Archives: Vaughan Roderick

BBC - Blog Vaughan Roderick: Gwylltio Gareth Glyn

Un o bleserau bach fy niwrnod gwaith yw ‘sgwennu linc ar gyfer Post Prynhawn. Nid jocian ydw i!

Fel pob cyflwynydd radio da mae Gareth Glyn yn addasu deunydd i siwtio’i steil ei hun. Yn achos Gareth mae hynny’n golygu ei ‘gogeiddio’ hyd yr eithaf gyd… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Smac!

Mae llawer wedi ei ddweud ynghylch y ddadl smacio yn y Cynulliad ddoe. Roedd hi’n ddadl dda hefyd. Beth bynnag yw’ch barn chi’n mae’n werth e… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Caerwyn

Roeddwn i’n bell o’r blog, trydar a’r we ddoe. Efallai nad ydych yn credu bod hynny’n bosib. Y cyfan ddywedaf i yw hyn. Os ydych chi’n gweld sgarmes o newyddiadurwyr – boi’r BBC yw’r un yn y cefn yn gwaeddu mewn i Nokia hynafol!

Ta beth, os oeddwn i w… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Nid yw’r post hwn yn ddwyieithog!

Mae’r Cynulliad wedi cyrraedd oedran lle mae ambell i draddodiad a defod wedi eu magu. Un o’r rheiny yw bwrdd y wasg yn ffreutur Tŷ Hywel. Bob dydd mae newyddiadurwyr y Bae yn ymgynnull i giniawa gyda’n gilydd ac i roi’r byd yn ei le.

Gwleidyddiaeth … Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Llyfr Mawr y Plant

Efallai bod hi braidd yn gynnar i chi feddwl am siopa ‘Dolig ond gadewch i mi argymell y gyfres yma o lyfrau. Pwy na fyddai’n dymuno cael copi o “Peter Black and the Travelling Circus”?

Rwy’n cymryd mai nofel ynghylch ymdrechion aflwyddiannus y Democ… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Yn Y Doc

Efallai eich bod chi’n credu fy mod yn berson anoracaidd braidd – ond nid fi yw’r gwaethaf yn Uned Wleidyddol y BBC!

Wrth i mi gyrraedd y gwaith heddiw roedd un o fy nghydweithwyr yn wen o glust i glust ac yn amlwg wedi ei gyffroi. Roedd ‘na sawl rhe… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Gwlad! Gwlad!

Dyw e ddim yn orfodol i bob newyddiadurwr Cymreig ysgrifennu rhywbeth ynghylch Cwpan Rygbi’r Byd. Mae hi jyst yn ymddangos felly.

Peidiwch â becso dydw i ddim am wneud rhyw sylwadau anwybodus ynghylch safon y chwarae. Pwynt bach arall sy gen i!

Pan … Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Problemau Prifysgol

Mae’n bosib nad oes ‘na gysylltiad rhwng ymchwiliadau Ciaran Jenkins a rhaglen ‘Week In Week Out’ i Brifysgol Cymru a phenderfyniad y corff hwnnw i roi’r gorau i oruchwylio a dilysu graddau colegau eraill. Mae’n bosib hefyd mai cyd-ddigwyddiad llwyr oe… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: 257, 221 a Radio Ceredigion

Ar wahân i gael eich gwahodd i fod yn aelod o’r Orsedd bo brin fod ‘na fwy o anrhydedd yn y Gymru Gymraeg na bod yn westai ar “Beti a’i Phobol”. Mae codi’n fore i Bost Cyntaf yn fwrn a chyfrannu i Bost Prynhawn yn ddyletswydd. Mae bod mewn stiwdio gyd… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Mili a’i Fand

Gwylio’r Gynhadledd Lafur o bell ydw i – neu yn achos araith yr arweinydd – gwrando o bell. Dwn i ddim beth aeth o le ar y ffid teledu ond mae’n enghraifft efallai o’r fath o anlwc sy’n gallu taro gwrthblaid o bryd i’w gilydd. Yr un anlwc mae’n debyg o… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Daran Hill yn troi’n Nashi

“Ar ôl clywed hyn i gyd – dwi’n teimlo y dylen ni gyd fynd lan ir Alban i ymgyrchu dros annibyniaeth gyda gyda Alex Salmond.” Daran Hill a’i ddywedodd ar ddiwedd sesiwn frecwast yr oeddwn i’n cadeirio y bore ma i Sefydliad Bevan. Nawr yn groes i’r pen… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Cornel y Beirdd

Cyfraniad gan Siencyn, Bardd Llys y Blog

Bu aberth Cilybebyll – yn atgof,
un atgas a thywyll,
am a gostio gweithio’r gwyll
hyd arch y ceudod erchyll.
Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Addas a Phriodol

Mae’r newyddiadurwyr wedi bod yn ôl y Bae ers rhai wythnosau ond heddiw mae’r rhan fwyaf o wleidyddion wedi dychwelyd i’r senedd. Os oedd unrhyw un ohon… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Cilybebyll

Fel bron pawb arall yng Nghymru mae’n meddyliau ni yma yn y Bae gyda’r rheiny yng Nghilybebyll gan ryfeddu efallai ein bod yn gorfod blasu o’r cwpan chwerw hwn yn yr unfed ganrif ar hugain.

Efallai bod rhai wedi synnu i ddarganfod bod gan Gymru ddiwyd… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Ffwdan y Ffed

Diawch, mae Jonathan Edwards yn hoffi tynnu blew o drwyn! Efallai ei fod braidd yn amrwd fel gwleidydd ond, iesgob, mae’n dweud pethau diddorol. Fe achosodd ei flogbost ddoe ynghylch defnydd y cyfryngau o’r enwau “Llafur Cymru” a “Cheidwadwyr Cymru” g… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Jim Cro Crystyn

Yn wahanol i’r Unol Daleithiau dyw’r term “voter suppression” ddim yn un sy’n gyfarwydd iawn i bobol y gwledydd yma. Efallai bod hynny ar fin newid.

Fe ddechreuodd yr arfer yn nhalaethiau deheuol yr UDA ar ôl y rhyfel cartref. O ganlyniad i fuddugoli… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Llethrau llithrig

Neil Kinnock, rwy’n meddwl, gwnaeth fathu’r dywediad y “slippery slope to separation” yn ôl yn y saithdegau fel rhan o’i ymgyrch lwyddiannus i drechu cynlluniau datganoli llywodraeth Jim Callaghan.

Heb os roedd ‘na elfen reddfol yn ymwneud ac iaith … Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Yr hen ogledd

Yfory fe fydd aelodau Plaid Cymru yn cychwyn am Landudno ar gyfer ei chynhadledd flynyddol. Yn ôl yr arfer heddiw gafodd aelodau’r wasg y cyfle i gwrdd am sgwrs rhag blaen gyda’i harweinydd. Roedd yn rhyfedd sylweddoli mai hwn oedd y tro olaf i ni gyf… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Cur pen Carwyn

Mae ‘na sawl rheswm mae’n sicr am ganlyniadau Etholiad yr Alban yn gynharach eleni. Dydw i ddim yn arbenigwyr ar y rhesymau y gwnaeth yr SNP mor dda a Llafur mor wael. Mae ‘na ambell i gliw efallai ar safle “Labour Hame” gwefan a sefydlwyd gan yr ael… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Carl a’r Cynghorau

Dyma i chi gyffro! Mae ad-drefnu llywodraeth leol yn ôl yn y newyddion a’r pendil yng Nghymru yn symud tuag at ganoli ar yr union adeg y mae’r pendil yn Lloegr yn symud i’r cyfeiriad arall. Beth sy ‘na i ddweud na ddywedyd eisoes a ble mae dechrau wrt… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Glas y Dorlan

Wel fe gadwodd Sir Benfro fi i fynd wythnos ddiwethaf – mae’r wythnos hon, os unrhyw beth, yn edrych yn dawelach. Gallwn i ddweud wrthoch pwy sydd wedi ennill cytundeb arlwyo’r Cynulliad ond er bod cryn ddiddordeb ym mrechdanau Ysbyty Gwynedd mae’n d… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Gair o gyngor

Oce. Rwy’n cyfaddef. Roeddwn i’n gwybod y byddai ‘na ddatblygiadau yn helynt Sir Benfro pan ysgrifennais y post yma ddoe. Doeddwn i ddim yn gwybod pa mor gryf y byddai’r feirniadaeth o’r Cyngor a’i arweinydd, John Davies na pha mor gryf fyddai ei ymate… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Cyfyng Gyngor

Cyn dyfod gwyliau’r Cynulliad roedd y gwrthbleidiau yn y Bae wedi datblygu tacteg bur effeithiol o ymosod ar y Llywodraeth sef ei chyhuddo o beidio gwneud dim – neu o leiaf o laesu dwylo ar ôl yr etholiad. Nid “sefyll cornel Cymru” ond eistedd mewn co… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Dyrchafwn gri

Rwyf wedi bod i ffwrdd o’r gwaith am ychydig wythnosau yn mwynhau’r hynny o haf a gafwyd eleni. Peidiwch â becso. Dydw i ddim am ysgrifennu un o’r traethodau yna ynghylch y gwyliau oedd yn gymaint o fwrn yn yr ysgol fach a rhaid i mi gyfaddef y gwnes … Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Blocio Burnham

Mae’n ddiwedd tymor yn y Bae. Cyn i unrhyw un yn o fy nghydweithwyr yn San Steffan waedu arnaf i, dyw hynny ddim yn golygu diwedd y tymor gwleidyddol. Mae’r senedd yn eistedd wythnos nesaf a chyda’r holl helynt hacio go brin y bydd yr haf yn un digyffr… Parhau i ddarllen

BBC - Blog Vaughan Roderick: Crafu Pen

Roeddwn i’n meddwl fy mod wedi ysgrifennu fy mlogbost olaf ynghylch helynt John Dixon ac Aled Roberts! Nid felly y bu. Fe wnaethon ni daflu carreg i’r dŵr ar CF99 neithiwr sydd wedi achosi tipyn o storom – yn y rhithfyd o leiaf.

Cewch ddarllen y st… Parhau i ddarllen