Archives: Vaughan Roderick

BBC - Blog Vaughan Roderick: Cau’r Siop

Fe fydd y siop fach hon yn cau ei drysau yn ystod y dyddiau nesaf. Na phoener – fe fydd y cyfan o’r cynnwys yn cael ei gadw fel archif ac fe fydd archfarchnad swanc newydd yn agor ar yr un safle cyn bo hir.

Oce- rwy’n gor-ddweud. Ni’n ail-addurno’r bl… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Hyhi

Mae’n ymddangos bod pob copa walltog yn y byd gwleidyddol wedi cael cyfle i ddweud ei ddweud ynghylch y Farwnes Thatcher yn ystod y pedair awr ar hugain diwethaf. Oes yna unrhyw beth ar ôl i ddweud, dywedwch?

Gormod o bwdin dagiff gi ac efallai eich bod wedi cael hen ddigon erbyn hyn ond rwyf am fentro i’r fei unwaith yn rhagor.

Oscar Wilde piau’r geiriau “all men kill the things they love” a’r cwestiwn sy gen i yw hwn – a wnaeth Margaret Thatcher, yn ddiarwybod iddi ei hun, blannu hadau dinistr y wladwriaeth yr oedd hi’n eu llywodraethu drosti ac oedd yn destun ei gwladgarwch amlwg?

Yr wythnos hon cyhoeddodd Wikileaks lwyth o ohebiaeth rhwng llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain a’r awdurdodau yn Washington. Yn eu plith mae adroddiad o 1976 sy’n dwyn y teitl “The Tories and Devolution” ac yn mynegi pryder ynghylch agwedd Margaret Thatcher, oedd yn arweinydd yr wrthblaid ar y pryd, tuag at ddatganoli grym i Gymru a’r Alban. Dyma mae’n ei ddweud.

“The present difficulty also confirms criticisms of Mrs Thatcher’s leadership which were made at the time of her latest shadow cabinet reshuffle, that she was moving the party perceptibly to the right and narrowing the base of the party’s appeal… The Tories now appear to be the voice of the English backlash on devolution, increasingly rigid in opposing devolution.”

Mae’n anodd credu hyn nawr ond cyn ethol Margaret Thatcher yn arweinydd doedd y Torïaid ddim yn gwbwl penstiff yn erbyn datganoli. Yn wir pe na bai Margaret Thatcher wedi trechu Edward Heath mae’n ddigon posib y byddai Llafur a’r Ceidwadwyr wedi gallu cyrraedd consensws ynghylch datganoli yn y 70au ac y byddai Cynulliadau wedi cael eu sefydlu yn yr Alban a Chymru heb hyd yn oed gofyn i’r cyhoedd l leisio eu barn mewn refferendwm.

Pe bai hynny wedi digwydd ni fyddai cefnogi datganoli wedi troi’n gyfystyr bron a gwrthwynebu Thatcheriaeth yn ystod blynyddoedd ei theyrnasiad. Yn sicr roedd “diogelu Cymru rhag Thatcher arall” yn un o brif ddadleuon ymgyrchwyr dros ddatganoli yn refferendwm 1997.

Yn yr Alban roedd effaith arweinyddiaeth Margaret Thatcher hyd yn oed yn fwy dramatig. Yn Etholiad Cyffredinol 1955 fe enillodd y Blaid Geidwadol dros hanner y pleidleisiau a fwriwyd yn yr Alban. Erbyn hyn mae’n ymylu ar fod yn blaid ymylol – ac yn ystod cyfnod Margaret Thatcher y gwnaed y difrod.

O streic y glowyr i dreth y pen roedd hi fel pe bai Margaret Thatcher yn ceisio cythruddo’r Albanwyr yn fwriadol. Nid dyna oedd ei bwriad ond roedd yn ymddangos felly i lawer. Roedd hyd yn oed yr acen a’r llais yn dân ar groes i rai.

Os ydy’r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth flwyddyn nesaf dyna ddiwedd ar y Deyrnas Unedig ar ei ffurf bresennol. Mae hynny’n os go fawr ond mae’n anodd osgoi’r casgliad na fyddai’r os hyd yn oed yn codi oni bai am Margaret Thatcher.

Oni fyddai’n eironig pe bai’r Farwnes Thatcher yn cael ei chofio yn y diwedd nid oherwydd y Falkands na threth y pen na streic y glowyr ond fel bydwraig annibyniaeth yr Alban ac awdur dinistr y deyrnas ?

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Drygioni Deg o Ni

Dyma i chi gyffesiad. Ar y cyfan dydw i ddim yn hoffi newyddiadura ynghylch y cyfryngau na’r Gymraeg. Maen nhw’n bynciau sy’n rhy agos at adref rhywsut. Serch hynny o bryd i gilydd mae rhywbeth yn fy ngwylltio neu’n fy niddori digon i fy nhemtio i’r meysydd hynny.

Digwyddodd hynny rhai misoedd yn ôl ar ôl i mi gael fy nhrin yn ofnadwy o wael gan yr Office of National Statistics ar ôl gofyn am wasanaeth Cymraeg. Fe sortiwyd y peth gan swyddfa’r Comisiynydd Iaith yn y diwedd ac fe ges i wasanaeth Cymraeg. Dydw i ddim eto wedi derbyn ymddiheuriad gan yr ONS nac hyd yn oed llythyr yn cydnabod y gwyn.

Nawr bant a fi eto. Ydych chi’n cofio’r stori yma o fis Hydref y llynedd?

Roedd hi’n ymddangos yn wirion ar y pryd bod y “Gronfa Loteri Fawr” yn gwrthod rhoi cymorth i bapur bro Cymraeg ar y sail nad oedd ei wefan yn ddwyieithog. Ymddengys bod y gronfa wedi sylweddoli pa mor hurt oedd ei safiad ac yn dawel fach cafodd y penderfyniad ei wyrdroi.

Wrth gwrs cymdeithas fach llaw i geg yw cyhoeddwyr y Gloran. Ydy plismyn iaith y Gronfa Loteri Fawr yr un mor frwdfrydig ynghylch dwyieithrwydd wrth ddelio ac elusennau llawer mwy sy’n gweithio yn bennaf trwy’r Saesneg?

Dim ffiars o beryg.

Derbyniodd elusen “Tenovus” sydd a’i phencadlys yng Nghaerdydd bron i filiwn o bunnau i sefydlu corau i gleifion sy’n brwydro cancr. Mae’n syniad wych. Does dim byd yn fwy Cymreig a Chymraeg na chôr. Beth sydd gan wefan Tenovus i ddweud am y cynllun?

Mae Tenovus yn gweithio i’r eithaf i ddarparu gwybodaeth yn y Gymraeg ble bynnag posib, ond ar hyn o bryd nid oes gennym cyllid nag adnoddau i gynnig gwefan dwyieithog.”

Et tu, Tenovus?

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Rwy’n hoffi Colin hefyd

Mwy na thebyg fe fyddwch wedi darllen blogbost diflewyn ar dafod Leighton Andrews ynghylch Cymdeithas yr Iaith erbyn hyn. Os na ydych chi mae’r cyfan ar gael yn fan hyn ond mae hanfod ei ddadl ar ddiwedd yr erthygl.

“Yn anffodus, mae’n ymddangos bod y Gymdeithas wedi datblygu’n un o’r sefydliadau hynny y rhybuddiais amdanynt yn Strategaeth yr Iaith Gymraeg, nad ydynt eto wedi ymgyfarwyddo â datganoli. Fel S4C cyn penodiad Ian Jones, fel CBAC, fel Prifysgol Cymru, fel y 22 awdurdod addysg lleol ac fel yr Eisteddfod.

Os yw’r Gymdeithas am fod yn rhan o’r sgwrs fawr ar ddyfodol yr iaith, yna mae pob croeso iddynt. Ond allan nhw ddim eistedd o amgylch y bwrdd trafod a cheisio atal eraill rhag gwneud y gwaith y cawsant eu hethol i’w wneud ar yr un pryd.

Mae’r Gymdeithas wedi troi’n hanner cant bellach, ac mae’n bryd iddi dyfu i fyny.”

Nawr mae’n anodd anghytuno a honiad y Gweinidog bod meddiannu ei gar swyddogol pan oedd e eisoes wedi cytuno i gwrdd â’r protestwyr i drafod eu pryderon yn beth rhyfedd i wneud. Beth oedd y protestwyr yn ceisio cyflawni? Mae’n anodd gwybod.

Ond i fi nid ymddygiad y Gymdeithas sy’n ddiddorol yn fan hyn ond ymateb y Gweinidog. Yn sicr mae Leighton yn wleidydd sy’n hoff o siarad plaen. Dyw e ddim yn ofni pechu pobol na herio eu rhagdybiaethau. Yn eironig ddigon yr unig wleidydd cyfoes sy’n dod yn agos ato o safbwynt ei barodrwydd i dynnu nyth cacwn i’w ben yw ei elyn pennaf Michael Gove, Ysgrifennydd Addysg Lloegr.

Fel mae Leighton yn awgrymu yn ei bost mae ‘na dipyn o hanes rhyngddo fe a fi. Ni’n nabod ein gilydd ers degawdau ac rwy’n meddwl yn ei ddeall yn gymharol dda. Un peth fi’n sicr yn ei gylch yw bod bron popeth y mae Leighton yn gwneud yn cael ei wneud at bwrpas. Nid tynnu blew o drwyn er mwyn gwneud hynny mae’r Gweinidog Addysg.

Sylwch nad yng ngwres y foment y cyhoeddodd Leighton ei sylwadau ond peth amser ar ôl y digwyddiad y mae’n cwyno yn ei gylch. Mae’r lled-fygythiad a’r gwahoddiad wedi eu geirio’n ofalus.

Ac o dderbyn telerau’r Gweinidog beth all y Gymdeithas ddisgwyl? Gwn hyn am Leighton hefyd. Mae’n hael i’r rheiny sy’n derbyn ei gyngor. Y bore yma cyhoeddwyd y gorchymyn fydd yn arwain at uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru Casnewydd uniad yr oedd y Leighton yn deisyfu ei weld ac ynghyd a’r gorchymyn cyhoeddiad arall – £24.8 miliwn o gyllid ychwanegol i’r sefydliad newydd.

Fel dywedais i mae Leighton yn hael i’w gyfeillion ac o leiaf mae’n hoffi Colin!

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Codi Cwestiwn

Un o’r tasgau lleiaf heriol rwy’n wynebu yn ystod fy wythnos gwaith yw gwrando ar sesiwn gwestiynau’r Prif Weinidog a’i chrynhoi i’r rheiny sy’n gwylio AMPM ar BBC2.

Mae gan y rhaglen gynulleidfa ond mae’n un fechan ac yn llai o dipyn na’r nifer sy’n gwylio fersiwn San Steffan o gwestiynau’r Prif Weinidog bedair awr ar hugain yn ddiweddarach.

Nawr mae’n bosib bod yn well gan y Gynulleidfa Gymreig Andrew Neil na Vaughan Roderick ond esboniad mwy tebygol am y gwahaniaeth yw bod ‘na ddiffyg drama yn perthyn i’r croesholi yn y Bae. Mae’r sesiynau’n gallu bod yn ddiddorol ond dyw nhw ddim ar y cyfan yn adloniant da.

Mewn un ystyr dyw hynny o fawr o ots. Atebolrwydd nid adloniant yw’r pwrpas, wedi’r cyfan. Ond mae ‘na gred cyffredinol nad yw’r sesiynau’n yn gweithio o’r safbwynt hwnnw chwaith – bod Carwyn Jones yn cael getawe ar bethau byth a hefyd oherwydd cwestiynu llac a’i barodrwydd yntau i droi ei atebion yn ymosodiadau ar lywodraeth David Cameron.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae pobol o bob plaid wedi gofyn i mi beth fyswn i’n gwneud i wella pethau. Mewn gwirionedd does gen i ddim ateb pendant.

Yn rhannol y cast sy’n gyfrifol am fethiant y ddrama. Roedd ‘na hen ddigon o wrthdaro a drama yn nyddiau cynnar y cynulliad wrth i Dafydd Wigley ac Alun Michael wynebu ei gilydd yng nghrombil Tŷ Hywel. Os nad yw’r cast presennol yn ddigon siarp ac ysgafndroed i roi her go iawn i’r Prif Weinidog does ‘na fawr ddim fydd yn newid hynny.

Serch hynny mae gen i ambell i awgrym strwythurol a allai wella pethau.

Ar hyn o bryd mae’r arweinyddion y tair gwrthblaid yn cael gofyn tri chwestiwn yr un yn y cyfnod a glustnodir ar eu cyfer. Dyw hynny ddim yn ddigon. Yn San Steffan mae Ed Miliband yn cael gofyn hyd at chwe chwestiwn. Mae Andrew RT Davies, Leanne Wood a Kirsty Williams yn cymryd eu tro i agor cyfnod cwestiynau’r arweinwyr. Beth am ganiatáu chwe chwestiwn gan bwy bynnag sy’n mynd gyntaf?

Yr ail beth a allai fod o help fyddai gwahardd aelodau rhag darllen eu cwestiynau. Mae hynny wedi ei wahardd yn San Steffan a dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam y dylai Bae Caerdydd fod yn wahanol.

Yr awgrym olaf sy gen i yw cyfyngu ar y defnydd mae’r aelodau yn gwneud o gyfrifiaduron yn y Siambr. Byswn i ddim yn cael gwared arnyn nhw. Maen nhw’n caniatáu system bleidleisio llawer callach nac un San Steffan ac yn ffordd i aelodau gyfeirio at yr agenda a phapurau perthnasol i’w trafodion. Ond, o ddifri calon, os ydy aelodau’n credu bod hi’n gymwys ddelio a’u post neu bori’r we yn ystod eisteddiad – pa hawl sy ganddyn nhw i gwyno ynghylch diffyg diddordeb ymysg y cyhoedd?

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Chwilio am Ffwddog

Es i am dro rai blynyddoedd yn ôl i chwilio am le o’r enw Ffwddog neu Fwthog neu Foothog. Beth bynnag yw’r sillafiad cywir methais ddod o hyd iddi. Mae hi wedi diflannu naill ai o dan ddŵr cronfa Grwyne Fawr neu goed pinwydd tywyll y Comisiwn Coedwigaeth. Dim ond dau air sy’n addas i’w beddfaen – “Poetic Justice”!

Ynys fach o Loegr wedi ei hamgylchynu gan Gymru yng nghanol y Mynyddoedd Duon oedd Ffwddog. Fe’i dychwelwyd i Gymru gan y “Counties (Detached Parts) Act 1844″. Yna diflannodd o hanes. Fel arfer, Cymru gafodd yr ochor waethaf i’r fargen. Fe gollodd Sir Fynwy ei hynys hithau yn Swydd Henfordd – Llangystennin Garth Brenni (Welsh Bicknor) – plwyf llawer mwy sylweddol a ffyniannus.

Rwy’n crybwyll deddf 1844 oherwydd mai honna oedd y newid cyntaf i gyfundrefn llywodraeth leol Cymru ers y deddfau uno. Daeth newid llawer mwy sylfaenol yn 1888 pan gafodd y cynghorau sirol a bwrdeistrefol eu creu. Fe barodd y rheiny tan 1973. Newidiwyd y cyfan eto yn 1996 gan roi i ni’r drefn bresennol o 22 cyngor – trefn sydd, mae’n ymddangos, yn tynnu at ei therfyn.

Tan yn ddiweddar roedd ‘na gonsensws yn y Cynulliad ynghylch cyfundrefn llywodraeth leol Cymru. Yn y bôn y consensws hwnnw oedd “mae’n llanast ond dydyn ni ddim am ei newid hi”.

Dyw’r agwedd yna ddim mor hurt ag y mae’n ymddangos. Mae adrefnu llywodraeth leol yn broses gymhleth a chostus ac mae’n gallu esgor ar bob math o deimladau cryfion lleol. Ymgyrch rymus leol wnaeth arwain at greu cyngor Merthyr Tudful – cyngor nad yw hyd yn oed cynnwys etholaeth seneddol gyfan.

Ateb y Llywodraeth oedd ceisio cymell neu orfodi cydweithio trwy rannu swyddogion, sefydlu byrddau a chonsortia ac yn y blaen. Dyw hynny ddim wedi gweithio bob tro. Nid pob Cyngor sy’n dod ymlaen â’i gymdogion ac mae cydweithio o’i natur yn gallu glastwreiddio atebolrwydd.

Efallai oherwydd y problemau hynny neu efallai oherwydd yr hyn maen nhw’n gweld fel potsian diddiwedd y Llywodraeth mae’n ymddangos bod agwedd rhai o fawrion y cynghorau yn newid.

Bythefnos yn ôl galwodd cyn arweinydd y Gymdeithas Lywodraeth Leol John Davies am gyfundrefn newydd wedi ei seilio ar ffiniau’r byrddau iechyd. Gobeithio na fyddai hynny’n arwain at greu Sir Betsi Cadwaladr! Yna ddoe awgrymodd arweinydd Gwynedd taw dwy sir ddylai fod yn y gogledd.

Dyna i chi ddau o’r mawrion sy’n fodlon dweud eu dweud yn gyhoeddus ac yn ôl ffynonellau o fewn Llywodraeth Cymru mae sawl arweinydd Cyngor arall wedi gofyn am adrefnu llawn.

A fydd hynny’n digwydd? Yn hwyr neu’n hwyrach mae’n saff o wneud.

Wedi’r cyfan sut ar y ddaear mae cyfiawnhau sefyllfa lle mae gan Gymru mwy o gynghorwyr na’r Alban a mwy o gynghorau na Seland Newydd?

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Cyfrol Goffa

Ar y cyfan dydw i ddim yn ffan o ddyddiau neu wythnosau arbennig. Rwy’n deall yn iawn pam y mae elusennau a chyrff eraill yn eu clustnodi. Mae’n ffordd hawdd o ddenu sylw a ffocysu gweithgarwch ond erbyn hyn mae ‘na gymaint ohonyn nhw nes eu bod mewn peryg o droi’n ddiystyr. Wyddoch chi, er enghraifft, bod Mawrth 1af, yn ogystal â bod yn Ddydd Gwyl Dewi, yn “Ddiwrnod Rhyngwladol Hunan-Niwed” ac yn “Ddwirnod Cenedlaethol y Mochyn” yn yr Unol Daleithiau.

Mae ambell un o’r dyddiau hyn wedi ennill ei blwyf ac mae dau o’r rheiny’r wythnos hon sef Diwrnod Rhyngwladol y Merched a Diwrnod Rhyngwladol y Llyfr. Y llyfrau sydd am fy nenu i heddiw!

Roeddwn i’n trafod pynciau ar gyfer rhaglen “O’r Bae” yfory a chafodd y cynhyrchydd, Glesni Jones, y syniad o ofyn i’r panelwyr pa lyfrau oedd wedi cael y dylanwad mwyaf arnyn nhw. Nid eu hoff lyfrau, sylwch, ond y rhai mwyaf dylanwadol. Syniad da. Gwnawn hynny.

A dyma fi’n gofyn y cwestiwn i mi fy hun a sylweddoli bod un o’r llyfrau cafodd y dylanwad mwyaf arnaf hefyd yn un rwy’n ei gasau!

Llyfr gan hanesydd o’r enw Arthur Mee oedd hwn. Yn ddigon rhyfedd roedd ‘na ddau hanesydd a’r enw yna yn ysgrifennu ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Roedd un yn medru’r Gymraeg ac yn arbenigo ar hanes Sir Gar. Roedd y llall yn awdur ar sawl llyfr a chyfnodolyn i blant oedd yn mawrygu Prydain a’i hymerodraeth.

Yr ail un oedd yn gyfrifol am yr “Arthur Mee Book of Heroes” – llyfr yr oeddwn yn pori trwyddo’n aml pan yn blentyn – yn bennaf oherwydd y platiau lliwgar a’r bennod olaf ynghylch arwyr oedd yn “ordinary folk”. Roedd y straeon yn y bennod honno yn afaelgar ac yn ysbrydoledig. Roeddent yn llawer mwy diddorol na’r straeon diflas a difflach ynghylch Wellington, Picton, Kitchener a’u tebyg.

Cafodd y llyfr ddylanwad arnaf am ddau reswm. Yn gyntaf fe daniodd diddordeb oes mewn hanes ynghyd ac ymwybyddiaeth bod ‘na fwy nac un fersiwn o’r gorffennol. Yn ail, perodd i mi gwestiynu a bod yn amheus ynghylch hierarchaeth a dosbarth. Mae hynny’n reddf ddefnyddiol i newyddiadurwr.

Ymhlith y gwesteion ar “O’r Bae” yfory mae’r hanesydd Elin Jones sydd wrthi’n arwain adolygiad o’r ffordd y mae hanes Cymru’n cael ei dysgu yn ei hysgolion. Mae’r adolygiad bron yn sicr o ddylanwadu ar ba ffordd y bydd cenedlaethau o blant yn gweld hanes eu gwlad a gellir dadlau bod y canfyddiad o hanes yn sylfaen i genedligrwydd.

Oherwydd bod y gwaith ar ei hanner ni fydd modd gofyn i Elin ynghylch yr adolygiad ond mae’n bosib y bydd ei dewis o lyfrau’n ddadlennol!

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Ti, chi a fi

Mae derbyn rhifyn y mis o Barn wastod yn bleser – er taw fy nhasg gyntaf bob mis yw cael cipolwg sydyn i weld os oes ‘na straeon neu safbwyntiau i ni eu colli! Dydw i ddim am gyfaddef yn fan hyn a ydy hynny wedi digwydd y tro yma!

Yn hytrach cefais ysbrydoliaeth am bost bach gan golofn Vaughan Hughes lle mae’n cwyno am yr hyn mae’n gweld fel defnydd amhriodol o ti a thithau ar raglenni newyddion Radio Cymru. Dyma ddisgrifiad Vaughan o sgwrs rhwng cyflwynydd â chadeirydd y Bwrdd Iaith.

“Roedd y ti a’r tithau diddiwedd, a chywair dau-fêt-yn-cael-clonc y sgwrs gyfan yn rhoi’r argraff anghysurus i mi fy mod yn clustfeinio ar sgwrs breifat… mae’r defnydd o chi o gymorth i gynnwys y gwrandäwr yn hytrach na’i ddieithrio.”

Dydw i ddim yn teimlo’n gryf iawn am y peth ond yn bersonol rwy’n tueddu defnyddio chi gyda ffigyrau cyhoeddus hyd yn oed os ydy’r rheiny’n iau na fi. Ar y llaw arall mae’n gas gen i gael fy ngalw’n chi gan rywun sy’n ti i mi! Safonnau dwbwl efallai – neu arwydd fy mod yn heneiddio!

Ta beth mae’r ddadl ynghylch safonau iaith yn un sy’n digwydd yn gyson yng nghoridorau’r BBC gyda rhai’n adrodd straeon arswyd am grwpiau ffocws yn cael trafferth i ddeall Cymraeg cymharol syml ac eraill yn mynnu bod yn rhaid tynnu llinell yn rhywle. Mae lle mae’r “rhywle” yna yn gwestiwn arall, wrth gwrs!

Fy nghrwsâd arbennig i yw un i achub y ferf gryno. Efallai bod dyddiau “gallaswn” a “gwybuant” wedi mynd ond gwrthodaf dderbyn bod “Mae Dafydd Jones wedi dweud” yn haws i ddeall na “dywedodd Dafydd Jones”. A do, rwyf wedi clywed “mae x wedi dweud” yn cael ei ddefnyddio.

Mewn gwlad sydd wedi methu cytuno’n derfynol ynglŷn ag orgraff ei hiaith ysgrifenedig ar ôl pymtheg can mlynedd efallai ei bod hi’n anorfod bod y darlledwyr yn dal i ymgecru ar ôl cwta dri chwarter canrif!

Mae ‘na beryglon wrth symleiddio’r iaith ond ar y llaw arall mae Cymraeg sydd yn orffurfiol ac yn bedantig yn gallu bod yn hyll ac yn ofnnadwy o anodd ei deall.
Roeddwn yn meddwl am hyn wrth wrando ar araith Leighton Andrews yn y ddadl ynghylch safonau iaith ddoe. Roedd hi’n llawn o jargon y gwasanaeth sifil gyda’i geiriau aml sillafog, anghyffredin. Roedden nhw i gyd yna – anghymesuredd, anstatudol, tryloywder a’r gweddill ohonyn nhw.

Mae’r eirfa fiwrocrataidd hon yma’n hyll a chan amlaf yn ddiangen yn Saesneg. Mae ei chyfieithu’n slafaidd i’r Gymraeg ac yna disgwyl i Weinidog sy’n dysgu’r iaith ei defnyddio yn wirion bost.

<!–Get Adobe Flash player
<!–

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Y Llwybr Cul

Rhywle gartref mae gen i lyfr o’r enw “Labour’s last chance?: the 1992 election and beyond”. Casgliad o draethodau gan rai o’r seffolegwyr gorau Prydain yw’r llyfr ac mae’r teitl yn esbonio’r cynnwys. Ar ôl colli etholiad 1992 pan oedd bron popeth yn gweithio o’i phlaid oedd modd i’r Blaid Lafur ennill byth eto oedd y cwestiwn. Amwys oedd yr atebion.

Cyhoeddwyd y llyfr ym Mai 2004. Llai na thair blynedd yn ddiweddarach enillodd y blaid Lafur y nifer fwyaf o seddi yn ei hanes ac etholwyd Tony Blair yn Brif Weinidog.

Rwy’n codi’r pwynt oherwydd bod cwestiwn digon tebyg yn cael ei ofyn ynghylch y Ceidwadwyr ar hyn o bryd. Os nad oedd hi’n bosib ennill mwyafrif yng ngwyntoedd teg 2010 pa obaith yn y dyfodol?

Yr ateb syml i’r cwestiwn yw wrth gwrs bod hi’n bosib i’r Ceidwadwyr ennill mwyafrif. Yn wir, os nad yw’r blaid yn cwympo’n ddarnau mae hi bron yn sicr o ennill un rhywbryd. Serch hynny mae’r llwybr tuag at fwyafrif yn yr etholiad nesaf yn edrych yn gulach ac yn gulach wrth i ddydd y cyfri agosau.

Y dadansoddiad gorau o broblemau’r Ceidwadwyr mi ddarllen yw hwn gan Paul Goodman cyn aelod seneddol Ceidwadol sy’n un o olygyddion gwefan dylanwadol “Conservative Home”.

Yn ôl Goodman mae ennill mwyafrif yn 2015 yn amhosib oherwydd pedair ffactor. Methiant y blaid i apelio at leiafrifoedd ethnig, undod yr asgell chwith, rhaniadau ar yr asgell dde ac anfantais strwythurol y map etholiadol yw’r ffactorau hynny.

Mae canlyniad Eastleigh yn cymhlethu’r ddwy ffactor olaf.

Trwy guro’r Ceidwadwyr mae Ukip wedi dwysau’r rhaniadau ar y dde. Mae unrhyw obaith na fydd y blaid honno’n ffactor yn yr etholiad nesaf yn prysur ddiflannu a does dim rhaid iddi wneud chwarter cystal â gwnaeth hi yn Eastleigh er mwyn dylanwadu ar y canlyniadau mewn llwyth o etholaethau ymylol.

O safbwynt y ffactor olaf, y broblem strwythurol, amcangyfrifir y bydd angen i’r Ceidwadwyr bod saith y cant ar y blaen i lafur yn y bleidlais boblogaidd er mwyn sicrhau mwyafrif o un. Mae hynny’n glamp o fynydd – ond mae’r guru etholiadiol Peter Kellner wedi darogan y gallai’r Torïaid sicrhau mwyafrif mewn ras llawer agosach pe baent yn cipio rhyw ddau ddwsin o seddi o’r Democratiaid Rhyddfrydol – seddi tebyg iawn i Eastleigh.

Pa obaith o hynny nawr?

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: A Oes Heddwch?

Mae rhai o sefydliadau Cymru wedi addasu i ddatganoli yn well na’i gilydd. Nid beirniadaeth yw dweud hynny. Doedd dygymod a bod yn genedl gyda llywodraeth ar ôl saith canrif o straffaglu ymlaen heb un byth yn mynd i fod yn hawdd! Wedi’r cyfan mae’r hyn sy’n ymddangos fel atebolrwydd i wleidydd yn gallu ymddangos fel ymyrraeth wleidyddol yr un sy’n atebol.

Gan edrych o’r tu fas ymddengys i mi fod ambell i sefydliad cenedlaethol wedi dygymod a’r newid yn ddigon hawdd. Rwy’n meddwl am gyrff megis Amgueddfa Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Cyngor Chwaraeon. Gallwn fod yn gwbwl anghywir. Mae’n bosib bod ‘na rycsiyns y tu ôl i’r llenni. Os felly clywais i ddim byd amdanynt.

Mae ambell sefydliad wedi methu’r prawf yn llwyr. Prifysgol Cymru yw’r enghraifft amlwg ond dim ond nawr y mae ambell i Gyngor a Choleg yn sylweddoli bod ‘na feistr newydd ar y tŷ.

Mae hynny’n dod a ni at benderfyniad y Llywodraeth i gomisiynu adolygiad o’r Eisteddfod Genedlaethol.

O safbwynt y Llywodraeth does ‘na ddim elfen o fygythiad yn gysylltiedig â’r peth. Mae’r Eisteddfod yn annibynnol. Os ydy hi’n dewis anwybyddu argymhellion yr adolygiad mae perffaith hawl ganddi i wneud hynny heb unrhyw gosb ariannol. Os ydy’r wŷl ar y llaw arall yn derbyn y cyfan neu rhai o’r argymhellion yna fe fyddai’r Llywodraeth yn fodlon cynyddu ei chymhorthdal. Pa le sy ‘na i boeni? Wedi’r cyfan mae’r rheiny syn cynnal yr adolygiad yn garedigion y Gymraeg.

Nawr edrychwch ar y sefyllfa o safbwynt Eisteddfodwr pybyr – un sy’n ystyried y Brifwyl yn “gaer fechan olaf” i’r Gymraeg mewn môr o Saesneg. Gellir synhwyro ei ofnau.

“Pa mor ddidwyll yw’r llywodraeth mewn gwirionedd? Oes ‘na agenda gudd? Onid yw gwneud yr Eisteddfod yn fwy croesawgar i’r Di-Gymraeg yn gyfystyr a glastwreiddio ei Chymreictod?”

“Wedi’r cyfan,” medd ein eisteddfodwr dychmygol “mae’r Eisteddfod wedi profi ei bod yn fodlon newid gyda’r amseroedd. Bob blwyddyn cynhelir adolygiad o lwyddiannau a methiannau’r wŷl gydag argymhellion ar gyfer y dyfodol. Mae’r broses yn dryloyw gyda’r cyfan yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod. Pam fod angen adolygiad allanol yn ogystal?”

Ond beth am benaethiaid yr Eisteddfod? Gellir darllen eu tystiolaeth i’r ymchwiliad yn fan hyn. Mae’n ddarn cytbwys iawn o waith sy’n awgrymu bod yr Eisteddfod wedi ymateb yn bositif i’r ymchwiliad – ar gychwyn y broses o leiaf.

Mae’n ymddangos bod pethau wedi suro rhywfaint ers hynny yn bennaf oherwydd pryder tîm rheoli’r Eisteddfod y gallai’r ymchwiliad argymell canoli’r Eisteddfod ar ddau safle parhaol. Yn ôl y Prif Weithredwr, Elfed Roberts fe fyddai hynny’n drychineb a galwodd ar garedigion yr Eisteddfod i ysgrifennu at yr ymchwiliad i ddatgan eu gwrthwynebiad i’r syniad.

Nawr dydi ddim yn bry ar wal yng nghyfarfodydd y grŵp gorchwyl a gorffen. Dydw i ddim yn gwybod felly faint o sail sy ‘na i ofnau Elfed a’i dim rheoli.

Gwn hyn. Mae sylwadau Elfed a rhai’r trefnydd Hywel Wyn Edwards ar Bawb a’i Farn rhai wythnosau yn ôl wedi peri siom a syndod i ambell un yn agos at yr adolygiad. Yr ofn yw bod Elfed a Hywel wedi mynd o flaen gofid a’u bod trwy hynny mewn peryg o droi Eisteddfodwyr yn erbyn proses oedd i fod er lles y Brifwyl.

Nid fy lle i yw barnu pwy sy’n iawn ond fe fyddai’n trueni i bawb pe rhywbeth oedd fod yn gyfle yn cael ei weld fel bygythiad.

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: 04, 05 ac ati

Gan amlaf os oes ‘na fuddsoddiad mawr o dramor yn dod i Gymru mae’r Llywodraeth yn awyddus iawn i frolio am y peth. Rhyfedd felly oedd dod ar draws buddsoddiad gwerth pum miliwn o bunnau o’r Dwyrain Pell na chlywyd siw na miw amdano. Buddsoddiad mewn addysg bellach yw hwn ac rwy’n amau taw’r rheswm am y distawrwydd yw nad yw’r Llywodraeth hyd yn oed yn gwybod ei fod yn digwydd.

Pam felly? Wel oherwydd taw utgyrn Seion ac nid utgyrn Sony sy’n seinio!

Mae’r stori’n dechrau yn ôl ar ddechrau’r ugeinfed ganrif gyda glöwr o Frynaman o’r enw Rees Howell. Go brin fod yr enw yna’n golygu rhyw lawer yng Nghymru’r dyddiau hyn. Mae’n annhebyg y bydd y ffilm yma’n ymddangos yn Odeon, Llanelli na Cineworld, Llandudno yn y dyfodol agos!

Chwi synhwyrwch efallai bod Rees Howell o hyd yn cael ei ystyried yn ffigwr o bwys mewn ambell i fan!

Cenhadwr oedd Howell oedd wedi ei danio gan y diwygiad mawr olaf yn 1904-05. Ar ôl cyfnod yn cenhadu yn Ne Affrica dychwelodd i Gymru gyda’r syniad o agor coleg i hyfforddi myfyrwyr o’r holl genhedloedd i ledaenu’r gair ar ôl dychwelyd adref. Prynodd plasty Derwen Fawr yn Abertawe ac agorodd “Coleg Beibl Cymru” ei ddrysau yn 1924.

Fe ddenwyd myfyrwyr o bedwar ban byd. Yn eu plith roedd meibion ymerawdwr Ethiopia, Haile Selassie. Dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd i’r meibion hynny pan gafodd yr ymerawdwr ei ddyrchafu’n dduw gan y Rastaffariaid!

Ta beth am hynny am dri chwarter canrif roedd Coleg Beibl Cymru yn lle pwysig a dylanwadol i’r rheiny o gwmpas y byd oedd yn hoff o ffydd cymharol ddigyfaddawd.

Daeth tro ar fyd ac ar ddechrau’r ganrif hon penderfynodd ymddiriedolwyr y Coleg newid yr enw i “Trinity” a symud yr holl siabang i ganolbarth Lloegr. Ac eithrio’r plasty ei hun gwerthwyd y cyfan o’r safle i ddatblygwyr.

A dyna fyddai diwedd y stori oni bai am ŵr o’r enw Yang Tuck Yoong sy’n weinidog ar eglwys â rhai miloedd o aelodau yn Singapore.

I ddefnyddio geirfa’n cyndadau derbyniodd alwad i achub Derwen Fawr. O fewn byr o dro llwyddodd i godi’r £5 miliwn angenrheidiol o’i ffyddloniaid yn Singapore i brynu ac adfer y plasty ac fe fydd y Coleg yn ail agor ei drysau rywbryd eleni.

Pam gwneud hynny? Dyma’r esboniad ar wefan y prosiect.

“The revival that broke forth in the principality of Wales in 1904 is of special importance because of the power and influence that it generated… We have this prophetic sense that somehow, what God did in that revival in Wales… is going to have a profound effect on us, 100 years later.”

Oes ‘na wers i Lywodraeth Cymru yn fan hyn? Wel, dim ond un fach efallai.

Honnir yn aml bod proffil rhyngwladol Cymru lawer yn is na rhai’r Alban ac Iwerddon. Mae hynny’n wir. Does gan y Cymry ddim delwedd ym meddyliau tramorwyr fel sydd gan ein cefndryd Celtaidd. Ond efallai bod gennym gysylltiadau diwylliannol a hanesyddol â chymunedau eraill nad ydym yn ymwybodol ohonyn nhw.

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Daergryn Bach yn Hampshire

Pethau rhyfedd yw isetholiadau ym Mhrydain. Anaml iawn y maent yn effeithio ar y fathemateg seneddol. Mae’n rhaid i fwyafrif llywodraeth fod yn hynod fregus iawn megis un Llafur yn Hydref 1974 neu un y Ceidwadwyr yn 1992 cyn i golli ambell i sedd fod yn broblem. Hyd yn oed yn yr achosion hynny fe lwyddodd John Major i gadw i fynd am y cyfan o’i dymor ac roedd Jim Callaghan o fewn ychydig wythnosau i’r pum mlynedd cyn iddo golli pleidlais o hyder.

Eto i gyd mae isetholiadau’n cael eu trin gan wleidyddion a’r cyfryngau fel rhyw brawf pwysig o gyflwr y pleidiau ac yn arwydd o’r tywydd gwleidyddol. Mae newyddiadurwyr yn tueddu heidio tuag at hyd yn oed yr isetholiad mwyaf di-nod a phan ddaw hymdinger fel Eastleigh mewn lle sy’n gyfleus i Lundain, wel gwyliwch mas pobol fach! Fe fydd na fwy o gamerâu ar eich Stryd Fawr na sy’n ffilmio carped coch y BAFTAS.

Dyw’r cyfryngau Cymraeg ddim yn gwbwl rhydd o’r obsesiwn hwn. Cofiaf i’r Byd ar Bedwar ddarlledu hanner awr gyfan ynghylch isetholiad Bermondsey pan etholwyd Simon Hughes ac roedd ‘na gyfnod pan oeddwn i hefyd yn aml yn cael fy nanfon i baratoi adroddiad ynghylch rhyw ornest neu’i gilydd.

Dydw i ddim yn cofio p’un ai y gwnes i ymweld ac Eastleigh yn ystod isetholiad 1994 nei beidio. Rwy’n cofio myn i un Christchurch ychydig i’r gorllewin ac un Newbury ychydig i’r gogledd. Gwnes i elw bychan yn y ddau trwy fentro swllt a’r y rhyddfrydwyr. Tan yn ddiweddar roedd mentro ar y blaid felen mewn is etholiad yn fuddsoddiad wedd gall. Wedi’r cyfan roedd isetholidau yn llythrennol yn rhoi modd i fyw i’r drydedd blaid ac roedd hi’n arllwys popeth oedd ganddi i mewn i’w hennill.

Dydw i ddim wedi bod yn Eastleigh y tro hwn. Peidiwch ddisgwyl i mi ddarogan canlyniad felly. Serch hynny rwyf wneud un pwynt bach o hir brofiad.

Mae momentwm neu ddiffyg momentwm yn nyddiau olaf yr ymgyrch yn hollbwysig mewn isetholiadau ac mae adroddiadau yn y wasg a sibrydion y pleidiau yn awgrymu taw gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol y mae’r momentwm yn Eastleigh.

Mae ‘na beryg enfawr i David Cameron yn hynny. Os daw hi’n amlwg i’r etholwyr bod yr enillydd fwy neu lai wedi ei setlo fe fydd y rheiny sy’n tueddu at Lafur, Ukip neu un o’r pleidiau llai yn teimlo’n fwy rhydd i bleidleisio o’r galon. Gallai hynny effeithio ar siâr y Democratiaid Rhyddfrydol o’r bleidlais ond pa ots yw hynny os ydy’r blaid yn fuddugol?

Yn bwysicach gallai diffyg gwasgfa’r “ras dau geffyl” beryglu gafael y Torïaid ar yr ail safle. Fe fyddai colli yn Eastleigh yn anaf i David Cameron – ond cwt fyddai hi nid clais. Fe fyddai dod yn drydydd ar y llaw arall yn gythraul o glatsied.

Ydy hynny’n bosib? Mewn isetholiad mae unrhyw beth yn bosib. Gofynnwch i George Galloway.

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Dyrchafaf fy llygaid

Wrth bori trwy ganlyniadau ward wrth ward y Cyfrifiad des i ar draws ffaith fach ddiddorol. O’r deuddeg ward yng Nghymru a Lloegr lle dywedodd y mwyafrif o’r trigolion eu bod heb unrhyw grefydd o gwbwl roedd pump yn Rhondda Cynon Taf.

Efallai nad yw’n syndod bod Maerdy ym mlaen Rhondda fach yn un ohonyn nhw. Wedi’r cyfan adwaenwyd y lle hwnnw fel “Little Moscow” ers talwm. Dydw i ddim yn gwybod faint o fynd sydd ar ddarllen Marx a Lenin yn y lle erbyn hyn ond ymddengys nad oes llawer o fynd ar ddarllen Ysgrythur!

Un o’r wardiau eraill sydd â mwyafrif o anffyddwyr yw Cwm Clydach. Mae hynny o ddiddordeb personol i mi. Roedd fy nhad-cu yn löwr yng ngwaith y Cambrian yn y pentref hwnnw ac mae gen i berthnasau yno o hyd.

Roedd y Cambrian yn un o byllau glo mwya’r de. Cafwyd un o’r damweiniau gwaethaf yn hanes y diwydiant glo yno yn y 1960au a hanner canrif yn gynt yn y pwll hwnnw y dechreuodd yr anghydfod wnaeth arwain at derfysgoedd Tonypandy.

Roedd fy nhad-cu wedi hen adael cyn y naill ddigwyddiad na’r llall. Yn ystod diwygiad 1904-05 fe gasglodd glowyr y Cambrian ddigon o arian i’w ddanfon i Goleg yr Annibynwyr yn Aberhonddu i astudio i fod yn weinidog. Mae’n amlwg nad anffyddiaeth oedd yn nodweddi Cwm Clydach ar y pryd!

Beth ddigwyddodd felly i droi un o beiriau’r diwygiad yn un o’r llefydd mwyaf digrefydd yng Nghymru a Lloegr?

Mae cyfrolau cyfan wedi eu hysgrifennu i geisio ateb y cwestiwn hwnnw ond go brin fod modd datgysylltu’r hyn ddigwyddodd i Anghydffurfiaeth yn y Rhondda a llefydd tebyg, a’r hyn a ddigwyddodd i’r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny.

Efallai’n wir bod y ddau beth mor glwm â’i gilydd nad oes modd eu datod. Beth am beidio ceisio gwneud?

Mae ‘na ddau bwnc wedi bod yn codi eu pen yn weddol gyson yn y Cynulliad yn ddiweddar.

Wrth drafod yr iaith mae’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi bod yn son yn gyson am yr angen i roi cyfleodd i ddisgyblion yr ysgolion Cymraeg ddefnyddio’r iaith y tu hwnt i furiau’r ysgol ac ar ôl ei gadael. Sut mae cyflawni hynny?

Ym maes treftadaeth cafwyd ambell i ddadl a sawl cwestiwn ynghylch diogelu o leiaf rhai o addoldai anghydffurfwyr Cymru ar ôl i’w drysau gau. Ffawd capel Pisgah yng Nghasllwchwr wnaeth ysbarduno’r drafodaeth ond mae ‘na ddegau os nad cannoedd o gapeli yng Nghymru sydd o werth hanesyddol neu bensaernïol y byddai’n cael eu diogelu mewn byd delfrydol. Sut mae gwneud hynny? Wedi cyfan does dim modd troi pob capel sy’n cau yn ganolfan dreftadaeth!

Efallai bod modd cyfuno’r ddau bwnc at ateb y ddau gwestiwn trwy edrych ar esiampl Canolfan Soar ym Merthyr lle mae’r fenter iaith leol wedi defnyddio arian Ewropeaidd i ddatblygu canolfan i fywyd Cymraeg yr ardal a’r celfyddydau a thrwy hynny sicrhau dyfodol i un o adeiladau mwyaf nodedig y dref.

Roedd Soar eisoes wedi cau pan lansiwyd cynllun y fenter – ond onid oes modd llunio cynlluniau tebyg lle y gallai cynulleidfaoedd barhau i addoli yn yr adeilad yn rhydd o’r baich o’i gynnal?

Nid capeli trefol yn unig a allai fod o ddefnydd i ddyfodol y Gymraeg. Oni fyddai capeli fel Blaencaron, er enghraifft, yn ganolfannau awyr agored perffaith i ysgolion Cymraeg y de diwydiannol?

Dim ond gofyn ydw i ond hytrach nac eistedd yn ôl a disgwyl i’r drysau gau efallai y dylem ni fel Cymry Cymraeg, ac nid y capelwyr yn unig, ddyfalu a allai ‘na fod dyfodol defnyddiol i’r adeiladau a fu’n gartrefi i’n diwylliant gyhyd?

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Mewn a Mas

Dyma i chi gyfaddefiad. Rwyf wedi bod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth ers oeddwn i’n fach iawn. Tua wyth neu naw oed oeddwn i pan ddechreuais i gymryd diddordeb rwy’n meddwl.

Coeliwch neu beidio doedd hynny ddim yn anarferol iawn ar y pryd. Wedi’r cyfan roedd plant y chwedegau yn tyfu lan yn negawd Kennedy a King, Fietnam a Prague, Caerfyrddin a Chymdeithas. Anodd oedd peidio talu sylw.

Roedd oes y cyfarfod cyhoeddus wedi dechrau dirwyn i ben ond doedd hi ddim wedi darfod yn llwyr. Rwy’n cofio clywed Jo Grimmond yn siarad yn Neuadd Cory, Ted Heath ym Mhafiliwn Gerddi Soffia a Harold Wilson ym Mharc Ninian, o bobman.

Does un o’r tair mangre yn sefyll heddiw ond roedd y cwestiwn mwyaf yr oedd y tri yn ei drafod yn un digon cyfarwydd – Ewrop – mewn neu mas?

Heno ar CF99 fe fyddwn yn trafod y tebygrwydd rhwng y sefyllfa wnaeth arwain at refferendwm Ewrop yn 1975 a’r sefyllfa heddiw.

Mae ‘na un gwahaniaeth pwysig wrth gwrs. Yn ôl yn y saithdegau ac eithrio ambell i ffigwr fel Enoch Powell roedd y dde yn unedig o blaid aelodaeth Prydain o’r farchnad Gyffredin fel y’i galwyd ar y pryd.

Y chwith oedd yn rhanedig. Roedd yr undebau a ffigyrau fel Michael Foot a Tony Benn yn gwrthwynebu bod yn aelod o “glwb cyfalafol” tra roedd y rheiny wnaeth adael Llafur i ffurfio’r SDP ddegawd yn ddiweddarach yn frwd o blaid Ewrop.

Roedd Wilson ei hun rhywle yn y canol yn ceisio cadw ei blaid yn unedig. Er mwyn gwneud hynny fe luniodd fformiwla ryfeddol o debyg i un David Cameron – refferendwm ond dim ond ar ôl cyfnod o ail-negodi.

Yn achos David Cameron mae pwyslais sylwebwyr yn tueddu bod ar yr addewid o bleidlais yn hytrach na’r ail-negodi. Roedd hynny’n wir yn ôl yn saithdegau hefyd ond yr ail-negodi oedd yn allweddol.

Gorau po fwyaf o gonsesiynau y gallai Ewrop eu rhoi o safbwynt canlyniad y refferendwm ond prynu amser oedd Wilson mewn gwirionedd. Hanfod ei gambl oedd y byddai ofnau’r etholwyr ynghylch ffawd Prydain y tu fas i’r farchnad yn drech na’u rhwystredigaeth a biwrocratiaid Brwsel – ond roedd angen amser i’r ofnau hynny ddatblygu.

Dyna’n union a ddigwyddodd gyda busnesau mawrion a chyrff fel y CBI yn rhybuddio am broblemau. Mae’r un actorion yn mentro i’r llwyfan unwaith yn rhagor a phe bawn i’n gorfod proffwydo nawr beth fyddai canlyniad refferendwm byswn i’n mentro swllt – ond dim mwy – y byddai mewn yn trechu mas unwaith yn rhagor.

Roedd hi’n ddiddorol gweld yr arolwg barn gyntaf i awgrymu canlyniad o’r fath yn cael ei gyhoeddi dros y Sul.

Beth sy’n rhaid i’r rheiny sy’n dymuno gweld Prydain yn gadael yr Undeb wneud i ennill refferendwm? Y peth pwysicaf, dybiwn i, yw cynnig darlun eglur ac atyniadol o ddyfodol Prydain tu fas i’r Undeb Ewropeaidd. Dyw cyfeiriadau annelwig at Singapore a ‘phont ar draws Fôr Iwerydd’ ddim yn debyg o fod yn ddigon.

Mae gobaith yn gallu trechu ofn weithiau ond rhaid esbonio beth union yw’r gobaith hwnnw.

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Dafydd a Jonathan

Clywais rhai dyddiau yn ôl bod Jonathan Evans AS wedi penderfynu peidio sefyll yng Ngogledd Caerdydd yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Cafwyd cadarnhad o hynny heddiw.

Fe fydd sinigiaid yn rhuthro i ddatgan bod Jonathan wedi dod i’r casgliad nad oedd modd iddo gadw’r sedd. Wedi cyfan mwyafrif o 194 oedd ganddo yn etholiad 2010.

Am unwaith dydw i ddim yn un o’r sinigiaid! Wedi’r cyfan dyw Jonathan ddim yn ddyn i gefnu ar frwydrau anodd. Yn 1987 collodd i Richard Livsey o 56 pleidlais ym Mrycheiniog a Maesyfed. Yn hytrach na chwilio am sedd fwy addawol safodd eto yn 1992 gan ennill o 130 o bleidleisiau.

Pam rhoi’r ffidl yn y tô felly? Mae’r esboniad yn ei ddatganiad yn sicr yn rhan o’r peth. Mae Jonathan yn chwedeg dwy oed a chyda hyd senedd bellach wedi ei bennu o flaen llaw byddai ennill yn 2015 yn golygu gwasanaethu tan 2020 pan fyddai’n 70.

Dyw 70 ddim yn oedran afresymol i wleidydd y dyddiau hyn ond mae’n amlwg bod Jonathan yn teimlo bod ganddo bethau amgenach i wneud a’i amser. Mae’n weithgar mewn sawl elusen ac un o brif leygwyr yr Eglwys Gatholig yng Nghymru. Fe fydd ganddo hen ddigon o bethau i lenwi ei ddyddiau ac ar ôl gyrfa ddisglair ym myd y gyfraith a busnes teg yw synhwyro nad yw’n brin o geiniog neu ddwy.

Efallai eich bod yn synhwyro bod ‘na “ond” ar y ffordd. Rydych yn llygad eich lle!

Rwy’n fodlon derbyn y cyfan o’r esboniad yn natganiad Jonathan ond mae’n anodd gen i gredu na fyddai wedi oedi tan yn agosach at yr etholiad cyn penderfynu ynghylch ei ddyfodol pe bai wedi cael ei ddyrchafu’n weinidog gan David Cameron.

Wedi’r cyfan roedd y Ceidwadwyr yn brin o weinidogion profiadol yn 2010 ar ôl tair blynedd ar ddeg ar feinciau’r wrthblaid. Pam peidio manteisio ar brofiad gwr oedd wedi gwasanaethu yn yr Adran Ddiwydiant a’r Swyddfa Gymreig oedd yn amlwg ddeallus ac yn gyfathrebwr effeithiol?

Gellir ateb hynny mewn un gair sef Ewrop.

Ar ôl colli Brycheiniog a Maesyfed yn 1992 etholwyd Jonathan i Senedd Ewrop ac ef oedd arweinydd y grŵp Ceidwadol yno. Ymladdodd brwydr ffyrnig yn erbyn cynlluniau David Cameron o orfodi i’r Ceidwadwyr adael y grŵp canol-dde er mwyn sefydlu grŵp newydd oedd yn ewro-sgeptig ei hanian. Collodd Jonathan y frwydr honno ond mae’n ymddangos i mi nad oedd David Cameron yn barod i faddau ei safiad.

Ydy hi’n gyd-ddigwyddiad bod Jonathan wedi rhyddhau ei ddatganiad ar drothwy araith fawr David Cameron ar Ewrop? Cewch chi farnu – rwy’n gwybod beth yw fy marn i!

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Hywel a Betsi

Roedd y post yma i fod i ymddangos ddoe. Oherwydd problemau technegol gyda gwasanaeth “Democratiaeth Byw” doedd hynny ddim yn bosib. Rwy’n ymddiheuro ond rwy’n gobeithio ei fod yn dal dwr!

Rwy’n ceisio dyfalu a fyddai Joseff Parry a Mynyddog yn gall… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Rwy’n grac… o hyd

Cyfaill blaidd yw bugail diog medd y ddihareb.

Beth am i ni ddal lan ac ambell i fugail ac ambell i flaidd?

Y blaidd yn yr achos hwn yw’r “Office of National Statistics”. Chwi gofiwch efallai i mi ysgrifennu post ynghylch y drafferth yr oeddwn yn cael i sicrhau gwasanaeth Cymraeg gan yr adran ychydig cyn y Nadolig.

Ar y pryd ysgrifennais atyn nhw i gwyno. Dydw i ddim wedi derbyn ateb eto ond fe adawyd sylw gan un o’i swyddogion ar y blog. Dyma ran ohono.

“Mae’n ddrwg gen i eich bod wedi cael y profiad hwn sy’n ymddangos i fod, yn rhannol, yn gamgymeriad gweinyddol. Dylai ein llythyron arolwg fynd allan yn Gymraeg ac yn Saesneg i gyfeiriadau yng Nghymru, a byddwn yn edrych mewn i pam gwnaeth hyn ddim digwydd.

Digon teg, efallai. Mae camgymeriadau gweinyddol yn gallu digwydd. Rwy’n rhuthro i ddweud hynny ar ôl darllen trydariad yr wythnos hon gan rywun oedd wedi derbyn ateb yn Saesneg i lythyr Cymraeg gan y BBC!

Byddwn yn fodlon maddau, efallai ond sylwch ar rai o’r sylwadau eraill a adawyd ar y blog.

“Mi ges i’r union un driniaeth gan yr ONS 3 mlynedd yn ôl: llythyr uniaith Saesneg, galwadau ffôn i gwyno, dyn bach neis yn lled-siarad Cymraeg wedi i mi wneud ffws, follow-up Saesneg, ffws arall, ymddiheuriad ar y ffôn, ayb”

“Cawsom driniaeth go debyg gan y Swyddfa Ystadegau – cerdyn uniaith Saesneg yn dweud ei bod wedi galw; dim manylion cyswllt â swyddfeydd Cymru ar eu gwefan; diffyg gwasanaeth Cymraeg pan ffoniais i wirio dilysrwydd y cerdyn. Anfonwyd rhywun Cymraeg atom yng Ngheredigion ar ôl inni wneud cais.”

Ydych chi’n sylwi ar batrwm yn fan hyn – rhywbeth sy’n debycach at fethiant systemig na chamgymeriad gweinyddol – methiant sy’n golygu nad yw’r swyddfa hyd yma wedi hyd yn oed cydnabod fy llythyr o gwyn?

Bant a fi felly at y Comisiynydd Iaith gan ddanfon e-bost rhwng y Nadolig a Chalan yn cynnwys dolen i’r blog ac yn gofyn iddyn nhw ystyried y post fel cwyn swyddogol.

Cefais ymateb yn syth wedi i’r swyddfa ail-agor ar ôl y gwyliau gydag addewid y byddai ‘na ymateb llawnach o fewn ugain diwrnod gwaith. Fe gawn weld beth ddigwyddiff.

Yn y cyfamser dyma fachan yn ymddangos ar stepen fy nrws.

“Hello, I’m from the Office of National Statistics…”

Ydy hi o gysur bod yr ONS yr un mor wael wrth gyfathrebu a’i staff ac yw hi wrth gyfathrebu a’r cyhoedd? Nac ydy, mewn gwirionedd.

Dydw i ddim am adel i hyn fynd.

Bugeiliaid newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn!

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Hawl i Holi

Roeddwn yn ystyried wythnos ddiwethaf p’un ai i ysgrifennu post ynghylch yr anghytundeb rhwng y BBC ac EOS ynghylch taliadau cerddoriaeth.

Yn y diwedd daeth pwt o gerdd o’r ail rhyfel byd i’r cof a’m darbwyllo i beidio. Rwy’n credu mai Waldo Williams … Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Ffydd ac Argyfwng Catholigiaeth

Dydw i ddim yn gallu meddwl am bwnc lle mae’r farn gyhoeddus wedi newid cymaint yn ystod fy oes i a’r agwedd tuag at bobol hoyw. Pan lwyddodd Leo Abse i lywio’r Mesur Troseddau Rhywiol i’r llyfr statud yn 1967 fe ddywedodd yr ysgrifennydd cartref, y r… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Gwaed ar eu dwylo

Mae’n anodd credu bod hi’n ddeng mlynedd ar hugain ers i’r Archentwyr oresgyn Ynysoedd Falkland. Go brin fod unrhyw un iau na deugain yn cofio’r peth. Eto o bryd i gilydd mae’r grachen yn cael ei chodi. Mae Arlywydd yr Ariannin wedi dewis gwneud hynny … Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Rwy’n grac…

“Tinsel ar y goeden… seren yn y nen…”

Fe ddylwn i fod mewn hwyliau da Nadoligaidd – yn edrych ymlaen at frêc bach o’r gwaith ac ychydig o loddesta.

Dydw i ddim. Rwy’n flin. Rwy’n grac. Rwy’n wynad.

Yr “Office for National Statistics” sy’n gyfrifol am fy nhymer. Gwnâi ddim boddran cyfieithu’r teitl. Wedi’r cyfan dyw nhw ddim yn trafferthu gwneud.

Rhyw chwe mis yn ôl cefais lythyr gan yr asiantaeth yn gofyn i mi gymryd rhan yn y “Labour Force Survey”. Esboniwyd bod yr astudiaeth hon yn ail yn unig i’r Cyfrifiad o safbwynt pwysigrwydd y gwaith ac oherwydd hynny bod yn rhaid cael cyfweliad wyneb yn wyneb. Doedd llenwi ffurflen ddim yn ddigon da.

Roedd y llythyr yn uniaith Saesneg. Atebais yn ddigon cwrtais gan ddweud fy mod yn ddigon parod i gymryd rhan yn yr ymchwil ond fy mod yn dymuno gwneud hynny yn Gymraeg. Ces i ddim ateb.

Rhai wythnosau’n ddiweddarach ymddangosodd rywun ar stepen drws fy nghartref gan ddweud ei fod yn cynrychioli’r asiantaeth a’i fod yn dymuno fy holi ar gyfer yr astudiaeth.

Roedd y gweithiwr yn ddi-gymraeg. Brathais fy nhafod ac esbonio’n gwrtais yn Saesneg fy mod yn dymuno cael fy holi yn Gymraeg. Dywedodd y byddai’n gweld os oedd hynny’n bosib.

Rhai wythnosau’n ddiweddarach cefais alwad ffôn gan un o weithwyr yr asiantaeth oedd yn medru’r Gymraeg. Ymddengys fod yr angen i gael fy holi “wyneb yn wyneb” wedi diflannu. Fe fyddai ymateb dros y ffon yn ddigonol.

Dyna ddigwyddodd. Roedd y swyddog yn ddyn dymunol a’i Gymraeg yn ddigon pert – ond roedd hi’n gwbl amlwg ei fod yn cyfieithu’r holiadur off top ei ben ac yn ei llenwi yn Saesneg. Doeddwn i ddim yn hapus ond fel ‘na mae bywyd weithiau.

Tan ddoe. Ddoe derbyniais lythyr arall gan yr asiantaeth yn gofyn i mi gymryd rhan mewn “follow-up survey”. Unwaith yn rhagor roedd y llythyr yn uniaith Saesneg.

Digon yw digon. Rwyf wedi cael llond bol. Rwyf wedi alaru ar eich deddfau iaith, eich byrddau, eich cynlluniau iaith, eich comisiynwyr a’ch safonau!

Y cyfan rwy’n dymuno ei gael yw tipyn o gwrteisi a thipyn o barch. Oes rhaid mynd trwy hyn bob tro?

Ydy hi’n anodd?

Nadolig Llawen.

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Y Cyfri Olaf

Diolch i bawb wnaeth ymateb i’r post ynghylch y Cyfrifiad.

Rwy’n ymddiheuro i bawb wnaeth orfod aros cyn i’w sylwadau ymddangos. Mae gen i ychydig o newyddion da ynghylch hynny. Yn y flwyddyn newydd fe fyddwn yn symud i system o ôl-gymedroli sy’n go… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Cyfri Pennau

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur rhwng y Cyfrifiad a phopeth arall. Rwy’n cymryd eich bod wedi clywed neu weld hen ddigon o fy nadansoddi i ynghylch y Cyfrifiad dros y dyddiau diwethaf ond mae gen i ambell i bwynt ychwanegol i wneud.

Nodwedd fwyaf am… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: 1662 a 2012 – Erys yr Egwyddor

Pa flynyddoedd y byddech chi yn eu henwi fel trobwyntiau yn hanes Cymru? 1282, 1536, 1914 a 1997 yw fy rhestr I. Mae ‘na bosibiliadau eraill. Mae 1588, blwyddyn cyhoeddi Beibl William Morgan yn un ohonyn nhw a 1759 pan agorwyd gwaith haearn Dowlais yn … Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Them nymbars

Doeddwn i ddim wedi bwcio gwyliau ta beth. Dyw’r peth o ddim ots i fi felly ond mae ‘na ambell i wyneb pryderus o gwmpas y lle ‘ma o glywed y bydd y Cynulliad mwy na thebyg yn ymgynnull am sesiwn frys wythnos nesaf. Cynhelir y sesiwn i drafod y rheolia… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Hen Bethau Anghofiedig

Roeddwn i lan yn Wrecsam ddoe yn gwneud un neu ddau o bethau. Un o’r rheiny oedd gweld arddangosfa “Celfyddyd a Diwydiant” ym Mhrifysgol Glyndŵr. Gweithiau celf o gasgliad preifat yr actor, Lindsay Evans, sy’n cael eu harddangos – lluniau o safleoedd … Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Y Blaid Fach

Plaid go rhyfedd yw Plaid Cymru. Trwy gydol ei bodolaeth mae hi wedi yn bod yn gymysgedd o blaid wleidyddol go iawn, rhan o “fudiad cenedlaethol” annelwig a grŵp pwyso ar y blaid Lafur.

Er bod y blaid o bryd i gilydd wedi breuddwydio neu frolio yngh… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Newid Pethau

Mae cyhoeddi’r adroddiad ynghylch y gyfundrefn arholiadau yn ei hysgolion yn brawf pendant y bydd cyfundrefnau arholiadau Cymru a Lloegr yn wahanol i’w gilydd o fewn ychydig flynyddoedd.

Does dim sicrwydd y bydd Leighton Andrews yn gwireddu pob un o’… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Deuparth Ffordd…

Dyma gyfaddefiad i chi. Mae siarad yn gyhoeddus yn rhywbeth sy’n hela fi’n nerfus. O flaen camera neu feicroffon does dim problem ond o flaen cynulleidfa fyw mae’r ieir bach yr haf yn dechrau dawnsio! Cymaint yn fwy felly wrth ymddangos gerbron cynulle… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Tri Pheth

1. Roedd pawb yn disgwyl i’r niferoedd oedd yn pleidleisio yn etholiadau’r heddlu i fod yn isel. Roeddwn i’n meddwl y byddai pleidleisiau post yn ddigon i sicrhau bod y canran yn uwch nac ugain y cant. Roeddwn i’n anghywir. Dydw i ddim yn cofio achos … Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Gambl Leanne

Does neb yn amau dewrder gwleidyddol Leanne Wood wrth iddi gyhoeddi ei bod am chwennych sedd etholaethol yn etholiadau nesaf y Cynulliad.

Nid hi yw Aelod Cynulliad cyntaf i wneud y penderfyniad hwnnw. Yn etholiad 2007 penderfynodd Jonathan Morgan roi… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Newid Pethau

Naw y cant wnaeth droi allan i bleidleisio y tro diwethaf i bobol Cymru gael y cyfle i bleidleisio o blaid neu yn erbyn agor tafarnau ar y Sul. Fe ddylai’r ffigwr fod yn uwch yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu wythnos nesaf ond rwy’n synhwyro na fydd h… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Penblwydd Hapus, BARN

Mae sawl penblwydd yn cael eu dathlu ar hyn o bryd. Mae S4C yn ddeg ar hugain ac ymhen ychydig wythnosau byddaf yn cymryd rhan mewn cyngerdd i ddathlu hanner canmlwyddiant fy hen ysgol, Rhydfelen.

Synnais y bore yma i weld bod ‘na “50″ aur ar glawr y… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Nefar in Ewrop

Does dim dwywaith bod Llafur wedi ennill brwydr dactegol yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe trwy gefnogi gwelliant yn galw am dorri Cyllideb yr Undeb Ewropeaidd.

Trwy gynghreirio gyda rebeliaid Ceidwadol fe lwyddwyd i drechu’r Llywodraeth ac mae colli unrhyw b… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: A Dyma’r Newyddion…

Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl croesawodd Owen Edwards wylwyr Cymru i’w gwasanaeth teledu newydd, S4C, gwasanaeth oedd wedi ei sefydlu ar ôl hir ymdrech ac aberth.

Yn syth ar ôl y rhaglen gyfarch darlledwyd rhaglen newyddion gyntaf y sianel. Gwyn L… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion

Mae stormydd yr Unol Daleithiau wedi rhoi stop am y tro ar y rhan fwyaf o’r ymgyrchu cyhoeddus yn etholiadau arlywyddol y wlad honno. Mae hynny’n rhoi cyfle i mi nodi un ffaith fach ddiddorol ynghylch etholiad eleni a chrybwyll darn bach o hanes Cymru … Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Yfwn ni ddwsin o foteli….

Mae’n swyddfa ni yma ym Mae Caerdydd wedi ei lleoli yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth lle mae isetholiad seneddol i’w gynnal ymhen llai ‘na mis. Rwy’n gyrru trwy’r etholaeth dwywaith bob dydd a theg yw dweud mai prin yw’r arwyddion bod ‘na etholiad a… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Wenglish San Steffan

Mae statws neu ddiffyg statws y Gymraeg yn Senedd y Deyrnas Unedig braidd yn aneglur.

Ar un adeg y Saesneg a Ffrangeg Normanaidd oedd yr unig ieithoedd oedd yn cael eu caniatáu yn nhrafodaethau’r palas. Mae pethau wedi newid rhiwfaint ar hyd y degaw… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Mwynder Maldwyn

Os ydy’r glymblaid yn para mae’r senedd bresennol yn San Steffan mwy neu lai hanner ffordd trwy ei hoes ac yn draddodiadol dyma’r cyfnod pan mae newyddiadurwyr a gwleidyddion yn dechrau dyfalu pa aelodau seneddol fydd yn rhoi’r gorau iddi yn yr etholia… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Y Cyfan o’n Cyfansoddiad

Roedd hi’n anorfod y byddai llywodraethau’r Deyrnas Unedig a’r Alban yn cyrraedd cytundeb ynghylch cynnal refferendwm yn yr Alban. Roedd Llywodraeth yr Alban yn dymuno cynnal un ac roedd Llywodraeth y DU eisoes wedi derbyn bod yn SNP wedi ennill yr haw… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Wps!

Doeddwn i ddim yn dilyn trafodaethau’r siambr yn fanwl ddoe. Roedd gen i bethau eraill i wneud.

Mae’n ymddangos nad oedd aelodau Ceidwadol y Cynulliad yn talu rhyw lawer o sylw ychwaith. Sut arall mae esbonio’r ffaith eu bod wedi pleidleisio o blaid… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Teulu’r Mans

Y penwythnos nesaf fe fydd digwyddiad yn cael ei gynnal a fyddai mewn cyfnod arall yn cael ei gyfri’n un o bwys hanesyddol i Gymru. Mae’n arwydd o drai crefydd ym mywyd ein gwlad bod y stori wedi cael ychydig iawn o sylw y tu hwnt i furiau ein Capeli a… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Y Llenni’n Disgyn

Lle bach digon di-nod yw Nantymoel. Saif y pentref ym mlaen Cwm Ogwr lle mae’r ffordd yn dechrau dringo dros Fwlch y Clawdd i Dreorci. Mae ‘na ddwsinau o bentrefi ôl-lofaol tebyg ym maes glo’r de ac mae’r rheiny sydd, fel Nantymoel, yn sefyll ym mlaen… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: O Fortuna

“Rhowch i mi gadfridogion lwcus” – geiriau’r Ymerawdwr Napoleon yn ôl y chwedl. Dwn i ddim a ddywedodd y Ffrancwr bach y fath beth ond sicr roedd Machiavelli o’r farn bod lwc yr un mor bwysig a gallu i dywysog neu wleidydd llwyddiannus.

Amser a ddeng… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Gwylio Brighton o Bell

Fel pawb arall yn y sector gyhoeddus mae’r BBC yn ceisio arbed ambell i geiniog y dyddiau hyn. Gwylio Cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol o bell oeddwn i’r wythnos hon felly gan glywed fel pawb arall y cynrychiolwyr pybyr yn mynnu mai trwy ddilyn llw… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Ble ti’n myned glas y dorlan?

Sut byddai Sarjant Ifan Pugh yn ymateb i’r syniad o ethol gwleidyddion fel Comisiynwyr Heddlu, dywedwch? Rhoi slap i Gordon a’i heglu hi am y dafarn, dybiwn i.

Erbyn hyn mae’n anodd canfod unrhyw un sy’n frwdfrydig o blaid y syniad. Yn ôl ambell i G… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Gwaed ar eu dwylo

Roedd ddoe yn ddiwrnod rhwystredig yn Uned Wleidyddol BBC Cymru. Roedden ni’n clywed gan ffynonellau dibynadwy iawn bod Stephen Crabb i’w benodi’n weinidog yn Swyddfa Cymru. Roedd ffynonellau eraill, a’r rheiny’r un mor ddibynadwy, yn mynnu mai’r Farwn… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Tenant Newydd Tŷ Gwydyr

Daeth tro ar fyd felly ac am y tro cyntaf ers 1987 mae gennym Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol sy’n cynrychioli etholaeth Gymreig yn Nhŷ’r Cyffredin.

Er iddo gael ei eni yn Llundain yn Rhosllannerchrugog y cafodd David Jones ei fagu – dyna mae’n deby… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Ond Dafydd Shôn fydd Dafydd Shôn

Dydw i ddim yn gwybod os oedd Crwys yn cyfeirio at unrhyw wleidydd penodol yn ei gerdd “Dafydd Shôn”. Aneurin Bevan oedd Aelod Seneddol y bardd – cewch chi farnu ai’r cawr Llafur oedd dan sylw!

“Mae Dafydd Shôn fel hyn a’r fel,
Mae Dafydd Shôn yn g… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Ar chwâl

Efallai eich bod chi wedi synhwyro erbyn hyn fy mod i’n bersonsy’n hoff o ffeithiau bach diddorol hyd yn oed os nad ydyn hwn na o unrhyw ddefnydd o gwbwl!

Dyma i chi enghraifft fach. Cyn Deddf Pleidiau, Etholiadau a Refferenda 2000 doedd y Blaid Geidw… Parhau i ddarllen