-
Mae Blogiadur.com yn casglu ac yn cyflwyno blogiau cyfrwng Cymraeg.
Os wyt ti eisiau ychwanegu blog Cymraeg anfona ebost i ni. Diolch yn fawr.
*** mae rhai o nodweddion y wefan yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd
*** rydyn ni'n wrthi'n ychwanegu mwy o flogiau i'r blogiadur
Dewis Mis
Chwilio
Archives: visitsnowdonia
Ymweld ag Eryri: Canolfan Rhagoriaeth Eryri: Blaenau Ffestiniog
Unwaith yn ganolfan ffyniannus o ddiwydiant, mae Blaenau Ffestiniog – “y pentref a roddodd do i’r byd” – wedi cael ei ailddyfeisio fel canolfan rhagoriaeth mewn gweithgareddau awyr agored. A phreswylwyr y dref sy’n arwain y fenter. Mae Blaenau Ffestiniog yn lle diddorol iawn. Mae’r gymuned lechi agos hon ym Mro Ffestiniog wedi bod yn [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Canolfan Rhagoriaeth Eryri: Parc Coedwig Coed y Brenin
Coed y Brenin yw un o ganolfannau gweithgareddau awyr agored mwyaf poblogaidd Eryri. Gyda llwybrau beicio mynydd o’r radd flaenaf, llwybrau cerdded darluniaidd ac anturiaethau trwy frigau’r coed, mae ymweld â Choed y Brenin yn ffordd o gadw’r teulu cyfan yn brysur. Wyth milltir i’r gogledd o Ddolgellau, tref farchnad hynafol yn ne Eryri, mae [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Canolfan Rhagoriaeth Eryri: Gwersyll yr Urdd Glan-llyn
Mae Gwersyll yr Urdd Glan-llyn yn ganolfan weithgareddau preswyl yn Eryri ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’r ganolfan hefyd yn croesawu aelodau o’r cyhoedd, sy’n mwynhau ystod eang o weithgareddau awyr agored a chwaraeon dŵr yng Nglan-llyn. Ar lannau Llyn Tegid yn Llanuwchllyn, ger y Bala, mae Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, un o ganolfannau [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Canolfan Rhagoriaeth Eryri: Llyn Trawsfynydd
Mae Llyn Trawsfynydd yn llyn gwneud anferth yn Ne Eryri, gyda golygfeydd godidog o’r mynyddoedd. Mae’r llyn yn un o lefydd mwyaf poblogaidd yr ardal ar gyfer pysgota. Mae Llyn Trawsfynydd yn gronfa ddŵr fawr wedi ei leoli yng nghanol golygfeydd ysblennydd oddi ar yr A470 rhwng Dolgellau a Phorthmadog yn ne Eryri. Gydag arwynebedd [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Ymweld â De Eryri: Deg Ffaith Ddiddorol am Drawsfynydd
Yn ddwfn ym mynyddoedd de Eryri, saif Trawsfynydd, pentref bychan cysglyd ar lan y llyn, sydd â hanes syndod o ddiddorol. Dyma ddeg peth y dylech ei wybod am Drawsfynydd. Mae pentref distaw Trawsfynydd yn ne Eryri wedi’i amgylchynu gan gefn gwlad prydferth a golygfeydd mynyddig godidog. Gyda gwreiddiau hynafol yn ymestyn yn ôl filoedd [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Ymweld â De Eryri: Deg Ffaith Ddiddorol am Ddolgellau
Mae Dolgellau yn cyfuno’r orau o ddau fyd: gweithgareddau awyr agored di-ri a thref hanesyddol brydferth i’w chrwydro. Dyma ddeg peth y dylech ei wybod am Ddolgellau. Mae Dolgellau yn dref farchnad brydferth yn ne Eryri. Mae’r dref wedi bod yma ers canrifoedd a chanddi ddigon o adeiladau rhestredig yn brawf o hynny! A hithau’n [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Ymweld â De Eryri: Deg Ffaith Ddiddorol am Flaenau Ffestiniog
Tref gynnes a chyfeillgar yng nghanol cefn gwlad godidog Meirionydd yn ne Eryri yw Blaenau Ffestiniog. Dyma ddeg ffaith ddiddorol am Flaenau Ffestiniog. Ers cyn cof, mae’r dref wedi’i hadnabod fel ‘y dref a roddodd do ar y byd’ a ‘prifddinas llechi Cymru’, diolch i’r diwydiant sydd wedi darparu llechi o’r ansawdd uchaf ers blynyddoedd [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Bala: Hanes Bras
Roedd y Bala, sef tref farchnad yn ne Eryri, yn gartref i’r Rhufeiniaid, tywysogion canoloesol a beirdd o fri. Dyma gipolwg bras ar hanes hir a difyr y dref hon. Tref farchnad yn ne Eryri yw’r Bala. Er gwaethaf ei hanes cyfoethog a diddorol, sy’n ymestyn yn ôl i oes y Rhufeiniaid, mae bellach yn [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Deg o Bethau i’w Gwneud yng Nghonwy a’r Cyffiniau
Mae tref gaerog ganoloesol Conwy yn swatio yn aber afon sy’n rhannu’r un enw â hi, ac mae’n lle sy’n gyforiog o hanes. Dyma ddeg o bethau i’w gwneud pan ddowch i’r dref. Saif tref gaerog ganoloesol gyfeillgar a hyfryd Conwy ar aber afon Conwy, sydd ar arfordir mwyaf gogleddol Eryri. Conwy ydi’r lle perffaith [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Ymweld â De Eryri: Deg Peth i’w Gwneud yn y Bala a’r Cyffiniau
Mae tref y Bala yn ne Eryri yn llawn cymeriad. Yn nythu yn ymyl llyn naturiol mwyaf Cymru, a golygfeydd godidog o’r mynyddoedd o’i gwmpas, mae’r Bala yn gyrchfan wyliau boblogaidd drwy gydol y flwyddyn. Mae tref fechan ddeniadol y Bala yn ne Eryri wedi’i lleoli ger y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru – Llyn [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Trefi a Phentrefi Eryri: Deg o Bethau i’w Gwneud yn Harlech a’r Cyffiniau
Mae’n debyg y caiff Harlech, safle Treftadaeth y Byd ei hadnabod orau fel cartref Castell Harlech. Ond mae llawer mwy na hyn i’w weld yn Harlech – dyma ddeg o bethau i’w gweld a’u gwneud yno. Mae tref hanesyddol Harlech ar arfordir Gwynedd yn sefyll ar lechwedd uwchlaw ei chastell canoloesol a adeiladwyd yn 1283 [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Y Nadolig yn Eryri: Deg Digwyddiad ar gyfer 2011
Mae’r Nadolig yn Eryri yn adeg brysur iawn o’r flwyddyn, gyda phob math o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ar hyd a lled yr ardal. Dyma ddeg na ddylech eu colli. Os buoch erioed yn Eryri adeg y Nadolig, fe wyddoch lle mor hudol ydyw. Gyda’r eira ar y mynyddoedd yn gefndir perffaith i holl ddigwyddiadau’r ŵyl, [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Ymweld â De Eryri: Deg Peth i’w Gwneud yn Nolgellau a’r Cyffiniau
Tref farchnad fechan ac unigryw yn ne Eryri yw Dolgellau, lle roedd hen diroedd Celtaidd yr Ordofigiaid gynt, amser maith yn ôl. Mae’n lle delfrydol i grwydro Eryri, felly dyma ddeg peth y gallwch eu gweld a’u gwneud pan fyddwch yn ymweld. Mae tref farchnad dlos Dolgellau yn ne Eryri wedi’i lleoli wrth droed Cader [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Nadolig yn Eryri: Deg Digwyddiad Nadoligaidd ar gyfer 2011
Mae Eryri’n rhoi Gwledd y Gaeaf i ni’n ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr. Er nad oes modd gaddo y bydd yna haenen drwchus o eira, bydd digwyddiadau Nadoligaidd Eryri’n gymorth i gael ymwelwyr i fwynhau hwyl yr Ŵyl. Mae pethau diddorol yn digwydd yn Eryri drwy gydol y flwyddyn. Ym mhob tymor mae dewis [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Eryri Ddirgel: Llên Gwerin Rhyfeddol Gogledd Cymru
Wrth i Galan Gaeaf nesáu, bydd ein meddyliau’n troi tua’r mytholegol, yr hudol a’r dirgel. Dyma ddetholiad o lên gwerin rhyfeddol o Eryri Cantre’r Gwaelod Mewn ardal fel Eryri, ble mae’r hanes yn dyddio’n ôl dros filoedd o flynyddoedd, mae atgofion gwerin o ddigwyddiadau real yn newid mymryn o genhedlaeth i genhedlaeth, hyd nes i’r [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Mannau Diarffordd yn Eryri: Llanfrothen a Chroesor
Mae Eryri yn lleoliad gwyliau poblogaidd ble ceir llawer o atyniadau ymwelwyr enwog. Ond os hoffech weld ochr wahanol i Eryri, beth am ymweld â rhai o’i hen bentrefi hyfryd, megis Llanfrothen a Chroesor. O ran mannau i ymweld â hwy mae gan bob gwlad yn y byd ei chyfrinachau cudd, ac nid yw Eryri’n [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Eryri Arswydus: Pump o Atyniadau Eryri i ymweld â hwy yn ystod Calan Gaeaf 2011
I lawer o ysgolion y DU, daw penwythnos Calan Gaeaf 2011 ar ddiwedd gwyliau hanner tymor. Os byddwch yn Eryri ar ddiwedd mis Hydref gyda’ch teulu, dyma ychydig o syniadau ar sut i gael ychydig o hwyl arswydus. Mae’r amser honno o’r flwyddyn wedi dod eto. Mae’r nosweithiau’n byrhau a chyn bo hir bydd angen [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Trefi a Phentrefi Eryri: Deg o Bethau i’w Gwneud yn Abermaw a’r Cyffiniau
Tref glan y môr hyfryd yw Abermaw, wedi’i lleoli yng nghanol rhai o olygfeydd prydferthaf Eryri. Dyma ddeg o wahanol bethau i’w gwneud ac i’w gweld pan fyddwch yn ymweld ag Abermaw. Bu tref fechan dlos Abermaw a’i harbwr yn gyrchfan wyliau boblogaidd ers blynyddoedd lawer. Lleolir y dref yng nghanol golygfeydd hardd aber y [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Eryri i rai sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth
Gyda’i chorau meibion, ei thelynorion, ei sêr pop sydd wedi ennill gwobrau a’i chantorion opera byd-enwog, does ryfedd bod Cymru’n cael ei hadnabod fel ‘gwlad y gân’. Dyma gipolwg ar bump o leoliadau cerdd mwyaf poblogaidd Eryri. Mae cyfansoddi a gwerthfawrogi cerddoriaeth yn rhan fawr o’r diwylliant Cymreig. Gyda thraddodiadau sydd wedi bodoli ers [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Deg Man i Siopa am Gelf a Chrefft yn Eryri
Beth sy’n gwneud Eryri yn fan arbennig i ysbrydoli celf a chrefft mor brydferth? Mae gan y tirlun dramatig, yr hanes sydd yr un mor ddramatig, y digonedd o adnoddau naturiol a’r gwneuthurwyr talentog oll ran i’w chwarae? Mae yna rywbeth arbennig am Eryri sy’n ysbrydoli arlunwyr a chrefftwyr. Efallai mai’r tirlun ydyw: y mynyddoedd [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Ymweld â De Eryri: Deg Ffaith Ddifyr am y Bala
Mae tref farchnad hyfryd y Bala yn Ne Eryri yn dref ag iddi hanes diddorol iawn. Mae hi hefyd yn gartref i’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Am wybod mwy? Darllenwch y ffeithiau isod i ddysgu mwy am y Bala. Tref farchnad yw’r Bala a’i hanes yn dyddio’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru. [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Trefi a Phentrefi Eryri: Deg o Bethau Difyr i’w Gwneud ym Meddgelert a’r Ardal Gyfagos
Mae Beddgelert yn bentref sy’n frith o straeon, peth ohonynt yn seiliedig ar ffeithiau hanesyddol a’r gweddill yn chwedloniaeth pur. Mae’n bentref bach hyfryd o fythynnod cerrig ger yr afon, ac yn ffefryn gydag ymwelwyr yn ogystal â thrigolion lleol. Cafodd pentref tlws Beddgelert ei enwi ar ôl ci ffyddlon y Tywysog Llywelyn a laddwyd [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Crwydro Eryri gyda’r Teulu: Pethau i’w Gwneud yn Eryri Gyda Phlant Dan 5
Mae mwy i Eryri nag anturiaethau awyr agored yn unig; dyma’r lle perffaith ar gyfer teuluoedd hefyd! Am wybod mwy? Cymrwch gip ar rai o’n syniadau isod ar bethau i’ch cadw chi’n brysur os ydych chi’n teithio gyda theulu ifanc iawn. Mae Mynyddoedd a Môr Eryri yn cynnig llond gwlad o weithgareddau i ddifyrru’r plant. [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Teithiau Tanddaearol yng Nghanol Ehangder Eryri
Mae Eryri yn adnabyddus am ei mynyddoedd mawreddog. Ond oeddech chi’n gwybod bod archwilio y tu mewn i’r mynyddoedd hyn llawn cymaint o hwyl ag archwilio y tu allan? Wrth feddwl am Eryri, mae’n debyg mai’r peth cyntaf sy’n dod i feddwl y rhan fwyaf o bobl yw’r mynyddoedd. A pha syndod? Mae’n wir fod [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Atyniadau Eryri: Deg peth i’w gwneud ym Mhorthmadog a’r cyffiniau
Mae Porthmadog, tref harbwr fywiog ac iddi gyfoeth o hanes a phersonoliaeth, yn gorwedd ar lannau Afon Glaslyn ar ochr isaf Penrhyn Llyn. Yn ystod ei hoes aur ddiwydiannol, roedd Porthmadog yn borthladd prysur ac yn allforio llechi o Flaenau Ffestiniog i gwsmeriaid ym mhedwar ban byd. Erbyn heddiw, mae’r dref yn gyrchfan wyliau poblogaidd [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Treulio Amser yn Eryri : Deg o bethau i’w gwneud yn Ne Eryri
Mae De Eryri yn gyforiog o hanes, bywyd gwyllt ac atyniadau teulu-ganolog. O fynydd anferthol Cader Idris i dref glan môr Y Bermo, mae yna wledd o hwyl i’w gael yn Ne Eryri, beth bynnag yw eich hoff ddiddordebau. Mae llawer o atyniadau mwyaf adnabyddus Eryri wedi’u gosod yng ngogledd y rhanbarth- mae Caernarfon, Porthmadog, [...]
Parhau i ddarllen
Ymweld ag Eryri: Atyniadau Eryri: Hwyl i’r Teulu yng Ngogledd Cymru
Gyda’i dirlun dramatig yn gefnlen i filltiroedd o gefn gwlad i’w dramwyo, fe allai rhywun feddwl y byddai gwyliau yn Eryri yn fwy addas ar gyfer y rhai hynny sy’n mwynhau gwyliau bywiog yn yr awyr agored yn hytrach nag ar gyfer teuluoedd. Ond mae gan Eryri atyniadau hwyliog ar gyfer y teulu cyfan, pob [...]
Parhau i ddarllen


























