Archives: Emma Reese

fel y moroedd: sbwriel

Mae’n sbwriel ni’n cael ei gasglu unwaith yr wythnos ers blynyddoedd. Fel arfer mae’r lori’n dod yn hwyr, byth cyn un o’r gloch. Felly es i â phopeth ond y bag sbarion bwyd at ymyl y palmant cyn gadael yn y bore rhag i gŵn ei dorri tra byddwn i oddi … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: awyren fach fach

Mae fy mab hynaf ynghyd ei gyd-fyfyrwyr wrthi’n gwneud awyren fach fach fel y prosiect terfynol yn y brifysgol. Rhaid cynllunio, prynu defnydd a gwneud un sy’n medru codi, hedfan a glanio. Mae’n dipyn o waith, rhaid i mi ddweud! Wedi damwain anffodus, … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: awyren fach fach

Mae fy mab hynaf ynghyd ei gyd-fyfyrwyr wrthi’n gwneud awyren fach fach fel y prosiect terfynol yn y brifysgol. Rhaid cynllunio, prynu defnydd a gwneud un sy’n medru codi, hedfan a glanio. Mae’n dipyn o waith, rhaid i mi ddweud! Wedi damwain anffodus, … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: awyren fach fach

Mae fy mab hynaf ynghyd ei gyd-fyfyrwyr wrthi’n gwneud awyren fach fach fel y prosiect terfynol yn y brifysgol. Rhaid cynllunio, prynu defnydd a gwneud un sy’n medru codi, hedfan a glanio. Mae’n dipyn o waith, rhaid i mi ddweud! Wedi damwain anffodus, … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: awyren fach fach

Mae fy mab hynaf ynghyd ei gyd-fyfyrwyr wrthi’n gwneud awyren fach fach fel y prosiect terfynol yn y brifysgol. Rhaid cynllunio, prynu defnydd a gwneud un sy’n medru codi, hedfan a glanio. Mae’n dipyn o waith, rhaid i mi ddweud! Wedi damwain anffodus, … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: mae’n gynnes

Dyma ni yng nghanol mis Chwefror a hithau’n gynnes fel gwanwyn – rhyw 60 gradd (16C) yma yn Oklahoma. Mae’r gaeaf yma’n rhyfedd o fwyn; dim ond unwaith cawson ni eira a ddiflannodd y diwrnod wedyn. Mae pawb yn ymlacio yn y p’nawn braf gan gynnwys y moc… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: y ffilm

Wedi cael y sgriptiau, roeddwn i eisiau gweld La Vita è Bella unwaith yn rhagor. Felly fu wrth smwddio crysau’r gŵr y bore ‘ma. Cymerodd llawer mwy o amser nag arfer i orffen y gwaith wrth reswm! Ffilm hyfryd heb os – y stori, y sgriptiau, yr ac… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: araith y milwyr

O’r diwedd dw i’n gwybod beth mae milwyr yr Almaen yn gweiddi ar yr Iddewon tra oedd Guido’n rhoi cyfieithiad mwyaf rhyfedd yn y ffilm, La Vita è Bella (Life is Beautiful.) Wrth gwrs y cewch chi ddychmygu i ryw raddau drwy’r amgylchiadau, ond roeddwn … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: kindle eto

Mae’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf; mae’n gyfleus; mae’n hawdd darllen arno fo. Ac eto dw i ddim yn ei licio wedi’r cwbl – Kindle. Does bai arno; mae’n well gen i ddarllen llyfrau go iawn! Dw i’n licio troi’r tudalennau, sgrifennu nodiau arnyn nhw… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: dolis barbi brenhinol

Roedd gan fy merched ddwsinau o ddolis Barbi pan oedden nhw’n iau. Roedd rhaid bod nhw’n gwalio cannoedd o ddoleri’n casglu un ar ôl y llall. Bydden nhw wedi bod yn falch o fuddsoddi eu pres i berchen ar hyn! (Diolch i Aled Huws o Bost Cyntaf am y wyb… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cennin i fwncïod

Dywedir yn Japan fod negi sy’n debyg i gennin yn cynhesu’ch cyrff a gwneud lles i chi. Cafodd mwncïod mewn sw yn Japan negi’n anrheg gan gynhyrchydd yn ddiweddar. Roedd o’n gobeithio na fydd y mwncïod yn dal annwyd, ac wrth gwrs yn hysbysebu ei gynny… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: hotok

Mae gan y gŵr ddiddordeb newydd sef dysgu Coreeg. Wedi cyfarfod myfyriwr o Corea yn y ganolfan hamdden, mae o’n mwynhau ei gwmni’n gyson. Gwahoddon ni fo i ginio sydyn ddoe. Roeddwn i’n digwydd bwriadu paratoi hotok a ges i’n anrheg gan fy mab hynaf a… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: yn hollol annisgwyl

Fedra i ddim credu beth sydd wedi digwydd y bore ‘ma. Pan oeddwn i wrthi’n gweini coffi ar ôl yr ysgol Sul, daeth dynes ddieithr am goffi. Merch un o’r aelodau ydy hi, ac mae hi’n ymweld ei mam yma ar hyn o bryd ond yn byw yn yr Eidal ers 26 mlynedd! … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: gobaith arall

Gan fod ein rhyngrwyd yn annioddefol o araf, cwynodd y gŵr wrth ATT sy’n ein gwasanaethu. Does dim byd i’w wneud ar hyn o bryd oherwydd lle dan ni’n byw, ond mae ATT yn bwriadu gosod llinell newydd yn ein hardal ni erbyn yr haf i wella’r sefyllfa! Hwr… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: myffins cwrw

Doeddwn i ddim yn siŵr sut fyffins a gaen ni pan dywalltais i gwrw yn y cymysgedd o flawd. Roedd yr arogl cwrw’n gryf iawn. Dw i ddim yn yfed cwrw. Fedrwn i ddim prynu un, felly roedd rhaid prynu hanner dwsin (y rhataf wrth gwrs.) Os byddwn i’n methu,… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: gobaith

Dyma nhw’n ôl, y tiwlipau a ges i gan yr hogan o Abertawe yn 2010 (dim tiwlipau o Gymru ond rhai lleol i fod yn benodol.) Ddiwedd tymor y llynedd mi wnes i dorri’r pennau i fwrdd yn ôl gwybodaeth ar y we’n gobeithio y bydden nhw’n blodeuo eto. Dw i n… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: oherwydd yr eira mawr

Dw i wedi gweld hanner dwsin o geirw yn neidio ar draws ffordd, ond welais erioed cynifer ohonyn nhw, ac mewn gorymdaith ar stryd! Druan ohonyn nhw; rhaid eisiau bwyd o ddifrif i wneud ffasiwn beth. Gobeithio bod nhw wedi ffeindio rhywbeth.Ond pam mai … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: dvd il volo

Bydd DVD cyntaf il Volo ar werth Chwefror 28. Wrth gwrs fy mod i wedi archebu copi’n syth. (Yn ffodus mae gen i ddigon o bwyntiau Amazon fel mai ond doler daliais i.) Prynais i chwe chân Eidaleg gan iTune hyd yma a dw i’n mwynhau gwrando arnyn nhw dro… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: fy hoff ddiwrnod

Dydd Llun ydy fy hoff ddiwrnod yr wythnos. Wedi goresgyn penwythnos prysur, mae’n braf cael bod yn y tŷ distaw nes dechrau’r gwasanaeth tacsi am hanner dydd ymlaen. Dydy’r gwaith gwirfoddoli ddim bore dydd Llun chwaith. Dw i’n mwynhau darllen a gwrand… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: gŵyl eira

Cynhelir Gŵyl Eira rhwng Chwefror 6 a 12 yn Sapporo, Japan. Bob blwyddyn dros 200 o gerfluniau eira’n cael eu gwneud gan bobl leol, aelodau’r lluoedd amddiffyn Japan ar strydoedd y ddinas. Ers 40 mlynedd mae timau tramor yn ymuno â’r ŵyl yn ych… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: y cardiau post

Roedden nhw rhwng tudalennau un o’r llyfrau sy’n pentyrru. Roeddwn i’n chwilio amdanyn nhw ers misoedd yn credu’n siŵr na fyddwn i byth wedi  eu tablu nhw – dau gerdyn post a anfonwyd gan gwpl tra oedden nhw ar eu gwyliau yn yr Eidal ddwy flynedd… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: glaw sydyn

Pan oeddwn i ar adael y tŷ p’nawn ‘ma i gasglu’r plant, dechreuodd fwrw glaw ond dim llawer. Felly adawais i’r tri mochyn cwta ar y dec cefn iddyn nhw fwynhau’r awyr iach. Wedi’r cwbl roedd yna gadair os rhaid iddyn nhw gael cysgod rhag glaw. Hanner a… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: camp

Dw i newydd sylweddoli mai Baruto enillodd y twrnamaint swmo cyntaf eleni! Er ei fod o wedi methu ennill yr holl ornestau, fo a enillodd mwyaf (14-1.) Camp fawr gyntaf iddo ers dod i Japan wyth mlynedd yn ôl. Mi wna i ddilyn y twrnamaint nesa ym mis M… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: un o’r aifft

Sgrifennais i am y reslwr Swmo o Estonia o’r blaen. Heddiw gadewch i mi gyflwyno un o’r Aifft, y reslwr Swmo cyntaf o Affrica.Mae Abdelrahman, 19 oed yn dod o Daquahlia. Dechreuodd chwarae Swmo ers pedair blynedd. Enillodd gystadlaethau yn Ewrop sawl t… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: gŵyl gyoza

Cynhalir gŵyl gyoza bob mis Tachwedd ers 13 mlynedd yn Utsunomiya, dinas ger Tokyo. Gyoza ydy saig boblogaidd yn Japan ac mae Utsunomiya’n enwog am nifer mawr o dai bwyta gyoza ynddi hi – dros 80. Mae llawer o bobl yn dod i’r ŵyl i flasu pob mat… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: kaki

Mae yna debygrwydd rhwng y Japaneg a’r Eidaleg o ran ynganu. Mae gan ill dwy’r un llafariaid ac mae’r geiriau’n gorffen efo un ohonyn nhw bob tro (wel, bob tro yn y Japaneg a bron bob tro yn yr Eidaleg.) A dweud y gwir mae’n haws i mi siarad yr Eidaleg… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: peidiwch â chysgu

Doeddwn i erioed wedi ymddiddori mewn operâu ond des i ar draws Nessun Dorma gan Puccini. Mae o’n anhygoel o dda! Wrth gwrs mai efo hwn synnodd Paul Pots feirniaid Britain’s Got Talent flynyddoedd yn ôl, ond doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb ar y … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: kiyoko

Es i i’r cartref henoed gerllaw i weld Kiyoko, dynes o Japan eto heddiw. Ers iddi symud i’r cartref, mae ei demensia wedi gwaethygu; dw i ddim yn siŵr bod hi’n fy adnabod bellach er bod hi’n falch o fy ngweld bob tro. Dim ond llai na blwyddyn yn ôl, … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: sufen sur

Mae tad y gŵr yn rhoi tipyn o hufen sur yn ei uwd. Pan glywais i hynny, roeddwn i’n meddwl byddai hufen sur yn suro’r uwd. Ond ces i fy synnu’n ffeindio fod o’n ychwanegu blas gwych ar fy uwd. Dw i’n gwybod bellach beth i’w wneud efo sbarion o hufen sur. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cinio bach

I ginio bach bydda i’n bwyta beth bynnag sydd ar gael yn y gegin; fydda i ddim eisiau trafferthu coginio drosta i fy hun. Ond heddiw, roedd gen i awydd bwyta spaghetti heb saws. Felly y bu. Coginiais i dipyn o basta mewn padell ffrio; fe wnaeth y dŵr … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: niwsans

Mae’r gŵr ar ei ffordd i Las Vegas er mwyn mynychu cynhadledd optometreg arall. Ffoniodd o’n dweud bod yr awyren yn sownd yn Phenix oherwydd Arlywydd Obama. Mae o ar ei ffordd i Vegas hefyd, felly rhaid i’r awyrennau eraill i gyd aros nes i’w un o gyr… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: tŷ arbennig

Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod yna dai yn Japan a gafodd eu symud a’u hailgodi fel maen nhw’n ei wneud yn San Ffagan. Mae un ohonyn nhw’n perthyn i’r awdur clasurol adnabyddus, sef Soseki Natsume. Roedd y tŷ, sy’n fy atgoffa i o’r ffilm Totoro,… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cario’r ddraig

Mwynheais i hunangofiant Orig Williams yn fawr iawn. Dw i ddim yn ymddiddori mewn reslo ond sgrifennodd Orig mor dda fel roedd yn ddiddorol darllen am ei ornestau a’i hanes. Cymro Cymraeg pybyr oedd o ac roedd o’n cario’r ddraig yn llythrennol ac yn ei… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: un funud fach

Fydda i ddim yn gadael y tŷ heb fy nghamera’n ddiweddar wedi colli cynifer o gyfleoedd i dynnu lluniau da hebddo. Dw i’n falch o fy mhenderfyniad y bore ‘ma pan welais i’r gweinidog yn dal ei ŵyr bach cyn y gwasanaeth. Dyma ruthro atyn nhw efo fy ngh… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: maybe, lucky (enwau’r cathod)

Mae’r plant wedi bod yn gofalu am ddwy gath y gymdoges am bythefnos. Gan fod heddiw ydy diwrnod olaf eu dyletswydd, es i gyda’r plant at y cathod neithiwr i’w gweld nhw. Mae gynnyn nhw fywyd braf! Mewn gair, maen nhw’n meddiannu’r tŷ’r cyfan gwbl yn n… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: prinder toiledau cyhoeddus

Yn ôl y newyddion mae yna 40% llai o doiledau cyhoeddus yng Nghymru na deg mlynedd yn ôl. Gall hyn yn broblem fawr i’r trigolion a’r twristiaid. Tŷ bach ydy’r peth cyntaf a fyddwn i’n chwilio amdano fo lle bynnag awn i. Yn ffodus roeddwn i’n ll… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: rhy araf

Mae’r rhyngrwyd yn mynd yn arafach fyth yn ddiweddar. Roedd o’n araf o’r dechrau, ond mae’r sefyllfa’n gwaethygu. Clywais i fod yr achos ydy bod mwyfwy o bobl yn lawrlwytho ffeiliau enfawr yn ddiweddar a dw i’n byw ymhell o dŵr trosglwyddo. Dydy Skype… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: baswn i’n licio

Dw i ddim yn teimlo’n dda ers neithiwr er fy mod i wedi gwella llawer erbyn hyn. Dw i’n dal i deimlo’n sâl pan ga’ i fwyd neu ddiod. Felly fedra i ddim bwyta fel arfer. Ces i de mintys, te chamomile, ffrwythau ac iogwrt heddiw. Yr hyn dw i’n ei golli … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: lle mae’r gaeaf?

Dan ni’n cael gaeaf ofnadwy o fwyn. Dyma’r tro cyntaf i ni beidio defnyddio’n llosgwr logiau ni hyd at ganol mis Ionawr ers ei brynu 12 mlynedd yn ôl. Does dim sôn am eira go iawn eto. Dw i newydd weld drwy’r ffenestr hogyn mewn crys-T yn beicio heib… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: baruto

Reslwr Swmo o Estonia ydy Baruto Kaito. Mae’n anodd i rai o wledydd eraill gael derbyn ym myd Swmo yn Japan heb sôn am ennill gonest ar ôl y llall. Ond mae o wedi gwneud yn dda iawn ac wedi cyrraedd Ozeki, sef yr ail safle uchaf hyd yn oed. Mae … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: neges

Dydy Radio Cymru ddim ar gael ar hyn o bryd; ces i neges annisgwyl wrth fynd at y linc rŵan. Bydd o’n gweithio nes ymlaen dw i’n siŵr, ond yr hyn sy’n mynd ar fy nerfau ydy mai yn Saesneg mae’r neges. Rhaid i Radio Cymru sylweddoli mai pobl sy’n deal… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: spaghetti arall

Spaghetti efo peli cig y tro hwn – mae’n flasus, llawer gwell na fy un i. Rysait Alessandro ydy o (dw i’n rhoi hyn ar spaghetti.) Roedd i’n arfer ffrio peli cig cyn eu coginio nhw mewn saws tomatos, ond mae Alessandro’n eu coginio nhw mewn saws o’r dec… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: mae pawb yn iawn

Mae’r gŵr newydd ddod adref yn ddiogel. Mae trychineb neu ddau’n debygol o ddigwydd yn y teulu tra bydd o oddi cartref – ces i un o fy nwy ddamwain gar; aeth drws y garej yn sownd, trodd y cyflyrydd awyr a’r oergell pan oedd hi dros 105F….. Dw i’n d… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: saethu â bwa

Mae plant hŷn yr ysgol wrthi’n ymarfer saethu â bwa ers misoedd ar gyfer cystadleuaeth a gynhelir cyn hir. Maen nhw’n ymarfer dwywaith yr wythnos (os bydd y tywydd yn sych) ar ôl yr ysgol. Gan ein bod ni’n cael gaeaf mwyn hyd yma, maen nhw’n mwynhau… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: o hawaii

Mae’r gŵr yn ymweld â’i rieni yn Hawaii ers dyddiau. Amcan y daith ydy eu helpu cymaint ag y sy’n bosibl. Mae tad y gŵr newydd droi’n 91 oed. Er ei fod o’n gymharol iach a byw’n annibynnol (mae o’n dal i yrru!) mae o angen cymorth wrth reswm. Dydy m… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: hwrê i daid!

Dw i’n gwrando ar Mike Huckabee ar y we bob bore. Yn ogystal â’i adroddiad clir o ran y wleidyddiaeth, dw i’n mwynhau clywed hanesynnau diddorol cenedlaethol a rhyngwladol gynno fo.Un diweddaraf oedd am ddyn 84 oed yng Nghaergrawnt a oedd yn baffiwr p… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cyngor mam

Rhaid gwrando ar gynghorion mamau. Mae fy mam sydd yn 90 oed eleni, yn dal i roi cynghorion amrywiol i mi yn enwedig ar bethau ynglŷn â bwyd ac iechyd. Un diweddar oedd rhoi rhywbeth cynnes am eich gwddf pan dach chi’n teimlo’n oer yn y tŷ yn hytrac… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: kindle

Mae un o’r merched newydd brynu Kindle. Roedd yna broblem ar gychwyn oherwydd bod Amazon wedi anghofio rhywbeth technegol cyn ei yrru. Ond mae popeth yn iawn wedi i’r broblem gael ei datrys bellach. Dw i’n cael fy synnu gweld y sgrin fach glir. Mae hi’… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: rysait newydd

Dw i’n mwynhau gweld ryseitiau ar You Tube yn ddiweddar, yn enwedig rhai Eidalaidd drwy gyfrwng yr Eidaleg. Dw i a’r teulu’n hoffi pasta, felly mae hyn yn ffordd dda i mi ddysgu ryseitiau newydd ac iaith ar yr un pryd.Mi wnes i Spaghetti alla Carbonara… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: peryglus!

Pan yrrais i at y groesfan y bore ‘ma efo’r plant, gwelon ni geirw’n croesi’r heol ar frys un ar ôl y llall – un dau tri …. saith i gyd! Cawson ni i gyd fraw. Y groesfan y gwelwyd llawer o ddamweiniau ceir ynddi ydy hi. Yn ffodus croeson nhw’n ddiog… Parhau i ddarllen