Archives: iestynap

Tad a'r Mab: Cewynnau Go Iawn

Cewynnau Go Iawn Mae Ioan yn tyfu o hyd – does dim syndod yno, wedi’r cyfan na beth mae babis yn gwneud, ondife! Ond daeth e’n amlwg dros y dyddiau diwethaf ei fod e’n tyfu’n rhy fawr i’w gewynnau. Penderfynon ni’n gynnar iawn y bydden ni o leia’n rhoi cynnig ar ddefnyddio cewynnau go iawn, [...] Parhau i ddarllen

Tad a'r Mab: Camau Cyntaf

Bydd gan lot o bostiau benawdau yn cynnwys y gair ‘cyntaf’ am ychydig, mae arna’i ofn. Felly mae… Ddydd Iau, cymerodd Ioan ei gam cyntaf. Wel, nage cam, rhyw symudiad bach o’i droed a symudodd ei goes o ryw hanner modfedd. Eto, cynydd! O feddwl iddo fynd o’r symudiad cyntaf i gropian ffwl pelt o [...] Parhau i ddarllen

Tad a'r Mab: Geiriau cyntaf

Mae pawb wedi bod yn gofyn i ni, “Bydd ei eiriau cyntaf yn Gymraeg neu Saesneg?”, a ninnau yn ateb bod ‘dad’ a ‘mam’ yr un fath yn y ddwy iaith, felly’n bod ni’n ddigon saff na bydd problem ieithyddol.  A dyma fi’n cyrraedd gytre ddoe, a chasglu Ioan o’n cymdogion (mae nhw’n dwlu arno [...] Parhau i ddarllen

Tad a'r Mab: Cropian a Cherdded

Heb sgwennu ers achau – mae’n rhyfedd fel mae’r amser yn diflannu pan fo ‘lleidr amser’ gyda chi ar ffurf mab bach…! Mae’r crwtyn yn cropian (ers 4 wythnos) ac yn tynnu ei hunan lan ar y celfi, y staer, y drysau, ein coesau…  Rhaid wrth lygaid barcud i’w wylio.  Ry’n ni wedi rhoi’r platiau [...] Parhau i ddarllen

Tad a'r Mab: Diwrnod Bant

Ces i ddiwrnod bant ddoe. Aeth y crwtyn i weld ei hen fam-gu (Mamie Francaise) yn Ne Lloegr, a minnau’n cael diwrnod llawn hebddo. 8 awr i’n hunan, a chymaint o bethau i wneud, felly dyma beth a wnes i: Do’n i ddim yn deall pan oedd ‘y ngwraig yn treulio diwrnod yn gwneud dim [...] Parhau i ddarllen

Tad a'r Mab: Bwydydd Diddorol

Ydw i’n or-hyderus? Ar ôl cwta wythnos o garco Ioan, mae ‘nghreadigrwydd coginyddol ar dân! Ddoe, ces i (neu falle, celon ni – wedi’r cyfan mae Ioan yn rhan o’r blog hwn hefyd!) anrheg, fel manna o’r nefoedd. Y fenyw drws nesa wedi coginio gormod o fwyd, a dim am ei dwlid i’r bin: A [...] Parhau i ddarllen

Tad a'r Mab: Datblygiad y Babi – Llinell Amser

Fel gwedais i yn fy mhost cyntaf, wy am weld pwy fath o gemau galla’i whare gyda’r crwtyn i’w ddatblygu (rhwng y gemau ‘jest whare’), ac felly dyma fi ar ruthr i’r we. Sgwennu “baby development” i’r hen Oogle, a bant a ni. Am siom. Na, mae’n waeth na hynny – mae ‘mhlentyn i’n rhyw [...] Parhau i ddarllen

Tad a'r Mab: Gwrthod Bwyta

Mae’r boi wedi bod yn gwrthod bwyta dros y ddeuddydd ddiwethaf. Mae’n bosib taw anhwylder sydd i feio am ei ddiffyg brwdfrydedd brechdanol, ond rhyfedd ei fod felly yn bwyta brecwast llawn a chinio llawn hefyd (er iddo chwydu cinio echdoe dros ei wely wrth noswylio). A rhyfedd hefyd nad oes awch am frechdan arno [...] Parhau i ddarllen

Tad a'r Mab: Y Diwrnod Cyntaf

Y diwrnod cyntaf yn dirwyn i ben. Llwyddiant ysgubol bu hi – mae’r crwtyn dal yn fyw, a minnau wedi cadw ‘mhwyll. Amserlen heddi’: Arwyddo i fabanod yn Radyr yn y bore, Ti a Fi ym Maesycwmer yn y prynhawn. Mae Arwyddo bach yn lletchwith oherwydd ei fod yn Saesneg. Ry’n ni’n dysgu arwyddion trwy [...] Parhau i ddarllen