Canlyniadau Chwilio: obama

fel y moroedd: neges i obama

Gyrrodd pobl UDA neges glir i Arlywydd Obama bod nhw’n anhapus gydag ef a’r llywodraeth ffederal. Gobeithio byddan nhw’n gwrando arni. Roedd y bobl a etholodd e ddwy flynedd yn ôl eisiau newid, ond newid da. Parhau i ddarllen

fel y moroedd : llongyfarchiadau!

Llongyfarchiadau mawr i Lywodraethwr Kevin Stitt a Cyngreswr Markwayne Mullin am eu buddugoliaeth! Fe wnaeth y Gweriniaethwyr yn dda ar y cyfan gan ennill y Senedd a’r seddau pwysig mewn nifer o’r taleithiau. Er bod nhw wedi colli’r Gyngres, llawer lla… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : anrheg nadolig

Mae’r bil gostyngiad trethi newydd gael ei gymeradwyo am y tro olaf cyn i’r Arlywydd ei arwyddo er gwaethaf pawb a phopeth – 3.2 triliwn o ddoleri. Bydd o’n chwali drwg-enwog mandad Obamacare i unigolion hefyd. Eisoes cyhoeddodd nifer o fusnesau mawr f… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : dewis

Mae gan bawb ddewis; dydy neb yn eich gorfod chi i weithredu’n dreisgar. Doeddwn ni ddim yn gweithredu’n erchyll pan gafodd Obama ei etholi dwywaith, nac Israel pan benderfynodd UNESCO nad oes cysylltiad rhwng Iddewon a Jerwsalem. Bydd eich dewis chi’n… Parhau i ddarllen

fel y moroedd : rhydded

Pasiodd Senedd y ddeddfwriaeth arfaethedig ddoe a fyddai’n diddymu mandad Obamacare. Bydd gan bobl America ddewis prynu neu beidio ei brynu, neu beidio prynu yswiriant iechyd o gwbl. Hyd yma dylech chi dalu dirwy os nad oes gynnoch chi yswiriant. (Mae’… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: galaru

Ddewison nhw mo Ffrainc. Am siom. Siom yn union fel y diwrnod enillodd Obama (a dwywaith hyd yn oed.) Ond enillodd Mr. Trump wedi i America ddioddef am wyth mlynedd. Mae gan Dduw gynllun perffaith. Fo a fydd yn ennill yn y diwedd. Duw sydd gan y gair o… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: galaru

Ddewison nhw mo Ffrainc. Am siom. Siom yn union fel y diwrnod enillodd Obama (a dwywaith hyd yn oed.) Ond enillodd Mr. Trump wedi i America ddioddef am wyth mlynedd. Mae gan Dduw gynllun perffaith. Fo a fydd yn ennill yn y diwedd. Duw sydd gan y gair o… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: angen gweddi

Diwrnod Gweddi Genedlaethol ydy hi heddiw. Mae angen gweddi mwy byth arnon ni. Rhoddodd Duw drugaredd ar America a rhoi i ni Mr. Trump, ac eto dydy’r frwydr ddim wedi gorffen; mae hi’n dal yn ffyrnig. Does dim amser i fod yn ddiofal; rhaid dal ati weddïo. Diolch i’r Arlywydd Trump sydd yn cymryd y diwrnod hwn yn ddifrifol. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: codi wal

Maen nhw eisiau codi wal er mwyn amddiffyn y bobl a’r pethau gwerthfawr tu mewn rhag terfysgwyr. Cam doeth ac ymarferol. Na, dw i ddim yn sôn am wal yr Arlywydd Trump ar y ffin ddeheuol. Sôn am wal gwydr mae Ffrainc yn mynd i godi o gwmpas Twr Eiffel dw i. Wedi’r cwbl, codwyd waliau o gwmpas pob castell, Palas Buckingham, y Fatican, Tŷ Gwyn, tŷ Hillary, tŷ Obama, ayyb. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: rhagrith

Mae protest yn erbyn gwaharddiad yr Arlywydd Trump ar fewnfudo’n parhau’n ffyrnig, yn America a thramor.  Ddwedodd y bobl hynny ddim byd yn erbyn Obama pan waharddodd bobl o Irac a Ciwba. Dydyn nhw ddim yn condemnio’r 16 gwlad sydd yn gwahardd y bobl sydd gan basbort Israel. Gwahoddodd Maer Llundain sydd yn prysur gondemnio’r Arlywydd Trump, bwysigion o 11 gwlad allan o’r 16 i’w barti. Dw i’n siŵr bod pawb sydd yn protestio yn erbyn y gorchymyn hwnnw’n cloi drysau a ffenestri eu tai yn y nos nid oherwydd bod nhw’n casáu’r bobl tu allan, ond oherwydd bod nhw eisiau amddiffyn y rhai tu mewn. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: braint

Braint, nid hawl ydy cael caniatâd i fynd i mewn i wlad arall. Dylai pawb ufudd i gyfraith y wlad – ar ei hamodau hi, nid ar ei amodau o. Mae penderfyniad Arlywydd Trump i wahardd y bobl o’r saith wlad dros dro’n hollol resymol heb sôn am ddoeth. Rhaid cofio bod Obama wedi gweithredu’n debyg yn 2011 heb gael beirniadaeth hallt. Ar yr un pryd, cyhoeddodd Arlywydd Trump fyddai fo’n rhoi blaenoriaeth i Gristnogion yn Syria sydd yn dioddef o erledigaeth grefyddol i ddod i America. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: siryf newydd

“Mae’r bobl yn dathlu,” meddai Jane yn Jerwsalem, “oherwydd bod gan America siryf newydd yn y dref.” Penderfynwyd ddoe fyddai cannoedd o dai yn cael eu hadeiladu yn nwyrain Jerwsalem. “Efallai bydd pobl Israel yn cael blaenoriaeth rŵan oherwydd nad oes rhaid i’r llywodraeth blesio Obama mwyach,” ychwanegodd. Fe ddoi’r prif weinidog Netanhahu i weld ein Harlywydd newydd ni mis nesaf. Gall perthynas rhwng America ac Israel fod yn gryf a chynnes iawn heb gysgod o smalio o’r diwedd. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: gweithio’n barod

Dechreuodd yr Arlywydd Trump eisoes weithio yn Swyddfa Hirgrwn chwap ar ôl yr orymdaith ddathlu ddoe. Arwyddodd sawl mesur allweddol gan gynnwys Gorchymyn Arlywyddol i ailwampio drwg-enwog Obamacare. Dydy o ddim gwastraffu amser. Ethol a gafodd er gwaethaf pawb a phopeth; ar ben hynny bydd o’n arlywydd gwych. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cefnogaeth

Falch o weld cefnogaeth gan gant o weriniaethwyr yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr ar gynllun Mr. Trump i symud Llysgenhadaeth America o Tel Aviv i Jerwsalem. Er bod Obama newydd arwyddo waiver i’w atal am chwe mis, gobeithio bydd Mr. Trump yn medru goresgyn y rhwystr, a chyflawni ei addewid yn gynt na’r disgwyl. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cam hurt

Wedi methu pob modd i danseilio buddugoliaeth Donald Trump, ar y Rwsiaid mae Obama’n beio am golled yr etholiad yn ddiweddar, a chymerodd gam hurt tuag atyn nhw. Mae o wrthi’n chwalu America ers iddo gychwyn fel yr arlywydd wyth mlynedd yn ôl. Mynegodd pobl America eu barn, a chollodd o. Pe bai o’n gadael yn ddistaw, gallai fo ennill ychydig o barch. Ond dydy o ddim. Cywilydd cenedlaethol ydy o bellach. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: addewid duw

Roedd o’n llechwraidd hyd at yr etholiad diwethaf, ond yn sydyn dangosodd Barak Hussein Obama ei “wir liwiau” gan helpu (neu gynllunio) datganiad y Cenhedloedd Unedig newydd yn erbyn Israel i basio. Doedd neb wedi melltithio Israel a phara’n hir pa mor… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: enfys

Roedd America’n prysur chwalu ar ôl yr Arlywydd Reagan, ond rŵan mae ganddon ni obaith, er bod Mrs. Obama ddim yn cytuno. Mae Donald Trump wedi rhoi hwb i ysbryd y bobl a’r economi hyd yn oed cyn iddo gychwyn yn swyddogol. Ymddangosodd enfys hardd yn Las Vegas (lle mae Tŵr Trump) y diwrnod cwynodd Mrs. Obama nad oes ganddi obaith. Mae’n well gen i feddwl mai bendith Duw ar y llywodraeth newydd oedd o.

(y llun – tynnwyd gan fy mrawd yng-nghyfraith yn Las Vegas) Parhau i ddarllen

fel y moroedd: na

Dw i ddim yn gwybod yn ddigon er mwyn mynegi fy marn ynghyn â chanlyniad y refferendwm yn yr Eidal. Un peth dw i’n sicr, fodd bynnag, ydy bod o’n ganlyniad da dros bobl yr Eidal, oherwydd bod Barak Hussein Obama wedi bod yn cefnogi’n daer yr ochr “Ie.” Rhaid canmol Mr. Renzi am gadw at ei air ac ymddiswyddo ar unwaith heb ofyn am ailgyfrif. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: stopiwch y terfysgwyr!

Mae pobl yn dal i brotestio yn erbyn Donald Trump mewn dinasoedd mawr, ac mewn modd ofnadwy o dreisgar. Mae nifer ohonyn nhw wedi cael eu talu i achosi cynnwrf, ac maen nhw’n cael eu cludo mewn bysiau o le i le. Mae rhai ohonyn nhw’n gwisgo hetiau a chrysau Trump er mwyn twyllo’r cyhoedd hyd yn oed. Dylai’r arlywydd Obama fod wedi gweithredu’n gadarn i’w hatal erbyn hyn, ond wnaeth o ddim byd. Rŵan collodd hogan fach bedair oed ei thad oherwydd bod yr ambiwlans a oedd yn ei gludo’n cael ei rwystro gan y terfysgwyr ar y ffordd; cyrhaeddodd yr ambiwlans yr ysbyty’n rhy hwyr. Dylai’r arlywydd Obama eu hatal nhw ar unwaith cyn i’r sefyllfa fynd o ddrwg i waeth. Parhau i ddarllen

fel y moroedd: $880

Mae’r gŵr newydd gyfrifo cymaint o dreth fydd rhaid i ni dalu oherwydd bod ni wedi dewis peidio ag ymuno ag Obama Care – 880 o ddoleri. Mae’n well gynnonn i dalu am ofal meddygol ein hunan, ac felly doedden ni erioed wedi prynu yswiriant iechyd. Rŵan, fodd bynnag, does gynnon ni ddim dewis ond ymuno ag Obama Care neu dalu’r ddirwy. Penderfynon ni ddewis yr olaf. Enwodd y gŵr y dreth hon, sef Obama Care Stink Tax! Parhau i ddarllen

fel y moroedd: hetiau newydd

Does dim pres i brynu digon o fwledi ond mae’r llywodraeth eisiau i Marines gael hetiau newydd y bydd yn costio $8 miliwn. Mae’r dynion yn casáur hetiau “merchetaidd.” Gyda llaw, talodd y llywodraeth $3 miliwn i gwmni o Canada i gynllunio gwefan Obamacare sydd ddim yn gweithio. Tybed o le mae’r holl bres yn dod? Parhau i ddarllen

fel y moroedd: niwsans

Mae’r gŵr ar ei ffordd i Las Vegas er mwyn mynychu cynhadledd optometreg arall. Ffoniodd o’n dweud bod yr awyren yn sownd yn Phenix oherwydd Arlywydd Obama. Mae o ar ei ffordd i Vegas hefyd, felly rhaid i’r awyrennau eraill i gyd aros nes i’w un o gyr… Parhau i ddarllen