Archives: JonSais

Llais Y Dderwent: Gwanwyn a Haf 2018

Mae misoedd wedi mynd heibio ers i mi sgwennu pwt ar gyfer y dyddiadur yma.    Ym Mis Bach roedd hi’n  fwyn iawn a ches i benwythnos yng Ngogledd Cymru er mwyn  ymuno a Chymdeithas Edward Llwyd ar daith cerdded ger Cerrigydrudion. T… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Nadolig 2017 a Blwyddyn Newydd 2018

Mi ges i amser braf dros Fis Rhagfyr, Nadolig, Dydd Calan a dechrau’r flwyddyn newydd.Ym mis Rhagfyr mi es i a Marilyn draw i Nottingham ar ddydd Mercher 13deg ar gyfer parti Nadolig Cymdeithas Nottingham. Cawson ni noson hwyliog efo digonedd o berffor… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Shuttingsloe ar ddydd Sul 5-11-17


Mi gawson ni, sef Marilyn fy ngwraig annwyl a finnau, diwrnod pleserus yn cerdded yn ardal Wildboarclough ac i fyny i gopa Shuttingsloe ar ddydd Sul 5-11-17.
Roedd hi’n ddiwrnod clir ond oer. Roedd hi’n bosib gweld yn bell, a ches i gipolwg o ‘Cefn Mawr’ tu draw i Wrecsam ar y gorwel trwy’r niwl. Doedd hi ddim yn bosib gweld Moel Famau na’r Wrekin a Long Mynd yn anffodus, ond yr oedd Peckforton a Beston i’w weld yng nghanol Swydd Caer. Roedd dysgl telesgop radio Jodrall Bank yn syllu yn syth i fyny at y nef.

Roedd hi’n wlyb iawn dan draed ac yr oedd y ddringfa i fyny i Shuttingsloe yn serth a gwaith caled i’r hen goesau. Roedd gwynt cryf ac oer o’r gogledd pan gyrhaeddon ni’r copa. Cawson ni cinio sydyn yn cysgodi rhag y gwynt ar ochr deheuol y bryn cyn cerdded ymlaen i lawr at y crib lledan sy’n arwain i’r gogledd ar draws hen blanced drwchus o fawn, ac i lawer i’r dyffryn tawel a hyfryd sy’n arwain yn ôl i’r maes parcio.
Gwelon ni ‘Cwyd y Ser’ ar y glaswellt, oedd yn syndod oherwydd o’n i’n meddwl dim ond yr y gwanwyn a haf mae hynny yn digwydd, ond efallai fi sy’n anghywir.
Beth bynnag roedd hi’n daith gerdded fendigedig.


Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Ysgol Undydd Cymraeg Derby 2017

Ysgol Undydd Cymraeg Derby a Chylch Dysgwyr Cymraeg DerbyCafodd Ysgol Undydd Cymraeg Derby  ei chynnal ar Sdawrn 28 o Hydref gan Gylch Dysgwyr Cymraeg Derby (CDCD). Mae’r digwyddiad yn tynnu pobl o nifer fawr o drefi ar draws canolbarth Lloegr a t… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Digwyddiadau’r Hydref.

Dw i wedi cael sawl profiad pleserus dros wythnosau mis Medi a Mis Hydref. Cafodd Marilyn a finnau  penwythnos gwych draw yn Aberystwyth yn aros yn Westy bach Yr Hafod. Diolch i John Evans am y croeso. Ymwelon ni a nifer o dai bwytai a siopau, a f… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Ufferendwm Ewrop

Dw i heb sgwennu’r blog yma ers tipyn. Mae’r bywyd  wedi mynd ymlaen fel arfer, gwaith, pethe Cymraeg, wythnos wych o wyliau ym Mhenllyn ym Mis Mehefin, a rŵan dw i ar fin mynd draw i Ddolgellau am  wythnos  mewn Ysgol Haf. Ar wahân i wella rhywfaint ar fy Nghymraeg mae’n cynnig y cyfle  i drafod y sefyllfa wleidyddol bresennol efo fy ffrindiau. Yn fy marn i mae canlyniad y refferendwm am yr Undeb Ewropeaidd wedi esgor ar  amser argyfyngus i’r rhai fel fi sy’n credu mewn cydweithrediad rhyngwladol, heddwch, goddefgarwch a chyfeillgarwch i bobl mewn difri angen sy’n edrych i ni am gymorth a lloches.
Roedd yr ymgyrch adael wedi gwenwyno gan hilgwn fel Britain First a mudiadau gwarthus fel UKIP. Dw i’n alaru bod cymaint o’n cydwladwyr wedi cael eu dylanwadu gan y wasg adain de megis Y Sun, Mail, Express et al.
Os bydd canlyniadau economaidd  drwg mi fydd nifer fawr o’r bobl a wnaeth pleidleisio i adael yr EU yn difaru  nes ymlaen. Efallai bydd yr Alban yn  ennill eu hannibyniaeth, beth fydd fawd Cymru? Cael eu llyncu yn derfynol gan Loegr ac yn dod ‘Gorllewin Lloegr’? Pwy a ŵyr? Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Rhostir Stanton


Dyn ni ddim wedi cael gaeaf go iawn eleni, prin oedd y dyddiau yn Swydd Derby ble oedd eira yn disgyn, ond mae ambell ddiwrnod oer wedi bod fel heddiw.
Heddiw aeth fy annwyl wraig a fi am dro o amgylch rhostir Stanton yng nghwmni ein cyfaill Martin.
Mae Martin wedi dod yn rhugl yn yr iaith Gymraeg ar ôl dim ond 4 blynedd o ddysgu. Eleni mi fydd hi’n 5 mlynedd ers iddo fo
dechrau dysgu’r hen iaith. Mae hi bron iawn 19 mlynedd ers i mi ddechrau ar y daith yn ôl  yn 1998.

Gan fod fy ngwraig hefyd yn medru cryn dipyn o’r hen iaith roedd y rhan mwyaf o’m sgwrs ar y daith y bore’ma yn y Gymraeg.
Wnaethon ddechrau’r daith o’r llefydd parcio wrth ochr yr heol ar ochr gogleddol y rhostir.
Mae’r llwybr yn dringo yn ara’ deg i fyny heibio hen chwarel ac maen uchel o’r enw ‘Cork stone’, wedyn yng nghanol y rhostir mae’na
golofn triongl, a’r ucheldir yn sefyll tua 1500 o droedfeddi uwchben lefel y môr. O’r safle hwnnw mae hi’n bosib edrych i’r gogledd ble mae Bakewell yn gorwedd yng nghanol dyffryn Wye neu i’r de i weld Darley Dale a Matlock yn nyffryn Derwent.
Ym mhellach i’r gogledd orllewin mae hi’n bosib gweld Axe Edge ac i’r gogledd ddwyrain  mae hi’n bosib gweld yr ‘Edges’ ger Hathersage a Stanage. Mewn gaeaf caled mae hi’n bosib gweld eira ar ben Kinder Scout ond dim ond grug sy ar ben y copaon heddiw.
Ar ôl  gadael y golofn triongl wnaethon ni gerdded trwy goedwig bedwen, roedd ambell un wedi marw ac yr oedd ffwng yn tyfu arnynt. Wedyn aethon ni i’r cylch meini cyn-hanesyddol.
Mae diddordeb y paganaidd fodern i’w weld yno efo nifer o gynigion i’r duwiau yn hongion oddi wrth ganghennau’r coed yno.

Mae enw  Saesneg am y cylch sef y ‘Nine Ladies’ sy’n adlewyrchu hen goel bod  naw o fenywod  wedi cael eu troi i garreg am gosb ar ôl  cael eu dal yn dawnsio ar y Sul. Cosb braf yn eithafol dwedwn i.
Ar ôl  gadael y cylch cerddon ni trwy’r goedwig tuag at dwr Iarll Llwyd (Earl Greys Tower), sy’n sefyll ar ochr dwyreiniol y rhostir. Cafodd y twr ei adeiladu, mae’n debyg, i ddathlu’r ail ddeddf diwygio’r bleidlais a wnaeth pasio yn 1832 efo cefnogaeth yr ail Iarll Llwyd.
Wedyn mae’r daith yn arwain yn ôl  trwy’r goedwig tuag at y mynediad ar ochr gogleddol y rhostir. Doedd dim lawer o arwyddion bod y gwanwyn yn dod. Roedd y gwynt yn oer ac yn tarddu o’r dwyrain. Doedd dim arwydd o flaguro ar y llus. Roedd tipyn bach o gynffon oen yn dechrau agor ond mae gafael y gaeaf dal i’w gweld. Gaeaf a gallu bod yn ormod i rai creadur wrth weld  sgerbwd defaid ar y tir. 
Mae pawb yn aros yn eiddgar am y gwanwyn.  Ar ôl gorffen ein taith gerdded, aethon ni i gaffi siop llyfrau Scarthin yn Cromford am ginio blasus a sgwrs ddiddorol. Gwobr dda i gerddwyr blinedig a newynog. 

Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Pethe Nadoligaidd Cymraeg a Chymreig yng nghanolbarth Lloegr

Cawson ni fore Coffi hwylus dros ben yn Nhŷ Kathryn a Sam yn Keyworth, Nottingham ar fore dydd Gwener 4ydd o Ragfyr. Roedd 14 yn bresennol a wnaeth pawb mwynhau’r te, coffi, cacenni a sgwrs frwd.Mi fydd Cymry Nottingham yn cynnal eu parti Nadolig ar no… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Gweithred ffôl yn San Steffan.

Mae aelodau Tŷ’r Cyffredin yn San Steffan ar fin cynnal dadl i benderfynu a ydy’r llu awyr Prydain Fawr i ddechrau ymosod ar ardal o Syria sy o dan reolaeth ISIS. Dyw canlyniad y bleidlais yn Llundain dim yn anodd rhagweld, mae David Cameron wedi datgan yn barod dyw e ddim am gynnal y ddadl a’r bleidlais oni bai ei fod e’n mynd i ennill. Mae ennill pleidlais yn y Tŷ Cyffredin yn ddigon hawdd iddo fe, peth arall yw ‘ennill’ yn Syria.

Mae nifer o arbenigwyr wedi datgan bod ISIS yn fudiad ‘gorila’, hynny yw mae’n nhw cuddio ymhlith sifiliad a phobl ddiniwed, os daw byddinoedd estron i mewn i Syria mi fydd milwyr ISIS yn diflannu. Fel mae’r rhyfel hir yn Afghanistan wedi profi, dyw hi dim yn beth bach i drechi fyddin o’r fath.

Mae gwledydd y gorllewin wedi ymosod sawl tro o’r blaen ar wledydd yn Affrica a’r dwyrain canol megis Libya, Afghanistan ac Iraq. Mae gan Brydain, Ffranc ac America hanes cywilyddus o ymosod ym mhumdegau’r ganrif diweddaf, hynny yw ‘coup’ yn Iran a wnaeth dymchwel llywodraeth ddemocrataidd, coup a daeth Shah Iran i rym. Hefyd wnaeth Brydain a Ffrainc ymosod ar yr Aifft yn 1956 er mwyn ailfeddianu camlas Suez.

Ar wahân i’r miloedd o bobl ddiniwed sy’n mynd i farw o dan fomiau’r RAF, canlyniad go iawn i fynd i ryfel bydd mwy o derfysg ar strydoedd Prydain, mwy o aelodau yn heidio i ISIS ac ymestyn hyd yr amser cyn i heddwch dychwelyd i’r byd. Ar wahân i ISIS dim ond y gwerthwyr arfau bydd yn dathlu.

Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Tymor newydd

Mae mis Medi wedi dod i ben a dyna ni ar ddechrau mis Hydref yn barod.Yma yn nyffryn Derwent mae’r pethau wedi ailddechrau o ddifri. Mae Glen Mulliner(trefnydd) ac Elin Merriman (tiwtor) dosbarth Cymraeg Belper yng nghanolfan Cymunedol Strutt (hen ysgo… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Diwedd haf

Dyw hi ddim wedi bod yn boeth iawn yr haf yma ond er gwaethaf hynny yr ydw i wedi cael sawl gŵyl braf draw yng Nghymru. Ym mis Mehefin treuliais wythnos efo fy annwyl wraig draw yng nghyffiniau Pwllheli, wedyn ar ôl ‘mond wythnos nol yn y gwaith yr o… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Wythnos ym Mhenllyn

Dyma ni heddiw ar ddiwrnod ‘hirddydd haf’, ac wedi dod adref ar ôl treulio wythnos gyfan ym Mhenllyn. Roedd hi’n gymysg o ran tywydd efo rhai dyddiau heulog ac ambell un cymylog efo dipyn o law.Er gwaethaf hynny mi lwyddon ni ymweld â nifer fawr o lefy… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Pennant Melangell

Dros benwythnos olaf mis Mawrth mi aethon ni draw i Tarporley er mwyn ymweld â’n rhieni. Roedd fy nhad wedi mynegi dymuniad i ymweld â’r eglwys hynafol, ddiarffordd Pennant Melangell. Doeddwn i ddim wedi bod yno o’r blaen, wrth edrych ar fapiau’r Arol… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Unwaith eto yng Nghymru annwyl.

Yr ydw i wedi bod yn brysur ers mis Chwefror. Mae cryn dipyn o bwysau yn y gwaith a hefyd dw i wedi ymweld â Tarporley a Chymry. Roedd y daith i Tarporley yn digwydd yn ystod ail hanner mis Byr er mewn mynd a’n chwaer o Breston i weld Mam a Dad am benwythnos. Roedd hi’n hapus i weld nhw ar ôl colli cyfle i weld nhw yn gynharach yn y flwyddyn oherwydd eira trwm. Tra oedd Anne yn aros efo’n rhieni oeddwn i’n gallu picio draw i Wrecsam ar y dydd Sadwrn i ymweld â Siop y Siswrn a Watersons i wario pres a thocyn llyfr Nadolig. Mi wnes i brynu tri pheth sef Cam i’r Gorffennol gan Rhys Mwyn, Gynnau glan a Beibl budur gan Harri Parri a Chymry’r Rhyfel Byd Cyntaf gan Gwynne Jenkins. Erbyn hyn dw i wedi gorffen llyfr Harri Parri, yn hanner ffordd trwy lyfr Rhys Mwyn ac yr ydw i wedi dechrau ar lyfr Gwynne Jenkins. Cawson ni dipyn o antur

pythefnos yn ôl pan ddaeth criw teledu Tinopolis o Lanelli i ffilmio eitem ar gyfer Heno a Bore Da: dal ati. Cafodd 4 ohonon ni ein cyfweld ac yr oedd eitem fer ar Heno Nos Fawrth 11 o Fawrth ac eitem 5 muned ar raglen Bore Da. Mae’n braf cael dipyn o sylw ar S4C i’r grŵp. Penwythnos diweddaf (dydd Gwener 13 Mawrth) mi es i draw i ardal Llanrwst am ddwy noon. Mi wnes i weld ffrind yn Llandudno ar y nos Wener am sgwrs a chinio, wedyn ar y dydd Sadwrn mi wnes i ymuno a Chymdeithas Edward Llwyd i gerdded o Gae’n y Coed ar hyd afon Llugwy i Fetws-y-coed. Roedd hi’n daith fer ond yr oedd y tir dan draed yn arw. Ond roedd hi’n werth yr ymdrech, roedd golygfeydd hyfryd o’r rhaeadr ac afon i’w gweld ac yr oedd y cwmni yn ddiddorol. Ar ôl y daith mi es i ymweld â ffrind newydd sy’n ffarmwraig o ardal Eglwys Fach sy’n byw ar dir uchel uwchben dyffryn Conwy. Roedd copaon y Carneddau i’w gweld o dan hetiau gwyn, yn niwlog yn y pellter. Lle braf ond siŵr o fod yn anodd tu hwnt yn ystod tywydd oer y gaeaf. Ar y dydd Sul roedd digon o amser i bicio draw i Hen Golwyn i weld hen ffrind yno (Dafydd a’i wraig Jane) cyn troi’r car yn ôl tuag at y dwyrain a Chlawdd Offa am y daith adref. Ond dw i ddim yn digalon, dw i’n mynd i ymweld a grwp o ddysgwyr SSIW ym Manceinion penwythnos nesa ac yn mynd i weld eglwys Pennant Melangell cyn bo hir yng nghwmni fy nhad. Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Dechrau gaeafol i’r flwyddyn

Mae sawl wythnos wedi mynd heibio ers i ni fynd yn ôl i’r gwaith ar ôl gwyliau Nadolig a’r Calan. Roeddwn i’n bwriadu mynd a’n chwaer o Breston i ymweld â’m rhieni dros y penwythnos diweddaf ond roedd problemau yn codi oherwydd tywydd gaeafol. Efo … Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Nadolig a Dydd Calan

Mi ges i amser braf dros fis Rhagfyr a’r Nadolig. Roedd y dathlu yn dechrau yn eithaf cynnar efo cyfarfod Nadolig Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby ar yr 6ed o Ragfyr ac yn fuan wedyn Parti Nadolig Cymdeithas Cymry Nottingham ar nos Fercher 10fed o Ragfyr. R… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Llais Y Dderwent 2014-12-15 10:31:00

Mi ges i amser braf efo Cymry Nottingham ar nos Fercher rhaid bod dros 40 yn bresennol yn y Parti Nadolig. Roedd digon o fwyd a 15 perfformiadau gan wahanol bobl gan gynnwys Côr Wawr yn canu yn arbennig a Beryl yn adrodd rhan o’r gerdd y Pibydd brith. Diolch am noson arbennig. Roedd y Gymdeithas hefyd yn cynnal gwasanaeth carolau dwyieithog prynhawn Sul 14-12-15 drueni doedd dim mwy o ddysgwyr lleol yn bresennol ar gyfer gwasanaeth hyfryd. Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda i bawb! Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Malcolm Bennett 1944-2013

Ces i dipyn o fraw ar nos Iau wrth glywed, yn hwyr las, bod hen gyfaill i mi wedi marw dros ddeunaw mis yn ôl. Doedden ni ddim wedi bod mewn cyswllt am sbel, ond am gyfnod maith roedd Malcolm Bennett yn aelod o’n grŵp Cerddwyr Radicalaidd (Red Rambles) a oedd yn weithredol rhwng 1994 a 2004 yn ardal y Peak. Roedd Malcolm (Malc i’w gyfeillion) wedi symud i Swydd Derby o ardal Reading i fyw mewn Commune yn Milford, nes ymlaen, ar ôl i’r commune chwalu yn gyfeillgar, roedd o a’i deulu yn parhau i fyw yn ardal Belper. Roedd Malc yn ‘Hippie’ go iawn yn null y chwedegau, hynny yw yn credu mewn bywyd amgen, yn defnyddio tipyn bach o ganabis, ac yn mwynhau byw. Roedd o hefyd yn grefftwr dawnus, yn gerflunwyr ben i gamp ac yn gallu creu a chwarae offerynnau cerddorol. Roedd o’n cadw lotment o fath wrth ochr y gartref teuluol oedd yn gynhyrchiol iawn ond hefyd yn rhyw fath o oriel celf ar gyfer ei weithiau cerflunio. Sawl tro yng nghwmni Malcolm mi wnes i gerdded mewn rhannau gwahanol o ardal y Peak mewn hindda a glaw. Roedd ganddo fo bob tro rhywbeth diddorol i’w dweud hyd yn oed os oedd o’n ymestyn y gwirionedd ar adegau. Ac ar ben y ffaith ei fod o’n gerflunydd da roedd o’n ddyn handi go iawn a dw i’n cofio gweld y gwaith adeiladu wnaeth o yn ei dy ei hunan. Roedd lle tan arbennig o gerrig efo maen glo arbennig yng nghanol y bwa, roedd Malcolm wedi darganfod bricsen leol efo’r gair Belper wedi’i stampio arno, a dyna beth oedd y maen glo perffaith i’r pentan. Gwych. Yn 2008 roedd Malcolm yn hapus i gymryd rhan mewn prosiect ffilmio fideo ar gyfer gwefan ‘Anarchist Voices Video Project’, (gwelir https://www.youtube.com/watch?v=uP1boeYGr7M&list=UUldSU6_0rW6YMH1_7OT1KTg ) prosiect oedd yn rhoi llwyfan i anarchwyr o wahanol fathau son am eu bywydau, prosiectau a beth oedd anarchiaeth yn golygu iddyn nhw. Roedd ei gyfraniad yn ddiddorol ond wrth edrych arno rŵan dw i’n sicr mi fydda i’n gweld eisiau Malcolm. Malcolm Bennet 1944-2013. Heddwch i’w lwch. Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Parti dathlu Siop Llyfrau Scarthin yn 40 oed!

Cawson ni noson hwylus  yng nghwmni perchennog, staff a chwsmeriaid siop llyfr hynotaf yng nghanolbarth Lloegr, Prydain a’r byd sef Siop Llyfrau Scarthin, Cromford, Swydd Derby. Mae’r siop yn dathlu 40 oed eleni. Cafodd y siop ei sefydlu yn 1974 g… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Taro deg yn Derby!

Cawson ni ddiwrnod llwyddiannus dros ben yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr Derby pan ddaeth 42 o bobl  at ei gilydd ar gyfer y degfed Ysgol Undydd Cymraeg Derby.  Roedd 4 dosbarth yn cael eu cynnal sef dechreuwyr, canolradd-is, canolradd uwch a phrofiad… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Penwythnos yn ardal Dolgellau

Mi ges i benwythnos hyfryd iawn yn ddiweddar yn mynd a’r rhieni draw i ardal Dolgellau. Cawson ni dwy noson yng Ngwesty Gwernan ar ochr Cader Idris i Ddolgellau. Wnaethon ni adael Tarporley ar fore Gwener yn anelu am Langollen i ddechrau le cawson ni &… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Gwyliau haf yng Nghymru rhan 2

Unwaith eto yng Nghymru annwyl! Wel dyma fi’n ôl yn Lloegr i fod yn fanwl gywir ar ôl pum noson a chwe diwrnod yn ardal Llanelli ar gyfer yr Eisteddfod. Rhaid dweud roedd hi’n dipyn o daith i lawr yn y car ar ddydd Sul penwythnos cyntaf yr Ŵy… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Gwyliau Haf yng Nghymru rhan 1

Yr ydw i wedi bod yn ddigon lwcus i gael  sawl wythnos  yn yr hen Wlad yr haf yma. Yn gyntaf mi wnes i dreulio wythnos yn aros yn ardal Pwllheli efo fy annwyl wraig Marilyn. Am y drydedd flwyddyn yn ddilynol dyn ni wedi aros yn Nhŷ Paul ger Rhyd-y-Clafdy. Mi wnaethon ni gyrraedd ar bnawn Sul yr 8fed o Fehefin. Ar ôl dadbacio aethon ni am dro ar hyd y lonydd cul yn yr heulwen at eglwys wledig leol Llanfihangel. Tro diweddaf yr oedden ni yno doedd neb o amgylch y lle. Y tro’ma wrth i ni grwydro yn y fynwent daeth dyn o’r eglwys i ofyn i ni beth yr oedden ni’n gwneud. Roedd o’n defnyddio’r eglwys fel stiwdio celf. Doedd o ddim yn siarad yr hen iaith ond roedd ganddo fo ddiddordeb yn y cerrig beddi a’r eiriau sy wedi cerfio arnynt.

Erbyn bore dydd Llun roedd y tywydd wedi tro ac yr oedd hi’n bwrw glaw. Felly es i i bori yn siopau Pwllheli. Ro’n i’n chwilota am lyfrau Cymraeg ail-law. Pan oeddwn i’n cerdded strydoedd Pwllheli  mi wnaeth Marilyn aros yn nhŷ Paul a darllen. Yn y prynhawn aethon ni i Blas Glyn-y-Weddw i weld y lluniau yno ac i gerdded rhan o lwybrau’r arfordir. Roedd golygfeydd o’r  clogwynau  gerllaw yn drawiadol. Cawson ni baned wedyn yng nghaffi’r Plas cyn mynd  ‘adref’ i’r bwthyn am swper. Ar fore dydd Mawrth aethon ni i siopau ym Mhorthmadog, roedd Marilyn yn hapus iawn i siopa yn ‘Kerfoots’  tra yr oeddwn i’n ymweld â’r siop Cymraeg a nifer o siopau elusennol yn chwilota eto am lyfrau Cymraeg. Ar ôl swper mi es i i sesiwn ‘plygu’  papur bro leol sef ‘Llanw Llyn’, roedd tua ugain o bobl yno ac yr oedden ni’n rhoi 2600 o

gopïau at ei gilydd. Roedd Martyn Croydon yno, sef enillydd  cystadleuaeth dysgwr y flwyddyn  Eisteddfod Genedlaethol 2013. Wnaeth o dynnu llun o ohoni i wrthi yn plygu’r papur.
Roedd hi’n ddiwrnod braf dydd Mercher  felly penderfynon ni fynd i weld canolfan Y Felyn Uchaf ger Aberdaron, mae nifer o dai crwn wedi cael ei adeiladu efo mwd, cerrig lleol a tho gwyllt yn null yr hen Geltiaid. Mae’na un digon mawr i 35 o bobl cael eistedd. Mae’na sesiynau dweud stori yn cael ei gynnal yno. Yn y prynhawn aethon ni ymlaen i Aberdaron. Cawson ni ginio yn y Gegin Fawr, ac wedyn ymweliad i ganolfan o enw Porth y Swnt, sy’n olrhain hanes  yr ardal. Wedyn aethon ni am banad i westy uwchben y traeth a hefyd i weld eglwys  lle oedd R S Thomas yn ficer. Yn y noswaith aethon ni am bryd o fwyd yn nhŷ hen fos Marilyn sy wedi ymddeol o Buxton i fyw yng Nghricieth, roedd hi’n noson hwyr erbyn i ni gyrraedd yn ôl yn Nhŷ Paul.

Roedd hi dal yn  gynnes braf ar y dydd Iau felly aethon ni i gerdded i fyny Tre’r Ceiri’r uwch ben Llithfaen. Roedd hi’n fendigedig ar ben y  fryngaer ac mi wnaethon ni gwrdd â Chymraes leol a’i gwr o  Seland Newydd. Cafodd Marilyn llosg haul ar ei thalcen! Gyda’r nos mi es i am beint  efo Aran Jones SSIW  a’i ffrindia yn nhafarn Y Twnti.
Ar fore  dydd Gwener aethon ni unwaith eto i Borthmadog i siopau unwaith eto, ond hefyd aethon ni i weld oriel celf yno cyn mynd ymlaen i Bwllheli  i weld hen ffrind i mi sy’n byw mewn tŷ  ger y traeth.
Ar ddydd Sadwrn roedd hi’n amser i fynd yn ôl i Loegr ond ar y ffordd adref mi aethon ni i Oriel  Môn yn Llangefni am ginio efo ein ffrindiau Marianne a Gerry a hefyd i  edrych ar y lluniau yn yr oriel. Mae lluniau Cyffin Williams yno’n wych. Wnaethon ni gyrraedd yn ôl yn Belper yn hwyr, blinedig ac yn hiraethu am Gymru!

Doedd dim rhaid i mi aros yn rhy hir cyn dod yn ôl i Gymru. Dydd Sul 29 o Fehefin a dyma fi yn gyrru

unwaith eto tuag at y gorllewin, y tro’ma i Ddolgellau i aros ar  fferm ger Llanfachreth. Roeddwn i aros yno efo ffrind (Martin) o Glay Cross a hefyd  efo’r perchenogion Karen a’i gwr Crispin. Mae’r ddau ohonynt yn dysgu’r Gymraeg. Roedd Martin a Karen yn yr un dosbarth a fi o dan diwtor Rhian Bebb.  Ar y noson  gyntaf aethon ni am dro o amgylch y fferm 100 erw. Mae Karen a Crispin yn magu Alpacod  ar y fferm ac yn marchnata’r gwlân  yn lleol. Mae tua 50 o’r Alpacod ar y fferm.

Wnaethon ni gerdded i ben ucha’r fferm ac yr oedd y golygfeydd yn hyfryd o’r Gadair Idris yn yr heulwen. Roedd yr awyr  tu hwnt i’r mynydd yn las las. Wnaeth Karen gogio i ni bob nos, bwyd blasus cartrefol – diolch o galon iddi!
Roedd 50 o bobl ar y cwrs ac yr oedd y gwersi yn ddiddorol ac yn dysgu pethau newydd i mi.
Nos Lun a dyma Martin, ‘Lyn’, sef mam yng nghyfraith Karen, a finnau’n ymweld ag Eglwys Llanfachreth. Roedden ni wedi cael yr allwedd oddi wrth Gymraes leol sy’n cadw golwg dros yr eglwys. Mae hi’n eglwys

sy’n mynd yn ôl i amser y Normaniaid, roedd hi’n hen ac yn bert ar holl gerrig beddi yn Gymraeg wrth gwrs.
Dydd Mawrth ar ôl y gwersi aeth Martin a fi i weld Maggie, sy’n ffrind i mi yn yr ardal. Roedd hi’n arfer dod ar y cwrs ond yn bellach yn gweithio mewn ysgol Cymraeg lleol. Roedd hi’n noson hwylus yn y ‘Last Inn’ yn Abermo yn sgwrsio ac yn gwrando ar  gerddoriaeth byw yn y dafarn.
Ar y nos Fercher aethon ni am dro i fyny’r bryn y tu ôl i’r  fferm.  Sdim enw ar gyfer y bryn ar fap, ond mae’na gaer hynafol yno a thyllau

rhyfedd wedi cerfio yn y graig yno.
Ar y nos  Iau aethon ni i sesiwn sgwrs mewn  tafarn lleol o’r enw  ‘Ty’n y groes’. Daeth Rhian Bebb  a’i thelyn i ganu ac i arwain  sesiwn canu’n Gymraeg – roedd hi’n wych  a thua 12 ohonon ni’n ganu yno!
Diwrnod olaf y cwrs, sy wastad yn drist, ond cawson ni hwyl  cyn i ni ymgynnull ar gyfer  llun ffoto y cwrs. Mi wnes i aros tan fore Dydd Sadwrn cyn teithio yn ôl i Loegr. Roedd digon o amser i bicio i mewn i siop llyfrau Awen Meirion i brynu copi o ‘Raglen y Dydd’ ar gyfer Eisteddfod Llanelli ac i gael sgwrs a phanad efo Gwynne, sef rheolwr y siop. Yno ymlaen i ardal Wrecsam i sesiwn sgwrs Cymraeg yng nghanolfan Garddio Bellis yn Holt  efo Ro Ralph a dysgwyr Wrecsam ac wedyn unwaith eto  dyma fi’n gadael Cymru y tu ôl i mi wrth groesi’r ffin am fis arall yn Lloegr.  Mis Awst  yw’r ymweliad nesa i  Eisteddfod  Llanelli. Methu aros.

Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Taith gerdded ar hyd dyffryn Dove

Mi ges i ddiwrnod braf yn cerdded a’n cyfeillion Martin ac Adrian ar hyd rhan o ddyffryn Dove ger Hartington. Mi wnaethon ni ymweld â Chastell Pilsbury  cyn symud ymlaen at gerrig camu sy’n galluogi pobl i groesi afon Dove o ochr Swydd Derby i och… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Hwyl ddiniwed neu fygythiad i ieithoedd Ewrop?

Yr oeddwn i’n gwylio rhan helaeth o gystadleuaeth Eurovision neithiwr. Does gen i ddim lawer o amser fel arfer ar gyfer y fath cachi rwtsh. Neithiwr roedd hi’n drawiadol iawn bod y rhan mwyaf o’r cystadleuwyr yn canu yn Saesneg. Wn i ddim os ydy hyn o ganlyniad i ddymuniadau’r grwpiau i fanteisio ar farchnad cerddoriaeth byd eang Eingl-Americanaidd neu ryw reswm arall anhysbys. Ta beth, pan ddaeth hi amser i’r canlyniadau cael eu hadrodd o 36 wledydd gwahanol ar draws Ewrop dim ond cynrychiolydd Ffranc wnaeth adrodd yn ôl yn ei mamiaith. Pawb eraill, ie PAWB! wedi adrodd y canlyniadau trwy’r Saesneg. Efallai dydy hyn dim o bwys mewn cystadleuaeth ffordd a hi fel Eurovision ond yr oeddwn i’n difaru bod y cyfle i glywed ieithoedd gwahanol Ewrop wedi cael ei cholli. Mae hi’n gwestiwn dwys a ydy dylanwad y diwydiant adloniant Eingl-Americanaidd yn mynd i arwain at dranc prif ieithoedd Ewrop heb son am ieithoedd llai a lleiafrifol y byd. Felly ydy Eurovision yn hwyl ddiniwed neu fygythiad go iawn i ieithoedd Ewrop? Mond yn gofyn. Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Diwrnod i’r brenin

Mi gawson ni ( y wraig a fi) ddiwrnod i’r brenin ddoe. Roedd hi’n ddigon dymunol ar ran y tywydd a phenderfynom fynd i weld coedwig leol ger Ambergate lle mae nifer enfawr o gylchau’r gog mewn blodau a chryn dipyn o ‘Ransomes’ sef garlic wyllt.

Ar ôl ymweld â’r goedwig aethon ni ar hyd rhan dawel o gamlas Cromford. Yr oedden ni’n gobeithio gweld neidr y gwair ond doedd dim un i’w gweld ond roedd sawl peth arall diddorol. Pethau megis penbyliaid wrth y mil yn nofio o dan y dŵr, adar y dŵr megis Cwtiar ac Iâr Dwr yn adeiladu nythod.

Hefyd welom 2 Ddraenogyn dŵr croyw. Wrth gerdded ar hyd y gamlas welom hen dai oedd wedi cael eu hadeiladu ar yr un pryd a’r gamlas. Mae’r gamlas yn chwarchodfa natur bwysig a noddfa i’r rhai ohonom sy eisiau dianc o’r prysurdeb y byd.

Ar ôl ein taith cerdded aethon ni i fyny i Erddi Rhododendron Lea am banad a chacen a thaith arall o amgylch y gerddi prydferth. Mi fydd diwrnod cerddoriaeth yn y gerddi ym mis Mehefin efo nifer o gerddorion gwerin yn dod i chwarae alawon traddodiadol.

Ac ar ôl dod adref aeth ati i dorri’r lawnt, bellach mae’r ardd cefn yn edrych yn dwt ac yn daclus, y peth nesa i wneud rŵan ydy paratoi’r gwely llysieuol ar gyfer sawl planhigyn courgette ac ambell blanhigyn ffa dringo. Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Lotta Continua!

Mewn ffordd mae hi’n fraint, cael mynediad i lenyddiaeth gwlad a diwylliant arall, ond mewn ffordd arall mae hi’n rhywbeth anghyfforddus. Hynny yw cael gweld sut mae pobl eraill yn edrych arnoch a chael clywed eu beirniadaethau o’ch cydwladwyr a diwylliant o safbwynt anghyfarwydd. Pan oeddwn uniaith Saesneg yr oeddwn ddarllen gweithiau am hanes a syniadaeth gwleidyddiaeth asgell chwith, gan gynnwys gweithiau clasurol hen anarchwyr megis Kropotkin a Maletesta ac ysgrifenwyr mwy cyfoes fel Colin Ward. Ar ôl i mi ddod yn siaradwyr Cymraeg ac yn medru darllen yr iaith honno mi wnes i ddechrau ar y daith hir o ddarllen nofelau, a gweithiau hanes a syniadaeth wleidyddol y Cymry. A dyna’r ing. Wrth ddarllen gwaith pobl gyfoes mae’n bosib ymateb, weithiau trwy sgwrsio a thrafod yn uniongyrchol efo’r awduron. Ces i sawl sgwrs efo Colin Ward dros y blynyddoedd wyneb i wyneb ac weithiau trwy lythyr. Ond wrth ddarllen clasuron weddol ddiweddar Cymraeg dw i wedi darganfod fy mod wedi colli’r cyfle i gwrdd â rhai o’r bobl yma. Pe bawn i wedi cael fy magu fel Cymro falle mi fyswn i wedi cael y cyfle i gwrdd â’r bobl yma. Ond mae hi’n rhy hwyr. Dw i’n cael darllen eu geiriau ond does dim modd cael sgwrs efo nhw. Mae’r dialog yn un ffordd, dw i’n gallu clywed, neu yn hytrach darllen eu geiriau, ond ‘sdim cyfle ymateb. Dyna’r golled. Er mor werthfawr yw darllen geiriau RS Saunders, DJ Williams, Lewis Valentine, R S Thomas a sawl arall sy bellach wedi gadael y fuchedd yma sdim cyfle ymateb. Sdim cyfle chwaith cael dweud wrthon bod y frwydr dros yr iaith a’r diwylliant yn parhau. Dim cyfle i ddangos iddyn nhw bod eu gwaith nhw wedi dwyn ffrwyth yn y canrif yma, ond er gwaethaf hynny mae’r peryg i’r iaith yn parhau. Ond i ddyfynnu’r Eidalwyr Lotta Continua! I’r Gad! Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Chwibdaith i Fanceinion

Mi godais yn gynnar y bore’ma i yrru i fynnyn i Buxton er mwyn dal y trên, hynny yw’r trên i Fanceinion. Dyma ein trefniant parc a rheid answyddogol. Roeddwn ddarllen wrth deithio, hynny yw darllen llyfr bach gan R. S. Thomas sef Flwyddyn yn Llyn a chafodd ei gyhoeddi yn 1990. Diddorol oedd darllen sylwebai craff y bardd am dywydd, tymhorau a bywyd gwyllt Pen Llyn. Wrth i mi edrych ar y dirwedd oedd yn pasio ffenestr y tren roedd ôl effaith y gaeaf gwyntog a garw i’w weld yn glir. Nifer sylweddol o goed wedi cwympo, ac mewn pentrefi roedd ambell lech a phanel ffens wedi cael eu chwythu i ffordd. Wrth adael Buxton welais Foncath yn hedfan, dau ŵydd, digon o ddefaid ac oen newydd y gwanwyn. Hefyd welais sawl asgwrn cefn a sgerbwd defaid a fethodd goroesi’r gaeaf. Mae bywyd yn y bryniau uchel yn gallu bod yn anodd i fywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm gyda’i gilydd. Ar ôl cyrraedd gorsaf tren Picadili roedd hi’n ddigon hawdd cerdded yr hanner milltir i Oriel Celf Manceinion ble oeddwn gwrdd â nifer o ddysgwyr a

Chymry alltud yng nghaffi’r oriel. Roedd 6 ohonom i gyd gan gynnwys Mared sy wedi symud o Aberystwyth yn ddiweddar i dde Swydd Efrog. Cawson ni sgwrs ddifyr am ddwy awr. Ar ôl ffarwelio mi wnes i grwydro o amgylch yr Oriel sy’n cynnwys nifer o luniau olew o wahanol gyfnodau gan gynnwys sawl gan Awgwstws John a Gwen John. Wrth gerdded yn ôl i dal y tren i Buxton roedd arwyddion amlwg o ddinas enfawr fodern sef miloedd o bobl yn siopau ac yn mwynhau mynd ar olwyn fawr fel y London Eye sy wedi cael ei osod dros dro yng nghanol Gerddi Picadili. Rhyfedd o fyd. Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Teithiau a cholledion

Penwythnos diwethaf mi aeth Marilyn a finnau i fyny i Breston i nôl fy chwaer anabl ar gyfer ymweliad i Tarporley i weld ei rhieni. Roedd hynny yn rhoi’r cyfle i mi i bicio draw i Wrecsam bore dydd Sadwrn i brynu cylchgronau a llyfrau o Siop y Siswrn ym Marchnad y Bobl ac wedyn i dreulio dwy awr yn sgwrsio efo’r dysgwyr a Chymry sy’n mynychu’r Sesiwn Siarad yng nghanolfan Garddio Bellis yn Holt.

Roedd tua 15 o bobl yno a chawson ni amser diddorol yn trafod hyn a’r llall. Ond toc wedi hanner dydd roedd rhaid i mi fynd yn ôl dros y ffin. Yn ddiweddar dw i ddim wedi cael digon o amser sbâr i wneud popeth dw i eisiau gwneud ar ran y Gymraeg, pethau megis ymuno a cherddwyr Cymdeithas Edward Llwyd neu dreulio amser yn mynychu digwyddiadau diwylliannol, ond daw haul ar y bryn cyn bo hir. Dw i wedi cynllunio mynd i Gymru sawl tro dros yr haf i gael y ‘dos’ blynyddol o’r Gymraeg a Chymreictod.

Bu farw fy modryb Margeurite Mills yn Jersey ym mis Chwefror ac wedyn pan oedd yn aros yn Tarporley dros y Sul cyrhaeddodd rhagor o newyddion trist, hynny oedd un arall o’m modrybedd wedi marw yn sydyn, modryb Clare Whittaker a oedd yn byw yn Hwlffordd. Dyma’r ail farwolaeth yn y teulu ers Nadolig. Roeddwn hoff iawn ohoni hi, ond y golled fwyaf yw’r golled i’r teulu agos sef ei gwr a’i phlant. Heddwch i lwch y ddwy ohonyn nhw. Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Teyrnged i hen gyfaill


Wnes i ddechrau’r flwyddyn efo’r newyddion trist fy mod i wedi colli un o’n hen gyfeillion. Bu farw Mike Hamilton ar fore 31 o Ragfyr yn 65 oed yn dilyn cyfnod hir a chreulon o salwch. Yr oedd y ddau ohonom wedi bod yn gyfeillion ers 1993 pan ddaeth Mike i ymuno a’r grŵp cerddwyr radical ‘Red Rambles’ yn ardal y Peak. Ar ôl hyn wnaeth y ddau ohonom yn cydweithio ar nifer fawr o brosiectau, digwyddiadau a chyhoeddiadau.


 

Roedd Red Rambles yn para am y cyfnod rhwng 1993 tan ddiwedd 1999 ac yr oedden ni fel grŵp yn cerdded ar draws Swydd Derby a rhannau o ganolbarth Lloegr gan gynnwys lleoedd megis Kinder Scout, y Roaches, Derwent Edge, Lathkill Dale a llawer mwy. Daeth Mike ar y rhan mwyaf o’r teithiau gerdded misol hyn. Ar ben hynny wnaeth Mike cydweithio efo fi yn cynhyrchu bron iawn 40 rhifyn o gylchlythyr misol EMAB ar gyfer anarchwyr a phobl radical ardal Derby a Nottingham. Roedd Mike yn ddyn ymarferol a llwyddodd creu safle rhandiroedd cymunedol yn Loughborough. Roedd o’n lledaenu’r neges bod hi’n bosib creu byd amgen i’r byd presennol ble mae grym y wladwriaeth a chyfalafiaeth yn rheoli popeth, roedd Mike am greu byd amgen ble mae gwerthoedd megis cyfiawnder cymdeithasol a heddwch yn teyrnasu. Roedd o’n feddylgar, teyrngar a gwir gyfaill. 

 



Roedd diwrnod angladd Mike yn glir ond yn oer. Roedd awyr las uwchben claddfa naturiol sy’n sefyll ochr Burton on the Wold ger Loughborough. Daeth dros bumdeg o bobl i dalu teyrnged olaf i ddyn oedd yn wir wedi cyfrannu i’w gymuned. Roedd y ‘gwasanaeth’ yn cofio holl bethau yr oedd Mike wedi gwneud dros y blynyddoedd ar gyfer ei gymuned, ei deulu a’i daliadau anarchydd. Mi fydd colled mawr ar ei ôl o. Heddwch i’w llwch. Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Defnydd darllen 2013

Mae diwedd y flwyddyn yn agosáu, ac yr ydw i wedi bod yn edrych nôl dros y llyfrau yr ydw wedi darllen eleni. Mae ‘r rhestr yn cynnwys nofelau megis Cyw Haul, Cyw Dol, Cracio, Cyw Melyn y Fall, Trafaelog, Tocyn i’r Nefoedd. Llyfrau gwleidyddol megis I’r Gad, Pa Beth aethoch chi allan i’w achub, The Phenomenon of Welshness, a chofiannau megis Cofio Eurig , Hanes Gwanes a Valentine ar ben hynny dw i dal i ddarllen y Cymro yn wythnosol, Barn yn fisol ac ambell gopi o Golwg, Y Pentan a’r Herald Cymraeg diolch i’m ffrind yn y gogledd sy’n hel tudalennau Yr Herald Cymraeg ata i drwy’r post brenhinol. Mae’r Cymro a’r Herald Cymraeg yn cael ei basio ymlaen at ddarllenwyr eraill yn yr ardal yma. Gobeithio bydd yr hen Santa yn dod ac ambell docyn llyfr i mi fel anrheg Nadolig ac mi fydd y prosiect darllen yn mynd yn ei flaen yn ystod 2014! Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Llais Y Derwent: papur bro i ddysgwyr a Chymry alltud canolbarth Lloegr

Mae’r rhifyn Gaeaf Llais y Derwent bellach wedi cael ei gyhoeddi. Cafodd y papur ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 2005, ac ers hynny mae nifer go da o rifau wedi ymddangos. I ddechrau dim ond 4 tudalen oedd gan y ‘Llais’, erbyn hyn mae ‘r papur wedi tyfu i 6 o dudalen. Mae’r bobl sy’n ysgrifennu i’r ‘Llais’ yn byw ar draws canolbarth Lloegr o Norfolk i Sir Henffordd, ac yn cynnwys pobl sy’n byw yn Nottingham, Derby a nifer o’r trefi a phentrefi. Os oes gynnoch chi rywbeth i’w dweud neu rywbeth i hysbysebu gadewch i ni wybod! Mae nifer o’r hen gopïau ar gael ar y we fel ffeiliau ‘pdf’ ar wefan Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby, gwelir www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Gwirfoddolwyr Canolbarth Lloegr dros yr iaith Gymraeg



Dros gyfnod eitha’ hir mae grwpiau dysgwyr canolbarth Lloegr wedi derbyn dipyn o sylw mewn cylchgronau ac ar radio/teledu yng Nghymru. Mae’na nifer o wirfoddolwyr selog tu ôl i’r gwaith sy’n cael ei wneud.
Mae dau ddosbarth Cymraeg wythnosol sy’n cael ei drefnu yn Belper yn ganlyniad i waith caled gan Glen Mulliner. Bore Sul y penwythnos yma roedd Glen yn rhedeg stondin y dosbarth Cymraeg mewn diwrnod agored yng nghanolfan Strutt Belper.

Unwaith y mis mae’r Bore Coffi Popeth yn Gymraeg yn cael ei gynnal yn Nottingham. Mae’r bore coffi yn llwyddiannus iawn efo 10-15 o bobl yn dod fel arfer, ond y gŵr sy tu ôl i ffyniant y digwyddiad misol yw Viv Harris, oherwydd Viv Harris, gynt o Ynys y Bwl, sy’n trefnu rota misol y boreau coffi.
Mae’r grŵp ymarfer wythnosol sy’n cael ei rhedeg yn Derby gan DWLC yn gyfrifoldeb Allan Child, sy’n gofalu bod y canolfan ar agor, bod te/coffi a bisgedi ar gael, a hefyd, pan fo angen bod cyflenwad newydd o lyfrau Cymraeg ar gael i’r grŵp cael darllen.
Unwaith y mis yn Nhafarn the Assembly Rooms, Solihul mae’na nifer o ddysgwyr SSIW yn ymgynnull o dan arweiniad Cymro alltud o Gaerdydd, sef Aled James.

Steve Clement yw’r enw’r gŵr bonheddig sy’n arwain dosbarth Cymraeg yr U3A yn Sheffield, ac Eileen Walker sy tu ôl i Glwb Clebran Bradford. Hir oes i ymdrechion y bobl weithgar yma. Diolch iddynt.

Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Ysgol Undydd Cymraeg Derby 2013

Cynhaliwyd Ysgol Cymraeg Undydd Derby ar ddydd Sadwrn 19 o Hydref yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr yng nghanol dinas Derby. Daeth 35 o bobl at ei gilydd mewn tri dosbarth i ddysgu, siarad a mwynhau iaith a diwylliant Cymru. Cafodd dosbarth y dysgwyr profiadol a Chymry alltud amrywiol cyflwyniadau

PowerPoint i’w diddani, yn dechrau efo darlith am hen draddodiadau Cymreig megis Y Fari Llwyd gan Aled James o Goventry (gynt o Gaerdydd) ac wedyn cyflwyniad tu hwnt o ddiddorol gan Dr Katie Hemer o Brifysgol Sheffield (gynt o Hen Golwyn). Roedd Dr Hemer yn siarad am ei gwaith fel archeolegydd biomolecwlar. Hoffwn ddiolch hefyd i Martin Coleman am gyflwyniad am waith adran hawliau tramwyfa llwybrau cyhoeddus Cyngor Sir Swydd Derby. Roedd cyflwyniad fi yn son am deithiau Gymdeithas Edward Llwyd. Eileen Walker o

Bradford oedd tiwtor ar gyfer y grŵp canolradd. Cawson nhw amrwymau o gemau ac ymarferion iaith tra oedd Elin Merriman yn gofalu am anghenion dysgu grŵp o ddechreuwyr pur. Diolch yn fawr i’r athrawon, siaradwyr a gwirfoddolwyr a hefyd i ‘Criw’r Gegin’ a wnaeth gwaith caled yn darparu diodydd a chinio blasus ar gyfer y diwrnod. Mi fydd rhaglen Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby 2013 yn parhau trwy weddill y flwyddyn efo'r cyfarfod wythnosol am 9.30 ar fore Dydd Mawrth a’r gweithdy Dydd Sadwrn misol yn Nhŷ Cwrdd y Crynwyr ar Stryd Sant Helen, Derby. Mae’na groeso i bawb boed dysgwyr neu Gymry alltud ac ymwelwyr o’r hen wlad. Mae manylion ein grŵp ar gael ar wefan www.derbywelshlearberscircle.blogspot.com

Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Taith Cerdded a Chymru ar y gorwel

Mi ges i ddiwrnod i’r brenin heddiw pan es i ar daith cerdded o amgylch bryn lleol (Shuttingsloe) yn ardal y Peak efo fy nghyfaill Martin, y dysgwr rhugl o Clay Cross. Wnaethon ni ddechrau o ardal o’r enw Wildboarclough cyn cyrraedd gwaelod y bryn a cherdded i fyny’r allt serth i gyrraedd y copa. Roedd hi’n fore bendigedig ac yr oedd nifer o bobl eraill wedi cyrraedd pen y bryn o’n blaen ni. Er gwaethaf yr holl law sy wedi disgyn yr wythnos yma, roedd yr awyr yn las ac roedd dipyn o awel ffres. Ar ôl cyrraedd y copa roedd ‘na wobr hael, sef golygfeydd trawiadol iawn o amgylch y bryn. Yn lleol yr oedden ni’n gallu gweld rhostiroedd Swydd Stafford a Swydd Caer, ond i’r gorllewin roedd hi’n bosib gweld y Wrekin, y Long Mynd, Caer Caradog, bryniau dyffryn Clwyd gan gynnwys Moel Famau. Ond beth oedd hyd yn oed yn well, tu draw i fryniau dyffryn Clwyd roedd hi’n bosib gweld, yn niwlog ar y gorwel, mynyddoedd Yr Eryri, sef y Carneddau. Yn ôl y map arolwg Ordnans, mae hi’n bellter o 70-80 milltir. Dyma dro cyntaf yn fy myw fy mod i weld cyn bell. Fallai bod yr amser wedi dod am ymweliad i ardal Wildboarclough gan aelodau Cymdeithas Edward Llwyd? Mi fydd Martin neu finnau digon hapus i ddangos y gornel fach brydferth o ardal y Peak i’r aelodau. Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Gwrthod ildio ers Pont Trefechan

Yr ydyn ni newydd ddychwelyd ar ôl treulio’r penwythnos yn Aberystwyth. Yr oeddwn i yno er mwyn mynychu cyfarfod pwyllgor, ond ar wahân i’r ddyletswydd hon mi ges i ddigon o amser i wneud pethau fel pori trwy’r siopau llyfrau a cherdded y traethau ac ymweld â safleoedd y dre megis Constitution Hill a safle

protest cyntaf hanesyddol Cymdeithas yr iaith sef Pont Trefechan. Fel arfer yr oedden ni’n aros yn Yr Hafod, sef sefydliad Gwely a Brecwast sy wedi’i leoli ar South Marine Terrace, dim yn bell o’r harbor. Hoffwn ddiolch i John Evans am ei groeso cynnes arferol, ac yn enwedig am y brecwast enfawr blasus! Mae hi wastad yn braf cael aros yn yr Hafod ac ymlacio wrth edrych dros draeth y de at y môr. Roedd y dref yn brysur iawn efo wythnos y Glas ac roedd sawl parti swnllyd ar y traeth trwy’r nos, ond doedd neb yn camfihafio go iawn. Ar y cyfan cawson ni

amser gwych, a thywydd braf. Ar y noson gyntaf cawson ni bryd o fwyd derbyniol yn Nhŷ Bwyta cadwyn sy wedi lleoli yn yr Hen Orsaf Trên. Roedd fy annwyl gymar yn hapus trwy fore dydd Sadwrn yn siopau am ddillad, felly fel chwedl y Sais cafodd pawb amser da. Ar y Sul yr oedd y daith adref trwy fynyddoedd canolbarth Cymru yn hudolus efo golygfeydd trawiadol o Gadair Idris wrth i ni stopio am seibiant yn Nolgellau, ac wrth i ni deithio ar hyd Llyn Tegid roedd y dŵr cyn glased â’r môr. Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Dydd Sul yn ardal y Peak

Cawson ni ddechrau hydrefol i’r diwrnod efo niwl ar draws dyffryn Derwent, ond roedd hi’n ddiwrnod braf er gwaetha hynny. Yn hwyr yn y bore aethon ni draw i Wildboarclough ger Buxton i ddringo bryn o’r enw ‘Shuttingsloe’ roedd golygfa fendigedig o’r co… Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Bore Coffi Southwell 6ed o Fedi

Mi wnes i deithio draw i Southwell unwaith eto heddiw. Tro diweddaf oedd flwyddyn yn ôl, ond y tro’ma roedd y tywydd yn dra gwahanol. Y llynedd roedd hi’n boeth ac yn heulog, ond cwmwl a glaw cawson ni heddiw. Ond er bod y tywydd yn hydrefol roedd y croeso a gafodd gan Margo Dafis yn wresog a hael. Y tro’ma roedd 16 ohonom gan gynnwys John o Kings Lynn a Martin o Glay Cross. Cawson yr ymgom arferol a hefyd y ‘pregeth’ bach gan Viv ar ddiwedd y sesiwn. Ar ôl digon o goffi, cacenni a sgwrs aeth Martin, John a finnau am wibdaith o amgylch Southwell Minster cyn cael cinio blasus yng nghaffi’r Minster. Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Penwythnos yn Swydd Derby

Penwythnos yn Swydd Derby Er gwaetha rhagolygon y tywydd penderfynais fynd am dro bore dydd Sadwrn. I ddechrau mi es i i ben Alport Hill i edrych i’r gorllewin ac i gerdded o amgylch y safle. Roedd hi’n wyntog iawn wrth feddwl taw mis Awst yw hi, mi ges i gip dros y dyffryn ond doedd hi ddim yn bosib gweld y Wrekin na’r Long Mynd. Pan ddaeth cawod drom o law wnes i gilio i’r gar i wrando ar Radio Cymru ac i ddarllen cylchgronau’r penwythnos. Wedyn mi es i draw i Middleton Top i gerdded ar draws y rhostir yno sy’n edrych allan dros olygfeydd trawiadol i’r gogledd, dwyrain de a gorllewin. Doedd prin enaid byw ar y tir uchel ond diogon o ddefaid. Ar ran y prosiect darllen, ar hyn o bryd dw i hanner ffordd trwy lyfr gan Arwel Little am Lewis Valentine. Cyfrol hynod o ddiddorol. Gyda’r nos mi ges i dipyn o hwyl ar ôl derbyn gwahoddiad yn gynharach yn yr wythnos i siarad fel gŵr gwadd i Glwb Carafán Cymru yn ystod eu hymweliad i ardal Tansley. Roedd 28 yn bresennol yn nhafarn y Royal Oak, Tansley. Ar ôl cinio blasus yr oeddwn i’n gallu rhoi darlun iddyn nhw o’r holl bethau Cymraeg a Chymreig sy’n mynd ymlaen yn Derby a Nottingham, yn enwedig gweithgareddau’r Cylch Dysgwyr Derby. Wrth gwrs mae’r ‘byd’ Cymraeg yn un fach, ac roedd sawl un o’r criw efo cysylltiadau a Chymry alltud y canolbarth. Yr oedd Dydd Sul lawer lai cyffrous efo gwaith cynnal a chadw yn galw, sef ailbeintio to concrid y sied bricsen allanol. Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Plas Penucha, Sodom a’r Eisteddfod

Yr ydw i newydd ddychwelyd ar ôl treulio saith noson yn ardal Caerwys. Oeddwn aros mewn bwthyn ym Mhlas Penucha, Caerwys ac yn teithio o amgylch y gogledd yn ymweld â ffrindiau ac wrth gwrs maes y brifwyl.

Wrth gyrraedd y plas wnaethon ni basio arwydd ffordd a oedd yn anelu at bentref o’r enw Sodom! Diolch byth doedd dim son Gomorah!
Plas Pen Ucha’ oedd cartref un o enwogion yr ardal sef Thomas Jones o Ddinbych 1756 -1820 emynydd, awdur a golygydd Y Drysorfa. Mae perchennog presennol Plas Pen Ucha’ yn ddisgynnydd iddo fo. Ar ôl cyrraedd Caerwys ar y prynhawn Sadwrn aethon ni i weld Dinbych ac i grwydro o amgylch y dref hanesyddol. Roedd yr olygfa o’r lawnt o flaen y castell yn wych ac yr oedd pafiliwn pinc yr Eisteddfod i’w weld ar ochr draw’r dyffryn. Cawson ni gip ar dafarn y Guildhall, lleoliad

sawl un o gigiau Cymdeithas yr iaith.
Ar y Dydd Sul aethon ni draw i Sir Fôn i weld ein ffrindiau Marianne a Jerry am ginio. Roedd hi’n glawio felly ar ôl pryd o fwyd blasus aethon ni i Oriel Môn yn Llangefni i weld arddangosfa am Kyffin Williams yn Fenis. Diddorol oedd gweld llun enfawr o Fenis gan Canaletto a sawl llun arall ar fenthyg o Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
Ar y Dydd Llun aethon ni i oriel Celf a chrefft Rhuthun i weld yr arddangosfa o gelf gyfoes wedi’i ysbrydoli gan Edward Pugh arlunydd ac awdur Cambria Depicta. Roedden ni hefyd yn cwrdd â’n ffrindiau Martin a Rebeca o ardal Chesterfield. Mae Martin wedi pasio ei arholiad canolradd Cymraeg fel ail iaith i oedolion. Llongyfarchiadau mawr iddo

fo. Nos Lun oedd ein hymweliad cyntaf i’r maes. Yr oedden ni wedi prynu tocynnau i weld y Noson Lawen efo nifer fawr o enwogion y byd canu Cymraeg megis Hogia’r Wyddfa, Trebor Edwards a Thara Bethan.
Yr oeddwn i’n awyddus i fynd ar y maes y diwrnod wedyn. Roedd gen i raglen lawn o ddarlithoedd, cystadlaethau a chyfarfodydd yr oeddwn i wedi nodi ar Raglen y Dydd.

Y peth cyntaf oedd sesiwn sgwrs ddiddorol yn y Babell Len yng nghwmni 5 o fardd plant, sef Myrddin Ap Dafydd, Gwyneth Glyn, Dewi Puws, Eirug Salisbury ac Aneirin Caradog. Wedyn mi es i draw i rai o ragbrofion delyn yn y Pagoda. Yn ystod pnawn Lun mi es i i wrando ar sgwrs rhwng Mike Parker, (awdur Neighbours from Hell) a Simon Thirsk (awdur Not Quite white). Roedd Bethan Gwanas yn cadeirio’r sgwrs ddiddorol.
Uchel bwnt dydd llun oedd parti SSIW ger y llwyfan perfformio bach. Roedd tua 20 aelodau a chefnogwyr yn mwynhau diodydd a sgwrs yn yr heulwen. Diolch pawb!
Y diwrnod wedyn, Dydd Mawrth, mi aethon ni i weld sawl cystadleuaeth yn y Pafiliwn megis y Rhuban Glas
Offerynnol ( Delyn, Soddgrwth a phiano). Wedyn cystadleuaeth monolog ac yna Unawd Gymraeg. Yn syth ar ôl cinio ym Maes D mi es i draw i’r Neuadd Dawns i wrando ar sesiwn y Grŵp Gorchwyl a gorffen sy wedi ei sefydlu gan y llywodraeth i edrych ar ddyfodol yr Eisteddfod. Mi ges i gyfle i godi sylw am bwysigrwydd yr Eisteddfod fel modd i gymathu dysgwyr yr iaith i’r byd Cymraeg. Wedyn mi es i ymlaen i weld Lansiad ‘Ffrindiaith’ sef cynllun i ddod a siaradwyr a dysgwyr at ei gilydd.
Roedd Dydd Iau’r diwrnod llawn olaf i ni ar y maes. Mi wnaethon ni gwrdd â Chymry Nottingham ar y maes, sef Steffan, Gwynne, Viv a Howell a’i wraig a chwaer. Aeth y dynion i weld darlith goffa Hywel Teifi Edwards. Roedd Meredid Hopwood yn trafod Waldo Williams. Gwych o beth.
Pnawn iau mi es i i weld Corau Merched yn y pafiliwn ac wedyn draw i ddigwyddiad sef Derbyniad Undeb Cymru a’r Byd. Roedd Rhian Bebb yn perfformio ar y delyn dair rhes ac roedd lawer o Gymry o bedwar ban byd.

Ces i gyfle i wrando dipyn ar Dafydd Iwan yn perfformio ym Maes D cyn mynd draw i gwrdd â’n wraig, ffrindiau Martin, Rebeca a William ‘Co-op’ gynt o Flaenau Ffestiniog ond bellach o Lundain. Cawson ni ambell gwydraidd o win coch ac roedd pawb yn mwynhau.
Ar y dydd Gwener cawson dipyn o frêc o’r brifwyl trwy fynd i Ros a Llandudno i weld y môr a’i donnau. Cyn dod yn ôl i’r maes ar gyfer cystadlaethau’r nos. Welon ni gorau cymysg ( Côr CF1, Côrdydd, ac eraill) wedyn corau yn cystadlu yn canu caneuon gwerin a hefyd cystadleuaeth corau adrodd. Wnaethon ni benderfynu gadael y pafiliwn i weld cyngerdd olaf y band enwog Edward H Dafis. Rhaid oedd pum mil o bobl yn gwrando wrth y brif lwyfan perfformio.
Felly cawson ni wythnos wych, ac yr oedden ni’n ddigon hapus i droi am adref bore dydd Sadwrn.

Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Diwrnod braf yn Belper



Cynhaliwyd Gŵyl Bwyd Belper 2013 dros y penwythnos diweddar. Roedd y tywydd yn hyfryd ac roedd nifer o ddigwyddiadau yn digwydd ochr wrth ochr i’r Ŵyl. Ar nos Sadwrn roedd cyngerdd rhad ac am ddim yn Eglwys Iesu Grist. Daeth dau gôr, sef Côr Meibion Chapel-en-le-frith a Chôr Meibion Derwent, at ei gilydd i ddiddani’r gynulleidfa. Wnaeth Côr Chapel-en-le-frith hyd yn oed canu Ar hyd y nos, efo’r bennod gyntaf yn y Gymraeg.


Ar y dydd Sul cafodd Stryd Fawr Belper ei gau, ac roedd y lle yn llawn stondinau bwyd a chynnyrch lleol a sawl mil o bobl.

Roedd y gerddi yng nghanol y dref wedi meddiannu gan stondinau megis siop ‘Sound Bites’ o Derby sy’n gwerthu bwydydd figan a llysieuol. Hefyd roedd  llwyfan perfformio yng nghanol y gerddi, a llwyfan arall y tu ôl i dafarn Yr Alarch Du.

Felly cawson ni bwyd blasus a hefyd cryn dipyn o flas ar y gerddoriaeth byw a oedd yn cael ei berfformio. Mi faswn i roi marciau deg allan o ddeg i’r grŵp ‘Jiggery Folkery’ a oedd yn perfformio

cymysgydd o ganeuon gwerin a hen ffefrynnau megis can Iwan MacColl ‘Dirty Old Town’.

(Gwelir   http://www.youtube.com/watch?v=kALMzZhJliY&feature=youtu.be )

Diolch i’r trefnydd ac i bawb a oedd yn cynnal stondinau neu yn perfformio am ddiwrnod difyr iawn.

Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Traffig Trwm Dydd Gwener

Traffig trwm dydd Gwener. Mae hi wedi bod yn boeth iawn heddiw, a dim lawer o draffig ar yr heol sy’n arwain i fyny’r allt tuag at ein tŷ ni, ond y bora ‘ma welais gwmwl mawr o fwg du yn dod agosâ at ein cartref, a dyna beth oedd yn ei hachosi, sef tri pheiriant ager yn straffaglu i fyny’r bryn.


Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Wythnos braf yn yr Ysgol Haf

Yr ydw i newydd ddychwelyd o Gymru ar ôl treulio wythnos mewn wersyllfa ar gyrion Dolgellau.
Yr oeddwn i’n aros yn Nolgellau er mwyn mynd i’r Ysgol Haf yno, sy’n cael ei chynnal yng Ngholeg Meirion Dwyfor.
Roedd tua 50 o bobl ar y cwrs gan gynnwys nifer o wynebau cyfarwydd. Yr oedd dim ond 4 ohonon ni yn y dosbarth Meistroli, ond cawson ni digon i’w wneud efo sgyrsiau, ymarferion a chymorth dawnus oddi wrth y tiwtor Sandra.

Yr oeddwn i’n aros mewn pabell ar wersyllfa Dolgun Uchaf ger y little Chef. Roedd fy nghyfaill Martin wedi cyrraedd ychydig o fy mlaen i, felly ces i help llaw wrth godi fy mhabell pnawn dydd Sul (30 Mehefin) yn y glaw.
Wedyn aethon ni i ymweld â dysgwraig lleol (Karen) yn ei ffermdy Ystumgadnaeth ger Llanfachreth. Cawson ni bryd o fwyd blasus (Chilli a bara cartref), roedd hi’n noson hwylus iawn. Mae gŵr a phlant Karen wedi dysgu’r Gymraeg hefyd ac mae mam-yng-nghyfraith Karen hefyd wrthi yn dysgu’r iaith felly roedd y cwrs yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg.
 Y bore wedyn aethon ni i’r Coleg am ddiwrnod cyntaf y cwrs, ac yn y prynhawn aethon ni am dro o amgylch ‘Precipace Walk’ efo Karen. Crispin a Sarah Hottle, y ferch o Portsmouth a enillodd ar raglen Cariad at Iaith eleni.
Roedd dydd Mawrth yn wlyb iawn, felly gyda’r nos aeth Martin a fi i dafarn y Cross Foxes ar y ffordd i Fachynlleth er mwyn fanteisio ar gyfleuster y dafarn, sef cadeiriau cyfforddus, gwres a thipyn bach o gwrw.
Dydd Mercher ar ôl diwrnod arall ar y cwrs aeth tri ohonon, Ray, Martin a finnau, draw i glwb Golff y Bala ar gyfer noson Gwylwyr S4C. Roedd tua 100 o bobl yn bresennol a chawson ni noson ddifyr yn trafod rhaglenni S4C, yn gwrando ar berfformiad gwych gan Gôr Merched Bala a chawson ambell banad, brechdan a theisen. Roedd y noson yn brofiad gwych i ‘r 3 ohonon ni fel dysgwyr! Diolch yn fawr i S4C am y cyfle!
Ar ddydd Iau aeth Martin a fi draw i’r Abermo i weld y môr ac i siopau. Mi wnes i brynu copi ail-law o’r nofel Tan ar y Comin gan T Llew Jones. Bob dydd yn ystod yr wythnos yr oedd stondin llyfrau yn y Coleg efo Gwynne, Siop llyfrau Awel Meirion. Mi wnes i brynu nofel a llyfr am yr ieithoedd Celtaidd.
Roedd digon o amser sbâr i wneud cryn dipyn o ddarllen gan gynnwys Golwg, y nofel Blasu, ac ambell peth lleol megis papur bro Y Cyfnod.
Yn ystod nos Wener aethon ni draw i Faentwrog i ymweld â’r Oakley Arms ac i gwrdd â Karen a dysgwyr eraill. Cawson ni sgwrs ddifyr efo 4 o bobl o Ben Llyn hefyd.

Bore dydd Sadwrn, ar ôl codi yn gynnar mi wes i adael am 8 o’r gloch. Mi wnes i bicio i mewn i siop Awen Meirion yn y Bala i brynu anrheg i’n wraig annwyl, wedyn mi wnes i ymweld â dysgwyr yn y sesiwn Sadwrn Siarad yng nghanolfan garddio Bellis yn Holt.
Roedd hi’n boeth iawn ar y daith yn ôl i Belper a bellach dwi wedi blino yn llwyr, ond ces i goblyn o wythnos draw yng Nghymru fach! Diolch i Sandra’r tiwtor, ac i’r trefnydd a thiwtoriaid eraill.

Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Pori mewn siopau elusennol.

Dw i newydd ddychwelyd i Belper ar ôl treulio wythnos yng Nghymru fach. Ar wahân i fwynhau ambell ymweliad i drefi megis Porthmadog, Pwllheli a Chriccieth, roedd digon o amser i ni ddringo Tre’r Ceiri ac i ymweld â Nant Gwrtheyrn, ac i ymweld â Gwinllan Pant Du ger y Groeslon ar gyfer pryd o fwyd efo Nora Jones o Dalysarn. Diolch Nora!

Ond roedd hi’n braf hefyd i gael y cyfle i bori silffoedd siopau elusennol yn chwilota am lyfrau Cymraeg ail law. Felly wrth ddod adref i Belper roedd fy magiau yn drwm. Roedd ambell lyfr newydd sbon sef y nofel Blasu (wedi prynu o Balas Print, Caernarfon) a ‘Rhint y Gelaets a’r Grug’ (wedi prynu o siop Llen Llyn, Pwllheli), ond y rhan mwyaf oedd yn ail law megis Cofio Eirug, gol. Emyr Llewelyn Gruffudd, Symudliw gan Annes Glynn, Cymru ar Werth gan Penri Jones, Dim Heddwch gan Lyn Ebenezer, Y llosgi gan Robat Gruffudd, Rhwng Dau Fyd gan Bethan Phillips, Valentine gan Arwel Vittle. Roedd y prisiau yn amrywio o 75c i £2 ar gyfer y llyfrau ail law ac wrth gwrs mi wnes i dalu’r pris llawn ar gyfer y ddau lyfr newydd sbon.

Roedd hi’n braf hefyd cael y cyfle i ddarllen cylchgronau yn boeth o’r wasg wrth iddyn nhw gael ei gyhoeddi. Bellach mae gen i ddigon o ddefnydd darllen am 3 mis! Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Ymwelydd o China

Cawson ni weithdy diddorol iawn ddoe. Daeth dysgwr newydd sy’n byw yn Leicester. Mae Edward Yi He wedi byw yn dde Cymru am 5 mlynedd yn gweithio ym Mhorth Talbot cyn symud i Leicester. Wnaeth o ddysgu’r Gymraeg pan oedd o’n byw yng Nghymru. Chwarae teg i Edward mae o’n siarad yn dda iawn. Cawson ni sgwrs ddifyr yn ystod y gweithdy am y Wasg Cymraeg.


Ar ôl y Gweithdy mi es i am dro o amgylch Derby efo Martin (dysgwr o Clay Cross) cyn mynd draw i Nottingham ar gyfer y prynhawn. Yr oedden ni wedi cael gwahoddiad i gartref Viv Harris sy’n byw yn West Bridgford i chware Scrabble Cymraeg. Dydd llawn o siarad Cymraeg.

Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Gŵyl Canu Gwerin Hairpin Hullabaloo

Mi ges i amser braf ddoe, yn y bore cawson ni ein gweithdy Cymraeg misol, ond roedd hi’n dipyn o siom bod dim ond pedwar oedd yno. Mae’n debyg bod un person oedd wedi dod o Sheffield ond wedyn methodd dod o hyd i ni.
    Yn y prynhawn mi aeth Marilyn a fi i Ŵyl Canu Gwerin yng Nghanolfan Celf y Fleet, Belper i weld grwpiau megis ‘Mills a Chimneys’, ‘Pilgrims Progress’ a ‘Jez Lowe a’r Bad Pennies’.

Roedd Jez Lowe a’i band yn arbennig o dda. Yn perfformio sawl cân o’r 80au fel ‘Coal Town Days’, cân a oedd yn ymateb i ymosod llwyodraeth Thatcher ar y Glowyr ac undebau. Roedd cytgan y cân yn drawiadol ac yn dweud cyfrolau. ‘Away they’re liars and they’re cheats!’ ymateb gonest sy hefyd  yn cael eu mynegi am Thatcher yn y dyddiau ers ei marwolaeth hi.
   Mae Jez Lowe wedi sgwennu nifer fawr o ganeuon gwych yn son am y diwydiant glo, caneuon fel ‘Black diamonds’ a ‘Small Coals’.
   Does gan y papurau Llundeinig, ac arweinyddiaeth y pleidiau Gwleidyddol mawr yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr, dim clem sut effaith cafodd newidiadau Llwyodraeth Thatcher ar ardaloedd glo fel y Cymoedd, Swydd Nottingham, Swydd Efrog, Swydd Durham, yr Alban. Hefyd does ganddynt ddim syniad am yr effaith drwg ar gymunedau a chymdeithas oedd cael gwared mor gyflym ar hen ddiwydiannau dur a haearn. Canlyniad eu polisïau twp a hunanol yw tranc y wlad. Does ganddynt ddim syniad a dydyn nhw dim yn malu dim. Rhag eu cywilydd.

Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Gwynt traed y meirw

Mi ges i ( a’r annwyl wraig) daith cerdded bleserus o amgylch cronfa dwr Carsington ar ddydd Gwener y Groglith mewn cwmni ein ffrind Colin. Roedd gwynt traed y meirw yn chwythu o’r dwyrain ond roedd digon o fywyd gwyllt i’w gweld ar y twr a hyd yn oed o dan gwt gwylio’r adar lle oedd llygoden fawr yn m
anteisio ar y bwyd adar i ennill ei bara menyn. Wnaethon ni gerdded ar draw’r argae yn nannedd y gwynt ac roedd digon o olion y gaeaf i’w gweld, hen luwchfeydd, neu fel maen nhw’n cael eu galw fan hyn yn yr iaith fain ‘the bones of winter’.


Ar wahân i’r adar ar y dŵr, roedd ambell gwch hwylio, pobl ddewr yn fy marn i.
Heddiw dw i wedi bod draw yn Nottingham yng nghwmni Cymry alltud Nottingham. Diolch i Dawn Parry Sawdon am y croeso. Roedd 9 ohonon ni’n mwynhau sgwrs, clonc a chaffi. Mae

rhaglen Cymry Nottingham y nis yma’n cynnwys darlith am dwf yr iaith yng Nghaerdydd a chymanfa Ganu rhanbarth dwyrain canolbarth Lloegr. Mae manylion i’w gael ar safle we’r gymdeithas. http://www.cymdeithas.org.uk/ Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Ian Duncan Smith A.S. a budd daliadau

Mae Ian Duncan Smith AS wedi datgan yn Nhŷ Cyffredin ei fod o’n gallu goroesi ar 53 o bunnau’r wythnos. Gawn ni weld os ydy o’n fodlon cadw at ei air. Hoffwn i weld cystadleuaeth teledu fatha ‘I’m an MP get me out of here’. Dw i’n gallu dychmygu Ian a rhai o’i gyd aelodau toriad yn cystadlu am y wobr. Mi fydd hi’n ddiddorol cael gweld sut fasen nhw’n gwario, beth eu bod nhw’n bwyta. Ond efallai taw rhai o’r cathod tewion yn gallu ymdopi heb fwyta o gwbl am gyfnod hir. Fasa hi’n deg rhoi caniatâd i Weinidog Eric Pickles cymryd rhan? Mond yn gofyn. Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Gwanwyn gaeafol

Mae hi’n hen ystrydeb bod pobl ym Mhrydain yn hoff iawn o siarad am y tywydd. Mewn gwirionedd does dim syndod am hynny, mae’r tywydd yn yr ynysoedd yma mor gyfnewidiadol. Y llynedd roedd mis Mawrth yn anarferol o gynnes ac eleni mae hi wedi bob yn anarferol o oer.

Y bore ‘ma pan wnes i ddeffro roedd haenen drwchus o eira ar draws y tir ac roedd hi dal i fwrw eira am dipyn o amser. Beth bynnag roedd hi’n ddigon drwg i achosi sefydliadau lleol i ganslo cyfarfodydd di-rif. Felly mi wnes i hefyd aros adref ond diolch i dechnoleg gwybodaeth gyfoes yr o’n i’n gallu gweithio o’m cartref. Mi ges i ddiwrnod digon clyd ond och a gwae does dim math moethusrwydd ar gael i’r bywyd gwyllt ac adar yn yr ardd.

Yn gynnar y bore’ma wnaeth fy annwyl Marilyn llenwi blychau bwyd yr adar yn yr ardd cefn ond erbyn heno mae’r blychau’n hanner wag eto. Mae’r adar wedi bod yn brysur trwy’r dydd yn bwydo a does dim syndod achos maen nhw’n wynebu noson oer, wlyb ac yn angheuol i rai ohonynt. Nid ydw i’r unig un sy’n aros yn eiddgar am y gwanwyn.

Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Hir oes i’r chwyldro

Y bore’ma pan o’n i’n ymweld a Derby wnes i weld dau beth sy wedi tanlinellir holl anghyfiawnder cymdeithasol sy wedi dod yn sgil polisïau llywodraethau’r 35 mlynedd ddiweddaraf.

Yn gyntaf wnes i weld cyn tenant i mi, o’r cyfnod pan o’n i’n gweithio fel Swyddog Tai yn rhoi cymorth i bobl a oedd wedi cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol lleol. Roedd y gŵr bonheddig yma yn dioddef o amwysterau dysgu a ddim wedi ymdopi efo bywyd yn dda iawn nac yn gallu cynnal swydd. Ers i mi ei weld y tro diweddaf, 6 mlynedd yn ôl, mae o bellach wedi colli ei braich de o ganlyniad i gancr. Rŵan mae o’n byw mewn fflat efo cymorth warden preswyl, ond mae’r cyngor lleol ar fin diddymu’r cymorth hyn. Ar ben hynny mae’r gŵr o dan bwysau gan y DWP i fynd yn ôl i’r gwaith. Dyma siampl berffaith o’r gwaith diafoledig sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd. Codi bwganod am bobl yn cam-drin y gyfundrefn lles ac yn gorfod pobl i drio gweithio sy wir ddim yn gallu gweithio. Yn wir ddyn ni’n ôl i’r gwerthoedd Fictorianaidd oedd y bondigrybwyll Mrs Thatcher yn arddel sef rhagfarnu a cham-drin pobl dlawd, pobl anabl a phobl di-rym pan mae’r cathod tewion yn y ddinas yn Llundain yn bocedi taliadau bonus o filiynau o bunnoedd.

Wedyn wrth i mi gerdded nôl i’m car ar ôl cael fy negeseuon o’r dref mi wnes i weld car efo rhifau plât Cymru arno wedi’i barcio o flaen tŷ digon cyffredin. Wn i ddim os oedd y perchennog yn dod o Gymru neu yn Gymro neu Gymraes Cymraeg ond roedd ‘na siawns go dda ei fod o / ei bod hi. Tebyg mae’r car yn berchen i un o filoedd o Gymry sy wedi gorfod gadael Cymru er mwyn cael swyddi. Does dim digon o fuddsoddi mewn ardaloedd tlawd Prydain. Mae’r cymunedau yn edwino a’r iaith yn gadael y fro Cymraeg efo’r bobl ifanc.Dyma agwedd arall o’r anghyfiawnder cymdeithasol sy ar droed ar hyn o bryd. Er gwaethaf holl rethreg am y Gymdeithas Fawr, mae’r rhan fwyaf o’r cyfoeth Brydain yn cael ei ganoli yn Llundain a’r de-ddwyrain o Loegr. Wfft i weddill y wlad, wfft i’r hen ardaloedd diwydiannol boed yng Ngogledd a chanolbarth Lloegr, yr Alban neu Gymru. Dw i’n diogon hen i gofio’r Llwyodraeth Thatcher wrthi yn dinistrio (yn ddi-angen!) yr holl byllau glo a’r diwydiannau trwm. Y cyfiawnhad ar y pryd oedd gwasgu chwyddiant allan o’r system economaidd,  roedd hyn yn bropaganda ac yn gelwydd noeth. Y gwir reswm oedd dial ar y NUM a hefyd i ddinistrio grym economaidd pob rhan arall o’r DU er mwyn rhoi’r holl rym economaidd yn nwylo’r crachach, y ddinas a’r Blaid Tori. Pan ddaeth Tony Blair i rym, roedd y dasg wedi’i wneud ac roedd gormod o ofyn ar y Blaid Llafur i wrth wneud y newidiadau hyn. Roedd cyflogaeth yn dod yn ôl, ond dim ond trwy dyfu maint gwasanaethau a’r biwrocrataidd. Felly nôl at Lywodraeth Tori diafoledig arall efo Cameron ac unwaith eto pobl gyffredin yn cael eu targedu efo polisïau’r toriadau.

Mae Bancwyr wedi achosi’r crisis economaidd ond pobl gyffredin a phobl ar fudd daliadau yn talu’r gost. Mae Cameron yn dweud does dim arian ar ôl. Celwydd noeth eto. Mae digon i hel y fyddin allan i Afghanistan, mae digon i wario 25 billion ar Drident. Beth ddylai’r llywodraeth wneud yn tynnu mas o Drident, tynnu mas o ryfeloedd drud dramor a defnyddio’r pres i gynnal a chadw’r gwasanaethau lles a’r budd daliadau i bobl anabl.

Mi fydd yr hen ddynes Thatcher yn gadael y byd yma cyn bo hir. Piti garw ni fydd ei syniadau hunllefus yn mynd gyda hi. Parhau i ddarllen