Archives: theatrffilmteledu

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Llwyddiant Cynfyfyrwyr

Mae wedi bod yn gyfnod llwyddiannus iawn i rhai o’n cynfyfyrwyr. Ychydig wythnosau yn ol cyhoeddwyd mai Alex Jones yw cyflwynydd newydd The One Show ar BBC1. Bu Alex yn fyfyrwraig BA Theatr, Ffilm a Theledu yn yr Adran rhwng 1995-1998, ac wedi hynny fe fu’n ymchwilydd teledu cyn troi at yrfa o flaen y [...] Parhau i ddarllen

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Cyn-fyfyriwr: Alun Saunders

Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth yn 2001 es i hyfforddi fel Actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ers hynny dwi wedi bod yn gweithio fel Actor ac Awdur Sgriptiau broffesiynol i gwmnïau fel Clwyd Theatr Cymru, Theatr na n’Og, BBC Radio 4, Teledu Apollo, Fiction Factory a Wales Theatre Company. Cefais amser [...] Parhau i ddarllen

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Hamlet, Tinopolis a Stiwdio Newydd

Gyda’r Pasg dim ond rownd y gornel, mae’r bwrlwm yn yr Adran yn parhau! Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae myfyrywr Drama o’r ail a’r drydedd flwyddyn wedi bod yn ymarfer Hamlet, gyda’r perfformiad cyntaf yn digwydd heddiw. Mae’r sioe yn agor mewn lleoliad anarferol efallai, sef Eglwys Llanbadarn. Os hoffech archebu tocynnau ar gyfer [...] Parhau i ddarllen

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Bywyd y Bugail

Heno fe fydd rhaglen a gyfarwyddwyd gan un o’n cyn-fyfyrwyr yn cael ei ddarlledu ar S4C. Graddiodd Iwan England o’r Adran yn 1999, ac ers hynny mae e wedi gweithio i gylchgrawn Golwg a Boomerang + cyn mentro i’r byd llaw rhydd fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd. Profodd tipyn o lwyddiant eisoes, gyda’i gyfres Ffordd Newydd [...] Parhau i ddarllen

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Bwrlwm Tymor Newydd

Mae’r tymor newydd wedi cychwyn heddiw gyda’r bang mwyaf! Mae’r modiwlau Hunaniaeth Ddiwylliannol ar y Sgrin, Theatr Ewrop Fodern wedi cychwyn heddiw, yn ogystal a Chynhyrchu Stiwdio, sydd wedi ymgartrefu yn stiwdio newydd sbon R. Gerallt Jones yn Adeilad Parry-Williams. Cewch weld lluniau o’r datblygiad newydd hwn yn y man! Yn ogystal, mae yna gynyrchiadau [...] Parhau i ddarllen

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Nadolig Llawen!

Parhau i ddarllen

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Llongyfarchiadau Jamie!

Llongyfarchiadau mawr i Dr Jamie Medhurst ar ennill grant Rhwydweithio Ymchwil gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) gwerth bron £34,000. Mae’r rhwydwaith rhyngwladol hwn, o’r enw ‘British quality, American chaos? Transnational discourses and interactions in the history of British and North American broadcasting, c.1922-1962′ yn dod ag ysgolheigion, ymchwilwyr ac archifwyr at ei [...] Parhau i ddarllen

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Rhodri Meilir

Yn ystod yr wythnsoau diwethaf, gwelwyd un arall o’n cyn-fyfyrwyr yn dychwelyd i Aberystwyth er mwyn ffilmio cyfres newydd sbon ar gyfer S4C. Bu Rhodri Meilir yn astudio yn yr Adran rhwng 1997-2000, ac erbyn hyn mae’n actor llwyddiannus. Mae e wedi gweithio ym myd theatr a theledu, ac wedi ymddangos yn Y Pris (Fiction [...] Parhau i ddarllen

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Blodau

Mae un o’n cyn-fyfyrwyr diweddar yn ymddangos mewn cyfres newydd sbon ar S4C a rhyn o bryd. Mae Sion Wyn Fon, a raddiodd y llynedd gyda BA Drama ac Astudiaethau Theatr, i’w weld bob nos Sul yn y gyfres Blodau. Edrychwn ymlaen at ddilyn … Parhau i ddarllen

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Stuart Kershaw

Yr wythnos diwethaf, cafwyd ymweliad gan Stuart Kershaw, un o’n cynfyfywyr. Daeth i sgwrsio a’n glasfyfyrwyr am ei brofiadu ym myd y gwaith ers iddo raddio yn 2003. Mae Stuart bellach yn rhedeg ei gwmni teledu ei hun, In the Dark Productions, ond yn ogsytal a hynny mae e wedi cyflawni mwy nag un camp. [...] Parhau i ddarllen

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Lisa, Tudur a Gwawr

Llongyfarchiadau mawr iawn i dri o’n cyn-fyfyrwyr ar gael eu dewis fel cyflwynwyr newydd rhaglen Uned 5. Fel fydd Lisa Pyrs (Drama ac Astudiaethau Theatr 2005-08), Tudur Evans (Drama a Chymraeg 2005-08), a Gwawr Loader (Drama a Chymraeg 2006-2009) i’w gweld bob wythnos ar S4C rhwng 1230-1430. Da iawn chi! Parhau i ddarllen

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Profiad Cyn-fyfyriwr: Nicky John

Mae meddwl yn ôl ar fy nghyfnod yn Aber wastad yn rhoi gwên ar fy wyneb. Roeddwn i wrth fy modd ar y cwrs, roedd gen i griw arbennig o ffrindiau, ac roeddem ni gyd yn dod ymlaen yn wych gyda’r darlithwyr hefyd. Daeth un o fy hoff gyfnodau yn ystod y 3ydd blwyddyn – [...] Parhau i ddarllen

Newyddion Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth: Eisteddfod 2009

Os ydych yn ymweld a’r Eisteddfod yn y Bala yr wythnos hon, dewch draw i’n gweld ar stondin Prifysgol Aberystwyth. Mae yna lu o ddigwyddiadau trwy gydol yr wythnos, yn eu plith lansio app newydd ar gyfer iphone a chyhoeddi enillydd her cyfieithu Ty Cyfieithu. Cynhelir derbyniad i gynfyfyrwyr am 3 o’r gloch ar brynhawn [...] Parhau i ddarllen