Archives: teod-karv

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Cyfle i gwrdd â Llydawr yng Nghaerdydd

Cwrddodd Jonathan Perry â Llydawr sydd yn byw, ar hyn o bryd, yn Rhydychen ac a fydd yn mynd i fest-noz a gynhelir yn yr Eglwysnewydd, Caerdydd, nos Wener, 5 Rhagfyr, 2014. 

Mae’r Llydawr yn frwdfrydig i gwrdd â phobl sydd yn dysgu Lydaweg neu sydd yn rhugl yn yr iaith. Mae wedi awgrymu cwrdd fore Sadwrn, 6 Rhagfyr. Gan y bydd Caerdydd dan ei sang gyda siopwyr, tybed a oes pobl a fyddai’n hoffi cwrdd yng Nghaerffili?  

Mae modd cysyllltu â Jonathon ar Facebook neu gellir anfon neges ataf i, rhh@aber.ac.uk , a byddaf yn ei throsglwyddo iddo. Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Cymdeithas Cymru-Llydaw 2014-04-07 15:22:00

Bydd Yann Talbotyn rhoi sgwrs (yn Llydaweg)  ar Y cysylltiadau rhyng-Geltaidd yn y 19eg ganrif ac yn yr 20fed ganrif, gyda golwg arbennig ar y berthynas rhwng Llydaw a Chymruyn yr Ystafell Wyddeleg,Yr Hen Goleg,Aberystwyth,  &n… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Portreadau o 1,500 o siaradwyr Llydaweg

Yn ystod y penwythnos a gynhaliwyd gennym yng Nglan-llyn cafwyd cyfle i dynnu lluniau o nifer o’n haelodau ar gyfer safle gwe ar Redadeg – y ras o amgylch Llydaw i godi arian i fudiadau sy’n hyrwyddo’r iaith. Mae ar Redadeg yn ceisio casglu portreadau … Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Breizh-Llydaw + Cyfarfod Blynyddol

Ymddiheuraf i bawb am nad ymddangosodd rhifyn Chwefror o Breizh-Llydaw. Ofnaf fy mod wedi digalonni braidd wedi imi gael fy symud o’r Hen Goleg ac na allaf wynebu paratoi rhagor o rifynnau, ar hyn o bryd o leiaf . Ymddiheuriadau hefyd am… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Cymdeithas Cymru-Llydaw 2014-03-30 18:12:00


Penwythnos Llydaweg gyda Chymdeithas Cymru-Llydaw, yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn, o’r 28ain o Fawrth, 2014, tan y 30ain.


☉✦☉✦☉✦☉


Dibenn-sizhunvezh war ar brezhoneg gant Kevredigezh Kembre-Breizh, e Kamp an Urzh e Glan-llyn, adalek an 28 a viz Meurzh, 2014, betek an 30. 


☉✦☉✦☉✦☉


Rhagor o luniau / Muioc’h a luc’hskeudennoù:



Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Cymdeithas Cymru-Llydaw 2014-01-08 10:58:00

Cynhelir penwythnos i ddysgwyr Llydaweg, yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn

Dalc’het e vo un dibenn-sizhunvezh e Glan-llyn evit ar re a zo o teskiñ brezhoneg



Llydawyr a ddaeth i’r penwythnos a gynhaliwyd gennym yn Nglan-llyn yn 2011

✦❋✦❋✦❋

Gwener-Sul, 28-30 Mawrth, 2014


adal ar gwener 28 betek ar sul 30 a viz Meurzh, 2014


✦❋✦❋✦❋


Llety a bwyd £118 y pen

Gwersi £28 i’n haelodau (aelodaeth £8) / £36 i rai nad ydynt yn aelodau

Cyfanswm £146 / £154


Lojeiz ha boued £118 an den / Kentelioù £28 evit hon izili / £36 evit ar re all

Hollad £146 / £154


✦❋✦❋✦❋


Mae angen inni roi gwybod faint o bobl a fydd yno, felly mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod inni cyn gynted ag y bo modd: 1. A fyddwch yn dod 2. Sut y gallwn gysylltu â chi 3. A oes gennych anghenion bwyd arbennig: rhh@aber.ac.uk / 07890 602381


Ret deomp gouzout, seul gentoc’h seul welloc’h, 1. hag e-sell emaoc’h dont d’ar staj, 2. penaos mont e darempred ganeoc’h ha 3. hag ezhommoù ispisial hoc’h eus a-fed ar boued: 

rhh@aber.ac.uk / 07890 602381

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Y Gyngres Geltaidd 2014

Y Gyngres Geltaidd

The Celtic Congress - Ar C’hendalc’h Keltiek

Cynhadledd a Gŵyl Geltaidd

Caerdydd 11-16 Awst 2014

Kendalc’h ha Gouel Keltiek - Kerdiz 11-16 a viz Eost 2014

        Celtic Conference and Festival – Cardiff 11-16 August 2014

Alba – Breizh – Cymru – Éire – Kernow – Mannin

Thema’r Gynhadledd - Conference theme - Tem ar C’hendalc’h :

‘Treftadaeth Ddiwydiannol y Gwledydd Celtaidd’

‘Hêrezh C’hreantel ar Broioù Keltiek’

 

‘The Industrial Heritage of the Celtic Countries’


Cyngherddau Celtaidd

Celtic Concerts - Sonadegoù Keltiek


Adloniant anffurfiol

Informal entertainment - Leurenn digor


Darlithoedd

Lectures - Prezegennoù


Gwibdeithiau

Excursions - Gweladenniñ ar vro


Gweithdai Celtaidd

Celtic workshops - Emvod labour / Stalioù labour keltiek


Gwledd ganoloesol

Mediaeval banquet - Fest Krennamzerel


Gweithgareddau i blant

Children’s activities - Obererezhioù evit ar vugale


Manylion pellach - Further details - Titouroù ouzhpenn

Niclas ap Glyn, 90 Plassey St, PENARTH CF64 1EN, Cymru -Wales - Kembre

Ffôn - Tel. - Pgz. :  029 2035 0088

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Y Gyngres Geltaidd 2013


Dyma ddarn bach a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Breizh-Llydaw yn ddiweddar. Mae Mike Thomas yn sôn am yr hwyl a gafodd yn y Gyngres Geltaidd yng Nghernyw.
Eleni , am y tro cyntaf er 1968 (!), ymunais â’r Gyngres Geltaidd.  Cynhaliwyd y Gyngres yn nechrau mis Ebrill yn Bosvenegh (Bodmin), Kernow (Cernyw) a’r thema oedd Ieuenctid a Dyfodol Diwylliant Celtaidd.  Bu cynrychiolwyr o’r chwe gwlad Geltaidd yn aros yng ngwesty Lanhydrock yno, adeilad moethus â maes golff o’i gwmpas.

Bob bore ’roedd gwersi Cernyweg, rhai splann (ardderchog). Wedyn ’roedd darlithoedd ar thema’r wythnos, gyda siaradwyr o’r chwe gwlad yn cyflwyno gwybodaeth eithaf diddorol. Yn y prynhawniau ’roeddem yn cael gwibbdeithiau i safleoedd hanesyddol yn ardal Bosvenegh, gan gynnwys neuadd y dref a’r amgueddfa yn y dref ei hun. Cawsom weld gorymdaith Gorsedd Beirdd Cernyw, aethom i wasanaeth Cernyweg yn eglwys Sant Petroc yn Bosvenegh a chafwyd taith gerdded o amgylch Lostwydhyel (Lostwithiel). Bob nos cynhelid noson lawen anffurfiol, troyl yn Gernyweg, o dan arweiniad grŵp o Wyddelesau bywiog!

Dyna dda oedd clywed pob un o’r chwe iaith Geltaidd yn cael ei siarad yn naturiol yn yr un fan ac ar yr un diwrnod!  I mi yr oedd hi’n gyffrous bod ar hyd yr amser mewn awyrgylch amlieithog, wedi fy nghwmpasu gan ieithoedd dieithr – y Gymraeg yn eu plith, i ryw raddau, a minnau’n byw yn Lloegr. ’Roedd yno nifer o Wyddelod ac o Albanwyr ac ’roedd pedwar o gerddorion ieuainc o Ynys Manaw a fedrai Fanaweg yn rhugl. Dim ond tri Llydawr a oedd yno.  ’Roedd deg ohonom ni Gymry, a dyma lun o’r garfan o Gymru:

      

Cefais  lawer o hwyl yng Nghernyw.  Cynhelir y Gyngres Geltaidd yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf a gobeithio y caf gyfle i’w mynychu unwaith eto.

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Llydawyr wedi eu siomi gan y Cymry


Yn ddiweddar, cysylltodd y gymdeithas Bretagne Reunie (Llydaw wedi ei Hailuno) â Phrif Weinidog Cymru er mwyn gofyn iddo helpu i ddatrys anghydfod a gododd llynedd rhwng Cymru a Llydaw yng Ngŵyl an Oriant (Lorient). 

Dyma’r fersiwn Cymraeg o’r llythyr. 
Rhyfedd sut y triniwyd y gwladgarwr o Lydawr a oedd yn awyddus i gywiro’r gamargraff bod Naoned, gefeillddinas Caerdydd, y tu allan i Lydaw!

Naoned (Nantes)

5 Gorffennaf 2013

Annwyl Brif Weinidog,
Mae Cymru, diolch i weithgarwch ei phobl, ei gwleidyddion etholedig a’i harweinwyr economaidd, wedi llwyddo i gael, ar ôl hir ymdrechu, radd o hunanlywodraeth fel y gall benderfynu ei dyfodol ei hun.

Ers llawer o flynyddoedd, mae gweithgarwch y Cymry wrth ailafael yn eu hunaniaeth ac yn eu diwylliant, o ddiddordeb mawr iawn i ni yn Llydaw. ’Rydym bob amser wedi cefnogi’r ymdrechion sydd wedi arwain at greu sefydliadau annibynnol yno.

Drwy ein cymdeithas Bretagne Réunie, rydym ni yn Llydaw yn dal i weithio i ailsefydlu Llydaw â’i ffiniau hanesyddol. Rhannwyd ein tiriogaeth ar 30 Mehefin 1941 drwy ddatganiad a wnaed gan y rhai a gydweithiai â’r Natsïaid adeg llywodraeth Maréchal Pétain.  Mae’r dasg sydd yn ein hwynebu yn un galed iawn, fel y dengys geiriau’r Fs Gay Mac Dougall, arbenigwraig annibynnol a benodwyd gan y Cenhedloedd Unedig i ystyried hawliau Leiafrifoedd yn Frainc. Cyhoeddwyd ei hadroddiad ym Mawrth 2008:

“Er gwaethaf deddfwriaeth bwysig yn erbyn gwahaniaethu, mae’r rhai sydd mewn cymunedau lleafrifol yn Ffrainc yn dioddef gan wir wahaniaethu hiliol, rhywbeth sydd â’i wreiddiau mewn ymagweddiadau ac mewn sefyliadau. Mae gwadu hyn gan wleidyddion wedi rhwystro mabwysiadu mesurau i sicrhau y cedwir at y ddeddfwriaeth berthnasol ac i gywiro’r mathau cymhleth o anghyfartaledd yno.”

Bu’r Fs Gay Mac Dougall yn trafod yn helaeth â gwahanol gymdeithasau Llydewig cyn ysgrifenneu ei hadroddiad. Ceir syniad o natur y broblem y sonia cynrychiolydd y Cenhedloedd Unedig amdani wrth ystyried, er enghraifft, i 10,000 o Lydawiaid orymdeithio drwy Naoned (Nantes) ym Medi 2008 i amddiffyn eu diwylliant ac i alw am ailsefydlu Llydaw fel uned o fewn ei ffiniau hanesyddol, ond i’r ddau wasanaeth teledu lleol, a ariennir gan Ddinas Naoned a chan Gyngor Naoned, beidio â dangos yr un llun o’r achlysur na sôn yr un gair amdano! Rhydd hyn syniad pa mor galed sy’n rhaid inni ymdrechu i roi gwybod i’r cyhoedd am y manteision a ddôi o adfer unoliaeth ein gwlad hanesyddol.

A ninnau wedi ein gwir sensro, o dan ddylanwad y wladwriaeth Ffrengig, boed hynny ym Mharis neu yn lleol, rhaid inni feddwl am ddulliau arbennig, gan gynnwys gwyliau diwylliannol, i daflu goleuni ar ein hamcan ac i ddangos ein hymroddiad. Dyma un rheswm pam yr oedd stondin gan Bretagne Réunie yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd an Oriant (Lorient) yn 2012, gerllaw’r stondin o Gymru. Gwaetha’r modd, dangosai’r stondin Gymreig fap o Lydaw wedi ei hollti, gyda’r Liger-Atlantel (Loire-Atlantique) – department 44 – wedi ei dorri i ffwrdd oddi wrth ei mam, er ei bod yn rhan o Lydaw am dros 1000 o flynyddoedd, tan 1941!

Er mawr ofid inni, bu i’r panel hwn esgor ar gamddealltwriaeth rhwng un o’n cynrychiolwyr, y Br Hervé Morvan, a phennaeth Bwrdd Croeso Cymru, y Br Robert Hackett. Dyweodd y Br Morvan fod y map yn wallus. Atebodd y Br Hackett, yn gwbl gywir ac yn gwbl ddidwyll bid sicr, fod y map wedi cael ei roi iddo gan Gyngor Rhanbarthol Llydaw. Ac yntau’n brwydro dros ailuno Llydaw, dyma’r Br Morvan yn mynd ati i gywiro’r map â phen ffelt, gan ddangos y ffiniau fel yr oeddent tan 1941.

Yn dilyn y digwyddiad hwn, cwynodd y Br Hackett yn swyddogol a hawlio iawndal am y difrod. Heddiw, bu i’r llys roi dedfryd llym ar y Br Morvan. Rhaid iddo yn awr dalu dirwy drom, am iddo deimlo mor gryf fod anghyfiawnder wedi ei wneud drwy gamddarlunio ffiniau Llydaw.

Hoffem ddweud, Brif Weinidog, fod yn wir ddrwg gennym am y digwyddiad anffodus hwn. Byddem yn gwir werthfawrogi pe baech yn gofyn i’r ddirwy gael ei gostwng neu ei dileu. Mewn gwirionedd, ni chredwn fod gan y naill blaid na’r llall ddim oll i ennill o’r achos hwn. Yn awr, ni fyddai cytundeb cyfeillgar yn gwneud dim niwed i’r berthynas ragorol(1) a fu rhyngom hyd yn hyn ac a fu er lles Cymru a Llydaw fel ei gilydd. Teimlwn y byddai’r Llydawiaid yn methu amgyffred pam y cymerwyd camau mor eithafol yn erbyn rhywun sydd yn credu yn ei wlad ei hun. Er mwyn cadw’r berthynas rhyngom ar ei gorau, erfyniwn arnoch i gysylltu â’r Br Hackett er mwyn gofyn a fyddai’n derbyn ymddiheurad gan y Br Hervé Morvan yn ddiymdroi. Dyna braf fyddai, pe gwnâi hyn a thynnu’r gŵyn yn ôl a rhoi’r gorau i’r erlyniad.

Diolchwn ichi am estyn cymorth inni ac i Lydaw ar yr un pryd.

Gyda’n parch mwyaf, Brif Weinidog.

Llywydd Bretagne Réunie

Jean-Fraçoise LE BIHAN

(1)            Dyma ddwy enghraifft o’r berthynas gyfeillgar ardderchog a fu rhyngom o’r blaen:

-         Yn ystod Cwpan y Byd, cyhoeddodd ein cymdeithas Bretagne Réunie daflen (amgaeedig) a ddosbarthwyd ym mynedfa Stadiwm Beaujoire yn Naoned (Nantes). Am wneud hyn, roedd un o’n gweithredwyr wedi ei arestio ac aed ag ef orsaf yr heddlu bedair gwaith!

-         Yn ddiweddar iawn, yn nwy o’n trefi sydd wedi eu gefeillio, Aberhonddu a Gouenou, trefnwyd ras gan y Blé d’Or Club, diolch i’r Br Jakez Gauchet.

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Crempogau a’r Llydaweg yng Nghaerdydd

Mae Dafydd Frayling am roi gwybod i unrhyw un sydd am ymarfer ei Lydaweg yng Nghaerdydd y bydd cyfarfod yn Nhŷ Crempogau Sophie, yng nghanol y ddinas, ar 18 Mai, rhwng 10 y bore a hanner dydd.  Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Llydawiaid yng Nghaerdydd

Bydd cyfle i gwrdd â Llydawiaid yng Nghaerdydd cyn bo hir, oherwydd o’r 8fed tan y 12fed o Fai, 2103, mae Pentreffest yn croesawu criw ohonynt sydd yn ymddiddori yn nhraddodiadau cerdd a dawnsio Llydaw. 

Yn ôl eu gwefan, er mai dawnsio traddodiadol sydd wedi dod yn brif weithgaredd Brezhonegerien Leston’n (BL), y gymdeithas sydd yn ymweld, maent hefyd yn ymddiddori yn y caneuon sydd yn cyfeilio’r dawsnsio, mewn siarad Llydaweg ac mewn brodwaith Llydewig.

http://www.pentreffest.org.uk/joomla/index.php/calendar/monthcalendar/2013/5/ Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Breizh-Llydaw mis Ebrill ar werth yn awr

Mae’r rhifyn diweddaraf o Breizh-Llydaw wedi cael ei anfon at ein haelodau. Os ydych yn aelod a heb gael copi, e.e. am ichi newid cyfeiriad heb ddweud wrthym, anfonwch neges at rhh@aber.ac.uk. Croeso i eraill holi am gopi hefyd!

Cymraeg oedd prif iaith y rhifyn diwethaf ond mae cryn dipyn mwy o Lydaweg yn hwn. Ymhlith y darnau mae adroddiad Cymraeg ar daith Côr Meibion Maelgwn i Lydaw a darn difyr gan Madison Tazu yn sôn, yn Llydaweg, am yr anawsterau a’r profiadau da a gafodd yn ystod y semester a dreuliodd yn Roazhon (Rennes), prifddinas Llydaw.

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Penwythnos Llangrannog 2013

Un hwyliog a heulog oedd penwythnos Cymdeithas Cymru-Llydaw yn Llangrannog, a phawb yn cyd-dynnu’n wych. Roedd 16 ohonom wedi aros i gysgu’r ddwy noson yng Ngwersyll yr Urdd, a 3 arall wedi mynychu ar y Sadwrn ac ar y Sul. Ar y Sadwrn daeth 7 arall am y diwrnod, gan gynnwys Kevin Knox a’i dri phlentyn, Tomos, Iestyn ac Anwen. Roedd yn dda cael croestoriad mor ddiddorol ac amrywiol, gyda Petroc wedi teithio’r holl ffordd o Lundain a Matthew yr holl ffordd o Surrey. Roedd cynifer o wahanol lefelau hefyd, gydag amryw’n rhugl iawn yn yn y Llydaweg, rhai yn y canol a chriw bach o dechreuwyr a oedd yn dysgu’n rhyfedol o gyflym! Roedd pawb yn medru Cymraeg hefyd.

Gwersi iaith a aeth â bryd y rhan fwyaf a fu gennym yn Llangrannog ond bu i rai achub y cyfle i wneud gwahanol weithgareddau – Jaqueline a oedd fwyaf brwd yn y cyfeiriad yna! – dringo gyda rhaffau, cwads, marchogaeth, trampolîn, sgio, saethyddiaeth, cerdded ac yn y blaen… Bu rhai ohonom hefyd yn nofio bob bore cyn brecwast, mwy nag a oedd yn ei wneud yng Nglan-llyn pan fuon ni yno, o leiaf!

Aethom draw i’r Llong yn Llangrannog yn y bws ar y nos Wener a cherdded yno ar hyd Llwybr yr Arfordir ar y nos Sadwrn. Roedd y dafarn arall, y Pentre, i’w gweld yn rhy lawn, a chawsom awyrgylch cynnes a chyfeillgar yn y Llong a chanu byw, a bywiog iawn ar y nos Sadwrn. Nid y lle gorau i geisio sgwrsio, efallai, ond yn eithaf cofiadwy…

Pleser o’r mwyaf oedd cael cwmni Robin eto, ar ôl bod heb ei gweld am ryw flwyddyn, ac roedd presenoldeb Llydawyr – Mona, Bleuenn a Tomaz (a oedd yn gofalu am y gwersi), Jaqueline (a oedd ar wyliau gyda Richard), a Mathieu (a ddaeth atom o Fangor) - yn ychwanegu dimensiwn pwysig i’r profiad dysgu.

Roedd staff y gwersyll yn gymwynasgar ac yn hynaws iawn, yr ystafelloedd yn gyfforddus a’r bwyd yn flasus – felly, diolch arbennig i Urdd Gobaith Cymru.

Mae 27 o luniau o’r achlysur i’w gweld yma: http://www.flickr.com/photos/bara-koukoug/sets/72157606615541752/

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Llangrannog 24 Y Grŵp / Ar Strollad

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Berc’hed, Mona, Bleuenn, Tomaz, Rhiannon, Havard

Berc’hed, Mona, Bleuenn, Tomaz, Rhiannon, Havard, a photo by bara-koukoug on Flickr.Llydawiaid a Chymry yng NghaerdyddBreizhiz ha Kembreiz e Kerdiz Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Breizh-Llydaw yn hwyr!

’Rwyf am ymddiheuro am nad yw “Breizh-Llydaw” mis Chwefror 2013 wedi ymddangos. Ni lwyddwyd i’w gwblhau yn Ionawr ac wedi i’r tymor dysgu ddechrau, ni chefais amser i wneud dim. Hyderaf y bydd yn cael ei gyhoeddi rywdro ym mis Ebrill.

Rhisiart

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Kaerat eo kreiz Kerdiz: / Ruioù, tud, istor ha tizh!

Yvonne, Tomaz, Bleuenn, Jonathon, Madison a Nolwenn yng Nghaerdydd, wedi’r cyfarfod i siarad Llydaweg yn Rummers Tavarn.

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Berc’hed, Bleuenn, Mona, Tomaz, Rhiannon a Havard

Llydawiaid ifainc yn cael y fraint o gwrdd â Chymro a Chymraes sydd yn deall hanes Llydaw ac yn cofio cynifer o bobl bwysig yn hanes ei brwydr i gadw ei hunaiaeth yn yr ugeinfed ganrif.

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Jonathon, Bleuenn, Yvonne, Dafydd a Tomaz – Canolfan y Mileniwm, Caerdydd

Jonathon, Bleuenn, Yvonne, Dafydd a Tomaz – Canolfan y Mileniwm, Caerdydd, a photo by bara-koukoug on Flickr.Llydawiaid a Chymry’n mwynhau’r brifddinas… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Cymdeithas Cymru-Llydaw 2013-02-28 11:21:00

Dewch i siarad Llydaweg

Tafarn y Rummers, gyferbyn â Chastell Caerdydd, ddydd Sadwrn, 2 Mawrth, am 1pm.

Bydd tri Llydawr ifanc sydd wedi dysgu Cymraeg ac sydd yn treulio’r flwyddyn yn Aberystwyth yn falch o gael cwrdd â chi yno.

+++++++++++++++++++++++++++

Un emgav a vo evit brezhonegañ e Tavarn ar Rummers, e-tal Kastell Kerdiz, da 1eur, d’ar sadorn 2 a viz Meurzh.

Tomaz, Mona ha Bleuenn a vo eno eus Breizh, ha Madison ha Rhisiart eus Aberystwyth.

Deuit niverus

++++++++++++++++++++++++++++++++

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Brezhoneg en Aberystwyth

Ar ddydd Gwener, 7 Rhagfyr, 2012, byddwn yn cwrdd eto yng nghaffe’r Home i siarad Llydaweg, o 11.10 y bore tan hanner dydd. Dewch i sgwrsio â ni!

D’ar gwener 7 a viz Kerzu en em vodimp c’hoazh da vrezhonegañ e kafedi an Home en Aberystwyth, adalek 11e10 betek 12. Deuit da gaozeal ganeomp! Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Diwrnod Llwyddiannus i Ddysgwyr Cymraeg yn Llydaw

Ar ddydd Sadwrn, 10 Tachwedd, cynhaliwyd diwrnod i ddysgwyr Cymraeg yn Landreger (Tréguier). Trefnwyd y diwrnod gan Jacqueline Gibson, a fu’n fyfyriwr yn Adran y Gymraeg, Aberystwyth, ac a ysgrifennodd ddoethuriaeth ar y Llydaweg i Brifysgol Aberystwyth. Edrychwch ar y blog Llydaweg sydd gennym i weld lluniau a dynnwyd yn ystod y diwrnod. Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Mynd am dro ger Llangwyryfon, Ceredigion

Mynd am dro ger Llangwyryfon, Ceredigion, a photo by bara-koukoug on Flickr.Cyfle i siarad Cymraeg a Llydaweg ar y Mynydd bach / Tro da gomz kembraeg ha brezhoneg war ar Menez Bihan Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Llydawiaid wrth Gofeb y Beirdd / Breizhiz e-kichen maen-koun ar Varzhed - Mynydd Bach, Ceredigion

Tri llydawr Llydaweg ifanc sydd yn astudio yn Adran y Gymraeg, Aberystwyth, ar hyn o bryd.

Cyswllt yr Adran â’r gwledydd Celtaidd eraill yw un o’i phrif gryfderau ac un o’i nodweddion mwyaf unigryw.

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Coffi + Llydaweg / Kafe + Brezhoneg = Aberystwyth

Tro da gomz brezhoneg ha da bakañ ur banne kafe e Kafedi an Home, Heol y Wig, Aberystwyth, d’ar gwener 16 a viz Du, da 11e10.

Degemer mat d’an holl!

************************************************************

Cyfle i siarad Llydaweg ac i gael panaid o goffi yng Nghaffe’r Home, Heol y Wig, Aberystwyth, ar ddydd Gwener, 16 Tachwedd, am 11.10 y bore.

Croeso i bawb! Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Penwythnos Llydaweg / Dibenn-sizhunvezh evit ar brezhoneg – 2013

Penwythnos Llydaweg – 6-7 Ebrill, 2013, yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog – cymysgedd o wersi (ar wahanol lefelau, yn ôl y galw) ac o weithgareddau. Cost y pen fydd £46.50 y noson, felly pris 2 noson yw £89.50 sef cyrraedd erbyn swper Nos Wener. Codir £20 am y gwersi (£25 i bobl nad ydynt yn aelodau – aelodaeth £8), felly’r cyfanswm fydd £109.50.


Mae hyn yn cynnwys pob dim: gwersi Llydaweg, bwyd a gweithgareddau. (Er gwybodaeth – codwyd £135 ar ein haelodau am benwythnos Glan-llyn 2011, ac ychydig fwy na hynny a, benwythnos 2009!)

Anfonwch at rhh@aber.ac.uk i roi eich enw cyn gynted ag y bo modd, os meddyliwch y byddwch am ddod, er mwyn inni wybod faint o leoedd i’w cadw.

++++++++++++++++++++++++++++++++++

Un dibenn-sizhunvezh evit deskiñ hag evit komz brezhoneg – adalek ar 6 betek ar 7 a viz Ebrel, 2013, e Kamp an Urzh e Llangrannog: ur meskaj kentelioù hag oberiantizoù. Ar priz hollek evit ar c’hentelioù (£20), al lojeiz (2 nozvezh), an oberantizoù hag ar boued (adalek koan d’ar gwener da noz): £109.50 evit hon izili, ha £5 ouzhpenn evit ar re all.

Marc’hadmatoc’h eo, neuze, eget an daou zibenn-sizhunvezh diwezhañ bet aozet ganeomp. Mar bez dedennet Breizhiz. marteze e vo posubl aozañ ivez kentelioù kembraeg.

Reiñ da c’houzout da rhh@aber.ac.uk mar fell deoc’h dont, seul gentoc’h seul welloc’h, ma ouezimp pet plas e vo ezhomm da virout.

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Cymdeithas Cymru-Llydaw 2012-09-04 10:20:00

Lansiad Llyfr ‘Gwlad y Basg – Yma o Hyd! Hanes Goroesiad Cenedl’Robin Evans5.30 Nos Iau yma, 6 MediBella Vita (yr ‘Orendy’ gynt) AberystwythOngi Etorri / Degemer mat d’an holl / Croeso i bawb Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Pryder am y Llydaweg ym Mhrifysgolion Llydaw

Herve ar Bihan by bara-koukoug
Herve ar Bihan, a photo by bara-koukoug on Flickr.

Yn “Bremañ”, rhifyn 368 – Mehefin 2012, mae Herve ar Bihan yn mynegi ei bryderon am ddyfodol y Llydaweg ym mhrifysgolion Llydaw. Poeni y mae yn gyntaf am effaith Deddf Pécresse a ddaeth i rym yn 2007 ac y dechreuwyd ei gweithredu yn Ionawr 2009. Mae’r ddeddf yn manylu ar ryddid ac ar gyfrifoldeb y prifysgolion. Efallai nad yw’n annisgwyl, a’r hinsawdd economaidd fel y mae, mai diwedd y gân yw’r geiniog wrth benderfynu pa swyddi sydd i’w dileu a pha rai sydd i’w creu. Tan yn ddiweddar, ymddangosai fod swydd y tiwtor Cymraeg ym Mhrifysgol Roazhon yn mynd i gael ei dileu o ganlyniad i’r toriadau, ond deallaf bellach fod y swydd honno i’w chadw am flwyddyn arall. Fel yng Nghymru, fodd bynnag, gwelir y prifysgolion yn troi’n fwy o fusnesau nag o sefydliadau addysgol, a’r myfyrwyr yn cael eu cyfrif fel cwsmeriaid.

Yn ail, mae Herve’n poeni am y lleihad yn nifer y myfyrwyr sydd am astudio rhai ieithoedd. Lleihaodd nifer y rhai sydd yn astudio Llydaweg yn Roazhon o ryw 100 dros y deng mlynedd diwethaf, ond bu lleihad o filoedd yn achos y Saesneg, y Sbaeneg a’r Almaeneg yn yr un cyfnod. ‘Mae pob dim sy’n gysylltiedig ag ieithoedd yn crebachu,’ meddai. ‘’Dyw pobl ddim yn gwybod beth i’w wneud â chymhwyster ieithyddol erbyn hyn. ’Dydyn nhw ddim am fynd yn athrawon bellach. Mae hynny’n wir am ein myfyrwyr Llydaweg hefyd,’ meddai, ac mae Herve’n deall pam. ‘Nid rhywbeth sy’n apelio at y myfyrwyr yw llwyddo mewn arholiad a chael gradd Meistr er mwyn ennill cyflogau lleiafswm y SMIC (Salaire Minimum Interprofessionnel de Croissance). Mae’r arholiadau hynny’n anodd. Yn achos y CAPES (Certificat d’Aptitude au Professorat de l’Ensignement du Second degré), er enghraifft, rhaid llwyddo mewn dau faes ac mae hynny’n rhoi braw i’r myfyrwyr. Mae swyddi gyda’r cyfryngau’n apelio, ond ’does dim digon o ddatblygiad wedi bod yn y maes hwnnw.’ Rhwng popeth, nid oes ond ychydig iawn o swyddi yn ymagor i fyfyrwyr sydd wedi arbenigo mewn ieithoedd.

Peth arall sydd yn peri pryder i’r myfyrwyr yw natur y dysgu. ‘Mae deuoliaeth i’w gweld yn y modd yr hyfforddir ein hathrawon: yn Ffrangeg y cân nhw eu hyfforddi, oherwydd rhesymau technegol. O’r blaen ’roedd angen sefyll arholiad i allu cael eich derbyn i’ch hyfforddi, ond mae i’r gwrthwyneb bellach. Gall unrhyw un sydd wedi cael gradd Meistr gofrestru, a bellach ’does dim angen gradd Meistr MEF (Métiers de l’Éducation et de la Formation). Rhoddir cymorth ariannol i fyfyrwyr i astudio ond ni thafolir safon yr hyfforddiant sydd yn cael ei ddarparu gan IUFM (Institut Universitaire de Formation des Maîtres) yn Sant-Brieg (Saint-Brieuc), sefydliad sydd o dan reolaeth Prifysgol Brest er 2007. ’Does neb cymwys yn IUFM Sant-Brieg erbyn hyn, gyda swyddi rhan amser wedi disodli dwy swydd lawn.’

Achos gofid arall yw parhad swyddi darlithio ym mhrifysgolion Roazhon a Brest. Er 2008 mae Canolfan Ymchwil Geltaidd Roazhon hefyd o dan awdurdod Prifysgol Brest, a chyda’r swyddi newydd a grëwyd ym Mrest cafwyd bod un darlithydd i 6.6 myfyriwr. Gellir cyferbynnu hynny â Phrifysgol Roazhon, lle ’roedd, yn 2010, 26.1 o fyfyrwyr i bob darlithydd. ‘Er hynny, deil pobl Brest i gwyno mai Roazhon sydd yn cael y swyddi,’ meddai Herve. ‘Ymddengys mai gweithred wleidyddol a negyddol, gan y rhai mewn awdurdod ym myd addysg, gan lywodraeth Sarkozy a Fillon a chan amryw wleidyddion o wahanol bleidiau, oedd rhoi cymaint o rym i Frest tra bo cymaint o brofiad ym Mhrifysgol Roazhon 2. Gan Brifysgol Roazhon yr hyfforddwyd 90% o’r athrawon sydd heddiw’n gweithio i Diwan ac yn yr ysgolion gwladol. Gyda golwg ar hynny, ’does dim modd dadlau bod y ddwy brifysgol yn gyfartal hyd yn oed.’

Gwêl Herve ar Bihan fod gan y prifysgolion yn Llydaw waith pwysig i’w gyflawni a rhan o’u swyddogaeth yw gwneud pobl yn gyfarwydd â darllen Llydaweg a’u galluogi i feddwl yn yr iaith. Mae arbenigaeth yn y prifysgolion ac unwaith y caiff ei cholli nid yw’n debyg o gael ei hadfer. Dywed fod gwir berygl y bydd rhywrai’n barnu bod adran Lydaweg dros ben yma, un y gellir ei hepgor, heb sylweddoli bod gwahaniaethau ideolegol mawr rhwng Brest a Roazhon. ‘Tra bo Roazhon yn ystyried dyfodol yr iaith, yn cydweithio â Swyddfa’r Llydaweg ac o blaid normaleiddio a normatifeiddio’r Llydaweg fel y bo dyfodol iddi hi ac i’w siaradwyr, mae ystyriaethau o’r fath ymhell o feddwl pobl Prifysgol Brest. Y pwyslais gan yr hen do o athrawon yno, rhai sydd bellach wedi ymddeol, oedd cadw’r iaith rhag bod yn “wleidyddol” ac felly edrych arni fel Ffrancwyr a gwrthwynebu cael graddau yn yr iaith a’r arholiadau CAPES ynddi.’

‘Os penderfynir bod angen cau adran Lydaweg bydd yn ergyd mawr i Lydaw i gyd’, meddai Herve. ‘Bydd hefyd yn rhan o’r broses o geisio cyfyngu’r Llydaweg i Penn ar Bed (Finistère), i ben draw Gorllewin Llydaw, yn unig. Yr hyn sydd ei eisiau, fodd bynnag, yw mwy o ddarpar-athrawon fel y gellir gwella’r ffordd y caiff y graddau Meistr eu cynnig, codi cyflogau, rhoi mwy o wybodaeth i’r fyfyrwyr, adangos i bobl y gall rhai sydd wedi bod yn gwneud rhyw waith arall hefyd fynd yn athrawon. Un ateb fyddai troi’r Ganolfan Hyfforddi Athrawon Dwyieithog, sydd ar hyn o bryd yn rhan o IUFM-UBO Sant-Brieg, yn sefydliad cyhoeddus, o dan Lywodraeth Ranbarthol Llydaw. Byddai hynny’n gyfiawn hefyd a chofio bod y Rhanbarth yn rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr sydd am astudio yno. Fel y mae, mae’r Ganolfan wedi peidio â bod yn weithgar ac yn effeithlon yn y gwaith o hyfforddi athrawon dwyieithog.

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: COFNODION CYFARFOD CYFFREDINOL 2012

CYMDEITHAS CYMRU LLYDAW

COFNODION CYFARFOD CYFFREDINOL 2012


yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful, Ebrill 28ain, 2012

Presennol:

Rhisiart Hincks (Cadeirydd), Niclas ap Glyn, Dafydd Frayling, David Hale, Mike Thomas, Madison Tazu, Hynek Janoušek, Siân Gruffudd (a gadwodd y cofnodion ac a luniodd yr adroddiad hwn, gan fod Gwenno’n abesennol)

Ymddiheuriadau: Gwenno Piette, Rory Francis

1. Adroddiad ariannol

Cyflwynodd Nic ap Glyn (Ysgrifennydd Aelodaeth a Thrysorydd) yr adroddiad.

Mae sefyllfa ariannol y Gymdeithas yn gymharol iach (e.e. mwy o arian yn y banc ar ddiwedd y flwyddyn mewn cymhariaeth â’r llynedd). Trafodwyd yn arbennig y gost o logi stondin yn yr Eisteddfod mewn cymhariaeth â’r incwm dros yr wythnos. Gwerthodd llyfrau ail-law yn dda iawn yng Nglyn Ebwy, felly hoffai Nic dderbyn cyfraniadau i’w gwerthu yn ein stondin eleni. Trafodwyd hefyd y posibilrwydd o gynnal ymgyrch aelodaeth i gynyddu’r incwm sefydlog o’r cyfeiriad hwn.

2. Cwrs preswyl

Trafodwyd y syniad o gynnal cwrs Llydaweg preswyl ym mis Chwefror / Mawrth 2013, a lleoliadau posibl. Ar y cyfan roedd y rhai oedd yn bresennol yn gefnogol i’r syniad.

3. Eisteddfodau

Bydd gennym stondin yn Eisteddfod Bro Morgannwg 2012.


Mae Rory Francis wedi cynnig llunio rota o bobl i ofalu amdani, a Nic wedi cynnig helpu hefyd. Mae aelod o Gymdeithas Gwyddelod Caerdydd wedi mynegi diddordeb mewn rhannu’r stondin gyda ni – os ydyn nhw am fwrw ymlaen â’r syniad, cytunwyd y byddem ni’n gofyn iddyn nhw gyfrannu 1/3 o’r gost (h.y.felly yn cael 1 tocyn mynediad y dydd)

Eisteddfod 2013


Trafodwyd pa mor aml y gallwn ni fforddio llogi stondin yn yr Eisteddfod, gan nad oedd gennym stondin y llynedd. Ni phenderfynwyd ar batrwm pendant (e.e. bob yn ail flwyddyn): bydd yn debygol o ddibynnu ar faint o wirfoddolwyr sy’n byw yn weddol lleol i’r Eisteddfod bob tro. Bydd gofyn i’r swyddogion benderfynu ar ddechrau’r flwyddyn.

4. Ar Redadeg

Cytunwyd y byddai’r gymdeithas yn noddi rhywun i redeg 1 km, hyd at uchafswm o £150 – Rhisiart Hincks a Jacqueline Gibson i benderfynu ar yr union swm.

5. Ethol swyddogion

Etholwyd /ailetholwyd y swyddogion canlynol am y flwyddyn nesaf:

Cadeirydd Madison Tazu


Ysgrifennydd Gwenno Piette


Ysgrifennydd Aelodaeth a Thrysorydd Nic ap Glyn


Golygydd ‘Breizh’ Rhisiart Hincks


Is-Olygydd ‘Breizh’ Hynek Janouck


Gwe-feistr Talat Chaudhri


Cynrychiolydd Llydaw Jacqueline Gibson

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Catalog Dillad Llydewig

Difyr gweld safle gwe tairieithog (Ffrangeg, Llydaweg a Saesneg) cwmni dillad STERED. Dywedir bod dillad y cwmni ‘wedi eu hysbrydoli gan Lydaw, gwlad wyllt a dilyffethair, wedi ei churo gan wyntoedd, wedi ei rhwygo gan gynddaredd y môr, yn llachar o dan belydrau’r haul, yn atsain gan gân y werin a chan grioedd y gwynt.’  Mae’r pwyslais ar briodi’r traddodiad a moderniaeth. ‘Llydaw,’ meddir eto, ‘yw’r nerth sydd y tu ôl i STERED’. Mae’r wefan yn cynnwys e-siop, felly nid oes raid symud o’ch cadair i gael gafael ar y trysorau Llydewig hyn!

http://www.stered.eu/ Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Sgwrs Yann Talbot Heno – Ystafell y Cyngor, yr Hen Goleg, Aberystwyth

Yn Ystafell y Cyngor, yr Hen Goleg, Aberystwyth y bydd sgwrs Lydaweg Yann Talbot heno ar Lenyddiaeth y Rhyfel Mawr. Mae’n debyg mai dyma’r tro olaf y bydd sgwrs ganddo yn yr Hen Goleg am fod yr Adran Gymraeg yn cael ei gorfodi i symud i Ben-glais yn ystod y flwyddyn sy’n dod. / E Sal ar C’huzul, ar Skol-Veur Gozh, eo e raio Yann Talbot e brezegenn en Aberystwyth emberr. Degemer mat d’an holl.

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Sgwrs Lydaweg yn Aberystwyth

D’ar yaou 10 a viz Mae, 2012,
da 7eur noz,
e raio

Yann Talbot

ur brezegenn diwar-benn

AL LENNEGEZH VREZHONEK HAG AR BREZEL BRAS
(1914-1918)

er Skol-Veur Gozh, Aberystwyth

(anv ar sal da vezañ roet diwezhatoc’h)

Digoust e vo hag an holl a vo degemeret mat

+++++++++++++++++++++++++++++++++++

Ar ddydd Iau, 10 Mai, 2012,
am 7 yr hwyr,
bydd

Yann Talbot

yn rhoi sgwrs Lydaweg ar

AL LENNEGEZH VREZHONEK HAG AR BREZEL BRAS
(1914-1918)
(Llenyddiaeth Lydaweg a’r Rhyfel Mawr)

yn yr Hen Goleg, Aberystwyth,

(manylion yr ystafell i’w cyhoeddi)

Yn rhad ac am ddim, a chroeso i bawb

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Devezh-studi war ar Brezhoneg / Diwrnod Dysgu Llydaweg – Kreizenn Soar / Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Devezh-studi war ar Brezhoneg / Diwrnod Dysgu Llydaweg – Kreizenn Soar / Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Devezh-studi war ar Brezhoneg / Diwrnod Dysgu Llydaweg – Kreizenn Soar / Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful

Devezh-studi war ar Brezhoneg / Diwrnod Dysgu Llydaweg – Kreizenn Soar / Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful , a photo by bara-koukoug on Flickr. Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Devezh-studi war ar Brezhoneg / Diwrnod Dysgu Llydaweg – Kreizenn Soar / Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful

Devezh-studi war ar Brezhoneg / Diwrnod Dysgu Llydaweg – Kreizenn Soar / Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful , a photo by bara-koukoug on Flickr. Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Devezh-studi war ar Brezhoneg / Diwrnod Dysgu Llydaweg – Kreizenn Soar / Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful

Devezh-studi war ar Brezhoneg / Diwrnod Dysgu Llydaweg – Kreizenn Soar / Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful , a photo by bara-koukoug on Flickr. Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Ynysu’r Gymraeg ymhellach

Ymddengys fod toriadau ym Mhrifysgol Roazhon 2 yn golygu y bydd dysgu Cymraeg yno’n dod i ben. Bob blwyddyn mae dosbarthiadau mawr o ddysgwyr Cymraeg yno, ond o fis Medi 2012 ymlaen ni fydd neb ar gael i ddysgu’r iaith. Buwyd yn cyflogi Cymry Cymraeg a… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas Cymru-Llydaw 2012, ac Ysgol Undydd i Ddysgwyr Llydaweg

Capel a Chanolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr (ii), a photo by bara-koukoug on Flickr.CynhelirCyfarfod Cyffredinol Cymdeithas Cymru-Llydaw 2012,ac Ysgol Undydd i Ddysgwyr Llydawegyn y Ganolfan Dysgu CymraegPontmorlais,Merthyr Tuful,ar Ddydd Sadwrn, 28 … Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Marw Annaig Renault

Olier ar Mogn hag Annaig Renault en Eisteddfod / Llydawyr ar stondin Cymdeithas Cymru-Llydaw yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a photo by bara-koukoug on Flickr.Ar 8 Ionawr, 2012, bu farw’r awdures Lydaweg Annaig Renault. Fe’i ganwyd yn 1946 yn Neuill… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Man am flas ar ailflasu

Ym mis Tachwedd 2011, lansiwyd gwefan lle y ceir gwylio ac ailwylio rhaglenni teledu Llydaweg a ddarlledwyd gan France 3 Breizh. Dylai safle o’r fath fod o ddiddordeb mawr i unrhyw un sydd yn dysgu’r iaith a cheir yno hefyd adran i ddysgwyr. Mae modd r… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Cyfle i’r Cymry i ymarfer eu Llydaweg ac i ddod i adnabod Llydaw’n well

PENWYTHNOS CYMRU-LLYDAW / DIBENN-SIZHUNVEZH KEMBRE-BREIZH

TI AR C’HOADOŪ, AR CHAPEL NEVEZ, BRO DREGER

Ceir manylion y ganolfan yma yn Llydaweg neu yn Ffrangeg:

http://centre-foretbocage.com/spip.php?rubrique9

Sul 03.06.2012: Fferi gan Brittany Ferries yn gadael Portsmouth am 8.15 yr hwyr

Sul 03.06.2012: Karr-lestr Brittany Ferries o loc’hañ eus Portsmouth da 8e15 da noz


Llun 04.06.2012 :

- Y fferi’n cyrraedd Sant-Maloù (Saint-Malo) am 8.15 y bore

- Mynd i Ti ar C’hoadoù i gael cinio canol dydd, ac am y prynhawn

Lun 04.06.2012 :

- Karr-lestr oc’h erruout e Sant-Maloù da 8e15 vintin

- Mont da d/Ti ar C’hoadoù evit merenn, hag evit an endervezh


Mawrth 05.06.2012 tan fore Gwener (08.06)

Bydd pawb yn aros yn Ti ar C’hoajoù. Trefnir gweithgareddau amrywiol yn Llydaweg, e.e.

- Darganfod y goedwig

- Pobi bara

- Ymweld â gwneuthurwr esgidiau lledr, â melin ddŵr … Bydd gennym arweinydd bob tro.

Yn y nos trefnir chyfle i ddawnsio ac i glywed straeon. Gallaf hefyd gynnig gwersi Llydaweg, os oes diddordeb.

Bore Gwener: Mynd i Sant-Maloù yn gynnar y bore. Mae’r fferi’n gadael am 10.30 a.m.

Meurzh 05.06.2012 betek Gwener vintin (08.06)

Chom a raio pep hini e Ti ar C’hoajoù. Abadennoù liesseurt a vo kinniget e brezhoneg, da skouer:

- Ober anaoudegezh gant ar c’hoadoù

- Poazhañ bara

- Mont da welet ur botaouer lêr, ur vilin dour … Un animatour a vo ganeomp bep tro.

Diouzh an noz e vo kinniget dansoù ha kontadennoù. Gallout a ran ivez kinnig kentelioù brezhoneg, mar bez tud dedennet.

Gwener vintin: Mont da Sant-Maloù abred diouzh ar beure. Loc’hañ a ra ar c’harr-lestr da 10e30.

Pris (yn gywir, neu fwy neu lai)

164 € am y cwrs cyfan (llety, bwyd a gweithgareddau). Mae cynfasau gwely a blancedi yn y ganolfan. Mae cost y daith i Lydaw i’w hychwanegu, wrth gwrs.

Mae’r manylion hyn yn seiliedig ar griw o 15-20 o bobl. Pan fydd yn gwbl glir faint o bobl a ddaw i Lydaw, caf anfoneb a chawn weld a yw’r pris yn deg neu beidio.

Anfonwch siec ataf am £50, yn dyladwy i mi. Rhowch eich manylion (enw, cyfeiriad, e-bost, rhif ffôn, llysieuwr neu beidio, lefel eich Llydaweg) gorau po gyntaf a chyn 17 Ionawr 2012.

Priz (reizh pe damreizh)

164 € evit ar staj a-bezh (bod, boued hag abadennoù). Linselioù ha pallennoù zo er greizenn. Priz ar veaj da Vreizh zo ouzhpenn, evel-just.

Ma vefe ezhomm ur c’harr-boutin evit mont da welet ar botaouer ler pe ar vilin e kousto war-dro 60 € ouzhpenn evit pep veaj.

An titouroù-se zo diazezet war 15 – 20 den o kemer perzh. Pa vo gouezet da vat pet a dud a zeuio da Vreizh e vo kaset ur fakturenn din ha gwelet e vo hag-eñ eo reizh ar priz pe get.

Kasit ur chekenn a £50 din war ma anv-me. Ouzhpennit ho titouroù (anv, chomlec’h, chomlec’h postel, niverenn bellgomz, vejetarian pe get, live ho prezhoneg) ar buanañ ar gwellañ hag a-raok ar 27 a viz Genver 2012.


Jacqueline Gibson

2 Garden an Escop

22220 Landreger/Tréguier

Breizh

(F)

Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Yn ei hiaith mae cof-faen hon

Ar 7 Tachwedd, 1981, bu farw Anjela Duval, yr amaethwraig o fardd o dyddyn Traoñ-an-dour, ym mhlwyf ar C’houerc’had, Treger. Gwraig unigryw oedd hon, oherwydd nid oes yn Llydaw draddodiad barddol gwledig tebyg i’r un a geir mewn mannau yng Nghym… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Golud gwlad gwyddoniadur

Yn 2012, cyhoeddir, mewn 7 cyfrol, wyddoniadur Llydewig o’r enw “Encyclopédie de la Bretagne”. Bydd yn ymdrin â natur, diwylliant, treftadaeth, hanes, y môr, gwleidyddiaeth ac amryfal bynciau eraill. Rhoddwyd cychwyn i’r fenter yn 2007 wedi … Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Ynni rhad heb yr un risg?

15 octobre Rennes Anti-Nucléaire, a photo by maxlehiboux on Flickr.Ar 15 Hydref, 2011, bu 15,000 o bobl yn strydoedd Roazhon (Rennes) yn gwrthdystio yn erbyn ynni niwclear, tipyn yn fwy, meddir, nag a oedd yn y dinasoedd eraill lle y cynhaliwyd protes… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Heb air ’gorwedd Yann Desbordes

Bu farw Yann Desbordes, gŵr hynod weithgar ym myd y Llydaweg am lawer o flynyddoedd. Bu ef a’i wraig, Tereza, yn gofalu am gyhoddiadau Hor Yezh a chyda Divi Kervella ac Iwan Kadored cyfansoddodd “Geriadur bihan brezhoneg-galleg, galleg-brezhoneg… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Dim llonydd gan weinyddwyr

Mae Llywodraeth Cyngor Rhanbarthol Lydaw wedi cyhoeddi na fydd yn dal i ariannu Skol-Uhel ar Vro (Sefydliad Diwyliannol Lydaw) nac Ajañs Sevenadurel Breizh (Asiantiaeth Ddiwylliannol Llydaw) ac y caiff y ddau gorff eu disodli gan un newydd yn 2012. Cy… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Eto rhaid paratoi i’r ras

IMG_2543, a photo by www_ukberri_net on Flickr.Bydd y drydedd Redadeg (ras) yn cael ei chynnal rhwng 12 a 19 Mai, 2012, gyda phob cilometr yn cael ei noddi, gan gymdeithasau a chan unigolion, er mwyn codi arian at fudiadau sydd yn gweithio dros y Llyda… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Ymunent yn eu menter

Ar 8 Hydref 2011, cynhaliwyd cynhadledd ddiwrnod yn Sant-Nazer (Saint-Nazaire) ar y thema “Llydaw a Chymru yng nghanol Bwa Môr Iwerydd” (Breizh ha Kembre e-kreiz ar Wareg Atlantel). Bu rhyw gant o bobl yn cymryd rhan ac edrychwyd yn fwyaf arbenn… Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Colli’r cain benllieiniau

Bigoudenn, a photo by finofilka on Flickr.A oes Llydawesau sy’n dal i wisgo gwisg Lydewig o ddydd i ddydd neu a aeth yn gwbl ffocloraidd, fel yr awgrymir gan y mae’r modd y defnyddir cymeriadau cartŵn sy’n gwisgo penllieiniau tal y Vro Vigoudenn… Parhau i ddarllen