Archives: Llinos

Pin Dwr Trefor: SGWRS A SGRAM

17eg Mai 2012 – Daeth 16 ynghyd heddiw i fwynhau cinio Sul ardderchog wedi ei baratoi gan Ysgol yr Eifl.  Croesawyd atom Fred a Jo o RSVP Cymru, Branwen o Cymorth Cristnogol.  Gwennan Gibbard fu’n diddanu heddiw.  Cawsom wledd o alawon C… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: HWYL A SBRI

16eg Mai 2012 – cynhaliwyd gweithgaredd ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol – golchi beics!  Mae’r tywydd yn gwella ac mae’r nosweithiau’n ymestyn – amser da i gael y beic allan.  Ond, mae’n bwysig bod y beic yn saff.  Yng ngardd Llinos … Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA!

16eg Mai 2012 – Pobl yw thema mis Mai.  Beth mae pobl yn wisgo ar eu pen, wel het siwr iawn.  Fe gafodd Martha, Kiberley a Sion hwyl dda iawn heddiw yn gwneud het smart!  Da iawn chi. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: OEDFA CYMORTH CRISTNOGOL

13eg Mai 2012 – Cynhaliwyd gwasanaeth Wythnos Cymorth Cristnogol yn Maesyneuadd.  Thema eleni yw Sierra Leone a dangoswyd ffilm Llinos – O Gymru i Sierra Leone.  Yn dilyn y gwasanaeth cawsom gyfle i fwynhau dau gawl Affricanaidd blasus iawn! … Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA

9fed Mai 2012Parhau gyda’n thema pobl heddiw.  Roedd y plant yn gwneud ffram llun heddiw er mwyn arddangos eu ffotograff gorau ar y wal adre!  Gwaith da iawn Martha, Begw a Kimberley. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB GWAU

8fed Mai 2012Mae’r plant yn brysur waeu eu cas ipod lliwgar ac mae nifer fawr o eitemau yn barod i’w dosbarthu i’r Ysbytai. Diolch yn fawr iawn i bawb. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: GRWP ARWAIN ADDOLIAD

7fed Mai 2012Daeth y grwp ynghyd i wneud trefniadau ar gyfer Oedfa Cymorth Cristnogol fydd yn cael ei chynnal nos Sul 13eg Mai 2012.  Y thema eleni yw Sierra Leone ac fe fydd ffilm o daith Llinos yn cael ei dangos yn ystod y gwasanaeth. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: YSGOL YR EIFL

3ydd Mai 2012Mae Duw wrth ei fodd yn gweld pobl yn derbyn a rhoi llawennydd oedd thema Gwasanaeth y Mis heddiw.  Llongyfarchwyd y plant a’r athrawon ar lwyddiant ysgubol sioe Canrif ar y Lon.  Cyflwynwyd llun wedi ei greu gan y plant yng Ngwy… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: HWYL A SBRI

2il Mai 2012Rydym wedi dechrau dysgu’r ddwy gan fydd angen ar gyfer Gwasanaeth Bore Sul Eisteddfod yr Urdd Eryri. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA

2il Mai 2012Daeth Margaret Ellis atom heddiw i ddweud stori Hiwi y hwyaden gyda’r esgidiau glaw coch!  Roedd y plant wedi mwynhau cael stori’n fawr iawn.  Gwariwyd gweddill yr amser yn lliwio llun o Hiwi! Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: OEDFA

22ain Ebrill 2012Cynhaliwyd Oedfa Hyder mewn Gweddi a roddwyd gyda’i gilydd gan y Grwp Arwain Addoliad. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: SGWRS A SGRAM

20 Ebrill 2012 – daeth nifer ynghyd i gael cinio yn y Festri heddiw i’n cyfarfodydd Sgwrs a Sgram.  Y siaradwr gwadd oedd Emrys Jones.  Cawsom ein tywys drwy strydoedd Caernarfon ar daith gerdded heb godi o’n seti! Cafwyd sgwrs a cwis diddoro… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: SGWRS A SGRAM

20fed Ebrill 2012Daeth nifer ynghyd eto heddiw i fwynhau cinio wedi ei baratoi gan Ysgol yr Eifl – cinio Sul blasus iawn.  I’n diddori ni a’r ol cinio cawsom gwmni Emrys Jones i’n tywys am dro ar hyd strydoedd Caernarfon, heb i ni godi o’n seddau!… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA!

18 Ebrill 2012 – diwrnod prysur iawn yn Dechrau Da! heddiw – bu pawb yn brysur yn gwneud cacennau!  Beth sydd yn digwydd i wyau Pasg sbar – well gwneud cacennau Rice Crispies siwr! Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: ARWAIN ADDOLIAD

16 Ebrill 2012 – daeth y grwp at ei gilydd heno i drafod oedfa ar gyfer nos Sul 22ain Ebrill.  Thema’r oedfa hon fydd ‘Hyder mewn Gweddi’. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB HWYL A SBRI

11eg Ebrill 2012 – daeth nifer fawr ynghyd i baratoi ar gyfer Carnifal yr Urdd dydd Sadwrn. Roeddem yn gwneud ‘sgwydwr ar gyfer gwneud swn wrth gerdded! Roedd hefyd gyfle i wneud gosodiad blodau sych, fydd yn cael ei feirniadu yn y Carnifal. Gwaith g… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB GWAU

2il Ebrill 2012 – cafwyd Clwb Gwau llawn eto heddiw gyda nifer o eitemau lliwgar yn barod i fynd i’r Ysbytai. Dosbarthwyd gwlan i bawb hefyd. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: GWYL PIN DWR PASG

31ain Mawrth 2012 – dym drydedd Gwyl Pin Dwr ac roedd thema’r Pasg yn un pwysig iawn heddiw gan ein bod ar drothwy’r Wyl. Cafwyd anerchiad amserol iawn i’r plant ac i’r oedolion gan Y Parch John Pritchard Llanberis. I ddilyn roedd gan Tess weithgared… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!

29ain Mawrth 2012 – edrych ar Y Groes roeddem heno, gan ddefnyddio lliwiau gwahanol i gynrychioli agweddau gwahanol o Gristnogaeth:Croes Bren – yn cynrychioli bywyd Iesu o’r Geni i’r AtgyfodiadCroes Goch – yn cynrychioli gwaed yr Iesu a chariad at gyd-… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: BORE COFFI

29ain Mawrth 2012 – cynhaliwyd Paned Pasg yn Yr Hen Ysgol gyda nifer wedi dod ynghyd a’r tywydd yn fendigedig o braf. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB HWYL A SBRI

28ain Mawrth 2012 – dyma ni wedi cwblhau ein Twr Babel! Cawsom gwis i’n hatgoffa o’r stori gawsom wythnos diwethaf gyda wyau Pasg yn wobrau. Aethom ati wedyn i addurno ein Twr Babel gyda’r bobl ar y gwaelod yn siarad gwahannol ieithoedd. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA!

28ain Mawrth 2012 – i ddod a’n thema Y Fferm i’w derfyn roedd cyfle i greu cyw bach heddiw. Dyma gywion Martha, Sion, Begw a Kimberley. Mwynhewch wyliau’r Pasg. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CAWL A CHAN GWYL DEWI

26ain Mawrth 2012 – cafwyd noson hyfryd yng nghwmni aelodau Eglwys Noddfa Caernarfon. Gwahoddwyd ni i ymuno gyda nhw mewn dathliadau Gwyl Dewi. Cawsom groeso cynnes iawn gyda chawl, paned a chacennau. Yn dilyn y swper roedd cwis hwyliog iawn a daeth… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB HWYL A SBRI

21 Mawrth 2012 – cawsom stori am bobl Babilon heddiw, pobl oedd yn meddwl eu bod nhw’n well na pawb arall. Mae hyn yn gwneud Duw yn drist. Roedd gan pob plentyn syniadau da sut fedrwn ni helpu a gwrando ar bobl eraill ac ar Dduw. Roedd pawb hefyd yn… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA!

21 Mawrth 2012 – mae’n amser plannu hadau ar y fferm a heddiw roedd pawb yn brysur yn garddio – plannu hadau pys a blodyn haul! Cofiwch roi diod o ddwr i’r hadau! Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!

15fed Mawrth 2012 – Noson Arwr! Roedd gan bawb eu syniad o beth yw arwyr a rhai arbennig iawn yn eu bywydau. Nai newydd tri mis oed, ‘mam’, Iesu Grist, Spider Man ayyb. Roedd pawb yn cytuno mai’r peth mwyaf arwrol y gallwn wneud yw ceisio achub bywy… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: SGWRS A SGRAM

15fed Mawrth 2012 = heddiw cawsom y cyntaf o chwech cyfarfod Sgwrs a Sgram. Roedd ein cinio yn cael ei baratoi gan Ysgol yr Eifl, cinio dydd Sul blasus iawn! Gwahoddwyd Y Parch Hari a Nan Parri atom am sgwrs wedi cinio. Mwynhawyd y wledd a’r sgwrs g… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB HWYL A SBRI

14eg Mawrth 2012 – parhau gyda’n stori – Dameg y Ffermwr. Dyma’n dehongliad ni o’r ddameg. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA!

14eg Mawrth 2012 – Sul y Mamau. Daeth nifer ynghyd heddiw a chael cyfle i wneud blodyn arbennig i mam. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: HWYL A SBRI

7fed Mawrth 2012 – Dameg y Ffermwr sydd dan sylw dros yr wythnosau nesaf. Bu i ni gael y stori a gwneud symudiadau iddi heno! Amser prysur iawn yw’r gwanwyn i dyfu hadau a dyma hadau pys, corriander, berwr a blodau haul Clwb Hwyl a Sbri! Brysiwch dyf… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA!

7fed Mawrth 2012 – Ar y Ffarm yw thema mis Mawrth a dyma i chi lun o fferm Dechrau Da! Bu i ni groesawu Martha i’n plith ni heddiw a chael cacennau! Rydym hefyd wedi cwblhau diwrnod 6 ar gyfer murlun y creu. Dyma ddwylo pawb o Dechrau Da! Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: BORE COFFI

7fed Mawrth 2012 – dathlu Gwyl Dewi. Er mai nifer siomedig iawn oedd yn y gynulleidfa heddiw, roedd y rhai oedd yno yn cael gwledd o ddathlu gan y plant. Cawsom eitemau cerddorol a hefyd llawer iawn o wybodaeth am Gymru drwy luniau a gwaith ymchwil g… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB GWAU

5ed Mawrth 2012 – daeth nifer eto ynghyd heddiw ac mae cyflenwad da o eitemau yn barod i fynd i Ysbytai Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd. Rhoddwyd rhodd o wlan i bob aelod yn dilyn llwyddiant cael grant yn ddiweddar. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: OEDFA MASNACH DEG

4ydd Mawrth 2012 – cawsom oedfa hwyliog ar gyfer Pythefnos Masnach Deg gyda nifer yn cymryd rhan. Lluniwyd yr oedfa gan y grwp Arwain Addoliad. Roedd cyfle i flasu siocled yn ystod yr oedfa ac i brynnu siocled yn dilyn yr oedfa! Gwnaed casgliad ar g… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CYFARFOD GWEDDI BYD-EANG Y CHWIORYDD

2il Mawrth 2012 – Merched o Malaysia luniodd y gwasanaeth eleni – Bydded i Gyfiawnder Lwyddo. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!

1af Mawrth 2012 – heno fe wnaethom edrych ar fywyd Iesu. Wedi dewis cyfnodau o’i fywyd aeth y criw ati i greu cameos lluniau ‘yn y ffram’. Cawsom Y Geni, Porthi’r 5000, iachau’r deillion, y Croeshoelio a’r bedd gwag. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA!

29ain Chwefror 2012 – heddiw bu i ni ddathlu Dydd Gwyl Dewi gan wahodd aelodau o bwyllgor gwaith Llinos i Dechrau Da! Cawsom wneud cennin pedr a chael cacen gri i de. Diolch i bawb am ddod i gefnogi. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!

23ain Chwefror 2012 – Noson Het! gemau a gwybodaeth. Roedd gan pob gorsaf het daflen i’w llenwi – Cryfderau; Gwendidau; Creadigrwydd; Meddwl am feddwl; Teimladau; Gwybodaeth. Gyda’r taflenni hyn fe fydd modd creu rhaglen i’r clwb o’r Pasg hyd yr haf. … Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB HWYL A SBRI

22ain Chwefror 2012 – parhau gyda’n stori Porthi’r 5000. Roedd ein dwylo toes wedi sychu felly roedd angen eu paentio! Bu Heledd ac Alaw yn dechrau ar y llun mawr ar gyfer y wal! Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!

9fed Chwefror 2012 – Noson Cenhedloedd! Y dasg heno oedd creu gwlad ddelfrydol i fyw. Creu siap, arfordir, tirwedd, traddodiadau, ffyrdd o fyw, dathliadau, pedair rheol ar gyfer y wlad a dwy reol ar gyfer mewnfudwyr. Roedd angen baner ar y wlad a hef… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB HWYL A SBRI

8fed Chwefror 2012 – Porthi’r 5000 yw stori’r wythnos a heno cawsom weld y stori mewn lluniau. Roedd pawb yn cytuno bod rhannu yn bwysig a dyma lun o llaw Cadi yn rhannu 5 torth a 2 bysgodyn. Erbyn y Clwb nesa fe fydd wedi sychu ac yn barod i’w baentio! Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA!

8fed Chwefror 2012 – mae’r plant yn brysur yn llenwi llun o stori’r Creu. Dim ond pobl sydd ar ol i’w lenwi ac ar ol hanner tymor fe fyddwn i gyd yn rhoi ein marc ar y stori. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB GWAU

6ed Chwefror 2012 – cawsom ymweliad heddiw gan Fred a Jo sydd yn gweithio i RSVP Cymru. Roedden nhw wrth eu bodd yn ein plith ac yn falch iawn o weld plant yr ysgol yn ymuno gyda ni i ddysgu gwau. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB CHWARE TEG!

2il Chwefror 2012 – Noson Bananas! Noson amrywiol a blasus! Edrych ar rinweddau cymeriad Duw a rhinweddau naturiol iachus bananas! Lluniwyd gweddiau ar ein coeden bananas ac i ddiweddu roedd pawb yn gwneud banana sblit i’w fwyta! Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB HWYL A SBRI

1af Chwefror 2012 – cychwynwyd ar Ddameg Porthi’r 5000 heno gan wneud model. Bydd rhaid cyflwyno’r stori yr wythnos nesa gobeithio – gan nad oedd ond 4 yn y Clwb heno – gobeithio bod pawb yn gwella’n dda wedi i frech yr ieir darro’r pentref! Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA!

1af Chwefror 2012 – Y Creu yw thema mis Chwefror, felly byddwn yn edrych ar y dydd, y nos, planhigion, anifeiliaid, adar, pysgod a phobl! Croesawyd Alfie ac Emily i’n plith. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: GWASANAETH Y MIS – YSGOL YR EIFL

26ain Chwefror 2012 – cynhaliwyd gwasanaeth i blant yr ysgol – Duw cariad yw. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: BORE COFFI

26ain Ionawr 2012 – cynhaliwyd Bore Coffi hwyliog iawn yn Yr Hen Ysgol. Bydd y Bore Coffi nesa yn cael ei gynnal yn Festri Maesyneuadd 23ain Chwefror er budd Apel Trefor Eisteddfod yr Urdd. Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA!

25ain Ionawr 2012 – tro malwen oedd cael ei cartref wedi addurno heddiw. Roedd y plant wrth eu bodd yn chwarae yn y babell newydd heddiw – roedd yn gartref picnic, cartref i’r holl ddoliau a’r holl anifeiliaid sydd yn byw yn Dechrau Da! Thema mis Chw… Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA!

18fed Ionawr 2012 – parhau mae’n thema ‘cartref’ a heddiw bu i ni addurno cartref y crwban. Parhau i ddarllen