-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archives: mair
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 20 Mai 2012
Mae’n anodd dychmygu’r byd heb ‘mobile phone’ bellach. Ffôn symudol, ffôn ar y lôn neu’r ffôn bach – tybed beth yw eich enw Cymraeg chi arno? Mae cael signal da yn hanfodol a weithiau fe fydd y signal yn diflannu a’r sgwrs yn mynd yn unochrog iawn! Er mwyn cael y signal yn ôl byddwn . . . → Read More: Dydd Sul, 20 Mai 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 13 Mai 2012
Bore da a chroeso i oedfaon y dydd ar ddechrau wythnos Cymorth Cristnogol. Diolch i bawb sy’n gweithio mor galed o flwyddyn i flwyddyn i hyrwyddo’r wythnos gan helpu i godi miloedd o bunnoedd tuag at leddfu poen ac anghyfiawnder.
Cawsom gychwyn da i’r gyfres ar Nehemeia hefyd nos Sul dan arweiniad Rhodri. Tybed beth . . . → Read More: Dydd Sul, 13 Mai 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 6 Mai 2012
Bore da i bob un ohonoch a chroeso i oedfaon y dydd! I’r rhai sydd yn methu dod i oedfa, croeso i chithau i ymuno hefo ni mewn gweddi ac wrth ddarllen o’r Beibl. Mae’r Eglwys yn un wrth orsedd Duw ac y mae’r Arglwydd yn gallu dod yn agos at bawb. Addolwn ein Duw . . . → Read More: Dydd Sul, 6 Mai 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 29 Ebrill 2012
Mari Jones a’i Beibl! Merch ifanc yn cynilo ei harian prin i brynu Beibl gan Thomas Charles yn y Bala ac yn cerdded 28 milltir o’i chartref yn Llanfihangel i’r Bala dim ond i gael ei siomi ar y cychwyn – doedd dim Beibl ar gael iddi. Thomas Charles wedyn, o sylweddoli maint ei haberth . . . → Read More: Dydd Sul, 29 Ebrill 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 22 Ebrill 2012
Tybed faint ohonoch sydd wedi cael eich siomi neu eich gwylltio gan beiriannau diffygiol? Dwi’n siŵr fod llawer un ohonom wedi profi’r rhwystredigaeth honno o fethu cyflawni tasg gan nad yw’r peiriant neu’r cyfarpar y byddwn yn dibynnu arno yn cyflawni’r gwaith yr oeddech yn gobeithio y byddai yn ei wneud! Yr wythnos hon, dyna’n . . . → Read More: Dydd Sul, 22 Ebrill 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 15 Ebrill 2012
Welsoch chi’r wennol eto? Tua’r adeg yma bob blwyddyn byddaf yn cychwyn edrych amdani a gwrando am ei thrydar arbennig. Rhaid cyfaddef i mi weld un y dydd o’r blaen uwchben Llannefydd ac roeddwn yn falch iawn o’i gweld. Fe ddaeth ag addewid dyddiau gwahanol hefo hi. Dim ond am ychydig eiliadau y gwelais hi . . . → Read More: Dydd Sul, 15 Ebrill 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 8 Ebrill 2012
Bore da a chroeso i bawb ohonoch i’r oedfaon ar y Sul arbennig hwn. Diwrnod ydyw i ddathlu atgyfodiad ein Harglwydd, diwrnod o ddiolch am ei aberth drud a diwrnod i fwynhau addoli ein Duw byw. Boed i ni brofi o’r llawenydd hwnnw o wybod bod ein Gwaredwr yn fyw ac yn ein caru, a . . . → Read More: Dydd Sul, 8 Ebrill 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 1 Ebrill 2012
Bore da a chroeso i oedfaon y dydd heddiw wrth i ni ddod unwaith eto i ddathlu Sul y Palmwydd ar ddechrau’r Wythnos Fawr. Cyfnod o baratoi yw dyddiau’r Grawys, a dyma ni yn cyrraedd pen y daith, a’r Pasg yn agos. Bu’r paratoadau ar gyfer y Pasg hwnnw yn Jerwsalem yn drylwyr iawn! Mae’n . . . → Read More: Dydd Sul, 1 Ebrill 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 25 Mawrth 2012
Llawenydd yw deall fod Sarah Morris a Zoe Jones (Coleg y Bala) wedi cyrraedd yn ôl yn ddiogel o Mizoram, India. Edrychwn ymlaen i gael yr hanes ganddynt cyn hir yn Oedfa’r Fro! Buont yn gweld Hmangaihna In, y cartref i blant amddifad y buom yn casglu arian tuag ato’r llynedd ac yn ôl adroddiad . . . → Read More: Dydd Sul, 25 Mawrth 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 18 Mawrth 2012
Bore da a chroeso i’r oedfaon! Tybed faint ’dan ni’n ei wybod am Griffith Jones, Llanddowror? I mi, mae Griffith Jones yr un mor bwysig â Williams Pantycelyn a Daniel Rowland a Howell Harris; cewri’r diwygiad yng Nghymru o 1735 ymlaen! Mae hyn yn dipyn o gyfaddefiad i mi, ond does ’na ddim llawer yn . . . → Read More: Dydd Sul, 18 Mawrth 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 11 Mawrth 2012
Syrthiodd Elin oddi ar ei chadair isel, newydd y dydd o’r blaen – dydi hi ddim wedi ffeindio’i thraed yn iawn eto – a dyma edrych rownd yn syth am mam a dad cyn dechrau crio! Cael ei chodi a’i chofleidio wedyn a’r dagrau’n arafu!
Pan ddaw newyddion annisgwyl, beth fydd ein hymateb cyntaf? Galw . . . → Read More: Dydd Sul, 11 Mawrth 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 4 Mawrth 2012
Bore da, a chroeso i bawb ohonoch i’r oedfaon heddiw. Tybed faint ohonoch fu’n gweiddi ac yn cnoi’r ewinedd bnawn Sadwrn diwethaf? Na, dim ond fi felly?! (Ymddiheuriadau i’m cymdogion rhag ofn eu bod wedi clywed gweiddi cynhyrfus o Heulfryn!) Dwi’n siŵr fod llawer un ohonom wedi bod ar bigau’r drain cyn cael mwynhau llwyddiant . . . → Read More: Dydd Sul, 4 Mawrth 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 26 Chwefror 2012
Mae Dydd Gŵyl Dewi ar y gorwel a’r genedl yn dathlu ei gyfraniad a’n hetifeddiaeth Gristnogol unwaith eto. Diolchwn i Dduw – Tad yr holl genhedloedd (Effesiaid 3:15) am hanes ein cenedl ac am waith ei ras yn ein plith dros yr holl ganrifoedd. Sut mae pethau erbyn hyn dybed? Sut ’dach chi’n ei gweld . . . → Read More: Dydd Sul, 26 Chwefror 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 19 Chwefror 2012
Bore da! Diolch am gael cyfle newydd i addoli’r Arglwydd hefo’n gilydd ac am y cyfle newydd a gawn heddiw i ddod o dan awdurdod ei air. Y mae Duw mor ddoeth! Fedrwn ni ddim adnabod Duw trwy ein doethineb ein hunain ond y mae Duw wedi trefnu mai trwy “ffolineb yr hyn yr ydym . . . → Read More: Dydd Sul, 19 Chwefror 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 12 Chwefror 2012
Bore da! Croeso i chi i oedfaon y dydd a gobeithio i chi gael wythnos fendithiol a phrofiad newydd o agosatrwydd Duw. ‘Ceisiwch yr Arglwydd tra gellir ei gael – galwch arno tra bydd yn agos.’ Dyma ydi anogaeth gair Duw trwy Eseia (55:6) ac fe ddywed Duw ei hun y bydd yn ateb pawb . . . → Read More: Dydd Sul, 12 Chwefror 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 5 Chwefror 2012
Bore da i bob un ohonoch a chroeso ac ymddiheuriadau! Cafodd nifer ohonoch fendith o’r gwasanaeth ar y radio a diolch eto i bawb ddaru gyfrannu ymhob ffordd ond mae rhai wedi eu siomi nad oeddent wedi cael cymryd rhan. Mae’n ddrwg gen i am hynny – gobeithio y daw cyfle arall cyn hir i . . . → Read More: Dydd Sul, 5 Chwefror 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 29 Ionawr 2012
Heno ’ma yn Oedfa’r Fro rydym yn croesawu Clyde a Jan Briggs atom i rannu eu profiad o weithio hefo’r elusen Gristnogol “Open Doors”. Gobeithio y medrwch ddod atom i glywed sut y mae’r elusen yma yn helpu Eglwysi a Christnogion sy’n tystio mewn amgylchiadau o wrthwynebiad ac erledigaeth. ’Dydi pob Cristion ddim yn mwynhau . . . → Read More: Dydd Sul, 29 Ionawr 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 22 Ionawr 2012
Bore da iawn i chi! Fe sylwch o’r cyhoeddiadau ein bod yn bwriadu cynnal cyfres fechan i bawb sydd â diddordeb – ond i flaenoriaid y Fro yn arbennig – o dan y teitl ‘Cyflymu at y Nod’. Ein bwriad yw cyflwyno trosolwg ar ein nod fel gofalaeth, yr hyn yr ystyriwn fel gweithgarwch angenrheidiol . . . → Read More: Dydd Sul, 22 Ionawr 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 15 Ionawr 2012
Bore da a chroeso cynnes i chwi i oedfaon y dydd. Diolchwn am gael gweld diwrnod newydd o ras, a chael cyfle i gyd-geisio’r Arglwydd a’i fendithion tragwyddol.
Mae’r dydd yn ymestyn! Mae’n eithriadol o fwyn ac mae rhai wedi gweld cennin Pedr yn barod! Mae’r eirlysiau i’w gweld yn lled gyffredin a phob . . . → Read More: Dydd Sul, 15 Ionawr 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 8 Ionawr 2012
Bore da a chroeso i bawb ohonoch i’r gwasanaethau heddiw. Dyma fy nghyfle cyntaf i ddymuno blwyddyn newydd llawn bendith i bawb ohonoch nad ydwyf wedi eu gweld yn barod! Ar gychwyn blwyddyn newydd, beth am i ni ymroi o’r newydd i weddïo y bydd Duw yn ei drugaredd yn gweithio’n rymus ynom trwy ei . . . → Read More: Dydd Sul, 8 Ionawr 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 1 Ionawr 2012
Roedd hi’n hyfryd iawn gweld Capel Henllan yn gyfforddus lawn bore dydd Nadolig i ddathlu genedigaeth ein Ceidwad. Cofiwn am yr holl enwau a roed iddo trwy gyfnod y Proffwydi ac fel y daethant yn rhan o’r un enw ‘Iesu’ ar ei enedigaeth. Dyma’r ‘enw sydd goruwch pob enw’! Yn yr enw yma mae holl gyfrinach . . . → Read More: Dydd Sul, 1 Ionawr 2012 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 18 Rhagfyr 2011
Bore da i chi! Gan na fydd Llais Bro Aled yr wythnos nesa ga’i gymryd y cyfle i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch ac i’ch hanwyliaid ymhobman! Ar ran Mair a Rhodri hefyd, diolch o galon i chi am eich cefnogaeth ar hyd y flwyddyn ac am y fraint . . . → Read More: Dydd Sul, 18 Rhagfyr 2011 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 11 Rhagfyr 2011
Bore da a chroeso i bawb ohonoch i oedfaon y dydd. Wrth i ni nesáu at Ŵyl y Geni, gweddïwn y bydd pawb ohonom yn cael blas o’r newydd ar addoli’r Un a ddaeth yn dlawd drosom ni, er mwyn i ni ddod yn gyfoethog trwy ei dlodi Ef.
Dros yr wythnosau diwethaf mae’r criw . . . → Read More: Dydd Sul, 11 Rhagfyr 2011 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 4 Rhagfyr 2011
“Gair disglair Duw – dyro d’olau i Gymru heddiw” – dyma fydd ein gweddi wrth i ni ddathlu Sul y Beibl hefo’n gilydd a gobeithio y cawn fendith yng nghwmni ein gilydd heddiw ac o gylch goleuni’r Gair.
Gair i’ch atgoffa o’n bwriad yn yr oedfa heno sef gwrando ar ddarlleniadau o Efengyl Marc (Beibl.net/Cymdeithas . . . → Read More: Dydd Sul, 4 Rhagfyr 2011 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 27 Tachwedd 2011
Bore da a chroeso i oedfaon y dydd! Gweddïwn am fendith arbennig heddiw wrth i ni groesawu y rhai sydd am rannu Gair Duw hefo ni a’r fendith o gael calonnau agored i glywed y gair.
Rhannodd Eryl a Celfyn eu hargraffiadau o gyfres y ‘saith arwydd’ nos Sul diwethaf, a chawsom gyfle i edrych . . . → Read More: Dydd Sul, 27 Tachwedd 2011 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 20 Tachwedd 2011
Cefais gêm o ddarts neithiwr am y tro cynta ers blynyddoedd! Roedd hi’n noson gymdeithasol y grwpiau Adnabod yn Heulfryn a llond y lle o bwdinau, paneidiau a sgyrsiau. Yn yr ystafell gefn, roedd y bwrdd darts wedi ei osod yn ei briod le uwchben yr hen le tân ac roedd hi’n syndod pwy oedd . . . → Read More: Dydd Sul, 20 Tachwedd 2011 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 13 Tachwedd 2011
Bore da a chroeso i oedfaon y dydd. Rydan ni’n gorffen y gyfres y saith arwydd yn Efengyl Ioan heno. Dewch draw os medrwch chi eto. Roedd hi’n braf gweld cynulleidfa dda yno nos Sul diwethaf, a diolch i John a Gwen am eu cyfraniad.
Mae’r seithfed arwydd yn mynd â ni at fedd Lasarus . . . → Read More: Dydd Sul, 13 Tachwedd 2011 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 6 Tachwedd 2011
Glywsoch chi erioed am Naya Kanga? Naddo? Na finnau chwaith tan yn lled ddiweddar. Rhys Dafis ddaru sôn mewn sgwrs ryw noson ei fod yn bwriadu dringo’r mynydd hwn ym mis Tachwedd eleni. Sôn roedd o fel petai o am bicied draw i Ddinbych! Ond mae’r mynydd hwn yng nghanol yr Himalaya yng nghysgod mynydd . . . → Read More: Dydd Sul, 6 Tachwedd 2011 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 30 Hydref 2011
Tua’r adeg yma o’r flwyddyn rydym yn dathlu gwaith Cymdeithas y Beibl ac yn meddwl am y fraint sydd gennym o gael y Beibl cyfan yn yr iaith Gymraeg. Cafodd Mair a Rhodri a finnau gwmni Watcyn a Lowri James y dydd o’r blaen yn y Bala a buom draw i eglwys hanesyddol Llanycil sydd . . . → Read More: Dydd Sul, 30 Hydref 2011 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 23 Hydref 2011
Wel! Dyna beth oedd siom! O’r uchelderau i lawr i’r dyfnderoedd. Colli Adam Jones a Sam Warbuton a cholli’r gêm. Bu dadansoddi manwl ar bob agwedd – yn cynnwys tras Ffrengig y dyfarnwr! Roedd hyd yn oed Pasqalline yn teimlo’r anghyfiawnder. Cymru, oedd wedi cyfrannu cymaint i’r gystadleuaeth yn methu a rhyw siambls o dîm . . . → Read More: Dydd Sul, 23 Hydref 2011 Parhau i ddarllen
Eglwysi Bro Aled: Dydd Sul, 16 Hydref 2011
Bore da a chroeso mawr i oedfaon y dydd newydd hwn o ras ein Duw! Wrth imi ysgrifennu dwi ddim yn gwybod beth fydd sgor Y GÊM FAWR! gan mai dydd Iau ydi hi arna i ar hyn o bryd! Ond rwy’n edrych ’mlaen. Fydd y canlyniad ddim o dragwyddol bwys a theimlad gorfoleddus fydd . . . → Read More: Dydd Sul, 16 Hydref 2011 Parhau i ddarllen


