Archives: siantirdu

Storïau Tir Du: CADW neu golli?

Beth fyddai orau gennych chi ei weld mewn pentref? Capel mawr hardd yn dal 700 o bobl, galeri helaeth, gwaith coed cywrain ar y seti, y pulpud a’r sêt fawr, a’r ffenestri a’r to yn ddiddos. Ond y gynulleidfa fach wedi’i llethu gan gyfrifoldeb gofalu am yr adeilad ac yn methu symud ymlaen â’i chynlluniau [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Cyfnod toreithiog

Ro’n i ar fy ffordd i ‘ngwely neithiwr pan sylwais i ar ddau lyfr ar lawr y parlwr, Y Pla gan Wiliam Owen Roberts a’r Dŵr Mawr Llwyd gan Robin Llywelyn. Felly, yn lle cyfri defaid i fynd i gysgu, mi ddechreuais gyfri’r beirdd/awduron/dramodwyr oedd yn y coleg yn Aber yn yr un cyfnod â [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Yn oesoesoes, Amen

Mae’r blogiau ‘ma fel bysus Llundain – dim byd am fisoedd ac wedyn dau wrth gwt ei gilydd. Wrth ddarllen gwefan Ekklesia ddoe, fe ddes i ar draws postiad ar fater arall dwi wedi bod yn mwydro dipyn amdano wrth roi dillad ar lein yn ddiweddar. Mae casgliad o fudiadau wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Nadolig Llawen gan Wallace a Gromit

Ar wefan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ceir apêl gan Andrew Lenny, y Llywydd presennol. Mae’n cyfeirio at y ffaith mai lluniau’r cymeriadau digri Wallace a Gromit sydd ar stampiau Nadolig newydd y Post Brenhinol eleni ond bod stampiau â llun Mair a’r baban Iesu wedi’u rhyddhau hefyd ar gyfer y bobl sy’n dymuno’u defnyddio. Dywed [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: … yn eu gynau gwynion ac ar eu newydd wedd

Felly mae cynlluniau ar droed i ailwampio’r Orsedd. Bwriad y cynllun yw sicrhau bod pawb sy’n dod yn aelod o’r Orsedd o 2012 ymlaen yn gwneud hynny ar yr un gwastad, gan ddileu’r dosbarthiad Ofydd a Derwydd. Fe fyddai’r Gorseddigion yn dal i wisgo lliwiau gwahanol, gyda’r lliwiau’n cynrychioli arbenigedd eu cyfraniad neu’u dawn mewn [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Ydw i’n afresymol?

Rhywun dwi’n ddilyn ar Facebook neu Twitter (dwi’m yn cofio pwy a dwi’n ffaelu ffeindio’r cofnod) newydd ddweud bod ei fab wedi bod ar raglen gwis ar S4C o’r enw Diwedd y Byd. O ran myrraeth mi gliciais ar y linc i weld y rhaglen. Tîm o Lanharri oedd ‘na – tua blwyddyn 7 swn [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Cynulleidfaoedd (1)

Mae Nic Dafis yn codi pwynt difyr yn Morfablog. Yn y cofnod Bygythiad Tawelwch, mae’n cyfeirio at sioe amlgyfrwng The Threat of Silence a welodd yn Theatr Mwldan. Un peth wnaeth daro fi oedd bod teitl y darn yn uniaith Saesneg, ac er bod y testun sy’n ymddangos ar y sgrîn tu ôl i’r perfformwyr [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Gwireddu’r Addewid?

Fues i’n gweld Gwlad yr Addewid, Theatr Genedlaethol Cymru yr wythnos ddiwetha. Penderfyniad munud olaf oedd e. Do’n i ddim wedi clywed llawer o ganmol i’r cynhyrchiad ac roedd gen i lond lle o bethau eraill i’w gwneud ond wedyn, mae’n un o’r dramâu hynny dwi’n teimlo y dylwn i fod wedi’i gweld. Roedd rhyw [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Mas bob nos

Wel, ers i fi sgrifennu’r blog diwetha mae fy mywyd cymdeithasol wedi’i drawsnewid. Fues i mewn cyngerdd gyda ffrind nos Sul, yn Merched y Wawr nos Fawrth ac i weld drama gyda ffrind arall neithiwr. Ardderchog! Dydw i ddim yn or-hoff o gorau fel rheol ond pan ddywedodd Wyn Ail Symudiad ar Facebook ei fod [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Merch y Wawr?

Wel, dwi’n hanner cant a nos Fawrth nesa dwi am fynd i Merched y Wawr. Dyna fi wedi’i ddweud e! Dyw’r syniad erioed wedi apelio ata i o’r blaen ond, ar ôl ffeindio’n hunan yn siarad â’r da yn y cae, ro’n i’n gwybod ei bod hi’n bryd gwneud rhywbeth am fy mywyd cymdeithasol. Dwi’n [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Slimyn bacwn yn y sinc

Ddoe, fe ddaethon ni o hyd i ystlum gwlyb ond byw yn sinc y gegin. Roddais i e mas i sychu ac yna’i roi ar gangen coeden. Fe aeth i gilfach fach yn y goeden ac yna ddiflannu. Gobeithio’i fod e’n iawn, druan. Beth bynnag, fe gofiais mai “slimyn bacwn” roedd fy nhad yn galw [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Nôl i’r Steddfod

Dyma ragor o sylwadau am y Steddfod wrth i mi gofio: 1) Mae’r Steddfod yn job ddrud – iawn! Fel y soniais i yn y blog diwetha, mae’n costio tua £1000 i ni ac felly, fel rheol, dyma’n hunig wyliau ni (a dim ond am ddiwrnod y buodd Dafydd leni, druan!). Ond mi ydw i’n [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Steddfod Glyn Ebwy

Wel, dyna’r Steddfod drosodd. Fe wnes i fwynhau’n hunan yn ofnadwy – Eisteddfod gynnes braf. Ro’n i wedi gwneud amserlen amryliw lamineiddiedig unwaith eto, ac felly fe lwyddais i fynd i’r rhan fwyaf o bethau oedd o ddiddordeb i mi. Mae BlogMenai wedi sôn yn ddigon difyr am y Steddfod yma. Dwi’n meddwl ei fod [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Yncl yn Seren?

Mi fues i mewn angladd bore ‘ma – angladd hen ŵr oedd wedi marw ar ôl oes faith ac iach. Roedd yn aelod ffyddlon yn ei gapel ac yno roedd yr angladd o dan ofal gweinidog. Roedd ‘na blant bach yn y gwasanaeth a dyma’r gweinidog yn troi atyn nhw ac yn dweud “Heno, pan [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Fyddwch chi’n pleidleisio dros Plaid?

Mae Plaid Cymru wedi mynd o un eitha i’r llall. Beth amser yn ôl, roedden nhw’n mynnu eu galw’u hunain yn “Plaid Cymru The Party of Wales” bob gafael. Heb sôn am y ffaith ei fod yn ddiangen ac yn amlwg yn mynd i ennyn gwawd, roedd hyn yn llafurus dros ben. “Pleidleisiwch dros Plaid [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Yfed coffi mewn caffis yn Berlin

Un cartrefol yw fy ngŵr. Roedd hi’n dipyn o gamp ei berswadio i ddod gyda mi i Iwerddon ar ein mis mêl. Ar wahân i ddwy noson yn Belfast dair blynedd yn ôl (a Steddfod), bu ein gwyliau’n gyfyngedig i ambell noson mewn llefydd fel Aberystwyth neu Landudno neu gyda ffrindiau yn Nyfed. Felly doedd [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Oes ‘na jans am jainîs?

Mae’r sain j wedi hen ennill ei phlwyf yn y Gymraeg – er bod rhai pobl yn gyndyn o’i derbyn. (Fe fues i mewn dadl ynghylch hyn ar ForumWales beth amser yn ôl ond, gwaetha’r modd, alla i ddim dod o hyd i’r cofnod). Dyma sydd gan yr Ieithgi i’w ddweud ar wefan y BBC. [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Seiat Holi

Cofiwch am hwn nos fory – neu heno os mai dydd Llun yw hi. Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Dynion canol oed yn cael cam?

Ro’n i wedi meddwl cyhoeddi fy ‘rhestr hir’ i ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2010 cyn i’r un swyddogol gael ei chyhoeddi ond gan ein bod yn sownd yn Berlin, ches i ddim cyfle. Beth bynnag dyma hi (wel, 11): Nofelau Jon Gower, Dala’r Llanw, Gomer Manon Steffan Ros, Fel Aderyn, Y Lolfa Fflur Dafydd, [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Mynd ar y galifánt i gael bwyd ffein

Mae’r sôn am “fferins” wedi fy atgoffa i o edefyn difyr ar maes-e slawer dydd lle’r oedd pobl yn sôn am eiriau Cymraeg a gafodd eu benthyg o’r Saesneg ond sydd erbyn hyn naill ai’n golygu rhywbeth gwahanol i’r gair Saesneg gwreiddiol neu bod y Saeson wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio’r gair hwnnw. Dyma rai [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Ddylen ni roi sosej a chips i ddysgwyr?

Dwi’n hoff iawn o Flog yr Hogyn o Rachub – er nad oes gen i syniad pwy yw’r Hogyn ac er nad yw ei arddull ffug-fawreddog yn taro deuddeg bob tro. Dwi’n meddwl swn i’n licio’r Hogyn swn i’n cwrdd ag e. Mi gododd bwynt difyr yn ei flog yr wythnos ddiwetha – y defnydd [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Radio Cymru – Radio Pwy?

Wel, dw i ddim wedi blogio ers slawer dydd. A dweud y gwir, dw i ddim wedi gwneud llawer o ddim – ond gweithio – ddydd a nos. Dim ond trwy’r ffenest dw i wedi gweld y môr ers mis Tachwedd. Dda ‘mod i’n mwynhau ‘ngwaith! Beth bynnag, ynghanol yr holl waith, fe ges i [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Dyddiau’r Eisteddfod Fach ar Ben?

Fe ddechreues i sgrifennu’r darn yma fel blog beth amser yn ôl. Wedyn fe welais i bod cystadleuaeth ‘Sgrifennu erthygl am unrhyw sefydliad’ yn Eisteddfod Chwilog ac fe wnes i ei addasu ar gyfer honno. Ar ôl i mi sgrifennu’r rhan fwyaf ohoni, fe welais i erthygl ar yr union bwnc gan Karen Owen yn [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Caeth i ‘gaeth’

All rhywun plîs ddweud wrtha i pam mae rhywun, yn rhywle, wedi penderfynu dysgu ‘caeth’ i ddysgwyr – 3ydd person, unigol, gorffennol, ‘cael’. Dyw e ddim fel tysen ni’n brin o ffurfiau Cymraeg, dilys, naturiol – cafodd, cadd, cath, cas, cæth. Dw i’n deall sut mae’r peth wedi codi. Yn wir, dw i’n cofio cael [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Gormod o ddieithriaid sinistr?

Ym myd y ddrama, dw i’n gwybod bod cyflwyno rhywun o’r tu allan yn ddyfais handi i gael pobl i edrych ar eu hunain mewn ffordd wahanol, wynebu’r gwir ac ati, ond tybed a ydi hi’n ddyfais sy’n cael ei gorddefnyddio? Cafodd ei wneud yn arbennig o wael yn Tyner yw’r Lleuad Heno yn ddiweddar. [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Cymry Cymraeg yn fwy celwyddog?

Yr wythnos ddiwetha, fe welais eitem ar Golwg360 o dan y teitl ‘Cymry Cymraeg yn fwy crefyddol‘. Roedd yn dweud bod arolwg a gafodd ei gomisiynu gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi canfod bod “Cymry Cymraeg yn fwy tebygol o fod yn grefyddol na’r Cymry di-Gymraeg”. Roedd Beaufort Research, meddid, wedi holi 1,009 o oedolion ar [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Derec sy’n Iawn

Nadolig Llawen! Dw i braidd yn flin! Yn Steddfod Caerdydd y llynedd, fues i mewn sesiwn yn y Babell Lên lle’r oedd Emyr Lewis yn holi Wil Garn a Geraint Lewis am nofelau oedd ganddyn nhw ar y gweill. Roedd hi’n sesiwn arbennig o ddifyr ac ro’n i’n edrych ymlaen at ddarllen y ddwy nofel, [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Denu cymar i Drefor

Neithiwr, fe fues i mewn Gwasanaeth Nadolig yng Nghanolfan Trefor. Roedd plant yr ysgol gynradd yn cymryd rhan ac roedden nhw’n ardderchog – gwasanaeth graenus iawn. Mae’r plant wedi arfer cymryd rhan mewn bore coffi cymunedol bob mis ac mae hynny’n sicr yn lles i’w hyder nhw wrth gymryd rhan yn gyhoeddus. Un peth wnaeth [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Llythyr agored at Carwyn Jones #2

Wrth fy nghroesawu i fyd y blogiau ar blogmenai, soniodd yr awdur am flog Guto a holi “Tybed os mai dyma’r unig esiampl o fam a mab yn blogio trwy gyfrwng y Gymraeg? Mi gymrwn i fet go lew ar hynny. Mi fydd hi’n ddiddorol edrych os fyddan nhw’n cymryd yr un lein ar faterion [...] Parhau i ddarllen

Storïau Tir Du: Achub cam yr amhersonol

Yn ddiweddar, dechreuodd rhywun edefyn o dan y teitl “pucker Welsh” ar ForumWales yn cwyno bod y Gymraeg wedi mynd yn anodd ei deall.  Un o Fôn ydoedd ond bu’n byw yn Lloegr am flynyddoedd cyn dychwelyd i’r Ynys i fyw.
Ei gwyn oedd na allai ddeall Cymraeg cyhoeddus.  Bu mewn darlith ar hanes capeli, meddai, [...] Parhau i ddarllen