-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archives: sgentilyfrimi
Sgen ti lyfr i mi?: Hanes
Dwi’n cael blas arbennig y dyddiau yma ar nofelau sy’n gyfuniad o hanes a dychymyg – fel hon y gwnes i ei chrybwyll yn ddiweddar. Ydyn nhw’n nofelau haws i’w hysgrifennu dybed; mae’r stori a’r cymeriadau yna’n fras a dim ond (dim ond!) eisiau rhoi cig ar yr esgyrn sydd wedyn. Beth bynnag, mae gen [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Mwy o ddarllen
Tipyn o ddarllen wedi digwydd yn ddiweddar ond heb gyrraedd i gofnodi. Hon oedd y ddiweddaraf – The Sealed Letter gan Emma Donoghue. Fe’i prynwyd i mi o’r archfarchnad (nad wyf am yngan ei henw) mae’n ddrwg gen i ddweud. Mae’n rhaid ’mod i wedi bod yn sôn cymaint yr o’n i wedi mwynhau Room [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Eisteddfod
Dim ond cwestiwn sydyn – oes yna drefniant i bobl sy’n blogio drwy gyfrwng y Gymraeg gyfarfod o gwbwl? Yn yr Eisteddfod falle?
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Y Llyfr!
Mae’n amser datgelu’r gyfrinach – dyma’r llyfr ges i i’w rannu – ac un da ydi o hefyd!
Dydy hi ddim yn rhy hwyr i adael sylw yma; fydda i ddim yn dewis tan dydd Mercher.
Sgen ti lyfr i mi?: World Book Night 2
Oes yna unrhyw un arall allan yna yn rhannu llyfrau i ddathlu Noson Genedlaethol y Llyfrau? Pan es i i’r llyfrgell i nôl fy nghyflenwad i o’r llyfr ddewisais i y bore ’ma, roedd yna ddau/ddwy wedi bod o’m blaen i. Tybed be ddewison nhw; gai byth wybod. Mae’r dewis cyflawn i’w weld ar y [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Shardlake
Dwi ’di dweud yn barod mod i’n mwynhau nofel hanesyddol dda – hon er enghraifft neu hon a dim ond rwan ydwi’n sôn am C. J. Sansom a’i gyfres o nofelau – pump i gyd dwi’n meddwl – am y twrne Matthew Shardlake yn oes y Tuduriaid. Dwi’n genfigennus iawn os nag ydach chi wedi darllen [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Y gorau hyd yn hyn
Mi gymrodd Beyond Black gan Hilary Mantel oes i mi fynd drwyddo fo, ac er ei bod hi’n ymdrech, ro’n i’n benderfynol o’i orffen gan fod gen i docyn i glywed yr awdur yn siarad yng Ngŵyl y Gelli. Ydw i wedi deud mod i’n mynd i Wyl y Gelli??? Mae o wedi cael y fath [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Dwi’n mynd!
Gŵyl y Gelli – ac am y tro cynta’ ’rioed mae gen i docynnau! Wel, dydyn nhw ddim yn fy llaw i eto ond dwi wedi archebu rhai. A dyma pwy dwi’n mynd i’w chlywed – ymysg eraill gobeithio – edrych ymlaen! Wnes i fwynhau’r nofel yma ganddi yn fawr a rwan dwi wrthi’n darllen [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Kindle
Dydy’r Kindle ddim yn newydd bellach er ei fod o’n dal i fod yn chwyldroadol ym myd y llyfrau. Does gen i ’run a dwi ’di bod yn dal allan rhag prynu un ond alla i ddim esbonio pam yn iawn i mi fy hun na neb arall. Rhyw ran fechan ohona i yn sylweddoli [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Croesair
Diwrnod y Llyfr a Dydd Gŵyl Dewi ar yr un diwrnod; digon o ddathlu i ni felly yr wythnos yma. Mae gofyn i Sgen ti lyfr i mi? wneud ymdrech arbennig! Ond dwi wedi sylweddoli ’mod i ar ei hôl hi’n ofnadwy lle mae llyfrau Cymraeg yn y cwestiwn. Rhoi cynnig ar groesair y Cyngor Llyfrau yn [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Y Llew Gwyn
Mae angen stori i gynhesu’ch calon chi weithiau ’does? Mae hon wedi bod gen i ers tipyn ar fenthyg ond dim ond yr wythnos yma wnes i gyrraedd i’w darllen, a wir, roedd hi jyst be ro’n i angen. Michael Morpugo ydy’r awdur – enw sydd wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar oherwydd llwyddiant [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Y Llew Gwyn
Mae angen stori i gynhesu’ch calon chi weithiau ’does? Mae hon wedi bod gen i ers tipyn ar fenthyg ond dim ond yr wythnos yma wnes i gyrraedd i’w darllen, a wir, roedd hi jyst be ro’n i angen. Michael Morpugo ydy’r awdur – enw sydd wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar oherwydd llwyddiant [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: World Book Night – rhan 2
Wel, coeliwch neu beidio ond dwi’n cael rhannu llyfrau ar Ebrill 23ain – wedi gwirioni! Deud dim mwy ar y funud, jyst ’mod i wrth y modd, ac ydy, mae o’n un o’r tri ddewisais i.
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Chwerthin!
Peth od ydy chwerthin wrth ddarllen ’de? Mae o braidd yn debyg i gael eich dal yn canu yn y car yn y goleuadau – crinj. Fydda i’m yn amal yn chwerthin yn uchel wrth ddarllen i fod yn onest. Mae gen i ffrind oedd yn arfer lladd ei hun yn chwerthin dros lyfrau P.G. [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Bodlon
A dyma fi’n dod o’r diwedd at un o fy llyfrau Nadolig – dwn i’m lle’r aeth yr amser. Dwi’m am siarad am y lleill tan dwi wedi eu darllen, oherwydd cofnod o be dwi’n ddarllen ydy’r blog yma i fod! Anrheg oedd hwn – Bodlon, Byw’n hapus ar lai gan Angharad Tomos, ac mi roedd o’n [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: World Book Night
Dwi wedi gwneud cais i gael rhannu llyfrau ar World Book Night ond dydw i ddim yn disgwyl y caf fy nerbyn rhywsut; mae’n siwr fod yna filoedd wedi dewis yr un llyfrau â fi. Roedd rhaid dewis tri allan o’r rhestr o bump ar hugain (mae’r rhestr i’w gweld ar y wefan) a dyma ddewisais [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: ‘Page turner’ yn Gymraeg?
Weithie dim ond ‘page turner‘ wnaiff y tro. Ches i ddim help wrth drïo meddwl am derm Cymraeg am ‘chick lit‘ ond falle gwnaiff rhywun gyfieithu ‘page turner‘ i mi? Ond ’dach chi’n gwybod be dwi’n feddwl. Mae ’na sothach sâl – ac ma’ bywyd rhy fyr i drafferthu efo hwnnw – ac mae ’na sothach [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Gŵyl y Gelli
Dwi ’di bod yn deud ers blynyddoedd bellach mod i eisio mynd i Wyl y Gelli; mi fuo’r ffaith fod Eisteddfod yr Urdd yn digwydd yr un adeg yn fy rhwystro am gyfnod. Be sy’n fy rhwystro rwan? Wel, dim ond rhyw deimlad mai yn Eisteddfod yr Urdd y dyliwn i fod, yn lle ’mod [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Silff a siop
Rhag ofn bod ’na rywun allan yn fan’na yn aros yn eiddgar i mi ychwanegu at y blog, mae hwn ar dy gyfer di! Mae Pickwick Papers yn mynd â mwy o amser nag o’n i’n feddwl ond mi rydw i’n dal i ddarllen rhai blogs. Dach chi’n gwbod yn barod mod i’n ffan o The [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Sgrîn
Dwn i ddim pa mor amal mae Sgrîn yn cael ei gyhoeddi ond dwi’n ei dderbyn drwy’r post bob hyn a hyn. Dros y Gwylie mi wnes i gyrraedd i’w ddarllen o glawr i glawr. Mae o’n gylchgrawn sylweddol ac mae’r diwyg yn fy mhlesio’n fawr; lluniau da, llawn lliw a dim sglein, a’r cyfan [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Y Gwylie
Mi ddaeth, ac mi aeth! Ac mi ddaeth yna ambell lyfr yn ei sgîl, ond mwy am hynny eto. Ddarllenais i ddim cymaint â hynny o gysidro’r holl amser oedd gen i; ond mae’r wythnos yma rhwng Nadolig a’r flwyddyn newydd yn mynd trwy ddwylo rhywun, rywsut. Ray Winstone fel Magwitch Dwi ddim am ddechre [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Llyfrgell
Roedd gwyliau’r haf yn gallu bod yn hir i blentyn mewn pentre bach yn y wlad. Falle mai dyna pam mod i’n cofio bod ymweliad wythnosol y fan lyfrgell yn rhywbeth i edrych ymlaen ato yn fawr. Roedd cael dewis llwyth o lyfrau yn wych ac ar ôl gwneud fy newis mi fyddwn i wedyn [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Pa un?
Ychydig dwi wedi ei ddarllen ar lyfrau Dickens erioed; mi wnai gywiro hynna, dim ond un llyfr gan Dickens dwi wedi ei ddarllen erioed, a Great Expectations oedd hwnnw. Roedd yn llyfr gosod ar gyfer arholiad lefel ‘O’ ar y pryd. Mi ges i flas ar Girl in a Blue Dress (Gaynor Arnold) yn ddiweddar; mi roddodd [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Yr ail gyfaddefiad
Os mai cofnod o be dwi’n ddarllen ydy’r blog yma i fod rhaid i mi fod yn onest eto rwan a dweud mod i’n darllen mwy o flogs nag ydw i o lyfrau ar y funud. Dydy hyn ddim yn dda. Mae nhw wedi cymryd lle y cylchgronau ro’n i’n arfer eu prynu. Barod am [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Cyfaddefiad neu ddau
Mae gen i ddau gyfaddefiad i’w wneud, ac mae’r ddau yn berthnasol i’r blog yma. Yn gyntaf, a dydy hyn ddim yn dda, ychydig iawn o lyfrau Cymraeg fydda i yn eu darllen. Dyna fi wedi ei ddeud o. Dwi’n eu prynu nhw’n selog fel dwi wedi sôn yn barod, ond am ryw reswm pan [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Rwsia
Es i i weld Tinker Tailor Soldier Spy yn y sinema yn ddiweddar a’i fwynhau yn fawr. Mi glywes am rai oedd wedi cerdded allan gan gwyno ei fod yn ara deg, ond roedd yr awyrgylch oeraidd oedd yn cael ei greu yn iasol ac yn llawn tensiwn. (Dwi ddim wedi darllen nofel John le Carré [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Persephone
Mae’r syniad y tu ôl i Persephone Books yn wych. India Knight glywes i gynta yn sôn am Persephone Books, yma, a byth ers hynny dwi’n dilyn y blog, yma. Dwi’n ysu am gael ymaelodi a derbyn llyfr y mis. Mi fase cael dewis detholiad yn fwynhad pur. Maen ’na rywbeth wedi gafael ynddo i ar [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Llyfrau coginio
Oes yna rywun arall yn mwynhau darllen llyfrau coginio? Dwi’n cofio mwynhau llyfrau cwmni Hamlyn pan o’n i’n gneud lefel ‘O’ coginio. Ydw, dwi’n mwynhau coginio ac ydw, dwi’n mwynhau bwyta (yn arw), ond dydy hynny ddim yn egluro’r pleser dwi’n gael o ddarllen llyfr coginio. Nid glafoerio dros y lluniau sy’n denu chwaith oherwydd [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Colofnwyr
Welodd unrhyw un golofn amserol ac ysgytwol Caitlin Moran yng nghylchgrawn y Times ddydd Sadwrn? Mae ganddi rywbeth gwerth ei ddweud bob wythnos; doniol neu ddeifiol fel arfer, ond y tro yma – o ddifri. Sôn am dlodi yr oedd hi, ac fel un a gafodd ei magu’n dlawd ei hun ond sydd hefyd wedi [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Cymraeg am ‘chick lit’?
Gas gen i’r term ‘chick lit’, mae ’na rywbeth yn ddifrïol ynddo fo. Dwi ’di darllen digon o be alle gael ei alw’n ‘chick lit’ yn fy amser ond doedd neb wedi bathu’r term yr adeg honno – nofelau cynnar Jilly Cooper fel Octavia, Imogen a Lisa & co – ro’n i wedi gwirioni arnyn nhw. [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Rhestr fer
Fedrai’m meddwl fod hyn wedi digwydd i mi o’r blaen, neu falle mod i jyst ddim yn cofio (hynny’n reit debygol), ond dwi wedi darllen nofel sydd ar y rhestr fer am y Man Booker eleni cyn deall ei bod hi fewn am wobr o gwbwl. Fel arfer, mi fydda i’n rhoi cynnig ar ambell [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Enillydd
Oes ’na well diffiniad o ‘lyfr da’ na’i alw fo’n un dach chi wedi mwynhau ei ddarllen? Allech chi gael gwahanol resymau am ei fwynhau siwr iawn: falle’ch bod chi’n uniaethu efo un o’r cymeriadau; neu falle’ch bod wedi dysgu rhywbeth newydd; neu dach chi wedi chwerthin llond eich bol. Ond ar ddiwedd y sioe, [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Ffilm o lyfr
Mi ro’n i’n arfer bod wrth fy modd yn prynu llyfrau; eu gweld nhw’n rhes ar silff neu’n bentwr wrth y gwely. A dwi dal wrth y modd yn chwalu mewn siop lyfrau, yn enwedig siopau bach, gwahanol a difyr. (Dydy Waterstone’s ddim yn denu o gwbwl). Bellach, anaml y bydda’i’n prynu llyfr: eithriadau – [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Llyfrau pobl eraill
Weithiau, ar wyliau, pan fyddai wedi gorffen fy stoc fy hun, mi wnai fusnesu yn swp llyfrau pobl eraill. Dyna sut wnes i ddarganfod The Hare with Amber Eyes gan Edmund de Waal. Roedd y clawr yn denu ond doeddwn i ddim yn disgwyl mwynhau’r stori i’r fath raddau oherwydd mae hi’n stori go iawn [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Y Bwriad
Y bwriad oedd cofnodi be dwi’n ddarllen ar ôl ei orffen a chadw’r peth yn onest a real felly. Ond wir, efo gwaith mor wyllt ag y mae o yr adeg yma o’r flwyddyn, a’r amser a’r ’mynedd i ddarllen yn brinach, mi fydda i’n lwcus o orffen y nofel sy gen i ar y funud [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Sêr
Meddwl y baswn i’n graddio’r llyfrau gyda sêr, hyd at bump – gwreiddiol dwi’n gwbod – a dwi’n sôn am fwynhad personol yn fan’ma a dim arall. Faithful Place gan Tara French – un o achosion Frank Mackey, y ditectif o Wyddel sy’n trio goroesi ei gefndir ‘Angela’s Ashes’ yn Nulyn, ond yn methu. ‘Gripping‘ [...]
Parhau i ddarllen
Sgen ti lyfr i mi?: Gwylie’n dod i ben
Mae hi wedi bod yn braf cael amser dros y gwylie i ddarllen, ac mae’n chwith ei weld o’n dod i ben. Dwi ’di bod yn darllen blogiau rwan ers rhyw dair mlynedd a’u mwynhau. Pob math o wahanol bynciau cofiwch, nid dim ond am lyfrau. Dwi hefyd yn cadw cofnod mewn llyfr bach o [...]
Parhau i ddarllen












