Archives: glynadda

: Dau fath o oglau drwg

Wedi llwyddiant Eisteddfod y Bae, nid rhyfedd fod trefi eraill erbyn hyn yn dechrau meddwl am Eisteddfod Stryd, ac nid syndod mai Caernarfon yw’r dref gyntaf i godi at yr abwyd. Gellir rhagweld problemau, ond posibiliadau gwir ddeniadol hefyd. Un amod ar gyfer llwyddiant, ac amod gwbl hanfodol hefyd. Ar adegau arbennig – pryd a […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Gwerth troi’n alltud ?

Do, bu’r hen flog yn ddistaw am tua thair wythnos, tan ddoe. Prysurdeb a thrafferthion oedd y rhesymau, a gor-ddweud yw unrhyw adroddiadau fod yr hen G.A. wedi mynd i’r Blogfyd Mawr Tragwyddol. (Dim byd fel hen jôc, nac oes? Diolch, Mark Twain.) Yn ôl felly at ambell stori fach o’r wythnosau diwethaf. Stori na … … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Mwy at y mwd

Da iawn. ‘Cronfa’r Mwd’ wedi pasio’r targed o £5,000. Dyma gychwyn, ond mae’r trefnwyr yn rhagweld llawer mwy o gostau ac yn estyn yr apêl. Amdani eto felly Gymry, ac rwyf innau’n rhagweld y bydd raid inni wneud llawer mwy o hyn mewn gwahanol achosion. Golyga, ymhlith pethau eraill, y bydd raid i ni, y […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: O’r diwedd …

O’r diwedd dyma rywbeth cadarnhaol. Mae Cynghrair Gwrth-niwclear Cymru yn dod ag achos cyfreithiol yn erbyn Cyfoeth Naturiol Cymru. Dyma’n cyfle ni i gyd-gyllido.  Amdani felly.  https://www.crowdfunder.co.uk/legal-action-against-nuclear-mud-dump Advertisements Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Duw’n dal i drio

Fel y mae’r hen flog hwn wedi dweud droeon, mae Duw drwy’r blynyddoedd wedi ceisio anfon pethau i ysgwyd y Cymry a’u cael i wneud rhywbeth ohoni. Y Llyfrau Gleision, y Welsh Not, Llanwddyn, Claerwen, Elan, Tryweryn, Clywedog, Yr Ysgol Fomio, George Thomas … &c &c. Dychmygaf Ef yn crafu ei ben. ‘Be ga’ i’r […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Saith Cam Adam a Phum Pwynt Adda

‘Adam Price yn addo “saith cam at annibyniaeth”,’ meddai pennawd GOLWG 360. Codaf y ‘cynllun 7 cam’ rhag ichi orfod edrych ôl a blaen: 1. Ethol llywodraeth Plaid Cymru yn 2021. 2. Refferendwm ar annibyniaeth yn 2030. 3. Sefydlu Comisiwn Cenedlaethol i baratoi at y refferendwm, comisiwn a fydd yn ‘rhoi llais i ddinasyddion Cymru […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Enwi trên

Y North Wales Chronicle trwy’r drws yma ddoe. Tudalen 9, ‘War veterans name train to mark the centenary of RAF’. ‘A Virgin train has been named “Royal Air Force Centenary 1918-2018”  to commemorate the RAF’s 100th birthday and its historic links with the railway in North Wales.’ Dadorchuddiwyd yr enw gan gyn-Asgell-Gomandiwr, a gwraig a […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Diwygio defod

Yn dilyn yr Eisteddfod bu ychydig o fwmian am ddiwygio defodau’r Orsedd. Mater i’r Orsedd ydyw, yn llwyr ac yn hollol. Ond fel un o’r tu allan rhaid imi gyfaddef teimlo ers blynyddoedd dipyn bach o’r ‘anesmwythyd’ y sonia bardd y gadair amdano ynghylch rhan y merched. Yn draddodiadol, mewn myth a symbolaeth, gall y […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Stecs a sgandal

Cyfoeth y Gymraeg. Mwd, llaid, llaca, llacs, pwdel, stecs. Beth bynnag y galwn ef, heddiw roedd tunelli lawer ohono i’w dadlwytho ar draethau Morgannwg. Ond darllenwn fod y gwaith wedi ei ohirio tan ‘rywbryd ym Medi’. Mae gan ein hawdurdodau lleol a chenedlaethol felly ryw fis i ymorol na fydd hyn yn digwydd. Ac i’r […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Ailystyried (2)

Dyna ni wedi cael ein cwota o ddwy row Eisteddfodol am y flwyddyn, a rhai bach eithaf diniwed oeddynt. Mae mater y gallesid codi helynt llawer mwy difrifol yn ei gylch. Yn wyneb y bwriad i ddympio llwythi o fwd ymbelydrol o Hinkley dros y dŵr ar forlan nid nepell o Faes yr Eisteddfod, onid […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Ailystyried (1)

Ie mi wranta’, rhywrai’n dechrau corddi ynghylch y rheol iaith eto. Efo cyfeillion fel y rhain, pa angen gelynion? Ystwytho’r rheol er mwyn gallu perfformio mewn ‘ieithoedd lleiafrif’ eraill? Ond beth yw ‘iaith leiafrif’? Ym mha gyd-destun, yn ôl pa safon, y diffiniwn ni ‘iaith leiafrif’? Gochelwn rhag troi’r Eisteddfod yn ‘ŵyl ieithoedd lleiafrif’. Nid […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Hanner ffordd …

Hanner ffordd drwodd ac o’r pellter hwn, mae’n ymddangos fod ‘Steddfod y Stryd’ yn llwyddiant diamheuol. Eisoes mae dyn yn dechrau meddwl pryd y gellir ei wneud eto, ac ym mhle. Y funud hon nid yw’n hawdd meddwl am leoliadau addas, ond efallai y daw rhyw weledigaeth. Yn y cyfamser, siawns na fydd yr eisteddfodwyr […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Cofio ’66

A dyma Loegr gam yn nes at gael ail-fyw blwyddyn fawr Alf Garnett. ‘Who won i’ mate? Who won i’? You tell me tha’, you long-’aired Scouse git! Who won i’? Eh? Eh?’ I Gymru hefyd bu ’66 yn flwyddyn gofiadwy. Mis Awst, awdl ‘Cynhaeaf’. A phythefnos cyn hynny, daeargryn Caerfyrddin. Am yr ail, bu […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Colli Meic Stephens

Chwith iawn oedd clywed fore heddiw am golli Meic Stephens o’n plith. Chwith, ac anodd ei gredu hefyd rywsut: oherwydd arloesi, cynllunio, annog, gyrru pethau ymlaen oedd bywyd Meic. Cofiaf yn dda ei ddyfodiad i Goleg Bangor yn 1961. Daeth i Fangor i ddilyn cwrs athro, yn dilyn tair blynedd o gwrs gradd yn Aberystwyth […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Gwerthwyr gwael ?

Tipyn o gorddi y dyddiau diwethaf am un o brif bethau-poeni’r Cymry, sef gwerthiant llyfrau Cymraeg. Yn sgil dyfarniadau Llyfr y Flwyddyn, adroddodd y BBC nad oedd yr un o’r llyfrau a gyrhaeddodd y brig eleni wedi gwerthu mwy na dau gant. Anghywir a chamarweiniol medd rhai o’r cyhoeddwyr: cafwyd y ffigurau gan asiantaeth Nielsen, […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Siroedd, gwledydd a gwlad

Ie, y pwnc mawr o ddiwygio llywodraeth leol unwaith eto.  A dyma, am y pedwerydd tro, hen flogiad yr hen G.A., ‘Sir Gwymon a Sir Conbych’.  Rhaid bod rhywbeth yn yr hen ysgrif hon; fe’i gwrthodwyd gan ddau o’r cylchgronau Cymraeg. *     *     * SIR GWYMON a SIR CONBYCH (Cyhoeddwyd ddiwethaf 25 Mawrth […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Lloffion o’r Urdd

Adroddiadau gan GOLWG 360 heddiw o bafiliwn a maes Eisteddfod yr Urdd. Yn y pafiliwn, llywydd dydd Gwener yn awgrymu ‘cystadleuaeth newydd yn yr Eisteddfod sy’n ymwneud gyda’r lleiafrifoedd o fewn ein cenedl ni.’ Wel, mae cystadleuthau’r Urdd bron i gyd (a’r eithriadau yw’r rhai offerynnol, y dawnsio a’r celfyddydau gweladwy) eisoes ar gyfer lleiafrif, […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Nodion brenhinol

Do cofiwch, mi edrychais ar dipyn o’r PETH ac mi wrandewais ar Huw yn gor-dra-Dimblebyeiddio pob Dimbleby a phob Wynford Vaughan Thomas a fu erioed.  Fy ymateb? Cymysg iawn, fel bob amser gydag achlysuron gwladwriaeth a choron Lloegr. Waeth cyfaddef y gwir. Edmygedd.  Tuag at lwyddiant y trefnu manwl a’r cynllunio perffeithgwbl.  A chyda hynny, […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Y Wasgfa’n Parhau

‘Annog y Llywodraeth i ariannu’r wasg yng Nghymru’ meddai stori GOLWG 360 heddiw, gan grynhoi argymhellion Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol. Dyma beth gwelliant oddi ar y sefyllfa 11-12 mlynedd yn ôl, pan wrthodai ein cynrychiolwyr etholedig hyd yn oed ateb llythyr ar y mater hwn. Beth bynnag am ariannu neu noddi mewn ystyr fwy […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Mae llawer sgil…

Pennawd GOLWG 360 heddiw; ‘Sgiliau Cymraeg yn “dda” mewn ysgolion, yn ôl Estyn’. I hybu’r gwaith da, beth am i’r ysgolion gael cyflenwad o’r llyfr hwn, a’i astudio a chofio’i wersi; a chofio’n arbennig efallai y rhybudd rhag ‘y clwy sgiliau’, tt. 78-9 ? (Gwylier hefyd ‘y clwy gofod’, ‘y clwy addysgu’ a’r ‘clwy person’.) […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Cwestiwn i Olynydd

Gyda chyhoeddi ymddeoliad Carwyn Jones a’r dyfalu ynghylch ei olynydd, ni chlywais eto yr un o’r sylwebyddion yn galw i gof yr UN PETH MAWR a wnaeth Carwyn yn ystod ei dymor fel Prif Weinidog, sef cyhoeddi y byddai ‘mwy na chroeso’ i longau tanfor Trident angori yng Nghymru pe bai raid iddynt ymadael â’r […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Enwi pont

Wel ie, ‘pont dros ddyfroedd stormus’, chwedl y gân. Da gweld tipyn o gorddi a chynhyrfu am rywbeth, mae’n debyg, yng ngwlad y marw-gwsg. Ond arhoswch. (1)   Pe bai arolwg o farn pobl Cymru gydag amryw enwau gerbron, y tebyg yw mai ‘Tywysog Cymru’ fyddai’n mynd â hi, a phobl y Cymoedd yn datgan eu […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Unwaith eto, Siroedd a Gwledydd

Dyma inni bapur gwyrdd llywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol.  Ar sail crynodeb GOLWG 360, dim byd mwy manwl na hynny, nodaf ddau beth am y cynigion: (1)    Drwy leihau rhif y cynghorau sir o ddau ar hugain i ddeg, dyma glosio’n ôl at batrwm Cymru’r 1970-90au, Cymru’r wyth sir.  Ond cofiwn fod yna […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Unwaith eto, y Cymro a’i hafod

Echdoe daeth Newyddion Gwynedd drwy’r drws yma, ac eitem ar ei dudalen flaen yn hysbysu perchenogion ail gartrefi yn y sir y byddant eleni yn talu 50% yn rhagor o dreth ar yr eiddo.  Polisi yw hwn sydd dan ystyriaeth ers tro, a deallwn y bydd nifer o awdurdodau eraill yn gweithredu yr un modd. […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Pwy sy wrthi ?

Ai’r Pwtyn sy wrth ? Synnwn i damaid. I chwyddo’i gefnogaeth at yr etholiad ? Digon posib. Ond wn i ddim. Wyddoch chwithau ddim chwaith.  Ychydig iawn iawn sy’n debyg o wybod. Darllenwch yn ofalus flogiau Craig Murray dros y pum niwrnod diwethaf (13-17 Mawrth), a hefyd rai o’r cannoedd ymatebion ystyriol a gwybodus y […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Beth sydd ar waith yng Ngwynedd ?

Nid yw’r hen G.A. yn ffermwr nac yn ifanc. Er hynny bydd yn mwynhau Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc, un o’r ychydig nosweithiau cyfain o deledu ar ei galendr. Go chwith felly oedd darllen ar GOLWG 360 heddiw am Gyngor Gwynedd yn terfynu ei nawdd i Ffederasiynau Ffermwyr Ifainc Meirion (£20,000) ac Eryri (£16,000). Rhan yw […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Seren Angau

‘Ehangu cynllun i’r plant mwyaf disglair’ yw pennawd BBC Cymru Fyw heddiw wrth adrodd am fuddsoddiad ychwanegol gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yng ‘Nghynllun Seren’, ‘sy’n rhoi cymorth i ddisgyblion i ennill llefydd yn y prifysgolion gorau’. Fe haeddodd Kirsty eirda yn y gorffennol, a hwyrach iddi gael peth ohono ar yr hen flog […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: ‘Ein pedwar cenedl’

‘Brexit: nid esgus i chwalu’r Deyrnas Unedig’, dyfynnodd GOLWG 360 ddoe o neges yr oedd David Liddington, un o weinidogion llywodraeth San Steffan, i’w thraddodi yn ffatri Airbus, glannau Dyfrdwy. Rhaid, meddai’r gweinidog, diogelu a chynnal ‘yr undeb rhwng ein pedwar cenedl’. Nid gwrthateb ei ddadl yw fy mwriad yma, dim ond gofyn: pa rai […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dwy dasg ddiwylliannol

(1)     Darllenwn na fydd Y Cymro newydd yn barod i ymddangos ar Ŵyl Ddewi, ond bod gobaith ei weld o fewn rhai wythnosau wedyn.  Hei lwc yn wir. Dylem fod yn wyliadwrus iawn cyn awgrymu y dylai papur newydd ddibynnu ar nawdd llywodraeth, nac yn wir ar gymhorthdal o unrhyw fath.  Dylai ymgynnal ar […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Hwyr eto

Ddoe y dylasai hwn ymddangos.  Yr oeddem i gyd, o’r Santes i lawr, yn nodi can mlynedd oddi ar roi’r bleidlais i ferched ym Mhrydain. Digwyddodd hynny mewn ffordd wirion a sarhaus, drwy ganiatáu’r hawl i ferched dros 30 oed ! Ond dyna ddechrau, ac fe’i cywirwyd ddeng mlynedd yn ddiweddarach, i gynnwys pawb dros […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Gwerth eu darllen

Diolch i Marconatrix am ei ymatebion i flogiad 22 Ionawr, ac am atodi dwy ysgrif o waith Nicholas Boyle, Athro yng Nghaergrawnt. Daw un o’r Irish Times a’r llall o’r New European, a’u testun yw’r seicoleg tu ôl i Brexit. Gwerth eu darllen. Darllenwch hefyd yr ymatebion i’r ail ysgrif, – fe gewch hwyl ! […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Y feri peth i Feirion

Rhagor, fel yr oeddwn yn addo, am lyfr Caroline Lucas. Bydd Aelodau Seneddol yn rhinwedd eu swydd yn derbyn  gwahoddiadau o bob math, ac yn un o’i phenodau mae Caroline Lucas yn disgrifio’i hymweliad â lle dieithr a chwithig, sef ffair arfau anferth yn ardal Dociau Llundain.  Pawb yn glên a chwrtais ryfeddol, a digon […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Problem fawr y Chwith

Gair heddiw am un o’r llyfrau diddorol a gefais gan Siôn Corn.  Ei enw yw  Honourable Friends?  Parliament and the Fight for Change, a’i awdur yw Caroline Lucas, unig AS y Blaid Werdd yn San Steffan. Cangen o Chwigiaeth Seisnig yw’r Blaid Werdd yng Nghymru, a gall rhai o’r Gwyrddion fod mor wrth-Gymreig â Llafurwyr […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Ysgol be losgwyd hefyd … ?

Rhywbeth arall oedd i fod gan yr hen G.A. heddiw, ond wir mae stori ar GOLWG 360 yn mynnu blaenoriaeth ! Yr Arglwydd yn serennu yn Llanystumdwy wrth ochr pennaeth y Llu Awyr, ar achlysur dathlu canmlwyddiant sefydlu’r Awyrlu yn ystod prif weinidogaeth Lloyd George. Darllenwn y bydd gardd ynghlwm wrth Amgueddfa Ll.G. i dragwyddol […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Lloffion y Calan

Y Gymraeg a’r ysgolion Dyma ‘Gynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg’ wedi ei lansio gan Eluned Morgan, y Gweinidog â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.  Ni ellir ond croesawu’r bwriad, ond wrth wneud hynny gofyn ambell gwestiwn bach.  (a)  A allwn ni gymryd y bydd cyfarwyddyd clir o hyn ymlaen i gynghorwyr Llafur a’r gweinyddwyr odanynt, eu […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Sgandal o beth !

Mae sgandal yn rhan o wleidyddiaeth bob amser, ond efallai y teimla rhai ein bod wedi cael mwy na’n dogn arferol eleni. Dylwn oleddfu’r gosodiad. ‘Rhan o wleidyddiaeth ddemocrataidd’ ddylwn i ddweud. Does dim sgandal o dan unbennaeth; bodolaeth yr unbennaeth ei hun yw’r sgandal. Ond sgandal yw fod gwledydd honedig ddemocrataidd yn cynnal breichiau […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Pawb yn y Drones

Dyma ichi hen lyfr bach difyr : Y rhodd Nadolig ddelfrydol i ddeg aelod diweddaraf y clwb, sef AELODAU CABINET CYNGOR GWYNEDD. Advertisements Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Môn i fyny, Gwynedd i lawr

Adroddiadau newydd ein cyrraedd am benderfyniadau dau gabinet y pnawn yma. Cabinet Môn yn gadarn dros y bwriad i weinyddu’n fewnol drwy’r Gymraeg. Cam sylweddol, arwyddocaol ymlaen, oherwydd dyma’r math o neges y mae ymgeiswyr am swyddi yn ei ddeall. Yn rhy aml mae cynrhoni gwrth-Gymreig yn cael rhwydd hynt ac yn llwyddo: ond nid […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Rhwbio llygaid

Rhwbio fy llygaid y bore ’ma.  Craffu. Rhwbio eto. Fy mhinsio fy hun.  Ai fi sy heb ddeffro’n iawn?  Ynteu ydi cabinet Cyngor Gwynedd mewn gwirionedd yn ystyried cyfrannu hanner miliwn o bunnau tuag at ganolfan profi drôns yn Llanbedr, Meirionnydd? Darllenaf ar GOLWG 360 fod Cymdeithas y Cymod yn apelio ar y Cyngor i […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Duw’n dal i drio

Yn ôl GOLWG 360 mae un o gynghorwyr Môn yn anhapus ynghylch gosod y Gymraeg yn iaith weinyddol, fewnol y Cyngor Sir. Yr wythnos nesaf bydd y Cynghorydd Shaun J. Redmond yn cyflwyno cynnig y dylid cael refferendwm cyn cymryd y fath gam. Fel yr wyf wedi dweud droeon ar y blog, bydd Rhagluniaeth o […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Yr iâr a’r atom

Diddorol oedd darllen (GOLWG 360) am gwmni niwclear Horizon yn prynu cwt ieir i ysgol ym Môn. Da iawn yntê. F’atgoffa am stori mewn hen, hen gomic ers talwm, ‘Sexton Blake and the Atom Eggs’. (‘Seston Blêc’, chwedl un o gymeriadau Wil Sam.) Fel arall y clywais i. Bydd rhai o’r darllenwyr, rwy’n siŵr, yn […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Llecyn Glas ?

Cof am ambell Eisteddfod wleb, oer. Aml un a dweud y gwir. Dŵr yn diferu am ein pennau yn yr hen Babell Lên neu hen Babell y Cymdeithasau. Rhynnu ar y Maes mewn pac-a-mac denau, mwd dros y fferau, tremio heibio i ymyl ambarél ar yr awyr lwyd, mewn hanner gobaith gweld rhyw lecyn glas […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Rhagor ar y ffordd

Yr wythnos hon byddwn yn ailargraffu’r gyfrol Meddyliau Glyn Adda.  Dylai fod yn y siopau, ac ar stondin ar-lein Dalen Newydd, yr wythnos nesaf.  Diolch am eich amynedd, bawb sy wedi archebu copïau.   Advertisements Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Bwrw diarth

Y diwrnod o’r blaen yr oeddwn yn trafod gyda chyfaill yr ymadrodd ‘bwrw diarth’. Ei ystyr yw ‘peidio â dangos eich bod yn gwybod’. Ymadrodd o’r un tylwyth yw ‘peidio â chymryd arnoch’, sef nid ‘peidio ag actio/smalio/esgus’, ond yr un peth eto, peidio â rhoi arwydd eich bod yn gwybod rhywbeth. Ddydd Sadwrn diwethaf […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dyma sut i’w gwylltio nhw

Ddechrau’r 1960au yn ystafell gyffredin Neuadd Reichel, Bangor byddem ni fyfyrwyr yn cael bob bore holl bapurau dyddiol Llundeinig y dydd, ynghyd â’r Daily Post a’r Western Mail.   Nid oedd na Sun na Daily Star y dyddiau hynny, a chynrychiolid eithafion rhagfarn, twpdra a diffyg chwaeth gan y ddau dabloid  y Daily Mirror a’r  Daily […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Mynd yn brin

Clywed fod Meddyliau’r hen G.A. yn mynd yn brin yn y siopau a’r Ganolfan Lyfrau, ac ychydig iawn sydd ar ôl gan y cyhoeddwyr. Mynnwch gopi ar-lein o Stondin Dalen Newydd. Advertisements Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Yr Awen yn galw

Amser paned bore ’ma daeth yr Awen heibio efo’r ddau bennill bach hynod ddiniwed yma: Hen hogan bach ddel Yw Priti Patel, Ond piti fod Priti Yn gwneud fel-a’r-fel. Hen stori ddigalon Am ’rhen Michael Fallon. Be nesa, Theresa, I chwyddo d’ofalon? Advertisements Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dwy gynhadledd

Dyma’r ‘tro nesaf’ oedd gen i mewn golwg cyn i helynt Catalonia fynd â’m bryd. Dwy gynhadledd wleidyddol. Un wedi bod a’r llall i ddod. § Yn ôl Adam Price mewn cyfweliad teledu yr oedd cynhadledd Plaid Cymru yn ‘vibrant’.  Yr oedd yno ‘fizz’ a ‘buzz’.  Dôi’r fizz, rwy’n cymryd, o’r botel bop yr oedd […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dychmygwch y sefyllfa …

Penderfynodd yr hen G.A. dro yn ôl beidio â chyhoeddi mwy nag un ysgrif ar yr un diwrnod, oherwydd fyddai neb yn diolch iddo. Ond mae’r newydd am Gatalonia heddiw yn ei wthio i dorri’r rheol. DYCHMYGWCH … Carwyn a’i lywodraeth yn alltudion yn y Wladfa, wedi ffoi am eu heinioes rhag dialedd y Santes […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Cic ynteu rhodd ? (2)

Cystal dweud rhywbeth bach am argymhellion Comisiwn y Ffiniau, cyn i bawb anghofio amdanyn nhw unwaith eto. Rhai yn darogan na ddaw dim byd o’r peth pa un bynnag. Gwnes ryw ychydig o sylwadau ar 9 Medi y llynedd, pan oedd rhyw fwmian am hyn o’r blaen. Heddiw mi ailadroddaf bwynt neu ddau am yr […] Parhau i ddarllen