Archives: MargaretR

Cymraes Greadigol: Aduniad 2011

Gobeithio fod yr addurniadau wrth eich pennau i gyd yn wag! Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Aduniad 2011

Dyma flwyddyn arall wedi mynd heibio a finna’ heb roi lluniau 2010 i fyny eto. Cawsom bnawn ardderchog yn Pen y Bryn yn sgwrsio, dal i fyny hefo hen ffrindiau, chwerthin a throi’n gennod ysgol am y pnawn. Piti fod rhai yn methu bod hefo ni heddiw … Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Aduniad 2010

Wel dyma ni, aduniad arall a chael teimlo’n dair ar ddeg oed eto am ychydig o oriau. Mae’r cwmni’n mynd yn fwy pob blwyddyn. Gobeithio y bydd criw arall yn ymuno a ni’r flwyddyn nesaf. Helen (Plemming), Alwena (Abergele) Glenys (P) a Marian … Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Aduniad 2009

Dyma aduniad criw o ferched oedd yn Ysgol dyffryn Nantlle yn pum degau o’r ganrif ddiwethaf. Anhygoel! Lluniau go wael eleni, hwyrach am fod y ffenest y tu ol i ni? Cawsom bnawn bendigedig o sgwrsio a chwerthin. ‘Roedd fel petae’r blynyddoedd rhwng dy… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Diwrnod da

Dyma’r Faenol Fawr, lle da i gael aduniad o griw bach o hen gyfeillion ysgol. Daeth pump ohonom at ein gilydd am sgwrs a phryd o fwyd. Diolch i Enid am ei drefnu a chysylltu a ni i gyd. Camp go anodd trefnu diwrnod oedd yn hwylus i bawb.Dyma ni newydd … Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Ail ddiddordeb

Mae’n ddrwg gennyf fod heb bostio dim ar y flog yma ers tro byd, ond ‘roeddwn yn meddwl nad oedd werth y draferth gan nad oedd yn troi allan fel yr oeddwn wedi dychmygu.Fy mwriad oedd dod a merched Cymraeg canol oed oedd yn hoffi gwneud gwaith llaw at … Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Ffrindiau newydd

‘Dwi newydd ddeall fod gen i ffrindiau newydd sydd yn darllen y blog yma. Croeso i blant ysgol Chwilog. ‘Roeddwn i wedi peidio defnyddio’r flog yma gan nad oedd fawr neb yn edrych arni, ond byddaf yn postio yn amlach o hyn ymlaen.Hwyrach fod defnydd i’… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Christmas tree yn y festri

Pam fod plant bach mewn pentref mor Gymreigaidd a Nantlle yn cael Christmas Tree yn y festri meddech chi a dim Coeden Nadolig yn y festri? Fedra i ddim meddwl am lawer o eiriau Saesneg yn cael eu defnyddio pan oeddwn yn tyfu i fyny ym mhentref bach Nan… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Nadolig Llawen

Cerdyn wedi ei wneud hefo PaintShopPro9 ydy hwn a dyma fy nymuniad i, a’r mwayfrif ohonom y Nadolig hwn ac am y flwyddyn newydd – 2007. Heddwch. Mae’r byd i gyd wedi mynd yn hollol wallgof ac ‘rydym i gyd yn cael ein harwain i’r lladdfa gan ychydig o d… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Dim diddordeb

Fy mwriad yn dechrau’r blog yma yn Gymraeg oedd cael rhywfaint o gysylltiad a merched canol oed neu hyn yn Nghymru a diddordeb yn yr un math o bethau yr ydw i’n hun yn diffori ynddynt. Dwi’n hoffi tynnu lluniau hefo camera, arlunio a phaentio, gwneud l… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Hen arferion

Cafodd y gwr a finna’ sgwrs am hen arferion ar y ffordd i Gaer y bore yma.Byddai fy nhad yn arfer ysgwyd llaw pan fyddai’n cyfarfod ag un o’i ffrindiau ar y ffordd. Os byddai yn cafarfod a hen ffrind a honno’n ferch byddai’n aml yn rhoi clamp o gusan a… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Hen adgofion

Cefais ddiwrnod da iawn ddoe pan ddaeth Gwyneth fy nghyfyrderes yma am y diwrnod. Mae ein diddordebau yn debyg iawn ac wrth gwrs mae wedi gorffen arnom pan ydym yn dechrau son am yr hen amser pan yn blant yn Nantlle ers talwm. Buom yn edrych ar hon Eri… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: De Ffrainc

‘Rwyf newydd ddod yn ol ar ol wythnos o wyliau yn Ne Ffrainc. gwnewch yn fawr o’r llun yma ohonof gan nad oes llawer ohonynt ar gael, gwell gen i tu ol i’r camera nag o’i flaen.Tynnwyd hwn yn Villefranche-sur-Mer.Lle diddorol iawn, er mai yn Cannes y b… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Coch y Bonddu eto

Heddiw cefais y llun yma gan Humphrey, gwr fy ffrind Louie. Mae Humphrey yn hoffi pysgota ac mae hefyd yn cawio(gwneud ei blu ei hun).”I wneud y bluen pysgota Gymreig “Coch y Bonddu”- pluen fyd enwog – defnyddir pluen o fantell iâr neu geiliog sy Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Cymraes Greadigol 2006-09-17 21:48:00

Tybed oes un ohonoch wedi sylwi ar y ty hynod yma ar yr ochr arall i Bont y Pair? Welais i erioed simnai fel hon. Mae’r ddau yma yn chwarae jas yn amal iawn yn Llandudno ond dyma’r tro cyntaf i mi eu gweld yma ym Metws y Coed. ‘Roeddynt yn sefyll ar la… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Cymraes Greadigol 2006-09-17 21:05:00

Aethom i Betws y Coed pnawn Sadwrn ac ‘roedd yn hynod o braf yno. ‘Roeddwn wedi gobeithio cael llun o’r Cry Glas anferth welais yno yr wythnos cynt. Cefais gip bach arno a’i ben yn ei blu yn edrych yn drist iawn. Tynnais ei lun ond ‘roedd yn rhy bell a… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Castell Conwy yn y nos

(Cliciwch i weld y lluniau yn fawr)Dyma lun Conwy a dynais drwy’r ffenestr agored heno. ‘Rwyf newydd lwyddo i dynnu lluniau yn y nos gan ddefnyddio ‘tripod’.Dyma lun arall ychydig yn nes. Pan fyddaf yn edrych arno wedi ei oleuo fel hyn, gallaf ddychmyg… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Esgid Mam

‘Rwyf yn perthyn i grwp o’r enw ‘Designbytes’ yn Awstralia. Grwp yn gwneud gwaith ‘mixed-media’ gan ddefnyddio cyfrifiadur i ddylunio’r gwaith ydy hwn. Penderfynwyd cyfnewid tudalennau wedi eu gorffen a’n gilydd. Un ar bymtheg oedd yn perthyn i’r grwp … Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Diwrnod Mawr gyda’r BBC

(Cliciwch i weld llun cliriach)Cefais gyntaf ar draethawd pan oedd Llwyd o’r Bryn yn beirniadu yn Eisteddfod Nantlle tua 1949. ‘Dwi’n meddwl mai’r testyn oedd ‘Diwrnod Bythgofiadwy’. Yn digwydd bod, ychydig cyn hyn roeddwn wedi cael canu hefo ‘Parti ba… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Coch y Bonddu

Wrth edrych i fyny y gair ‘Conchy Bondhu’ y soniais amdano ychydig ddyddiau’n ol yn Google, fe ddois ar draws hwn Welsh week, mate! – Wales has a lot of good fishing to offer – Global FlyFisherTybed wyt ti wedi gweld hwn Humphrey? A dyma un arall o ddi… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Pysgota

Tri peth oedd yn bwysig i nhad, cerddoriaeth, pysgota a’i deulu.’Roedd ganddo gwch ar lan llyn Nantlle ar hyd y blynyddoedd, ond yn anffodus ‘does gen i ddim llun ohono yn ei gwch. Mae gen i lun o nhaid yn y cwch hefo’i gi du ‘Don’, mae’r llun yma a ll… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Llyn Nantlle

Dyma lun diweddar o lyn Nantlle, dynnwyd gan ‘Eifion’. Dyma’i Flikr Llyn Nantlle UchafA dyma lun gan Richard Wilson sydd yn hongian yn y Walker Art Gallery yn Lerpwl. Roedd yr hen Wilson yn reit agos i’w le pan dynnodd hwn yn toedd?Mae’n debyg eich bod… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Cychod Conwy

Mae cychod arbennig iawn ar yr afon Conwy, yn enwedig yr adeg yma o’r flwyddyn. Hen gychod pysgota ydynt a elwir yn ‘Nobbies’. ‘Does dim ond rhyw ddeugain ar ol erbyn heddiw yn ol pob tebyg.Cychod hwylio ydynt ac maent yn hawdd i’w ‘nabod gan fod pen o… Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Y Goeden Afal

Cliciwch ar y llun i’w weld yn fwy.’Rwyf yn aelod o grwp tecstiliau o’r enw Serendipity ac ‘rwyf wedi agor blog Saesneg o’r enw SerenTex i ddangos ein gwaith a rhoi tipyn o’n hanes. Mae pump ohonom yn Gymru Cymraeg allan o 14eg a’r peth braf yn y grwp … Parhau i ddarllen

Cymraes Greadigol: Aduniad

Bydd y diwrnod yma yn aros yn fy nghof yn hir iawn. Trefnodd fy ffrind Enid, sydd yn byw yn Sir Fon gyfarfod rhwng pump ohonom yn Llandrillo yn Rhos. ‘Roedd dwy ohonom yn byw yn eithaf agos at ein gilydd yn Deganwy, dwy Fargaret yn digwydd bod, ond un … Parhau i ddarllen