Canlyniadau Chwilio: deddf

BBC - Blog Vaughan Roderick: Myfi sy’n gosod y ddeddf i lawr

Mae’n ddyddiau’r cŵn yma yn Nhŷ Hywel gyda’r mwyafrif llethol o’r aelodau naill ai ar eu gwyliau neu’n gweithio yn eu hetholaethau.

Mae ‘na ambell i aelod i weld yn Nhŷ Hywel. Yn y ffreutur heddiw roedd Peter Black yn sgwrsio gyda rhai o swyddogio… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Chwilio am Ffwddog

Es i am dro rai blynyddoedd yn ôl i chwilio am le o’r enw Ffwddog neu Fwthog neu Foothog. Beth bynnag yw’r sillafiad cywir methais ddod o hyd iddi. Mae hi wedi diflannu naill ai o dan ddŵr cronfa Grwyne Fawr neu goed pinwydd tywyll y Comisiwn Coedwigaeth. Dim ond dau air sy’n addas i’w beddfaen – “Poetic Justice”!

Ynys fach o Loegr wedi ei hamgylchynu gan Gymru yng nghanol y Mynyddoedd Duon oedd Ffwddog. Fe’i dychwelwyd i Gymru gan y “Counties (Detached Parts) Act 1844”. Yna diflannodd o hanes. Fel arfer, Cymru gafodd yr ochor waethaf i’r fargen. Fe gollodd Sir Fynwy ei hynys hithau yn Swydd Henfordd – Llangystennin Garth Brenni (Welsh Bicknor) – plwyf llawer mwy sylweddol a ffyniannus.

Rwy’n crybwyll deddf 1844 oherwydd mai honna oedd y newid cyntaf i gyfundrefn llywodraeth leol Cymru ers y deddfau uno. Daeth newid llawer mwy sylfaenol yn 1888 pan gafodd y cynghorau sirol a bwrdeistrefol eu creu. Fe barodd y rheiny tan 1973. Newidiwyd y cyfan eto yn 1996 gan roi i ni’r drefn bresennol o 22 cyngor – trefn sydd, mae’n ymddangos, yn tynnu at ei therfyn.

Tan yn ddiweddar roedd ‘na gonsensws yn y Cynulliad ynghylch cyfundrefn llywodraeth leol Cymru. Yn y bôn y consensws hwnnw oedd “mae’n llanast ond dydyn ni ddim am ei newid hi”.

Dyw’r agwedd yna ddim mor hurt ag y mae’n ymddangos. Mae adrefnu llywodraeth leol yn broses gymhleth a chostus ac mae’n gallu esgor ar bob math o deimladau cryfion lleol. Ymgyrch rymus leol wnaeth arwain at greu cyngor Merthyr Tudful – cyngor nad yw hyd yn oed cynnwys etholaeth seneddol gyfan.

Ateb y Llywodraeth oedd ceisio cymell neu orfodi cydweithio trwy rannu swyddogion, sefydlu byrddau a chonsortia ac yn y blaen. Dyw hynny ddim wedi gweithio bob tro. Nid pob Cyngor sy’n dod ymlaen â’i gymdogion ac mae cydweithio o’i natur yn gallu glastwreiddio atebolrwydd.

Efallai oherwydd y problemau hynny neu efallai oherwydd yr hyn maen nhw’n gweld fel potsian diddiwedd y Llywodraeth mae’n ymddangos bod agwedd rhai o fawrion y cynghorau yn newid.

Bythefnos yn ôl galwodd cyn arweinydd y Gymdeithas Lywodraeth Leol John Davies am gyfundrefn newydd wedi ei seilio ar ffiniau’r byrddau iechyd. Gobeithio na fyddai hynny’n arwain at greu Sir Betsi Cadwaladr! Yna ddoe awgrymodd arweinydd Gwynedd taw dwy sir ddylai fod yn y gogledd.

Dyna i chi ddau o’r mawrion sy’n fodlon dweud eu dweud yn gyhoeddus ac yn ôl ffynonellau o fewn Llywodraeth Cymru mae sawl arweinydd Cyngor arall wedi gofyn am adrefnu llawn.

A fydd hynny’n digwydd? Yn hwyr neu’n hwyrach mae’n saff o wneud.

Wedi’r cyfan sut ar y ddaear mae cyfiawnhau sefyllfa lle mae gan Gymru mwy o gynghorwyr na’r Alban a mwy o gynghorau na Seland Newydd?

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Rwy’n grac…

“Tinsel ar y goeden… seren yn y nen…”

Fe ddylwn i fod mewn hwyliau da Nadoligaidd – yn edrych ymlaen at frêc bach o’r gwaith ac ychydig o loddesta.

Dydw i ddim. Rwy’n flin. Rwy’n grac. Rwy’n wynad.

Yr “Office for National Statistics” sy’n gyfrifol am fy nhymer. Gwnâi ddim boddran cyfieithu’r teitl. Wedi’r cyfan dyw nhw ddim yn trafferthu gwneud.

Rhyw chwe mis yn ôl cefais lythyr gan yr asiantaeth yn gofyn i mi gymryd rhan yn y “Labour Force Survey”. Esboniwyd bod yr astudiaeth hon yn ail yn unig i’r Cyfrifiad o safbwynt pwysigrwydd y gwaith ac oherwydd hynny bod yn rhaid cael cyfweliad wyneb yn wyneb. Doedd llenwi ffurflen ddim yn ddigon da.

Roedd y llythyr yn uniaith Saesneg. Atebais yn ddigon cwrtais gan ddweud fy mod yn ddigon parod i gymryd rhan yn yr ymchwil ond fy mod yn dymuno gwneud hynny yn Gymraeg. Ces i ddim ateb.

Rhai wythnosau’n ddiweddarach ymddangosodd rywun ar stepen drws fy nghartref gan ddweud ei fod yn cynrychioli’r asiantaeth a’i fod yn dymuno fy holi ar gyfer yr astudiaeth.

Roedd y gweithiwr yn ddi-gymraeg. Brathais fy nhafod ac esbonio’n gwrtais yn Saesneg fy mod yn dymuno cael fy holi yn Gymraeg. Dywedodd y byddai’n gweld os oedd hynny’n bosib.

Rhai wythnosau’n ddiweddarach cefais alwad ffôn gan un o weithwyr yr asiantaeth oedd yn medru’r Gymraeg. Ymddengys fod yr angen i gael fy holi “wyneb yn wyneb” wedi diflannu. Fe fyddai ymateb dros y ffon yn ddigonol.

Dyna ddigwyddodd. Roedd y swyddog yn ddyn dymunol a’i Gymraeg yn ddigon pert – ond roedd hi’n gwbl amlwg ei fod yn cyfieithu’r holiadur off top ei ben ac yn ei llenwi yn Saesneg. Doeddwn i ddim yn hapus ond fel ‘na mae bywyd weithiau.

Tan ddoe. Ddoe derbyniais lythyr arall gan yr asiantaeth yn gofyn i mi gymryd rhan mewn “follow-up survey”. Unwaith yn rhagor roedd y llythyr yn uniaith Saesneg.

Digon yw digon. Rwyf wedi cael llond bol. Rwyf wedi alaru ar eich deddfau iaith, eich byrddau, eich cynlluniau iaith, eich comisiynwyr a’ch safonau!

Y cyfan rwy’n dymuno ei gael yw tipyn o gwrteisi a thipyn o barch. Oes rhaid mynd trwy hyn bob tro?

Ydy hi’n anodd?

Nadolig Llawen.

Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: 1662 a 2012 – Erys yr Egwyddor

Pa flynyddoedd y byddech chi yn eu henwi fel trobwyntiau yn hanes Cymru? 1282, 1536, 1914 a 1997 yw fy rhestr I. Mae ‘na bosibiliadau eraill. Mae 1588, blwyddyn cyhoeddi Beibl William Morgan yn un ohonyn nhw a 1759 pan agorwyd gwaith haearn Dowlais yn … Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Yfwn ni ddwsin o foteli….

Mae’n swyddfa ni yma ym Mae Caerdydd wedi ei lleoli yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth lle mae isetholiad seneddol i’w gynnal ymhen llai ‘na mis. Rwy’n gyrru trwy’r etholaeth dwywaith bob dydd a theg yw dweud mai prin yw’r arwyddion bod ‘na etholiad a… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Y Cyfan o’n Cyfansoddiad

Roedd hi’n anorfod y byddai llywodraethau’r Deyrnas Unedig a’r Alban yn cyrraedd cytundeb ynghylch cynnal refferendwm yn yr Alban. Roedd Llywodraeth yr Alban yn dymuno cynnal un ac roedd Llywodraeth y DU eisoes wedi derbyn bod yn SNP wedi ennill yr haw… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Ar chwâl

Efallai eich bod chi wedi synhwyro erbyn hyn fy mod i’n bersonsy’n hoff o ffeithiau bach diddorol hyd yn oed os nad ydyn hwn na o unrhyw ddefnydd o gwbwl!

Dyma i chi enghraifft fach. Cyn Deddf Pleidiau, Etholiadau a Refferenda 2000 doedd y Blaid Geidw… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Et tu?

Dyma i chi gwestiwn diddorol. Ydy’r grŵp Ceidwadol yn y Cynlluniad hwn yn llai effeithiol nac oedden nhw yn y Cynulliad diwethaf? Mae ‘na rai, gan gynnwys rhai o fewn y blaid a’r grŵp, yn argyhoeddedig eu bod nhw.

Nodwedd fwyaf annisgwyl y pedweryd… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Yn Enw’r Arglwydd!

Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fanylion ei chynlluniau i ailwampio Tŷ’r Arglwyddi. Ai ddim i fanylion yn fan hyn. Mae ‘na ddigon o lefydd eraill i chi eu gweld!

Efallai gwnaiff y Senedd gymeradwyo’r mesur, efallai ddim. Fe fydd na dd… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Dŵr sy’n llifo dros y wlad…

Rhywle yn y tŷ mae gen i focs o recordiau sengl cynnar cwmni Sain. Dŵr Huw Jones oedd y record gyntaf un ac os cofiaf yn iawn roedd ‘Tryweryn’ gan Meic Stevens hefyd ymhlith yr hanner dwsin cyntaf. Mae’n brawf, os oes angen prawf, o ba mor bwysig oed… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Sion a Sian

Un o’r pynciau y byddwn yn trafod ar CF99 heno yw’r nifer o fenywod yn y Cynulliad a’r Senedd. Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched yfory yw’r rheswm neu’r esgus dros wneud yr eitem yr wythnos hon ond mae ‘na stori go iawn i’w adrodd wrth i dir a enill… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Gair am air

Un o’r pethau cyntaf y mae cyw wleidyddion yn dysgu yw dewis eu geiriau’n ofalus. Nid son am y pwysigrwydd o beidio rhoi troed ynddi ydw i yn fan hyn ond y ffaith bod dewis geiriau’n ofalus yn gallu bod yn hanfodol er mwyn ennill dadl neu frwydr.

Cyme… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Byw ar y radio

Mae’n anodd anghytuno a gosodiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod ‘dirywiad sylweddol yn y ddarpariaeth Gymraeg ar orsafoedd radio masnachol’ wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r dyddiau pan oedd gorsafoedd mewn ardaloedd cymharol ddi-gy… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Maen nhw’n bobol ddigon neis…

Mae’n debyg eich bod wedi sylwi bod cyfran helaeth o Uned Gwleidyddol BBC Cymru wedi mudo i’r Alban yr wythnos hon – ac nid er mwyn dathlu ‘Burns Night’ twy dagu ar hagis a chwisgi drudfawr!

Heb os roedd ddoe yn ddiwrnod pwysig nid yn unig yn hanes y… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Anrheg Nadolig Jonathan Edwards

Rwyf am roi anrheg Nadolig cynnar i un gwleidydd o Gymru. Jonathan Edwards o Blaid Cymru yw’r gwleidydd hwnnw.

Mewn araith i goffau Llywelyn II yng Nghilmeri dros y Sul galwodd Jonathan ar Lywodraeth Cymru i ddechrau paratoi ar gyfer sefyllfa lle’r o… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Rhagdybio…

Mae’n ddiwrnod cymharol dawel yn y gwaith heddiw. Gallwn fod yn saff bod trafodaethau ynghylch y gyllideb yn digwydd yn rhywle ac efallai cawn ni achlust o sut mae pethau’n mynd yn y man.

Mae gen i gyfle felly i ddweud gair am un stori Brydeinig sef … Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Coronwch hi yn ben

Rwy’n cofio rhyw dro ceisio esbonio’r ffordd y mae’r gwledydd hyn yn cael eu llywodraethu i fy mrawd yng nghyfraith sy’n Americanwr. Ar ôl rhyw hanner awr roeddwn mwy neu lai wedi llwyddo i gyfleu’r syniad mai un o hanfodion ein cyfnasoddiad yw nad yw… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Smac!

Mae llawer wedi ei ddweud ynghylch y ddadl smacio yn y Cynulliad ddoe. Roedd hi’n ddadl dda hefyd. Beth bynnag yw’ch barn chi’n mae’n werth e… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Yn Y Doc

Efallai eich bod chi’n credu fy mod yn berson anoracaidd braidd – ond nid fi yw’r gwaethaf yn Uned Wleidyddol y BBC!

Wrth i mi gyrraedd y gwaith heddiw roedd un o fy nghydweithwyr yn wen o glust i glust ac yn amlwg wedi ei gyffroi. Roedd ‘na sawl rhe… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: 257, 221 a Radio Ceredigion

Ar wahân i gael eich gwahodd i fod yn aelod o’r Orsedd bo brin fod ‘na fwy o anrhydedd yn y Gymru Gymraeg na bod yn westai ar “Beti a’i Phobol”. Mae codi’n fore i Bost Cyntaf yn fwrn a chyfrannu i Bost Prynhawn yn ddyletswydd. Mae bod mewn stiwdio gyd… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Carl a’r Cynghorau

Dyma i chi gyffro! Mae ad-drefnu llywodraeth leol yn ôl yn y newyddion a’r pendil yng Nghymru yn symud tuag at ganoli ar yr union adeg y mae’r pendil yn Lloegr yn symud i’r cyfeiriad arall. Beth sy ‘na i ddweud na ddywedyd eisoes a ble mae dechrau wrt… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Glas y Dorlan

Wel fe gadwodd Sir Benfro fi i fynd wythnos ddiwethaf – mae’r wythnos hon, os unrhyw beth, yn edrych yn dawelach. Gallwn i ddweud wrthoch pwy sydd wedi ennill cytundeb arlwyo’r Cynulliad ond er bod cryn ddiddordeb ym mrechdanau Ysbyty Gwynedd mae’n d… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Cyfyng Gyngor

Cyn dyfod gwyliau’r Cynulliad roedd y gwrthbleidiau yn y Bae wedi datblygu tacteg bur effeithiol o ymosod ar y Llywodraeth sef ei chyhuddo o beidio gwneud dim – neu o leiaf o laesu dwylo ar ôl yr etholiad. Nid “sefyll cornel Cymru” ond eistedd mewn co… Parhau i ddarllen