o beth oedd ffosileiddio rhagfarnau a fodolasai ymhlith trigolion anwybodus y Dwyrain Canol ddwy fileniwm a mwy yn ôl. Mae eu troi’n reolau ysgrythurol wedi’i gwneud yn anos i bobl eu herio a’u hanwybyddu (a dyna wrth gwrs oedd y bwriad; mae priodoli’r pethau yma i ryw fath o dduw hollbresennol yn strategaeth wleidyddol ddefnyddiol er dibenion cadw trefn). Heb yr elfen grefyddol, mae’n anodd dychmygu y byddai’r fath ragfarn yn erbyn pobl hoyw, er enghraifft, wedi goroesi i’r fath raddau. Mae rhai o’r gorchmynion crefyddol mwy eithafol wedi cael eu gwanhau neu eu hanwybyddu erbyn hyn, ond dim ond oherwydd dylanwad ffodus moesoldeb seciwlar.

Yn drydydd, rwy’n cwestiynu’r rhesymeg sy’n greiddiol i’r ddadl bod llawer yn cael eu hysbrydoli gan eu ffydd i wneud pethau da a charedig (fel gwaith elusennol gwirfoddol, neu roddi arian ac ati). Mae’n amlwg yn wir bod rhai Cristnogion yn credu bod pethau felly’n elfen ganolog o’u ffydd, ac mae llawer ohonynt, mae’n wir, yn cyfrannu llawer iawn mwy o amser neu arian at achosion da nag yr wyf i. A dweud y gwir, rwy’n lled-gytuno mai gweithredoedd sy’n bwysig. Os yw pobl yn gwneud pethau da, pa ots beth yw’r cyfiawnhad?

Y broblem yw’r honiad cyffredin bod moesoldeb yn deillio o Dduw, sy’n ddadl a ddefnyddir yn fynych yn erbyn anffyddwyr. Yr awgrym amlwg yw na fuasai’r Cristion felly’n gwneud y pethau da hynny pe na baent yn credu bod duw’n bresennol. Fel rwyf wedi’i ddadlau o’r blaen, rwy’n credu bod Cristnogion sy’n dadlau fel hyn yn gwneud cam mawr â’u hunain. Nid yw ‘oherwydd dyna ddyhead Duw’ yn safbwynt moesol o gwbl. Nid yw chwaith yn gwneud synnwyr i awgrymu bod mwy o reswm i helpu eraill os mai Duw sydd wedi ein creu. Gan fod modd egluro a chyfiawnhau cymhellion altrwistaidd mewn termau seciwlar, nid oes angen Duw o gwbl er mwyn ein hysgogi i wneud pethau da.

Y peth caredicaf y mae modd ei ddweud am grefydd, felly, yw ei bod weithiau yn niwtral o safbwynt moesol. Mewn achosion eraill (fel yn y ddau bwynt cyntaf uchod), mae’n niweidiol i raddau gwahanol. Mae’n ddrwg yn aml, ond byth yn dda. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ar Taro’r Post

Roeddwn ar Taro’r Post ar Radio Cymru heddiw (wedi’i recordio o flaen llaw), yn ymateb i’r arolwg barn diweddar sy’n dweud bod mwyafrif o bobl Prydain bellach yn cytuno bod crefydd yn gwneud mwy o ddrwg nac o dda. Mae modd gwrando ar yr eitem fan hyn (… Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Creadydd yw’r Pab

Mae’r eglwys Babyddol wedi datgan ers blynyddoedd – ers dyddiau Pius XII – eu bod yn derbyn bod esblygiad yn wir. Nid oes llawer yn newydd felly yn sylwadau diweddaraf y Pab Ffransis:

When we read about Creation in Genesis, we run the risk of imagining God was a magician, with a magic wand able to do everything. But that is not so,” Francis said.

He added: “He created human beings and let them develop according to the internal laws that he gave to each one so they would reach their fulfilment.

“The Big Bang, which today we hold to be the origin of the world, does not contradict the intervention of the divine creator but, rather, requires it.

“Evolution in nature is not inconsistent with the notion of creation, because evolution requires the creation of beings that evolve.”

Nid yw’n anodd deall cymhelliad y Pab i ymddangos fel petai’n cofleidio gwyddoniaeth. Mae creadaeth yn gysyniad twp, felly dyhead unrhyw berson call yw ymbellhau oddi wrtho. Ond nid yw’r ymdrech yn dal dŵr. Mae’r sylwadau uchod yn mynd yn hollol groes i theori esblygiadol. Er yr ymgais i beidio ymddangos felly, fersiwn fwy niwlog o greadaeth yw’r hyn a ddisgrifir ganddo.

Rwyf wedi dweud o’r blaen bod esblygiad a ffydd grefyddol yn anghydnaws. Mae rhaid dewis, ac fy nadl yw bod unrhyw un sy’n credu mewn duw, ac sy’n honni eu bod yn derbyn theori esblygiadol ar yr un pryd, yn camddeall goblygiadau’r naill neu’r llall (neu’r ddau). Y peth pwysig am esblygiad yw bod y broses yn ddall. Os ydych yn credu mai modd o gyrraedd pwynt penodol (hynny yw, byd sy’n cynnwys bodau dynol) yw esblygiad, yna rydych wedi drysu. Nid yw’n eglur beth mae’r Pab yn ei olygu pan ddywed “reach their fulfilment“, ond un peth sy’n sicr: nid oes ganddo unrhyw beth i’w wneud ag esblygiad.

Er bod y Pab yn ceisio rhoi’r argraff nad oes gan ei dduw ffon hud, mae’n mynnu o hyd ei fod wedi creu’r byd trwy ddirgel ffyrdd. Nid hud, ond lledrith. Creadaeth intelligent design yw hyn i bob pwrpas. Dyma’r un hen fflwff siwdo-ddwys yn ffugio cefnogaeth i syniadau gwyddonol, er mwyn dwyn parchusrwydd anhaeddiannol. Dylid rhoi’r gorau i dwyllo ein hunain bod y Fatican yn fwy synhwyrol na’r creadydd cyffredin ffwndamentalaidd ar bwnc theori esblygiadol. Os rywbeth, mae hyd yn oed yn llai gonest. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Priodasau hoyw yn Vegas

Mae pethau wedi symud yn rhyfeddol o gyflym yn achos priodasau cyfunrywiol yn America dros y flwyddyn ddiwethaf neu ddwy. Erbyn hyn, mae 32 talaith (a Washington, DC) yn caniatáu i gyplau hoyw briodi’n swyddogol, ac mae’r gwaharddiadau sy’n weddill yn debygol o barhau i syrthio fel dominos. Mae’r rhai diweddar yn cynnwys llefydd hynod geidwadol fel Utah, Wyoming, Alaska ac Idaho.

Byddai hyn wedi ymddangos yn hollol amhosibl hyd yn oed ar ddechrau’r degawd hwn. Mae’n wir mai’r llysoedd sy’n bennaf gyfrifol, yn hytrach na deddfwriaeth, ond mae mwyafrif clir o boblogaeth y wlad bellach yn gefnogol, ac mae’r ceidwadwyr rhagfarnllyd yn heneiddio. Yn amlwg, mae’r ddadl wedi’i hen ennill. Yn fuan iawn (efallai mor fuan â 2015 neu 2016, yn dibynnu ar pryd fydd y Goruchaf Lys yn cytuno i wrando ar achos llawn), bydd pob rhan o’r Unol Daleithiau’n rhoi’r un hawliau priodasol i gyplau cyfunrywiol ag y mae pawb arall eisoes yn eu mwynhau.

Talaith arall lle cyfreithlonwyd priodasau hoyw ar ddechrau’r mis yw Nevada. Efallai ei bod yn syndod nad oedd Las Vegas, o bob man, yn caniatáu hynny’n barod, ond mae gweddill y dalaith yn bur geidwadol. Roedd priodi am 4 y bore, yn feddw dwll, â rhywun rydych newydd ei gyfarfod y noson honno, yng nghwmni Elvis ar gefn tandem, yn cyd-fynd yn barchus ac urddasol â’r syniad o briodas draddodiadol, mae’n debyg, cyn belled nad oedd gan y darpar-gymar yr un math o organnau rhywiol. Bid a fo am hynny, rwy’n hapus bod y dalaith lle cefais i fy hun y fraint o briodi’m gwraig bellach wedi cymryd y cam pwysig hwn.

Wrth ddilyn y newyddion, penderfynais edrych i weld beth oedd ymateb y Chapel Of Flowers, lle cawsom y seremoni (er yr enw, roedd modd dewis priodas cwbl seciwlar). Er bod rhai ‘capelau’ yn y ddinas yn gwrthwynebu’r newid, roedd yn dda gweld bod y lle y dewisom ni wedi croesawu’r newyddion â brwdfrydedd a llawenydd. Byddai wedi pwyso ar fy nghydwybod petaent yn wrthwynebus, felly mae gweld hynny’n fy ngwneud yn ddigon hapus. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: ‘Hypersensitifrwydd electromagnetaidd’

Roedd gan WalesOnline stori bur drist ychydig ddyddiau yn ôl am ddyn sy’n gaeth i’w dŷ oherwydd hypersensitifrwydd electromagnetaidd. Mae’n debyg bod teclynnau trydanol yn achosi poenau ofnadwy i Peter Lloyd, sy’n golygu bod angen iddo gadw pellter rhag pob ffôn symudol, parth wi-fi, a hyd yn oed goleuadau trydan a cheir. Oherwydd hyn, mae wrthi’n gwneud cais i’r cyngor ei ddarparu â chaban anghysbell.

Mae’n sefyllfa druenus, ac mae’n anodd peidio cydymdeimlo. Ond ceir un broblem ddifrifol yn yr adroddiad: nid yw hypsersensitifrwydd electromagnetaidd yn bodoli. Mae’n anodd dweud hynny heb swnio’n greulon, ond dyna’r gwir plaen amdani: nid oes y fath gyflwr yn bod.

Sylwer bod pob gair o’r adroddiad yn hollol grediniol, heb unrhyw fath o awgrym nad yw hunan-ddiagnosis Mr Lloyd o reidrwydd yn gywir. Yn anffodus, mae’n enghraifft o newyddiadura di-ofal, diog ac anghyfrifol ar y naw.

Dylai fod yn amlwg nad cyhuddo Mr Lloyd o ddweud celwydd yw hyn. Nid oes rheswm i dybio nad yw’n ddidwyll o’r farn bod technolegau modern y byd cyfoes yn ei arteithio. Nid ef yw’r unig un sy’n credu hynny, chwaith. Ond y gwir yw bod astudiaethau trylwyr wedi cael eu gwneud yn chwilio am unrhyw effeithiau niweidiol ar ein hiechyd yn sgil pelydrau electromagnetig neu feysydd trydannol, a negyddol yw pob canlyniad.

Mae arbrawf syml er mwyn canfod a yw symptomau Mr Lloyd yn wir ai peidio. Gellir ei roi mewn ystafell sydd wedi’i hinsiwleiddio rhag popeth o’r byd tu allan, gyda dyfais electronig mewn bocs heb ei agor. Wedyn, gall wyddonydd, o du allan i’r ystafell, droi’r ddyfais ymlaen ac i ffwrdd ar hap. Os yw’r effaith yn wir, byddai modd i Mr Lloyd ddweud yn union pryd y mae’r ddyfais ymlaen a phryd y mae wedi’i throi i ffwrdd. Dyma’r math o arbrawf y cyfeiriais ato uchod, ac mae’r fethodoleg yn eithaf syml. Os yw’r symptomau’n wir, byddai’n achosi peth poen i Mr Lloyd, ond nid oes rheswm iddo beidio cydsynio os yw’r teclynnau yma’n ei boenydio bob dydd doed a ddelo. Byddai canlyniad positif yn ddarganfyddiad arwyddocaol iawn, a byddai’n galluogi gwyddonwyr i ganfod atebion a helpu i leddfu dioddefaint y claf.

Fy hypothesis sinigaidd yw na fyddai Mr Lloyd, wedi’r cyfan, yn gallu dweud pryd fyddai’r ddyfais yn cael ei throi ymlaen. Ond beth sy’n mynd ymlaen, felly? Fel y soniais, rwy’n hyderu ei fod yn ddidwyll. Mae’n debygol, felly, mai problem seicolegol sydd wrth wraidd hyn. Os yw hynny’n swnio’n gas, yna rheswm i gael gwared ar y stigma ynghylch afiechydon meddyliol yw hynny.

Efallai ei bod yn arwyddocaol mai hyfforddwr corfforol ac ymgynghorydd maethegyddol oedd ei alwedigaeth cyn i’w afiechyd gydio o ddifrif. Mae rhai sy’n ymwneud â’r maes hwnnw yn dod o dan ddylanwad gwefannau fel Natural News, gwefan yr erchyll Mike Adams, sy’n hyrwyddo pob math o driniaethau amgen. Cam naturiol pellach wedyn fyddai gwefan fel PowerWatch, a redir gan ddyn o’r enw Alasdair Phillips, sy’n gwneud ei ffortiwn trwy werthu fug-declynnau sydd, fe honnir, yn eich hamddiffyn rhag yr holl dechnoleg anweledig ofnadwy yma. A dweud y gwir, mae hyn wedi f’atgoffa o’r ffaith i mi gyhoeddi erthygl yng nghylchgrawn Barn ar y pwnc hwnnw un tro; efallai yn rhifyn Eisteddfod 2007. Mae fy nghopi wedi hen fynd yn anghof, yn anffodus.

Damcaniaethu ynghylch y trywydd a gymerodd Mr Lloyd yw’r paragraff uchod. Y pwynt yw bod poenau meddyliol yn gallu bod lawn mor boenus â rhai corfforol, fel plasebo am yn ôl. Os ydych yn teimlo sicrwydd bod rhywbeth yn eich brifo, hyd yn oed os nad oes sail corfforol, mae’r boen yn gallu teimlo’n real. Ceir rhai pobl sy’n taeru, yr un mor ddidwyll, bod elfennau sinistr o fewn y llywodraeth, neu ddynion gwyrddion o’r gofod, yn cynllwynio i reoli’u meddyliau, ac sydd o’r herwydd yn gwisgo hetiau ffoel er mwyn eu hatal. Ffenomen o’r un genre yw’r hyn y mae Mr Lloyd yn ei ddioddef. Mae’n haeddu triniaeth, ond nid y math sydd ganddo’i hun mewn golwg. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ni ddylai Ched Evans gael chwarae pêl droed eto

Felly mae Ched Evans wedi’i ryddhau o’r carchar. Bu dan glo am ddwy flynedd a hanner ar ôl treisio dynes 19 oed mewn gwesty yn y Rhuddlan yn 2012. Roedd yn chwarae pêl droed i Sheffield United ar y pryd, ac hefyd yn cynrychioli tîm cenedlaethol Cymru.

A ddylai Sheffield United, neu unrhyw glwb arall o ran hynny, ei arwyddo a rhoi cyfle arall iddo? Yr ateb syml yw na. Rwy’n sicr yn anhapus â’r syniad o weld treisiwr yn chwarae dros fy ngwlad.

Y ddadl o’i blaid, wrth gwrs, yw ei fod wedi derbyn ei gosb a’i fod yn haeddu ail gyfle. Nid yw hynny’n wir, yn dechnegol, gan mai pum mlynedd oedd y ddedfryd lawn. Ond bid a fo am hynny, mae’n amlwg yn wir na ddylid gwrthod i bobl fel Evans dderbyn cyflog am weddill eu hoes. Ond nid oes gan unrhyw un hawl arbennig i fod yn chwaraewr pêl droed proffesiynnol. Er gwell neu er gwaeth, mae bod yn bêl droediwr yn yr oes fodern yn golygu mwy na chicio pêl o gwmpas. Gan eu bod yn sêr enwog, yn enwedig gyda phlant yn eu lled-addoli, mae’n rhaid iddynt dderbyn y cyfrifoldeb o ymddwyn yn gall hefyd. Yn gallach na’r gweddill ohonom, mae’n wir. Mae’n ran o’r swydd, mae gennyf ofn.

Byddai modd ystyried ei achos gyda mymryn yn fwy o gydymdeimlad petai yna unrhyw arwydd ei fod yn edifarhau a chydnabod ei drosedd. Ond mae’n mynnu o hyd na wnaeth unrhyw beth o’i le. Yn wir, yn ôl tudalen flaen rhyfeddol y Daily Star Sunday heddiw, mae ei fam yn rhoi’r bai i gyd ar ‘ffeminyddion’. Gwyn y gwel y fran ei chyw, am wn i. Mae cefnogwyr pêl droed yn gallu bod yr un mor unllygeidiog, wrth gwrs.

Rwy’n gobeithio y caiff Evans gyfle i wneud rhywbeth cynhyrchiol â’i fywyd. Ond na, ni ddylai hynny olygu ail-ddechrau ar yrfa pêl droed fel pe na bai’r drosedd wedi digwydd erioed. Yn anffodus, mae’n edrych yn bosibl y bydd rhyw glwb yn rhywle’n fodlon talu miloedd o bunnoedd yr wythnos iddo. Ond hyd yn oed petai hynny’n digwydd, a hyd yn oed petai wedyn yn mynd yn ei flaen i sgorio goliau dros y lle i gyd, dylem ni fel Cymry wrthwynebu’r syniad o’i weld yn cynrychioli ein gwlad fyth eto. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Yr Iwerddon am ddiddymu’r gyfraith yn erbyn cabledd

Mae cableddu yn drosedd anghyfreithlon yn yr Iwerddon. Nid oes unrhyw un wedi cael ei erlyn ers dros gant a hanner o flynyddoedd, mae’n wir, ond mae’n debyg bod yr embarás o gael y fath lol ar y llyfr statud bellach yn drech na hwy. Ond am ryw reswm, maent yn teimlo bod angen refferendwm. Nid wyf yn siwr sut fyddai poblogaeth yr Iwerddon yn pleidleisio yn hynny o beth, a bod yn onest. Maent yn genedl ddigon od lle mae crefydd o dan sylw.

Heblaw am y ffaith nad yw’r gwleidyddion yn ddigon dewr i ddiddymu’r gyfraith hurt eu hunain (pam ddylai hyn fod yn wahanol i unrhyw ddeddf arall?), dyma sy’n fy mhryderu fan hyn: 

Ó’Ríordáin said it hadn’t been decided yet whether the amendment would simply remove the crime of blasphemy, or replace it with a ban on incitement to religious hatred.

It is also unclear whether the ban on blasphemy found in the Defamation Act would remain law, or be replaced by an offense of incitement to religious hatred.

Un cam ymlaen yna cam arall yn ôl fyddai cyfreithloni cabledd ond gwahardd ‘annog casineb crefyddol’. Cyfraith cabledd yw gwaharddiad ar ‘gasineb crefyddol’ i bob pwrpas, wedi’i fynegi mewn ieithwedd ffug-ryddfrydol. A dweud y gwir, mae’n bosibl i waharddiad ar ‘gasineb crefyddol’ (beth bynnag yw hynny; dyna’r holl bwynt) fod hyd yn oed yn waeth na chyfraith yn erbyn cabledd, gan ei fod yn ehangach a mwy annelwig ei ystyr.

Mae unrhyw waharddiadau o’r fath yn gwbl annerbyniol a gwrthun, ac nid oes lle iddynt mewn cymdeithasau sy’n honni eu bod yn parchu rhyddid mynegiant. Diddymer y gyfraith, a pheidier rhoi unrhyw beth yn ei lle. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Primo Levi

Rwyf wrthi’n darllen gwaith Primo Levi ar hyn o bryd. Cemegwr Eidalaidd o dras Iddewig oedd Levi, ac mae If This Is A Man yn adrodd peth o hanes yr unarddeg mis a dreuliodd fel carcharor yng ngwersyll Auschwitz.

Mae’n lyfr torcalonnus, ond eto’n urddasol ei fynegiant. Cyfres o straeon am fywyd dydd-i-ddydd y gwersyll yw’r llyfr yn y bôn. Er nad yw’n rhoi cymaint â hynny o sylw i’r Natsïaid eu hunain, yn uniongyrchol o leiaf, y thema gyson yw’r modd aeth y wladwriaeth Almaenig ati i amddifadu’r carcharorion – Iddewon yn bennaf, wrth gwrs – o’u dynoliaeth. Roedd hynny’n dacteg fwriadol. Rydym yn cael ein temtio weithiau i ddychmygu bod pawb yno wedi arddangos solidariaeth nobl a thawel yn erbyn y gormeswr cyffredin, ond y gwir yw roedd y carcharorion yn dwyn oddi wrth ei gilydd – llwyau, powlenni, esgidiau  – a’n gorfod bod yn gyfrwys, i raddau, er mwyn goroesi (y gwahaniaeth rhwng y “saved” a’r “drowned” yn ôl Levi). Roedd creu sefyllfa o’r fath yn dacteg fwriadol ar ran y Natsïaid, wrth gwrs: “the demolition of man” oedd y nod (dyma hefyd y mae’r teitl yn cyfeirio ato).

Byddai wedi bod yn amhosibl beio Levi am ysgrifennu llith blin yn llawn dicter lloerig tuag at y sawl â’i ormesodd. Ond yr hyn sy’n taro’r darllenydd yw’r arddull pwyllog. Yn lle teimlo trueni tuag ato’i hun – er mor deg fyddai gwneud hynny – mae bron fel petai’r awdur yn numb am yr holl beth. Mae’n anodd disgrifio.

Bu farw Levi ym 1987, wedi iddo syrthio tair llawr y tu allan i’r gartref. Er nad oes sicrwydd, y gred gyffredinol yw iddo ladd ei hun. Yr hyn sy’n gwneud darllen If This Is A Man yn brofiad fwy pruddglwyfus byth, felly, yw’r posibilrwydd cryf bod Auschwitz wedi’i ladd nid yn ystod y rhyfel ond dros bedwar degawd yn ddiweddarach.

Er ei fod o dras Iddewig, a’n ystyried ei hun yn Iddew diwylliannol, roedd Levi’n anffyddiwr. Fel y dywedais, mae’n drawiadol cyn lleied o atgasedd sydd yn y llyfr. Ond mae rhai enghreifftiau, ac efallai ei bod yn arwyddocaol mai’r pwnc o dan sylw yw’r syniad bod ewyllys Duw ar waith yn Auschwitz. I egluro, mae rhai o’r carcharorion newydd gael ar ddeall eu bod am gael eu lladd yn fuan:

Silence slowly prevails and then, from my bunk on the top row, I see and hear old Kuhn praying aloud, with his beret on his head, swaying backwards and forwards violently.  Kuhn is thanking God because he has not been chosen.

Kuhn is out of his senses. Does he not see Beppo the Greek in the bunk next to him, Beppo who is twenty years old and is going to the gas-chamber the day after tomorrow and knows it and lies there looking fixedly at the light without saying anything and without even thinking anymore? Can Kuhn fail to realize that next time it will be his turn? Does Kuhn not understand that what has happened today is an abomination, which no propitiatory prayer, no pardon, no expiation by the guilty, which nothing at all in the power of man can ever clean again?

If I was God, I would spit at Kuhn’s prayer.

Mae’n amhosibl i mi ddychmygu’r fath amgylchiadau, ond mae clywed am bobl yn diolch i Dduw mewn sefyllfaoedd anodd yn fy nrysu’n ddi-ffael, ac rwy’n cydymdeimlo’n llwyr â rhwystredigaeth Levi. Mae’n sarhad anferth tuag at Beppo (os yw Duw wedi dewis achub Kuhn, yna mae wedi dewis lladd y Groegwr). Ar ben hynny, dyna’r tebygolrwydd cryf y bydd Kuhn yn marw’n fuan beth bynnag. Ond y peth rhyfeddaf yw’r modd y mae’r ffasiwn weddi’n diystyru’r ffaith (gan ddilyn y rhesymeg) mai’r un Duw sydd wedi’i osod yn yr uffern yna’n y lle cyntaf. Mae’n ddirgelwch anferth i mi. Mae’n werth darllen y darn yma gan Jerry Coyne, yn cyferbynnu’r dyfyniad uchod â fflwff Francis Collins.

Rwyf erbyn hyn yn darllen The Truce, sef dilyniant sy’n disgrifio taith hir Levi adref, wedi i’r Almaenwyr ffoi rhag y Rwsiaid. Mae gennyf hefyd gopi o The Periodic Table. Nid yw darllen Levi’n hawdd, o reidrwydd; mae angen seibiant o dro i dro oherwydd mae’n anodd osgoi dagrau. Ond rwy’n ei argymell yn fawr. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ynghylch yr honiad bod IS yn ‘anislamaidd’

Mae unrhyw berson call yn ffieiddio at y mudiad terfysgol o’r enw’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), barbariaid sydd bron fel petaent wedi cerdded yn syth oddi ar set ffilm wael ac unllygeidiog am yr Oesoedd Canol. Mae rhywbeth bron yn gartwnaidd amdanynt. Yn amlwg, felly, mae’n dda o beth bod dros 120 o ysgolheigion ac imamau mwslemaidd wedi arwyddo llythyr yn beirniadu Abu Bakr Al-Baghdadi, yr arweinydd, a’i gyhuddo o gamddehongli islam.

Wrth reswm, nid yw pobl fel IS yn cynrychioli islam yn gyffredinol. Mae hynny’n berffaith amlwg. Rwy’n cydymdeimlo â llofnodwyr y llythyr, a’n deall eu rhwystredigaeth bod grwpiau terfysgol yn torri pennau i ffwrdd yn enw’u crefydd. Fel mae’n digwydd, ategodd Barack Obama yr un ddadl. Yn yr achos hwnnw, ymgais ydyw i ddangos nad rhyfel yn erbyn islam yw’r cyrchoedd awyr diweddaraf (fe ddywedodd George W Bush bethau tebyg yn dilyn cyflafan 11 Medi 2001). Eto i gyd, nid wyf yn hoffi’r honiad bod IS yn ‘anislamaidd’. Y gri yw nad dyma’r ‘gwir islam’. Ond fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, nid oes y fath beth â ‘gwir islam’. Iawn, nid islam IS yw’r fersiwn ‘go iawn’, ond nid islam y llofnodwyr ydyw chwaith.

Gall y terfysgwyr eithafol gyfeirio at adnodau yn y Corán sy’n cefnogi a chyfiawnhau lladd anghredinwyr. Yn yr un modd yn union, mae gan y mwslemiaid mwy heddychlon a chymhedrol ddyfyniadau addfwynach i ategu’u safbwyntiau hwythau. Am y rheswm hwn, mae dadleuon ynghylch pa fersiynau o wahanol grefyddau sydd ‘gywirach’ yn syrffedus. Bydd un ochr yn pwyntio at un adnod, bydd yr ochr arall yn troi tudalennau er mwyn canfod un gwahanol, a bydd yr ochr arall yn dewis un arall eto drachefn. Bydd unrhyw un niwtral sy’n ceisio dilyn yn syrthio i gysgu o fewn dim. Yr unig beth call i’w wneud yw cydnabod bod pob fersiwn yr un mor ddi-sail yn union â’i gilydd. Ceir yr un broblem yn union yn achos y Beibl, wrth gwrs, neu wrth gymharu’r Beibl a’r Corán. Nid yw’n hawdd penderfynu pa lyfr sydd fwyaf brawychus, ac nid oes llawer o ddiben trio.

Bydd amddiffynwyr crefydd yn dadlau mai ffactorau diwylliannol, hanesyddol a gwleidyddol sydd i gyfrif am sefyllfaoedd fel yr hyn a welir heddiw yn Syria ac Irác. Wel ie, mae hynny’n amlwg yn wir. Ond ni ellir gwahanu’r ffactorau hynny oddi wrth grefydd. Mae islam yn ran annatod o ddiwylliant, hanes a gwleidyddiaeth y rhan honno o’r byd, a’n lliwio’r cyfan. Go brin y byddai’r lle’n troi’n baradwys heddychlon petai islam (a chrefydd yn gyffredinol) yn diflannu yfory; byddai tensiynau ar sail hil, cenedl, iaith a dosbarth yn parhau. Ond mewn achosion lle nad yw crefydd o reidrwydd yn sail i’r tensiynau, yr hyn a wna yw eu miniogi a’u gwaethygu. Byddai cael gwared ar grefydd (fel delfryd hypothetig) yn gam i’r cyfeiriad cywir, ond na, nid yr ateb i gyd.

Mae’n ddiddorol (ac ychydig yn ddoniol) bod rhai o’r jihadis Prydeinig wedi prynu llyfr Islam For Dummies cyn teithio i Syria, sy’n awgrymu nad oeddent yn arbennig o hyddysg yn athrawiaethau’r grefydd honno cyn cael eu radicaleiddio. Efallai mai antur fawr a chyfle i roi cic i’r ‘sefydliad’ yw’r apêl. Heb grefydd, hwyrach y byddent wedi bodloni ag ymuno â gang yn ardal Birmingham. Yn anffodus, gan eu bod yn hytrach wedi troi at islam eithafol fel ‘allfa’ i’w dyheadau chwyldroadol, maent wedi penderfynu symud i’r Dwyrain Canol er mwyn torri pennau gorllewinwyr i ffwrdd. Er bod y dyheadau chwyldroadol, fwy na thebyg, yn bodoli am resymau sosio-economaidd, ychwanegu crefydd ar ben hynny wedyn sy’n rhoi bodolaeth i’r gwenwyn gwirioneddol. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Dawkins, erthylu ar sail anabledd, ac oferedd pendroni ynghylch yr hyn a allasai fod wedi bod

Mae record Richard Dawkins o ddweud pethau ymfflamychol ar Twitter yn hysbys ers peth amser. Fel yr ydych yn debygol o wybod, bu wrthi eto’n ddiweddar:

@InYourFaceNYer Abort it and try again. It would be immoral to bring it into the world if you have the choice.
— Richard Dawkins (@RichardDawkins) August 20, 2014

Nodwedd gyffredin o gyfraniadau Dawkins ar Twitter yw bod pwynt teg yn cuddio ynddynt yn rhywle, ond bod yr haenau anghynnes ychwanegol yn hawlio’r holl sylw. Mae hynny’n iawn. Bai Dawkins a neb arall yw ei fynegiant trwsgl, a’i gyfrifoldeb ef yw bod yn fwy gofalus wrth egluro’r hyn sydd ar ei feddwl.

Yn achos y trydariad penodol uchod, rwy’n lled-gydweld â’r cyngor y mae’n ei gynnig. Mae’n anodd dweud i sicrwydd mewn senario hypothetig, wrth gwrs, ond rwy’n credu y buaswn i, petawn yn fenyw feichiog sy’n gwybod bod gan y ffetws syndrom Down, yn cael fy nhemtio i erthylu. Dyna, yn wir, sy’n digwydd yn oddeutu 92% o achosion o’r fath yn Ewrop. Yn hynny o beth, o leiaf, nid oes llawer yn bod ar y frawddeg gyntaf. Yr unig broblem yw bod y geiriau ffwrdd-a-hi ‘a thria eto’ yn gallu bod yn ansensitif mewn rhai achosion arbennig lle mae’r fenyw wedi cael anhawsterau beichiogi neu os yw hi’n heneiddio (mae’r tebygolrwydd o esgor ar fabi syndrom Down yn cynyddu gydag oed, wrth gwrs). Ond fel darn o gyngor i rywun sydd wedi gofyn amdano, mae’n ateb digon call.

Y broblem enfawr yw’r defnydd o’r gair ‘immoral‘ yn yr ail frawddeg. Un peth yw awgrymu beth y buasai ef ei hun yn ei wneud yn y sefyllfa, ond mae honni bod menywod sy’n dewis peidio erthylu yn ymddwyn mewn modd anfoesol yn beth annifyr a hyll iawn i’w wneud. Dewis y fenyw ydyw a neb arall (ac nid y tad chwaith); os ydynt yn dewis erthylu, hei lwc iddynt. Yn yr un modd yn union, hei lwc os ydynt yn penderfynu cario ymlaen a chael y babi.

Rwy’n credu bod ceisio mynd ati i bwyso a mesur positifrwydd neu negatifrwydd moesol penderfyniadau fel hyn yn gêm ofer a pheryglus. Aeth Dawkins yn ei flaen i ddweud y canlynol:

@InYourFaceNYer People on that spectrum have a great deal to contribute, Maybe even an enhanced ability in some respects. DS not enhanced.
— Richard Dawkins (@RichardDawkins) August 20, 2014

Rwy’n anghyfforddus â hynny hefyd. Mae llawer o bobl â syndrom Down yn byw bywyd cynhyrchiol a dedwydd. Ar yr un pryd, mae llawer o fabanod heb anableddau o fath yn y byd yn mynd ymlaen i ddioddef bywydau segur, poenus a digalon. Nid oes modd dweud o flaen llaw, ac felly nid wyf yn teimlo bod y mater nac yma nac acw ar lefel foesol. A dweud y gwir, mae pwyslais Dawkins ar gymharu cyfraniadau hypothetig dau fywyd hypothetig i’n cymdeithas yn drewi braidd o ewgeneg. Yn y pen draw, mae 100% o bob genedigaeth yn arwain at farwolaeth. (Wedi dweud hynny, mae rhai achosion lle mae gennym syniad da iawn sut fywyd fyddai’n disgwyl y darpar-fabi: os oes gan ffetws afiechyd eithriadol o ddifrifol nad oes modd ei wella, mae modd dadlau yn yr achosion hynny bod peidio erthylu yn anfoesol, gan mai marwolaeth buan ar ôl ychydig oriau o ddioddefaint echrydus di-angen yw’r unig bosibilrwydd amgen).

Dyna fy nghwyn i, felly. Fodd bynnag, mae rhai fel petaent wedi dychryn â’r syniad o erthylu ar sail anabledd fel syndrom Down. Ond fel y dywedais, mae canran anferth o bobl eisoes yn dewis gwneud hynny. I fod yn hollol glir, dylai erthyliad fod ar gael am unrhyw reswm, gan mai’r peth pwysicaf yw rheolaeth y fenyw dros ei chyfarpar atgenhedlu ei hun. Heb sôn am fod yn anfoesol, byddai’n anymarferol gwrthod yr hawl i erthylu ffetws oherwydd bod ganddi anabledd; byddai pobl yn dyfeisio rhesymau eraill yn lle. Nid wyf yn arbennig o gyfforddus â’r syniad o erthylu ar sail lliw llygad, neu wallt, neu ryw, ond nid fy lle i na neb arall yw penderfynu ar yr hyn y caiff menyw ei wneud â’i chroth ei hun. (Mae’n werth nodi wrth fynd heibio bod sgrînio fel hyn am ddod yn fwy a fwy trylwyr yn y blynyddoedd i ddod, wrth i’r dechnoleg barhau i wella, felly bydd moesoldeb cwestiwn y designer baby‘n dod yn bwnc llosg poethach byth yn y dyfodol agos. Ond mater arall yw hynny).

Fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, mae’n amlwg bod pobl â syndrom Down yn gallu byw bywydau hapus. Rwyf hefyd wedi dweud mai erthylu fuasai fy ngreddf bersonol petawn i’n y sefyllfa hwnnw. Eto i gyd, petaem yn cael babi SD (fy ngwraig fyddai biau’r penderfyniad, wedi’r cyfan, nid fi), mae hefyd yn amlwg y buaswn yn caru’r babi hwnnw yn yr un fath yn union ag unrhyw epil arall. Un broblem gyda’r ddadl ynghylch erthylu yw’r tueddiad i edrych yn ôl wedi’r ffaith. Hynny yw, pan mae gan rywun blant yn barod, mae dychmygu eu herthylu pan oeddent yn y groth yn boenus a dychrynllyd. Hyd yn oed os nad rhiant sy’n dadlau, mae’n debygol mai darlun babi go iawn sydd ganddynt yn eu pennau wrth iddynt bledio’u hachos. O’r herwydd, wrth drafod y syniad o erthylu oherwydd bod y babi am fod yn anabl, mae llawer yn pwyntio at rhywun sydd â SD ac awgrymu bod difa’r ffetws gyfystyr â dweud nad oes gwerth i fywyd y person hwnnw.

Mae’n dueddiad naturiol mewn ffordd, ond mae hefyd yn hollol anghywir, ofer ac amherthnasol. Nid ffetws mo babi sydd eisoes wedi’i eni, ond person. Pan oedd yn y groth, nid person ydoedd. Nid oes pwrpas cymharu’r tyfiant yn y groth â’r plentyn sy’n chwerthin yn hapus o’ch blaen. Y gymhariaeth gywir yw ag ŵy na ffrwythlonwyd o gwbl ac a ddiflannodd gyda’r ysbwriel neu lawr y toiled. Yr un yw’r canlyniad ymarferol, sef dim babi. Wrth gwrs buaswn yn caru fy mabi SD hypothetig. Ond buaswn hefyd wedi caru pob un o’r babanod y buaswn wedi gallu’u cael ond na ddaeth erioed i fodolaeth. Byddai’n hurt awgrymu ei bod yn anfoesol peidio creu pob bywyd posibl, oherwydd mae posibilrwydd hypothetig i bob un ohonom greu biliynau o fywydau gwahanol (a phob un ohonynt yn gannwyll ein llygaid).

Mae ymgyrchwyr gwrth-ddewis yn hoff o bwyntio at fenywod a oedd ar un adeg wedi ystyried cael erthyliad ond a aeth yn eu blaen, am ba bynnag reswm, i gael y babi. Y ddadl yw bod cariad amlwg y rhiant tuag at y plentyn yn reswm cryf i wrthwynebu erthlyliad yn gyffredinol. Mae’n caru’r plentyn, ac felly mae’n naturiol iddi fod yn falch, wrth edrych yn ôl, na benderfynodd gael yr erthyliad. Ond mae hynny’n methu’r pwynt yn llwyr. Buasai hi hefyd wedi caru’r holl ‘fabanod’ posibl eraill na roddodd enedigaeth iddynt, boed yn wyau na ffrwythlonwyd, yn sberm na gyrhaeddodd ei hwyau hi (biliynau – na, triliynau – ohonynt), neu hyd yn oed y sygotiaid hynny a ffrwythlonwyd ond a erthylwyd yn naturiol heb iddi ddod yn ymwybodol o’r peth (wedi’r cyfan, natur, neu ‘Dduw’ os mynnwch chi, yw’r erthylwr mwyaf o bell ffordd; lleiafrif o feichiogiadau sy’n arwain at fabi). Petai un o’r cyfuniadau hynny o ŵy a sberm wedi troi’n fabi yn lle’r un sydd ganddi, buasai’n caru hwnnw lawn cymaint. Pe na bai wedi cael babi o gwbl, byddai wedi gallu dewis unai parhau’n ddi-blentyn neu gael un yn ddiweddarach. Ond nid felly y bu, ac felly, wel, nid felly y mae. Nid oes modd dyfalu pa senario fyddai wedi bod hapusaf iddi, felly nid oes pwynt trio.

Mae gwrthwynebwyr erthyliad hefyd yn hoff iawn o’r Great Beethoven Fallacy. Mae’n enghraifft o’r un math o gamresymu. Dyma hi:

Doctor 1: “I want your opinion about terminating a pregnancy. The father was syphilitic, the mother had tuberculosis. Of the four children born, the first was blind, the second died, the third was deaf and dumb, the fourth also had tuberculosis. What would you have done?”
Doctor 2: “I would have terminated the pregnancy.”
Doctor 1: “Then you would have murdered Beethoven.”

Hyd yn oed o anghofio’r camgymeriadau ffeithiol (gweler y ddolen), nid yw hon yn ddadl ystyrlon o fath yn y byd. Gallasai’r babi dyfu fyny i fod yn lofrudd ofnadwy yr un mor hawdd. Gan mai dim ond wrth edrych yn ôl y daw pethau felly i’r amlwg, nid oes defnydd o gwbl i ddadleuon fel hyn wrth i ni wynebu cwestiynau sydd angen atebion yn y presennol. Os defnyddio’r rhesymeg hwn yng nghyd-destun erthyliad, rhaid i ni hefyd dderbyn bod miloedd ar filoedd o ddarpar-Beethoveniaid (a -Hitleriaid o ran hynny) yn gorffen eu hoes fel crwst drewllyd ar sannau sbarion bechgyn yn eu harddegau ledled y byd.

Nid oes pwrpas chwarae’r gêm yma. Mae fel dychmygu sut fyddai pethau pe na bawn wedi cwrdd â’m gwraig a syrthio mewn cariad â hi pan y gwnaethais. Efallai’n wir y buaswn wedi canfod fy hun mewn perthynas â rhywun arall, ac y buaswn heddiw mewn priodas ddedwydd â’r person yna, yr un mor hapus fy myd. Ond nid dyna ddigwyddodd; rwyf mewn priodas hyfryd a llawen â’m gwraig, mae bellach yn amhosibl dychmygu bywyd fel arall, a dyna ni.

Yn yr un modd, pe na bai’n rhieni wedi cwrdd, a gwneud yr angenrheidiol ar yr union foment y gwnaethasant, ni fuasem ninnau chwaith yn bod. Neu petaem wedi cael ein geni’n blant i rieni eraill (mae hyn yn amhosibl, ond gan mai fy mwriad yw egluro nad oes diben meddwl fel hyn yn y lle cyntaf, waeth i ni gario ymlaen), mae’n debygol y buasem yn caru’r rheiny lawn cymaint ag yr ydym yn caru’n rhieni go iawn. Ond eto, nid dyna ddigwyddodd. ‘If my auntie had balls, she’d be my uncle‘, fel maent yn dweud. Y realiti sydd ohoni yw’r unig un sy’n gwneud synnwyr i ni, ac mae hynny’n ok oherwydd dyna’r unig un sy’n cyfrif.

Cafwyd erthygl ardderchog a dirdynnol yn y Guardian ddwy flynedd yn ôl lle mae’r awdur yn dweud y dylai ei mam fod wedi’i herthylu. Nid dweud hynny oherwydd rhyw ing dirfodol y mae, eithr gwneud y pwynt y buasai bywyd ei mam wedi bod yn haws pe na bai wedi gorfod cael babi (mae’n debyg y byddai wedi cael erthyliad petai hynny wedi bod yn gyfreithiol ym Michigan ar y pryd). Fel mae hi’n dweud, pe na bai hi wedi cael ei geni, ni fuasai wedi colli unrhyw beth oherwydd nid oedd ganddi unrhyw beth i’w golli ar y pryd.

Wedi dweud hyn i gyd, mae’n werth cloi trwy ddyfynnu Dawkins ei hun, hyd yn oed os dim ond er mwyn atgoffa’n hunain ei fod yn gallu bod yn ddyn craff iawn hefyd (neu o leiaf roedd yn arfer bod). Daw’r canlynol o’m hoff lyfr ganddo (ar y cyd, efallai, â The Ancestor’s Tale), Unweaving The Rainbow:

We are going to die, and that makes us the lucky ones. Most people are never going to die because they are never going to be born. The potential people who could have been here in my place but who will in fact never see the light of day outnumber the sand grains of Arabia. Certainly those unborn ghosts include greater poets than Keats, scientists greater than Newton. We know this because the set of possible people allowed by our DNA so massively exceeds the set of actual people. In the teeth of these stupefying odds it is you and I, in our ordinariness, that are here. We privileged few, who won the lottery of birth against all odds, how dare we whine at our inevitable return to that prior state from which the vast majority have never stirred?

Rydym yn ffodus i fod yn fyw, ac mae’r dyfyniad uchod yn enghraifft hardd iawn o wyleidd-dra dyneiddiol go iawn a diffuant, yn wahanol iawn i’r rhagrith anghydlyn a ysbrydolir gan grefydd. Y gwir amlwg yw ei bod yn hollol amhosibl i bob darpar-fywyd posibl gael ei wireddu. Yn y cyfamser, rydym wedi cael dod i fodolaeth, ac mae’r rhan fwyaf ohonom yn ddiolchgar am y fraint. Ond rydym yma ar draul ‘ysbrydion ananedig’ a allasai lawn mor rhwydd fod wedi cael eu geni yn ein lle. Er bod y ffaith yma’n ddiddorol, a’n ysgogi ein greddf naturiol i feddwl yn segur am bethau dwys y bydysawd, nid oes iddi unrhyw arwyddocâd o gwbl pan ddaw’n fater o geisio ateb cwestiynau moesol ymarferol.
Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: “Diolch i Dduw”

Mae’n newyddion gwych a chalonogol bod Dr Kent Brantly bellach wedi gwella ar ôl cael ei heintio â feirws ebola yn Liberia. Roedd yn ddoctor gyda grŵp cristnogol o’r enw Samaritan’s Purse, ac er ei bod yn biti eu bod yn mynnu cenhadu a lledaenu’r efengyl wrth wneud, mae pobl fel Dr Brantly’n haeddu canmoliaeth a pharch am roi help gwirioneddol i ddioddefwyr a chleifion mewn amgylchiadau anodd a pheryglus. Defnyddiwyd cyffur newydd arbrofol wrth ei drin, ac er bod rhai cleifion eraill wedi marw er iddynt dderbyn yr un triniaeth, mae’n bosibl bod yma ddatblygiad addawol.

Rwy’n siwr bod ei galon yn y lle iawn, ond roedd ei ddatganiad yn anghynnes ac od mewn sawl ffordd. Gallwch wylio neu ddarllen ei eiriau trwy glicio ar y ddolen uchod, ond dyma grynodeb: “Above all, I am forever thankful to God for sparing my life“.

Mae geiriau fel hyn yn gyfarwydd iawn, wrth gwrs, i’r graddau ein bod efallai wedi hen roi’r gorau i ystyried eu goblygiadau petaent yn wir. Rwy’n credu ei bod yn bwysig gwneud hynny, fodd bynnag. Mewn gwirionedd, mae datganiadau o’r math yma, sydd i fod i gyfleu gwyleidd-dra, yn adlewyrchu’r gwrthwyneb llwyr. Y bwriad, mae’n siwr, yw cyferbynnu di-nodedd y siaradwr â mawredd y creawdwr. Ond yr hyn yr wyf i’n ei weld yw dyn yn honni bod duw hollalluog, pennaeth y bydysawd, wedi dewis ei achub ef, yn benodol, ond wedi bod yn hapus i adael i gannoedd o Affricaniaid farw o’r clefyd (dyna dinc o hiliaeth anffodus hefyd). Efallai mai mynegi gostyngeiddrwydd yw’r amcan, ond y gwir yw ei bod yn anodd dychmygu haeriad mwy egotistaidd.

Mae diolch i dduw fel hyn yn hurt pan mae athletwyr yn ei wneud; pan mae pêl-droediwr yn diolch i Dduw ar ôl sgorio gôl fuddugol, yr awgrym annatod yw bod y creawdwr yn ffafrio ei dîm ef ar draul y llall (hyd yn oed os oes Cristion yr un mor daer ar yr ochr arall yn gweddïo am fuddugoliaeth debyg ar yr un pryd). Mae Brantly’n bod yr un mor hurt yn union. Os rywbeth, mae ei achos ef yn waeth. Chwerthinllyd yw’r awgrym bod creawdwr y bydysawd yn poeni’r naill ffordd neu’r llall am gêm bitw o gicio pêl, ond mae dweud ei fod wedi dewis person penodol i fyw (ac felly eraill i farw) yn sarhad hyll ar ben hynny.

Hyd yn oed wedyn, beth sydd ganddo i ddiolch amdano? Derbrynwn er lles dadl bod cristnogaeth yn gywir. A yw’r dyn wedi anghofio’n llwyr mai Duw felly roddodd ebola iddo yn y lle cyntaf? Pam diolch am orfod dioddef clefyd cas a dod yn agos at farw? Mae fel diolch o galon i rywun am dorri eich coesau a’ch breichiau, a bygwth eich gwddf gyda chyllell, ond am beidio cymryd yr un cam olaf yna a’ch lladd. Mae rhywbeth brawychus o lwfr am y fath agwedd tuag at dduw sydd, yn ôl y ffordd yma o feddwl, yn anghenfil seicotig. Diolch? Buaswn i’n lloerig ag ef am feiddio fy ngwneud yn sâl o gwbl. Rwy’n ddiolchgar nad oes tystiolaeth bod y fath fwystfil yn bod.

Yn olaf, mae diolch i’w dduw yn arddangos anniolchgarwch tuag at y bobl sydd wir yn haeddu’r clod. Do, fe ddiolchodd i’r doctoriaid wrth fynd heibio, ond mae’n neilltuo’r diolch mwyaf – ‘above all’ cofier – i ‘gyfaill’ dychmygol. Mewn gwirionedd, y staff meddygol sy’n haeddu’r diolch i gyd.

Dyma enghraifft glir o’r ffordd y mae crefydd yn gwyrdroi meddyliau pobl berffaith ddeallus. Petai person cyffredin yn ymddwyn yn y ffordd y mae Brantly’n credu y mae Duw’n mynd o gwmpas ei bethau, byddai pawb yn ffieiddio tuag ato neu hi. Am ryw reswm, mae Duw’n ennyn edmygedd a mawl. Efallai mai parchedig ofn pur sydd ar waith, fel trigolion rhyw fath o Ogledd Corea ddwyfol sy’n gorfod gwneud sioe o eilunaddoli’u gormeswr er mwyn gwarchod eu hunain. Ond mae pobl fel Brantly’n swnio’n hollol ddiffuant. Mae hynny’n ddirgelwch anferthol i mi. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Camddeall hiliaeth

Beth yw ‘hiliaeth’? Yn benodol, beth sy’n gwneud sylw arbennig yn un hiliol? Rhywbeth fel hyn fyddai’r diffiniad, mae’n siwr: ‘sylw neu ymadrodd sy’n atgyfnerthu’r syniad bod grŵp(iau) ethnig yn israddol neu’n haeddu gwawd’.

Ym mha ffordd, felly, oedd yr hyn a ddywedodd y cynghorydd Myfanwy Alexander yn hiliol? Mae wedi gorfod gadael cabinet Cyngor Powys oherwydd y sylwadau hyn:

Councillor Alexander told the meeting she and a constituent called Meirion had both been told while trying to access health services in England that their names are just “a meaningless jumble of letters”.

She went on to ask fellow councillors what would have happened if her constituent’s name had been “Ranjit” and he had been told the same thing. She said it would have been all over the papers.

She added: “We are treated like niggers over the border. Our language and culture is trampled on and it’s a very sensitive issue. It’s not our fault that we don’t have a district general hospital to go to.”

Councillor Alexander said on another occasion she had asked in hospital if a Welsh speaking nurse could say good morning to her father and she was told “that’s fine as long as you don’t mind your father being considered to be racist”.

Y broblem fan hyn yw bod llawer iawn o bobl, o hyd, yn cael trafferth deall beth yn union yw hiliaeth, hyd yn oed wrth iddynt ei wrthwynebu mor chwyrn. Maent yn clywed gair fel nigger ac mae’r larwm yn eu pennau’n bloeddio’n syth bin. Maent yn euog o’r un camresymu’n union â’r ffyliaid hiliol hynny sy’n cwyno ei bod yn annheg eu beirniadu am ddefnyddio’r gair hwnnw gan fod rhai pobl croenddu yn ei ddefnyddio ymysg ei gilydd. Hynny yw, mae cyd-destun yn allweddol.

Mae’n berffaith amlwg i unrhyw un sy’n gallu darllen nad ategu ystrydebau diog oedd y cynghorydd, eithr eu herio. Nid hi sy’n ystyried pobl croenddu yn niggers. Ei phwynt oedd bod yr awdurdodau tros y ffin yn trin Cymry Cymraeg yn eilradd a chyda dirmyg, fel y gwnaed – ac y gwneir – yn achos pobl croenddu. Mae’n condemnio’r weithred o ystyried rhywun yn nigger. Prysuraf i bwysleisio (er y dylai fod yn amlwg) nad yw hynny’n golygu o gwbl bod profiad siaradwyr Cymraeg cyn waethed â’r hyn a ddioddefwyd ac a ddioddefir gan bobl sydd wedi cael eu galw’n niggers dros y blynyddoedd. Wrth gwrs mae’r ail beth yn waeth o lawer. Ond mater (mawr, bid siwr) o raddfa yn unig yw’r gwahaniaeth. Yr un yw’r egwyddor. Rhagfarn yw rhagfarn, a dyna’n union a geir gan y staff iechyd y mae’n eu disgrifio.

Mae modd dadlau, efallai, bod ffyrdd gwell a llai trwsgl o fynegi’r pryderon. Efallai nad yw’n ddoeth crybwyll profiadau siaradwyr Cymraeg yn yr un frawddeg â hiliaeth yn erbyn pobl croenddu oherwydd erchylltra eithriadol hanesyddol y broblem honno (a’r emosiynau unigryw o chwyrn a gorddir wrth ei grybwyll). Y ddadl gryfaf efallai yw y byddai’n well i grŵp sydd heb orfod dioddef y gair beidio ceisio’i feddianu er mwyn gwneud pwynt, gan mai nid ein lle ni yw gwneud. Ond mae’n anffodus bod ymdrech i godi gofidion dilys wedi’i cholli mewn storm ffug. Wedi’r cyfan, fe wnaeth y Trwynau Coch yr un pwynt yn union â hi, dros 30 blynedd yn ôl:

Gorfod siarad mewn ail iaith
Er mwyn cael rhyw fath o adwaith
Cadw’r tymer dan reolaeth
Mae’n dod yn haws ‘rôl yr ail waith
Ond yn sydyn rwy’n sylweddoli
Bod yna bosibiliadau eang
Anghofio’m gwlad ac anghofio’m iaith
Crafu tîn a dyna dechrau’r daith
Crafu tîn a dyna dechrau’r daith.

Ta beth eich barn, ta beth eich plaid
Cofiwch am y niggers Cymraeg
Ni ar ein gorau o dan eich traed
Felly siglwch bawb gyda nigger Cymraeg.

Hir yw bob aros, os aros sydd raid
Peidiwch llefain ar gefn niggers Cymraeg.

Rwy’ ‘di dysgu’r ail iaith
A bron anghofio fy mamiaith
Ceisio ymddwyn fel y Sais
Ond mae nhw’n fy nabod ar unwaith
Dim ond nawr rwy’n sylweddoli
Fy mod i wedi fy israddoli
Rwy’n ddieithryn nawr mewn gwlad ddiarffordd
Amddifad coll yn y Gymru bell.

A yw’r gân yma dal i gael ei chwarae? Tybed sut fyddai’r ymateb camddeallus petai’r person anghywir yn digwydd baglu ar ei thraws? Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Esblygiad a ffydd

Via Morfa Dulas, gwelais yr erthygl yma gan rywun o’r enw Rodney J Scott o’r sefydliad BioLogos. Byrdwn yr ysgrif yw nad oes angen dewis rhwng arddel ffydd Gristnogol a derbyn y ffaith bod bywyd ar y ddaear wedi esblygu dros gyfnod o sawl biliwn o flynddoedd. Hynny yw, mae modd credu yn y ddau beth ac nid ydynt yn gwrthdaro. Nid yw hynny’n syndod, gan mai hyrwyddo negeseuon fel hyn yw holl amcan BioLogos, a sefydlwyd gan Francis Collins. Mae Collins yn fiolegydd uchel iawn ei barch, a’n haeddiannol felly. Ef oedd cydlynydd Prosiect y Genom Dynol, ac mae wedi gwneud llawer o waith arwyddocaol. Mae hefyd yn Gristion efengylol sy’n credu’n daer bod ei ffydd yn gydnaws â gwyddoniaeth.

Mae BioLogos yn ddidwyll yn hyn o beth, ond mae’r safiad hwnnw’n gam strategol call hefyd. Yn amlwg, byddai gorfodi pobl i ddewis yn golygu y byddai rhai, sy’n derbyn yr hyn sydd gan wyddoniaeth i’w ddweud am bynciau fel amrywiaeth bywyd ar y ddaear, yn rhoi’r gorau i’w ffydd. Gwell yw eu darbwyllo bod modd ei chael hi’r ddwy ffordd. Mae’r un peth yn wir y ffordd arall: mae llawer o fiolegwyr esblygiadol, hyd yn oed os nad ydynt yn grefyddol eu hunain, yn dweud nad oes gwrthdaro rhwng syniadau Darwin a chrefydd. Dyna oedd safbwynt y diweddar Stephen Jay Gould, er enghraifft. Petaem yn edrych ar yr ymdrech i ddarbwyllo mwy o bobl i dderbyn theori esblygiad o bersbectif strategol pur, mae’n amlwg mai dyma fyddai’r ffordd gallaf o fynd o’i chwmpas hi.

Ond nid wyf yn credu bod modd credu mewn duw a derbyn a deall esblygiad ar yr un pryd. Efallai wir bod mynnu hyn yn debygol o wthio pobl i ffwrdd yn hytrach na’u denu, ond mae angen dewis. Wrth gwrs mae llawer o bobl yn derbyn y ddau beth, felly oes mae ‘modd’ gwneud mewn ffordd ddibwys o amlwg. Ond yn fy marn i, mae credu bod Duw wedi’n creu yn fwriadol trwy gyfrwng esblygiad – hynny yw, ei fod wedi llywio’r broses o’r dechrau’n deg, gan ei harwain yn anochel er mwyn ein cynhyrchu ni yn y pen draw – yn methu’r pwynt yn llwyr. Gwers fawr theori esblygiad yw bod y broses yn ddall, ac nad yw’r canlyniadau’n anochel. Petai modd chwarae’r tâp yn ôl ac ail-adrodd datblygiad bywyd o’r gell gyntaf hyd heddiw, byddai’r hyn a welwn yn hollol hollol wahanol. Yn sicr, nid oes rheswm yn y byd i dybio y byddai unrhyw beth tebyg i ni’n ail-ymddangos.

Nid pwynt distadl mo hyn. Os ydych yn credu bod esblygiad yn fodd o gyrraedd pwynt penodol sydd wedi’i benderfynu’n barod, nid wyf yn derbyn eich bod yn deall y theori wedi’r cyfan. Nid yw esblygiad yn gwneud synnwyr oni bai bod duwiau fel yr un Cristnogol yn absennol. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Israel a Phalesteina

Am ba bynnag reswm, mae’r gwrthdaro beunyddiol rhwng Israel a therfysgwyr Palesteinaidd yn ennyn llawer iawn mwy o sylw, a theimladau llawer iawn iawn cryfach, nag ymladdfeydd eraill a geir yn y byd. Mae mwy o ladd yn digwydd ar hyn o bryd yn Syria, Irác, neu Weriniaeth Canolbarth Affrica, er enghraifft, ond Llain Gaza yw’r pwnc llosg. Efallai mai fi sydd ychydig yn od, ond mae’n rhaid i mi gyfaddef nad yw fy marn am y sefyllfa hanner mor gryf â theimladau cymaint o’m cyfoedion; un enghraifft arall o wrthdaro o blith nifer yn y byd ydyw i mi. Eto i gyd, mae gen i farn amdano, a dyma hi.

Un elfen rwystredig yw greddf cymaint o bobl i fynnu dewis ochr. Mae rhai’n daer o blaid un garfan neu’r llall, ac mae mwy eto’n clirio’u llwnc trwy feirniadu un ochr yn frysiog cyn canolbwyntio ar gondemnio’r ochr arall 99% o’r amser. Fy safbwynt diflas i, fel mae’n siwr eich bod bellach wedi’i synhwyro, yw bod y ddwy ochr ar fai’n ddifrifol.

Fel rhywun sydd ar y ‘chwith’ yn wleidyddol, rwy’n cydymdeimlo ag awydd y traddodiad hwnnw i gefnogi’r underdog. Mae gan y chwith hanes (ar y cyfan) o gefnogi carfannau llai grymus yn erbyn rhai mwy pwerus, ac mae’n amlwg mai’r Palesteiniaid yw’r garfan honno fan hyn. Mewn achosion o’r fath, nid oes trywydd cyfansoddiadol a chonfensiynol ar gael, gan fod yr holl system yn ei chyfanrwydd yn eu cau allan. Felly, fe’u gorfodent i fabwysiadu dulliau mwy anarferol. Weithiau mae hyn yn golygu terfysgaeth. Gweler yr ANC yn Ne Affrica yn ystod apartheid, neu’r PKK yn y rhanbarth Dwrcaidd yng Nghwrdistan. Nid cyfiawnhau terfysg mo hyn o gwbl, eithr nodi bod modd rhyw hanner-ddeall y defnydd o drais, yn aml, o safbwynt strategol a gwleidyddol. Y gwir anffodus yw bod terfysgaeth yn gallu gweithio. Prin iawn oedd y sylw a roddwyd yn y gorllewin i sefyllfa Palesteiniaid cyn München 1972, er enghraifft.

Ond (ac mae’n ‘ond’ fawr), mae dulliau Hamas mor hurt mae’n deg gofyn a oes ganddynt strategaeth hir-dymor o gwbl. Yn syml iawn, rwy’n grediniol mai prif amcan Hamas wrth danio rocedau tuag at Israel (gweithred filwrol ofer, gan eu bod bron i gyd yn cael eu dinistrio gan yr Iron Dome bondigrybwyll), a gwneud hynny o safleoedd dwys eu poblogaeth, yw pryfocio Israel i ymateb a lladd Palesteiniaid di-niwed drachefn. Unig arf gwirioneddol Hamas yn y gwrthdaro yma yw lluniau o blant Palesteinaidd meirwon. Mae’r rhain yn bropaganda amhrisiadwy iddynt, ac o gofio’r modd y mae Hamas yn annog Palesteiniaid i aros yn eu tai pan mae taflegrau Israelaidd ar y ffordd, nid oes angen bod yn sinig llwyr i dybio bod annog mwy o farwolaethau yn dacteg fwriadol. Yn hyn o beth, mae Hamas o leiaf yr un mor elyniaethus a dirmygus tuag at y Palesteiniad cyffredin ag y mae Israel ei hun. Serch hynny, erys cefnogaeth Hamas o fewn Gaza’n bur gadarn.

Cofier mai nod cyfansoddiadol Hamas o hyd yw diddymu a dileu Israel yn gyfan gwbl ac i ladd “yr Iddewon”. Felly hyd yn oed petai Israel yn cyfaddawdu’n sylweddol, mae’n annhebygol y byddai hynny’n meddalu awydd Hamas i ymosod arnynt. Heb sôn am fod yn hyll a barbaraidd, mae Hamas yn gwybod yn iawn bod yr amcan yn hollol anymarferol. Fel mae’n digwydd, nid wyf yn credu bod problem gyda dweud, ar un llaw, bod y modd y sefydlwyd Israel yn y lle cyntaf yn gamgymeriad dybryd, ac ar y llaw arall bod angen gwarchod ei hawl i fodoli heddiw. Yn anffodus, roedd gwledydd imperialaidd y gorffennol yn credu bod tynnu llinellau ar fap, heb fawr o ystyriaeth i’r bobl sydd eisoes yn byw yno, yn syniad doeth. Mae effeithiau andwyol hynny i’w gweld mewn mannau eraill hefyd, megis Irác a’r Congo. Ond yn amlwg yn achos Israel, saith degawd yn ddiweddarach, nid yw dad-wneud hynny’n opsiwn ymarferol na moesol.

Un broblem enfawr yn achos Israel yw’r arfer hollol lloerig o anfaddeuol o ddwyn tir Palesteinaidd. Mae Israel, yn arwynebol, yn wladwriaeth ddemocrataidd seciwlar ‘orllewinol’ ei naws, ac maent yn cymharu’n ffafriol â Hamas yn hynny o beth (sydd, wedi’r cyfan, yn grŵp adweithiol crefyddol sydd â safbwyntiau hyll iawn ar faterion cymdeithasol a chyfansoddiadol). Ond mae ymddygiad Israel yn y tiriogaethau a gipiwyd dros y blynyddoedd diwethaf yn wirioneddol gywilyddus. Yn aml, fe gyffelybir y sefyllfa yn y tiroedd a wladychwyd gydag apartheid yn Ne Affrica gynt. Ond fel y dywed Noam Chomsky, nid yw hynny’n hollol gywir. Nid oherwydd bod y gymhariaeth yn eithafol, ond oherwydd bod ymddygiad Israel hyd yn oed yn waeth na hynny

Y broblem anferth arall, wrth gwrs, yw’r gwarchae yn erbyn Gaza. Pan dynnodd Israel allan o Gaza yn 2005, mae modd dadlau i’r Palesteiniaid golli cyfle i adeiladu gwladwriaeth gall. Mae Jeffrey Goldberg yn eu cymharu’n anffafriol â Chwrdistan yn hyn o beth, gan ddadlau na sefydlwyd y gwarchae nes iddi ddod i’r amlwg mai casglu a pharatoi arfau oedd blaenoriaeth llywodraeth newydd Hamas yn hytrach na gwella isadeiledd ac economi Gaza. Mae eraill yn anghytuno. Beth bynnag yw’r gwir am hynny, erys y ffaith ei bod yn amhosibl i drigolion Gaza gyflawni fawr ddim o werth wrth iddynt barhau i gael eu mygu a’u llesteirio mewn modd mor affwysol.

Rwyf wedi beirniadu Hamas am herio Israel i ladd trigolion di-niwed Gaza. Wrth gwrs, byddai’n wirion bost peidio condemnio Israel ei hun yn chwyrnach fyth drachefn am lyncu’r abwyd a gwneud union hynny i’r fath raddau. Mae’r we’n llawn lluniau o’r hyn y mae taflegrau Israel yn ei gyflawni (rhybudd: lluniau o gyrff gwaedlyd), ac os nad yw bomio ysgol y CU yn drosedd ryfel, yna nid oes y fath beth yn bod â throseddau rhyfel. Mae strategaeth Israel yr un mor ddi-synnwyr fan hyn, yn enwedig gan eu bod bellach (fe ymddengys i mi, o leiaf) yn prysur golli’r frwydr PR rhyngwladol hyd yn oed wrth iddynt ennill y rhyfel filwrol ei hun (nid bod yr elfen filwrol yn arbennig o anodd iddynt, o gofio’r anghymesuredd grym).

Wrth gwrs, yr hyn sy’n gwneud datrys y gwrthdaro mor anodd yw rôl crefydd yn yr holl beth. Byddai’n hurt honni na fyddai rhyfeloedd yn digwydd pe gwaredid crefydd o’r byd. Ond nid oes dwywaith bod ffydd bod creawdwr y bydysawd yn eu cefnogi yn peri i’r ddwy ochr ymstyfnigo cymaint â hynny’n ffyrnicach. Mae gwladychwyr Iddewig Seionaidd yn mynnu bod ganddynt fandad duwiol i gipio’r tir. Gan fod iddewiaeth ffwndamentalaidd yn ffenomen gymharol brin, mae’n hawdd anghofio pa mor wirioneddol eithafol yw cymaint o’r setlwyr, sy’n credu mewn difrif ei bod yn ddyletswydd arnynt i orfodi mwslemiaid i adael yr ardal. Ar yr un pryd, mae llawer o’u cefnogaeth yn America yn dod o du ffwndamentalwyr Cristnogol sy’n credu bod dychweliad yr Iddewon i Israel yn ran o gynllun Duw a’n fodd o brysuro diwedd y byd (rhywbeth y maent yn deisyfu ei weld, oherwydd byddent yn cael esgyn i’r nefoedd, gan adael pawb arall ar ôl, gan gynnwys, yn eironig, yr Iddewon truain). Ac wedyn ar y llaw arall, wrth gwrs, dyna eithafiaeth afresymol ac ystyfnig Hamas, a drafodwyd eisoes.

Efallai eich bod wedi gweld y mapiau hyn eisoes:

Nid yw gorfodi Palesteiniaid i fyw mewn getos crebachlyd yn gynaliadwy. Mae’n amhosibl dychmygu heddwch heb i’r coloneiddio haerllug yma ddarfod ar unwaith ac i ffiniau 1967 gael eu hail-sefydlu. Mae’n hanfodol dymchwel y wal yn y Lan Orllewinol hefyd. Ar yr un pryd, mae rhaid i Hamas roi’r gorau i danio rocedau i gyfeiriad cyffredinol Israel ac mae’n rhaid iddynt dderbyn bod gan Israel hawl i fodoli. Nid yw’r rhain yn awgrymiadau ysgytwol iawn, ond nid oes ffordd arall. Mae’n edrych yn anobeithiol, ond eto i gyd mae hanes yn llawn sawl sefyllfa ymddangosiadol annatrysadwy sydd, yn y pen draw, wedi gwella i raddau. Byddai cytundeb Gwener y Groglith yng Ngogledd Iwerddon wedi ymddangos yn freuddwyd gwrach ychydig flynyddoedd yng nghynt, ond fe ddaeth yn y diwedd ac rydym bellach yn cael gweld Martin McGuinness o bawb yn cyfarch Elizabeth Windsor. Y gwir yw y bydd yr un peth yn digwydd yn Israel a Phalesteina’n hwyr neu’n hwyrach. Bydd yr ymladd presennol yn dod i ben ar ryw bwynt, ac er ei bod yn debygol y bydd yr un peth yn digwydd eto ymhen ychydig, ac efallai eto wedyn, mae’n rhaid credu y daw’r dydd pan fydd y ddwy ochr yn callio. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Un ateb olaf

Mae’n ofer ceisio dal pen rheswm ag Alwyn, felly rwyf wedi rhoi’r gorau i drafferthu ers talwm. Eto i gyd, rwyf newydd sylwi iddo adael sylw dwl arall ar y blog yn ddiweddar ac rwyf am lyncu’r abwyd un tro bach olaf. Once more unto the breach, dear friends, once more. Gydag ochenaid ddofn, dyma ddyfynnu’r sylw:

Mae ‘na gwirionedd yn yr hen ddweud “y rhai sy’n curo sy’n caru”. I gasáu rhywbeth mae’n rhaid buddsoddi rhywfaint o emosiwn a theimlad iddi, yn yr un modd a mae’n rhaid buddsoddi mewn cariad.

Tybiwn bod 90% o “anghredinwyr” jyst dim yn credu a dyna fo; nid oes gyda nhw barn am grefydd gan bod crefydd yn dibwys iddynt; dydy o ddim yn effeithio ar eu bywydau, dydy o ddim yn bwysig, prin ei fod yn croesi eu meddyliau. Mae nhw’n mynd i gapel neu eglwys i ddathlu bedydd, priodas neu i goffa er mwyn parch i’r teulu heb malio dim am y geiriau na’r defod.

Yr wyt ti, ar y llaw arall, wedi postio tua 5 post y mis am 4 mlynedd yn gwrthwynebu crefydd, yr wyt ti’n buddsoddi emosiwn i fewn i dy anffyddiaeth, difyr byddid gwybod be sy’n gyfrifol am y fath buddsoddiad!

Rwy’n gwybod bydd y sylw yma’n cael ei ddileu, fel mae sylwadau pawb sy’n anghytuno a thi wedi eu dileu. Peth difyr ynddo’i hyn. Pam dy fod mor ansicr o dy ymrwymiad emosiynol i anffyddiaeth, dy fod yn methu goddef gwrthwynebiad iddi?

Diffyg hunan-ymwybyddiaeth llwyr, siwr o fod, sydd i gyfrif am y modd y mae Alwyn yn cyfystyru fy niffyg amynedd ag o’n benodol gydag “anoddefgarwch” yn erbyn pawb sy’n anghytuno â mi’n gyffredinol. Nid yw Alwyn yn cynrychioli pawb sy’n anghydweld â’r blog hwn, diolch byth. Rwy’n hapus i drafod ac anghytuno ag unrhyw un sy’n meddu ar y gallu i ddarllen a deall, ac rwyf wedi gwneud hynny. Nid yw Alwyn ymhlith y fath bobl, dyna i gyd.

Nid oes angen i mi gyfiawnhau fy mlogio iddo nac i neb arall, ac rwyf wedi amlinellu fy nghymhelliad o’r blaen, ond waeth i mi egluro eto. Yn gyntaf, diddordeb pur. Yn syml iawn, rwy’n ymddiddori yn y dadleuon athronyddol, gwyddonol a hanesyddol ynghylch absenoldeb duw. Ond hobi deallusol pur fyddai hynny pe na bai crefydd yn mynnu sathru ar draed pawb arall. Mae’n bur debyg na fuaswn i’n blogio am y stwff yma oni bai am y ffordd y mae crefydd yn ymyrryd â’n hawliau. Lle mae dadlau ynghylch unrhyw fater cymdeithasol, gallwch fentro bod crefydd yn flaenllaw iawn ar yr ochr anghywir. Mae’r rhestr yn faith: yr hawl i farw, rheolaeth menywod dros eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain, hawliau pobl hoyw, yr hawl i ymarfer rhyddid mynegiant trwy ddychan ac yn y blaen ac yn y blaen hyd syrffed. Nid yw’r rhan fwyaf o’r rhain yn effeithio arnaf yn uniongyrchol; nid wyf yn fenyw na’n hoyw nac, ar hyn o bryd o leiaf, yn dioddef o afiechyd annioddefol. Ond rwy’n dadlau’n chwyrn o’u plaid oherwydd rwy’n gyndyn mai dyna’r peth moesol i’w wneud. Rwy’n arddel safbwyntiau cymdeithasol rhyddfrydol cryfion, ac ym mron pob achos, crefydd yw’r gelyn pennaf. Er mwyn hyrwyddo safbwyntiau cymdeithasol moesol, mae rhaid trechu’r hyn sy’n sefyll yn eu ffordd, a’r ffordd orau o wneud hynny yw trwy herio crefydd yn ei chyfanrwydd.

Nid gwahoddiad i drafod ymhellach mo hyn gyda llaw, Alwyn. Does dim byd mwy i’w ddweud. Hwyl. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Onid ydyn nhw’n gweld y tebygrwydd?

Y peth dwl am ragfarn Cristnogion ceidwadol yn erbyn mwslemiaid, gyda’r holl godi ofn paranoid am eithafwyr â’u bryd ar orfodi cyfraith Sharia arnom i gyd, yw eu bod mor debyg i’r union eithafwyr hynny mewn sawl ffordd. Mae’r naill garfan a’r llall yn lled-gytuno ar nifer fawr o faterion cymdeithasol. Mater o raddfa’n unig yw’r gwahaniaeth: er enghraifft, mae eithafwyr mwslemaidd eisiau lladd hoywon, ond mae Cristnogion adweithiol yn hapus i’w carcharu (neu i wadu hawliau sylfaenol iddynt). Mae rhywun yn cael yr argraff y buasai rhai Cristnogion Americanaidd yn hoffi mynd ymhellach petai hynny’n wleidyddol bosibl iddynt.

Mae’r lluniau isod yn ddigon dadlennol:

Mae un o’r rhain yn deisyfu uno’u crefydd a’u llywodraeth er mwyn sefydlu theocrataeth ormesol â’r bwriad o orfodi rheolau barbaraidd canol-oesol ar eraill, a’n hapus i chwifio arfau fel modd o fygwth unrhyw un sy’n anghytuno. Mae’r llall yn fwslem. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Cymhlethdod erledigaeth rhai Cristnogion

Rwyf wedi ysgrifennu droeon am ddymuniad cymaint o Gristnogion i bortreadu eu hunain fel merthyrod dewr sy’n wynebu erledigaeth ofnadwy. Dyma adroddiad defnyddiol, o gyd-destun Americanaidd, yn digrifio sut maent yn mynd ati i geisio troi’r gwirionedd … Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Dan Yr Wyneb

Yn gynharach heno bûm yn cyfrannu’n fyw i raglen Dan Yr Wyneb gyda Dylan Iorwerth ar Radio Cymru, yn trafod eithafiaeth fwslemaidd mewn ysgolion a ffydd yn y system addysg. Gallwch wrando ar y rhaglen fan hyn (yr eitem gyntaf).

Roeddwn wedi disgwyl i’r rhaglen ganolbwyntio’n fwy penodol ar y ffrae ddiweddar am islam yn ysgolion Birmingham, ond ysgolion ffydd a defodau crefyddol yn y system addysg yn gyffredinol a gafodd y rhan fwyaf o’r sylw.

O wrando eto, aeth pethau ychydig yn well nag yr oeddwn yn teimlo’n syth ar ôl gadael y stiwdio. Mewn sefyllfa o’r fath, mae’n anochel am wn i eich bod yn anghofio gwneud ambell bwynt amlwg a chicio’ch hunain wedyn. Dyma, felly, ambell sylw er mwyn ymhelaethu ac egluro.

Agorais trwy ddweud bod dau begwn afresymol i’r ymateb pan mae eithafiaeth fwslemaidd yn y newyddion. Dywedais mai un oedd yr hilgwn paranoid, sy’n manteisio ar straeon o’r fath er mwyn atgyfnerthu ystrydebau anghynnes am fwslemiaid, ac hefyd gan bobl sy’n tueddu i neidio, wrth glywed am “eithafiaeth fwslemaidd”, bod hynny o reidrwydd yn golygu terfysgaeth a jihad. Aeth y sgwrs yn ei blaen cyn i mi allu ychwanegu mai’r pegwn arall oedd y rheiny sy’n gwadu bod problem o gwbl, ac sy’n mynnu bod pob beirniadaeth o islam neu o gymuned fwslemaidd yn enghraifft o islamoffobia rhemp. Mae’r gwir yn y canol. Mae agweddau adweithiol yn broblem o fewn rhannau o’r gymuned fwslemaidd, ac mae’n bwysig eu herio yn yr achos hwnnw’n union fel rydym yn eu herio ym mhob man arall.

Rwy’n dal i grafu pen ynghylch f’ymateb i’r cwestiwn cyntaf ynghylch ysgolion ffydd. Efallai mai bod yn or-ddiplomataidd oeddwn i trwy ddweud nad oeddwn i’n sicr y buaswn o reidrwydd yn eu gwahardd (er i mi egluro fy ngwrthwynebiad). Ond, wel, buaswn. Nid oes modd eu cyfiawnhau o gwbl, ac rwy’n difaru peidio bod yn gadarnach.

Efallai mai fy narnau gwanaf oedd yr ymatebion i’r cwestiynau ynghylch dramâu Nadolig. Roeddwn braidd yn simsan fan hyn am ryw reswm, er fy mod yn ddigon siwr o’m barn. Fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, nid wyf yn hoff o’r ddefod hon. A dweud y gwir, rwy’n amheus o werth gorfodi plant pedair oed i berfformio ar lwyfan o gwbl. Mae’n ymddangos i mi mai rhywbeth i’r rhieni yw’r arfer yma, fwy nag i’r plantos nerfus truain. Er, yn bersonol, buaswn yn diflasu’n llwyr hyd yn oed petai gen i ferch neu fab yn “serennu” fel Mair neu Joseff (neu fel seren o ran hynny).

Hyd yn oed wrth wrando drachefn, ac er i mi ofyn yn benodol yn ystod y drafodaeth, nid yw’r gwahaniaeth ymarferol rhwng ysgol eglwys ac ysgol ffydd yn arbennig o eglur i mi. Yn y pen draw, system addysg seciwlar yw’r unig ffordd ymarferol o sicrhau tecwch i bawb. Mae’n anfoesol i’r wladwriaeth orfodi unrhyw un i gymryd rhan mewn defodau Cristnogol. Mae’n waeth byth yn achos plant, gan eu bod yn rhy ifanc i fod wedi penderfynu ar safbwyntiau athronyddol fel hyn beth bynnag. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ynghylch gweld salwch meddwl ym mhobman

Cafwyd stori hyll iawn yn ystod yr wythnos, wrth i anffyddiwr o Nigeria gael ei osod mewn ward seiciatryddol, yn groes i’w ewyllys, gan fod ei deulu a doctor lleol yn teimlo bod peidio credu mewn duw yn arwydd amlwg o salwch meddwl.

Mae hyn yn amlwg yn farbaraidd a gwarthus. Ond dylid cymryd y cyfle i gofio bod honni, neu awgrymu, bod gan ein gelynion ideolegol ryw fath o salwch meddwl yn duedd gyffredin. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn euog ohono ar adegau, gan gynnwys fy hun (mae chwiliad sydyn ar y blog hwn yn dangos ei fod yn gyforiog o eiriau fel “gwallgof”, “lloerig” a “nyts” wrth i mi ddisgrifio safbwyntiau gwrthun).

Ceir llawer o hanesion tebyg i’r hyn rydym newydd ei glywed o Nigeria. Mae’n hen dric gan adweithwyr crefyddol. Ond dylem gyfaddef bod anffyddwyr yn gallu bod yn euog o neidio i gasgliadau tebyg (gyda’r gwahaniaeth arwyddocaol nad ydym yn gweithredu ar hynny trwy roi pobl dan glo, wrth gwrs). Wrth ystyried creadyddion, neu derfysgwyr crefyddol, neu bobl sy’n credu bod lladd hoywon gyda cherrig yn syniad call, mae’n demtasiwn i’w pardduo trwy awgrymu bod ganddynt rhyw nam meddyliol.

Camgymeriad yw hyn, am sawl rheswm. Yn un peth, mae’n ddiog. Er mor ddwl yw creadaeth fel syniad, y gwir yw bod llawer o’r bobl sy’n ei arddel, a’n enwedig y sawl sy’n weithgar yn ei hyrwyddo, yn ddigon addysgedig a’n berffaith iach eu meddyliau. Mae eu “cyhuddo” o beidio bod yn eu iawn pwyll yn fodd eithaf cysglyd o’u diystyru heb orfod eu herio’n iawn. Trwy ddilyn camresymeg fel hyn i’r eithaf, byddai angen i ni daflu pawb sy’n anghytuno â ni i’r seilam agosaf ar eu pennau. Ysgrifennodd Michel Foucault lyfr enwog am hynny.

Yn ogystal, mae’n anwybyddu beth sydd yn mynd ymlaen mewn gwirionedd. Cymerer, er enghraifft, hanes ofnadwy Elliot Rodger, y llanc o Galiffornia a lofruddiodd chwech o’i gyd-fyfyrwyr (a chlwyfo 13) yn ddiweddar. Cyn y weithred, roedd wedi cyhoeddi “maniffesto” a sawl fideo’n egluro’i fwriad yn glir. Yn fras, roedd yn chwerw yn sgil ei ddiffyg lwc â merched. Mae’n debyg ei fod yn teimlo bod gan ferched ddyletswydd i fod yn serchus tuag ato, a’u bod yn haeddu cael eu cosbi am fethu â gwneud hynny. Misogynistiaeth, felly, oedd yr ysgogiad. Eto i gyd, greddf llawer iawn o sylwebwyr yn y dyddiau wedi’r gyflafan oedd neidio i’r casgliad bod ganddo salwch meddwl (yn enwedig gan fod sibrydion bod ganddo Asperger’s, er na chafodd ddiagnosis ffurfiol erioed). Bu cryn dipyn o drafod o fewn y gymuned o anffyddwyr ar-lein hefyd, gan fod cysylltiad (neu beidio) anffyddiaeth â ffeminyddiaeth yn dipyn o bwnc llosg o fewn y mudiad ar hyn o bryd. Roedd yn syndod gweld cynifer o enghreifftiau o’r ddadl bod unrhyw un sy’n gwneud y fath beth yn sâl yn feddyliol trwy ddiffiniad. Short-cut diog yw hyn hefyd, ac mae’n fodd o osgoi gwynebu’r posibilrwydd bod rhywun fel Rodger wedi’i ddylanwadu gan fisogynistiaeth hyll o fewn ein cymdeithas.

Yn olaf, a’n bwysicaf oll, dylid osgoi’r duedd yma er mwyn peidio atgyfnerthu’r stigma sydd eisoes, yn anffodus, yn gysylltedig â salwch meddwl. Mae byw gyda phroblemau meddyliol yn ddigon anodd yn barod heb orfod dioddef gweld llond lle o amaturiaid hyderus yn taflu diagnoses tebyg, o’u cadeiriau breichiau, i gyfeiriad pob llofrudd ac eithafwr. Cyflwr meddygol yw salwch meddwl, nid label gyfleus i’w defnyddio fel arf wleidyddol. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Casáu cymeriadau ffuglennol

Bydd rhai Cristnogion yn dweud pethau dwl iawn am anffyddiaeth o bryd i’w gilydd, ond efallai mai un o’r dadleuon mwyaf syrffedus yw “os nad yw anffyddwyr yn credu mewn duw, pam maent yn ei gasáu cymaint?” Weithiau, fel bonws bach, dilynir hyn gan rywbeth tebyg i’r canlynol: “mae hyn yn dangos eu bod, wedi’r cwbl, yn credu yn eu calonnau, ond yn gwrthod derbyn hynny”. Mae’n debyg bod gan ambell Gristion yr argraff bod anghysondeb mawr ar droed.

Mae’r ateb yn syml iawn, wrth gwrs. Mae’n berffaith bosibl casáu cymeriadau ffuglennol, yn union fel y gwnawn mor fynych wrth ddarllen nofelau neu wylio ffilmiau. A Duw’r Beibl yw’r baddie gwaethaf un. Fel y dywedodd Dawkins yn The God Delusion:

The God of the Old Testament is arguably the most unpleasant character in all fiction: jealous and proud of it; a petty, unjust, unforgiving control-freak; a vindictive, bloodthirsty ethnic cleanser; a misogynistic, homophobic, racist, infanticidal, genocidal, filicidal, pestilential, megalomaniacal, sadomasochistic, capriciously malevolent bully.

Rwy’n credu ei bod yn anodd iawn dadlau â’r dyfyniad. Dylai fod yn bwynt amlwg nad oes angen i Dduw fodoli er mwyn gallu barnu bod y disgrifiad o’r cymeriad a geir yn y Beibl yn un brawychus. Ond gan fod llawer o Gristnogion mor daer yn eu ffydd yn ei fodolaeth, a’n credu y dylem i gyd ei addoli, mae’n briodol cyfeirio at y portread ofnadwy ohono a geir yn eu hoff lyfr. Ydw, rwy’n casáu’r gormeswr mytholegol, ac mae’n beth da iawn nad yw’r fath fwystfil yn bod. Buasai byw yn y fath fydysawd yn annioddefol. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Eithafiaeth mewn ysgolion

Mae cryn sylw wedi’i hoelio’n ddiweddar ar y newyddion bod eithafwyr crefyddol yn ymdrechu i ennill rheolaeth dros ysgolion yn Lloegr er mwyn gorfodi athrawiaethau islamaidd ar y disgyblion. Fel mae’n digwydd, rwy’n credu bod ateb eithaf syml i’r broblem: dylid gwahardd ysgolion ffydd yn gyfan gwbl – mae’r syniad yn hollol wrthun – a dylid diddymu pob defod grefyddol o bob ysgol. Rhagrith yw cwyno am orfodi arferion islamaidd ar blant ar un llaw tra’n cefnogi system sy’n ei gwneud yn ofynnol – trwy ddeddf gwlad – i ysgolion arwain disgyblion mewn gweddi Gristnogol bob wythnos. Mae pawb sy’n gwneud hynny wedi hen ildio’r tir uchel moesol.

Fel sy’n digwydd mor aml pan mae eithafiaeth islamaidd o dan sylw, ceir dau begwn afresymol i’r ymateb. Mae hilgwn fel yr EDL a Britain First yn ceisio manteisio ar y stori er mwyn ategu eu neges hurt bod Prydain yn prysur fabwysiadu cyfraith Sharia drwy’r drws cefn ac yn y blaen ac yn y blaen. Ar y llaw arall, mae apologists islamaidd, a rhai rhyddfrydwyr, yn awgrymu mai rhyw fath o helfa wrach hiliol yw’r cyhuddiad, a’i fod yn symptom o islamoffobia lloerig. Mae’r gwir, wrth gwrs, yn y canol.

Mae eithafiaeth islamaidd yn broblem, ac mae’n bwysig wynebu hynny. Ychydig wythnosau yn ôl, aeth prifathro ar Newsnight ac, wrth gael ei holi, nid oedd yn gallu condemnio’r syniad o lofruddio troseddwyr gyda cherrig. Mae’r ateb cywir yn syml; mae ceisio dadlau ei fod yn fater dyrys yn safbwynt erchyll ynddo’i hun:

Os yw pobl fel yr uchod yn rhedeg rhai ysgolion, mae’n anodd honni mai creaduriaid rhyfedd ar yr ymylon ydynt. Mae ganddynt rym, a dylid eu herio.

Ar bwnc tebyg, mae’r Council Of Ex-Muslims wedi cyhoeddi adroddiad pwysig yn ddiweddar ynghylch yr iERA, yr Islamic Education and Research Academy. Mae’r iERA yn cyfleu’r argraff mai “addysgu” pobl am islam yw’r amcan, ond mae safbwyntiau’r arweinwyr a’u haelodau blaenllaw yn eithafol. Er bod eu daliadau ffwndamentalaidd yn hysbys, maent yn tueddu i fod yn gyndyn iawn i ateb cwestiynau syml pan mae eraill yn eu herio. Gan fy mod yn hoffi pigo ffrae ar Twitter o dro i dro, rhoddais innau gynnig arni hefyd, gan ymuno â llu o bobl a oedd wrthi’n ceisio cael ateb syml gan un ohonynt am ei farn ynghylch lladd pobl cyfunrywiol gyda cherrig. Gallwch ddarllen am yr hanes fan hyn, lle mae rhai o drydariadau eich blogiwr hoff wedi’u dyfynnu hefyd. Fel y gwelwch, mae fel ceisio cael gwaed allan o garreg (dim ymddiheuriadau o gwbl am y pun). Mae’r cyndynrwydd i ateb cwestiwn mor syml yn cadarnhau’r dybiaeth ei fod yn cefnogi’r syniad.

Felly er fy mod yr un mor barod i gondemnio paranoia hiliol hyll yr asgell dde eithafol, gocheler rhag gwadu bod problem o gwbl. Yn wir, dylid pwysleisio bod gan Britain First a’u tebyg lawer iawn yn gyffredin â’r grwpiau islamaidd hyn. Eithafwyr asgell dde ydynt i gyd, wedi’r cyfan, ac maent yn cytuno’n ddigon llawen ynghylch cryn dipyn o faterion cymdeithasol. Mae tasg y rhyddfrydwr seciwlar call yn un syml, sef gwrthwynebu’r ddwy garfan fel ei gilydd. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Rhagdybiaetheg

Cyfaddefiad: rwy’n eithaf mwynhau gwrando ar ddadleuon cyhoeddus ar YouTube, yn enwedig rhai ynghylch crefydd (dyma’r math o beth rwy’n ei wneud wrth lanhau’r gegin, er enghraifft). Yr un diweddaraf i mi wrando arno oedd un diweddar rhwng yr anffyddiwr Matt Dillahunty a dyn o’r enw Sye Ten Bruggencate, gyda’r cwestiwn “a yw credu mewn duw yn rhesymol?”. Mae Bruggencate yn arddel math arbennig o amrwd ac ystyfnig o apologetics Cristnogol o’r enw rhagdybiaetheg (presuppositionalism).

Dyma hi yn ei chyfanrwydd isod. Dylid rhybuddio yn gyntaf bod yr holl beth bron i ddwy awr o hyd, a bod Bruggencate yn debygol o wneud i chi frysio i daro’ch pen yn erbyn y wal agosaf. Byddai hefyd yn syniad esbonio beth yn union sydd yn ein gwynebu fan hyn. Heb symleiddio na gor-ddweud o gwbl, dyma “ddadl” Bruggencate yn ei chyfanrwydd, ar ffurf cyfresymiad:

Gosodiad 1: Mae’n rhesymol credu pethau sy’n wir.
Gosodiad 2: Mae’n wir bod Duw’n bodoli. [!]
felly [!!]
Casgliad: Mae’n rhesymol credu bod Duw’n bodoli!

Nid cariciature mo hyn. Dyna’n llythrennol yw holl ddadl Bruggencate. Gadawaf i chi, felly, benderfynu ai peth doeth yw clicio “Play”:

Teg yw gofyn beth oedd pwynt cynnal y ddadl yn y lle cyntaf, oherwydd mae’n safbwynt sy’n amhosibl – yn llythrennol – cynnal unrhyw fath o sgwrs yn ei gylch. Fersiwn estynedig o sgetsh yr Argument Clinic gan Monty Python sydd yma yn y pen draw. “Fi sy’n iawn oherwydd fy safbwynt i yw’r un cywir”. Tric Bruggencate yw mynnu mai “gwirionedd absolwt” yw’r unig math dilys o wirionedd, gan honni wrth gwrs mai ei Dduw ef yw unig ffynhonnell bosibl y gwirionedd hwnnw.  Yn bersonol, rwy’n edmygu amynedd Dillahunty.

Yr hyn sy’n drawiadol am bobl fel Bruggencate yw ei bod yn amlwg nad ydynt yn dwp, er eu bod yn arddel safbwyntiau gwirioneddol lloerig a chyfan gwbl anghynaliadwy. Mae’n ddyn hyderus, huawdl ac ymosodol ei arddull. Camp Dillahunty oedd paratoi’n drylwyr. Roedd yn gyfarwydd iawn â dadleuon Bruggencate yn barod, ac roedd wedi rhagweld yn union yr hyn a fyddai’n ei wynebu (i’r graddau iddo allu cyfansoddi ei ymateb cyntaf o flaen llaw). Y gwir yw y byddai anffyddwyr llai cyfarwydd â rhagdybiaetheg wedi cael trafferth.

Mae’n wir bod llawer o ddiwinyddwyr Cristnogol mwy “soffistigedig” yn feirniadol iawn o Bruggencate a’i debyg gan fod ei ddadleuon yn amlwg yn hurt ac felly’n destun embaras i’r ffydd. Rwy’n hapus i gadarnhau bod eu pryderon yn berffaith wir. Eto i gyd, rwy’n tueddu i feddwl bod gan lawer o Gristnogion fwy yn gyffredin â Bruggencate nag y maent yn ei sylweddoli. Wedi’r cyfan, o’m profiad i mae hyd yn oed y Cristion mwyaf nuanced fel arfer yn defnyddio bodolaeth Duw fel man cychwyn a’n awgrymu mai cyfrifoldeb yr anffyddiwr yw gwrthbrofi hynny. Pan mae unrhyw Cristion yn mynnu bod ganddo berthynas personol â Duw, nid oes modd dal pen rheswm â’r safbwynt.

Cymwynas Bruggencate, efallai, yw mynegi’r peth yn hollol gignoeth. Dyma ddinoethi’r safbwynt i lawr at yr asgwrn, gan ddiosg yr holl fflwff ffug-ddwys y mae llawer o’i gyd-Gristnogion yn ei ychwanegu er mwyn cymylu pethau. Yn ei ffordd ryfedd ei hun, mae rhywbeth eithaf onest am ei ddadl yn hynny o beth (ac yn hynny o beth yn unig!). Ond dyna, o ddigon, yw’r peth caredicaf y gallaf ei ddweud amdano. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Bydysawd T.H. Parry-Williams

Gan fy mod ar hyn o bryd yn darllen y gyfrol wych Ffarwél I Freiburg gan Angharad Price, am grwydriadau cynnar T.H. Parry-Williams, rwyf wedi bod yn ail-ddarllen rhai o’i gerddi.

Mae Parry-Williams yn bendant yn un o’r beirdd mwyaf diddorol a gynhyrchodd Cymru erioed. Mae nifer o’i gerddi’n trafod marwolaeth, ac efallai bod hynny’n un o’r rhesymau y mae’r rhain yn enwedig yn apelio ataf, gan fy mod innau hefyd yn gallu bod yn ddiawl bach morbid ar adegau. Rheswm arall yw’r ffaith ei fod siwr o fod ymysg y beirdd Cymraeg cyntaf i drafod y pwnc ag agwedd gwirioneddol ddyneiddiol ac anghrefyddol (hynny yw, aeddfed), gan bwysleisio ein di-nodedd yng nghyd-destun ehangach y bydysawd. Roedd Parry-Williams, wrth gwrs, yn amheus o grefydd, ac mae’r cerddi hyn yn cydnabod yn blaen mai marwolaeth yw’r diwedd. Mae Yr Esgyrn Hyn‘ yn enghraifft dda.

Ond rwy’n credu mai fy ffefryn yw ‘Dychwelyd’:

Ni all terfysgoedd daear byth gyffroi
Distawrwydd nef; ni sigla lleisiau’r llawr
Rymuster y tangnefedd sydd yn toi
Diddim diarcholl yr ehangder mawr;
Ac ni all holl drybestod dyn a byd
Darfu’r tawelwch nac amharu dim
Ar dreigl a thro’r pellterau sydd o hyd
Yn gwneuthur gosteg â’u chwyrnellu chwim.
Ac am nad ydyw’n byw ar hyd y daith
O gri ein geni hyd ein holaf gŵyn
Yn ddim ond crych dros dro neu gysgod craith
Ar lyfnder esmwyth y mudandod mwyn,
Ni wnawn, wrth ffoi am byth o’n ffwdan ffôl,
Ond llithro i’r llonyddwch mawr yn ôl.

Mae’n debyg bod rhai wedi ystyried y gerdd hon yn brawf o ffydd Parry-Williams yn Nuw, ond mae hynny’n ddwl. Efallai bod y beirniaid Cristnogol gobeithiol yma wedi rhoi’r gorau i ddarllen ar ôl gweld y gair ‘nef’, sy’n amlwg mewn gwirionedd yn gyfeiriad barddonol ond seciwlar at y bydysawd y tu hwnt i’n carreg bach glas a gwyrdd ni. Nid yw union safbwynt diwinyddol Parry-Williams yn sicr, hyd y gwn, ac rwy’n petruso cyn ei hawlio fel anffyddiwr o’r iawn ryw, ond o ddarllen cerddi fel hyn mae’n bosibl dychmygu mai dyna a fuasai pebai’n fyw heddiw. Yn bendant, mae unrhyw un sy’n gweld tinc o ffydd grefyddol yn y darn uchod yn twyllo’u hunain.

Er nad yw Cristnogaeth yn gallu mynnu bellach mai’r Ddaear yw canol y bydysawd yn llythrennol, mae’n honni o hyd mai ein planed bach pitw ni sy’n hawlio holl sylw’r endid a greodd popeth sy’n bodoli. Mae ‘Dychwelyd’ yn ymwrthod yn llwyr â’r agwedd blentynnaidd honno. Roedd y bydysawd yn bodoli am 13.7 biliwn o flynyddoedd cyn i ni gael ein geni, a bydd yn parhau i fodoli am sawl biliwn o flynyddoedd wedi i ni farw, doed a ddelo. Mae’r cyflwr o beidio bodoli ar ôl ein marwolaeth yr un fath yn union â’r cyfnod pan nad oeddem yn bodoli cyn i ni gael ein geni yn y lle cyntaf. Hyd yn oed petawn yn ddigon ffodus i fyw am ganrif, ni fyddai fy modolaeth ond crac hynod denau o oleuni yng nghanol ffenestr anferth o dywyllwch (neu ‘gysgod craith ar lyfnder esmwyth y mudandod mwyn’).  Rwy’n hoff iawn o’r ddelwedd drawiadol yma. Go brin mai Parry-Williams oedd y cyntaf i’w defnyddio, ond mae llawer o awduron gwyddoniaeth boblogaidd wedi defnyddio rhai tebyg dros y blynyddoedd. Mae Carl Sagan yn un, ac mae ‘Dychwelyd’ hefyd yn rhagweld rhai o’r pethau eraill a ddywedodd Sagan yn ei gyfrol Pale Blue Dot. Mae’n werth dyfynnu’r darn yma’n llawn:

From this distant vantage point, the Earth might not seem of any particular interest. But for us, it’s different. Consider again that dot. That’s here. That’s home. That’s us. On it everyone you love, everyone you know, everyone you ever heard of, every human being who ever was, lived out their lives. The aggregate of our joy and suffering, thousands of confident religions, ideologies, and economic doctrines, every hunter and forager, every hero and coward, every creator and destroyer of civilization, every king and peasant, every young couple in love, every mother and father, hopeful child, inventor and explorer, every teacher of morals, every corrupt politician, every “superstar,” every “supreme leader,” every saint and sinner in the history of our species lived there – on a mote of dust suspended in a sunbeam.

The Earth is a very small stage in a vast cosmic arena. Think of the rivers of blood spilled by all those generals and emperors so that in glory and triumph they could become the momentary masters of a fraction of a dot. Think of the endless cruelties visited by the inhabitants of one corner of this pixel on the scarcely distinguishable inhabitants of some other corner. How frequent their misunderstandings, how eager they are to kill one another, how fervent their hatreds. Our posturings, our imagined self-importance, the delusion that we have some privileged position in the universe, are challenged by this point of pale light. Our planet is a lonely speck in the great enveloping cosmic dark. In our obscurity – in all this vastness – there is no hint that help will come from elsewhere to save us from ourselves.

The Earth is the only world known, so far, to harbor life. There is nowhere else, at least in the near future, to which our species could migrate. Visit, yes. Settle, not yet. Like it or not, for the moment, the Earth is where we make our stand. It has been said that astronomy is a humbling and character-building experience. There is perhaps no better demonstration of the folly of human conceits than this distant image of our tiny world. To me, it underscores our responsibility to deal more kindly with one another and to preserve and cherish the pale blue dot, the only home we’ve ever known.

Gellir ystyried Parry-Williams yn rhyw fath o egin-Sagan, mewn ffordd. A dweud y gwir, byddai ‘Dychwelyd’ yn gwneud epigraff ardderchog ar gyfer unrhyw gyfieithiad Cymraeg o Pale Blue Dot. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Ynghylch arteithio

Roedd yn ddigalon darllen bod 29% o bobl Prydain yn credu bod modd cyfiawnhau arteithio mewn rhai amgylchiadau, yn ôl arolwg gan Amnest Ryngwladol. Mewn geiriau eraill, mae bron i un o bob tri o drigolion y Deyrnas Gyfunol yn ffyliaid anfoesol.

Mae’n ddigon posibl bod y mudiad yn agos ati wrth briodoli hyn i ddylanwad ffilmiau a rhaglenni teledu fel 24. Mae sefyllfa hypothetig y ticking time bomb yn un dramatig, ac mae’n siwr gen i mai dyna’r senario yr oedd gan y rhan fwyaf o’r atebwyr mewn golwg. Ond ffuglen llwyr yw sefyllfa o’r fath. Mewn bywyd go iawn, nid oes achlysuron yn codi lle mae’r awdurdodau’n gwybod bod bom ar fin ffrwydro, lle mae ganddynt garcharor yn eu meddiant sy’n gwybod y manylion, a lle mai’r unig ffodd o gael yr wybodaeth ganddo yw trwy wneud pethau cas i’w geilliau neu trwy hanner ei foddi. Yn sicr, nid wyf wedi clywed am y fath beth erioed. Efallai bod rhai’n mwynhau dychmygu achub y dydd fel hyn, ond ffantasi pur Jack Baueraidd ydyw.

Ar ben hynny, problem fawr arteithio (heblaw am anfoesoldeb difrifol y peth) yw ei fod yn dull hynod o wael o gaffael gwybodaeth. Pan mae rhywun yn tynnu ewinedd eich traed allan gyda phleiars, y gwir yw eich bod yn mynd i fod yn barod i ddweud unrhyw beth er mwyn rhoi stop ar y boen. Petawn yn cael fy arteithio, er enghraifft, ni fuasai fy mhoenydwyr yn gorfod aros rhyw lawer cyn i mi gyfaddef mai fi gynlluniodd yr ymosodiadau terfysgol ar 11 Medi 2001, os mai dyna roeddent am i mi ei ddweud (yn union fel y dedfrydwyd “gwrachod” honedig ers talwm). Er y defnydd helaeth o artaith gan y CIA dros y degawd a hanner diwethaf, nid oes unrhyw wybodaeth ddefnyddiol wedi dod o’r peth. Mae’n debygol bod y gwasanaeth cudd wedi gwastraffu oriau lu yn ceisio gwirio gwybodaeth ffug a gaffaelwyd wrth arteithio.

Byddai dal i fod yn anfoesol hyd yn oed petai’n ddull effeithiol, wrth gwrs. Mae’r ysgrif yma‘n egluro pam. Dylai’r syniad bod gan lywodraethau’r hawl i achosi poen bwriadol i unigolion ddychryn pawb. Mae’n anodd deall beth sy’n bod ar y 29%. Parhau i ddarllen

Anffyddiaeth: Contio

Rwy’n credu’n gryf bod gan regfeydd le anrhydeddus iawn yn ein geirfa, ac nid oes gennyf lawer o amynedd gyda phobl sy’n cwyno am iaith aflednais. Fel brodor o Gaernarfon, mae un rheg yn enwedig yn dod yn naturiol. Mae Cofis, wrth gwrs, yn enwog am eu defnydd ffwrdd-a-hi o’r gair cont, sy’n cael ei ystyried yn sarhad hyll yn y rhan fwyaf o lefydd eraill. Yng Nghaernarfon, mae wedi’i fabwysiadu fel ffordd o fynegi anwyldeb, neu hyd yn oed fel modd syml o atalnodi brawddegau. Mae rhywbeth boddhaol iawn am y cytseiniau caled yn y gair unsill cont, neu’r fersiwn Saesneg sydd hyd yn oed yn grasach, cunt.

Rwyf wedi bod yn ymwybodol ers blynyddoedd bod y gair, yn America yn enwedig, yn cael ei ystyried yn un rhywiaethol gan lawer. Dros yr Iwerydd, fe’i defnyddir yn bennaf i sarhau menywod (ac mae hynny’n swnio’n rhyfedd o hyd i’m clust i, rhaid cyfaddef). Mae pawb yn gwybod beth yw ystyr y rheg. Am wn i, ystyrir galw rhywun yn cunt yn arbennig o frwnt oherwydd rhyw ymdeimlad hanesyddol bod organnau rhywiol merched yn bethau eithriadol o aflan.

Rwy’n ystyried fy hun yn pro-ffeminydd brwd, a’n ceisio bod mor sensitif ag y gallaf i bethau fel hyn, ond rhaid i mi fod yn onest fy mod wedi parhau i ddefnyddio’r rheg er fy mod yn hollol ymwybodol o hyn i gyd. Mae’n bosibl fy mod yn fwriadol wedi ceisio osgoi dadansoddi’r peth rhag ofn i mi sylwi fy mod yn rhagrithio, ond fy nghyfiawnhad oedd bod y cyd-destun yn hollol wahanol fan hyn, a bod y cysylltiad rhywiaethol, sydd mor gryf o hyd yn UDA, wedi’i golli ym Mhrydain (ac yng Nghaernarfon yn arbennig). Wedi’r cyfan, onid yw’n wirion honni bod dau Gofi sy’n cyfarch ei gilydd trwy holi “iawn cont?” yn atgyfnerthu anghymesureddau grym rhwng dynion a merched?

Ond tybed? Dyna’n union y mae dau flogiwr, y mae gennyf barch mawr tuag atynt, Ophelia Benson a PZ Myers, yn ei honni. Y sylw yma gan Ricky Gervais ar Facebook oedd asgwrn y gynnen: 

If you grabbed Hitler and shouted “stop killing innocent people you cunt”, someone on Facebook would call you out on your sexist language.

Mae’n rhaid i mi fod yn onest: nes i’r ddadl yma godi buaswn wedi bod yn fwy na pharod i ddefnyddio’r rheg arbennig yma i ddisgrifio Hitler, yn union fel y gwnaeth Gervais. Mae’n debygol fy mod wedi gwneud hynny droeon. Ond onid yw’n dweud cyfrolau mai’r gair casaf sydd gennym, wrth chwilio am ffordd o fynegi atgasedd tuag at ddyn, yw rhywbeth sy’n cyfeirio at ran o anatomeg y corff benywaidd?

Mae’r erthygl hon, sy’n ymateb i’r ddau uchod, yn olrhain hanes y gair ym Mhrydain a’n egluro’r gwahaniaethau rhwng y fersiynau Americanaidd a Phrydeinig (mae’r darn am Chaucer yn arbennig o ddifyr). Mae’n wir bod geiriau’n gallu colli cysylltiad â’u hystyron gwreiddiol wrth i’w hetymoleg ddatblygu. Ond ar y llaw arall, mae cont yn parhau i gyfeirio at y darn rhwng goesau merched yn y pen draw, hyd yn oed yng Nghaernarfon. Ar y llaw arall eto, mae rhai ffeminyddion, fel Laurie Penny, yn awgrymu y dylai merched feddiannu’r term er eu dibenion eu hunain.

Gorddweud cellweirus, efallai, ond rwy’n cael creisis bach ers darllen y blogiadau yna. Byddai’n gas gennyf feddwl fy mod yn gwneud cam â ffeminyddion trwy gontio. Ond byddai’n anodd newid arfer oes. Beth ydych chi’n ei feddwl? Byddai barn merched yn enwedig o werthfawr! Parhau i ddarllen