Archives: Good Practice Exchange

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Ceisio rheoli amser yn effeithiol

Gall rheoli eich amser mewn swyddfa brysur fod yn dasg fawr yn ei hun. Yn y blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar sut mae ef wedi newid ei ffordd o weithio. Mae newid mewn amgylchiadau personol wedi meddwl fy mod i wedi bod yn gweithio mwy o gartref. Nid fy nghartref yng Nghaerdydd, […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Sut allwn annog partneriaid i gefnogi dull gweithredu amlasiantaeth?

Arweiniodd Simon Pickthall o Vanguard Consulting weithdy yn ein digwyddiad ar Ddylunio gwasanaethau effeithiol ar gyfer aml-ddefnyddwyr. Isod mae Simon yn edrych ar sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i wella’r gwasanaethau y mae pobl yn eu derbyn. Mae’r cwestiwn yn un cyffredin. Mae pobl wedi bod yn ceisio annog partneriaid ers blynyddoedd i gydweithio er mwyn […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Sut mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi data i archwilio’n fwy effeithiol

Beth allwn ni ddysgu o’r ffordd mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi ei data ar gyfer eu harchwiliadau? Cafodd Dyfrig Williams sgwrs ffôn yn hynod o gynnar yn y bore er mwyn darganfod mwy. Fel rydw i wedi dweud o’r blaen yn fy mlogbost ar brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, rwy’n edrych i […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Datblygu personas ar gyfer gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Sut all personas helpu i sicrhau bod prosiectau yn canolbwyntio ar y defnyddiwr? Isod mae Dyfrig Williams yn adlewyrchu ar sut maen nhw wedi bod yn rhan o’i waith ar fynd i’r afael â data yn effeithiol. Rydw i wedi bod yn gweithio ar arbrawf i gasglu data ar gyfer archwilwyr fel y gallwn weithio’n […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Mynd i’r afael â data ar gyfer archwilio sydd ar flaen y gad

Sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn sicrhau ein bod ni’n archwilio mewn modd sy’n addas ar gyfer y dyfodol? Mae Dyfrig Williams wedi blogio ar ei waith gyda phrosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad. Rydw i wedi bod yn gweithio ar brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad dros y misoedd diwethaf, sy’n edrych […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Pam rydyn ni’n ffocysu ar wella gwasanaethau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’n rheolaidd

Pam fod Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal seminarau sy’n canolbwyntio ar aml-ddefnyddwyr? Isod mae Dyfrig Williams yn amlinellu ein meddylfryd a pham mae gwasanaethau cyhoeddus effeithlon yn canolbwyntio ar ddinasyddion. Mae rhaglen gwaith Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yn seiliedig ar y meini prawf canlynol: Deddfwriaeth newydd a datblygiadau arwyddocaol sy’n […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Heneiddio’n Dda yng Nghymru

Yn gynharach y mis hwn, aeth Bethan Smith i’r digwyddiad Heneiddio’n Dda yng Nghymru a gynhaliwyd ym Mangor o dan ofal Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn y blog hwn, mae Bethan yn rhannu ei hargraffiadau o’r diwrnod… Mae’r Tîm Cyfnewid Arfer Da wedi cydweithio â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar sawl achlysur erbyn hyn, felly […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Yr hyn a ddysgais o gymryd rhan ym mhodlediad #NatterOn

Mae’r ffordd ni’n dysgu a chymryd gwybodaeth i mewn yn datblygu drwy’r amser. Yn y blogbost isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar beth y dysgodd trwy gymryd rhan ym mhodlediad NatterOn. Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf rydw i wedi bod yn gwrando ar bodlediadau i ehangu fy ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd yn […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Digidol: Mae’n ymwneud ag ailgynllunio, nid busnes fel arfer

Nid oedd ein seminar Ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol yn ymwneud ag adnoddau digidol, ond newid mewn meddylfryd. Ond beth y mae’n ei olygu yn ymarferol? Mae Ena Lloyd yn myfyrio ar yr hyn a ddysgodd o’r digwyddiad. Rwyf wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno seminar diweddar ar […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Sut mae Cyngor Gwynedd yn meddwl ar ffurf systemau

Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn edrych ar sut allai ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol. Siaradodd Dyfrig Williams â Dilwyn Williams, Prif Weithredwr y Cyngor i weld beth allwn ddysgu o’r gwaith yma. Cyflwynwyd dull meddwl ar ffurf systemau i Dilwyn Williams a Chyngor Gwynedd yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rai blynyddoedd yn ôl. Mae’r […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Mynd i’r Afael â Chynllunio Gwasanaeth Digidol

Sut all gwasanaethau cyhoeddus dechrau i ddylunio gwasanaethau digidol? Isod mae Jess Hoare ac Amy Richards o Y Lab yn edrych dros y pethau allweddol sydd i’w hystyried wrth i chi dechrau ar eich siwrne o Ddylunio Gwasanaethau Digidol. Ychydig o wythnosau yn ôl, cafodd Y Lab wahoddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal gweithdy […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Mentrwch i fod yn agored i wella gwasanaethau cyhoeddus

Sut all arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ymgorffori meddylfryd digidol o fewn eu sefydliadau i ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus? Isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar yr hyn y dysgodd o weithdy’r Cynghorydd Barry Parsons a Carl Haggerty yn ein Seminar Digidol. Roedd ein seminar yn edrych ar ddulliau digidol, ond yn realiti dim ond rhan bach o’r seminar […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Dyfodol parciau a’u heffaith gadarnhaol ar les

Sut allwn ni wneud parciau’n gynaliadwy a rhoi hwb i les y bobl rydym yn gwasanaethu fel gwasanaethu cyhoeddus Cymreig? Isod mae Bethan Smith yn adlewyrchu ar y gwersi a ddysgwyd o’n seminar Parciau llynedd. Mewn adroddiad diweddar yn dwyn y teitl The State of UK Public Parks 2016 (Saesneg yn unig), mae Cronfa Dreftadaeth […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: GovCamp Cymru: A allwn ni newid ymddygiad ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus gwell?

Fe wnaeth Dyfrig Williams cynnig sesiwn yn GovCamp Cymru ar sut all damcaniaeth newid ymddygiad helpu i ymgorffori syniadau a gynhyrchwyd yn anghynadleddau mewn sefydliadau. Isod mae’n amlinellu beth ddysgodd o’r sesiwn. Roedd GovCamp Cymru eleni yn ddigwyddiad gwych. Cynigiais i sesiwn ar newid ymddygiad pobl tu fewn i mudiad er gwella gwasanaethau cyhoeddus. Fe […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol: cynhadledd am newid diwylliant

Beth oedd y negeseuon allweddol o’n digwyddiadau diweddar ar ddigidol? Isod mae Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn adlewyrchu ar y prif bwyntiau dysgu mae hi’n cymryd i ffwrdd. Ar 13 Medi mynychais ddigwyddiad a drefnwyd gan Gyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru o’r enw Ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol. Er i mi […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Mabwysiadwyr cynnar Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Chwe mis i mewn…

Fe wnaeth Hazel Clatworthy a Matthew Gatehouse, Cyngor Sir Fynwy, gyflwyno mewn seminar dysgu ar y cyd ‘nôl ym mis Mawrth, ar y testun Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Bryd hynny, nid oedd y ddeddfwriaeth wedi dod i rym, ac roedd eu profiad yn seiliedig ar eu gwaith fel “mabwysiadwyr cynnar” y Ddeddf. Ar ôl chwe mis, […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: GovCamp Cymru 2016: Newid ymddygiad i wella gwasanaethau cyhoeddus

Sut gall theori newid ymddygiad helpu ni i roi syniadau o anghynhadleddau ar waith mewn sefydliadau? Isod mae Dyfrig Williams yn amlinellu ei syniad am sesiwn yn GovCamp Cymru. Eleni fydd fy nhrydydd GovCamp Cymru, ac am yr ail flwyddyn yn olynol mae’n cael ei chynnal yn Adeilad y Pierhead Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Os nad […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Sut mae Datblygu a Dysgu modern yn edrych?

Pa mor berthnasol yw dysgu a datblygu o fewn y gweithle heddiw ac a yw’n cael dylanwad cadarnhaol? Yn ddiweddar cwblhaodd Russell Higgins astudiaeth i asesu effaith dysgu a datblygu o fewn y gweithle gan ganolbwyntio’n benodol ar werthuso. Ar gyfer yr astudiaeth defnyddiodd Russell Swyddfa Archwilio Cymru fel sefydliad astudiaeth achos. Roedd fy ngwaith […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol mewn gwlad â chyfoeth o adnoddau ond prinder arian

Mae’r Athro Tony Bovaird yn Gyfarwyddwr Governance International, sefydliad nid er elw sy’n gweithio ledled Ewrop ar bolisïau cyhoeddus seiliedig ar ganlyniadau a chyd-gynhyrchu gan ddinasyddion, ac mae’n Athro Emeritws ar Reoli a Llywodraethu Cyhoeddus ym Mhrifysgol Birmingham.  Yn ei gyfraniad at y Seminarau Dyfodol Llywodraethu ym mis Gorffennaf, rhannodd Tony ei gred gref fod […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Cwynion nas cadarnheir a chwynion a gadarnheir yn rhannol: Mynd i’r afael â sefyllfaoedd cymhleth

Mae cwynion nas cadarnheir a chwynion a gadarnheir yn rhannol fel arfer yn digwydd wrth ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth. Sut gall byrddau a staff sicrhau bod y broses yn addas i’r diben ac wedi’i seilio ar yr achwynydd? Mae Dyfrig Williams ac Ena Lloyd yn myfyrio am yr hyn a ddysgwyd o Seminar Cwynion y […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Sut wnaeth Cyngor Abertawe cynnal ymchwiliad craffu i’w diwylliant

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn meddwl bod rhaid i fudiadau i wneud lot mwy nag newid elfennau o wasanaethau, rhaid cael newid diwylliannol ehangach. Yn y blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar beth allwn ni ddysgu o Ymchwiliad Craffu Diwylliant Corfforaethol Dinas a Sir Abertawe. Mae diwylliant yn un o’r pynciau mawr […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Newid Ymddygiad

Cafodd y thema o newid ymddygiad y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol ei drafod sawl gwaith yn ein digwyddiad ar Ddyfodol Llywodraethu: gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Yn y blogbost yma mae Chris Bolton yn edrych ar yr heriau sydd o’n blaen ni a sut allwn ni mynd […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: RHP: Gwasanaeth gwych, cyflogwr gwych

Mae’n amhosibl cael gwasanaethau cyhoeddus effeithiol heb staff ymroddedig a brwdfrydig. Felly sut allwn ni cyflawni hyn? Ymwelodd Dyfrig Williams â Grŵp RHP, darparwr tai yn Llundain, i ddysgu mwy. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut mae sefydliadau yn gwneud y fwyaf o’u staff fel adnodd. Pan weithiais i Gyfranogaeth Cymru, fe wnaethon ni […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Sut mae meddylfryd digidol yn ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw am newid sylweddol yn y ffordd rydyn ni’n cynllunio a darparu gwasanaethau, ac mae technoleg wedi newid yr amgylchedd cymdeithasol sylfaenol rydyn ni’n gweithio ynddo. Yn y blogbost yma, mae Dyfrig Williams yn edrych ar sut all y ddeddf cefnogi meddylfryd digidol strategol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Mae […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Beth all Data Agored wneud ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus?

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal Google Hangout ar Ddata Agored. Fe fydd y Hangout yn edrych ar sut all Data Agored helpu ni i ddarparu gwasanaethau ar y cyd sy’n dryloyw ac effeithiol. Yn blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar pam mae gan y Gyfnewidfa Arfer Da diddordeb yn y pwnc. Blwyddyn […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Adrodd ein Stori NI

Yn y blogbost yma mae Dr. Rachel Hughes, Pennaeth Mewnwelediad Chwaraeon Cymru, yn esbonio pam mae hi o’r farn bod adrodd ein Stori NI yn bwysig i les Cymru. Rwyf wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr â rhai pobl ardderchog wrth helpu i lunio’r seminar rhannu dysgu sydd ar y gweill, sef […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: 2016: Blwyddyn y Posibilrwydd

Mae Cymru’n dechrau dangos ei gallu fel cenedl i weithio gyda’r hyn sydd ganddi mewn modd llawer mwy creadigol a chynaliadwy. Mae Trefi Trawsnewid, Masnach Deg, rhoi organau a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhai enghreifftiau o hyn.  Rydym yn dechrau sylweddoli beth sy’n gweithio i ni fel cenedl, ac yn aml nid dyna rydym […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Deall Ymddygiadau Staff ac Anghenion Teithiau Busnes

Sut llwyddodd Cyngor Dosbarth Bro Aylesbury i arbed £90,000 a haneru ei allyriadau? Siaradodd Ena Lloyd gydag Alan Asbury. Yn ddiweddar, es i seminar a gynhaliwyd gan Enterprise Rent a Car ynglŷn â’r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn trafod â’r sector preifat i wella eu trefniadau teithiau busnes. Arweiniodd hyn at gyfraniadau mawr tuag […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Codi tâl ai peidio?

A all cynghorau wneud gwell defnydd o’u hadnoddau drwy godi tâl am wasanaethau gwastraff? Mae Gwyndaf Parry o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi blogio i ni ar ddigwyddiad a gafodd ei chynnal gyda Swyddfa Archwilio Cymru. Mae gwasanaethau yn dod o dan fwy a mwy o bwysau, gyda disgwyl i awdurdodau lleol ddarparu mwy gyda […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: LocalGovCamp: Bod y newid rydych chi am ei weld

Sut mae cynghorau ar draws y Deyrnas Unedig yn gwneud y fwyaf o ddulliau digidol ar gyfer eu gwaith? Aeth Dyfrig Williams i LocalGovCamp i ffeindio allan. Dros y penwythnos fe wnes i fynd i Birmingham er mwyn mynd i LocalGovCamp am y tro cyntaf, sef anghynhadledd ar gyfer llywodraeth leol ar draws y Deyrnas […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Allwch chi fynd heb e-bost mewnol?

Ai e-bost yw’r dyfodol o fyd gwaith, neu gall ffyrdd newydd helpu ni i rannu gwybodaeth yn fwy effeithlon? Siaradodd Dyfrig Williams i Lee Mallon o Rarely Impossible i gael gwybod. Rydyn ni gyd yn gwybod y teimlad o ddychwelyd i’r gwaith ar ôl gwyliau i ffeindio mynydd o negeseuon e-bost. Rydw i wastad yn […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Treialon Coffi ar Hap: Sut maen nhw’n mynd?

All Treialon Coffi ar Hap helpu pobl o fewn eich mudiad i rwydweithio a rhannu gwybodaeth? Yn y blogbost yma, mae Bethan Davies yn arolygu defnydd y Gyfnewidfa Arfer Da o’r dull. Efallai bod rhai ohonoch eisoes yn ymwybodol bod y Tîm Arfer Da wedi bod yn cynnal Treialon Coffi Ar Hap yn ystod y […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Effaith Cyfathrebu MAWR y Gronfa Loteri Fawr

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn gyfrifol am rannu 40% o’r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol. Yma, mae’r Swyddog Cyfathrebu, Rosie Dent yn trafod sut y cafodd un ymgyrch gyfathrebu effaith ystyrlon, fesuradwy. Yng Nghymru, rydym yn rhoi tua £100,000 y dydd i brosiectau sydd â’r nod o wella bywydau […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Chwaraeon: adnodd pwerus ar gyfer gwella llesiant

Yn y blog hwn, mae Dr Rachel Hughes, Pennaeth Mewnwelediad yn Chwaraeon Cymru, yn esbonio pam fod chwaraeon yn declyn mor bwysig er mwyn gwella lles… Beth petawn i’n dweud wrthoch chi bod yna adnodd effeithiol iawn ar gyfer ymgysylltu ag unigolion, cymunedau a hyd yn oed gwledydd a’u grymuso i gymryd camau i weithredu […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: National Theatre Wales: Byw’r breuddwyd …. a’u gwerthoedd

Mae gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus ym mhob sector yn awyddus i wella’u cymunedau. Ond beth allwn ni ei ddysgu o sut mae National Theatre Wales yn ychwanegu gwerth at y gymuned gelfyddydol? Ymwelodd Dyfrig Williams â Devinda Silva i ffeindio allan. Ers i mi ddechrau gweithio yn y sector gwirfoddol, mae fe wedi bod yn amlwg […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: YMCA Plas: Gweledigaeth well ar gyfer y Rhath

Sut all sefydliadau ddatblygu strategaeth ar gyfer ased cymunedol? Ymwelodd Dyfrig Williams ag YMCA Plas (cyn-Ganolfan Gymunedol Plasnewydd) yn y Rhath i ffeindio allan. Rydw i wedi bod yn ymweld â sefydliadau sydd wedi mynd drwy’r broses trosglwyddo asedau yn barod yn fy mlogbostau ddiweddar ar drosglwyddo asedau. Roedd fy ymweliad olaf bach yn wahanol, achos […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr: Adeilad gwell, democratiaeth gwell

Cafodd democratiaeth leol ei adfywio ar ôl i Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr symud o’i hen adeilad i’r llyfrgell yn Nhŷ Carnegie. Ymwelodd Dyfrig Williams â’r Cyngor i ffeindio allan mwy am yr adeilad newydd a sut mae’n cael ei ddefnyddio i roi hwb i gelfyddydau’r dref. Roedd Cyngor Tref Pen-y-bont wedi ei leoli yn […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Canolfan Gelf y Miwni: Trosglwyddiad ased a gafodd ei sbarduno gan y gymuned

Fe wnaeth y penderfyniad i gau Canolfan Gelf y Miwni ym Mhontypridd achosi protest mawr, a wnaeth hyn yn ei dro sbarduno’r gymuned i gymryd dros yr adeilad. Aeth Dyfrig Williams i’r ganolfan i ffeindio allan sut mae’r ganolfan wedi datblygu ers i’r ased cael ei drosglwyddo. Ysgrifennodd Chris Bolton blogbost sbel yn ôl am sut […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: NSA Afan: Trosglwyddo ased, grymuso’r gymuned

Yn y diweddaraf mewn cyfres o flogbostau ar drosglwyddo asedau cymunedol, ymwelodd Dyfrig Williams ag Aled Davies yn NSA Afan i ffeindio allan sut gafodd adeilad Heol Dalton ei drosglwyddo’n effeithiol i fod yn Academi Cyflogaeth a Fenter.   Roedd adeilad Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar Heol Dalton ar fin cau. Mae’n adeilad mawr, ac […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Gwesty Seren: Trosglwyddo asedau yn effeithiol a dull newydd o ofal ysbaid

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n debyg fe fydd llawer o gyrff gwirfoddol a Chynghorau Tref a Chymuned yn mynd ati i drosglwyddo asedau o’r Cyngor Sir. Aeth Dyfrig Williams i Westy Seren i ddysgu am ei brofiad nhw o drosglwyddo ased a sut maen nhw’n darparu gofal ysbaid. Rydym yn cael ein arwyddbostio ato […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Neuadd Ogwen: Y Cyllell Byddin y Swistir o Leoliadau Cerddoriaeth

Mae Neuadd Ogwen yn ased sydd wedi cael ei drosglwyddo i’r gymuned. Beth all grwpiau eraill dysgu o’i llwyddiant a’i hyblygrwydd? Aeth Dyfrig Williams i ffeindio allan. Fel rhywun sy’n caru cerddoriaeth byw, mae fe wedi bod yn dorcalonnus i weld cymaint o leoliadau cerddoriaeth cau. Cefais fy magu yng Nghaerfyrddin, ble mae’r Parrot wedi cau […] Parhau i ddarllen

Cymraeg – Good Practice Exchange at The Wales Audit Office: Gwerthuso da = dysgu sut i wneud pethau’n well

Mae Dr Kate Hamilton wedi ysgrifennu blog am y broses werthuso a ddefnyddir o fewn Coed Actif Cymru… Fel pob prosiect da, rydym yn cymryd y gwaith o werthuso Coed Actif Cymru o ddifrif – nid dim ond oherwydd yr hoffem fod yn ddiwyd ynghylch monitro’r prosiect, ond hefyd oherwydd mai un o’n blaenoriaethau yw […] Parhau i ddarllen

Good Practice Exchange at The Wales Audit Office » Cymraeg: Manteision gweithio gyda’r Gyfnewidfa Arfer Da

Mae Sophie Knott yn siarad am ei phrofiad o weithio gyda’r Gyfnewidfa Arfer Da ar weminar arfaethedig. Yma yn Swyddfa Archwilio Cymru cawn ein hannog i gydweithio ar draws gwahanol feysydd o fewn y sefydliad i rannu gwybodaeth a chynnig gwell gwasanaeth i gleientiaid a’r cyhoedd. Fodd bynnag, weithiau mae pwysau amser ac adnoddau’n golygu […] Parhau i ddarllen

Good Practice Exchange at The Wales Audit Office » Cymraeg: Bara Brith Camp: Pam mae ymddiriedaeth yn bwysig i wasanaethau cyhoeddus

Mynychodd Dyfrig Williams Brith Bara Camp i rannu dysgu o’n seminar ar Ymddiriedaeth. Dyma drosolwg o’i trafodaeth. Yn ein seminar Ymddiriedaeth Staff, diffiniodd yr Athro Searle ymddiriedaeth fel “y parodrwydd i fod yn agored i weithredoedd parti arall, yn seiliedig ar ddisgwyliadau cadarnhaol y byddant yn gweithredu’n fuddiol, neu o leiaf beidio achosi niwed, heb […] Parhau i ddarllen

Good Practice Exchange at The Wales Audit Office » Cymraeg: Coed Actif Cymru

Awdur y blog hwn yw Dr Kate Hamilton, a gyflwynodd yn seminar Dyfodol Parciau a’u Heffaith Gadarnhaol ar Les yn ddiweddar. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau i esbonio effaith yr hyn y mae Coed Actif Cymru yn ei wneud, a pham a sut y maent yn gwneud hynny. Bydd Kate hefyd yn blogio am […] Parhau i ddarllen

Good Practice Exchange at The Wales Audit Office » Cymraeg: Dadfentora 3: Meddylfryd digidol ac ymddiriedaeth staff

Mae Dyfrig Williams yn edrych nôl dros drafodaeth gyda Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn y blogbost diweddaraf mewn cyfres ar Ddadfentora LocalGovDigital. Pan mae’r Archwilydd Cyffredinol Cymru yn agor ein seminarau dysgu ar y cyd, mae’n annog cymryd risgiau sydd wedi’u rheoli’n dda, gan na fydd gwasanaethau cyhoeddus yn gallu parhau yn eu […] Parhau i ddarllen

Good Practice Exchange at The Wales Audit Office » Cymraeg: Pwy oedd yn gwybod bod Cau Cyfrifon Llywodraeth Leol yn Gynt o fudd i ddarparu gwasanaethau rheng flaen?

Sut all cau cyfrifon llywodraeth leol yn gyflymach helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus? Isod mae Ena Lloyd yn edrych ar beth allwn ni ddysgu oddi o Awdurdodau Lleol yn Lloegr. Ar hyn o bryd, mae Cyfrifon Llywodraeth Leol yn gorfod cael eu cymeradwyo erbyn 30 Medi yng Nghymru. Hoffai’r Trysorlys yn Whitehall alluogi i Gyfrifon […] Parhau i ddarllen

Good Practice Exchange at The Wales Audit Office » Cymraeg: Sut mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu helpu aelodau etholedig i gyfathrebu â’u cymuned

Sut all cynghorwyr defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel rhan o’u gwaith? Siaradodd Dyfrig Williams gyda’r Cynghorydd Giles Davies, Maer Torfaen. Edrychodd y gynhadledd #PSDigital ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ac roedd yna lot i feddwl amdano yn sgil y gynhadledd. Siaradodd Ben Black am ei safle hyperlleol ar gyfer Cwmbrân, ac fe […] Parhau i ddarllen

Good Practice Exchange at The Wales Audit Office » Cymraeg: Sut mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu helpu aelodau etholedig i gyfathrebu â’u cymuned

Sut all cynghorwyr defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel rhan o’u gwaith? Siaradodd Dyfrig Williams gyda’r Cynghorydd Giles Davies, Maer Torfaen. Edrychodd y gynhadledd #PSDigital ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ac roedd yna lot i feddwl amdano yn sgil y gynhadledd. Siaradodd Ben Black am ei safle hyperlleol ar gyfer Cwmbrân, ac fe […] Parhau i ddarllen

Good Practice Exchange at The Wales Audit Office » Cymraeg: Sefyll dros eich iechyd … yn llythrennol

Rydym yn treulio llawer o amser yn eistedd ar bwys ein desgiau yn y gweithle. A all sefyll wrth ein desgiau helpu ni i fod yn iachach yn y gwaith? Fe wnaeth Sophie Knott o Swyddfa Archwilio Cymru rhoi cynnig arni am wythnos. Faint o amser ydych chi’n ei dreulio’n eistedd bob dydd? Rydw i’n […] Parhau i ddarllen