Archives: glynadda

Blog Glyn Adda: Digon o waith

Ar rywbeth arall yr oeddwn wedi meddwl sgrifennu heddiw, ond trawyd fy llygad gan hysbyseb tudalen lawn yn GOLWG gan Brifysgol Aberystwyth, ‘sefydlwyd … yn 1872’ (cywiriad bach i ddechrau, 2007). Yn y gyfrol WELE WLAD, a hysbysebais y tro diwethaf, fe welir cyfweliad a wnaed â’r Athro W.J. Gruffydd yn 2013 ac a ymddangosodd […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Holl Hwyl y Ffair

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Dalen Newydd Llythyr Gildas a Dinistr Prydain. Oedd, roedd hi’n flêr ym Mhrydain y chweched ganrif. Bellach, dyma inni Wele Wlad: Ysgrifau ar Bethau yng Nghymru. Ydi mae hi’n flêr yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain.  Ond yng nghanol y llanast – ac yn wir o’i herwydd – mae tipyn o […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Pedwar cwestiwn

Mae’n debyg y dylid dweud rhywbeth am ferw San Steffan, cynllun diweddaraf Boris, y ‘garreg sa’ draw’ (sef y Northern Ireland Backstop) a phethau felly. Ond heddiw, peth sy’n nes atom ac yn arswydus o bwysig. Dyfynnaf grynodeb GOLWG: ‘Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am unigolyn neu sefydliad i gynnal asesiad o beth fyddai effeithiau […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Downing Street yn Llanystumdwy

Ie diddorol, ‘Codi drws Downing Street yn Llanystumdwy’ medd stori GOLWG 360 heddiw.  Yn wir gallesid codi drysau rhif 10 a rhif 11 gan y bu Ll.G. yn drigiannydd y ddau. Neu beth am gael hefyd ddrws cefn rhif 10, gan mai trwy hwnnw, medd rhai o’r cofianwyr, y byddai Frances yn mynd allan pan […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dinistr Prydain a Yes Cymru

STORI’R GOLLED Unwaith eto ar y blog, dyma dynnu sylw at y gyfrol eithriadol bwysig Llythyr Gildas a Dinistr Prydain, golygiad a chyfieithiad newydd Iestyn Daniel yn ein cyfres ‘Cyfrolau Cenedl’. Gellir gofyn: pam mae hi’n ‘gyfrol cenedl’ i ni’r Cymry?  Yr ateb: am ei bod yn cynnwys o’i mewn yr ymgais gyntaf erioed i […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Pedwar can mlwyddiant

Dyma hi eleni’n bedwar can mlwyddiant geni Morgan Llwyd y llenor o Gynfal yn Ardudwy. Fel awdur rhyddiaith grymus ac arloesol  y cofiwn Morgan Llwyd yn bennaf, y cyntaf yn wir i ysgrifennu llyfrau syniadol gwreiddiol Cymraeg.  Ond yr oedd hefyd yn dipyn o brydydd, a’i gerddi’n adlewyrchu cynnwrf mawr ei oes a’i genhadaeth bersonol […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Enw Gorsedd

Trech Awen na thywydd, fel a ddigwyddodd droeon yn hanes yr Eisteddfod; trech na llawer peth arall hefyd. Llongyfarchiadau i holl drefnwyr Llanrwst, petai ond am hwylustod y parcio a’r bysus gwennol. Gorsedd Cymru? Mae ar batrwm Gorsedd Môn, Gorsedd Powys a Gorsedd Cernyw, ac efallai bod rhyw synnwyr yn hynny. (Yn fy hen ardal […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: I’n darllenwyr iau

Tynnu’ch sylw heddiw at ddau lyfr newydd a fydd o ddiddordeb i’n darllenwyr iau  – ac i rai o’u rhieni a’u teidiau a’u neiniau a’u hen-deidiau a’u hen-neiniau hefyd gobeithio.  Cyhoeddir y ddau gan Atebol Cyf. Stori ffantasi gan Elidir Jones yw YR HORWTH, gyda darluniau gan Huw Aaron. Dyma, fe obeithir, y gyntaf o […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Cysondeb

Ffordd o fynd yn wallgo yw disgwyl cysondeb llwyr mewn bywyd. Ond mae gennym hawl i ddisgwyl RHESYMOL gysondeb ar law llywodraeth a sefydliadau. Dwy enghraifft: (1) Yr wythnos hon yn yr Eisteddfod, Gweinidog y Gymraeg a Chomisiynydd newydd yr Iaith, a’r miliwn yna mewn golwg, yn mynegi llawer o bryder ynghylch y cyflenwad o […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Y Glymblaid-na-bu

Sylw enwog Emrys ap Iwan ar ôl etholiad ym Mwrdeistrefi Dinbych, 1895: ‘yr oedd yn dda gennyf fod Morgan wedi colli ac yn ddrwg gennyf fod Hywel wedi ennill.’ A dyna’r gynghrair-nad-oedd-yn-gynghrair-o-gwbl wedi ennill ym Mrycheiniog a Maesyfed. Buddugoliaeth i’r galluoedd BLAENGAR? Ystyriwch: (1) Ar ei wibdaith i’r Alban, galwodd Boris mewn dau le. (a) […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Ysgol Jacob

Dyma Jacob Rees-Mogg, wrth ddechrau arni fel Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, wedi rhoi gwers a phregeth i seneddwyr, gweinyddwyr ac eraill ar yr iawn ddefnydd o’r iaith Saesneg. Pwy tybed oedd y gwleidydd amlwg diwethaf i roi cyngor ar ramadeg? Efallai mai Churchill, pan atebodd ryw was sifil ifanc a oedd yn or-bryderus rhag gohirio’r arddodiad […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dyna ni felly …

Dyna ni felly, P.C. am gadw draw. Rhan o gynghrair nad yw’n bod … hyd y gwyddom ni. Ynteu a oes rhyw ddealltwriaeth fach yn y cefndir? Darllenwn fod Vince Cable yn werthfawrogol iawn, a hefyd yr ymgeisydd Jane Dodds. O’r gorau, disgwyliwn glywed beth a roir yn gyfnewid … Fel y dywedais echnos, yr […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Unwaith eto: Brycheiniog a Maesyfed

Byth er pan ddechreuais gyntaf ymddiddori yng ngwleidyddiaeth Cymru – ac mae hynny flynyddoedd go faith yn ôl erbyn hyn – rwyf wedi mwydro a phendroni llawer ynghylch dau beth: (1)  Cynrychiolaeth gyfrannol. Ers talwm roedd yn fy mhoeni fod posib i Aelod gael ei ethol dros ranbarth heb fod ganddo fwyafrif o’r rhai a fwriodd […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Brycheiniog a Maesyfed: ateb i’r cwestiwn

Digon o ferw yn y byd eto heno, a barnu wrth Newyddion Sianel 4 gynnau.  Protestiadau mawr Hong Cong. Cynlluniau niwclear Iran. Gwrthdrawiadau yn y Swdán. Ymgyrchoedd Johnson a Hunt ar gefndir holl lanast llywodraeth Prydain … Ond y peth mwyaf sobreiddiol o’r cwbl, y ddau ymgeisydd am arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Rhybudd Ruth

Dyna ni, mae gan Frigâd y Gwalltiau Gleision a llymeitwyr y clybiau Ceidwadol ryw dair wythnos eto i wneud eu dewis. ‘Etholaeth gyfyng’, fe glywyd dweud, ond fel yr wyf wedi sôn o’r blaen dyma’r etholaeth helaethaf o ddigon, hyd yma, ar gyfer dewis prif weinidog Torïaidd. Does dim llawer er pan wneid y dewis […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Pwy gawn ni ?

Yn gyfansoddiadol, gall y Frenhines wahodd unrhyw aelod o Dŷ’r Cyffredin neu o Dŷ’r Arglwyddi i ffurfio llywodraeth. Hwyrach yr hoffech chi, ddarllenwyr y blog, gynnig ambell enw iddi. Ar y llaw arall, mae confensiwn wedi rheoli’r dewisiadau drwy’r blynyddoedd, ac mae gwahaniaeth rhwng (a) dewis prif weinidog hanner ffordd drwy dymor seneddol a (b) […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Y bore wedyn

Dau sylw brysiog. (1) Rhan o ddoethineb traddodiadol gwleidyddiaeth yw fod rhaid ‘meithrin yr etholaeth’. Mabwysiadu ymgeisydd mewn da bryd, hwnnw neu honno’n rhywun gweithgar, ymroddedig, gorau oll os yw’n adnabyddus (lleol os oes modd). Trefnu’n drylwyr. Dod i adnabod pobl. Eu helpu. Eu gwasanaethu. Gweithio’n galed ar faterion lleol. Meithrin amynedd lle mae pethau’n […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Yr ‘adolygiad’ eto

‘Nac ateb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd,’ rhybuddir ni yn llyfr y Diarhebion. Ond mae’r ‘adolygiad’ (blog echnos) yn gwrthod mynd o fy meddwl, gan ei bwysiced i efrydwyr ein llên. Yn y pedwar darn bach a ddyfynnais, mae o leiaf bump o FFEITHIAU HOLLOL NEWYDD am hanes llenyddiaeth Gymraeg. Ai yn yr ‘adolygiad’ […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Duw’n dal i drio (2)

Fel rwyf wedi dweud droeon ar y blog, bydd Rhagluniaeth, yn weddol reolaidd, yn gyrru pethau i geisio gwylltio’r Cymry a’u deffro i wneud rhywbeth ohoni. I’r pwrpas hwn, un dyn y mae’n defnyddio ychydig arno y dyddiau hyn yw’r colofnydd Roger Lewis. Wele ef ddydd Sadwrn diwethaf, 11 Mai, yn y Daily Telegraph yn […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Trwy’r drws heddiw …

Trwy’r drws y bore ’ma, taflen etholiad Ewrop Plaid Cymru, etholaeth Arfon. ‘Mae gan Theresa May, Jeremy Corbyn a Nigel Farage un peth yn gyffredin; yn erbyn dymuniadau pobl Arfon maent eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd.’ Ffeithiol gywir, ond beth a ddywedir wrth bobl Môn, a Brexitwyr brwd y Cymoedd, ac yn wir mwyafrif pobl […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Gweledigaeth Blair a phethau eraill

1. Dyma Tony Blair yn ei ôl o rywle, yn pryderu’n fawr am undod Prydain. Yr Albanwyr sy dros annibyniaeth, meddai, mae’r rheini fel y Brexitwyr. (TROEDNODYN: Fel mae’n digwydd, mae’r rhan fwyaf o ddigon o genedlaetholwyr yr Alban yn wrth-Frexitwyr cryf. Ond hidiwch befo pethau felly …) Syniad Mr. Blair i gryfhau’r wladwriaeth unedol: […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Geiriau benthyg

Eitem fach ddifyr ar BBC Cymru Fyw y bore ’ma, am eiriau benthyg sydd wedi hen wneud eu cartref yn y Gymraeg – congrinero, ciari-dyms &c. Yn awr, cwestiwn cwis i chi (ond peidied fy hen fyfyrwyr ag ateb): Beth sy’n arbennig ynghylch y geiriau benthyg hyn: reit, boi, jest (neu dest / desd), pas, […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dewis digrifwr

Wcráin wedi dewis arlywydd newydd, sef digrifwr a wnaeth enw drwy ddynwared ei ragflaenydd. Ar y radio y bore ’ma, rhyw bapur (Y Guardian ?) Yn cael ei ddyfynnu’n gofyn ‘Pa fath o wlad fyddai’n gosod clown yng ngofal ei lluoedd arfog?’ ATEB: llawer o wledydd, a daw dwy i’r meddwl yn syth, un bob […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Allan yn awr

Dyma lyfr sylfaenol hanes y Cymry. Mae ‘Dogfen Gildas’, fel y gelwir hi yn y golygiad newydd hwn, yn cynnwys dwy elfen: yn gyntaf, llythyr o gerydd chwyrn i arweinwyr seciwlar a chrefyddol Prydain y chweched ganrif; ac yn ail, crynodeb o hanes Prydain hyd at gyfnod yr awdur. Ai un awdur sydd i’r ddwy […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dau gwestiwn i chi

Dyma’r saith-ar-hugain wedi rhoi estyniad bach inni eto. Daliaf ar y cyfle i ofyn dau gwestiwn i chi’r darllenwyr. Ond yn gyntaf ambell sylw byr. (1) Y dyddiau pan oedd y llywodraeth fwy neu lai wedi gollwng yr awenau, a Thŷ’r Cyffredin wedi meddiannu’r drafodaeth, teimlwn fod yna rywbeth digon iach, amheuthun yn wir, yn […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Affwysol

Gwell dweud rhywbeth am isetholiad Gorllewin Casnewydd mae’n debyg. Chwerthin ai crio uwchben canlyniad fel hwn? Gallaf gofio adeg y byddai o leiaf rai ohonom yn ateb ‘crio’. Ond heddiw gallwn ei dderbyn fel rhan o’r llanast cyffredinol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Does raid ond edrych ar gwr arall y wlad: niwcleargarwch cynghorwyr PC Môn, ac […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: PRALLAN ?

Diwrnod o orymdeithiau, ralïau a chynadleddau oedd hi ddoe. Clywn fod tua dau gant o Frexitwyr o Ogledd-Ddwyrain Lloegr (Brynaich a Deifr, chwedl yr hen Gymry) ar eu hymdaith bythefnos tua Llundain, a bod yr hen Farage wedi ymuno â nhw am ychydig filltiroedd. Yn y cyfamser, rali lawer iawn mwy yn llenwi canol Llundain […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Clown, Brown a Brexit

Ddoe wrth gael fy mhaned pnawn digwyddais weld darn o hen ffilm nad oeddwn wedi ei gweld ers blwyddyn ei hymddangosiad, 1951, ac a gododd dipyn o arswyd arnaf ar y pryd. (Do, mi es ati’n ddeddfol wedyn i ddarllen y llyfr. ‘You’ve seen the film. Now read the book!’) Tom Brown’s Schooldays oedd hi, […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: I’r gad, Inglandanwêls !

Welais i mo’r rhaglen neithiwr ar ITV, ond dyma hysbysiad y Radio Times: ‘Can We Defend Ourselves? Tonight With the Government recently announcing ambitious plans to make sure that Britain maintains its status as a world military leader, Tom Bradby explores whether our armed forces really are ready for combat should global tensions escalate at […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Colli Paul Flynn

Yn fy nghyfrol Meddyliau Glyn Adda, t. 167-8 neu ar y blog hwn 30 Ionawr 2017, fe welwch ychydig benillion a wnes ar wleidyddiaeth Cymru. Bu tipyn o newid oddi ar hynny, ac nid er gwell. Ond fe saif pob gair a ddywedais am Paul Flynn: Gwleidydd gorau Cymru heddiw A thrwy’r Senedd oll o’r […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Cwestiwn yn y Nant

‘Any Questions?’ o’r Nant! Syniad rhyfedd ac ofnadwy! Gallwn glywed yr hen Hengist yn siarsio’r hen Wrtheyrn: ‘Reit, fi sy’n dewis y panel a’r gynulleidfa. Gei di ddewis un Cymro i esgus ei gyfiawnhau ei hun yn ffau llewod, ond dim mwy cofia! Fy siou i ydi hon. Dallta di hynny neu mi fydd dy […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dadmer Fluffy

Ysgrifennodd T.H. Parry-Williams yn ei gyfrol O’r Pedwar Gwynt (1944): ‘Gŵyr pawb hefyd nad oes dim mor drychinebus o ddigrif â chath wedi rhewi. Y mae cath wedi rhewi yn dal yn gath o hyd; ac nid rhyfedd, felly, i’r bachgen bach, wedi dod o hyd i gath wedi rhewi, a’i chario i’r tŷ, ddweud wrth ei […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Ychydig o hyn a’r llall

(1) Galwad gan un o’n Haelodau Cynulliad am ‘gofeb barhaol’ i Dryweryn. Mae gennym un. Y Llyn.  (Hwyrach yr hoffai rhai ohonoch ddarllen fy hen stori ‘Dyddiau Olaf Derlwyn’ yn fy nghyfrol Camu’n Ôl a Storïau Eraill, t. 290.) (2) Y llywodraeth yn dechrau holi pa ardaloedd yng Nghymru hoffai fod yn gladdfeydd gwastraff niwclear […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Arysgrif bwysig arall

Ychydig gamau oddi wrth dragwyddol ymrwymiad Dave a Shirl ar lan Menai yng Nghaernarfon, mae arysgrif hanesyddol arall sydd o ddiddordeb mawr i arbenigwyr. Yn ôl un ysgol o feddwl, yn ‘Max’ cawn y prawf terfynol i Maxen Wledig fod yng Nghaernarfon cyn ymadael yn y flwyddyn tri chant wyth tri a’n gadael yn genedl […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Cyfarchion Gŵyl Ddwynwen!

Os awn am dro ‘dros yr Aber’ yng Nghaernarfon, a cherdded ar hyd glan y Fenai i gyfeiriad y clwb golff, a chadw’n golygon i lawr, cyn bo hir fe ddown at yr arysgrif hon wedi ei thragwyddoli yn y concrit: A faddeuir parodi fach ar yr anwylaf o holl ganeuon serch y byd ? […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Mawredd mawr !

Dyma inni ganlyniad pleidlais y ‘Merched Mawreddog’, ond druan o Betty Campbell. Pa ferch fyddai’n dewis cael ei chofio fel un ‘fawreddog’? Mae gwahanol ystyron neu led-ystyron i’r ansoddair wrth gwrs (cyngerdd mawreddog, defod fawreddog, golygfa fawreddog, adeilad mawreddog &c &c), ond fel disgrifiad o ddyn neu ferch ei ystyr y rhan amlaf o ddigon […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Edrych i’r dyfodol …

Yn dilyn cyhoeddiad Hitachi heddiw fe gyfyd cwestiynau mawr wrth geisio tremio drwy niwloedd y dyfodol. 1. Be ddaw o’r prentisiaid a’u holl SGILIAU? Siawns am fachiad tua Fukushima ’na …? 2. Oes beryg y palla nawdd Horizon i’r Eisteddfod Genedlaethol, Menter Iaith Môn ac achosion clodwiw eraill? Pwy ddaw i’r adwy? Beth amdani BAE […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Tro arall ar y swigod

“‘Diffyg eglurder’ yn y cwricwlwm newydd’ yw pennawd BBC Cymru Fyw y bore ’ma. Y tu ôl i’r ‘cwricwlwm newydd’ a’r holl drafod yn ei gylch y mae Adroddiad Donaldson, 2015. Wrth ddarllen yr hanes heddiw daeth i’m cof fy ymateb i’r Adroddiad hwnnw pan gyhoeddwyd ef. I arbed ichi glicio, dyma’r hen ysgrif eto. […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Achub cadair !!

‘Cadair wag fu Cadair Rhŷs – ers amser, A simsan iawn megis …’ Canodd R. Williams Parry.  A do, bu’n wir ar fwy nag un cyfnod oddi ar sefydlu’r Gadair Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1877. Ond hwrê! Yn ôl yr adroddiadau dyma Brifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i’r adwy […] Parhau i ddarllen

: Achub cadair !!

Blog Glyn Adda: Y cwestiwn cyntaf

Mark Drakefotrd yn Brif Weinidog cyn nos medden nhw. Iawn.
Beth ddylai fod y cwestiwn cyntaf iddo ar lawr y Cynulliad?
Dyma fo: ‘A yw angori Trident yng Nghymru yn dal yn bolisi Llafur?’
Pwy sy am ofyn y cwestiwn? Adam? Neil? (McEvoy, go brin ma… Parhau i ddarllen