-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archives: ubuntucymraeg
Ubuntu Cymraeg: Llwytho rhaglenni BBC iPlayer
Mae rhaglen get-iplayer yn galluogi defnyddwyr Ubuntu i lwytho copi cadw MP4 o raglenni o wefan iPlayer BBC. I lwytho’r meddalwedd chwiliwch am get-iplayer yng Nghanolfan Meddalwedd Ubuntu – bydd CMU yn sicrhau bod pecynnau eraill sydd angen i redeg y rhaglen yn cael eu llwytho hefyd.
Rhaglen llinell orchymyn yw get-iplayer, ac mae cyfarwyddiadau ar [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Dydd Mercher Du
Bydd llawer o wefannau ar gau ar ddydd Mercher, Ionawr 18 fel rhan o streic fyd-eang yn erbyn mesurau sy’n cael eu trafod gan Gyngres Unol Daleithiau’r America i gyfyngu ar ryddid ar y we.
Fe fyddai’r mesurau’n effeithio ar lawer o wefannau sy’n cael eu defnyddio gan bobl y tu fas i UDA, a’r gofid [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Canllaw gosod rhaglenni a meddalwedd
Er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am bynciau pwysig ar gael yn hawdd, a’r wybodaeth honno’n gyfredol, dyma dudalen ar sut i osod meddalwedd ar Ubuntu. Gellir mynd ati drwy glicio’r ddolen Gosod Rhaglenni yn y ddewislen ar frig y blog.
Ma… Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Tynnu sgrînlun o ran o’r sgrîn
Ar Ubuntu a nifer o systemau gweithredu eraill mae bysell PrtSc yn tynnu sgrînlun o’r sgrîn gyfan. Os oes angen llun o ran o’r sgrîn mae’n rhaid agor Gimp i olygu’r sgrînlun, neu newid gosodiadau Gimp cyn tynnu’r sgrînlun. Mae estyniad Area Screenshot yn gwneud hyn yn hawdd drwy greu llwybr byr ar gyfer y [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Hacio’r Iaith 2012
Cynhadledd agored ar y we a thechnoleg sy’n rhoi’r cyfle i bobol i ddod i gyflwyno eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd mewn awyrgylch braf, hamddenol a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cynhadledd 2012 yn cynnwys sesiwn dan arweiniad Mark Jones am gyfieithu Ubuntu ar Launchpad.
Adeilad Parry-Williams, Prifysgol Aberystwyth, ar benwythnos Ionawr [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Gpaste: rheolwr clipfwrdd Gnome
Mae Gpaste yn declyn defnyddiol sy’n arbed y defnyddiwr rhag gorfod symud yn ôl ac ymlaen rhwng ffeiliau yn copïo a gludo testun a delweddau. Gall fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth gyfieithu, blogio neu olygu dogfennau testun.
Gpaste: rheolwr clipfwrdd Gnome
I osod Gpaste bydd angen copïo, gludo a gweithredu’r canlynol mewn terfynell fesul llinell.
sudo [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Clic dde yn Nautilus
Fel y rhan fwyaf o reolwyr ffenestri mae gan Nautilus ddewsilen clic dde sy’n cynnwys pethau fel dileu, creu plygell ayb, yn dibynnu ar y cyd-destun. Mae modd ychwanegu llawer mwy o ddewisiadau drwy lwytho Nautilus Actions Extra, pecyn o sgriptiau defnyddiol ar gyfer Nautilus.
I lwytho’r pecyn bydd angen copïo a gludo’r canlynol fesul llinell [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Swp brosesu delweddau gyda Converseen
Er bod modd defnyddio ImageMagick i drosi, addasu a phrosesu delweddau, nid yw defnyddio terfynell at ddant pawb. Mae Converseen yn rhaglen gyda rhyngwyneb graffegol sy’n defnyddio ImageMagick i wneud y gwaith. I’w osod copia, gludo a gweithredu’r canlynol mewn terfynell fesul llinell.
sudo add-apt-repository ppa:faster3ck/converseen
sudo apt-get update
sudo apt-get install converseen
Gwefan Converseen | Sgrînluniau
Ubuntu Cymraeg: Defnyddio GNOME 3
Dyma ran gyntaf canllaw ar ddefnyddio Gnome 3.
Y peth cyntaf i wneud ar ôl gosod Gnome ar y system yw cychwyn Gnome Tweak Tool. Os nad yw ar y system yn barod gellir ei lwytho drwy: sudo apt-get install gnome-tweak-tool
Drwy ddefnyddio Gnome Tweak Tool mae modd rheoli llawer o Gnome, gan gynnwys:
Thema Gnome Shell
Thema eiconau
Thema [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Full Circle 55
Mae rhifyn 55 o Full Circle ar gael i’w lwytho’n rhad ac am ddim o fan hyn. Mae hefyd modd ei lwytho erbyn hyn o Ganolfan Meddalwedd Ubuntu, a bydd yn cael ei gadw yn /opt/fullcircle/issues/.
Mae’r cylchgrawn hefyd yn rhyddhau podledi… Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: GNOME 3
GNOME 3 yw penbwrdd diofyn Linux Mint 12, Fedora 16 a nifer o systemau gweithredu eraill. Mae’r penbwrdd yn hawdd i’w ddefnyddio, deniadol, cyflym, a chyfoes, ac yn integreiddio’n hawdd gyda gwasanethau fel Gmail a Calendr Google, Twitter, Facebook ayb. Gellir ei osod ar Ubuntu drwy agor Terfynell a chopïo a gludo’r gorchymyn hwn:
sudo apt-get [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Linux Mint a Gnome 3
Mae’n debyg mai Linux Mint, ac nid Ubuntu, yw’r fersiwn mwyaf poblogaidd o Linux erbyn hyn ar gyfer defnyddwyr newydd. Mae ffigyrau diweddar o wefan Distrowatch yn dangos cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl sy’n dewis llwytho Mint, a hynny ar draul Ubuntu. Y prif reswm sy’n cael ei roi dros y newid hwn [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Skype ar Ubuntu
Mae Skype yn un o’r miloedd o raglenni sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar Ubuntu. I’w osod agor Canolfan Meddalwedd Ubuntu a’i ddewis, a rho glec i’r blwch wrth Indicator Support for QT. Er mwyn sicrhau bod Skype yn cychwyn gyda’r system cer i dop eithaf dde’r penbwrdd, rho glec i Startup [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Ubuntu ar werth ar gyfrifiaduron yn siopau China
Cyhoeddodd Canonical bod dros 200 o siopau yn China yn bwriadu gwerthu cyfrifiaduron Dell gydag Ubuntu wedi ei osod arnyn nhw.
Ubuntu ar werth ar gyfrifiaduron yn China
Y stori’n llawn ar flog Canonical.
Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Cyfweliad gyda datblygwr Ubuntu 15 oed
Cyfweliad gyda Bilal Akhtar gan Jason Gerard DeRose ar Vimeo.
Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Tudalen Google Plus Ubuntu Cymraeg
Mae gan Ubuntu Cymraeg dudalen ar Google+. Os wyt ti’n defnyddio Google Plus ychwanega’r dudalen at dy gylchoedd neu ei dilyn.
Dyma rai tudalennau Linux eraill sy’n werth eu dilyn ar Google Plus:
Ubuntu | Sefydliad Meddalwedd Rhydd | OMG Ubuntu | Linux Journal | The Document Foundation (Libre Office) | Gnome
Mae hefyd modd i ti [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Rhifyn 54 o Full Circle
Mae rhifyn 54 o Full Circle ar gael i’w lwytho’n rhad ac am ddim o fan hyn. Mae’n cynnwys erthyglau ar ddefnyddio Python i raglennu, FreeMind, strategaeth cadw copi wrth gefn, Apt-Cache NG, defnyddio Ubuntu mewn busnes ac addysg, a th… Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Arbedwr Sgrîn yn Ubuntu 11.10
Er nad yw Ubuntu 11.10 yn cynnwys pecyn arbedwr sgrîn, mae’n broses hawdd i osod un. Ceir cyfarwyddiadau syml ar sut i wneud hyn ar flog liberiangeek.net.
Arbedwr Sgrîn Pacman ar Ubuntu 11.10
Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Sefyll dros yr hawl i osod meddalwedd rhydd
Mae cwmni Microsoft wedi cyhoeddi y bydd yn rhaid i wneuthurwyr sydd eisiau gosod logo cytunedd Windows 8 ar eu peiriannau ddefnyddio’r hyn sy’n cael ei alw’n “Secure Boot.” Mae’n debygol y bydd hyn yn arwain at weithredu cyfyngiadau bwtio mewn ffordd fydd yn atal y defnyddiwr rhag bwtio mewn i unrhyw system heblaw Windows.
Dim [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Defnyddio Minitube i wylio fideos Youtube
Os wyt ti eisiau gwylio fideos YouTube heb fynd i’r drafferth o agor porwr a phori gwefan YouTube defnyddia Minitube. Mae fersiwn Linux ar gael yn rhad ac a ddim o Ganolfan Meddalwedd Ubuntu, a fersiynau Mac a Windows ar gael o wefan Minitube. Mae Minitube yn cynnig opsiwn i lwytho copi cadw o’r ffeil [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: 5 peth i wneud ar ôl gosod Ubuntu 11.10
Canolfan Meddalwedd Ubuntu
Unwaith y byddi wedi gosod Ubuntu 11.10, mae’n werth ymuno gyda Fforwm Ubuntu cyn mynd ati i wneud y pethau canlynol:
1 Dysgu sut i ddefnyddio llwybrau byr Unity
Mae rhestr ddefnyddiol o lwybrau byr Unity ar wefan Tech Drive-in.
2 Dysgu sut i ddefnyddio Canolfan Meddalwedd Ubuntu
3 Gosod Ubuntu Restricted Extras
Drwy osod pecyn [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Uwchraddio i Ubuntu 11.10
Ubuntu 11.10 yw’r ail fersiwn o Ubuntu i ddefnyddio penbwrdd Unity yn ddiofyn. Cafodd ei ryddhau yn Hydref 2011, ac mae uwchraddio o 11.04 yn hawdd. Agor y Rheolwr Diweddariadau a rhoi clec i’r botwm sy’n cynnig yr opsiwn i uwchraddio, wedyn cer i wneud paned o de! Gall y broses gymryd hyd at 45 [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Beth sy’n newydd yn Ubuntu 11.10
Fideo gan OMG Ubuntu sy’n amlinellu’r hyn sy’n newydd yn Ubuntu 11.10. Rhyddhawyd Ubuntu 11.10 (Oneiric) ar ddydd Gwener, Hydref 14, 2011.
Ubuntu Cymraeg: Diweddariad i Ffontiau Ubuntu
Mae Canonical wedi rhyddhau diweddariad i ffontiau Ubuntu, gan gynnwys ffont newydd Ubuntu Condensed. Gellir eu llwytho o font.ubuntu.com, a’u gosod drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar wiki Ubuntu.
Ffontiau Ubuntu yn LibreOffice Cymraeg
Ymateb i gwes… Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Firefox 7
Firefox 7
Mae Firefox 7 wedi cyrraedd Cronfeydd Meddalwedd Ubuntu. Dim ond i ti agor y Rheolwr Diweddariadau yn Ubuntu bydd yn cael ei osod ar dy gyfrifiadur. Mae rhyngwyneb FF7 ar gael yn y Gymraeg.
Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Y Cyfeiriadur Meddalwedd Rhydd
Ddoe cyhoeddodd y Sefydliad Meddalwedd Rhydd (SMRh) ei fod yn ail-lansio’r Cyfeiriadur Meddalwedd Rhydd. Mae hwn yn rhestru dros 6,500 o raglenni y gall unrhyw un sy’n defnyddio cyfrifiadur eu llwytho, eu defnyddio a’u rhannu. Lansiwyd y cyfeiriadur gwreiddiol dros ddegawd yn ôl, ond mae’r fersiwn ryddhawyd ddoe yn cynnwys llawer o bethau newydd sy’n [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Rhedeg Android ar Ubuntu
Android
Os wyt ti eisiau datblygu rhaglenni neu apps ar gyfer ffônau symudol neu liniaduron sy’n rhedeg system Android, neu eisiau gweld system Android ar waith, mae modd i ti lwytho Pecyn Datblygu Meddalwedd (SDK) Android ar Ubuntu.
Wedi i ti osod yr SDK, bydd angen mynd ati i ychwanegu platfform: Android 2.3 (Gingerbread) yw’r un [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Firefox 5 yn y Cronfeydd Meddalwedd
Mae Firefox 5 ar gael i’w lwytho a’i osod ar Ubuntu. Bydd yn llwytho’n awtomatig drwy’r Rheolwr Diweddariadau pan fyddi’n diweddaru pecynnau nesaf.
Firefox 5
Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Profi Diogelwch Rhwydwaith Diwifr
(Neu sut i gracio dy rwydwaith diwifr dy hun).
Rhwydweithiau Diwifr
Os wyt ti’n byw mewn ardal gweddol boblog bydd dewis o nifer o rwydweithiau diwifr ar gael ar dy liniadur pan fyddi’n mynd ati i gysylltu i dy rwydwaith dy hun. Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi gweithredu rhywfaint o ddiogelwch drwy amgryptio’r cysylltiad, [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Tabiau Rhaglennig ar Firefox 4
Firefox 4 yw porwr diofyn Ubuntu 11.04. Yn ogystal â’r ffaith ei fod yn gyflym iawn ac ar gael yn y Gymraeg, mae rhai nodweddion newydd yn fersiwn 4 sy’n werth rhoi cynnig arnyn nhw. Un o’r rhain yw Tabiau Rhaglennig sy’n dy alluogi i gadw dy hoff wefannau fel Gmail ac Ubuntu Cymraeg ar [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Unity ac Ubuntu 11.04
Y ffordd orau o farnu os oedd penderfyniad Canonical i gynnwys Unity fel rhyngwyneb diofyn Ubuntu yn lle penbwrdd Gnome yn iawn yw i roi cynnig arno. Mae person sy’n uchel ei barch fel un o brif awduron gwefan OMG Ubuntu yn dweud:
“Mae’n wahanol iawn, ond dyw gwahanol ddim yn gyfystyr â gwael. Y peth gorau [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Band llydan symudol ar Ubuntu
Newydd ddechrau defnyddio dongle usb band llydan symudol ar Ubuntu 11.04. Yn y gorffennol byddai’n dipyn o risg i brynu dongle rhag ofn ei fod ddim yn gweithio ar Linux, ond yn ffodus mae’r dyddiau hynny wedi hen fynd.
Dim ond plygio’r dongle mewn i’r gliniadur, agor y rheolwr rhwydwaith, ychwanegu cysylltiad dan y tab Mobile [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Gosod Firefox 4 ar Ubuntu
Firefox 4 bydd porwr diofyn y fersiwn nesaf o Ubuntu (11.04) fydd yn cael ei ryddhau ar Ebrill 28, 2011. Os nad wyt ti’n bwriadu uwchraddio’n syth mae modd ei osod ar dy system gyfredol gyda’r gorchmynion hyn. Agor terfynell a chopio a gludo’r llinellau hyn un ar y tro.
sudo add-apt-repository ppa:mozillateam/firefox-stable
sudo apt-get update
sudo apt-get [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Profi Ubuntu 11.04 ar Virtualbox
Er bod rhyw dair wythnos i fynd tan i Ubuntu 11.04 gael ei ryddhau mae modd ei brofi erbyn hyn ar Virtualbox. Mae sawl cofnod ar y blog hwn am sut i osod a rhedeg Virtualbox. Mae blog Chris Blunt yn cynnwys cyfarwyddiadau manwl am sut i weld Unity ar waith yn Ubuntu 11.04.
Cychwyn [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Dropbox ar Ubuntu
Mae Dropbox yn cynnig ffordd hawdd i rannu a chysoni ffeiliau pwysig rhwng cyfrifiaduron sy’n rhedeg Ubuntu neu system weithredu arall. Mae hefyd yn gweithio drwy raglennig ar iPod neu iPhone, a theclynnau sy’n rhedeg Android.
Ar ôl dilyn y ddolen Download, llwytho pecyn .deb o wefan Dropbox, a rhoi clec ddwbwl i’r ffeil bydd cleient [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Cysylltu Ubuntu gydag iPod Touch drwy SSH
Newydd ddod ar draws canllawiau syml sy’n esbonio sut i rannu ffeiliau rhwng Ubuntu ac iPod Touch drwy SSH. Un peth nid yw’r cofnod yn nodi yw ei bod yn werth newid cyfrinair gwraidd iPod Touch sydd wedi ei hacio drwy jailbreak o alpine i rywbeth mwy diogel. Mae gwefan Cydia yn esbonio sut i [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: LibreOffice ar gael drwy ppa
Mae LibreOffice nawr ar gael drwy ppa. I’w osod agor terfynell a chopio a gludo’r gorchmynion isod un ar y tro, gan bwyso Enter ar ôl bob un. Bydd gofyn i ti roi dy gyfrinair unwaith. Bydd dilyn y cyfarwyddiadau i’w osod yn tynnu OpenOffice.org o’r system yn gyfan gwbl.
Os wnes di osod pecynnau .deb [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Sgyrsio IRC: Tîm Ubuntu Cymru
Mae modd i unrhyw un ymuno yn y sgyrsiau sy’n cael eu cynnal gan Dîm Ubuntu Cymru. Mae dwy sianel ar gael, sef sianel Gymraeg y cyfieithwyr ar #ubuntu-cymraeg, a sianel ddwyieithog Ubuntu Cymru ar #ubuntu-cym. Mae’n hawdd sgyrsio drwy ddefnyddio cleient fel Pidgin neu Empathy, neu os am weld beth sy’n mynd ymlaen galli [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Ubuntu Tweak
Mae rhaglen Ubuntu Tweak wedi dod yn boblogaidd iawn fel ffordd gyfleus o newid cyfluniad a gosodiadau system. Er bod modd cyflawni’r rhan fwyaf o’r tasgau yn rhywle arall yn Ubuntu, mae Ubuntu Tweak yn tynnu’r cyfan at ei gilydd mewn un rhaglen ddeniadol a hawdd ei defnyddio.
Mae sawl ffordd o osod Ubuntu Tweak ar [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Ubuntueiddio dy dudalen gartref
Os wyt ti wedi cael llond bol ar dy dudalen gartref beth am osod un ar thema Ubuntu yn ei lle. Mae OMG Ubuntu yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn. Wedi i ti ddilyn rhain mae modd Cymreigio’r dudalen gartref newydd drwy:
Agor homepage.html a newid y teitl i Cartref <title>Cartref</title>, a’r botwm Go [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Unity i gael blaenoriaeth dros Gnome
Mae Canonical wedi cyhoeddi mai nid Gnome fydd penbwrdd diofyn Ubuntu 11.04, ac y bydd Ubuntu yn ffafrio Unity yn ei le. Daw’r cyhoeddiad wedi ymateb cymysg i gyflwyno Unity i Ubuntu Netbook Edition 10.10 ym mis Hydref eleni. Ers hynny mae staff Canonical a gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio ar ddatblygu Unity i fod [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Gosod fersiwn argraff gyntaf o LibreOffice
Os wyt ti eisiau gweld sut fydd LibreOffice yn edrych wedi i Ubuntu symud at ddosbarthu hwn yn lle OpenOffice.org, mae modd i ti ei osod ochr yn ochr ag OpenOffice.org ar dy system. Mae’n edrych yn debyg iawn i OpenOffice.org ar hyn o bryd, ond bydd yn datblygu i fod yn wahanol iddo gydag [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: LibreOffice i ddisodli OpenOffice.org yn Ubuntu
Bydd y cwmniau sy’n rhyddhau y fersiynau mwyaf poblogaidd o Linux yn rhoi’r gorau i ddosbarthu OpenOffice.org yn y dyfodol agos, ac yn cynnwys LibreOffice yn ei le. Mae Red Hat (Red Hat a Fedora), Canonical (Ubuntu, Kubuntu, Xubuntu, Edubuntu, Ubuntu Netbook Edition), Novell (Suse) a Google eisoes wedi cyhoeddi y bydd LibreOffice yn cael [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Gosod LAMP gydag 1 gorchymyn ar Ubuntu
Wrth osod gweinydd LAMP ar Ubuntu 10.04 neu 10.10 fe fyddi di’n gosod: Gweinydd Apache HTTP, MySQL (meddalwedd cronfa ddata) a PHP/Perl/Python – yr elfennau sydd angen i redeg gweinydd ar dy gyfrifiadur.
Mae’r cofnod hwn yn rhoi manylion am sut i osod XAMPP ar Ubuntu, ond mae’r un mor hawdd os nad yn haws i [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Tîmau Ubuntu Cymru
Beth am ymuno â thîmau Ubuntu Cymru a chyfrannu at hyrwyddo a datblygu Ubuntu yng Nghymru a thrwy gyfrwng y Gymraeg?
Tîm Cymru
Tîm Cymuned Leol (LoCo) ar gyfer Cymru yw Ubuntu Cymru. Ei nod yw: “hyrwyddo Ubuntu yng Nghymru ymhlith busnesau, ysgolion a’r boblogaeth gyfan, yn ogystal â chynnig cefnogaeth yn rhad ac am ddim drwy [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Rhagor am Conky
Conky: Gmail a Rhagolwg Tywydd
Mae modd defnyddio Conky nid yn unig i fonitro’r system ond hefyd i ddangos gwybodaeth ar y penbwrdd am bethau fel tywydd, ebost ayb. Erbyn hyn mae dros 1,500 o dudalennau o drafodaeth am Conky ar fforwm Ubuntu, gyda defnyddwyr yn cyfrannu syniadau a cod newydd yn ddyddiol. Mae’r cofnod [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: Sintel: ffilm wedi ei chreu gyda Blender
Ffilm gafodd ei chreu gyda Blender a meddalwedd cod agored arall: Mwy am Sintel | Llwytho Sintel
Ubuntu Cymraeg: Xubuntu ac Xfce
Xubuntu
Os oes gen ti hen gyfrifiadur neu liniadur beth am roi cynnig ar Xubuntu, fersiwn ysgafn a chyflym iawn o Ubuntu? Gall Xubuntu redeg ar cyn lleied â 192MB o RAM, ac mae’n defnyddio amgylchedd penbwrdd Xfce yn lle Gnome (Ubuntu) neu KDE (Kubuntu). Mae modd gwneud popeth fyddet ti’n disgwyl gallu gwneud ar [...] Parhau i ddarllen
Ubuntu Cymraeg: OMG! Ubuntu!
Wedi ychwanegu OMG! Ubuntu! i’r rhestr dolenni defnyddiol ar Ubuntu Cymraeg.
“Blog Ubuntu sy’n edrych ar y datblygiadau, rhaglenni a themâu diweddaraf, ynghyd â chyfweliadau, arolygon barn a llawer mwy. Mae’r blog wedi ei anelu at ddefnyddwyr pob dydd.“




































