Archives: Wilias

Ar Asgwrn y Graig: Blodau brith

Rydan ni newydd ddod adra o berfformiad y Theatr Genedlaethol o ‘Blodyn’ trwy strydoedd Stiniog.

Dyma mae gwefan ThGC yn ddweud:

"Cynhyrchiad cymunedol proffesiynol gan drigolion Blaenau
Ffestiniog a Talysarn.

Fersiwn unigryw, modern a pherthnasol o chwedl ‘Blodeuwedd’
yw Blodyn. Cynhyrchiad theatr promenad wedi ei gyd-greu gan wirfoddolwyr o’r
cymunedau ac arebingion mewn actio, Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Dod at fy nghoed

Pen punt a chynffon dima’

Lelog Califfornia  (Ceonothus)  yn  llawn  blodau  ar  hyn  o  bryd,  ac  yn  drawiadol  o hardd. 

Yn anffodus, dros y blynyddoedd, mae’r llwyn wedi tyfu’n dalach bob blwyddyn, nes fod y blodau’n rhy uchel. O’r ffenest uwchben mae’r olwg orau i’w gael erbyn hyn!

Cwyn arall ydi fod y coesyn yn hir a moel a hyll. Mi sigodd y cwbl llynedd oherwydd y Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Blodyn a Blodeuwedd

Cofiwch gefnogi actorion a cherddorion Bro Ffestiniog Nos Sadwrn a Nos Sul yn sioe BLODYN.Os nad ydym yn cefnogi, efallai na ddaw’r Theatr Genedlaethol yn ol yma eto…Dyma’r posteri trawiadol gan Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer Blodyn, ac ar gyfer … Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Coron driphlyg !

Peldroedwyr dan 12 y Blaenau yn dathlu ar ddiwedd tymor llwyddianus iawn.llun: Gareth/Heulwen EvansAr ol i rifyn Mehefin Llafar Bro fynd i’r wasg, fe enillodd y criw wobr arall, ar ben Tlws y Gynghrair a Chwpan Dysynni, sef Cwpan Dwyfor.Mae’n amlwg bod… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Rhifyn Mehefin

Mae rhifyn Mehefin allan!Er gwaethaf y sgan gwael o’r clawr gen’ i ar ol dod adra o’r noson blygu, mae ynddo 20 tudalen yn llawn dop o erthyglau, newyddion, cyfarchion a lluniau.Cawn hanes mwy o bontydd y fro yn Stolpia; gwobrau i gynllun canol y dref … Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Blas mwy

Wilias ydw i, a dwi’n gaeth i riwbob!

Mae o mor hawdd i’w dyfu tydi. Does dim angen gwneud dim byd, heblaw roi ‘chydig o wrtaith ar wyneb y pridd cyn y gwanwyn, ac mae’n dod a chnwd dda bob blwyddyn.

A dwi isio mwy. 

Mae tri planhigyn yma. Un yn ddarn o wraidd gan fy nhad; un yn ddarn o wraidd gan ffrind yn y gwaith; ac un a brynais y llynedd. 

Iawn, yn fotanegol, llysieuyn ydi Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Ag un cam mae dechrau taith

Efo’r ddwy hynaf yn eu harddegau, mae’n anoddach erbyn hyn eu llusgo allan am dro efo’u rhieni! Ond erbyn diwedd yr wythnos o wyliau hanner tymor, mi fu’n rhaid i’r genod adael y nofel/ipod/teledu er mwyn dod efo fi i’r rhandir i weld be oedd yn mynd ymlaen.

Dim llawer! Felly dyma ddal y bws clipa bach i gaffi Mari, bwyta hufen ia ar lan Llyn Tangrish, a bownsio cerrig ar y dwr. Er styfnigo yn Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Tra bo hedydd


Ymddiheuriadau am y diffyg diweddaru yn ystod mis Mai, gyda lwc gallwn roi’r trwyn yn ol ar y maen efo deunydd rhifyn Mehefin. Yn y cyfamser dyma un darn arall allan o rifyn Mai. Cofiwch adael sylwadau, neu awgrymiadau am erthyglau.

Tra bo hedydd
Daeth un o ganeuon Dafydd Iwan i’r cof yn ddiweddar, wrthi’r genod a’u taid a finna fynd am dro i Fryn Castell.

“Tra bo hedydd ar y mynydd; tra bo ewyn ar y don;
tra bo glas yn nwfn dy lygaid, mi wn mae ni pia hon.”

Cytgan hyfryd. Can sydd heb gael y sylw haeddianol. 
 
Beth bynnag, mynd i chwilio am yr haul oedden ni, heibio Beddau Gwyr Ardudwy, ffordd Rufeinig Sarn Helen, a chwarel lechi’r Drum. Digon o gyfle i drosglwyddo’chydig o hanes a chwedlau’r fro i’r plant, yn union fel wnaeth eu taid i mi yn yr un lle drideg mlynedd yn ol..
Ar y ffordd o’na, mi wnaethon ni aros am gyfnod i wrando ar drydar parablus hyfryd ehedydd, yn canu nerth esgyrn ei ben, yn uchel, uchel yn yr awyr las. Yn datgan hyd a lled ei diriogaeth, fel tasa fo’n dweud ‘dwi yma o hyd’.

Efallai y bydd y genod yn gwneud yr un peth dri deg mlynedd o rwan…
 

(Wedi’i seilio ar erthygl a ymddangosodd yn gyntaf ar y blogAr Asgwrn y Graig’.  Blog am dyfu a hel bwyd, a’r byd o’n cwmpas ni ym Mro Ffestiniog. Lluniau gan PW)
Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Pythefnos

Mae pythefnos yn amser hir mewn garddwriaeth… fel’na mae’r frawddeg yn mynd, ‘ta fi sy’ di drysu?
Bu hwyl, gwyl a gwaith; arholiadau’r plant, man-ffliw a sbamiwrs yn fy nghadw rhag blogio, ac yn ystod y bythefnos, mi gawson ni haul tanbaid, glaw trwm, cenllysg ac eira. Ond er gwaethaf pawb a phopeth, dyma ddod ‘nol at ychydig o fwydro eto!

Mae rhai o’r blogwyr eraill dwi’n ddilyn wedi arafu Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Dydd Lluniau

 Mi fues i’n arbrofi efo newid gwedd y blog i rywbeth mae Blogger yn alw’n ‘dynamic view’ a bron a gwneud traed moch o bethau! Rhag eich diflasu efo manylion, digon ydi deud imi orfod ail osod lled a lliw a siap a steil y tudalennau. Peth peryg ydi hanner-gwybod be ti’n wneud yn de!

P’run bynnag, mi fues i allan rhwng cawodydd dros y penwythnos yn tynnu lluniau.

Dwi wedi bod yn ddiog dros y Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Croeso tywysogaidd

Erthygl gan VPW a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill eleni, am gysylltiad rhwng Tanygrisiau a Phatagonia, ar ol galwad ffo^n gan ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin.


Cais am wybodaeth parthed teulu a ymfudodd o Danygrisiau i Batagonia ar ddechrau’r 20fed ganrif  oedd ganddo, ar ran Patricia Ramos, merch ifanc o Dir Halen yn y Wladfa, a oedd yn Aberystwyth ar brofiad gwaith, ac yn chwilio am rywbeth o hanes ei hen-daid, Griffith P.Jones, a’i deulu a ymfudodd yno o Lerpwl yn 1909. 
Wedi bod wrthi yn casglu ychydig fanylion, gyda chymorth fy nghyfaill Steffan ab Owain, dois ar draws ambell beth difyr yn ymwneud â’r teulu hwnnw. Cafwyd cofnodion am aelodau teulu taid Griffith yn trigo yn Nhalwaenydd ar ystadegau cyfrifiad 1851, gyda Robert Jones, y penteulu, neu Robin Siôn ar lafar, yn byw yno gyda’i deulu yntau. 
Roedd dau o blant yno, Laura, hen-hen nain Patricia, a’i brawd, William, ‘Gwaenydd’, a ddaeth yn arweinydd cyntaf seindorf enwog Gwaenydd, rhagflaenydd band enwocach, seindorf yr Oakeleys.
Ymhen deng mlynedd, roedd teulu Robert Jones wedi symud i fyw i Penllwyn, Tanygrisiau, ac erbyn 1881, preswylient yn rhif 1, Bryn Barlwyd, sydd bellach wedi ei ddymchwel. Yn y cyfamser, yr oedd William y mab, (Gwaenydd), wedi ymfudo i’r Wladfa yn 1874, rhai blynyddoedd cyn ei nai Griffith, ac yno y’i claddwyd yn 1906.  Fel y cyfeiriais ato, yn 1909 yr aeth Griffith, hen-daid Patricia i Batagonia, ac yno y claddwyd yntau yn y 1920a’u. 
B’nawn ddydd Llun, 18fed o Fawrth, pleser pur oedd cael tywys Patricia o amgylch yr ardal, i ddangos y mannau y bu ei chyn-deidiau’n troedio. Roedd hithau’n hynod falch o gael dilyn ei gwreiddiau yma, ond roedd un datganiad pwysicach i’w ddatgelu iddi. 
Tra yn ymchwilio i’w hachau, darganfyddais am fodolaeth disgynnydd o’r un teulu, a pherthynas i Patricia, yn dal i fyw nid nepell o hen gartrefi eu hynafiaid yn Nhanygrisiau. A’r perthynas hwnnw yw Kevin Evans, neu ‘Prinsi’ i bobl y fro, ac yn un o blygwyr rheolaidd y papur bro hwn. Felly, rhaid oedd cyflwyno y ddau i’w gilydd, gyda’r un ohonynt yn gwybod dim am fodolaeth y naill na’r llall, a da oedd profi’r croeso a gafodd Patricia Ramos, o Dir Halen, talaith Chubut, Patagonia yng nghartref ei chyfyrder, Kevin Evans, Tanygrisiau, y diwrnod hwnnw. 
 
Mae mam Kevin, Bella, a’i chwaer Mandy yn byw yn America ers rhai blynyddoedd, a deallaf fod aelodau eraill o’r teulu yn dal i fyw yn yr ardal ‘Stiniog. 
(Delwedd y faner o wefan Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Caerdydd) 
 

Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Llwyth o Bethan Gwanas

Bu’r awdures doreithiog yn cynnal sesiynau ym Mro Ffestiniog ddwywaith yn ddiweddar.
Dyma ddarn allan o rifyn Ebrill 2013 yn son am y gyntaf ohonynt, a phwt bach o newyddion am yr ail.


Llwyth o ddisgyblion yn mwynhau ymweliad Bethan Gwanas
Bu Bethan Gwanas yn prysur gynnal sesiynau gyda disgyblion Ysgol y Moelwyn yn dilyn cyhoeddi ei nofel newydd sbon i bobl ifanc, Llwyth.

Bu’n yn sgwrsio â chriw o flynyddoedd 8 a 9 Ysgol y Moelwyn. Mae ei nofel newydd, Llwyth yn rhan o gyfres newydd sbon o nofelau i bobl ifanc rhwng 11 ac 14 oed gan wasg y Lolfa, cyfres o’r enw Mellt
Mae Llwyth yn nofel gyffrous sy’n mynd â’r darllenydd yn ôl i amser pan oedd gwahanol lwythi’n rheoli tiroedd Cymru, ac mae’n stori llawn antur a hiwmor sy’n tynnu ar chwedloniaeth Cymru.
“Er mod i wedi blino’n lân erbyn diwedd y dydd, ges i lond trol o hwyl!” meddai Bethan Gwanas, yn dilyn ei hymweliad â’r ysgol. “Roedd hi mor braf cael ymateb y disgyblion i’r llyfr, gyda phawb wrth eu boddau bod cymaint o’r stori yn digwydd ym Meirionnydd.”
Meddai Mari Roberts, Pennaeth Adran Gymraeg Ysgol y Moelwyn, “Cafodd y disgyblion fore arbennig yng nghwmni Bethan Gwanas, ac roedd  hi’n gwbwl amlwg fod pawb wedi mwynhau trin a thrafod ei nofel newydd. Mae’r disgyblion yn edrych ymlaen yn arw i ddarllen Llwyth, ac edrychwn ymlaen hefyd i groesawu Bethan yma i’r Moelwyn eto yn y dyfodol agos!”

——————————-

 Roedd Bethan Gwanas yn ol yn Stiniog ddiwedd Ebrill, gan gynnal sesiwn i ddisgyblion uwchradd eto, fel rhan o weithgareddau Llên y Llechi. Rhaglen Y Lolfa Lên, gan Llenyddiaeth Cymru oedd hwn, efo sesiynau dal ofal Dewi Prysor, Mair Tomos Ifans, SIan Northey a llawer mwy, yn yr Hen Go-op. 

Petaech chi’n chwilio ar wefannau’r trefnwyr a’r noddwyr, Llenyddiaeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Canolfan Sgwennu Ty Newydd, gallech chi daeru na ddigwyddodd y peth o gwbl. Dyma obeithio eu bod wedi gyrru newyddion ar gyfer rhifyn Mai Llafar Bro….
Dwi wedi benthyg y llun isod oddi ar gyfri’ Trydar Ty Newydd.

 

 

Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Sgotwrs Stiniog

Darn allan o rifyn Ebrill 2013 gan Gymdeithas Enweiriol y Cambrian

Llyn Cwmorthin dan rew. Llun- PW


Bu’r Gymdeithas yn cynnal dosbarthiadau cawio plu eleni eto, yn ystod misoedd y gaeaf, a bu 6 o’r aelodau ifanc yn mynychu’n gyson ac yn cael cryn bleser o geisio meistroli’r hen grefft. Yr hyfforddwyr eto eleni oedd Cec Daniels a Geraint W. Williams ac mae’r Gymdeithas yn ddiolchgar iddynt am roi o’u hamser a’u hymroddiad. Yn ôl y beirniad, Mel Goch ap Meirion, roedd safon y cawio yn uchel, o ystyried beth oedd oedran aelodau’r dosbarth, ac ni fu’n hawdd ganddo benderfynu ar yr enillydd. Ond, o drwch blewyn, Callum Williams o Gellilydan a gafodd y wobr gyntaf ganddo, tra bod pob un o’r lleill hefyd yn haeddu clod uchel.
Derbyniodd  Callum gopi o ‘Plu Stiniog’ Emrys Evans, cyfrol sydd bellach yn cael ei hystyried yn llyfr prin gan na ellir prynu copi yn unman (Mae digon o’r cyfieithiad Saesneg ar gael, wrth gwrs, ond y fersiwn wreiddiol Gymraeg yw’r un i’w thrysori.)
Roedd pob un o’r chwech a fu’n mynychu’r dosbarthiadau’n gyson yn derbyn trwydded 2013 i bysgota dyfroedd y Gymdeithas.
……………….
Da yw cael adrodd bod y gwaith ar y Cynllun Pysgota Gwyllt Cymru yn mynd yn ei flaen yn foddhaol er gwaethaf y tywydd echrydus a fu dros y misoedd diwethaf. Mae’r cwt cwch ar lyn Cwmorthin wedi ei gwblhau bron iawn a’r cam nesaf fydd archebu cwch ar gyfer y tymor newydd. Mae llawer o waith da’n mynd ymlaen hefyd i hwyluso pysgota i blant a physgotwyr anabl ar Lyn Ffridd y Bwlch ac, yn ddiweddar, fe gynhaliwyd sesiynau i ddysgu pysgota pluen i rai o ddisgyblion Ysgol y Moelwyn. Hefyd, o fewn y misoedd nesaf, gobeithir cychwyn ar y gwaith o godi cwt cwch newydd ar Lyn Morynion yn ogystal.
Mae’n gyfnod cyffrous yn hanes y Gymdeithas ac mae lle i ddiolch yn arbennig i’r cadeirydd Dafydd Williams a nifer o aelodau gweithgar eraill sy’n rhoi o’u hamser a’u llafur i sicrhau llwyddiant y prosiect.

Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Dechrau eto

Ai dyma’r adeg orau o’r flwyddyn i chi? Dwi rhwng dau feddwl.

Y cyfnod byr hwnnw rhwng cyffro yr hau a boddhad yr egino; a siom anochel yr haf, lle mae gobaith yn gallu troi yn dorcalon yn sgil ymgyrchoedd ar y cyd rhwng y tywydd a’r malwod a’r llygod a’r lindys!

Mae gweld silffoedd yn llawn o egin-blanhigion yn werth chweil tydi. Rhesi o bethau bach brwdfrydig, bron a thorri eu bolia’ isio Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Croeso i Stiniog!

Daeth cannoedd o blant Meirionnydd a thu hwnt i Flaenau Ffestiniog heddiw i gihoeddi Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014.

Byddai wedi bod yn hawdd iawn i’r Urdd yn ganolog ac yn y sir, i wthio pob gweithgaredd a hyrwyddo i’r Bala, felly diolch i’r cyfeillion doeth welodd y fantais o ddod i dref fwyaf Meirionnydd i gynnal gorymdaith a jambori.

Mae cynffon yr orymdaith dal ar dir Ysgol y Moelwyn yn y llun yma… Llun PW

A llwyddianus iawn oedd y diwrnod hefyd. Daeth yr haul allan i groesawu pawb i’r dref, ac er fod y gwynt braidd yn fain, roedd y croeso yn gynnes iawn.

Dechreuodd yr orymdaith yn Ysgol y Moelwyn, a cherdded i lawr Ffordd Wynne, Ffordd Tywyn, i Sryd yr Eglwys a’r Stryd Fawr i Sgwar Diffwys. Roedd cryn bellter rhwng y blaen a’r gynffon, gyda’r ysgolion, adrannau ac aelwydydd wedi addurno baneri i ddod efo nhw.

Y criw Batala yn arwain yr hwyl. Llun PW

Cafwyd adloniant ardderchog yng nghanol y dref, dan arweiniad profiadol criw Stwnsh S4C, a chanu gan Swnami, Y Cledrau, ac enillwyr Can i Gymru eleni, Jesop a’r Sgweiri. Cafwyd hwyl a chanu a dawnsio yn y gynulleidfa dan ofal Dilwyn; roedd ysgolion cynradd Meirionnydd i gyd wedi bod wrthi’n dysgu caneuon ar gyfer yr achlusur.
Rhai o faneri Stiniog. Llun PW
Roedd y miri’n parhau trwy’r dydd yn yr hen Go-op, oedd wedi’i droi’n Lolfa Lên, gyda chwedlau, rapio, darlleniadau a chanu.

Gobeithio bod rhai o’r cannoedd o rieni ac athrawon wedi gwario punt neu ddwy yn y Stryd Fawr cyn ei throi hi am eu milltiroedd sgwar eu hunain!

Dyma edrych ymlaen am fwy yn y dyfodol.

Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Stolpia -enwogion

Dyma ran o golofn Stolpia, o rifyn Ebrill 2013

llun- PW


Enwogion dieithr yn ein plith
    Heb os nac onibai,y mae ardal y Blaenau a Llan Ffestiniog wedi bod yn ddihangfa  i amryw o ddieithriaid enwog tros y blynyddoedd. 
Ar wahan i’r rhai o’r Cymry enwog a fu’n aros yn ein plith yn ystod bwrlwm y diwydiant llechi yn y 19 ganrif, megis rhai fel Richard Owen Jones ‘Glaslyn’ (1831-1909) a fu’n lletya yn Gwyndy, Rhiwbryfdir, y Parchedig Owen Wynne Jones ‘Glasynys’ (1828-1870) a fu’n lletya yn ffermdy Tyn y Ddôl, Tanygrisiau, ‘Isaac Eurfin Benjamin a’i gefnder Thomas Cynfelyn Benjamin, dau fardd o fri a fu’n lletya yn Wrysgan Fawr , Tanygrisiau. Un arall oedd y Parchedig John Hughes ‘Glanystwyth’, gweinidog poblogaidd gyda’r Wesleyaid, bardd  da, a  bu’n  olygydd  y cylchgronnau canlynol yn ei dro  -Y Winllan, Y Gwyliedydd a’r Eurgrawn.Wrth gwrs, bu amryw o rai eraill, ac efallai y caf sôn amdanynt  rhyw dro eto.
Ymsefydlodd rhai mwy bohemaidd a Saesneg eu hiaith yn yr ardal yn ystod yr 20fed ganrif. Un ohonynt oedd Augustus John yr arlunydd enwog. Bu ef yn preswylio am ysbaid yn Llwyn Ithel , sef y byngalo coed a tho sinc  a safai ger Glan yr afon ddu a’r hen waith mein gynt.
Ceir darlun o’i waith yn edrych draw am y Ffridd a hen dwnnel bach y Rheilffordd Gul. Clywais rhai’n dweud hefyd bod yr arch-sbiwr George Blake a ddihangodd o garchar Wormwood Scrubs yn 1966 a chael lloches gan y Rwsiaid wedi bod yn aros am ychydig yng Nghelli Wiog.
Y mae’n ffaith hefyd bod y cyfansoddwr  Syr George Bantock wedi bod yn aros yng Nghoed y Bleiddiau (Tŷ Hovenden) ger gorsaf Tan-y-Bwlch. O beth ddeallaf, taenwyd llwch marwol Syr George ar lethrau’r Moelwyn.
Wrth gwrs, mynnai rhai bod William Joyce ‘Lord Haw Haw’ a fu’n ceisio brawychu pobl Prydain efo’i fygythiadau Germany Calling ar y radio yn ystod yr ail ryfel byd  wedi bod yn aros yno yn ystod y cyfnod cyn i’r rhyfel dorri allan. Pa fodd bynnag,dywed eraill mai chwedl gwrach yw hyn. Tybed a ŵyr un ohonoch yn well ? ( I’w Barhau )

Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Crwydro- Gerddi Dyffryn

Ar ol bod yng Ngwyl Arddio Caerdydd ddydd Gwener -am nad oedd y plant efo fi- mi i ges i ryddid i fynd lle fynnwn, felly dyma ‘nelu at Erddi Dyffryn ar gyrion y ddinas. O’n i wedi darllen am y lle ers talwm, ac wedi meddwl cael piciad yno ryw dro, ac o’r diwedd daeth y cyfle.

Pan ddois i adra wedyn ac edrych trwy’r lluniau o’n i wedi dynnu yno, doedd dim un llun o dirlun trawiadol y safle*. Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Prysur, prysur, prysur…

Llwyth o bethau ymlaen yn Stiniog yr wythnos hon:

Nos Iau -  

‘Blaguro’ yn CELL. Hanes tatŵs.

Nos Wener a Dydd Sadwrn-

‘Llên y Llechi’

Dydd Sadwrn-
Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd.
Gorymdaith o Ysgol y Moelwyn am 11.00 a gweithgareddau lu yn y dref.

Dydd Sadwrn-
‘Blodyn’
Cyfarfod dan ofal y Theatr Genedlaethol i drefnu cynhyrchiad dramatig newydd yn Stiniog, wedi’i seilio ar chwedl Blodeuwedd.

Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Crwydro- Sioe Arddio Caerdydd

Cyn dechrau teimlo’r felan Nos Sul mi ges i benwythnos hir hwyliog iawn.

Mi gymris ddiwrnod o wyliau dydd Gwener i deithio i’r brifddinas i wneud cant-a-mil o bethau (wel, mae’n gwneud synnwyr i wneud cymaint a phosib yr un pryd er mwyn osgoi teithio’n rhy aml ar yr erchyll A470 tydi!).

Ymysg gorchwylion pleserus fel mynd efo Mam a Nhad i gyfarfod fy mrawd bach a’i gariad; a chyfarfod Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Rhifyn Ebrill 2013

Allan rwan!Pennod ola’r ‘Sbyty;Newyddion;Erthyglau;Lluniau;a llawer iawn mwy! Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: ‘ffliwt hyfrydlais’ a blwyddyn o’r blog

Mi wnes i son mewn blogiad cynharach fod y gylfinir wedi
bod yn canu uwchben Stiniog gyda’r nosau ddiwedd mis Mawrth.

Gylfinir- llun Comin Wicipedia, gan Neil Phillips.

Ar ol son y tro d’wytha am ganu’r ehedydd, dyma un arall o
synau amhrisiadwy y gwanwyn. ‘Fel ffliwt hyfrydlais uwch y rhos’  meddai R. Williams Parry*

Mi fues i’n trio recordio’r swn, ond heb
lwyddo i gael unrhywbeth o Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Tra bo hedydd

Un o ganeuon Dafydd Iwan ddaeth i’r cof ddoe.

Tra bo hedydd ar y mynydd;
tra bo ewyn ar y don;
tra bo glas yn nwfn dy lygaid,
mi wn mae ni pia hon.

Cytgan hyfryd. Can sydd heb gael y sylw haeddianol.

Beth bynnag, roedd y Pobydd wedi’n gadael ni am ddiwrnod o hwyl mewn gwisg ffansi, ar noson iar yng Nghaernarfon, felly mi aeth y genod a finna am dro, efo ‘nhad, i chwilio am yr haul ar Fryn Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Heuad cynta’

O’r diwedd dwi wedi llwyddo i hau rhywbeth! Mae’n teimlo fel bod yr heuad cynta’n mynd yn hwyrach bob blwyddyn.
Mae’r ddaear wedi rhewi o hyd, er bod yr haul yn llwyddo i ddadmer yr hyn sy’n golwg bob dydd.

Trychineb (!) efo’r oca oedd y cic-yn-din oeddwn i angen i fynd allan i gychwyn ar y gwaith.

Roedd rhai o’r cloron wedi llwydo am nad oeddwn wedi gofalu eu cadw’n iawn dros y gaeaf Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Y Cymdeithasau

Pigion o rifyn Mawrth 2013.

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog:


Gŵr gwadd diweddar oedd Vivian Parry Williams a’i destun “Y stori tu ôl i’r trysor”. 
Dechreuodd drwy nodi fod llawer i stori ynghlwm a celfi a chreiriau sydd wedi dod i lawr drwy’r oesoedd oddi wrth nain neu daid rhywun. Pedwar o’r creiriau hyn oedd cefndir ei sgwrs ac fe ddefnyddiodd sleidiau i egluro ei neges.
 
Cloch Ysgol Rhiwbach. Llun VPW

Gwelsom lun o chwarelwyr Rhiwbach a dynnwyd yn 1938.  Clywsom lawer am Rhiwbach a dangoswyd nifer o sleidiau o adfeilion y chwarel a’r pentref. Yn y cyswllt hwn dangosodd Vivian gloch fach a ddefnyddiwyd gan Kate Hughes o Danygrisiau yn yr ysgol yno lle yr oedd yn brifathrawes. Agorwyd yr ysgol yn 1908 a daeth i ben yn 1913 ac yn y cyfnod yma arferai Kate Hughes deithio yr holl ffordd dros y mynydd i
Rhiwbach ym mhob tywydd a dangoswyd llun ohoni yn dychwelyd yn ôl i’r Blaenau ar gar gwyllt ynghanol y chwarelwyr oedd yn mynd adre o’u gwaith.


Yr oedd digonedd o sylwadau ar y diwedd yn dyst fod y gynulleidfa wedi
gwerthfawrogi y noson. Talwyd y diolchiadau ffurfiol gan Eifion Jackson. 

Y FAINC ‘SGLODION.

I gychwyn ar ail ran o’n rhaglen 2012/13  treuliwyd amser difyr yn gwrando ar Bethan Wyn Jones yn darlithio  ar Lên Gwerin Llysiau Llesol,  a thrwy hefyd ddefnyddio sgrin i ddangos lluniau’r planhigion roedd y sgwrs yn rhoi’r syniad fod rhywun yn mynd am dro a hithau yn egluro eu defnydd meddygol gan gychwyn efo ‘Bysedd y Cŵn’ neu fysedd cochion;  cleci coch, gwniadur Mair. 
 
Bysedd y cwn. Llun PW.

Fel ag i wneud efo rhinwedd pob planhigyn does neb yn gwybod pryd y daeth dyn – nag anifail chwaith – i synhwyro at be mae hyn yn dda neu’r llall yn wenwynig.  Fe gofiwn yn dda pan yn blant o gael ein rhybuddio i beidio â rhoi blodyn bysedd y cŵn yn ein ceg – ond roedd y rhai hyn  yn dweud fod y planhigyn yma yn dda at ‘guriad y galon’. 

Hyn yn fyr i ddatgan ein bod wedi bwrw orig o werth yn ei chwmni.   
 


Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Crwydro -Ynysgain

Er imi fod adra trwy’r wythnos d’wytha, mae trefniadau a gweithgareddau’r plant bob dydd wedi golygu na fuon ni’n crwydro’n bell. Roedd y Pobydd yn gweithio tan Ddydd Iau hefyd, ond mi gawsom ni gyfle i fynd am dro efo’n gilydd ar Ddydd Gwener Groglith o’r diwedd.

Roedd y mynyddoedd yn drawiadol dan orchudd o eira, ond y môr oedd yn denu, felly lawr i Gricieth a ni. Parhau i ddarllen

Llafar Bro: O’r ysgolion cynradd


Ychydig o newyddion o rai o ysgolion cynradd y fro, o rifyn Mawrth.
MAENOFFEREN
Ras Trawsgwlad ‘Dal i Fynd’ Meirionnydd  – Bu 30 o ddisgyblion o Blynyddoedd 3-6 yn cymryd rhan yn y ras trawsgwlad yn Coed y Brenin.  Llongyfarchiadau i bawb am berfformiad gwych ar y noson.
Ail-Gylchu – Bu Blwyddyn 3 ar ymweliad â’r Ganolfan Ail Gylchu fel rhan o’u gwaith Gwyddoniaeth.  Diolch yn fawr iawn i’r staff am agor y ganolfan ac am y croeso cynnes.

Ras Crempog – Diolch i bawb a gefnogodd y Ras Crempog.  Cafwyd llawer o hwyl yn y rasus a paned a crempog i ddilyn.  Llwyddwyd i godi £350 tuag at gostau trip Blwyddyn 5 a 6 i Plas Menai.  Diolch i gwmni Aldi am eu haelioni yn cyfrannu gwobrau ar gyfer y rasus.

Diogelwch y Ffordd Blwyddyn 1 – Dros yr wythnosau diwethaf bu disgyblion Blwyddyn 1 yn dilyn rhaglen wythnosol er mwyn hybu diogelwch ar y ffordd.  Cyflwynwyd tystysgrif iddynt am gymeryd rhan pan ddaeth y cynllun i ben.

YSGOL BRO HEDD WYN
Bu cyrn gystadlu yn Eisteddfod Llawrplwy’ a llongyfarchiadau i bawb fu’n llwyddiannus ar y llwyfan ac yn y cystadleuthau a baratowyd yn yr ysgol.  Pe na bai diwrnod o Eisteddfod yn flinedig i’r disgyblion chwarae teg iddynt fe ddaeth llawer iawn ohonynt at ei gilydd eto ar fore’r Sul canlynol er mwyn cynnal y gwasanaeth yng Nghapel Moreia. 
Bu nifer fawr o blant yn cystadlu yng nghystadleuaeth Traws Gwlad Dal i Fynd yng Nghoed y Brenin hefyd.
YSGOL EDMWND PRYS
Llongyfarchiadau i’r Parti Unsain am ddod yn gyntaf yn yr Eisteddfod
Cylch yn Ysgol y Moelwyn ddydd Sadwrn Mawrth 2il.

Cynhaliwyd te bach Cymreig yn Neuadd yr ysgol ar Ddydd Gwyl Dewi. Bu’r
plant yn brysur yn coginio bisgedi ac amrywiaeth o gacennau ar gyfer y
dathliad. Bu’r plant hefyd yn perfformio ambell i gan yn ystod y prynhawn.
Rhoddwyd gwahoddiad i’r holl rieni, ffrindiau a phobl y gymuned i’r Te.
Roedd yr arian yn mynd tuag at Apel  Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
Meirrionnydd 2014 – Gellilydan a Maentwrog.
TANYGRISIAU

Ar Chwefror 20fed aeth plant Bl. 3 a 4 ar daith gerdded i fyny i Gwmorthin fel rhan o’u gwaith ysgol. Mwynhaodd pawb yn fawr er gwaetha’r tywydd oer!
Ar Fawrth 1 cymerodd holl blant yr ysgol ran mewn cyngerdd yn y neuadd i ddathlu
Dydd Gwyl Dewi a phawb yn gwneud eu gwaith yn rhagorol. Yna cafwyd gwledd amser cinio yn y ffreutur.
Cafwyd calyniadau da iawn yn Eisteddfod Cylch yr Urdd a gynhaliwyd yn Ysgol
y Moelwyn dydd Sadwrn, 2il o Fawrth.  Fe ddaeth y Cor yn 2il gyda’r Parti
Unsain yn 3ydd a’r Parti Llefaru hefyd yn 3ydd.  

Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Mewn angof…?

Erthygl gan Vivian Parry Williams, yn rhifyn Mawrth 2013.

 
Mewn angof ni chant fod?
Yn fy meddiant y mae copi o raglen achlysur agoriad swyddogol yr Ysbyty Coffa leol, neu i roddi’r enw llawn a gyhoeddwyd ar y dudalen flaen, ‘Ysbyty Coffa Dewrion Ffestiniog a’r Cylch’.  A hithau’n gyfnod tyngedfennol i ddyfodol yr ysbyty, gyda phwyllgor detholedig, nid etholedig, yn cynrychioli Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwneud y penderfyniad gwarthus o’i chau, amserol efallai fyddai cynnwys detholiad byr o gynnwys rhaglen yr agoriad swyddogol hwnnw, 11 o Fehefin 1927.  Yn y geiriau agoriadol cawn flas o’r ymdeimlad o falchder bro gyfan yn yr ysbyty, a’r angerdd wrth gofio am y cannoedd o fechgyn ifainc a gollodd eu bywydau yn y rhyfel.
‘Ar derfyn y Rhyfel Mawr penderfynwyd yn nosbarth Ffestiniog a’r Cylch, fel mewn gwahanol ardaloedd drwy’r wlad, goffhau aberth drud y rhai gwympasant yn y rhyfel. Yr oedd yn amlwg fod barn gyhoeddus gref yn yr ardal o blaid cael cofeb ddefnyddiol. Ystyriwyd y mater dro ar ol tro gan y Cyngor Dinesig, a derbyniwyd amryw awgrymiadau. Ond pan roddwyd y mater i bleidlais yr ardalwyr, cafwyd mwyafrif mawr dros gael Ysbyty.’
Ac wedi trafod manylion  perthnasol i adeiladu’r ysbyty, gan gynnwys  enwau y rhai gweithgar hynny a fu yn ymwneud â’r ymgyrch i’w chodi, cawn yr wybodaeth canlynol: …’a phenderfynwyd gwneud cais am rodd at Gymdeithas y Groes Goch. Atebodd y gymdeithas honno’r cais gyda rhodd amodol o £5000…Bu cwmniau a swyddogion chwareli, chwarelwyr, gweithwyr eraill a’u cyflogwyr, a’r cyhoedd yn gyffredinol yn hael yn eu cefnogaeth.’
Aiff yr adroddiad ymlaen i ychwanegu enwau’r caredigion eraill a fu’n hael eu rhoddion a’u hymroddiad tuag at gyrraedd y nod o weld y freuddwyd yn cael ei gwireddu. Ond diweddglo’r ysgrif sydd yn ysgwyd cydwybod dyn, ac yn ein hatgoffa unwaith yn rhagor o ddiffyg parch y garfan dideimlad a ddaeth i’r penderfyniad i gau Ysbyty Coffa Ffestiniog. Dyma’r geiriau iasol hynny:
‘Prif amcan yr Ysbyty yw coffhau aberth y gwroniaid roisant eu hunain er ein mwyn; a gwneuthur hynny trwy ddarpar, hyd y mae’n bosibl, bod moddion diweddaraf a gwasanaeth llawfeddygol ynghyd a gofal priodol am y claf a’r anafus…Ar wahan i’w ddefnyddioldeb a gydnabyddir gan bawb, pery’r Ysbyty yn lle cysegredig i galon pob un werthfawroga yr aberth mawr a goffeir, ac yn arbennig i’r perthynasau y cedwir eu rhai annwyl yma mewn bythol gof…’
            —————————————
Ar gyfer ambell un o’r llechwraidd, euog rai fu’n gyfrifol am y penderfyniad i gau Ysbyty Coffa Ffestiniog, na allent ddarllen Cymraeg, dyma dorri rheol pendant cyfansoddiad y papur bro hwn, a chynnwys cyfieithiad Saesneg o ychydig eiriau o’r uchod:
The object of the Hospital is primarily to perpetuate the memory of our heroes who gave themselves for us…the Memorial Hospital will retain a sentimental value that shall endear it to all hearts who appreciate the great sacrifice it commemorates, and especially to the relatives whose dear ones are kept in lasting and loving memory…


Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Hwyl, gwyl, a gwaith

Ychydig llai na blwyddyn yn ol, roeddwn wedi cymryd wythnos o wyliau o ‘ngwaith, i fod efo’r teulu dros wyliau’r Pasg, ac er mwyn gwneud cant o bethau yn yr ardd a’r rhandir. Ac wrth gwrs mi ddaeth glaw ac eira ar draws popeth!

Dyna pam gychwynais y blog.

Dwi wedi bwcio wythnos o wyliau eto yr wythnos hon, gan fod y plant adra o’r ysgol.
Mae’r ardd a’r rhandir dan drwch o eira!

Be’ wneith Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Stolpia -Llechi crynion eto

Darn o golofn reolaidd Steffan ab Owain.
Gallwch ddarllen ei erthygl yn llawn yn rhifyn Mawrth 2013.


Soniais ychydig am y rhain yn rhifynnau Hydref a Thachwedd 2012.Dyma air bach amdanynt unwaith yn rhagor.
Cael cosb am fynd a llechen gron adref
    Yn y flwyddyn 1893 aeth pethau yn ddrwg yn Chwarel Llechwedd a bu streic yno am 5 mis. Dyma beth ddywed un gohebydd  mewn adroddiad yn Y Genedl Gymreig, Mai 23, am rai agweddau parthed y sefyllfa yno –
Cwyna’r dynion fod y ddisgyblaeth ryfeddaf fu erioed yn cael ei harfer yn y Llechwedd. Caiff dynion eu reportio am y pethau lleiaf, megis aros adref i fod yng nghynhebrwng cyfaill o chwarelwr, cychwyn adref funud cyn i’r gloch ganu –dywedir ddarfod i un dyn gael ei alw i gyfrif  am ddim ond  dweud fod y gloch yn canu.
Mae yn arferiad ym mhob chwarel i weithiwr gael mynd a llechen gron gydag ef.
Y dydd o’r blaen aeth Griffith Roberts, Bethania ag un adref i’w wraig. Hysbyswyd hynny i’r awdurdodau, a rhybuddiwyd ef i aros adref o’r chwarel am wythnos. Ond deallwn iddo gael maddeuant am ei drosedd anferth ymhen tri diwrnod, ac nid wyf yn sicr na fu raid iddo dalu chwe cheiniog am y llechen cyn cael hynny.
  Pwy a fuasai’n meddwl y deuai stori  am y lechen gron i mewn i hanes yr  anghydfod diwydiannol hwn, ynte ?
Llechen gron a Llafar Bro. Llun PW
Mae Steff yn adrodd hanesyn arall am lechen gron a helyntion chwarel yn yr erthygl hefyd. Sef sut oedd gweithwyr Chwarel y Penrhyn yn rhoi eu henwau ar lechen gron er mwyn galw cyfarfod i drafod anghydfod, rhag i’r rheolwyr weld pwy oedd wedi llofnodi gyntaf a chodi stwr!

  Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Troedio’n ol- Llew Glyn

Mae John Norman yn cynnal cyfres ddifyr a phersonol o erthyglau ar hanes Trawsfynydd, bob mis yn selog yn Llafar Bro.

Dyma ddarn o’i golofn yn rhifyn Mawrth 2013 sydd yn y siopau erbyn hyn.


Mis diwethaf ysgrifenais am Ysgol Traws. Meddyliais wedyn am addysg ag ysgolion yn gyffredinol. Yr ydym pob un yn cofio’n ddwys am un athro, o leiaf, a’i effaith yn ddwfn arnom. Un felly oedd Llew Glyn Davies.
Llew Glyn oedd athro dosbarth y sgolarship ac ef a gymerodd holl waith ei gyd-athrawon a’u sgleinio fel bo’r gofyn. Dyn ifanc golygus oedd a’i lygaid yn byrlymu gyda chyfrinachau bywyd a’i wyneb a gwen siriol ar ddechreu pob dydd. Athro oedd yn cael ei addoli gan y plant wrth eu harwain trwy lwybrau troellog addysg. Byddem yn dotio at ei allu i ‘sgwennu ar y bwrdd du gyda llaw dde neu chwith a gwyliem ei ddawn i daflu darn bach o sialc yn unionsyth gyda unrhyw law hefyd.
Ysgol Bro Hedd Wyn- hawlfraint y llun Alan Fryer, trwydded ‘creative commons’, o wefan Geograph
Er ein bod mewn hen ddesgiau cyfyng ac yn gweithio ar lechen glas ac ychydig o adnoddau ni theimlem unrhyw anfantais ac roedd amser gyda Llew Glyn yn  hudolus.  Gyda’i lais ystwyth aeth a ni i fyd chwedloniaeth ac hanes gan drosi’r neges i’n bywyd dyddiol. Aeth a ni allan i fyd natur a chredaf bod  lluniau ar gael yn y Traws am ddiwrnod arbennig ar y Grisiau Rhufeinig yn hel llus.
Cefais y fraint o gysylltu ag Ysgol Traws  a Llew Glyn eto ar ddiwedd y rhyfel. Roedd yn rhaid i mi wneud ymarfer dysgu deg wythnos cyn mynychu’r coleg ym Mangor. Byddai Cyngor Meirionnydd yn talu ffioedd dysgu a llety eu myfyrwyr lleol ar yr amod o wasanaeth o’r fath. Ar y diwrnod cyntaf pwy oedd yno i’m derbyn ond fy hen athro Llew Glyn Davies, wedi dychwelyd o’r rhyfel. Yntau yn  taro sym hirfaith ‘long division of money’ ar y bwrdd du ac yna cerdded allan o’r dosbarth gan ddweud “Chdi biau nhw rwan !” ‘Roedd yn garedig iawn ac yn ymfalchio fy mod am yrfa dysgu.
Bu Gwasanaeth Coffa fawr bu iddo yn y Bala, a chwalwyd ei lwch yn Eglwys Cerrigydrudion. Mae fy Hen Daid a Hen Nain wedi eu claddu wrth ddrws yr Eglwys hon. Pan alwaf yno wrth fynd heibio Cerrig cofiaf am ddyn ag athro fu’n ddylanwad ar gymaint o blant Meirion.
                                                                       John Norman
                                          
  

Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Rhifyn Mawrth 2013

Mae rhifyn Mawrth wedi ei blygu, ac ar ei ffordd atoch chi, ac i’r siopau.Brysiwch da chi i gael copi! Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Torri coed

Mae rhywbeth bach yn poeni pawb…

Deud gwir, mae rhywbeth wedi bod yn fy mhoeni ers pum mlynedd: coeden hardd ym mhen pella’r ardd gefn. Wel, tafliad malwen o’r ardd yn y cae dan ty, ond yn gwyro dros yr ardd a’r ty gwydr!

Pan symudon ni yma, roedd hon yn goeden hardd iawn, ac mi fues i’n hir yn ffeindio be oedd hi. O chwilio trwy’r llyfrau daeth yn amlwg mae ffawydden ddeheuol oedd hi (roble Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Paneli dehongli

Mae hanner dwsin o baneli newydd wedi ymddangos ar hyd Stryd yr Eglwys a’r Stryd Fawr, efo gwybodaeth ddifyr am hanes a diwylliant ein bro.Mae un hefyd wedi ei osod ar Ben Carreg Defaid hefyd, rhwng ysgol y Moelwyn a’r Ysbyty Coffa.Maen nhw’n arbennig … Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Grifft

Grifft llyffant yn y pwll gwyllt drws nesa’ i’r rhandir, pnawn ‘ma.

A dyma glip rhyfeddol gan Gareth T Jones, oddi ar YouTube, yn dangos llyffantod yn rhuthro ar draws eu gilydd i barhau’r hil, a hynny gwta filltir lawr y dyffryn ar ffordd Stwlan, ychydig ddyddiau’n ol.

Mae’r swn yn wych!
Dyma edrych ymlaen i weld llu o lyffaint ar y rhandiroedd dros yr haf, yn bwyta slygs. Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Pry’ blodyn

Pryf hofran gynta’r flwyddyn yn yr ardd gefn ar ddiwrnod ola’r mis bach; yn hel paill ar y bocs gaeaf (Sarcoccoca).

Mae 280 math o bryf hofran ym mhrydain, ac mae’n anodd eu nabod heb eu lladd a’u hastudio o dan y meicrosgop, ond mae’r bwa yn un o wythiennau adenydd hwn, yn ei roi yn y teulu Eristalis*.

Y rhain sy’n treulio cyfnod o’u bywydau fel larfa efo cynffon hir, mewn pyllau dwr budr Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Troedio’n ol: y twll!

Dyma ddarn o erthygl John Norman, o rifyn Chwefror 2013. Mae rhai copiau o LLAFAR BRO ar gael yn y siopau o hyd, i chi gael mwynhau’r erthygl yn llawn.



Wrth deithio adref penderfynais fynd yn araf trwy bentref Traws ac fe lifodd yr atgofion yn ôl. Gwelais ddau beth sy’n siwr o dynnu gair eto. Yn gyntaf, hen bont y Llan sy’n dal ein hanes. Yn ail, Bryn y Gofeb ar y gorwel. 

Ond y tro yma yr ysgol a gymerodd fy sylw gyda’i muriau cerrig yn dal gobeithion plant heddiw ac atgofion ei chyn-ddisgyblion. Yn ein dyddiau ni nid oedd y safle’n un mor agored gan y safai Capel Ebenezer a Thŷ’r Capel o’i blaen. Heddiw, a’r Capel wedi ei ddymchwel, mae’r ysgol i’w gweld yn glir trwy fynediad llydan. Ond mae’r iardau sy’n amgylchu’r adeilad yn union fel yr oeddynt ac yn amlwg mewn cyflwr da. 
Mae’r iard gyffredin tu allan i’r brif fynedfa wedi ei marcio ar gyfer chwarae pêl rwyd. I’r dde roedd iard y bechgyn yn codi’n serth tu ôl i gefnau tai Fronwynion at doiledau’r bechgyn ar y pen pellaf ond erbyn heddiw nid yw yn greigiog fel cynt ac mae wedi ei marcio’n dwt ar gyfer gwahanol gemau. 
Yma, byddem yn chwarae ein fersiwn ni o bêl rwyd gan anelu i daflu’r bêl i ddwylo’r gôlgeidwad. Gem digon peryglus ar dir mor greigiog. Ar y ochr arall safai’r ystafell gwaith coed a iard y merched, a thu cefn i honno safai toiledai’r merched, gefn yn gefn â rhai’r bechgyn. Doedd moethusrwydd mewn tai bach ddim yn bod yn y pedwar degau!

Rhwng y ddwy iard yma, cuddiai iard fechan unigryw wedi ei hamgylchu gan waliau uchel. Dyma ‘Y Twll’, lle byddem ni’r bechgyn yn cael llonydd a chysgod i chwarae marblis, i daro concyrs a thaflu cardiau. Roedd angen sgiliau medrus bys a bawd i chwarae marblis a’r farblen y byddai pawb yn ei chwechynu oedd y ‘Tommy Twenty’ fawr, liwgar, oedd yn feistr corn bob amser ar y marblis llai. 


Byddai pob gweithgaredd yn darfod a distewi pan oedd ‘Ffeit!’ yn cychwyn, a dyna, mae’n debyg, oedd prif atyniad y Twll. Yn aml, yn ystod amser chwarae neu awr ginio clywid gwaedd ‘Ffeit! Ffeit!’ a merched a bechgyn yn tyrru at y Twll i wylio.   


Ydi, mae plant yn dangos parodrwydd yn ifanc iawn i godi dwrn a tharo’n ôl ac, yn hynny o beth, roedd y ‘Twll’ yn ein dyddiau ni yn ‘feicrocosm’ o’r byd yr ydym yn rhan ohono heddiw.  Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Ein gwadu a wnaethant..

Chwarae teg i Gyngor Iechyd Cymunedol ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda am gyfeirio’r cynlluniau heno at winidog iechyd Cymru, yn wahanol i’r yes-men llwfr yn y gogledd.Cerddodd dros fil o bobl eto ddydd Sadwrn -yn Llandudno y tro hwn- i wrthwynebu camweiny… Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Dydd Lluniau

Deffro

Mae’r lili wen fach wedi blodeuo; yr adar wedi dechrau canu…
-daw eto haul ar fryn.

Cynffonau wyn bach cyfarwydd, a blodyn benywaidd coch yr un goeden, yn barod i dderbyn y paill.

Grifft llyffant

 Ambell lun oddi ar y ffo^n, wrth grwydro Coed Tafarn Helyg ddoe.

Ges i nhwyllo gan arwyddion y gwanwyn i feddwl am ddechrau dwy neu dair Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Pytiau Chwefror 2013

Dyma bytiau allan o rifyn Chwefror. Gallwch ddarllen y cyfan yn y papur.

Cofiwch: dim ond 40 ceiniog ydi Llafar Bro, ac mae tanysgrifio yn rhad iawn hefyd i’r rhai sydd wedi gadael y fro. Gallwch roi cyfarchion ac atgofion am ddim ynddo, cysylltu efo hen gyfeillion, holi hanes teuluoedd a gyrru hen luniau i gael enwau cyd-ddisgyblion a chydweithwyr anghofiedig.

Lle arall gewch chi’r fath werth am eich pres?!


Sefydlu busnes o’r newydd, er gwaetha’r lladron
Mae gweld un o siopau’r dref yn cael ei hagor o’r newydd yn destun llawenydd bob amser, yn arbennig felly os mai un o ienctid yr ardal sy’n mentro. A dyna ddigwyddodd yn Siop y Gainsboro ym mis Tachwedd llynedd pan fentrodd Llinos Roberts, un o ferched ifanc lleol, i gychwyn ei busnes ei hun, yn gwerthu dillad merched a phlant.  ‘Pob lwc iddi!’ oedd barn pawb. Pawb ond y lladron diegwyddor hynny sydd bob amser yn meddwl bod ganddyn nhw’r hawl i roi eu dwylo blewog ar eiddo rhywun arall.
Byddai rhai gwanach na hi wedi anobeithio a rhoi’r ffidil yn y to yn y fan a’r lle, ond fe fentrodd y ferch ifanc hon o’r newydd i fuddsoddi mewn rhagor o nwyddau ac erbyn heddiw mae TŶ FFASIWN wedi sefydlu ei hun ar y Stryd Fawr. Dymunwn bob lwc i’r fenter. Mae Llinos yn ei haeddu ac yn haeddu cefnogaeth y dref.
Ysgol y Moelwyn
Tymor Olaf Blwyddyn 11: Am bedair mlynedd a hanner mae Blwyddyn 11 wedi bod yn galon i fywyd yr ysgol, ond mae’r amser yn dod iddynt gymryd eu harholiadau terfynol a symud i’r cyfnod nesaf yn eu bywydau. Dyma’r tymor olaf y byddant efo ni mewn gwersi, cyn y cyfnod adolygu ar ôl y Pasg, ac mae’n amser pwysig yn eu bywydau ifanc. Gyda llai na phedwar mis cyn yr arholiadau mae angen dal at y gwaith caled maent wedi ei wneud dros y blynyddoedd gyda help eu ffrindiau a’u teuluoedd. Rydym ni yn barod i roi pob cefnogaeth bosib i helpu’r disgyblion yma i gyflawni eu holl botensial a rhoi y siawns gorau i bob disgybl yn ystod yr amser pwysig yma yn eu bywydau.

                                                    Steddfod yr Urdd, Meirionnydd 2014

Mae targedau’r gronfa yn uchel a’r gwaith o godi arian yn gallu bod yn ddi-ddiolch yn aml. Pe bai ond am y rheswm hwnnw, mae’r rhai sydd wedi gwirfoddoli i weithredu ar y Pwyllgor Codi Arian yn haeddu pob clod a phob cefnogaeth y gallwn ni ei roi iddynt. Wedi’r cyfan, os yw’r Eisteddfod yn cael cefnogaeth ardaloedd di-Gymraeg mewn rhannau o ddwyrain a de Cymru, yna siawns na fedrwn ni, y Cymry Cymraeg, ddangos yr un gefnogaeth i un o’n prif wyliau cenedlaethol. 
Y newydd da yw y bydd yr Ŵyl Gyhoeddi yn cael ei chynnal yn Stiniog y tro hwn, ar Ebrill 27ain, ac y bydd hwnnw’n gyfle inni ddangos i weddill Cymru bod yr ardal yma mor gefnogol ag erioed i ienctid ein gwlad ac i’r diwylliant Cymreig.

 

 

Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Crwydro -Harlow Carr

Gan ein bod ni yn Swydd Efrog y dydd o’r blaen, mi lusgais y Pobydd i erddi Harlow Carr, ger Harrogate, a chael diwrnod hamddenol o grwydro ac yfed te a bwyta sgons aballu.

Byswn i ddim yn rhuthro ‘nol yno ym mis Chwefror, ond dwi’n siwr bod y pris mynediad (£8.50 yr un) yn ymddangos fel llai o sgam yn yr haf pan mae ‘na flodau yno!

Ta waeth, roedd y ty Alpaidd yn werth ei weld, ac mi ges Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Dal i aros am atebion…

Pum cant medd Golwg 360; wyth gant meddai gwefan BBC Cymru; 950 yn ol Radio Cymru;
MWY! medd rhai oedd yno…

Gwefan BBC Cymru  (dolen yn y frawddeg gynta’)

Yn sicr un o’r raliau mwyaf a welwyd yn Stiniog ers tro. Diolch i’r rhai a gefnogodd, gan gynnwys cyfeillion o ymylon y dalgylch fel Dolwyddelan a Phenrhyndeudraeth, ac i ymgyrchwyr ysbytai Bryn Beryl a Llandudno a ddaeth i ddangos undod.

Dyma ddarn oddi ar dudalen flaen rhifyn Chwefror LLAFAR BRO. Ewch i chwilio am gopi i chi gael darllen y cwbl!


DAL I AROS AM ATEBION
Ia, dyna oedd pennawd tudalen flaen rhifyn Ionawr, ynghŷd â chopi o lythyr oddi wrth y Pwyllgor Amddiffyn at gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac addewid gennym hefyd i gyhoeddi atebiad y gŵr hwnnw yn y rhifyn hwn. Ond ddaeth dim atebiad, nac unrhyw atebiad i lythyr arall chwaith a gafodd ei anfon ‘recorded delivery’ iddo bythefnos yn ôl, i’w swyddfa yn Ysbyty Gwynedd; llythyr oedd yn herio penderfyniad y Bwrdd, ar Ionawr 18fed, i gau’r Ysbyty Coffa ‘o fewn yr wythnosau nesaf’.
Rhifyn Ionawr
Erbyn hyn, fe gafodd staff yr Ysbyty wybod eu tynged a hynny mewn modd cwbwl ddi-dostur ac annerbyniol. Ydi, mae pethau’n edrych yn ddu ond mae’n fwriad gan y Pwyllgor Amddiffyn i ddal ati, cyhŷd ag y gallwn ni, i herio penderfyniad y Bwrdd Iechyd a’i ddulliau twyllodrus o weithredu, trwy fynd â nhw i gyfraith os bydd raid. Wedi’r cyfan, ar wahân i ildio’n ddi-brotest, pa ddewis arall sydd gennym?

Ddydd Iau, 24 Ionawr, fe gyflwynodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies, sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Amddiffyn, y cynnig brys hwn gerbon y Cyngor  Sir –
Yn sgil penderfyniad diweddar gan Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ail stwythuro’r gwasanaeth
Iechyd rwy’n cynnig:
1) Bod y Cyngor yn cael cyfarfod gyda’r Bwrdd Iechyd i drafod yr oblygiadau ariannol, disgwyliadau ar y gwasanaeth a fod dim newid yn cymryd lle hyd nes fod trafodaethau aeddfed wedi digwydd.
2) Ein bod yn gofyn i’r Cyngor Iechyd Cymunedol gyfeirio’r mater i’r gwenidog iechyd Lesley Griffiths i’w ystyried.

Da cael adrodd bod y cynnig hwnnw wedi derbyn cefnogaeth unfrydol aelodau’r Cyngor, a diolchwn i Mandy am ddwyn y fath berswâd ar ei chyd-gynghorwyr  ac am ei hymdrechion di-flino dros yr achos. Diolch yn ogystal, wrth gwrs, i’n dau gynrychiolydd arall ar y Cyngor Sir, sef Linda Wyn Jones a Paul Thomas. 

Mae eu cefnogaeth a’u cyfraniad cyson hwythau hefyd i waith y Pwyllgor Amddiffyn, heb sôn am i les yr ardal yn gyffredinol, yn rhywbeth y dylem fod yn ddiolchgar iawn amdano.

Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Rhifyn Chwefror 2013

Criw da wedi dod i blygu rhifyn Chwefror heno a’r gwaith wedi’i wneud mewn chwinciad!Diolch i bawb am eu cymorth.Rhifyn arall yn llawn i’r ymylon o erthyglau, newyddion, cyfarchion, llythyrau. lluniau, a barn gref iawn am ddyfodol yr ysbyty goffa yn be… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Capel Jerusalem

Dyma ddarn o erthygl gan Gwyn Thomas ar ddiwedd pennod arall yn Stiniog.
Gallwch weld yr erthygl yn llawn yn rhifyn Ionawr. Mae ambell gopi wrth gefn gan y dosbarthwr os na chawsoch afael ar un hyd yma, a gan y trysorydd hefyd i’r rhai fyddai’n hoffi tanysgrifio am flwyddyn gyfa’. Ewch i’r dudalen tanysgrifio am fanylion pellach.

Cofiwch am noson blygu rhifyn Chwefror y nos Fercher yma yn neuadd y WI am 6.30. Croeso mawr i bawb ymuno yn yr hwyl!

Cofiwch hefyd am y rali a gynhelir y Sadwrn hwn i ddangos yn glir be’ mae pobl y dalgylch yn feddwl o benderfyniad cywilyddus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gau’r ysbyty.


JERUSALEM YN DOD I BEN


Yn Rhifyn 31 o Rhamant Bro  y mae Robin Davies yn rhestru 39 o gapeli ac eglwysi ym mro Ffestiniog. Y mae hyn yn dystiolaeth i’r argyhoeddiad a fu yma unwaith. Pobol gyffredin, ddigon tlodaidd eu byd a dalodd, yn ddrud, am godi’r holl gapeli hyn. A oedd eu hangen nhw i gyd sy’n fater arall. Y mae’n siŵr fod yna rywfaint o falchder enwadol yn yr holl adeiladu, a’r holl adeiladau. 
Nodaf dair enghraifft o gapeli sydd wedi eu dymchwel dros y blynyddoedd diwethaf. Pan oeddwn i’n hogyn bach yn Nhanygrisiau roedd yna glamp o gapel gan y Methodistiaid yno, sef Bethel. Y mae o wedi hen fynd. Pan symudais i fyw i Wynne’s Road (fel y dywedem ni), pan oeddwn i fymryn yn hŷn, yr oedd capel anferth y Methodistiaid, sef y Tabernacl,  i’w weld o’n stryd ni. Y mae hwnnw hefyd wedi hen fynd. Pan oeddwn i’n naw oed fe fudodd ein teulu ni i Benar View, ac yng ngheg y ffordd at y fan’no roedd gan yr Annibynwyr gapel sylweddol ei faint, sef Brynbowydd. Y mae hwnnw, yntau, wedi mynd. A rŵan y mae Jerusalem, capel anferth yr Annibynwyr, a fu’n bresenoldeb amlwg yn y Stryd Fawr, yn mynd i gau.

Yr oedd ein  teulu ni’n aelodau yn Jerusalem. Rydw i’n cofio gwasanaeth dau weinidog yno, sef Brython M. Davies a John Elwyn Davies, yn bennaf – ar ddiwedd fy amser i yn y Blaenau y daeth Elwyn Jones yno.  Roedd yna ddwy oedfa bob Sul, un am ddeg y bore a’r llall am chwech yr hwyr, ac oedfa’r hwyr oedd y brif oedfa ers talwm. Am ddau y prynhawn cynhelid Ysgol Sul, un i blant yn y Festri Fawr o dan y capel, ac un i oedolion yn y capel ei hun. Bob blwyddyn, tua mis Mai, cynhelid Cymanfa Ganu, un i blant ar brynhawn Sadwrn, ac un i oedolion ar nos Sadwrn. Byddai plant Ysgolion Sul Annibynwyr y cylch yn gorymdeithio, gan gychwyn wrth ymyl capel Jerusalem, mynd i lawr Stryd Glynllifon, i lawr Wynne’s Road heibio Ysgol y Moelwyn, heibio’r Parc ac i fyny tros bont y lein heibio Neuadd y Dref (roedd honno’n ffordd fawr yr adeg honno), ac yna i fyny’r Stryd Fawr am Jerusalem eto. Byddai yna gario baneri mawr lliwgar, a byddai’r plant lleiaf yn cael eu cario mewn ceir neu lorïau wedi eu haddurno’n grand. Gwisgai hogiau Jerusalem fedalau llwyd-ddu, a gwisgai’r genethod roséts lliwgar. Byddai Jerusalem dan ei sang, a byddai canu bendigedig yno ( neu dyna’r oeddem ni’n ei feddwl), a rhannu tystysgrifau am basio arholiadau ysgrythurol. Ac wedyn byddai yna de parti joli iawn yn y Festri Fawr.
Gwyn Thomas

Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Hel briwsion

‘Ti’n gweud winwns, dwi’n deud nionod’

Rhaff o nionod brynis i gan rhyw fath o Sioni Winwns ddydd Gwener.
Dwi’n cofio Sionis yn galw o ddrws i ddrws pan o’n i’n blentyn, a’r rheiny’n siarad Cymraeg. Roedd hyn fel hud a lledrith i mi; bodolaeth gwlad arall lle’r oedden nhw’n siarad iaith debyg i ni, wedi wynebu’r un gorthrwm. Ac roedden nhw’n dod ar eu beic (oeddwn i’n gredu) bob cam efo Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Lle maen nhw heddiw?

Cyfres reolaidd lle mae Llafar Bro yn holi rhai o blant y cylch sydd wedi gadael y fro i ennill bywoliaeth.

‘Chydig o hanes Medwen Roberts, gynt o Danygrisiau, a gawn y tro hwn. Ymddangosodd yr erthygl lawn yn rhifyn Tachwedd 2012.
Beth yw eich swydd bresennol ac ym mha ran o’r wlad ydych chi’n byw ar hyn o bryd?
Cynhyrchydd a chyfarwyddydd teledu a radio ydw i. Ond dwi hefyd wrth fy modd yn gwneud ymchwil, yn enwedig ymchwil hanesyddol, ar gyfer y cyfryngau, theatr neu brosiect arall.
Dwi’n byw yn ardal Dyffryn Clwyd mewn pentre bach o’r enw Graigfechan.
Be ydi’r atgofion mwyaf pleserus sydd gennych am eich plentyndod a’ch dyddiau ysgol?
Mae’r atgofion sy gen i am fy mhlentyndod yn bleserus tu hwnt. Byw yn Nhanygrisiau, nabod pawb,  chwarae yn yr awyr agored. 
Mae gen i atgofion da o Ysgol Gynradd Tanygrisiau. Dim y gwersi sy’n aros yn y cof, gwaetha’r modd, ond yr hwyl  oedden ni’n gael – dysgu dawnsio gwerin, cael ‘eis crîm’ Taddies yn yr haf, cyngherddau Nadolig prysur yn festri Bethel, a’r ffrindiau bore oes.
Gan ein bod ni fel teulu yn byw yn Nhŷ Capel Carmel roedd gweithgareddau amrywiol y capel yn  cymryd dipyn o amser. Gobeithlu Bethel nos Lun, Carmel nos Fawrth, Ysgol Sul efo athrawon gwahanol.  Trip ysgol Sul, Parti Dolig, a’r Gymanfa Ganu. Roedd hyd yn oed steddfod yn y capel.
Beth neu pwy fu’r dylanwad(au) mwyaf arnoch pan yn ifanc?                                             
Roedd pawb yn ddylanwad gan fod cymdeithas mor glos yn Nhanygrisiau a Stiniog. Roedd tyfu i fyny mewn cymdeithas glos yn deimlad cysurus dros ben. Chydig wyddwn i mor unigryw oedd o ac na fasa fo’n para am byth. Dwi wedi byw mewn sawl dinas yng Nghymru a Lloegr ac mae gallu cerdded stryd a nabod bron pawb yn beth anghyffredin erbyn hyn.
Pa  brofiadau diddorol neu gofiadwy a gawsoch chi yn eich swydd? A fu ambell dro trwstan?
Gormod o droeon ‘trwch blewyn’ imi eu nodi! Dwi wedi teithio cryn dipyn efo’m gwaith, yng Nghymru a thu hwnt, a gweithio mewn llefydd difyr iawn, ac yn aml mae’n rhaid cael cyfieithydd i weithio efo  ni. Yn Hwngari fe ges i gyfieithydd trwy’r UNHCR ond doeddwn i ddim yn gwybod mai un o  Rwmania oedd hi a bod ei gwybodaeth o iaith Hwngari yn elfennnol iawn. Oherwydd camgyfieithu, a heb yn wybod i mi, roedd un dyn yn bygwth ein lladd ni i gyd oni bai ein bod yn talu mil o bunnau iddo!  
Yn ddiweddar dwi wedi bod yn gweithio ar gyfres hanes Cymru, The Story of Wales, ar gyfer BBC Cymru. Mae’n gyffrous darganfod mwy am hanes Cymru ac, yn ffodus i mi,  dyma’r ail gyfres hanes Cymru imi weithio arni. Y gyntaf oedd The Dragon has Two Tongues, cyfres efo  dau gyflwynydd, a difyr iawn ydy cymharu’r ddwy gyfres hynny.  Mae hanes yn un arall o’r pynciau dwi’n  ymhyfrydu ynddo fo, er dwi ddim yn meddwl inni gael digon o’n hanes ni’n hunan yn yr ysgol.
A fyddwch chi’n dychwelyd weithiau i fro eich mebyd? Beth yw eich teimladau, bryd hynny?
Mi fyddaf yn dychwelyd yn aml i Stiniog a Thanygrisiau a byddaf yn amrywio’r ffordd o ddod yn y car. Weithia mi fydda i’n dod trwy Dolwyddelan – cartref gwreiddiol fy nhad. Dro arall byddaf yn dewis ffordd y Migneint, ac mae gweld y Moelwyn o Lan Ffestiniog bob amser yn gwneud i nghalon i ymlacio, fel ffitio troed i hen slipar gyfforddus. Dwi’n gwirioni ar y mynyddoedd – ond POBOL sy’n gwneud lle; a phobol Blaena ydy caffaeliad mwya’r fro. Maen nhw’n meddu ar wydnwch anhygoel.

Parhau i ddarllen

Llafar Bro: O’r Cymdeithasau

Detholiad o newyddion y cymdeithasau, o rifyn Ionawr 2012:Merched y WawrDaeth nifer dda ynghŷd yn y Ganolfan Gymdeithasol i wrando ar a mwynhau sleidiau gwych Pierino Algieri o Landdoged.  Datgelodd yr hanes tu ôl i dros hanner cant o luniau Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Egin

    Mehefin 1979:    Rhandir ‘Nhad, Maentwrog.   Y prentis ifanc yn palu a charrega am bres poced.

<!–[if gte mso 9]>

14.00

<![endif]–>
<!–[if gte mso 9]>

Normal
0

false
false
false

CY
X-NONE
X-NONE

<![endif]–><!–[if gte mso 9]> Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Troedio ‘nol -Y Gadair Ddu Gyntaf

Darn o golofn reolaidd John Norman, o rifyn Ionawr 2013. Mae sgil a dawn darllen yn amhrisiadwy ac mae bod yn berchen casgliad o lyfrau neu lyfrgell fechan yn drysor ynddo’i hun. Mae gennyf lyfrgell felly a phob llyfr ynddi â’i stori ei hun i… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Stolpia- Tywydd Ionawr

Detholiad o gofnodion am y tywydd oedd gan Steffan ab Owain yn ei golofn reolaidd, Stolpia, yn rhifyn Ionawr 2013, wedi eu codi o ddyddiaduron cyn-drigolion y fro. Dyma rannu darn o’r erthygl; cewch weld y gweddill yn Llafar Bro. Dyma ddechrau gyda phi… Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Eira mân, eira mawr

Dim ond ol fy nhraed i, a’r rhain, oedd ar y rhandir heddiw, a’r safle cyfan dan orchudd o eira glan.

Doeddwn i ddim yn bwriadu gweud dim byd yno, dim ond cymowta a bysnesu, ac i weld sut siap oedd ar y marchysgall yn fwy na dim:

Truenus! Y pedwar planhigyn yn llyncu mul yn llwyr efo fi am eu plannu yn y fath le.

Fawr o obaith am gnwd o ferwr dwr heddiw, a’r pwll bach wedi Parhau i ddarllen