Archives: pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: Cyfle i gael eich ffilm fer ar ail DVD Pictiwrs / Tu Chwith

Cyfle i gael eich ffilm fer chi o flaen llygaid Cymru!

Creu Ffilm Gymraeg ar gyfer Pictiwrs / Tu Chwith

Mae Pictiwrs / Tu Chwith yn chwilio am ffilmiau byr, annibynnol, Cymraeg i’w dangos ar daith hyd a lled Cymru yn yr Hydref ac i’w cynnwys ar DVD a gyhoeddir gan gylchgrawn Tu Chwith ym mis Ionawr 2010.

Parhau i ddarllen

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: Ffilm Ryan a Ronnie ar daith Mawrth-Mai 2009

Parhau i ddarllen

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: Hunger

Hanes streic newyn Bobby Sands. Parhau i ddarllen

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: 6.2.08 Pictiwrs Paradiso – The Maltese Falcon – Aberystwyth


Cyfle i neidio nôl mewn amser i’r 40au!

Mae noson ffilm Pictiwrs Paradiso yn dychwelyd gyda digwyddiad ffilm bendigedig arall i chi. Ar nos Fercher, 6ed Chwefror byddwn ni’n cynnal dangosiad o The Maltese Falcon, y ffilm dditectif noir hyfryd honno gyda Humphrey Bogart, yn amgylchedd atmosfferig Amgueddfa Ceredigion – hen sinema’r Coliseum!

Parhau i ddarllen

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: 29.01.08 Noson ffilmiau byrion Undercurrents, Abertawe


Poster bendigedig. Werth mynd draw am squizz (gawd, heb ddefnyddio’r gair yna ers ysgol!).

Parhau i ddarllen

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: 19.01.08 Pictiwrs Yn Y Pyb – Tŷ Tawe

Bydd Pictiwrs yn cynnal noson ffilmiau yn Abertawe nos Sadwrn yma. Dewch yn llu i weld y gorau o ffilmiau byrion Cymraeg.

Parhau i ddarllen

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: 5.12.07 Pictiwrs Paradiso – The Wicker Man – Druid Inn, Goginan


Mae noson gyntaf tymor newydd Pictiwrs Paradiso yn ail gychwyn fis nesaf gyda’r clasur arswydus, one-off, bisâr, paganaidd, Albanaidd, naci-dim-pen-ôl-go-iawn-Britt-Eklund-ydi-hwnna – The Wicker Man.

Parhau i ddarllen

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: Y Dyn Nath Ddwyn y ‘Dolig – Y Drwm, Aberystwyth – 04.12.07

Cyfle euraid i weld y clasur Nadoligaidd Y Dyn nath ddwyn y Dolig o gasgliad ffilmiau cynnar S4C. Ffilm gerddoriaeth o 1985 gan Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn. Werth ei weld os jest am y gwalltiau a’r gwisgoedd!

Parhau i ddarllen

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: Fel Arall: Dogfen Nia Dryhurst ar S4C

‘Mond eisiau eich atgoffa y bydd ffilm ddogfen Nia Dryhurst, Fel Arall yn cael ei ddangos ar S4C nos Fawrth yma am 9pm. Cafodd y ddogfen gryn sylw yn ystod Yr Wyl Ffilm Hoyw a Lesbaidd eleni, ac mae’r manylion ar wefan y rhaglen yn argoeli ffilm sensitif a dadlennol.

Parhau i ddarllen

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: 28/10/07 – Amnest yn dangos “The Cup” yng Nghaerdydd


Mae Amnest Rhyngwladol yn cynnal dangosiad arbennig o’r ffilm, Phorpa (The Cup), yng nghanolfan Chapter Caerdydd, nos Sul yma.

Parhau i ddarllen

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: Pictiwrs: Hwren Gyfryngau!


Do, mae Pictiwrs wedi bod yn sniffian o gwmpas darnau preifat newyddiadurwyr er mwyn cael hwrjo ei hen ddigwyddiadau a syniadau ar fwy o bobol!

Parhau i ddarllen

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: Sinema Sŵn

Wele’r rhaglen lawn isod. Cofiwch ddweud wrth eich ffrindiau!

Parhau i ddarllen

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: Penblwydd Hapus S4C – Chapter yn dangos Clasuron Cymru


Lwc pur oedd sylwi yn rhaglen Chapter, wrth lymetian neithiwr, y bydd cyfres o ddangosiadau arbennig o ffilmiau S4C yn cychwyn yno ar nos Wener, Tachwedd yr 2ail. Y BFI sydd wedi rhoi’r rhaglen at ‘i gilydd*, i ddathlu’r adfywiad y rhoddwyd i ddiwylliant ffilm Cymru ers sefydlu’r sianel yn 1982. Bydd dangosiadau drwy gydol Tachwedd, a rhagor o ddigwyddiadau yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Rhagfyr. Dyma’r rhaglen, fel mae’n ymddangos yng Nghylchgrawn Chapter:

Parhau i ddarllen

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: Llyn Fach ar y Sgrin Fawr*

Mae pawb i weld yn siarad am Stardust ar hyn o bryd – ffilm nodwedd gyda lluaws o enwau enfawr Hollywood yn serennu ynddi, megis Michelle Pfiffer, Peter O’Toole a Bobby DeNiro. Mae’n helpu, wrth gwrs, fod y dyn mwya’ cegog ym Mhrydain yn digwydd bod yn briod âg un o awduron y ffilm – ond un peth do’n i heb glywed yw bod Llyn y Fan Fach, Sir Gâr, yn un o’i lleoliadau ffilmio. Debyg fod hyn yn hen newydd braidd, ond dyna ni – diolch i e-bost Cynghrair Cymry Arizona am ddenu fy sylw ato.

Parhau i ddarllen

pictiwrs - sinema a theledu trwy lygaid Cymraeg: Diwrnod Cerddoriaeth Ffilmiau yr SCG ac AFfC


Mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ac Asiantaeth Ffilm Cymru wedi ymuno i drefnu diwrnod “Cerddoriaeth Ffilmiau” ar Ddydd Iau, Tachwedd 15 yng nghanolfan gerddoriaeth The Point, Bae Caerdydd, Caerdydd. Bydd y digwyddiad am ddim i’r rhai sy’n cymryd rhan, a bydd lleoedd yn cael eu dosbarthu ar sail ‘y cyntaf i’r felin’.

Parhau i ddarllen