Canlyniadau Chwilio: rygbi

Blog Glyn Adda: Cwestiwn yn y Nant

‘Any Questions?’ o’r Nant! Syniad rhyfedd ac ofnadwy! Gallwn glywed yr hen Hengist yn siarsio’r hen Wrtheyrn: ‘Reit, fi sy’n dewis y panel a’r gynulleidfa. Gei di ddewis un Cymro i esgus ei gyfiawnhau ei hun yn ffau llewod, ond dim mwy cofia! Fy siou i ydi hon. Dallta di hynny neu mi fydd dy […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Gwleidyddol

Ie, ‘rhyddid nid annibyniaeth’ meddai Saunders Lewis yn 1926, yn y datganiad cyntaf o amcanion y Blaid Genedlaethol newydd.  Gallwn weld beth oedd ganddo.  (1)  Yn ei eiriau ei hun; ‘Nid hyd yn oed ryddid di-amod. Ond llawn cymaint o ryddid ag a fo’n hanfodol i sefydlu a diogelu gwareiddiad yng Nghymru; a rhyddid yw […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: ‘Cofia Bantycelyn yr un Pryd.’ Ein gohebydd yn holi Mrs Williams

Tipyn o sôn y dyddiau hyn nad ydym yn gwneud digon o goffadwriaeth ein Pêr Ganiedydd ar dri chanmlwyddiant ei eni.   Gan hynny aeth ein gohebydd ar bererindod i Bantycelyn gan obeithio teimlo peth o’r nefol wynt.   Dyma’i adroddiad. § Ar ôl cael fy nghyfeirio i ddechrau at adeilad mawr llwyd yn Aberystwyth, […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: O Washington i Wynedd

Nid yn annisgwyl, parhau y mae’r sylwebu a’r dadansoddi, y darogan a’r arswydo wrth inni nesu at ddiwrnod urddo’r Trymp yn arlywydd, – neu ei ‘sefydlu’, ac arfer iaith y capel. (A pharhau â’r derminoleg ymneilltuol, cafodd ei ‘godi’ ddiwrnod yr etholiad ym mis Tachwedd, ac eisoes ei ‘ordeinio’ mewn seremoni fach dawel rai dyddiau’n […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Tri pheth sy tu hwnt i jôc

Mae ochr ddigrif i’r rhan fwyaf o bethau yn y bywyd hwn, a’r rhan amlaf bydd yr hen GA yn tueddu i weld yr ochr honno’n gyntaf.   Ond mae rhai pethau yn y byd, a rhai pethau ym mywyd Cymru heddiw, yn gofyn am roi gwamalrwydd o’r naill du weithiau.  Soniwn heddiw am dri pheth […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Myth y Gymuned

CYFLWYNYDD :   Ac yn awr, rhaglen onest lle mae’r hanesydd  Hywel Williams yn gofyn a yw Cymru’n gymuned. Canol Llundain. Côr meibion yn canu ‘Ar Hyd y Nos’.  Traed Hywel yn mynd i fyny grisiau. HYWEL : Rw i’n mynd i brofi yn y rhaglen hon mai myth yw’r syniad fod Cymru’n gymuned glos, a […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Stori Fer : ’Co ni off !

NODYN.   Bydd rhai o’r darllenwyr efallai yn cofio rhai o’r cymeriadau hyn yn y storïau ‘So Ni Gallu’ (Camu’n Ôl a Storïau Eraill),  ‘Olav Drö’ (archif Ionawr 2013, neu Tu Chwith, Cyfrol 38) a ‘Gwthio’r Ffiniau’ (archif Mehefin 2012, neu Tu Chwith, Cyfrol 39) *     *     * Ie, go drist, e-bost yr hen Lwyd Llwyd.  […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: A all pethau fynd yn waeth ?

Blwyddyn Newydd Dda i’n darllenwyr oll !  Awdur gwadd heddiw : Gethin Jones Mae rhywun yn gofyn yn aml, a all cyflwr Cymru waethygu?  Dyma grynodeb byr o’r llanast a’r dinistr diweddar. 1.    Dyma hi eisoes yn meddu’r teitl haeddiannol, ‘rhanbarth tlotaf Ewrop’, un o ddau ranbarth yng Ngogledd Ewrop  sy’n gorfod cael rownd arall […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Wrth y Dwsin …

  Sôn am yr Eisteddfod, rhaid inni beidio ag anghofio’r hen Ddwsin Doeth. Hyd yma, crynodebau’r wasg a’r cyfryngau sy gennym o argymhellion y Dwsin.  Mae’r adroddiad cyfan yn llaw’r llywodraeth ar hyn o bryd.  Cymerwn y daw i ddwylo’r Eisteddfodwyr — sef, yn yr achos hwn, aelodau’r Llys — yn y man.  O’m rhan […] Parhau i ddarllen