Archives: glynadda

Blog Glyn Adda: Seren Angau

‘Ehangu cynllun i’r plant mwyaf disglair’ yw pennawd BBC Cymru Fyw heddiw wrth adrodd am fuddsoddiad ychwanegol gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yng ‘Nghynllun Seren’, ‘sy’n rhoi cymorth i ddisgyblion i ennill llefydd yn y prifysgolion gorau’. Fe haeddodd Kirsty eirda yn y gorffennol, a hwyrach iddi gael peth ohono ar yr hen flog […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: ‘Ein pedwar cenedl’

‘Brexit: nid esgus i chwalu’r Deyrnas Unedig’, dyfynnodd GOLWG 360 ddoe o neges yr oedd David Liddington, un o weinidogion llywodraeth San Steffan, i’w thraddodi yn ffatri Airbus, glannau Dyfrdwy. Rhaid, meddai’r gweinidog, diogelu a chynnal ‘yr undeb rhwng ein pedwar cenedl’. Nid gwrthateb ei ddadl yw fy mwriad yma, dim ond gofyn: pa rai […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dwy dasg ddiwylliannol

(1)     Darllenwn na fydd Y Cymro newydd yn barod i ymddangos ar Ŵyl Ddewi, ond bod gobaith ei weld o fewn rhai wythnosau wedyn.  Hei lwc yn wir. Dylem fod yn wyliadwrus iawn cyn awgrymu y dylai papur newydd ddibynnu ar nawdd llywodraeth, nac yn wir ar gymhorthdal o unrhyw fath.  Dylai ymgynnal ar […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Hwyr eto

Ddoe y dylasai hwn ymddangos.  Yr oeddem i gyd, o’r Santes i lawr, yn nodi can mlynedd oddi ar roi’r bleidlais i ferched ym Mhrydain. Digwyddodd hynny mewn ffordd wirion a sarhaus, drwy ganiatáu’r hawl i ferched dros 30 oed ! Ond dyna ddechrau, ac fe’i cywirwyd ddeng mlynedd yn ddiweddarach, i gynnwys pawb dros […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Gwerth eu darllen

Diolch i Marconatrix am ei ymatebion i flogiad 22 Ionawr, ac am atodi dwy ysgrif o waith Nicholas Boyle, Athro yng Nghaergrawnt. Daw un o’r Irish Times a’r llall o’r New European, a’u testun yw’r seicoleg tu ôl i Brexit. Gwerth eu darllen. Darllenwch hefyd yr ymatebion i’r ail ysgrif, – fe gewch hwyl ! […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Y feri peth i Feirion

Rhagor, fel yr oeddwn yn addo, am lyfr Caroline Lucas. Bydd Aelodau Seneddol yn rhinwedd eu swydd yn derbyn  gwahoddiadau o bob math, ac yn un o’i phenodau mae Caroline Lucas yn disgrifio’i hymweliad â lle dieithr a chwithig, sef ffair arfau anferth yn ardal Dociau Llundain.  Pawb yn glên a chwrtais ryfeddol, a digon […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Problem fawr y Chwith

Gair heddiw am un o’r llyfrau diddorol a gefais gan Siôn Corn.  Ei enw yw  Honourable Friends?  Parliament and the Fight for Change, a’i awdur yw Caroline Lucas, unig AS y Blaid Werdd yn San Steffan. Cangen o Chwigiaeth Seisnig yw’r Blaid Werdd yng Nghymru, a gall rhai o’r Gwyrddion fod mor wrth-Gymreig â Llafurwyr […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Ysgol be losgwyd hefyd … ?

Rhywbeth arall oedd i fod gan yr hen G.A. heddiw, ond wir mae stori ar GOLWG 360 yn mynnu blaenoriaeth ! Yr Arglwydd yn serennu yn Llanystumdwy wrth ochr pennaeth y Llu Awyr, ar achlysur dathlu canmlwyddiant sefydlu’r Awyrlu yn ystod prif weinidogaeth Lloyd George. Darllenwn y bydd gardd ynghlwm wrth Amgueddfa Ll.G. i dragwyddol […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Lloffion y Calan

Y Gymraeg a’r ysgolion Dyma ‘Gynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg’ wedi ei lansio gan Eluned Morgan, y Gweinidog â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.  Ni ellir ond croesawu’r bwriad, ond wrth wneud hynny gofyn ambell gwestiwn bach.  (a)  A allwn ni gymryd y bydd cyfarwyddyd clir o hyn ymlaen i gynghorwyr Llafur a’r gweinyddwyr odanynt, eu […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Sgandal o beth !

Mae sgandal yn rhan o wleidyddiaeth bob amser, ond efallai y teimla rhai ein bod wedi cael mwy na’n dogn arferol eleni. Dylwn oleddfu’r gosodiad. ‘Rhan o wleidyddiaeth ddemocrataidd’ ddylwn i ddweud. Does dim sgandal o dan unbennaeth; bodolaeth yr unbennaeth ei hun yw’r sgandal. Ond sgandal yw fod gwledydd honedig ddemocrataidd yn cynnal breichiau […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Pawb yn y Drones

Dyma ichi hen lyfr bach difyr : Y rhodd Nadolig ddelfrydol i ddeg aelod diweddaraf y clwb, sef AELODAU CABINET CYNGOR GWYNEDD. Advertisements Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Môn i fyny, Gwynedd i lawr

Adroddiadau newydd ein cyrraedd am benderfyniadau dau gabinet y pnawn yma. Cabinet Môn yn gadarn dros y bwriad i weinyddu’n fewnol drwy’r Gymraeg. Cam sylweddol, arwyddocaol ymlaen, oherwydd dyma’r math o neges y mae ymgeiswyr am swyddi yn ei ddeall. Yn rhy aml mae cynrhoni gwrth-Gymreig yn cael rhwydd hynt ac yn llwyddo: ond nid […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Rhwbio llygaid

Rhwbio fy llygaid y bore ’ma.  Craffu. Rhwbio eto. Fy mhinsio fy hun.  Ai fi sy heb ddeffro’n iawn?  Ynteu ydi cabinet Cyngor Gwynedd mewn gwirionedd yn ystyried cyfrannu hanner miliwn o bunnau tuag at ganolfan profi drôns yn Llanbedr, Meirionnydd? Darllenaf ar GOLWG 360 fod Cymdeithas y Cymod yn apelio ar y Cyngor i […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Duw’n dal i drio

Yn ôl GOLWG 360 mae un o gynghorwyr Môn yn anhapus ynghylch gosod y Gymraeg yn iaith weinyddol, fewnol y Cyngor Sir. Yr wythnos nesaf bydd y Cynghorydd Shaun J. Redmond yn cyflwyno cynnig y dylid cael refferendwm cyn cymryd y fath gam. Fel yr wyf wedi dweud droeon ar y blog, bydd Rhagluniaeth o […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Yr iâr a’r atom

Diddorol oedd darllen (GOLWG 360) am gwmni niwclear Horizon yn prynu cwt ieir i ysgol ym Môn. Da iawn yntê. F’atgoffa am stori mewn hen, hen gomic ers talwm, ‘Sexton Blake and the Atom Eggs’. (‘Seston Blêc’, chwedl un o gymeriadau Wil Sam.) Fel arall y clywais i. Bydd rhai o’r darllenwyr, rwy’n siŵr, yn […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Llecyn Glas ?

Cof am ambell Eisteddfod wleb, oer. Aml un a dweud y gwir. Dŵr yn diferu am ein pennau yn yr hen Babell Lên neu hen Babell y Cymdeithasau. Rhynnu ar y Maes mewn pac-a-mac denau, mwd dros y fferau, tremio heibio i ymyl ambarél ar yr awyr lwyd, mewn hanner gobaith gweld rhyw lecyn glas […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Rhagor ar y ffordd

Yr wythnos hon byddwn yn ailargraffu’r gyfrol Meddyliau Glyn Adda.  Dylai fod yn y siopau, ac ar stondin ar-lein Dalen Newydd, yr wythnos nesaf.  Diolch am eich amynedd, bawb sy wedi archebu copïau.   Advertisements Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Bwrw diarth

Y diwrnod o’r blaen yr oeddwn yn trafod gyda chyfaill yr ymadrodd ‘bwrw diarth’. Ei ystyr yw ‘peidio â dangos eich bod yn gwybod’. Ymadrodd o’r un tylwyth yw ‘peidio â chymryd arnoch’, sef nid ‘peidio ag actio/smalio/esgus’, ond yr un peth eto, peidio â rhoi arwydd eich bod yn gwybod rhywbeth. Ddydd Sadwrn diwethaf […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dyma sut i’w gwylltio nhw

Ddechrau’r 1960au yn ystafell gyffredin Neuadd Reichel, Bangor byddem ni fyfyrwyr yn cael bob bore holl bapurau dyddiol Llundeinig y dydd, ynghyd â’r Daily Post a’r Western Mail.   Nid oedd na Sun na Daily Star y dyddiau hynny, a chynrychiolid eithafion rhagfarn, twpdra a diffyg chwaeth gan y ddau dabloid  y Daily Mirror a’r  Daily […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Mynd yn brin

Clywed fod Meddyliau’r hen G.A. yn mynd yn brin yn y siopau a’r Ganolfan Lyfrau, ac ychydig iawn sydd ar ôl gan y cyhoeddwyr. Mynnwch gopi ar-lein o Stondin Dalen Newydd. Advertisements Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Yr Awen yn galw

Amser paned bore ’ma daeth yr Awen heibio efo’r ddau bennill bach hynod ddiniwed yma: Hen hogan bach ddel Yw Priti Patel, Ond piti fod Priti Yn gwneud fel-a’r-fel. Hen stori ddigalon Am ’rhen Michael Fallon. Be nesa, Theresa, I chwyddo d’ofalon? Advertisements Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dwy gynhadledd

Dyma’r ‘tro nesaf’ oedd gen i mewn golwg cyn i helynt Catalonia fynd â’m bryd. Dwy gynhadledd wleidyddol. Un wedi bod a’r llall i ddod. § Yn ôl Adam Price mewn cyfweliad teledu yr oedd cynhadledd Plaid Cymru yn ‘vibrant’.  Yr oedd yno ‘fizz’ a ‘buzz’.  Dôi’r fizz, rwy’n cymryd, o’r botel bop yr oedd […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dychmygwch y sefyllfa …

Penderfynodd yr hen G.A. dro yn ôl beidio â chyhoeddi mwy nag un ysgrif ar yr un diwrnod, oherwydd fyddai neb yn diolch iddo. Ond mae’r newydd am Gatalonia heddiw yn ei wthio i dorri’r rheol. DYCHMYGWCH … Carwyn a’i lywodraeth yn alltudion yn y Wladfa, wedi ffoi am eu heinioes rhag dialedd y Santes […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Cic ynteu rhodd ? (2)

Cystal dweud rhywbeth bach am argymhellion Comisiwn y Ffiniau, cyn i bawb anghofio amdanyn nhw unwaith eto. Rhai yn darogan na ddaw dim byd o’r peth pa un bynnag. Gwnes ryw ychydig o sylwadau ar 9 Medi y llynedd, pan oedd rhyw fwmian am hyn o’r blaen. Heddiw mi ailadroddaf bwynt neu ddau am yr […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Y cymeriad ansicr

Newydd fod yn gwylio rhifyn diddorol o’r gyfres ‘Dylan ar Daith’, lle roedd Dylan Iorwerth yn dilyn llwybrau’r cymeriad ansicr hwnnw, Goronwy Rees. Pedwar peth yn fy nharo am y gwrthrych: 1. Mab y Mans i’r carn. 2. Credai Rees mai ‘cenedlaetholwyr Cymreig’ oedd ei wrthwynebwyr yn Aberystwyth, a’r rhai a roddodd yr hwi iddo […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Tynnu Coes ?

Ydi hi’n ddiwrnod Ffŵl Ebrill, deudwch? Oes rhywun yn rhywle’n tynnu coes.? Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe yn newid ei henw yn ‘Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton’. Nid yr hen G.A. sy’n breuddwydio ? Mae hyn yn wir, ydi ? Wel os felly dyma awgrymu ambell enw arall ar gyfer rhai o adrannau […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Allan Ddydd Sadwrn !

Ac ar werth yn Ffair Lyfrau Cymdeithas Bob Owen, Ysgol David Hughes, Porthaethwy, 14 Hydref, 10.am tan 4pm. Cofiwch am y ffair ! Yn y siopau yr wythnos nesaf. Neu gellir archebu o: dalennewydd.cymru yn fuan iawn. Advertisements Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Cyn bod y noson ar ben …

Ni wyddom eto beth fydd y ffigurau o’r gorsafoedd hynny lle llwyddwyd i bleidleisio. Ambell sylw ‘mewn pensel’ felly. Ar ôl poeni’n gynharach heddiw fod pymtheg o blismyn wedi eu hanafu, bu raid i’r prif gyfryngau Prydeinig erbyn Newyddion 10.00 adrodd am anafu cannoedd o’r Cataloniaid, a bu raid iddynt ddangos peth o drais arswydus […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Y Ddau Beth Mawr

Dyna ni wedi bod yn nodi ugain mlynedd oddi ar ein pleidlais dros fesur o ddatganoli. Byddwch yn sylwi ar y gair niwtral ‘nodi’. Dathlu? Go ychydig. Y dyddiau diwethaf bûm yn gofyn yn ddifrifol i mi fy hun, beth fu’r ddau beth mawr yng ngwleidyddiaeth Cymnru oddi ar sefydlu’r Cynulliad. A dyma’r ateb: (1) […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Cwestiwn cyfansoddiadool

Wel ar fy ngwir, dyna’r Arglwydd wedi ei gyhuddo o regi yn y seiat ! Y cwestiwn mawr cyfansoddiadaol yw, a yw’r Blaid Annibynnol yn mynd i’w ddisgyblu? A welir ef yn y cwt ci gyda Neil McEvoy? Ac os daw hi i hynny, pa bryd y caiff y chwip yn ôl ? Disgwyliwn glywed […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Pwy arall … ?

Wel, dyna Neil McEvoy ‘yng nghwt y ci’ unwaith eto, am ‘dorri rheolau’r Blaid’. A yw ‘torri’r rheolau’ yn gyfystyr â mynd yn groes i’r polisi? Un o bolisïau’r Blaid yw ‘dim mwy o niwclear’. Onid oes yna ryw Aelod neu Aelodau Cynulliad eraill o’r un blaid wedi mynd yn erbyn y polisi hwn? Pwy […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Gwleidyddol

Ie, ‘rhyddid nid annibyniaeth’ meddai Saunders Lewis yn 1926, yn y datganiad cyntaf o amcanion y Blaid Genedlaethol newydd.  Gallwn weld beth oedd ganddo.  (1)  Yn ei eiriau ei hun; ‘Nid hyd yn oed ryddid di-amod. Ond llawn cymaint o ryddid ag a fo’n hanfodol i sefydlu a diogelu gwareiddiad yng Nghymru; a rhyddid yw […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Yr hen, hen broblem

Pryder a phanic ofnadwy heddiw, yn ôl Newyddion S4C a BBC Cymru Fyw. Gostyngiad o 10% oddi ar 2013 yn nifer y Cymry sy’n mynd i brifysgolion “Grŵp Russell”, sef “rhai o brifysgolion mwyaf nodedig y DU”. Hynny yw, dim digon o’n plant galluocaf yn gadael Cymru. Mae llywodraeth Cymru’n cymryd sylw ac yn addo […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Stori ryfedd

Stori fach ryfedd o’r Alban ddoe. Nicola Sturgeon, yn ôl adroddiad GOLWG 360, ‘yn anhapus gydag enw ei phlaid’. ‘Pe gallwn droi’r cloc yn ôl i ddyddiau sefydlu fy mhlaid, fyddwn i ddim yn dewis yr enw Scottish National Party.’ Pa enw arall fyddai hi wedi ei roi tybed? A’r peth rhyfedd yw fod hyd […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Problem go iawn

Dwy gic i’r hen Gymro yr wythnos yma, a dim byd newydd yn hynny. (1) Sports Direct, Bangor. (2) Newsnight neithiwr. Am (1), ie digon tila. Ac am (2), ie, nodweddiadol, disgwyliadwy. Ond am (1) a (2) dywedaf eto, fel yr wyf wedi dweud droeon o’r blaen am bethau tebyg: mae rhagluniaeth yn gyrru pethau […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Sawl gwaith mae eisiau dweud ?

Ymateb i GOLWG 360 heddiw,, yr eitem ‘Hogia Môn’. Dyma ddetholiad o bethau a gyhoeddais dros y blynyddoedd diwethaf ar faterion iaith.  Fe welir bod amryw ohonynt wedi eu hanfon i GOLWG, a’u cyhoeddi ganddo.  Eithr onid yw’n bryd i GOLWG, fel – bellach – ein hunig gyhoeddiad seciwlar wythnosol Cymraeg,  ddechrau cymryd sylw o […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: ‘Cofia Bantycelyn yr un Pryd.’ Ein gohebydd yn holi Mrs Williams

Tipyn o sôn y dyddiau hyn nad ydym yn gwneud digon o goffadwriaeth ein Pêr Ganiedydd ar dri chanmlwyddiant ei eni.   Gan hynny aeth ein gohebydd ar bererindod i Bantycelyn gan obeithio teimlo peth o’r nefol wynt.   Dyma’i adroddiad. § Ar ôl cael fy nghyfeirio i ddechrau at adeilad mawr llwyd yn Aberystwyth, […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: At WRAIDD y broblem

1. Diffyg synnwyr Gydol fy oes i bu gwleidyddiaeth Unol Daleithiau America’n ymdrechu’n galed a chyson i daro’r gwaelod. Fis Tachwedd diwethaf, fe lwyddodd. A fydd haneswyr y dyfodol yn dyfarnu fod gwleidyddiaeth Cymru wedi cyrraedd yr un nod gyda phleidlais Cyngor Gwynedd echdoe ar fater tai a chynllunio? Mae Aelod Seneddol Arfon ac Aelodau […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Diwedd Y CYMRO, diwedd y Cymro ?

Yn y flwyddyn 1814 sefydlodd Joseph Harris, ‘Gomer’ ei bapur Seren Gomer, mewn pryd felly i adrodd am Waterloo dan y pennawd ‘Brwydr Waedlyd’. Dwy flynedd fu oes y Seren, yr wythnosolyn Cymraeg cyntaf, ond bu’n gychwyn i rywbeth mawr. Erbyn chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif yr oedd digon o bapurau Cymraeg wythnosol fel y […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Cau Pen y Mwdwl ?

Mae’n ymddangos ein bod yn cau pen y mwdwl ar fater mawr addysg y Bala, gyda chabinet Gwynedd wedi cytuno’n unfrydol nad yw’n dymuno i’r ysgol newydd 3-19 oed fod yn ysgol eglwysig wedi’r cyfan. Adroddir y bydd cyhoeddiad pellach ym Medi, ac mae pethau i’w setlo ynglŷn ag Ysgol Beuno Sant, yr ‘ysgol eglwys’ […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Dim refferendwm

Dyma lywodraeth yr Alban yn cyhoeddi na bydd gyrru ymlaen am refferendwm yn y dyfodol agos. Gweld beth a ddaw o’r Brexit i ddechrau, ac ati … Daliaf innau at fy nghred na bydd Brexit o gwbl, ond ’tae waeth am hynny heddiw. Bydd y pleidiau Prydeinig yn croesawu’r cyhoeddiad fel buddugoliaeth fawr iddyn nhw. […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Disgyblaeth plaid

Darllen y bore ’ma (Newyddion BBC Cymru) fod pwyllgor gwaith Plaid Cymru yn gwahardd i gynghorwyr y Blaid yng Nghonwy fynd i glymblaid â’r Ceidwadwyr.  Darllen y bore ’ma (Newyddion BBC Cymru) fod pwyllgor gwaith Plaid Cymru yn gwahardd i gynghorwyr y Blaid yng Nghonwy fynd i glymblaid â’r Ceidwadwyr. Nid wyf am ddadlau dim […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Meddyliau am yr Alban

Dylai’r hen G.A. – fel eraill mae’n siŵr – ei binsio’i hun yn amlach a’i atgoffa’i hun: (a) mai anaml iawn mewn gwleidyddiaeth y digwydd yr hyn a ddylai ddigwydd, a (b) nad yw’r hyn sydd i fod i weithio byth, bron, yn gweithio. Pethau fel hyn: (a) Byddid wedi disgwyl – ac roeddwn yn […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Gwell dweud rhywbeth …

Gwell dweud rhywbeth, mae’n debyg. Do, fe aeth yr hen G.A. ac ufuddhau i’r anogaeth gwbl ddisynnwyr a diystyr, ‘Pleidleisiwch Plaid’. 1. Wn i ddim am Ben Lake, ond go dda fo! Dyma ddechrau atgyweirio ar ôl llanast tri etholiad yn ôl pan anghofiwyd cofrestru nifer o fyfyrwyr a fyddai, mae’n debyg, wedi troi’r fantol […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Anfarwol !

Go brin y dywed yr hen G.A. ddim byd eto rhwng hyn a’r etholiad.  Ond dyma rywbeth bach i’ch diddanu.  Daw o MUNGUIN’S NEW REPUBLIC. Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Y cwestiwn diosgoi eto

Dyma fy negfed blogiad ar y testun hwn. A dyma nhw’r lleill eto. https://glynadda.wordpress.com/2016/08/29/y-gorwel/ https://glynadda.wordpress.com/2017/03/09/y-gorwel-eto/ https://glynadda.wordpress.com/2017/03/26/y-ddamnedigaeth/ https://glynadda.wordpress.com/2017/04/05/neges-ddifrifol-i-ymgeiswyr/ https://glynadda.wordpress.com/2017/04/14/os-mai-b-fydd-y-dewis-dynai-diwedd-hi/ https://glynadda.wordpress.com/2017/04/20/a-oes-yma-ugain-a-saif-yn-y-bwlch/ https://glynadda.wordpress.com/2017/04/25/pam-pleidleisio-ir-democratiaid-rhyddfrydol/ https://glynadda.wordpress.com/2017/04/27/y-mater-mawr-eto/ https://glynadda.wordpress.com/2017/05/05/cwestiwn-i-enillwyr-gwynedd-pwy-fydd-yn-rheoli-chi-ynteu-horizon/ Fel yr oedd cyn yr etholiadau lleol, felly hefyd ar eu holau, dyma’r mater pwysicaf sy’n wynebu cynghorwyr siroedd Gwynedd a Môn, y mater pwysicaf yn hanes y ddau awdurdod, ac yn wir […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Cwestiwn i enillwyr Gwynedd: pwy fydd yn rheoli? Chi? Ynteu Horizon?

“Gobaith yn drech na phrofiad” oedd crynodeb enwog Dr. Johnson o’r penderfyniad i ailbriodi. Gallai’r hen dwmpath ddweud rhywbeth tebyg am lwyddiant Plaid Cymru yn etholiadau Gwynedd ddoe. Yn Arfon a Meirion mae o hyd garfan gref o ffyddloniaid â’u pleidlais dros yr hyn y dylai Plaid Cymru fod, ac sy’n fodlon edrych heibio unwaith […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Yn iach ymenyn glân !

Fe awn ni heibio heddiw i Trump a Gogledd Corea, i dryblith y Dwyrain Canol, i Theresa a Merkel a Le Pen, i ddyfodol cyfansoddiadol Ynys Brydain ac Iwerddon, a hyd yn oed i’r pwnc pwysicaf oll i ni Gymry’r dwthwn hwn sef polisi cynllunio Gwynedd a Môn, ac fe gymerwn dro bach i’r hen […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Y MATER MAWR eto

Ddoe bûm ymhlith y gwrandawyr yng Ngwrandawiad Cyhoeddus llywodraeth Cymru ynghylch Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Wn i ddim beth a ddigwyddodd heddiw yn ail sesiwn y gwrandawiad, ond ddoe o leiaf ni chyrhaeddwyd at agwedd fwyaf dadleuol yr holl broses, sef pwysau oddi wrth gwmni niwclear Horizon i newid geiriad […] Parhau i ddarllen

Blog Glyn Adda: Pam pleidleisio i’r Democratiaid Rhyddfrydol ?

Sylwch ar y marc cwestiwn. Nid wy’n addo eto fy mod am wneud. Ond os gwnaf, dyma fydd y rheswm. (Hefyd rwy’n sôn am etholiadau Cyngor Gwynedd. Nid am yr Etholiad Cyffredinol.) Pam felly? I gosbi Plaid Cymru yng Ngwynedd am ei maith wiriondeb dros y blynyddoedd diwethaf. Pethau fel … 1. O, fe awn […] Parhau i ddarllen