Archives: Ifan Morgan Jones

Ifan Morgan Jones: Map calonogol

Mae papur newydd y Guardian wedi cyhoeddi map sy’n dangos y safleoedd newyddion mwyaf poblogaidd fesul rhanbarth. Mae canlyniadau Cymru yn eithaf calonogol a dweud y gwir – yn ôl y map, mae’r rhan fwyaf o orllewin a chanolbarth Cymru yn dibynnu ar… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Diwrnod i’r Brenin?

Yn sgîl methiant Plaid Cymru yng Nghaerffili yn yr etholiadau lleol mae ambell un eisoes wedi bod yn pwyntio bys at Leanne Wood gan ddweud bod ei gwrthwynebiad at y Teulu Brenhinol wedi atal ambell un rhag pleidleisio dros y Blaid.Mae methiant Leanne … Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Hysbysebion Saesneg ar wefannau Cymraeg?

Un o’r prif heriau oedd yn wynebu Golwg 360 pan lansiwyd y safle oedd annog cwmnïau oedd yn gwerthu nwyddau Cymraeg i hysbysebu yno. Roedd y dasg yn un anodd, yn rhannol oherwydd bod y wefan wedi ei lansio ar drothwy’r argyfwng ariannol. Ond hefyd o… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Respect the Welsh language, you !&@#%!

I’m going to blog in English, for once, because I’d like to see what non-Welsh speakers have to say about this matter.About two weeks ago I witnessed a fiery exchange on Twitter, concerning the Welsh language. To cut a number of short tweets even s… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Snŵs yn y Senedd

A ddylai ein Haelodau Cynulliad fod yn fwy cwerylgar? Ar yr olwg gyntaf, yr ateb amlwg yw ‘na’. Wedi’r cyfan, rydyn ni’n cymryd balchder yn y ffaith nad ydi ein haelodau yng ngyddfau ei gilydd fel ein Haelodau Seneddol yn Llundain. Does dim o Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Pawb at y Peth y bo…

Dim ond nodyn i ddweud y byddaf yn trafod e-lyfrau ar raglen Pethe ar ddydd Llun 26 Mawrth, am 9.30pm. Dydw i ddim yn hollol siwr faint o synnwyr oeddwn i’n ei siarad yn ystod y ffilmio, ond mae gan y teledwyr ‘ma bob math o driciau er mwyn sicrhau… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Achub yr Iaith Gymraeg

Saunders LewisYn dilyn nodi pen-blwydd 50 mlynedd darlith Tynged yr Iaith, Saunders Lewis, mae’r rhithfro, y radio ac S4C wedi bod yn ferw o drafodaeth ynglŷn â dyfodol yr iaith. Ymysg yr heriau sy’n wynebu’r iaith sydd wedi bod dan drafodaeth… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: A peth arall da am e-lyfrau…

Un o brif fanteision e-lyfrau yw y bydd y llyfr ar gael i’w lawrlwytho ar y we ymhell ar ôl iddo ddiflannu o shilffoedd y siopau llyfrau. Anaml iawn erbyn hyn ydw i’n gweld copi o Igam Ogam neu Yr Argraff Gyntaf mewn siopau sy’n gwerthu llyfrau… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Jiw, Jiw!

Diolch i bawb a ymatebodd i fy mlogiad diweddaraf, A oes pwynt dadlau am grefydd? Roedd Dylan, Hogyn o Rachub ac Alwyn ap Huw wedi codi ambell i bwynt da iawn sy’n haeddu ymateb llawn. Mae Dylan hefyd wedi ymateb i’r blog gwreiddiol ar ei flog Anf… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: A oes pwynt dadlau am grefydd?

Tair crefydd yn cytstadlu am leAm bron i flwyddyn mae Blog Anffyddiaeth wedi bod yn gwneud gwaith da iawn wrth drafod amryw o ddadleuon sy’n cael eu gwyntyllu gan bobol grefyddol ac Anffyddwyr (gydag ymatebion o dro o dro gan flogwyr Cristnogol, gan … Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Paradocs annibyniaeth i Gymru

Owain ar gefn ei geffylFel yr ydw i wedi ei ddweud o’r blaen rydw i o blaid annibyniaeth i Gymru. Ond petai annibyniaeth yn cael ei gynnig ar blât i Gymru yfory dw i’n credu mai dim ond y cenedlaetholwr mwyaf eithafol fyddai yn derbyn. Mae balchd… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Datganoli i’r eithaf

Mae un o’r gwledydd Celtaidd wedi hawlio ei lle ar dudalennau blaen y papurau Llundeinig o’r diwedd – ond dim ond am iddi fygwth gadael y Deyrnas Unedig. Wyddwn i ddim a dweud y gwir pa mor bwysig yw pwnc annibyniaeth yr Alban i’r dyn ar y stryd … Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Mewn undod y mae nerth?

Wrth bori dros ystadegau’r blog y dydd o’r blaen sylwais fy mod i wedi derbyn llond llaw o ‘hits’ gan flog o’r pen arall i Fôr Iwerddon – Blog Dialann Scott. Roedd y blog yn fy nghrybwyll i, felly dyma fi’n holi fy nghyfeillion yng Nghan… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Yr Argraff Gyntaf ar Kindle!

Wrth bori siop Amazon heddiw sylwais fod Yr Argraff Gyntaf, yn ogystal â sawl nofel arall gan y Lolfa, bellach ar gael ar y Kindle! Wyddwn i ddim pryd y digwyddodd hyn ond mae’n sicr yn gam cyffrous ymlaen i’r cyfrwng, ac mae’n anrhydedd gweld f… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Asgwrn cefn

Bwlch yr Oerddrws“The shortest distance between two points is under construction” – Noelie AltitoCyn parhau, dyma rybudd bach – rydw i’n ddyn sy’n hoff o freuddwydio am brosiectau mawr. Mewn bywyd arall efallai mai fi oedd yn gyfrifol am gomi… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Cyfyng Gyngor

Mae yna drafodaeth ar Maes-e ynglŷn â nifer y cynghorau sydd yng Nghymru. Mae yna 22 ar hyn o bryd ond mae sawl un o’r farn y dylid lleihau eu nifer.Dyma fy nghyfraniad i at yr ymgynghoriad, sef Adolygiad Ffiniau Cymdeithas Llywodraeth Leol Ifan Mo… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Storm mewn cwpan de (yn y grug)

Kate RobertsYn ddiweddar rydw i wedi tueddu i ddechrau ysgrifennu sylw ar flog arall, cyn gorfod ei drawsblannu i fan hyn am ei fod wedi tyfu’n rhy hir ac wedi crwydro oddi ar y pwnc. Dechreuodd y blogiad yma yn ymateb i’r ysgrif yma ar flog Anffyd… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Achub Maes-e

Tua wythnos yn ôl fe fues i’n trafod y ffordd orau i achub yr Ewro. Nawr fy mod i wedi datrys y mater dibwys hwnnw rhaid troi at orchwyl llawer pwysicach… achub Maes-e!Fe fydd sawl un yn dweud nad oes modd achub Maes-e. Mae’r fforwm drafod Cymra… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Sut beth fyddai’r Byd?

Wrth drafod tranc annisgwyl Tu Chwith ar wefan Golwg 360 sylwais ar y neges canlynol gan Martin Llywelyn Williams. Ynddo mae’n difaru na chafodd papur newydd dyddiol Cymraeg ‘Y Byd’ ei sefydlu yn 2008. Dyma fersiwn byrrach o’i neges:‘cywilydd… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Achub yr ewro

Mae’n siŵr nad fi yw’r unig un sydd wedi cymryd mwy o ddiddordeb na’r arfer yn y byd ariannol dros y misoedd diwethaf. Os ydyn ni’n barod i gredu’r cyfryngau Llundeinig, sydd wedi bod yn amheus o’r ewro ers y dechrau, mae parth yr ewro ar f… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Oes angen plaid wleidyddol newydd ar Gymru?

Newyddiadurwr ydw i, yn y bon, nid gwleidydd. Fy swyddogaeth i mewn bywyd yw cadw llygad, gofyn cwestiynau anodd, a chyhoeddi straeon nad ydi rhywun, rhywle, am i fi eu cyhoeddi. Mae’n help yn hynny o beth fy mod i’n eithaf diduedd – rydw ‘n ga… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Siarad siop

Diolch i Carl Morris am ei ymateb i’m blog diweddaraf– sef E-lyfrau 2011, recordiadau 2004. Mae’n gwneud nifer o bwyntiau da sy’n werth eu trafod yn llawn.Un pwynt nad ydyn ni’n cydweld arno yw bod y rhan fwyaf o bobol yn defnyddio systemau’r… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Coelcerth y Kindles

Mae Carl Morris wedi cyhoeddi darn diddorol iawn ar ei flog – Pwy sy’n rheoli’r cyfryngau yn y 21ain ganrif? Ei brif ddadl hyd y gwela’i, a dw i’n ymddiheuro os ydw i wedi camddeall, yw y dylai pobol sy’n creu cynnwys yn y Gymraeg eu cyhoedd… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Dyfais ddiddorol arall

Fel yr ydw i wedi ei grybwyll eisoes rydw i bellach yn gwneud doethuriaeth yn  y Gymraeg a Thechnolegau Cyfathrebu, ym Mhrifysgol Bangor. Rydw i wrthi ers rhyw fis bellach ac wedi dechrau o’r dechrau un, yn gronolegol, gan ganolbwyntio ar y lla… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Y Byd ar ffurf tabloid?

Mae yna gyfweliad diddorol iawn â’r newyddiadurwr Eifion Glyn yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos yma, ar drothwy ei ddarlith yn Llyfrgell Penygroes ddydd Iau diwethaf. Wrth gael ei holi mae’n dadlau fod rhaid i Lywodraeth Cymru esbonio pam na roddw… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Cyfle i wneud llwyddiant o Gwpan y Byd 2011

Mae’n debyg mai dim ond yng nghyd-destun marwolaeth y dylid defnyddio’r gair ‘colled’, ac felly nad yw’n gywir cyfeirio at ‘golled’ y tîm cenedlaethol. A does neb wedi marw – heblaw am obeithion Cymru. Roedd hi’n farwolaeth ara deg hefy… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Diflannu o’r Golwg

Mari a Magw – mae Magw yn un oed ddydd Iau
Fis diwethaf tynnodd Blogmenai sylw at gyflwr marwaidd a diffrwyth y rhithfro yn ddiweddar, gan gynnwys madredd drewllyd y blog yma. Ond roedd yn ddigon caredig i ddweud fy mod i’n tueddu i gyhoeddi unr… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Defnydd arall i Kindle

Un peth oeddwn i’n arfer ei i gael yn anodd wrth ysgrifennu ar fy nghyfrifiadur oedd dychmygu sut brofiad fyddai ei ddarllen wedi iddo gael ei gyhoeddi ar ffurf llyfr. Mae’r profiad o sgrolio i lawr drwy ddogfen Word ar sgrin yn wahanol iawn i’r … Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Kindle yn Gymraeg; neu ‘Mobi’-Dick

Fe y soniais i eisoes fe gefais i Kindle dros y Nadolig, ac er bod gen i rywfaint o amheuaeth i ddechrau a oedd darllen o’r ddyfais gystal â darllen llyfr rydw i wedi fy argyhoeddi’n llwyr erbyn hyn nad oes unrhyw wahaniaeth o ran y profiad o ddarll… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Gwerthiant llyfrau Cymraeg – eithaf da ar y cyfan?

Does yna ddim ffigyrau, hyd y gwn i, sy’n dangos faint o lyfrau Cymraeg sy’n cael eu gwerthu. Dw i wedi clywed mai tua 1,000 o gopïau o’r llyfr Cymraeg ‘cyffredin’ sy’n cael eu hargraffu yn y lle cyntaf. Mwy os ydi’r llyfr yn ennill Llyfr y Flwyddyn… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Kindle Cymraeg

Ges i a fy mrodyr Kindle yr un yn anrhegion Nadolig, gan ein hannwyl fam. Fydd ddim rhaid i fi brynu’r un llyfr papur eto – dim ond eu lawrlwytho yn syth i fy nheclyn clawr lledr. Dim rhagor o ddifetha’r amgylchedd i fi! (heblaw am yr holl goed f… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Dal y byg

Awgrymodd BlogMenai yn sylwadau y cofnod diwethaf mai un ffordd o godi nifer darllenwyr y blog yma  fyddai “blogio’n aml a troi’r drol efo rhywun neu’i gilydd pob hyn a hyn”. Gan mai ef yw awdur Blog Cymraeg Gorau 2010™ mae o’n amlwg y… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Faint sy’n darllen? Neb!

Nol ym mis Medi sgwennais i gofnod yn holi faint oedd yn darllen blogiau Cymraeg mewn gwirionedd. Dw i erioed wedi cadw cofnod Google Analytics ar y blog yma ond sylwais i heddiw bod Blogger bellach wedi ychwanegu teclyn ‘Stats’ tebyg i’r un ar W… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Yr Argraff Beth…?

Adolygiad arall o’r Argraff Gyntaf, gan Bethan Gwanas ym mhapur newydd y Daily Post. Canmoliaeth, ond dyw’r teitl ddim yn gofiadwy iawn mae’n debyg!Rydw i’n hoff iawn o nofelau Bethan Gwanas, yn enwedig Gwrach y Gwyllt, felly mae’n braf iawn gwybod ei … Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Adolygiad arall o’r Argraff Gyntaf

Yn dilyn adolygiad Yr Argraff Gyntaf ar Radio Cymru ddechrau’r mis mae yna bellach adolygiad arall gan Lowri Roberts ar wefan ‘Cymru Cylchgrawn’ y BBC.Dyma rai dyfyniadau:Nofel hanesyddol, nofel dditectif, nofel antur – mae’r gyfrol hon yn gyfuniad o’r… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Yr argraff gyntaf yn un da

Na, nid pennawd yn clodfori fy nofel fy hun ydi hwnna i fod. Dim ond dweud bod Yr Argraff Gyntaf wedi gwneud argraff dda ar ddau o adolygwr Radio Cymru!Dywedodd y ddau eu bod nhw wedi mwynhau’r nofel yn fawr iawn a rhoi 8/10 yr un iddo.Gwrandwch … Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: A ddylen ni falio am y darllenwyr?

Kate RobertsRydw i wedi bod yn darllen Rhwng Gwyn a Du gan Angharad Price yr wythnos yma. Mae’r llyfr yn ymwneud yn bennaf gyda derbyniad Seren Wen ar Gefndir Gwyn gan Robin Llywelyn pan gafodd y nofel ei ryddhau yn Eisteddfod Genedlaethol 1992.Ar y … Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Faint sy’n darllen?

Roedd diwrnod Pethau Bychain yr wythnos diwethaf wedi codi cwestiwn diddorol yn fy meddwl i, a meddwl Catrin Beard mae’n debyg, sef faint yn union o bobol sy’n darllen stwff Cymraeg ar y we.Fel prif is-olygydd gwefan Golwg 360 ac awdur yn fy am… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Pethau bychain… i’w cofio wrth ysgrifennu nofel

Fy silff llyfrauRydw i newydd sylweddoli ei bod hi’n ddiwrnod Pethau Bychain, heddiw. Felly roeddwn i’n meddwl y byddai’n syniad i fi gyfrannu rhywbeth, siŵr o fod!Rydw i newydd gyhoeddi fy ail nofel, Yr Argraff Gyntaf, yr wythnos hon, felly dym… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Yr Argraff Gyntaf

Na, dw i heb ddiweddaru’r blog yma ers chwe mis. Ond fyddai’n well gen i ddiflannu heb smic ac ail ymddangos heb esboniad, fel y tyrchod daear yng ngardd mam, na gwneud sioe mawr o gau’r blog i lawr a wedyn sleifio’n ôl gan smalio nad oes dim byd wedi… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Maes Eisteddfod barhaol

Fe wnaeth Chris Cope awgrymu syniad diddorol iawn ar ei flog dydd o’r blaen, sef sefydlu maes parhaol i’r Eisteddfod Genedlaethol “rywle yn y canolbarth”.Dw i ddim am ddadlau a ydi hynny’n syniad doeth ai peidio – fe wnes i unwaith ar Maes-e … Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Degawd newydd…

Dyma fi’n ôl. Mae’n ddrwg gen i am ddiflannu am dros fis cyfan, ond mae gen i esgus reit dda. Dechrau mis Rhagfyr fe wnes i symud tŷ o Aberystwyth i Benrhiwllan ger Llandysul, a dim ond ddoe mae cwmni Orange wedi dilysu ein cysylltiad band eang. … Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Cloriau Cymraeg

Dw’n i ddim os taw fi sy’n talu mwy o sylw yn ddiweddar ta ‘be ond dw i’n siŵr bod cloriau llyfrau Cymraeg wedi gwella yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Dyle chi ddim barnu llyfr wrth ei glawr, wrth gwrs, ond mae’n amlwg bod pobol yn… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Mocha efo’r maps

Dw i’n mwynhau mocha o gwmpas gyda Google Maps. Ychydig fisoedd yn ôl wnes i greu’r map canlynol sy’n dangos lleoliad bod Eisteddfod Genedlaethol ers y dechrau. Mae’n ffordd ddiddorol o weld pa lefydd sy wedi cael llawer gormod o Steddfodau a … Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Cwpan Rygbi’r Byd 2011

Fe fydd Cymru yn ennill Cwpan Rygbi’r Byd 2011. Ie, fe wnes i wylio’r perfformiad dydd Sadwrn. Ond rydw i wedi edrych i mewn i fy mhelen (siâp wy) crisial a gweld y dyfodol.Dyma sut mae’r grwpiau yn edrych ar hyn o bryd:Grŵp A: Seland Newydd, Ffr… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Nofel a marathon

Rydw i ar ganol sgwennu fy ail nofel ar hyn o bryd. Dw i wedi cyrraedd tua hanner ffordd, ac yn gobeithio ei gorffen hi erbyn tua mis Ebrill ffor ‘na.Yn ogystal ag ysgrifennu nofelau dw i’n hoffi rhedeg marathonau. Mae’r ddau beth yn eithaf t… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Terry Pratchett a’r Gymraeg

Pan gafodd Igam Ogam ei ryddhau fe wnaeth bron pob un o’r cyfryngau gymharu’r nofel â gwaith Terry Pratchett. Mae’n amlwg pam – mae o’n gomedi ffantasiol, ac roeddwn i wedi enwi Terry Pratchett fel un o fy hoff awduron yn y datganiad i’r wasg…. Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Gwegomics …

Dim byd arbennig o uchel ael ar bnawn Llun. Mae gan y we Gymraeg bron bopeth sy’ gan y we Seasneg, ond bod llai ohonyn nhw wrth gwrs – gwefannau newyddion, blogiau, fforymau trafod. Ond yr un peth sydd ar goll yw’r Gwegomig!Dw i wedi fflyrtan… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Dewis Archdderwydd(es)…

Mae’n debyg bod y dyfalu eisoes wedi dechrau ynglŷn â’r Archdderwydd nesaf, ar ôl i Dic Jones farw ym mis Awst.Mae’n siŵr mai fi a gweddill dosbarth ’09 yw’r unig aelodau o’r Orsedd fethodd a chael eu derbyn gan yr Archdderwydd. Mae fy nhys… Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Lleidr yn y nos…

Pan oeddwn i yn y coleg roedd gen i ddiddordeb mawr mewn creu gemau cyfrifiadur. Ro’n i’n medru creu ambell i gêm ‘platformer’ 2D fy hun bach, ond roeddwn i hefyd yn hoffi creu mwy o gynnwys ar gyfer gemau oedd yn bodoli yn barod.Fy hoff gêm … Parhau i ddarllen