-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archives: himilco
Blog Himilco: Pico dros y don…
‘Dw i bant heddiw am bum diwrnod i gynhadledd ar y Dwyrain Canol yn Montreal. Pan ddof i nol bydd tipyn ‘da fi i ddweud gobeithio!
Vive le Québéc!
Salam,
H.
Parhau i ddarllen
Blog Himilco: Y clebran cyn y storm
Wrth i arweinwyr yr Unol Dalaethiau, yr Undeb Ewropeaid, Rwsia, a’r Cenhedloedd Unedig – y ‘cwartet’ – baratoi am gynhadledd heddwch fawr yn Annapolis, yr UDA, mae swyddogion lluoedd arfog Israel yn paratoi am don newydd o rhyfela. Mae cryn son wedi bod am ddisgwyl intifada newydd os eiff pethau’n wael i’r Palestiniaid yn Annapolis [...]
Parhau i ddarllen
Blog Himilco: Darth Abdalah
Tamaid yn hwyr, ‘dw i’n cyfaddef, ond des i o hyd i’r clip yma ar y we o’r brenin Abdalah o Sawdi yn cwrdd a’r Frenhines ym Mhalas Buckingham wythnos diwethaf.
Ydy’r fyddin wedi datblygu hiwmor newydd? Nei ife̵… Parhau i ddarllen
Blog Himilco: Cysgod anrhefn dros ffiniau Iran
Wedi i’r arlywydd Pervez Musharaff gyhoeddi stad o argyfwng yn Mhacistan, gan arestion dwsinnu o wrthwynebwyr i’w lywodraeth fel rhan o’i fesurau diogelwch newydd, bydd tipyn o boeni ynglyn a’r dyfodol yn digwydd ledled y byd. Un o’r prifddinasoedd fydd a’r mwyaf o bryder dros ddyfodol Pacistan fydd Tehran. Yn rhannu ei finiau ac Irac [...]
Parhau i ddarllen
Blog Himilco: Hisbala aml-ffydd
Diddorol iawn yw darllen adroddiadau diweddar am ymdrechion y blaid wleidyddol arfog Hisbala o Libanus i ricriwtio aelodau o’r cymunedau Swni, Driws, a Christnogol yn Libanus. Yn hanesyddol, grwp sy’n dibynu ar gefnogaeth cymuned Shia de Libaus yw Hisbala. Fe ddaethant i’r adwy nol yn y 1980au cynar, adeg rhyfel cartref Libanus, fel grwp arfog i amddiffyn [...]
Parhau i ddarllen
Blog Himilco: Salam bawb
Helo bawb, a chroeso i’r rhifyn cyntaf o mlog newydd i ar y Dwyrain Canol ac ar wleidyddiaeth rhyngwladol yn fwy cyffredinol. Nod y blog yw ceisio darparu sylwebaeth Gymraeg ar faterion gwleidyddol y Dwyrain Canol, ac i hysbysbu darllenwyr i rhai o’r datblygiadau nad sy’n weledol yn y wasg Brydeinig. ‘Dw i’n croesawi sylwadau [...]
Parhau i ddarllen


