-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archives: Robert Humphries
Broch yng Nghod: Mis Mawrth ym Milwaukee
Tua mis yn ôl, roeddwn i’n barod i ysgrifennu sawl post am lyfrau newydd eu darllen a’r sefyllfa gwleidyddol yn ein talaith ni (efallai eich bod wedi gweld rhywbeth amdano yn y penawdau), ond yn anffodus, fe gawson ni argyfwng teuluol sydd wedi troi… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Mis Mawrth ym Milwaukee
Tua mis yn ôl, roeddwn i’n barod i ysgrifennu sawl post am lyfrau newydd eu darllen a’r sefyllfa gwleidyddol yn ein talaith ni (efallai eich bod wedi gweld rhywbeth amdano yn y penawdau), ond yn anffodus, fe gawson ni argyfwng teuluol sydd wedi troi… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: "Mae gen i freuddwyd …"
Heddiw yw dydd swyddogol cofio Martin Luther King Jr., y dyn a wnaeth mwy nag unrhyw un arall dros hawliau dynol yn yr Unol Daleithiau, ac a dalodd y pris eithaf am ei ymdrech heddychlon yn erbyn casineb ac anffafriaeth hiliol. Mae angen tipyn bach o’i… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: "Mae gen i freuddwyd …"
Heddiw yw dydd swyddogol cofio Martin Luther King Jr., y dyn a wnaeth mwy nag unrhyw un arall dros hawliau dynol yn yr Unol Daleithiau, ac a dalodd y pris eithaf am ei ymdrech heddychlon yn erbyn casineb ac anffafriaeth hiliol. Mae angen tipyn bach o’i… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Pwy yw y Bachan Main?
Rwyf yn awyddus i gysylltu â blogwr o’r enw “y Bachan Main,” gan ei fod yn hoffi mynwenta yn hen trefedigaethau Cymreig canolbarth America. Ond yn anffodus, does dim modd cysylltu neu adael neges ar ei flog. Mae ganddo gyfrif youtube dan yr enw “ianto… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Pwy yw y Bachan Main?
Rwyf yn awyddus i gysylltu â blogwr o’r enw “y Bachan Main,” gan ei fod yn hoffi mynwenta yn hen trefedigaethau Cymreig canolbarth America. Ond yn anffodus, does dim modd cysylltu neu adael neges ar ei flog. Mae ganddo gyfrif youtube dan yr enw “ianto… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Blwyddyn newydd, blog newydd.
Blwyddyn Newydd Dda! Hen bryd i mi adfer blog oedd yn gasgliad o feddyliau di-gyfeiriad. Amser i symleiddio a chanolbwyntio ar bethau sy’n werth darllen amdanynt. Mwy i ddod. Cyn bo hir. Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Blwyddyn newydd, blog newydd.
Blwyddyn Newydd Dda! Hen bryd i mi adfer blog oedd yn gasgliad o feddyliau di-gyfeiriad. Amser i symleiddio a chanolbwyntio ar bethau sy’n werth darllen amdanynt. Mwy i ddod. Cyn bo hir. Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Rhwybeth bychan …
Fy nghyfraniad yw cerdd a sgwennais i sawl mis yn ôl ar gyfer ein Penwythnos Gymreig i Bawb. Nid darn o waith soffistigedig, ac yn dipyn dros ben llestri yn ei wladgarwch, ond serch hynny, cyfle gwych i mi ymarfer y Gymraeg.EtifeddiaethDarllenir yn y … Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Neges y dydd i bobl Cymru …
Diolch i safle gwych keepcalm-o-matic.co.uk Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Y Gweriniaethwyr a’r werinos
Mae ‘na hynodrwyddau gwleidyddol am yr UDA dwi’n dal i fethu ag eu deall nhw, er fy mod wedi bod yn byw yn yr wlad hon ers ugain mlynedd. Ymhlith y pethau mwyaf anodd i fi eu deall ydy’r paranoia am ddiwygio neu wella’r cyfundrefn gofal iechyd. Yn ysto… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Croesi’r bysedd …
Dim ond oriau i fynd cyn i hyn basio…dwi’n gobeithio. Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Mae amser yn hedfan …
…ac mae Rhys bach wedi tyfu’n dipyn ac yn grwtyn bach llawen sydd wastad gyda gwên ar ei wyneb. Mae Rhiannon hefyd yn mwynhau bywyd gyda babi newydd, ac yn ceisio helpu yn ei modd unigryw. Mae hithau’n dangos iddo sut i chwarae gyda’r teganau neu’n … Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Y teulu yn tyfu.
Dyma brif reswm rwyf wedi bod yn absennol o’r we ers spel. Ganwyd ein mab cyntaf, Rhys David, dydd Llun, 26ed o Hydref am 11:01 y bore. Roedd yn pwyso 8 lb, 14 oz. Mae Rhys bach yn iach ac yn tyfu yn gyflym. Mae’n bwyta fel mochyn, fel ei dad! Fel y ga… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Dychwelyd o’r anialwch
Mae fy mlog wedi bod yn ddistaw ers mis Tachwedd, ond peidiwch â phoeni, mae popeth yn iawn. Ond rwyf wedi bod yn brysur yn diweddar. Dyma rhai o ddigwyddiadau ym myd bach y Mochyn Daear ers i fi nodi’r etholiad ar y wefan hon: *Fe aethon ni â Rhian… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Daeargryn democrataidd
Llongyfarchiadau i arlywydd newydd yr UDA, Barack Obama. Llongyfarchiadau, America, a diolch o galon i’r miliynau sydd wedi cymryd rhan mewn dydd hanesyddol a newid cyfeiriad eu gwlad. Rhaid i fi gyfadde, nad oeddwn i’n disgwyl i’r seneddwr ifanc o Ill… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Blas drwg
Popeth sydd angen ichi ei wybod am gyflwr presennol yr economi Americanaidd. Ymgais i apelio at Joe Sixpack, ond efallai nid synnwyr cyffredin yn nhalaith sy’n enwog am feddwi’n gachu.Ar y ffordd allan o Dodgeville, Wisconsin, wythnos yn ôl. Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Y dilyw mawr
Efallai mae rhai ohonoch chi wedi clywed am y llifogydd erchyll yng nghanol yr UDA yn ddiweddar. Mae Wisconsin wedi cael ei effeithio’n ddifrifol, gyda miloedd o erwau o gnydau wedi eu dinistrio gan y dwr. Yn ein sir ni, Sauk County, difrodwyd 95% o ff… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Ieithoedd brodorol Wisconsin
Mae papur newydd ym Madison yn cyflwyno cyfres o erthyglau am ieithoedd brodorol y dalaith, sef Ho-Chunk neu Winnebago, Menominee, Ojibwe, Potawotami ac Oneida. Mae’r ieithoedd ar ffin cael eu colli am byth oherwydd prinder y rhai sy’n dal i’w siarad. … Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Ymweliad ag Aber a syrpréis ym mwyty Pen Dinas. A dwi’n siarad gydag acen Batagonaidd, gyda llaw.
Roedd ‘na degawd wedi mynd heibio ers i fi ymweld ag Aberystwyth. Roeddwn i yng nghwmni fy nghor-ewyrth ar y pryd (a fu farw dwy flwyddyn wedyn, dwi’n trist i ddweud), a doeddwn i ddim yn cofio’r dre ar wahân i orsaf y Rheilffordd Dyffryn Rheidol.Doed… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Llambed, Ebrill 20-24
Wrth gyrraedd Llambed ar brynhawn Sadwrn, fe es yn gyntaf i lety “Haulfan,” lle arhosais trwy’r wythnos yng nghwmni’r teulu Williams. Pobl garedig go iawn ydynt, a’u llety yn fach ond yn gyffyrddus. Roeddwn i’n dipyn ansicr am fy Nghymraeg yn y dechreu… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Pethau annisgwyl yng Nghaerllion a Chaerdydd, Ebrill 18-19
Ar ôl mynd i lawr i ddinas Casnewydd ac ymweld â fy mamgu yn ei chartre gofal ger Caerdydd, penderfynais i fynd lawr i Gaerllion, hen “Ddinas y Llengoedd.” Rwyf wedi mynd yno sawl waith yn y gorffenol, a dwi’n hoffi’r dre fach a’r gweddillion Rhufein… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Casnewydd, Ebrill 17-18
Mae’n anodd i fi gredu bod wythnos wedi mynd heibio ers i fi ddychwelyd o’m taith yn ôl i’r famwlad. Prif amcan y daith oedd ymweld â Phrifysgol Cymru yn Llambed (neu Lanbed neu Lanbedr Pont Steffan, neu Lampy yn ôl myfyrwyr Saesneg eu hiaith*) er m… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Dathlu Dewi
Mae Gwyl Dewi eraill wedi dod, ac fel arfer, mae’n amser priodol i fi ddathlu’r Cymreictod ac adlewyrchu ar y berthynas rhwngddo’i a’m gwlad frodorol. Cymhleth go iawn yw fy hunaniaeth, ac weithiau wn i ddim pa wlad dwi’n perthyn iddi. Ganwyd fi yng Ng… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Yr Eira Mawr
Dwi’n cydnabod y gall fod yn anniddorol i flogio am y tywydd, ond fe ddaeth eira mawr Ddydd Mercher, gyda mwy nag ugain modfedd o’r styff gwyn mewn sawl man yn Wisconsin. Roedd problemau enfawr ar y priffyrdd, gyda channoedd o gerbydau yn sownd dros no… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Y Ras Ceffylau
Dyma ni unwaith eto. Blwyddyn etholiad arlywyddol ydy 2008, ac y bydd y “ras” yn llenwi’r penawdau hyd diwedd yr haf, pan ddaw’r pleidiau at eu gilydd er mwyn dewis eu hymgeisyddion. Bydd Wisconsin yn mynd i’r poliau Chwefror yr 19ed.Mae’r chwarae eiso… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Yr anrheg Nadolig gorau erioed
Dydd Iau fe eson ni’r holl ffordd i’r Ysbyty Plant ym Milwaukee. Bu rhaid i Riannon gael adfasgwlareiddio unwaith eto, i weld beth sy’n digwydd yn ei chalon a’i hysgyfaint. Ond y tro hwn, fe geson ni newyddion ardderchog. Mae ei harteriau wedi tyfu ac … Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Post cyntaf ers amser maith.
Newyddion da! Dydw i ddim wedi diflannu o wyneb y ddaear, er rwyf wedi bod yn absennol o’r Rhithfro ers misoedd.Rwyf wedi bod yn ofnadwy o brysur yn ddiweddar, gyda’r gwaith a’r teulu, gyda’r Wyl Diolchgarwch, a pharatoadau ar gyfer y Nadolig. Ac, wrth… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Newyddion trist o Wisconsin
Fe wnes i gwpl o sylwadau ar gyfer y raglen “Post Cyntaf” ar Radio Cymru ddoe, ond yn anffodus roedd yr achlysur yn un trist go iawn. Bu farw chwech o bobl ifanc mewn saethiad yn Crandon, tua 250 milltir i’r gogledd o’m cartref. Y peth mwyaf anodd i’r … Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Peidiwch ag anghofio! Heddiw yw Dydd "Siarad fel Môr-leidr"
Mae syniad twp cwpl o ddynion wedi troi’n ffenomen ryngwladol. Ond, os nad ydych chi am gario parot ar yr ysgwydd neu ddweud pethau fel “shiver me timbers!” ac “aaar!”, o gwmpas y gweithle, mae’n ddydd perffaith i gofio hoff fôr-leidr y Cymry, Barti D… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Penwythnos Llenyddol
Nos Wener a Dydd Sadwrn diwetha* oedd ein 10ed Gwyl Llenyddol yn Spring Green, digwyddiad sydd wedi tyfu tu hwnt i’n disgwyliadau. Roedd yn achlysur arbennig oherwydd safon crefft ac enwogrwydd yr awduron. Fe ges i’r anrhydedd o groesawu dau enillydd y… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Yr "hot dog" enfawr
Rhywbeth sy’n haeddu post ei hun. Bydd darllenwyr Americanaidd yn gyfarwydd â’r peiriant dieithr hwn, sef yr Oscar Mayer Wienermobile. Mae’n teithio o gwmpas yr wlad ar hyn o bryd.Mae ‘na gystadleuaeth i blant ifanc ganu cân eu hysbysebiadau ac ennil… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Penblwydd y Pentre
Mae Spring Green yn dathlu canmlwyddiant a hanner y flwyddyn hon, ac roedd ‘na ddigon o ddigwyddiadau arbennig yn y pentre dros y penwythnos “Labor Day,” yn gynnwys sioe fasiynau y 19ed ganrif, a thaith dywys i weld tai hanesyddol. Ond uchafbwynt y da… Parhau i ddarllen
Broch yng Nghod: Llifogydd
Am y tro cyntaf yn fy mywyd, dwi’n byw mewn ardal trychineb, yn ôl datganiad llywodraethwr y dalaith. Dros y penwythnos geson ni law, a mwy o law wedyn. Bu rhaid cau sawl ffordd gwledig, ac erbyn dydd Llun, roedd nifer o bentrefi dan dyfroedd yr afonydd sydd wedi codi. (Gweld mwy o luniau yma.)
Hapus i ddweud dydy’r llifogydd ddim wedi effeithio arnon ni. Ond, mae’r glaw yn dychwelyd pob dydd, gyda’r rhesg o fwy o lifogydd sydyn (sef “flash floods”).
Mae’r stormydd wedi boddi rhannau o ganolbarth yr UDA, yn estyn o Minnesota i Ohio dwi’n credu. Ac wrth gwrs, mae’r de yn pryderu am dymor y corwyntoedd. Does neb eisiau gweld trychineb o’r un maint â Katrina ddigwydd eto.
Yn arferol, sych a heulog ydy mis Awst, ac yn boeth dros ben llestri. Dyma’r tymor pryd y bydd ffermwyr yn becso am syched. Nawr, maen nhw’n gobeithio y bydd digon o gynhaeaf o gwbl.
Mae’n ddrwg ‘da fi am fod yn “dawel” yn ddiweddar. Rwyf wedi bod yn brysur iawn wrth ddarllen ar gyfer y cyrsiau MA. Ar hyn o bryd, dwi’n paratoi traethawd am y perthynas rhwng y cyfreithiau Cymreig a Phedair Cainc y Mabinogi. Pwnc diddorol, ond mae’r astudiaethau’n llenwi’m amser rhydd.
Fe wnais i gyfraniad byr hefyd i ffansîn o’r enw Siarc Marw gyda llaw, yn trafod y da a’r drwg o’r UDA. Dim ond cwpl o sylwadau ydyn nhw, ond cyfle i ddweud fy nweud am yr wlad lle dwi’n byw, a’i pherthynasau gyda gweddill y byd.
Os ydych chi heb glywed o Siarc Marw, mae’n gylchgrawn bach sy’n cynnwys erthyglau, adolygiadau o gerddoriaeth a llyfrau, a llawer mwy i ddangos bod ei bys ar byls diwylliant Cymru.
Mae’n hwyr. Tan y tro nesa!
Broch yng Nghod: Wythnos Treftadaeth Cymru
Mae’n anodd i fi gredu bod wythnos wedi mynd heibio ers i fi gymryd rhan yn yr Wythnos Treftadaeth Cymru, a ddigwyddodd ym Madison eleni. Mae’n gyfle i drigolion Gogledd America i ddysgu sawl celfyddyd draddodiadol Cymru, yn gynnwys dawns a cherddoriaeth werin, canu’r delyn, ac wrth gwrs, dysgu’r Gymraeg. Rwyf yn deall ei bod yn dipyn wahanol i’r Cwrs Cymraeg, sydd ddim yn canolbwyntio ond ar yr iaith.
Fe es i’r dosbarth Cymraeg, gan fy mod yn newynog am unrhyw gyfle i ymarfer yr iaith, ond fe ges i sgyrsiau yn y Gymraeg tu allan i’r dosbarth hefyd trwy’r wythnos. Rhodri Jones, cyn athro Cymraeg o Gaerdydd, oedd prif diwtor y cwrs iaith, ac yn athro ardderchog. Fe fwynheuais y cyfle i siarad y Gymraeg gyda fe a’r disgyblion eraill.
Roedd yn bleser hefyd i gwrdd ag aelodau’r staff, fel Phyl a Mags Harries, athrawon cerddoriaeth a thelyn yr wythnos, sy’n byw yn Ninas Powys, Chris Jones, gwraig Rhodri, a Gareth Hughes Jones, cyn gyfarwyddwr Côr Meibion Caernarfon.
Fe ddylwn i ddweud hefyd, ar ddechrau’r wythnos fe arweiniais i griw bach am daith o gwmpas yr hen gapeli Cymreig Sir Iowa (yn debyg i’r daith ym Mis Mehefin), ac uchafbwynt y dydd oedd ymweliad â Taliesin, cartref Frank Lloyd Wright.
Uchafbwyntiau’r Wythnos oedd yr Eisteddfod, nad oedd yn un difrifol o gwbl, a’r Gymanfa Ganu, a ddigwyddodd yng Nghapel yr Undod (Unity Chapel), jyst tu allan i Spring Green, o dan arweinyddiaeth gelfydd Gareth Hughes Jones.
Achlysur arbennig dros ben i fi a Jena oedd trefnu’r gymanfa yng nghapel y teulu Lloyd-Jones. Mewn gwironedd, mae’n anhebyg bu unrhyw beth o’r fath yn digwydd yn y gorffennol. Undodwyr oedd y Jonesiaid, ac wrth gwrs, roedd y Gymanfa Ganu yn draddodiad prif eglwys y Cymry Wisconsin, sef y Methodistaid Calfinaidd.
Beth bynnag gwahaniaethau diwynyddol y gorffennol, doedd dim o’r fath i’w weld bore Sul, wrth glywed criw o Gymry, ac Americanwyr sy’n caru Cymru a’i hetifeddiaeth, yn canu’r hen emynau ac yn llenwi’r lle gyda sw^n ein gwlad.
Ond, y peth pwysicaf am yr wythnos oedd y cyfle i wneud ffrindiau newydd, o bob cornel yr UDA a rhai o Gymry hefyd. Yn anffodus, byddai’n anodd i ni deithio fel teulu (gyda phroblemau iechyd Rhiannon) i’r “WHW” nesaf, ond gobeithio i weld rhai o’n ffrindiau newydd rhywbryd yn y blynyddoedd i ddod.
Rwyf wedi postio sawl ffoto o’r wythnos yma. “Côr yr Ysbrydion” yn canu “Ysbryd y Nos,” uchod; picnic wedi’r Gymanfa ganu, isod.
Broch yng Nghod: Wyt ti’n nabod y ffordd i Orsedd Arberth?
Mae Rhiannon yn marchocáu unwaith eto! Ein Rhiannon ni, wrth gwrs. Mae teulu lleol yn helpu plant anabl i brofi marchogaeth, ac mae’n merch fach ni’n ei mwynhau. Mae’n ryfedd oherwydd dwi’n cofio’r dyddiau anodd wedi ei genedigaeth. Doedden ni ddim yn gallu dychmygu Rhiannon yn gwneud rhywbeth fel hyn ar y pryd hwnnw!
Broch yng Nghod: Ailddarllen y Pedair Cainc
Rwyf wedi bod wrthi’n darllen Pedair Cainc y Mabinogi fel rhan o’m astudiaethau uwchradd. Mae’n bleser i fi astudio’r Mabinogi trwy chwyddwydr academaidd. Ar wahân i’r cyfieithiad Saesneg ysblennydd gan Sioned Davies, mae ‘na ddigon o erthyglau ac astudiaethau mae rhaid i fi eu darllen hefyd; ac yn eu plith sawl cawr y maes astudiaethau Cymreig a Cheltaidd fel Prionsias Mac Cana ac W. J. Gruffydd. Edrychaf ymlaen hefyd at dderbyn copi o lyfr arall gan Sioned Davies, sef Crefft y Cyfarwydd, teitl sy’n trafod dylanwad y traddodiad llafar ar y Mabinogi.
Ond roeddwn i wrth fy modd dydd Iau pan gyrhaeddodd hen gopi o Pedeir Keinc y Mabinogi gan Ifor Williams, sy’n dal yn y testun Cymraeg Canol safonol i ysgolheigion y Mabinogi. Diolch yn fawr i Siop Lyfrau’r Hen Bost ym Mlaenau Ffestiniog am ei anfon i fi!

