Archives: neil wyn

Clecs Cilgwri: Noson efo’r Gymdeithas..

Nos Lun diwetha mi es i i gyfarfod Cymdeithas Cymry Penbedw efo criw o ddysgwyr Cilgwri igyflwyno’r sgets a wnaethon ni yn Eisteddfod y Dysgwyr yn ôl ym mis Mawrth,yn ogystal a cherdd ysgafn Geraint Lôvgreen, ‘Bocsys Byrgars McDonalds’!Roedd ‘na griw g… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Noson efo’r Gymdeithas..

Nos Lun diwetha mi es i i gyfarfod Cymdeithas Cymry Penbedw efo criw o ddysgwyr Cilgwri i
gyflwyno’r sgets a wnaethon ni yn Eisteddfod y Dysgwyr yn ôl ym mis Mawrth,
yn ogystal a cherdd ysgafn Geraint Lôvgreen, ‘Bocsys Byrgars McDonalds’!
Roedd ‘na griw go lew yno ar y noson, gan gynnwys nifer o ddysgwyr o ddosbarth West Kirby, sy’n cyfarfod pob wythnos o dan arweiniad Tom Thomas  llwydd y Gymdeithas eleni.  Wnaethon nhw gyflwyno darn difyr iawn yn edrych ar y wahaniaeth rhwng tafodiaethau Cymru, a’r ‘her’ sy’n gwynebu dysgwyr o’u herwydd.

Roedd croeso’r gymdeithas yn wresog, a’r perfformiadau yn dda iawn, yn enwedig o ystyried bod tua chwech mis wedi mynd heibio ers i ni eu cyflwyno’r tro diwetha. Ar ôl y cyflwyniadau wnaeth pawb mwynhau sgwrs, paned a raffl cyn dweud nos da.   Noson gwerth chweil, a diolch i bawb a gymerodd rhan.

Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Noson efo’r Gymdeithas..

Nos Lun diwetha mi es i i gyfarfod Cymdeithas Cymry Penbedw efo criw o ddysgwyr Cilgwri igyflwyno’r sgets a wnaethon ni yn Eisteddfod y Dysgwyr yn ôl ym mis Mawrth,yn ogystal a cherdd ysgafn Geraint Lôvgreen, ‘Bocsys Byrgars McDonalds’!Roedd ‘na griw g… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Noson efo’r Gymdeithas..

Nos Lun diwetha mi es i i gyfarfod Cymdeithas Cymry Penbedw efo criw o ddysgwyr Cilgwri igyflwyno’r sgets a wnaethon ni yn Eisteddfod y Dysgwyr yn ôl ym mis Mawrth,yn ogystal a cherdd ysgafn Geraint Lôvgreen, ‘Bocsys Byrgars McDonalds’!Roedd ‘na griw g… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: App Geiriaduron

Mae app sy newydd  cael ei lansio’r wythnos ‘ma gan Brifysgol Bangor yn
edrych yn hynod o ddefnyddiol.  Mae app Geiriaduron yn cyrchu (access) nifer o
ffynhonellau er mwyn ymateb ymholiadau defnyddiwr gan gynnwys y
‘Y Termiadur’, ac yn wahanol i’r ‘Bruce’ (geiriadur yr Academi) yn cynnig
cyfieithiadau o’r Gymraeg i Saesneg yn ogystal ag o’r Saesneg i’r Gymraeg.
Dydy’r app ddim yn cynnig y nifer fawr o enghreifftiau o sut mae geiriau yn
cael eu defnyddio, fel y ‘Bruce’, ac mae’n rhaid wrth gwrs cael cysylltaid â’r
we i’w ddefnyddio.

Er hynny dw i’n sicr mi fydd pawb sydd efo diddordeb yn yr iaith a dyfeis sy’n gallu
ei gyrchu yn rhoi ‘bodiau fyny’ i app ‘Geiriaduron’! Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: App i-social

Dyma’r tro cyntaf i mi drio app newydd sy’n eich galluogi cadw llygad ar sawlrhwydwaith cymdeithasol yn yr un lle.  Er mwyn defnyddio Bloggerar yr i-pad wnes i’w lawrlwytho, rhywbeth sy ddim mor hwylus ar yr app Bloggersydd ar gael.  Y dyddia… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: App i-social

Dyma’r tro cyntaf i mi drio app newydd sy’n eich galluogi cadw llygad ar sawl
rhwydwaith cymdeithasol yn yr un lle.  Er mwyn defnyddio Blogger
ar yr i-pad wnes i’w lawrlwytho, rhywbeth sy ddim mor hwylus ar yr app Blogger
sydd ar gael.  Y dyddiau ‘ma mae fy nghysylltiadau i’r we yn digwydd gan
amlaf ar yr i-pad, pan dwi’n cael gafael ynddo fo hynny yw!
Yn ôl broliad yr app, a thystiolaeth nifer o adolygiadau ffafriol,  y
peth gorau ers bara wedi ei sleisio ydy ‘i-social’ ond gawn ni weld!  Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: App i-social

Dyma’r tro cyntaf i mi drio app newydd sy’n eich galluogi cadw llygad ar sawlrhwydwaith cymdeithasol yn yr un lle.  Er mwyn defnyddio Bloggerar yr i-pad wnes i’w lawrlwytho, rhywbeth sy ddim mor hwylus ar yr app Bloggersydd ar gael.  Y dyddia… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Post prin….

Ges i sylw annisgwyl yn ddiweddar (a diolch i Ann am ei sgwennu), yn holi os ro’n i wedi rhoi’r gorau i ddeweddaru’r blog ‘ma. I fod yn onest ro’n i wedi cyrraedd pwynt lle nad oedd sgwennu’r blog hyd yn oed yn nghefn fy meddwl, sy’n golygu mae’n debyg, heb y sylw posatif yna na faswn i wedi ei wneud o gwbl. Wedi dweud hynny, ac wrth sgwennu hyn, dw i’n gweld y lles o’i wneud. Mae sgwennu pethau mwy ‘swmpus’ (yn hytrach na ‘mond ambell i drydar) yn ymarfer da i’ch Cymraeg, a rhywbeth dw i heb wneud ers peth amser. Mae’n wneud i chi meddwl am ffurfiau brawddegau ac yn tynnu geirfa ac idiomau o berfeddion y meddwl.

Ta waeth, mae’r misoedd diwetha wedi bod yn hectic ac wedi galw arna i ddefnyddio fy Nghymraeg mewn sawl ffordd heriol, a chyffrous, felly dyma grynodeb sydyn o’r profiadau ‘na.

Ysgrifennais yn ôl ym mis Mawrth am y cwrs hyfforddi i ddarpar tiwtoriaid ym Mhangor. Ers hynny dwi wedi bod ar ddau penwythnos hyfforddi eraill, gan gynnwys un lawr yn Neuadd Gregynog, Sir Trefaldwyn penwythnos diwetha. Mae’r penwythnosau wedi bod yn ddiddorol iawn, a lot o hwyl a dweud y gwir, ac dw i wedi cael cyfle cwrdd a llawer iawn o bobl clen, a gobeithio dysgu llawer am sut i ddysgu gwersi da ac effeithiol (mae’r her yn dechrau’r wythnos yma, wrth i mi geisio cofio’r hyfforddiant wrth cyflwyno gwersi cyntaf y tymor newydd). ‘Uchafbwynt’ penwythnos Gregynog oedd y sesiynau ‘meicroddysgu’ roedd rhaid i ni gyd cyflwyno i wedill y darpar tiwtoriaid. Roedd pawb wedi cael siawns paratoi gwers 20′, ac yn barod erbyn y dydd sadwrn i’w cyflwyno. Roedd hynny wir yn ddigon i godi ofn ar bawb, hyd yn oed rhai o’r athrawon ysgol yn ein plith. Mi es i’n gyntaf, oedd yn beth da mewn ffordd, ac er sawl camgymeriad amlwg mi allai pethau wedi mynd yn llawer gwaeth am wn i. Roedd gen i gyfle wedyn i ymlacio ac yn mwynhau sesiynau pawb eraill! Gaethon ni i gyd adborth y ‘dosbarth’, ac wedyn adborth unigol (mewn preifat) ac adeiladol gan Elin oedd yn cynnal y sesiwn, profiad gwerthchweil.
Roedd y bwyd yn flasus, y lleoliad yn hyfryd, ac wrth gwrs y cwmni yn dda. Penwythnos i gofio!

Profiad arall yr un mor gofiadwy oedd ymweliad hirddisgwyliedig i Nant Gwrtheyrn. Roedd gen i uchelgais ers flynyddoedd maith (ella ers i mi glywed am fodolaeth y Canolfan Iaith ym Mhen LLŷn tua 30 mlynedd yn ôl) i fynd i ddysgu Cymraeg yno. Ro’n i wedi archebu lle ar gwrs hyfedredd (gloywi iaith) yn ôl ym mis chwefror – fel anrheg penblwydd hael iawn gan fy chwaer. Yn anffodus nad oedd digon wedi cofrestru ar y cwrs ‘na, ac roedd rhaid i mi aros tan diwedd mis Awst i gael cyfle i fynychu cwrs arall. O ran y cwrs ei hun gaethon ni lot fawr o idiomau ac eglurhad treigladau o dan arweiniad cadarn Eleri. Mae hi’n diwtores brofiadol iawn gyda’r gallu egluro pethau’n glir ac yn drefnus, ac er nad o’n i ddisgwyl cymaint o ganolbwyntio ar ramadeg, roedd y profiad yn un werthfawr iawn, ac unwaith eto ymhlith criw hyfryd. Gobeithio bod fy Nghymraeg yn adlewyrchu mymryn o’r hyn wnaethon ni ddysgu yno, yn sicr wna i byth ‘golchi fyny’ eto, ‘golchi’r llestri’ fydda i’n wneud!!

Sgwenna i ragor am yr ymweliad i’r Nant maes o law. Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Methiant blogio… ond mwy o drydar!

Mae fy nhgyfraniad at fy mlogiau wedi bod yn brin iawn dros yr wythnosau diwetha. Mae’n debyg bod y byd trydar wedi cymryd mwy o fy sylw i fod yn onest, er esgus gwan ydy hynny, gan nad oes rhaid meddwl gormod am wneud ambell i dwît, ac mae’r rhan mwyaf yn diflannu heb derbyn unrhyw sylw mae’n siwr. Er hynny mae’n rhaid dweud bod y cyfrwng yna’n cynnig cyfleuoedd cyson i ddefnyddio’r Gymraeg, ac i weld yr iaith ar waith fel petai. Dwi wedi cael fy siomi ar yr ochr orau wrth weld cymaint o bobl yn cofleidio’r technoleg newydd trwy ddefnyddio’r ‘hen’ iaith, cyffrous iawn. Gewch chi ddilyn fy ffrwd trydar yn ngornel y tudalen ‘ma gobeithio.. Parhau i ddarllen

: Methiant blogio… ond mwy o drydar!

Mae fy nhgyfraniad at fy mlogiau wedi bod yn brin iawn dros yr wythnosau diwetha. Mae’n debyg bod y byd trydar wedi cymryd mwy o fy sylw i fod yn onest, er esgus gwan ydy hynny, gan nad oes rhaid meddwl gormod am wneud ambell i dwît, ac mae’r rhan mwya… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: cwrs hyfforddi…

Er fy mod i wedi bod yn tiwtora ers ychydig o flynyddoedd bellach, a wedi mwynhau’n fawr iawn, dwi wastad wedi teimlo braidd yn chwithig am y ffaith nad oes gen i unrhywfath o gymhwyster dysgu. Braf felly oedd cael y cyfle i ddechrau ar gwrs hyfforddiant i diwtoriaid Cymraeg a drefnwyd gan Ganolfan y Gogledd ‘Cymraeg i Oedolion’, dydd Sadwrn diwitha. Dyma’r cam cyntaf ar drywydd sy’n arwain at gymhwyster dysgu Cymraeg i oedolion, rhywbeth fydd yn fy ngalluogi gweithio fel tiwtor dros y ffin yn Sir y Fflint a thu hwnt.

Lleoliad y diwrnod oedd Canolfan Gymraeg i Oedolion ym Mhangor, lle gaethon ni groeso gynnes a phaned cyn dechrau ar y gwaith caled. Roedd hi’n braf gweld cwpl o wynebau cyfarwydd o’r Wyddgrug ymhlith yr hugain o bobl ar y cwrs, ond fel arfer ffeindiais bawb yn gyfeillgar iawn ac roedd rhaid i ni gyflwyno ein hunain i bawb yn ystod y gweithgaredd cyntaf sef gwers Sbaeneg dwys awr o hyd. Dyna mewn gwirionedd oedd her mwya’ y ddiwrnod (er mi fydd ‘na heriau llawer mwyaf i ddod mae’n siwr), ond i eistedd yna fel dysgwr mewn dosbarth iaith unwaith eto yn profiad gwerthchweil ar ôl ychydig o flynyddoedd o diwtora. Gafodd wedill y ddiwrnod ei lenwi efo dysgu am y maes Cymraeg i Oedolion, yn bennaf, a lot o wybodaeth am y cyrsiau gwahanol sy’n cael eu cynnig dros y Gogledd, a chip ar wers gan Elwyn Hughes, awdur y cwrs Wlpan a phrif cyd-lynydd cyrsiau yn y Golgledd.

Yn ogystal â hyn dwi wedi cael y cyfle i arsylwi Eirain yn dysgu cwrs Wlpan yn yr Wyddgrug cwpl o weithiau dros yr wythnosau diwetha, sydd wedi bod yn brofiad gwych, er wn i mae gen i lot fawr i ddysgu!

Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Eisteddfod y Dysgwyr 2012

Mae’n *peth amser* ers i mi bostio rhywbeth ar y ‘clecs’, felly dyma adroddiad byr am Eisteddfod Y Dysgwyr y gogledd-ddwyrain eleni.
Tro Sir Ddinbych i groesawu dysgwyr y gogledd-ddwyrain oedd hi eleni, ac yn ngwesty yr Oriel House ger Llanelwy gafodd y digwyddiad ei gynnal.  
Roedd yr ‘ystafell digwyddiadau’ *dan ei sang*erbyn 7 o’r gloch, ond diolch i Mike, Anne, Nigel a Geraint roedd gynnon ni seddi. Gafodd Sue, fel finnau, ychydig o drafferth ar yr A550, ond ro’n i’n falch o weld pawb yna mewn da bryd. Yr unig problem efo’r ystafell oedd y PA, a gaethon ni drafferth clywed rhai o’r cystadleuwyr yn anffodus, ond erbyn ein tro ni i berfformio’r sgets roedden ni’n gwybod fasai’n rhaid i ni siarad yn uchel iawn. Roedd ‘na nifer o sgetsys eleni (pedwar dwi’n credu) felly roedden ni’n teimlo o dan mwy o bwysau (efallai) nag yr oedden ni y llynedd. Mi aeth y perfformiad yn dda iawn, ac roedd ymateb y cynulleidfa’n wresog. Ar ol i ni ddychweled i’n seddi ni, gaethon ni siawns i fwynhau’r sgets olaf, perfformiad arbennig o dda am sesiwn blasu gwin gyda’r actorion yn ‘meddwi’ wrth i’r sgets mynd yn ei flaen. Ro’n i’n disgwyl i’r sgets yna ennill felly ges i fy synnu wrth glywed y canlyniadau nes ymlaen, da iawn i bawb! Nes ymlaen wnaethon ni’r parti adrodd, ac unwaith eto gaethon ni ymateb da wrth adrodd ‘Bocsys Byrgyrs McDonalds’ gan Geraint Løvgreen. Roedd rhaid i mi adael cyn clywed canlynaid y cystadleuaeth yna, ond, unwaith eto roedd yr noson yn llwyddianus iawn, lot o hwyl, a sbardun i lawer o weithgareddau Cymraeg.

(Roedd criw teledu o raglen ‘Hwb’ yn ffilmio ar y noson, felly gawn ni weld bach o’r cyffro ar raglen 6 o’r cyfres yna ym mhen ychydig o wythnosau.)

*peth amser – some time
*dan ei sang = llawn

Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: app Blogger

Ww! dw i newydd dod o hyd i App Blogger! Dydy o ddim yn wych a dweud y gwir, a dim ond fersiwn i-
ffôn sydd gen i (sy’n edrych yn sal ar ipad) ond nad oes modd defnyddio Blogger ar borwr Safari felly mae’n well na dim byd:)

(postwyd efo app blogger) Parhau i ddarllen

: Cadw at yr adduned… o drwch blewyn

Mi wnes i adduned yn ol ym mis Ionawr i ymdrechu darllen o leiaf un llyfr Cymraeg pob mis yn ystod 2012.Wel diolch i’r flwyddyn naid dwi wedi llwyddo o drwch blewyn i gadw at y cynllun hyd yn hyn.Gorffenais ‘Yr Alarch&nbsp… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Cadw at yr adduned… o drwch blewyn

Mi wnes i adduned yn ol ym mis Ionawr i ymdrechu darllen o leiaf un llyfr Cymraeg pob mis yn ystod 2012.Wel diolch i’r flwyddyn naid dwi wedi llwyddo o drwch blewyn i gadw at y cynllun hyd yn hyn.Gorffenais ‘Yr Alarch&nbsp… Parhau i ddarllen

Dysgwyr Cilgwri: Geiriadur Bruce am ddim!

(English below)

Newyddion gwych!! Mae’r geiriadur gorau Saesneg – Cymraeg bellach ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein (mae’r fersiwn printiedig yn costio £46). Mae pobl yn galw ‘Geiriadur yr Academi’ ‘y geiriadur Bruce’, ar ôl enw cyntaf un o’i olygyddion Bruce Griffiths. Dwi’n ei ddefnyddio fo trwy’r amser. Mae’n cyfrol enfawr sy’n dangos enghreifftiau o sut mae defnyddio pob gair. Yr unig anfantais ydy does dim modd chwilio am air Cymraeg, felly os dachi’n trio cyfieithu o’r Gymraeg i Saesneg rhaid defnyddio geiriadur ar-lein arall.

[Brilliant news!!  The best English-Welsh dictionary in now available free on-line (the printed version costs £46).  People call the ‘Geiriadur yr Academi’ ‘y geiriadur Bruce’, after the first name of one of the editors Bruce Griffiths.  I use it all the time.  It’s a huge ‘tombe’ which shows examples of how to use each word.  The only disadvantage is there is no way to search for a Welsh word, therefore if you’re translating from Welsh to English you’ll have to use another on line dictionary.]

 

Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Yr ydych chi yma

Des i o hyd i lyfr a sgwennwyd gan awdur o’r enw Gee Williams tra ail-drefnu’r ystafell sbar yr wythnos yma.  Mi wnaeth Jill cwrs ysgrifennu creadigol efo hi flynyddoedd maith yn ol.  Mae’r darn ‘You are Here’ yn son am ei hardal enedigol, sef Saltney, a dwi’n meddwl ei fod o’n ddarn arbennig o dda.  Ges i fy ysbrydoli wedyn i drio ei gyfiethu i’r Gymraeg… gobethio nad ydwi wedi ei ladd llenyddiaeth y darn wreiddiol…

Yr ydych chi yma
 

Seren wib o sir yw Sir y fflint. Digwyddodd, darfu, digwyddodd eto.  Does dim syndod na allai’r mwyafrif o bobl cyfeirio ati ar fap. Fe ges i fy ngheni ynddi, ond diflanodd cyn i mi adael yr ysgol, a llyncwyd gan arch-sir dros dro Clwyd. Wedyn, cwpl o flynyddoedd yn ol, ailymddangosodd, bach yn dreuliedig ar ei hymylon efallai, ychydig o bwysau yn llai, ond dim byd anweddus. Striben o dir main estynedig ar lannau’r Dyfrdwy ydy hi yn y bon. O ffosydd-carthu, gwartheg-rendro, badau-adeiladu Saltney (fy mhentref enedigol – dim ond y Mor Marw sy’n is yn nghramen y ddaear) trwy ‘boeri-ar-eich-dwylo’ Shotton, cemegolion y Fflint, hyd at tarts baentiedig bler Talacre a Phrestatyn. Mae’r ffordd yn eich ysgogi i gadw troed ar y sbardun rhywsut, nes cyrraedd y gwir Cymru, ei siopau cofroddion Celtaidd, poer penboethiaid defaid, a phob dim i’ch anghenion mynydda a gwersylla, a werthwyd i chi gan bar o therapyddion crisialau amgen. Rhaid bod hon yw’r unig sir ym Mhrydain sydd gan brifddinas (answyddogol) mewn gwlad ar wahan. A beth am yr acen! hunllef ffonolegol o syniau sedêt swydd Caer, lobsgows o lannau Mersi, a chefn gwlad Cymru. 

Mewn gwirionedd hardd yw ei choedlannau a chaeau, ei glynoedd a bryniau, a mewn ambell i achos yn dal eu thir. Nad yw ei phobl dim gwell dim gwaeth na neb arall, ond digwydd bod dyma’r rheiny dwi’n eu nabod.

(cyfieithiad o waith Gee Williams a gyhoeddwyd gan Wasg Gee yn ‘Magic and Other Deceptions’) Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Clecs Cilgwri 2012-01-28 19:06:00

Hylo blog!Wedi wythnos o boen cefn ac ambell i ymweliad i’r chiropractor, dwi ddim wedi cael llawer o awch i eistedd o flaen sgrin cyfrifiadur dweud y gwir.  ta waeth, well i mi treulio ychydig o funudau i sgwennu rhywbeth cyn i fis mynd heibio he… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Hei-Ho a llyfrau eraill…

Wel dwi wedi dal at fy adduned y flwyddyn newydd am hanner mis o leiaf… er nad oedd yr adduned yn un andros o uchelgeisiol rhaid cyfadde.  Darllen o leiaf un llyfr Cymraeg pob mis am flwyddyn oedd y nod, ac mi lwyddais i orffen ‘Pwll Y… Parhau i ddarllen

: meddyliau mis Ionawr……..

 ‘Blwyddyn Newydd Dda i Chwi oll’, (fel a glywais Megan Lloyd George yn dweud ar raglen ardderchog Ffion access all areas Hague am Gymraesau o ddylanwad mawr sef Mamwlad).  Dwi heb cael llawer o amser i feddwl am flogio a dweud y gwir ers&nbs… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: meddyliau mis Ionawr……..

 ‘Blwyddyn Newydd Dda i Chwi oll’, (fel a glywais Megan Lloyd George yn dweud ar raglen ardderchog Ffion access all areas Hague am Gymraesau o ddylanwad mawr sef Mamwlad).  Dwi heb cael llawer o amser i feddwl am flogio a dweud y gwir ers&nbs… Parhau i ddarllen

Dysgwyr Cilgwri: Blwyddyn Newydd Dda!

Blwyddyn Newydd Dda i bawb!  Mae 2012 (dwy fil a deuddeg) wedi cyrraedd, ac mae’n amser i wneud ‘adduned’ y flwyddyn newydd….  efallai?Dwi’n mynd i ymdrechu darllen un llyfr yn y Gymraeg pob mis dros y deuddeg (12) mis nesa, adduned sy… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: teledu’r wy^l a ballu….

Blwyddyn Newydd Dda i bawb sy’n dilyn y blog ‘ma.   Gobeithio gewch chi flwyddyn llewyrchus a hapus!Dwi wedi gwneud un adduned bach, a hynny i ymdrechu darllen un llyfr Cymraeg pob mis dros y deuddeg fis nesa, felly gawn ni weld am ba hyd wne… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: ‘Strydoedd Cymreig’ Cilgwri…

Mae strydoedd Cymreig Lerpwl yn y Dingle, ‘The Welsh Streets’, wedi cael cryn dipyn o sylw yn ddiweddar (yn bennaf oherwydd cysylltiad y Beatles) wrth i Gyngor Lerpwl cynllunio i ail-datblygu’r ardal. Gaeth lot fawr o dai ochr yma i’r Mersi eu hadeil… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Damcaniaeth ar chwal…

Ges i neges diddorol yr wythnos yma gan aelod o fy nosbarth nos yn dweud ei fod yn gallu esbonio  ‘cyfrinach’ y capel ym Mhenbedw.  Fel perianydd sifil mae o’n cyfarwydd â’r arwydd sydd wedi ei gerfio ar bostyn giât y… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Damcaniaeth ar chwal…

Ges i neges diddorol yr wythnos yma gan aelod o fy nosbarth nos yn dweud ei fod yn gallu esbonio  ‘cyfrinach’ y capel ym Mhenbedw.  Fel perianydd sifil mae o’n cyfarwydd â’r arwydd sydd wedi ei gerfio ar bostyn giât yr hen gapel briciau cochion, a dim byd i wneud efo’r Orsedd ydy o, ond yn hytrach ‘benchmark’ yr Arolwg Ordanans, sy’n dynodi uchder lleoliadau dros lefel y mor!!  Nad ydy’r symbolau yma’n cael eu defnyddio bellach, ond mae ‘na gofnod o’r un yma yn cael ei gwirio gan yr OS  1961.

Er hynny, a diolch i ymchwil Gary, dwi’n gallu cadarnhau y buodd capel Claughton Rd yn gapel Cymraeg cyn i’r eglwys presennol (Emmanuel) cymryd drosodd yn 1918.  Ar fap OS o 1911 mae’n ei alw’r adeilad ‘Free Ch. (Welsh)’, ond erbyn 1936 mae’r map yn cofnodi bod enwad yr adeilad wedi newid.  Dwn i ddim faint o enwadau ‘rhydd’ a fodolodd canrif yn ol, ond buodd capel yr Annibynwyr llai na hanner milltir o Claughton Rd yn dyddio yn ol i 1844, a chapel mawr y Presbyteriaid yn Parkfield dim ond rownd y cornel.  Mae’n bosib felly capel y Methodiastiad Weslyaidd oedd o? ond rhaid wneud mwy o ymchwil,  neu ofyn i Dr D. Ben Rees wrth gwrs! Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: scribl am scrabl….

Mae’n peth amser ers i mi bostio ar y blog yma, er i mi sgwennu ambell i beth a’u cadw fel drafft.  Dwn i ddim pam, ond ella mod i wedi bod yn ceisio sgwennu traethawd yn hytrach na jysd rhoi pethau bach ymlaen (sy’n syniad gwell ty… Parhau i ddarllen

: scribl am scrabl….

Mae’n peth amser ers i mi bostio ar y blog yma, er i mi sgwennu ambell i beth a’u cadw fel drafft.  Dwn i ddim pam, ond ella mod i wedi bod yn ceisio sgwennu traethawd yn hytrach na jysd rhoi pethau bach ymlaen (sy’n syniad gwell ty… Parhau i ddarllen

Dysgwyr Cilgwri: Diwedd tymor a blwyddyn newydd

Gaethon ni cwis bach nos fercher i orffen tymor o ‘sesiynau siarad’ yn y Clwb Lever ym Mhort Sunlight.  Yn anffodus, oherwydd  function, oedd yn digwydd lawr grisiau roedd rhaid i ni symud i ystafell llai cyffordus a … Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Yn y Ty Hwn… a llyfrau eraill

Mi ges i fy ysgogi i ddarllen ‘Yn y Ty Hwn’ ar ol darllen sylwadau ffafriol iawn gan Junko.  Ges i ddim fy siomi. Wna i ddim dweud gormod, dim ond ysgogi unrhywun arall i’w ddarllen.  Mae safon yr ysgrifennu yn ardder… Parhau i ddarllen

Dysgwyr Cilgwri: Llyfrau Cymraeg a Chymreig…

Mae amser y flwyddyn wedi cyrraedd pan mae pobl yn dechrau holi:  ‘Be dach chi isio fel anrheg Nadolig’!     Dwi’n hoffi derbyn llyfrau fel anrhegion, ond weithiau mae’r teulu isio syniadau penodol.&nbs… Parhau i ddarllen

: Cyfrinach y Capel…

Capel Claughton Rd 2011Yn nghanol Penbedw mae ‘na gapel briciau cochion sy’n dangos cliw i’w hanes efallai ar un o byst y giât blaen.   Dwi’n cofio ffrind yn gwneud bach o waith yna cwpl o flynyddoedd yn ol, ac yn cry… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Cyfrinach y Capel…

Capel Claughton Rd 2011

Yn nghanol Penbedw mae ‘na gapel briciau cochion sy’n dangos cliw i’w hanes efallai ar un o byst y giât blaen.   Dwi’n cofio ffrind yn gwneud bach o waith yna cwpl o flynyddoedd yn ol, ac yn crybwyll bod y gweinidog wedi dweud wrtho bu’r adeilad capel Cymraeg ers talwm.  Dyna pam felly yr wythnos diwetha cymerais funud neu ddau i graffu ar yr adeilad fictoriaidd yn chwilio am gliwiau i’w hanes.   Welais i ddim byd amlwg fel ‘maen dyddiad’, ond wrth i mi feddwl am roi’r gorau i fy nghraffu, sylwais ar arwydd aneglur ond cyfarwydd a guddiodd ar un o byst tywodfaen y llidiart.  Symbol ‘Yr Awen’ ydy hyn wrth gwrs, rhywbeth a gysylltiwyd â Gorsedd y Beirdd, ac arwydd efallai bod rhyw ddigwyddiad neu gyfarfod wedi ei gynnal yn y fan hyn, ond arwydd o gysylltiad Cymraeg.

yr arwydd ar y postyn

Dwi ddim wedi llwyddo dod o hyd i unrhyw gwybodaeth am hynny eto, sy ddim yn syndod efallai, gan bod yn ol gwefan yr eglwys presennol symudon nhw i mewn yn 1917.  Adeiladwyd y capel yn 1881 dwi’n credu.  Mi ymwelodd yr Orsedd Penbedw ym 1917 wrth gwrs, blwyddyn Eisteddfod y Gadair Ddu ym mharc y dre wrth gwrs.  Buon nhw yna cyn hynny efallai, pan cynhalwyd Eisteddfod Genedlaethol ‘answyddogol’ yn y dre ym 1879.   Mae ‘na fap OS ar gael o’r dref yn 1909, felly mae’n bosib fasai hwnnw dangos enwadau y capeli, dwn i ddim, ond ga i gipolwg arno fo y tro nesa i mi fod yn Waterstones ella, Parhau i ddarllen

: Cyfrinach y Capel…

Capel Claughton Rd 2011Yn nghanol Penbedw mae ‘na gapel briciau cochion sy’n dangos cliw i’w hanes efallai ar un o byst y giât blaen.   Dwi’n cofio ffrind yn gwneud bach o waith yna cwpl o flynyddoedd yn ol, ac yn cry… Parhau i ddarllen

Dysgwyr Cilgwri: Bred of Heaven, Hedd Wyn a Miss Byd…

Dwi ddim wedi darllen y llyfr yma eto, sef Bred of Heaven, ond dwi wedi clywed a darllen llawer, ac wedi gweld yr awdur, (Jasper Rees) yn siarad amdano fo ar Wedi7.   Llyfr sy’n dilyn taith yr awdur (sy’n dod o Lundain) i ddarg… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Llên benywaidd…?

Dwi newydd gorffen ‘Mr Perffaith’ gan Joanna Davies , llyfr digon ysgafn a dweud y gwir, ac un a gafodd ei sgwennu fel rhywbeth i ddarllen ar y traeth, ella.   Welais rywun yn ei ddisgrifio fel darn o ‘chic … Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: dau adeilad, dau hanes….

Agorwyd ‘Bethel’ yn Heathfield Rd, Lerpwl ym 1927. Gafodd ei godi fel cartref newydd i gynulleifda Capel Webster Rd, ac efo lle i 750 o bobl.  Roedd hyn yn adeg llewyrchus iawn i Gymry Glannau Mersi, penllanw cymdeithas Cymraeg Lerpwl, a chyfnod a welodd ymweliad arall gan yr Eisteddfod Genedlaethol i ddinas Lerpwl (1929), a hynny’r tro olaf i’r Prifwyl gadael tir Cymru.

 ‘Bethel’, Heathfield Rd. Lerpwl

Chwech mlynedd yn ddiweddarach (1933) agorwyd ‘y Tudor’ yn West Kirby, sinema a theatr efo lle i 1100 o bobl.  Buodd theatr fictorianaidd ar yr un safle o’r enw ‘The Queens’, ond codwyd y Tudor ar yr un safle ar ol iddo gael ei ddinistrio gan tân.  Cymysgedd nodweddiadol o bensaerniaeth Art Deco a ‘Thuduraidd ffug’ oedd y Tudor, a gafodd ei gynllunio mae’n debyg i adlewyrchu arddull adeiladau du a gwyn eraill West Kirby.

Y ‘Tudor’ yn y 1960au hwyr

Erbyn y chwedegau roedd cymdeithas Cymraeg Lerpwl ar ei lawr, gyda sawl capel yn cau eu drysau (neu uno gyda chapeli eraill) a chynulleidfaoedd y gweddill yn mynd yn hynach.  Ar ol y rhyfel roedd ‘na ostyngiad sylweddol yn y nifer o Gymry Cymraeg yn symud i lannau Mersi, hynny yw’r rheiny oedd wedi cynnal y capeli dros ganrif a mwy.  Yn ogystal a hynny roedd yr iaith ei hunan yn brwydro i dal ei thir yng Nghymru, ac roedd capeli hyd yn oed yna yn stryffaglu yn sgil newid cymdeithasol enfawr.

Roedd cynulleidfaoedd sinemau ar eu lawr hefyd yn ystod y 60au (yn sgil newid cymdeithasol enfawr arall sef dyfodiad y teledu i bron pob cartref), ac mi gauwyd nifer mawr.  Dyna fuodd hanes y Tudor, a chyflwynwyd y ffilm olaf yn West Kirby ym 1965.  Ailagorodd am gyfnod fel neuadd Bingo cyn cael ei droi yn fwyty gyda thema ffilmiau o’r enw ‘GoodTimes’.  Maes o law mi ddaeth ei gyfnod fel bwyty i ben, ac mi drodd yr adeilad yn ‘arcade’ siopa.  Aflwyddiant oedd y fenter honno, ond gafodd ei addasu i fod yn swyddfeydd i’r cyngor lleol.  Gadawodd y cyngor tua 7 mlynedd yn ol bellach, yn gadael i’r Tudor druan pydru yn y fan a’r lle.

 dymchwelwyr yn dechrau tynnu Bethel lawr (2011)

Erbyn y 90au mae’n ymddangos roedd ‘Bethel’ yn llawer rhy fawr i anghenion aelodaeth y capel.  Er mwyn i’r achos goroesi yn Lerpwl, roedd angen meddwl o ddifri am yr opsiynau, gan gynnwys gwerthu’r prif adeilad a defnyddio rhan arall o’r capel yn ei le.  Mae’n syndod efallai, ond nad oedd ‘Bethel’ yn adeilad rhestredig, er gwaethaf ymdrechion y ‘Wavertree Society’, sy’n brwydro cadw cymeriad pensaerniol yr ardal.  Buodd Bethel tirnod amlwg yn Wavertree am dros 80 mlynedd, ond methiant oedd yr ymdrechion i ddod o hyd i ddefnyddwyr arall.  Yn ol y ffigyrau dim ond rhai £60,000 o waith cynnal a chadw oedd angen arno, sydd ddim yn swm enfawr o ystyried faint ac oedran yr adeilad, sy’n wneud ei golled yn waeth rhywsut.   Dymchweliad felly oedd diwedd trist i un o symbol olaf Cymreictod Lerpwl, ond mi fydd achos ‘Bethel’ yn parhau mewn capel modern a lot llai sydd newydd cael ei agor ar ddarn o’r un safle.  Caiff gweddill y safle ei werthu a datblygu fel fflatiau yn ol pob son.

y ‘Tudor’ yn diflanu yr wythnos yma,
ond wnaiff y facade goroesi o leiaf

Draw yn West Kirby roedd cwmni Aldi wedi bod yn llygadu safle’r Tudor.  Wnaethpwyd cais i godi archfarchnad yno a chyhoeddwyd lluniau hardd o’u cynlluniau gan gynnwys facade Tuduraidd y Tudor fel prif fynedfa i’r siop arfaethedig.  Derbyniodd y cynllun croeso gwresog yn y bon, gan y cyngor a’r cyhoedd, ond erbyn i’r cais cynllunio cael eu cyflwyno doedd dim arwydd o’r hen sinema!   Yn wahanol i gapel Bethel, roedd y Tudur yn adeilad rhestredig, a mynodd y cyngor bod facade yr adeilad (o leiaf) yn cael ei gadw.  Er gwaethaf safiad Aldi bod archwiliad wedi darganfod gwendid strwythyrol yn facade y Tudur a fasai’n gwneud iddo fo yn rhy gostus i’w gadw,  mi fynnodd y cyngor eu bod nhw’n cadw at eu cynllun gwreiddiol. 
Dros yr wythnos diwetha maen nhw wedi bod wrthi’n ddymchwel y rhan mwyaf o’r Tudur, ond o leiaf mi fydd darn yn goroesi fel rhan o’r archfarchnad.  Ond mae’n siom efallai na lwyddodd yr awdurdodau yn Lerpwl cyrraedd y fath cyfaddawd…. 

Parhau i ddarllen

: Hwyl fawr Wooly….

Y gig go iawn cyntaf i mi fynychu erioed oedd yn y Liverpool Empire.  Does dim byd tebyg i’r profiad o glywed swn band roc yn perfformio am y tro cyntaf, a hynny mewn awyrgylch trydanol theatr dan ei sang.  Er nad oedd&nbs… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Hwyl fawr Wooly….

Y gig go iawn cyntaf i mi fynychu erioed oedd yn y Liverpool Empire.  Does dim byd tebyg i’r profiad o glywed swn band roc yn perfformio am y tro cyntaf, a hynny mewn awyrgylch trydanol theatr dan ei sang.  Er nad oedd y band y roedden ni’n eu disgwyl yn un ffasiynol erbyn 1978 (os erioed!), roedd gan Barclay James Harvest dilyniant cadarn, ac roedd yr Empire wedi ‘gwerthu allan’ ar gyfer eu hymweliad blynyddol fel arfer.

Ro’n i wedi baglu dros gopi fy chwaer o ‘Time Honoured Ghosts’ (Polydor 1975) a dweud y gwir cwpl o flynyddoedd yn gynnharach, wrth bori trwy ei chasgliad o LP’s, a ches i fy nenu yn syth gan lun trawiadol y clawr i (sy’n fy atgoffa i o dirlun Ddyffryn Clwyd),  a maes o law gan y casgliad o ganeuon bachog â harmoniau persain y band o Sir Caerhirfryn. Erbyn iddyn nhw recordio’r albym hon yn Los Angeles, roedden nhw wedi rhoi’r gorau i deithio a recordio efo cerddorfa llawn (cyfnod arbrofol a gofnodwyd ar eu halbyms cynnar i label ‘prog rock’ EMI ‘Harvest’).  Serch hynny roedd trefniadau ‘cerddorfaol’ yn amlwg o hyd ar ambell i drac, diolch i ‘Melotrons’ a Hammond Stuart ‘Wooly’ Wolstenholme, a’i gyfansoddiadau ‘bugeiliol’, pryddglwyfus.     Syndod felly oedd darganfod bod Wolstenholme, a nid un o’r brifleisydd, oedd ‘personoliaeth’ y band ar y llwyfan, a’r un a fasai’n llenwi’r bylchau rhwng y caneuon gyda ffraethineb annisgwyl.   Wnaethon ni adael y theatr y noson honno gyda syniau’r encore olaf yn atseinio yn ein glustiau, a blas am gigiau byw.  Dros y cwpl o flynyddoedd nesa mi welon ni nifer o ‘fwystfilod prog roc’ yn yr Empire, ond roedd eu hamser yn dirwyn i ben, ac roedd ton newydd yn brysur eu ysgubo i’r neilltu. 

Cododd ‘wahaniaethau cerddorol’ mewn sawl band, wrth iddyn nhw geisio (yn ofer gan amlaf) addasu.   Mae’n debyg roedd hyn yn ormod i’r hen Wooly, a gadawodd BJH tua ’79 wrth i’r band newid cyfeiriad a dilyn llwyddiant masnachol ar y cyfandir.  Digwydd bod mi welais Wolstenholme (a’i Felotrons!) unwaith eto, ond y tro yma yn hyrwyddo albym ‘solo’ fel cefnogaeth i daith Judy Tzuke yn 1980,

Byddai fy ngwybodaeth am hanes Wooly wedi dod i ben yna a dweud y gwir, hynny yw onibai am wyrth y we!  Des i o hyd i weddill ei hanes yn ddamweiniol mewn ffordd tra googlo yn ddiweddar, ond hanes trist ydy o mae’n ddrwg gen i ddweud.

Nid oedd ei brosiect solo (Maestoso) yn llwyddiant masnachol, a dechreuodd Wooly yrfa newydd fel fferwmr organic, yn gyntaf yn Sir Caerhirfryn ac wedyn yng nghorllewin Cymru.  Roedd ei hen gyd-aelodau yn BJH wedi hercian ymlaen hebddo fo am ormod o flynyddoedd mae’n debyg, ar gefn llwyddiant masnachol yn yr Almaen, cyn chwalu o’r diwedd yn 1997.  Maes o law mi gododd ddwy fersiwn o’r band gyda enwau hurt o hirwyntog (e.e. Barclay James Harvest Through the Eyes of John Lees!) a datblygodd cryn chwerwder rhwng y dwy carfan. 

Mi dreuliodd Wolstenholme cyfnodau yn yr ysbyty yn dioddef iselder difrifol, er yn sgil tranc BJH mi gytunodd i ail-ymuno â John Lees a chwarae yn fersiwn yntau o’r band.  Ond doedd dim dianc rhag ei broblemau iselder, ac ym mis rhagfyr eleni, ar ol tynnu allan o daith arall efo Lees mi laddodd ei hunan.  Diwedd trist i un o gymeriadau tawelaf roc a rol, ond dyma deyrnged addas.  Heddwch i’w llwch..   

Parhau i ddarllen

: Noson Enoc Huws…

Mi aeth y noson Enoc Huws (rhan o Ŵyl Daniel Owen Yr Wyddgrug) yn dda dwi’n credu, efo nifer go lew o bobl yn gwasgu mewn i ystafell fyny’r grisiau ym Mar Gwin y Delyn. Roedd o’n braf gweld Ernie a Mark yna o’r dosbarthiadau nos, a chael cyfle am s… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Noson Enoc Huws…

Mi aeth y noson Enoc Huws (rhan o Ŵyl Daniel Owen Yr Wyddgrug) yn dda dwi’n credu, efo nifer go lew o bobl yn gwasgu mewn i ystafell fyny’r grisiau ym Mar Gwin y Delyn. Roedd o’n braf gweld Ernie a Mark yna o’r dosbarthiadau nos, a chael cyfle am sgwrs efo ffrindiau eraill. Roedd Eirian wedi trefnu cwis gweledol, hynny ydy cyfres o luniau o bobl ‘enwog’ i ni i’w enwi, efo thema’n eu cysylltu nhw. Wnaethon ni un darn o Enoc Huws, ac wedyn un rownd o’r cwis, ac yn y blaen, nes cyrraedd diweddglo stori ‘gafaelgar’ Daniel Owen. Mi fasai wedi bod yn braf cael riff drymiau ‘Eastenders’ ar ddiwedd pob darn! Roedd ‘na ‘cyfieithu ar y pryd’ ar gael yn ystod y cyflwyniad o Enoc Huws (sy’n annodd mewn rhannau i rai Cymry Cymraeg heb son am ddysgwyr) diolch i Rebecca o Fenter Iaith Sir Y Fflint, gwasanaeth amhrisiadwy i’r rhai di-gymraeg oedd yna. Rhywsut wnaeth ein tîm ni lwyddo i ennill y cwis! a’r bocs o siocledi blasus.. ond gaeth pawb rhannu’r siocledi dwi’n credu!!

Noson da. Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Yr Wythnos hyd yn hyn…

Mae hi wedi bod wythnos andros o brysur hyd yn hyn, a prin ydwi wedi cael y cyfle i dreulio amser o flaen sgrin y gliniadur (roedd rhaid i mi siecio sillafiad!).   Y dyddiau yma rhaid cyfadde fy mod i’n treulio mwy o amser o flaen s… Parhau i ddarllen

: Gwibdeithiau diogelach i feicwyr..?

Gefais wibdaith bach arall ar y beic yn ystod yr wythnos, y tro hwn yn rhannol i drio darganfod ffordd ‘amgen’ trwodd i lannau Dyfrdwy.  Soniais sbel yn ol am hen lon John Summers, oedd yn arfer torri tua 6 milltir&nb… Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Gwibdeithiau diogelach i feicwyr..?

Gefais wibdaith bach arall ar y beic yn ystod yr wythnos, y tro hwn yn rhannol i drio darganfod ffordd ‘amgen’ trwodd i lannau Dyfrdwy.  Soniais sbel yn ol am hen lon John Summers, oedd yn arfer torri tua 6 milltir oddi ar daith beicio i Sir y Fflint o’r darn yma o Gilgwri, ac sy’n ‘llwybr llygad’ at y bont ‘newydd’ (Pont Sir y Fflint). Ond ges i’m ceryddu gan ffermwraig wrth i mi wyrio ‘ychydig’ oddi ar lwybr cyhoeddus rhwng Shotwick a Puddington, wrth drio darganfod ffordd drwodd i’r ffin!  Wrth gwrs ymddiheurais yn gwrtais wrth esgus mod i wedi colli fy ffordd, ond mae’n amlwg bod y stad mawr (sy’n rhwystr sylweddol i gerddwyr a beicwyr yng nghornel deuheuol Cilgwri) yn gweld lot o bobl ‘ar goll’.  Er i mi barchu’r ffermwyr, tir âr ydy hwn, heb yr un anifail fferm i’w weld, a lonydd fferm llydan, rhy groesawgar o lawer i deithwyr ‘direidus’!

Cronfa Dwr Llyn Shotwick, yn edrych tuag at Burton (gwelir y map)

Ar ol i mi adael tir y fferm (lawr y llwybr cyhoeddus), anelais i lawr i’r gors o gyfeiriad Ystad Diwyddiannol Glannau Dyfrdwy, sef ochr draw i’r Sealand Ranges.  Digwydd bod roedd gatiau’r meysydd saethu ar agor, gan fod cwmni garddio’n torri’r lawntydd (wir!), ond penderfynais peidio siawnsio ‘troseddu’ eto, ond troi i’r dde i ddilyn llwybr sy’n glynu at gwrs rheilffordd Wrecsam i Bidston, sef ‘Lein y Gororau’, yn ymyl hen seidings.  Culiodd y llwybr yn y pendraw yn anffodus, yn fy ngadael heb nunlle i fynd ond yn ol, a finnau llai na chwater milltir o gyrraedd ochr draw tir gwaharddiedig y ‘ranges’.  Welais feiciwr arall ar y ffordd yn ol, ac mi holodd o fi i weld os ro’n i wedi croesi ‘ffordd y gorsydd’.  ‘Naddo’ dwedais, ond cawsom ni sgwrs diddorol am ei brofiadau o.  Un dro wnaeth car swyddog y meysydd saethu trio torri yn ei flaen er mwyn ei rwystro rhag reidio! tra tro arall mi stopiodd fws mini o ‘gadets’ a’u sarjant a’i helpu codi ei feic dros y giat!  Negeseuon cymysg felly!

                     
Ta waeth, ar ol i mi gyrraedd adre, mi es i ar y we a ffeindio rhyw fforwm sy’n trafod hynt a helynt beicwyr lleol.  Darganfodais bod ymgyrch yn drio ail-agor y ‘marsh rd.’ a hynny yn rhannol yn sgil sawl damwain ar yr A540 rhwng geir a beiciau.  Mae ‘na ‘lwybrau’ beicio eisioes sy’n ymlwybro lawr lonydd tawelach Cilgwri yng nghyfeiriad Caer a lannau Dyfrdwy, ond i gyrraedd ambell i ddarn mae angen mentro ar y A540, ffordd sy’n peryg bywyd mewn mannau.  Pe tasai’r lon dros y gors ar agor, fasai hynny’n gadael i feicwyr teithio rhwng West Kirby a Chaer yn mwy neu lai di-draffic, trwy uno’r Wirral Way a’r llwybr Cei Connah-Caer!

Ar y funud mae nifer o sefydliadau yn rhan o broses ymgynghori, Sustrans, yr MOD, Railtrack, y RSPB (sy’n biau tir cyfagos) a Chynghorau Sir Y Fflint a Swydd Caer.  Mi fydd y cynllun yn sicr o gymryd cwpl o flynyddoedd i wireddu, ond o leiaf mae ‘na rywbeth ar y gorwel. Parhau i ddarllen

Dysgwyr Cilgwri: Sesiwn sgwrs Y Clwb Lever

English follows:Roedd o’n braf gweld pawb yn y Clwb Lever nos fercher… dwi’n meddwl aeth pethau’n weddol iawn.Mae’n anodd ffeindio’r cyd-bwysedd mewn sesiynau sgwrs, ac i wneud pawb teimlo rhan o’r sgwrs. Dwi’n cofio yn … Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Gwlybdiroedd Cydwladol Burton Mere…

Bore dydd Sul, pigiais allan ar fy meic pen bore gyda’r bwriad o drio dod o hyd i ffordd arall o gyraedd Pont Sir y Fflint.  Caewyd  hen lon dros gorsydd aber y Dyfrdwy gan y weinidogaeth amddiffyn ychydig o flynyddoedd yn ol. Roedd… Parhau i ddarllen

Dysgwyr Cilgwri: Prosiect Cyffrous yn Wrecsam….

Mae ‘na brosiect cyffrous ar y gweill yn Wrecsam….Tafarn Y Saith SerenMae criw o Gymry Cymraeg y dre isio troi tafarn y ‘Seven Stars’ yn dafarn cymunedol a chanolfan Cymraeg.  Mae’r prosiect yn uchelgeisiol ond cyrraeddadwy, … Parhau i ddarllen

Clecs Cilgwri: Noson Cofrestru

Mi es i i’r Ysgol heno er mwyn siarad efo’r rheiny sydd am gofrestru i wneud y dosbarthiadau nos Gymraeg.  Gaeth pawb noson eitha siomedig a dweud y gwir, gyda dim ond 65 o bobl yn dod trwy’r drws (tua hanner y nifer a ddoth y llynedd). … Parhau i ddarllen

Dysgwyr Cilgwri: Traethawd diddorol am Gymry Lerpwl…

Ddes i o hyd i draethawd eitha ddiddorol yn ddiweddar.  Darn o waith Olwen Morris-Jones ydy o, sydd newydd raddio o Brifysgol Lerpwl. Er o Gaerdydd mae hi’n dod yn wreiddiol, mae gynni hi gysylltiadau teuleuol efo Lerpwl, a diddorde… Parhau i ddarllen