Archives: Gog y Cwm

shitclic: Dysg a dawn

Tonic Bro Taf

Maddeuwch i mi am fod braidd yn ddwl/ara’ deg drannoeth llesmair y Gêm Enfawr. Dyna lle’r oeddwn i’n awchu am bennod gyntaf o Gwaith Cartref, ac yn ddiolchgar am grynodeb agoriadol o’r un ddiwethaf er yn dal mewn penbleth. Ble mae Simon Watkins ar ôl i’w ddyweddi fachu’i ffrind gorau, a beth ydi hanes Nerys Edwards yr athrawes ddrama? Mae Beca, yr athrawes ymarfer corff drwblus, hefyd yn absennol. Ond dyna ydi hanfod ysgol, debyg, lle mae athrawon yn symud i borfeydd brasach neu’n gadael dan straen targedau’r Tsar Addysg Leighton Andrews, ac enwau newydd ar y gofrestr fel y disgyblion hwythau. Ac mae ’na sawl wyneb newydd ym Mro Taf y tymor hwn, rhwng Mr Aled Jenkins (Gareth Jewell) Cerdd sy’n llwyddo i wylltio a swyno’r Dirprwy o bosib; Miss Llinos Preece (Elin Phillips) Gwyddoniaeth gydag obsesiwn colli pwysau; a Brynmor Davies (Bryn Fôn) sy’n dod i achub yr adran fathemateg â dos go dda o ddisgyblaeth hen ffasiwn. Mae ’na botensial am densiwn annioddefol wedi i’r fam newydd Sara Harries (Lauren Phillips) ddychwelyd i’r adran gelf a gwneud llygaid ‘lladdai nhw’ ar Dan a Grug o bell. Ond yr elfen orau heb os yw’r hiwmor sy’n britho’r awr, yn enwedig golygfeydd Gemma Haddon (Siw Hughes) a Gwen Lloyd (Rhian Morgan) sydd efallai’n destun edmygedd benywaidd arall. Does dim angen i Rhodri Evans agor ei geg fel y Pennaeth Rhydian Ellis, gan fod ei osgo a’i stumiau yn gelfydd o gomic wrth geisio cadw trefn ar staff sy’n fwy o lond llaw na’r plant, a chodi’i Ysgol o gywilydd gwaelodion Band 4. Ond ai fi yw’r unig un sy’n meddwl bod Wyn Rowlands Cymraeg (Richard Elis) yn fwy o gymeriad panto nag erioed, yn llawn sylwadau coeglyd ac yn rholio’i lygaid yng nghefn pawb? Dim ond cyfres neu ddwy ôl roedd y ffŵl diniwed hwn yn hen snichyn budr gyda’r genod. Ond ar y cyfan, mae’n bleser dychwelyd i’r ’stafell ddosbarth a mwynhau awr yng nghwmni cymeriadau rydych chi’n malio amdanyn nhw.


Prin gallwn i ddweud yr un peth am gymeriadau Teulu yn anffodus, a fu’n cicio a brathu, gweiddi a godinebu am bum cyfres cyn cymodi mewn glân priodas yn y Cei. Er, mae rhywun yn amau y bydd Llŷr unig druan yn paffio yn erbyn ei gysgod ei hun am byth ym Mryncelyn, ar ôl cael allweddi’r aelwyd gan ei fam. Er mai dim ond y bennod olaf welais i, does dim dwywaith ei bod hi’n boblogaidd – llwyddodd y bennod gyntaf i ddenu 67,000 o wylwyr nôl ym mis Ionawr, bron ddwywaith gymaint â ffarwel fawr Alys – a’i bod hi’n wledd i’r llygaid yn y dyddiau darbodus blin ohoni, ond roedd i’n bryd cau pen y mwdwl. Mi fydd hi’n chwith heb gyfraniadau trydar @DrJohnFfug bob nos Sul hefyd. Pwy a ŵyr, efallai y gwelwn ni’r Morganiaid ac Aberaeron hirfelyn tesog yn ôl am sbesials yn y dyfodol. Wedi’r cwbl, mae cenhedlaeth ifanc a hen hen stejars Dallas (Channel 5) newydd gladdu JR yr wythnos hon.


Ta ta Teulu



Parhau i ddarllen

shitclic: Pererin wyf

 

Mae cryn dipyn ohonom wedi gwneud y daith i bendraw’r byd, a ffeirio Cymru fach am Awstralia enfawr. Dyna chi gyndeidiau Kylie a Danni o Faesteg, Rolf Harris o Ferthyr, Naomi Watts o Fôn a Russell Crowe o Wrecsam. Heb anghofio Julia o’r Barri wrth gwrs, sy’n ddim llai na Phrif Weinidog ei gwlad fabwysiedig heddiw. Y Cymro diweddaraf i bacio’i sbectols haul, ei het Panama a bwcedaid o eli ffactor 50 – yn ogystal â chagŵl melyn poenus o lachar – oedd Aled Sam, fel rhan o gyfres ffeithiol newydd epig Yr Anialwch. Mae’n un o chwe wyneb cyfarwydd lwcus sy’n cael teithio i anialdiroedd Jiwdea a’r Gobi, Namib a’r Atacama, lle mae natur a dyn wedi addasu dan rai o’r amgylchiadau mwyaf heriol wyneb daear.

Nid bod y cyflwynydd yn mwynhau’r profiad pum seren wedi’i aerdymheru i’r eithaf rhag gwres tanbaid hanner can gradd yr outback chwaith. Wel, nid o flaen camera beth bynnag. Yn hytrach, treuliodd noson mewn sach gysgu dan sêr diderfyn y diffeithwch, toileda tu ôl i’r prysgwydd, a rhannu pryd o gynrhon larfa (“blas cnau a wyau”) a darn o fadfall (“blas cyw iâr”) gyda thair menyw borigine. Mae’n siŵr bod dyddiau hawddfyd 04 Wal: Gwestai’r Byd yn ymddangos fel breuddwyd i’r Bonwr Sam bellach. Oedd, roedd hon yn ddelwedd go wahanol i swbwrbia dosbarth canol Neighbours a syrffwyr eurfrown Home and Away. Cafodd Aled beint neu dri yng nghwmni slochwyr y William Creek Hotel – tafarn ddiarffordd 200km o’r dref agosaf, a deg awr i’r gogledd o ddinas Adeilade – a deffrodd yn blygeiniol i weld criw o “Ringers” neu ffermwyr ifanc yn corlannu miloedd o wartheg a lloi yng nghanol y llwch, gyda chymorth awyren a motobeics yn lle’r hen Shep. Cafodd gêm o golff gefn liw nos gyda rhai o drigolion prifddinas opal y wlad, Coober Pedy, gan gynnwys Phil Lewys o Abertyleri a lwyddodd i naddu cartref o’r graig oerach.

Cyflwynwyd llu o ffeithiau anhygoel am y lle, fel fferm Anna Creek Station sydd â mwy o erwau na Chymru gyfan, a Llyn Eyre sy’n ddigon mawr i lyncu Ffrainc, yr Eidal a’r Almaen yn un. Ond gogoniant cyfresi o’r fath yw’r gwaith camera, a bydd yr olygfa o’r dwsinau o raeadrau yn llifo i lawr craig Uluru wedi storm yn aros yn y cof am sbel hir.

Mi fuaswn i wedi hoffi clywed mwy am ŵyl a gwaith y brodorion yn ogystal â’r ffermwyr a’r mwyngloddwyr gwyn, a chlywed sut siâp sydd ar eu hiaith a’u traddodiadau heddiw. Ond fel yr awgrymodd Aled Sam, mae’n debyg ein bod yn ffodus o gael cip ar y gymuned aboriginaidd o gwbl, felly dylem fod yn ddiolchgar am friwsion.

Parhau i ddarllen

shitclic: Eira mawr, siarad mân

Mae eira mawr 1982 yn gyfystyr â Sulwyn Thomas a’i Stondin, wrth i bobl ddefnyddio’r radio fel cyfrwng cyfathrebu mewn cyfyngder, a ffonio i gyhoeddi pa ffordd neu ysgol oedd wedi diflannu dan luwchfeydd. Hyn ymhell bell cyn dyddiau’r cyfryngau cymdeithasol wrth gwrs, pan fo penaethiaid ysgol yn e-bostio’r newydd i rieni a phob copa het wlanog yn tecstio lluniau o’r stwff gwyn i brif raglenni newyddion y dydd. Un o’r gohebwyr dros ben llestri oedd Nick Palit Wales Today, a ddefnyddiodd ei stumiau dwys-ddifrifol gorau posibl i ddisgrifio’r strach o gyrraedd swyddfa Llandaf fel petai’n byw wrth droed Pen-y-fan yn hytrach na chyrion y brifddinas. I fi, bydd tywydd mawr 2013 yn gyfystyr â chlywed Tudur Owen yn rhefru a rhuo am effaith ychydig gentimedrau o eira ar wledydd argyfyngus Prydain. Mae rhaglenni prynhawn Gwener a Sadwrn yn enghraifft berffaith o addasu’n llwyddiannus i streic y cerddorion, gyda digon o gomedi (y gyfres sebon ŵ-ŷ-misus Bron Meirion a’r slot ‘gair Cymraeg y dydd’), herian Manon Rodgers (trwy gyfrwng Skype ar ôl iddi fethu â chyrraedd y stiwdio o grombil arctig Môn), rhagflas o arlwy chwaraeon y penwythnos, a chasgliad recordiau amrywiol a difyr Dyl Mei (Rosalind Lloyd ochr yn ochr â John Cale!) Gwych. Er, efallai na fyddech chi mor frwd os ydych chi’n blisman iaith neu’n cadw cathod…

Clywais ambell un yn cwyno mai rhaglen-radio-ar-y teledu ydi Cadw Cwmni gyda John Hardy (Rondo) yn y bôn, ond dwi’n cael blas arbennig arni. Mae’n fformat syml a gweddol rad, dybiwn i, sy’n hollbwysig i’r Sianel ddarbodus sydd ohoni. Gosodwch gadeiriau esmwyth mewn stiwdio fechan ddi-gynulleidfa, a chyflwynydd profiadol yn holi gwesteion cyffredin yn hytrach na selebs ‘ylwch fi’. Clywsom eisoes am brofiadau un o fomwyr Tryweryn, cyfreithiwr a fu’n rhan o’r ymchwiliad i gyflafan Bloody Sunday, a hanes hyfryd dau faciwî o Lerpwl a drodd yn Gymry Cymraeg pybyr, diolch i’w teuluoedd mabwysiedig yn Nhalgarreg a Llanrwst. Yn wir, mae’r straeon mor ddifyr nes ei bod hi’n biti eu torri’n eu blas. Byddai’n well neilltuo rhaglen gyfan i un gwestai er mwyn treiddio’n ddyfnach o dan yr wyneb arwynebol.

Roeddwn i’n barod i arthio bod hanner awr yn ormod i Fi neu’r Ci (Telesgop), cyfres newydd am ddarpar gariadon y genedl. Pan glywais hys-bys fisoedd yn ôl am gystadleuwyr yn canlyn anifeiliaid anwes cyn bachu’r perchennog, aeth ias oer Tipit-aidd drwyddaf. Doedd y gwirionedd ddim mor boenus wedi’r cwbl, gydag ‘Al’ o Dregaron yn bwydo, gwarchod a hyfforddi anifeiliaid dwy ferch o Sir Benfro (a sbecian drwy’i llofftydd a’u drôr nicers) wrth i’r merched ysbïo arno ar eu cyfrifiaduron, cyn gorfod dewis rhwng “Talia a’i shih tzu siapus” neu “Katie a’i phoni ffansi” meddai’r llefarydd Ifan Jones Evans. Unwaith eto, fe orffennodd y cyfan yn rhy sydyn gyda dim ond pum munud ola’r rhaglen yn dilyn y cwpl ar ddêt sgod a sglods ar brom Aberystwyth.

Parhau i ddarllen

shitclic: O’r Cwilt Cymreig i gân Dy Fam

“Y Cwilt Cymreig” gan Margaret Williams gychwynnodd bopeth ym 1969. Roedd BBC Cymru bron marw eisiau ymuno â’r Eurovision ar y pryd, a’r canlyniad oedd Cân i Gymru. Byth ers hynny – heblaw am ’73 am ryw reswm – mae cantorion amrywiol Gwlad y Rasta Gwyn wedi canu mawl i Dafydd ap Gwilym a Wini, crefu ar Gloria i ddod adra, ffeindio’u hunain mewn twll triongl, poeni am nwy yn y nen a mwydro am lwynogod, haul a ’sgotwrs dwylo gora, cyn dal bws i’r lleuad. Diflannodd y freuddwyd gwrach Ewropeaidd a phenderfynwyd canolbwyntio’n hytrach ar lwyfannu sbloets Gŵyl Ddewi er mwyn anfon band o Gymru i ’steddfod dafarn yn Iwerddon. Newidiodd y fformat dros y degawdau, o sgorfwrdd nul point i bleidlais ffôn, panel o wylwyr ar gamerâu byw o Wynedd i Went, cyfraniadau trydar a phanel XFactor yn darlledu o lefydd mor chwaethus â champfa Afan Lido. Ie, tra bo’r Ewropeaid yn cael serennu ar lwyfannau Jerwsalem, Berlin a Malmö, roedd y Cymry’n mynd i Bort Talbot. Roedd cân gan Arfon Wyn yn rhan mor anhepgor o’r ffeinal â chyflwynwraig benfelen a’r boi “bwrlwm” cefn llwyfan, cyn i’r cwmni cynhyrchu ddechrau anwybyddu pob cais gan hen rocars mewn denim a Rhydian Bowen Phillips, a ffafrio’r kids o! mor cŵl gyda chaneuon C2aidd efo dos go lew o agwedd a Modrybedd sgrechlyd yn y rhes flaen.

Os ydi S4C mor frwd dros y gystadleuaeth, pam nad yw’n anfon y buddugwr blynyddol i gystadleuaeth Liet International, eurovision yr ieithoedd llai a gynhaliwyd yn Asturias, gogledd Sbaen, y llynedd? Lleuwen o Lydaw – Lleuwen Steffan gynt o Riwlas – ddaeth i’r brig gyda chân Lydaweg, yn erbyn cystadleuwyr o’r Alban, Gwlad y Basg, Corsica, Fryslân a Sardinia ymhlith eraill. Mae hon yn cael ei darlledu’n fyw ar orsafoedd teledu Ewrop ac felly’n gwneud mwy o synnwyr na’r Ban Geltaidd ddisylw, felly beth amdani eleni S4C?

Wedi dweud hynny, efallai na gymeraf y gystadleuaeth o ddifri fyth eto diolch i griw athrylithgar Dim Byd fel Cân i Gymru. Os fuon nhw’n crio chwerthin gymaint yn y stafell olygu ag y gwnes i ar y soffa adra, dwi’n synnu iddi weld golau dydd o gwbl. Pob clod iddyn nhw am dyrchu drwy’r archifau, darganfod perlau/erchyllterau’r gorffennol (Ieuan Rhys? Gareth Glyn? Wir?!), a throsganu gyda hiwmor swreal a choch iawn ar brydiau. O Dafydd Iwan yn ei morio hi’n Saesneg i fersiwn gignoeth Margaret Williams o gyfansoddiad Tew Shady, roedd angen rhewi’r sgrin ac ailchwarae hon dro ar ôl tro i werthfawrogi pob jôc. Chwarae teg hefyd i’r hen Fargaret, Tony ac Aloma, Hogia’r Wyddfa ac eraill am ymuno yn yr hwyl a chwarae’n gwbl o ddifrif. Hiwmor unigryw Cymraeg ar ei orau.

A na, dwi ddim eisiau mynd yn agos i bali Corwen efo Alys.

Parhau i ddarllen

shitclic: Cymru, Lloegr a Denmarc

Daeth un o’m hoff gyfresi diweddar i ben wythnos diwethaf. Roedd Llefydd Sanctaidd i’r dim ar nos Sul diog rhwng smwddio a’r ciando, y golygfeydd godidog yn denu ac Ifor ap Glyn yn gyflwynydd huawdl, os socian weithiau, mewn Cymraeg naturiol braf yn hytrach na darllen cyfieithiad clogyrnaidd o’r Saesneg. Rhwng honno a thywyslyfrau gwych John Davies a Gwyn Thomas, mae ’na doreth o lefydd newydd i ymweld â nhw pan ddaw’r gwanwyn, o Gapel Gofan Sant yn Sir Benfro i Abaty Whitby ac Ynys Lindisfarne. Ac i’r rhai ohonoch sy’n hoff o ffidlan efo’r ffôn lôn ddiweddaraf, mae ‘na ‘app’ newydd Cymraeg i’ch tywys i un o’r 37 lle sanctaidd a welwyd ar y sgrîn, sy’n sicrhau bod gwaddol y gyfres yn parhau. Gwych. Cydgynhyrchiad rhwng Cwmni Da o’r Felinheli a Western Front Films o Dorset oedd hon, ac mae’n debyg y bydd ’na fersiwn Saesneg Holy Places ar BBC Four yn y dyfodol. Ai Ifor Ap fydd y cyflwynydd, ac os felly, a fydd yn siarad Saesneg Cocni fel un o blant Llundain?

Mae’n ymddangos bod S4C yn rhoi cryn fri ar gynhyrchu rhaglenni ar y cyd â chwmnïau a sianel eraill. Cefais ddiawl o déjà vu o wylio’r rhaglen apocalyptaidd Y Tywydd: O Ddrwg i Waeth (Tinopolis Llanelli) fis yn ôl, gan fod y graffeg a’r effeithiau arbennig yn gyfarwydd ar y naw – cyn deall wedyn mai fersiwn gefn-gefn o Is Our Weather Getting Worse? (Pioneer Productions, Llundain) a welais ar Channel 4 dros y Dolig oedd hi, gydag ambell olygfa ychwanegol o ddilyw Llanelwy a Llanbêr yn fersiwn Erin Tywydd. Newydd gwych arall ydi bod cwmni Green Bay o Gaerdydd ar fin cyflwyno cyfres epig chwe rhan Yr Anialwch gyda chyflwynwyr fel Ffion Dafis, Lowri Morgan a Jason Mohammad yn ein tywys drwy ogoniannau’r Sahara, perfeddwlad Awstralia ac anialdir Namibia ymhlith eraill. Damia bod gwasanaeth Clirlun wedi dod i ben, tra bydd gweddill y byd yn cael mwy o wledd i’r llygaid gyda Deserts mewn HD llawn. Mae’r Sianel dan anfantais enfawr yn hyn o beth – eisoes, clywais am lu o wylwyr Cymraeg yn cefnu ar ddarpariaeth rygbi S4C er mwyn gwylio’r Chwe Gwlad ar sianel BBC HD. Gwell llun clir fel cloch na sylwebaeth gaboledig Huw Eic?

Y newyddion mwyaf cyffrous i mi’n bersonol, ydi’r darpar ditectif drama Mathias (Fiction Factory), ffrwyth cydweithio rhwng S4C a BBC Cymru-Wales. Gwyddom eisoes mai Richard Harrington sy’n chwarae’r brif ran ochr yn ochr â Mali Harries, felly digon o bosibilrwydd am densiwn yn fanno, rhywiol neu beidio. Aber a’r cylch ydy un o’r prif gymeriadau eraill, felly bydd bwrdd croeso Ceredigion yn glafoerio am gyfle i werthu’r ardal i ymwelwyr Nordig ar ôl i sianel Danmarks Radio brynu’r gyfres yn barod. Dychmygwch pa mor wych fyddai gweld drama Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg ar y sianel honno a BBC Four, ond dwi’n amau mai’r fersiwn Saesneg Hinterland gaiff ei darlledu dros Glawdd Offa. Sôn am golli cyfle euraidd i addysgu’r byd a’r betws a rhoi stamp cwbl unigryw i’r genre hynod boblogaidd hwn.

 Inspektør Tom Mathias fra Wales

Parhau i ddarllen

shitclic: Pa newydd?

Mae eisiau amynedd Job i fod yn ben bandit Radio Cymru y dyddiau hyn. Os nad ydi beirdd a chantorion y genedl wedi pwdu efo chi, mae’ch bali newyddiadurwyr ar streic undydd a’r gwrandawyr yn prysur troi cefn arnoch fel cwsmeriaid lladd-dy Llandre. Mae’r ffigurau diweddar yn sobor unwaith eto – cyfartaledd o 125,000 o wrandawyr wythnosol ym mis Rhagfyr 2012, 6.7% yn llai na Rhagfyr 2011 a 32.4% yn llai na degawd yn ôl. Colli tir fu hanes y chwaer orsaf Saesneg hefyd (436,000 yr wythnos, gostyngiad o 6.8% ers Rhagfyr 2011) tra mai Radio 2 oedd y ffefryn clir yng Nghymru (872,000 yr wythnos).



Un newydd da i Siân Gwynedd ydi’r ffaith fod ein cantorion roc a phop wedi dychwelyd i gorlan Radio Cymru dros dro, wrth i’r Gorfforaeth Lundeinig ymroi i dalu £50,000 i dribiwnlys yn hytrach na chyfrannu’n syth at gronfa Eos, y corff hawliau darlledu Cymraeg. Mae ’na rywbeth yn drewi fan’na. Ar un llaw, fe wnaeth y ‘streic’ orfodi cyflwynwyr a throellwyr disgiau’r orsaf i weithio’n galetach i’n difyrru ni, a dewis peth wmbredd o gerddoriaeth newydd a gwreiddiol o bedwar ban byd yn lle dibynnu ar restr gyfrifiadurol yn unig. Ac mae ’na berlau comedïol ymlaen bob nos Wener ar raglen Gethin Evans nad yw’n dibynnu’n ormodol ar recordiau i lenwi’r seibiau hir chwithig, wrth i’r cyflwynydd a’i seidcic Geraint Iwan gynnig comisiynau newydd i S4C, trafod straeon newyddion odia’r wythnos a gwylio-a-trydar am Teulu am y tro cyntaf erioed. Ar y llaw arall, mae rhywun yn falch o groesawu un o’r 30,000 o ganeuon aelodau Eos wedi mis o seiniau collwrs Cân i Gymru. Feddyliais i erioed y buaswn i’n clywed Nikki Fox a Derfel byth eto, a dwi ddim eisiau am sbelan go lew eto diolch yn fawr iawn.



Mae ailwampiad newyddion yr orsaf wedi ennill ei blwyf erbyn hyn. Mae arwyddgan newydd Post Cyntaf yn gleniach i’r glust ben bore, ac mae ’na fwy o drafod gemau pêl-droed y noson gynt diolch i ddylanwad Dylan Ar y Marc Jones. Ar wahân i hynny a chwarae gêm newid cadeiriau gyda chyflwynwyr profiadol, mae’r fformiwla lwyddiannus yn parhau. Trueni nad fyddai’r bosus yn caniatáu hanner awr ychwanegol i Rhodri Llywelyn a Gwenllian Grigg ar y penwythnos hefyd, er mwyn cael mwy o sylwedd na’r rhaglen news lite fore Sadwrn. Ar ben hynny, mae ’na ormod o “sori i darfu arnoch chi ond ma’ amser yn brin, diolch yn fowr”. Mae straen y stopwatsh yn broblem i ambell gyflwynydd sy’n baglu dros ei eiriau a pheri i’r gwrandäwr hanner effro golli rhediad y stori. Ac yn ’sgytwad i’r system wedi cyflwyniad hamddennol braf Galwad Cynnar o’u blaenau.

Parhau i ddarllen

shitclic: Myfyriwr, perchennog caffi a’r dyn RAF

Profiad poenus ac emosiynol ar y naw oedd eistedd gerbron S4C wythnos diwethaf. Gyda’r Cyfrifiad diweddar yn cadarnhau bod ein cymunedau a’n siroedd Cymreiciaf yn boddi dan don o Saeson, bu cryn dipyn o son am foddi llythrennol arall hefyd. Ar Sam ar y Sgrin, clywsom am fersiwn DVD newydd sbon o Last Days of Dolwyn (1949) yn seiliedig ar foddi Cwm Elan meddan nhw, ffilm wedi’i chyfarwyddo gan Emlyn Williams ac yn cynnwys rhyw seren newydd o’r Richard Burton. Darlledwyd sawl rhaglen ddirdynnol am golli cwm uniaith Gymraeg yng nghefn gwlad Meirionnydd hanner canrif union ers ffrwydrad Tryweryn. Cefais bwl o deja-vu wrth i’r atgofion lifo ac ailagor hen glwyfau. Wedi’r cwbl, roedd Owain Williams (Now Gwynus neu Now Bom) eisoes wedi adrodd hanes y “trefniadau amaturaidd” ar raglen gyntaf Cadw Cwmni ddechrau Ionawr, gan ddisgrifio’r lwc mwnci o gael pyncjar cyn cyflawni’r weithred fawr yng nghanol yr eira gwaethaf i daro Cymru ers 200 mlynedd. Mae’n amlwg nad oedd yna fersiwn 1963 o Rhian Haf na Derek Tywydd a’i ‘rybudd coch’, felly.

Er gwaetha’r hanes lled-gyfarwydd, rhaid oedd neilltuo awr i wylio Tri Tryweryn (ITV Cymru), cyfuniad o luniau archif, toriadau papur newydd y cyfnod cythryblus hwnnw a phererindod chwerwfelys i’r tri a benderfynodd wneud yn lle dweud. Os mai Owain Williams ydi wyneb cyhoeddus amlwg yr ymgyrch, ac Emyr Llew ddagreuol o Ffostrasol yn ail agos iddo, roedd John Albert Jones y cyn-filwr o Fadryn yn hollol newydd a dieithr i mi. Sioc a syndod oedd deall mai dyma’r tro cyntaf erioed iddo fo ac Emyr Llew weld ei gilydd ers hanner canrif, a’r ddau wedi byw a bod yn y Gymru Gymraeg agos-atoch erioed. Elfen ddifyr arall oedd cyfweld David Walters o’r Bargod, un o ddau o Gymry di-Gymraeg Cwm Rhymni a ddysgodd y lleill sut i greu bom; a’r cynghorydd Elwyn Edwards yn cofio gorymdeithio ar strydoedd Lerpwl wrth i hen ferched y ddinas boeri arno. Roeddwn yn gegrwth o glywed bod rhai o gynghorwyr a pherchnogion busnes barus y Bala o blaid y boddi er mwyn llenwi’u pocedi. Ac ar raglen radio safonol Dei Tomos, fe chwalodd Lyn Ebenezer fyth poblogaidd arall am wrthwynebiad llwyr Aelodau Seneddol Cymru i’r boddi. Ni chododd Nye Bevan lais ar y mater o gwbl, ac atal ei phleidlais wnaeth Megan Lloyd George. Argian, mae’n wir mai ni’r Cymry ydi’n gelynion gwaethaf ni weithiau.

Roedd ’na dinc chwerw yn Cofio Tryweryn hefyd, sy’n ddim syndod gan mai cyn-brifathrawes, ffermwyr a phlant y cwm oedd y cyfranwyr. Rhaglen o archif HTV oedd hon, a ffilmiwyd pan ddaeth sylfeini’r hen gapel a’r bont garreg i’r golwg i godi arswyd yn ystod haf sych 1984. Ffaith hynod ddiddorol oedd i Éamon de Valera, arlywydd Iwerddon ar y pryd anfon llythyr o gefnogaeth i’r pwyllgor amddiffyn. A chan fod streic Eos yn dal i rygnu ’mlaen, cân ingol gan Wyddeles a glywyd yn aml ar Radio Cymru – ‘Dan y dŵr’ gan Enya – yn hytrach na theyrngedau Meic Stevens a Heather Jones i Dryweryn.

Parhau i ddarllen

shitclic: Dewi a’i Farn

Fel rheol, mae blwyddyn newydd yn amser i edrych ymlaen yn obeithiol at y deuddeg mis nesaf. Llechen lân, tomen o addunedau ystrydebol, a hei lwc am iechyd a hapusrwydd (a chyfri’ banc gweddol) am sbelan go lew eto. Bechod na ddywedodd rhywun hynny wrth gysurwrs Job Wales in a Year. Dechreuodd cyfres newydd chwe rhan BBC1 ar nodyn digon anobeithiol, ar ôl cyflwyno’r wyth teulu agorodd eu drysau i’r camerâu teledu gydol 2012 – gan gwestiynu dyfodol ffermwyr, pysgotwyr a pherchnogion busnesau bach y genedl. Ac am genedl amrywiol a diddorol hefyd, o’r miliwnydd o dras Iranaidd sy’n ceisio codi safon bwytai a bariau Heol Eglwys Fair, prif stryd slochian y brifddinas, i berchennog ffatri nicyrs olaf Cymru sy’n cyflenwi rhai o enwau mwya’r byd ffasiwn. Saeson y Bala a thenantiaid fferm fynydd uwchlaw Dolgellau sy’n cynrychioli’r Gogs, ac mae’n chwithig tu hwnt clywed Edwardsiaid Tŷ Cerrig yn siarad Saesneg ar y sgrin. Iawn gwneud hynny’n uniongyrchol â’r camera, ond pam ddim gadael iddyn nhw sgwrsio’n naturiol braf yn eu mamiaith rownd bwrdd bwyd neu wrth gyfarch y wyres fach, gydag isdeitlau ar y sgrîn i’r gwylwyr uniaith rhonc? A rhyfedd nad oes lle yn y blwyddiadur i deulu o’r Gogledd-ddwyrain.

 

Mae yna fwy o lais i bobl y Clawdd ar S4C beth bynnag, mewn cyfresi fel Llefydd Sanctaidd, gydag Ifor ap Glyn yn teithio ac yn tyrchu i’r hanes a chwedloniaeth tu ôl i rai o henebion gwledydd Prydain. Rydym eisoes wedi’i weld yn ymdrochi yn nyfroedd oer iachusol Ffynnon Gwenffrewi ac yn crwydro Abaty Glyn y Groes ger Llangollen – llefydd dieithr iawn i mi, mwya’r cywilydd. Diolch i gyfuniad o straeon difyr a’r naws arallfydol arbennig a grëwyd gan waith camera Rhys Edwards ac Angus Johnstone, mae’n ffordd hamddenol braf o dreulio nosweithiau Sul.

 

Mae Pawb a’i Farn yn ymwelydd cyson â’r Gogledd-ddwyrain hefyd, fel rhifyn nos Iau diwethaf o Dreffynnon dan arweiniad tebol Dewi Llwyd. Y dyn ei hun oedd testun rhaglen deyrnged arbennig gan BBC Cymru i un o’i gweision ffyddlonaf (a wrthododd sawl cynnig i weithio yn Llundain gyda llaw) sy’n ffeirio’r stiwdio deledu 200 milltir i ffwrdd yng Nghaerdydd am gwt radio’r Post Prynhawn 200 llath o’i gartref ym Mangor. Roedd cyfweliad Bethan Rhys Roberts a chlipiau newyddion mawr Degawdau Dewi Llwyd yn werth chweil. Bu’n llygad dyst i rai o ddigwyddiadau mawr y tri degawd diwethaf, gan holi’r Dalai Lama, meddwi ar optimistiaeth Mandela yn y Dde Affrica newydd, a darbwyllo Miss World o Wlad yr Iâ i ddweud “noswaith dda” wrth wylwyr S4C adeg uwchgynhadledd Reagan-Gorbachev yn Reykjavik 1986. Cyfaddefodd mai nosweithiau etholiadol ydi uchafbwynt ei yrfa, ac mae ganddo bedigri go dda yn y maes rhwng saith Etholiad Cyffredinol, pedwar Etholiad Cynulliad a dau Refferendwm. Roedd yn ddigon o foi i gyfaddef fod darllediad etholiadol cyntaf S4C ym 1983 yn “llanast trychinebus”, rhwng cyhoeddi canlyniadau anghywir a’r set bwrdd du, a’r gohebydd gwleidyddol Roderick Richards yn brathu’i dafod wrth i’r map cardbord o Gymru weindio fel malwen ar y sgrîn. Bron na allech ni glywed y stiwdio gyfan yn dal eu gwynt. Chwarae teg i’r Bonwr Llwyd am fynnu rhaglenni o’r safon uchaf mewn Cymraeg cywir bob amser, a phob clod iddo am wffio ceisiadau diweddar o’r top i “symleiddio” neu lurgunio’r iaith. Faint o weision eraill y Bîb sy’n ddigon dewr a chadarn i wneud hynny heddiw?

Parhau i ddarllen

shitclic: Gwlad jocs a chantorion

 
Mae’n fis Ionawr diflas, y bil treth swmpus yn ddyledus cyn diwedd y mis, ac anghydfod cerddorion Cymraeg v BBC Llundain yn gyfle perffaith i elynion yr iaith fwrw’u llid yn y wasg a’r cyfryngau Seisnig, fel rhaglen ffonio-a-ffraeo Jeremy Vine ar Radio 2. Diolch i’r drefn am wên gynnes yr actores Sidse Babet Knudsen i lonni’r galon bob nos Sadwrn ar BBC Four. Ydy, mae ail gyfres o’r ddrama orwych Borgen am brif weinidog Denmarc sy’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng ei llywodraeth glymblaid a’i haelwyd fregus, yn ôl. Un arall sy’n codi’r ysbryd ydi S4C, sy’n ein difetha’n rhacs gyda danteithion newydd ar hyn o bryd. Daeth Dim Byd yn ôl gyda chwarter awr o sgetshis-seren-wib wedi’u seilio sianeli lloeren Cymraeg dychmygol. O’r maes adloniant (Pantomeim Ffermwyr Hiliol) i’r celfyddydau (Gwneud Pethe; Dim Barn; Colli Pethe) a henebion (Creiriau’r Cymry; Taclau Taid; Pres Datyn), mae ’na gomedi geiriol hollol unigryw Gymraeg yma, ac roedd y sianel ddrama (Terry Huws PI; Oh! no J.O) yn cynnwys hen glipiau swreal o’r actor JO Roberts ifanc yn pledu bwledi fel petai Quentin Tarantino wedi cyfarwyddo drama antur ym Menllech. Rhaglenni i’w gwylio drosodd a throsodd yw’r rhain, felly da chi recordiwch nhw i ddotio a chwerthin ar berlau geiriol a golygfeydd gwirion bost fel cymeriad mewn lycra pinc yn gwibio ar draws Maes Caernarfon.

 

Ar ôl mwynhau hiwmor sardonig Sam ar y Sgrîn (“Es-Ffôr-See it again and again and again” mewn ymateb i gŵyn am ailddarllediadau’r Dolig) nos Wener, tro comedïwyr Gig-l oedd hi i ddiddanu’r genedl. Daeth cyfres boblogaidd Live at the Apollo y BBC i’r cof, ond gyda chwarter – os hynny hefyd – o gynulleidfa yn sinema Crosshands. O leiaf roedden nhw’n g’lana chwerthin, rhai mewn cymaint o sterics nes ’mod i’n poeni am eu hiechyd nhw. I fod yn deg, roedd hon yn well na’r disgwyl, yn enwedig perfformiad bywiog Steffan Alun wrth iddo refru am bla o nwyddau Jac yr Undeb yn y siopau’r llynedd. Gwahoddwyd aelod dewr neu feddw o’r gynulleidfa i fachu’r meic hefyd, fel Alun Saunders a dynnodd blewyn o drwyn perchnogion siopau digywilydd a Chymry Cymraeg SWNLLYD Pontcanna. Ar ôl hanner awr o wynebau newydd, hen lawiau clybiau Llundain sy’n perfformio’n Gymraeg am y tro cyntaf ers cantoedd, mae’n hawdd deall brwdfrydedd y cyflwynydd Frank Honeybone am fywiogrwydd y sin yng Nghymru ar hyn o bryd. A chladdu hunllefau Jocars a Da ’di Dil ’de am byth.

 

Ar ôl rhefru yng ngholofn olaf 2012 am ddiffyg rhaglenni cerddoriaeth roc a phop Cymraeg, dyma’r Sianel yn cyflwyno Calennig yn Y Stiwdio Gefn bob nos Fawrth. Anghofiwch am y ffaith eu bod nhw’n rhannu stiwdio Heno nos Wener (Tinopolis ydi’r cynhyrchwyr wedi’r cwbl) a’r gymhariaeth amlwg â sioe Jools Holland, mae’n gyfres syml ddiffwdan sy’n canolbwyntio ar y gân a sgwrs sydyn rhwng y dihafal Lisa Gwilym a’r cantorion ar dri llwyfan.

Parhau i ddarllen

shitclic: Gwyl y cofio a’r streicio

 
Faint o deledu mae rhywun yn ei wylio mewn gwirionedd dros brysurdeb a bedlam y Dolig? Ar ôl cael gorddos o sbrowts a mins peis (ddim gyda’i gilydd), rydach chi’n barod i sodro’ch hun ar y soffa i wylio’r rhaglenni a farciwyd yn y Radio Times. Ond erbyn yr hwyr, mae cloc y corff ar chwâl ac rydych chi’n chwyrnu erbyn y credits agoriadol, cyn deffro teirawr wedyn i weld mam sobor-fel-sant yn crïo chwerthin i Mrs Browns Boys, cyfres gomedi am Wyddel mewn cwrls a bronnau g’neud, ac un o lwyddiannau mwya’r BBC dros y gwyliau a ddenodd 11 miliwn o wylwyr. Efallai nad ydi’r ffermwyr ifanc mor bell ohoni wedi’r cwbl.

Fel arfer, mae’r Ffilm Fawr Gymraeg yn hollol hanfodol ar gyfer yr ŵyl, ond dwi’n ama mod i’n dderyn prin ymhlith teulu a chydnabod eleni. Roedd sawl un wedi gwylio deg munud o Pianissimo cyn rhoi’r gorau iddi, eraill heb eu hargyhoeddi gan yr hysbysebion. Doeddwn i ddim yn gwbl gyfforddus i ddechrau chwaith, wrth ofni beth oedd cymhelliant pianwr y fflat uchaf a ddenai chwilfrydedd Ela’r ferch ddeg oed yn y fflat isaf. Ond dyna union fwriad Ceri Elen yr awdures a Tim Lyn y cyfarwyddwr mae’n debyg, wrth chwarae ar ein rhagfarnau a’n rhagdybiaethau sinistr ofnus ni, yn union fel ymateb dros ben llestri ei mam (Nia Roberts) a’i thad yn arbennig (Huw Garmon) i’r berthynas gudd hon. Yr hyn a gafwyd yn y diwedd oedd ffilm fach emosiynol a hynod deimladwy am broblemau cyfathrebu, colled a galar, a gallu arbennig cerddoriaeth i leddfu hynny.

Rhois gynnig ar aduniad Noson yng Nghwmni Dewi Pws hefyd tra’r oedd gweddill y byd yn lolian ar Downton Abbey, gan fod gen i gof plentyn o fopio ar ddywediadau (“blydi statig!”) a setiau sigledig 66 Chemical Gardens yn Torri Gwynt. Nhw oedd uchafbwynt y rhaglen arbennig hon hefyd, ond roedd ambell sgetsh fel ‘Crefft yr actor’ yn teimlo fel ymgais i lenwi’r awr. A beth coblyn sydd wedi digwydd i fwng euraidd Ricky Hoyw, neu ‘H’ bellach mewn wig du Arfon Haynes a lliw haul potel, ond sy’n dal i ganu fersiynau echrydus google translate o “glasuron” fel ‘Gwyrdd Gwyrdd Gwair Tŷ Ni’ a ‘Rudolph y Coch Nabod Glaw Drud’. Dychan gwych a deifiol o’r Gymru bei-ling heddiw.

Tybed a glywn ni ‘gampweithiau’ Ricky H ar Radio Cymru, fel Wagner, Geraint Griffiths, Tydi a Roddaist, Il Divo, Cerys yn Saesneg a Katherine Jenkins yn Gymraeg ar ddechrau 2013? Mae streic Eos wedi gadael bwlch enfawr yn amserlen gorsaf sy’n cael ei thrin fel un rhanbarthol gan y Gorfforaeth yn Llundain. Mae’n siŵr bod bosys Llandaf yn falch o’r holl gemau rygbi a phêl-droed byw i lenwi’r cwota 12 awr dros y Calan, ond ers hynny, tocio C2 ac ail-bobi rhaglenni’r bore fin nos ydi’r ateb. Siawns bod yna lwythi o ddramâu da yn archifau’r orsaf sy’n haeddu gweld golau dydd eto, yn hytrach nag ailddarlledu adolygiadau o bapurau a rhaglenni teledu Saesneg y dydd gan Caryl a Dafydd/Daniel…

Bu’n gyfnod o gofio hefyd, gyda dwy raglen arbennig am fawrion byd y campau. Un o olygfeydd mwyaf cofiadwy Grav: ’Sdim Cywilydd mewn Llefain oedd Ray Gravelle y Cymro yn camu dan deimlad i lwyfan Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2007 yn ei dei Owain Glyndŵr a thrênyrs draig goch, a’i gariad tuag at Mari, Manon a Gwenan ei “dair arwres”. Doedd gan gyfranwyr Garry Speed: Arwr Cymru, fel Gordon Strachan, Osian Roberts, Mark Aizlewood a Howard Wilkinson ddim ofn cyfaddef iddynt grio chwaith ar ôl clywed am hunanladdiad rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol. Dechreuodd pob atgof gyda’r diwrnod ofnadwy hwnnw pan glywon nhw’r newyddion dros y ffôn, cyn mynd ymlaen i ddangos clipiau o’r hogyn bach o Mancot, Sir y Fflint, aeth ymlaen i ennill parch a chalonnau’r byd pêl-droed ledled gwledydd Prydain a’r byd. Clywais am sawl un a wylodd wrth i’r actores Mair Rowlands arllwys ei chalon ar Beti a’i Phobl hefyd, wrth iddi gofio’n ddewr a gonest am farwolaeth ei mab Mathew a hithau ar ganol ffilmio trydedd gyfres o Teulu. Rhifyn arbennig iawn o gyfres anhepgor ein gorsaf radio genedlaethol.

 

Parhau i ddarllen

shitclic: Taro ’12

Mae’r Diwrnod Mawr yn prysur agosáu, a dwi’n gwneud fy ngorau glas i fynd i ysbryd yr ŵyl er gwaetha felan y Cyfrifiad. Mae panad o de a mins pei Aldi (“Lycshyri” cofiwch) ar y ddesg, Bart Simpson Siôn Cornaidd ar ben simnai gyferbyn, a CD Nadoligaidd newydd Cerys Matthews yn y cefndir. Er, dwi’n amau ei bod hi wedi camddeall geiriau T Rowland Hughes yng nghân ‘Y Darlun’ hefyd… Dyma’r amser traddodiadol i hel meddyliau am ddigwyddiadau’r flwyddyn a wibiodd heibio – y da, y drwg a’r diawledig. A thra cawsom ein boddi dan don o Brydeindod ym mlwyddyn y Jiwibilympics, mae’n well gen i gnoi cil ar arlwy’r cyfryngau Cymraeg yn 2012.

 

Nid bod modd osgoi hynny ar radio a theledu Cymraeg chwaith, wrth i ohebwyr bwysleisio’r BRITISH yn BBC Cymru a darlledu digwyddiadau Taith y Fflam hyd syrffed. Mi fuodd na gryn grensian dannedd o wylio a gwrando ar newyddion y flwyddyn hefyd, wrth i’r hacs Llundeinig fentro dros Glawdd Offa i adrodd am ddigwyddiadau trist yn y parthau dieithr hyn o’r Deyrnas. Daeth “Tallybont” a “Mackuncluth”i sylw’r byd, a chafodd enwau’r cyfranwyr Cymraeg eu camsillafu’n hollol ddigywilydd ar sgriniau Sky News, ITN a’r Bîb. Ydyn nhw’n dangos yr un diffyg parch i enwau pobl a lleoedd Syriaidd, Groegaidd a chenhedloedd amlwg eraill 2012? Ond mae’n gwasanaeth Saesneg “cynhenid” ni cynddrwg, wrth i ohebydd traffig a thywydd Good Morning Wales ynganu Llangernyw a Llanfair Talhaearn â llond ceg o bys slwj poeth. Mewn byd delfrydol, byddai’r gallu i lefaru enwau lleoedd a phersonol Cymraeg yn glir a chroyw yn rhan o ddisgrifiad swydd BBC Wales. Diolch i’r drefn am broffesiynoldeb Siân Lloyd, Derek Tywydd a Tomos Dafydd am bob Lord Jamie Owen.

O’r byd newyddion i ffeithiol, ac roedd ’na gryn dipyn o uchafbwyntiau yn cynnwys teyrnged Ffion Hague i rai o ferched amlyca’r genedl yn Mamwlad, ymchwiliad emosiynol Beti George i gleifion a gwasanaethau dementia yn Un o bob Tri, a gwledd i’r llygaid yn Antur y Gorllewin wrth i Iolo Williams hel natur o Bortiwgal i Wlad yr Iâ. Cawsom gyfresi pry-ar-y-wal rhagorol hefyd, yn enwedig Ysbyty Plant a gododd gywilydd arna’i am gwyno am bwl diweddar o man fluaka annwyd pen. A llongyfarchiadau i S4C am bwysleisio’i rôl fel calon cenedl, nid sianel y “bröydd” simsan yn unig, gyda lle amlwg i dafodiaith cymoedd Tawe ac Afan mewn cyfresi fel Y Glas a Traed Lan. Roedd hi’n flwyddyn o obsesiwn toiledol rhyfedd hefyd, gydag Ifor ap Glyn yn adrodd hanes Tai Bach y Byd a chriw Bois y Caca yn clirio’r carthion eisteddfodol ym Mro Morgannwg.

 

Sôn am bethau anghynnes, daeth enw o’r gorffennol yn ôl i lenwi nosau’r wythnos. Cawsom ddos o dabloid gyda Heno gyda’r orfrwdfrydig Rhodri Ogwen-Williams ac Emma Walford yn cyflwyno clecs ac adolygiadau o’r Sun, negeseuon trydar, a slot goginio fel Miss Cymru yn paratoi brechdan. Wedi’r holl lambastio ar wefannau cymdeithasol a Taro’r Post, cafodd Heno ailwampiad arall fel Wedi 7 Mk II dan arweiniad Gerallt Pennant. Doedd pob adfywiad ddim yn ddrwg i gyd chwaith, wrth i ni fwynhau Noson yng Nghwmni Caryl ar ŵyl ein nawddsant a chymeriadau newydd fel JoJo Eastman y ddysgwraig a Cameron Jenkins y chwaraewr rygbi ifanc yn adlais o Gymru 2012. Sgwn i beth ydi ymateb Sioned Gruuuug i’r ffrae ddiweddar am ddysgwyr yn (methu) cerdd dantio? Roedd ’na ddigon o chwerthin gyda chyfres Dim Byd hefyd, a enwebwyd am wobrau’r Royal Television Society a’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, wrth i griw Wil a Cêt: Y Profiad ddychwelyd i ddychanu’r Monwysiaid hynny a fopiodd ar y Windsors. Gobeithio y cawn ni ddilyniant arall yn sgil iwfforia’r Babi Brenhinol.

Roedd ’na ddigon o ddrama ar y Sianel hefyd, gyda giamocs athrawon a disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Taf yn Gwaith Cartref yn llwyddo i wneud yr amhosib, trwy blesio pawb – o ddisgyblion ail iaith Caerllion i deuluoedd ffarm Dyffryn Conwy. Ond mae syndod ac ymddiheuriadau’r flwyddyn yn mynd i Alys, un o ‘dyrcwns’ 2011 y golofn hon. Ydw, mi rydw i a sawl un arall a roddodd y gorau i wylio’r gyfres dywyll gyntaf, yn cael blas mawr ar yr ail, gyda chyfuniad o ias a chyffro, stori ysbryd, hiwmor tywyll a giamocs Kevin, Shane a Bessie. Gyda slot naw o’r gloch nos Sul yn ffyrnig o gystadleuol, a digonedd o ddramâu gwerth chweil ar y sianeli eraill, S4C sy’n ennill y tro hwn.

Bu’n flwyddyn a hanner i gyfres fwya poblogaidd y Sianel o bell, bell ffordd hefyd. Ffarweliwyd â Gwyn Elfyn, awdur bestseller y Gymraeg, ar ôl bron i 28 mlynedd o wasanaeth ffyddlon i Pobol y Cwm. Tra’r oedd y pentrefwyr gladdu ’rhen Denz, cafodd Cwmderi ei hailwampio’n llwyr gan y tylwyth teg wrth i gilfachau newydd ymddangos dros nos, y Siop a’r Caffi’n cael estyniad a Chapel Bethania a garej Garry Monk yn adleoli i’r Stryd Fawr. Bellach, mae’r set newydd ym mhentref drama Bae Caerdydd wedi hen ennill ei blwyf a straeon gafaelgar diweddar yn denu’r gorau o actorion fel Lisa Victoria (Sheryl). Bechod am isafbwyntiau fel Gwyneth y llofrudd, pennod swreal Gemma a’r cadno gwaedlyd (yr anifail, nid ffarmwr tanllyd Penrhewl) a phapur wal lolfa Eileen sy’n dal i beri hunllef.

Bechod hefyd am ddiffyg cyfres gerddoriaeth fodern i ddilyn Bandit, sydd wedi hen fynd i’w bedd ond a lwyddodd i ennill gwobr BAFTA Cymru eleni. A na, tydi hen fideos Bando na Maffia ddim yn cyfri. Ar y llaw arall, cawsom wledd o ganu gwerin ac acwstig Yn Fyw o Acapela, a gobeithio am fwy’r flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, math arall o ganu sy’n mynnu’n sylw rhwng nawr a diwedd y flwyddyn, rhwng Carolau Gobaith, Carolau Llandudno, Carol yr Ŵyl…

Ydi hi’n bryd i mi gael mins pei arall ’dwch? Nadolig Llawen.

 

 

 

 

 

 

 

Parhau i ddarllen

shitclic: Ysbyty Plant

Llond dwrn o bethau sy’n fy ngwneud i’n anniddig y dyddiau hyn. Hysbysebion soffas Dolig, cymeriadau drama sy’n siarad mewn rhegfeydd, Aled Jôs yn gofyn i ni bleidleisio dros bersonoliaeth chwaraeony flwyddyn BBC Cymru (“deiliwch y rhifa canlynol…”) ac unrhyw awgrym o greulondeb yn erbyn plant. Mae ’na ias oer yn mynd drwyddaf bob tro rwy’n gweld y plentyn bach dagreuol yn ei glwt mewn stafell oeraidd fudr yn hysbysebion NSPCC, ond mae’n amlwg eu bod yn effeithiol gan ’mod i bellach yn cyfrannu’n fisol at yr elusen honno. Mae digwyddiadau’r misoedd diwethaf – o ddiflaniad torcalonnus April Jones i’r honiadau o dreisio a cham-drin yn erbyn “sêr” adloniant mwyaf Lloegr y 1970au a’r 1980au, a hyd yn oed stori bedoffeil Pobol y Cwm – yn anodd i’w stumogi.

 
Dwi’n teimlo’n anesmwyth iawn iawn o weld plant yn dioddef anhwylder neu’n gorwedd yn ddiymadferth dan fynydd o diwbiau mewn uned gofal dwys. Mae cydweithwyr byth a hefyd yn trafod rhyw raglenni fel One Born Every Minute Channel 4 neu Hospital 24/7 BBC Wales, ac yn beichio crïo wrth wylio. Cyndyn braidd, felly, oeddwn i o ddilyn cyfres newydd sbon Ysbyty Plant, am rai o’r 9,000 o Gymry bach sy’n teithio dros Glawdd Offa i gael triniaeth a gofal arbennig yn ysbytai Lerpwl, Manceinion a Bryste. Mae’n amlwg yn llafur cariad i’r uwch-gynhyrchydd Sioned Morys o gwmni cynhyrchu Chwarel, sy’n “fam Alder Hey” ei hun ar ôl i’w merch gael llawdriniaeth yno’n fuan wedi’i geni. A’i gŵr, y bardd a’r canwr Twm Morys, sy’n llefaru’r gyfres arbennig hon am deuluoedd o’r Gogledd sy’n gobeithio am y gorau wrth i’w hanwyliaid fynd dan y gyllell yn Ysbyty Alder Hey, Lerpwl. Yn y rhaglen gyntaf o dair, cawsom hanesion Alwen Eifion Huws, 2½ oed o Forfa Nefyn sydd angen triniaeth i sythu ei hasgwrn cefn, a Dafydd Tudor 8 oed o Gynwyd, Corwen sy’n gorfod siarad trwy’i drwyn oherwydd problemau gyda chyhyr yn ei daflod. Nid rhaglen i’r gwangalon mo hon, ond diawch dwi’n falch i mi ddal ati. Do, mi gaeais fy llygaid pan gafodd Alwen fach ei phlygu fel doli glwt gan ddwylo medrus ofalus yr arbenigwyr, ac mi wingais wrth i’r camera chwyddo mewn i geg Dafydd dan anesthetig. Ond y rhannau mwyaf emosiynol o bell ffordd oedd gweld y ddwy fam (roedd y tadau druan yn gorfod aros yn y coridor) yn swsian ffarwel i’w plant a gadael eu hoff flanced neu dedi ar wely’r theatr. Elfen hyfryd arall oedd gweld y ddwy yn cyfieithu dros eu plant i’r nyrsys a’r meddygon.

 

Diolch byth, fe ddaethant drwyddi, a gorffennodd y rhaglen gydag Alwen yn mynd fel mellten o stafell i stafell yr aelwyd yn Llŷn a Dafydd yn pedlo fel bom yn ei gar rasio ar fuarth ei gartref. Er hynny, mi fydd hi’n fisoedd ac apwyntiad dilynol arall eto cyn y caiff eu rhieni dawelwch meddwl. Gobeithio y cawn ninnau hefyd glywed eu hanes nhw, a phlantos eraill y gyfres, yn y dyfodol agos.

Parhau i ddarllen

shitclic: Y Dref



S’long Sarah Lund a “Tak”
 
Dwi wedi cael gorddos o ddramâu ar y teledu’n ddiweddar – yn hen ffefrynnau, ambell un newydd, a rhai tipyn gwell na’i gilydd. Mi fydd yna alaru mawr nos Sadwrn nesaf wrth i ni ffarwelio am y tro olaf un â’r darpar nain Sarah Lund a’i siwmperi enwog, ei hunigrwydd a’i harferiad gwirion o erlid llofruddion gefn liw nos niwlog mewn rhyw warysau mawr gwag neu goridorau grym tywyll København. Rhois gynnig ar Falcon, addasiad Sky Atlantic o nofelau Robert Wilson, gyda chast o Kiwis a Saeson yn cogio bod yn Sbaenwyr. Er bod y deialog yn giami ar brydiau, a gwastraff castio gydag actoresau clodwiw fel Kerry Fox ac Emilia Fox (dim perthynas) ond yn ymddangos mewn dwy dair golygfa ym mhob pennod, prif gymeriad ac apêl y gyfres i mi oedd dinas hyfryd Sevilla – cyrchfan bosib arall yn 2013 os bydd y cyfri banc yn caniatáu. Dinas yr Angylion ydi prif gymeriad Southland hefyd, chwip o ddrama sy’n debycach i bortread pry ar y wal o heddweision LA. Ond sioc a syndod ydi canfod bod yna ddrama gwerth ei gweld ar ITV – nad yw’n gyfres plismyn, doctors-a-nyrsys (er bydd hi’n chwith heb fwy o Monroe) nac yn sebon swanc wedi’i gosod mewn plasty byddigions yn Lloegr ddechrau’r ganrif ddiwethaf.

The Town ydi’r gyfres drawiadol hon, hanes llanc yn ei dridegau sy’n gorfod dychwelyd o Lundain i’w gynefin wedi trychineb teuluol – ac sy’n ffeindio’i hun yn gyfrifol am ei nain (Julia McKenzie) a’i chwaer drwblus yn ei harddegau. Ond mae ’na rywbeth yn ei boeni, o weld negeseuon testun a llythyron anhysbys i’w rieni gyda’r geiriau “I know”. Ac mae Mark (Andrew Scott, seren cyfres Sherlock BBC Cymru-Wales) yng nghanol ei alar yn meddwi a chanu carioci (Rick Astley!) gyda’i ffrindiau bore oes, yn gobeithio ailgynnau tân â hen gariad ysgol, ac yn chwarae ditectif wrth chwilio am y gwirionedd y tu ôl i farwolaeth ei rieni. Mae’n wahanol, yn drist, yn llawn dirgelwch, wedi’i ffilmio’n steilus iawn a’i chymharu â darn o Twin Peaksyn High Wycombe. Prin iawn dwi’n dweud hyn, ond, go dda ITV!
 
 

  • The Killing / BBC Four / 9-11pm nos Sadwrn
  • The Town / ITV1 / 9pm nos Fercher
  • Southland / More4 / 10pm nos Iau


Parhau i ddarllen

shitclic: Bys ar bỳls y genedl

Rydyn ni i gyd wedi cwyno am law mawr eleni. Rhoddodd y tywydd ddampar ar ein haf, difetha ambell ddiwrnod yn Steddfod yr Urdd a chanslo sawl sioe amaethyddol leol. Ond beth ydi ychydig o fwd ar ein sgidiau a dillad gwlyb ar y lein o gymharu â gorfod diberfeddu’ch cartref yn sgil llifogydd? Rydyn ni i gyd wedi gwylio’r lluniau newyddion torcalonnus o bobl yn cael eu cludo mewn cychod, a stafelloedd byw yn drwch o laid a llaca, gan fwmial “diolch i’r drefn nad ni ydi’r rheiny” yn dawel bach i ni’n hunain. Ond gydag un o bob chwech cartref yng Nghymru mewn perygl, mae llai a llai ohonom yn saff rhag grym dinistriol natur…

 
 
Dechreuodd adroddiad Gwyn Loader ar gyfer Y Byd ar Bedwar yr wythnos diwethaf wrth droed yr Wyddfa gan siarad â rhai o drigolion diymadferth Llanberis. Yn eironig, cafodd y rhaglen ei darlledu’r union noson pan drawyd Llanelwy yn ddifrifol. Prif fyrdwn y rhaglen oedd ailymweld ag ardal gogledd Ceredigion chwe mis ar ôl i Ifan y glaw adael ei farc yn fan’no, a holi rhai o’r trigolion sy’n dal i glirio, cyfri’r gost a phoeni am bremiymau yswiriant amhosib. Roedd hanes Hefin Jones yn pwysleisio pa mor frawychus o sydyn ddigwyddodd y cyfan. Pendwmpian yng nghadair esmwyth ei ystafell wydr ydoedd pan deimlodd ei draed yn oeri, deffro a gweld bod pedwar modfedd o ddŵr ar hyd a lled yr aelwyd. O’r pensiynwr 78 oed i yrrwr tacsi, cynghorydd lleol a dyn dŵad o Lundain wedi dysgu Cymraeg, roedd pob un wedi cael profiad a hanner – ac yn pwyntio bys at waith datblygu sylweddol ar orlifdir ‘Parc y Llyn’ yn y 1990au. Concrid lle bu caeau, gan waethygu’r sefyllfa i ardaloedd cyfagos. I bwysleisio ofnau pobl leol, dangoswyd ffilm archif o faes y Sioe Frenhinol dan ddŵr yn y 1950au pan gafodd ei chynnal ar safle Parc y Llyn. Dyna’n union oedd rhybuddion trigolion Rhuthun ynglŷn â chodi stad o dai newydd sbon ar orlifdir Glastir, a drodd yn llyn wythnos diwethaf.

 
 
Dagrau pethau ydi nad oes neb yn fodlon hawlio’r cyfrifoldeb am waith cynnal a chadw’r ceuffosydd a greodd lanast Llanbadarn, gyda Chyngor Ceredigion, Network Rail ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn cecru ymysg ei gilydd. Dyn â ŵyr beth oedd teimladau’r trigolion o weld aelod o gabinet Cynllunio Cyngor Ceredigion yn chwerthin a baglu ateb cwestiynau Gwyn Loader. Mae’r sinig ynof yn amau y byddai ’na fwy o weithredu petai cartrefi’r rhai mewn grym yn troi’n Gantre’r Gwaelod…

Unwaith eto, dangosodd newyddiadurwyr Y Byd ar Bedwar fod eu bysedd ar bỳls y genedl wrth adrodd materion cyfoes yr wythnos. Bu sawl rhifyn cofiadwy’n ddiweddar, gyda straeon o’r galon am alcoholiaeth ymysg y Cymry Gymraeg dosbarth canol parchus, a chyfweliad ysgytwol ag un o drigolion Bryn Estyn – un nad oedd eisiau iawndal na gwobr ariannol fawr fel Syr McAlpines y byd, dim ond gair o ymddiheuriad gan dreiswyr y cartref uffernol hwnnw.

 
 
Ydi, mae’n bwysig bod newyddiadurwyr ifanc ITV Cymru yn dal i gyflwyno ongl arall i fonopoli newyddion y BBC.

 

Parhau i ddarllen

shitclic: Ailgyfle i Alys

Mae’r trêlyrs wedi ymddangos ers sbel. Ar S4C, yn naturiol, ac ar ITV Wales hefyd mewn ymgais i ddenu’r di-Gymraeg. Mewn byd delfrydol â phwll diwaelod o bres, byddai hysbyseb ar dudalennau’r Guardian yn ogystal â Golwg, gan fod gohebwyr teledu a darllenwyr y papur newydd Saesneg hwnnw wedi mopio ar ddramâu wedi’u hisdeitlo o Ewrop. Yn y trêlyrs, cawsom olygfeydd montage o bobl yn brygowthan a sgrechian crïo, gyda merch galed fel haearn Dowlais yn eu canol nhw i gyd. Ydy, mae Alys yn ei hôl am ail gyfres. Flwyddyn union yn ôl, ni chreodd babi diweddaraf Siwan Jones fawr o argraff arna i yn sgil campwaith Con Passionate. Roedd rhai o’m cydnabod yn rhannu’r un farn, eraill wrth eu boddau gyda’r straeon amlhaenog, y cymeriadau cymhleth, a’r cipolwg tywyll iawn iawn y tu ôl i ddrysau caeedig y dosbarth canol Cymraeg. Ond gan fod drama deledu Gymraeg yn fwy o dderyn prin yn Oes y Toriadau Mawr, dyma roi cynnig arall arni.

Diolch i’r drefn, mae Alys, ei mab a’r parot wedi cefnu ar y fflatiau llygod mawr a chymeriadau digon anghynnes eraill, ac wedi symud i dŷ cyngor. Ydi hyn yn golygu bod Alys wedi troi dalen newydd ac yn setlo lawr fel Kirstie Allsopp Aberhonddu (man ffilmio’r gyfres) yn pobi panettone a chreu cardiau ’Dolig cain ei hun? Ydi dyfodol Newsnight yn saff? Ar ôl drachtio can o lagyr a rholio mwg drwg i frecwast, gwisgo’i chortyn bêls o sgert ddenim, aiff Alys (Sara Lloyd-Gregory ar dân) fel corwynt o un cythrwfl i’r llall ac i’r diawl â’r canlyniadau. Yn y bennod gyntaf, roedd yn erlid Terry’r gyrrwr tacsi er mwyn sicrhau cyfiawnder i Ceri druan a laddwyd ar ddiwedd cyfres un. Gyda’r cynhyrchydd Paul Jones yn addo “mwy o thriller, gydag elfen iasoer gref”, go brin fydd yna ddiweddglo twt a thaclus i’r stori hon.


Mae ambell gymeriad, fel Debbie’r wraig fusnes o! mor barchus a Ron ei phedoffeil o ŵr wedi ffoi i’r Costa del Crimel, a rhai newydd fel Chris y gwerthwr tai (Richard Harrington) sleimllyd a diegwyddor – dim stereoteipio’n fanna felly – wedi glanio yn eu lle. Mae Heulwen (Gillian Elisa) yn prysur droi’n honco yn ei charafán gyfyng yng ngwaelod yr ardd wrth i denantiaid ifanc hawlio’i phlasty bach. Ond yr orau heb os yw Bessie (Delyth Wyn) sy’n dal i deyrnasu ei meibion di-glem o’i soffa a’i sgwter, gyda lot fawr o hiwmor tŷ bach.


Rhaid canmol crefft Rich Wyn fel y Cyfarwyddwr Ffotograffaidd am lwyddo i greu awyrgylch arbennig law yn llaw a’r gerddoriaeth gefndir iasol. Roedd yr olygfa ddi-eiriau o Wil y Pregethwr yn cerdded o’r gorwel i lawr y stryd fawr wag, llawn sbwriel, bron yn apocalyptaidd.

Er nad oes llawer o gymeriadau y galla i gydymdeimlo â nhw hyd yma, yng nghanol yr holl dwyll, y bygwth a’r blacmelio, dwi eisoes wedi gweld yr ail bennod. A do, dwi wedi ’machu o’r diwedd.

Parhau i ddarllen

shitclic: Magu mysls a moch gwlanog

 
Dychmygwch godi am bump y bore i dreulio rhyw awran ar felin draed. Bowlenaid o All Bran mewn dŵr – ia dŵr – ac omlet i frecwast cyn troi tua’r swyddfa o wyth tan bedwar. Sgrialu i’r gampfa wedyn am dair awr. Yna, adref am swper blasus o gyw iâr a letys fel swper neithiwr ac echnos, ciando, a gwneud yr un hen beth bore fory. A ta-ta i unrhyw fywyd cymdeithasol. Codi cyfog arnoch? Croeso i fyd codi pwysau Delyth Hughes o Lanfairpwll, byd o hyfforddiant haearnaidd ar gyfer cystadleuaeth corfflunio’r UK Bodybuilding Federation. Ar ôl chwysu chwartia a hanner llwgu am fisoedd, dyma blastro grêfi browning o’i chorun i’w sawdl cyhyrog a pheintio minlliw “fel drag cwîn” er mwyn ystumio am hanner awr ar lwyfan. Yn Warrington. Roeddwn i’n hanner disgwyl i Peter Kay neidio i’r llwyfan fel arweinydd y noson, ond na, nid comedi mohono. Roedd criw Dal y Pwysau (Cwmni Da) yn hollol, hollol o ddifri.
 
Honnwyd ei bod yn hobi a ffordd o fyw, ond doedd Delyth lesg a llwydaidd ddim i’w gweld yn mwynhau rhyw lawer. Er eu bod nhw’n ymddangos fel “tarw Belgian Blue yn y Roial Welsh”, un proc a byddai’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n disgyn fel pluen. Aeth ei hyfforddwr mor bell â chyfaddef bod rhai wedi’u cludo’n farw o’r llwyfan yn eu thong. I eraill, mae’r gamp yn cynnig dihangfa a phwrpas arbennig mewn bywyd yn lle slotian bob penwythnos. I Mark Humphreys o Fodffordd, roedd yn gyfle newydd ar ôl salwch canser yn ei arddegau, ac yn rhywbeth i’w efeilliaid bach ymfalchïo ynddo. Rhyfedd, felly, na chlywsom bŵ na be gan ei gymar er iddi ymddangos ar y sgrin. Byddai ymateb teulu a ffrindiau’r cystadleuwyr i’r diddordeb obsesiynol yn y corff perffaith wedi ychwanegu elfen amrywiol arall i’r rhaglen.  
 
Roedd Beth Workman a Byd y Bicinis(Apollo) yn well yn hynny o beth, gan i ni glywed ochr arall i’r stori – gan chwaer a chymar y ferch swil o Ben-y-bont ar Ogwr a oedd yn ymgiprys am dlws Ffederasiwn Rhyngwladol Codwyr Pwysau ym Madrid. Seithfed allan o 27 oedd hi’n diwedd, mewn cystadleuaeth a ymdebygai i Miss World gyda nerth bôn braich. Chwarae teg iddi, fe aeth ymlaen i ennill pencampwriaeth Prydain wythnos yn ddiweddarach. Anghofiwch am siop siafins y crysau cochion.  Mae ’na Gymry cyhyrog yn serennu mewn sawl maes arall.
 
Cawsom hanes Cymro uchelgeisiol arall yn Llŷr a Dai Womble (Boomerang) – teitl a hanner – am frodor o Gaerdydd â’i fryd ar gynhyrchu cig moch o’r radd flaenaf ar fferm y teulu yng Nghwm Gwendraeth. Nid mochyn cyffredin chwaith, ond brid gwlanog od ar y naw o Awstria megis cymeriadau cartŵns y 1970au. Aeth diddordeb Llŷr ag ef ar gyrsiau halltu cig o’r Eidal i Ogledd America, cyn cyrraedd penllanw wyth mlynedd o waith gyda’i stondin ei hun mewn marchnadoedd fferm o Bont-iets i’r brifddinas. Er bod ambell ddarn yn swnio fel fideo PR i Hybu Cig Cymru a chanolfan bwyd Horeb, roedd hi’n braf gweld ffarmwr ifanc angerddol dros y diwydiant wedi sterics gwleidyddol gywir y ’steddfod.

Parhau i ddarllen

shitclic: Cymraeg o’r crud i’r bedd

Yn ystod wythnos pan ddaeth gelynion yr iaith allan o’r domen dail unwaith eto, o gachgwn rhyw wefan anhysbys yn y Gorllewin i golofnwyr unllygeidiog-Seisnig y Western Mail a’r Telegraph, roedd hi’n braf clywed perlau’r iaith fyw mewn cyfres newydd o Ar Lafar. Ydi, mae Ifor ap Glyn a’i hen landrofar ffyddlon yn ôl i nodi’r gwahaniaeth a’r ffin rhwng “fo a fe”,  y “nene ene” a’r “hwnco-manco”. Ffin go denau ac annelwig iawn weithiau hefyd, gydag amrywiaethau rhyfeddol o fewn ardal benodol heb sôn am Fôn i Fynwy. Roedd ymweliad y bennod gyntaf â Phenllyn, un o gadarnleoedd naturiol yr iaith, yn codi calon rhywun. Clywsom wahaniaethau amlwg rhwng hogia’r Dre a’r Wlad (roedd y genod yn mitsio mae’n rhaid) ar iard ysgol uwchradd y Bala, gyda chriw’r dre yn dweud “cwtsh dan staer” a’r llancia ffermydd yn dweud “sbensh” am dwll dan grisiau. A draw yn un o ysgolion cynradd y fro, bu Ifor Ap yn holi rhai o’r 22 o ddisgyblion â llond ceg o’r dafodiaith leol – gan gynnwys Charlie o gyffiniau Manceinion. Sylwodd ei brifathrawes ei fod bellach yn siarad Saesneg ag acen y Parc, ond yn troi’n ôl i’w Saesneg Redditch gwreiddiol pan ddaw rhywun di-Gymraeg i’r ysgol. Diddorol ac addysgol. A wnaiff Cwmni Da anfon copi i Western Mails y byd os gwelwch yn dda?

 
Pan welais i’r hys-bys am gyfres ddogfen newydd yn dilyn trefnwyr angladdau, wnes i ddim pwyso’r botwm series link ag awch (oes ’na air Cymraeg addas ’dwch? Holwch Ifor ap Glyn). Beth bynnag ddywedith y ‘gwybodusion’ fod marwolaeth Lêdi Di wedi’n troi ni i gyd yn alarwyr gorffwyll o gyhoeddus sy’n dewis record Elton John neu Robbie Wilias fel ein Hymdeithgan Olaf, mae’n dal yn bwnc preifat a thabŵ braidd sy’n gyrru ias i lawr fy nghefn. Efallai fod darn ohonof yn anesmwytho o weld corff ar y teledu, ond chwarae teg i ddyn camera Traed Lan (Hay Productions + GRJ Media), fe ffilmiwyd y cyfan yn gynnil o barchus a chwaethus, gyda dim ond troed neu gorun yr ymadawedig yn y golwg. Yn yr ail raglen o dair, buom yn dilyn trefnwyr neu gyfarwyddwyr angladdau gwahanol, y naill yn gwmni tair cenhedlaeth o’r Lambed wledig a’r llall o’r Port Talbot diwydiannol, gyda Chymraeg Ceredigion a Chymraeg Cwm Afan yn cyd-fyw. Yn naturiol ddigon, mae angen dôs go lew o hiwmor a stumog gref i ddilyn gyrfa o’r fath. Cofiodd Gareth Jenkins o Faglan amdano’n blentyn yn chwarae Draciwla yn yr arch yng nghwt gwaith coed ei dad, ac roedd Dorian Harris y pêr-eneiniwr yn ein herian gyda “bwci-bo” y tu ôl i lenni’r corffdy. Ond roedd yna ddifrifoldeb, parch a phroffesiynoldeb llwyr wrth eu gwaith hefyd, ynghyd â’r cyfnodau ingol o baratoi corff plentyn neu berson ifanc. Ar ôl diwrnod anodd i Gareth Jenkins, ei ateb yw “rhoi haversack… pigo mynydd a jyst cerdded i’r top, eistedd lan fyn’na, cal pum muned …meddylie… a bydd hwnne’n neud y tro”.

Gyda sgriptio da wedi’i hadrodd gan Sharon Morgan, naws ffilmig a theitl agoriadol crefftus dros ben, roedd yn bortread sensitif a chynnes i fyd anodd a dieithr dros ben.

 

 

Parhau i ddarllen

shitclic: Storm y Sianel Gymraeg

Dwi’n amau weithiau a ydw i’n byw yn nhalaith rhif 51 yr Unol Daleithiau yn sgil sterics storm Sandy, ac a ddylwn i fod wedi pleidleisio ddydd Mawrth dros naill ai’r blaid â’r logo mul neu eliffant. Mae’r BBC a Sky yn debycach i is-sianeli newyddion NBC a Fox wedi’u llywio gan gyflwynwyr gafodd ddos go hegar o botocs, triniaeth gwyngalchu dannedd a lliw haul ffug. Mae Radio Cymru hefyd yn manteisio i’r eithaf ar gyfraniadau Cymry America fel Alison Hill a Steff Owen. Ydy, mae’r wasg a’r cyfryngau wedi mopio gymaint ar ras y Tŷ Gwyn nes ein bod ni’n fwy cyfarwydd â’r cyffro yn nhalaith Ohio na’r ymgeiswyr am swydd wastraffus pen blismyn Cymru a Lloegr. Mae Ann Lois Romney, gwraig ymgeisydd y Gweriniaethwyr sy’n hanu o Nantyffyllon, wedi cael cryn dipyn o sylw hefyd wrth iddi weini pice bach i newyddiadurwyr a’u pobi ar raglenni fel Good Morning America. Os na fydd ei gŵr yn llwyddiannus, gallai wastad bicied draw i Lanelli er mwyn cyfrannu i slot cwcan Prynhawn Da.

Wedi glitz a gormodedd yr ymgyrch fawr Americanaidd, roedd gwylio lluniau a ffilmiau archif o fyd fythol llwydfrown Cymru’r saithdegau a’r wythdegau cynnar yn dipyn o sioc i’r system. Ar ddiwedd wythnos o ddathlu pen-blwydd S4C, roedd rhywun yn teimlo rhyw reidrwydd a dyletswydd arbennig i wylio drama ddogfen Gwynfor: Y Penderfyniad. Trwy gyfuniad o gyfweliadau â gwleidyddion amlwg y cyfnod, dyfyniadau o lythyron personol Gwynfor Evans, a’r dull dyfeisgar o ddangos clipiau newyddion o Sulwyn Thomas ac Elinor Jones ar Y Dydd ar set deledu’r Dalar Wen, cawsom flas ar gyffro a gofid yr oes, wedi i Magi dorri’i haddewid i sefydlu sianel deledu benodol Gymraeg. “The lady’s not for turning” oedd mantra’r ddraig o ddynas ar y pryd, cyn i Peter Hughes Griffiths ychwanegu’n smala mai tro pedol S4C oedd yr unig un i Thatcher erioed ei wneud yn hanes Cymru. Er bod streic newyn Gwynfor dros y Sianel yn weddol hysbys i mi, daeth ambell ffaith newydd a diddorol i’r fei – fel ei siom a hyd yn oed iselder wedi Refferendwm methiannus Gŵyl Ddewi ’79, a’i siom a’i deimladau chwerwfelys ar ôl i’r Blaid Dorïaidd ildio mor fuan yn ei ympryd. Y straeon personol gan deulu Gwynfor oedd uchafbwynt yr awr i mi, wrth i’w blant gofio’n gynnes am dad a thad-cu annwyl. Cawsom hanesyn difyr am benderfyniad ei fab, Guto Prys ap Gwynfor, i arddel enw’i dad yn hytrach na’r cyfenw Evans mewn ymateb i sïon annifyr ei fod yntau fel gweinidog yr efengyl yn gwrthwynebu gweithred anfoesol ei dad. Un a oedd yn wrthwynebus i hyn, fel y clywsom yn ddiweddar iawn, oedd un o aelodau amlwg y Blaid. Rhyfedd felly na chafodd llais Dafydd Elis Thomas ei gynnwys yn y rhaglen. Cofiwch chi, mae ei dawelwch yn fendith weithiau hefyd…

Dwi ddim yn siŵr a oedd angen Aneirin Hughes i actio’r Gwynfor fyfyrgar ar aelwyd y Dalar Wen, gan fod cyfraniadau’r teulu a chydnabod yn ddigon i gario’r stori mewn gwirionedd. Ar ben hynny, mae’r actor reit yng nghanol stori fawr ddadleuol Jimmy Savile-aidd Pobol y Cwm ar hyn o bryd, ond amserlennu anffodus yw hynny’n bennaf.

Rhaglen ddogfen arbennig i ddyn arbennig iawn, a gwers hanes bwysig i’r genhedlaeth newydd o wylwyr sy’n cymryd S4C mor ganiataol nes ei hanwybyddu bron. Gyda llaw, tybed beth fyddai ymateb Gwynfor i fwriad y Sianel Gymraeg i droi’n fwyfwy ddwyieithog gyda gwasanaeth troslais Saesneg y botwm coch? 

Parhau i ddarllen

shitclic: Nid Sianel gyffredin mohoni…

Mae’n gyfnod o gerrig milltir pwysig ar hyn o bryd. Rhai’n bwysicach na’i gilydd wrth gwrs. O hanner canrif o ffilmiau James Bond, deugain mlynedd ers i Kennedy a Krushchev fygwth difa’r ddynoliaeth dan gwmwl niwclear, a phen-blwydd y sianel Gymraeg yn ddeg ar hugain. Yn ogystal â llond trol o atgofion gan y Sianel ei hun, bu ffynonellau mwy Seisnig fel Radio Four yn talu teyrnged iddi trwy gyfrwng drama 45 munud Gwynfor v Margaret. Roedd rhifyn arbennig o Cofio gyda John Hardy ar Radio Cymru fore Sadwrn yn hyfryd o hiraethus, gyda hen gyfweliadau o’r archifau rhwng Sulwyn Thomas a Gwynfor, crynodeb gwleidyddol gan Syr Wyn Roberts a chyfle arall i glywed croeso eiconig Owen Edwards i bawb “ar aelwyd Sianel Pedwar Cymru”. Cafwyd atgofion melys gan y ddwy gyflwynwraig gyntaf, Siân Thomas a Rowena Griffiths, gyda’u hanesion nhw a’r diweddar Robin Jones yn cael eu hel i Lundain fawr i ailwampio’u dillad a’u steil gwallt, a newyddiadurwyr o bedwar ban byd yn gadael Clos Sophia ar y noson gyntaf gyda thedi Superted dan eu breichiau.

Neithiwr, bu Beti George yn dathlu trwy ailymweld ag unarddeg o Gymry ifanc sy’n rhannu’r un diwrnod pen-blwydd ag S4C yn rhaglen ddogfen Plant y Sianel. Os ydi Beti George – un o wynebau cyfarwydd rhaglenni Newyddion Saith ym mabandod S4C – wrthi, rydach chi’n saff o raglen o safon a sylwedd. Wrth iddi deithio ar drên a char o Wynedd i Went, daeth llu o gyd-ddigwyddiadau i’r amlwg, rhwng dau wedi ymuno â’r heddlu, dau yn meithrin gyrfa yn Llundain a dau arall yn hoywon hysbys bellach. Calondid mawr oedd clywed bod pob un yn Gymry brwd a balch ac yn dal i fedru’r iaith ar wahân i Dewi Samuel o Gwm Rhymni, cyn-filwr a glöwr a gyfaddefodd na chafodd flas ar siarad Cymraeg yn yr ysgol gynradd beth bynnag. Roedd rhai fel y milfeddyg Glesni Haf yn hapus braf ei byd, eraill fel Michael Taggart o Fae Colwyn wedi bod drwy’r felin yn y modd mwyaf erchyll posib ar ôl i’w lys-dad ladd ei fam – a’i fod yn dal i weld y llys-dad atgas yn lleol, ers ei ryddhau dair blynedd yn ôl. Wrth grynhoi, dywedodd Beti nad yw gwleidyddiaeth yn golygu fawr ddim iddyn nhw – trueni, oherwydd buaswn i wedi hoffi clywed eu barn ar lywodraeth ddatganoledig y Bae a’u gobeithion am ddyfodol eu gwlad yn gyffredinol. Yr eironi olaf oedd nad ydi Plant y Sianel yn trafferthu gwylio S4C heb sôn am unrhyw deledu’n gyffredinol…

Mae’r nosweithiau Sadwrn nesaf yn gyfle i fwynhau rhai o ffilmiau’r gorffennol, fel Rhosyn a Rhith a’r Milwr Bychan o 1986 – blwyddyn ffrwythlon iawn yn hanes y ffilm Gymraeg! Yn bersonol, gallen i wneud heb Hedd Wyn (1992) sydd eisoes wedi’i darlledu droeon ac yn rhan o faes llafur miloedd o ddisgyblion ail iaith ers oes pys. Go brin fod Huw Garmon a Sue Roderick yn cwyno gyda’r holl freindaliadau chwaith. Trueni na chawsom weld clasurol coll eraill fel y ffilm gomedi ffugwyddonol Canlyn Arthur (1994) am Gymry’r flwyddyn 2096 sy’n cynllwynio i gipio’r Brenin Arthur o’r canoloesoedd i’r presennol, ond sy’n bachu’r arwr rygbi Dai Arthur o’r 1960au mewn camgymeriad. Un o’r ffilmiau Cymraeg mwyaf digri’ a dyfeisgar heb ei thebyg ers hynny.

Parhau i ddarllen

shitclic: CymruNoir

Mae pawb sy’n fy nabod i’n gwybod ’mod i wedi mopio ar nofelau a chyfresi ditectifs. Cyfresi o safon hynny yw, nid rhai CSIaidd o America sy’n ceisio’n dallu ni gyda mwy geriach uwchdechnoleg tri dimensiwn na ffilmiau James Bond, a ditectifs uwch-arolygydd siapus sydd newydd gamu o Venice Beach. Na, mae’n well gen i’r rhai Ewropeaidd bob amser. Gora’ po fwyaf i’r gogledd, lle mae gwynt main yr Arctig yn chwipio’r cymeriadau yn eu siwmperi gwlân Ffaroaidd, a’r felan yn rhan annatod o ddisgrifiad swydd y Polisenlleol. Mae’r e-lyfr acw’n drymlwythog o ddirgelion gwaedlyd o Reykjavik i Oslo, ac mae’r Albanwyr yn prysur gyfrannu at y genre wrth i BBC Scotland addasu straeon y Ditectif Jimmy Perez ar ynysoedd Shetland. Mi fydd nos Sadwrn 17 Tachwedd yn sanctaidd yn chez Wilias, wrth i’r drydedd gyfres – a’r olaf – o Forbrydelsen ymddangos ar BBC Four, gydag ymchwiliadau Sarah Lund i farwolaeth rhyw forwr cyffredin yn ei harwain at Brif Weinidog a llanast economaidd Denmarc. Dwi’n glafoerio’n barod.


Llamodd fy nghalon yn ddiweddar o ddeall ein bod ni’r Cymry am ymuno â’r rhengoedd hyn o’r diwedd, gyda chyfres dditectif wyth pennod awr yr un wedi’i gosod yng Ngheredigion. Nid dilyniant i’r HeliwrDCI Noel Bain nac addasiad o nofelau Malcolm Pryce chwaith, ond DCI Tom Mathias(Richard Harrington) sy’n dychwelyd adref i Aberystwyth. Yn gydgynhyrchiad rhwng Fiction Factory, S4C ac All3Media International, a fersiwn cefn-gefn Saesneg Hinterland ar gyfer BBC Cymru Wales, mae’n swnio’n dipyn o fenter. Mae’n siŵr y bydd tre’r coleg ger y lli a’r Pumlumon cyfagos yn gymeriadau llawn mor bwysig, a’r ffaith fod y gyfres mewn ardal naturiol Gymraeg yn fwy credadwy i wylwyr S4C na phlisman drama yn Grangetown Caerdydd. A chyda Marc Evans (Patagonia) yn cyfarwyddo ac Ed Talfan (Caerdydd) a Gethin Scourfield (Pen Talar) yn cynhyrchu, mae’n argoeli’n dda iawn. Gwerthiant posibl i’r Llychlynwyr, tybed?
 

 

Yn naturiol ddigon, fe wrandawais yn astud ar ddrama radio ddwy ran Radio Cymru – Fflamau gan John Ogwen, am ddirgelwch llofruddiaeth Gwenno Humphreys a gafodd fwled yn ei phen. Roedd y cymeriadau’n cydio’n syth, o’r fam galed mewn cadair olwyn (Betsan Llwyd) i’r Inspector (Iestyn Garlick) a fu’n un o gyn-gariadon niferus yr ymadawedig, er bod cymeriad yr hac (Wyn Bowen Harries) yn ymylu ar fod yn gartwnaidd bron. Ac yn bwysicach fyth, roedd yr actorion yn llefaru pob gair yn glir gan ei gwneud hi’n haws i hen begor ifanc trwm ei glyw fel fi ddilyn y stori. Mae’n braf cael dramâu rheolaidd am saith nos Sul, a rhwng rhaglenni Dewi Llwyd, Beti George, Dei Tomos a rygbi Ewropeaidd yn y canol, mae Radio Cymru ymlaen o fore gwyn tan Homeland.
 

Parhau i ddarllen

shitclic: Fydd y chwyldro ddim ar y radio gyfaill


 
Mae’n siŵr nad oedd y mwyafrif ohonoch fawr callach o golli noson wobrwyo fawr y cyfryngis wythnos diwethaf. Neu ddim balchach, o weld eitem gan Huw Ffash o’r carped coch gwag ar Heno y noson ganlynol. Do, fe ddaeth y gwych, y glam a’r gwachul ynghyd i Ganolfan y Mileniwm nos Sul i ymgiprys am dlws BAFTA Cymrurhwng joch o siampên a lot o swsian aer.

 
Diolch i’r trydarfyd, deallais fod yna ddarllediad byw o’r Bae ar y we a chefais fy siomi ar yr ochr orau. Roedd y cyfan yn glir a chroyw fel petawn i’n gwylio’r seremoni ar sgrîn deledu arferol, a’r gliniadur prin yn rhewi fel s4/clic. Roedd ffilm Marc Evans, Patagonia yn enillydd poblogaidd a haeddiannol mewn pedwar categori, yn ogystal â Lowri Siwpyrfenyw Morgan am Ras yn Erbyn Amser, ond roedd ambell enillydd arall yn peri penbleth. Cefais flas mawr ar gyfres sgetshis Dim Byd, er ’mod i’n rhy hen i’w gwylio mae’n debyg (‘Rhaglen Blant yn cynnwys animeiddiad’); a dyfarnwyd gwobr ‘Rhaglen Gerddoriaeth ac Adloniant’ i Bandit sydd wedi hen fynd i’w bedd. S’long a swadan fach i S4C efallai. Cyflwynwyd y cyfan yn hynod broffesiynol gan Alex Jones, heb ryw Matt, Chris neu Aled Sam wrth ei hochr, gan bendilio’n rhwydd o’r Gymraeg i’r Saesneg. Mae hynny’n awgrymu mai S4C, nid BBC Wales, fyddai partner darlledu fwyaf addas y noson petaen nhw’n penderfynu’i hatgyfodi ar y sgrîn fach, wedi llanast meddwol y gorffennol.

 

Go brin y caiff Radio Cymru “newydd” unrhyw wobr am wreiddioldeb. A go brin mai fi ydi’r gorau i farnu amserlen ddiwygiedig y dydd, a minnau allan o’r tŷ ac yn ddi-weiarles o wyth y bore tan chwech yr hwyr. Troi i’r wefan amdani a chlicio ar wasanaeth gwrando eto. Roedd rhaglen Iola Wynyn addo “sgwrsio, cyngor, cerddoriaeth a chwerthin yn fyw o stiwdio Caerfyrddin”, ac ymhlith eitemau un bore oedd cri am wirfoddolwyr Cymraeg i ganolfan y Samariaid ym Mangor, hanes casglwyr sbwriel ar gopa’r Wyddfa, pos “Pwy ydw i” wedi’i ddwyn o hen raglen nosweithiol Eleri Siôn a sgwrs gydag aelodau o dîm pêl-rwyd “Sêr y Cwm” o’r Gwendraeth – gyda dos go helaeth o ganu cawslyd gan Iwcs, rhyw gôr meibion a Non Caryl Parry Jones.

Yn y prynhawniau wedyn, mae rhaglen Nia Roberts yn fwy agos-atoch rhywsut wrth adrodd “straeon hwn a’r llall a rhoi’r byd yn ei le”. Roedd y rhaglen a glywais i’n cynnwys adolygiad o ffilm gomedi am ras arlywyddol America, sgwrs gyda Daniel Jenkins Jones o’r RSPB a slot “Yn y Ffrâm” gydag enwogyn yn trafod hoff lyfr, ffilm, drama lwyfan ac ati. Ac yn eu plith, ambell gân gan John Doyle, rhyw gôr meibion a Miriam Caryl Parry Jones.

Diolch i’r drefn am gyflwynwyr a recordiau mwy unigryw gyda’r hwyr, yn enwedig C2: Georgia Ruth Williams rhwng 7 a 10 bob nos Iau, cyn noswylio a gadael i Geraint Lloyd ddiddanu’r pennau gwynion BOB noson o’r wythnos.

Gyda llaw, cymrwch gip ar flog Llygad Ddu am adolygiad llawnach a difyrrach o’r amserlen ddiwygiedig.

Parhau i ddarllen

shitclic: Pwy sy’n tramgwyddo?

Rhyfedd fel mae rhaglenni teledu a digwyddiadau’r dydd yn cyd-daro, drwy lwc neu anffawd amserlennu. Cafodd pennod olaf o’r ddrama Good Cop ei gohirio ar ôl i’r ddwy blismones ym Manceinion ymateb i’w galwad olaf trist. Ac er bod rhywun yn deall y penderfyniad i ganslo’r darllediad ar un ystyr, efallai fod y Bîb a darlledwyr yn gyffredinol yn rhy ofnus a sensitif i ddigwyddiadau o’r fath, a ddim yn parchu’r gwylwyr i wahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen.

Dychwelodd 999: Y Glas (9pm nos Iau) am ail gyfres, gyda darlun pry-ar-y-wal o griw cyfraith a threfn Abertawe a’r cylch. Cyfres sy’n profi bod angen cryn dipyn o hiwmor, amynedd Job yn ogystal â dewrder i fod yn heddwas. Roedd hanner awr o’r rhaglen hon yn ddigon i wneud i chi anobeithio’n lân dros eich cyd-ddyn dan ddylanwad alcohol a chyffuriau – o’r llanc ifanc oedd ar blaned arall yn sgil gorddos o fethadon neu ‘miaw miaw’ ar lafar gwlad rhemp (“absoliwtli insane” medd Cwnstabl Justyn Knight), i’r rhieni chwildrins yn eu gwelyau ganol p’nawn tra’r oedd eu plant bach yn crwydro strydoedd Treforys. Tu ôl i’w ymddangosiad tawel a phwyllog, roedd Cwnstabl Steffan Jones yn amlwg yn gandryll gyda’r rhieni am esgeuluso’r rhai bach, a dywedodd ei fod yn ysu i fynd adref i roi cwtsh i’w blant ei hun ar ddiwedd shifft. Maen nhw’n ddynol tu ôl i’r ddelwedd galed wedi’r cwbl. Cawsom ‘flas’ ar nos Sadwrn yng Nghastell-nedd hefyd, a’r shifft After Dark sydd weithiau’n dawel, dro arall yn golygu noswaith gyfan o waith mewn deg munud.

 

 
Mae’n gyfres ddiddorol ac yn dipyn o agoriad llygad. Ond fe agorodd fy llygaid fel soseri o glywed rhai o dramgwyddau ieithyddol Rachel Evans, uwch-gynhyrchydd ac adroddwraig y rhaglen. Pethau poenus fel “pedwar wal” a “taith byr”. Mae’n anodd credu na sylwodd rhywun o gwmni Boomerang ar y camgymeriadau sylfaenol hyn, heb sôn am olygyddion y Sianel cyn rhoi sêl bendith â siec hael. Gobeithio nad ydi’r toriadau ariannol yn golygu cwtogi ar safonau ieithyddol hefyd.
 
 
Rhywun arall ddylai gael ei arestio ydi Tyrone Powell o Texas, un o’r 3,500 o deithwyr llong bleser ar wibdaith o borthladd Caergybi i gastell Caernarfon, “one of the most beautiful places in England”. Fo oedd un o gyfranwyr niferus A Summer in Wales (BBC One Wales, 7.30pm nosweithiau Llun a Gwener) sy’n bwrw golwg ddifyr ar ein haf tymhestlog a’i effaith ar atyniadau amrywiol o ffair dreuliedig Ynys y Barri, mulod llesg Llandudno a maes pebyll ar Benrhyn Gŵyr gwlyb domen.

Parhau i ddarllen

shitclic: Cariad at y cwm

Bu daeargryn yn y de-ddwyrain wythnos diwethaf. Clywyd sgrechiadau och-a-gwae o Dreherbert i Drethomas, a llifodd dagrau o anghrediniaeth fel Sgwd yr Eira ar ddiwrnod gwlyb o Hydref. Bu Maer Merthyr a gwleidyddion a-ddylai-wybod-yn-well fel Leanne Wood a Chris Bryant AS Rhondda yn poeri tân a brwmstan, a’r gwefannau cymdeithasol yn eirias dan gyfranwyr gorffwyll. Roedd hyd yn oed y gantores Charlotte Church yn gandryll oherwydd y portread annheg o bobl ifanc hanner noeth yn meddwi, rhegi a dangos eu bloneg ym mariau’r brifddinas. Ie, Charlotte Church, tywysoges y tabloids a fu unwaith yn enwog am feddwi, rhegi a…

Rhaglen pry-ar-y-wal anystrydebol arall o Gymru
 
Oedd, roedd pennau bach cyfryngol Llundain wedi pechu a phardduo enw da trigolion y cymoedd os nad Cymru gyfan, diolch i gyfres “realiti” newydd MTV. Ydy, maen nhw’n dal i’w cynhyrchu er bod y mwyafrif helaeth yn eu hanwybyddu nhw ers oes aur Big Brother dros ddegawd yn ôl. Anwybyddu cyfres The Valleys ddylai pawb fod wedi’i wneud. Yn hytrach, trwy gwyno amdani ddyddiau os nad wythnosau cyn y bennod gyntaf, fe gawson nhw gyhoeddusrwydd rhyfeddol. Ac yn rhinwedd y golofn hon, roedd rhaid i mi gael sbec fach do? Roedd ugain munud o raglen awr yn ddigon i mi. Nid oherwydd mod i’n Disgusted of Llandrindod Wells ond am fod y cyfan yn ddiflas o ailadroddus, wrth i’r naw cymeriad cartŵn symud i’w tŷ newydd ym Mae Caerdydd. Ond fe chwarddais o glywed rhybudd mewn Cymraeg cywir dechrau’r rhaglen ac o boptu’r hysbysebion am “iaith gref a golygfeydd o natur rywiol”. Chwerthin hefyd ar dwpdra ac anwybodaeth y cwmni cynhyrchu wrth geisio creu’r argraff nad oedd y naw hyn erioed wedi tywyllu Caerdydd o’r blaen (“plucked from the tranquillity of Valley life, the cast will be given the opportunity to leave their hamlet towns and change their lives in the city of Cardiff”) fel petaen nhw’n hanu o Lanfair Mathafarn Eithaf yn hytrach na hanner awr i fyny’r A470. A do, fe ddefnyddiwyd defaid plastig a phentwr o gennin yn y deunyddiau cyhoeddusrwydd. Gwylltio buaswn innau degawd a mwy yn ôl, ond bellach, yn y Gymru dawel hyderus ôl-ddatganoledig, does gen i uffarn o ots.

 

Llanc ifanc sy’n fwrlwm o hyder ar hyn o bryd ydi’r athletwr Aled Siôn Davies o Ben-y-bont ar Ogwr. Er gwaetha’i lwyddiannau cynnar ym mhencampwriaethau’r byd yn Swistir 2009 a Seland Newydd 2011, ni thalodd y gweddill ohonom unrhyw sylw tan Lundain 2012. Dan arweiniad John Hardy, cawsom hanner awr o’i hanes yn Aur Paralympaidd Aled Davies gan gynnwys ei berthynas arbennig os tanllyd weithiau gyda’i hyfforddwr Anthony Hughes a’r awgrym iddo gael ei fwlio pan sylweddolwyd ei fod yn ‘wahanol’. Bechod i’r rhaglen wibio fel y ddisgen honno yn y Stadiwm Olympaidd fis yn ôl, ac na chlywsom fwy am yr aberth teuluol a chymdeithasol wrth anelu am y brig. Roedd ei fam (“the Welsh mam with a tissue”) yn haeddu llawer mwy o sylw, ond ni chafwyd bŵ na be gan ei frawd, cyfrannwr cyson i’r cyfryngau Cymraeg adeg y Gêmau. Un o’r uchafbwyntiau oedd gweld plant lleol yn heidio o amgylch Aled ger ei flwch post aur. Go brin y caiff cymeriadau The Valleys y fath groeso’n ôl adre ar ôl i’w lliw haul ffug bylu a’u cyfri banc sychu’n grimp ar ddiwedd eu pum munud o enwogrwydd.

Yr Aur

Parhau i ddarllen

shitclic: O’r cae pêl-droed i faes y frwydr



“Gwarthus”, “siomedig”, “difrifol”. Dim ond rhai o’r geiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio – na, nid gyrfa newydd Catherine Môn Windsor fel page 3 girl – ond y siop siafins yn Serbia wythnos diwethaf, gan griw Ar y Marc. Er bod un cefnogwr yn galw am roi Coleman (neu’r Dyn Glo, chwadal Dylan Jones y cyflwynydd) ar y clwt, roedd y mwyafrif call a synhwyrol yn rhoi’r bai yn blaen ar ysgwyddau’r unarddeg di-glem ar y cae. Ie, y miliwnyddion hynny sy’n fwy o dodos na dreigiau yn eu crysau cochion, os nad ydyn nhw wedi tynnu’n ôl o’u dyletswyddau cenedlaethol ar y funud ola, wrth gwrs. Chwaraewyr “is na’r safon” meddai Kevin Ratcliffe ar Sport Wales (BBC Two Wales) sydd bellach dan ofal Dot Davies. Gorffennodd yr eitem ar nodyn lled obeithiol, wrth i’r gohebydd ein hatgoffa bod tîm Terry Yorath wedi cael cweir o 5-1 gan Rwmania ym 1992, cyn dod o fewn trwch blewyn i gyrraedd UDA ’94 erbyn diwedd yr ymgyrch ragbrofol. Diawch, efallai nad oedd Dylan Jones mor wamal â hynny wedi’r cwbl gyda’i “daw eto haul ar fryn hogia”.

 

Mae’r ystrydeb ‘dim ond gêm ydi hi wedi’r cwbl’ yn wir iawn o gymharu â’r holl ddioddefaint a fu ac sy’n dal i fod yn y byd gwaedlyd go iawn. Ar nos Sul, darlledwyd y rhaglen gyntaf o saith sy’n cynnig y “cofnod mwyaf cynhwysfawr erioed o brofiadau’r Cymry Cymraeg yn ystod yr Ail Ryfel Byd”. Cychwynnodd Lleisiau’r Ail Ryfel Byd (9 o’r gloch nos Sul) ym 1939, gyda llu o glipiau British Pathé wedi’u lleisio gan sylwebydd Oxbridge stoc y cyfnod. Mor gyfarwydd nes bod yna rhyw déjà vu o weld y Natsïaid ar dramp yn Tsiecoslofacia a Gwlad Pwyl, Llundain yn drwch o fagiau tywod, a’r werin yn ymgasglu rownd setiau radio tai, ceir a siopau i wrando ar gyhoeddiad enwog Neville Chamberlain. Roeddwn i’n dechrau ofni nad oedd hon fawr amgenach na fideo TGAU Hanes gyda throslais Ifor ap Glyn. Diolch byth, felly, am rai o’r hanner cant o Gymry a rannodd eu profiadau a’u hatgofion am y blynyddoedd tywyll hynny 70 mlynedd yn ôl – o Hetty Blecher yr heddychwraig o Abertawe, Idris Jones Llanbedrog a fu’n aelod o’r comandos, i Eunice Davies o Rydaman sy’n cofio cario mwgwd nwy i’r ysgol gynradd. Ac roedd perlau o fân ffeithiau yn ychwanegu elfen newydd i’r cyfan, fel hanes sefydlu Pwyllgor Diogelu Diwylliant Cymru yn sgil pryderon y pentrefi bach Cymraeg o gael eu boddi gan lond platfform Lime Street o faciwîs, troi gwersylloedd gwyliau Prestatyn a Phwllheli yn ganolfannau ymarfer i’r cyw filwyr, a BBC Bangor yn gartref i gyfresi radio poblogaidd fel It’s That Man Again ar ôl i’r Gorfforaeth adleoli ei hadran adloniant ysgafn o Lundain. Gyda mwy o hanesion fel hyn, dyfyniadau o lythyrau’r milwyr ac erthyglau’r Cymro a’r Herald Cymraeg ar y pryd, dwi’n edrych ymlaen at stamp newydd a Chymraeg ar hen hanes.

 

 

 

 

 

Parhau i ddarllen

shitclic: Trafferth mewn tafarn… a thai bach

Nos Sadwrn ar y soffa o flaen Noson Lawen (ailddarllediad) neu Strictly Come Dancing ar ôl sgods go symol o’r siop Tsieinî lleol ydi hi i rai yn eu 70au. Ond nid Eurwen Richards. O na. Wedi gair o weddi mewn capel bedyddwyr lleol, mae’n gwisgo’i lifrai – het pêl fas a chôt dywyll â stamp ‘Street Pastor’ ar y cefn – ac yn mentro fesul tri i brif stryd cwrw a chibab canol Pen-y-bont ar Ogwr. Unwaith y mis mae’n rhan o fugeiliaid y stryd sy’n cynnig cymorth i slotwyr nos Sadwrn yn ogystal â dosbarthu fflip fflops i ferched mewn sodlau pigfain – a rhoi mensh bach i Grist wrth fynd heibio wrth gwrs, heb hwrjio crefydd i lawr eu corn gwddw. Yn rhaglen gynta’r gyfres ddogfen newydd, roedd camerâu O’r Galon: Bugail y Stryd (Tinopolis) yn dilyn Eurwen a’i chyd-gristnogion ar shifft deg yr hwyr tan bedwar y bore, ar benwythnos gwlyb Gŵyl Banc Mehefin.

 
 

Rhwng cyfweliadau uniongyrchol ag Eurwen ac eraill fel Andy Morgan, Prif Arolygydd Heddlu’r De a Llinos y parafeddyg, clywsom am ddigwyddiadau tywyll iawn a sbardunodd y bartneriaeth unigryw hon. Bum mlynedd yn ôl, roedd tref Pen-y-bont dan gwmwl ar ôl i lanc gael ei ladd gan giang wrth yr orsaf drenau, a sawl achos o hunanladdiad ymhlith yr ifanc. A dyma fugeiliaid y stryd yn dod i’r adwy trwy ddangos consyrn a chynnig clust i unrhyw un oedd am fwrw gofidiau. Siaradodd Eurwen yn glir a chroyw, a daeth ei hiwmor tawel a chynnes i’r amlwg wrth iddi rannu straeon am griw o fechgyn yn ei thrin fel “ffrind” a’i pharchu fel mam-gu garedig er gwaetha’r gwawdio cychwynnol (“Street pastors? What kind of pasties yew sellin tonight then?). Byddai’r rhaglen wedi elwa ar lai o rethreg ailadroddus yr heddlu, a mwy o hanes Eurwen ei hun. Beth am ymateb (a phryderon?) ei theulu a’i ffrindiau i’w dyletswyddau misol, yn ogystal â barn rhywun gafodd gymorth ganddi yn y gorffennol? Ydy, mae’n santes, tra byddai’r mwyafrif sobor-fel-sant ohonom yn osgoi dyletswydd o’r fath fel y pla.

 

“Be sy’n digwydd i’r carthion ar ôl diflannu i lawr y fflwsh?” oedd brawddeg agoriadol Bethan Gwanas, llefarydd Bois y Caca. Dyna chi linell a theitl i gorddi stumog y gwyliwr druan. Oedd, mi roedd y brodyr o Bumlumon a ddaeth i achub y dydd trwy ddadflocio problemau un fferm, maes carafanau a phortalŵs Maes B eleni, yn gymeriadau a hanner o gymharu â’r lleill a oedd yn debycach i gyfranwyr un o fideos corfforaethol Dŵr Cymru. A do, fe ddysgais mai gwaith trin dŵr gwastraff Caerdydd ydi’r pedwerydd mwyaf yn Ewrop (a dim jôcs am faint o gach sy’n llifo o Lywodraeth y Bae, diolch yn fawr iawn). Ond r’arglwydd, rhwng hon, darpar raglen am ddynion sbwriel a chyfres lle chwech Ifor ap Glyn, mae rhywun yn poeni braidd am ffetish comisiynwyr S4C o faw isa’r doman Gymraeg.

Parhau i ddarllen

shitclic: Newid yn chenj

Ddeudais i do? Ddeudais i fod ’na ddramâu o safon o’n blaenau ni ar y bocs y tymor hwn. Mae Good Copymhlith y gorau ar deledu Prydain ar hyn o bryd, heb os. Ie, drama arall am y Glas, fe’ch clywaf yn ochneidio’n ddiflas, ond nid sioe sebon sar… Parhau i ddarllen

shitclic: Hydref Homeland

Mae gŵyl y banc olaf ond un eleni wedi mynd. Sy’n golygu un peth. Naci, nid y ffaith y bydd yr archfarchnadoedd yn llawn tinsel cyn hir – a’n gwaredo – ond bod fy hoff dymor yn prysur nesáu. Ie, tymor yr hydref a’i liwiau bendigedig, tymor tro… Parhau i ddarllen

shitclic: My Big Fat OTT Welsh Wedding

Un cymeriad yn talu am barti priodas ei chyn-ŵr atgas sy’n priodi dynas gysgodd efo boi dreisiodd ei merch ei hun. Chwaer cyn-ŵr y briodferch ydi’r forwyn, gan guddio’i bol-disgwl-babi yn aflwyddiannus efo’i bag llaw a neb yn holi. ‘Ru… Parhau i ddarllen

shitclic: Sesiwn Fach

Y Cowbois Rhyw ugain haf yn ôl, roeddwn i’n cael modd i fyw yn hel gwyliau gwerin ar hyd a lled y wlad ’ma. Neidio ar fws TrawsCrwban a’i throi hi am Ffostrasol a Dolgellau. Ac roedd S4C a Radio Cymru wastad yn darlledu’n fyw o lwyfannau Parhau i ddarllen

shitclic: Dim Steddfod Susnag

Wel, dyma fi adre’n dlotach ond yn hapusach a chochach diolch i groeso gwresog y Fro. ’Nôl i realiti rŵan gyda nofel fuddugol Robat Gruffudd yn gydymaith ar uffern cymudo Non-Arriva. Ac i’r rheiny sy’n hiraethu’n barod am orji flynyddol y P… Parhau i ddarllen

shitclic: Ar ôl 4… ewch!

Os ydach chi dan y felan Olympaidd, na phoener. Mewn llai na phythefnos, bydd y Gemau Paralympaidd yn taro’n sgriniau – ond nid y BBC. Sy’n golygu dim blydi Garry Lineker a’i Team England na’r Matt Baker ‘na, cyflwynydd mor ddigymeriad â Ch… Parhau i ddarllen

shitclic: I hudolus wlad Iolo*

Diolch byth am wythnos ’Steddfod. Er ’mod i’n wyliwr brwd o’r cystadlaethau nofio, beicio ac athletau ar y teledu fin nos, mae’r geiriau Team GB, lluniau camera cyson o Wil a Cêt a Cameron mewn perlewyg, ac anthem Mrs Windsor braidd yn flind… Parhau i ddarllen

shitclic: Sioe a hanner

Oedd, mi roedd hi’n dipyn o sioe. Un tipyn gwell na’r disgwyl hefyd, er bod hen sinig blin fel fi yn barod i wfftio pasiant Prydeinig Boyle – neu “gân actol yr Urdd efo chequebook mwy” meddai Tudur Owen ar ei sioe radio bnawn Sadwrn. Ond o! r… Parhau i ddarllen

shitclic: Mabolgiamocs

 Daliwch eich gwynt. Mae wedi cyrraedd. Nos fory, bydd llygaid y byd ar Brifddinas y Byd, chwadal yr Independent. A waeth i mi gyfaddef ddim, dw i’n siŵr o gael sbec ar y seremoni agoriadol dan law’r cyfarwyddwr ffilmiau Danny Boyle gan ’mo… Parhau i ddarllen

shitclic: Chwifiwn ein Sbaneri

 Ddechrau’r nawdegau, fe wnes i a chyd-aelodau Cymdeithas yr Iaith Prifysgol Caerdydd ddilyn esiampl grŵp pop y Chwyldro a chwifio ein sbaneri. “Rhaid yw eu tynnu i lawr” oedd y gri pan ryddhawyd y gân honno ym 1971, felly ffwrdd â ni gef… Parhau i ddarllen

shitclic: Cymru a’r Byd

Mi fuasai’r byd celfyddydol Cymreig dipyn tlotach heb S4C. Pa wasanaeth arall, boed y cyfryngau neu’r wasg brint, sy’n rhoi cymaint o sylw i’r holl gythrel cystadlu a chyngherddau’r wlad fach amryddawn hon? Gormod o sylw ym marn rhai efallai… Parhau i ddarllen

shitclic: Perl pum munud

Dwi ar ei hôl hi braidd yn ddiweddar. O fisoedd hynny yw, nid wythnos yn hwyrach fel Eisteddfod yr Urdd a Wimbledon eleni, diolch i sbri soeglyd Mrs Windsor. Digwydd troi at wefanffigurau gwylio’r Sianel wnes i, a sylwi ar gyfres sy’n rhan o’r D… Parhau i ddarllen

shitclic: Hapus braf?

Mae Cymru hydrefol yn ddiawl o sioc i’r system, a’r tân nwy ymlaen wedi wythnos o eli haul ffactor pum deg ym Mhortiwgal. Ac o! roedd hi’n braf bod mewn gwlad sy’n rhan o ferw gwyllt yr Ewros – y syrcas pêl-droed nid y smonach ariannol – ac y… Parhau i ddarllen

shitclic: Walis y Weiarles

… Ifan Evans, DJ nos Wener yn dangos ei ymwybyddiaeth lawn o’r sin werin gyfoes trwy gyflwyno band Lisa Jên fel “Naw Bach”… … Leri Siôn yn holi Cymro fu’n rhan o daith feics noddedig Lawrence Dallaglio rownd y 6 Gwlad, gan gynnwys Parhau i ddarllen

shitclic: Be’ sy’n drewi?

Gwyneth, Gwyneth, Gwyneth. Beth gythraul ddigwyddodd i Lisbeth Salander Cwmderi, a fu’n bwlio Dai Sgaffalde a dychryn Anti Marian gyda’i pharlwr tatŵs a’i beicars mawr blewog ers talwm? Yr unig gyffro yn ei bywyd heddiw ydi gwrando ar swnian car… Parhau i ddarllen

shitclic: Ochor Treforys o’r dre

Pan welais ddatganiad i’r wasg am gyfres newydd o’r enw Y Glas, mi feddyliais “grêt, ma’ S4C wedi penderfynu atgyfodi rhywbeth gwerth chweil o’r diwedd”. Ond nid cyfres ddrama o’r 90au am griw o heddweision Caerfyrddin oedd hon. Efallai … Parhau i ddarllen

shitclic: O Blackpool i’r Barri

Blackpool. Tref y tŵr a’r gwyliau kiss me quick, y tîm pêl-droed oren llachar, a’r man lle cafodd cymar treisgar Rita Coronation Street ei haeddiant dan un o’r tramiau. Ond yn fwy na dim, meca i gannoedd os nad miloedd o Gymry sy’n heidio i… Parhau i ddarllen

shitclic: A fo ben…

Y BONT. “Bron” yn Swedeg, “Broen” i’r Daniaid. Cyfres ddrama dditectif newydd gan feistri’r genre. Pan gaiff corff ei ddarganfod hanner ffordd ar bont Øresund rhwng Denmarc a Sweden, daw heddlu’r ddwy wlad ynghyd i ddatrys y dirgelwch – Martin Rohde o… Parhau i ddarllen

shitclic: Hawdd cynnau tân…

Yr un oedd patrwm nos Sadwrn yn rhif 7 Senghennydd Place yn oes aur golegol y nawdegau. Cyri a chwrw o flaen y bocs cyn mynd ar bererindod arferol y Model Inn, City Arms a Chlwb Ifor. Tra’r oedd Cilla ddanheddog yn chwarae ciwpid rhwng Rupert o Henle… Parhau i ddarllen

shitclic: Bois bach!

shitclic: Cwmderi Newydd

Un o lwyddiannau Gwaith/Cartref yw’r ffaith ei bod wedi’i ffilmio ar leoliad go iawn yn hen ysgol ramadeg y Barri yn hytrach na dosbarthiadau g’neud mewn stiwdio, gan ychwanegu at ymdeimlad realistig y cyfan. Mae Rownd a Rownd wedi hen ymgartref… Parhau i ddarllen

shitclic: Cach i Gymru

Anghofiwch am Englebert yn yr Eurovision, a hyd yn oed neiniau Rwsia. Mae gynnon ni ganeuon a pherfformwyr lawn mor camp yng nghystadleuaeth “ganu” flynyddol Sbrec. Llongyfarchion i Gai Toms ar fachu’r siec o £7,500 a thlws o Matalan, ond rhaid cyfadd… Parhau i ddarllen

shitclic: Drama sy’n plesio pawb

Wedi hirymaros, mae cloch yr ysgol yn ein galw’n ôl am gyfres arall o Gwaith/Cartref. Ac ar ôl cymaint o och a gwae diweddar am batrwm newydd y Sianel, mae’n braf cael edrych ymlaen a chanmol drama nos Sul. Dwi ddim yn cofio’r un gyfres sy’n … Parhau i ddarllen

shitclic: Y cogydd a’r cwîn

Cefais lyfr coginio yn fy hosan Dolig rhyw flwyddyn neu bump yn ôl. Na, nid un Delia ddoeth na Gordon blin ond A Cookbook for a man who probably only owns one saucepan. Ydy, mae’r llyfr bach llwyd yn cynnwys rysáit ar gyfer yr wy wedi ferwi perffai… Parhau i ddarllen

shitclic: Tywyll heno

Cyn un o benodau Pobol y Cwm wythnos diwethaf, cafwyd rhybudd gan Gyhoeddwr Dwys-ddifrifol S4C y gall rhai golygfeydd beri gofid i ni wylwyr sensitif. Dylai fod wedi cyhoeddi hynny awr ynghynt. Achos am saith o’r gloch noson Gŵyl Ddewi, dylwn i a Parhau i ddarllen