Archives: Sioned Mills

Hacio'r Iaith: Haclediad 63: Drive By Sextoy Hack-lediad

Ar yr Haclediad diweddaraf bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod Freakouts Algorythmic Peppa Pinc, hacio teclynnau rhyw, Haciaith 2018 ac adolygiad S4C – llwythi mwy doniol na mae’n swnio, addo! Mae’r afterparty yn llawn pop-culture, Netflix a sut bo iPhone X yn costio mwy na rhent. Plus, mae’r A-Gin-Da arbennig o dda mis ‘ma. […]

The post Haclediad 63: Drive By Sextoy Hack-lediad appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 62: iOS gafr eto?

Mae criw’r haclediad yn dychwelyd i tech o’r diwedd! Llwyth o stwff sgleiniog Silicon Valley, Zuckerberg yn agor y bocs ac oes pwynt mewn gajets o gwbl? Arhoswch am yr after party am yr Iest Rhest a llwythi mwy! Dolenni iPhone 8 review: so this is what good battery life feels like | Technology | […]

The post Haclediad 62: iOS gafr eto? appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 61: Social Justice Warriars

Mae’r hydref yma, mae’n amser prynu shares mewn carthenni a pumpkin lattes… a cwtsho lan gyda’r Haclediad am awr fach. Heno ar y sioe bydd Bryn, Sions a Iestyn yn trafod swigen confirmation bias Cymraeg, sut i ymladd carnage carnifal, ac yn recordio’r holl beth cyn cyhoeddiadau Apple am yr iPhone X ac 8, soz. […]

The post Haclediad 61: Social Justice Warriars appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 60: Buspass Nains

Llwythwch eich podfachwyr gyda’n rhifyn diweddaraf a joiwch yr haf! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod Hansh a Nation.cymru, cops a bychs arlein a pha mor hawdd ydi hi i fynd yn gaeth i scrolls diddiwedd. Hyn i gyd a llwyth o falu awyr, fydd digon i greu awel oer neis ar eich gwyliau. […]

The post Haclediad 60: Buspass Nains appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 59: Bryn on the Thunder

Ym mhennod danbaid 59 bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn taclo Google i/o, yr Echo Show ac SOS yr NHS mewn tameidiau taclus o 10 munud (efo larwm newydd ‘fyd!). Ar ôl y gwychrwydd cwic-fire yna, bydd crwydrsgwrs draddodiadol am unrhyw beth arall sy’n popio mewn i’n pennau, E-readers yn y bath a BrynBlin™. Joiwch, […]

The post Haclediad 59: Bryn on the Thunder appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 58: Spring Breykjavik

Y tro yma ar dy hoff bodlediad nerdaidd – mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio cadw’r newyddion i 10 munud y pop, mewn ymgais anhygoel i gael strwythur i’r sioe.

The post Haclediad 58: Spring Breykjavik appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 57: Yr Hashnods Perthnasol

Ym mhennod ddiweddaraf yr Haclediad bydd y Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut gall yr hashnods cywir ddileu terfysgaeth, pam mai dal dim ond bŵz siomedig sydd gan Sioned, Brwydr y Barfau a holi faint o turn on yw’r Switch. Ymunwch â nhw am awr o farn heb ymchwil na gwybodaeth, falle fydd o’n […]

The post Haclediad 57: Yr Hashnods Perthnasol appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: 56: Bŵz rhad a Nokias anfarwol

Ym mhennod yma stori epic trawsnewidiad yr Haclediad o raglen tech i raglen gwirod a nostalgia; ry’n ni’n edrych ar y Nokia 3310, sy’ wedi ei atgyfodi, yn galaru am wasanaethau Google sy’n sicr ddim, ac yn chwennychu am Nintendo Switch, iei! Hyn i gyd a llwyth o sgwrsio, rhegfeydd a barn heb wybodaeth, yn […]

The post 56: Bŵz rhad a Nokias anfarwol appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: 55: Nerdageddon yn Hacio’r Iaith 2017

Unwaith y flwyddyn mae nerds tech-ieithyddol Cymru yn cwrdd fyny mewn digwyddiad brawychus fel the Purge… Ond yn lwcus iawn nid dyna oedd Hacio’r Iaith 2017, mae’r purge wythnos nesa. Ymunwch â Sions, Bryn a Iestyn yn fyw ar leoliad o riviera trofannol Bangor! Ffansi gadael i ni wybod os chi’n joio? Gadewch review i […]

The post 55: Nerdageddon yn Hacio’r Iaith 2017 appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: 54: Minilediad Hacio’r Iaith 2017

Yn nhraddodiad yr englyn, yr haiku a’r cwpled, ni’n dod â chywasgiad creadigol byr a bachog* o’r Haclediad i chi cyn digwyddiad Hacio’r Iaith eleni. Byddwn ni’n chwipio trwy ben-blwydd yr iPhone yn 10, a mwy o newyddion, cyn rhoi syniad i chi o be fydd i’w weld yn Pontio, Bangor ar Ionawr yr 21ain […]

The post 54: Minilediad Hacio’r Iaith 2017 appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 52: Oi! Chdi! Teclyn!

Tro yma ar yr Haclediad – mae’r Iest test nôl! Siarad am bylbs brilliant Phillips Hue. ‘Da ni hefyd nôl gyda’r home helpers digidol, Alexa o Amazon tro yma, plygwn ni’n clustiau at BBC Radio Cymru Mwy ac o bosib anfon y Cymro cyntaf i’r blaned goch gyda SpaceX. Hefyd, rhestri hirfaith o stwff gwych […]

The post Haclediad 52: Oi! Chdi! Teclyn! appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 51: Parti Haf

Mae’r criw yn cymryd bach o hoe o fyd cymhleth tech am y rhifyn yma, ar feib hafaidd byddwn yn gwrando ar tiwns trwy Apton, a syllu’n gegrwth ar No Man’s Sky. Bydd lwyth o sgwrsio am y Iest Rhest(r) o’r holl Netflix/Amazon Prime/Ffilms ‘da ni heb gael siawns i wylio, ac wrth gwrs, trafodaeth […]

The post Haclediad 51: Parti Haf appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 50 – Canol Oed

Croeso i bennod restrospectif (a hyd yn oed mwy random nac arfer) arbennig o’r Haclediad yn dathlu cyhoeddi ein hanner canfed podlediad. Bydd Bryn, Sioned ac Iestyn yn mynd a chi nôl trwy’r archif, ond yn trafod stwff heddiw hefyd fel bwtler Google, Android pay a minimaliaeth. Diolch enfawr i chi gyd am wrando dros […]

The post Haclediad 50 – Canol Oed appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 49: Haciaith 2016

Mentrodd 66% o griw’r Haclediad i ddigwyddiad byw Hacio’r Iaith 2016 yng Nghaerdydd – ar cyfan gewch chi di’r podlediad ma! Buodd Bryn a Sioned yn cyfweld creawdwyr Macsen, llais AI cynta’ Gymraeg, yn ogystal â bwyta llawer gormod o Jelly Babies…

The post Haclediad 49: Haciaith 2016 appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 48: OMB Haclediad arall syth bin!

Haclediad newydd i’ch clustiau mewn llai na 6 mis? Be sydd, yn wir, haru ni? Tro yma bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod iPhones newydd (dyna sioc), Apple yn 40, rhwydwaith cymdeithasol kawaii ru hwnt newydd Nintendo, pa hawl sgen yr FBI i’ch gwybodaeth chi a cheir widawiw Tesla. Hyn oll a mwy yn […]

The post Haclediad 48: OMB Haclediad arall syth bin! appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 47: Hwyr fel Hywel yr Hwyaden Hap

Ar Haclediad cynta’r flwyddyn bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn busnesa yn sioe tech CES, yn clywed mwy am Bryn ar y radio, snarkio am Snapchat a phendroni am BT Openreach (mwy diddorol nac y mae’n swnio, addo!). Fel pob rhifyn arall byddwn yn pigo’r gorau o straeon tech y mis ac yn hedfan off […]

The post Haclediad 47: Hwyr fel Hywel yr Hwyaden Hap appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 46: Ho-Ho-Hollol Nadoligaidd

Croeso i Sioe ho-ho-hollol Nadoligaidd yr Haclediad – tro yma byddwn yn taflu’r sgript mas trwy’r ffenest ac yn holi’n daer ar Siôn Corn am anrhegion tech sgleiniog, pethau newydd i’w chwarae â nhw, a heddwch ar ddaear lawr (yn amgz). Felly dowch, tiwniwch mewn a byddwch lawen, mae Bryn, Iestyn a Sions yn dymuno […]

The post Haclediad 46: Ho-Ho-Hollol Nadoligaidd appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: App Pacca Alpaca – Ap Ieithoedd Rhyngwladol yn ychwanegu’r Gymraeg

Mae’r cynhyrchwyr apiau Arabeg, Anamil tech wedi ychwanegu’r Gymraeg i’w app dysgu ieithoedd sylfaenol, a hynny heb ariannu cyhoeddus, ond fel menter fasnachol. Mae cefndir app Pacca Alpaca yn hynod ddiddorol – cwmni o’r dwyrain canol sydd wedi creu app cefnogi mamiaith yn gyntaf, wnaeth esblygu’n app geirfa syml i rieni gyflwyno ieithoedd newydd i’w plant. […]

The post App Pacca Alpaca – Ap Ieithoedd Rhyngwladol yn ychwanegu’r Gymraeg appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 45: Siarad Siarad, cofio hen ffrindiau a Duolingo

Yn rhifyn mis Tachwedd bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn sgwrsio am ddiogelwch Talk Talk, yn codi gwydraid i gofio Telsa Gwynne ac yn clymu eu tafodau rownd Duolingo yn y Gymraeg. Hyn i gyd a llwyth o sangiadau a tangiadau off i lwyth o lefydd diddorol (a lot o drafod pa mor enwog di’r […]

The post Haclediad 45: Siarad Siarad, cofio hen ffrindiau a Duolingo appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 44 – Premiere Tymor 3: Dychwelyd i’r byd a Bionic Bryn

Ydy, mae hi wedi bod yn rhy hir, mae’r Haclediad yma wedi hiatus hafaidd hir. Wedi damwain Bionic Bryn, mae’r criw nôl yn dod â’r diweddaraf o fyd tech i’ch clustiau, gyda’r gymysgedd arferol o fwydro a chabinet diodydd llawn. Tro ’ma bydd popeth o deganau sgleiniog newydd Apple i sinema 3D a cheir clyfar […]

The post Haclediad 44 – Premiere Tymor 3: Dychwelyd i’r byd a Bionic Bryn appeared first on Hacio’r Iaith.

Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 43 — Cwcio ar Gas

Yn yr Haclediad diweddaraf byddwn yn gadael i Google weld ein heneidiau wrth ddefnyddio Google Photos newydd, yn cynhyrfu dros gynhadledd datblygwyr byd-eang Apple (trïwch ddeud hynna efo llond ceg o uwd); yna’n yn myned i fyd y rants llyfrau digidol (eto) wrth ddarganfod nad yw llyfr Cymraeg y flwyddyn ar gael mewn fersiwn digidol. […] Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 42 – Minilediad Haciaith 2015

Rhifyn byr a bachog o’r Haclediad sydd i’w gael y mis hwn, wedi i’r ffliw daro Iestyn, bydd Bryn a Sioned yn mentro i gwblhau podlediad mewn amser record Byd! Bydd sôn am Haciaith ’15 ym Mangor a llwyth o fwydro amserol technolegol – mwynhewch! Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad 41 — detox, pa ddetox?

Croeso i Haclediad cyntaf eleni! Mae Ionawr yn amser i iacháu’r meddwl a chorff… neu i gario mlaen yn union fel oeddech chi, hwre! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn eich tywys yn gyfforddus mewn i 2015 wrth drafod cynlluniau brawychus y llywodraeth i fynnu gallu dad-gryptio pob neges anfonwn ni o hyn mlaen (iaics), […] Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad #40 — Bywyd yn dechrau yn Ddeugain!

Ydan, ry’n ni wedi cyrraedd 40 rhifyn o’r Haclediad — diolch am sticio efo ni! Yn y bennod hyd-yn-oed-llai-ffurfiol nac arfer bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dathlu pedair blynedd o’u hoff dechnoleg, DDIM yn trafod ‘bendgate’ yr iPhone 6 a thrio deall os yw Windows wedi anghofio sut i gyfri wrth fynd yn syth […] Parhau i ddarllen

Hacio'r Iaith: Haclediad #39 – Cacen Sali Mali, Hack(en) Bryn Salisbury a mwy o Nest Test Iest

Croeso i rifyn 39 (bron y 4-0 fawr) o’r Haclediad – byddwn ni’n trafod syniadau Cymdeithas yr Iaith am ariannu darlledwr amlgyfrwng newydd i Gymru, e-lyfrau plant Cymraeg yn dod i iBooks, Bryn yn hacio weiars a checkio nôl mewn gyda system reoli tŷ Iestyn wrth i’r tywydd oeri. Joiwch, a chofiwch, sdim sôn am […] Parhau i ddarllen