Archives: glamarchives

Archifau Morgannwg: ‘Adloniant Doniol Hud Artistig’: Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn cefnogi Ymdrech y Rhyfel

Un o’r eitemau mwyaf anarferol yng nghofnodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd a gedwir yn Archifau Morgannwg yw poster (28cm gan 43cm) gyda thaflenni maint cerdyn post ategol yn hysbysebu prynhawn o ‘Humorous Entertainment of Artistic Magic including Sleight of Hand, Novel Magical Effects and Oriental Magic’. I’w gynnal yn Neuadd Cory yng Nghaerdydd, ar 6 Ionawr […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: ‘Olla podrida with Nescio quidquid Sauce’: Trafodion Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd

Mae’r Adroddiad a’r Trafodion a lunnir bob blwyddyn gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn cynnig trysor cudd o ddeunydd ar bob agwedd ar y gwyddorau naturiol. Erbyn 1900, roedd y Gymdeithas yn ffynnu, gyda mwy na 500 o aelodau ac adrannau ar wahân ar gyfer archaeoleg, bioleg, daeareg, ffiseg a chemeg. Coladwyd yr adroddiad a’r papurau […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Hughesovka 1917: Hanes Edith Steel

Mae hanesion y rhan fwyaf o’r teuluoedd Cymreig a fu’n gweithio i’r New Russia Company yn Hughesovka yn dod i ben ym 1917 pan ddychwelon nhw i Brydain yn dilyn cwymp Llywodraeth y Tsar yn nechrau’r flwyddyn. Fod bynnag, roedd llawer o’r gweithwyr tramor wedi byw a gweithio yn Rwsia am lawer o flynyddoedd a’u […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Dianc o Rwsia: Hanes Percy Blackburn

Un o’r llu o ddeunyddiau amrywiol a gaiff eu cadw yn Archifau Morgannwg yn Archif Ymchwil Hughesovka yw cofnod cyflogaeth ar gyfer John Percy Blackburn, a’r dyddiad 26/8 Ebrill 1918 arno, ar bapur sgwennu cwmni’r New Russia Company Limited: To All Whom This may Concern We beg to certify that the bearer Mr John Percy […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Dianc o Rwsia, 1917: Hanes y teulu Cartwright

Mae gan Archifau Morgannwg gopi o basbort a gyhoeddwyd gan y Conswl Cyffredinol Prydeinig yn Odessa i Gwladys Cartwright o Ddowlais.   Mae’r pasbort, fel y rhan fwyaf o ddogfennau swyddogol, yn blaen iawn ac yn gofyn ac yn mynnu: … in the Name of His Majesty all those whom it may concern to allow […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Hughesovka: Menter Gymreig yn Ymerodraeth Rwsia

Aeth John Hughes, peiriannydd o Ferthyr Tudful i Ymerodraeth Rwsia yn ystod y 1870au. Ar wastatiroedd eang a moel y steppes yn ne’r Wcráin sefydlodd waith haearn a’i ddatblygu’n safle diwydiannol anferth. O gwmpas y gweithfeydd tyfodd tref o’r enw Hughesovka. Ganwyd John Hughes ym Merthyr Tudful tua 1815. Roedd yn fab i beiriannydd yng […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: ‘Diwrnod hyfryd a braf’: Taith Maes Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd i Abaty Tyndyrn, Mehefin 1873

Os dychmygwch fod cyfarfodydd cynnar Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd i gyd y tu ôl i ddrysau caeedig yn Heol Eglwys Fair, ac aelodau’r gymdeithas yn syllu drwy eu microsgopau a gwrando ar siaradwyr dysgedig, dyma chwalu’r syniad hwnnw gan lyfrau cofnodion y Gymdeithas sydd yn Archifau Morgannwg.  O’r cychwyn cyntaf, trefnodd y Gymdeithas gyfres o Deithiau […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: ‘Dal i fynd ar hyd afon Nîl!’ Rhaglen ddarlithoedd cyhoeddus gyntaf a lansiwyd gan Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, 27 Tachwedd 1873

Sefydlwyd Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd ym mis Medi 1867 ac yn nhymor yr hydref eleni mae’n dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed.  Yn rhan o’r digwyddiadau y mae’r Gymdeithas wedi eu trefnu, bydd Iolo Williams yn cynnal darlith gyhoeddus, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ddydd Iau 5 Hydref.  Mae’n briodol bod y dathliadau’n cynnwys digwyddiad o’r fath […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Ffosiliau rhedyn a chors…hefyd modrwy arian hynafol a sampl o graig wen: Sefydlu Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd ym mis Medi 1867

Ar 11 Medi 2017 mae Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd yn dathlu ei phen blwydd yn 150 oed. Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Streic y Glowyr, 1984/5

Wrth i gatalogio fynd rhagddo ar Broject Gwaed Morgannwg, mae amrywiaeth y deunyddiau sydd yn y casgliad yn dod fwyfwy i’r amlwg, o adroddiadau am ddamweiniau marwol i gofnodion am y rhaglen i gau’r glofeydd. Mae un o’r setiau diweddaraf o gofnodion i’w catalogio yn ymwneud â streic y glowyr 1984/5. Roedd y streic yn […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Ysgol Adamsdown

Pan sefydlwyd Bwrdd Ysgolion Caerdydd yn 1875, un o’i flaenoriaethau oedd darparu ysgol i 800 o blant yn ardal eglwysig yr Holl Seintiau.   I ddiwallu’r angen hwn, sefydlwyd Ysgol Dros Dro Adamsdown yn yr ystafell ysgol dan Gapel Mount Tabor (y Synagog Diwygiedig Iddewig bellach) yn Moira Terrace.   Yna derbyniodd y Bwrdd, gan yr Ardalydd […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Trosffordd, Cyffordd Tyndall Street a’r Ffordd Gyswllt Ganolog, Caerdydd

Trwy adeiladu’r M4 yng ngogledd Caerdydd, dechreuodd gwaith yn y 1970au ar ddatblygu cysylltiadau da o’r draffordd i mewn i rannau deheuol a chanolog y ddinas.   Nawr iddo gael ei gwblhau, mae’r Ffordd Ddosbarthu Berifferol (A4232) yn ffurfio cylch, yn ymylu de Caerdydd rhwng cyffyrdd 30 (Porth Caerdydd) a 33 (Capel Llanilltern) yr M4. […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Y Tu Mewn i’r Synagog Unedig, Heol y Gadeirlan, Caerdydd

Er bod Iddewon yn byw yng Nghaerdydd yn y 18fed ganrif, ni sefydlwyd cymuned Iddewig tan hanner cyntaf y 19eg ganrif.  Agorodd synagog parhaol cyntaf y dref yn East Terrace, sydd bellach yn ffurfio pen deheuol Ffordd Churchill, yn 1858. Yn y 1880au, ymwahanodd rhan o’r gynulleidfa o East Street gan sefydlu synagog ar wahân […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Tu Mewn, Eglwys yr Holl Seintiau, Adamsdown, Caerdydd

Gall olrhain tarddiad Eglwys yr Holl Saint, Adamsdown yn ôl i 1856 pan adeiladodd Ardalyddes Bute eglwys yn Tyndall Street – ac wedyn ym mhlwyf y Santes Fair – i wasanaethu Anglicaniaid Cymraeg.  Ond ymhen dau neu dri degawd, mae demograffig y rhan hon o Gaerdydd wedi newid; symudodd darpariaeth Gymraeg yn nes at ganol […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Warws Cydweithredol, Rhodfa Bute, Caerdydd

Dechreuodd y mudiad cydweithredol – y mae dosbarthu elw i aelodau yn ôl lefel eu pwrcasiadau yn rhan allweddol ohono – ym 1844 gyda’r Rochdale Pioneers Society yn Sir Gaerhirfryn.  Sefydlwyd cymdeithasau lleol eraill yn gyflym ledled gwledydd Prydain ac, ym 1863, ffurfiwyd The North of England Co-operative Wholesale Industrial and Provident Society Limited – […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Y Capel Ebeneser Gwreiddiol, Caerdydd

Yn 1826, sefydlwyd enwad Annibynwyr Cymreig cyntaf Caerdydd.  Daeth ei aelodau cyntaf o blith aelodau o Eglwys y Drindod ar Stryd Womanby, a’u man cwrdd cyntaf oedd adeilad The Old Coach House. Mae’n ymddangos mai tafarn oedd hwnnw ar stryd sydd bellach yn Heol y Porth heddiw.  Ymhen tua blwyddyn, cawson nhw safle i adeiladu […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Adeiladau Imperial, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd

Yn hwyr yn y 19fed ganrif, roedd Gwesty’r Imperial yng nghornel gogledd-orllewinol Sgwâr Mount Stuart.  Nid oes llun o’r adeilad wedi’i weld ond nid oedd yn sefydliad mawr yn fwy na thebyg.  Mae cyfrifiad 1871 yn cofnodi mai chwe lletywr oedd gan y trwyddedai, Thomas Nixon.  Deng mlynedd yn hwyrach, roedd Nixon mewn gofal o […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Tai yn Heol Casnewydd, Caerdydd (Woodfield Place)

Mae’r garreg dyddiad yn dangos y cafodd y teras hwn, a adnabuwyd fel Woodfield Place yn wreiddiol,  ei godi yn 1860 ar ben gorllewinol yr hyn oedd yn Roath Road ar y pryd. Ar ôl hyn, ymgorfforwyd yr eiddo fel rhifau 10 – 18 yn Heol Casnewydd wedi’i ailenwi. Tan y 1920au, mae’n ymddangos mai […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Tai ym Mhlas Dumfries, Caerdydd

Enwir Plas Dumfries ar ôl Iarll Dumfries – teitl cwrteisi a ddefnyddiwyd gan fab hynaf yr Ardalydd Bute.  Fodd bynnag, mae gwahaniaeth o ran ynganiad; mae Iarllaeth Dumfries yn odli gyda’r gair Saesneg ‘peace’ tra bod pobl Caerdydd yn odli enw’r stryd gyda’r gair Saesneg ‘peas’. Cyfyngwyd datblygiadau preswyl i ochr ddwyreiniol y stryd, gyda’u […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Y Neuadd Ymarfer, Plas Dumfries, Caerdydd

Cafodd y Neuadd Ymarfer ei hadeiladu â chyllid gan ymddiriedolwyr trydydd Ardalydd Bute (oedd yn blentyn dan oed ar y pryd) yn 1867 ar gyfer y gwirfoddol-lu yn bennaf (rhagflaenydd Byddin y Tiriogaethwyr). Cafodd ei dylunio gan bensaer o Lundain, Alexander Roos, a oedd hefyd yn un o ymddiriedolwyr Bute. Cafodd briciau lliwgar eu defnyddio […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: YMCA a Neuadd Cory, Rhodfa’r Orsaf, Caerdydd

Roedd yr YMCA a Neuadd Cory yn  gymdogion drws nesa i’w gilydd ar Rodfa’r Orsaf, gyferbyn â’r fynedfa i Orsaf Heol y Frenhines.  Mae’r ddau yn dyddio o tua 1900. Mae’r YMCA yn olrhain ei wreiddiau yn ôl i 1844, pan ffurfiodd criw o frethynwyr Llundain, dan arweiniad George Williams, Gymdeithas Efengylaidd y Brethynwyr.  Buan […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Stablau Guest, Merthyr Tudful

Gyda chyflenwad lleol digonol o fwyn haearn, calch, coed a glo, roedd Merthyr Tudful yn  ganolfan gynnar bwysig ar gyfer creu haearn a dur. Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Pwmp Melingriffith

Pan adeiladwyd Camlas Morgannwg yn y 1790au, roedd yn tynnu dŵr o Afon Taf ger Cored Radur, trwy’r un ddyfrffos â Gwaith Tunplat Melingriffith oedd yno eisoes.  I osgoi lleihau cyflenwad Melingriffith, roedd y Ddeddf Seneddol a awdurdododd adeiladu’r gamlas yn mynnu bod y gweithredwyr yn echdynnu eu dŵr yn is i lawr yr afon […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Neuadd Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Pan oedd tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ymestyn yn y 1840au, credid y byddai’n ddymunol adeiladu adeilad mawr newydd a fyddai’n ddigon mawr i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus a llysoedd, yn lle hen neuadd y dref, a oedd yn sefyll ar fwâu dros y farchnad.  Cafodd yr adeilad, a ddyluniwyd gan bensaer o Abertawe o’r enw […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Tu mewn y Gyfnewidfa, Caerdydd

Ym 1882, ar alw nifer o foneddigion dylanwadol mewn swyddi’n gysylltiedig â Chaerdydd, bu i’r cyfreithiwr lleol, Frederick De Courcey Hamilton, bennu cynllun er mwyn sefydlu cyfnewidfa a fyddai’n cynnig swyddfeydd cyfleus a man cyfarfod ar gyfer masnachwyr, perchnogion llong, broceriaid a boneddigion eraill cysylltiedig â mentrau morol. Cytunodd asiantau Ardalydd Bute rentu safle yn […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Casgliad Mary Traynor o Gaerdydd

Pan gaiff ardal ei hailddatblygu gall fod yn anodd cofio’r adeiladau a oedd yn sefyll yno ar un adeg.  Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, bydd ein blog yn tynnu sylw at gasgliad sy’n helpu i gofnodi Caerdydd a de Cymru sy’n newid yn gyflym. Ym mis Mehefin 2014, derbyniodd Archifau Morgannwg adnau hynod ddiddorol […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: JP yr Ail yn trosi mwy na JPR: Ymweliad Pab Ioan Pawl yr Ail â Chaerdydd ym Mehefin 1982

Mae’n 35 mlynedd ers i Bab Ioan Pawl yr Ail ymweld â Chaerdydd. Roedd ‘na dorfeydd enfawr ar strydoedd y ddinas ac yn y digwyddiadau awyr-agored yng Nghaeau Pontcanna a Pharc Ninian ar ddiwrnod yr ymweliad, 2 Mehefin 1982. Roedd ‘na groeso Cymreig wrth i gôr ganu “We’ll keep a welcome” pan laniodd awyren y […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Davies yr ‘Ocean’: 130 o flynyddoedd ers ymgorfforiad yr Ocean Coal Company Ltd.

Roedd David Davies, y cyfeirir ato’n aml fel y miliwnydd Cymreig cyntaf, yn gyfrifol am ddatblygiad rheilffyrdd yng Nghymru ac ef hefyd oedd y dyn fu’n gyfrifol am greu dociau’r Barri. Law yn llaw â’r mentrau hyn, canfu lwyddiant hefyd fel perchennog gwaith glo, gan ennill y llysenw “Davies the Ocean” yn sgil ei ddatblygu […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Gwobr o £250: Hanes Lladrad Gemau Caerdydd Ebrill 1920

Un o’r nifer o wrthrychau anarferol sydd i’w canfod yn Archifau Morgannwg yw poster tua 2 x 3 troedfedd, a gynhyrchwyd ym 1920, sy’n cynnig gwobr o £250 am wybodaeth sy’n arwain at arestio “…lleidr neu ladron…” oedd wedi torri mewn i siop gemwaith yng nghanol Caerdydd [DCON/UNL/333].  Wedi ei gyhoeddi gan yr yswirwyr, Messrs […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Dydd Gŵyl Dewi

Ar Fawrth y Cyntaf, mae ysgolion a chymunedau ar hyd a lled Cymru yn cynnal gorymdeithiau, yn gwisgo’r Wisg Gymreig ac yn canu a dathlu Cymreictod ar Ddydd Gŵyl Dewi. Gwelwn o lyfrau log penaethiaid ysgolion (dyddiadur o ddigwyddiadau’r dydd), fod Dydd Gŵyl Dewi wedi cael ei ddathlu yn ysgolion Cymru ers o leiaf ddechrau’r […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Straeon Caru

Hail! genial season of the year To faithful lovers ever dear Devoted be this day to praise My Anna’s charms in rustic lays Now billing sparrows, cooing doves Remind each youth of her he loves My heart and head are both on flame Whene’er I breath my Anna’s name Ysgrifennwyd y llinellau hyn gan ŵr […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: ‘Canaf gân am arwyr oes’: Teyrnged i Heddlu Morgannwg gan SH Caleb Morris

Mae gan Archifau Morgannwg nifer fawr o eitemau sy’n adrodd hanes Heddlu Morgannwg ers ei sefydliad yn 1841. Ymhlith yr eitemau anarferol hyn mae cerdd a ysgrifennwyd gan Ringyll yr Heddlu, Caleb Morris (SH 175) yn 1918 a adwaenir yn, ‘Teyrnged i Heddlu Morgannwg’. Ar yr adeg, roedd Morris yn 48 mlwydd oed a dros […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Noson Burns yng Nghaerdydd

Ar 25ain Ionawr, sef penblwydd Robert Burns, bydd Albanwyr ar draws y byd yn ddathlu Noson Burns.  Yma yng Nghaerdydd, trefnwyd y dathliadau yn traddodiadol gan Gymdeithas Albanaidd Caerdydd, pan fyddai’r aelodau yn dod ynghyd ar gyfer eu swper Noson Burns flynyddol. Ffurfiwyd Cymdeithas Albanaidd Caerdydd ym 1886.  Nod y Gymdeithas oedd i hyrwyddo cyfeillgarwch […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Gwaed Morgannwg: Rhydwelïau Tywyll, Hen Wythiennau

Here, are the stiffening hills, here, the rich cargo Congealed in the dark arteries, Old veins That hold Glamorgan’s blood. The midnight miner in the secret seams, Limb, life, and bread. – Mervyn Peake, Rhondda Valley Mae cerdd Mervyn Peake, Rhondda Valley, yn disgrifio cloddio am lo fel y gwaed roes fywyd i Gymoedd Cymru. […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Y Parch. Henry Bowen ac Annie Bowen o Gaerdydd

Yng nghasgliad Archifau Morgannwg y mae dogfennau teulu’r Parchedig Henry Bowen, offeiriad plwyf Eglwys Santes Catrin, Treganna, Caerdydd. Mae’r archif eang yn cynnwys hanes oes Henry Bowen a’i wraig Annie. Yn ystod y cyfnod hwn yn yr 20fed ganrif bu dau ryfel byd, y dirwasgiad rhwng y ddau ryfel a’r newidiadau cymdeithasol mawr a ddaeth […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: ‘Werth pob ceiniog’: Adeiladu Gorsaf yr Heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1845

Pan sefydlwyd Heddlu Bro Morgannwg ym 1841, bu galw mawr ledled y sir am orsafoedd addas ar gyfer y plismyn newydd. Yn ei adroddiad cyntaf ar gyfer Sesiynau Chwarter Cyffredinol dros Heddwch y Sir, pwysleisiodd y Prif Gwnstabl Capten Charles Frederick Napier ar 30 Awst 1841, fod angen un ai disodli’r cyfleusterau presennol yn gyfan […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Pwdin a Pharsel: Codi arian Nadolig yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae’r Nadolig yn draddodiadol yn adeg pan fyddwn ni’n meddwl am eraill a phan fydd elusennau yn lansio ymgyrchoedd arbennig i godi arian.  Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd hyn yn bwysicach fyth gyda chymaint o filwyr a morwyr yn gwasanaethu dros y dŵr, ymhell o’u teuluoedd a chysuron y cartref. Mae llyfrau log […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: I haeddu dyrchafiad dim ond bod yn sylwgar, deallus a sobor sydd raid: Cyfarwyddiadau ar gyfer Heddlu Sir Morgannwg, 1841

Ym mis Tachwedd 1841, wrth i Heddlu Morgannwg fentro allan i faes y gad am y tro cyntaf, rhoddwyd copi o’r Instructions for the Glamorganshire Constabulary Force i bob un ohonynt. Yn dri deg tri tudalen o hyd ac wedi’i argraffu fel ei fod yn ffitio’n dwt mewn poced, roedd y llyfryn yn rhoi ‘cyfarwyddiadau’ […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Lladrad Haerllug: Yr achos mawr cyntaf i Heddlu Morgannwg

Ymhlith y papurau sydd yn Archifau Morgannwg mae copi o gofnod a ysgrifennodd Uwch-Arolygydd Davies o Heddlu Morgannwg yn 1844. Roedd y fersiwn derfynol yn amlwg am gael ei phasio i ‘Arglwyddi’r Trysorlys’, yn nodi manylion trosedd a ddatryswyd gan Heddlu Morgannwg ac yn gofyn a ellid rhoi gwobr o £50 i ddau heddwas o […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Diwrnod Meddiannu Ysgol Gynradd Goetre

Mae Archifau Morgannwg wedi cael ei meddiannu gan Ysgol Gynradd Goetre, Merthyr Tudful.  Mae’r grŵp sy’n gweithio o fewn ymrwymiad cymdeithasol wedi ysgrifennu blog ynglŷn â beth wnaethon nhw ddarganfod yn yr Archifau. ************** Yn y tloty doedd dim dyddiau di-waith i’r plant oherwydd os oeddent yn bwyta yna roedd rhaid iddynt weithio yna hefyd! […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Byddaf yn gwirioneddol wasanaethu’n dda ein Harglwyddes Sofran y Frenhines a swydd Cwnstabl Sir Forgannwg: Ffurfio Cwnstabliaeth Morgannwg yn 1841

Mae Cwnstabliaeth Morgannwg yn dathlu pen-blwydd ei ffurfio 175 o flynyddoedd yn ôl yn 2016. Mae llawer o’r papurau sy’n ymwneud â sefydlu’r llu a’i hanes hir i’w cael yn Archifau Morgannwg. Mae’r cofnodion yn  rhoi cipolwg fanwl i ni ar ffurfio a datblygiad y llu ers 1841, ac yn agor cil y drws ar […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Dyddiaduron Henry Fothergill: Cysylltiadau Llafur a Streic Aberdâr 1861

Mae’n anodd i ni heddiw werthfawrogi’n llawn rym perchnogion glo a haearn De Cymru yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd llawer yn ymddwyn fel arglwyddi maenorol a phob gweithred o’u heiddo yn effeithio ar fywydau eu gweithwyr – cyflogaeth, tai, cynhaliaeth ac iechyd. Fodd bynnag, doedd bod yn berchennog ar, a rhedeg gwaith […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Dyddiaduron Henry Fothergill: Arloesi ac Arbrofi

Mae’r dyddiaduron cynnar yn cynnwys adroddiadau cyfareddol o arbrofion Henry i gynhyrchu mwy o haearn o ansawdd addas ar gost is (roedd haearn yn cael ei raddio yn ôl ei safon gyda graddfeydd penodol ar gyfer nwyddau penodol). Roedd llwyddiant yn golygu elw uwch i’r cwmni, cymeradwyaeth ei frawd, Richard, a bonws cyflog haeddiannol. Treuliai […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Dyddiaduron Henry Fothergill: Cysylltiadau Teuluol

I mi, un o’r pethau mwyaf braf am drawsgrifio dyddiaduron Henry oedd ymchwilio i gefndiroedd y bobl mae’n eu henwi – ei deulu, ei ffrindiau a’i gysylltiadau busnes. Wedi dod i wybod am hanes y teulu Fothergill, rhoddodd hynny fywyd i eiriau Henry a hefyd i fy nychymyg innau.   Dechreuais i ystyried y teulu fel […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Dyddiaduron Henry Fothergill

Mae project gwirfoddoli hirdymor yn Archifau Morgannwg wedi dod i ben o’r diwedd – mae pob un o 22 o ‘Ddyddiaduron Fothergill’ wedi’u trawsgrifio. Mae’r dyddlyfrau, sy’n groes rhwng dyddiadur a theithlyfr, yn disgrifio bywyd y meistr haearn Henry Fothergill o 1860 – pan oedd y teulu Fothergill yn benaethiaid ar Gwmni Haearn Aberdâr – […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Dathlu’r Bont Grog Hanner Canrif yn hanes Pont Hafren

Afon Hafren fu’r ffin ddaearyddol rhwng De Cymru a De-orllewin Lloegr ers cyn co’. Mae 2016 yn flwyddyn nodedig yn hanes ymdrechion dyn i greu ffyrdd o groesi’r afon hon. Mae’n 130 mlynedd ers agor Twnnel Hafren, yn hanner canrif ers agor Pont Hafren ac yn ugain mlynedd ers agor Ail Groesfan Hafren.   Am […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Adnoddau Addysg Digidol Newydd yn Archifau Morgannwg

Mae Archifau Morgannwg yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i ysgolion, colegau a phrifysgolion – eu myfyrwyr a’u hathrawon – o fewn yr awdurdodau lleol yr ydyn ni’n eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ymweliadau gan grwpiau ysgol o bob oedran.  Mae ymweliadau ysgol am ddim ac yn parhau am hyd at ddwy awr.  Gallwn croesawi 30 […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: O Gaerdydd i Gomin Greenham: Women for Life on Earth

Ym 1986 derbyniodd Archifau Morgannwg cofnodion gan y grŵp heddwch Women for Life on Earth.  Mae’r casgliad yn ymwneud a’r ymdaith heddwch menywod o Gaerdydd i Gomin Greenham yn Swydd Berkshire, a’r gwersyll heddwch sefydlwyd o ganlyniad tu allan i brif fynedfa’r safle awyr yng Nghomin Greenham.  Mae’r papurau yn cwmpasu’r cyfnod 0 1981 tan […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: Taith i Dunkirk: Llythyrau o Ryfel Cartref Sbaen

Gadawodd Gilbert Taylor Gaerdydd am Sbaen ym mis Tachwedd 1937 er mwyn ymladd dros Fyddin y Weriniaeth yn y Rhyfel Cartref a ddechreuodd wedi ymgais  grymoedd y cenedlaetholwyr ym 1936 i ddisodli’r llywodraeth. Mae’r llythyrau a anfonodd at ei wraig, Silvia a’i gyfeillion a chyd-weithwyr yng Nghaerdydd yn sôn am ei wasanaeth â’r Frigâd Ryngwladol […] Parhau i ddarllen

Archifau Morgannwg: ‘Mi dynnais lun y Rhyfel’: Lluniau plant Rhyfel Cartref Sbaen

Taniwyd ergydion cyntaf Rhyfel Cartref Sbaen 80 mlynedd yn ôl ar 17 Gorffennaf 1936. Dros gyfnod o dair blynedd ceisiodd y Llywodraeth Weriniaethol sefyll yn erbyn gwrthryfel Cenedlaetholgar a arweiniwyd gan y Cadfridog Franco. Erbyn i’r Cenedlaetholwyr hawlio buddugoliaeth, yn Ebrill 1939, amcangyfrifir bod hyd at filiwn o bobl wedi colli eu bywydau. Cafodd y […] Parhau i ddarllen