Archives: Tao Sôn

Tao Sôn: Jung a’r Gwneuthurwr Glaw

Munud i Feddwl (23/5/17)Yn ystod ail hanner ei fywyd mi
ddaeth Carl Jung, y seiciatrydd a’r awdur… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Maddeuant

(Munud I Feddwl 16/5/17)Fe bostiodd rhywun ddyfyniad ar
fy nhudalen Facebook rhyw flwyddyn neu ddwy… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Cudd Fy Meiau

(Munud i Feddwl 9/5/2017)Mae’n draddodiad, neu’n fformiwla
efallai, i raglenni ditectifs poblogaidd… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Cofleidio Diffyg Uchelgais

Munud i Feddwl 2/5/2017O edrych yn ôl dros hanes y
ddynolryw gellid dadlau mai’r hyn fu tu ôl i’r… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Creu Miliwno Siaradwyr Cymraeg

 Ymateb Popeth Cymraeg Cyf. i arolwg y
Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu o rôl Addysg yn… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Creu Miliwno Siaradwyr Cymraeg

 Ymateb Popeth Cymraeg Cyf. i arolwg y
Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu o rôl Addysg yn… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Erlid Falun Gong

(Munud i Feddwl 30/9/16)Un o’m hobïau i yw casglu
testunau rhyddiaith Cymraeg Canol a chyfnod Y… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Erlid Falun Gong

(Munud i Feddwl 30/9/16)Un o’m hobïau i yw casglu
testunau rhyddiaith Cymraeg Canol a chyfnod Y… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Disgyn i’r Achlysur

(Munud i Feddwl 23/9/2016)Pan ôn i ar awyren i Norwy
ychydig flynyddoedd yn ôl darllenes i erthygl… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Disgyn i’r Achlysur

(Munud i Feddwl 23/9/2016)Pan ôn i ar awyren i Norwy
ychydig flynyddoedd yn ôl darllenes i erthygl… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Yr Economi Farwolaeth

(Munud I Feddwl 16/9/16)Mae gynna i ffrind da iawn o Loegr sydd i mewn i bob math o
bethau Oes… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Yr Economi Farwolaeth

(Munud I Feddwl 16/9/16)Mae gynna i ffrind da iawn o Loegr sydd i mewn i bob math o
bethau Oes… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Yr Hen a Ŵyr a’r Ifanc a Dybia

(Munud i Feddwl 9/9/16)Fel rhywun sydd yn nesu bellach at y trigain, sy’n rhiant i
dri oedolyn ifanc… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Yr Hen a Ŵyr a’r Ifanc a Dybia

(Munud i Feddwl 9/9/16)Fel rhywun sydd yn nesu bellach at y trigain, sy’n rhiant i
dri oedolyn ifanc… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Pragmatiaeth

(Munud i Feddwl 2/9/16)

Yn hanesyddol mae crefyddau Monotheistaidd y gorllewin wedi
rhoi pwyslais… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Pragmatiaeth

(Munud i Feddwl 2/9/16)

Yn hanesyddol mae crefyddau Monotheistaidd y gorllewin wedi
rhoi pwyslais… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Cynhyrchu a Darlledu

(Munud i Feddwl 3/7/15) Ar lawr gwaelod Canolfan Iaith Clwyd yn Ninbych mae’na amgueddfa o’r
enw… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Cynhyrchu a Darlledu

(Munud i Feddwl 3/7/15) Ar lawr gwaelod Canolfan Iaith Clwyd yn Ninbych mae’na amgueddfa o’r
enw… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: No Thyself

David Edwards Hughes Memorial Lecture. Gwefr Heb Wifrau / Wireless in Wales delivered at Canolfan… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: No Thyself

David Edwards Hughes Memorial Lecture. Gwefr Heb Wifrau / Wireless in Wales delivered at Canolfan… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Ewyllys Rhydd

(Munud i Feddwl 29/1/2016)Mae gramadeg Y Gymraeg a’r Saesneg yn wahanol iawn, yn bennaf oherwydd… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Ewyllys Rhydd

(Munud i Feddwl 29/1/2016)Mae gramadeg Y Gymraeg a’r Saesneg yn wahanol iawn, yn bennaf oherwydd… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Cydweithrededd a Chyfalafiaeth

Dameg Nefoedd ac Uffern – Trigolion y nefoedd yn disychedu’i gilydd gyda llwyau hirion.  Trigolion… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Cydweithrededd a Chyfalafiaeth

Dameg Nefoedd ac Uffern – Trigolion y nefoedd yn disychedu’i gilydd gyda llwyau hirion.  Trigolion… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Chwarae Gêm Brydferth

Pelé a Nelson Mandela, dau chwaraewr prydferth(Munud i Feddwl Ioanwr 15fed)Nôl yn nhridegau’r ganrif… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Chwarae Gêm Brydferth

Pelé a Nelson Mandela, dau chwaraewr prydferth(Munud i Feddwl Ioanwr 15fed)Nôl yn nhridegau’r ganrif… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Dychmygu a Chredu

(Munud i Feddwl Ionawr 8fed 2016)Yn Sapiens, A Brief History of Humankind, mae’r hanesydd Yuval Noah… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Dychmygu a Chredu

(Munud i Feddwl Ionawr 8fed 2016)Yn Sapiens, A Brief History of Humankind, mae’r hanesydd Yuval Noah… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Beti a’i Phobl

Mae llawer o’r themâu dw i’n eu gwyntyllu ar y wefan hon yn cael eu trafod hefyd yn ystod y sgwrs a gefais gyda Beti George ar gyfer ei rhaglen.

http://www.bbc.co.uk/programmes/b01sh0fy

Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Beti a’i Phobl

Mae llawer o’r themâu dw i’n eu gwyntyllu ar y wefan hon yn cael eu trafod hefyd yn ystod y sgwrs a… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Y Grym a fo Gyda Chwi

Darllen y rhain ti sydd raid(Munud i Feddwl 31/7/15)Ddydd Sadwrn diwethaf, mewn galaeth bell, bell i… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Y Grym a fo Gyda Chwi

Darllen y rhain ti sydd raid

(Munud i Feddwl 31/7/15)

Ddydd Sadwrn diwethaf, mewn galaeth bell, bell i ffwrdd (sef Comic-Con Manceinion) wnes i weld nifer go dda o zombies, Doctoriaid Who, arwyr a dihirod o gomics megis Batman a Joker, llu o gymeriadau ffantasi eraill ac, wrth gwrs, Darth Vader, catrawd o Storm Troopers a nifer o Jedi o’r ffilmiau Star Wars.

 Mae gan wahanol fathau o gomics a ffilmiau eu dilynwyr brwd ond, hyd y gwn i, Star Wars yw’r unig stori ffantasi adloniannol sydd wedi esgor ar grefydd go iawn allan yn y byd go iawn.  Yn ôl cyfrifiad 2011 roedd tua 200,000 o Jedi yn y Deyrnas Gyfunol a chanran uchel ohonyn nhw yng Ngheredigion.  

Mae’n debyg mai protest yn erbyn cofnodi daliadau crefyddol mewn cyfrifiadau swyddogol oedd wrth wraidd y ffenomenwm.   Wedi dweud hynny dyw hi ddim yn syndod fod crefydd y Jedi wedi taro tant gyda chynifer o bobl gan fod George Lucas wedi llunio stori Star Wars dan ddylanwad Joseph Campbell, yr arbenigwr ar grefyddau a mytholegau bydeang ac awdur The Hero With  a Thousand Faces.  Un o ddywediadau enwog Joseph Campbell oedd “All religions are true, but none are literal.”  Mewn un ystyr, felly, mae stori Star Wars a chrefydd y Jedi yr un mor alegorïol wir ag unrhyw grefydd arall.

Un o’r cysyniadau canolog yn y ffilm oedd ochr olau ac ochr dywyll y ‘Grym’ bondigrybwyll hwnnw sydd, meddir, yn hydreiddio trwy bob dim ac sy’n sail i’r bydysawd.  Fel alegori mae’n gysyniad pwerus gan ei fod yn tanlinellu gwirionedd sylfaenol iawn, sef fod gan bob un ohonom ei ochr dywyll, ei gysgod (chwedl Jung).  Heb ei fai, heb ei eni.  Ac o edrych ar hanes y ddynolryw dros y canrifoedd pwy all wadu nad ydym fel unigolion a rhywogaeth yn aml iawn wedi croesi drosodd yn llwyr i’r ochr dywyll.

Ond boed i bob un ohonom am heddiw, o leiaf, mewn meddwl, gair a gweithred, lwyddo i ymwrthod â’r temtasiwn i groesi drosodd i’r ochr dywyll.  Bore da …….. a’r Grym a fo gyda chwi.

Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Dŵr

(Munud i Feddwl 24/7/15)Mae’r gwyddonwyr sy’n chwilio’r gofod am blandedau neu leuadau a allai fod… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Dŵr

(Munud i Feddwl 24/7/15)

Mae’r gwyddonwyr sy’n chwilio’r gofod am blandedau neu leuadau a allai fod yn gartref addas ar gyfer bywyd i gyd yn gytun ar un peth.  Er mwyn cael bywyd datblygedig, cymhleth mae presenoldeb dŵr yn ei stâd hylifol yn amod angenrheidiol.

Bron i ugain mlynedd yn ôl darllenes i lyfr cymharol fychan a ddylanwadodd yn fawr iawn ar gwrs fy mywyd byth ers hynny.  Enw’r llyfr oed Tao, the Watercourse Way, llyfr olaf yr athronydd Alan Watts a oedd, fel mae’r teitl yn ei awgrymu, yn trafod Taoistiaeth, y gredo a’r ddisgyblaeth unigryw honno a ddatblygodd yn Tseina dros ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn ôl.

Prif nod Taoistiaid yw byw bywyd naturiol dda, yn rhydd o bob ystyrw dynol.  O wneud hynny, meddir, bydd pobl yn mynd gyda graen bywyd, yn dilyn y Tao, yr egwyddor llywodraethol sy’n hydreiddio ac yn llifo trwy’r holl greadigaeth.  A’r delfryd i’w efelychu ym mhob dim yw dŵr. 

“Mae’r daioni pennaf yn ymdebygu i ddŵr” medd Lao Tzu, awdur y Tao Te Ching.  Mae dŵr yn disychedu’r holl greadigaeth yn ddiwahan ac yn ddiragfarn.  Y da a’r drygionus, y cyfoethog a’r tlawd.  A heb ddisgwyl unrhyw glod am wneud hynny.  Nid yw’n anelu am yr uchelfannau.  Yn ostyngedig, mae’n well ganddo’r iselfannau.   Mae dŵr yn feddal a’i natur yw ildio.  Ond mae dŵr hefyd yn rymus eithriadol; gall dorri’i gwys  trwy greigiau a mynyddoedd.  Mae dŵr yn ystwyth, gall lifo i’r naill gyfeiriad neu’r llall yn ôl y galw a darganfod y trywydd gorau.  Dyw dŵr byth yn cystadlu’n fwriadol.  Oherwydd hynny ni ellir byth ei drechu.

Os ydym, felly, am fod yn “true to nature” chwedl Will Bryan  (ein gwir natur, hynny yw, nid yr haen arwynebol sy’n weladwy i’r byd) cyngor y Taoisitiaid yw i ni efelychu’r nentydd a’r afonydd sy’n llifo ar i waered ar eu ffordd i’r môr.

Nant Y Mynydd, groyw loyw
Yn ymdroelli tua’r pant
Rhwng y brwyn yn sisial ganu
O na bawn i fel y nant.

Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Disgynyddion

(Munud i Feddwl 17-7-15)Hysbys y dengys y dyn o ba radd y bo’i wreiddynPan ôn i’n 11 wnes i ddisgyn… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Disgynyddion

image

(Munud i Feddwl 17-7-15)

Hysbys y dengys y dyn
o ba radd y bo’i wreiddyn

Pan ôn i’n 11 wnes i ddisgyn o ben coeden a dal fy ngwyneb mewn gwifren bigog ar y ffordd i lawr.  Mae dal gen i ryw gysgod craith o hyd o dan fy llygad chwith i gofio’r achlysur. 

Mewn ffordd o siarad, wrth gwrs, dyn ni i gyd wedi disgyn o ben coed gan ein bod ni’n perthyn i linach  o epaod oedd yn byw fry ymysg y canghennau ryw 7 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Oherwydd dylanwad Cristnogaeth, Iddewiaeth ac Islam, fodd bynnag,  mae tueddiad yma’n y gorllewin i gredu ein bod ni, fodau dynol, er gwaethaf ein tras, yn wahanol, rywsut, i weddill ein cefndryd anifeilaidd – a hynny nid o ran gradd ond o ran ein hanfod.  Yn wahanol iddyn nhw, meddir, mae gynnon ni eneidiau.  
Dyw’r gred hon ddim yn bodoli ymysg dilynwyr crefyddau dwyreiniol megis Hindwiaeth a Bwdistiaeth gan eu bod nhw’n credu mewn ailymgnawdoliad.  Yn gynyddol hefyd, ers cyfnod Darwin, dyw hi ddim chwaith yn rhan o’r meddylfryd gwyddonol modern.

Gan ein bod yn gwybod bellach mai esblygiad graddol dros gyfnod hir o amser fu’n gyfrifol am ymddangosiad homo habilis, homo erectus, homo ergaster, homo habilis nes cyrraedd homo sapiens sapiens mae’n deg holi pryd, os digwyddodd hynny o gwbl, y trodd ein cyndeidiau anifeilaidd yn fodau dynol oedd yn berchen ar eneidiau.  Ble oedd y ffin?  A beth am y rhywogaethau eraill o homo a gydoesodd (ac a gydepiliodd) gyda ni yma yn Ewrop ryw ddeugain mil o flynyddoedd yn ôl.  A oedd ganddyn nhw eneidiau?  A oedden nhw’n wahanol i ni o ran eu hanfod neu mater o radd oedd hi?

Mae myrdd o astudiaethau gwyddonol yn dangos bellach fod llawer o’r nodweddion dyn ni’n eu hystyried yn rhai dynol i’w cael ymysg anifeiliad – caredigrwydd, galar, swildod, cenfigen, Maciafeliaeth, altrwistiaeth a hyd yn oed synnwyr digrifwch.   Allwn ni fod yn gwbl sicr, felly, ein bod ni fel rhywogaeth yn wahanol i weddill ein cefndryd anifeilaidd – nid o ran gradd ond o ran ein hanfod?  

Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Chwedleua

(Munud i Feddwl 10/7/15)Roedd ochr fy nhad o’r teulu’n hanu o waelod Cwm Tawe ond doedden nhw ddim… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Chwedleua

(Munud i Feddwl 10/7/15)

Roedd ochr fy nhad o’r teulu’n hanu o waelod Cwm Tawe ond doedden nhw ddim yn siarad Cymraeg.   Roedden nhw, fodd bynnag, yn gallu Wilia Cwmrâg. Yng Nghwm Tawe Wilia (sy’n deillio o’r hen ffurf chwedleua) oedd y gair a ddefnyddid fel arfer i olygu siarad.  Mae’r gair yn cyplysu’r weithred o ddefyddio iaith â’r broses o adrodd stori.  Mae’r un peth wedi digwydd hefyd gyda’r ferf parablu sy’n gysylltiedig a’r Saesneg Parable a’r Sbaeneg Palabra.

Yn ôl rhai ieithyddion mae siarad iaith yn gynneddf sydd yr un mor naturiol i ni, fodau dynol, ag yw nofio i greaduriaid y môr.  Yn yr un modd mae’n debyg fod chwedleua, yn yr ystyr o gynhyrchu straeon, hefyd yn gynneddf naturiol.
Yn wreiddiol byddai pobl yn creu straeon i esbonio pam fod rhai pethau’n digwydd, pam fod rhai pobl yn ymddwyn fel ag y maen nhw ac i gynnig arweiniad ar sut i fyw a goroesi mewn byd anwadal, peryglus.  Yn y bôn roedd straeon yn cynnig rhyw fath o sicrwydd i ni.  Mae chwedlau llwythol, crefyddau mawrion a damcaniaethau gwyddonol i gyd yn deillio yn y bôn o’r angen greddfol hwn i esbonio a chreu sicrwydd.

Y broblem yw bod ein cynneddf ystrïol yn ein gyrru i geisio esbonio pethau nad ydym wastad yn eu deall.  Golyga hyn bod ein storïau esboniadol, yn aml, yn gyfeiliornus ac angen eu trawsnewid.  Yn anffodus, unwaith y byddwn wedi buddsoddi’n emosiynol ynddyn nhw rydym yn gyndyn iawn o wneud hynny. 

Dyna sydd wrth wraidd ffwndamentaliaeth eithafol o bob math, boed hynny’n ffwndamentaliaeth grefyddol, wleidyddol neu wyddonol.  Aberthu’r broses barhaol o gwestiynu di-ddiwedd yn dâl am sicrwydd gorffenedig, digyfnewid.

Wrth derfynu hyn o lith y bore’ma, felly, gwell i mi ochel rhag dod i unrhyw gasgliad cadarn.  Ys dywedodd yr awdur Americanaidd Dan Chaon “A conclusion is simply the place where you got tired of thinking.”

Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Cynhyrchu a Darlledu (Munud i Feddwl 3/7/15)Ar lawr gwaelod…

Cynhyrchu a Darlledu (Munud i Feddwl 3/7/15)

Ar lawr gwaelod Canolfan Iaith Clwyd yn Ninbych mae’na amgueddfa o’r enw Gwefr Heb Wifrau, sef casgliad diddorol o hen radios.  Mae’r mwyafrif ohonyn nhw’n dal i weithio a phetaen ni’n troi un ymlaen gallem diwnio i mewn i fyrdd o orsafoedd o bob cwr o’r byd a gwrando ar amrywiaeth o raglenni.  Gallem glywed llifeiriant o fonologau a sgyrsiau, dadleuon tanbaid, pwt o gerddoriaeth, ailddarllediadau, malu awyr, dramâu gafaelgar a llawer mwy a hynny mewn myrdd o ieithoedd.  Nid y radio ei hun fyddai’n cynhyrchu’r eitemau hyn, wrth gwrs.  Mae’r rheiny’n cael eu cynhyrchu’n rhywle arall.  Y cyfan y byddai’r radio yn ei wneud yw eu darlledu.

Mae traddodiadau crefyddol dwyreiniol dros y canrifoedd wedi dadlau fod y meddwl dynol rywbeth yn debyg i radio ac nad ni, mewn gwirionedd, yw cynhyrchwyr ein meddyliau ond yn hytrach eu darlledwyr.  Ystyriwch yr arbrawf hon.  Eisteddwch yn segur mewn man distaw am gyfnod cymharol estynedig a thalwch sylw yn anfeirniadol i gynnwys eich meddyliau.  O wneud hyn, mae’n dra thebygol mai’r hyn y sylwch arno yw llifeiriant mewnol di-dor o fonologau neu sgyrsiau, dadleuon tanbaid, pwt o gerddoriaeth, ailddarllediadau, malu awyr, dramâu personol gafaelgar a hynny yn Gymraeg neu’n Saesneg neu efallai ieithoedd eraill.  

I ba raddau y gallwch chi honni mai chi sy’n cynhyrchu’r llifeiriant mewnol hwn yn ymwybodol yn hytrach na’i fod fel petai’n cael ei gynhyrchu yn rhywle arall, yn yr isymwybod efallai, ac yn cael ei ddarlledu yn eich pen fel rhaglen radio?  Gyda radios go iawn mi fedrwch chi newid gorsaf os nad ydych chi’n hoffi’i chynnwys neu mi fedrwch chi hyd yn oed ddiffodd y set.  Fedrwch chi wneud hynny gyda’ch radio mewnol?  Petaech chi’n medru, jest dychmygwch y distawrwydd.

Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Gorymyrraeth a Choginio Pysgodyn Bychan

image

http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/29924423

Newydd ddarllen yr erthygl uchod sy’n nodi fod cynghorau sir Gwledydd Prydain wedi ysgrifennu llythyr at William Hague (sy’n cadeirio’r pwyllgor cabinet a sefydlwyd i ystyried datganoli pellach o fewn yr ynysoedd hyn) yn galw ar i rymoedd gael eu datganoli yn agosach at gymunedau lleol.  Yn ôl y llythyr mae “gormod o benderfyniadau sy’n effeithio ar gymunedau lleol wedi eu canoli yn San Steffan, Holyrood, Bae Caerdydd a Stormont.”  Â ymlaen i ddweud “Mae’r drafodaeth wedi’r refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban wedi dangos bod ffydd y cyhoedd yn yr hen ddulliau o reoli’n ganolog wedi ei chwalu’n llwyr.”

“Clywch, clywch!” meddaf i.

Dw i’n sicr bod y cynghorau yn llygad eu lle a’u bod wedi lleisio anniddigrwydd a deimlir gan lawer un y dyddiau hyn. Yn ddi-os, mae gorganoli grym, gorymyrraeth a meicroreoli yn cael eu gweld fel bwrn cynyddol yn ein bywydau.  Roedd hynny’n amlwg yn refferendwm annibyniaeth Yr Alban ac yng nghyhuddiad Johann Lamont fod y Blaid Lafur yn San Steffan yn trin Llafur Yr Alban fel is-gangen.  Mae hyd yn oed UKIP, yn ei ffordd wyrdroëdig ei hun, yn syrffio ar y dod hon o anniddigrwydd cyffredinol gyda gorganoli grym (er mai Ewrop sy’n gocyn hitio ganddi hi, wrth gwrs).

Rwyf wedi bod yn gefnogwr brwd o’r broses ddatganoli ers cyn cof ond mae’r hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru ers sefydlu’r Cynulliad wedi fy siomi i raddau (ac i raddau go helaeth, ar brydiau).  Er i ni lwyddo i gael Llywodraeth ym Mae Caerdydd mae’r sefydliad newydd hwnnw fel petai wedi teimlo mai ei rôl yw rheoli – a meicroreoli – agweddau ar fywyd ein glwad a oedd, i  raddau helaeth, yn cael llonydd i ffynnu o dan yr hen drefn o lywodraethu.  A thrwy orymyrryd, yn aml iawn, mae wedi gwaethygu pethau nid eu gwella.  Ys dywedodd yr Americanwyr Bert Lance “If it aint broke, don’t fix it”

Mae gorymyrraeth niweidiol wedi digwydd mewn sawl maes cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf ond un o’r achosion mwayf dadleuol yw maes cynllunio ac yn fwyaf arbennig y cynlluniau datblygu lleol a orfodwyd ar y cynghorau sir. Petai’r cynghorau wedi cael rheolaeth lawn dros eu targedau cynllunio twf eu hunain byddent yn debygol o fod wedi gosod targedau is o lawer a fyddai siroedd megis Gwynedd a Môn ddim o dan y lach heddiw am fradychu’r Gymraeg trwy ganiatau codi miloedd o dai di-angen. 

Mae gwendidau gorymyrraeth a meicroreoli yn cael sylw mawr yn un o glasuron Taoistiaeth sef y Tao Te Ching.  Cafodd y llyfr ei ysgrifennu tua’r chweched ganrif C.C. Yn ôl y chwedl awdur y llyfr oedd henwr o’r enw Lao Tzu, cofnodydd yn o’r llysoedd brenhinol adeg yr hyn a elwir yn Gyfnod Rhyfeloedd Y Gwladwriaethau.  Roedd hwn yn gyfnod cythryblus iawn yn hanes Tseina pan oedd unigolion uchelgeisiol yn cynllwynio ac yn brwydro i geisio ymestyn eu hymerodraethau ar draul eu cymdogion. Yn ôl y chwedl roedd Lao Tzu wedi cael llond bol ar yr holl ymladd a chystadlu di-bwrpas a phenderfynodd ddiflannu tua’r gorllewin, i gyfeiriad Tibet.  Wrth iddo gyrraedd y porth i adael y deyrnas, fodd bynnag, cafodd ei adnabod gan y gwyliwr. Gan sylweddoli ei fod yn bwriadu gadael am byth erfyniodd y gwyliwr arno i gofnodi ei ddoethinebau ar femrwn.  Cydsyniodd Lao Tzu ac eisteddodd i gyfansoddi’r hyn a ddaeth yn adnabyddus yn hwyrach ymlaen fel y Tao Te Ching.

Mae’r Tao Te Ching yn llawer o bethau, yn arweinlyfr ar sut i fyw bywyd dedwydd a hapus, yn llith athronyddol ar sut y mae’r bydydsawd yn gweithio ac yn ganllaw ar sut i reoli teyrnas yn effeithiol.  Un o’r cysyniadau sy’n plethu trwy bob agwedd o’r llyfr, fodd bynnag, yw’r hyn a elwir yn wei wu wei sy’n golygu rhywbeth fel gweithredu di-ymdrech neu gyflawni trwy anweithredu dyheuig (neu ym maes rheoli teyrnas Llywodraethu Llaw Gyffes). 

image

Yr hyn a anogir trwy’r llyfr yw i unigolion doeth fodelu eu hymddygiad ar weithrediad y Tao (sydd byth yn gweithredu ond sy’n cyflawni pob dim) ac ymwrthod â’r ysfa ddifaol i orymyrryd yn barhaol, rheoli popeth a cheisio plygu’r bydysawd i’w dyheadau personol, cul nhw eu hunain.  O ymatal rhag gorymyrryd bydd sefyllfaoedd yn dilyn eu cwrs eu hunain ac yn aml iawn yn gwella ohonyn nhw eu hunain.  Mae’r llyfr yn llawn o ddywediadau trawiadol, paradocsaidd fel a ganlyn :

Ni weithreda’r Tao ac eto cyflawnir pob dim.

Mae arweinydd ar ei orau pan nad yw’r bobl yn ymwybodol o’i fodolaeth; pan gwblheir ei waith , pan gyflawnir ei nod dywedant :”Cyflawnson ni hyn ein hunain”.

Gwnaf ddim byd ac ymdrawsffurfia’r bobl

Mwynheuaf lonyddwch ac ymgywira’r bobl

Ni weithredaf a ffynnu a wnânt.

Llywodraethwch deyrnas fel petaech yn coginio pysgodyn bychan. (h.y. yn ysgafn).

Nid diogi yw hyn, wrth gwrs, na chwaith rhyw agwedd laissez faire hedonistaidd.  Yr hyn a argymhellir yw gweithredu celfydd – ond dim ond pan fo hynny’n gwbl angenrheidiol a dim mwy.  Mae’n debycach i ymddygiad cath sy’n medru bod yn gwbl lonydd am gyfnodau hir ond sy’n medru symud yn effeithiol iawn i ddal llygod pan fo angen.  Neu fel y dywedir yn y cynghorion a roddwyd i ymarferwyr y Celfyddydau Milwrol yn Tseina “Os nad yw’ch gwrthwynebydd yn symud, dych chi ddim yn symud; os yw’ch gwrthwynebydd yn symud, dych chi’n symud gyntaf.”

Mae gwendidau gorymyrraeth a meicroreoli hefyd yn cael eu tanlinellu’n huawdl iawn mewn llyfr economaidd a ddarllennais yn ddiweddar o’r enw Adapt – Why Success Always Starts With Failiure gan Tim Harford.  Prif fyrdwn y llyfr hynod ddarllenadwy hwn yw fod cynllunio top i lawr yn aml iawn yn medru bod yn drychinebus a bod cynlluniau sy’n esblygu o’r gwaelod i fyny yn llawer mwy tebygol o lwyddo.  Y broblem yw fod gwleidyddion a phenaethiaid cwmnïau mawrion yn hoffi mynd am brosiectau mawrion, trawiadol sy’n denu’r penawdau er gwaetha’r ffaith mai prosiectau felly (oherwydd eu maint a’u cymhlethdod) sydd fwyaf tebygol o fethu.  Yn y llyfr mae Tim Harford yn cyfeirio at yr hyn a elwir yn Orgel’s Law (a enwyd ar ôl y biocemegydd esblygiadol Leslie Orgel) sef Evolution is smarter than you are.  Yr hyn y mae’n ei ddadlau yw gan fod llawer o’r problemau sy’n ein hwynebu yn y byd modern yn llawer rhy gymhleth i fedru’u datrys o’r top i lawr, yr unig ddewis yw mabwysiadu prosesau sy’n efelychu’r broses esblygiadol fiolegol.

 “…when an evolutionary process is let loose upon a problem, it will often find solutions that no human designer would have dreamed of.”

Yn y llyfr mae’n gwahaniaethu rhwng yr hyn a elwir ganddo yn ‘Coca-Cola problems’ (sef problemau syml, digyfnewid – gan fod Coca-Cola fel diod byth yn newid) a phroblemau cymhleth, hylifol sy’n llawer anoddach eu trin. 

“‘Coca-Cola problems’ are increasingly rare in a rapidly changing world, which is why …. many businesses are beginning to decentralise and strip authority away from managers.”

Os yw hyn yn wir am fyd busnes mae o hefyd yn wir, yn fwy gwir, am feysydd megis cynllunio cymdeithasol, cynllunio ieithyddol a chynllunio economaidd.  Yr unig ffordd i lwyddo yn y meysydd hynny yw rhoi rhyddid i bobl ar y gwaelod arbrofi gyda strategaethau, gweld beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio, chwynnu’r methiannau a chaniatáu i lwyddiannau esblygu.

Yn anffodus mae hyn yn gwbl groes i’r ffordd hierarchaidd y mae Llywodraeth Cymru (a llywodraethau’n gyffredinol) yn tueddu i weithredu, sef ymyrraeth top i lawr, llunio polisïau a strategaethau mawreddog, llachar er mwyn denu sylw cyhoeddus a gorfodi’r  strategaethau hynny ar lefelau is yr hierarchiaeth.  

Da iawn chi, gynghorau sir, felly, am eich safiad.  Rydym wedi llwyddo i gael llywodraeth ym Mae Caerdydd.  Y cam nesaf yw cael gwir ddemocratiaieth.

Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Gorymyrraeth a Choginio Pysgodyn Bychan

http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/29924423
Newydd ddarllen yr erthygl uchod sy’n nodi fod cynghorau… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Y Gymraeg yn y Gogledd Ddwyrain

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn y cylchgrawn Barn – Awst 2013.
Yn Neuadd Y Dref,… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Y Gymraeg yn y Gogledd Ddwyrain

image

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn y cylchgrawn Barn – Awst 2013.

Yn Neuadd Y Dref, Dinbych, bum mlynedd ar hugain yn ôl i Fis Mai eleni, lawnsiwyd ymgyrch dan arweiniad y diweddar, annwyl David Jones (Dai Cuba), Maer Dinbych, rhyng-genedlaetholwr a gwladgarwr tanbaid, i sefydlu canolfan iaith yn Nyffryn Clwyd i geisio atal tranc Y Gymraeg fel iaith gyfathrebol fyw yng ngorllewin yr hen Sir Clwyd.  Canolfan dysgu Cymraeg i oedolion fyddai hon yn anad dim ond y gobaith oedd y byddai canolfan o’r fath yn esgor ar ddeffroad cyffredinol o ran yr iaith yn lleol. 

Y prif sbardun dros yr ymgyrch oedd gwaith ymchwil a wnaed gennyf ac a gyhoeddwyd yn ddiwedarach yn y cylchgrawn hwn o dan y teitl Tyred Drosodd.   Seiliwyd y gwaith ymchwil ar ddadansoddiad o ystadegau cyfrifiad 1971 a 1981 parthed iaith a gwlad enedigol trigolion y sir.  Roedd yr astudiaeth yn dangos fod mewnlifiad aruthrol wedi digwydd (ac yn parhau i ddigwydd) mewn dwy ardal benodol o’r hen Sir Clwyd sef y stribed arfordirol o Brestatyn i Landrillo yn Rhos ac ardaloedd gwledig yr hen Sir Y Fflint (yn enwedig rhwng Yr Wyddgrug a Dyffryn Clwyd).  Yn yr ardaloedd hyn roedd canran y trigolion a aned yng Nghymru oddeutu’r 40 – 50% a’r siaradwyr Cymraeg yn lleiafrif o fewn i leiafrif.  Roedd yr astudiaeth hefyd yn dangos fod llawr Dyffryn Clwyd wedi’i Seisnigo’n arw eisoes a bod cymunedau Cymraeg eu hiaith yno wedi dechrau encilio i’r Gorllewin.

Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach mae Ymddiriedolaeth Canolfan Iaith Clwyd wedi newid ei henw i Popeth Cymraeg ac wedi ehangu’i gweithgareddau i gynnwys rhannau eraill o Ogledd Cymru.  Mae’r corff bellach wedi llwyddo i ddod yn un o brif ddarparwyr Cymraeg i Oedolion Cymru.  Yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf, fodd bynnag, mae sefyllfa’r Gymraeg yng Ngogledd Ddwyrain Cymru wedi gwaethygu’n arw.

image

Y Gogledd Ddwyrain Heddiw

Y sefyllfa yn fras, o gymharu ystadegau Cyfrifad 2011 a 2001, yw fod nifer siaradwyr Cymraeg y Gogledd Ddwyrain (3 oed +) wedi gostwng gan 4,924.  Yn ystod yr un cyfnod, fodd bynnag, cynyddodd maint y boblogaeth 3 oed + gan 14,809 a’r nifer nad oedd yn siarad Cymraeg gan 19,733.  Cynyddodd nifer y trigolion yn gyffredinol (pob oed) gan 16,581 ond cynyddodd nifer y rheiny a aned y tu allan i Gymru gan 11,197.  Mae mewnfudo o dros y ffin, felly, yn ffactor sylweddol o ran y dirywiad cyffredinol yng nghanran siaradwyr Cymraeg Y Gogledd Ddwyrain er bod maint ac effaith y mewnfudo yn medru amrywio o ardal i ardal.  Mae niferoedd a chanran y boblogaeth a aned yng Nghymru fesul sir fel a ganlyn :

image

Sir Y Fflint a Wrecsam

Y sefyllfa bellach yw fod Y Gymraeg mewn cyflwr truenus iawn yn Sir Y Fflint a’r pentrefi Cymraeg traddodiadol o gwmpas Wrecsam (e.e. rhwng 2001 a 2011 gwelodd Rhosllannerchrugog gwymp o 7.5% yn ei siaradwyr Cymraeg i lawr i 24%).  Yn ôl y cyfrifiad dim ond 13.2% o drigolion Sir Y Fflint ac 12.9 % y cant o drigolion Sir Wrecsam sy’n medru’r Gymraeg.  Mae’r sefyllfa’n waeth o lawer na’r hyn sy’n cael ei ddarlunio gan ystadegau’r cyfrifiad, fodd bynnag,  e.e.  yn ôl ystadegau Cyfrifiad 2011 mae 36% o blant Sir Y Fflint (oed 5-15) yn medru’r Gymraeg.  Mae’r ganran hon chwe gwaith yn uwch na realiti gan mai dim ond rhyw 6% o’r plant yno sy’n derbyn addysg Gymraeg.

Mae’r gorliwio aruthrol hwn gan rieni di-Gymraeg o allu ieithyddol eu plant yn rhywbeth cyffredin iawn ar draws Cymru, yn enwedig yn siroedd Y Dwyrain.   Mae’n golygu fod y ganran genedlaethol o siaradwyr Cymraeg  (19%) yn rhy uchel o lawer.  Yn ôl y cyfrifiad mae tua 40% o blant oed ysgol yng Nghymru yn medru’r Gymraeg ond dim ond rhyw 18% sy’n derbyn addysg Gymraeg ac yn siaradwyr rhugl.   Mae gwir ganran genedlaethol siaradwyr Cymraeg rhugl felly’n debygol o fod rhywle o gwmpas yr 16%. (Ond mae’n dibynnu pa set o ystadegau yr ydych yn eu defnyddio, wrth gwrs, a sut rydych yn eu dehongli.) 

image

 Mae Sir Y Fflint wedi profi mewnlifiad aruthrol yn ystod y degawdau diwethaf a bellach dim ond 50% o’r boblogaeth yno sydd wedi’u geni yng Nghymru.  (Fel y nodwyd eisoes mae’r ganran hon yn isel yn siroedd Dinbych a Chonwy hefyd – 58.1% a 54.4% – oherwydd mewnfudo anferth i’r ardaloedd arfordirol yn wreiddiol.  Ond mae’r mewnfudo bellach yn effeithio ar gadarnleoedd gwledig yr iaith yn ogystal.)

Dyffryn Clwyd a’r Ucheldiroedd Gorllewinol

Mae’r Gymraeg wedi encilio fwy fwy erbyn hyn yn ardaloedd Dyffryn Clwyd, Edeyrnion, Uwchaled a Bro Aled (yn fras, ardaloedd papurau bro’r Bedol, Y Gadlas a’r Bigwn).  Rhannaf y cymunedau yn ôl Sir (Dinbych a Chonwy) gan ddilyn tair colofn o’r Gogledd i’r De – Sir Ddinbych i’r Dwyrain o’r A525 hyd at Nant Y Garth; Sir Ddinbych i’r Gorllewin o’r A525 ac i lawr at Landrillo;  cymunedau gwledig Sir Conwy a arferai berthyn i’r hen Sir Clwyd.  Rwyf wedi nodi unrhyw gymunedau a brofodd gwymp o fwy na 5% rhwng 2001 a 2011 mewn coch.

Dwyrain Dyffryn Clwyd

image

Moel Famau a Llwybr Clawdd Offa

image

image

 Gorllewin Dyffryn Clwyd ac Edeyrnion

image

image

Fel y gwelir mae’r cymunedau Cymraeg yn encilio, rhai’n gyflymach na’i gilydd a rhai cymunedau bychain hyd yn oed wedi gweld cynnydd bychan yn y ganran.  Ond mae’r tueddiad yn amlwg.  Dim ond un gymuned sydd ar ôl bellach yn Sir Ddinbych ble mae dros 60% o’r boblogaeth yn medru’r Gymraeg (er bod 3 cymuned arall yn agos at y ganran honno).  Does yr un gymuned ar ôl bellach yn y sir gyda mwy na 70% yn medru’r Gymraeg.

Mae’r sefyllfa ychydig yn well yn y rhan wledig honno o Gyngor Conwy a arferai fod yn rhan o’r hen Sir Clwyd.  Hyd yn oed yn fan’no, fodd bynnag, mae cymunedau Cymraeg iawn megis Llangwm a Phentrefoelas wedi profi cwymp sylweddol yng nghanran eu siaradwyr Cymraeg.  Mae cymharu’r sefyllfa rhwng 1971 a 2011 yn dangos hefyd faint o newid sydd wedi digwydd o ran natur ieithyddol yr ardaloedd hyn ac yn awgrymu y gallai canran y siaradwyr Cymraeg yn y cymunedau gwledig hyn fod wedi gostwng i rwng 50% a 60% o fewn 20 mlynedd.   Cerrigydrudion yw’r unig gymuned sy’n ymddangos fel y gallai wrthsefyll y duedd honno yn y tymor byr.   Wrth i’r cymunedau o’i chwmpas ymseisnigo o’r De a’r Gogledd ar hyd yr A5, fodd bynnag, mae’n bosib mai mater o amser fyddai hi cyn y gwelid gostyngiad yn digwdd yn fan’no yn ogystal.

Yr Ucheldiroedd

image          William Salesbury – Cymro mwyaf ei oes a brodor o Lansannan.   ‘MYNNWCH DDYSG YN YCH IAITH’.

image

image

 Canlyniadau’r Cyfrifiad

 Dim ond bras gyffwrdd â’r newidiadau sy’n digwydd ar lawr gwlad (a’r rhesymau amrywiol amdanynt) y gellir ei wneud mewn erthygl fel hon.  O balu’n ddyfnach fe welir weithiau mai mewnlifiad o bobl ganol oed ac oedrannus sy’n gyfrifol am y cwymp yng nghanran y siaradwyr Cymraeg, cwymp sydd ddim fel petai’n effeithio ar ganran y siaradwyr ifainc (naill ai am fod y mewnfudwyr yn ddi-blant neu’n danfon eu plant i’r ysgol Gymraeg leol).  Dyna’r sefyllfa yn Llansannan ble, er bod 85.9% o’r grŵp oedran 3-15 yn siarad Cymraeg, mae 40.7% o’r grŵp oed 16-64 a 37.6% o’r boblogaeth hŷn yn ddi-Gymraeg a 29 % o’r boblogaeth wedi’u geni y tu allan i Gymru.  Dro arall gwelir mai cwymp yn nifer cyffredinol y disgyblion oed ysgol sy’n gyfrifol am ostwng canran y siaradwyr Cymraeg.  Yn Llangwm, er i ganran y plant sy’n siarad Cymraeg aros fwy neu lai yr un peth rhwng 2001 a 2011, hanerodd nifer y plant oed ysgol yn gyffredinol gan olygu fod oedolion di-Gymraeg bellach yn ganran uwch o fewn y gymuned.  Nid wyf chwaith wedi trafod un ffactor allweddol arall sef fod y mewnlifiad o siaradwyr Cymraeg o siroedd Y Gorllewin i mewn i ardaloedd arfordirol siroedd Conwy a Dinbych wedi peidio.  Mae siaradwyr Cymraeg bellach yn cymudo o Wynedd a Môn i leoedd megis Y Rhyl a Phrestatyn ac yn dychwelyd adref ar ddiwedd eu dydd gwaith.  Mae hyn yn effeithio’n andwyol ar fywyd cymdeithasol Cymraeg ei iaith yr ardaloedd hyn.  A does fawr o reswm i neb symud o’r Gorllewin i Sir Y Fllint chwaith.  Ers chwalu’r hen Sir Clwyd mae’r Wyddgrug (a oedd ar un adeg yn rhyw fath o Feca i Gymry Cymraeg proffesiynol) wedi colli’i apêl.  Bydd y lleihad yn y mewnfudo Cymraeg yn golygu mai crebachu fydd hanes y bywyd Cymraeg yn fan’no dros y blynyddoedd nesaf, mae’n debyg, ond bydd hyn o bosib o les i’r Gymraeg yng Ngwynedd a Môn ac, wrth gwrs, Caerdydd.

Bum mlynedd ar hugain yn ôl adeg cychwyn yr ymgyrch i sefydlu Canolfan Iaith Clwyd yn Neuadd Y Dref, Dinbych, roedd gennym neges ddeublyg i’w throsglwyddo.  Rhan gyntaf y neges honno oedd fod y Gymraeg yn wynebu argyfwng mawr yn y Gogledd Ddwyrain ac o’r herwydd fod angen sefydlu Canolfan Iaith Sirol yn Nyffryn Clwyd, ar y ffin ieithyddol (dyna oedd ail ran y neges).  Rwy’n credu i fwyafrif siaradwyr Cymraeg Dyffryn Clwyd a’r cyffiniau dderbyn ail ran y neges yn ddigon hapus.  Ond am y rhan gyntaf – rwy’n ofni eu bod dal heb dderbyn realiti’r sefyllfa, sef fod Y Gymraeg, bellach, yn encilio’n gyson fel iaith gymunedol hyfyw yn Yr Hen Glwyd. 

Y prif reswm am hynny, mi gredaf, yw natur y gymdeithas Gymraeg yng Ngorllewin yr hen sir.  Mae’n gymdeithas naturiol geidwadol a chaeëdig yn yr ystyr fod pawb yn troi yn yr un cylchoedd ag y bu’r cenedlaethau o’u blaenau’n ei wneud – cylchoedd ffermio, eisteddfota, capel, côr a chymdeithasau diwylliannol Cymraeg.  Rwy’n gwbl sicr nad yw llawer iawn o siaradwyr Cymraeg traddodiadol Dyffryn Clwyd a’r ucheldiroedd gorllewinol yn gwneud fawr o ddefnydd o’r Saesneg yn eu bywydau beunyddiol.  Cymraeg yw unig iaith eu cylchoedd cymdeithasol, i bob pwrpas, a gwych o beth yw hynny.  Y perygl mawr, fodd bynnag, yw fod hynny’n creu rhyw fath o sicrwydd ffug yn eu mysg fod Y Gymraeg dal yn brif iaith yr ardal ac na fyddant yn sylwi fod eu cylchoedd cymdeithasol Cymraeg yn crebachu o flwyddyn i flwyddyn.

Ar ôl pum mlynedd ar hugain o weithio ym maes Cymraeg I Oedolion rhaid derbyn na fydd y maes hwnnw byth yn medru gwrthweithio’r newidiadau demograffig sy’n sgubo’r Gymraeg o’r neilltu yn y Gogledd Ddwyrain.  Mae niferoedd y dysgwyr yn rhy fach o lawer i gael fawr o effaith ar ganran gyffredinol y siaradwyr Cymraeg.  Nid wyf yn dibrisio’r maes, mae’n wasanaeth hynod bwysig i’r oedolion hynny sy’n dymuno dysgu’r iaith.  Mae corff fel Popeth Cymraeg, trwy ei fodolaeth a’i broffeil uchel a’r ffaith ei fod wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y gymuned leol, yn hyrwyddo’r Gymraeg yn gyffredinol ac yn hau hadau ym meddyliau rhieni a all eu sbarduno i ddewis addysg Gymraeg i’w plant.  Ond Addysg Cyfrwng Cymraeg yw’r unig offeryn all gynhyrchu siaradwyr Cymraeg mewn niferoedd digonol i gynnal a datblygu’r Gymraeg yn y Gogledd Ddwyrain.  (Mae maes cynllunio hefyd yn faes eithriadol bwysig, yn ogystal, o ystyried yr holl fewnfudo a fu i’r ardal.)

Hoffwn gloi trwy gyfeirio at un o fawrion eraill tref Dinbych, sef y David Jones arall, David Jones NUPE (Davy Crockett), y cynghorydd sir Llafur a wnaeth gymaint dros Y Gymraeg yn lleol.  Roedd o bob tro’n taranu yn erbyn systemau addysg y cynghorau sir hynny yn y Gogledd oedd yn methu â sicrhau fod pob plentyn oedd yn gadael yr ysgol yn drwyadl ddwyieithog.  Roedd hynny, yn ei dyb ef, yn wastraff o brofiad addysgol.  Ac roedd o’n llygad ei le, wrth gwrs, oherwydd mae ystadegau’n dangos yn ddigon eglur erbyn hyn os na fydd disgyblion wedi meistroli’r Gymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol fydd y mwyafrif llethol ohonynt (99.5% ohonynt, fwy na thebyg) byth yn llwyddo i ddod yn rhugl ynddi. 

Yr unig ffordd ymlaen i’r Gogledd Ddwyrain, fel ag i bob rhan arall o Gymru, yw gweithio’n ddiwyd a diwyro i berswadio rhieni di-Gymraeg fod addysg cyfrwng Saesneg yn addysg gyfyngus ac yn wastraff o brofiad addysgol.  Y nod terfynol yw gwyrdroi dylanwad difaol Brad Y Llyfrau Gleision a throi holl ysgolion Cymru yn ysgolion Cyfrwng Cymraeg.  Mae hi wedi cymryd canrif a mwy i addysg cyfrwng Saesneg ddinistrio’r Gymraeg.  Efallai y gwneith hi gymryd dwywaith hynny i adfer y Gymraeg fel unig gyfrwng addysgol ein gwlad.  Fydd hi ddim yn hawdd.  Ond os ydym am sicrhau unrhyw fath o ddyfodol i’r Gymraeg dyna yw’r unig nod y dylem ei goleddu.     

Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Datblygu Dwyieithrwydd trwy’r Sector Addysg

Cyflwyniad i adolygiad Yr Athro Donaldson o’r Cwricwlwm Cenedlaethol a Threfniadau Asesu yng… Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Datblygu Dwyieithrwydd trwy’r Sector Addysg

image

Cyflwyniad i adolygiad Yr Athro Donaldson o’r Cwricwlwm Cenedlaethol a Threfniadau Asesu yng Nghymru.  Awst 14 2014.

Ioan Talfryn, Prif Weithredwr, Popeth Cymraeg Cyf.  Ioan@popethcymraeg.com

1.         Cefndir Personol

 Mae fy nghefndir ers 30 mlynedd ym maes dysgu ieithoedd, yn benodol Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion ac, yn fwyaf arbennig, yn y sector addysg oedolion.  Fy mhrif ddiddordeb yw dulliau dysgu ieithoedd ac rwyf wedi wedi ysgrifennu llyfr : Dulliau Dysgu Ail Iaith – Eu Hanes a’u Datblygiad.   Rwy’n medru siarad a darllen nifer o ieithoedd Ewropeaidd fy hun.

Rwyf wedi fy hyfforddi fel athro a hyfforddwr Dad-Awgrymeg, sy’n pwysleisio rôl disgwyliadau uchel a mewnbwn ieithyddol uchel a chymhleth i sbarduno caffael ail iaith llwyddiannus.  Bob blwyddyn rwyf yn llunio cwrs ar sail yr egwyddorion hyn ar gyfer y rhaglenni teledu Cariad@iaith.  Yn ddiweddar fy mhrif ddiddordeb yw Damcaniaeth Cymhlethdod a Chaffael Ail Iaith a chyflwynais bapur ar hyn yng nghynhadledd EOI Sbaen yn Gran Canaria.  http://ioantalfryn.tumblr.com/     Ants In My Head – Complexity Theory and Language Acquisition

2.         Cymraeg I Oedolion

 Mae maes Cymraeg I Oedolion gyda’r mwyaf (os nad y mwyaf) o blith rhaglenni addysg oedolion yng Nghymru.  Bob blwyddyn mae tua 17,000 o unigolion yn cofrestru ar gyrsiau Cymraeg.  Rhaid cydnabod, fodd bynnag, fod y nifer sy’n llwyddo i ddod yn rhugl yn yr iaith ar ôl gadael yr ysgol ond yn ganran fechan o blith oedolion Cymru.  Mae addysg i fyny at 16 oed yn dyngedfennol, felly, i’r broses o ddatblygu dwyieithrwydd cenedlaethol, sy’n un o nodau Llywodraeth Cymru.

3.         Cymraeg Ail Iaith yn y Sector Uwchradd

 Mae’n amlwg o’r adroddiad a baratowyd gan yr Athro Sioned Davies (Un iaith i bawb – Adolygiad o Gymraeg ail iaith yng nghyfnodau allweddol 3 a 4) fod dysgu Cymraeg fel ail iaith yn y sector uwchradd yn broses aflwyddiannus.   Does dim angen i mi ymhelaethu ynglŷn â hyn gan fod yr adroddiad yn ddigon diamwys ynddo’i hun.  

Yn yr argymhellion (Rhif 15) mae’r adroddiad yn nodi y dylid ehangu’r profiad o gyflwyno’r Gymraeg tu allan i wersi Cymraeg ffurfiol ac y dylid dysgu pynciau eraill trwy gyfrwng Y Gymraeg.   Yn ei ymateb i’r adroddiad dywed Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau : Rwyf i’n cytuno a’r argymhellion hyn mewn egwyddor. Bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried y galw a chwmpas yr arweiniad a hyfforddiant yn dilyn canlyniad yr adolygiad annibynnol”.

Mae cynseiliau rhyngwladol llwyddiannus iawn i gyrchddulliau felly ac fe’u gelwir yn Content-Based Language Instruction(CBI) neu Content and language integrated learning (CLIL).  

4.         CBI a CLIL

Ceir sawl math o raglenni CBI a CLIL ar draws y byd, yng Nghanada, Yr Iseldiroedd, yn Sbaen, yng Ngwledydd Llychlyn ac mewn sawl rhan o Asia (i ewni ond ychydig o leoedd).   Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos fod y cyrchddulliau hyn yn llawer mwy effeithiol o ran datblygu dwyieithrwydd o safon uchel na’r math o ddysgu iaith a geir yn gyffredinol mewn dosbarthiadau Cymraeg ail iaith a dosbarthiadau ieithoedd modern traddodiadol.   Gweler y cyfweliad gyda Patsy Lightbown o Wasg Prifysgol Rhydychen https://www.youtube.com/watch?v=mKLNZl0ta-k&list=PLxE1zzJKa1eHflJKOOOZLLWpezr9phIjb

Mae rhai o’r modelau o addysg ‘iaith a chynnwys’ hyn yn cael eu gweithredu’n eang mewn cyd-destunau ieithoedd brodorol neu leiafrifol ble y ceisir datblygu’r defnydd ohonynt (megis yng Nghymru, yng Ngwlad Y Basg, Catalunya, Llydaw, Yr Alban, Gogledd Iwerddon  a Thalaith Quebec).  Ceir modelau eraill sy’n anelu at ddatblygu dwy neu dairieithrwydd mewn ieithoedd mwy rhyngwladol (megis yn Yr Iseldiroedd gyda’r ysgolion TTO (http://www.zsc.nl/bilingual-education.html  / http://www.europeesplatform.nl/tto/ ).  Yr un, fodd bynnag, yw’r canlyniad sef meistrolaeth lawer uwch o’r ail iaith nag a geir o ddilyn cyrsiau dysgu iaith traddodiadol.  Mae’r dystiolaeth ryngwladol ar y pwynt hwn yn ddiymwad.

5.         Budd Gwybyddol Dwyieithrwydd

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y gred gyffredinol gan addysgwyr oedd bod yr ymennydd yn organ cyfyngedig ei allu, mai dim ond hyn a hyn o le oedd ar gyfer storio gwybodaeth ac y byddai siarad mwy nag un iaith yn llyffetheirio datblygiad gwybyddol unigolion.  Gwyddom bellach nad oedd sail o gwbl i’r dybiaeth honno a bod yr ymennydd yn storio gwybodaeth (gan gynnwys ieithoedd) mewn rhwydweithiau traws ymenyddol sy’n tyfu bob tro y bydd rhywun yn traflyncu gwybodaeth newydd.   Mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu’n gryf iawn yn ogystal, yn hytrach na bod yn llyffethair, bod dwyieithrwydd yn fuddiol iawn o ran datblygiad gwybyddol unigolion.  Mae gwaith ymchwil yn dangos fod unigolion dwyieithog yn well wrth ddelio gyda thasgau megis y ‘Stroop Task’ a bod ganddynt ddealltwriaeth meta-ieithyddol o sut mae ieithoedd yn gweithio.  Maent hefyd yn well o ran reolaeth wybyddol uwch (executive functions) ac mae bod yn ddwyieithog yn arafu datblygiad anhwylderau megis Alzheimers a Dementia gan ryw 4.5 mlynedd.

https://dana.org/Cerebrum/2012/The_Cognitive_Benefits_of_Being_Bilingual/

6.         Proffeil Addysgol Siaradwyr Cymraeg

Yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd gan y swyddfa Ystadegau Gwladol (SB 109/2013

Levels of highest qualification held by working age adults in Wales, 2012) mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o feddu ar well portffolio o gymwysterau na thrigolion di-Gymraeg Cymru a thrigolion rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol (beth bynnag yw’r rheswm am hynny).  Mae’n amlwg nad yw bod yn ddwyieithog yn rhwystr o safbwynt ennill cymwysterau.  I’r gwrthwyneb.

Cymwysterau Lefel 2+

Siarad Cymraeg                                    84%

Di-Gymraeg                                          72%

Cymru                                                   75%

Lloegr                                                   77%

Yr Alban                                               78%

Gogledd Iwerddon                                71%

Cymwysterau Lefel 4+

Siarad Cymraeg                                    41%

Di-Gymraeg                                          30%

Cymru                                                   33%

Lloegr                                                   37%

Yr Alban                                               42%

Gogledd Iwerddon                                30%

7.         Addysg Gymraeg a Meistrolaeth o’r Saesneg

Gallai rhai rhieni boeni y byddai neilltuo rhan o’r cwricwlwm i gael ei ddysgu trwy gyfrwng Y Gymraeg yn effeithio’n negyddol ar Saesneg eu plant.  Mae hynny’n bryder digon teg.  Yn y byd sydd ohoni mae mesitrolaeth o’r Saesneg yn sgil hanfodol.   Mae medru siarad dim ond Saesneg, fodd bynnag, yn annigonol.  Erbyn hyn mae niferoedd y rheini sy’n siarad Saesneg fel ail iaith rhugl wedi pasio niferoedd y rheini sy’n ei siarad fel mamiaith.  Mae hynny’n golygu eu bod yn medru siarad Saesneg a ieithoedd eraill tra bo siaradwyr Saeneg brodorol fel arfer ond yn medru un iaith. 

Yng Nghymru mae pob siaradwr Cymraeg yn medru siarad Saesneg cystal â siaradwyr uniaith Saesneg.  Yn wir, ym Mehefin 2014 cyhoeddodd Estyn mewn adroddiad ar ddysgu Saesneg yng Nghymru fod plant sy’n derbyn addysg ddwyieithog yng Nghymru’n rhagori ar eu cyfoedion di-Gymraeg o ran eu cyrhaeddiad yn yr iaith Saesneg (Saesneg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 – Mehefin 2014).

“Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae perfformiad disgyblion mewn Saesneg yng nghyfnod allweddol 2 wedi gwella dros y pum mlynedd diwethaf ac mae tua dau bwynt canran yn uwch na pherfformiad disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.”

“Yng nghyfnod allweddol 3 mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, mae perfformiad disgyblion mewn Saesneg hefyd wedi bod yn gyson uwch nag ydyw mewn ysgolion cyfrwng Saesneg o ryw bum pwynt canran.”

Canlyniad hyn yw nad yw dilyn cyrsiau ysgol trwy gyfrwng Y Gymraeg yn rhwystr o gwbl i fynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion yn Saesneg pe dymunid gwneud hynny.  (Cafodd fy mhlant i addysg gwbl Gymraeg ond maent bellach yn astudio trwy gyfrwng Y Saesneg ym mhrifysgolion St. Andews ac Aberdeen.)

8.         Casgliadau

Mae Cymru (er efallai nad y siaradwyr Cymraeg) ar ei hôl hi yn y tablau cyrhaeddiad addysgol rhyngwladol.  Gwyddom fod tlodi a difreintiededd yn ffactor o ran perfformiad addysgol a bod plant o gefndiroedd mwy breintiedig yn tueddu i berfformio’n well na phlant o gefndiroedd tlawd.  Mae disgwyliadau diwylliannol hefyd yn ffactor, yn ogystal, sy’n golygu bod plant o rai lleiafrifoedd ethnig yn perfformio’n well na’r cyffredin ac eraill yn waeth.  (http://www.telegraph.co.uk/education/educationnews/10676475/Pupils-with-English-as-a-second-language-outperform-native-speakers.html) Mae dwyieithrwydd hefyd yn ffactor gan fod siarad mwy nag un iaith (yn enwedig o oed cynnar) yn medru bod yn hwb gwybyddol sy’n parhau trwy gydol oes unigolyn.  O ystyried y dystiolaeth gadarn sydd ar gael o safbwynt budd gwybyddol dwyieithrwydd a’r budd economaidd sy’n bodoli y tu fewn i Gymru o fod yn ddwyieithog yn Y Gymraeg a’r Saesneg byddai llywodraeth Cymru’n buddsoddi’n gall iawn yn nyfodol ein pobl ifainc petai’n sicrhau fod pob plentyn yn dod yn weithredol ddwyieithog yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. 

Yr unig ffordd i sicrhau hynny yw trwy ddatblygu rhaglen i droi pob ysgol uwchradd yng Nghymru yn ysgol ddwyieithog ble y dysgir rhwng traean a mwyafrif y pynciau trwy gyfrwng Y Gymraeg.  Mae oblygiadau i hynny o ran y sector gynradd, wrth gwrs, ac mae tystiolaeth ryngwladol (a’n profiad ni yma yng Nghymru gydag addysg cyfrwng Cymraeg) yn awgrymu’n gryf y dylid cychwyn y broses o ddefnyddio’r iaith fel cyfrwng addysgu yn y blynyddoedd cynnar gan fod plant yn tueddu i draflyncu ieithoedd yr adeg honno.

9.         Rhai Gwefannau Perthnasol

i)          Antonella Sorace – Bilingual Matters (Prifysgol Caeredin)   

http://www.bilingualism-matters.org.uk/

http://www.scilt.org.uk/Portals/24/Library/research/bilingualismmatters/BM-Presentation-long.pdf

http://www.reading.ac.uk/web/FILES/centre-for-literacy-and-multilingualism/BM-READING-LAUNCH.pdf

http://www.nutshell-videos.ed.ac.uk/antonella-sorace-the-bilingual-mind/

ii)            Jim Cummins – Prifysgol Toronto

http://www.oise.utoronto.ca/ctl/Faculty_Staff/Faculty_Profiles/1464/James_Cummins.html

http://www.lesley.edu/journal-pedagogy-pluralism-practice/jim-cummins/rossell-baker-bilingual-education/

http://rer.sagepub.com/content/49/2/222.short

http://iteachilearn.org/cummins/

iii)           Addysg Ddwyieithog (Cyffredinol)

Bilingual Education – Need for Bilingual Education, Benefits of Bilingualism and Theoretical Foundations of Bilingual Education – Language, English, Students, and Instruction – StateUniversity.com

http://education.stateuniversity.com/pages/1788/Bilingual-Education.html#ixzz3ARZS7C7D

http://www.psychologytoday.com/blog/life-bilingual/201311/second-language-learning-bilingualism-in-schools

http://www.carla.umn.edu/immersion/index.html

iv)           Addysg Ddwyieithog yn Yr Iseldiroedd

http://www.zsc.nl/bilingual-education.html

http://www.europeesplatform.nl/tto/

http://www.dutchnews.nl/news/archives/2014/01/bilingual_education_trials_to.php

http://www.denhaag.nl/en/residents/education-and-childcare/to/Dutch-secondary-schools-with-a-bilingual-stream.htm

http://hen.stedelijkcollege.nl/Flex/Site/Page.aspx?PageID=886

v)            Budd Gwybyddol Dwyieithrwydd

http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC3583091/

http://www.ncld.org/types-learning-disabilities/executive-function-disorders/bilingualism-advantage-benefit

http://leap.tki.org.nz/Is-bilingualism-an-advantage

http://www.scientificamerican.com/article/the-bilingual-advantage/

http://en.wikipedia.org/wiki/Cognitive_advantages_of_bilingualism

http://brainconnection.brainhq.com/2000/06/27/the-cognitive-advantages-of-balanced-bilingualism/

https://dana.org/Cerebrum/2012/The_Cognitive_Benefits_of_Being_Bilingual/

http://www.psychologytoday.com/blog/life-bilingual/201401/cognitive-advantages-second-language-immersion-education

vi)           Content Based Language Instruction / Content and Language Integrated Learning

http://www.carla.umn.edu/cobaltt/CBI.html

http://en.wikipedia.org/wiki/Content-based_instruction

http://www.tesol.org/docs/pdf/10882.pdf?sfvrsn=2

https://elt.oup.com/catalogue/items/global/teacher_development/oxford_key_concepts_for_the_language_classroom/9780194000826?cc=cz&selLanguage=cs

http://www.academia.edu/5265430/How_Languages_Are_Learned_-_by_Patsy_M.Lightbown_and_Spada

https://elt.oup.com/bios/elt/l/lightbown_pm?cc=cz&selLanguage=cs&mode=hub

https://www.youtube.com/watch?v=mKLNZl0ta-k&list=PLxE1zzJKa1eHflJKOOOZLLWpezr9phIjb

https://www.youtube.com/watch?v=XgBhNy4zf5Q

https://www.youtube.com/watch?v=JhWuxilAcpI

http://www.onestopenglish.com/support/methodology/teaching-approaches/what-is-clil/156604.article

http://www.britishcouncil.org/europe/our-work-in-europe/content-and-language-integrated-learning-clil

http://en.wikipedia.org/wiki/CLIL

vii)          Adroddiadau y cyfeiriwyd atynt yn y ddogfen hon

http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/140514-response-doc-cy.pdf

http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/130926-review-of-welsh-second-lan-cy.pdf

http://dera.ioe.ac.uk/18797/1/131112-levels-highest-qualification-held-working-age-adults-2012-en.pdf

http://www.estyn.gov.uk/cymraeg/docViewer-w/314577.9/saesneg-yng-nghyfnodau-allweddol-2-a-3-mehefin-2014/?navmap=30,163,

Siarad Cymraeg Di-Gymraeg Cymru  Lloegr Yr Alban  Gogledd Iwerddon 84 72 75 77 78 71

Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Dawns Dioddefaint a Gormes – yr Yin a’r Yang

image    image

Ychydig flynyddoedd yn ôl aethom fel teulu ar wyliau i Krakow yng Ngwlad Pwyl.  Mae Krakow yn un o ddinasoedd mwayf trawiadol Ewrop ond, ysywaeth, mae iddi hanes gyda’r tristaf ymhlith dinasoedd y byd yn ogystal.   Ar un adeg roedd y ddinas hon a’r ardal o’i chwmpas yn gartref i gymunedau lluosog o Iddewon.  Mae’r gymuned honno wedi’i hanfarwoli yng ngweithiau llenyddol awduron megis Sholom Aleichem ac yn fwyaf arbennig, yr enillydd gwobr Nobel Isaac Bashevis Singer (un o’m hoff awduron).  Profodd y cymunedau o Iddewon oedd yn byw yn yr ardal hon erledigaeth am ganrifoedd gan Gristnogion ymhell cyn i’r Almaenwyr oresgyn y wlad ond dyfodiad y Natsïaid a’r holocost neu’r Shoah a ddaeth yn sgîl hynny oedd y bennod dduaf yn eu hanes.

Aethon ni ddim i Auchwitz ond mi dreulion ni lawer o amser yn yr hen ardal Iddewig yn ymwled â’r synagog a’r ganolfan Iddewig yno.  Ac yna, ar ôl dychwelyd i Gymru, mi wylion ni Schindler’s List, y ffilm ddu a gwyn ddirdynnol honno sy’n adrodd hanes ymdrechion un gŵr i achub cymaint o Iddewon Krakow ag y medrai rhag cael eu danfon i Auschwitz.

Ddiwedd yr ail ryfel byd a’r gyflafan yng nghanolbarth Ewrop heidiodd miliynau o Iddewon i Balesteina, yn chwilio am nodded rhag y gormes a brofwyd ganddyn nhw dros y canrifoedd.  A phwy all eu beio am ddyheu am gael talp o dir i fyw’n ddiogel ynddo?  Onid oedden nhw wedi profi eithafion dioddefaint ers cyhyd?

Yn anffodus, roedd y talp hwn o dir yn eiddo i genedl arall, cenedl a oedd hithau wedi dioddef ei siâr o orthrwm dan law’r Ymerodraeth Ottoman.  Ac wele blannu hadau’r gormes a’r dioddefaint a geir yn Gaza.

Tristwch mawr y sefyllfa yw fod y wladwriaeth a sefydlwyd gan bobl oedd wedi dioddef mor ddifrifol ac am gymaint o flynyddoedd bellach wedi troi’n rym gormesol ei hun.  O’r un eithaf i’r llall.

Mae’r tueddiad hwn i bopeth yn y bydysawd symud o un eithaf i’r llall (ac yn ôl unwaith eto) yn un o brif gasgliadau’r Taoistiaid.  Dyna a ddarlunir yn y symbol Tai Chi uchod gyda’r du a’r gwyn (yr Yin a’r Yang) wedi’u plethu  mewn dawns ddiderfyn o gyferbynnau.  Maent yn ddrych ddelwau wyneb i waered cwbl gyferbyniol i’w gilydd – ond yng nghanol y naill eithafbwynt ceir hedyn y llall.

Mae Iddewon Israel wedi symud o fod yn ddioddefwyr i fod yn ormeswyr dros dro ond, hwyr neu hwyrach, bydd yr Yang yn troi’n Yin a bydd y ddawns ddioddefus yn cychwyn iddyn nhw unwaith eto.  Yr unig ffordd i roi terfyn ar y cylch creulon o osgiladu rhwng pegynau Yin a Yang dioddefaint a gormes yw ceisio cynghanedd rhwng yr eithafbwyntiau hyn.  Os bydd Israel yn parhau i fomio Gaza mor ddidrugaredd a dwyn tiroedd y Palestiniaid ar y lan Orllewinol bydd hi’n hau hadau ei dioddefaint ei hun yn y dyfodol.   

Ddiwedd Y Rhyfel Byd Cyntaf cosbwyd Yr Almsen imperialaidd yn llym gan y cynghreiriaid imperialaidd ac achosodd hyn ddioddefaint a digofaint mawr yn y wlad.  Dyna a’i gwnaeth hi’n bosib i Hitler ddod i rym ar don o boblogrwydd a dicter a chreu’r holocost .   Gormeswyr yn troi’n ddioddefwyr ac yna’n ormeswyr drachefn.  Gallai’r cylch dioddefaint a gormes hwn fod wedi parhau ar ôl yr Ail Ryfel Byd ond mi weithredoedd Yr Unol Daleithiau yn gall ac yn ddoeth (am unwaith) gyda’r cynllun Marshall.  Yn hytrach na dial ar Yr Almaen a Siapan a’u cosbi trwy osod amodau gormesol arnynt gwnaethpwyd y penderfyniad call i ailgodi’r gwledydd hynny a buddsoddi ynddyn nhw.  O’r herwydd dyw’r Almaen a Siapan ddim bellach yn ymerodraethau milwrol, gormesol.

Oherwydd eu hanes obsesiwn mawr yr Israeliaid yw diogelwch. Yn y pen draw, fodd bynnag, yr unig ffordd i’r Israeliaid sicrhau diogelwch iddyn nhw eu hunain yw trwy beidio â bod yn elyn i’r pobloedd sy’n eu hamgylchynu.   Mae hanes yn awgrymu y byddai gweithredu cynllun tebyg i’r Cynllun Marshall yn llawer doethach fel strategaeth tymor hir na gormesu’r Palesteiniaid a hau hadau gelyniaeth  a chasineb. 

(Wrth sbio ar y we i sicrhau mod i wedi sillafu Marshall yn gywir mi ddes i ar draws yr erthygl hon gan y Washington Post sy’n cymryd yr un safbwynt a’r llith uchod.

http://www.washingtonpost.com/blogs/plum-line/wp/2014/08/07/is-it-time-for-a-marshall-plan-for-gaza/

Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Y Bwda a’r Brifwyl

image

Mae’n Eisteddfod Genedlaethol wythnos nesaf ac i ni,  Gymry Cymraeg, mae’r ŵyl yn rhan o’n papur wal diwylliannol, yn rhywbeth sydd yno yn ein cefndir heb fod angen ei dadansoddi ryw lawer.  Ond beth petaen ni’n gorfod esbonio’n syml i all-ddaearolion beth yn union yw hanfod yr eisteddfod hon?  Tasg anodd a dyrys iawn. 

 Ystyriwch am funud – petaen ni’n hepgor un neu fwy o’r elfennau canlynol a fyddai’r eisteddfod dal yn eisteddfod?   Beth petai’r Pafiliwn Pinc yn diflannu?  Neu’r orsedd, y cadeirio a’r coroni?  Neu’r cystadleuwyr?  Neu’r stiwardiaid?  Neu’r pwyllgor gwaith?  Neu’r staff?  Neu brotestwyr Cymdeithas Yr Iaith?  Neu’r stondianu?  Neu’r eisteddfotwyr pybyr eu hunain?  Pa elfennau, o’u colli, fyddai’n golygu nad yw’r eisteddfod bellach yn eisteddfod?

 Y cyfan y medrwn ni ei ddweud am yr Eisteddfod Genedlaethol yw ei bod hi’n glytwaith deinamig o elfennau rhyngweithiol, deinamig, ei bod hi’n digwydd mewn man a lle penodol am gyfnod cyfyngedig o amser, ond bod fersiwn newydd ohoni’n ailymddangos unwaith eto mewn man a lle arall yn y dyfodol.

 Byddai Bwdistiaid yn dweud ein bod ni, fodau dynol, yn debyg iawn i eisteddfod, ein bod ni’n glytwaith deinamig o elfennau biolegol rhyngweithiol, deinamig, sy’n digwydd ymddangos mewn man a lle penodol am gyfnod cyfyngedig o amser ond bod fersiwn newydd ohonon ni’n ailymddangos, eiliad ar ôl eiliad, mewn man a lle arall yn y dyfodol. 

 Dyma ddau gwestiwn i chi, felly :

i)    A oes yna rywbeth solet, digyfnewid ynon ni o gwbl, neu ai rhith yw’r         ymdeimlad niwlog sydd gyda ni ein bod ni’n fodau parhaol? 

 Ac

ii)   A yw’r Ioan Talfryn sy’n eistedd o flaen y meic y bore’ma yr un Ioan        Talfryn ag a fu yma yr wythnos diwetha ac a fu yma fis Tachwedd y          llynedd, hefyd? 

Cwestiynau anodd a dyrys iawn.

Bore da.

Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Llwyr Ymgolli

image

(Munud i Feddwl 24/7/14)

Ychydig flynyddoedd yn ôl mi ymgymerodd y seicolegydd Mihaly Csikszentmihalyi â phrosiect ymchwil i geisio darganfod beth sy’n gwneud pobl yn hapus.  Yr hyn a ddarganfu oedd nad pethau megis cyfoeth a statws oedd yn creu hapusrwydd, ond yn hytrach weithgareddau heriol lle oedd unigolion yn gorfod llwyr ymgolli yn yr hyn yr oedden nhw’n ei wneud.  Yr ‘ym’ sy’n cael ei golli pan fyddwn ni’n llwyr ymgolli, wrth gwrs, yw ni’n hunain. 

Mae’r neges hon, mai colli’r ymdeimlad o ni’n hunain yw’r llwybr at ddedwyddwch, yn hen neges mewn crefyddau dwyreiniol megis Bwdistiaeth a Taoistiaeth ond mae seicoleg fodern a niwroleg bellach fel petaent yn canu o’r un llyfr emynau. 

 Mae hon wedi bod yn neges gyson, hefyd, o du perfformwyr, cerddorion, artisitiaid, llenorion, gwyddonwyr a phencampwyr chwaraeon.  Yn ôl adroddiadau goddrychol gan nifer ohonyn nhw pan fyddan nhw’n llithro i ryw ystâd o ganolbwyntio dwys eithriadol, lle mae’r ymdeimlad o’r hunan yn diflannu, mae’r hyn y maen nhw’n ei gyflawni fel petai’n digwydd ohono’i hun.

 Fel ystâd mae’n fwy o ‘gwneir’ nag o ‘gwnaf’, yn ‘eir’ yn lle ‘af’, ‘cyfansoddir’ yn lle ‘cyfansoddaf’ a ‘chwaraeir’ yn lle ‘chwaraeaf’.  A dyw’r ystâd hon ddim dim jest yn digwydd i fynachod Bwdistaidd neu unigolion creadigol anarferol, chwaith; gall ddigwydd i feidrolion cyffredin os ydyn nhw’n llwyddo i fedru bod yn bresennol yn y presennol a llwyr ymgolli mewn rhyw weithgaredd neu’i gilydd.  Dyna darddiad yr ymadrodd ‘ex-stasy’, sef sefyll y tu allan i chi’ch hunan.

 A finnau wedi llwyr ymgolli yn y Munud i Feddwl hwn does dim byd ar ôl i’w ddweud, felly, ond ‘Terfynir hyn o lith a gadewir y stiwdio’.

 http://www.ted.com/talks/mihaly_csikszentmihalyi_on_flow#t-1041349

 http://en.wikipedia.org/wiki/Flow_(psychology)

Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Cosmos

image

(Munud i Feddwl 17/7/14)

Ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn ôl bu Taoistiaid cynnar Tseina yn myfyrio’n ddwys ar anferthedd y cosmos a lle’r unigolyn ynddo.  Daethon nhw i’r casglaid bod rhyw drefn hollgwmpasog ond annelwig  yn hydreiddio trwy bob agwedd ohono ac fe’i galwyd ganddynt yn Tao.   Daethon nhw i’r casgliad hefyd mai’r ffordd orau i fyw bywyd da oedd trwy ddysgu sut i ymaddasu i’r drefn hon, gweithio gyda graen y bydysawd, fel petai, a nofio gyda llif y cosmos. 

Dw i’n byw bellach nid nepell o bentref Rhyd Ddu, pentref genedigol Syr TH Parry Williams, llenor a allai yn hawdd iawn, o ran ei weledigaeth, gael ei ystyried yn dipyn o Taoist.  Un o brif themâu ei waith llenyddol a thestun ei soned fawr Dychwelyd, yw lle’r unigolyn bychan o fewn y cosmos anferth.

Cafodd y soned honno’i chyfansoddi ym 1931, cyfnod chwyldroadol iawn ym maes cosmoleg.   Ychydig flynyddoedd ynghynt roedd y seryddwr, Edwin Hubble, wedi profi fod ein galaeth ni, y Llwybr Llaethog, ond yn un ymhlith biliynau o alaethau eraill tebyg iddi a bod y bydysawd go iawn yn wirioneddol anferth.

Bellach mae gwyddonwyr yn damcaniaethu fod ein bydysawd ni ond yn un ymhlith biliynau o fydysawdau eraill sy’n rhan o ryw amlysawd di-ddiwedd.  Os oedden ni’n ymylol ac yn ddinod cynt yna mae’r gosmoleg newydd wedi tanlinellu’n glir i ni faint y dinodedd hwnnw.

Gan mai dim ond ‘crych dros dro’, chwedl TH Parry Williams, ydyw’n bywyd paham parhau â’n ‘ffwdan ffôl’ o gesio plygu’r bydysawd a phawb a phopeth sydd ynddo i’n dyheadau hunanganolog ni?   Onid gwell, yn hytrach, fyddai i ni, fel y Taoistiaid cynnar, ddysgu sut i weithio gyda graen y bydysawd a nofio gyda llif y cosmos? 

Parhau i ddarllen

Tao Sôn: Gwacter

 

image

(Munud i Feddwl 10/7/14)

Mae gwacter wedi tueddu i gael enw drwg yng ngwledydd y gorllewin.   Mwya’u trwst, medden nhw,  llestri gweigion.  Ydy’r gwydryn yn hanner llawn neu’n hanner gwag?

Mae rhai o grefyddau’r dwyrain, ar y llaw arall, wedi cofleidio’r syniad o wacter.   Mewn Bwdistiaeth a Daoistiaeth mae gwacter yn cael ei weld fel rhinwedd pwysig iawn, os nad y rhinwedd pwysiciaf.  “Gwacter yw’r llwybr y mae’r dyn cynganeddus yn ei drawmyo” meddai un o ffigyrau amlycaf Bwdistiaeth.  I Fwdistiaid mae llawenydd yn deillio o’r sylweddoliad fod pob dim ynglŷn â’n bywyd yn sylfaenol wag a bod anhapusrwydd a dioddefaint yn deillio o’n dyhead obsesiynol i bethau, gan gynnwys ni’n hunain, fod yn solet a digyfnewid.

Roedd Daoistiaid Tseina yn gyson yn dyrchafu gwacter fel y ddelfryd uchaf o ddefnyddioldeb.  Byddwch fel llestri gweigion, meddai’r Tao Te Ching, un o’r clasuron Daoistaidd, oherwydd yr hyn sy’n gwneud tai a drysau a ffenestri a llestri’n ddefnyddiol yw’r gwacter y tu mewn iddyn nhw.    Ac er mwyn cyrraedd y stâd hon o wacter mewnol roedd y Daoistiaid yn ymarfer rhywbeth a elwid ganddyn nhw yn Ymprydio’r Meddwl.

Petaen ni heddiw yn cymryd yr amser i eistedd nôl a thalu sylw i’r hyn sy’n digwydd yn ein pennau, mae’n eithaf tebygol mai’r hyn welen ni yw llifeiriant di-baid o ryw fân feddyliau digyswllt, gwibiog a’r rheini’n llenwi pob eiliad o’n dydd.  Beth petaen ni, fodd bynnag, yn llwyddo i wagio’n pennau am gyfnod o’r holl annibendod meddyliol hwn a phrofi gwacter tangnefeddus?  Yn ôl Bwistiaid a Daoistiaid dyna fyddai cychwyn y broses o ddeffro o’n trwmgwsg gorlawn a byw bywyd rhydd, dilyffethair. 

Efallai y byddai’r Munud I Feddwl hwn wedi bod yn well, felly, petai Radio Cymru wedi darlledu dim byd ond  munud o wacter di sgwrs.  Bore da.

Parhau i ddarllen