Archives: Paned a Chacen

Paned a Chacen: Te yn y Dorchester

Gyda fy ffrind gorau, Catrin, yn dod i aros am y penwythnos, a minnau heb ei gweld hi ers sbel, roedd rhaid trefnu rhywbeth arbennig. A does yna ddim esgus gwell nag ymweliad ffrind i wneud y mwyaf o’r ddinas hon. Roeddwn i eisoes wedi cael tocynnau i ni fynd i’r theatr i weld The […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Dysgu gan y meistr yn Awstria

Gyda’r gaeaf yn edrych fel ei fod am bara am byth, a gwyliau’r Pasg yn agosáu fe benderfynais fynd ar drip munud olaf i Awstria. Wrth gwrs roedd yr eira ffres oedd yn dal i ddisgyn ar y llethrau yn atyniad mawr, ond roeddwn i hefyd yn awyddus i dreulio ychydig o amser yn y […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Pobi dros y Pasg

Mae penwythnos hir yn golygu un peth i fi, digon o amser i botsian yn y gegin. Doedd gen i ddim llawer o gynlluniau dros benwythnos y Pasg, felly fe fachais ar y cyfle i bobi ychydig o bethau sydd angen amser ac amynedd i’w gwneud. Pethau na fuaswn i’n gallu eu gwneud ar benwythnos […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Digon o gacen i dagu ci

Fel da chi’n gwybod dwi ddim angen unrhyw anogaeth i bobi nac i fwyta cacennau, felly pan glywais i gan ffrind bod yna grwp o bobwyr lleol yn cwrdd yn fisol, roeddwn i’n gwybod bod rhaid i mi ymuno â nhw. Mae Band Of Bakers yn grwp yn Ne Ddwyrain Llundain sy’n dod a pobl […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Diwrnod Crempog

I lawer, dydd Mawrth Ynyd yw’r un diwrnod y flwyddyn pan maen nhw’n gwneud yr ymdrech i wneud crempogau. Ond dwi’n hapus i fachu ar unrhyw gyfle i wneud crempogau, boed nhw’n rai tenau fel sy’n draddodiadol i ni heddiw, neu grempogau tew Americanaidd i frecwast gyda bacwn a sudd masarn, neu hyd yn oed […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Semlor – Byns Cardamom o Sweden

    Yr adeg yma o’r flwyddyn da ni gyd yn cofio bod crempogau yn bodoli ac yn gwagio silffoedd yr archfarchnadoedd o flawd, wyau a jiff lemon wrth i ni ddathlu dydd Mawrth Ynyd gyda brwdfrydedd. Dwi wrth fy modd gyda chrempogau, ond os caf i esgus i wneud rhywbeth arall yna dwi am […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Madeleines

Mae’r cacennau bach Ffrengig yma yn syml iawn ond mae nhw’n hynod flasus ac mae nhw’n ddel iawn gyda’u siap cragen unigryw. Yn draddodiadol daw’r cacennau yma o Commercy yn ardal Lorraine o Ffrainc, ac maer spwng ysgafn yn aml wedi’i flasu gyda lemon, oren neu almonau. Mae rhain yn hawdd iawn i’w gwneud ond […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Bisgedi Santes Dwynwen

  Diwrnod Santes Dwynwen hapus i chi gyd! Da ni mor lwcus fel cenedl i gael ein nawddsant cariadon ein hunain. Da ni’n cael dathlu cyn y Saeson a da ni ddim yn gorfod talu trwy’n trwynau i brynu blodau neu fynd am swper. Mae o’n teimlo’n llawer mwy diffuant ac yn llai masnachol. Ac […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cinio tair seren

Dwi’n gwybod mai blog pobi a chacennau yw hwn ond mae’n rhaid i mi sgwennu am bryd anhygoel gefais i yn ddiweddar. Roedd y pwdin ei hun yn werth cofnod cyfan, ond gwell peidio ag anwybyddu dau gwrs hyfryd arall ges i . A ble’r oedd y pryd yma? Wel bwyty tair seren Michelin Gordon Ramsay […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Te Prynhawn yn yr Athenaeum

Da chi gyd yn gwybod cymaint dwi’n joio te prynhawn, ac yn bachu ar unrhyw esgus i fwyta llond bol o frechdanau bach, cacennau a the. Felly pan ddaeth un o fy ffrindiau gorau draw i aros o Sweden, roedd o’n un o’r pethau cyntaf ar ein ‘to do list’.  Mae Pia yn dipyn o […] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Blwyddyn Newydd Dda!

Ac am flwyddyn mae hi di bod. Dwi methu coelio mai blwyddyn yn ôl y dechreuais i sgwennu’r llyfr, ac erbyn hyn mae llwythi o bobl wedi ei dderbyn fel anrheg Nadolig ac wedi bod wrthi yn coginio fy ryseitiau i. Mae o wedi bod yn grêt gweld cymaint o bobl ar Twitter yn dweud [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Pobi Nadoligaidd

Fel pob cogydd da dwi wedi gwneud fy nghacennau Nadolig ers peth amser. Dwi wedi bod yn eu bwydo gyda brandi yn weddol reolaidd ac yn fuan fe fydd hi’n amser i mi eu haddurno. Ond fe geith hynny aros am ryw wythnos arall. Ond yn y cyfamser mae yna ddigon o bobi arall i gadw fi’n [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Ac enillwyr y gystadleuaeth yw ……

Wel mae’r amser wedi dod i ddewis enillydd y gystadleuaeth. Diolch i bawb wnaeth drio, nes i joio darllen eich sylwadau am eich hoff gacennau chi. Da chi gyd yn glasurol iawn efo’ch cacennau, ond ‘da chi’n iawn allwch chi ddim curo cacen fictoria ysgafn neu fara brith. fe fuaswn i’n licio trio cacen chwisgi [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Lansiad Paned a Chacen: Caerdydd

Ddydd Iau diwethaf fe gafom ni lansiad bach ar gyfer y llyfr yng Nghaerdydd. Roedd y Lolfa wedi trefnu noson grêt yn Pettigerw Tea Rooms, roedd ‘na sgwrs fach gyda Betsan Powys a digon o baned a chacen i bawb wrth gwrs. Fe wnes i wneud cwpwl o gacennau ar gyfer y digwyddiad ond mae’n [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Pwy sydd eisiau ennill llyfr?

Mae’r llyfr wedi bod yn y siopau ers rhyw bythefnos rŵan, ond heno fe fyddwn ni’n cynnal y lansiad swyddogol yng Nghaerdydd. Mae’r Lolfa wedi trefnu parti bach yn Pettigrew Tea Rooms – stafell de hyfryd wrth y castell. Allai ddim meddwl am le mwy perffaith a dweud y gwir! Fe fydd yna de, cacen [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Mae’n bwysig plesio Nain

Bydd unrhyw un sy’n darllen y llyfr yn gwybod cymaint o ysbrydoliaeth mae fy Nain wedi bod i mi. Felly cyn gynted ag y cefais i gopïau o’r llyfr roedd rhaid i mi yrru copi iddi. Roedd ei barn hi yn holl bwysig i fi. Wel diolch byth mae’n plesio! Ges i alwad ganddi’r diwrnod [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacennau afiach o neis

Ddydd Gwener fe fues i mewn ffair gacennau gwahanol iawn, doedd na ddim cupcakes del na macarons prydferth yn agos at y lle. Na roedd y digwyddiad yma yn amgueddfa patholeg St Barts, Llundain. Ie, ymysg y jariau o esgyrn ac organau wedi’u piclo, roedd ‘na ffair gacennau yn cael ei chynnal. Enw’r digwyddiad oedd Eat Your [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Mae o yma!

Dwi ar y tren ar fy ffordd allan i ddathlu, felly dim ond nodyn bach cyflym ydi hwn i ddweud bod y llyfr wedi cyraedd! Goeliwch chi ddim pa mor ecseited dwi. Mae o’n edrych yn wych, llawer gwell nag y buaswn i erioed wedi’i ddychmygu. Mae’r diolch am hynny wrth gwrs i’r Lolfa, i [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Wishgit, wishgit i ffwrdd a ni mae’r Nadolig yn nesau.

Wel dyna ni’r cam cyntaf o baratoadau’r Nadolig wedi’i gwblhau, mae’r cacennau wedi eu gwneud. Roeddwn i eisoes wedi gwneud un, nol ym mis Gorffennaf, er mwyn tynnu llun ar gyfer y llyfr, ond dwi’n gwneud 3-4 bob blwyddyn ar gyfer y teulu. Dim ond dau yr oeddwn i’n bwriadu ei wneud ond yn y [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Dim ond 10 wythnos i fynd!

  Sori am hyn, ond gyda llai na 10 wythnos tan y Nadolig, mae’n amser dechrau paratoi! Yr wythnos hon fe ddechreuais i wneud rhestr o beth i gael i bawb fel anrhegion Nadolig, gyda’r gobaith o orffen fy siopa cyn diwedd Tachwedd. Yn anffodus dwi’m yn meddwl y gallai gael get-awe efo rhoi llyfr [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Wel dyma fo o’r diwedd!

  Ar ôl yr holl bobi, sgwennu ac adolygu, does ‘na ddim byd mwy y gallaf ei wneud. Mae’r llyfr yn yr argraffwyr, ac fe fydd yn eich siopau yn fuan! A dwi methu aros i weld fy nghopi cyntaf. Fe fydd unrhyw un sy’n fy nilyn i ar twitter neu’n ffrindiau efo fi ar [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Tartenni lemon meringue bach

Ar hyn o bryd dwi’n teimlo fel fy mod i’n dechrau pob blog efo ymddiheuriad! Mae’r cyfnod rhwng pob un yn llawer rhy hir ar hyn o bryd. Ond mae’n rhaid cyfaddef dwi prin wedi bod yn pobi yn ddiweddar. Yn y ddau fis diwethaf dwi wedi gorffen y llyfr, symud yn ôl i Lundain, [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Nadolig yn yr haf

Dwi wedi dweud o’r blaen bod angen dechrau ar eich cacen Nadolig yn gynnar, ond efallai bod coginio ac addurno cacen Nadolig ym mis Gorffennaf yn mynd cam yn rhy bell. Ond dyna yn union yr ydw i wedi’i wneud. Na, dyw’r tywydd oer yma ddim fy ffwndro yn llwyr, dwi wedi bod yn tynnu [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen Ferwi Nain

Wel helo, mae hi di bod yn sbel ers i mi bostio diwethaf ac mae’n ddrwg gen i am hynny. Mae’r llyfr yma wedi hawlio pob munud sbâr sydd gen i. Ond dwi’n tynnu i’r terfyn o’r diwedd, mae gen i wythnos i ffwrdd o’r gwaith a dwi’n bwriadu ei orffen yn yr amser hynny. [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Does na’m llonydd i gael

Mae’n rhaid i fi ymddiheuro am y diffyg blogio yn ddiweddar. Dwi ddim eisiau i chi feddwl fy mod i wedi anghofio am y blog yma, ond ar hyn o bryd mae’r llyfr yn cymryd pob munud sbâr sydd gen i. Mae’n cymryd amser i feddwl am syniadau a ryseitiau ac yna i’w profi nhw [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Hello world!

Welcome to WordPress. This is your first post. Edit or delete it, then start blogging!
Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Paned a Chacen – Y llyfr

Nawr mae’n rhaid i fi ddechrau drwy ymddiheuro fy mod i wedi bod ychydig yn dawel ar y blog yma yn ddiweddar. Ond mae yna reswm (mae’r cliw yn y teitl!) Ie dwi’n sgwennu llyfr ryseitiau Paned a Chacen. Dwi mor ecseitied! Dwi methu coelio’r peth a dweud y gwir, ond roedd y criw hyfryd [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Amser am baned?

Fe wnaeth rhywun bwyntio allan y diwrnod o’r blaen, nad yw’r blog yma yn cadw’n ddigon at y teitl. Hynny yw, mae yna lot o gacennau yma ond dim llawer o baneidiau. Wel dyma ymdrech i wneud fyny am hynny. Nawr dwi’n hoffi coffi, fel arfer espresso neu americano cryf, ond te sy’n cadw fi [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen Guinness

Ia Guinness mewn cacen, mae’n swnio’n od, ond wir i chi mae o’n gwneud synnwyr pan da chi’n ei drio! A dweud y gwir cacen siocled a guinness yw hon, ond mae hi mor wahanol i unrhyw gacen siocled arall. Mae’n ddwys, yn gyfoethog, ond dyw o ddim yn or-felys gan fod y guinness yn [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Dwi’n caru cacs bach

Welshcakes, pice ar y maen, cacennau cri … neu fel mae fy nheulu i’n eu galw nhw … cacs bach. Beth bynnag da chi’n eu galw nhw, does dim curo ein cacen genedlaethol. Mae’n teulu ni wrth eu boddau efo nhw, ac yn eu gwneud nhw byth a beunydd. Fy hoff beth i fel plentyn [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Kaiserschmarrn – ymerawdwr y crempogau!

Dwi wrth fy modd gyda chrempogau ond heblaw am ryw fore Sadwrn prin, anaml iawn dwi’n eu gwneud nhw. Ond bob dydd Mawrth Ynyd, dwi’n bwyta tomen enfawr ac addo fy mod i’n mynd i’w gwneud nhw’n fwy aml. Ond gesiwch be, dwi ddim! A dim fi yw’r unig un, mae’r siopau yn llawn cynhwysion [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Baked Alaska

Ddydd llun fe fyddai’n feirniad ar raglen Cog1nio, rhaglen debyg i junior masterchef. Fe fyddai’n gwneud masterclass efo’r plant ac wedyn yn beirniadu eu hymdrechion nhw. Yr hyn fydd yn rhaid i’r plant ei goginio bydd baked Alaska. Bach o blast from the past ond rhywbeth fydd, gobeithio, yn herio’r plant. Mae rhoi hufen ia [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Dathlu’r ddaear gyda Bryn Williams

Bob blwyddyn mae’r WWF (y bobl anifeiliad nid y reslars) yn gofyn i bobl ar draws y byd, i droi eu goleuadau i ffwrdd am awr er mwyn arbed trydan a hefyd i bwysleisio’r pryder ynglyn a newid hinsawdd. Mae syniad yr  Awr Ddaear yn un syml iawn ond effeithiol, dwi’m yn meddwl ein bod ni’n [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen gaws sinsir a riwbob

Fe welais i riwbob yn yr archfarchnad yn ddiweddar ac fe wnaeth i mi feddwl nad ydw i erioed wedi coginio unrhywbeth efo riwbob heblaw am grymbl. Felly fe ysgogodd hynny i mi fynd ati i chwilio am bwdin neu gacen fyddai ychydig bach yn fwy mentrus. Mae riwbob a sinsir yn gyfuniad gwych, felly [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Diwrnod Santes Dwynwen Hapus!

Diwrnod Santes Dwynwen Hapus i chi gyd! Gobeithio bod pawb yn gwneud rhywbeth i ddathlu, neu’n defnyddiwch o fel esgus iwneud rhywbeth neis eich hunain! . Yn anffodus dwi’n gwneud dim gan bod y cariad yn Llundain a minnau yng Nghaerdydd, felly fyddai ddim yn cael mynd i Odette’s am swper i ddathlu eleni – [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Rum Baba

Tan yr wythnos hon doeddwn i erioed wedi clywed am rum baba o’r blaen. Gofynnodd fy ffrind i mi wneud rhai iddo, ond wrth gwrs doedd genai ddim clem beth oedd un, heb sôn am sut i’w gwneud nhw. Felly dyma ddechrau twrio trwy fy llyfrau coginio am rysait. Fe lwyddais i ganfod tri rysait [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Roulade siocled

Dwi’n gwybod na fues i’n blogio rhyw lawer dros y nadolig, ond dyw hynny ddim yn golygu na fues i’n coginio. A dweud y gwir fi oedd yn gyfrifol am wneud cinio dolig i’r teulu eleni, a hynny am y tro cyntaf. Wrth gwrs roedd rhaid gwneud pwdin arbennig, ond does yna’m llawer o bobl [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Blwyddyn Newydd Dda!

Helo a blwyddyn newydd dda i chi gyd. Wel pwy feddylia ei bod hi bron yn flwyddyn ers i mi ddechrau’r blog yma. Pan grëais i’r blog, doeddwn i ddim yn disgwyl y busawn i’n blogio rhyw lawer. Ond dwi wedi cael cymaint o fwynhad, yr unig beth sy’n fy stopio rhag blogio mwy yw’r [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Bwyta yn Efrog Newydd

Wel Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd. Ymddiheuriadau am y diffyg blogio dros yr ŵyl ond dwi wedi bod yn brysur yn bwyta, yfed, diogi a dal fyny efo’r teulu (beth arall sy’ na i’w wneud dros y gwyliau?). Ond y penwythnos cyn y Nadolig fe fues i ar drip bach i [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Addurno’r gacen Nadolig

Dwi’n tueddu i aros tan yr wythnos cyn y Nadolig i addurno fy nghacennau Nadolig (er mwyn rhoi digon o amser i fi eu bwydo gyda brandi!). Ond heno fydd y tro olaf i mi weld mam a thad y cariad cyn y Nadolig, felly roedd rhaid gorffen eu cacen nhw mewn amser. Mae’r addurn [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Mins Peis Cartref

Fe gefais i ddiwrnod prin iawn i fi fy hun ddoe, felly wrth gwrs fe wnes i ei dreulio’r diwrnod cyfan yn y gegin. Dwi’n mynd ar fy ngwyliau i New York yr wythnos nesaf,(gewch chi’r hanes ar y blog pan dwi’n dod ‘nôl) felly dyma oedd fy unig gyfle i wneud ychydig bach o [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Noson yn River Cottage

Mae’r cariad a minnau yn hoff iawn o wylio rhaglenni coginio, (dwi’n siwr ein bod ni’n gwylio mwy o’r Good Food channel na unrhyw sianel arall!) ac un o hoff ‘celebrity chefs’ Johny yw Hugh Fearnley Whittingstall. Felly’r Nadolig diwethaf fe brynais lyfr coginio River Cottage Everyday iddo (er gesiwch pwy sydd wedi bod yn [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacennau moron iach (ish!)

Dwi di recordio eitem arall ar gyfer rhaglen Blas ar Radio Cymru. Fe fydd o’n cael ei ddarlledu yn y flwyddyn newydd pan fydd y rhan fwyaf ohonom ar ryw fath o ddiet. Felly fe fues i’n trafod cacennau iachus efo Rhodri Williams. Nawr dyw cacen byth yn mynd i fod cweit mor dda i [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cupcakes lemon a cupcakes hufen ia

Dwi wedi bod yn arbrofi gyda cupcakes yn ddiweddar, mewn ymdrech i wneud rhywbeth ychydig bach yn fwy diddorol na chacen fanila gydag eisin fanila. Felly dwi wedi creu dau newydd -  cupcakes lemon a cupcakes hufen ia, gyda sypreis bach ynghanol y ddau. Fe ddefnyddiais y rysait ar gyfer cupcakes fanila fel sail i’r [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Bisgedi Sinsir

Dwi ddim yn adnabod neb llawer sy’n prynnu ginger nuts y dyddiau yma, efallai gan bod nhw’n cystadlu efo llond shilffoedd o fisged llawer mwy ffansi. Ond pan ddes i a llond bocs o rai cartref i’r gwaith y diwrnod o’r blaen fe gafon nhw eu sglaffio yn syth. Mae’n nhw’n ofandwy o hawdd i’w [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Fy nhorth cyntaf

Mae gennyf gyfaddefiad i’w wneud. Dwi wedi bod yn prynu mwy o lyfrau coginio. Wir i chi, mae o fel rhyw fath o addiction. Dwi’n ddigon hapus yn darllen trwyddyn nhw fel nofelau, mae gennyf hyd yn oed bentwr wrth fy ngwely ar hyn o bryd! Ond y prif reswm dwi’n eu prynu yw er [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen Nadolig

Dwi byth yn un o’r bobl yna sy’n gadael eu siopa Nadolig tan y funud olaf. A dweud y gwir dwi’n dechrau panicio os nag ydwyf wedi gorffen fy siopa Nadolig erbyn dechrau fis Rhagfyr. A gyda mwy na mis i fynd cyn y Nadolig dim ond un neu ddau o anrhegion sydd ar ôl [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Cacen Penblwydd Pinc

Fe ofynnodd cydweithiwr i mi wneud cacen penblwydd i’w merch 6 oed. Mae hi’n licio unrhywbeth pinc a merchetaidd, ac mae hi’n caru sgidiau sodlau uchel, felly wrth gwrs fe ddywedais i ie. Merch tebyg iawn i fi! Heblaw am y brîff yna roedd gena’i rwydd hynt i wneud beth bynnag yr oeddwn i eisiau. [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Macarons siocled oren

Fe ddysgais i lot ar y cwrs macarons efo Edd Kimber, ac roeddwn i’n hapus iawn efo sut oedd y macarons yn blasu ac yn edrych. Ond y prawf mawr oedd efelychu’r llwyddiant gartref. Felly ar ôl prynu thermomedr siwgr, (pwy feddylia y bydden i byth yn prynu’r ffasiwn beth!) fe es ati i drio [...] Parhau i ddarllen

Paned a Chacen: Pobi efo plantos

Dwi wedi treulio’r dydd yn helpu i edrych ar ôl dau o blant bach. Roedd hi’n ddiwrnod oer a gwlyb, felly pa ffordd well i’w diddori nhw na trwy wneud ychydig bach o goginio. Roeddwn i’n caru coginio fel plentyn, gwneud llanast mawr ond yn wyrthiol creu rhywbeth blasus yn y diwedd. Roedd Nanw yn [...] Parhau i ddarllen