Archives: hedd@cymdeithas.com

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Y Cofnod: Amser i’r Comisiwn wrando

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu adroddiad gan ACau sydd wedi argymell y dylid gwarantu mewn statud darparu Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion y Cynulliad Y llynedd, dyfarnodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg bod y Comisiwn wedi bod yn torri ei gynllun… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Adroddiad Estyn: "Peidiwch ag ymyrryd â democratiaeth" medd Cymdeithas

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio’r corff arolygu addysg ESTYN am “geisio gosod agenda gwleidyddol” trwy annog awdurdodau lleol i ad-drefnu a chau ysgolion mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw. Mewn ymateb, dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Arolwg: perfformiad Cymraeg ‘anfoddhaol’ cynghorau sir y de

Cyngor Caerdydd yw’r gorau ymysg cynghorau sir de Cymru yn ei gefnogaeth i’r Gymraeg tra bod Merthyr yw’r gwaethaf, yn ôl arolwg a gomisiynwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Yn gynharach eleni, holwyd cyfres o gwestiynau i 12 awdurdod lleol… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Trwydded Radio Beca – newyddion da

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r newyddion bod Radio Beca wedi derbyn trwydded i ddarlledu radio yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a gogledd Sir Benfro. Dywedodd Adam Jones, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rwy’n falch ia… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Comisiynydd y Gymraeg – pryder am ei hannibyniaeth

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i bryderon Meri Huws am ei hannibyniaeth o’r Llywodraeth. Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “‘Dyn ni’n cytuno’n llwyr gyda phryderon y Comisiynydd am ei hannibyniaeth. Mae’n bw… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: S4Craffu – grwp newydd i fonitro teledu Cymru

Fe fydd rhagor o graffu ar y berthynas rhwng S4C a’r BBC yn dilyn y cyhoeddiad heddiw (Dydd Mawrth, Ebrill 10fed) bod cynghrair newydd yn cael ei ffurfio gan undebau a mudiadau iaith. Daeth y grwp i fodolaeth yn sgil… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Diwrnod Cyntaf Comisiynydd y Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dymuno’n dda i Meri Huws wrth iddi gychwyn ei swydd newydd fel y Comisiynydd cyntaf dros y Gymraeg. Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydym yn dymuno yn dda i Meri Huws… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Trefn gwrthwynebu cau Ysgol y Parc

Y drefn weithredu ynglyn a chyflwyno’n gwrthwynebiadau i gynnig Cyngor Gwynedd i gau Ysgol y Parc yn 2013. Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol y Parc ger Bala. Bydd unrhyw wrthwynebiad i gau yr ysgol yn… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Lansiad cynghrair dros gymunedau Cymraeg

Fe fydd pentref yng ngogledd Cymru, lle mae’r ysgol leol o dan fygythiad, yn dod yn aelod cyntaf o gynghrair newydd i lobïo dros ddyfodol cymunedau Cymraeg eu hiaith heddiw (Dydd Sadwrn, Mawrth 17). Cymuned y Parc, ger y Bala,… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Strategaeth Iaith – mae angen buddsoddiad

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i gyhoeddiad strategaeth iaith Llywodraeth Cymru gan ddweud bod angen adnoddau ac ewyllys gwleidyddol i weithredu’r strategaeth. Fe ddywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r wel… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Ysgol y Parc: Siomi gyda Chyngor Gwynedd

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb gyda siom i benderfyniad Cyngor Gwynedd i barhau gyda’r cynlluniau i gau Ysgol y Parc, er gwaethaf problemau ariannol y cynllun. Daw’r bleidlais yn sgil penderfyniad Llywodraeth Cymru i leihau ei chyfraniad a… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Sianel 62 – yn fyw, heno, 8pm

sianel62.com – 8 o’r gloch, pob nos Sul, yn dechrau Chwefror 19eg 2012…. Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Sianel Gymraeg newydd ar yr awyr – Sianel62

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio sianel deledu Cymraeg newydd – “Sianel 62″ – penwythnos hon (8yh, Dydd Sul, 19eg Chwefror) fel rhan o’u dathliadau hanner canmlwyddiant. Sianel 62 fydd y sianel Gymraeg newydd gyntaf ers 30 mlynedd pan… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Taith Tynged yr Iaith, dathlu 50 mlynedd

Fe gynhelir taith o gwmpas Cymru i dynnu sylw at y bygythiad i gymunedau Cymraeg eleni, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw (Dydd Llun, 13eg Chwefror). Mae’r newyddion yn dod ar hanner canmlwyddiant anerchiad Saunders Lewis ar ddyfodol yr iai… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Recordiad sain o araith Dr John Davies "Saunders Lewis a’r mudiad iaith"

Saunders Lewis a’r mudiad iaith heddiw 8pm, Nos Fercher, Chwefror 8fed Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Rali Wylfa B: Brwydr teulu yn frwydr dros gymunedau Cymraeg

(llawer iawn mwy o luniau gan Rhys Llwyd yma) Mae’r frwydr dros ddiogelu tir teulu o Ynys Môn yn ficrocosm o’r frwydr dros gymunedau Cymraeg, dyna oedd neges rali yn erbyn datblygu atomfa niwclear newydd yn y sir heddiw. Fe… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Jonathan Edwards AS a Rhodri Glyn Thomas AC yn cefnogi’r galwadau dros ddatganoli darlledu i Gymru

Arwyddodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards, a Rhodri Glyn Thomas Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr heddiw ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros y cyfryngau yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i god… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Gig ‘Hanner Cant’ – Tocynnau cyntaf yn mynd ar werth

Mae trefnwyr Hanner Cant, yr wyl gerddorol enfawr gaiff ei chynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar y 13eg a’r 14eg o Orffennaf i nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 50, wedi cyhoeddi y bydd nifer cyfyngedig o docynnau yn mynd… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Sianel ’62 – Cychwyn ar Chwefror 19eg 2012

Yn fyw, 8pm, bob nos Sul – ac ar-alw 24/7… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Blwyddyn o Brydeindod yn anwybyddu cymunedau Cymraeg?

Y Gymdeithas i “newid yn radical” yn 50 i ymateb i’r her, medd ei Chadeirydd MAE pryder y bydd dyfodol cymunedau yn cael ei anghofio yn sgil digwyddiadau Prydeinig, yn ôl araith gan Gadeirydd y mudiad heddiw (Dydd Sadwrn, Ionawr… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Rhybudd y bydd canlyniadau cyfrifiad yn tanlinellu’r argyfwng yn ein cymunedau Cymraeg

Mewn neges i aelodau ar ddechrau blwyddyn hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith mae ei chadeirydd, Bethan Williams, wedi rhybuddio y bydd canlyniadau’r Cyfrifiad – a ryddheir ym 2012 – yn tanlinellu’r argyfwng sy’n wynebu’n cymunedau Cymraeg. Bydd d… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Dim DotCymru – ymgyrchwyr yn pryderu am yr effaith ieithyddol

Ni fydd gan Gymru ei henw fel parth ar y we oherwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru yn ôl mudiad iaith sydd wedi erfyn ar Weinidogion i newid eu meddwl heddiw. Mewn apêl at y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Leighton… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Cwyn swyddogol dros ‘ffars’ iaith Cyngor Merthyr

“FFARS LWYR”, dyna asesiad damniol ymgyrchwyr iaith o wasanaethau Cymraeg Cyngor Merthyr, mewn cwyn swyddogol at yr arolygwr awdurdodau lleol, wedi i’r awdurdod lansio gwefan uniaith Saesneg. Mewn llythyr at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, mae … Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Cefnogaeth i streic cerddorion Cymru

Wrth alw am ddatganoli grymoedd dros ddarlledu i Gymru mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth i nifer o gerddorion Cymru wrth iddynt fynd ar streic am y tridiau nesaf. Meddai Bethan Williams Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Nid yn unig… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Brwydr Caerdegog

Ffilm fer am frwydr ddewr teulu Caerdegog yn erbyn y cwmni Horizon sydd eisiau dwyn eu tir er mwyn codi Wylfa B. Ffilmiwyd: 12 Rhagfyr 2012 Cynhyrchwyd, ffilmiwyd a golygwyd gan Rhys Llwyd. Diolch i deulu Caerdegog, Osian Jones… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Annog cymunedau i ddal eu tir

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gymunedau sydd mewn peryg o golli eu hysgolion i “ddal eu tir” gan ddweud y gall gwaredigaeth ddod o gyfeiriad annisgwyl. O ganlyniad i gynlluniau a gyhoeddwyd ddoe gan y Llywodraeth am gytundeb… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Arewinydd Cyngor Abertawe yn cefnogi datganoli darlledu

Arwyddodd yr Aelod Cynulliad Peter Black o’r Democratiaid Rhyddfrydol heddiw ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros y cyfryngau yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i godi llais ar y mater. Dywedodd Peter Black AC dros… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Cefnogaeth Gwent, Ymgyrch Datganoli Darlledu

Mae gwleidyddion o Gwent wedi cwrdd ag ymgyrchwyr ym Mhontypwl heddiw i ddatgan eu cefnogaeth i ddatganoli pwerau dros y cyfryngau i Gymru. Arwyddodd AC Lindsay Whittle a’r Cynghorydd Jeff Rees ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros y cyfryn… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Cefnogaeth enwogion i atal gor-ddatblygu tai

Mae nifer o Gymry amlwg wedi arwyddo deiseb sydd yn galw ar y Llywodraeth i adalw’r Cynlluniau Datblygu Lleol er lles y Gymraeg. Mae pryder gwirioneddol y bydd y cynlluniau yma yn arwain at ddatblygiadau tai anaddas, diangen oherwydd nad… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Y Cynulliad i ddarparu cofnod dwyieithog unwaith eto

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydyn ni’n croesawu’r newyddion y bydd Cofnod dwyieithog yn cael ei ddarparu eto, mae’n dangos bod ymgyrchu miloedd o bobl wedi dechrau dwyn ffrwyth. Fodd bynnag, mae’r cynlluniau hefyd … Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Amheuon am asesiad effaith iaith gorsaf niwclear

Mae ymgyrchwyr wedi codi amheuon am yr asesiad effaith iaith a gomisiynwyd ynghylch yr atomfa niwclear newydd arfaethedig ar Ynys Môn. Mae’r pryderon yn dilyn y newyddion mai’r cwmni a ddatblygir Wylfa B benderfynodd ar bwy fydd yn gwneud yr… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Rhybuddio Cyngor rhag gweithredu’n anghyfreithlon – ad-drefnu addysg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon neges at Gyngor Sir Powys o flaen cyfarfod yfory (Dydd Mawrth 22/11) i’w rhybuddio nad ydynt yn gweithredu’n gyfreithlon o ran eu cynlluniau i gwtogi ar addysg uwchradd Gymraeg. Bydd y Cyngor llawn… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: E-ddeiseb: Adalw Cynlluniau Datblygu Lleol

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cefnogi deiseb Deffro’r Ddraig sydd yn galw am ad-alw holl Gynlluniau Datblygu Lleol drwy Gymru oherwydd pryder fod tai di-angen yn cael eu codi. Bydd y ddeiseb yn cau ganol dydd y 30ain o… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Dyfodol darlledu, galwad datganoli

Chwaraewyd gêm rygbi tu allan i’r Senedd heddiw yn y gobaith y gellir pasio’r grymoedd dros ddarlledu i Gymru wrth i wleidyddion Bae Caerdydd drafod S4C. Lansiodd Cymdeithas yr Iaith ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu i… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Jill Evans yn y llys dros S4C

‘Cyfle i ddweud diolch’, dyna sut mae ymgyrchwyr S4C wedi disgrifio achos llys yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans o flaen Ynadon ym Mhontypridd heddiw (Dydd Gwener, Tachwedd 4ydd). Ers Hydref llynedd, mae dros gant a hanner o ymgyrchwyr,… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: S4C – ymgyrch trwydded deledu

Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y Sul, mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan y bydd yn cynghori aelodau i ddechrau talu eu trwydded deledu eto. Bydd y mudiad yn parhau i ymgyrchu i sicrhau… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Aelodau yn torri ar draws dadl yn San Steffan

Mae tri aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg – Jamie Bevan, Colin Nosworthy a Bethan Williams – wedi torri ar draws trafodaeth yn Nhy’r Cyffredin ar y Mesur Cyrff Cyhoeddus fydd yn effeithio yn uniongyrchol ar ddyfodol S4C. Wrth iddynt… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Cymdeithas yn ymateb i gynnig y BBC dros S4C

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i gyhoeddiad y BBC am gyllideb a threfniant llywodraethol S4C heddiw. Meddai Adam Jones, llefarydd darlledu’r mudiad iaith: “Trwy gydol y broses hon, rydyn ni wedi galw ar i’r gwleidyddion a’r darlledwyr i… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: S4C v BBC: Rhybudd am gytundeb ‘annemocrataidd’

Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo’r BBC o weithredu yn ‘annemocrataidd’ trwy baratoi i gyhoeddi manylion am ddyfodol S4C tra bod trafodaethau San Steffan yn parhau. Disgwylir i’r BBC gyhoeddi cynnig am gyllido S4C rhwng 2015 a 2017, er nad oes… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Archdderwydd Cymru yn cyflwyno deiseb Cofnod Cymraeg

Fe gyflwynodd Archdderwydd Cymru a chyn Aelod Cynulliad Owen John Thomas ddeiseb a lofnodwyd gan dros 1,500 o ymgyrchwyr yn galw am gofnod cwbl Gymraeg o drafodion y Cynulliad heddiw. Wrth i’r Cynulliad ymgynghori ar ei Fil Ieithoedd Swyddogol, fe… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Datganolwch Ddarlledu i Gymru, neges rali Wrecsam

Bu Aelod Cynulliad Rhyddfrydol yn cefnogi galwadau ymgyrchwyr iaith i ddatganoli cyfrifoldeb dros S4C i Gymru mewn rali dros ddyfodol darlledu yn Wrecsam Dydd Sadwrn, Medi 8fed. Pwyswch yma i lawrlwytho copi o’r daflen a ddosbarthwyd yn ystod y rali… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Rali Genedlaethol Flynyddol: Herio’r Toriadau

- Hawlio Cyfiawnder i Ddarlledu Cymraeg Canolfan y BBC yn Wrecsam Dydd Sadwrn 8fed Hydref am 2.30pm Eleni mi fydd Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith yn cael ei chynnal yn Wrecsam. Byddwn yn cyfarfod tu allan i Ganolfan y BBC… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Ymateb Cymdeithas yr Iaith i benodiad y Comisiynydd iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i benodiad Comisiynydd y Gymraeg newydd, Meri Huws. Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydym yn croesawu’r ffaith bod yna benodiad, gobeithiwn y bydd Meri Huws yn cymryd y cyfle… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Newidiadau cynghorau – rhybudd am y Gymraeg

Fe gaiff Llywodraeth Cymru ei rhybuddio am yr effaith ieithyddol o ail-strwythuro cynghorau lleol wythnos nesaf (Dydd Sadwrn, 8fed Hydref). Mae’r pryderon ieithyddol yn dilyn anfodlonrwydd awdurdodau lleol gyda chynlluniau i orfodi newidiadau arnynt. Y… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Pum protestiwr ar do pencadlys S4C

Mae pum aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dringo i ben to pencadlys S4C ym Mharc Ty Glas, Llanisien bore heddiw gyda larymau a chwibanoglau mewn ymdrech i gael swyddogion y Sianel i gymryd dyfodol S4C yn fwy difrifol…. Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Gwylnos S4C: ymgyrchwyr yn ceisio deffro’r rheolwyr

Mae grwp o ymgyrchwyr iaith wedi dechrau gwylnos o flaen pencadlys S4C heno i dynnu sylw at y bygythiadau i’r sianel. Fe fydd yr ymgyrchwyr hefyd yn galw ar i reolwyr y sianel sefyll lan yn erbyn cynlluniau’r BBC a’r… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: S4C: Galw ar i ymddiriedolwr BBC ymddiswyddo dros ddêl ‘twyllodrus’

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i ymddiriedolwr y BBC ymddiswyddo ar ôl i’r darlledwr llofnodi cytundeb a fydd yn golygu y bydd ganddyn nhw reolaeth lwyr dros gyllideb S4C. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwestiynu pwrpas swydd Elan… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Y frwydr dros S4C i barhau ar ôl colli pleidlais agos

Mae ymgyrchwyr iaith wedi addo brwydro ymlaen dros ddarlledu Cymraeg ar ôl colli cais i achub S4C o 1 bleidlais yn Nhy’r Cyffredin heddiw. Mynegwyd siom am benderfyniad Glyn Davies AS (Ceidwadwr, Sir Drefaldwyn) a Stephen Crabb AS (Ceidwadwr, Preseli… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: S4C: Apêlio ar ASau cyn pleidlais

Mae nifer o fudiadau wedi gwneud apêl munud olaf at ASau i bleidleisio yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer S4C yfory (Dydd Iau, Medi 15). Mae tri Aelod Seneddol, y Rhyddfrydwr Mark Williams, Aelod Llafur Susan Elan Jones a Hywel… Parhau i ddarllen

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Radio Ceredigion – dim Cymraeg yn y dyfodol?

Gall fod dim allbwn Cymraeg ar Radio Ceredigion yn fuan ar ôl i’r rheoleiddiwr darlledu OFCOM ganiatáu i’r tendr am drwydded fynd allan heb unrhyw amodau iaith i’r gwasanaeth. Mae’r penderfyniad yn dilyn ymgyrch gref yn lleol fis Gorffennaf a… Parhau i ddarllen