-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archives: edwyn williams
Glo Man: Ymweliadau ysgol Gwaun Cae Gurwen
Ddydd Llun, Ebrill 29ain aeth yr Adran Iau ar daith i Gaerdydd. Treuliodd Adran 3 a 4 ddiwrnod yn Sain Ffagan wrth iddynt astudio amryw o gartrefi ac adeiladai fel eu gwaith thema’r tymor. Bu llawer o waith ymchwilio a dysgu am ffeithiau hanesyddol.
Ar ôl gadael adran 3 a 4 aeth plant 5 a 6 i’r ddinas lle oedd tywysydd Castell Caerdydd yn barod ar eu cyfer. Thema’r adran yw Cestyll a chafodd y plant flas ar y gwaith dosbarth. Ar ôl yr ymweliad, teithodd y plant i Gastell Caerffili i ddysgu am ei hanes a ffeithiau diddorol. Cafwyd diwrnod i’r brenin!
Ar ôl gadael adran 3 a 4 aeth plant 5 a 6 i’r ddinas lle oedd tywysydd Castell Caerdydd yn barod ar eu cyfer. Thema’r adran yw Cestyll a chafodd y plant flas ar y gwaith dosbarth. Ar ôl yr ymweliad, teithodd y plant i Gastell Caerffili i ddysgu am ei hanes a ffeithiau diddorol. Cafwyd diwrnod i’r brenin!
Glo Man: Halen y Ddaear – Mrs Olwen Richards
Ar nos Fercher y 15fed o Fai, cynhaliodd Cymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch ginio yn yr Hydd Gwyn, Llandeilo fel Parti Penblwydd 90 oed i Mrs Olwen Richards, cyfeilydd y côr am dros hanner canrif.
Cyn dechrau ar y cinio fe ddaeth Mr Alwyn Humphreys gyda chriw teledu’r rhaglen ‘Prynhawn Da’ i gyflwyno plat “Halen y Ddaear” a tisw hardd o flodau iddi. Mae’r anrhydedd hon yn cael ei chyflwyno i unigolion sydd wedi rhoi oriau o’i profiadau medrus a’i hamser gwerthfawr i wahanol gymdeithasau yn y gymuned. Roedd y cyfan yn hollol sioc iddi, ond fel mae pawb sy’n ei hadnabod yn gwybod mae hi’n dderbynnydd teilwng iawn o’r rhodd.
Yn dilyn un syrpreis derbyniodd Mrs Richards wrth Mrs Indeg Thomas ar ran y côr, ‘Albwm Arbennig’ yn cynnwys lluniau wedi’i harwyddo gan yr artistiaid y bu hi’n cyfeilio iddynt yng ngyngherddau’r côr dros y blynddoedd, nifer ohonynt yn cynnwys negeseuon personol iddi.
Noson i’w chofio gan bawb oedd yn bresennol ac yn enwedig i Mrs Richards.
Hoffai swyddogion Glo Mân hefyd ddiolch i Mrs Richards am ei chyfraniad i’n papur bro, Glo Mân ar hyd y blynyddoedd a dymuno penblwydd hapus a phob bendith i’r dyfodol.
Glo Man: CYLCH CINIO CYMRAEG RHYDAMAN
Yn ôl yr arfer ers blynyddoedd bellach mae Cylchoedd Cinio Cymraeg Tybïe a Rhydaman yn cynnal eu cinio ar-y-cyd ym mis Ebrill. Eleni tro Tybïe oedd i wahodd Rhydaman i’r Clwb Golff yn Glynhir, Nos Fercher, Ebrill 10fed. Cafwyd noson hwylus dros ben gyda bron i drugain yn bresennol. Llywyddwyd gan Ken Maddocks, Llywydd Cylch Cinio Tybïe ac ef a groesawodd aelodau Rhydaman i’w plith.
Y prif westai oedd Lyn Richards, cyn-ddarlithydd ym Mhibirlwyd. Brodor o’r Myddfai yw Mr. Richards ac ar hyn o bryd yn ffermio yn yr ardal hudolus hon. Trwy gyfrwng lluniau cafwyd ganddo beth o hanes Rhiwallon a’r ferch o Llyn-y-fan ac hefyd hanes a rhai o feddyginiaethau Meddygon Myddfai. Noson arbennig gyda lluniau gogoneddus o ardal Myddfai a’r cylch.
Diolchwyd ar noson oer o Ebrill am araith a wnaeth wresogi ein calon gan Dafydd Wyn, Llywydd Cylch Cinio Rhydaman.
Fe fydd y ddau Gylch yn ciniawa y flwyddyn nesaf yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Ebrill 3ydd, 2014
Glo Man: CYMANFA UNDEBOL CWMAMAN
Cafwyd Cymanfa Undebol hyfryd ar Sul y Blodau eleni dan arweiniad medrus a meistrolgar Mrs.Helen Wyn, Brynaman. Yr oedd Capel Calfaria yn gyfforddus lawn ac er bod rhai o’r ffyddloniaid wedi methu â dod eleni oherwydd afiechyd yr oedd ysbryd y mawl yn dal i fod yno. Yr organyddes oedd Mrs.Jane Cousins, Calfaria a diolchwn iddi am ei gwasanaeth diflino eleni eto. Y Llywydd oedd Mrs.Mair Wyn, Bethel Newydd a gynhaliodd naws yr achlysur mewn modd gartrefol ac ysbrydol. Darllenwyd ar y cychwyn a gweddiwyd gan Kai Cousins, Bethesdaa Ffion Haf Mackey, Bethel Newydd. Hyfryd oedd gweld dau mor ifanc yn rhoi o’u gorau. Cafwyd toriad yn y canol a bu dwy o wragedd Bethel Newydd sef Carol Howells a Pat Davies yn rhoi darlleniadau inni, un o’r Ysgrythur a’r llall o farddoniaeth grefyddol. Diolch o galon i bawb a wnaeth y gwasanaeth eleni mor deimladwy a phwrpasol, ac hefyd i’r Pwyllgor bach o bedair sydd gennym, yn cynnwys Jane, Mair, Rhian a Carol. Boed i’r achlysur arbennig hwn barhau yn y Cwm am flynyddoedd lawer.
Glo Man: Cwis Chwaraeon
Nos Iau, Mawrth 21ain, yng Nghlwb Rygbi Brynaman, cynhaliwyd y Cwis Chwaraeon blynyddol ar y cyd rhwng Mentrau Iaith Castell-nedd Port Talbot a Dinefwr. Y cwisfeistr eleni oedd Edwyn Williams, Rhydaman, ac roedd llawer o ganmol ar gynnwys a natur y cwis. Dechreuwyd y noson gyda phlatiaid o gyri reis a sglodion, wedi ei baratoi gan Lucy yn y Clwb Rygbi. Rhoddodd hyn nerth i’r cystadleuwyr! Bu rhyw wyth tîm wrthi’n ddyfal yn ateb y cwestiynau ac ar ddiwedd y noson roedd dau dîm yn gyfartal- Clwb Rygbi’r Aman ac un o dimau Clwb Rygbi Brynaman. Yn wir, bu rhaid gofyn dau gwestiwn datglwm cyn cael enillwyr, a’r rhai llwyddiannus oedd y tîm cartre. Llongyfarchiadau! Dyma lun ohonynt gyda’r cwisfeistr.
Glo Man: Llongyfarchiadau
i Glynog ac Eira Davies, Stryd y Neuadd ar ddod yn datcu a mamgu am yr ail dro. Ganwyd Loti Grug ar Ebrill 18ed, merch i Iestyn a Rhian a chwaer fach i Cadi Fflur. Pob dymuniad da i’r teulu yng Nghaerdydd.
Hefyd Llongyfarchiadau i Dewi a Katie Slyman, Heol Llandeilo ar enedigaeth Millie Ariana ar Fawrth 22ain,- chwaer fach i Ruby,ac ail wyres i Eireen a John Slyman, Heol y Mynydd.
Glo Man: Blynyddoedd o Wasanaeth i Eisteddfodau’r Urdd
Yn ystod Eisteddfod Sir Yr Urdd , Rhanbarth Myrddin eleni cyflwynwyd anrheg i ddiolch i Mrs Gloria Lloyd am flynyddoedd o wasanaeth cyfeilio yn eisteddfodau yr Urdd yng nghylch Aman a Rhanbarth Dwyrain Myrddin.Mae Mrs Lloyd yn enwog dros Gymru am gyf… Parhau i ddarllen
Glo Man: Bananas yn tyfu yng Nghymru!
Yn ystod Pythefnos Masnach Deg mae Sandra Joseph, sy’n ffermwr o Ddwyrain y Caribî, wedi bod yn ymweld ag ysgolion ledled y sir i roi cipolwg prin ar fyd sy’n bell bell o drefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn, sy’n cael ei gynnal dros bythefnos, yn hyrwyddo telerau masnach deg i ffermwyr a gweithwyr yn y byd datblygol drwy ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau dalu prisiau cynaliadwy iddynt am eu cynnyrch. Hefyd nod y pythefnos yw hybu amodau gwaith teg a chynaliadwyedd lleol mewn llefydd lle mae hanes o wahaniaethu yn erbyn y cynhyrchwyr tlotaf a lleiaf.
Mae Sandra Joseph wedi bod yn brysur iawn yn trafeilio o amgylch ysgolion Cymru yn rhannu’r neges dros Fasnach Deg a rhoi cipolwg prin ar fyd sy’n bell bell o drefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin. Rydym i gyd yn gwybod bod bananas yn tyfu yn y trofannau, ond tra’n ymweld ag ysgolion Sir Gaerfyrddin cafodd tipyn o sioc i glywed plant yn dweud eu bod wedi gweld coeden fanana, a’r peth rhyfeddaf oedd eu bod wedi ei gweld yn lleol!
Aeth Sandra i weld dros ei hunan. Ie mynd i’r gerddi Botaneg Cenedlaethol oedd angen. Roedd y rhan fwyaf o’r coed dal heb agor dros y gaeaf ond roedd un tu fewn i’r ty gwydr mawr yn dechrau dangos ffrwyth, ac roedd Sandra wrth ei bodd yn cael tynnu un llun yr oedd erioed wedi meddwl y byddai yn ei wneud pan adawodd ei chartref yn St Lucia.
Glo Man: Ffasiwn yn Llandybie
Llongyfarchiadau mawr i Hannah Owen, merch Gary a Deborah Owen, Heol Waunfarlais, Llandybie ar ddod yn gydradd gyntaf mewn cystadleuaeth dylunio a gwneud siaced dyn arbennig neu “bespoke jacket”.
Myfyriwr ail flwyddyn yw Hannah ym Mhrifysgol Morgannwg, Caerdydd. O ganlyniad i’w champ cafodd wahoddiad i fynd i Lundain i gyfarfod â’r dylunydd Ben Dickens, sy’n gweithio i Farrel, sef cwmni ffasiwn enwog y canwr Robbie Williams.
Bydd Hannah yn cael cyfle i weithio yn stiwdios y cwmni gyda’r siawns o gael “internship”. Ar ben hyn bu Hannah ym Mharis yn ddiweddar yn ymweld â thai ffasiwn byd enwog y ddinas hon. Da iawn Hannah. Gobeithio y cawn gyfle i weld gwaith Hannah ym mhapur Glo Mân yn y dyfodol.
Myfyriwr ail flwyddyn yw Hannah ym Mhrifysgol Morgannwg, Caerdydd. O ganlyniad i’w champ cafodd wahoddiad i fynd i Lundain i gyfarfod â’r dylunydd Ben Dickens, sy’n gweithio i Farrel, sef cwmni ffasiwn enwog y canwr Robbie Williams.
Bydd Hannah yn cael cyfle i weithio yn stiwdios y cwmni gyda’r siawns o gael “internship”. Ar ben hyn bu Hannah ym Mharis yn ddiweddar yn ymweld â thai ffasiwn byd enwog y ddinas hon. Da iawn Hannah. Gobeithio y cawn gyfle i weld gwaith Hannah ym mhapur Glo Mân yn y dyfodol.
Glo Man: Byd y Teledu
Mae dau frawd o Heol y Cyrnol wedi bod yn brysur yn ddiweddar o flaen y camerau. Iestyn, mab ieuengaf Andrea a Dafydd Jones yw un o’r wynebau a welwyd ar hysbyseb “Western Power”, yn gwisgo cot a helmet ei “dad”. Roedd yn ddiddorol darllen yng nghylchgrawn y cwmni, sut y gwnaethpwyd yr hysbyseb.
Dechreuwyd ar y cynllun ym mis Ionawr 2012, adeiladwyd pentref dychmygol mewn stiwdio, trefnwyd cyfweliadau ar gyfer y “tad” a’r “mab” ac yna bu’r golygfeydd allanol yn ardal Caerffili – tipyn o broses technegol yn ôl yr erthygl. Gyda llaw, os am weld y pentref model, ewch i’r Sioe Amaethyddol, Llanelwedd – cewch weld y trên yn symud drwy’r twnel.
Dechreuwyd ar y cynllun ym mis Ionawr 2012, adeiladwyd pentref dychmygol mewn stiwdio, trefnwyd cyfweliadau ar gyfer y “tad” a’r “mab” ac yna bu’r golygfeydd allanol yn ardal Caerffili – tipyn o broses technegol yn ôl yr erthygl. Gyda llaw, os am weld y pentref model, ewch i’r Sioe Amaethyddol, Llanelwedd – cewch weld y trên yn symud drwy’r twnel.
Mae Gruffudd, y brawd hyn, sy’n ddisgybl ym Maes yr Yrfa, hefyd wedi bod ym myd y teledu yn ystod y misoedd diwethaf yn “Casualty”, “Pobol y Cwm” ac yn y gyfres sydd newydd ddechrau, sef “Gwaith Cartref”. Dymuniadau gorau i’r ddau ohonynt.
Glo Man: Masnach Deg
Bu nifer o aelodau Capel Newydd yn dathlu’r pumed “Banana Split” yn yr Arcade. Daeth tua 200 i fwynhau yr arlwy ac i estyn croeso i ffermwraig bananas masnach deg o St Lucia. Diolch i bawb a fu’n gysylltiedig yn y trefnu ac i’r ffermwraig Sandra Joseph am egluro sut oedd masnach deg yn gweithio yn St Lucia. Gweler dau o blant yr Ysgol Sul, Joshua a Sara, yn mwynhau yng nghwmni Sandra.
Glo Man: Cylch meithrin Y Betws
Yn ddiweddar, daeth llyfryn i’m meddiant, trwy law caredig Shân Jones, yn olrhain hanes sefydlu’r cylch. Am beth amser, yn y saith degau, bu rhai o famau y pentref yn sôn am ddechrau Cylch Meithrin yn y Betws, yn hytrach na theithio i Rydaman neu Garnswllt. Felly, cynhaliwyd cyfarfod i drafod y syniad yng nghwmni Anne Roberts, swyddog datblygu Mudiad Ysgolion Meithrin. Roedd ganddi athrawes, sef Eirwen Stephens, yn barod i ymgymryd â’r gwaith, a dewiswyd swyddogion sef Cadeirydd – Bethan Davies, Ysgrifenyddes – Vicky James a Thrysorydd Joyce Wenfold. Penderfynwyd gofyn i flaenoriaid Capel Newydd am logi’r Festri, i gynnal y cylch a rhoddwyd caniatâd i’r cais. Bu’r pwyllgor yn brysur am wythnosau yn codi arian i brynu dodrefn, ac yn y blaen, ac ar fore Mawrth, 19 Ebrill 1977 am 9.30 y bore, agorwyd y cylch, sy’n dal i fynd o nerth i nerth.
Mae’r lluniau yn dangos y plant presennol, ac yna plant 1986 gyda’r athrawes Bethan Thomas, cynorthwywraig Dianne Rees a’r Cadeirydd Bethan Davies. Tybed, a wyddoch pwy yw y plant?
Mae’r lluniau yn dangos y plant presennol, ac yna plant 1986 gyda’r athrawes Bethan Thomas, cynorthwywraig Dianne Rees a’r Cadeirydd Bethan Davies. Tybed, a wyddoch pwy yw y plant?
Glo Man: Cinio Llywydd Cenedlaethol Merched Y Wawr
Yn dilyn cinio blasus, croesawyd pawb yn swyddogol i’r cinio gan Lywydd Rhanbarth Gorllewin Morgannwg, Einir Evans, ac fe gyflwynodd ddarlun o’r rhanbarth trwy restru rhai o nodweddion mwyaf amlwg yr ardal – yn hanesyddol, yn ddiwydiannol, yn ddiwylliannol ac wrth gwrs, soniodd am rai o’r enwogion sy’n hannu o’r lle. A hithau wedi cael ei haddysg uwchradd yng Nghastell-nedd, priodol oedd i Gill Griffiths ategu ei barn bersonol am olygfeydd a llefydd i grwydro. Soniodd Gill hefyd am y cyfle a ddaeth i’w rhan i deithio i Ethiopia yn ddiweddar gydag aelod o Gymorth Cristnogol. Dangosodd ffilm fer yn dangos y sefyllfa drist am brinder dˆwr, a’r gwaith caled mae’r gwragedd a’r merched yn y wlad yn dioddef, ond gwelwyd hefyd y newid araf sy’n deillio o waith Cymorth Cristnogol yno. Dyna, wrth gwrs, yw’r elusen sy’n elwa o waith elusennol Merched y Wawr eleni – sef gwerthiant y bagiau di-ri sy’n cael eu cyfrannu gan aelodau o bob cwr o’r wlad.
Wedi’r siarad, daeth cyfle am adloniant – a hynny yng nghwmni Parti’r Grug -sef Heather Jones, ei merch, Lisa, a dwy ffrind, sef Sioned Mair a Sian Jones. Roedd y canu yn soniarus a swynol ac fe gafwyd ambell stori bersonol hefyd, y cyfan yn ychwanegu at fwynhad pawb oedd yn bresennol.
Diwrnod pleserus dros ben – a phawb yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf!
Glo Man: Hanner Canfed Tro
Yn ddiweddar daeth daeth Eric a Margaret Harries i gasglu gwaith llaw Cylch Hwyl a Gwaith, Eglwys y Gwynfryn. Cyn ymddeol roedd Eric yn bennaeth y Frigâd Dân yn Aberystwyth, ac wedi gwneud y gwaith o gasglu dillad a bwyd i wledydd fel Bosnia hanner cant o weithiau, ond yn awr mae wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r gwaith.
Gan ei fod mor hoff o wlad Bosnia a’i phobl mae wedi prynu ty yno ac o hyn allan bydd yn treulio ychydig o wyliau yno.
Mae’r Cylch Hwyl a Gwaith yn falch bod person arall, sef Richard Burgess o Felinfach, Ceredigion yn parhau â gwaith tebyg yn Romania.
Felly bydd y Cylch sy ychydig yn llai na thri deg o aelodau yn dal i wau a chrosio yn wythnosol yn y festri ar fore Dydd Mawrth.
Da yw nodi bod y Cylch yn dathlu deng mlynedd o fodolaeth ym mis Tachwedd eleni.
Gan ei fod mor hoff o wlad Bosnia a’i phobl mae wedi prynu ty yno ac o hyn allan bydd yn treulio ychydig o wyliau yno.
Mae’r Cylch Hwyl a Gwaith yn falch bod person arall, sef Richard Burgess o Felinfach, Ceredigion yn parhau â gwaith tebyg yn Romania.
Felly bydd y Cylch sy ychydig yn llai na thri deg o aelodau yn dal i wau a chrosio yn wythnosol yn y festri ar fore Dydd Mawrth.
Da yw nodi bod y Cylch yn dathlu deng mlynedd o fodolaeth ym mis Tachwedd eleni.
Glo Man: CYLCH CINIO CYMRAEG RHYDAMAN
O’r chwith i’r dde: Elfryn Thomas (Ysgrifennydd), Dafydd Wyn (Llywydd), Delme Bowen a Pamela (Prif Westeion), Hefin Williams (Trysorydd)
Cynhaliwyd Cinio Gŵyl Ddewi Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Mawrth 7fed dan lywyddiaeth Dafydd Wyn, Glanaman. Ef a groesawodd yr aelodau, gwragedd a ffrindiau a oedd wedi ymgynnull ar yr achlysur hapus hwn. Bu yn enau hefyd i groesawu yn ôl Arfon Williams, Y Betws ar ôl llawer mis o absennoldeb oherwydd afiechyd ac fe ddymunodd adferiad iechyd llwyr a buan iddo ynghyd ag i Hywel Davies, Tom Mainwaring, Brian Pearce a Trefor Evans sydd wedi cael triniaethau yn y gwahanol ysbytai yn ddiweddar.
Yr Athro Emeritws Delme Bowen, Cyn-Arglwydd Faer Dinas Caerdydd a brodor o Lanedi ac un o gyn-ddisgyblion disglair Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman oedd ein prif westai. Atgoffodd ni o eiriau Dewi Sant – gwnewch y pethau bychain – ac aeth â ni i’w faes ymchwil sef Geneteg a’r Celloedd. Dywedodd mai’r celloedd oedd yr organau lleiaf yn ein corff ond bod eu heffaith yn fawr. Mae’n rhaid i’r celloedd farw fel y gellir creu rhai newydd er mwyn i ni gael byw. Gwraidd canser yn y corff yw’r ffaith bod rhai o’r celloedd yn gwrthod marw ac o ganlyniad mae’n rhaid cael ‘chemotherapy’ neu ‘radiotherapy’i’w lladd. Dywedodd bod datblygiadau cyffrous ar y gweill ac yn awr fe arbrofir gyda ‘myrr’. Fe’i fewnforir o Somalia ac y mae ganddo dros dri chant o rinweddau gan gynnwys y rinwedd o annog y celloedd diffygiol hyn i hunan-ladd ac felly yn llawer mwy effeithiol na’r triniaethau presennol gan nad ydyw yn lladd unrhyw gell iach.
Diolchwyd am anerchiad safonol ac addysgiadol y byddai Dewi Sant yn falch ohono gan Mel Morgan, Brynaman. Parhau i ddarllen
Glo Man: Banana split am y 5ed flwyddyn yn olynol
Daeth tua 200 o bobl i Arcade Rhydaman ar gyfer y 5ed Banana Split enfawr. Cafodd y wledd 30 metr ei hadeiladu a’i bwyta mewn llai nag awr!Roedd yr Aelod Cynulliad Rhodri Glyn Thomas yn bresennol a chyflwynwyd iddo adroddiad gan Sefydliad Masnach Deg ar gefnogi ffermwyr bach.
Hefyd cyflwynodd Sandra Joseph, ffermwraig o St Lucia dystysgrif yn cydnabod statws Masnach Deg Tref Rhydaman i’r Cynghorydd Tref a Sir Deian Harries ar ran pobl Rhydaman.
Hefyd cyflwynodd Sandra Joseph, ffermwraig o St Lucia dystysgrif yn cydnabod statws Masnach Deg Tref Rhydaman i’r Cynghorydd Tref a Sir Deian Harries ar ran pobl Rhydaman.
Glo Man: Cymdeithas Gellimanwydd
I gloi tymor Cymdeithas Gellimanwydd eleni cawsom noson o Gawl a Sgwrs. Y wraig wadd oedd y Parchg Beti Wyn James, gweinidog Capel y Priordy, Caerfyrddin. Cawsom noson arbennig yn ei chwmni a ffrindiau. Parhau i ddarllen
Glo Man: Eisteddfod Ysgol Dyffryn Aman
Charlotte Thomas Y Gadair Helen Bartlett Medal y Dysgwyr, Charlotte Thomas y Gadair, Mari Cresci Medal Saesneg Sion Thomas a Mari Cresci Capteiniaid Nantlais y Llys Buddugol Parhau i ddarllen
Glo Man: Merched Tycroes
Merched y Wawr – Cangen Rhydaman a’r Cylch
Braf oedd cael croesawu aelodau’r gangen i Dycroes yn ddiweddar. Bu i ni ddathlu Gŵyl ein Nawddsant gyda chinio blasus yn y ‘Mwntan’ (Mountain Gate) fel y cyfeirir ato gan drigolion y pentref. Fe’n diddanwyd gan blant hŷn Ysgol Gymraeg Rhydaman. Cafwyd ganddynt eitemau amrywiol – canu, dawnsio ac ymgom ac fe’u cyflwynwyd gan Mr. Geraint Davies, y Prifathro.
Glo Man: Ai Dyma’r Amarylis Dalaf yng Nghwmaman?
Mae Dilys Richards yn enwog yn Heol Tirycoed, Glanaman am y toraith o flodau hardd sydd i’w gweld yn flynyddol o gylch ei thŷ ac mae Dilys hefyd yn tyfu blodau megis y geraniums yng nghyntedd ei thŷ dros y Gaeaf. Ond y Gwanwyn yma, y blodyn sy’n dal sylw’r cymdogion yw’r Amarylis tair troedfedd o uchder, gyda’r tri blodyn siap trwmpet ar ben yr un stem yn ogoneddus yn eu lliwiau coch, pinc a gwyn.
Llwyddodd Dilys i dyfu Amarylis troedfedd o uchder y llynedd a defnyddiodd y bwlb a ddaeth ohono i dyfu’r Amarylis gogoneddus sydd ganddi eleni. Fel y dywed Rhythwyn, ei gŵr, “Mae’n werth tynnu llun o’r fath rhyfeddod.” Os oes unrhyw un o ddarllenwyr “Glo Mân” wedi gweld Amarylis tair troedfedd o uchder o’r blaen byddem yn falch o glywed am hynny ac, os yw’n bosib, gweld y llun o’r fath flodyn bendigedig.
Glo Man: Eisteddfod Ysgol y Bedol
ENILLYDD CADAIR EISTEDDFOD GWYL DDEWI YSGOL Y BEDOL 2013 – SCOTT MURRAY
Cynhaliwyd Eisteddfod Gwyl Dewi lwyddiannus iawn yn yr Ysgol ar ddydd Gwener, Mawrth y Cyntaf, gyda’r disgyblion yn cymeryd rhan trwy ganu a llefaru yn unigol ac mewn corau a bu llu ohonynt hefyd yn cystadlu ar y gwaith cartref. Yr oedd y plant wedi cael eu paratoi yn drwyadl ac aeth sawl un ohonynt ymlaen fel unigolion ac aelodau o’r Côr i gystadlu yn Eisteddfod Gylch yr Urdd yn Rhydaman. Cychwynwyd yr Eisteddfod trwy ganu cân Ysgol y Bedol gyda Caryl John yn cyfeilio ar y piano. Ysgrifenwyd y geiriau gan Mari Jones, Athrawes Blwyddyn 6 yr Ysgol, a dyma hi:-
Croeso sydd yma i bawb trwy’r fro
Ysgol lon cwm y glo
Dysgu a chwarae dan yr un to
Croeso pwy bynnag y bo.
Dathlwn, dathlwn yr Aman ynghyd
Canolfan gynnes, gynnes a chlyd,
Ysgol y Bedol a’i swyn a’i hud
Porth addysg newydd fyd.
Croeso, croeso yw ein cân
Law yn llaw cerddwn ymlaen
Teulu hapus yn fawr a mân
Â’n hysbryd nawr ar dân!
Cafwyd hwyl arbennig wrth gymeryd rhan a llongyfarchwn bawb a wnaeth ei gorau glas i fod yn rhan o’r gweithgareddau. Diolch yn fawr i Mrs Donna Williams, y Brifathrawes, a holl athrawon yr ysgol am eu paratoadau ac i’r arweinyddion sef Phil Bowen ac Aled Williams. Cyfeiliwyd ar y piano gan Rhys Davies a’r cynorthwydd Caryl John. Wrth fwrdd y beirniad eleni roedd Marlene, Mair Wyn a Linda. Pinacl y dydd oedd y cadeirio dan ofal Mari Jones ac fe gafwyd teilyngdod. Yr enillydd eleni oedd bachgen o’r enw Scott Murray a gafodd ei dywys i’r llwyfan gan y Tywyswyr sef: Maizie Williams a Kai Amlyn. Cafwyd clod go uchel am ei waith arbennig i’r gystadleuaeth. Yn gydradd ail yn y gystadleuaeth roedd Keena Haines a Morgan Williams, ac yn gydradd drydydd roedd Owen Thomas a Carys Birch. Gwnathpwyd y gadair hardd eleni gan Mr.Darrell Campbell a diolch o galon iddo yntau am wneud cadair mor grefftus i’r gystadleuaeth. Yr oedd pedwar llys yr Ysgol yn cystadlu sef Aman, Berach, Grenig a Pedol, a’r enillwyr eleni oedd Llys Pedol. Llongyfarchwyd y llysoedd i gyd ar y terfyn gan Sian Priestland, y Ddirprwy Brifathrawes, a fu’n gyfrifol am gyfri pwyntiau holl bwysig y llysoedd yn y gwahanol gystadleuthau.
Diolch o galon i Mr Adrian Thomas o’r Garnant am dynnu yr holl luniau ar y dydd yn ôl ei arfer. Canwyd ein Hanthem Genedlaethol ar ddiwedd yr Eisteddfod ac yr oedd y canu i’w glywed drwy Gwmaman rwy’n siwr. Roedd hwn yn ddiwrnod i’w gofio yn wir ac edrychwn ymlaen i Eisteddfod Gwyl Dewi 2014.
Glo Man: JACS Y WAUN YN WEMBLEY!
Yn fore iawn, bore Sul y 24 eg o fis Chwefror, roedd cefnogwyr brwd yr Elyrch yn gadael y pentre’ ar y siwrne i Wembley.Roedd yn anhygoel meddwl fod tim Abertawe yn final cwpan Carling ac yn chwarae am y teitl am y tro cyntaf yn hanes y clwb. Mae’r cyfnod yma yn un arbennig yn hanes Abertawe pan maent yn medru cystadlu a thimau gorau’r uwch_gynghrair! Ond fel y gwyr pawb mae cystadleuaeth cwpan yn wahanol, ac yn aml iawn y gwelwn ganlyniadau annisgwyl.
Bron i ddwy flynedd yn ol roedd yr un criw wedi gwneud yr un daith pan lwyddodd yr Elyrch i sicrhau lle yn yr uwch gynghrair ac roedd y diwrnod hwnnw yn dal yn fyw yn y cof. Tybed a fyddai’r tim yma yn gallu ennill buddugoliaeth arbennig iawn heddi’ eto?
Wrth deithio roedd ‘na gerbydau o bob maint a channoedd o fysys mawr a bach yn llawn o gefnogwyr a phob man yn for o ddu a gwyn!
Roedd cyrraedd Wembley a cherdded y “Wembley way” yn brofiad eto, er fod y nerfau yn dechrau cyffroi erbyn hyn. Roedd cerdded i mewn i’r stadiwm enfawr, hardd am yr ail dro o fewn dwy flynedd yn syfrdanol a’r awyrgylch yn drydanol! Ni fyddwn fyth yn anghofio’r canu i gyfarch y timau i’r cae a’r hen ffefryn “Swansea City” yn atsain drwy’r stadiwm.
Roedd hi’n amlwg erbyn hanner amser fod yr Elyrch yn rheoli’r gem ac yn chwarae peldroed deniadol a chelfydd iawn ac yn ennill o ddwy gol i ddim ar hanner amser. Wedi’r hanner llwyddodd y tim i sgorio tair gol arall ac wedi llwyr feistroli’r gem ymhob agwedd o’r chwarae.
Chwarae teg i gefnogwyr Bradford fe ddalion nhw ati tan y diwedd i gefnogi ei tim a oedd wedi trechu rhai o’r timau gorau i gyrraedd y final.
Roedd hi’n hyfryd cael bod yno ar ddiwrnod hanesyddol arall yn hanes y clwb.Roedd y daith adre yn un bleserus iawn yn enwedig wrth feddwl am y timau fydd yn ymweld a’r Liberty y tymor nesa’! Mae’n anodd credu fod yr Elyrch wedi cyflawni cymaint yn y blynyddoedd diwethaf.Mae’r cefnogwyr yn sicr yn mwynhau y cyfnod llwyddiannus yma yn hanes y clwb!
Nawr am weld arwyr Real Madrid,Inter Milan,Barcelona a.y.y.b.
Ymlaen at y Championais!!!
Glo Man: Eisteddfod Ysgol Gwaun Cae Gurwen
Dathlu nawddsant Cymru oedd pob plentyn yn yr ysogl ar Fawrth y 1af wrth gynnal eisteddfod flynyddol yr ysgol. Cafodd holl rieni eu diddanu gyda eitemau megis partion llefaru, unawdwyr, corau a grwpiau dawnsio disgo. Diolchwn i’r beirniaid am eu gwaith caled yn ystod y dydd sef Miss Sharon Sunderland a Mr Owain Talfryn Morris. Gwnaeth Rev Alan Mauder beirniadu’r gwaith celf a Mrs Glenys Protheroe yn beirniadu cystadleuaeth y Gadair. Yr enillydd eleni oedd Tomos Roach. Da iawn ti.
Glo Man: SEREN YN SERENNU!
Daeth llwyddiant i ferch leol yng Ngala Nofio’r Urdd yng Nghaerdydd yn ddiweddar.
Enillodd Seren Thomas ei râs rhagbrofol cyn gorffen yn 6ed yn y rownd derfynol. Golyga hyn mai Seren yw’r chweched ferch cyflymaf yng Nghymru ar ddull broga yn ei hoedran.
Glo Man: CWIS MENTER BRO DINEFWR
Roedd Clwb Rygbi Rhydaman yn ddistaw iawn ddydd Gwener Chwefror 1af pan ddaeth timoedd yr ardal at ei gilydd i gystadlu mewn Cwis Cyffredinol. Roedd pawb ar bigau’r draen yn barod i glywed y cwestiwn nesaf!Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gefnogi’r noson a hefyd i’r cwis feistr arbennig, Edwyn Williams, sydd bob amser yn llwyddo i feddwl am gwestiynau diddorol. Llongyfarchiadau hefyd i’r tîm buddugol a welir yn y llun. Edrychwn ymlaen at y Cwis nesaf, dyddiad i ddod!
Glo Man: FUTSAL
Trefnodd Menter Bro Dinefwr Gynlluniau Chwarae ‘Futsal’ llwyddiannus iawn eleni yn ystod hanner tymor rhwng 11-13 Chwefror yng Nghanolfan Hamdden Rhydaman. Prif bwrpas y gweithdai oedd dysgu rheolau sylfaenol pêl droed ‘Futsal’, dysgu technegau newydd ac yn bennaf oll, cael hwyl mewn amgylchedd anghystadleuol, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Daeth llu o blant at ei gilydd ac roeddent wrth eu boddau yn cymryd rhan yn y sesiynau. Ar trydydd diwrnod bu camerâu o raglen deledu Prynhawn Da yn ffilmio’r plant wrth iddynt gael yr hyfforddiant. Parhau i ddarllen
Glo Man: GWEITHDY COGINIO
Daeth 30 o blant at ei gilydd ar 12 Chwefror i gymryd rhan mewn Gweithdy Coginio yn Llyfrgell Rhydaman a drefnwyd ar y cyd rhwng Menter Bro Dinefwr a’r Llyfrgell. Gan ei bod yn ddydd Mawrth Ynyd ar y diwrnod hwnnw penderfynwyd coginio crempog gyda’r plant.
Mae’r gweithdai coginio’n boblogaidd iawn erbyn hyn a chânt eu trefnu yn ystod pob gwyliau ysgol a bydd y sesiwn nesaf yn cael ei chynnal yn ystod gwyliau’r Pasg. Efallai fod y gweithdy coginio yma wedi ysbrydoli plant yr ardal i ddilyn ôl traed Jamie Oliver!
Glo Man: Priodas Aur
Llongyfarchiadau i Eurfil a Rhiannon Davies, Heol Blaenau ar ddathlu eu Priodas Aur yn ddiweddar. Daeth nifer o’u perthnasau a’u ffrindiau ynghyd i Fwyty’r Valans i ddathlu’r diwrnod arbennig ac i ddymuno’n dda iddynt.
Mae’r ddau wedi bod yn aelodau selog yn Sion ar hyd eu hoes ac mae eu cyfraniad tuag at weithgarwch “Pryd ar Glyd” o gylch y pentref wedi bod yn amhrisadwy. Dymuniadau gorau i’r ddau ar gyrraedd y fath garreg filltir a dymunwn y cânt iechyd i fwynhau degawdau eto yng nghwmni ei gilydd.
Mae’r ddau wedi bod yn aelodau selog yn Sion ar hyd eu hoes ac mae eu cyfraniad tuag at weithgarwch “Pryd ar Glyd” o gylch y pentref wedi bod yn amhrisadwy. Dymuniadau gorau i’r ddau ar gyrraedd y fath garreg filltir a dymunwn y cânt iechyd i fwynhau degawdau eto yng nghwmni ei gilydd.
Glo Man: Byd y Ddrama
Cynhaliwyd Gwobrau Adolygwyr Theatr Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar – noson wobrwyo newydd i anrhydeddu unigolion a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru. Datblygodd y gwobrau drwy cynllun a gychwynnodd dair blynedd yn ôl i annog pobl ifanc rhwng 12 a 25 oed i adolygu’r celfyddydau yng Nghymru.
Enillydd gwobr yr Actor Gorau oedd Simon Watts, mab Philip a Non Watts, Parc Bwtri Mawr am ei ran amlwg yn y ddrama “Llwyth”. Bu’r ddrama ar daith drwy Gymru ac yna i Gaeredin
a gwyl yn Nhaiwan. Mae Simon hefyd yn actio’r cymeriad “Gethin” ar Pobol y Cwm ac yn llwyddo’n eithriadol yno hefyd. Llongyfarchiadau mawr iddo.
Rebecca Harries (Sali Mali) o Landybie gipiodd y wobr am yr Actores Orau (mewn cynhyrchiad Cymraeg) am ei pherfformiad cofiadwy yn y ddrama “Llanast”. Parhau i ddarllen
Glo Man: Merched y Wawr – Cwmni Caws Caerfyrddin
Cafwyd noson wahanol, ond tu hwnt o ddifyr yn ddiweddar. Yr ymwelwyr oedd perchnogion Cwmni Caws Caerfyrddin, sef Sian Elin, merch Hywel ac Enid Davies, Heol Pentwyn a’i gwr Stephen Pearce. Bu eu merch, Mia yn olrhain hanes y cwmni ac yna bu’r aelodau yn mwynhau blasu pob
math o gaws a sudd Schloer. Yn cynorthwyo gyda’r paratoadau oedd eu mab Joseph ynghyd â Betsan, chwaer Sian Elin.
Ym mis Hydref 2012 enillodd y cwmni’r wobr gyntaf am gaws gafr yng ngwobrau “Gwir Flas”.
Cynhaliwyd y seremoni yn y ganolfan fwyd newydd ar faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd. Gyda llaw, cwmni TRJ, y Betws adeiladodd y ganolfan. Dyma drydedd wobr “Gwir Flas” i Gwmni Caws Caerfyrddin dderbyn yn ystod y dair blynedd ddiwethaf.
Dymuniadau gorau iddynt am lwyddiant pellach yn y dyfodol.
math o gaws a sudd Schloer. Yn cynorthwyo gyda’r paratoadau oedd eu mab Joseph ynghyd â Betsan, chwaer Sian Elin.
Ym mis Hydref 2012 enillodd y cwmni’r wobr gyntaf am gaws gafr yng ngwobrau “Gwir Flas”.
Cynhaliwyd y seremoni yn y ganolfan fwyd newydd ar faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd. Gyda llaw, cwmni TRJ, y Betws adeiladodd y ganolfan. Dyma drydedd wobr “Gwir Flas” i Gwmni Caws Caerfyrddin dderbyn yn ystod y dair blynedd ddiwethaf.
Dymuniadau gorau iddynt am lwyddiant pellach yn y dyfodol.
Glo Man: Newyddion Canolfan y Mynydd Du
Mae’n siwr bod defnyddwyr y Ganolfan wedi sylwi bod yna wynebau newydd ymhlith y staff erbyn hyn
Ffion (Ffon newydd nid y Ffion oedd yma o’r blaen. Ffion sy’n gyfrifol am farchnata’r lle.
Yn ystod Mis Mawrth cynhaliwyd Bore Coffi Gwyl Ddewi pan oedd Clwb Cloncian yn cael ei lawnsio ac a fydd nawr yn cael ei gynnal bob bore Gwener am 11 o’r gloch er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr i siarad Cymraeg yn eu cymuned leol.
Ffion (Ffon newydd nid y Ffion oedd yma o’r blaen. Ffion sy’n gyfrifol am farchnata’r lle.
Yn ystod Mis Mawrth cynhaliwyd Bore Coffi Gwyl Ddewi pan oedd Clwb Cloncian yn cael ei lawnsio ac a fydd nawr yn cael ei gynnal bob bore Gwener am 11 o’r gloch er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr i siarad Cymraeg yn eu cymuned leol.
Cynhaliwyd nifer ow eithgareddau eraill hefyd yn ystod y mis – e.e.
dosbarthiadau Dawnsio “Ballroom” a ddechreuodd ar Fawrth 8fed ar gost o £3 am un person neu £5 am ddau berson.
dosbarthiadau Dawnsio “Ballroom” a ddechreuodd ar Fawrth 8fed ar gost o £3 am un person neu £5 am ddau berson.
Glo Man: Gwasanaeth Gwyl Ddewi Gellimanwydd Rhydaman
Hyfryd oedd gweld cymaint o deuluoedd ifanc yng ngwasanaeth Bore Sul 24 Chwefror pan cynhaliwyd ein Gwasanaeth Teuluol i ddathlu Gŵyl Ddewi. Roedd nifer o blant bach yn cyrmyd rhan am y tro cyntaf a braf oedd gweld eu bod wedi dysgu eu rhannau yn drylwyr.
Yn ystod y gwasanaeth cawsom ein hatgoffa ein bod yn aml yn rhy brysur gyda’n bywydau bob dydd ac yn canolbwyntio ar y pethau y tybiwn ni sy’n fawr nes ein bod yn anghofio gwneud y pethau bychain. Ie yn aml iawn y pethau bach y byddwn ni’n eu gwneud sy’n gwneud y mwyaf o wahaniaeth.
Yn ystod y gwasanaeth gweinyddwyd y Sacrament o Fedydd pan bedyddwyd Gruff Ifan, mab Alun ac Elin Rees. Mae Gruff yn frawd i Tomos a Gwenan sydd yn aelodau ffyddlon o Ysgol Sul Gellimanwydd.
Wedi’r oedfa cawsom gyfle i gymdeithasu gyda’n gilydd tra’n cael cwpanaid o de a pic ear y maen yn y Neuadd.
Glo Man: Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman
Cynhaliwyd cinio Chwefror Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman yn y Ganolfan Aman, Rhydaman, Nos Iau, Chwefror 7fed dan lywyddiaeth Dafydd Wyn, Glanaman.
Y prif westai oedd Meri Huws, Comisiynydd yr
Iaith Gymraeg cyntaf Cymru. Brodor o Gaerfyrddin yw Meri ond yn awr yn byw yn Llandeilo a hynny am yr eil dro. Bu yn byw yno pan yn ferch fach ac ar ôl addysg uniaith Saesneg bron yng Nghaerfyrddin fe ddaeth o dan ddylanwad Noel John yn Ysgol Gymraeg Teilo Sant. A bu hyn ddechrau sparduno ei diddordeb yn y Gymraeg. Banciwr oedd ei thad ac fel gweinidog Wesle fe symudodd y teulu yn gyson. Gadael Llandeilo a symud i Abergwaun a mynychu yr Ysgol Gynradd yno. Y pryd hynny roedd dylanwad y Gwyddel yn fawr ar y dref. Mi roedd yno un garfan fechan o Gymry Cymraeg Cwm Gweun yn mynychau’r ysgol. Mi roedd y ffordd warthus y cawsant eu trin – fel ‘hill billies’ – a wnaed iddi fod yn benderfynol o frwydro dros y Gymraeg.
Bu Meri yn darlithio am gyfnod yn Iwerddon a sylwodd pa mor hyderus a sicr oedd y Gwyddel
ohono’i hun. Roedd y Gwyddel yn browd o’i etifeddiaeth. Pwysleisiodd bod yn rhaid i ni drosglwyddo’r hyder hwn i’n bywyd fel Cymry Cymraeg. Mae llawer gyda ni i fod yn falch ohono. Ma gyda ni’n hiaith a’n cyfreithiau sydd yn mynd yn ôl i 1536 i gyfnod Hywel Dda.
Mae swyddfa’r Comisiynydd yn derbyn llawer o gwynion – tua 100 y mis – a’r mwyafrif ohonynt yn erbyn y Bwrdd Iechyd. Anogodd ni i fod yn llawer mwy hyderus ac i fynu ein hawliau, i ddefnyddio y ffurflenni ac yn enwedig y twll yn y wal trwy gyfrwng y Gymraeg a gwneud popeth yn ein gallu drwy’r Gymraeg. Y mae gan y Comisiynydd bwerau mawr gan gynnwys yr hawl i ddeddfu’r Cynghorau Sir, Byrddau Iechyd, pobl busnes, a.y.y.b. i ymateb i ofynion y Cymry Cymraeg.
Gofynwyd nifer o gwestiynau i’r Comisiynydd ac fe gafwyd trafodaeth frwd a aeth ymlaen am bron dri chwarter awr. Noson arbennig iawn ac mae’n dyled yn fawr i bobl fel Meri Huws am ddod i’r adwy a’n gwneud yn ymwybodol o’r hyn a ellir ei hawlio yn ein mam-iaith.
Glo Man: Prynhawn Da
Cafodd y rhaglen ‘Prynhawn Da’ (S4C) groeso cynnes gan Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydaman yn ddiweddar.
Chwefror. Pwrpas yr ymweliad oedd i ffilmio am
lwyddiant yr ysgol ar yr rhaglen ‘Eco-Sgolion’. Ar ôl deng mlynedd o waith caled, mae’r ysgol wedi derbyn y wobr blatinwm gan ‘Cadwch Gymru’n Daclus’. Yn y llun mae un o ohebwyr y rhaglen, Dafydd Wyn Rees, Rheinallt Williams (Cadwch Gymru’n Daclus), Mr Geraint Davies (prifathro), Anwen Minchin (athrawes) ac aelodau o Eco-bwyllgor yr ysgol.
Cofiwch os oes gennych unrhyw straeon, storiau neu ddigwyddiadau i’w hysbysebu cysylltwch â Tinopolis.
Chwefror. Pwrpas yr ymweliad oedd i ffilmio am
lwyddiant yr ysgol ar yr rhaglen ‘Eco-Sgolion’. Ar ôl deng mlynedd o waith caled, mae’r ysgol wedi derbyn y wobr blatinwm gan ‘Cadwch Gymru’n Daclus’. Yn y llun mae un o ohebwyr y rhaglen, Dafydd Wyn Rees, Rheinallt Williams (Cadwch Gymru’n Daclus), Mr Geraint Davies (prifathro), Anwen Minchin (athrawes) ac aelodau o Eco-bwyllgor yr ysgol.
Cofiwch os oes gennych unrhyw straeon, storiau neu ddigwyddiadau i’w hysbysebu cysylltwch â Tinopolis.
Glo Man: Eisteddfod Ysgol Gymraeg Rhydaman
Llongyfarchiadau i bawb gymerodd rhan yn Eisteddfod yr ysgol. Roedd yn lwyddiant ysgubol eleni eto.
Yn ystod y seremoni Cadeirio a’r Goron roedd rhai o ddisgyblion derbyn yr ysgol yn cyflwyno’r ddawns flodau.
Y Llys buddugol eleni oedd Bendigeidfran ac yn y llun gwelwn Oliver Parkin a Joshua Clacy yn derbyn tlws yr Eisteddfod. Parhau i ddarllen
Glo Man: Banana Sblit hiraf erioed yn Rhydaman!

Mae Rhydaman wedi adnewyddu ei statws fel Tref Masnach Deg a dathlwyd y ffaith yn swyddogol yn ystod Pythefnos masnach Deg eleni, a chafodd ei chynnal rhwng 25 Chwefror
tan 08 Mawrth.
Hefyd yn ystod y pythefnos ar Nos Wener 8 Mawrth cynhaliwyd ein Banana Sblit Enfawr yn Arcade Stryd y Coleg, a oedd hyd yn oed yn hirach 2013!
Gosodwyd y y banana sblit am 5.45pm ac yna
ei fwyta am 6.00pm !
Roedd gennym westai arbennig, sef Sandra Joseph, Ffermwraig Banana Masnach Deg o St Lucia! Siaradodd Sandra am ei bywyd fel ffermwraig banana masnach deg yng nghaffi cymunedol i-smooth yn syth ar ôl y banana sblit.
Glo Man: Lleisiau’r Cwm
Yn ddiweddar bu Cor Lleisiau’r Cwm yn diddori Cymdeithas Cerdd a Drama
Llanelli yn Neuadd Glenalla Llanelli.
Mae’r Cor merched yma o Ddyffryn Aman yn hynod o weithgar ac yn ddiolchgar iawn i Catrin Hughes eu harweinydd a Cristopher Davies a Nerys Clarke y cyfeilyddion.
Glo Man: Y PLAS – fedrwch chi fyw yn 1910?
Cyfres deledu newydd sbon ar S4C ym mis Medi 2013…
Mae cynhyrchwyr ‘Coalhouse’ a ‘Snowdonia 1890’ nawr am roi’r cyfle i CHI deithio yn ôl mewn amser i brofi bywyd unigryw mewn plasdy crand Cymreig yn 1910.
Rydym yn chwilio am unigolion a theuluoedd o bob oed i fyw a gweithio mewn Plasty bendigedig am 3 wythnos ym mis Medi eleni. Ai chi fydd y bwtler, y cogydd, y forwyn, teulu’r ffermdy….neu hyd yn oed y Sgweier a’i wraig?! Bydd eich bywyd yn Y Plas yn golygu gwisgo, gweithio, bwyta a chwarae yn union fel yr oedd hi yn 1910, a bydd ein camerau ni yn dilyn bob cam ar gyfer cyfres uchelgeisiol ar S4C yn yr hydref.
Efallai eich bod wedi dwli ar y dramáu sy’n rhoi blas ar fywyd ‘upstairs/downstairs’, neu efallai bod perthynas wedi byw neu weithio mewn plasdy yn y gorffennol. Nawr dyma’ch cyfle chi i gamu i draed ein cyndeidiau am brofiad bythofiadwy ddaw a’n hanes ni’n fyw.
Am ffurflen gais, cysylltwch â’r tîm cynhyrchu ar yplas@yplas.tv neu 029 20 671540.
Dyddiad Cau: 26 Ebrill 2013
Glo Man: Carnifal Cwmaman – Croeso Cynnes i Bawb a Chystadlaethau Rygbi
Ym mis Mehefin, bydd pawb yn bachu ar y cyfle i fynd i bedwerydd carnifal blynyddol Cwmaman.
Am y tro cyntaf, bydd diwrnod traddodiadol hwyl yr haf yn y Garnant a Glanaman, sydd i’w gynnal ym Mharc yr Aman ar 29 Mehefin, yn cynnwys twrnamaint rygbi i’r rhai dan 7 oed, dan 10 oed a than 15 oed.
Bydd pecyn adloniant y Diwrnod o Hwyl i’r Teulu yn cynnwys gorymdaith draddodiadol o gerbydau carnifal, celf a chrefft, atyniadau’r brif arena, unedau bwyd a diod, arddangoswyr a stondinau cymunedol, reidiau ffair bleser i blant ac i oedolion, stondinau, yn ogystal â’r cystadlaethau rygbi.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Madge, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Rwyf wrth fy modd fod y digwyddiad hwn yn datblygu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae hynny diolch i waith caled pawb sy’n ymwneud â’r achlysur.
“Hoffwn weld ein carnifal ni yn garnifal heb ei ail a gweld y gymuned gyfan yn dod iddo.
“Mae’r gystadleuaeth rygbi’n siŵr o fod yn boblogaidd iawn gan olygu y bydd llawer yn rhagor o bobl yn rhan o ddiwrnod mawr y gymuned.”
Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Evans, Maer Cwmaman, yr hoffai weld pob teulu yn chwarae ei ran yn y carnifal. “Yn y blynyddoedd diwethaf, mae mwy na 1,200 o bobl wedi bod yn rhan ohono. Gyda chymaint yn digwydd eleni, rwyf am weld ymdrech ychwanegol, rhagor o gerbydau carnifal a rhagor o bobl mewn gwisgoedd ffansi yn ymdrechu i sicrhau mai hon fydd ein gorymdaith orau erioed.”
Ymhlith y partneriaid mae Clwb Rygbi Amman United, Pwyllgor Carnifal Cwmaman, Cyngor Tref Cwmaman, Cyngor Sir Caerfyrddin a thîm datblygu chwaraeon y Cyngor.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan yn y Carnifal gysylltu â Janet Morris drwy anfon neges e-bost at janetpatriciamorris@hotmail.co.uk . Gall darpar arddangoswyr anfon neges e-bost at HyDavies@sirgar.gov.uk
Glo Man: Dathlu 90
Llongyfarchiadau i Mrs Ira Davies, Heol y Barry ar ddathlu ei phenblwydd yn 90 oed yn ddiweddar.
Yn y llun mae Mr Dai Jones, Cadeirydd Cyngor Cymuned Gwaun Cae Gurwen yn cyflwyno plât y Gymuned i Mrs Davies. Hefyd yn y llun mae ei mab Jeffrey sydd bellach yn byw yn ardal Caerfaddon.
Ymhlith y llu o ffrindiau a pherthnasau a ddaeth ynghyd oedd ei mab hynaf Ralph a ddaeth gartref i
ddathlu gyda ei Fam.
Mae Ira yn aelod ffyddlon yng Nghapel Hermon ac yn ddiddorol iawn ei sgwrs. Mae’n wraig heini a’r gorffennol yn fyw iawn iddi, yn enwedig 1958 pan gyflwynwyd y Medal Albert, gan y Frenhines, i’w gˆwr Ken Lesley Davies am iddo aberthu ei fywyd yng nghwaith Glo Y Dilwyn, Blaendulais wrth achub cydweithwr ifanc iddo.
Glo Man: Anrheg Annisgwyl – Crys Leon Britton
Ynghanol cawod o eira trwm, brynhawn Mercher y 23ain o Ionawr, teithiodd miloedd o gefnogwyr Yr Elyrch i Stadiwm Liberty yn barod am y gem arbennig yn erbyn un o fawrion y byd pel droed-Chelsea. Roedd Yr Elyrch wedi gwneud yn rhagorol yn Stamford Bridge, cartref Chelsea, yn gynharach yn y mis, ac wedi ennill o ddwy gol i ddim. Nawr roedd yr ail gem yn y Liberty a Chelsea yn ddigon da ,wrth gwrs ,i sgorio sawl gol gan fod ganddynt chwaraewyr talentog,byd enwog. Roedd awyrgylch anhygoel yn y stadiwm a’r cefnogwyr yn canu eu gorau, yn annog y tim i ddal ati i chwarae eu gem arferol.
Roedd yr amddiffyn yn arwrol a chanol y cae yn rhedeg yn ddiflino ac roedd y gem yn ddi sgor erbyn hanner amser.
Wrth i’r ail hanner fynd yn ei flaen, roedd pawb yn synhwyro fod rhywbeth arbennig ar ddigwydd. Cododd y canu yn uwch a phawb nawr yn credu y gallai’r freuddwyd gael ei gwireddu!
Pan ddaeth y chwib i ddynodi diwedd y gem roedd pawb ar eu traed a’r stadiwm yn for o ganu.Roedd pob chwaraewr yn haeddi’r clod mwya, ac fe ddaethant allan fel tim i gymeradwyo’r cefnogwyr.
Daeth nifer o’r chwaraewyr at y cefnogwyr a bu un bachgen bach o Waun-Cae-Gurwen yn hynod o lwcus. Roedd Callum O’Sullivan yn aros gyda’i rieni wrth ymyl y cae pan ddaeth Leon Britton tuag ato gan dynnu ei grys a’i rhoi i Callum.
Dyna anrheg i’w gofio-crys chwaraewr arbennig a fu’n rhan o’r tim a greodd hanes y noson honno.
Glo Man: GŴYL CYHOEDDI EISTEDDFOD SIR GÂR I’W CHYNNAL YN NHREF CAERFYRDDIN
Cynhelir Gŵyl y Cyhoeddi ar 29 Mehefin yn nhref Caerfyrddin
Yn unol â’r arferiad ers rhai blynyddoedd, bydd gormdaith yr Orsedd a Seremoni’r Cyhoeddi’i hun yn rhan o ddiwrnod cyfan o hwyl i’r teulu, sy’n ragflas o’r hyn i ddod pan gynhelir yn Eisteddfod yn Llanelli o 1-9 Awst 2014.
Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, “Mae’n bleser cyhoeddi bod y Pwyllgor Gwaith lleol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’r sir, a Bwrdd yr Orsedd, wedi cytuno mai yn nhref Caerfyrddin y cynhelir y Cyhoeddi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.
“Bydd yr Orsedd a chynrychiolwyr o bob math o sefydliadau a chymdeithasau lleol yn gorymdeithio drwy’r dref a chynhelir y seremoni’i hun ym Mharc Caerfyrddin yn ystod y prynhawn. Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion yn nes at yr amser, a gobeithio y bydd nifer fawr o drigolion yr ardal yn heidio i Gaerfyrddin er mwyn mwynhau digwyddiad mawr cyntaf Eisteddfod 2014.”
Os hoffech chi gofrestru ar ran sefydliad neu gymdeithas leol i fod yn rhan o’r orymdaith swyddogol, anfonwch ebost at gwyb@eisteddfod.org.uk neu ffoniwch 0845 4090 300 i siarad gyda Sioned Edwards cyn 30 Ebrill.
Glo Man: Eisteddfod Gwyl Ddewi Ysgol Gymraeg Rhydaman
Beca Thomas enillodd y Gadair ac Elan Morris y Goron.
Y beirniaid oedd Miss Ruth Bevan ac Mrs Eira Davies.
Hefyd yn y llun gyda’r ddwy sy’n derbyn y Gadair a’r Goron mae Mr Geraint Davies, Pennaeth a Mrs Jean Huw Jones, Cadeirydd y Llywodraethwyr.
Glo Man: Actor ifanc addawol – Cellan Davies-Tommason
Llongyfarchiadau mawr i Cellan Davies- Tommason, Heol Rhydaman, Llandybie ar gael ei ddewis fel yr actor gorau mewn cynhyrchiad o’r sioe gerdd enwog “The King and I” yn y Theatr Newydd yng Nghaerdydd, 2012. Cafodd ei ddewis fel y canwr gorau yn yr Ysgol Ddrama yng Nghanolfan yr Aman hefyd.
Mae Cellan yn ddisgybl blwyddyn 8 yn Ysgol Tregib, Ffairfach ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Gymraeg Rhydaman. Pob lwc iddo i’r dyfodol.
Mae Cellan yn ddisgybl blwyddyn 8 yn Ysgol Tregib, Ffairfach ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Gymraeg Rhydaman. Pob lwc iddo i’r dyfodol.
Glo Man: Merched y Wawr – Cangen y Gwter Fawr
Yn y llun, gwelir Mrs. Gill Morgan Jones, a ddaeth atom i Gangen y Gwter Fawr . Mae hi wedi ymddiddori mewn crefftau yn ymwneud â gwnїo ers blynyddoedd maith, ond yn ystod y degawd diwethaf mae hi wedi treulio y rhan fwyaf o’i hamser sbâr yn arbenigo ar y grefft “Cwiltio”. Gwledd i’r llygaid oedd cael gweld engrheifftaiu o’i gwaith llaw cywrain,medrus. Cafwyd esboniad o gefndir y grefft a sut y daeth Gill ei hunan i ddechrau Cwiltio, yn ogystal ag eglurhad am y lliwiau a’r patrymau celfydd amrywiol ymhob eitem oedd ganddi,- a’r rheiny yn amrywio o fagiau llaw i fagiau siopa, ac o gwiltiau i ddol i gwiltiau gwely dwbl! Erbyn hyn, mae Gill yn helpu i hyfforddi eraill yn y grefft, ond mae hefyd yn dal i fynd i ddosbarth er mwyn parhau i ddysgu mwy ei hun.
Glo Man: Casglu Bagiau
Fel rhan o ymgyrch casglu bagiau Merched y Wawr mae Elan Daniels a Mari Llywelyn wedi bod yn ein hannog i gyflwyno hen fagiau. Maent yn derbyn unrhyw fagiau, mewn unrhyw gyflwr. Byddant yn cael eu trosglwyddo i gangen Merched y Wawr Rhydaman, ac yna i&… Parhau i ddarllen
Glo Man: Cantorion yn cyrraedd y brig
Mae côr o ddisgyblion ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin wedi cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth Côr Cymru 2013 S4C.
Bydd Côr Ysgolion Uwchradd Sir Gaerfyrddin a gafodd ei ffurfio dri mis yn ôl yn cystadlu am le yn y rownd derfynol y mis nesaf.
Gwasanaeth cerdd y Cyngor sy’n trefnu’r côr merched ac mae’r cantorion i gyd yn ddisgyblion yn ysgolion uwchradd y sir. Islwyn Evans, athro cerdd peripatetig, yw arweinydd y côr.
Dywedodd Gareth Kirby, Cydgysylltydd y Gwasanaeth yn Sir Gaerfyrddin ei fod wrth ei fodd â chyflawniad y côr.
“Hwn yw’r tro cyntaf i wasanaeth cerdd y sir roi cynnig ar y gystadleuaeth ac rydym wedi cyrraedd y rownd gynderfynol. Rydym ni’n falch iawn o’r disgyblion a’r staff sy’n cymryd rhan. ” meddai.
“Mae Côr Cymru yn un o brif gystadlaethau corawl Cymru. Ffurfiwyd y côr gwta dri mis yn ôl ac mae’r gamp yn adlewyrchu’r doniau lleisiol ardderchog sydd gennym yn Sir Gaerfyrddin.”
Cynhelir y rownd nesaf yn Aberystwyth ym mis Chwefror a chaiff ei darlledu ar y teledu ychydig ar ôl hynny.
Ychwanegodd y Cynghorydd Keith Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: “Carai’r adran addysg longyfarch y disgyblion a’r athrawon ar gyrraedd y rownd gynderfynol. “Mae’n adlewyrchu gwaith caled y disgyblion, y rhieni a’r athrawon ynghyd â’r doniau naturiol sy’n cael eu meithrin gan y gwasanaeth cerdd.”
Glo Man: Lleisiau’r Cwm yn codi arian i Elusen ‘Fields’
Catrin Hughes(Arweinydd Lleisiau’r Cwm o Ddyffryn Aman) a Catherine a Kirsty Fields o Ysgol Gyfun y Strade. Dros y blynyddoedd mae Lleisiau’r Cwm wedi codi miloedd at achosion da, ac maent yn parhau i wneud. Yn ddiweddar fe godwyd £1,000 i elusen ‘Fields’ -elusen sy’n agos iawn at galon Catrin.
Mae Catherine a Kirsty, efeilliaid, o Ysgol y Strade yn dioddef o glefyd unigryw sy’n effeithio’r cyhyrau, ac erbyn hyn mae’r ddwy yn gaeth i gadeiriau olwyn, ac yn ddibynnol ar beiriannau cyfathrebu i sgwrsio. Nhw mae’n debyg yw’r unig rai yn y byd sy’n dioddef o’r clefyd, ac ychydig fisoedd yn ôl, dilynodd S4C y ddwy am gyfnod ar gyfer y rhaglen ‘O’r Galon’, ‘Fy chwaer a fi’ –rhaglen a oedd yn llawn emosiwn, hiwmor a thristwch. Maent yn ddeunaw oed erbyn hyn, ac er eu bod yn byw adref gyda’u rhieni, maent yn ymweld â Ty Hafan yn gyson.Mae’r clefyd erchyll yma’n effeithio ar gyhyrau yn y corff, sy’n golygu bod y ddwy wedi eu parlysu. Maent yn dioddef o hyd at 100 spasm poenus y dydd, ac o ganlyniad, mae eu cyhyrau yn symud yn afreolus.
Mae Catherine a Kirsty, efeilliaid, o Ysgol y Strade yn dioddef o glefyd unigryw sy’n effeithio’r cyhyrau, ac erbyn hyn mae’r ddwy yn gaeth i gadeiriau olwyn, ac yn ddibynnol ar beiriannau cyfathrebu i sgwrsio. Nhw mae’n debyg yw’r unig rai yn y byd sy’n dioddef o’r clefyd, ac ychydig fisoedd yn ôl, dilynodd S4C y ddwy am gyfnod ar gyfer y rhaglen ‘O’r Galon’, ‘Fy chwaer a fi’ –rhaglen a oedd yn llawn emosiwn, hiwmor a thristwch. Maent yn ddeunaw oed erbyn hyn, ac er eu bod yn byw adref gyda’u rhieni, maent yn ymweld â Ty Hafan yn gyson.Mae’r clefyd erchyll yma’n effeithio ar gyhyrau yn y corff, sy’n golygu bod y ddwy wedi eu parlysu. Maent yn dioddef o hyd at 100 spasm poenus y dydd, ac o ganlyniad, mae eu cyhyrau yn symud yn afreolus.
Does neb yn gwybod beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig, ond mae gan y ddwy neges bwysig i bawb-
“Peidiwch â theimlo trueni drosom ni. Does neb yn byw am byth. Byddwch yn hapus a gwenwch”.
Glo Man: Penblwydd Hapus
Cyflwynwn ein dymuniadau da i Dr.Frank Powell a fu’n dathlu ei benblwydd yn 90 mlwydd oed ar Chwefror 22ain. Bu Dr.Powell yn Feddyg Teulu gyda ni am flynyddoedd lawer a mawr yw’r parch iddo yn y Cwm. Penblwydd hapus iawn, Dr.Powell, a gobeithio y bydd sawl blwyddyn arall o’ch blaen i’w dathlu.
Hefyd, bydd ei wraig annwyl, Mrs.Muriel Powell yn dathlu ei phenblwydd yn 91 oed ar yr 13eg o Fawrth eleni. Pob dymuniad da iddynt i’r dyfodol a mwy na dim, iechyd da.
Glo Man: Arweinydd Plygain yn Ymddeol
Roedd yr Hen Fethel dan ei sang eleni eto gyda chynulleidfa frwdfrydig wedi ymgynull yno am hanner awr wedi chwech ar fore’r Nadolig i gychwyn yr Wyl yn y modd gorau posib. Bu Emyr Jenkins a’i wirfoddolwyr yn atgyweirio’r capel ymlaen llaw a braf oedd ei weld ar ei newydd wedd yng ngolau’r canhwyllau. Cafwyd darlleniadau o’r Ysgrythur, adroddiadau barddonol a gweddĩau ac fe ganwyd carolau’r Nadolig gydag arddeliad. Llywyddwyd am y bymthegfed blwyddyn yn olynol gan Linden Evans a gyflawnodd y gwaith hwn yn effeithiol iawn ers dyddiau Meirion Evans ei ewyrth. Mawr fu ein dyled i’r ddau ohonynt. Gwnaeth Linden ymddeol o’r swydd hon ar derfyn yr oedfa ond fe gynhelir Plygain yr Hen Fethel y Nadolig nesaf eto o dan lywyddiaeth ei olynydd.

.jpg)


































