Archives: Hogyn o Rachub

Blog yr Hogyn o Rachub: Eryrod Pasteiog IX: Chwilio am Dudley


Ymddengys fod y straeon yn wir. Ga’i o ddifrif ymbil ar ddarllennwr y blog hwn – sef fi – i ddod o hyd i Dudley a’i helpu. 

Y mae Comisiynydd Twitter Heddlu’r Gogledd wedi trydar yn rhyddhau gwybodaeth am y sefyllfa ac erfyniaf i chi ei ddilyn i gael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

 

Os ydych eisiau helpu, cofiwch drydar â’r hashnod #dodohydidudley neu gwnewch un o’r canlynol:
  1. Ewch i chwilio yn eich cymunedau amdano
  2. Chwiliwch am olion wyog ar lwybrau’r fro, gallent arwain ato
  3. Rhowch wybod i’r Heddlu am unrhyw adroddiadau amdano. Y maen nhw hefyd yn derbyn amheuon, honiadau, sïon, sibrydion a chardiau rhodd.
  4. Os byddwch yn dod ar ei draws, peidiwch â’i gynhyrfu na chyfeirio at y ffaith fod ganddo omled ar dennyn, periff hyn iddo wylo.
  5. Arhoswch yn eich tŷ nes bod y sefyllfa wedi’i datrys a dilynwch unrhyw ganllawiau a ryddheir gan Lywodraeth Cymru.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Y Gau Elyn a’r Gwir Elyn

“the finest trick of the devil is to persuade you that he does not exist”

Charles Baudelaire

 

Dros y misoedd diwethaf mi fûm yn ystyried yn ddigon dwys ar adegau end game cenedlaetholdeb Cymreig,  ac a fyddwn fyth yn cyflawni rhai, os nad pob un, o’n nodau. Y mae’r nodau hynny inni’n hysbys. Oce, y dyddiau hyn y cymysgir â nhw ffeministiaeth, amgylcheddiaeth, cydraddoldeb o bob math, sosialaeth – bob un yn bethau teilwng i raddau tra wahanol – ond dau nod yn unig sydd i genedlaetholdeb Cymreig: parhad ein hiaith a rhyddid ein gwlad. Ategwch atynt yr hyn a fynnwch o’ch daliadau personol, ond o safbwynt gwrthrychol, y ddau nod hynny yw’r alffa a’r omega.

Ond dydi gwybod yr hyn rydych o’i blaid ddim yn ddigon, ac y mae’r sawl sy’n coelio hynny’n naïf. Gwlad naïf, ddiniwed ydyn ni gan amlaf, ac mae hynny wedi bod yn rhwystr enfawr i ni wrth gyrraedd y pen taith a hoffem. Ni wyddom ein gelyn, oherwydd fe’n twyllwyd i feddwl mai arall yw, gan wlad sydd, ysywaeth, yn llawer craffach a chyfrwys na ni.

Fe deallai Gwynfor Evans, dwi’n meddwl. Bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â’r dyfyniad adnabyddus canlynol ganddo:

 

Britishness…is a political synonym for Englishness which extends English culture over the Scots, the Welsh, and the Irish.

 

Ond efallai nad ymhelaethodd ddigon yn hyn o beth – neu efallai, nad amgyffredai lawnder yr hyn a ddywedodd. Y mae Prydeindod cyfoes yn hunaniaeth artiffisial a grëwyd â dibenion gwleidyddol yn sail iddi, ond mae’n dwyll ehangach ac yn dwyll y disgynnom i’w fagl yn llwyr. Roedd yn fwy na modd i gyflawni’n gymharol lwyddiannus ddiben Seisnigeiddio Ynysoedd Prydain. Fe hoeliodd yn llwyr ein sylw, ac rydym yn dal i weld Prydeindod fel y gelyn. Fe’n twyllwyd i gasáu a brwydro rhywbeth sydd, yn ei hanfod, ddim hyd yn oed yn bodoli.

Mae hynny’n glyfar. Ac yn glyfrach nag y meiddem feddwl. Achos mae cenedlaetholwyr yn tueddu i gasáu Prydeindod: yn brwydro’n ei erbyn tra bod gan drwch y Cymru gryn ymdeimlad o uniaethu â hwnnw. Ond Seisnigrwydd? Does gan y Cymry ddim ymberthyn iddo.

Yn ddiweddarach beiom ni genedlaetholwyr Lundain – un ddinas – hefyd am holl drafferthion ein gwlad, ac yn ddiweddarach fyth Gaerdydd. Ydyn ni’n bwrpasol, yn fwriadol, camu’n dwp o amgylch y peth hwnnw sydd am ein troi’n genedl angof?

Achos, yn y bôn, nid Prydeindod ydi’r gelyn. Dyma’i dweud hi’n onest: Lloegr ydi’r gelyn.

Does pwynt imi fynd drwy dreigl y canrifoedd ac egluro nad Prydeindod laddodd Llywelyn, na Phrydeindod ychwaith fynnodd drwy Frad y Llyfrau Gleision ddadwreiddio Cymru o’i hiaith a’n Seisnigeiddio. Ond mae’r patrwm yn amlwg. Sylweddolodd y Sais ganrifoedd yn ôl y gallai goncro Cymru drwy arfau a thrais ond na allai lwyr roi ei phobl dan droed ond drwy gyfrwyster llywodraethu (er gwaetha’n twpdra cynhenid rydyn ni dal yn rhyfeddol o wydn – efallai bod yna gysylltiad rhwng y ddau. Wedi’r cyfan, dydi bocsars ddim yn adnabyddus am eu gallu deallusol).

Y broblem oedd sut oedd gwneud hynny. Yn hyn o beth mae Cymru fu a Cymru sydd yn dra thebyg: dderbyniwn ni fyth mo’n Seisnigeiddio ddigywilydd. Y mae hunaniaeth Seisnig yn wrthun i’n gwaed. Ond o’i throsi’n Brydeindod, gwnaed y gwaith yn haws.  

Y peth dwl ydi, hyd yn oed pan ddechreuom ni ddeall taw mwgwd oedd, parhawyd i dargedu’r mwgwd ac nid y gwisgwr.

Rhyfel i’r farwolaeth ydi perthynas Cymru a Lloegr. Nid ein nod ydi rhywsut dinistrio Lloegr – y mae hynny’n amhosib a dydi dinistrio cenedl arall ddim yn beth i’w ddeisyfu beth bynnag. Ond tydi marwolaeth Cymru wrth law Seisnigrwydd ddim yn amhosib; y mae’n fygythiad real ac yn rhywbeth sy’n digwydd ag amlygrwydd cynyddol. Brwydr fythol, ddiflas i barhau yw’r gorau y gallwn obeithio amdano. Ond mae hynny’n well na’r dewis arall.

Yn y bôn, yr hyn dwi’n ei ddweud yma ydi hyn: mae’n rhaid i ni bellach efallai cydnabod yn fwy agored (i ni’n hunain o leiaf) nad Prydeindod ydi’r gwir elyn, eithr Seisnigrwydd, a hynny y dylid ei frwydro.

Nid rhyw alwad ddifeddwl ydi hon ychwaith i rywsut feithrin casineb at y Saeson fel pobl nac unigolion; wedi’r cyfan, mae rhywun i fod i garu ei gymydog, hyd yn oed os ydyn nhw weithiau’n gwneud y peth yn ddiawledig o anodd. Byddwn i’n mentro dweud taw’r Saeson hynny sydd yng Nghymru sydd wedi cymryd at ein gwlad a’n hiaith, neu’r rhai ohonom â gwaed Seisnig ynom, sydd yn fwyaf poenus o ymwybodol o law Seisnigrwydd yn nirywiad parhaus Cymreictod ac agweddau cynifer o Saeson yng Nghymru at eu gwlad ddewis. Ysywaeth, mae rhywbeth hanfodol Seisnig am fynnu aros mewn gwlad rydych wedi dewis byw ynddi a’i chasáu a’i dirmygu’r un pryd.

Mae i Gymru ddau elyn: y gau elyn a’r gwir elyn. Rhown i’r naill ochr y cyntaf. Fe’n cyflyrwyd fel cŵn gan ein meistri i fod ofn hyd yn oed cydnabod yr ail. Ond does amser i’w wastraffu mwyach. Ei gydnabod sydd raid.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Mae’n bryd i Leanne Wood fynd


Fydd o fawr o syndod i unrhyw un o ddarllenwyr cyson y blog anghyson hwn yr hyn dwi’n ei ddweud yma. Serch hynny dwi am ei ddweud yn gwbl blaen: os oes gan Blaid Cymru ronyn o synnwyr, mae’n hen bryd i Leanne Wood fynd. Does gen i ddim ffydd y bydd hyn yn digwydd, ac y bydd Plaid Cymru’n dal i fynd ar ei thaith araf i amherthnasedd llwyr. Gwnaf fy mhwyntiau yn fras, yn sôn am yr etholiad hwn yn bennaf ond hefyd yn ystyried ei pherfformiad hanesyddol fel arweinydd. Mae hi’n arwain y Blaid ers pum mlynedd bellach ac mae hynny’n ddigon o amser i arweinydd naill ai wneud cynnydd a gwneud argraff, neu gamu i’r neilltu. Dywedaf isod pam fy mod i o’r farn fod yn rhaid iddi fynd.
Yr etholiad hwn
Erbyn diwedd yr ymgyrch, daeth hi’n amlwg fod Plaid Cymru, fel nifer o bleidiau eraill yn wynebu anawsterau’n sgîl yr ymchwydd Llafur a gafwyd, er iddynt lwyddo ag ennill Ceredigion, er mae dadl deg i’w gwneud ynghylch y ffaith fod yr ymchwydd Llafur hwnnw wedi gwneud mwy o ennill Ceredigion na Leanne Wood. Roedd nifer o ganlyniadau eraill yn drybeilig o wael, a diwedd y gân ydi fod yn rhaid iddi gymryd rhywfaint o’r cyfrifoldeb am hyn.
Y broblem efo’r etholiad hwn oedd, yn syml (fel y dywed Mike Parker yma), mae’r un sedd a gipiwyd yn galluogi Plaid Cymru unwaith eto i anwybyddu ei dirywiad drwy hawlio llwyddiant.
A byddwn yn onest hefyd; bob tro mae Plaid Cymru’n cael etholiad gwael, sef bron pob tro, maen nhw’n defnyddio’r esgus “roedd hwn yn etholiad anodd i ni”. Dydi o ddim yn gwbl anwir y tro hwn, ond mae’n esgus cynyddol flinedig i’w glywed.
Etholiadau a fu
Dim ond aelodau mwyaf cibddall Plaid Cymru allai wadu hyn: yn etholiadol, mae cyfnod Leanne Wood wedi bod yn aflwyddiant. Segura llwyr. Heblaw am ennill y Rhondda yn 2016, dydi ei harweinyddiaeth heb gyflawni unrhyw gynnydd etholiadol.
Byddai sôn am etholiadau cyngor eleni’n gam gwag: cael a chael oedd hi a hynny cyn ymchwydd Llafur yr etholiad. A chafwyd yr etholiad hwnnw, a 2016, ar gyfnod pan oedd Llafur ar drai trybeilig. Ni fanteisiwyd ar hynny o gwbl. O gwbl. Un sedd a enillwyd yn ychwanegol yn 2016, sef y Rhondda ei hun – does yna ddim ffordd o sbinio hynny fel llwyddiant, er y ceisiwyd gwneud hynny sawl gwaith. Roedd y Blaid yn ffodus ennill ASE yn 2014.
Yn fras, mae record etholiadol Leanne Wood ar yr un lefel ag un Ieuan Wyn Jones.
Etholaethau a fu a’r Cymoedd
Dyma ddod at, efallai, aflwyddiant mwyaf arweinyddiaeth Leanne Wood. Fe’i hetholwyd gan yr aelodaeth yn benodol i wneud cynnydd yn y Cymoedd.
Dydi hynny heb ddigwydd y tu allan i’r Rhondda. Ddim hyd yn oed ar lefel y Cyngor, ac eithrio i raddau yng Nghastell-nedd. Byddai pwyntio at Flaenau Gwent yn gam gwag achos, heb Nigel Copner, prin y byddai Plaid Cymru wedi gwneud cystal yno, ac ni all unrhyw un ddod i unrhyw gasgliad am hynny ond am y ffaith nad oes â wnelo’r cynnydd yno ddim â Leanne Wood. Yn wir, mewn sawl rhan o’r Cymoedd mae Plaid Cymru’n wannach yn etholiadol heddiw na phan enillodd yr arweinyddiaeth.
Does fawr ddim yn dangos hynny mwy na’r canlyniad yn y Rhondda eleni. Roedd y gostyngiad yno’n un o ganlyniadau gwaethaf Plaid Cymru drwy Gymru gyfan.
Yn ategu hynny, ddegawd yn ôl roedd seddi lle’r oedd Plaid Cymru’n gystadleuol neu’n eu dal (yn y Cynulliad): Aberconwy, Llanelli, Gorllewin Clwyd, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Ers i Leanne ddod yn arweinydd mae Llanelli dal heb gael ei hadennill, gyda’r perfformiadau’n amrywio rhwng siomedig a gwael ofnadwy, a dydi’r tair sedd arall ddim ar y radar mwyach.
Felly gellir dadlau, dwi’n credu, yn etholiadol, fod Plaid Cymru wedi mynd yn ôl dan arweinyddiaeth Leanne Wood, ac nid Ymlaen!
Perfformiad yn y cyfryngau
Fydd hwn yn bwynt amhoblogaidd. Ond gwir. Roedd perfformiad Leanne Wood yn y dadleuon eleni’n wael iawn (a ddim cystal yn 2015 ag y byddai rhai’n licio meddwl). Dwi’n gwybod, roedd pawb ar Twitter wrth eu bodd â hi, ond mae hynny’n dweud mwy ei chefnogwyr nag unrhyw un arall. Roedd sylwedd yr hyn oedd hi’n ei ddweud wastad yn arwynebol, ei hatebion yn chwithig. Ni suddodd yn llwyr diolch i’w gallu sicr i wneud one-liners cofiadwy iawn, ond roedd hi’n eu cadw nhw at UKIP, ac o ystyried y chwalfa nid yn unig a gawsant ond a ragwelwyd iddynt, roedd mynd ar eu hôl nhw’n gwbl ddiangen.
Mae’n ffaith eithaf hysbys hefyd fod nifer yn y Blaid wedi’u syfrdanu a’u gwylltio gan ei chyhoeddiad od ei bod yn ystyried sefyll yn y Rhondda rai wythnosau ynghynt. Mi ddygodd y sylw rhag yr etholiad ei hun, ac roedd hi’n edrych yn wirion ar ôl penderfynu peidio. Roedd o’n PR disaster.
Dydi hi ddim ychwaith yn arbennig o dda yn y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd y twît uchod yn un o’r pethau twpaf glywais i erioed. Nid yn unig ei fod yn anesmwytho unrhyw genedlaetholwr sydd ddim yn Corbynista, ond perai’r cwestiwn syml: os am weithredu polisïau Corbyn pam ddiawl ddim pleidleisio dros Lafur? Roedd hi’n gofyn i bobl bleidleisio dros Blaid Cymru er mwyn gweithredu polisïau arweinydd plaid arall.
Yn y diwedd, penderfynodd pobl Cymru taw’r ffordd hawsaf o weithredu polisïau Corbyn oedd pleidleisio Llafur. Ac i fod yn onest, dyna oedd yr unig gasgliad call. Y mae Leanne Wood yn llwyr wedi disgyn i’r fagl Y Chwith Brydeinig (fel yr arferai Simon Brooks ddadlau amdani – yn anffodus, mae Simon fel petai wedi disgyn i’r un fagl y dadleuai’n ei herbyn).
‘Mae pawb yn hoffi Leanne’
Dwi’n hoffi chwïaid. Yn fawr iawn, iawn. Ond baswn i byth yn pleidleisio dros un, heb sôn am fod isio un i arwain gwlad.
Casgliad
Dwi wedi ceisio bod yn fras uchod, er bod y mater dan sylw’n haeddu traethawd llawn. Ond o unrhyw safbwynt gwrthrychol ni ellir dadlau nad ydi arweinyddiaeth Leanne Wood wedi bod yn fethiant. Dydi’r Leanne Effect heb gydio y tu allan i’r Rhondda yn y Cymoedd, ac mae Plaid Cymru mewn sefyllfa ddifrifol o wan mewn rhannau eraill o Gymru erbyn hyn.
Doedd pob aflwyddiant neu siom yn etholiad eleni ddim yn fai uniongyrchol ar Leanne Wood, mwy nag yr oedd hynny o lwyddiannau a gafwyd yn uniongyrchol o’i herwydd hi. Ond mae’n rhaid iddi gymryd cyfrifoldeb am ganlyniadau’r etholiad, sy’n rhywbeth dydi hi erioed wedi gwneud dros y blynyddoedd diwethaf ‘ma.
Y cyfan mae hi wedi’i wneud ydi llusgo’r blaid i’r chwith, a denu aelodau newydd sydd â’u bryd ar faterion lleiafrifol, amgylcheddol, ffeministaidd, asgell chwith go bell. Yn y cyd-destun gwleidyddol hwn, does yna ddim lle i blaid o’r fath eithr y blaid Lafur.
Hyd yn oed ar fater annibyniaeth, nod mawr y Blaid, dwi’n teimlo bod Leanne Wood wedi bod yn niweidiol. Yn lle dadlau’r achos, fel yr addawodd ei wneud, mae hi wedi sefydlu naratif cryf o “We’re not strong enough to be independent yet” sydd jyst yn ategu amheuon pobl ynghylch annibyniaeth. Dydi pobl ddim am bleidleisio dros blaid sy’n credu mewn annibyniaeth ond sy’n dweud allan ni ddim bod yn annibynnol.
Felly be nesa?
Ia wir. Be nesa?
Anodd gen i weld Leanne Wood yn camu i’r neilltu, er gwaethaf arweinyddiaeth gwbl aflwyddiannus. A dydw i ddim yn meddwl bod gan unrhyw un y bôls i’w disodli. Does ots y gallai fod etholiad arall ar y gweill, achos mae’n bosib iawn na fydd un. Dydi o ddim ots pwy ydi’r arweinydd yn yr etholiad hwnnw achos, yn syml, y cyfan wnaiff y Blaid ydi lluchio popeth at Arfon a Cheredigion ac anwybyddu pobman arall, sef y dacteg gywir. Does gen i ddim amheuaeth fod y Leanne Effect, sydd heb ei gweld yn y Cymoedd, ddim i’w gweld yn y seddi hynny ychwaith.
I mi, mae pedwar allai arwain y Blaid: Jonathan Edwards, Liz Savile-Roberts, Adam Price a Rhun ap Iorwerth. Yn anffodus ni all y ddau gyntaf achos eu bod nhw’n San Steffan ond maen nhw ill dau’n ymgeiswyr mor gryf byddwn i hyd yn oed yn awgrymu ail-edrych ar y cyfansoddiad i’w galluogi i sefyll.
Sy’n gadael Rhun ac Adam. Wyddoch chi be swni’n awgrymu? Arweinydd a chreu Dirprwy Arweinydd. Mor syml â hynny, a dwi ddim yn meddwl ei fod fawr o ots pa ffordd rownd y byddan nhw, ond nhw ydi ACau gorau’r Blaid, a byddai’r ddau efo’i gilydd yn dîm arbennig o dda, pe gallen nhw gytuno i hynny.
Ac os ydi’r aelodau hynny sy’n caru Leanne Wood yn mynd yn pissed off a gadael? Dwi’m yn meddwl fod ots. Achos tasg y Blaid yn awr ydi ei thrawsnewid ei hun. Mae dirfawr angen ar y Blaid drïo gweithredu mewn ffordd wahanol. Y peth gwaethaf allai ddigwydd ydi parhau ar hyn y trywydd hwn – dirywio a segura bob yn ail – sydd wedi digwydd ers ymadawiad Wigley.
Mae pobl well na Leanne Wood i arwain y Blaid. Go for it.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Eryrod Pasteiog VIII: Noson Fawr Elin Fflur


Dwi am ddangos paradwys i ti,
Meddai’r twrch wrth Elin Fflur,
Tyrd i aros ‘da fi…
Gwisgai Elin Fflur ei sgert felen orau. Melyn oedd ei hoff liw canys y’i hatgoffai o’r fanana, ei hoff ffrwyth, a’i hatgoffai o bren mesur, ei hoff offer swyddfa. O, y modfeddi lu a fesurasai dros y blynyddoedd; erwau ohonynt i bob cyfeiriad. Credai iddi fesur o leiaf ddwy filltir a hanner dros ei hoes.
Ond roedd hon yn noson fawr. Yr oedd eistedd ar soffa Heno’n fywyd unig iawn. Gwnaeth hynny am fisoedd cyn iddi ddod yn gyflwynwraig hoffus ar y rhaglen fyd-enwog, er na wyddai neb paham, gan ei chynnwys hi ei hun. Ceisiodd y cynhyrchwyr ei thywys ymaith ond teimlent drosti a gadawsant iddi aros yno, ddydd a nos, yn ei bwydo â briwsion bara i ennill ei hyder cyn rhoi’r swydd iddi. Talodd hyn ar ei ganfed, a chynyddodd nifer y gwylwyr gan bedwar deg dros nos.
Yr oedd wedi ymbincio’n ddel, yn ategu ei harddwch cynhenid, yn y bwyty yn aros am ei dêt. Sibrydai pobl o’i hamgylch “Wele Elin Fflur ar y bwrdd hwnnw” a gwyddai hyn am fod ganddi’n llythrennol glust yng nghefn ei phen y brwsiai’i gwallt drosti i’w chuddio. Clywsai wybodaeth drwy hyn ac nid ymddiriedai mwyach yn Beti George ar ôl iddi ei galw’n “hen sgiampes ddrwg” y tu ôl i’w chefn ar ôl i Elin ei gwahardd rhag chwarae pêl ar iard chwarae S4C.
Cyrhaeddodd ei chydymaith am y nos. Plygodd lawr ato a rhoi cusan am ei foch. Yr oedd yn ddel mewn ffordd anarferol, yn ei grys coch â llewys ffril a ffon bendefig ganddo, ac arno ysbectol steilus. Eisteddodd yntau.
‘Yr ydych mor hardd, Elin Fflur,’ meddai wrthi, a chochodd hithau. ‘Yrŵan, meiddiaf ddweud, fy mod eisoes mewn cariad â chi. A ydych chwi’n fy ngharu i?’
Craffodd arno. Ei drwyn bach serennog, ei flew du â mân bridd yn ymgydio arno, ei goesau a’i freichiau stwmp. ‘Yr wyf yn eich caru chwithau hefyd, Mr Twrch,’ atebodd. ‘Ni chredais tan hyn y tery dyn gan gariad ar yr olwg gyntaf, ond fe’m profwyd yn anghywir.’ Syllodd y ddau i’w llygaid ei gilydd yn gwenu’n ddanheddog, ac arafodd y byd o’u cwmpas.
‘Yrŵan, Elin, cyn i ni ddod i nabod ein gilydd,’ meddai Mr Twrch gan winc ddireidus, ‘dylem archebu bwyd. Wedi’r cyfan y mae’r gweinydd yma ers deg munud a does neb wedi dweud gair.’
‘Cytunaf, Mr Twrch,’ meddai Elin ac edrychodd ar y fwydlen heb ei darllen. ‘Ond ewch chwi’n gyntaf, f’anwylyd.’
‘O’r gorau. Weinydd, mi gaf innau’r pryfed genwair alla puttanesca a lemonêd.’
‘Caf innau’r un peth â’m cariad.’
Siaradasant cyn y bwyd am y byd a’i bethau. Am ba seddi y prynent i’w cartref newydd, enwau plant a faint o fîns sydd ormod mewn tun a rhyfeddent ar eu hatebion unfath, sef cadeiriau siglo, Morfudd ac Idwal, a saith-deg ac wyth. Yfent lemonêd wrth y gwydr, a chyn pob llymaid gynnig llwnc destun, ac edrychai pawb yn y bwyty arnynt yn gariadlawn a hapus dros y ferch dlos hon a gwrthrych ei serch. Nid oedd angen arni ei phren mesur i fesur gwerth Mr Twrch, yr oedd yn werth y byd i gyd yn grwn.
Nid ond ag ategwyd yr awyrgylch gan y pryd pryfiog bendigedig. Ymsugnasai’r ddau eu pryfed genwair, gan ddireidus eu bwydo i’w gilydd dros y bwrdd ambell dro, a’u troelli’n ddiwylliedig o amgylch eu ffyrc.
‘Oni chawsoch bryfed genwair o’r blaen?’ holodd Mr Twrch.
‘Un gwaith, cofiwch, pan fûm blentyn. Fy niléit oedd chwarae ym mhridd yr ardd gefn, a chreu tyllau hyd-ddi, a chanfûm un, a chan mor flasus yr edrychai fe’i llowciais yn araf a’i gnoi a gwenu, a gwyddwn bryd hynny er fy mod yn fy nghorff yn fod dynol, yn fy nghalon yr oeddwn yn dwrch daear, ac na allaswn fyth weddu byd y bobl, a hiraethais am dwmpathau pridd a chloddio am flynyddoedd, ymhob gorchwyl y gwnaethais. Er, mae safon y pryfed genwair hyn yn rhagori ar rai’r ardd.’
‘Gwir y gair, gŵyr tyrchod yr Eidal sut mae byw.’ Daeth deigryn i lygaid y creadur bach annwyl, ac aeth i lawr ar un lin ac ymbil, ‘Gwrandewch yma Elin Fflur, nid oes amdani ond priodi, awn i’r capel a siarad gair â’r gweinidog drannoeth, a byddwch yn dod i fyw ataf a chewch hynny o bryfed genwair a chwilod ag y carech. Tyrchaf balas i thi, a hyd ei neuaddau carwn ddydd a nos, ac ni fydd yn rhaid ichwi fynd yn ôl i Heno fyth canys y diwallaf pob angen sydd gennych. A dderbyniwch fy nghynnig?’
A thrannoeth y capel, cafwyd priodas fawr, ac ymgasglai’r pentref oll yn bloeddio dymuniadau da i Elin Fflur a Mr Twrch. A buont fyw o dan y ddaear, hyd nes i’r byd heneiddio, ac nad oedd dim ar ôl eithr puraf gariad gwraig a’i thwrch. 
Mae ‘na rywbeth amdanat ti, na fedra i egluro

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Rhaid inni ddysgu dweud ‘Ffyc Off’

Allech chi ddadlau bod fy nghenedlaetholdeb i’n ymdebygu i zeal of the converted yn fwy na dim. Wedi’r cyfan dwi’n fab i Saesnes (heb sôn am fod efo teulu rhyfeddol o amrywiol) a’m hiaith gyntaf ydi Saesneg, yn dechnegol. Byddai hynny, fodd bynnag, yn ddadl ffals. Fel na all unrhyw un ond am y sawl ohonom sydd wedi bod yn y sefyllfa unigryw honno ei ddeall, dewis oedd gen i: p’un ai i fod yn Gymro ynteu’n Brydeiniwr. Y cyntaf ddewisais i, a hynny ar ôl deall nad oes modd bod y ddau, ddim go iawn. Rhaid dewis dy ochr. Am ryw reswm twp, Cymreictod a phopeth ynghlwm wrth hynny – iaith, hanes, diwylliant – apeliodd ataf i, ac nid yr hunaniaeth artiffisial anorganig sydd ond yn bodoli i danseilio’r pethau hynny; yn wir, eu dinistrio’n llwyr. Wna i ddim smalio nad ydw i’n edifar y dewis hwnnw o bryd i’w gilydd, er, o edrych yn ôl, mae’n ymdebygu’n fwy i dynged na dewis.

Bu’n sbel ers imi gael blog rantio. Dwi wedi sawl tro yn y gorffennol (er nad ers sbel) cwynfanu ynghylch cyflwr cenedlaetholdeb yng Nghymru – ein twpdra, ein llwfrdra – ond gan wastad ganolbwyntio ar Blaid Cymru, boed yn deg ynteu’n annheg braidd. Ond yn ysbeidiol dwi’n ffeindio’n hun yn rhwystredig hyd at anobaith; y peth hwnnw y dywedodd Saunders ei fod yn hawdd ymdroi ynddo am fod cysur ynddo, sydd ar yr wyneb yn ddoeth ond sydd actiwli’n beth hurt iawn i’w ddweud i unrhyw un sydd â phrofiad ohono. 

Nid y Blaid, am unwaith, dwi’n ei chyfeirio ati yma. Na, at genedlaetholwyr Cymru eu hunain a’n hagwedd gyffredinol. Yr un hen broblem; rhy barchus, rhy boleit. Efallai fi sydd ar y we gormod ond mae gwegenedlaetholwyr Cymru, ag un eithriad nodedig, jyst rhy neis a chall. Cenedlaetholdeb deallusol sy’n teyrnasu yno, nid cenedlaetholdeb y pridd – ac mae’n troi arna i. Yn y galon ac yn y gwaed y mae cariad at wlad, nid yn y pen.

Crisialwyd lot o’m rhwystredigaeth yn ystod ffrae ddiweddar Ysgol Llangennech. Nid manylion y peth sy gen i dan sylw yma (af i ddim iddynt achos os ydych chi’n darllen hyn mae’n siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r rheiny) ond yr ymateb cyffredinol o blith cenedlaetholwyr (cenedlaetholwyr ar-lein yn fwy nag yn y cigfyd efallai, yn lle y mae’n haws y dyddiad hyn dweud gwirioneddau heb i’r byd a’i gi gael go). Gadewch imi ymhelaethu.

Michael Jones o RhAG ddywedodd yr hyn a sbardunodd y ddadl fawr. Os dwyt ti ddim yn licio’r ffaith dy fod mewn cymuned lle mae Cymraeg, dos dros y ffin (sylwer: ddim yn ôl neu Sais) a fydd ddim angen i chdi boeni am y peth. Mae Michael Jones yn gwbl, 100% cywir i ddweud hyn. Mae cenedlaetholwyr yn gwbl iawn i ddweud hyn hefyd: a’i ddweud yn agored. Waeth un o le wyt ti, os ti’n byw mewn cymuned lle mae’r Gymraeg i’w chlywed a bod hynny’n mynd dan dy groen, boed i’r neges i ti fod yn glir: ffyc off i rywle arall. Mae’r peth yn well i chdi, ac yn well i ni. Dydi o ddim yn rhywbeth twp i’w wneud. Hon ydi’r agwedd sydd angen inni feddu arni, neu yn hytrach, ei hail-ganfod. Rhain ydi’r math o bethau sydd angen i ni eu dweud – nid yn unig am eu bod yn gywir, ond am eu bod yn strategol gall hefyd (sy’n flogiad cwbl ar wahân).

Ond na, ebe Ifan Morgan Jones ar ei flog, mae’n beth gwirion i’w ddweud cyn mynd i fanylder ar fanteision addysg Gymraeg. Iawn – mae hynny’n ymateb call ond y broblem eithriadol efo’r holl beth ydi ei fod wedi’i anelu at argyhoeddi pobl fydd byth, byth yn dod i weld y safbwynt hwnnw. Ac yn wir, mae hynny’n rhywbeth dani fel petaem ni’n ei wneud o hyd wedi mynd, ceisio dadlau’n gall a rhesymol efo pobl sydd ddim yn gall na’n rhesymol. Y mae’n wastraff llwyr o unrhyw allu deallusol sydd gennym; anghywir yn ei hanfod nid yw, ond weithiau tydi dadl ddim yn ddigon i ennill dadl. (Mi ddylwn i ddweud yma fy mod i’n hoff iawn o ddarllen blog Ifan, ond bod ein mathau o genedlaetholdeb bosib yn groes i’w gilydd)

“Apartheid” – Barn y Blaid Lafur yn Sir Gâr am addysg Gymraeg mae’n debyg. Rhag eu cywilydd, nhw a’u ffrind newydd Neil Hamilton. #Cymraegpic.twitter.com/MgQaqNYVKx

— Math Wiliam (@MathGW) February 10, 2017

Dyma rydan ni’n ei erbyn yng Nghymru, yn enwedig fel Cymry Cymraeg: nid yn unig casineb nad oes modd i’r sawl a’i cadwo ei gelu, ond idiotrwydd ar lefel arallfydol. Does ots fod y dwatsen lwyr uchod yn Gymraes. Does ‘na ddim dadlau efo ffycin ynfytod fel hi. Roedd ar dudalen un o’m ffrindiau Facebook (dwi ddim am ddweud pwy na chynnig dolen yn gyhoeddus) ddadl hir am achos penodol Llangennech a hoeliodd y neges hon fy sylw yn fwy na’r un arall:
Mi ydan ni mor awyddus i ymddangos yn gall a deallus fel ein bod ni wedi anghofio sut mae bod yn flin

‘Rhen Michael oedd yn iawn wedi’r cyfan felly, mae’n debyg. Roedda ni jyst bach yn rhy neis i fod isio coelio’r peth; achos ein bod ni’n ofn coelio pa mor uffernol ydi’r bobl ‘ma, yn ceisio gweld ochr orau pan nad oes un.

Pwy fyddai’n sefyll yn gadarn yn erbyn y fath bobl? Cymdeithas yr Iaith i’r adwy! Felly rhyddhaodd y mudiad ddatganiady’i gwelais yn cael ei ddisgrifio fel “call” a “synhwyrol” a “chytbwys”, sy ddim exactly yn eiriau mae rhywun yn eu cysylltu â’r Gymdeithas y dyddiau hyn beth bynnag. Ar ôl sefyll fyny i’r hen Hamilton ym mhwyllgor y Cynulliad mewn ffordd mor arwrol, ar sail popeth hyfryd a rhyddfrydol ac efo’r Gymraeg nid mwy nag atodiad i hynny, oni wnaent yr un fath yn achos gwrthwynebwyr troi Ysgol Llangennech yn un Gymraeg?

Na. Datganiad pathetig oedd o – roedd gwneud ‘safiad’ angerddol yn erbyn UKIP yn y Cynulliad yn llawer mwy greddfol rywsut i’r Gymdeithas na gwneud safiad angerddol o blaid addysg Gymraeg yn Sir Gâr. Fel ymateb Ifan Morgan Jones, un gair yn unig sy’n disgrifio’r drewdod: gwendid. Mae o fel bod cael goar Neil Hamilton yn hawdd ac yr awn i’r gad ar farchogion gwynion i’w drechu – ond pan mae rhywun arall yn arddel ei safbwyntiau, yn cydweithio’n ddi-gywilydd ag o, neu jyst yn mynd yn erbyn buddiant y genedl, rydyn ni’n ymgilio’n ôl i’n hogofâu ac yn gofyn am sgwrs a thrafod, ar yr union adeg y mae angen miniogi’n cleddyfau. 
Byddai o les inni ddewis ein brwydrau yn well hefyd. Petaem ni’n gwneud hynny efallai y gallem ennill mwy ohonynt.

Dwi’n meddwl y brif broblem ydi bod cenedlaetholwyr yn meddwl bod y gallu i ddadlau’n gywrain yn lle gwylltio a dweud wrth nobs i fynd i’r diawl yn arwydd o gryfder a gallu – arwydd o wendid pur yw.

Ceisio cynghreiriaid ydi ymateb sawl un i ymnerthu’r genedl. Mae Seimon Brooks (ymhlith eraill, ond efallai fo ydi’r cenedlaetholwr amlycaf i wneud hyn) wedi bod yn groch sawl tro dros y misoedd diwethaf y dylai’r Blaid gydweithio â Llafur i atal UKIP.
Nac ydyn, Simon.

Ylwch, rhydd i bawb ei farn a’i ddiffyg crebwyll gwleidyddol ond eto, gwendid ydi’r unig air sy’n disgrifio hyn; ac anallu i weld yr union elyn. Roedd y twît uchod yn crynhoi pam bod cenedlaetholdeb Cymru’n tindroi. Fe’i gwnaed fisoedd cyn ffrae Llangennech ond roedd y sentiment yn hollol anghywir. Y gont wirion yn y fideo uchod? Cynghorydd Llafur. Cynghorydd Llafur sy’n dilyn traddodiad gwrth-Gymraeg parhaus y blaid Lafur yng Nghymru, y mae’r achosion ohonynt yn rhy niferus i’w rhestru mewn un blog. Os taw prif nod Plaid Cymru yw gwarchod a hyrwyddo’r genedl a gweithio er ei lles hi a’i phobl, does modd sefyll ysgwydd yn ysgwydd â Llafur achos cofiwch hyn: pan mae hi’n dod at statws Cymru a’r iaith Gymraeg, mae Llafur yn agosach o lawer at farn UKIP na barn Plaid Cymruachos na phlaid Brydeinig ydi hi. Ac ni ellir cyfaddawdu rhwng Cymreictod â Phrydeindod mwy na all llygoden gyfaddawdu â chath. Weithiau rhaid inni roi i’r neilltu’r darlun mawr a chanolbwyntio arnom ni ein hunain, ac o weld hynny weld taw unrhyw un sy’n arddel Prydeindod yw’r gelyn. A rhaid eu hymladd.

Mi rydyn ni mor bryderus ynghylch ypsetio pobl, ynghylch cael sylw drwg yn y wasg, a gydag obsesiwn hurt o geisio ennill calonnau calonnau’r anenilladwy, fel y mae’n ein hatal fel cenedlaetholwyr. Y mae lle i hynny, ond dyna’n prif dacteg a pham nad ydi Cymru’n mynd i’r unman. O ran y frwydr genedlaethol, rhaid ymladd tân â thân. Y math o dân sy’n beryg bywyd yn nwylo’r cenhedloedd mawrion ond sy’n gwbl hanfodol i oroesiad cenhedloedd bychain.  

Dydi cenhedloedd modern ddim yn mynd rhwng y cŵn a’r brain drwy waed a thân a dinistr. Na, gallant oroesi’r pethau hynny. Ond os delo awr diwedd y Cymry, awn i’r bedd hwnnw nid am ein bod wedi bod yn rhy ymosodol na’n annymunol. Y mae’r llwybr at ein bedd cenedlaethol yn frith gan ddadleuon neis, bod yn barchus a bod yn groesawgar, ac awn i’r bedd hwnnw â gwên ar ein hwyneb. Y mae weithiau lle i ddwrn yn lle llaw – nid yn yr ystyr llythrennol, ond yn lle ceisio bod mor gall a mor ddeallus ddweud gwirioneddau’n blwmp ac yn blaen, a sylwi bod yn well gan y rhan fwyaf llethol o bobl glywed y rheiny na geiriau gofalus diystyr, dideimlad.
Mwy o galon, y peth hwnnw sydd wedi rywsut, drwy ryw fodd, ymgilio’n drybeilig yn nisgwrs cenedlaetholdeb y Cymry. 

Na, mae’n amser i ni ddysgu bod ein petrusrwydd cynhenid am ein difa, ac mae’n rhaid i genedlaetholwyr Cymru ddysgu dweud ‘ffyc off’, a dysgu drachefn fod angen weithiau fod yn flin am y pethau perthnasol sy’n effeithio’n uniongyrchol arnom ni, ac nid ar bopeth arall a ddigwydd yn y byd.

 

Y ‘ffyc off’ mwyaf cywrain yn holl hanes y Cymry

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Etholiadau Arlywyddol Ffrainc


Blwyddyn newydd dda!
Nos Iau ddiwethaf mi ges i sgwrs fach yn y dafarn am etholiadau Ffrainc. Mae pawb yn meddwl ei bod yn gwbl anochel y bydd Marine Le Pen yn cyrraedd yr ail rownd yn yr etholiadau arlywyddol a gynhelir ar 23 Ebrill eleni, ac i fod yn deg mae hwnnw’n fet go ddiogel, ynghyd â hithau’n colli yn y rownd derfynol. Mi fu’n fwriad gen i ysgrifennu pwt am etholiad Ffrainc ers rhai wythnosau – wedi’r cyfan, mae’n un o etholiadau pwysicaf y byd ac yn haeddu ymdriniaeth. Mi geisiaf gynnig hynny mewn modd mor gryno ag y gallaf. Ond peidiwch â darllen ymlaen onid oes gennych chi amser i’w sbario.
Rŵan, dydi o ddim y peth hawsaf imi wneud hyn; mae’r ffynonellau gorau, yn anochel, yn Ffrangeg a dwi methu ei siarad. Ond mae ‘na ddigon o gliwiau ar gael sy’n awgrymu y gallai ambell beth go annisgwyl ddigwydd yn yr etholiad hwnnw.
Mae’n annhebyg os ydych chi’n darllen hwn eich bod yn gwbl anymwybodol o’r sefyllfa wleidyddol yn Ffrainc ar hyn o bryd, ond dyma ei chrynhoi’n fras: mae’r polau piniwn yn awgrymu y bydd Marine Le Pen, arweinyddes y Front Nationale, a François Fillon o blaid Les Républicains, yn wynebu ei gilydd yn y rownd derfynol. Mae’r Parti socialiste, sef plaid Hollande (a fydd ddim yn sefyll) yn debygol o gael crasfa, gan o bosibl ddod yn bumed yn y rownd gyntaf y tu ôl i’r Front Gauche(plaid adain chwith eithafol) ac En Marche! sy’n fudiad newydd a sefydlwyd gan Emmanuel Macron, a arferai fod yn weinidog yn llywodraeth Hollande ond a’i gadawodd fis Awst i drïo’i lwc yn yr etholiad hwn. Gambl, yn sicr, ond mae’n debygol bod yr rheiny’n boblogaidd ac yn eithaf llwyddiannus y dyddiau hyn.
Er mwyn rhoi trefn i’r blogiad hwn, dwi am fwrw golwg gryno dros bedair plaid, sef pob un a enwyd uchod eithr y Front Gauche, cyn dod i gasgliad bras ar yr hyn dwi’n credu a allai ddigwydd.
François Fillon – Les Républicains
Roedd dewis Fillon yn sioc i’r system yn y lle cyntaf – Alain Juppé oedd y ffefryn clir i ennill yr enwebiad ond trodd y blaid am yr ymgeisydd sydd bellaf i’r dde wleidyddol. Llenwodd Fillon fwlch yng ngwleidyddiaeth y dde yn Ffrainc sydd wedi bod yn wag am gryn dipyn sef ceidwadaeth Gatholigaidd. Mae pleidleisiau i hynny ar y dde, ond mae ei feddylfryd economaidd yn Thatcheraidd sy’n wrthun mewn gwlad fel Ffrainc, lle mae traddodiad cryf o ymyrraeth lywodraethol yn economi’r wlad. Yn fras, mae ei apêl ym mhleidlais aml-ddewis y rownd gyntaf yn gyfyngedig. Ddiwedd y llynedd, fodd bynnag, fo oedd y ffefryn i gyrraedd yr ail rownd, bob amser yn yr 20au uchaf neu’r 30au isel yn y polau piniwn ac o flaen y lleill. Ond ers hynny, mae ei gefnogaeth wedi dirywio’n sylweddol. Cawsai 30% ar gyfartaledd ym mholau Tachwedd a Rhagfyr, ond fis yma mae o 4-5% yn is ac y tu ôl i Le Pen gan mwyaf.
Alla i ddim dweud fy mod i’n gwybod llawer amdano, ond ar y cyfan mae’n ymgeisydd digon anysbrydoledig ac yn yr etholiad hwn gallai hynny ei niweidio. Mae’n anodd ei weld yn peidio â chyrraedd yr ail rownd oherwydd ei gefnogaeth graidd, a gwelsom yn yr UDA ac yn y DU bwysigrwydd gefnogaeth galed: mae’n fwy llwyddiannus na chynghreiriau gwleidyddol llac.
Gallai ei geidwadaeth ar faterion fel mewnfudo ennill cefnogaeth oddi wrth Le Pen, ond gall ei safbwyntiau ar yr economi, yn galw am ddadreoleiddio ar raddfa enfawr, atal pobl rhag pleidleisio drosto – yn enwedig wrth droi wrth Le Pen sy’n agosach at y canol Ffrengig yn yr ystyr hwnnw. Ac mae’n annhebygol o hudo’r rhai o’r dosbarth gweithiol – sosialwyr traddodiadol –sy’n troi’n gynyddol at y Front Nationale.
Marine Le Pen – Front Nationale
Mae’n rhagdybiaeth gyffredin ers sbel y bydd Marine Le Pen yn cyrraedd yr ail rownd. Mae hi’n gyson ymhlith y ddau uchaf ac mae’r Frontwedi bod yn ennill cefnogaeth dan ei harweinyddiaeth yn gyson, er bod system etholiadol (annheg) Ffrainc yn eu hatal rhag ennill seddi ar y cyfan. Yn wir, â phopeth sydd wedi digwydd y llynedd, mae’n anodd ei diystyru. Ond mi wna i ddarogan yn gwbl hyderus nad Marine Le Pen fydd arlywydd nesaf Ffrainc.
Yr hyn efallai nad ydym ni y tu allan i Ffrainc wedi amgyffred ydi hyn: mae gan y Front broblemau. Gyda’r banciau yn gwrthod benthyca arian i’w hymgyrch, mae Le Pen wedi gorfod troi at gwmni ei thad am fenthyciad o £5.2m; rhywbeth sydd am fwrw amheuaeth dros ei pherthynas â’i thad. Mae wedi ceisio ymddieithrio rhagddo’n fwriadol i ehangu apêl y blaid, ond mae amheuon am ei didwylledd wrth wneud hynny yn sicr am ail-godi. Mi gollodd achos llys y llynedd pan y’i gelwid yn “ast ffasgaidd” gan gomedïwr ac y ceisiodd ei siwio. Fydd ei hymwelid diweddar â Trump Tower fawr o help ychwaith – mae Trump yn amhoblogaidd yn Ffrainc ymhlith bron pawb. A bydd ei hedmygedd cyson o Putin efallai fawr o help.
Y mae craciau yn y Front Nationale, a dwi ddim yn argyhoeddedig y bydd pobl yn eu hanwybyddu. Ni waeth i chi weiddi am Trump na Brexit yn hyn o beth: mae Ffrainc yn wlad wahanol; ac yn draddodiadol dydi’r blaid ddim wedi gwneud yn well mewn etholiadau na mewn polau. Hynny ydi, dydi’r pleidleiswyr distaw lu a drodd allan i bleidleisio yn 2016 mor ddistaw yno. Ni ragwelaf sioc dawel ym mhleidlais Ebrill; mi fyddan ni’n gwybod ymlaen llaw sut eith hi.
Gallai Fillon ddenu rhai o’r bobl ar y dde a fyddai’n pleidleisio drosti (tanciau ar y lawnt ac ati) ond gallai eraill effeithio ar ei phleidlais. A waeth i ni gofio, mae pleidlais Le Pen, fel Fillon, yn y polau piniwn tua 5% i lawr ar yr hyn yr oedd yn ei gael ym mis Tachwedd. Tuedd, a thuedd na ellir ei hanwybyddu.
Wrth gwrs mae pethau a allai ddigwydd rhwng rŵan a mis Ebrill a allai atgyfnerthu ei chefnogaeth, yn eu plith ymosodiad terfysgol arall. Ond ni all neb ddarogan hynny.
Partie socialiste
Pwt yn unig a roddaf i’r blaid sosialaidd. Maen nhw ar chwâl, a fyddan nhw ddim yn cyrraedd yr ail rownd, ond gallai eu dylanwad ar bwy sy’n cyrraedd fod yn hollbwysig. Yn syml – petai Manuel Valls yn ennill mae’n debyg y bydden nhw’n ennill tua 10% – 15% o’r bleidlais (gyda’r uchaf ar y raddfa honno’n annhebygol). Petai un o’r lleill yn ennill gallai fod yn hanner hynny. Debyg na gŵr o’r enw Arnaud Montebourg ydi’r ffefryn i ennill yr enwebiad.
P’un bynnag, gyda’i gobeithion yn rhacs waeth pwy sy’n ennill un o enwebiadau mwyaf anobeithiol Ewrop ar y funud, mae posibiliad cryf y bydd nifer o’r rhai fyddai’n pleidleisio dros y sosialwyr yn ailystyried eu pleidlais rownd gyntaf. O’u plith nhw, mae pleidleisio dros Le Pen neu Fillon yn y rownd gyntaf fwy na thebyg yn amhosibl. Ond, yn strategol, mae un person y gallent bleidleisio drosto a allai atal y ddau…
Emmanuel Macron – En Marche!
A dyma ni, y ffactor rhyfedd, annisgwyl yn yr etholiadau arlywyddol, Emmanuel Macron. Mae’n ifanc, yn siaradwr da, yn frwdfrydig, ac er ei fod yn rhan o’r llywodraeth flaenorol dydi o heb fwrw cysgod gormodol drosto chwaith. Mewn polau piniwn mae un peth yn bwysicach na chanrannau – sef tueddiadau.
Ac yn wir, mae’r duedd i Macron yn un sy’n llawn haeddu sylw. Yn wahanol i Fillon a Le Pen, cynyddu mae ei bleidlais o’n gyson. Mae Macron o fewn pellter taro i’r ddau. Gwnaeth un arolwg barn a gynhaliwyd fis yma ei roi o flaen Le Pen yn y rownd gyntaf. Yr amod, os liciwch chi, oedd nad oedd y Partie socialiste yn dewis Valls. Ond, fel y dywedais uchod, hyd yn oed os gwnân nhw hynny, dydi o ddim y tu hwnt i bob cred y gallai nifer o bleidleiswyr y blaid honno droi ato er mwyn cael rhywun sydd ddim ar y dde yn yr ail rownd. Mae’n bosib, er yn llai tebygol, y gallai rhai o bleidleiswyr y Front Gauchewneud yr un peth. Byddai o’n wirion i beidio ceisio apelio atynt. A dydi o ddim yn wirion.
Cryfder Macron, yn fy marn i, ydi ei ddiffyg syniadaeth wleidyddol. Dydi o ddim yn ei ddiffinio ei hun yn nhermau hynny; gallai fod yn gryfder eithriadol. Rydyn ni eisoes wedi gweld hyn yn digwydd, o Trump yn UDA i’r M5S yn yr Eidal (heb sôn am bleidiau llwyddiannus fel un Merkel yn yr Almaen sydd wastad wedi ffafrio ymarferoldeb dros syniadaeth). Dwi’n gwbl argyhoeddedig na’r duedd wleidyddol sydd ohoni, ymhlith mudiadau llwyddiannus, ydi symud o ideolegau pendant i sefyllfa fwy hyblyg. Mae o’n boblyddwr (y gair Cymraeg crap am populist) o fath.
Rydyn ni’n cyfateb y gair poblyddiaeth i’r adain dde yn aml ond mae hyn yn hollol anghywir; ddadleuwn i mai ystyr poblyddiaeth gyfoes ydi, yn syml, y reddf i ddweud y peth iawn ar yr adeg iawn yn y ffordd iawn er mwyn ennill grym, heb fod yn gaeth i ideoleg. Ac i’r graddau hynny, efallai bod lle i ddadlau bod Le Pen yn fwy o ideolegwr na phoblyddwr. Macron, nid Le Pen, sy’n dilyn ôl-troed pobl a mudiadau diweddar sy’n amrywio o Trump i’r M5S i Syriza i’r SNP.
Ategir hynny efallai gan y ffaith fod Ewrop, yn ôl polau piniwn diweddar, wedi troi’n sylweddol fwy o blaid yr UE, ym mhob gwlad gan gynnwys Ffrainc. Dydi o ddim yn gyd-ddigwyddiad fod Le Pen wedi bod yn llai gelyniaethus at Ewrop yn ddiweddar, na bod Macron yn ffyrnig o’i phlaid.
Gan ddweud hynny, mae ganddo un anfantais a allai fod yn dyngedfennol – does ganddo fo ddim sail gadarn i’w gefnogaeth, yn wahanol i Fillon a Le Pen. Bydd unrhyw darfu ar ei fomentwm o bosib yn lladd ei gyfleoedd.
Casgliad
Mae cynifer o gwestiynau i’w hystyried wrth ddod i unrhyw gasgliad am beth allai ddigwydd yn Ffrainc. Pwy ydi’r ymgeisydd mwyaf poblogaidd fel unigolyn? Faint o bleidleisiau y gall Fillon eu dwyn oddi ar Le Pen, os o gwbl? Pa mor feddal ydi’r gefnogaeth i Macron? Ydi pleidleiswyr ar y chwith am droi ato i atal y ddau arall? Ac un ffactor difyr ydi François Bayrou – rhywun sy’n ei roi ei hun yng nghanol y sbectrwm gwleidyddol, er sy’n Gatholig pybyr, ac sy’n ymgeisydd cyson mewn etholiadau arlywyddol ond sydd heb ddatgan unrhyw fwriad i sefyll. Byddai ei gefnogaeth o i Fillon neu Macron yn gallu bod yn dyngedfennol, os yw’n ei rhoi.
Fy nheimlad i ydi hyn: mae Le Pen (os na ddigwydd ffactorau allanol) wedi colli ei chyfle a’i momentwm. Mae cefnogaeth Fillon yn ddigon cadarn ac yn annhebygol o ostwng mwy. Gall Macron ddenu pleidleisiau o du mwy o ffynonellau na nhw. Dwi’n meddwl y bydd yn llwyddo i wneud hynny, gan wynebu François Fillon yn yr ail rownd, gyda Le Pen yn colli allan ar y cyfle hwnnw o drwch blewyn.
Ond ddyweda i ddim mwy na hynny!

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Eryrod Pasteiog VII: Cyfweliad olaf Kate Roberts

Nid yn unig pobl dda a aned ym 1985, ond bu farw ambell gawr hefyd. Ychydig cyn ei marwolaeth, cafodd Kate Roberts, neu Frenhines ein Trên fel y’i gelwir yn aml heddiw, ei chyfweld am y tro olaf erioed yng nghylchgrawn Barddas neu rywbeth ella. Mae’n ysbrydoliaeth lwyr.

*         *         *


CYFWELYDD: Diolch i chi am gytuno i’r cyfweliad hwn, Dr Kate Roberts.


KATE ROBERTS: Dim problam cont.

CYF: Felly, bwriwn ati ar unwaith, pa beth a’ch ysbrydolo wrth i chi greu eich straeon?



KR: Wel, mae hynny’n syml. Ces i fy magu ar adeg pan oedd pethau’n galed yn yr hen fro. Roeddem mor dlawd y bu ‘mrawd yn gweithio’n chwarel yn ddeufis oed, a’r cartref nid mwy na’r hyn a alwyd bryd hynny’n dŷ torth.


CYF: A pha beth oedd hynny?

KR: Tŷ wedi’i wneuthur o fara caled. Toedd yna ddim cerrig bryd hynny yn Rhosgadfan, dim ond llechi wrth gwrs, a becws shit. Ond allwch chi ddim tŷ o lechi, dim ond to, a pha beth y to os cyll y tŷ? Dyddiau anodd i’r teulu cyfan, a’r gymuned yn de. Felly treiddiodd y caledi hwnnw i’m gwaith dilynol, fel surop.




Dr Kate Roberts, 1978, ar ôl ennill Cadair Eisteddfod Ikea



CYF: Rydych chi’n hoff o surop?

KR: Ew ydw. Dyna’r unig beth a gerais erioed.


CYF:  Mor ddifyr. Ond wrth gwrs eich gwaith mawr oedd Traed Mewn Cyffion.

KR: Peidiwch â siarad am hwnnw, wir.


CYF: Paham felly?

KR: Y golygwyr. Newidion nhw bopeth. Popeth! Traed mewn Sglodionoedd y teitl gwreiddiol, yn seiliedig ar yr arfer ym Mhen Llŷn o wisgo esgidiau tatws fel y mae rhai’n dal i wneud, yn enwedig ymhlith y ffarmwrs a’r cyfieithwyr, hyd heddiw. Ddywedodd y golygwyr ei fod o’n syniad gwael iawn am nofel. Faddeuaf i fyth iddynt. Ro’n i’n gwybod bod rhywbeth unigryw gen i’n fanno, ond droeson nhw’r cyfan yn stori lwyd arall am galedi’r chwareli. Gwnaethon nhw hyd yn oed dorri’r darn allan am streic fawr y tatws yn llwyr; dydi’r plot ddim yn gwneud synnwyr heb hwnnw.


CYF: Ydych chi’n siŵr?

KR: Ydw. Bob dim a ysgrifennais i erioed newidion nhw bopeth.


CYF: Te yn y Grug?

KR: ‘Te yn y Gwrych’ oedd o. Yn yr hen Sir Gaernarfon byddai pobl yn aml yn cael te p’nawn yn y gwrych, i osgoi llosg haul. Pwy gafodd de yn y grug erioed wir? Twpdra anneallus.


CYF:  Tywyll Heno?

KR: Bydd tad.

CYF: Prynu Dol?

KR: Ddim diolch.

CYF: Haul a Drycin?

KR: Be?

CYF: Ond mae’ch straeon yn amrywiol iawn, yn tydyn, ac yn aml swreal? Roedd Teulu Mari am ddynes yn siarad â’i hanifeiliaid a mynd ar antur â nhw, Gobaitham ragrith a pherthynas cyfeillion, Yr Wylan am wylan, mae’n siŵr, dwi heb ddarllen honno.

KR: Ydyn, dwi wastad wedi ymfalchïo yn fy ngallu i ysgrifennu pethau mewn unrhyw arddull. Efallai rhyw ddydd y bydd rhywun yn gallu ei wneud cystal â mi â Chymraeg celfydd a dychymyg o’r tu hwnt i’r sêr. Ond ‘sgen i’m blog.

CYF: Ie. Wrth gwrs, mae’ch perthynas agos â Saunders Lewis yn un nodedig yng Nghymru Gymraeg. Rydych chi’n gyfeillion garw.


KR: O diar mi, nac ydyn wir. Mae’r sbych yna’n ysgrifennu ata i ers oes pys, ond dwi erioed wedi ysgrifennu’n ôl. Unwaith fues i’n ei drem ac mi fu’n gwichian ata i’n ofnadwy fel chwannen frith y llan, sef oen yn nhafodiaith gogledd Llŷn. Mae nhw’n dweud ei fod o’n gwisgo fel merch ac yn ymateb i’w hun, ond dwi ddim isio meddwl am y peth a dweud y gwir.

CYF: Beth ydy’ch hoff fuwch?


KR: Welsh Black.

CYF: Mor ddifyr. I gloi, sut hoffech chi gael eich cofio gan y genedl?


KR: Byddaf yn fodlon ar unrhyw atgof ohonof gan y genedl, am fy llenyddiaeth neu fy ngwaith adeiladu trawiadol, oni sernir yr atgof hwnnw ymhen rhyw, dwnim, rhyw ddeg mlynedd ar hugain gan rywun yn mynd drwy ‘mhethau i ac yn gwneud honiadau enllibus di-sail amdanaf mewn llyfr neu rywbeth achos rhyw ensyniadau uffernol o wan. Dwi ôl ffôr bach o enllib yn de, ond enllib yn erbyn y meirw? Sgersli bilîf.

CYF: Diolch yn fawr i chi, Dr Kate Roberts.


KR: Wotevs.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Un baned


Aeth i mewn i’r siop goffi. Doedd y lle ei hun ddim at ei ddant ond roedd o wedi cael paned yno sawl gwaith, bron pob tro yr âi i’r dre a dweud y gwir, ac wedi penderfynu ei fod yn licio’r coffi o leiaf. Cadw at ei drefn arferol. Yr un archeb bob tro.
            Cappuchino,’ cyfarthai at y weinyddes. Roedd hi’n oer tu allan a doedd o’n teimlo fawr gynhesach ei hun heddiw. Arhosai’n ddiamynedd wrth iddi ffwndro’r archeb yn y til yn ddwl.
            Did you say latte babes?’ meddai hi’n ôl ar ôl amser a deimlai fel awr. “Babes”. Dwi ddeg mlynedd yn hŷn na chdi, feddyliodd. Ac os wyt ti methu cofio un archeb funud ar ôl i mi ei gwneud mewn siop goffi fyddi di am byth, cariad.
            No. Cappuchino,’ meddai’n fwriadol nawddoglyd wrthi. Cafodd hi’r neges, doedd ‘na ddim awydd cwrteisi diangen ar hwn – roedd o jyst isio panad. ‘I’ll sit outside,’ meddai cyn lluchio arian ati a’i heglu am y drws fel petai am adael y lle.
            Cafodd le tu allan ar fwrdd unig. Roedd y dre’n brysur heddiw. Miloedd o bobl ddibwrpas yn dechrau ar eu siopa ‘Dolig. Rhoes ei sbectol haul amdano a’u gwylio’n ddirmygus; rhai’n llusgo traed ac yn gwylltio’r bobl gyflym. Neb ohonynt yn cerdded yn gall fel y gwnâi o, naill ai’n ei malwennu hi’n drwsgl neu’n llamu fel merlod. Twpsod. Pam fod pawb yn gorfod cerdded mor wahanol iddo fo? A ble oedd y blydi panad ‘na?
            Cyrhaeddodd y gweinydd. ‘Cappuchino?’ gofynnodd.
            Yes,’ cyfarthai eto, ond edifar braidd y tro hwn. Gwyddai nad oedd angen bod felly wrth ryw dipyn o weinydd ifanc druan, yn gweithio ar ddydd Sul yn lle gorwedd yn ei wely’n drewi o gwrw’r noson gynt. A dweud y gwir, dyna fyddai’n well ganddo fo wneud, ond ddigwyddodd hynny ddim. Eto. Gorfododd ei hun i ychwanegu, ‘That’s great, thank you very much’ gan daro gwên fawr ddanheddog tuag ato. Gwnaeth hynny’r tric, gwenodd y gweinydd yn ei ôl cyn mynd i glirio bwrdd arall.
            Ymfalchïai yn ei wên yn fawr. Cofiai flynyddoedd yn ôl i ferch brydferth iawn ddweud wrtho fod ganddo wên neis, a daliai at yr un ganmoliaeth fechan honno byth ers hynny. Gwyddai fod hynny’n bitw, ond mor brin y canmoliaethau a dderbyniai’n ddiffuant cadwodd honno yn ei gof. Roedd o’n coelio ei fod wedi perffeithio’i wên i guddio popeth. Ddefnyddiai o mohoni i ddal sylw merched del, budron tafarndai tywyll y ddinas, mor anaml y gweithiai y rhoes y gorau i hynny. Ond fel giât castell ei ben roedd hi’n berffaith am gadw’r cwestiynau draw.
            Trodd at y baned, a chydio ynddi, a chymryd y llymaid cyntaf. Doedd y gwpan gynnes fawr o gysur iddo. Ei glustiau fo oedd yn rhynnu wedi’r cwbl, nid ei ddwylo. 
             Roedd hi’n chwerw. Doedd ganddo fawr o amser i goffi chwerw, ond ddaeth ‘na ddim siwgr efo’r baned diolch i’r gweinydd ifanc gwirion. Trodd y wên yn wg wrth iddo droi’n ôl at syllu ar yr haid o siopwyr. Ymfalchïai yn ei wg hefyd. Dywedai wrth ei hun ei fod yn gwneud iddo edrych yn feddylgar; yn ddoeth hyd yn oed, fel petai’n ystyried dirgelon mawr ac yn eu deall yn iawn. Twyll arall wrth gwrs. Ond dydi hunan-dwyll ddim bob amser y peth gwaethaf, cyn belled â bod rhywun yn gwybod mai dyna ydi o, ac ei fod yn twyllo pawb arall hefyd.
            Cymrodd swigiad arall. Cynnes oedd y baned, yn union fel yr hoffai, a leddfodd rywfaint ar ei chwerwder, a throdd yntau ei sylw’n ôl at y stryd. Wyddai o’m unrhyw un yno. Rholiodd ei lygaid wrth weld un dyn boliog hŷn yn gwisgo hwdi porffor, yr union un yr oedd ganddo fo, a barodd iddo fwmian rhegfeydd dan ei wynt. Roedd yn gas ganddo bobl yn gwisgo’r un dillad, yn enwedig hen ddynion, fynta’n ddim tebyg iddyn nhw yn ei ben. Ddim eto o leiaf. Ac yna cwpwl tew fel dau fynydd yn sglaffio’n farus ar grempogau poeth y cabanau ‘Dolig. Roedden nhw’n edrych yn hapus, ond faliai o ddim am hynny. Mynnodd ei argyhoeddi ei hun taw’r crempogau yn hytrach na’i gilydd oedd pam yr oedden nhw’n gwenu. Wrth gwrs y gwyddai fel arall. Ond pa ots? Jyst dau fasdad tew oedden nhw. Pa hawl oedd ganddyn nhw i fod mor hapus yn edrych fel’na, tra bod o’n rhannu bwrdd â neb ond yr oerfel?
            Syrffedodd braidd ar wylio pobl a phaneidio – gwnâi fawr o les i’w dymer heddiw – a llyncodd weddill y coffi heb roi cyfle i’w hun ei fwynhau. Roedd o wedi gwastraffu deg munud ac roedd hynny’n ddigon. Roedd yn amser rhoi’r cynllun ar waith; crwydro’r dref a’r siopau ei hun, efallai trïo ambell ddilledyn cyn digalonni eu bod ddim yn ei siwtio. Efallai prynu ffilm i wastraffu awr neu ddwy’n nes ‘mlaen am na wyddai beth arall i’w wneud ag amser eithr ei wastraffu. Coffi arall beryg. Unrhyw beth i fyrhau’r munudau maith.
           
A chododd o’i sedd ac ymgorffori’n ddibwrpas i’r bobl ddibwrpas ddiddiwedd, yn un ohonyn nhw.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Mân wrthgyferbyniadau mawr byw

Dydi bywyd fawr ddim onid ydyw’n gydblethiad godidog ac anghyfforddus o wrthgyferbyniadau. Does fawr ddim nad ydyw’n llwyddo ei groesi ei hun; gwên drist a deigryn hapus, haul oer y gaeaf, eiliadau dyfnion sgwrs ysgafn; rhyddhad aflwyddiant a gwewyr gweld yr un sy’n tanio’th galon; jyst bod yn chdi dy hun heb wybod pwy ddiawl ‘di hwnnw. Y bodlondeb a deimlaf o wneuthur na chlywed dim a gwacter dwfn gorfod gwneud popeth. Unigedd mewn cwmni ac ymberthyn unigedd. Blinder sy’n canlyn paned o goffi mewn tipyn o gaffi ac egni a enynnir gan nofio urddasol elyrch ar ddiwrnod niwlog disymud. Myfyrio am farw a phrysurdeb difeddwl byw. Goleuadau stryd sy’n tywyllu’r enaid; duwch nos yn goleuo’r sêr. Sêr bychain dy ben yw heulwen dy ddydd, tra bod heuliau’th fyd yn gyson ymachlud.

Moment od  y bore, dal dy lygaid dy hun yn y drych wrth hanner brwsio dy ddannedd yn ddifynadd dros sinc sydd angen ei llnau. Gweld y cyfan heb weld dim. Dy dalcen yn hirach nag y bu mewn hen luniau. Y llinellau newydd fel camlesi’r lleuad, yn ensynio blinder ond yn deillio o oriau maith o chwerthin a’r hwyl a aeth i garchar y gorffennol; adeg a ddiflannodd ond sy’n esgor ar yr hyn sydd eto i ddod. A’r hen lygaid na elli ond â syllu iddynt; lympiau blonegog meddal sy’n cyfleu llond enaid o dân a rhew, o gas a charu. Yr un teimlad â methu â pheidio ag edrych ar ddamwain car. Gan un edrychiad gweled cant o bethau a aeth o’u lle, a dychmygu’r un peth hwnnw all unioni’r cyfan.

Y ffordd anghysurus honno o wybod popeth mewn eiliad hyd at ddyfnion meithaf môr ein bod, ac anghofio’r cyfan ymhen awr neu fis neu flwyddyn. Y ffordd y mae pob cam yn nesáu at rywbeth ac yn ymbellhau rhag llall. Y ffordd y mae meiddio dy roi dy hun i obaith yn fwy o fraw nag o fendith.

Y ffordd y mae popeth yn y byd mawr crwn yn wrthgyferbyniad llwyr, a’r gwrthgyferbyniadau hynny sy’n creu pob peth. A’r ffaith fy mod i’n gwybod hyn oll, heb imi erioed ei ddysgu.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Eryrod Pasteiog VI: Cerddi’r Werin


Waldo

Y beirdd a anghofiasant symlrwydd y gerdd, gan lunio barddoniaeth iddynt hwy eu hunain i fynnu gan ei gilydd ganmoliaeth. Enillasant gadeiriau a choronau â chwpledi ac englynion nad oeddent i’r lliaws, dim ond i ddetholedigion y maestrefi moethus. Deallusrwydd a droesant yn eiriau diystyr na allai neb eu deall. I ba le aethai barddoniaeth y werin, a diniweidrwydd yr awen? Gwaedlif calon y genedl Gymraeg a gyfnewidid am orfeddwl diangen sydd, gan amlaf na pheidio, yn ddiystyr hefyd.Y mae mawredd ein llên nid mewn cysyniadau cymhleth ond ar adain seiniau hoff y famiaith yn anwesu’r glust a gwneud i’r enaid wenu.

Yn syml, fel ag yw – y mae ein llên am ein lladd.”
 
Y GATH 
Hwran ffwr ewinog
Yn chwilio darn o hadog,
O Bwllheli i Borthmadog
Erfynia bryd adeiniog,
Basdad anrhugarog;
Basdad blewog.
Y MÔR
Lwmp hylifog o angau.
Llon ei longau.
Gwae ei wymon.
Cewch fisged arno ar gwch.
Pysgod hefyd
Y GARDIGAN
Y cythraul coslyd.
Cynnes ei gaeafau – ni wêl haf.
Cyfaill yr henoed yw’r hen wallt dafad hwn….
Ni all gwylan ei gwisgo na
llewpart ei hamgyffred;
a dyna wefr y gardigan.
Y GOEDAN ‘FALA
Y pren hwn.
Y gangen hon.
Yr afalau hyn.
Gwaethaf goeden ‘fala,
Coedan ‘fala ddi-afal.
Y CYMRO
Gwron y frechdan gaws,
Salad crîm rydd ar ei fitrwt
A chan wledda arno chwardd i’r awyr
a thery ei goes gan gnoi,
canys
Cymro yw.
Ie, Cymro yw.
YR OFN
Dwi’m yn ofni dim,
‘Does dim yn ofni fi,
Megis dafad
Efo llif,
Prin yw’r bygwth yn fy mrefu

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Blino’r Angylion


Pa un yr erfynia dyn fwyaf, yma ar ddiwedd popeth? Bywyd di-boen ynteu farwolaeth ddi-ganlyniad; y ddau fawr anwireddadwy. Pan fo geiriau’n troi’n sŵn a mudandod yn glebran di-baid, a ffurfiau’n cydblethu gylch dy drem yn bopeth ac yn ddim byd. Nid oes yn y  dyddiau hynny law i afael ynddi a allai leddfu. Nid oes llaw. Nid oes cwmni eithr rhithiau; yn chwerthin ar dy dwpdra, yn mwynau pob eiliad fall ac yn trwchu ar dy newyn. Ni ellir ond â fferu ac ymaros nes i bethau eto finiogi, nes i’r llwydni droi’n lliwiau, a meddwl ai’r tro nesaf y daw’r ildiad mawr.

Cylchfan bywyd a’th flinaist di. Yr un cylch mawr cythryblus, yr un anwybyddu’r allanfeydd, am na wyddost i le’r ânt. Daeth y daith yn syrffed llwyr. Sut aeth popeth o’i le? Pa ddiawl â’th hudaist lawr y lôn hon i dreisio dy enaid, a pham wyt yn ei ddilyn bob tro? Ai twp wyt ti, neu ai’r gwir yw dy fod yn mwynhau’r artaith? Sgrechiaist gangwaith i’r awyr am angel, ond nid arhosai ond am ennyd. Fe’i blinaist gan dy flinder wrth i bob bore’n araf droi’n ddiwedd newydd. Am mai ti ydi’r un all flino hyd yn oed angel. Am allu cas i’w roddi.
Anadlaf fwg fy chwerwder. Caraf ei losg ynof. A throi hynny’n awyr o nadroedd llwydion yn gwingo o’m blaen wedi hynny, fel petaent mewn dŵr berw gwyllt. Rhyfeddaf ar lonni eu poen a didrafferthrwydd eu diflannu.
Oherwydd dyna’r oll sydd rhwng yr eiliadau.
Cywilyddi ym mreuder dy feddwl, yng nghri dy eiriau. Ai fy llais i ydi hwn? Y ffaith iti anghofio’r nad arferai fod fel hyn; nid yw ond atgof chwerw o’r dyddiau llawen y ffarweliaist â nhw amser mor faith yn ôl. Cofio erfyn traethell cyn eto boddi ym môr dy dduwch a chasáu caru. 
Ond nid y tro hwn, meddaist ti. Nid y tro hwn. Ond nid wyt broffwyd ychwaith.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Eryrod Pasteiog V: Tomato o’r enw Afal


Ar awyren o’r Eidal, yn wan gan flinder a Propranolol, oddi fry Ewrob fawr, esgorwyd ar un o frenhinoedd gogoneddus y nen, y pumed o’i dras; y pumed eryr pasteiog.
*          *         *
Arferai yna fyw domato nid ond ychydig o fisoedd yn ôl; coch ei wedd a blew ar ei jest. Ei enw, fel y mae’n digwydd, oedd Afal. Sefyllfa ddisynnwyr yn wir. Yr oedd ei fam yn goeden a esgorai ar gannoedd o blant bob blwyddyn, canys mai hŵr bren ydoedd hithau a’i brigau annelwig ar eu lled o ganol dydd tan ganol nos. Ond Afal a dyfodd yn gryn domato, ac fel unrhyw domato o’r enw Afal mi drigai wrth gwrs mewn tŷ. Enw’r tŷ hwnnw oedd Y Llys, ac nid oedd ar y llys do na drysau ond ni hidiai Afal y tomato ddim am hynny. Ta waeth, yr oedd yntau Afal – sydd, chwychwi gofiwch, yn domato – am resymau rhy ddwfn a rhy niferus i roddi iddynt fy llawnaf sylw yma, yn uchel ei barch yn y gymuned leol. Nid oedd lai na chyfreithiwr, a pha syndod ac yntau’n byw mewn annedd ddi-do, ddi-fur o’r enw Y Llys? Wrth ei waith, fodd bynnag, gweithiai mewn perllan, a hynny am nad oes angen ar neb, hyd yn oed yn y dwthwn goleuedig hwn, domato o gyfreithiwr. Na, yn wir, maes i greaduriaid yw’r gyfraith, nid cnwd.
Yn sicr, nid oes angen mynd i fanylder peryglon bod ag enw fel Afal a gweithio mewn perllan pa un a ydych domato ai peidio. Do, mi drigodd wrth ei waith, ac ni chafwyd achos llys am nad oedd modd dod o hyd i gyfreithiwr addas i domato; Afal ei hun oedd yr unig un a allasai gyflawni’r fath orchwyl. Yr eironi cas! Yr oedd achos ei dranc mor amlwg, fodd bynnag, fel na wyddai unrhyw un beth ydoedd ac am na chanfuwyd ohono ddim eithr ambell hedyn a’r tynerwch a’i nodweddai, beryg na chlywo’r byd wir cas ei ddiwedd.
Y berfedd ar y borfa – cofiwn ef.
Dwi’n meddwl na llgodan fytodd o.
Neu afr.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Munud â’m cythraul


Rhydd imi lonydd, mwmiais yn wan mewn gweddi wag un nos. Rhydd imi awr ddibryder, ddifeddwl. Ond dest i darfu arnaf drachefn; nid oes unman na elli fy nilyn. Dwyt ti ddim yn gyfrwys. Ti’n feiddgar. Ti ddim yn llechu yn y cysgodion yn aros i mi wneud tro anghywir, na’n fy nenu atynt fel cwningen goll; deui â nhw ataf. Ac ni roddi imi lonydd rŵan. Cefaist flas ar fy nhrechu; naddaist ddigon arnaf i deneuo f’amddiffynfa; ni dy dwyllwyd di gan ei muriau di-sylfaen na’i thyrrau gweigion.

Sawl gwaith ŷm mygaist dan domen byw? A sawl gwaith a dynnaist yn ôl y glustog ar y funud olaf, ar yr anadl derfynol? Ni fuost ddigon trugarog i orffen y gwaith. Mae dy ddiléit yn fy nghadw at dy ddifyrrwch; fi yw deryn cawell dy gasineb, a chdi â’m cadwo’n gaeth i’m hunllefau.
Erbyn hyn y mae’r crafangau’n rhy ddwfn. Hyd yn oed yn ystod y dyddiau hir a chynnes gelli hagru’r coed a throi ohonof olau’r haul a’m gorfodi i ymgilio’n gwrcwd i’m hogof; ogof sydd mor dywyll a dofn y mae hyd yn oed yr ystlumod yn ei hofni. Chdi sy’n troi unrhyw gysur a gaf yn eiriau chwerw ar bapur. Chdi sy’n gwneud i bopeth doddi o’m blaen, a dwi’n dy gasáu yn fwy na dim yn y byd. Dwi’n ddim pam fyddi gyda mi. A thithau’n ddim hebof. A rhai dyddiau ni wn ddim eithr ein cariad gwyrdroëdig atom ein gilydd.
Erfyniaf am ddarfodigaeth, yn f’argyhoeddi fy hun mai yn hynny fydd fy nechrau, ac ni elli fy hawlio mwyach. Mae gennyt ofn hynny. Pan af, ni chei ddilyn. Pan af, uwch lesni nenfwd y Ddaear, neu tan ei gwair i ddiosg ei phoenau ohonof, fydd fy nghwsg yn gaer dragwyddol.
Ond fy ofn mwyaf – a chdi â ŵyr hyn – yw fy mod gystal disgybl â dioddefwr. A gnoes dy chwilen i’m canol a gwneuthur ei waith yn rhy dda? Pan fydd y sêr yn diffodd am yr un tro olaf, gallaf fy ngweld fy hun yno. Gallaswn yn fy ngwendid gynnau’r tân a lynco’r byd. Gallaswn ar fy ngwaethaf chwerthin yn llon wrth dy lusgo ato, a’n cyd-ddioddef fyddai’n fy melyso; ein cnawd yn ymdoddi fel caws, a’r gwres yn dy frifo di gangwaith gwaeth na mi. Am imi ffendio yng nghesail dioddef gartref clyd, cyfarwydd. Am iti ddwyn fy mhwyll a throi fy meddwl yn lobsgóws ddisynnwyr a dwyn ohonof ffiniau bod. Am iti wneud hynny ormod.
Am iti fy nhrechu un tro’n ormod.   
Rhydd imi lonydd, mwmiais yn wan mewn gweddi wag un nos. Rhydd imi awr ddibryder, ddifeddwl. Ond dest i darfu arnaf drachefn.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Henffych Hydref

Mi fûm innau’n rhy hwyr yn dyfod yma i ffarwelio â gwennol olaf yr haf. Fe’i methais. Mae hi wedi mynd, ond wn i ddim i le; tro eraill yng ngwledydd yr haul parhaus i’w mwynhau yw. Ond hyd yn oed hebddi y mae hydref yma, mi wn. Gall dyn ei deimlo cyn ei weled, gan y meinwynt diog sy’n llithro draw o’r Carneddau a’r Glyderau, hwythau’n syllu arnaf gan hyfdra eu henaint, yn llai cyfeillgar nag y buont rai misoedd yn ôl. Achos maen nhw’n ei deimlo hefyd, fel y gwnaethant ei deimlo filgwaith gynt.

Dyma ddyddiau gwywo’r haul, ei gynhesrwydd wedi’i dreulio a’i ddisgleirdeb heb gynhesrwydd, heb fedru ond ag anwesu’n druenus wlith y caeau llaith hirfaith. Heddiw, mae’n rhannu’r wybren â’r lleuad – lleuad hydref sy’n gwrthod cysgu, ac ias y dydd sy’n oerach gan ei phresenoldeb. Camodd i aelwyd y dydd a’i hawlio iddi ei hun. 

Ac ymhen hir a hwyr fydd y tir glas yn ildio i’r tir llwyd. Y mae sisial y dail crimp yn fwy swnllyd a chras yn awelon hydref, a’u hangau sydd rywsut yn eu bywiogi. Meddwasant ormod ar yr haf a chloch olaf tafarn eu coeden sy’n ddi-droi’n ôl iddynt. A’r cwmwl llwyd ysgafn a charpiog, o orwel i orwel, sy’n cynnig inni gynfas rhag y gaeaf ddaw, i ni gardotwyr y llawr. 

Ydyn, gŵyr popeth fod yr haf wrthi’n gadael. Mae’n cerdded i ffwrdd yn araf, gan droi ei ben atom ambell waith fel cyfaill sydd newydd ffarwelio â chyfaill, ond heb droi’n ôl. Gŵyr y coed, gŵyr y brwyn, gŵyr y waliau cerrig di-sigl a medr dyn eu teimlo’n agosáu at ei gilydd yn un yn barod at y misoedd llwm. Holant ein hofnau ni; a welaf innau wanwyn arall? 

Mae’r mynyddoedd yn gwybod yr ateb, ond ddywedan nhw ddim wrthyf i; maen nhw’n chwerw a balch yn eu tragwyddoldeb. Fedr hydref mo’u disodli nhw, ond gallai eto gael y gorau ohonof i.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Galw Ras Arlywyddol UDA 2016


Un o’r pethau sydd wir yn siomedig am sylwebaeth wleidyddol Gymreig ydi ei bod bron yn gyfan gwbl, boed yn y cyfryngau neu ar-lein, yn ymwneud â Chymru, a hyd yn oed bryd hynny ‘sneb yn sticio’u pennau allan i ddarogan dim. Iawn, gêm wirion ydi darogan gwleidyddol ond mae o dal yn hwyl i’w ddarllen ac mae ‘na werth iddo; ac os na all ein harbenigwyr wneud hynny, pwy all? Ond, un peth sy’n wirioneddol siomedig yng Nghymru a’r Gymraeg ydi’r diffyg llwyr o drafod gwleidyddiaeth ryngwladol ar wahân i ddarnau barn. A dyna’r rant o’r ffordd.

Bron blwyddyn yn ôl, ysgrifennais flogiad ar y ras arlywyddol yn UDA, yn datgan fy mod i’n meddwl bryd hynny fod gan y Gweriniaethwyr fantais. Rŵan, er fy mod i wedi cwyno am ddiffyg darogan uchod, mae’r hyn sydd wedi digwydd dros y môr wedi dangos pam fod pobl mor amharod i wneud hynny! Ond mae’n ras yn rhy ddifyr i’w hanwybyddu.
Dydw i ddim am roi fy marn ar y ddau ymgeisydd yma; dwi’n gwneud hynny ar Twitter a fedra i ddim dioddef y naill na’r llall. Ond rhaid trafod deinameg y peth. Waeth pwy aiff â hi, bydd arlywydd nesaf UDA yn rhywun y mae’r rhan fwyaf o’r wlad ddim yn ei hoffi. Y mae’r ddau ymgeisydd rywsut yn ffwndro; mae’r pethau amhriodol a ddywed Trump yn effeithio arno’n ysbeidiol (dim ond iddo fownsio’n ôl yn ddi-ffael) – y cwestiwn mwyaf o’i ran o ydi a fydd yn dweud y peth anghywir yn rhy hwyr yn y dydd, gan beidio â rhoi cyfle i Clinton ei distrywio’i hun unwaith yn rhagor a throi ras sy’n edrych yn gyfforddus eto’n agos. Dwi’m yn cofio ras wleidyddol o unrhyw fath sy’n ymdebygu i’r peth: mae’r ddau’n ffodus eu bod yn eu hwynebu ei gilydd, achos prin y byddai ganddynt gyfle yn erbyn unrhyw un arall.
Serch hynny mae Clinton yn mynd drwy gyfnod gwael iawn, iawn. Roedd ei sylwadau “basket of deplorables” am gefnogwyr Trump yn rhyfeddol o annoeth. Mae etholiadau, fel Romney yn 2012, ond yn ddiweddarach o blith ymgyrchwyr aros yn refferendwm y DU, wedi dangos pa mor beryglus ydi gwawdio hyd yn oed ran o’r etholwyr fel hynny. Yn wir, mae’n tueddu i fod yn dyngedfennol. Roedd y ‘datgeliad’ yn ddiweddarach i Clinton ddioddef o niwmonia, a bod hi ei ddweud y peth yn gynharach, yn atgyfnerthu’r ddelwedd anonest ohoni, ynghyd â’r ffaith iddi wella’n rhyfeddol o gyflym am rywun a gawsai gyflwr sy’n tueddu i gymryd wythnosau i wella ohono (eto, mae’n drewi o anonestrwydd, cas beth pleidleiswyr). Ac, waeth beth fo’r manylion, mae’r newyddion heddiw bod un o fomwyr Efrog Newydd o Afghanistan fwy na thebyg am helpu Trump, a hyd yn oed gyfiawnhau i raddau rhai o’r pethau mae’n eu dweud.
Dwi’n meddwl y gallai’r newyddion hwnnw fod yn dyngedfennol hefyd. O ystyried fod terfysgaeth eisoes yn fater mor bwysig i bobl yn yr etholiad hwn waeth beth fo’u lliwiau gwleidyddol, mae’n anodd gweld hyn yn lleddfu ar hynny.
Mae gan y ddau hefyd fantais sydd hefyd yn anfantais iddynt. Mae gan Trump graidd brwd drosto ond y tu hwnt i hwnnw mae pethau’n anos iddo. Mae craidd Clinton yn llai brwd i’w weld ond mae ei hapêl – hynny sydd ganddi – efallai’n fwy. Y mae diffyg brwdfrydedd dros y ddau felly’n bwrw amheuaeth dros y canlyniad terfynol.
Mae’r polau cenedlaethol o fis Medi yn awgrymu bod Clinton ar y blaen o lai na 2% (a hynny mewn ras ddwyffordd). Mae’n eithaf difyr fod ymgyrch y Libertariad Gary Johnson i’w gweld yn ei niweidio hi yn fwy na’r Gweriniaethwyr, ond mae’n annhebygol o newid canlyniad yr etholiad mewn difrif. Dyma fy map hyfryd (a wnaed diolch i www.270towin.com) o’r sut aiff pethau pe cynhelid yr etholiad heddiw. Y lliwiau tywyll ydi’r taleithiau sicr a’r rhai golau ydi’r rhai sy’n dechrau corlannu i un ochr.
Rŵan, dydi hwn fawr fwy na fi’n craffu ar bolau a darllen erthyglau dirifedi dros y mis diwethaf, ond mae mantais ddiamheuaeth gan Clinton yma. O ran ‘pleidleisiau etholiadol’ (faint mae bob talaith ‘werth’) mae rhai pwysig fel Minnesota a Pennsylvania wedi dechrau troi’n lasach yn ôl yr arolygon barn. Ar y llaw arall mae rhai fu’n las gynt, fel Ohio ac Iowa’n dechrau troi’n goch. Os ydych chi’n meddwl pam fod rhai yn y de’n goch golau, mae’n fwy achos diffyg data na dim. Hefyd gyda Georgia er enghraifft, jyst uwch Florida, mae’n rhywle y mae’r Democratiaid yn od o hyderus ond, i fod yn onest, maen nhw’n annhebygol iawn o’i chipio; yn enwedig gan eu bod wedi bod yn dweud hynny ers blynyddoedd, a’u bod hefyd wedi dweud pethau tebyg am Texas ac Utah (lle cafodd y Gweriniaethwyr 73% o’r bleidlais yn 2012) dros y mis diwethaf.
Yr unig le heb ddarogan uchod ydi Florida lle mae pethau’n agos iawn. Ond mae Florida’n ddifyr. Mae ‘na gymuned Sbaenaidd gref yno; un sy’n fwy tebygol o gefnogi’r Gweriniaethwyr na gweddill UDA yn draddodiadol (mae Rubio ymhell ar y blaen i’w wrthwynebydd Democrataidd yn y ras Seneddol gyda llaw). Ond mae’n amlygu un broblem gyffredinol i’r Democratiaid; mae nifer y pleidleiswyr cofrestredig yn llawer, llawer is ymhlith pobl Sbaenaidd, a phobl dduon hefyd, nag ymhlith pobl wynion. Mae’n bwysig, bwysig nodi nad ydi’r polau fel arfer yn adlewyrchu hyn.  
Rhaid hefyd gynnwys y ffactor Trympwyr Tawel; rydyn ni’n cael yr un ffenomen yma gyda’r Ceidwadwyr. Faint o’r rheiny sydd yn UDA? Er, mae’n ddigon tebyg yn yr etholiad hwn fod digon o bobl wnaiff bleidleisio dros Clinton sy ddim eisiau cyfaddef hynny chwaith!
Ond beth petai’r duedd raddol, flêr at Trump yn parhau? Rŵan, darogan gweddol ddi-sail ydi’r fath beth, ond o ystyried popeth dwi’n meddwl ei bod yn deg gwneud y fath ddarogan, o ystyried popeth y soniais amdano ar ddechrau’r blog. Beth am inni roi gogwydd cyffredinol oddi wrth Clinton i Trump, ar frig uchaf y margin of error sef 3%? Ffantasïol? Braidd. Ond ceisio cyfleu rhywbeth ydw i yma.
Wrth gwrs, nid dweud ydw i fod yr uchod am ddigwydd; mae gogwydd o 3% o Clinton i Trump yn annhebygol ond feiddiwn i ddim â dweud amhosibl, hyd yn oed os oes amrywiaeth sylweddol rhwng y taleithiau. Ond yr hyn dwi’n ceisio’i gyfleu gyda’r uchod ydi hyn: byddai gogwydd bach iawn yn gwneud pethau’n anos o lawer i Clinton, gan ddod â thaleithiau annisgwyl i mewn i’r gêm. Ydi, mae’n anodd gweld llefydd fel Michigan a Wisconsin yn pleidleisio dros Trump, ond dydy pethau ddim yn amhosibl.
Yn fras, dyma 10 pwynt i’w hystyried:

  1.  Mae Clinton yn ymlwybro i lawr yn y polau; mae Trump yn ymlwybro i fyny. Yng nghyfartaledd data polio cenedlaethol diweddaraf Real Clear Politics, mae Clinton lai nag 1% ar y blaen.
  2. Mae neges Trump, yn enwedig am bethau fel TTP, yn taro tant gwirioneddol yn America ganol. Ac mae’n bwysicach i bobl weld eu bywydau unigol nhw’n gwella nag unrhyw beth arall. Dydi Clinton ddim yn taro tant neb.
  3. Clinton ydi’r sefydliad gwleidyddol sy’n cael cic ddiamheuaeth ym mhedwar ban byd ar y funud.
  4. Er bod mantais enfawr gan Clinton ymhlith pobl o dras Sbaenaidd, mae’r lefelau cofrestru i bleidleisio’n llawer is yn eu plith.
  5. Mae ganddi hefyd fantais fawr ymhlith pobl dduon, ond mae’n annhebygol o sicrhau’r un lefel o gefnogaeth yn eu plith ag y gwnaeth Obama waeth beth wnaiff Trump.
  6. Gyda’i gilydd mae pobl dduon a phobl o dras Sbaenaidd tua 28% o’r boblogaeth. Mae pobl wynion yn 64% gyda’r trwch yn cefnogi’r Gweriniaethwyr. Os bydd y nifer sy’n pleidleisio’n uwch yn gyffredinol y tro hwn, bydd yn debygol, er gwaethaf popeth, o ffafrio’r Gweriniaethwyr.
  7. Efallai bwysicaf oll, mae Trump wedi hen gyrraedd y pwynt lle nad oes neb yn synnu arno, waeth pa mor stiwpid, anonest neu wirion ydi o. Mae’r canfyddiad o Clinton fel dynes gymwys – sef bron yr unig beth o’i phlaid – wedi dadfeilio’n ddifrifol.
  8. Y Trympwyr Tawel y soniais amdanynt uchod. Faint ohonyn nhw sydd yno?
  9. Mae Trump eisoes wedi chwalu pob rheol wleidyddol synhwyrol at ennill … ac wedi ennill.
  10. Ac yn olaf, pwynt difyr iawn sy’n cael ei golli: do, cafodd Obama bum miliwn o bleidleisiau’n fwy na Romney yn 2012, ond mae UDA yn enfawr. Canran ei fuddugoliaeth oedd 3.9%. Landslide nid oedd.

Pwy ag ŵyr beth fydd yn digwydd nesaf yn y ras? Amhosib dweud; gwirioneddol amhosib. Ond taswn i’n ddyn betio, ac er gwaetha’r ffaith na Clinton ydi’r ffefryn (mewn sawl ffordd, yn enwedig os edrychwch eto ar y map cyntaf yn y blogiad hwn, y ffefryn clir), mi fyddai fy mhres i ar Y Donald.
Dwi’n ei galw hi.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Treialon Trem-y-prysgoed


** Wel, fydd hon ddim i bawb, ond flynyddoedd yn ôl ro’n i’n arfer ysgrifennu straeon am fferm ryfedd o’r enw Trem-y-prysgoed. Roedd yna tua wyth stori wirion i gyd, gydag enwau fel ‘Hanes y Gath’ ac ‘A rhuo wnaeth y gwynt’, yn seiliedig ar bobl ro’n i’n eu nabod. Nes i fwynhau eu hysgrifennu nhw’n fawr iawn. Felly am ddim reswm, dyma un ohonyn nhw, fydd, mi dybiaf, yn gwneud dim sens o gwbl i chi, ond sy’n gwneud imi wenu o leiaf. **
6. Treialon Trem-y-prysgoed
“Chi’n siŵr y’ch chi moyn i mi wneud hyn eto Ffermwr Rhisiart?” gofynnodd Llywelyn y Ci Defaid ffyddlon â chyfarthiad blinedig.
          “Wel odw wrth gwrs! Ti yn gi defed wedi’r cwbwl achan!” atebodd y Ffermwr.
          “Ie, ond sai’n gweld y pwynt, mae ‘na ddiffygion sylweddol ynghlwm wrth y cynllun dwl diweddaraf hwn.”
          “Dere wir, ble ma dy ysbryd gwêd?” atebodd y Ffermwr eto, y tro hwn yn fwy siarp. “Pan wy’n whibanu, ti’n mynd i hala’r defed i gyd i miwn i’r gorlan! Alle fe ddim bod yn haws i gi defed, rhan o’r genes t’wel. Ti’n barod achan?”
          Rholiodd Llywelyn ei lygaid, a symudodd yn araf oddi ar ei eistedd i’w bedair coes, yn gwbl, gwbl anfodlon. “Odw, fi’n barod,” meddai, wrth i’r Ffermwr ddechrau chwibanu’r hyn y credai eu bod yn gyfarwyddiadau. Rhedai’r ci o amgylch y cae gwag, ac o amgylch corlan wag. Nid oedd na dafad na maharan i’w weld yn unman. Yr unig ddafad ar y fferm oedd Linor y Ddafad Ddu a oedd yng Nghae Top, a phrin y codasai honno ar y Sadwrn tan yr hwyr brynhawn. Yn sydyn, daeth Llywelyn i stop.
          “Ffermwr, chi’n gwybod fi yma i’ch gwasanaethu, ond sai’n deall wir. Shwt odw i’n fod i allu ymarfer mynd â’r defed i’r gorlan pan ‘sda ni ond un ddafad a honno mewn cae arall?” gofynnodd.
          Myfyriodd y Ffermwr. “Ie, mae ‘da ti bwynt, Leonard,” meddai’n araf.
          “A ‘sdim treialon yn y rhan hon o’r byd wâth p’un ‘ny,” ychwanegodd y ci clyfar. Roedd yn gywir. Roedd Fferm Trem-y-prysgoed yng nghanol unman a phrin fod unrhyw un am symud yn agos ati.
          Ond un craff oedd y Ffermwr Rhisiart. Fflachiodd ei lygaid. “Mae ‘da fi syniad, yr hen gi, mae ‘da fi syniad!” bloeddiodd, wrth i Llywelyn orchuddio’i lygaid â’i bawennau. “Ni’n mynd i gynnal treialon, Treialon Defed Trem-y-prysgoed!”
          “Ond ‘sdim ond un ddafad yma, Ffermwr Rhisiart,” ceisiodd Llywelyn atgoffa’r Ffermwr anobeithiol.
          “Na phoener, wy gam y blân i bawb!” chwarddodd yr hen Ffermwr â hyder lond ei lais.
          Syllai Awen Afal ar yr antics yn y cae. Dyma ei hamser hi i sicrhau ei goruchafiaeth, meddyliasai. Byddai’n gosod bom! Bom i ddinistrio pawb a phopeth a therfynu Trem-y-prysgoed am byth! Âi ati ar unwaith i gyflawni ei chynllun cyfrwys. Wel, fe wnâi, petai ganddi goesau, neu freichiau, neu ddwylo … oedd, fe’r oedd dial ar y byd a hithau’n afal yn gryn her.
          Yr wythnos ganlynol, o Nyth Clyd, gwelsai Jayden a Steve yr adar to, yn eu crysau-t I’m with Stupid gan lymeitian ar goctêls cartref, ymgasglu mawr ar fuarth y fferm. “Ma fe ond yn cael gwneud hyn achos bo’r wraig mas,” canai Steve at Jayden, a gytunodd yn frwd. Hwythau’n unig nas galwyd at ei gilydd ar gyfer yr achlysur. Rhoes y Ffermwr gyfarwyddiadau i’r ci defaid ddod â phawb ynghyd, ac yno’r oedd pawb mewn dwy linell ger ei fron; Sian y Frân, Linor y Ddafad Ddu, Eirianwen y Fuwch, Aneirin yr Afr, Bethan y Llwynog Slei (a oedd yn dylyfu gên a hithau i fod yn y ffau yn cysgu erbyn hyn), Heledd y Wenci Werdd, Ceinwen Morus y Mochyn Twyllodrus, Hawys Hwyaden, Bronwen Gethin y Gath Flêr a hyd yn oed Hafina Hufenfa a ddaeth i gynnig cefnogaeth, dal yn ei het dyn llaeth. Ac o’r pellaf angofedig gaeau cyrhaeddodd greadur tenau rhyfedd â cherpyn am ei phen. Gan glopian yn araf a chloff, ymunodd y Ferlen Fair â’r rhengoedd.
          “Gyfeillion!” bloeddiodd y Ffermwr megis penllywydd, gyda’r ci defaid a Lari’r 4×4 yn gadfridogion bob ochr iddo, “ma ‘ddi’n ddwernod arbennig! Wy wedi ych galw chi ynghyd oherwydd …’ bu saib hir cyn i Lari sibrwd yn ei glust y rheswm iddo alw pawb at ei gilydd ‘…ie! Ie! Ni yma ynghyd i gynnal Treialon Defed Trem-y-prysgoed!”
          “Wel g’wan ta Linor!” chwarddai Eirianwen y Fuwch yn arogl mwg i gyd gan wthio’r ddafad ymlaen. Trodd wyneb Linor yn wyn.
          “Ond fi ydi’r unig ddafad yma!” meddai hithiau â braw lond ei llais gan bron â gollwng ei fodca tonic. “A chewch chi mohonof i mewn corlan, dwi’n gweld dwbwl fel mae hi…”
          “Ond dyma’r gnymllun, y gyngngllyn fawr!” atebodd y Ffermwr yn rhyfedd. “Heddi, fyddech chi gyd yn ddefed dan gyfarwyddyd Llywelyn man ‘yn. Halws y gwahoddiade mas ddyddie nôl i holl ffermydd yr ardal, bydd hi fel ffair yma ymhen dim!” Edrychodd yr holl greaduriaid ar ei gilydd – er nid mewn syndod.
          Codasai Heledd y Wenci Werdd, a oedd yn werdd ryfeddol am wenci, ar ei fyny a chan gnoi drwy’i dannedd gofynnodd â’i llais main, “Ond, Ffermwr, paid becs nawr, ond onid dyma’r unig fferm yn y cyffinie? Dôs ddim fferm arall i gâl am filltiroedd maith ers, wel, ers i chi symud ‘ma a gweud y gwir. Ond paid becs. Ond sai’n deall shwt ma pethau’n gweithio felly. Pan o’n i’n teithio’r byd chi’n gweld … ” dechreuodd adrodd cyn i Linor smashio’i gwydr dros ei phen a’i chnocio allan.
          “Ond fel oedd honno’n ei ddeud,” meddai’r ddafad ddireidus, beryglus, “does ‘na ddim fferm am filltiroedd maith.”
          “Yw hynny’n wir, Llywelyn?” gofynnodd y Ffermwr ffwndrus wrth y ci defaid.
          “Wel, odi,” atebodd. “Dyle chi fod wedi sylwi ers blynydde a dweud y gwir, ond fe wnes i ddilyn eich cyfarwyddiade yn ôl fy arfer, er eu bod nhw unwaith eto’n hollol ddibwynt. Yr unig wahoddiad y galles i ei roi odd yr un i’r unig fferm yn yr ardal, sef Fferm Trem-y-prysgoed, sef yr un a gawsoch chi, er i chi rywsut gael braw o’i weld er sai’n deall shwt.”
          “Wel es ti ar y bws i weld a ôdd rhai o bellach am ddod?”
          “Naddo.”
          “Pam lai ychan?”
          “Fi’n gi. Sai’n cael mynd ar y bws.”
          “O.”
          “Hyd yn oed petawn i ‘sda fi ddim arian achos, unwaith eto, fi’n gi. Chi’n deall nawr?”
          “Ie, wy’n credu fy mod. Onid yw’r byd wedi newid gyment?”
          “Dim felly, naddo.”
          “Ie, fi’n cytuno.”
          “Mae angen gwely arna i – so fi fod lan yr adeg hon o’r dydd,” meddai Bethan y Llwynog Slei gan ddylyfu gên a gafael yn dynn am ei chap nos yn ddifynadd.
“Brensiach y baedd,” sochiodd Ceinwen Morus y Mochyn Twyllodrus, “am ddiwrnod llwyddiannus iawn y bydd hi. Y peth gwaethaf y gallwn ei wneud ydi mynd adre i’r twlc.” A dyna oedd y sbardun.
“Bydd!” bloeddiodd y Ffermwr. “Fe fydd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn!” cyn chwerthin i’r uchel nefoedd.
Eisteddodd y Ffermwr Rhisiartyn ôl yn ei gadair siglo yn yr hwyrnos. “Diwrnod i’r brenin!” ebe’r Ffermwr, “y llwyddiant mwyaf a gafodd y fferm hon eriôd!”
“Shwt chi’n dod i’r casgliad hwnnw, Ffermwr?” gofynnodd y ci defaid, yn eistedd o flaen y tân yn llyfu ei bawennau, wrth i Ena’r Wraig Fferm ddarllen y papur o’r gadair gornel yn fwriadol orchuddio ei hwyneb i osgoi siarad â’i gŵr. “Dôdd dim treialon wedi’r cwbl, so chi’n cofio?”
“Yn union!” atebodd yn gyflym. “Heb gystadleueth dôdd dim dewis gen i ond rhoi’r fuddugolieth i Fferm Trem-y-prysgoed by default! Ac wedyn, yn goron ar y cyfan, treulio’r prynhawn cyfan yn gwneud fy hoff beth, ffermio!” chwarddodd yn llon.
“Esoch chi i yfed potel o wisgi a whydu ar stepen y drws cyn cysgu yn nhwlc Ceinwen Morus,” cadarnhaodd y ci. “Bydde Hawys Hwyaden wedi bwyta’r cnwd i gyd oni fyddwn i wedi’i brathu hi.”
“Ie, ffermio, peth da,” atebodd y cont dwl, gan ei hanwybyddu’n llwyr.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Y wên

Y mae’r wên yn un o’r pethau rhyfeddaf. Nid oes gennym ni ystum fwy amrywiol na hi; gall gwên gelu mil o eiriau, a dofi mil o bryderon. Ac er gwaethaf pob trybini, rywsut, mae anrheg fechan y wên waeth gan bwy yn gallu torri drwy gymylau a tharo’r galon gan chwipiad o lonni pur – ein harf yw yn erbyn y byd.



Rhyfeddaf wên, gwên drist; gwên colled, gwên cynhebrwng, gwên wedi ffrae. Yr adegau hynny pan fo dŵr yn bygwth dy lygaid a’r enaid yn drom gan faw byw – y mae’r wên honno’r odidocaf ohonynt, yn gwahodd cysur ac ennyn perthyn. Er gwaethaf popeth, wyf i a thi a ninnau yma; nid yw’r ddolen hon eto’n golledig yng nghyflawnder popeth.



Ond fy hoff wên i ydi gwên y galon drwy lygaid llawen; y wên sy’n datgelu popeth ac yn chwythu ymaith yr ing gan gorwynt disglair. Honno yw gwên dy fam a’th dad. Honno yw gwên ddidwyll dy ffrindiau. Y wên a roddi i’r rhai sy’n tanio ynot obaith ac yn gwneuthur i garnau creigiog cas y dyfodol droi’n llwybr deiliog am ennyd. Y wên sydd heb angen arni geg. Y wên sy’n gynhesach na choflaid.



Gwên, yn fwy na phopeth, ydi’r hyn sy’n ein gwneud yn fodau dynol. Gall gelu mil o eiriau, a dofi mil o bryderon, ond ni fu’r un wên a darwyd erioed yn wastraff.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Pob nos

Y mae pob nos yn hir. Ond digon hir nid yw; afon sychedig yw a’r tywyllwch yn annigonol amdani. Melino meddyliau ac ildio i’r creulonaf o’u plith; denig i fyd nad yw’n bod eithr o fewn llanast dy benglog bregus ac ysu’n aflwyddiannus ei waredu. Gadael dy ben am y gorwel. Pob atgof yn felysach. Yn finiocach. Pob dymuniad yn demtasiwn dwyllodrus.


Merwino’n araf rhwng y clustogau. Ceisio cysur cynfas. Aflwyddo. Rhy boeth, rhy oer, rhy anghyfforddus. Rhy fyw. Rhy farw.

Lliwiau a lleisiau’n llenwi’r duwch, a’r duwch yn eu trechu liw gan liw, lais gan lais. Llithro o’r byd yn ddi-ffarwél, yn ddi-hiraeth – llithro i gwsg yn ddi-gyfarch, yn ddieisiau. Cipolwg ar ddiffodd llwyr a llawenydd dimbydrwydd y tu hwnt i rith bodoli. Un sŵn, un glec, un ysgytiad yn dy gydio’n ôl i fyd y byw a diawlio’r peth. Y galon yn curo’n ddibwrpas. Y meddwl yn troi’n ddi-gyfeiriad. Ac ar ôl ymdrech y dydd eto ddisgyn yn araf bach fesul anadl. 

Cwsg. Hyfryd gwsg. Lle i ganlyn breuddwyd. Lle i gyfarch hunllefau a’u cynefindra’n caethiwo. Y fan lle taro’r cythraul darian gobaith â gwayw gwirionedd, nes hawlio’r nos. Y fan lle mae dy gryfderau’n adnewyddu eu hunain, yn ymrymuso’n arfwisg amdanat a thwyll eu ffugfawreddu’n tawelu’r gwaed. Cartref cofleidio cyfyngiadau’r bod – hwythau iti’n gell, a’th gell sy’n fach o’u herwydd.

Dyna bob nos.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Eryrod Pasteiog IV: Coflith Calan Trwyn

**Yn amlwg mae Calan Trwyn yn gymeriad dychmygol. Dim ond rhywun gwallgof fyddai’n honni bod cymeriad mor hynod yn seiliedig ar rywun go iawn**

Coffa da am yr hen frawd Calan Trwyn – awdur, bardd, bon viveur, gwnïwr – a fu farw. A fu erioed i Gymru gymeriad mor lliwgar? Yr oedd ei fywyd yn llawn straeon difyr nad oes lle eu hadrodd oll yma am efe’r bywddarluniwr brwd.

Yr oedd iddo’r ochr ysgafn a chwareus na ŵyr y lliaws amdani. Yr oedd yn gydweithiwr difyr a diog, na hoffai ddim yn fwy ond am fynnu gan bawb arall yn y swyddfa bob blwyddyn wy Pasg. Cawsai lu ohonynt bob tro canys na feiddiai neb beryglu gwireddu’r bygythiadau a daflai atynt pe gwrthodent. Yna fe’u rhoddodd yn ei ddesg a’u cadw yno am flwyddyn gyfan, canys na fwytai siocled ei hun, ond gadawodd iddynt bydru yno a drewi’r swyddfa gyfan ag arogl hen siocled nychlyd. Denodd gan hynny bryfaid a threuliai ei ddiwrnodau yn y gweithle’n eu dal, ac yn eu rhoddi mewn bocs a alwai Y Fynwent Bryfed gan wneuthur i bawb arall gyfogi. Ond un felly oedd yr hen Galan a maddeuid  bob tro ei gamweddau direidus yn y pen draw.

Hoff ydoedd hefyd o gerdded coedwigoedd, er nas cerddai drwyddynt eithr trostynt. Aethai â’i lif gadwyn ag ef gan ddifa coed dirifedi o amgylch Ynys Môn. Ar ôl eu gosod yn rhes drefnus dinoethai’n gyfan gwbl a cherddai trostynt yn gweiddi at y gwiwerod: ‘Wele, myfi yw brenin y goedwig!’ ac yna saethu atynt yn aflwyddiannus â’i ddryll. Yr oedd yn wir gas ganddo goed a byddai’n digio pob tro y gwelsai un yn ddi-ffael. Meddai rhai y gallai gwympo coed gan un edrychiad, ond ni phrofid hynny fyth ac ni welais i mo hynny, dim ond y casineb tanllyd y tu ôl i’w sbectol anffasiynol.

Chwerthin sy’n rhaid. Ond mor frwd ei gasineb at y goedwig a’i lythyru blin diflino at Cyfoeth Naturiol Cymru’n mynnu diwedd arnynt (ni chawsai ond ymatebion swyddogol, a’i gwylltiodd yn rhagor; os oes un peth yn wir am yr hen Galan, ni wyddai neb sut i ymateb iddo) yr oedd ganddo un diléit, sef paneidio. Paneidiasai ar ei ben ei hun yng nghaffi’r pentref, neb ond efe a’r hen Idwal, canys gadawsai pawb arall yn frysiog fel haid o wyddau gwylltion pan glywsant y si ei fod ar ddyfod. Eisteddai’n bytheirio Idwal am ddwyawr, yn aros nes i’w baned wan o de oeri’n llwyr cyn ei llymeitian yn fwriadol swnllyd, ac yna’n gadael cyn i Idwal gael dweud dim. Nid mewn deugain mlynedd o gyfeillgarwch agos y cawsai air i sgwrs â Calan, ond un felly oedd Galan, yn siarad yn ddi-baid waeth p’un a wrandawsai gwrthrych ei fileindra arno ai peidio.

Unwaith, bwytodd iâr gyfan gerbron cyfarfod llawn Cyngor Gwynedd.

Gorffwys mewn hedd, yr hen Galan Trwyn.

Cwsg yn dawel, dywysog annwyl

Ymwadiad: Gan fod Calan Trwyn wedi marw, ac yn rhyfeddol o ddychmygol, nid oes modd gwrthbrofi’r honiadau enllibus uchod, sydd yn ddiau’n gwbl wir.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Gwanwyn a Haf

Un o feibion y gwanwyn ydw i. Ces i fy ngeni yn y gwanwyn a dwi bob amser wedi teimlo rhyw ryfeddod dwfn ar yr adeg honno o’r flwyddyn. Dan gymylau gwynion yr awyr newydd a glesni ifanc y dail, mae o wastad wedi rhoi gwefr imi. Pan ddaw’r gwanwyn dwi’n teimlo fy mod i’n ôl adref ar ôl bod i ffwrdd am ry hir.

Ond dyna wanwyn. Gobennydd diogel, gobeithiol; y gobaith cynhenid, anneallus hwnnw a enir gan yr egin cyntaf bregus. Yr ystrydebol ŵyn a’r gwenoliaid, plant y caeau a phlant y gwynt, eto yno. Y clustfeinio beunydd boreol am y gwcw fach ddrwg. Awel oer gyntaf dyddiau’r tes yn llenwi’r ffroenau heb ias y gaeaf. Dydw i ddim yn gwybod beth ydi o am y gwanwyn, a ddeallaf i fyth. Am wn i, y dyddiau prin lle mae pawb yn disgwyl rhywbeth gwell i ddod, yn ffyliaid bob un. Yr ennyd pan fydd rhywun yn penderfynu ar lasiad o win coch gludiog dan yr haul, llyfr wrth law.
Ond megis popeth, gwell y bwriad a’r edrych ymlaen na’r gwneuthur. Os gwanwyn yw llymaid cyntaf y gwydr, yr haf ydi’r hanner ffordd lle ti’n sylweddoli nad ydi pethau gystal â’r disgwyl. Ydi mae’r haul yma, ond lle anwesai haul gwanwyn y caeau, y mae haul haf yn eu taro, yn sychu’n llwyr nentydd a phyllau bach y penbyliaid a chrimpio f’annwyl redyn. Y mae awel oer yn siomi, a phob cawod law yn ergyd. Mae’r ŵyn wedi mynd, ac yn eu lle sŵn peiriannau llenwi’r awyr o’r ffermydd a’r gerddi. Drwy ryw fargen gas, mae cysgodion cymylau’n teimlo’n oerach a rhywun yn sylwi bod yr edrych ymlaen yn well na’r hyn a esgorwyd o groth y flwyddyn.
O na fyddai’n wanwyn o hyd, a chawn i fod yn ffŵl bythol heb fyth sylweddoli hynny.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Cyfle euraidd y mudiad cenedlaethol

Dwi ddim am fynd dros y refferendwm; dwi ddim am bwyntio bai ar neb – wnes i hynny cyn y refferendwm a dwi’n sefyll wrth bob gair – a dwi ddim am fyfyrio am fy nheimladau personol i ar y mater y tu hwnt i ddweud fy mod i wedi dod o’r dyfnder ac yn gweld pethau’n gliriach.

Dwi am fentro dweud na’r canlyniad a gafwyd ydi’r cyfle mwyaf fydd gan Gymru o sicrhau annibyniaeth byth. Bydda i’n gryno, achos er bod angen bod yn glyfar wrth gynllunio hyn oll, a bod angen strategaeth ar waith, mae’r ateb yn rhyfeddol o syml.



Mae’r refferendwm drosodd ac fe’i collwyd. Does dim herio’r peth – mae’r ddeiseb ar-lein ‘na efo’i llofnodion lu yn wastraff amser ac mae angen ei hanwybyddu’n llwyr. Gallai honno, o lwyddo, osod cynsail a fyddai’n sicrhau parhad y Deyrnas Unedig am byth, ond blogiad arall ydi hwnnw. Diolch byth na fydd hi’n llwyddo.

Y sefyllfa sydd ohoni ydi hyn: pleidleisiodd 52% o bobl Cymru o blaid gadael yr UE. Ond mae hynny’n gadael bron hanner y boblogaeth sydd eisiau bod yn rhan ohoni. Yn wahanol i’r sefyllfa a fu, mae hynny’n gadael dau ddewis cwbl, diamheuaeth o glir i bobl Cymru – os ydyn nhw eisiau bod yn rhan o’r UE, rhaid ar annibyniaeth i Gymru. Does yna ddim troi’n ôl i’r Deyrnas Unedig. Ond mae gan Gymru’r dewis.



Gallwn roi i’r neilltu gymhlethdodau di-baid a chymleth a diflas datganoli graddol. Dydi’r rheiny ddim yn tanio pobl – ond am y tro cyntaf erioed, gall y posibiliad o Gymru annibynnol yn rhan o’r UE wneud hynny. Dydi ffederaliaeth ddim yn rhan o’r ddadl ychwaith; yr unig ffederaliaeth wirioneddol sydd i’w chael ydi ffederaliaeth fel rhan o Ewrop.

Targedu’r 48% sydd eisiau a chyfleu’r ddadl fel ag y mae hi: Cymru annibynnol ydi’r unig drywydd yn ôl i’r UE. Dydi honno ddim yn ddadl y gellir ei gwrthbrofi – mae hi’n ffaith a does yr un blaid arall yn gallu dadlau fel arall. Mae honno’n law brin o gryf i’w chael mewn gwleidyddiaeth a byddai peidio dadlau’r peth yn ddi-baid efallai’r peth mwyaf twp i’r mudiad cenedlaethol ei wneud erioed.

Dydi’r 48% ddim am heidio i Blaid Cymru i gyd ond i lawer iawn o bobl, mi dybiaf, yn enwedig yng ngwres y foment, byddai annibyniaeth yn yr UE yn opsiwn llawer, llawer mwy atyniadol na bod ynghlwm wrth Loegr y tu allan i’r UE. Ac mae’n mynd i orfodi pobl i ddewis ochr; cyn heddiw, doedd dim angen gwneud hynny i’r fath raddau yng Nghymru achos y gwir ydi roedd gennym ni ormod o opsiynau i’w hochri â nhw.
 
Ond beth am y 52%? Syml hefyd – ond mae angen bod yn ddewr â’r cyhoedd, hyd yn oed, byddwn i’n mentro dweud, yn ymosodol. Dyma sydd angen ei ddweud wrthynt. Bydd eu bywydau nhw’n anos ar ôl inni adael Ewrop, byddan nhw’n dioddef yn sgîl eu camgymeriad, ac mi fyddan nhw’n gweld eisiau’r Undeb Ewropeaidd. Bu Cymru’n unigryw anniolchgar yn ei phleidlais, a buan y byddan nhw’n sylweddoli hynny. Dydi honno ddim yn codi bwganod nac yn dychryn pobl – mae’r ffigurau ar ochr Plaid Cymru yn hyn o beth. Mae angen pwyntio allan i bobl yn union beth fydd yn cael ei golli o’u cymunedau yn sgîl eu penderfyniad. Pan fydd pobl yn sylweddoli bod eu bywydau’n waeth y tu allan i’r UE, mi fydd yn gwrthbwyso’r don o genedlaetholdeb Prydeinig a Seisnig sy’n anochel ar ddod.
 
Y gwir ydi, mae pobl Cymru am ddioddef ar ôl dewis gadael Ewrop. Er bod cynifer o bobl yn meddwl na allai pethau fod yn waeth, maen nhw’n mynd i fod yn waeth, a’r unig, unig olau yn y tywyllwch hwnnw ydi Cymru annibynnol yn Ewrop. Ac maen nhw’n mynd i sylweddoli ar y peth. A bydd modd eu denu i’r gorlan.


Wrth gwrs, byddai pethau’n haws petai Cymru wedi pleidleisio dros aros – ond mae’r ffaith bod y canlyniad mor agos bron gystal a dal yn gyfle euraidd.

Dwi ‘di treulio’r penwythnos yn anobeithio am ganlyniad nos Iau. Ond mae’r niwl wedi codi rhywfaint, ac mi fedra i ddweud yn gwbl onest ar ôl pendroni fy mod i, am y tro cyntaf ers y bûm i’n ifanc a ffôl a llawn gobaith, yn gweld Cymru rydd yn bosibiliad go iawn.

Mae hwn yn gyfle llawer, llawer rhy dda i’w golli. Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Mewnfudo a’r Refferendwm

Ddywedwn i ddim fy mod i wedi synnu ar y ffaith bod y ddadl ar y refferendwm wedi bod yn un wael. Dwi wedi rhyfeddu braidd ar ba mor wael y mae hi wedi bod; y naill ochr a’r llall yn codi bwganod, a’r anonestrwydd pur o fynnu nad oes i’r ochr arall bwyntiau teg, rhesymegol waeth p’un ai mewn neu allan fydd hi. A dweud y gwir, mae fideo hwn yn crynhoi sut dwi’n ei deimlo am yr holl beth – byddwn i’n argymell i chi ei wylio achos mae’n taro’r hoelen ar ei phen yn well nag unrhyw beth arall dwi wedi’i glywed am yr holl ffars.

Y ddadl fawr efallai ydi mewnfudo, safbwynt, dwi am geisio dadlau, sydd wedi’i golli gan y dosbarth canol rhyddfrydol ers cyfnod o rai blynyddoedd, a’u methiant nhw allai sicrhau bod y DU yn gadael yr UE wythnos nesaf. Cyn bwrw ymlaen, dylwn i nodi dau beth. Y cyntaf ydi dwi ddim am drafod sut mae’r ochr Gadael wedi troi mewnfudwyr yn gocyn hitio achos mi dybiaf fod hynny’n gwbl amlwg i unrhyw un sy’n trafferthu darllen hwn; does yna ddim amheuaeth fod elfennau senoffobig a hiliol yn cronni o amgylch yr ochr Gadael. Yn ail, mewnfudo economaidd sy dan sylw yma, nid ffoaduriaid. Mae unrhyw un sy’n ceisio trafod y ddau beth yn yr un gwynt yn bod yn anonest neu’n ddwl neu’r ddau.

Dylwn hefyd nodi, er didwylledd, fy mod innau’n llwyr yn erbyn mewnfudo digyfyngiad – petai gen i awydd pleidleisio dros Adael mi fyddai lefel y mewnfudo i Brydain (a dwi am edrych ar hyn o safbwynt Prydeinig) yn brif reswm gennyf dros wneud hynny.

Os edrychwch chi ar y polau, pobl o’r dosbarth gweithiol sydd fwyaf brwd dros adael yr UE, gyda’r dosbarth canol yn fwyaf brwd o blaid. Mewnfudo sy’n llywio pryderon y cyntaf am aros, a’r posibiliad o chwalfa economaidd yn poeni’r ail am adael – sefyllfa ryfedd ar yr olwg gyntaf, ond un deg. Mae’r dosbarth gweithiol wedi bod dan y lach ers cyhyd, a heb weld eu bywydau’n gwella ers cyhyd, fel eu bod nhw’n teimlo does ganddyn nhw fawr o ddim i’w golli petai’r economi’n gwaethygu ar ôl gadael yr UE; mae efallai elfen o’r dosbarth canol eisiau cadw’r fraint economaidd a rydd y status quo iddynt, er bod damcaniaethu’n rhan fawr o’r rhagdybiaeth honno gen i.

Ond pam taw mewnfudo sy’n poeni’r dosbarthiadau is yn fwy? Rŵan, mae’r dosbarth gweithiol o’i hanfod yn fwy ceidwadol ar faterion cymdeithasol na’r dosbarth canol, mae hynny’n hen beth. Ond mae’r ateb yn gwbl syml. Caiff un dosbarth fudd o fewnfudo, ac mae’r problemau a achosir yn sgîl mewnfudo bron yn gyfan gwbl yn effeithio ar y llall. Mae gennyf dan sylw yma mewnfudo o’r tu allan i’r UE hefyd, ac er bod hynny rywfaint yn wahanol yng nghyd-destun y Refferendwm, mae o dal yn berthnasol i’r drafodaeth.

Ystyriwch y peth ennyd. Yn lle mae mewnfudwyr yn byw? Nid yn y maestrefi braf, ond yn y rhannau tlotach o ddinasoedd. Heblaw am gael plymar neis o Wlad Pwyl neu rywun o Slofacia i blastro’r wal, dydi’r dosbarth canol jyst ddim yn dod ar draws mewnfudwyr, dyna’r gwir. Pobl dosbarth gweithiol sy’n gorfod cystadlu yn eu herbyn yn y farchnad swyddi am swyddi megis; pobl dosbarth gweithiol sy’n dioddef o gywasgu cyflogau o’u herwydd; pobl dosbarth gweithiol sy’n cystadlu am dai’n lleol; pobl dosbarth gweithiol sy’n byw yn yr ardaloedd hynny lle mae gwasanaethau dan fwy o bwysau achos mewnfudo i ategu’r ffaith eu bod wedi’u tanariannu a’u hanwybyddu ers cyhyd. A phan wyt ti’n teimlo’n fath anobaith ac anniddigwch, dydi sôn am sut mae’r UE yn diogelu hawliau’r gweithwyr jyst ddim yn taro tant; yn enwedig, bosib, ar ôl inni gyd weld y ffordd filain ochrodd yr UE â’r banciau Almaenaidd dros weithwyr gwlad Groeg.

Yr unig bobl y mae’r gystadleuaeth economaidd honno’n fuddiol iddynt ydi pobl fusnes gyfoethog a phobl sy’n gallu fforddio’r gwasanaethau a sgiliau crefft, a rydd y dosbarth gweithiol yn draddodiadol, am bris rhatach. Y ras i’r gwaelod, medda’ nhw. 

Y mae ffordd o amgylch y fath broblemau – er nad yr UE sy’n eu cynnig. Ond mae’r pryderon hyn sydd gan y bobl sydd ar eu colled (neu nad ydynt ar eu hennill o leiaf) o ganlyniad i fewnfudo wedi’u diystyru mewn modd cwbl ffiaidd ers dros ddegawd, ac mae wedi ein harwain lawr trywydd brawychus. A bai’r dosbarth canol, rhyddfrydol a mwy gwleidyddol ydi’r peth yn gyfan gwbl. Ddegawd yn ôl, pan ddechreuwyd mynegi pryderon am lefel y mewnfudo i Brydain ac i rai ardaloedd yn benodol lluchiwyd y cyhuddiad o hiliaeth o bob tu yn erbyn unrhyw un a feiddiai gwestiynu’r peth; gan amlaf gan y dosbarth canol rhyddfrydol at y dosbarth gweithiol, nid ag elfen ansylweddol o ddirmyg, diystyru a “bihafiwch o flaen eich gwell”. A bu tawelwch cymharol ar y pwnc yn sgîl yr ofn o gael eich labelu’n hilgi.

Erbyn pum mlynedd yn ôl, roedd y problemau a’r buddion yn fwy, ond roedd elfen o gasineb wedi treiddio i mewn i’r ddadl. Roedd pethau’n ffrwtian – dyna sy’n digwydd i ddŵr sosban o roi’r caead arni. Diystyru a bychanu oedd y dacteg o hyd – doedd yna ddim modd cynnal dadl gall ar fewnfudo ac eto bai’r dosbarth canol, rhyddfrydol a’r chwith wleidyddol  oedd hyn am sefydlu’r naratif, sef peidio â thrafod y peth am fod hynny’n haws. “Dwi ddim yn hiliol ond…” ddywedai pobl wrth godi llais erbyn hynny, a oedd wrth gwrs yn arwydd o hilgi cudd yn ôl y sawl nad oedd mewnfudo’n effeithio arnynt.

Erbyn hyn, rydyn ni wedi cyrraedd y rhan o’r llwybr lle mae pobl wedi cael llond bol ar gael eu hanwybyddu cymaint ar y mater fel eu bod nhw’n fodlon dweud “dim ots gen i os wyt ti’n meddwl fy mod i’n hiliol”, sy’n arswydus braidd. Dylai fod gan unrhyw un ots am gael ei gyhuddo o hiliaeth, ond ar ôl blynyddoedd o gael eu cyhuddo o hynny’n annheg mae’r cyhuddiad o du’r dosbarth gwleidyddol aruchel yn golygu llawer llai. Ond doedd y sefyllfa sydd ohoni fyth yn anochel. Fe’i crëwyd. 

Petawn wedi cael dadl gall, onest am broblemau mewnfudo a mynd i’r afael â nhw mewn ffordd gall, onest ni fyddai wedi bod y fath fodd i chwipio a chreu’r fath gasineb sy’n bodoli heddiw. Ond mae’n bwysig cofio, dydi’r pryderon am fewnfudo ddim yn rhai hiliol nac yn wleidyddiaeth casineb gan mwyaf hyd yn oed yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni. Er petaech chi’n darllen Twitter – caer fawr ar-lein rhyddfrydiaeth dosbarth canol – fyddech chi’n meddwl fel arall. Er, dydi Twitter yn gwneud fawr fwy na chadarnhau pa mor out of touch ydi ei brif ddemograffeg, sy’n lledu’r un faint o bwlshit a memes disynnwyr â’r ochr Gadael.

Gan hynny yr hyn mae’r ochr Gadael wedi gwneud yn llwyddiannus ac yn gwbl warthus ydi anwybyddu rhai o  gymhlethdodau mannach mewnfudo, fel mewnfudo o’r tu allan i’r UE, gan droi’r cyfan i mewn i un lwmp o anwybodaeth lwyr, gorgyffredinoli ac ystrydebaeth yn gwbl fwriadol a gwneud Gadael yr UE yn ateb i’r cyfan. 

Dydyn ni heb gael dadl ddeallus a chawn ni ddim un rŵan. Bu’r drafodaeth ar y Gwasanaeth Iechyd yn un dwi’n meddwl sy’n cyfleu’r peth; mae’r ochr Gadael yn dweud na all y GIG ymdopi os bydd gormod o fewnfudwyr a’r ochr Aros yn mynnu y câi’r GIG ei chwalu heb fewnfudo gan chwydu dros ddadleuon ei gilydd. Ond mae’r ddau’n iawn. Ewch i unrhyw ysbyty ac mae’n berffaith amlwg pa mor hanfodol ydi gweithwyr tramor i gynnig unrhyw wasanaeth iechyd. Ewch i feddygfa leol mewn ardal â chyfran uchel o fewnfudwyr ac fe welwch bwysau ychwanegol ar y feddygfa honno a thrafferth cael apwyntiad o fewn cyfnod call. Cael a chael.

 

*           *           *

Dyna grynhoi’n flêr fy nheimladau i am y problemau y gall, ac y mae, mewnfudo’n ei achosi i bobl dosbarth gweithiol o ran swyddi a gwasanaethau. Ond mae elfen fwy perygl dwi am fynd ar ei hôl yma, sef yr elfen hunaniaeth a chymunedau cydlynol: er dwi ddim yn bwriadu troedio’n ofalus.
 
Un peth sy’n dod nid yn sgîl mewnfudo o reidrwydd ond lefel sylweddol ohono ydi’r ffordd y gall newid llun cymuned, a’r ffaith bod pobl yn teimlo colli gafael arni. Os rhywbeth, roedd diystyru’r ddadl hon yn llawer mwy perygl na’r rhai uchod, achos mae’n mynd i galon pobl. Nid newid o’i hanfod ydi’r broblem ychwaith ond newid dros nos. 
 
Nid arferai fod yn broblem yn y modd y mae hi heddiw. Gyda llai o fewnfudo arferai pobl gymhathu’n haws i’w cymuned newydd, allan o reidrwydd – doedd dim cymuned alltud ddigonol i syrthio’n ôl arni. Stryd ddwyffordd ydi cymhathu, wrth gwrs, ond mae’r baich mwyaf ar y mewnfudwr, nid y gymuned leol. Dydi hynny ddim yn digwydd mwyach, neu yn sicr ddim i’r fath raddau. Mae lefel y mewnfudo wedi galluogi mewnfudwyr i greu eu cymunedau a’u rhwydweithiau eu hunain i’r fath raddau eu bod yn hunangynhaliol a ddim wir angen fod yn rhan o’r gymuned ehangach, sydd wedi cyfrannu’n arw at ddiffyg cydlyniad cymdeithasol.
 
Dwi’n byw yn Grangetown yng Nghaerdydd y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Mae Grangetown yn cael ei hystyried yn ardal amlddiwylliannol, ond mae hyn yn anwiredd. Nid diwylliannau’n dod at ei gilydd i greu amlddiwylliannaeth a geir yma ond cymunedau ar wahân yn gwneud eu peth eu hunain ac, er yn oddefgar o’i gilydd ar y cyfan, ddim yn cymysgu llawer. Mae’r Arabiaid yn cadw atynt eu hunain, y Pwyliaid yn tueddu i wneud hynny, Hindŵiaid â chymuned gaeedig – o, a hefyd y Cymry Cymraeg. Does dim angen cymhathu. Ac mae hynny’n berygl.
 
Gall rhywun gerdded i mewn i Tesco bach yn Grangetown heb glywed gair o Saesneg – ar yr adeg iawn o’r dydd gallwch chi gerdded lawr stryd heb ei chlywed. Mi fedra i ddeall yn llwyr pobl sydd wedi byw yno hyd eu hoes yn teimlo colli eu cymuned o glywed ieithoedd gwahanol yn dominyddu. Am wn i, mae hynny’n rhan annatod ohonom ni fel pobl. Ac nid dim ond teimlad o golli cymuned ydi hynny ond ei chael wedi’i rhwygo oddi arnoch.
 
Ceredigion, unrhyw un? Abersoch? Benllech? O na, mae Saeson yn symud i ardaloedd Cymraeg yn wahanol. Heblaw am y ffaith, o ran hunaniaeth ac ymdeimlad o gymuned leol, dydi o ddim yn wahanol o gwbl ac mae honni’n wahanol yn anonest. Os ydych chi’n meddwl eu bod nhw’n wahanol, dwi’n fodlon betio’r morgais eich bod chi’n genedlaetholwr dosbarth canol rhyddfrydol; sy’n tueddu i arddel safonau dwbl yn y ddadl benodol hon.
 
O’u plith nhw y daw rhyfeddod bod pobl mewn llefydd â lefel isel o fewnfudo o dramor – y Cymoedd, Cernyw, Gogledd Lloegr – yn pleidleisio dros UKIP achos mewnfudo. Efallai nad ydi’r peth yn syndod yn y bôn. Efallai mai’r gwir ydi eu bod nhw’n gweld Caerdydd, Casnewydd a Llundain ac yn meddwl, yn syml, nad ydyn nhw am i’w hardaloedd nhw fod yr un peth, a’u bod nhw’n ofni taw dyna fydd yn digwydd gyda mewnfudo digyfyngiad.
 
I gwblhau’r cylch, daw hynny â ni’n ôl at y dosbarth canol â’i dueddiad rhyddfrydol a’r dosbarth gweithiol. Pa gymunedau sy’n newid llun o ganlyniad i fewnfudo? Nid yr ardaloedd llewyrchus eithr yr ardaloedd tlotach dosbarth gweithiol, felly megis y dadleuon economaidd, os ydyn ni’n sôn am golli hunaniaeth a’r ymdeimlad anobeithiol o weld eich cymuned leol yn cael ei disodli’n araf gan gymuned ddŵad (neu gymunedau dŵad yn hytrach), unwaith yn rhagor pobl dlotach sy’n dioddef y tolc annifyr hwnnw ar ben y tolc economaidd.

 

*           *           *

 
Mae rhinweddau i ddwy ochr dadl y Refferendwm, er dwi’n gobeithio o waelod calon mai Aros aiff â hi. Yn sicr, mi fydd yr ofnau am fewnfudo y mae’r ochr Gadael wedi’u chwyddo’n ddidrugaredd ac mewn ffordd hyll yn chwarae ei ran os taw Gadael fydd hi. Dwi ddim yn yr uchod yn esgusodi hynny fymryn.
 
Serch hynny, mae bai enfawr ar y dosbarth gwleidyddol, y dosbarth canol a’r chwith wleidyddol am greu’r sefyllfa hon yn y lle cyntaf – mae eu diystyru cyson nhw o bryderon teg pobl gyffredin dosbarth gweithiol ers dros ddegawd wedi corlannu’r dosbarth hwnnw at yr ochr Gadael. Waeth beth fydd y canlyniad fore Gwener, mae’r mater yma i aros, ac os na chaiff ei drafod mewn ffordd fwy agored, mwy aeddfed a llai diystyriol – mewn ffordd sy’n cydnabod pryderon a phroblemau – mae’n eithaf brawychus meddwl beth allai ddigwydd.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Dafad goll ar lwybr sicr

Pan gerddi di lwybrau’r defaid yng nghrasboethni’r haf, chwys hallt dy dalcen yn llifo’n ddiflas i losgi dy lygaid a chân arferol erchwyn y mynydd yn fud wrth i’r anifeiliaid guddio rhag y gwres, fe weli ddefaid. Maen nhw’n gorweddian yng nghysgodion y waliau neu’r coed neu’r cerrig mwyaf, yn ddistaw dioddef dan eu gwlân gaeaf. Ni wyddant fod y llwybr a fedyddiwyd ganddynt hyd yn oed yno; rwyt ti’n eiddigeddus ohonyn nhw. Rwyt ti hyd yn oed yn eiddigeddus o’r ŵyn bach na welant ond un gwanwyn cyn cael eu boddi mewn grefi ar blât Sul, eu gwaed a’u braster yn ei flasuso. 

Achos dwyt ti fwy na dafad dy hun; fe’th fagiwyd yn neidio cerrig y caeau, ac rwyt ti dal yn gallu ei wneud, ac mae gennyt ti o hyd drwyn am snwyro dy ffordd ar hyd y coridorau culion rhwng pentyrrau’r eithin at lannerch weiriog heb gael dy bigo ganddynt. Ond yn wahanol i bob dafad go iawn, un goll wyt ti, dy draed rhwng dau le a dy feddwl rhwng o leiaf ddau fyd yn gyson. Ac er gwellt carpiog beudy dy ben, wrandewaist ti fyth ar dy galon rhag i hwnnw losgi’r beudy i’r llawr, fel y mae byth a beunydd yn bygwth ei wneud.

Drwy ymgais ddisynnwyr i ddenig rhag y cyfan mi wyt ti’n gadael y llwybr defaid weithiau, am newid bach. Weithiau llonnir dy galon gan y daith, gan wenci fach yn loncian neu’r adar bach yn chwarae a’r awyr hirfaith las yn ensynio nef – o! mi wyt ti’n dyheu am y munudau byrion hynny’n fwy na dim – ond yn amlach na heb ymgolli yn y brwyn fyddi di, yn cael socsan mwdlyd ar glwt o rostir, yn diwallu dy sychder yn y pyllau llonydd, budron, cyn cropian yn ôl i’r un hen lwybr cyfarwydd, yn drech na thi dy hun. Ond boed dda neu ddrwg, nid wyt well o’th antur fach ar y cyrion, oherwydd fel popeth, wedi mynd y mae hi. Fyddet ti ddim mewn lle gwahanol ar y llwybr pe na baet wedi ymadael ag ef yn y lle cyntaf. Ti’n dod yn ôl achos bod y cyrion, yn eu hanfod dyfnaf, yr un mor gwbl ddibwynt â’r dro ar y llwybr defaid, ac mae gwirionedd cas hynny’n dy rwygo’n rhacs. 

A dyna ryfeddod ffiaidd y llwybr. Mi wyddost y ffordd yn ôl, mae dy draed yn lle’r wyt ti, ac mi wyt ti’n gwybod yn iawn beth sydd o dy flaen. Ac eto, ti dal yn ddafad wrth ei ddilyn fel deilen ddi-liw yn yr afon; dafad goll sy’n gwybod i le y mae o’n mynd. A’r unig beth sy’n ysgogi pob cam ydi gwybod bod pawb yn union yr un fath â chdi. Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Pytiau ym machlud olaf Mai

Dyma fi, y funud hon, yn sbïo ar yr olygfa odidocaf sydd i’w chael i mi, yn gweld popeth o lethr ddeheuol Moel Faban i Foel-y-ci tua’r gorllewin. Roedd heddiw’n ddiwrnod braf. Roeddwn i’n gallu arogli’r rhedyn ifanc yn y caeau’n gynharach, ond rŵan mae’r cymylau wedi cochi a’r mursennod mân olaf yn darfod gyda’r dydd. Y mae o’m blaen amlinelliad cyfarwydd Carnedd Dafydd a’r Glyderau, a llond cae o frwyn. Mae yno ambell ddafad yn dal i fynd o gae i gae rhwng y waliau cerrig blêr, ac ar fy ne dwy frân ar y gwifrau trydan yn gwmni i’w gilydd ers hanner awr, fel petaen nhw’n cyd-wylio Môn dan wybren danllyd olaf Mai.

 
Mae ‘na dristwch cynhenid ond hyfryd i fachlud nosweithiau’r haf. Fedr rhywun deimlo’r dydd yn ildio’i le i’r nos yn ddiymdrech, a’r nos hithau’n ei anwesu tua’i derfyn anochel. Nid oedd ond hanner awr yn ôl barau diddiwedd o wenoliaid yn llithro ac yn prancio drwy’r awyr yn ddireidus. Y mae rhywbeth gwylaidd iawn yn y peth. Hyd yn oed yma mae ôl dyn ymhobman, a’n gafael dros y tir yn wydn, o’n gwifrau i’n cartrefi i’r chwarel borffor; ac eto ni hidia’r gwenoliaid ddim amdanom. Ni wyddant y sirioldeb maen nhw’n ei roi i mi yn eu gwylio ers pan fûm i’n hogyn bach, a thydi na’r eithin na’r copaon cas yn gwybod hynny ychwaith. Fy nghyfrinach wirion i ydi’r peth.
 
Ond mae’r gwenoliaid yn mynd i’w nythod – maen nhw’n hedfan yn fwy unionsyth wrth fynd am adref. A chyn hir ystlumod fydd yn cymryd eu lle, yn chwilio tamaid o wyfyn twp i de. Ac mi fydda i dal yma’n eu gwylio nhw, wedi gorfod rhoi fy llyfr i’r naill ochr er mwyn cael eistedd mewn tawelwch ac ymdoddi i’r dyffryn; y clwb criced ar y dde, mur deiliog o wrych ar y chwith, a’r ffenestri’n goleuo’n ddifywyd gan belydrau golau’r machlud o’m blaen, ac un chwipiad o gwmwl uwch Glyder Fawr, fel lwmp o hufen ar gacen.
 
Ac am ddeg ar y dot, gwelaf ddwy wennol oaf y diwrnod a’r ystlum cyntaf un, fel petai’r peth wedi’i flaengynllunio. Ac yn nyfnaf haen fy nghalon, dwi wir yn coelio ei fod o.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Etholiad 2016: ateb fy nghwestiynau fy hun

Mae ‘na gymaint o ddadansoddi eisoes wedi bod am etholiadau’r Cynulliad mae’n anodd braidd cynnig unrhyw beth newydd. Felly’r hyn dwi’n ei gynnig ydi ateb i’r cwestiynau a ofynnais yn y blogiad blaenorol – roedd gen i un i bob plaid. Iddi.


Llafur

Pa mor wael sydd angen iddyn nhw ei wneud i golli etholiad yng Nghymru?


Fel mae’n digwydd, mae hwn yn gwestiwn amserol. Eisoes mae ‘na bobl gallach na fi wedi nodi bod y system etholiadol, er gwaethaf yr elfen gyfrannol iddi, yn drwm o blaid Lafur. Er mae’n anodd gen i gredu y gwelwn ni newid mawr yn ystod y tymor hwn o ran hynny – pam fyddai Llafur yn gwthio am newid y system? Ond mae’r ateb ei hun yn syml iawn: llawer gwaeth, a dydi hynny o hyd ddim yn llwyr ddibynnol arnyn nhw eu hunain. Hyd yn oed petai Llafur yn disgyn i’r ugeiniau uchel yn yr etholaethau, go debyg y cadwent y rhan fwyaf o’u seddi. Tra nad oes un gwrthwynebydd clir ganddynt, mae’n anodd iawn, iawn rhagweld unrhyw un yn eu trechu mewn etholiad cynulliad.

Bob etholiad pan fydd Llafur yn gwneud yn wael ac eto’n cadw seddi bydd y gwybodusion yn anochel ddweud mae’n rhaid iddyn nhw wneud yn waeth na hynny (sydd, derp!, yn amlwg yn wir): ond erbyn hyn, dwi’n eithaf sicr nad oes gan neb syniad cadarn o ba mor wael yn union fyddai’n rhaid i Lafur wneud nes y gwireddid hynny.

Cafodd Llafur eu vindicatio yn yr etholiad yma. Defnyddion nhw’r un hen dactegau negyddol ag y maen nhw erioed wedi ac mi weithiodd: y gwir ydi, does gan yr un o’r pleidiau eraill yr ateb i ddatod hyn. Ar ôl 17 mlynedd o lywodraethu, a bod dan y chwyddwydr yn fwy nag erioed o’r blaen, dwi’n meddwl ei bod yn deg dweud bod Llafur yn colli 1 sedd yn 2016 yn gamp go drawiadol.

Y cyfan sydd angen i Lafur ei wneud, mae arna i ofn, ydi dal ati fel erioed. Dydyn nhw heb addasu am na fu’n rhaid addasu. Efallai mai’r hyn y dylai’r pleidiau eraill ei wneud mewn etholiadau, o ran tactegau, ydi nid ceisio bod yn wahanol i Lafur, ond eu hefelychu.

 

Plaid Cymru


A fyddai dod eto’n brif wrthblaid gyda dim ond 12-13 sedd wir yn ddigon i gyfrif fel noson lwyddiannus, eto o ystyried hirhoedledd rheolaeth Llafur ar Gymru?


Wn i’n iawn y bydd llawer sy’n darllen hwn yn anghytuno â’m hateb i hyn: na. Er, ymddengys fod digon o bleidwyr yn fodlon ar wneud dim ond am ennill sedd a dod yn brif wrthblaid eto. Ta waeth, imi, mae ‘na chwe chymhariaeth ddifyr yn yr etholaethau i’w gwneud yma.

Blaenau Gwent oedd canlyniad rhyfeddaf y noson. Mae’n etholaeth lle nad oes gan y Blaid fawr ddim trefniadaeth, dim hanes o lwyddiant a doedd hi ddim ar y radar: mae’r pwynt olaf yn peri cwestiynau difyr ynddo’i hun. Cymharer hynny â Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro – etholaeth lle mae gan y Blaid drefniadaeth a lle lluchiwyd ymgyrchwyr ac adnoddau ati, dim ond i gael ei chanlyniad gwaethaf erioed yno. Allai’r cyferbyniad ddim fod yn amlycach.

Roedd Gorllewin Caerdydd a Llanelli’n ddwy sedd debyg mewn ffordd: trefniadaeth dda, hanes diweddar o lwyddiant, ymgeiswyr amlwg ac egnïol. Daeth Neil McEvoy yn agos i gipio’r gyntaf, ond yn Llanelli cynyddodd mwyafrif Llafur, a hynny er gwaetha’r ffaith fod deiliad y sedd, a gafodd bleidlais bersonol gref, yn camu i lawr. Y gwahaniaeth ydi mai’r Blaid oedd y ffefrynnau yn Llanelli, tra yng Nghaerdydd gobeithiol oeddent yn fwy na sicr o ennill.

Yn olaf, Rhondda a Chwm Cynon. Roedd cipio’r Rhondda’n ganlyniad gwirioneddol wych i Blaid Cymru – efallai doedd hi mo’r ‘sioc’ y cred rhai pobl yr oedd, ond ni waeth am hynny; roedd maint y fuddugoliaeth yn dyst i boblogrwydd lleol Leanne Wood. Dwi’n dweud lleol achos drws nesaf yng Nghwm Cynon cafodd y Blaid un o’i chanlyniadau gwaethaf. Os oes Leanne effect a oes unrhyw le y tu allan i’r Rhondda y dylid bod wedi’i theimlo’n fwy?

Rhoddaf i mo fy nghasgliadau personol am y rhesymau dros y cymariaethau gwrthgyferbyniol uchod, dim ond dweud bod angen i’r Blaid eu hystyried.

Wrth gwrs, diwedd y gân i Blaid Cymru ydi mai un sedd ychwanegol sydd ganddi, a chynyddodd ei phleidlais fawr ddim – 1.3% yn yr etholaethau a 3.0% yn y rhanbarthau. Os ar ôl un o’i hymgyrchoedd gorau erioed, maniffesto a ganmolwyd yn helaeth, a chydag arweinydd poblogaidd ac amlwg iawn, fod hynny’n cyfrif fel llwyddiant, anodd ei gweld yn dod yn agos at fod yn brif blaid Cymru fyth.

Fel gyda chynifer o etholiadau dros y blynyddoedd, roedd hwn yn un anhrawiadol ar y cyfan i Blaid Cymru, gydag un llygedyn o obaith, y tro hwn yn y Rhondda, yn ddigon i blastro’r craciau unwaith eto.

 

Y Ceidwadwyr


Sut ar ôl 17 mlynedd o Lafur, er gwaetha’r ffaith eu bod mewn llywodraeth yn San Steffan, y gall tindroi neu golli seddi gael ei ystyried yn ganlyniad da i’r brif wrthblaid?


Wel – ateb syml, roedd hwn yn ganlyniad gwael iawn i’r Ceidwadwyr. Roedd y gostyngiad yn eu pleidlais yn eithaf sylweddol, ac er iddynt gadw eu seddi presennol yn ddidrafferth iawn, roedd eu methiant i wneud cynnydd yn eu seddi targed yn fethiant llwyr. Dydi’r ffaith fod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai cythreulig o anodd i’r blaid ar lefel Brydeinig ddim yn cuddio’r ffaith nad ydi hi’n ddeufis ers iddynt obeithio gwneud enillion lu yn y gogledd-ddwyrain, yn y Fro a Chaerdydd ac yng Ngŵyr.

Waeth i ni gofio o ddweud hynny, tydi’r wythnosau diwethaf heb fod yr hawsaf i Lafur ychwaith.

Yn wir, methiant heb ronyn o gysur oedd methiant y Ceidwadwyr, eithr efallai am y ffaith eu bod eto wedi ennill mwy o bleidleisiau na Phlaid Cymru yn yr etholaethau. Ond efallai mai’r gwir plaen, diymadferth iddyn nhw ydi eu bod nhw bob amser am wneud yn well mewn cyd-destun Prydeinig nag un Cymreig a bod 2011, yn nhermau’r Cynulliad, wedi bod yn benllanw – anodd eu gweld yn rhagori ar y 25% y cawsant bryd hynny.

 

Y Democratiaid Rhyddfrydol


Os bydd pethau cyn waethed â’r disgwyl, 1-2 sedd, oes unrhyw obaith iddyn nhw fod yn rhan bwysig o wleidyddiaeth Cymru eto?


Efallai bod hwn yn garedicach o gwestiwn na’r rhai uchod mewn ffordd, achos mi ellir troi’r chwalfa hon yn llygedyn o obaith – o fod yn greadigol. Does neb am ddadlau y bu hwn yn etholiad llwyddiannus i’r Dems Rhydd; os rhywbeth roedd hi’n waeth nag y gobeithid.

Serch hynny, efallai bod y tactegau i’w mabwysiadu’n cynnig rhywfaint o obaith. Ar yr ochr wael i bethau, dim ond mewn 4 etholaeth maen nhw bellach yn berthnasol o gwbl; ond o anghofio am bobman arall a chanolbwyntio’n llwyr ar y rheiny gallen nhw, efallai, eu hadfer eu hunain; does yr un y tu hwnt i’w gafael wedi’r cwbl. A chollon nhw ddim llwyth o bleidleisiau, er wrth gwrs roedd eu sefyllfa’n wan beth bynnag.

Er hynny, anodd gwybod yn union beth fydd union ffawd y Dems Rhydd yng Nghymru. Yn sicr, mae pethau’n edrych yn ddu iawn, iawn arnyn nhw. Anodd braidd ydi gweld erbyn hyn ba gyfraniad sydd ganddynt i’w wneud i wleidyddiaeth Cymru. Yn reddfol, dwi’n teimlo y bydd pethau’n gwella iddynt, ond rydyn ni’n sôn am gyfnod o ddau neu dri chylch etholiadol cyn i’r egino hwnnw ddigwydd – a byddwn i ddim yn betio hyd yn oed ffeifar arno.

 

UKIP


Waeth faint o seddi y byddan nhw’n eu hennill, ydyn nhw wir am allu cadw disgyblaeth a bod yr un faint o grŵp erbyn 2021?


Nodyn bach ar y canlyniad ei hun: roedd ennill 7 sedd yn ganlyniad arbennig i UKIP, waeth o ba ongl edrychwch chi arni. Er, dwi’n reddfol deimlo eu bod nhw wedi disgwyl gwneud yn well na’r 12.5% a’r 13.0% a gawsant o ran pleidleisiau – heb sôn am eu broblem fythol o fod yn unman agos at gipio etholaeth.

O ran y cwestiwn, wn i ddim a allwn i fod wedi’i ofyn yn fwy amserol. Lai nag wythnos wedi’r blogiad hwnnw a’r etholiad ac mae grŵp UKIP fel petaent yn chwalu eu hunain yn rhacs yn barod.  

Felly mae’r ateb yn syml. Dim ffiars o beryg.



Y Gwyrddion


Pryd ddaw hi’n amlwg i’r Gwyrddion – sydd eto’n debygol o ennill dim sedd – mai’r unig ffordd y byddan nhw o unrhyw bwys yng ngwleidyddiaeth Cymru ydi drwy fod yn blaid werdd sy’n gwbl annibynnol, fel yn yr Alban?


Dwi’n edifar hyd yn oed gofyn cwestiwn am y Gwyrddion. Roedd eu canlyniad nhw’n wael i’r graddau nad oedden nhw’n haeddu cwestiwn. Ni chawsant yr effaith leiaf yn yr etholaethau ac nid yn unig y collon nhw dir ar y rhestri, ond daethent yn 7fed y tu ôl i blaid Abolish the Welsh Assembly – pwy bynnag ddiawl ydyn nhw.

Ta waeth, mae’n dangos y tu hwnt i amheuaeth amherthnasedd y blaid Werdd yng Nghymru; mae’n cyfiawnhau’n llwyr barn y sawl ohonom fynegodd cyn yr etholiad nad oedd unrhyw reswm eu cynnwys yn y dadleuon. Nid yn unig nad ydi’r Gwyrddion yn berthnasol yng Nghymru, dwi’n synhwyro nad oes ganddyn nhw fawr o ots am hynny chwaith, sy’n golygu dim plaid werdd Gymreig, a dim newid yn eu ffortiwn etholiadol yma.


Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Argraffiadau olaf o’r ymgyrch

Ychydig o hwyl ydi darogan etholiad, ddim mwy na llai. Mae ‘na wastad botensial am sioc fan yma fan draw, ac er mor anwadal ag y gall etholiadau fod, dim ond dau beth dwi’n meddwl sy’n gwbl sicr am yfory. Y cyntaf ydi y bydd pleidlais Llafur yn sylweddol lai nag yn 2011, ac yn ail y bydd gan UKIP aelodau cynulliad. O, a nes i anghofio, bydd gan Lafur o hyd lot mwy o seddi na neb arall.

O ran y pleidiau’n unigol, mae’n eithaf rhyfeddol dros 4 blynedd ddiwethaf fod y polau heb newid fawr ddim i’r Ceidwadwyr na Phlaid Cymru – ers 2014, mae’r Ceidwadwyr wedi yn gyson cael rhwng 19% a 23% (a rhwng 19% a 24% ar y rhestri) a Phlaid Cymru rhwng 18% a 21% (15% a 22% ar y rhestri). O ddadansoddi hynny fymryn, mae’n Ceidwadwyr fymryn yn unig i lawr, a Phlaid Cymru’n anhrawiadol o gyson. Cael a chael fydd hi am yr ail safle eto eleni; o ystyried ein bod ni wedi cael 17 mlynedd o Lafur mae’n fater o nid da lle gellir gwell i’r ddwy blaid, a bod yn garedig.

Dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol hwythau heb weld fawr o newid eu hunain yn y polau ond mae’n debyg oherwydd UKIP y byddan nhw’n cael canlyniad go erchyll; a bydd pleidlais UKIP ar y rhestri’n rhwystr i’r Ceidwadwyr a’r Blaid rhag camu ymlaen (er, yn ôl y polau, does y naill na’r llall wedi gwneud beth bynnag). Mae’n rhyfedd er bod y gogwydd amlycaf yng Nghymru o Lafur i UKIP – a hynny’n ogwydd sylweddol – mai’r gwrthbleidiau fydd yn dioddef fwyaf yn sgil eu llwyddiant.

Ac o ran Llafur – yr un hen stori. Colli pleidleisiau wrth y drol a dal llwyddo bod ymhell ar y blaen. Does neb heblaw am y mwyaf gwirion o optimistaidd ddim yn rhagweld Llafur yn cael o leiaf ddwbl nifer y seddi y caiff yr ail blaid nos Iau wrth i rannau helaeth o Gymru eto lusgo’r gweddill ohonom i lawr gyda nhw. Roedd tactegau Llafur yn yr etholiad hwn yr un fath ag erioed o’r blaen, eu naratif a’u naws yr un fath – mae o wastad wedi gweithio a does ‘run blaid arall wedi dod o hyd i’r modd i’w gwrthdaro. Mae’r polau’n awgrymu, o leiaf o ran seddi, mai llwyddiant oedd y tactegau hynny eto fyth.

 

Prin fod f’argraffiadau wedi newid llawer dros yr ymgyrch ychwaith o ran hynny. Tua deufis yn ôl roedd hi fel petai’r Ceidwadwyr am gael etholiad da iawn eto yng Nghymru – heb sôn am enillion 2015 roedd sïon am lefydd fel Wrecsam a rhannau helaeth o’r gogledd-ddwyrain yn disgyn iddynt. Rywsut, dwi ddim yn gweld hynny’n digwydd ers digwyddiadau’r wythnosau diwethaf. Roedd hi hefyd yn ymddangos bod y gwynt yn dechrau mynd i hwyliau Plaid Cymru dros y pythefnos diwethaf nes i’r pôl diweddaraf, a ryddhawyd funudau cyn i mi ysgrifennu hyn, ddangos i’r gor-frwd yn eu plith nad oedd unrhyw symudiad yn y polau yn fwy nag o fewn y margin of error beth bynnag.

 

Dros yr ymgyrch, mae rhai etholaethau unigol wedi cael cryn sylw fel llefydd a allai newid dwylo – Aberconwy, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Llanelli, Delyn, Wrecsam, y Rhondda, tair o seddi Caerdydd ac eithrio’r un ddeheuol, Bro Morgannwg a Gwŷr yn eu plith (gyda rhywfaint o sibrwd rhyfedd o Flaenau Gwent). Wedi craffu, a siarad, a darllen, a phendroni – heb fod isio sbwylio hwyl neb ddiwrnod cyn yr etholiad – dim ond dwy o’r rhain dwi’n meddwl fydd yn newid dwylo: Llanelli a Gogledd Caerdydd. Mae ‘na ambell un ar y rhestr uchod nad oes gan yr ail blaid ond breuddwyd gwrach o’i hennill petaen nhw’n onest: ond dyna ni, cyn pob etholiad mae pob plaid yn coelio’i chyffro ei hun.

 

Peidiwch â’m camddallt. Hoffwn i weld gweddnewidiad ym map gwleidyddol Cymru ddiog. Ond, unwaith eto, dwi’n eithaf sicr erbyn hyn na fydd hynny’n digwydd. Nid oes rhagorach na Chymru am siomi.

Gair cyflym hefyd am y dadleuon teledu (sydd, ysywaeth mi dybiaf heb gael fawr o sylw ymhlith y boblogaeth ar y cyfan) a’r argraff a roddodd yr arweinwyr dros yr ymgyrch. Doedd Carwyn Jones ddim yn grêt, ond llwyddodd i amddiffyn ei hun a’i lywodraeth aneffeithiol yn weddol gyfforddus a didrafferth. Roedd Kirsty Williams yn arferol o gadarn ac Alice Hooker-Stroud yn chwa o awyr iach os yn gynyddol anweledig wrth i’r ymgyrch aeddfedu. Leanne Wood, yn ôl y we, oedd orau o filltir yn y dadleuon, ond dydi hynny fawr o syndod – mae’r we yn dueddol i fod yn anghywir ynghylch gwleidyddiaeth, ac iawn oedd hi, nid mwy na llai. Un syndod mawr oedd pa mor ddiawledig oedd Nathan Gill; doeddwn i ddim yn meddwl y gallai rhywun fod cyn waethed. Imi, Andrew RT oedd y gorau o’r cyfan – rhywun nad oeddwn i erioed wedi rhoi fawr o sylw iddo o’r blaen ond oedd yn amlwg ymhob cyfweliad a rhaglen holi neu banel yn gwybod ei stwff (p’un ai a gytunwch â fo ai peidio), yn hyderus a ddim yn dod drosodd yn ddrwg chwaith.

Efallai y bydda i’n bwrw golwg dros yr etholiadau a’i oblygiadau ar ôl i’r canlyniadau ddod i mewn. Ond cyn hynny, orffenna i’r blog hwn nid gyda datganiad ond chwe chwestiwn sylfaenol a syml i bleidiau unigol Cymru ar noswyl y bleidlais ei hun.

 

        Llafur: pa mor wael sydd angen iddyn nhw ei wneud i golli etholiad yng Nghymru?

        Ceidwadwyr: sut ar ôl 17 mlynedd o Lafur, er gwaetha’r ffaith eu bod mewn llywodraeth yn San Steffan, y gall tindroi neu golli seddi gael ei ystyried yn ganlyniad da i’r brif wrthblaid?

        Plaid Cymru: a fyddai dod eto’n brif wrthblaid gyda dim ond 12-13 sedd wir yn ddigon i gyfrif fel noson lwyddiannus, eto o ystyried hirhoedledd rheolaeth Llafur ar Gymru?

        Dems Rhydd: os bydd pethau cyn waethed â’r disgwyl, 1-2 sedd, oes unrhyw obaith iddyn nhw fod yn rhan bwysig o wleidyddiaeth Cymru eto?

        UKIP: waeth faint o seddi y byddan nhw’n eu hennill, ydyn nhw wir am allu cadw disgyblaeth a bod yr un faint o grŵp erbyn 2021?

        Gwyrddion: pryd ddaw hi’n amlwg i’r Gwyrddion – sydd eto’n debygol o ennill dim sedd – mai’r unig ffordd y byddan nhw o unrhyw bwys yng ngwleidyddiaeth Cymru ydi drwy fod yn blaid werdd sy’n gwbl annibynnol, fel yn yr Alban?

A dwi’n siŵr, waeth pa ganlyniad a gawn, y bydd hyd yn oed mwy o gwestiynau i’w gofyn fore Gwener!  

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Pryder i mi, a phanig i chwi

Y mae rhai pobl yn ysgrifennu fel math o gatharsis. Dydw i ddim yn meddwl imi erioed â gwneud hynny, heblaw pan fydda i’n flin, fel arfer ar Blaid Cymru neu’n ddiweddarach, efallai i chi sylwi, ar Awstria-ffycffês-Hwngari. Ac, am ba reswm bynnag, dwi’n rhywun sy’n cadw ei feddyliau a’i wendidau mor gudd ag y gall rhag pawb eithr ei ddetholedigion. Mae’n gas gen i bobl yn ‘siarad yn agored’ am bob blydi dim; mae angen i bobl ddallt bod hynny weithiau’n wrthgynhyrchiol – heb sôn am droëdig. Swni’n dadlau bod dyfalbarhad yn well na hunan-dosturi a chwyno wrth bawb am ba mor galed ydi popeth i chi. 

Ac eto, mae’n anodd gen i esbonio pam arall y byddwn i yma’n ysgrifennu hyn. Dydw i ddim yn siŵr fy hun.

Digwyddasai gwraidd y peth rai misoedd yn ôl pan ges i adwaith alergol difrifol un noson. Mae gen i alergedd i bysgod cregyn – mae’n ddatblygiad go newydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, os hynny, ac yn achosi cryn loes imi oherwydd fy mod i wir yn caru pysgod cregyn. Roeddwn i wedi f’argyhoeddi fy hun y noson honno mai yn fy mhen oedd y cyfan ac fy mod i yn fy meddwod y noson gynt wedi bwyta corgimwch ac fy mod i’n iawn.

Ugain munud ar ôl trio cimwch fy chwaer (mae hwnna’n swnio’n rong) roeddwn i ar gadair masáj yng Nghanolfan Red Dragon, yn methu â symud na siarad ac yn crynu’n drybeilig. Ddaeth neb i fy helpu, o bosib yn meddwl fy mod i’n crynu achos fy mod i ar gadair masáj, a lwcus bod y chwaer yno a bod ganddi brofiad o ddelio â sefyllfaoedd tebyg. Doeddwn i methu symud fy mreichiau a oedd y gwbl stiff wrth f’ochr – yn eironig ddigon yn siâp cimwch. Hyd yn oed o ran anaphylactic shock, roedd hwn yn un go ysblennydd. Ond goroesais hen brofiad cwbl annifyr nad ydw i eisiau ei gael byth eto, er bod Alan Llwyd bellach yn gwybod fy ngwendid ac mae’n siŵr ei fod rŵan yn benderfynol o ddial (tasai o’n fyw).

Nid ers y noson honno y bûm yr un fath cweit. Mi sbardunodd ynof rywbeth. Mi ddatblygais yn ei sgîl rywbeth dwi’n amharod i’w alw’n anhwylder, ond yn sicr mae’n chwinc, a hynny o bryder. Dros y misoedd diwethaf dwi wedi cael pyliau lu ohono, yn para weithiau ryw 20 munud i ddyddiau o anesmwythder llai ond cyson. 

Nid rhywbeth yn y meddwl ydi o’n gyfan gwbl, yn wahanol i’r gred, er pan mae o’n cael ei effaith ddieflig mae’n chwarae efo hwnnw hefyd, yn bennaf yn f’argyhoeddi fod fy nghorff i am fynd yn gwbl stiff ac, yn rhyfeddaf oll, fod fy safn am gloi. Bydd rhywun yn teimlo’n llewyg, isio denig, yn cael trafferth ynganu ac yn anadlu’n wael; bydda i hefyd yn teimlo fy mraich chwith yn mynd yn ddideimlad a rhannau o’m corff, fy ngwddw, fy safn a’m cefn gan mwya yn sbazio (fedra i’m meddwl am air callach i’w ddisgrifio). Weithiau fydda i jyst yn crynu’n wirion fel deilen betrus olaf coeden, heb deimlo’n erchyll o wael ac yn gallu ymdopi.

Yn gryno, dwi’n cau lawr yn systematig am gyfnod.

Dros y misoedd diwethaf dwi wedi gorfod gadael bwytai ynghanol pryd (boed am awyr iach, distawrwydd neu jyst gadael yn llwyr) yn llwyr feddwl fy mod i wedi bwyta rhywbeth sydd am fy lladd, gadael y dafarn neu eistedd yno efo fy hwd drosof, gofyn am lecyn distaw mewn parti tŷ, wedi gadael y gwaith mewn blydi ambiwlans yn meddwl bod rhywbeth mawr yn bod, cael cyfnodau byr i ffwrdd o’r gwaith, a’r gwaethaf o bosibl cael pyliau adref ben fy hun sydd wedi arwain at yr ysbyty un neu ddau o weithiau hefyd (er ddim bob tro’n ddi-sail). Weithiau maen nhw’n digwydd pan dwi’n hungover, yn aml pan dwi’n flinedig, weithiau pan dwi’n ddigon sionc ac yn mwynhau bywyd.

Yn wir, roedd yna adeg ddiwedd y llynedd lle’r o’n i wedi laru’n ofnadwy ar yr holl beth, ac yn cerdded bobman yn ofalus ac amwni’n amheus, fel rhyw gath sy’n cael ei hambygio. Ac er imi gael diagnosis o bethau gwahanol – hyperventilation ac, yn ddigon rhyfedd, bod yna grydcymalau yn fy ngwddf i (dwi’n ffycin thyrti) leddfodd yr un ddim ar y pyliau o bryder a phanig. Mae pyliau o bryder a phyliau o banig yn eithaf tebyg i’w gilydd yn y bôn, ond yn wahanol i’m natur dwi’m yn gwahaniaethu rhyngddynt ac wedi cael y ddau. Profiad bywyd de?

Ta waeth. Y mae pryder yn beth annifyr tu hwnt, ac efallai’n gwbl amhosibl i gael rhywun nad sy’n dioddef ohono i’w ddallt, ond yn aml nid yw’n fwy na chyfnod mewn bywyd, ac er fy mod i’n cael pwl gwirion bob hyn a hyn – yr un gwaethaf diweddaraf yn Yr Hen Lyfrgell lle bu’n rhaid i’m cydweithiwr fwy na heb fy nghario i allan – dwi’n well nag yr oeddwn i rai misoedd yn ôl, lle o’n i’n meddwl ar adegau bod y byd ar ben ac yn mynd ddyddiau’n gwbl anesmwyth ac yn argyhoeddedig mai fel ’na fyddwn i am byth bythoedd. A ddim yn siŵr at bwy i droi ychwaith.

Hwnna oedd y peth anoddaf – nid ddim gwybod at bwy i droi ond y newid dros nos deimlais i. O fynd o fod yn hogyn (Hogyn o Rachub de latsh?) hynod o fodlon, yn wir eithriadol o hapus efo bywyd a’i bethau ar y cyfan a jyst yn mwynhau’n gyffredinol, i fod yn rhywun yr oedd mynd i’r pyb neu am fwyd, am gyfnod o ddeufis eniwe, fel petai o’r peth anoddaf, mwyaf argoelus yn y byd. Am wn i dwi’n ffodus fy mod i’n styfnig ar y diawl, achos ar y cyfan mi orfodais fy hun i fynd a dal gwneud pethau a dwi’n meddwl, rywsut, fod hynny wedi fy helpu i ddod dros y gwaethaf. Dwi’n eithaf ffodus hefyd fod gen i synnwyr digrifwch (swreal) – mae adrodd wrth fy hun ac eraill fy mod i’n mynd yn mental neu’n boncyrs wedi ysgafnhau’r cyfan yn fawr; mae’n rhoi rhyw fath o gydnabyddiaeth i’r cont peth heb roi iddo sylw gormodol, gan ei gadw ar yr ymylon.

Wn i ddim a ydw i cweit fy hun eto, neu a ydw i’n ymddangos i eraill yn cweit fy hun. Ond dwi ond drwch blewyn o fod erbyn hyn.

Flynyddoedd yn ôl, dywedodd fy ffrind Lowri Llew wrtha i tasa gen i enw Cymraeg mae’n siŵr na ‘Pryderi’ fyddai o. Ar ôl y misoedd diwethaf dwi’n eithaf hapus nad dyna fy enw, achos mi wn i y byddai pawb yn galw Pryderi Pryderus arnaf, ac erbyn hyn byddwn i’n gaeth i’r tŷ. Fel lwmp o gachu mewn toiled. Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Eryrod Pasteiog IV: Coflith Alan Llwyd

Coffa da am yr hen frawd Alan Llwyd – awdur, bardd, bon viveur, gwnïwr – a fu farw. A fu erioed i Gymru gymeriad mor lliwgar? Yr oedd ei fywyd yn llawn straeon difyr nad oes lle eu hadrodd oll yma am efe’r bywgraffydd brwd.

Yr oedd iddo’r ochr ysgafn a chwareus na ŵyr y lliaws amdani. Yr oedd yn gydweithiwr difyr a diog, na hoffai ddim yn fwy ond am fynnu gan bawb arall yn y swyddfa bob blwyddyn wy Pasg. Cawsai lu ohonynt bob tro canys na feiddiai neb beryglu gwireddu’r bygythiadau a daflai atynt pe gwrthodent. Yna fe’u rhoddodd yn ei ddesg a’u cadw yno am flwyddyn gyfan, canys na fwytai siocled ei hun, ond gadawodd iddynt bydru yno a drewi’r swyddfa gyfan ag arogl hen siocled nychlyd. Denodd gan hynny bryfaid a threuliai ei ddiwrnodau yn y gweithle’n eu dal, ac yn eu rhoddi mewn bocs a alwai Y Fynwent Bryfed gan wneuthur i bawb arall gyfogi. Ond un felly oedd yr hen Alun a maddeuid  bob tro ei gamweddau direidus yn y pen draw.

Hoff ydoedd hefyd o gerdded coedwigoedd, er nas cerddai drwyddynt eithr trostynt. Aethai â’i lif gadwyn ag ef gan ddifa coed dirifedi o amgylch Ynys Môn. Ar ôl eu gosod yn rhes drefnus dinoethai’n gyfan gwbl a cherddai trostynt yn gweiddi at y gwiwerod: ‘Wele, myfi yw brenin y goedwig!’ ac yna saethu atynt yn aflwyddiannus â’i ddryll. Yr oedd yn wir gas ganddo goed a byddai’n digio pob tro y gwelsai un yn ddi-ffael. Meddai rhai y gallai gwympo coed gan un edrychiad, ond ni phrofid hynny fyth ac ni welais i mo hynny, dim ond y casineb tanllyd y tu ôl i’w sbectol anffasiynol.

Chwerthin sy’n rhaid. Ond mor frwd ei gasineb at y goedwig a’i lythyru blin diflino at Cyfoeth Naturiol Cymru’n mynnu diwedd arnynt (ni chawsai ond ymatebion swyddogol, a’i gwylltiodd yn rhagor; os oes un peth yn wir am yr hen Alan, ni wyddai neb sut i ymateb iddo) yr oedd ganddo un diléit, sef paneidio. Paneidiasai ar ei ben ei hun yng nghaffi’r pentref, neb ond efe a’r hen Idwal, canys gadawsai pawb arall yn frysiog fel haid o wyddau gwylltion pan glywsant y si ei fod ar ddyfod. Eisteddai’n bytheirio Idwal am ddwyawr, yn aros nes i’w baned wan o de oeri’n llwyr cyn ei llymeitian yn fwriadol swnllyd, ac yna’n gadael cyn i Idwal gael dweud dim. Nid mewn deugain mlynedd o gyfeillgarwch agos y cawsai air i sgwrs ag Alan, ond un felly oedd Alan, yn siarad yn ddi-baid waeth p’un a wrandawsai gwrthrych ei fileindra arno ai peidio.

Unwaith, bwytodd iâr gyfan gerbron cyfarfod llawn Cyngor Gwynedd.



Gorffwys mewn hedd, yr hen Alan Llwyd.


 

Cwsg yn dawel, dywysog annwyl

Ymwadiad: Gan fod Alan Llwyd wedi marw, nid oes modd gwrthbrofi’r honiadau enllibus uchod, sydd yn ddiau’n gwbl wir.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Mynd am dro

Mynd am dro. Fydda i’n hoff o fynd am dro pan fydda i adref. Ddim yng Nghaerdydd – os y’ch magwyd chi ar lethrau Moel Faban does gan unrhyw ddinas rywbeth call i’w gynnig wrth fynd am dro. Waeth pa mor ddistaw y llecyn gwyddoch nad ydi o ond yn ynys fach dawel ynghanol môr o brysurdeb. Gwell gen i’r llecynnau prysur yn ildio’u lle i’r tawelwch mawr.

Fedra i ddim esbonio ag unrhyw eiriau digonol y newid ynof pan fydda i’n llusgo ‘nhraed ar hyd lannau’r afonydd neu ar y llwybrau defaid, boed yn gwrando ar chwyrlïo cyson y dŵr neu weryru pell y merlod gwylltion gwydn ar y gorwel. Theimla i ddim rhyfeddod – dydi hynny ddim yn fy natur. Fi ydi’r unig berson y gwn amdano nad yw’n teimlo rhyfeddod; fydda i’n meddwl weithiau sut deimlad ydi o. Fedra i syllu ar y sêr am oriau – yn wir, nid oes yn y ddinas unrhyw beth sy’n fy nhristau mwy na’r diffyg sêr na all unrhyw olau stryd ei lenwi – a gwenu gyda nhw, ond mae rhyfeddod y tu hwnt imi. Efallai fi sy’n ddyn hurt. Dyna’r ateb symlaf, callaf.



Ond yng nghwmni’r eithin dwi’n ddyn gwahanol. Wn i ddim p’un ai ydi’r caerau bychain pigog hynny’n fy ngwaredu rhag fy nghythreuliaid a’m gofidion, neu a ydi sglein yr haul dros y môr mawr yn fy llonni mwy nag yr ydw i erioed wedi ei ddeall. Y mae mudandod y llwybrau tan y coed ac ar lethrau’r foel rywsut y tawelu pob llais ac yn tawelu fy meddwl; nid oes ynddynt edifarhau am unrhyw beth a wnaed nac arswydo am yr hyn a ddaw. Nid oes ynddynt ond yr hyn sydd ac mae’n llon ac yn hyfryd. Y mae’n fudandod cyfeillgar, anwesog ac yn un y bydda i’n ysu amdano, ac yn ei angen, i wella fy hun rhagof fy hun. I ymdoddi’n ddim gyda’r llechi sbâr a’r waliau cerrig i gefndir bywyd, lle mae plethwaith y dyffryn rywsut yn cynnig ateb heb iddo ymholiad.



Dwi am fynd am dro. Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Yn ôl at Fenis

Mi soniais dros y Nadolig, os gwelsoch chi’r blogiad, am y pum ymerodraeth fwyaf shit erioed. Mae gen i serch hynny ymerodraethau dwi’n eu hoffi’n fawr. Dwi’n eithaf ffan o Bysantiwm ac Ymerodraeth Awstria (goeliwch chi fyth – gen i broblem fawr efo Hwngari mae’n rhaid), a dwi’n cael blas ar Assyria, ond mae fy sylw diweddar wedi’i hoelio ar rywle go wahanol ac anamlwg.

Fenis ydi’r wladwriaeth honno. Mae fy edmygedd i at y Fenis a fu yn fawr. Ni fu o bosibl unrhyw genedl â feistrolai’r grefft o wladweinyddiaeth yn well, nac mewn ffordd fwy doeth a chyfrwys na Fenis, ac mi oroesodd am hirach na chynifer o’i gelynion a’i chystadleuwyr am dros fil o flynyddoedd gan hynny. Drwy hynny troesant forlyn anwadal ac anghroesawgar yn un o wledydd pwysicaf, godidociaf, cyfoethocaf a mwyaf sefydlog Ewrop. Chymerodd hi neb llai na Napoleon – efallai’r cadfridog disgleiriaf yn y Gorllewin ers yr henfyd – i’w trechu yn y pen draw.

Hyd heddiw, mae Fenis yn ddinas y mae’n rhaid i rywun fynd iddi. Mae ‘na rywbeth am y lle sy’n ennyn rhyw ramant a rhyfeddod fel bron unman arall. Fues i yno ddwy flynedd yn ôl fy hun ac mae’r lle’n swynol. Ond dan yr wyneb mae ‘na bethau eraill yn digwydd yno.



Ddwy flynedd yn ôl, mi flogiais am Fenis. Roedd hynny cyn refferendwm yr Alban, a daroganais bryd hynny mai Fenis o bosibl fydd gwladwriaeth annibynnol nesaf Ewrop, neu efallai’n fwy cywir, y genedl nesaf i ddeffro o’i thrwmgwsg. Gyda’r grymoedd o blaid annibyniaeth yn yr Alban wedi’u trechu dros dro, a fawr ddim symud yng Nghatalonia na Gwlad y Basg mewn difrif, heb sôn am Fflandrys, mae’n rhyfeddol imi nad ydi Fenis yn cael yr un sylw.



Y mae’r dudalen Wikipedia ar refferendwm annibyniaeth Fenis yn un ddifyr i’w darllen, er y soniais am hynny yn y blogiad yn 2014. Ers hynny, mae’n ymddangos nad ydi’r awydd dros annibyniaeth yno wedi dirywio fawr ddim, os o gwbl. Y mae polau ers hynny wedi dangos yn gyson bod mwyafrif pobl Fenis yn ffafrio annibyniaeth – yn y pôl diweddaraf y gwn i amdano ym mis Mawrth 2015, roedd y ffigur yn 57%. Fedra i ddim meddwl am unrhyw le yn Ewrop benbaladr lle mae’r awydd dros dorri’r rhydd o’r wladwriaeth ganolog yn gryfach.

Ond mae’r sefyllfa yn un ddigon rhyfedd. Mae o bosibl fwy o bleidiau o blaid annibyniaeth yn Fenis nag yn unrhyw ‘ranbarth’ tebyg yn Ewrop gyfan – mae o leiaf bump. Yn wir, yn y Cyngor Rhanbarthol (eu cynulliad nhw) mae pleidiau cenedlaetholgar, i raddau gwahanol i’w gilydd, yn dal 32 o’r 51 sedd, gydag arlywyddion o naws genedlaetholgar yn dal arlywyddiaeth y rhanbarth yn nhri o’r pedwar etholiad diweddaraf, gyda Luca Zaia, yr arlywydd cyfredol, yn datgan ei gefnogaeth i annibyniaeth ar sawl achlysur. Mae hynny’n sefyllfa gryfach na chenedlaetholwyr Catalwnia neu Wlad y Basg.

Mae yno hyd yn oed hanes o bobl yn defnyddio dulliau terfysgol i ddod ag annibyniaeth gam yn nes – carcharwyd y rhai diweddaraf a gyhuddwyd o hyn yn 2014.

Dydi Llywodraeth yr Eidal ddim yn ddall i’r hyn sy’n digwydd yno, ac wedi datgan bod cynnal refferendwm swyddogol ar annibyniaeth yn mynd yn groes i gyfansoddiad yr Eidal. Ond eto, all rhywun ddim gweld llywodraeth flêr yr Eidal wir yn mynd i’r afael â’r peth yn yr un modd â Sbaen neu hyd yn oed y Deyrnas Unedig petai’r ymgyrch, neu ymdeimlad efallai sy’n air mwy priodol, dros annibyniaeth yn cryfhau ymhellach. Dydi’r syniad o genedl Eidalaidd byth wedi ymsefydlu’n gryf iawn ar y pentir esgidiog; hawdd byddai ei datgymalu.
 
Problem Fenis, hyd y gwelaf i, ydi un o’r nodweddion hynny sy’n diffinio holl drigolion yr Eidal, er na fu hi erioed yn nodwedd gan Fenis yn hanesyddol – er eu bod nhw’n coelio mewn rhywbeth, maen nhw’n eithaf diymdrech wrth geisio cyflawni unrhyw beth. A does erioed wedi bod un ymgyrch benodol, unedig dros annibyniaeth, am ba reswm bynnag. Yn wahanol i genedlaetholdeb yn yr Alban neu Gatalwnia, sydd wedi ffrwydro dros y blynyddoedd diwethaf, ffrwtian y mae cenedlaetholdeb Fenetaidd ers iddi golli ei hannibyniaeth ddwy ganrif yn ôl. Ond bosib bod hynny’n rhoi iddi seiliau mwy gwydn yn yr hirdymor. Mater o amser ydi hi, mae’n siŵr, nes i’r grymoedd uno a bod cenedlaetholdeb yn Fenis yn cael sylw dyledus.
 
Ddywedais i ddwy flynedd yn ôl mai Fenis fydd gwladwriaeth annibynnol nesaf Ewrop. Ddyweda i fawr fwy na hynny oherwydd dwi ddim isio ailadrodd. Ond os ydi’r Fenetiaid yn cael eu shit at ei gilydd – yn adalw rywsut ronyn o gyfrwyster a chrebwyll anhygoel eu cyndeidiau – Fenis fydd o hyd gwladwriaeth nesaf Ewrop, ac mae hynny’n ddiamheuaeth.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Cachfa ddiweddaraf Plaid Cymru

Digon hawdd, mae’n siŵr, wrth ddarllen blog dwi’n ei ysgrifennu am ffolinebau Plaid Cymru feddwl mai’r bwriad ydi ei thanseilio neu ymosod arni. Ond ni fu hynny erioed, nid unwaith, yn fwriad – hyd yn oed petai pawb mwy na bron neb yn darllen. Yn hytrach mae’r blogiau hynny’n gri o rwystredigaeth lwyr â phlaid wleidyddol sydd, ysywaeth, yn edrych yn gynyddol hurt ac amherthnasol.

Os ydych chi’n darllen hwn mi dybiaf i chi ddarllen am fwriad diweddaraf gwallgof y Blaid i geisio sefydlu rhyw fath o gytundeb â’r Gwyrddion a’r Democratiaid Rhyddfrydol cyn etholiad mis Mai – cynllun na ddylai erioed wedi cael ei ystyried heb sôn am fynd i ddwylo’r cyfryngau. A dyma pam fy mod i yma’n egluro pam fod y syniad nid yn unig yn un hurt, ond yn dangos diffyg crebwyll gwleidyddol o’r math mwyaf annealladwy o du’r sawl a feddyliodd amdano.

 

Cyflwr y pleidiau

Mae rhai, fel Adam Price, wastad wedi sôn am yr angen i sefydlu rhyw fath o gynghrair wrth-Lafur yng Nghymru. Yn gyffredinol dydi hynny ddim yn syniad drwg. Y broblem ydi dydi’r sefyllfa wleidyddol bresennol yn gwbl, gwbl amlwg ddim yn caniatáu hynny (onid yw’n cynnwys y Ceidwadwyr, ac mae hynny’n flogiad arall). Mae’r Gwyrddion yn boenus o amherthnasol yng ngwleidyddiaeth Cymru. Eu canlyniadau diweddaraf yng Nghymru oedd 2.6% y llynedd yn yr etholiad cyffredinol, 4.5% yn etholiadau Ewrop yn 2014 a 3.4% yn etholiadau’r Cynulliad yn 2011. Mae hynny heb drafod y ffaith nad oes ganddyn nhw hyd yn oed gynghorydd yma.

O ran y Democratiaid Rhyddfrydol, mae’n debycach y cawn nhw 0 sedd eleni na 2 – sef y mwyaf y maen nhw’n debygol o’i gael. Yn gryno, ar ôl eleni bydd y Democratiaid Rhyddfrydol hwythau yr un mor amherthnasol i wleidyddiaeth Cymru â’r Gwyrddion.

A hyd yn oed os ydi’r ddwy blaid yn cyrraedd y Cynulliad y flwyddyn nesaf, y sefyllfa orau i’r ddwy fyddai dwy sedd yr un. I roi hynny’n ei gyd-destun mae angen 5 sedd ar blaid i ffurfio plaid seneddol yn y Cynulliad. ‘Eraill’ ydyn nhw fel arall. Rhaid bod yn onest hefyd, mae Plaid Cymru’n annhebygol o gyflawni unrhyw beth o bwys ar Fai’r 6ed.

Egwyddor y peth a natur pleidlais y Blaid

Does gen i ddim gronyn o wrthwynebiad i bleidiau’n dod i gytundeb â’i gilydd i beidio â chystadlu yn erbyn ei gilydd cyn etholiad. Mae pwy maen nhw’n gwneud hynny â nhw’n fater arall.

Dwi wedi blogio o’r blaen am y Gwyrddion – pan geisiwyd dod i ryw fath o gytundeb od â nhw yn 2015. Roedd y peth yn warth. O holl bleidiau Cymru, y Gwyrddion ydi’r Seisnicaf ei naws a dydyn nhw erioed wedi dangos mymryn o frwdfrydedd dros ddatganoli, yr iaith Gymraeg na Chymru fel cenedl. Dylai hynny ynddo’i hun eu gwneud yn wrthun i blaid genedlaetholgar honedig. Yn anffodus, yr hyn a ddengys y ffaith i hyn gael ei ystyried ydi bod cenedlaetholdeb, heb ronyn o amheuaeth bellach, yn ail yn rhestr blaenoriaethau Plaid Cymru y tu ôl i syniadaeth wleidyddol asgell chwith leiafrifol, gyfyngedig.

Yr hyn a ddengys hynny ydi, fel dwi hefyd wedi dweud o’r blaid, anallu neu amharodrwydd mawrion y Blaid i gydnabod … adnabod hyd yn oed … natur ei phleidlais hi. Mae o’n dorcalonnus … o dwp, ac yn drewi o gyfforddusrwydd anhaeddiannol â’i sefyllfa. Unig pwynt gwerthu unigryw Plaid Cymru ydi ei chenedlaetholdeb. Yn hytrach mae hi’n mynd o’i ffordd i geisio apelio at lefftis, lleiafrifoedd a hipis a hynny oll drwy fod yn ofalus iawn peidio ag ypsetio Saeson. Y bleidlais sydd yno i’w hennill – os caf i fod yn blaen – ydi’r dosbarth gweithiol Cymraeg. Nhw ydi’r mwyafrif, a dydyn nhw ddim yn licio Llafur ddim mwy.

 
Y fathemateg etholiadol

Dylai hwn fod yn amlwg, ond yn amlwg dydi o ddim. Byddai pact o’r fath ddim yn dod yn agos at yr 18-22 sedd a grybwyllwyd. Mae hynny’n deillio o amhoblogrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol, amherthnasedd y Gwyrddion yng Nghymru ac anallu cyson Plaid Cymru i ennill y seddi sydd eu hangen arni. Mae’r tri pheth hynny’n wir eleni. A hyd yn oed petai modd cyrraedd 18 sedd, fel lleiafswm, mae problem fwy craidd…

Y strategaeth etholiadol

Dylai hwn fod wedi bod yn boenus o amlwg cyn hyd yn oed meddwl am geisio trafodaethau. Sut yn union y byddai’n gweithio? Iawn, mi fedra i werthfawrogi y gallai weithio i raddau yn yr etholaethau (ond, cym off it, y Dems Rhydd a’r Gwyrddion yn cytuno i beidio â sefyll yng Ngheredigion?) ond does yna ddim hyd yn oed mymryn o gyfle o gael cytundeb yn y rhanbarthau, sef y lle mwyaf addas i gael cytundeb. Fyddai Leanne Wood yn fodlon ildio i’r Gwyrddion ranbarth Canol De Cymru, er enghraifft? A fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn fodlon ildio’r Canolbarth i’r Blaid neu’r Gwyrddion o ystyried eu bod nhw’n wynebu colli pob etholaeth?

Ond dywedwn ni fod hynny, drwy ledrith yn cael ei gytuno arno, mae problem sydd hyn yn oed yn fwy craidd…

Trosglwyddo pleidleisiau

I gael unrhyw gyfle o lwyddo byddai angen i’r pleidiau oll ddarbwyllo eu pleidleiswyr nhw fwrw pleidlais dros blaid arall. A hefyd, byddai angen iddyn nhw gynyddu eu pleidlais oddi ar yr etholiad diwethaf. Mae hynny’n mynd â fi’n ôl at y pwynt uchod – diffyg dealltwriaeth o natur cefnogwyr nid yn unig y Blaid, ond y ddwy blaid arall hefyd.

Gymerwn ni Gaerffili ac Islwyn, sydd yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru lle mae Plaid Cymru’n tueddu i wneud yn gymharol dda. A fyddai’r rhai sy’n pleidleisio i’r Blaid yno’n gallu cael eu darbwyllo gan Blaid Cymru i bleidleisio i’r Gwyrddion ar y rhestr, er enghraifft? Na – does yn yr ardaloedd hynny ddim mo demograffeg pleidleiswyr y Gwyrddion. A fyddan nhw’n cael eu darbwyllo i roi fôt i’r Democratiaid Rhyddfrydol a glymbleidiodd â’r Ceidwadwyr? Wrth gwrs ddim.

A fyddai pleidleiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Canolbarth yn gallu cael eu darbwyllo i bleidleisio dros Blaid Cymru, neu Wyrddion y Gogledd drosti? Na – dydi’r rhai fyddai’n pleidleisio drostynt ddim yn agored i hynny o’u hanfod. Y mae’r holl beth mor rhyfeddol o amlwg o amhosibl dwi bron â sgrechian. Dydi pleidleiswyr Plaid Cymru ddim o reidrwydd yn amgylcheddwyr nac yn rhyddfrydwyr. A dweud y gwir, byddwn i’n dadlau bod y rhan fwyaf helaeth o’i phleidleiswyr y naill na’r llall.

O, ac un pwynt arall.

Rhyddhau’r stori i’r cyfryngau

Wn i ddim o ba ffynhonnell y daethai hyn. Mae fy ngreddf yn dweud – o ddarllen ambell beth ar Twitter – o du Plaid Cymru. Ni allaf ond â mynegi hyn: os dyna’r achos, mae’r ffynhonnell yn haeddu cael ei ysbaddu’n gyhoeddus. Am beth mor rhyfeddol, mor wirioneddol dwp i’w wneud. Mae’n embaras llwyr. Mae’n berffaith amlwg fod y Dems Rhydd – y nhw sy’n wynebu colli pob sedd sydd ganddynt – wedi tynnu allan o’r darpar gytundeb cyn unrhyw un arall. Dydyn nhw sy’n wynebu colli pob sedd, sydd mewn sefyllfa gwbl anobeithiol, ddim yn fodlon rhoi cynnig ar hyn. Achos yn y bôn, dydi hyn ddim yn effeithio ar y Dems Rhydd na’r Gwyrddion. Debyg na chaiff fawr o effaith ar bleidlais y Blaid ar ddiwrnod yr etholiad, does bron dim yng Nghymru’n cael effaith ar ddim gwaetha’r modd, ond i’r rhai sy’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth maen nhw’n edrych yn dwp.

Ylwch, rhowch y peth fel hyn. Mae’n siŵr bod y syniad ddaeth i’r amlwg heddiw wedi cael ei ferwi dros gyfnod a chyda brwdfrydedd. Dydw i ddim yn un i ganu fy nghlodydd fy hun – wir, dwi ddim – ond mae o wedi cymryd llai nag awr i fi, nad ydw i’n fwy na thipyn cyfieithydd sydd erioed wedi gweithio yn y byd gwleidyddol mewn unrhyw ffordd, rwygo’r peth yn rhacs yn y blogiad hwn. Fyddwn i’n gallu dweud mwy, ond mae awr yn ddigon i dreulio ar y gachfa ddiweddaraf ‘ma o du ein plaid genedlaethol ddi-glem.
 
***
 
Ac un gair i gloi, rhag ofn i ryw smartarse droi fyny â chwyno fy mod i’n cwyno am Blaid Cymru ond yn gwneud dim fy hun. Dwi ddim yn aelod o blaid. Pleidleisiwr ydw i: nid mwy na llai. Nid fy nyletswydd i – nid fymryn – ydi dewis plaid wleidyddol na chyfrannu ati. Dyletswydd plaid wleidyddol ydi fy narbwyllo i bleidleisio drosti efo’i syniadau a’i gweithredoedd. Ac ar y funud, dwi bron yn sicr pan ddaw hi at etholiad mis Mai, eistedd ar fy nhin a wna i drwy’r dydd a pheidio â bwrw pleidlais, achos bod holl bleidiau ein gwlad ar hyn o bryd yn gawod o gachu pur. Iawn ydi meddwl yn ddwfn am syniadau , “datrysiadau“, hefyd, ond pan maen nhw’n syniadau shit peidiwch â ffycin pwdu bod rhywun yn pwyntio’r peth allan. Rhowch hwnnw yn eich ffycin cetyn a’i smocio.
 

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Iowa

Bron tri mis yn ôl, ysgrifennais am y frwydr yn rhengoedd y Gweriniaethwyr, a’r ffaith fy mod i o farn waeth pwy fydd yn ennill yr enwebiad, fy mod i o’r farn fod mantais ganddynt yn yr etholiad arlywyddol waeth pwy fydd yn ennill. Yn y blogiad hwnnw, dywedais mai’r bet call am yr enwebiad oedd TCR (Trump, Carson, Rubio). Ar ôl profi bod hyn yn oed llawfeddygon yn gallu bod yn rhyfeddol o wirion, ma Carson bellach yn hen hanes, sydd wir yn dangos anwadalwch gwleidyddiaeth. Ond ddaeth ‘na ‘C’ arall yn ei le, sef yr erchyll Ted Cruz. Felly o’n i bron yn iawn.



Y peth na soniais amdano bryd hynny oedd ras y Democratiaid. Eto, gan ddangos anwadalwch gwleidyddiaeth, mae’r ras honno bellach yn un ddifyrrach o lawer nag ymddangosai ar yr olwg gyntaf.


P’un bynnag, erbyn hyn mae’r cymal cyntaf drosodd – cawcus Iowa. Dyma ambell sylw brysiog am y canlyniadau o’r ddwy ochr i’r ffens wleidyddol.


Y Llwybr i Ennill



Ma’n werth cyn bwrw ymlaen ystyried hyn – cyn 14 Mawrth mae’r cynadleddwyr yn tueddu i gael eu dyrannu drwy system led-gyfrannol. Ar ôl hynny mae mwy o daleithiau â system lwyr neu rannol winner-takes-all, lle bydd yr enillydd yn hawlio’r holl gynadleddwyr os enillan nhw’r bleidlais. Mae’r rhain yn cynnwys taleithiau mawr fel Florida, Illinois, Ohio, Efrog Newydd a’r fwyaf oll, Califfornia.


Y mae’n system fwy cymhleth na hynny ac mae gwahaniaethau rhwng y rhai Democrataidd a Gweriniaethol. Cyrraedd y pwynt hwnnw ydi’r nod i nifer fawr o’r ymgeiswyr.

Y Gweriniaethwyr

Fydd canlyniad Iowa yn y pen draw ddim yn un enfawr, ond ar ei ôl mae ‘na lu o ymgeiswyr sydd yn edrych fel petaen nhw allan ohoni erbyn hyn waeth beth fydd yn digwydd wythnos nesaf yn New Hampshire. Anodd gweld trywydd i’r enwebiad bellach i Jeb Bush, Chris Christie, Ben Carson a  John Kasich ynghyd â’r mân ymgeiswyr eraill. Mater o leihau’r gorlan ydi Iowa a NH.

O ran Trump, roedd Iowa’n dangos bod troi anfodlonrwydd yn bleidleisiau’n beth anodd. Roedd pethau wastad am fod yn lled agos yn Iowa ond roedd methiant Trump i gael ei bleidleiswyr allan yn sylweddol – roedd ei berfformiad o’n waeth na’r margin of error (ac mae hwnna’n gallu bod yn fawr mewn nifer o bolau Americanaidd). Serch hynny, mae hi ymhell o fod drosodd iddo gan nad Iowa oedd y tir ffrwythlonaf iddo. Nesaf daw NH a De Carolina – dwy dalaith y mae Trump ymhellach o lawer ar y blaen ynddynt. Ond gyda’r gwynt wedi’i daro o’i hwyliau rhyw fymryn, a’i anallu i gael pawb sy’n ei gefnogi i bleidleisio, mae’n siŵr fydd pethau’n agosach na’r disgwyl. Byddwn i ddim serch hynny’n ei ddiystyru. Pwy all wir ei weld yn ildio? Na, mae Trump isio mynd yr holl ffordd, ac os bydd o’n methu ag ennill yr enwebiad fydd o’n siŵr o lusgo pawb arall i lawr efo fo’n fwriadol.

Ar y llaw arall roedd Iowa’n ganlyniad mawr i Cruz – sydd yn fy marn i yr ymgeisydd ffieiddiaf o’r cyfan, ond mi roddaf fy marn i’r naill ochr yn y darn hwn. Y cyfan sydd angen iddo ei wneud ydi aros y tri uchaf tan Ddydd Gŵyl Dewi pan fydd llu o daleithiau’n pleidleisio, llawer iawn ohonynt yn y de lle mae ei gefnogaeth gryfaf, gan gynnwys Texas a Georgia. Os gall Cruz o leiaf ennill mewn llu o’r taleithiau hyn bryd hynny, mae o mewn sefyllfa gref iawn, hyd yn oed os yw ei apêl gyffredinol yn gyfyngedig.

Rubio, ar y llaw arall, ydi’r boi i’w wylio bellach. Gwnaeth o’n well na’r disgwyl o gryn ffordd. Ond dydi’r ffordd ddim yn hollol glir iddo yntau chwaith. Mae llawer iddo fo’n dibynnu ar ymgeiswyr eraill yn tynnu allan, a po gyntaf y gorau. Gellir disgwyl i raddau i bleidleiswyr mwy prif ffrwd ddechrau dod ato, er bod hynny’n sefyllfa ryfedd ynddi ei hun. Dydi Rubio ddim yn ymgeisydd cymedrol yn y lleiaf. Hefyd, rhaid cofio, mae o dal y tu ôl i Trump a Cruz yn y rhan fwyaf o’r polau, ac o ystyried pa mor ddiawledig mae’r ymgeiswyr gwirioneddol gymedrol yn ei wneud, mae modd dadlau nad oes gormod o bleidleisiau iddo eu hennill waeth faint ohonyn nhw sy’n tynnu allan. Bydd ei dalaith o, Florida, yn un o’r taleithiau mawr sy’n winner-takes-all yn pleidleisio ar 15 Mawrth, yn dyngedfennol. Yn ôl y polau oll mae o’n drydydd fanno hefyd, gyda llaw. Y gwir ydi, ar ôl New Hampshire a De Carolina, dydi trydydd ddim yn mynd i fod yn ddigon da, rhaid iddo fo ddisodli naill ai Cruz neu Trump yn y ddau uchaf.

Ar y cyfan, cadarnhaodd Iowa rywbeth sy’n amlwg yn y dŵr yn rhengoedd y Gweriniaethwyr. Rydym ni yn Ewrop wedi gweld y Gweriniaethwyr fel plaid eithafol erioed, ond mae ‘na elfennau cymedrol ynddi (mae’r gwahaniaeth rhwng Clinton a Bush , er enghraifft, yn ddigon ansylweddol ar y cyfan). Maen nhw wedi’u llwyr drechu yn yr etholiadau hyn; mae’r Gweriniaethwyr yn fwy asgell dde nag y maen nhw erioed wedi bod. Mae’n anodd i rywun yr ochr yma i’r Iwerydd mewn difri ddweud pa mor niweidiol, os o gwbl fydd hynny iddyn nhw.

Hefyd, mae ‘na gyfle mawr iawn, iawn ar hyn o bryd y bydd y Gweriniaethwyr mewn sefyllfa mewn rhai misoedd lle na fydd gan unrhyw un o’r ymgeiswyr fwyafrif o gynadleddwyr i gipio’r enwebiad. I bob pwrpas bydd mawrion y blaid yn gorfod dethol ymgeisydd os digwydd hynny. Rubio fyddai hynny heb os. Ond mae sut y gallent ei ddewis gan hefyd gadw cefnogwyr Trump a Cruz yn fodlon yn dasg amhosibl, yn enwedig os ydi o dal wedi dod yn drydydd.

Y Democratiaid

Hon oedd y stori, waeth be ddywed neb. Tan yn ddiweddar iawn, iawn, roedd Hillary Clinton ymhell ar y blaen yn Iowa. O drwch blewyn oedd hi’n fuddugol neithiwr. Rŵan, mae o hyd yn anodd gweld hi’n colli’r enwebiad mewn difrif, ond mae’r ffaith bod Sanders nid ychydig fisoedd yn ôl 40% y tu ôl iddi yn y polau yno a bron â’i threchu neithiwr yn arwyddocaol. A hon yw’r adeg berffaith i ddechrau ennill momentwm. Mae’r syniad mai fater o goroni fyddai dewis Clinton wedi’i chwalu, ac mae hwnnw’n newid canfyddiad pwysig. Y mae’n werth cofio hefyd bod Iowa ddim y math o le y byddai disgwyl i Sanders wneud hyn dda, heb sôn am bron trechu Clinton yno.

Yn ôl y polau, mae Sanders ymhell iawn ar y blaen yn New Hampshire. Mae’n anodd gweld ar ôl neithiwr hynny’n newid, ond fe allai o bosibl leihau’r bwlch yn Ne Carolina (lle mae Clinton ymhell ar y blaen). Ond daw Nevada cyn De Carolina, ac mae ambell sylwebydd wedi awgrymu eisoes y gallai Sanders ennill yno. Mae’n sefyllfa od, ond gallai Sanders wneud y dda iawn yn y taleithiau traddodiadol Democrataidd a Clinton ei ysgubo o’r neilltu yn y taleithiau traddodiadol Gweriniaethol. Mae honno’n adrodd cyfrolau – dydi rhaniadau’r blaid Ddemocrataidd ddim mor amlwg na chas â rhai’r Gweriniaethwyr ond mae nhw yno, ac maen nhw wedi dyfnhau.

Yn fwy cyffredinol, mae ymgeisyddiaeth Sanders – er y bydd yn siŵr o fethu yn y pen draw – yn newyddion drwg i’r Democratiaid. Y gwir ydi, dylai rhaniadau’r Gweriniaethwyr fod wedi gwneud pethau’n haws o lawer i’r Democratiaid eleni ond mae ymgyrch hirhoedlog ac annisgwyl am yr ymgeisyddiaeth ar ddod. Efallai ni fydd hynny’n eu niweidio gormod, ond dydi o’n sicr ddim o gymorth.

Mae’r llwybr at yr arlywyddiaeth ei hun o hyd yn un maith a throellog. Bydd yna fawr o oblygiadau i ganlyniad Iowa yn y pen draw, ond mi ydyn ni o leiaf wedi cael cipolwg bach difyr ar yr hyn a allai ddigwydd dros y misoedd nesaf.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Y 5 Ymerodraeth Fwyaf Shit Erioed

Bydd unrhyw un sy’n f’adnabod, y bendithiol rai, yn gwybod mai hanes ydi fy mheth i; llyfrau am hanes ydi’r rhai dwi’n eu darllen yn fwyaf brwd. Mae hanes yn ddifyr. Tydw i ddim yn fath o ysgolor nac ysgolhaig nac arbenigwr, ond dwi’n licio fy hanes yn fawr.

Bywyd ymerodraethau sy’n ddifyr. Y peth ydi, mae pethau lu yn cael eu hysgrifennu am y rhai mawrion, llwyddiannus – y rhai gorau os mynnwch (wn i y bydd yna ryw gont yn darllen yn meddwl “ond mae ymerodraethau’n beth drwg!” ond go with the flow efo fi ar hwn, iawn?) ac mae ‘na ymerodraethau eithaf blydi trawiadol wedi bod ar y ddaear: Rhufain, Ymerodraeth y Qing, Persia, y Galiffiaeth Fwslimaidd ac, sori dweud, yr Ymerodraeth Brydeinig, i enwi ond rhai.

Ond dydi rhestru pethau da ddim yn hwyl. Mae yna ymerodraethau hynod shit wedi bodoli. Roedd yn anodd cyfyngu’r rhestr i bump – pump na fydd pawb yn cytuno â nhw ychwaith. Barodd Ymerodraeth Corea, er enghraifft, 13 mlynedd, sy’n llai na hanner f’oedran i. Barodd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ganrifoedd heb adael ei marc ar y byd. Roedd yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol yn siop siafins (yn wahanol i’r dwyrain; Bysantiwm, a oedd, yn wahanol i’r gred, actiwli yn ôsym) ac mae dwy ganrif olaf yr Otomaniaid yn rhai truenus tu hwnt.

Ond mae ‘na shitiach na’r rhain. Dyma, yn fy marn i, bump o’r ymerodraethau mwyaf shit fu erioed.


5. Ymerodraeth Denmarc (1536 – 1945)

Dwy elfen sydd i shitrwydd Ymerodraeth Denmarc. Y gyntaf ydi’r gwledydd a reolai, a’r ail yw’r gymhariaeth rhyngddi â gwledydd bychain eraill Ewrop.

Unig gyflawniad Denmarc

Doedd Ymerodraeth Denmarc erioed yn Ymerodraeth Denmarc, mewn difrif, gyda llaw. Dechreuodd yr holl hanes di-ddim drwy undeb personol â Norwy a barodd rai canrifoedd cyn i bawb sylweddoli mai gwastraff amser oedd y cyfan. Wrth gwrs, Denmarc ydi Denmarc ac o ran ymerodraethu fuo hi’n ddigon hanner-pan; yn wir, wnaeth hi ddim hyd yn oed lwyddo concro cenedl arall. Etifeddu’r ymerodraeth gan Norwy a wnaeth i bob pwrpas: ym 1814, roedd Sweden wedi hawlio Norwy i fod mewn undeb bersonol â hi, a gadawodd Norwy ei thiriogaethau tramor yn llwyr i’w chyn-bartner.

Gadawsai hynny Ddenmarc yn rheoli tair tiriogaeth sydd efallai’n llai brawychus na thriawd y buarth: Gwlad yr Iâ, Ynysoedd Ffaröe a’r Ynys Las. I bob pwrpas, tri lle doedd neb bron yn byw yno. A chollodd hi Wlad yr Iâ ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Dydw i ddim yn siŵr i fod yn onest a oedd gan Ddenmarc unrhyw ddiddordeb mewn bod yn ymerodraeth. Nath o jyst rywsut ddigwydd.

I fod yn deg, gwnaeth hi ymdrech i ledaenu ei dylanwad i gyfandiroedd eraill. Roedd ganddi gyfres o gaerau yn Affrica, pentrefi yn yr India ac ynysoedd bychain yn y Caribî. Gwerthodd bob un i naill ai Prydain neu UDA, jyst achos ‘mynadd. Tra bod gwledydd bychain eraill Ewrop fel Portiwgal a’r Iseldiroedd wedi dyfalbarhau a chreu ymerodraethau go bwerus a wnaeth ambell waith beryglu dylanwad gwledydd llawer mwy, ddaru Denmarc, yn benderfynol o fyth eisiau cyflawni unrhyw beth erioed, ddim.

Wrth gwrs mae hi dal yn berchen ar yr Ynys Las ac Ynysoedd y Ffaröe. A sôn am Pharoaid…


4. Yr Hen Aifft (3150 CC – 30 CC)

Wel, fydd hwn ddim yn boblogaidd, ond dwi am ei ddweud o. Doedd yr Hen Aifft ddim hanner cystal ag y mae pobl yn ei feddwl. Does â wnelo’i chynnwys yn y rhestr hon ddim â’i hirhoedledd trawiadol, er bod ei hirhoedledd yn ychydig o fyth. Rhwng tua 3150 CC a 1500 CC fe’i rheolid gan linachau brodorol ond treuliodd y fil a hanner o flynyddoedd nesaf yn cael ei chwipio’n ddidrugaredd gan bawb arall o’r Asyriaid, y Babyloniaid, y Persiaid, y Groegiaid a’r Rhufeiniaid – a dydi hynny ddim yn hanner y rhestr. Wnaethon nhw hyd yn oed gael eu cymryd drosodd gan grŵp o’r enw’r Hyksos, nad oeddent yn wreiddiol ond yn grŵp o fewnfudwyr. Peidiwch â dweud hynny wrth UKIP.

‘Mond rhain oedd hi

Hefyd, lwyddodd yr Aifft ddim dinistrio unrhyw un o’i gelynion niferus ei hun. O gwbl. Cafodd pob un o’i gwrthwynebwyr eu llwyr drechu gan ffactorau mewnol neu gan wledydd eraill. Roedd Pharoaid yr Aifft yn dilyn polisi ynysol caeth ac yn canolbwyntio ar ddwyn deunydd adeiladu o feddrodau eu rhagflaenwyr i greu gorffwysfannau godidocach iddyn nhw eu hunain yn hytrach na chymryd drosodd y byd. Na, ddim jôc wael ydi honno, roedden nhw wir yn gwneud hynny – i’r fath raddau dyna oedd ffawd terfynol Amarna, sef blydi prifddinas yr hen Aifft am gyfnod. Yn wir, y pellaf aeth dylanwad yr Aifft oedd Syria, a hynny drwy gyfres o wladwriaethau a dalodd deyrnged iddi yn hytrach nag actiwli concro rhywun. Ac roedd y gwladwriaethau bychain hynny fel y gwynt beth bynnag, yn newid eu teyrngarwch i ba bwy bynnag a fyddai’n rhoi’r fantais fyrdymor orau iddynt.

Ar y cyfan, ddatblygodd yr Aifft fawr ddim dros y cyfnod ychwaith, naill ai’n filwrol, yn gymdeithasol, yn wyddonol, yn wleidyddol nac yn ddeallusol – o ystyried am ba hyd y parodd, ac i wareiddiadau eraill ac ifancach ei hoes ei llwyr goddiweddyd ym mhob un o’r agweddau hynny, ni ellir ond â dod i’r casgliad fod yr hen Aifft, er gwaetha’i henw da a’r rhyfeddod y mae’n ei ennyn, yn sylweddol fwy shit na’r realiti.   

 

3. Ymerodraeth yr Eidal (1886 -1943)

Fel rhywun â gwaed Eidalaidd ynddo ac sydd â hoffter at yr Eidal i’r graddau fe’m harswydwyd gan y syniad o Gymru’n chwarae’r Eidal yn Ewro 2016, dydi hwn ddim yr hawsaf i’w chynnwys ar y rhestr hon, ond ei chynnwys sy’n rhaid. I feddwl mai Eidalwyr, mewn ffordd, ydi puraf ddisgynyddion y Rhufeiniaid – sefydlwyr enwocaf yr ymerodraethau – mae’n rhyfeddol faint o gachfa wnaethon nhw pan geision nhw ailsefydlu Mare Nostrum fil a hanner o flynyddoedd yn ddiweddarach. O leiaf fod gan yr hen Aifft yr esgus o fodoli ym mhlentyndod gwareiddiad a bod Denmarc yn fach, oer ac, wel, Denmarc ydi hi. Gan hynny, wrth feddwl am bobloedd trefnus, cyfrwys a blydi peryg y byd, nid yr Eidalwyr ydi’r gyntaf ohonynt i ddod i’r meddwl. A dyna wraidd y broblem.

Roedd dechrau Ymerodraeth yr Eidal yn un pur bathetig. Pan ddechreuodd Ewrop droi ei sylw at Affrica tua thraean olaf y 19eg ganrif, roedd yr Eidal eisoes yn llygadu Tiwnisia, ond daeth i’r amlwg fod Ffrainc hefyd â’i bryd ar y dalaith (talaith Otoman oedd hi, ar adeg yr oedd yr ymerodraeth honno wedi dirywio i fod yn destun gwawd). Mewn panig, cynigiodd yr Eidal ei rheoli ar y cyd â Ffrainc, a wnaeth heb unrhyw syndod i unrhyw un heblaw am yr Eidal wrthod y cais. Hawliodd Ffrainc Diwnisia a phwdodd yr Eidal.  

Ar ôl degawd o bendroni sut ddiawl aeth y cynllun hwnnw o chwith, mi ddygodd hi borthladd oddi wrth yr Eifftiaid ym 1886, sydd rywsut yn eithriadol o bitw o beth i’w wneud. Wnaeth hi ddim hyd yn oed llwyddo gwneud hyn ar ei phen ei hun, gan gael ei chynorthwyo gan Brydain. Yn hyderus tu hwnt ar ôl y llwyddiant ysgubol hwn, ymosododd ar Ethiopia (yn ymerodraeth ynddi’i hun) a chafodd gweir ddwywaith wrth geisio gwneud hynny – yr unig rym Ewropeaidd i golli rhyfel yn erbyn gwlad Affricanaidd. Wrth gwrs, llwyddodd i hawlio Ethiopia ym 1936 am bum mlynedd ogoneddus.

“Ymerodraeth yr Eidal”

Ei hunig lwyddiant cynnar oedd hawlio’r rhan fwyaf o Somalia, un o’r unig rannau o Affrica heb unrhyw adnoddau naturiol o gwbl ac o bosibl un o’r trefedigaethau mwyaf dibwynt yn holl hanes trist Affrica’r cyfnod hwnnw. A hynny eto gyda rhywfaint o help, neu o leiaf ganiatâd, gan Brydain.

Erbyn 1940 roedd yr Eidal hefyd yn rheoli Libya ac Albania (jyst abowt yn yr ail achos) cyn mynd i ryfel â Groeg yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Aeth ymgyrch honno mor wael, a hynny’n erbyn gwlad sylweddol lai na hi, fel y bu’n rhaid i Hitler atgyfeirio byddinoedd i’w helpu. Canlyniad uniongyrchol hynny oedd y bu’n rhaid iddo oedi wrth ymosod ar Rwsia am rai wythnosau hir – ac mi wyddoch chi beth ddigwyddodd oherwydd hynny.

Roedd Ymerodraeth yr Eidal mor shit fel y cyfrannodd hi’n sylweddol at drechu’r Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac o ystyried ei bod hi ar yr un ochr â nhw, mae hynny’n ddiawledig o ddiawledig.

 

2. Ymerodraeth Canolbarth Affrica (1976 – 1979)

Dydi ymerodraethau ddim fel rheol yn cael eu sefydlu oherwydd bod un person yn gwbl, ddidrugaredd o wallgof, ac efallai nad ydi hon mewn difrif yn cyfrif fel ‘ymerodraeth’ yng ngwir ystyr y gair ond mae’r holl beth mor hurt o wirion rhaid iddo fod ar y rhestr.

Jean-Bédel Bokassa oedd unben Gweriniaeth Canolbarth Affrica – sy’n bodoli hyd heddiw. Yn ddigon annymunol ac ystrydebol ‘unben Affricanaidd’ ei naws mi benderfynodd ar hap ym 1976 y byddai’n well ganddo gael ei gyfeirio ato fel Ymerawdwr nag Arlywydd, er bod Ffycin Nytaryn sylweddol fwy addas. Felly dyna wnaeth o – newid enw’r wlad ac enw’i deitl. Newidiodd o fod yn Fwslim i fod yn Gatholig hefyd ar yr un pryd, fwy na thebyg nid oherwydd unrhyw ddaliadau crefyddol diffuant cymaint â’r ffaith ei fod o jyst isio. Mae unbeniaid yn tueddu i fod yn bobl sy’n gwneud rhywbeth “jyst achos”.

Gwariodd yr Ymerawdwr Bokassa draean o incwm y wlad ar y seremoni goroni, ac er iddo wahodd llu o arweinwyr tramor ddaeth yr un ohonyn nhw iddi. Ei ymateb i hyn oedd cwyno bod pawb arall wedi cadw draw am eu bod nhw’n pwdu fod ganddo ymerodraeth, a hwythau heb un. O ddiystyru’r ffaith ei fod yn llofrudd seicopathig, mae hynny’n eithaf ciwt.

Gorsedd Bokassa yn ei goroni – ia, go iawn.

Cafodd yr ymerodraeth ei diddymu pan roedd coupyn erbyn Bokassa pan oedd wrthi’n ymweld â Gaddafi ym 1979. Mae’n drist braidd fod y wlad erioed wedi adfer ei hun o hynny a’i bod dal yn dioddef problemau treisgar enbyd hyd heddiw, ond dydi hynny ddim yn esgusodi’r ffaith, yn nhermau ymerodraethol, roedd Ymerodraeth Canolbarth Affrica’n hynod o shit.

 

1. Awstria-Hwngari (1867 – 1918)

O fy Nuw. Os ydych chi wedi fy nghlywed i’n trafod hanes ar ôl peint neu ddau, dwi’n meddwl eich bod wedi fy nghlywed yn gwawdio Awstria-Hwngari. Sgwrs bathetig gan berson trist, mi wn. Ond waeth pa mor bathetig ydw i fel person, dwi’n well nag Awstria-Hwngari.

Doedd eu rhagflaenwyr, Ymerodraeth Awstria, ddim yn shit. Roedd honno’n ymerodraeth ddiwylliedig ac, am gyfnod, rhyfeddol o ryddfrydol am ei hoes. Roedd hi hefyd yn hanfodol wrth drechu’r Otomaniaid nid unwaith eithr dwywaith rhag rheibio i berfeddion Ewrop. Ac er i Napoleon ei threchu ar faes y gad, roedd hi’n ddigon cyfrwys i beidio â adael iddo fynd yn gwbl drech na hi a daeth allan o’r rhyfeloedd hynny’n gryfach nag erioed. Yn fy marn i, mae’n anodd iawn, iawn dychmygu Ewrop gyfoes heb gyfraniad Awstria. Sydd efallai uwch bopeth yn adlewyrchu’n wael ar Hwngari.

Y gwir oedd roedd Awstria-Hwngari’n hen ymerodraeth flêr, yn wleidyddol ac yn strwythurol a heb unrhyw hunaniaeth a unodd bawb na chyfeiriad penodol, sy’n eithaf hanfodol mewn ymerodraeth. Gellid dweud rhywfaint am ei natur amlethnig ond rhyw oddef ei gilydd wnaeth bawb fu’n rhan ohoni yn hytrach na mwynhau, mae o ychydig fel myfyrwyr sy’n byw efo pobl eraill sydd ar yr un cwrs â nhw yn hytrach na phobl y maen nhw’n mynd ar y piss efo nhw. Roedd hyd yn oed ymdrechion yr ymerodraeth i gydnabod pob iaith ac ethnigrwydd, er yn ganmoladwy iawn, yn rhai aneffeithiol a arweiniodd at greu mwy o densiwn oddi ynddi na dim arall ac a gyfrannodd yn fawr at ei diddymu yn y pen draw.

Yn filwrol, ymladdodd Awstria-Hwngari ddim o gwbl tan y Rhyfel Byd Cyntaf lle roedd hi’n eithaf aneffeithiol ac, rywsut, lleihaodd poblogaeth y moch yn yr ymerodraeth gan 90% yn ystod y rhyfel hwnnw sy’n ystadegyn gwirion iawn sy’n gweddu ymerodraeth wirion iawn.

Llun teuluol olaf Awstria-Hwngari

Pan geisiodd oresgynnu Serbia, collodd yr ymerodraeth dros hanner ei byddin yno, sy’n wirioneddol ryfeddol o ystyried bod Awstria-Hwngari’n cael ei hystyried yn un o bwerau mawrion y byd bryd hynny a bod Serbia yn un o wledydd lleiaf Ewrop y pryd. Cafodd hunllef o ryfel ar y cyfan yn erbyn Rwsia (sef y Rwsia a fu’n rhaid tynnu allan o’r rhyfel am iddi wneud mor wael). Wnaeth hi ddim hyd yn oed llwyddo yn erbyn yr Eidalwyr (ia, nhw eto); yn wir, wnaeth hi mor wael ar feysydd y gad yng nghyfnod olaf y rhyfel yn eu herbyn fel yr arweiniodd bron yn uniongyrchol at ddiddymu’r ymerodraeth.

A dyna’r peth mwyaf pathetig oll am yr ymerodraeth hon. Pan gododd y cyfle ym 1918 i ddiddymu’r ymerodraeth roedd pawb eisiau gwneud hynny. Pawb, hyd yn oed yr Awstriaid a’r Hwngariaid. Doedd yna ddim ymdrech o du neb i’w hachub. Gwnaeth hyd yn oed y teulu brenhinol ddim ond am geisio’n wangalon ddod yn benaethiaid ar Hwngari. Roedd hi’n ymerodraeth a gyflawnodd uffar o ddim, a wnaeth uffar o ddim, ac a wywodd i fod yn uffarn o ddim heb fod gan neb uffarn o ots. A llai na chanrif ers ei diwedd, does bron neb yn cofio amdani.

Awstria-Hwngari, llongyfarchiadau – yn swyddogol yr Ymerodraeth Fwyaf Shit Erioed.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Eryrod Pasteiog III: Caryl Parry-Jones a’r Wy

Pei pluog y wybren welw; yr eryr pasteiog yw.

 
Eisteddai Caryl Parry-Jones â’i llygaid yn llonydd anelu at yr wy. Eisteddai’r wy yn llonydd hefyd gan syllu’n ôl. Roedd ei chadair bren yn anghyfforddus, ond ei hunig gadair bren ydoedd, felly eisteddai arni’n eiddgar. Ni allai fforddio colli un arall. Un wy oedd ar ôl ganddi, a chymerodd ato fel gwair at y pridd, gan ei anwesu yn ei mynwes am bedair awr hir. Llwgai am na chawsai wy, ac nid oedd ar ôl yn y tŷ fwyd eithr tameidiau caws y noson gynt, ac ymenyn.

Roedd y tŷ mor unig ers ymadawiad Huw Chiswell, neu, fel y’i gelwid gan ei ffrindiau, “Huw”. Lletyai yno am sbel, ond blinodd ar y deuawdu cyson dibaid a gadawsai’r noson gynt, gan adael Caryl heb gwmni; heb ddim, yn wir, eithr ei dri sandal a’i un esgid dda.

Ni segurodd hithau drannoeth ymadawiad Huw. Aeth i’w phot celf, a chael ffelt pen glas allan. Gafaelai am yr wy’n ofalus, a llunio arno ddwy lygad, trwyn smwt, tamaid o wallt a gwên fawr garedig. Fe’i gosododd yn ofalus yn y twb ymenyn a’i roddi ar y bwrdd. Gwenai iddi ei hun.

“Y mae gennyf yn awr gwmni,” meddai’n fuddugoliaethus. Ac edrychodd ar yr wy. A’r wy a edrychodd yn ôl. Gwenodd y ddau at ei gilydd am weddill yr wythnos. Ond nid oedd hyd yn oed i Garyl Parry-Jones wy’n gwmni digonol. Suddodd ei chalon yn y pen draw ac meddai at yr wy, “O, oni fyddet fyw. Byddwn fam iti”.

Roedd fflachiad arian a’i dalliodd ennyd, ond pan welsai drachefn gwelsai dylwythen deg foliog yno o’i blaen. “Henffych Garyl,” meddai’r dylwythen, “yr wyf yma i ateb eich dymuniad. Myfi yw Tylwythen Deg yr Wyau.”

“Brensiach a brawychiaeth,” ebe Caryl, “pwy ydych chi?”

“Clywais gri eich calon. Deuthum i’w hateb, gantores gaboledig.”

“Pam ydych chi yma?” holodd Caryl.

“Rhoddaf i’r wy fywyd a chwi a fyddwch iddo’n fam!”

“A ydych yma i roi bywyd i’r wy a’m gwneud iddo’n fam?”

“Yli,” meddai’r dylwythen wyau, “stopia ofyn pethau dwi newydd ddweud. Mae’n blentynnaidd, ac mi wyt ti’n ddynas yn dy oed a’th amser. Mae gen i gannoedd o ddymuniadau wy i wneud heddiw fel y mae hi, heb orfod dioddef dy nonsens di. Wyt tisho’r wy ‘ma fyw neu be?”

“Ydw,” atebodd Caryl yn bwdlyd ar ôl saib, yn eiddgar eisiau ymddwyn yn anaeddfed. Ennyd, yr oedd fflach arall. Rhwbiodd Caryl ei llygaid. Ac o’i blaen, gwelsai’r llygaid bychain del yn syllu arni, a’r geg fechan ar wyneb yr wy yn edrych arni’n llon. “O fy wy bach!” gorfoleddai, “Wyt fyw! Fe’th alwaf yn Hermon a chawn gyd-fyw yma hyd ddiwedd oes!”

Ond troes gwên yr wy’n banig. “O Mam,” meddai’n drist, “pa beth a wnaethoch? Edrychwch arnaf. Ni allaf gerdded canys nad oes gennyf goesau. Ni allaf ymestyn na gafael am nad oes gennyf freichiau na dwylo. Ac rydych wedi fy rhoi mewn twb ymenyn, yn goron ar y sarhad. Nid yw hyn yn ffordd i neb fyw!* O, paham a roesoch imi fywyd mor greulon a disylwedd? Pa beth a wnaeth i chi feddwl mai syniad da byddai rhoi bywyd i wy?”

“F’anwylyd,” atebodd Caryl yn ddagreuol, “o, f’anwylyd. Rwyt yn gywir. Tyrd yma, ‘machgen”. Ac ymafaelodd am yr wy bach, a rhoddi cusan dyner am ei gorun, a’i wasgu nes i’w blisg ildio a’i bysedd drywanu’i felyn. Wylodd yn wyllt, fel na wylai neb ers Llywelyn, gan rolio ar y llawr ym mherfeddion ei mab wyog, a rholiodd i’r parlwr a rholiodd i’r ardd ac yna rholiodd i’r gegin.

Rhedodd Golwg360 y pennawd “Caryl Parry-Wy” pan dorrodd y stori yn y cyfryngau, oherwydd dyna’r math o bennawd y byddai Golwg360 yn meddwl amdani.

*heblaw am Dyl Mei.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Etholiad UDA 2016 – Y fantais â’r Gweriniaethwyr

Fydda i’n cymryd diddordeb yng ngwleidyddiaeth mwy o wledydd na Chymru, er bod yn rhaid imi gyfaddef fod fy niddordeb yn ein gwleidyddiaeth ni, sy’n hynod o ddiflas ac yn llawn gwleidyddion didalent, yn anodd ei gynnal, ac mae BlogMenai wedi hen fonopoleiddio gwleidyddiaeth Iwerddon – sy’n iawn gen i achos does gen i fawr o ddiddordeb yn y Gwyddelod nac amser iddynt chwaith.

Ond dwi’n cadw llygad go fanwl ar wleidyddiaeth ambell wlad arall – Ffrainc, yr Eidal ac, wrth gwrs, yr Unol Daleithiau. O ran UDA, mae hyn am ei bod mor wahanol i’r math o wleidyddiaeth a gewch yn Ewrop ond mae hi’n wleidyddiaeth fywiog, ddifyr hefyd. Dwi ddim am fynd i drafod Democratiaid yn erbyn Gweriniaethwyr yn y blogiad hwn, mater arall ydi hwnnw, ond yn hytrach trafod y camsyniad cyffredinol sydd gan bobl, dwi’n meddwl, fod goriadau’r Tŷ Gwyn yn anochel fynd i un arall o dylwyth Clinton.

Y mae ymgeisyddiaeth Clinton yn gwbl sicr, ond mae gan y Gweriniaethwyr lond pentref o ymgeiswyr i ddewis ohonynt o hyd. Rŵan, er gwaetha’r ffaith fod y ddau sydd ar y blaen yn wallgof (er, dwi ddim yn argyhoeddedig fod Trump yn wallgof o gwbl, dwi wastad wedi teimlo mai licio corddi mae o ac nad oes ganddo fo fawr ddim ideoleg y mae’n ei dilyn – dwi bron yn meddwl ei fod o’n neud y cyfan am laff) a bod yr ymgeisydd ei hun am gael effaith ar y canlyniad, mae yna arwyddion y bydd pethau’n agos o hyd. O ran y polau cenedlaethol, yn gyffredinol mae’r gwahaniaeth rhwng Clinton a’r prif wrthwynebwyr Gweriniaethol (Trump, Carson, Rubio – er dwi’n ceisio edrych ar bawb fel ‘cyfanswm’ o ryw fath) yn fach. Yn y ddau bôl diweddaraf (RealCleara HuffPost) mae hi’n arwain ar gyfartaledd o 4% yn erbyn yr amryw Weriniaethwyr, ond yn erbyn TCR mae hynny’n llithro i 1.7% (yn wir, mae hi tu ôl i Carson yn y ddau). Ymhell o fewn yr hen margin of error.

Serch hynny, nid nifer y pleidleisiau sy’n bwysig yn y pen draw eithr pa daleithiau a enillir, i’r fath raddau bod y polau cenedlaethol yn eilradd i raddau wrth ddarogan buddugwr. I symleiddio’r system Americanaidd i’r rhai ohonoch nad ydych yn llwyr gyfarwydd â hi, i bob pwrpas mae “pwyntiau” wedi’u pennu i bob un o daleithiau UDA ac os wyt ti’n ennill y mwyaf o bleidleisiau mewn talaith ti’n mynd â’r holl bwyntiau ar gyfer y dalaith honno. Mae Califfornia, y fwyaf, yn werth 55 – gelli di ennill yno o un bleidlais un unig â mynd â’r 55 ‘pleidlais etholiadol’. Nid yw’n system gynrychioliadol mewn unrhyw ffordd. 

Ac o ganlyniad, fel yng Nghymru, llond dwrn o lefydd fydd yn penderfynu ar bwy sy’n fuddugol. Yn UDA mae yna lu o daleithiau sydd 90%+ yn sicr o bleidleisio fel a ganlyn…


Rŵan, fel y gwelwch o hynny, o ran y taleithiau cwbl sicr, mae gan y Democratiaid fantais fechan – rhain yw’r taleithiau, gyda llaw, lle na fydd yr ymgeisydd yn newid y canlyniad y tro hwn. Dyma Ferthyron Tudful America, fel petai.

Dau beth bach i’w nodi cyn bwrw ymlaen. Y cyntaf ydi, does dim disgwyl i’r Gweriniaethwyr golli unrhyw un o’r taleithiau a enillwyd ganddynt yn 2012 – dim un (North Carolina yw’r eithriad annhebygol, nid yw’n goch ar y map uchod o ganlyniad i agosrwydd y bleidlais yn 2012 – ond o gymryd y bydd yn aros yn driw iddynt yn 2016 rhydd hynny 206 o bleidleisiau etholiadol go bendant i’r Gweriniaethwyr – mantais i’r cochion felly). Ac er bod y polau’n awgrymu na wnaiff Clinton gystal ag y gwnaeth Obama yn 2012 (sydd fawr o syndod o ystyried y bydd UDA wedi cael 8 mlynedd o Arlywydd Democrataidd erbyn blwyddyn nesaf, a bod pob Arlywydd yn amhoblogaidd wedi’r cyfnod hwnnw bron yn ddieithriad) does dim awgrym hyd yma bod y polau i’r Gweriniaethwyr fawr gwell nag yn 2012; sy’n golygu nad oes sicrwydd sanctaidd y byddant yn cipio unrhyw un o’r taleithiau gleision. Serch hynny, mae’n anodd gweld y byddant yn segura i’r fath raddau.

Golyga hynny mai 11 talaith, gydag 78.5 miliwn o bobl yn byw ynddynt – lot llai na thraean o’r boblogaeth – sydd am benderfynu ar bwy fydd arweinydd gwlad bwysicaf y byd. Yn eironig bron, dyna faint poblogaeth Iran.

Rŵan mae rhai o’r rhain sy’n debygol o droi’n goch, ond mae cryn fynydd gan y Gweriniaethwyr i gipio ambell un arall fel Mecsico Newydd (angen gogwydd 5.1%). Er o graffu arnynt nid yw’r un yn amhosibl. Y peth pwysicaf i’w gofio ydi nad oes angen i’r Gweriniaethwyr gipio pob un o’r un dalaith ar ddeg hyn. Y rhain, ac eithrio ambell un sy’n llai tebygol o newid dwylo, yw’r swing states – a does angen ennill pob un ar y naill blaid i gipio’r Arlywyddiaeth.

I egluro’r dull o ddadansoddi sut y gallai pethau weithio allan dwi wedi, wrth gwrs, ystyried y polau cenedlaethol ond hefyd y polau fesul talaith. Yn rhai o’r rhai dydi’r wybodaeth ddim yn rhy ddiweddar ond mae’n bosib efallai drwy ddefnyddio patrymau cenedlaethol gael syniad o ba ffordd mae’r gwynt yn chwythu. Hefyd rhaid cofio mai Clinton fydd yr ymgeisydd i’r Democratiaid, ac er ei bod yn anos darogan pwy aiff â’r Gweriniaethwyr i faes y gad, erbyn hyn Trump, Carson a Rubio ydi’r ffefrynnau. Anodd gweld Bush yn llwyddo dringo’i ffordd yn ôl i mewn i’r ras; bet dyn call fyddai ar un o’i tri hyn.

Yn fras iawn, dyma dabl yn crynhoi’r sefyllfa o ran arolygon barn yn yr 11 talaith. Er fy mod i wedi ystyried hanes etholiadau arlywyddol, dyna’r unig etholiadau eraill dwi wedi’u hystyried – mae’r gyfatebiaeth yn UDA rhwng y mathau gwahanol o etholiadau’n wannach o lawer nag a geir yma. 

Cofiwch hefyd, y tro diwethaf, roedd pob un o’r isod yn daleithiau ‘glas’. Yr ail golofn ydi’r fantais Ddemocrataidd, a’r tabl olaf ydi sut dwi’n amau y byddai’r dalaith yn pleidleisio pe cynhelid etholiad heddiw. Sori ymlaen llaw am y ffaith fod y tabl yn rhy fawr i’r blog!  

 

Mecsico Newydd

10.2%

Dim data diweddar, ond awgrym cryf iawn o’r Democratiaid yn dal – gormod o fwlch i’r Gweriniaethwyr, ond gallai Rubio o bosibl fod yn ymgeisydd delfrydol i agosáu pethau yma. Bush yn fuddugol yma yn 2004.

DEM

Minnesota

7.7%

Gogwydd diweddar a phendant i’r Gweriniaethwyr – TCR oll yn curo Clinton (6% cyfartaledd) yn y polau, ond heb bleidleisio i’r Gweriniaethwyr ers Richard Nixon – anodd gweld y Democratiaid yn colli

DEM

Winsconsin

6.9%

Polau oll yn rhoi buddugoliaeth glir i Clinton dros unrhyw Weriniaethwr – cyson er nad yn gwbl gadarn i’r Democratiaid ers blynyddoedd

DEM

Nevada

6.7%

Bob pôl ers dros flwyddyn yn dangos Clinton ar y blaen i’r Gweriniaethwyr yn rhyfeddol o gyfforddus. Enillodd Bush yma ddwywaith.

DEM

Iowa

5.9%

Hynod agos. Gweriniaethwyr ond wedi ennill yma unwaith ers 1984, ond mantais fechan, gyson gan y prif Weriniaethwyr dros y Democratiaid yn ôl y polau.

GWE*

New Hampshire

5.6%

Arfer bod yn gadarnle od i’r Gweriniaethwyr yn y gogledd-ddwyrain, ond tueddu’n fwyfwy at y Democratiaid yn ddiweddar; mantais glir gan Clinton yn y polau diweddaraf.

DEM

Colorado

5.4%

Dim data diweddar, awgrym o ogwydd at y Gweriniaethwyr

GWE

Pennsylvania

5.4%

Agos iawn – ond mae’r gogwydd wedi symud o Clinton i unrhyw Weriniaethwr mewn polau diweddar. Tueddu i bleidleisio dros y Democratiaid yn ddiweddar ond nid o fwlch mawr ar y cyfan.

GWE*

Virgina

3.9%

Ar y cyfan polau’n awgrymu mai’r Gweriniaethwyr aiff â hi

GWE

Ohio

3.0%

Mantais i’r Gweriniaethwyr yn y polau, hanes o ogwyddo rhwng y ddwy blaid.

GWE

Fflorida

0.9%

Agos iawn a hanes o 20 mlynedd o fod yn hurt o agos – dim mantais bendant gan y naill ochr ond awgrym mai’r Gweriniaethwyr sy’n ei hymylu hi.

GWE*

*rhy agos i’w galw
Iawn, dwi wedi bod yn bach o gachwr gyda thri o’r uchod. Ond taswn i’n ychwanegu’r canlyniadau dwi’n amau uchod i’r map, fel hyn byddai pethau:

Rhaid ennill 270 o bleidleisiau etholiadol (pwyntiau!) i ennill yr etholiad Arlywyddol. Debyg gen i ar y funud, o’r 11 talaith sy’n nwylo’r Democratiaid ar hyn o bryd ac a fydd yn penderfynu ar y canlyniad, bydd y Gweriniaethwyr yn cipio 3 a 5 yn aros yn las. Ond wrth gwrs, mae hynny’n gadael y fantais nid â’r Democratiaid, ond y Gweriniaethwyr, waeth faint o bleidleisiau a gânt yn genedlaethol. Mae hyn yn rhoi’r Gweriniaethwyr mewn sefyllfa gadarn oherwydd petaent yn cipio Virginia ac Ohio (tebygol) ac yna Colorado ar ben hynny (sy’n gwbl realistig), ni fyddai angen iddynt ond ag ennill yn Fflorida i gipio’r Arlywyddiaeth. I bob pwrpas, ni fyddai buddugoliaethau ym Mhennsylvania ac Iowa ond yn fonws. Ar y llaw arall rhaid i Clinton ennill yn Fflorida a hefyd naill ai yn Iowa neu ym Mhennsylvania i ennill. Mae yna oblygiadau logistaidd ynghlwm wrth y fath ofynion strategaethol.

Rŵan, nid rhyw astudiaeth academaidd ddwys mo’r uchod o gwbl. Mae’r ffactorau sy’n rhaid eu hastudio mewn etholiad arlywyddol Americanaidd yn llawer gormod i un person eu dadansoddi (am ddim, beth bynnag). Mae’n nhw’n hurt o gymhleth, a dydi pobl yr ochr hon i’r cefnfor ddim bob amser yn ymwybodol ohonynt e.e. mae’r Gweriniaethwyr yn gallu gwneud yn dda iawn ymhlith pobl o dras Sbaenaidd, a thra bod Protestaniaid yn pleidleisio’n drwm o blaid y Gweriniaethwyr tuedda Catholigion i ddewis y Democratiaid, heb sôn am dueddiad pobl sy’n ystyried eu hunain yn ‘annibynnol’ i fwrw pleidlais dros y Gweriniaethwyr yn y pen draw. Ac eto, mae hynny heb i ni wybod eto’n sicr pwy fydd yr ymgeiswyr. Bydd y ras Weriniaethol ynddi’i hun yn werth ei gwylio.

Serch hynny, er gwaethaf y ffaith ein bod dan yr argraff yma mai’r Democratiaid sy’n codi yn UDA y dwthwn hwn, byddwn i’n awgrymu bod y fantais at flwyddyn nesaf yn nwylo’r Gweriniaethwyr, o bosibl waeth pwy fo’r ymgeisydd.

Mapiau wedi’u creu o wefan 270towin.com

Gwybodaeth polau o amryw ffynonellau Wikipedia (cenedlaethola thaleithiol) a RealClearPolitics.comyn bennaf

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Cathod a Chŵn

O dwnim sut i deimlo weithia wir. Dwi’n flinedig ar y diawl heddiw a dweud y gwir i chi. Y ffycin gath ‘na oedd wrthi’n cwyno a mewian drwy’r nos neithiwr, isio mynd allan i’r gwynt a’r glaw. Tasa fo fyny imi, mi fyddwn i wedi’i lluchio hi allan a gadael iddi wlychu’n gorn, ond wneith Mam ddim gadael imi wneud hynny achos ma hi’n caru’r gath.

Dwi, ar y llaw arall, ddim yn caru cathod. Fedra i wneud efo cathod, ond o holl anifeiliaid y byd mae’n siŵr mai’r unig un dwi’n ei gasáu mewn difrif ydi cathod. Parasitiaid sosiopathig ydi cathod. A dweud y gwir, dwi’n rhyw feddwl bod perchenogion cathod yn rhywbeth tebyg. Wna i ddim cymryd neb yn dweud wrtha i fod cathod yn lyfli neu’n ddelfrydol, neu’r llinell ffiaidd gan faw isa’r domen, mae cathod yn well na chŵn. Da chwi, os ydych chi’n berson cathod, beidio â tharo sylw i’r blogiad hwn i’w hamddiffyn. Fydd y llid â’ch canlyn o’m cyfeiriad yn ddigon i ddifetha’ch meddwl gwyrdroëdig yn llwyr.

Deu’ gwir, mae ‘na gyfran go sylweddol o fy ffrindiau i sy’n ffafrio cathod dros gŵn. Y mae hyn yn peri cryn benbleth imi. Rhaid bod yn onest, mae ‘na rywbeth dwfn ynof sy ddim yn ymddiried yn neb y mae’n well ganddo gath na chi. Os mae yn wir yn well gennyt anifail sy’n ddigon hapus bwyta dy wyneb ar unwaith os digwydd i chdi farw’n y gadair ac sy’n ei wneud yn gwbl, gwbl amlwg nad wyt iddo’n ddim eithr ffynhonnell o fwyd a lloches dros greadur ffyddlon, hapus, cariadlon sydd, yn ôl gwyddoniaeth, yn deall teimladau ac ystumiau pobl o’r bron – wel, ti’m yn iawn. Dy haeddiant yw dy fywyd gwag, cathlawn. Boed i’th fyd dywyllu a’th rechfeydd fod yn dragwyddol wlyb a staenllyd.


Ond mae Football Manager wedi lawrlwytho ar y cyfrifiadur rŵan felly mae gen i rywbeth gwell i wneud na blogio. Wela’ i chi.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Eryrod Pasteiog II: Mins

John Ogwen

Weithiau ceir ar Twitter sgyrsiau deallus – fel rheol pan fydda i’n sgwrsio ar Twitter – ac ni fu ddoe’n ofnadwy o wahanol yn hyn o beth. Ceisiaf addysgu pan gwyd yr angen. Mor ddifyr ydoedd clywed atgofion y diweddar John Ogwen (nid ‘diweddar’ yn yr ystyr ‘marw’ sydd gennyf dal sylw yma eithr y ffaith bod John Ogwen, fel ŷm oll, wedi bodoli’n ddiweddar a  hynny yw’r sefyllfa a bery) yn trafod ar raglen radio Siân Coffi, yn ei ffordd unigryw ddiansoddair ei hun, arfer y Cymry o ddefnyddio mins fel arian cyfred.
                                                                                                
I’r rhai sy’n amau hyn – pobl ifanc led-addysgedig bid siŵr; Cymry Caerdydd na wyddant ddim am gefn gwlad – fe’ch cyfeiriaf at hunanfywgraffiad y dyn ei hun, ‘Hogyn o Sling’ gan Wasg Gwynedd, a gyhoeddwyd yn wir fel jôc fewnol ar y dechrau, ond a aeth ymlaen i werthu nid llai na 12 copi, sef y llyfr Cymraeg mwyaf llwyddiannus erioed ac eithrio’r Beibl ac ‘Hanas Gwanas’ gan Fethan Gwanas, sy’n adrodd bywyd y ddarlledwraig ffwrdd-â-hi ar ffurf llyfr lliwio.  

Bethan Gwanas yn darllen ei hunanfywgraffiad, yn llawn direidi
 

Ta waeth, rwy’n ymhelaethu gormod. Cofia John Ogwen â phob rhych ar ei wyneb yr arfer o ddefnyddio mins i dalu am bethau. Ar dudalen 74, egyr Pennod 7 gyda “Gellid cael, wrth lwc, am hanner pwys o fins datws newydd, powdr golchi a thafell drwchus o gaws, ond âi pethau’n gymhleth â phwrcasiad ‘mins-am-fins’ lle cyfnewidid – megis yr ensynnir –  mins am fins”. Ni chawn eglurhad mwy cynhwysfawr gan mai dyna Bennod 7 yn ei chyfanrwydd, sef y bennod fyrraf o gryn dipyn.

Cyd-ddigwyddiad oedd i sgwrs arall godi ar bwnc Noson Tân Gwyllt yr un diwrnod, a hefyd inni droi’n ôl at berlau John Ogwen i’n haddysgu am hen oes. Ar dudalennau 62-4 sonia am ‘Noson Mins’ a gynhelid yn Nyffryn Ogwen yn hytrach na thân gwyllt; hwythau’n bethau prin wedi’r rhyfel, ond y mins oedd gyforiog. Clymid felly fins i roced gartref a’i thanio, gan greu effaith nad annhebyg i dân gwyllt go iawn. ‘Mins awyr’ y’i gelwid gan lanciau’r pentref, ond byddai’r hen do’n defnyddio’r ffurf draddodiadol, ‘y wybren gig’. Arferid dal y cig yn y geg wrth iddo syrthio o’r awyr a byddai cnoi mawr hyd yr oriau mân.

Newidiodd y sgwrs Dwityraidd fymryn, ac atodaf yma ddolen iddi. Fe’m cyfeiriwyd gan ‘Siân Gryffudd’ (nid wyf yn un i beidio â rhoddi fy ffynonellau neu gyflawni llên ladrad) at ganu Aneirin am hanes briwgigoedd cyntaf y Cymry o’r 6ed ganrif – ‘Knouent vrechdan vruwgig o lid llawryt’. Wrth gwrs bu’n rhaid imi egluro iddi’n ddiamynedd braidd bod ystyr ‘briwgig’ wedi hen newid ers y 6ed ganrif.



Grensiawg ei uedd, kyg da,

Tross dân, Lloegr kenfygenna,

Enaid Owain ab Urien.

Agryma’r uchod, sydd o ganu Aneirin hefyd, ond y cyfeiriodd John Ogwen ato yn ei lyfr mawreddog Hogyn o Sling (t. 88) – sydd ar y cyfan yn gasgliad helaeth ond hirwyntog braidd o straeon sy’n ymwneud â mins yn hytrach na bywgraffiad – mai ffurf ar facwn oedd ‘briwgig’. Os hynny.

Llyfryddiaeth:

‘Hogyn o Sling’, John Ogwen, Gwasg Gwynedd.


Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Gair o gyngor i Leanne Wood wrth drafod annibyniaeth

Dydw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi mwynhau ysgrifennu blogiad mwy nag Eryrod Pasteiog, sy’n mynd â fi’n ôl at wleidyddiaeth felly. Neithiwr mi wnes i’r camgymeriad mawr o wylio Question Time o Gaerdydd. Roedd Kinnock yn ofnadwy; roedd Leanne Wood yn drybeilig; darodd Stephen Crabb fawr ddim ergyd ar neb; y Sais boi ‘na yn gall ond yn ddiflas a Charlotte Church fawr gwell na’r un ohonyn nhw mewn difrif – heb sôn am gynulleidfa arferol o Anghymreig am QT yng Nghymru.

Byddaf hynod, hynod o gryno yn hwn o flogiad.


Mae’r dull mae Leanne Wood yn benodol (ac, i raddau llai, y Blaid) wedi’i fabwysiadu i drafod annibyniaeth yn wleidyddol hurt. Yn hytrach na rhoi unrhyw ddadl dros annibyniaeth, dyma ddywedodd hi neithiwr – ac yn wir rhywbeth tebyg y mae hi wedi bod yn ei adrodd ers peth amser…

 

Our economy is too weak. We’re already facing a situation where workers in Wales earn 85% of the UK average.

Oes, mae yna wendidau lu gan economi Cymru – boed hynny’n ymwneud â’n GDP, y cyflogau is sy’n cael eu hennill yma, ein hanallu i godi trethi, a’r ffaith bod tlodi plant a diweithdra’n uwch yng Nghymru na gweddill y DU ymhlith, fwy na thebyg, ddegau o ffactorau eraill; hyd yn oed y ffaith bod mwy o ddibyniaeth ar fudd-daliadau yma.

Yr hyn mae Leanne Wood yn ei wneud ydi cytunoefo’r rhai sy’n dadlau yn erbyn annibyniaeth i Gymru, gan atgyfnerthu’r syniad ein bod ni yn rhy dlawd i fod yn annibynnol. Mae’r dacteg yn un gwbl, gwbl anghywir ac eithriadol o niweidiol i’r achos cenedlaethol.

Yr hyn y dylid ei ddweud ydi hyn: ydi, mae economi Cymru’n wynebu heriau economaidd difrifol, a hynny ers degawdau. Ond dydi’r ffactorau hynny ddim yn cau’r drws ar annibyniaeth, ond yn hytrach maen nhw’n cyfleu yn y ffordd gliriaf posibl pa mor ddiawledig o wael y mae Cymru wedi’i gadael i lawr gan y wladwriaeth Brydeinig.

Syml o ddadl. Ond dadl wir.


Efallai na ddylai Plaid Cymru ganolbwyntio gormod ar annibyniaeth. Ond dylai hi ddim fod yn ei thanseilio ac atgyfnerthu amheuon pobl yn ei chylch sef yn union y mae’n ei wneud gyda’r ddadl ‘dydyn ni ddim isio annibyniaeth achos mae Cymru’n rhy dlawd ar y funud’. Dylai hi fod yn cyfeirio at lwyddiant gwledydd eraill – mae Estonia’n un da iawn – ac yn gosod y bai am wendidau Cymru ar garreg drws Llundain. Cyfleu’r ffaith mai Llundain sy’n ei cadw rhag ffynnu; nid mai ni sy’n rhy dlawd felly nad oes gobaith.



Mae’r nifer sy’n coelio mewn annibyniaeth yng Nghymru’n isel. Lein y Blaid ydi nad ydi hyn yn syndod am nad oes neb erioed wedi dadlau drosti; sy’n eithaf cadarnhau un o unig ergydion Crabb neithiwr ar QT “Then what’s the point of Plaid Cymru?”



Oce, Blaid Cymru, os dydach chi ddim isio gweiddi’n groch dros annibyniaeth dwi’n dallt hynny’n iawn – a dwi’m yn bod yn goeglyd, dydi’r fantais wleidyddol sydd i’w hennill o wneud hynny efallai ddim yn fawr. Ond drwy, i bob pwrpas, fwydo’r naratif Brydeinllyd yn ei chylch, rydych chi’n cyfrannu nid at ei sicrhau ryw dro, ryw bryd, ond at ei hatal a hynny efallai’n barhaol.


Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Portreadau o Gymry ein hoes

Yr hogia o Ben Llŷn, John a’i frawd/cymar, Alun

Y Gymraes a gyflwynodd yr iaith Gymraeg i Loegr, Alex Jones

Un o wir drysorau Cymru gyfoes, yr actores a’r cardotyn amryddawn, Gillian Elisa

Arwr Cymru a’r Llewod a thîm ieuenctid Glantaf, Jamie Roberts

Cerddedwr a naturiaethwr brwd yw Iolo Williams, sydd ar y teledu weithiau yn cerdded a naturiaethu

Y swynwr o Solfach ei hun, Meic Stevens (1910)

Y gyflwynwraig hoffus, Mari Løvgreen, na ŵyr neb amdani’n awr

“Mae’r gwin yn troi’n sur”
– Caryl Parry-Jones

Y gwerinwr gwreiddiol, Rhodri Morgan

Un o sylwebyddion craffaf Cymru, Vaughan Roderick

Ac, wrth gwrs, mae Dafydd Iwan “Yno o Hyd” hefyd

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Eryrod Pasteiog

Roedd y dail yn hynod o wyrdd y bore hwnnw, a ddylwn i ddim fod wedi synnu achos mae dail fel arfer yn wyrdd, felly synnais i ddim. Roedd yn ymateb call. Ni ŵyr y lliaws fod, fel rheol, fwy o ddail ar goeden nag sydd i goeden foncyffion. Ond fe fûm innau wastad yn un sylwgar, yn un gân o flaen y gweddill, a dyna pam nad oes neb yn fy hoffi, ac yn taflu ataf wrthrychau lu, boed yn gerrig, yn gyllyll neu’n gadeiriau ac unwaith stôl odro. Fe’i cedwais a’i defnyddio at ei phriod fwriad. Does gen i ddim buwch felly smaliais.

Stôl ar ôl,


Ar ôl mae stôl,


Ond be ddaw wedyn?


Sosej rôl.

Roeddwn fardd ym more glas fy llencyndod gynt.


Sosej rôl yn

RHEIBUS


fel eryr


pasteiog.


Ydi, mae’r hen chwedlau’n wir. Beirdd ddoe yw’r bwytwyr mawr; ac ar ôl oes o gynganeddu, hen gelf na ddeall neb ac na ddiolch neb amdani eithr cynganeddwyr, gan draflyncu cywyddau ânt dew gan swmp eu gallu; archwilient finiau’r archfarchnadoedd yn eu blys am englynion newydd ond methiant ddaw iddynt bob un oherwydd ni chewch mewn archfarchnad farddoniaeth a dyna pam fod Mei Mac bellach yn ugain stôn ac ni fydd yn gadael ei dŷ mwyach ond i odli.

Nid oes yn rhaid i feirdd penrhydd odli felly maen nhw’n dewach fyth fel rheol.


Ond methu’r pwynt ydwyf – yn ôl ato. Cerddais ar droeon i lawr y lôn fach tua’r ffridd brudd, grimp gan sychder, lle gwelsai’r hynafiaid ryfeddod yn y rhedyn a gwirionedd yn yr wybren faith gynt oddi fry; ac ynddi sêr gwib rif y gwlith yn … gwibio.

Welais i mo hynny erioed, ond mi welais yno Dewi Llwyd, ac mi wn fod Dewi Llwyd yn licio wy wedi’i ffrio achos mi fydd weithiau’n gwisgo wy wedi’i ffrio am ei ben fel het, fel rockstar y werin bobl. Aethpwyd ag ef i’r ddalfa am fod rhaid; ofnai’r plant ei benwisg ac fe’i hymosodwyd arno gan wylanod a chan gathod, yn ffyrnig eisiau wy. Heidiodd am ei gylch bryfaid a rhedodd oddi wrthynt nerth ei draed ac yn wylofain – rhedodd i fyny’r bryn a lawr i’r glyn, rhwng yr eithin a’r grug a’r Melyn Mair, i geisio’u gwaredu, nes dod i orweddian yn lwmp di-anadl ar weiriau’r wern. Erbyn hynny, roedd yr wy wedi hen ddisgyn oddi ar ei ben gyda’r holl redeg, ac ar ôl hel ei feddyliau am ei ddiwrnod diweddaraf, ymlusgai’n wrthodedig tua thre, cyn parhau â’r cylch dieflig eto drannoeth.

Bu farw Dewi Llwyd yn ddeunaw oed.  Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Beth sydd i faner?

Mi fûm i’n synfyfyrio am y ddadl ffyrnig sydd wedi digwydd dros y pwll mawr ynghylch baner y Taleithiau Cydffederal. Dwi’n meddwl y rheswm pam ydi bod eitha tipyn o bobl ar fy Facebook a Twitter yn ei gweld fel cam ymlaen cael gwared ohoni. Wedi’r cyfan, mae’n cynrychioli egin wladwriaeth a gefnogai gaethwasiaeth.

 
Rhyw fath o, o leiaf. Nid y faner honno oedd baner ‘genedlaethol’ y Taleithiau Cydffederal eithr hon:
 
 
 
Felly mae yna ychydig o gamddealltwriaeth o’r faner ei hun. Yn UDA, yn dibynnu ar eich safbwynt, mae’n cynrychioli naill ai caethwasiaeth neu ryw fath o falchder rhanbarthol. Mae’n anodd braidd i unrhyw un o’r tu allan i UDA gynnig barn gall ar y mater, oherwydd does gynnon ni ddim wir deimladau dwfn yn ei chylch – byddai honni fel arall yn anonest braidd.
 
Does gen i fawr o farn ar y mater, ond yn reddfol, dwi’n rhyw feddwl y gall symbolau a ballu newid dros amser, ac felly y gall y faner gynrychioli heddiw rywbeth nas cynrychiolai mewn oes a fu; mae’n un o’r baneri hynny y gellid dadlau iddi gael ei hadhawlio o elfennau gwleidyddol mwy eithafol – wedi’r cyfan, dim ond eithafwyr asgell dde a hedfanai faner Sant Siôr mewn cof byw, ond adhawliwyd y faner honno ganddyn nhw i gynrychioli cenedl gyfoes, er dwi’n derbyn nad ydi honno’n gymhariaeth uniongyrchol.
 
Y cwestiwn ydi ymhle mae’r llinell? Os derbyniwn fod baner y Taleithiau Cydffederal o hyd yn cynrychioli hiliaeth yna mae’n deg cael gwared ohoni. Er hynny, ni fu gan bobl dduon i bob pwrpas yr un hawliau, ar bapur, â phobl wyn UDA hyd Deddf Hawliau Sifil 1964 – roedd hynny bedair blynedd ar ôl mabwysiadu’r fersiwn bresennol o’r Sêr a’r Stribedi (er mai parhad o fersiynau blaenorol ydi honno hefyd). Ydi baner UDA ei hun hefyd felly’n cynrychioli adeg o annhegwch cymdeithasol yn y wlad honno ac a ddylid ei newid?
 
Wn i ddim i fod yn onest. Ond mae’n codi cwestiynau difyr ynghylch yr hyn y mae baneri yn eu cynrychioli, a bod rhywfaint o ragrith yn perthyn i bobl yn nifer o genhedloedd Ewrop sy’n gefnogol o gael gwared ar faner y Taleithiau Cydffederal (er, fel y gwelwch o’r isod, dydi’r feirniadaeth y byddaf yn ei chynnig ddim wir yn berthnasol i fawr ddim o ddarllenwyr y blog hwn).
 
Yr hyn sydd gen i dan sylw ydi bod baneri nifer o wledydd yn Ewrop yn rhai sydd, i nifer o bobl ledled y byd, yn cynrychioli gormes, erledigaeth a thrais. Mae baner yr Undeb yn enghraifft berffaith. 
 
Dydi ymerodraethau ddim yn tyfu drwy fod yn neis. Ni fu erioed enghraifft o ymerodraeth neis. Fe’u crëir drwy ryfel, gormes a chreulondeb – does dim eithriad i hynny. Mae llawer o Brydeinwyr yn ymfalchïo yn eu baner heb ddeall yr hyn y mae’n ei golygu i gynifer o bobl eraill mewn rhannau eraill o’r byd, ac mae hynny yr un mor wir am honno â tricolores Ffrainc neu Wlad Belg. Cynrychiolant ymddarostyngiad, rhaib a gwarth ar lefel y mae’n anodd ei dychmygu: a ddylid felly gael gwared ohonynt, a hwythau wedi cynrychioli rhywbeth mor ffiaidd ag imperialaeth a phopeth sydd a wnelo â hi?
 
Ym Mhrydain, rydyn ni’n eithaf anymwybodol o wir erchyllter yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae hyn am i’r wladwriaeth lwyddo greu delwedd ddedwydd, waraidd ohoni (ac iddi gael ei phortreadu felly yn y cyfryngau hefyd – mae Carry on Up the Khyber yn ffilm dwi’n eitha ei licio ond mae’n enghraifft fyw o’r ddelwedd a feithrinwyd) felly hyd yn oed heddiw nid yw’r hyn a wnaeth i sathru’r gwledydd a’r bobl a orchfygasai’n hysbys iawn. Yn ‘ffodus’ i Brydain, roedd nifer o ymerodraethau a gydfodolai â’i un hi, fel rhai Ffrainc, yr Almaen, ac efallai Gwlad Belg fwyaf oll, wedi llwyddo bod yn waeth – er o drwch adain gwybedyn. Felly yn llygaid hanes fe’i gwelwyd fel ymerodraeth unigryw waraidd a theg. Delwedd gymharol efallai, ond anhaeddiannol tu hwnt.
 
Ond er yr hyn a wnaed dan y baneri hynny (nid yr Almaen; yn wahanol i wledydd eraill wynebodd yr Almaen yr hyn a wnaeth ac edifar, er o raid yn fwy nag angen, a hynny wedi eu trechu ym 1945, ymhell ar ôl diwedd ei hymerodraeth) – oll yn waeth o gryn dipyn na’r hyn a wnaeth y Taleithiau Cydffederal, ac roedd nifer o’r ymerodraethau hyn yn dal i orfodi dioddef ar bobl ymhell wedi i’r Taleithiau Cydffederal ddod i ben – ni fu erioed sôn am eu disodli.
 
Dylai Ewrop edrych arni ei hun cyn beirniadu America.
 
Efallai’r gwahaniaeth, dybiwn i y byddai rhai yn dadlau, ydi bod pobl dduon yn byw yn UDA sy’n gwybod hanes eu pobl yn y wlad honno, a bod y faner sydd yno’n gyson yn chwifio oddi uwch yn eu hatgoffa o’u dioddefaint.
 
Gall o leiaf rai ohonom yng Nghymru gydymdeimlo â hynny, dwi’n meddwl, er na ddylem haeru cymhariaeth uniongyrchol (byddai hynny’n gwbl anghywir). I mi fel Cymro Cymraeg, mae baner yr Undeb yn cynrychioli gormes. Mae’n gynrychioliad byw o syniadaeth wladwriaethol i ddileu fy hunaniaeth ddiwylliannol, ieithyddol a chenedlaethol gynhenid i; yn fwriadol ac yn faleisus. Dyna pam dwi’n teimlo rhyw ddicter distaw yn lle bynnag y gwela i’r faner honno yng Nghymru; mae’n sarhad arnaf i’n bersonol ac ar fy mhobl i. Felly mi fedraf ddeall sut mae pobl dduon yn UDA yn teimlo tuag at faner y Taleithiau Cydffederal, er ar lefel ac mewn ystyr gwahanol.
 
Ta waeth, sylwedd yr hyn dwi’n ceisio’i ddweud ydi hyn. Os gwaredu baner y Taleithiau Cydffederal, oni ddylai nifer fawr o fflagiau cenedlaethol gwladwriaethau Ewrop hefyd gael eu roi i’r naill ochr hefyd?

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Blydi safonau iaith eto

Dwi wastad wedi mynnu nad ydi Twitter yn lle da i’r rhan fwyaf o bethau, ac yn sicr mae’n anodd iawn, iawn cynnal dadl o unrhyw sylwedd arno. Hanes dau gyfrif gwahanol ydi’r blogiad hwn; ni cheisiaf, gobeithio, fod yn ddiangen o feirniadol ond efallai dod â phersbectif dwyochrog i ddadl dragwyddol safonau iaith.

Mae safonau iaith wedi bod yn bwnc a drafodwyd droeon ar y blog hwn. O drafod Dyfodol yr Iaith yn achwyn yn ddiangen ar Radio Cymru, fy marn ar pam fod angen symleiddio gramadeg y Gymraeg,  ac, wrth gwrs, snobyddiaeth ieithyddol honedig yma ac yma– a hyd yn oed ymgais Robyn Lewis i wneud yr hyn y mae bob hen berson yn ei wneud a bod yn niwsans bwriadol, a hynny dan fwgwd gwneud safiad dros yr iaith.

Ond ta waeth, dau gyfrif gwahanol sydd dan sylw. Y cyntaf ydi’r Beiro Coch a’r llall ydi Gad Lonydd. A dwi’n drist am y peth. Y mae’r cyntaf yn tynnu sylw at iaith wallus gan sefydliadau a ffigurau cyhoeddus, a’r llall yn tynnu sylw at obsesiwn rhai â chywirdeb iaith. Yr ateb bras i’r holl lol ydi bod y ddau yn iawn a’r ddau yn rong. Ymhelaetha i’n fras.

A dweud y gwir, fel cyfieithydd i sefydliad cyhoeddus, mae gen i gryn gydymdeimlad efo Beiro Coch (er y mynna i hyd fy medd fod ‘beiro’ yn air benywaidd). Mi ddylai sefydliadau yn sicr bod yn defnyddio Cymraeg mwy ffurfiol, er mae pethau’n fwy cymhleth wrth drafod pethau fel y BBC, sy’n gorfod drwy ryw fodd ddod o hyd i dir canol – mae hynny’n anos nag y byddech chi’n ei feddwl. Dydi hyd yn oed pobl â Chymraeg perffaith (ac, oes, maeffasiwn beth ar lefel ramadegol â ‘Chymraeg perffaith’) ddim yn aml yn gallu gwneud hyn. Gall gorffurfioli yn aml wneud i bobl droi cefn ar ddarllen rhywbeth yn Gymraeg a throi at y Saesneg.  Petaem ni’n dilyn y trywydd hwnnw byddai’r iaith yn dirwyo hyd yn oed yn gynt.

Y tric i hyn ydi, yn syml, rhywbeth dwi’n ceisio cadw’n driw ato wrth fy ngwaith bob dydd: dydi Cymraeg anffurfiol ddim yn Gymraeg ansafonol. Efallai bod digon o bobl yn gwybod beth ydi ‘darparu’ neu ‘gwirio’ ond dydi lot ddim – ac hyd yn oed ymhlith y rhai sy’n gwybod gall defnyddio geiriau felly wneud i bobl droi i’r fersiwn Saesneg beth bynnag. Ydi, mae’n anodd dod o hyd i’r C-spoto Gymraeg sy’n gywir ond hefyd yn ddarllenadwy. Ond mae modd gwneud, ac mae’n well na bratiaith ac yn well nag iaith lenyddol.

Rhaid bod yn ofalus efo cywirdeb felly. Llawer iawn gwell ydi inni ostwng ein safonau na throi pobl oddi wrth yr iaith; dwi’n hollol grediniol o hyn. A dweud y gwir, dwi’n bersonol o’r farn fod yn rhaid inni ostwng y safonau hynny er mwyn sicrhau parhad, neu o leiaf ffyniant, y Gymraeg. A dwi’n meddwl bod honno’n ddadl sy’n rhaid i ni ei chael ar unwaith – er bod neb yn gwrando arna i yn hyn o beth. Ond dydi pigo ar bob gwall – er gwaethaf y ffaith y dylem ni ddisgwyl Cymraeg graenus gan bethau fel sefydliadau cyhoeddus – ddim bob tro’n helpu. Ta waeth, dydi mân wall ddim yn peri cymaint o bryder i mi â chyfrif twitter Iaith Fyw y Llywodraeth yn mynnu galw ‘ti’ arna i. Pawb â’i bethau.

Felly dwi’n meddwl fy mod i wedi sefydlu nad ydi gweiddi’n groch dros gywirdeb bob tro’n beth da. Hyd yn oed gyda sefydliadau, rhaid cofio mai person sy’n ysgrifennu, a gall beirniadu, os gwneir hynny mewn ffordd swta, effeithio ar hyder yr unigolyn hwnnw. Gan bwyll wrth bwyntio at wallau. Ond mae rhywbeth arall, a dwi’n torri fy mol isio dweud hyn, achos mae hyn yn ymwneud ag ochr arall y ddadl – a rhybudd ydi o.

Does yna ddim lot o bobl yn hefru am gywirdeb iaith, a does yna ddim llawer o snobs iaith ychwaith. Fel y dywedais o’r blaen, tydi cwyno am fod rhywbeth yn rong ddim yn dy osod yn y categori hwnnw. Wrth gwrs, mae yna rai pobl – yr un hen rai swnllyd gan mwyaf – sy’n cwyno bob munud am bob dim o ran cywirdeb ieithyddol, ac weithiau’n anghywir felly!

Y peth ydi hyn: ychydig ohonyn nhw sydd. Mae bwydo’r myth eu bod nhw’n bobman yn neud llawn cymaint o niwed â’u cwyno cyson nhw. Yr ‘angen’ i daro’n ôl yn eu herbyn, yr ‘angen’ i wneud brwydr o’r peth; mae’n atgyfnerthu delwedd anwir o’r sefyllfa. Tydi’r bobl hyn prin yn bodoli. Ac mae’r rhai sy’n sefyll yn eu herbyn yn aml yn fwriadol ymfalchïo yn y ffaith nad ydi eu Cymraeg gystal – yn wallus, os mynnwch.


Jyst rhag ofn imi bechu, gadewch i mi ymhelaethu fymryn: does yna ddim cywilydd, o gwbl o gwbl, i feddu ar Gymraeg sy ddim yn berffaith. Does neb yn siarad Cymraeg gloyw glân bob gair, ac ychydig sydd yn ei hysgrifennu felly mewn difrif. Ond mae ymfalchïo yn y peth yn wirion. Os ydi pobl isio gwella’u Cymraeg – grêt – os dydyn nhw ddim – iawn, y peth pwysig ydi eu bod nhw’n ei defnyddio. Yn bendant mae snobs iaith yn atal pobl rhag gwneud hynny, ond wrth greu argraff anwir eu bod nhw ymhobman, y canlyniad ydi bod llai o bobl yn defnyddio’u hiaith rhag ofn cael eu beirniadu gan y byddinoedd honedig ohonynt.


Peidiwch â brwydro yn erbyn safonau jyst achos bod un neu ddau o bobl yn cwyno. Achos, er gwaetha’r ffaith fod yn rhaid inni drafod safonau’r Gymraeg, mae angen safonau ar iaith. Mae’n syml – mae ieithoedd sydd heb eu safoni’n tueddu i farw. Mi ydan ni angen rheolau a gramadeg, a dylai Cymraeg ar ffurflenni a gwefannau ac ati gadw atynt.
 
Oni ddylai Cymraeg cywir fod y norm? Ydi bratiaith wir yn dderbyniol ymhoman?
 
Fi sy’n hefru ymlaen rŵan. Gadewch i mi orffen efo un pwt bach. Mae yna ffordd ganol. Mae Cymraeg anffurfiol yn Gymraeg safonol (o’i gwneud yn iawn de), a dwi’n grediniol mai hwnnw ydi’r trywydd cywir. Gawni er mwyn Duw stopio cecru ymhlith ein gilydd am hyn? Mae’r ymadrodd Saesneg, fiddling while Rome burns, yn dod i’r meddwl. Rhaid i ddau begwn y ddadl hon ddeall nad oes yr un ohonynt yn helpu achos yr iaith, er bod y ddau’n ceisio helpu dwi’n siŵr. 
 
Dewch at eich gilydd yn gytûn.   

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Madam Chips, Caellwyngrydd ac mae Rachub yn well na Fenis

Dwi bron wedi treulio wythnos gyfan yn Rachub erbyn hyn, ar fy ngwyliau. Dwi’n dweud gwyliau, dydi o fawr o wyliau rhwng ymostwng i ofynion afresymol Nain – a dreuliodd ddiwrnod cyfan yn mynd i’w dosbarth ioga, Co-op Llanfairpwll ac yna i dŷ Anti Megan cyn sylweddoli bod ei dwy esgid hi’n rhai cwbl wahanol i’w gilydd – a phiciad i hyn a llall o lefydd. Dwi wedi bod i Walchmai ddwywaith, sy’n fwy o weithiau nag y mae hyd yn oed pobl Gwalchmai isio mynd yno.

Wrth gwrs, mae Dad yn llwyddo bod yn rhan o’r mics. Mae’n mynd yn wirion yn ei henaint. Wel, dwi’n dweud henaint; neithiwr roedden ni’n cael rhyw sgwrs am Rachub a mynegodd Dad ei fod yn ddifyr iawn clywed holl hanesion y pentref a siarad amdano ers ei eni 56 mlynedd yn ôl. Cyn i Mam ei gywiro ei fod yn 61 erbyn hyn. Felly yn amlwg mae Dad wedi dechrau ar y daith honno a wna pobl wrth heneiddio, sef ymddwyn yn iau.

A minnau’n Rachub, y mae’n amlwg mai blogiad am Rachub fydd hwn. Ro’n i yn nhŷ rhai o bobl y pentref rai diwrnodau yn ôl, a ninnau’n trafod Rachub ei hun – dachi’n gweld, nid y fi ydi’r unig berson ar y Cread sy’n licio Rachub ychydig bach yn fwy nag sy’n iach neu’n normal gwneud; perthyno’r nodwedd hon i bawb a fagwyd yma. Trafod oeddem ni pam fod pobl Rachub mor annibynnol ac unigryw, yn enwedig o’i chymharu â phentrefi eraill Dyffryn Ogwen fel Tregarth. Cafwyd ateb. Yn wahanol i ochr draw’r Dyffryn, ni fu Rachub erioed yn dir y Penrhyn gan mwyaf ac ni fu’r bobl felly dan bawen yr Arglwydd Penrhyn i’r fath raddau. Mae hyn oherwydd mai tir rhydd a gafwyd yma. Nid tir comin mo hynny – tir rhydd ydi tir y gall unrhyw un ei hawlio, allwch chi ddim gwneud hynny i dir comin. Ac felly manteisiodd pobl Rachub ar hynny a chodi tai yma.

A dyna fi wedi llwyddo cael ‘Rachub’ saith gwaith mewn i baragraff. Ond mae’r uchod yn gwneud synnwyr – Yr Achub, wrth gwrs, ydi Rachub, a thir rhydd ydi ystyr achub. Felly nid yn unig hanes ar wahân braidd y pentref sy’n gwneud ei phobl mor annibynnol (neu, yn fwy gonest, yn ddirmygus o bawb arall yn y byd), mae Rachub ei hun yn golygu ‘Tir Rhydd’. Y mae’r cliw yn yr enw.
Pan fydd Rachub yn codi, bydd pedwar ban byd yn syrthio dan ei grym.

Ddysgais i’r noson honno hefyd am ffatri go anarferol a fodolai yn y pentref ddegawdau maith yn ôl. Ffatri gocos oedd hi. Daethpwyd â chocos o Aberogwen yr holl ffordd i fyny at Rachub, sydd rai milltiroedd i ffwrdd, i gael eu canio yno. Roedd gan gemist o Pesda batent ar ryw brisyrfatuf, a gafodd ei roi efo’r cocos ar ôl eu tynnu o’r cregyn a’u berwi. Rŵan, dim ond D gesi mewn TGAU Busnes ond fedra i hyd yn oed weld anfanteision i lobio llond trol o gocos hanner ffordd i fyny mynydd i gael eu canio o safbwynt ymarferoldeb. Ta waeth, roedd yn rhaid cau’r ffatri yn y pen draw achos rhoddwyd y cocos a’r dŵr poeth i mewn i’r tuniau’n syth, gan adael twll oeri ynddynt – weithiodd hynny ddim yn aml a ffrwydrodd digonedd ohonynt, i’r fath raddau y gwnaeth hyd yn oed bobl arw llethrau Moel Faban roi’r gorau iddi.

Ond roedd gennym ni ambell beth yma ers talwm – cyn fy oes i. Siop sglodion oedd un. Roedd yna ddyn o Rachub, a symudodd i ffwrdd flynyddoedd yn ôl, a ddaliodd ddig yn erbyn yr Almaenwyr byth ers iddyn nhw ollwng bom ar siop jips Rachub yn ystod y rhyfel.  Ond wedi hynny roedd yna siop jips go arbennig i’w chael yma, un sydd wedi fy rhyfeddu i ers imi gyntaf glywed amdani. Wn i ddim a oedd enw ar y siop ei hun, ond yr oedd hi’n un fudr – y futraf efallai – a chafodd ei rhedeg gan ddynes a adnabuwyd gan yr enw anhygoel braidd, Madam Chips. Buasai fy Nain Eidalaidd yn sôn amdani ddigon – ‘she was a filthy woman’ – yn smygu wrth ffrio’r sglodion mewn hen fraster. Wrth gwrs, âi Dad yno’n aml, a haerid mai’r sglodion budron hynny oedd y rhai gorau a gafwyd erioed.

Mi ddysgais rhywbeth od echdoe hefyd – mae’n od achos dwi’n un i freuddwydio’n eithaf aml.  Yn aml dwi’n breuddwydio am Rachub, ond dydi hi ddim yn Rachub arferol achos weithiau mae yna farchnad dan do, ac unwaith roedd yna siop Cadwalader’s wrth cae swings do’n i erioed wedi’i gweld o’r blaen.

Ond yn ddi-ffael mae yna nodwedd ryfedd ymhob breuddwyd. Ar Ffordd y Mynydd – stryd uchaf ein huchel bentref – mae yna dafarn ym myd breuddwydion o’r enw’r Caellwyngrydd. Mi af i mewn yno weithiau, un dywyll a distaw ydi hi. Ro’n i’n gwybod yr enw Caellwyngrydd cofiwch ond ddim efo syniad lle roedd o. Mi ydach chi’n gwybod lle mae hyn yn mynd. Caellwyngrydd ydi’r hen enw ar dopiau Rachub. Nid yn unig hynny, ond roedd fy nheulu (neu berthnasau sy’n rhan o’r llwyth fyddai’n well disgrifiad) yn arfer dominyddu’r ardal honno, fel rhyw faffia lleol.  Pam y byddwn i’n breuddwydio’r fath beth, wn i ddim. Efallai fod yna wybodaeth etifeddol goll yng nghefn meddwl pawb.

Do wir, dwi wedi cael wythnos hynod o blwyfol. Tydw i ddim isho mynd yn ôl i Gaerdydd ddydd Sul achos mae Rachub yn grêt – i’m dyfynnu fy hun wrth gyfaill unwaith; Mae Rachub yn well na Fenis. Sydd, efallai, yn mynd â phlwyfoldeb bach yn rhy bell.

Ond, wrth gwrs, mae Rachub yn well na Fenis.
Rhywle arall drwy lygada rhywun o Rachub. Swiflwch.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Tri phwynt ynghylch etholiad 2016 a Phlaid Cymru

Wna i fod yn gryno am unwaith. Mae yna nifer o bobl, oddi mewn i Blaid Cymru’n bennaf, sydd bron fel petaent yn disgwyl i Blaid Cymru ennill tir etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf. Mae BlogMenaiwedi eu trafod ac mae’r rhesymau mae Cai yn eu nodi yn rhai gwir. Ond mae yna dri phwynt dwi am eu codi ynglŷn â pham y gallai’r etholiadau hynny o hyd fod yn rhai anodd iddi, a dydi hynny neb ystyried ffactorau fel UKIP a’r ffaith y bydd Llafur yn wynebu llywodraeth Geidwadol yn Llundain.


 

Amlygrwydd Leanne Wood


Mae’n ymddangos mai Leanne Wood ydi bellach yr arweinydd gwleidyddol amlycaf yng Nghymru. Dydi hynny ond â gallu bod yn beth da. Serch hynny, y gwir ydi dwi ddim yn gweld unrhyw reswm i feddwl y caiff etholiadau’r Cynulliad fwy o sylw y flwyddyn nesaf yn y cyfryngau Prydeinig – sef o le y caiff y rhan fwyaf o bobl Cymru eu newyddion o hyd – ac felly ni chaiff y Blaid yn awtomatig yr un sylw ac y gafodd y tro hwn, mewn ffordd ryfedd. Teg hefyd yw dweud, pan ddaeth hi lawr ati, na lwyddwyd i fanteisio ar y sylw hwnnw; wedi’r cyfan ni chynyddodd pleidlais Plaid Cymru ond 16,300 oddi ar 2010. Yn waeth na hynny efallai, roedd 11,645 o’r cynnydd hwnnw – dros 70% – mewn pum sedd, sef Arfon, Ynys Môn, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Gorllewin Caerdydd a’r Rhondda.

 

“Mae Plaid Cymru’n gwneud yn well yn y Cynulliad”

Isod mae tabl o berfformiadau Plaid Cymru ar lefel San Steffan a lefel y Cynulliad y ganrif hon.

 


Blwyddyn

Etholiad Cyffredinol

Etholiad Cynulliad

2001

195,893

14.3%

2003

180,185

21.2%

2005

174,838

12.6%

2007

219,121

22.4%

2010

165,394

11.3%

2011

182,907

19.3%

2015

181,694

12.1%

Ar gyfartaledd

179,455

12.6%

194,071

21.0%

 

Rŵan, yn ganrannol mae yna wahaniaeth digon sylweddol ym mherfformiad y Blaid mewn etholiadau i’r Senedd o’i gymharu â rhai i San Steffan, ond ni all neb wadu bod a wnelo hynny â’r ffaith fod y niferoedd sy’n pleidleisio mewn etholiadau Cynulliad yn sylweddol is – tua 20% yn is.

Serch hynny, dwi’n meddwl ei fod o’n dangos bod yn rhaid rhoi i’r neilltu y syniad ‘ma – sy’n cael ei ailadrodd hyd nes ein bod wedi’i dderbyn fel ffaith – fod Plaid Cymru’n awtomatig yn gwneud yn sylweddol well ar lefel y Cynulliad na San Steffan. Y gwir ydi, o ran nifer y pleidleisiau a gaiff, mae’r gwahaniaeth ar y cyfan yn rhyfeddol o fach. Hynny ydi, dydi Plaid Cymru ddim o reidrwydd yn gwneud yn well yng nghyd-destun etholiadau Cynulliad i’r graddau y dylai hwn fod yn bwynt sy’n cael ei godi’n rheolaidd. Mae’n bosibl y gellir dadlau bod ffawd y Blaid ers 2003 yn yr etholiadau hynny’n dibynnu’n fwy ar ba mor wael a wna ei gwrthwynebwyr yn hytrach nag ar ba mor dda mae hi’n ei wneud, achos mae ei pherfformiadau’n eithaf statig.

 

Seddi targed


Dydw i ddim yn meddwl y byddai fawr neb yn anghytuno â’r ffaith mai saith etholaeth fydd y Blaid yn canolbwyntio arnynt o ddifrif yn 2016: Aberconwy, Caerffili, Castell-nedd, Cwm Cynon,  Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Llanelli a’r Rhondda. Y mae rhai yn mynnu fod yna seiliau cadarn wedi’u gosod at gipio’r seddi hyn flwyddyn nesa yn yr etholiad hwn am lu o resymau. Ond y gwir ydi – os edrychwch chi’n fanylach ar y seddi targed hyn – mae pethau’n eithaf argoelus i gyfleoedd Plaid Cymru.

 


Etholaeth

Newid % yn y bleidlais 2010-2015

Aberconwy

-6.1

Caerffili

-2.1

Castell-nedd

-1.8

Cwm Cynon

-3.5

Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro

0.0

Llanelli

-7.0

Rhondda

+8.9

 

Er gwaetha’r ffaith fod y Blaid wedi llwyddo i gael canlyniad da yn y Rhondda – nad oedd yn gwbl annisgwyl o ystyried popeth – erys y ffaith fod canran Plaid Cymru o’r bleidlais wedi lleihau oddi ar 2010 eleni ym mhump o’r saith sedd y bydd hi’n debygol o’u targedu yn 2016 – doedd dim newid o gwbl yn y llall. Wrth gwrs, mae nifer o’r seddi hyn yn agosach o lawer ar lefel Cynulliad ac yn fwy ffafriol i’r Blaid nag ydynt mewn etholiad cyffredinol, dwi’n derbyn hynny. Eto, does yna ddwywaith am y peth, roedd chwe o’r saith canlyniad uchod i Blaid Cymru’n amrywio rhwng gwael a diawledig o wael. Dydi colli pleidleisiau mewn seddi fydd yn rhai targed mewn etholiad arall flwyddyn cyn ei gynnal byth yn gallu bod yn beth da.

Ac fel y dywedais uchod, dydi pleidlais Plaid Cymru’n fawr ddim uwch mewn etholiadau Cynulliad mewn difrif fel rheol – cyfuniad digon digalon iddi.

 
Dydw i ddim yn dweud nad oes yna ffactorau fydd yn ffafrio Plaid Cymru’r flwyddyn nesaf – ond mae yna lot o bethau i’w poeni amdanynt hefyd. Dwi’n eithaf siŵr bod yna rai ym Mhlaid Cymru sy’n deall hynny … ond gan ddweud hynny dwi’n hollol siŵr fod yna rai sy ddim.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Ambell air ar yr etholiad

Rŵan, mae’n bwysig peidio â chymryd barn rhywun oedd mor chwil ar noson etholiad y trydarodd at Dewi Llwyd, Dicw a Vaughan Roderick p’un ai oedd yn well ganddyn nhw bizza, Chinese neu Indian yn rhy o ddifrif. Er teced y cwestiwn, doedd o ddim mo’r adeg briodol i’w ofyn. Petawn i’n gorfod dyfalu dwi’n meddwl bod Vaughan yn foi am Indian da ond mai hogia pizzas ydi Dewi Llwyd a Dicw. Ta waeth.

Er ei bod ond ychydig ddiwrnodau ers yr etholiad dwi’n rhyfeddu ar faint o ddadansoddi trylwyr ac actiwli eithriadol o gall a threiddgar sydd wedi bod mor gyflym ar ôl iddo ddigwydd, a hynny gan bobl o bob ongl i’r sbectrwm gwleidyddol, felly dwi’n teimlo’n hwyr i’r parti ac fel petawn i’n gorfod ailadrodd mymryn. Ond mae rhai meddyliau sydd wedi bod yn nofio yn fy mhen dwi isio rhoi rhyw ychydig sylw iddynt, a hynny’n gryno achos dwisho gwneud fy nhe. Wna i nhw fesul pwynt.

Y system etholiadol

Does fawr neb yn honni fod y system etholiadol sydd ohoni’n deg, ond mae diwygio’r system yn farw tan yr etholiad cyffredinol nesaf o leiaf. Dydi’r Ceidwadwyr ddim isio unrhyw elfen o system gyfrannol, ac mae ganddyn nhw fwyafrif. Fydd yr SNP yn llwyr anghofio am unrhyw ymrwymiad oedd ganddi yn hyn o beth, a byddai Llafur fawr gwell eu byd dan y drefn honno. Mae hynny’n gadael UKIP, y Gwyrddion, y Dems Rhydd a’r Blaid i gyd o blaid system gyfrannol ac mae ganddyn nhw 13 sedd rhyngddynt. Y mae newid y system bleidleisio yn fater sy’n farw am rŵan.

Naws wleidyddol Cymru

Y mae nifer wedi dweud bod yr etholiad hwn yn dangos fod y syniad fod Cymru’n wlad sylfaenol asgell chwith yn hurt – ac maen nhw’n iawn i bob pwrpas. Serch hynny, mae’n biti y cymrodd mor hir i rai pobl ddechrau ystyried hyn. Rydyn ni wastad wedi bod yn genedl gymdeithasol geidwadol ac roedd twf UKIP a’r Ceidwadwyr yng Nghymru’n dangos hynny. Ni lwyddodd y Blaid, sy’n hoffi gweld ei hun fel plaid i’r chwith o Lafur, fawr o ddim o ran ei phleidlais, ac er 30 mlynedd o drio dydi hi dal heb wneud hynny. Mi lwyddodd UKIP, ac i raddau’r Ceidwadwyr wneud hyn; efallai nid er eu bod yn bleidiau’r dde, ond oherwydd hynny. 

Y mae Cymru’n wlad ôl-syniadaethol. Dydi chwarae ar fod yn asgell chwith, fel y gwnaeth Llafur a Phlaid Cymru, ddim efo’r un apêl ag yr oedd ganddi amser maith iawn yn ôl. Os rhywbeth mae Cymru’n llawer tebycach i Loegr yn wleidyddol nag y bu erioed. Mae yna ffactorau lu am hynny, ond mae’n wir.

Bod yn wladweinydd

Dydi pobl erioed wedi cymryd at Miliband a wnaethon nhw ddim at Bennet ychwaith. Roedd y ddau arweinydd yn ffactor yn aflwyddiannau eu pleidiau.

Mae Leanne Wood a Nigel Farage yn wleidyddion poblogaidd (er bod Farage yr un mor amhoblogaidd ag unrhyw un hefyd), ond dydi’r un ohonyn nhw’n dod drosodd – nac yn mewn difrif – yn ddeallus nac yn rhyfeddol o alluog. Mewn etholiad dydi hynny ddim yn argyhoeddi pobl ddigon.

Ar y llaw arall, mae dau arweinydd a lwyddodd gyfleu eu hunain fel gwladweinyddion: Cameron a Sturgeon. Roedd llwyddiannau’r ddwy blaid y tu hwnt i’w gobeithion achos eu bod nhw wedi dod drosodd fel galluog a gwybod sut mae rheoli gwlad – er, wrth gwrs, i’r ddau gael profiad o wneud hynny.

Llymder

Un pwynt mawr ddarllenais i yn rhywle arall oedd faint a wnaed o lymder – ac roedd o’n bwynt difyr. Achos, ac mae hyn yn werth ei godi, er bod pethau wedi bod yn ddu ar gynifer o bobl dros y 5 mlynedd ddiwethaf, mae’r rhan fwyaf o bobl wedi gwneud yn olreit, os nad yn wych, ac efallai bod llai o bobl nag y meddyliai’r gwleidyddion sydd isio gweld newid cyfeiriad oherwydd hynny.

Plaid Cymru

Noson gymysg oedd hi i’r Blaid. Roedd yna ganlyniadau da – nid lleiaf yn Arfon, y Rhondda a Gorllewin Caerdydd. Ar y llaw arall, roedd yna seddi nad oes angen i mi eu henwi lle’r oedd y canlyniadau’n siomedig, os nad gwael iawn weithiau. Ta waeth, y pwynt ydi hyn mewn difri: tasa’r Blaid heb gael yr holl sylw, byddai hwn wedi’i ystyried mewn rhai ffyrdd yn etholiad derbyniol iawn. Ond – â phlîs peidiwch â bod yn ddiystyriol o’r pwynt hwn, Bleidwyr – cafodd Plaid Cymru y math o sylw na chredai y câi erioed y tro hwn. Cynyddodd ei phleidlais un y cant. Hynny ydi, clywodd pobl neges y Blaid yn glir yn yr etholiad hwn … a’i gwrthod.
Mae gan y Blaid felly o hyd gwestiynau ynghylch ei chyfeiriad gwleidyddol.

Y cyfryngau cymdeithasol

Ers ethol Obama yn 2008 mae pobl wedi edrych at, a breuddwydio am, ddylanwad y cyfryngau cymdeithasol. Gwelsom yng Nghymru yn sicr, ond hefyd ar lefel y Deyrnas Unedig, nad ydi’r cyfryngau cymdeithasol hanner mor ddylanwadol ag y damcaniaethai rhai pobl eu bod. Dadleuais i hyn am fyd y blogiau flynyddoedd yn ôl hefyd – mae’r un peth yn wir am Twitter heddiw. Yn wir, mae natur Twitter yn ei wneud yn anylanwadol ar farn pobl. Cyfrwng i ennill etholiad nid yw; a dydi o ddim yn rhyfeddol o effeithiol am wthio safbwyntiau gwleidyddol.

Y broblem efo’r cyfryngau cymdeithasol ydi’r swigen y mae’n ei chreu. Bu i fwy nag un ohonom ryfeddu hyd at grinjio ar rai o ddisgwyliadau cefnogwyr Plaid Cymru (er, i fod yn deg, cefnogwyr iau a mwy brwd!) o weld ambell bôl neu ddarllen ambell beth. Y wers yn fanno ydi, mae yna fyd go iawn y tu allan i Twitter, a dydi o ddim o reidrwydd yr un peth.

Twll mawr Llafur Prydain

Mae hwn yn bwynt dwi heb ei ddarllen eto, er hwyrach ei fod o wedi’i wneud. Mae beirniadaeth wedi bod at Lafur am fod yn rhy asgell chwith yn yr etholiad hwn. Ond dyma broblem Llafur – ni fu Llafur ôl Blair a Brown yn blaid asgell chwith beth bynnag, i bob pwrpas dilynai’r un trywydd â nhw.

Clywid llawer dros y misoedd diwethaf na fu i’r Ceidwadwyr ennill mwyafrif ers 1992. Ond meddyliwch am hyn – dydi Llafur heb ag ennill mwyafrif ag arweinydd gwirioneddol adain chwith ers 1974.

Mae hynny’n gadael cwestiwn mawr i Lafur ym Mhrydain – achos mi fedrid dadlau bod y blaid mewn sefyllfa lle na all ennill etholiad drwy fod naill ai yn y canol gwleidyddol nac ar y chwith.

Twll mawr Llafur Cymru

Dydw i ddim yn meddwl imi erioed â chytuno â David Taylor, ond roedd yr erthygl hon ar ClickOnWales wedi taro’i hoelen ar ei phen. Bu’r ysgrifen yn y tywod i Lafur yng Nghymru gael etholiad tebyg i hwn ers blynyddoedd, er na ddigwyddodd i raddau sylweddol tan rŵan.

Ond un gair o gyngor o ran hynny – mae Llafur o hyd yn llwyr ddominyddu bywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac yn wahanol i’r Alban tydi hi ddim yn wynebu un gwrthwynebydd cryf, trefnus, cyfrwys. Nes y bydd un blaid, a gellid dadlau’n fawr ynghylch pa blaid, yn gallu gwneud hynny, mae ei gafael ar Gymru, er gwaethaf ei gwendidau lu, yn debygol o barhau.

Ta waeth, fydd yna lot o mwy o drafod am yr etholiad, er nad gen i, mewn llefydd eraill dybiwn i, achos os gellir dweud un peth am yr etholiad hwn roedd yn un eithriadol o ddifyr a fydd yn haeddu cael ei ddadansoddi a’i drafod yn fanwl.

Reit, dwi ddim yn Dori, ond dwi am gael samon a salad i de. Welai chi pan welai chi – wyddoch chi fyth pryd y bydda i’n blogio nesaf, oni wyddoch? Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Proffwydo 2015: Ceredigion

Dyma ni. Mi addewais y byddwn i’n dadansoddi Ceredigion a hynny a wnaf, er yn hwyrach nag oeddwn i’n disgwyl gwneud.

Bydd hwn yn etholiad difyr yng Ngheredigion, ond mae’n anodd gwybod yn union beth i’w wneud ohoni. Cyn mynd i ddadansoddiad mwy manwl, fe wyddoch debyg mai un o ddwy blaid fydd yn ennill yma eleni: y Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru. Mae yna gymaint o elfennau a allai effeithio ar yr etholiad hwn. Gadewch i mi ddechrau gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn syml, o ran cadw’r sedd, ddylai o ddim ar yr olwg gyntaf fod yn broblem. Yn 2010 roedd mwyafrif y blaid yma dros 8,000 o bleidleisiau, gan ennill 50% o’r bleidlais. Ni ddylid diystyru hynny o gwbl – mae’n fwyafrif hynod o gadarn. I ategu hynny, mae Mark Williams yn aelod lleol poblogaidd iawn sy’n gwybod sut mae ymladd etholiadau. Yn wir, mae’n gwybod pwy sy’n pleidleisio drosto a sut i’w hudo ac mae hynny’n angenrheidiol mewn gwleidydd da.

Fel arfer dylai hynny fod yn ddigonol. Ond y tro hwn mae pethau’n y fantol. Mae’r Dems Rhydd yn gwaedu pleidleisiau yng Nghymru yn ôl y polau Cymreig – cawson nhw 20% o’r bleidlais yn 2010, ond yn yr arolwg barn Cymreig diwethaf ni chawsant ond 5%. Yn gyffredinol mae’r polau’ndangos y byddan nhw’n colli dwy ran o dair i dri chwarter o’u pleidlais yma.

Fodd bynnag, y farn gyffredinol ydi na fyddan nhw’n colli cymaint â hynny ym mhob sedd ac y byddan nhw’n gadarnach yn y seddi maen nhw’n eu dal. Mae synnwyr cyffredin yn dweud bod hynny’n wir, ond os edrychwch chi’n fanwl ar rai o bolau’r Arglwydd Ashcroft (dymaun Brycheiniog a Maesyfed) hyd yn oed yn y seddi hynny maen nhw’n ddigon tebygol o golli traean da o’u pleidlais. Ydi, mae eu pleidlais nhw’n wytnach yn y seddi sydd ganddynt … ond dydi hi ddim ychwaith yn wydn.

Roedd ffigurau’r pôl y cyfeiriais ato uchod gan yr Arglwydd Ashcroft, ym Mrycheiniog a Maesyfed, gyda llaw, yn gofyn i bobl feddwl am eu hetholaeth benodol nhw sy’n golygu meddwl am yr ymgeiswyr. Mae Roger Williams yr AS presennol, fel Mark Williams, yn aelod lleol poblogaidd. Os ydi yntau’n debygol o golli talp mor fawr o’i bleidlais, mae’n hollol bosibl y bydd Mark Williams hefyd.

Un elfen sydd i’w chael yng Ngheredigion fodd bynnag ydi’r bleidlais myfyrwyr. Gwnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn dda ymhlith myfyrwyr y tro diwethaf, fel y maen nhw wedi yn draddodiadol, ac mi fydd yn ffactor yn yr etholaeth y tro hwn. Fodd bynnag, wnaethon nhw ddim gystal ag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl yn 2010 – tua 48% bleidleisiodd Dem Rhydd yn 2010. Ro’n i’n rhyw ddisgwyl i’r ffigur fod yn uwch fy hun.

Y mae’n anwyddonol tu hwnt gymhwyso’r ganran honno i bobman, ond er mwyn ceisio darogan beth am wneud hynny? Mae tua 11,000 o fyfyrwyr yng Ngheredigion – petai tua hanner ohonynt wedi pleidleisio dros Mark Williams yn 2010 mae hynny o leiaf yn 5,000 o bleidleisiau – er o ystyried gweithgarwch y blaid ymhlith myfyrwyr Aberystwyth yn benodol, gallai’n hawdd fod yn fwy. Yn ôl y British Election Study (a ddywed mai 44% o fyfyrwyr bleidleisiodd dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010), mae cefnogaeth i’r blaid ymhlith myfyrwyr wedi gostwng i 13%. Mae hynny’n ostyngiad sylweddol, a phetai’n wir yng Ngheredigion byddai’n awgrymu y byddai tua 2,000-3,000 o fyfyrwyr yn pleidleisio dros y blaid yn 2015 yno. O ystyried hefyd fod cangen wleidyddol y blaid ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi chwalu fwy na heb, dydi hynny ddim yn ffigur afrealistig.

Ond nid myfyrwyr mo’r rhan fwyaf o bobl Ceredigion o bell ffordd. Mae tua 48,000 o etholwyr yng Ngheredigion nad ydynt yn fyfyrwyr, a does yna ddim amheuaeth i Mark Williams ennill ymhlith y trwch ohonyn nhw y tro diwethaf. O pleidleisiodd 5,000-6,000 o fyfyrwyr yng Ngheredigion dros y Dems Rhydd y tro diwethaf mae hynny’n gadael tua 13,000-14,000 o drigolion arferol a bleidleisiodd dros yr AS presennol.

Yma mae pethau’n mynd yn ddifyr. Awgrymwyd yn etholaeth gyfagos Mrycheiniog a Maesyfed y gallai traean o bleidleiswyr 2010 beidio â bwrw pleidlais i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2015 yn y seddi sydd ganddynt (mae ffigur tebyg i’w weld yn nifer o’u seddi presennol, gyda llaw). Rŵan, mae ‘na elfen o ffantasi’n perthyn i ddarogan fel hyn bob tro, ond ddywedwn ni fod rhyw 30% o’r 14k (y nifer uchaf dybiwn i o drigolion parhaol bleidleisiodd DRh yn 2010) yn peidio â phleidleisio y tro hwn, mae hynny’n golygu mai tua 10,000 fyddai’n rhoi eu ffydd yn Mark Williams fis Mai.

Mae yna ffactorau eraill ar waith – dwi ddim yn eu diystyru – ond o chwarae gêm rifol â’r ystadegau uchod, bosib y bydd pleidlais y Dems Rhydd y tro hwn mor isel ag 11,000 ac mor uchel ag … 13,000. Mae pa un a fydd y bleidlais yn dal yma’n gadarnach na hynny neu ba un a fydd yn agosach at ddilyn patrymau Cymru gyfan yn agored i drafodaeth gwbl academaidd. Ond dwi ddim yn meddwl bod 11,000 – 13,000 yn bell ohoni.

Iawn, dyna ddarfod sôn am y Democratiaid Rhyddfrydol. Ymlaen at Blaid Cymru. Mae dwy elfen i’w gobeithion hithau hefyd. Mae eu hymgeisydd i weld yn ddyn digon deallus – gallai’r ffaith ei fod yn Sais weithio yn ei erbyn ac o’i blaid er gwaetha’r ffaith fod ganddo Gymraeg – ond yn fwy cyffredinol mae gan Blaid Cymru ei hun bach o broblem. Dydi’r polau Cymreig ddim wedi bod yn rhy garedig iddi chwaith. Segura mae hi ar rhwng 10% a 13%.

Cafodd y Blaid 10,815 o bleidleisiau yn 2010, a thros y blynyddoedd diwethaf dydi hi ddim i weld fod ei huchafswm pleidleisiau, fel petai, yn fawr uwch na hynny. Cafodd Simon Thomas 13,241 yn 2001, 12,911 yn 2005 a chafodd Penri James 10,815 yn 2010. Mae pleidlais Elin Jones yn y Cynulliad wedi amrywio’n sylweddol hefyd – 11,883 (2001), 14,818 (2005) a 12,020 (2011). Ymddengys fod yna lefel benodol o gefnogaeth i Blaid Cymru wedi sefydlu yn yr etholaeth … yn ddiddorol ddigon mae’n agos iawn at faint o bleidleisiau dwi’n rhagweld y Democratiaid Rhyddfrydol yn eu cael yma yn 2015.

Ond i ychwanegu agwedd ddiddorol at y gymysgedd, ym mholau Ashcroft yng Nghymru (oll mewn ardaloedd digon gwan i’r Blaid), pan ofynnir i bobl dros bwy y byddant yn pleidleisio o ystyried eu hetholaeth, mae Plaid Cymru’n gwneud yn well (weithiau’n sylweddol well) nag yn y cwestiwn cyffredinol. Bydd Ceredigion yn etholaeth bendant lle bydd pobl yn canolbwyntio ar y frwydr leol yn hytrach na’r darlun cyffredinol, a allai fod yn fuddiol i Blaid Cymru. Eto, myfyrio am yr hyn a allai ddigwydd ydi hynny yn hytrach na chyflwyno dadl gadarn mai dyna fydd yn digwydd.

Y peth allweddol i’r Blaid ydi faint o Ddemocratiaid Rhyddfrydol 2010 y gall eu hudo i’w chorlan. Yr ateb syml i hynny o’m rhan i ydi dwi ddim yn gwybod. Ond roedd yn ddiddorol gen i ddarllen y geiriau canlynol gan Dafydd Wigley yn ddiweddar yn y Mule, pan ddywedodd am seddi targed y Blaid

We’re ahead certainly in one of them, we’re neck and neck in another one and striking in another.

Sôn oedd am bolio mewnol y Blaid, a dwi’n naturiol amheus o bolau mewnol pleidiau heb sôn am duedd fythol y Blaid o fod yn orhyderus mewn etholiadau, ond mae’n berffaith amlwg mai’r ail sedd y soniodd amdani uchod oedd Ceredigion. Ac mae hynny’n rhyw gyd-fynd â’r hyn dwi wedi’i ddweud uchod yn y blogiad hwn. Do, mae’r hen Wigley wedi cael ymgyrch anarferol ffwndrus, ond mae’r boi dal yn gwybod ei stwff.

A all Plaid Cymru ddenu fil neu ddwy o bleidleisiau coll y Dems Rhydd felly? Gall ydi’r ateb, ac yn fwy na hynny mae’n hollol resymol dweud y gallai hynny fod yn ddigon i gipio’r sedd. Dwi’n rhyw feddwl, hyd yn oed yng Ngheredigion, yr aiff llawer o bleidleisiau coll y DRh i Lafur, yn enwedig yn Aberystwyth ac Aberteifi. Ac eto, tybed faint o fyfyrwyr y bydd Mike Parker a Leanne Wood yn apelio ato y tro hwn yn hytrach na Nick Clegg a Mark Williams? Eto, dyfalu fyddai dweud – byddai rhywun yn reddfol feddwl ambell un o leiaf.

Dywedais o’r blaen mai’r Dems Rhydd fyddai’n cadw Ceredigion. Petawn i heddiw yn gorfod mentro swllt ar y sedd hon, byddwn i’n newid fy narogan, a byddwn i’n rhoi Ceredigion i Blaid Cymru o ychydig gannoedd o bleidleisiau.

Cawn weld.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Pwt ar y Blaid a’r Gwyrddion

Ro’n i wedi bwriadu blogio ar y gynghrair wirioneddol od y mae Plaid Cymru wedi penderfynu ei ffurfio â’r blaid Werdd ers cryn tro. Y broblem ydi, ddoe cefais fy nghuro i hynny nid unwaith, eithr dwywaith.

Postiodd Ifan Morgan Jones erthyglar Golwg360, a gwnaeth Syniadau flogiadro’n i’n ei feddwl oedd yn hynod, hynod o ddiddorol. Ac allwch chi ddim trafod y Gwyrddion yng nghyd-destun Cymru heb gyfeirio at flogiadau arbennig Jac o’ the North amdanynt (Plaid Cymru and the Green Party of Englandandwales / More on the Green Party of Englandandwales). Dydw i heb gyfeirio at flog Jac o’ the North o’r blaen yma, sy’n biti achos er ei fod o’n flog diawledig o bigog ma’n adrodd gwirioneddau di-ri am wleidyddiaeth yng Nghymru, ac am y mudiad cenedlaethol gystal â neb arall.

Un peth sydd wedi dod i’r amlwg – o leiaf ar y we, sydd ddim o reidrwydd yn ffynhonnell gwbl ddibynadwy wrth gwrs – ydi fod yna feirniadaeth gynyddol o dacteg Plaid Cymru yn hyn o beth. Y peth sydd wedi cael ei amlygu fwyaf ydi nad oes neb i’w weld yn gwybod pa fudd yn union a gaiff Plaid Cymru o’r fath gytundeb.

Does gen i fawr o amheuaeth nad ydi Plaid Cymru yn gwybod beth mae hi’n ei wneud chwaith. Mae hi fel petai’n ffwndro.

Does neb yn amau y gallai Plaid Cymru wneud rhyw fath o ddêl gyffredinol â’r Gwyrddion ar ôl yr etholiad, ond mae galwadau’r Blaid, a wnaed yr wythnos hon gan Dafydd Wigley, i Gymry yn Lloegr bleidleisio dros y Gwyrddion yn dangos pa mor unochrog ydi’r berthynas ‘ma. Roedd Ifan Morgan Jones yn hollol iawn i ddweud yn ei erthygl Golwg360 does neb yn y blaid Werdd yn dangos mymryn o gefnogaeth i Blaid Cymru.

‘Rhy neis’ ydi Plaid Cymru yn ei ôl o. Gen i ddamcaniaeth wahanol; os ydach chi’n gallu cael eich chwarae gan y Gwyrddion mewn ffordd mor uffernol o amlwg heb sylweddoli ar y peth, mi ydach chi’n hollol ffycin dwp. Dwi wedi dweud ambell waith y blog hwn pa mor wirioneddol dwp dwi’n meddwl ydi arweinyddiaeth bresennol Plaid Cymru – alla i ond ag ailadrodd hynny. Er gwaetha’i gamgymeriad ddoe wrth grybwyll Auschwitz (er iddo wneud sylwadau teg sy ddim yn haeddu unrhyw feirniadaeth o gwbl) dydi Dafydd Wigley ddim yn dwp, a synnwn i pe na bai dan ryw fath o gyfarwyddyd gan uwch ynfytod y Blaid i roi sylw i’r Gwyrddion.

Gan fod eraill wedi mynd i fanylder, (byddwn i wir yn awgrymu i chi gael cip ar y dolenni uchod os oes gennych amser) gadewch i mi jyst gwneud ambell bwynt:

 


1)     Y rheswm nad ydi’r Gwyrddion yn rhoi sylw o’r fath i Blaid Cymru achos nad oes ganddynt reswm i wneud hynny. Tasa ganddyn nhw obaith o ennill sedd yng Nghymru fysa nhw’m yn mynd yn agos at Blaid Cymru.

2)     Bydd y Gwyrddion yn sefyll yng Nghymru. Mae dweud wrth bobl bleidleisio dros y Gwyrddion yn Lloegr ond nid yng Nghymru felly’n dwp. Os wyt ti isio bwrw pleidlais dros y Gwyrddion, ac yn byw yng Nghymru, gwna hynny – ‘sdim angen i chdi rhoi fôt i’r Blaid o gwbl. Fel y noda Syniadau yn y blogiad y cyfeiriais ato uchod, mewn llawer o lefydd yng Nghymru fysa ti’n well yn rhoi dy bleidlais i’r Gwyrddion na’r Blaid (os wyt mewn dau feddwl). Drwy annog pleidlais dros y Gwyrddion yn Lloegr, mae’r Blaid yn llwyddo tanseilio, er efallai’n anuniongyrchol, ei chefnogaeth yng Nghymru. Twp.

3)     Dydi pleidleiswyr Plaid Cymru ddim o reidrwydd yn mynd i feddwl bod unrhyw gytundeb efo’r Gwyrddion yn grêt eniwe; dydi bod yn genedlaetholwr, neu hyd yn oed yn rhywun sy’n digwydd pleidleisio dros Blaid Cymru am ba reswm bynnag, ddim yn dy wneud sy’n rhywun sy’n frwd dros amgylcheddiaeth. Cawsom awgrym o hyn ym mholau Ashcroft – byddai’n well gan ganran nid ansylweddol o Bleidwyr lywodraeth Geidwadol i un Llafur. Efallai bod arweinwyr y Blaid yn gweld cynghrair syniadaethol rhyngddyn nhw a’r Blaid Werdd. Dydi hynny ddim o reidrwydd yn treiddio i’w chefnogwyr.

4)     Dydi Plaid Cymru ddim angen y Gwyrddion – mae Ceredigion, rhywle sy’n cael ei grybwyll yn aml wrth drafod hyn, yn enghraifft dda o hyn. Do, enillwyd y sedd ym 1992 ar ‘docyn’ Plaid-Gwyrdd. Chwalodd y gynghrair honno cyn yr etholiad nesaf ac aeth Cynog Dafis ymlaen i ennill mwyafrif mawr ym 1997. Dydi hynny heb sôn am smonach isetholiad 1991 ym Mynwy, pan enillodd y ‘tocyn’ 0.6% o’r bleidlais, sy’n waeth nag y gallai hyd yn oed Plaid Cymru fod wedi disgwyl ei wneud hyd yn oed ym Mynwy mewn isetholiad. Y gwir ydi, mae cydweithio rhwng y ddwy blaid yn y gorffennol wedi bod yn bur aflwyddiannus.

5)     Mae gan y blaid Werdd yng Nghymru hen hanes o gynnwys aelodau gwrth-Gymraeg, sydd ar adegau yn gwneud i’r ffieiddiaf Lafurwyr edrych o blaid yr iaith; maen nhw’n gwneud i UKIP edrych yn Gymreigaidd (byddwn i’n fodlon gwneud bet hegar fod canran yr aelodau sy’n Gymry yng nghangen UKIP Cymru yn uwch o lawer nag ym mhlaid Werdd ‘Cymru’) ac, os ydi eu harweinyddes ryfedd i’w choelio, maen nhw’n llai brwd dros ddatganoli na’r Torïaid. Plaid o Saeson ffroenuchel ydi’r Gwyrddion yng Nghymru ac mae’n warth gwirioneddol fod y Blaid yn eu gweld fel eu ffrindiau. Gwarth.

Ta waeth, rhag i hyn fynd yn rant go iawn y mae yma un gwirionedd sy’n sefyll allan: does gan Blaid Cymru ddim i’w ennill o’r gynghrair/cytundeb/lyf bomio hyn. Wir-yr ddim byd yn y byd. Hyd yn oed ar ôl yr etholiad mae’n bur debyg fydd gan y Blaid o hyd fwy o aelodau na nhw, sy’n gwneud yr holl beth hyd yn oed yn fwy od.


I rywun sydd isio pleidleisio dros y Blaid – yn bennaf i atal Llafur – maen nhw’n ei gwneud yn blydi anodd drwy fod mor blydi stiwpid mor blydi gyson.  Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Proffwydo 2015: Llafur

O holl bleidiau Cymru, yr hawsaf a’r diflasaf i ddarogan ei chyfleoedd yn llwyddiannus ydi Llafur. Dwi am ddangos i chi fap yn syth o sut dwi’n gweld gobeithion Llafur yn 2015.

Fel y gwelwch, yn fy marn i, mae Llafur yn gwbl sicr o ennill 26 (65%) o seddi Cymru. O’r rhai dwi wedi eu nodi fel seddi ‘posibl’ i Lafur, dwi’n meddwl ei bod yn deg dweud bod Llanelli bron yn sicr o aros yn goch, ac mai Llafur sydd yn ffefrynnau ym Môn, a dybiwn i fod pethau’n rhy agos i’w galw ym Mro Morgannwg ac Aberconwy. Fel y dywedais wrth ddarogan gobeithion Plaid Cymru, dwi ddim yn meddwl bod Arfon yn ddiogel.

Dyma olwg sydyn ar berfformiad Llafur mewn etholiadau cyffredinol yng Nghymru ers 1997.

 

Etholiad

Pleidleisiau

Canran

Seddi Cymreig

1997

886 935

54.7

34

2001

666 956

48.6

34

2005

594 821

42.7

30

2010

531 601

36.2

26

 

Does dwywaith am y ffaith fod cefnogaeth y blaid Lafur yng Nghymru wedi chwalu ar y lefel hon dros y blynyddoedd. Collodd Llafur dros 350,000 o bleidleisiau rhwng 1997 a 2010, gyda’i chanran o’r bleidlais yn gostwng 18.5%. Er cymhariaeth, mae’r dirywiad hwnnw bedair gwaith yn waeth na Llafur yn yr Alban dros yr un cyfnod (46% ym 1997; 42% yn 2010).


Wrth gwrs, bydd pethau’n wahanol yn yr Alban eleni, ond mae un rheswm mawr am hynny. Cryfder anferthol Llafur yng Nghymru ydi bod ei gwrthwynebwyr yn gwbl ranedig, i’r fath raddau byddai’n rhaid i Lafur ddisgyn i tua 30-31% o’r bleidlais yng Nghymru cyn iddi wirioneddol ddechrau colli seddi … ac a dweud y gwir, gallai fod angen iddi wneud yn waeth na hynny. Yn yr Alban, yr SNP ydi’r unig wrthwynebiad clir i Lafur. Mae’r sefyllfa yng Nghymru’n gwbl wahanol. Ers 1997, ni fu ond pedwar achlysur pan gafodd plaid ond am Lafur dros chwarter y bleidlais yng Nghymru – Plaid Cymru ddwywaith ym 1999, y Ceidwadwyr yn 2010, ac UKIP yn 2014.



Yn syml, mae Llafur yn teyrnasu yng Nghymru nid am ei bod yn sylfaenol gryf na gwydn, ond am fod ei gwrthwynebwyr yn bur lipa. Fesul plaid, dyma mewn difri yw pa mor hawdd yw’r her sy’n wynebu Llafur eleni o’u tu:

 

1)     Y Democratiaid Rhyddfrydol: petaen nhw heb glymbleidio bum mlynedd yn ôl debyg y byddai’r Dems Rhydd yn herio Llafur mewn ambell sedd eleni. Ond nid felly a fu. Bydd Llafur yn cipio Canol Caerdydd ganddyn nhw’n ddidrafferth ac yn ennill miloedd o bleidleiswyr a fenthyciodd bleidlais i’r Dems Rhydd nid yn unig yn 2010 ond dros y degawd diwethaf. Mae’r bygythiad byrhoedlog wedi diflannu’n llwyr.

2)     Ceidwadwyr: gallai Llafur gipio hyd at bedair sedd gan y Ceidwadwyr yn fy marn i, a dydyn nhw ddim yn bygwth Llafur yn unman. Y gwaethaf all ddigwydd i Lafur o ran her y Ceidwadwyr yw y bydd yn colli digon o bleidleisiau i UKIP i beidio ag ennill rhai seddi gan y Ceidwadwyr.

3)     Plaid Cymru: cipio Afon yn bosib, colli Môn yn bosib. Tu allan i’r ddwy sedd hynny ni fydd unrhyw fath o fygythiad o du’r Blaid i Lafur – ar ôl meddwl yn ddwfn am y peth, dwi’m yn meddwl y bydd cynnwys Leanne Wood yn y dadleuon teledu o reidrwydd yn newid hynny.

4)     UKIP: ennill pleidleisiau gan Lafur yn eu degau o filoedd ond ddim digon i ennill seddi. Y cyfan wnaiff UKIP ydi amharu ar Lafur, wnaiff hi mo’i bygwth. Ac mi fydd hi’n destun cysur i Lafur y bydd UKIP hefyd yn effeithio ar y Ceidwadwyr ac, i raddau llai, Plaid Cymru. Y cyfan mae UKIP yn ei wneud ydi gwneud y gwrthwynebiad i Lafur yn fwy rhanedig.

 

Petasai un gwrthwynebydd cryf i Lafur yng Nghymru, dybiwn i y cilia’r blaid hyd yn oed yn fwy dramatig na Llafur yr Alban. O ystyried y blaid ar ei phen ei hun, dydi Llafur yng Nghymru ddim mewn lle da; nid o ran aelodau, gwirfoddolwyr, trefniadaeth. Ac eto, yn bersonol, alla i ddim gweld o ba gyfeiriad y deuai’r fath her iddi mewn gwirionedd – yr unig blaid allai o bosib gynnal her ydi Plaid Cymru ac mae hi wedi ei phrofi’i hun yn gwbl analluog o wneud hynny dro ar ôl tro. Y gwir plaen ydi, mae lle o hyd i Lafur barhau i ddirywio a pharhau i dra-arglwyddiaethu yng ngwleidyddiaeth Cymru ar yr un pryd.

 
Daw hynny â ni at y polau. Dair blynedd yn ôl, ym mholau Cymreig 2012, ni chynhaliwyd ond 5 arolwg barn ond cafodd Llafur dros hanner y bleidlais ym mhedwar o’r rheiny. Ar gyfartaledd cafodd 50.4% o’r bleidlais – ni fu ond tair arolwg barn yn 2013 ond dangosai’r rheiny cgfnogaeth o 48% iddi ar gyfartaledd. Felly llai na dwy flynedd yn ôl, ymddengys nad oedd y gefnogaeth i Lafur yng Nghymru fawr lai nag ym 1997. Wedi hynny mae’r gefnogaeth iddi wedi bod yn gyson ac yn gyffyrddus dan 40%.
 
Hynny ydi, ymddengys fod Llafur ar drai yng Nghymru, ond dwi’n ailadrodd, does neb i fanteisio ar hynny. Hyd yn oed ar y raddfa hon, bydd hi’n rhai blynyddoedd nes i ddirywiad Llafur yng Nghymru arwain at newid y tirlun gwleidyddol.
 
Serch hynny, dybiwn i y gwelwn ni ailadrodd, i raddau o leiaf, yr hyn a ddigwyddodd yn 2010, pan adfywiodd cefnogaeth Llafur ar ddiwrnod yr etholiad ei hun. Hyd yn oed yn 2015, mae’r bwgi bo Ceidwadol yn ddigon i ddenu’r hen gefnogwyr allan i fwrw pleidlais eto fyth dros Lafur. Efallai’n llai nag o’r blaen, ond mae’n hen dacteg lwyddiannus sydd heb â methu byth.
 
Mae’n rhy fuan i feddwl pa effaith a gaiff y dadleuon teledu ar obeithion Llafur na’r un blaid arall. Ond mae un peth yn sicr – mi fydd Llafur eto’n ennill mwyafrif helaeth seddi Cymru. A thra bod ei gwrthwynebwyr yn parhau i fod mor boenus ddi-glem ynghyd â sut i’w disodli, parhau fydd y sefyllfa honno heb i Lafur orfod poeni dim. 

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Proffwydo 2015: Plaid Cymru

Y mae elfen o ben ac elfen o reddf wrth ddarogan. Y mae’r ddau yn dweud wrtha i y gallai hwn eto fod yn etholiad anodd i Blaid Cymru.

Mae’r Blaid wedi penderfynu ailafael yn strategaeth etholiad 2010, sef dweud gan fod senedd grog yn yr arfaeth y bydd ganddi o bosibl ran i’w chwarae wrth ddylanwadu ar liw’r llywodraeth nesaf. Rŵan, dydi hynny ddim yn anwir, er y gwir plaen ydi na weithiodd y dacteg o gwbl tro diwethaf – y mae’r Blaid yn draddodiadol yn gwneud yn dda pan mae pethau’n mynd o chwith i Lafur ond yn 2010 cafodd ei chanran isaf o’r bleidlais mewn etholiad cyffredinol ers 1997, ac enillodd hi fwy o seddi bryd hynny.

Rŵan, mae deinamig etholiad 2015 ychydig yn wahanol. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol ar drai. Yn eu lle, mae UKIP yn gwneud yn dda iawn yn y polau Prydeinig, ac mae’n bosibl y caiff yr SNP ddegau o seddi. Lle mae hynny’n gadael y Blaid? Mae hwn yn gwestiwn dyrys iddi. I fod yn onest, dwi ddim yn siŵr beth ydi’r ateb.  

Rhaid bod yn realistig. Y mae chwe sedd y gallai Plaid Cymru, petai’n cael etholiad eithriadol o dda, eu hennill. Yn rhai o’r seddi hynny mae’r ymgeiswyr i’w gweld yn hynod o optimistaidd, ond dwi heb goelio’n ddi-gwestiwn optimistiaeth ymgeiswyr ers rhai blynyddoedd; maen nhw’n tueddu i fod yn anghywir.

Er hynny, roedd fy marn pan ddechreuais lunio’r blogiad hwn yn wahanol i’r hyn ydyw rŵan, hynny ydi, dwi’n fwy optimistaidd ar ei rhan hi. Mae ‘na bethau digon rhyfedd wedi digwydd ar y marchnadoedd betio ers hynny, ymddengys fod y Blaid yn gweld ei ods hi’n gwella mewn sawl sedd. Eto dydi hi ond yn ffefryn mewn tair, sef y tair sydd ganddi.  

Daw hyn â ni at y map.



Fedra i bron teimlo pleidwyr yn anghytuno â’r uchod. Ond dwi am roi ychydig sylwadau ar seddi unigol. Dwi ddim yn meddwl y byddai neb yn dadlau fod gan Blaid Cymru unrhyw obaith o gwbl y tu allan i’r chwe sedd y byddaf yn cynnig sylwadau arnynt.


Dwyfor Meirionnydd


Oce, wna i ddim rhoi sylwadau ar y sedd hon. Liz Saville fydd AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru.


Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Doedd mwyafrif Jonathan Edwards ddim mor fawr ag yr oeddwn i wedi tybio y byddai yn ôl yn 2010 – a dweud y gwir roedd yn sylweddol lai. Ond dylai lwyddo i gadw’r sedd hon, ac yntau hefyd yn AS eithaf amlwg am 5 mlynedd erbyn hynny. 
 
Arfon

Dwi ddim yn meddwl bod rhai pobl yn gwerthfawrogi pa mor agos oedd Arfon y tro diwethaf. Mae’n ffaith mae ambell bleidiwr yn hoffi ei hanwybyddu. Mewn difri, dylai Plaid Cymru ei chadw, ond mae hynny’n bennaf am fod Llafur yn gwneud yn weddol wael ar lefel genedlaethol o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl, heb sôn am y ffaith fod Llafur yn lleol yn siop siafins. Er hynny, dwi’n disgwyl, wrth nesáu at yr etholiad, y bydd cefnogaeth Llafur yn adfer o leiaf fymryn, ac felly byddwn i’n tybio nad ydi Arfon yn sedd sicr i’r Blaid. Mewn ffordd, Arfon ydi’r sedd bwysicaf i Blaid Cymru yn yr etholiad hwn. Byddai ei cholli yn ganlyniad cwbl drychinebus; ei chadw’n arwydd o wydnwch.
 
Yr hyn ddylai wneud y Blaid yn anesmwyth yma ydi pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol – roedd o’n 14.1% yn 2010. Mae’n annhebygol y bydd digon o’r rhain yn troi at Lafur y tro hwn i gipio’r sedd, ond os bydd gogwydd cyffredinol atynt yma, dydi o ddim yn amhosibl.


Ynys Môn


Ynys Môn ydi best bet Plaid Cymru o gipio sedd (fel arfer, am wn i!). Ond mae pethau’n ffafriol y tro hwn mewn sawl ystyr. Mae Plaid Cymru wedi cael dwy flynedd dda yma, gan wneud yn dda yn etholiadau’r cyngor sir, cyn i Rhun ap Iorwerth fynd ymlaen i sicrhau buddugoliaeth wirioneddol enfawr yma y llynedd yn yr isetholiad Cynulliad.  Y ddau dro hynny, gwnaeth Llafur – sy’n dal y sedd wrth gwrs – yn rhyfeddol o wael.

Dydi hynny ynddo’i hun ddim am sicrhau’r sedd i’r Blaid wrth gwrs. Fydd yna ddim mo’r llu wirfoddolwyr yn dod i helpu fel yn 2013. Ac mae Albert Owen yn AS poblogaidd, ac wedi llwyddo i gipio a chadw’r sedd, yn amlach na pheidio yn erbyn y disgwyl, ers dros ddegawd. 

Gobaith mawr Plaid Cymru yma, yn syml, ydi UKIP. Yn ôl pob sôn a phob si mae disgwyl i UKIP wneud yn dda yn ardal Caergybi ac Amlwch (ac mae tystiolaeth – anecdotaidd gen i yn anffodus – eu bod wedi yn 2013 a 2014), sef cadarnleoedd Llafur Ynys Môn. Os ydyn nhw’n gwneud cystal yn yr ardaloedd hyn ag y mae rhai’n disgwyl iddynt ei wneud, mae’n bosibl y bydd Llafur yn colli digon o bleidleisiau i golli’r sedd. Ond peidiwch â meddwl bod hynny’n ddigon – mae’n rhaid i Blaid Cymru hefyd amddiffyn ei phleidlais, er i raddau llai. Efallai ei bod yn anghysurus i rai Pleidwyr ei glywed, ond mewn sedd fel Môn mae ‘na o leiaf rai cannoedd dybiwn i o gefnogwyr arferol y Blaid fyddai o leiaf yn ystyried pleidleisio dros UKIP. Greddf sy’n dweud hynny i mi yn fwy na dim, gyda llaw, ond dwi’n gwybod bod ‘na Bleidwyr sy’n cytuno â fi yn hyn o beth.

Byddwn i dal yn tybio mai Llafur sy’n ffefrynnau yma. Ond dydi Môn ddim y tu hwnt i Blaid Cymru o bell ffordd.


Llanelli


Mae ymgyrch y Blaid yn Llanelli yn cael rhywfaint o sylw – ymddengys yn un fywiog a gweithgar. Ar yr un olwg dydi mwyafrif Llafur yma ddim yn enfawr, ac mae’r Blaid ar y cyfan yn cryfhau yn yr ardal ers degawd a mwy erbyn hyn. Ac wrth gwrs, dros y mis diwethaf mae Ladbrooks wedi lleihau’r ods ar fuddugoliaeth i Blaid Cymru yma o 16/1 i 5/1, sy’n symud mawr.


Fel ym Môn, mae rhai yn gobeithio y bydd UKIP yn hudo digon o Lafurwyr i’w corlan i adael y Blaid i mewn “drwy’r canol”, ac mae llawer o sôn fod UKIP yn denu cefnogaeth eithaf cadarn yma. Dwi’n tueddu i feddwl fod ‘na elfen fawr o or-optimistiaeth yn hyn o beth. Geisia i egluro pam yn gryno iawn.



Mae’r Blaid wedi denu Llafurwyr ati dros y blynyddoedd diwethaf yma, ond y gwir ydi dyma’r union bobl mae UKIP hefyd yn eu denu (yn enwedig yn y dref ei hun). Hynny ydi, yma hefyd, mae elfen nid ansylweddol (er nad enfawr) o gefnogaeth Plaid Cymru yn agored i fygythiad UKIP, a gallai hynny fod yn fwy na digon i sicrhau buddugoliaeth i Lafur. Fel sy’n digwydd yn rhai o seddi’r Ceidwadwyr, gall y blaid sy’n dal y sedd yma golli miloedd o bleidleisiau, a’r cyfan sydd ei angen arnynt ydi i’r blaid sy’n ail golli rhai cannoedd i UKIP.  Synnwn i ddim o gwbl mai dyma fydd yn digwydd yn Llanelli.



Dydw i ddim yn gwybod faint o effaith gaiff y newyddion diweddar y bydd Siân Caiach yn sefyll yma eleni ar bleidlais unrhyw un o’r pleidiau, ond dybiwn i y bydd hynny o effaith a gaiff yn anfanteisio’r Blaid yn fwy na Llafur. Mae’n ergyd fechan.

Efallai fy mod i bach yn hallt yn lliwio Llanelli’n llwyd yn y map – dydi hi’m cweit yn sedd ‘dim gobaith’ i’r Blaid – ond y gwir ydi anodd mewn difrif ydi gweld Llafur yn ei cholli eleni.


Ceredigion

Dwi wedi dweud, wrth drafod y Democratiaid Rhyddfrydol, mai nhw fydd yn ennill yma yn 2015, ac y bydda i’n edrych ar Geredigion yn fanylach mewn post ar wahân. Does dim eto wedi fy argyhoeddi mai fel arall fydd hi, er nad oes yna unrhyw amheuaeth y bydd pethau’n agosach o lawer na’r tro diwethaf, pan gafodd y Blaid gweir yma.

*              *              *

Y tu allan i’r seddi hynny, dwi ddim yn gallu go wir gweld Plaid Cymru yn gwneud fawr ddim – a dwi’n amau mai dyna’r farn fewnol gyffredinol yn y Blaid. Mi dybiwn i mai ei phrif nod ydi cadw’r ail safle mewn nifer o seddi – a allai fod yn anoddach na’r disgwyl, hyd yn oed mewn llefydd fel y Cymoedd. Byddwn i’n synnu dim petai UKIP yn goddiweddyd y Blaid fel yr ail blaid yn nifer o’r seddi, hyd yn oed mewn ambell un lle mai’r Blaid sydd fel rheol yn ail rheolaidd.
 
Ydi, mae polau Ashcroft yng Ngorllewin Caerfyrddin a  De Penfro, Brycheiniog a Maesyfed, Canol Caerdydd a Gogledd Caerdydd oll wedi awgrymu y gwelwn gynnydd ym mhleidlais y Blaid ynddynt yn 2015. Tra bod hynny’n rheswm i fod yn obeithiol, yn y seddi hyn amrywiodd ei phleidlais rhwng 2.5% a 10.4% yn 2010 felly efallai nad ydyn nhw mor arwyddocaol â hynny iddi mewn difrif. Ac ni ellir anwybyddu’r ffaith, ym mholau’r Welsh Barometer, aros yn ei hunfan y mae’r Blaid wedi gwneud.


I grynhoi; yng nghyd-destun etholiadau cyffredinol dydi Plaid Cymru mewn fawr gwell stad nag yr oedd hi gryn amser yn ôl. Er ein bod yn sicr am weld seddi’n syrthio’n llu i’r SNP yn yr Alban, ac UKIP yn ennill pleidleisiau yn eu miliynau, mae’n anodd gweld unrhyw ogwydd enfawr at Blaid Cymru yng Nghymru y tro hwn. Gallai cadw ei thir fod yn ddigonol. Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Polau Ashcroft – rhai ystadegau difyr ar Blaid Cymru

Dwi mewn brys, ond mae ambell beth wedi fy nharo ym mholau’r Arglwydd Ashcroft o ran ffigurau Plaid Cymru. Dwi ddim yn gwneud pwynt gwleidyddol yn y post hwn, felly dyma eu cyflwyno ac nid eu dadansoddi.

Yn gyntaf, bwriad pleidleisio pobl 18-24. Mae’r cwestiwn penodol hwn yn ymwneud â meddwl am yr etholaeth y maen nhw’n byw ynddi.

Etholaeth

18 – 24 oed

Cyffredinol

Brycheiniog a Maesyfed

6%

6%

Canol Caerdydd

7%

8%

Gogledd Caerdydd

13%

6%

Gorll. C’fyrddin a De Penfro

27%

14%


Yr ail ydi pwy fyddai’n well gan bleidleiswyr Plaid Cymru i ffurfio’r llywodraeth nesaf – mae amryw ddewisiadau ond dyma’r rhai o ran llywodraeth Lafur (gan gynnwys clymblaid Llafur a Dem Rhydd) neu llywodraeth Geidwadol (gan gynnwys clymblaid Ceidwadwyr a Dem Rhydd). Ni ddadansoddwyd ymatebion y rhai oedd am bleidleisio i’r Blaid yng Nghanol Caerdydd ar y cwestiwn hwn.

Etholaeth

Llafur (+ clym. DRh)
Ceidwadol (+ clym. DRh)
Brycheiniog a Maesyfed

47%

41%

Gogledd Caerdydd

67%

29%

Gorll. C’fyrddin a De Penfro

48%

38%

Efallai bod y tabl uchod yn dweud rhywfaint am natur wahanol cefnogaeth y Blaid mewn ardaloedd gwahanol, rhywbeth nad ydi pawb yn y Blaid yn ei gydnabod.

Wrth gwrs, mae maint y samplau i’r ffigurau penodol hyn uchod yn fach iawn – efallai’n rhy fach i ddod i unrhyw gasgliad pendant yn eu cylch – ond maen nhw serch hynny’n ddifyr yn fy marn i.

 

Ffynonellau:


Arglwydd Ashcroft –Brycheiniog a Maesyfed
Arglwydd Ashcroft – Canol Caerdydd


Arglwydd Ashcroft – Gogledd Caerdydd


Arglwydd Ashcroft –Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro Parhau i ddarllen