Archives: Y Bachan Main

Dyddlyfr y Bachan Main: METHU Â SBARIO GOF

Y Gwladgarwr. 28 Tachwedd 1868.

METHU A SPARIO GOF.

Yn ddiweddar, darfu i of mewn pentref yn Spain lofruddio dyn, am yr hyn y condemniwyd ef i farw. Ymgasglodd trigolion y lle yn nghyd, a thaer erfynasant ar yr awdurdodau am beidio crogi y gof, am ei fod yn wir angenrheidiol yn y lle i bedoli ceffylau, gwella olwynion, &c. Ond meddai yr alcade [sic;  = alcalde], “Pa fodd y gallaf felly gyflawni cyfiawnder?” Atebwyd ef fod dauwehydd yn y lle, a bod un yn eithaf digon, ac am iddo grogi y llall.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Y NÎSHAD BOC

Yn y Wenhwyseg, ‘nîshad boc’ yw hances neu facyn. 

O edrych yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, gwelir i’r gair ‘nisied’ ddod o air Saesneg Diweddar Cynnar ‘nycette’ y mae ei hanes yn anhysbys.

Gyda llaw, nid talfyriad ar y gair ‘poced’, fel y tybiwn, yw ‘poc’ ond o’r gair Saesneg ‘poke’ = ‘bàg’ y daw, yn ôl GPC.

Penderfynais fynd ar drywydd y gair hwnnw gan deithio’r rhyngrwyd gyda Google.

Chefais i hyd i fawr o beth ar y cychwyn. Ond o dipyn i beth dyma amryw loffion yn ymddangos.

Yn ôl ‘The Dictionary of Fashion History’ (1960) gan Valerie Cumming  yn y 1400au a’r 1500au cynnar y bu’r ‘nycette’ neu ‘niced’ mewn bri, a ’macyn ysgafn ar gyfer y gwddf’ yw (‘a light wrapper for the neck’). Ceir yr un wybodaeth yn ‘The Complete Costume Dictionary’ (2011) gan Elizabeth Lewandowski, a yno hefyd dywedir iddi fod yn y ffasiwn rhwng 1450-1550.

Am fod golwg gair Ffrangeg arno, bûm yn edrych mewn geiriaduron Ffrangeg hynafol a chyfoes, ond heb gael hyd i ddim perthnasol. O newid tipyn ar y sillafiad (nicette) gwelir fod ‘nicette’ yn hen air wedi mynd o arfer am un ffôl wrth gyfeirio at fenyw (a ‘nicet’ wrth sôn am ddyn). Hynny yw, ‘un wirion’ y Gogleddwyr.

Gynt yr oedd hefyd yn air anwes i ferch â’r ystyr ‘un ddiniwed’ iddo, sef ‘un wirion’ fel y’i deëllir yn y De.
Mewn slang yn y Ffrangeg ‘olif’ yw ‘nisette’.  

Ac fel enw ar ferch, ffurf fachigol ar ‘Bérénice’ yw.

Ond gwelais taw mynd ar ôl ysgyfarnog bu’r pori hyn mewn geiriaduron Ffrangeg 

Dyma wedyn wefan Megadict yn cynnig rhagor o sillafiadau (nyzett, nysett) ac y mae tair enghraifft ganddi o’r gair ‘nysett’ mewn ewyllysau rhwng 1499 a 1530 yn Wiltshire a Gwlad yr Haf.
Rhoi cynnig ar ‘nysett’ eto a wneuthum,  a chael hyd i wefan o’r enw ‘The A-Z of Yeovil’s History’, ac yn y fan honno cefais y wybodaeth hon:

A chwedyn dyma ddod ar draws gwefan arall lle y bu sôn am y ‘nysett’ mewn hen ewyllysau o esgobaeth Bath a Wells (sef Gwlad yr Haf). (Wells Wills; Arranged in Parishes, and Annotated. (1890).  Frederick William Weaver.)
….

…..

Felly ai gair o Wlad yr Haf a’r cyffiniau yw neisied yn y bôn, fel cynifer yn nhafodiaith y De-ddwyrain, a cc ambell enw lle Bro Gwent a Bro Morgannwg?

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Y Gymraeg yn y ddeunawfed ganrif, yn y fro rhwng y Fenni a Threfynwy

Yn llyfr J. E. Southall (1855-1928) “Wales And Her Language Considered From A Historical, Educational And Social Standpoint  With Remarks On Modern Welsh Literature And A Linguistic Map Of The Country. Newport, Mon. 1892” ceir sylwadau diddorol am gyflwr y Gymraeg yn yr hen Sir Fynwy yn y cyfnod hwnnw, ganrif a chwarter yn ôl..
Dyma a ddywedir ym Mhennod 9 o’r llyfr, lle y mae’n sôn am y ffin rhwng yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith a’r ardaloedd Seisnigedig.


(Am mai blog Cymraeg yw hwn, yr wyf wedi trosi’r hyn a ddywedwyd ganddo o’r Saesneg. Ceir y testun gwreiddiol yn nghwt pob trosiad.)


O ysgrifbin y Cyrnol J. A. Bradney y daw y darn a ganlyn. Yn Nghwrt Tal-y-coed, saith milltir o Drefynwy, mae’r cyrnol yn byw ac nid oes odid neb cymhwysach i siarad am gyflwr yr iaith yn nwyrain y Sir (= yn nwyrain Sir Fynwy). Yn ogystal â siarad Cymraeg y mae hefyd yn darllen yr iaith.

“Fe ddysgais innau’r Gymraeg gan frodor o Langatwg Dyffryn Wysg, sydd o hyd yn fyw ac yn byw yn gyfagos ac yn gweithio bob dydd yn y lle hwn. Mae ganddo wybodaeth drylwyr o’r iaith, er ei fod yn gwbl ddiaddysg. Yr wyf yn credu bod gwybodaeth o’r Gymraeg gan bawb o hen bobl y fro o gwmpas Langatwg Dyffryn Wysg. Yn Llangatwg Feibion ​​Afel nid oes neb ar ôl sy’n medru siarad Cymraeg, er bod sawl un o’r hen bobl yn gwybod rhywfaint ac yn gallu deall brawddegau syml; ond mae offeirad yn dweud wrthyf iddo ddarganfod, ryw 25 mlynedd yn ôl pan oedd yn gurad yn Llangatwg Feibion ​​Afel, bod y to hŷn ym mhentref Llanfaenor (ym mhlwyf Llangatwg Feibion ​​Afel) yn go brin eu Saesneg ac iddo fynd i’r drafferth o gael hyd i lyfrau defosiynol yn Gymraeg iddynt, a buont yn ddiolchgar iawn iddo am hynny.

Yn Llandeilo Gresynni mae’r genhedlaeth hŷn o bobl y fro, er nad ydynt yn gallu sgwrsio ryw lawer, yn gallu deall Cymraeg i raddau, a byddant yn cwyno bod eu rhieni yn arfer siarad Cymraeg gyda’i gilydd, a Saesneg i’w plant. Gellir dweud yr un peth am bob un o’r plwyfi o gwmpas y fan hyn – Pen-rhos, Tre-gaer, Llanfihangel Ystum Llywern, Llanddingad, ac yn y blaen. Pentref Cymraeg oedd Llanarth hyn yn lled ddiweddar. Dywedodd  gwraig oedrannus o’r fan honno wrthyf, un sy’n siarad Cymraeg, ac yn enedigol o’r Pit, ger Clydda, fod pawb o drigolion y Pit yn siarad Cymraeg yn arferol yn nyddiau ei phlentyndod. Yn Llanfable ceir ambell wasanaeth Cymraeg yn y capel, ac yng nghapel Llanddewi Rhydderch cynhelir gwasanaeth Cymraeg yn aml. Yng nghapel Tal-y-coed ceir gwasanaeth Cymraeg yn achlysurol.


Ond yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae boblogaeth y fro i gyd wedi newid i raddau syfrdanol – mae mewnfudwyr wedi dod o bob man, ac mae’r brodorion wedi symud allan i fannau eraill. Mae wedi digwydd i’r fath raddau yn y plwyf hwn, Llanfihangel Ystum Llywern, nes nad oes ond un unigolyn, dyn canol-oed, sydd yn enedigol o’r fan hon. Mae’r trigolion eraill bob un (ac eithrio, wrth gwrs, y plant) wedi eu geni yn rhywle arall. Mae’r un peth wedi digwydd yn y plwyfi cyfagos i’r un graddau fwy neu lai. Felly pan eir ati i gael hyd i rywrai oedrannus neu ganol-oed a all ddweud rhywbeth am yr hyn a ddigwyddai yn y dyddiau a fu, gwaith anodd yw cael hyd i rywun o’r fath. Wrth gwrs, ymhlith y llu o fewnfudwyr sydd wedi dod yma y mae llawer sy’n siarad Cymraeg, ac y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnal eu hiaith, ac yn helpu i’r rhai sydd yma eisoes i’w cadw ar lafar. Yr wyf innau yn un o’r rhai sydd, boed yn gam neu’n gymwys, yn gwneud popeth i gefnogi’r iaith, a dwyn perswâd ar bobl i siarad â’u plant yn Gymraeg yn hytrach na Saesneg.”

O blith y Cymry Cymraeg sydd yn gweithio imi y mae tri o Sir Fynwy – un sydd yn hanu o Langatwg Dyffryn Wysg, un a anwyd yn Llanddewi Fach, ond a fagwyd yn Llangybi, ac un arall a anwyd yn Llanofer.


Gellir gweld y pennod i gyd yn y fan hon: 

DIWEDD

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Elái ynteu Élai? Rhan 2.

Rhagor o gwestinau ar gyfer y fforwm Enwau Lleoedd. Efallai bydd rhywrai yn roi cynnig ar eu hateb.

(1) Onid oes golwg led anarferol ar yr enw Tre-lai / Tref-elái? Mae’n bur anghyffredin (am a wn i) gweld enghreifftiau o’r patrwm (elfen TREF) + (enw afon).

Mae’r enw Trefynwy yn bodoli, wrth gwrs, ond eithriad prin arall yw. Onid enw cymharol ddiweddar oedd hwnnw? Mae’r enw Saesneg yn awgrwymu ei fod yn drosiad o ryw ffurf Gymraeg *Abermynwy (arllwysfa Mynwy i Wy) am ei fod yn beth hynod, mi ddywedwn, gweld mewn enwau Saesneg ‘mouth’ â’r ystyr ‘genau isafon sydd yn llifo i afon’ yn hytrach na ‘genau afon sydd yn llifo i’r môr” (Bournemouth, Exmouth, Dartmouth, ayyb).

Mae hefyd heol ym Mrynsiencyn, Ynys Môn, o’r enw Trefenai (neu ‘Tre Fenai’ ar Fapiau Google’) ond enw gwneud diweddar yw hwn o bosibl.

Yn ôl Hobson Matthews (Cardiff Records, 1898ff) :

ELY FARM. An ancient homestead in the hamlet of Ely. It was the hereditary property and residence of the late George Thomas (1821–1898), a Glamorgan farmer of the old school.

Ai Cymreigiad ar yr enw Saesneg ‘Ely’ yw Tre-lai, megis lleoedd Bro Morgannwg Tre-lales (Laleston), Tre-os / Tre-oes, Tredodridge, Trewalter, ayyb?

Byddai’r Saeson yn arfer enwau afon ar bentrefi a threfi Cymru am ryw reswm neu’i gilydd megis Brynbuga / Usk; Aberconwy / Conway (mae enw tref Conwy yn ymddangos bod yn Gymreigiad o’r enw Saesneg i bob pwrpas), Mynyddcynffig / Kenfig, Aberogwr / Ogmore-by-Sea.

Felly, oni fu yma enw Saesneg ‘Ely’ yn unig nes i’r Cymry yn yr Oesoedd Canol ail-feddiannu Bro Morgannwg?

(Ni wn pa mor hen yw’r enw ‘Ely’, na ‘Thre-lai’. Efallai nid oes sail o gwbl i’r hyn yr wyf yn ei gynnig yma!).

(2) Beth yw ynganiad lleol Lanelay Hall yn Nhonysguboriau (os nad LEIN-lei yw erbyn hyn!). Lanéli? Lanélai? Lanelái? Lanlái?

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Y Gymraeg yn Ne Cymru yn 1891

Dyma adroddiad byr yn Saesneg o’r Cardiff Times, ymron gant a phedwar ar hugain o flynyddoed yn ôl, yn sôn am ganlyniadau Cyfrifiad 1891. 
Wrth ei droed yr wyf wedi ychwanegu siartiau tafellog er mwyn hwyluso dehongli’r ffigyrau yn y testun hwn


LANGUAGES SPOKEN IN SOUTH WALES.

A highly interesting section of the census returns is that relating to the language spoken in Monmouthshire and South Wales.

To first take Monmouthshire. In 1891 there was an enumerated population in that county of 275,242, of whom 217,664 spoke English 9,816, Welsh 29,743 both English and Welsh; 555, other languages; while 2,475 persons made no statement on the point, and 15,209 were infants under 2 years of age.

In the Chepstow registration division there were 18,042 English-speaking residents, 30 spoke only Welsh, and 249 both English and Welsh.

In Monmouth registration division the figures were – English, 26,098; Welsh, 29; bi-lingual, 306.

In Abergavenny, 21,985 spoke English, 361 Welsh, and y 2,420 both languages.

In Bedwellty division there were 38,833 English-speaking people, 6,805 Welsh, and 15,105 Welsh and English.


Pontypool had 33,426 English, 351 Welsh, and 3,499 bi-linguals.


With a population of 96,796 Newport district had 79,280 English-speaking residents, and 2,240 Welsh, while 8,164 were at at home in both languages.


Turning to Glamor[gan]shire, we find that, with a population of 693,072. the English numbered 326,481, the Welsh 142,346, and the bi-linguals 177,726.


In Cardiff distinct, with an enumerated population of 173,796 in 1891, there were 138,276 English, 3,120 Welsh, and 19,395 English and Welsh-speaking people.

The proportion of Welsh was, of course, very much larger in the Swansea district. With a population of 114,326, 57,099 spoke the English language, 22,417 the Welsh, and 27,229 both languages. 



The figures for other towns are as follows:  


English

Welsh

Both Languages

Pontypridd

50,005

40,507

46,487

Merthyr Tydfil 

34,651

35,244

39,812

Bridgend

19,243

11,806

17,329

Neath

17,793

14,740

20,493

Pontardawe

1,590

13,655

5,132

Gower

7,834

857

1,849

 CARMARTHENSHIRE.

Llanelly

6,161

25,366

17,630

Llandovery

688

6,804

3,570

Llandilofawr

926

13,327

5,151

Carmarthen

3,976

17,848

10,586

PEMBROKESHIRE.

Narberth

7,445

6,520

3,392

Pembroke

26,871

67

1,430

Haverfordwest

17,643

7,086

5,982

CARDIGANSHIRE.

Cardigan

679

1,285

4,575

Newcastle-in-Emlyn

549

15,501

2,231

Lampeter

328

7,230

1,713

Aberayron

148

9,369

1,549

Aberystwyth

2,169

11,971

6,136

Tregaron

106

7,268

907

 

 (Diwedd)
A dyma’r siartiau tafellog:

 


A dyna’r cwbwl am y tro! 

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Mwynglawdd ‘Cymro’. Colorado ac Arizona.

Pwt arall a ddodwyd gennyf ar y fforwm “Enwau lleoedd”:
Enwau Cymraeg a Chymreig Dramor:
Ar bwys Central City, Swydd Gilpin, Colorado, bu mwynglawdd o’r enw ‘Cymro’.
Er ei fod yn prospector profiadol (= George Griffiths), ac wedi darganfod y mwngloddiau “Cymro,” “Wales” a “Bangor” yn swydd Gilpin, nid oedd yn deall natur ei ddarganfyddiadau y tro hwn.“ Hanes Cymry Colorado. Evan Williams. Denver, 1889.
Fodd bynnag, mae’r “Rocky Mountain Directory and Colorado Gazette For 1871” yn sôn am James R. Jones fel darganfyddwr y wythïen.
Bu mwynglawdd arall o’r un enw yn Arizona. Yn y ‘Weekly Journal-Miner’ (Prescott, Arizona) 17 Ebrill 1901, cawn:
To G. R. Hughes, his heirs or assigns: You are hereby notified that we have expended during the years 1899 and 1900 Two Hundred Dollars… in labor and improvements upon the Cymro mine, situated in Walnut Grove Mining District”.
Ar bwys tref Prescott, Yavapai County, Arizona y mae Walnut Grove.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Elái ynteu Élai?

Y mae trafodaeth ddiddorol ar y fforwm ‘Enwau Lleoedd’, a gychwynnwyd gan Dylan Foster Evans, ar ddefnydd cyfoes y ddwy ffurf ar enw’r afon Elái (hynny yw, ai Elái ynteu Élai yw’r enw)?

Dyma sylw gennyf innau y bore yma, wedi ei gopïo i’r blog yma gan nad wyf wedi dodi dim arno ers dros fis!

Parthed (elái) ac (élai), a oes enghreifftiau eraill i’w cael yng Nghymru o ddau enw cyfredol ar yr un afon?

Mae enghraifft hybsys yn Lloegr o afon ac iddi ddau enw, sef Tafwys yn ninas Rhydychen – a adweinir hefyd yn y fan honno fel ‘Isis’.

Yn ôl erthyglau gan wikipedia ar Isis a Thames (y darnau canlynol o’r erthyglau wedi eu cyfieithu, a’u haddasu yn sylweddol, o’r Saesneg),

“Enw arall ar Afon Tafwys yw “Isis” a ddefnyddir ar gyfer y rhan o’i tharddiad ym Mryniau’r Cotswold (Thames Head yn Swydd Gaerloyw) hyd at aber Thame yn Dorchester yn Swydd Rydychen…

Mae mapiau’r Arolwg Ordnans yn dal i roi “River Thames or Isis” ar ei fapiau fel enw’r afon hyd at Dorchester. Fodd bynnag, ers dechrau’r 20fed mae’r enw Isis wedi colli yn gyffredin fel enw arall ar yr afon ar wahân i’r darn yn ninas Rhydychen…

Awgrymwyd gan rai haneswyr fod yr enw Isis yn ei wreiddyn (ffurf gynharaf 1350 Isa; yn 1577 ceir Isis am y tro cyntaf) yn dalfyriad o’r enw Lladin ar yr afon, sef Tamesis.” Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Enghraifft o dafodiaith Bro Morgannwg o’r flwyddyn 1897.


Darn o hanes Ianto’r Shortar, yn nhafodiaith Bro Morgannwg. O Bapur Pawb, 29 Mai 1897.


IANTO’R SHORTAR 
[Gian Fachgian o Fro Morgianwg.] 

XI. DECHREU CHWALU’R NYTH. 

Af fi ddim i wed wthtoch chi am boiti’r holi a’r crosholi fuws ar Ianto biach boiti’r mochyn – dim ond gwed ’sponiad Ianto biach yn short ’naf fi; achos ma stori’r mochyn yn myn’d dicyn biach yn hir, y’ch chi’n gwpod.

Beth bena, ro’dd y ’sponiad rhwpath fel hyn: Weti i Ianto biach ddwad nol o’r gwaith tin, rol bod a chino iddyn nhw, fe ddath Shoni biach Wil Sherwr iddi moyn a gial myn’d ar hyd y lle i seuthu adarn biach; ac ar hyd y lle i seuthu adarn biach etho’n nhw’ch dou. 

Ro’dd yr adarn biach yn gwpod ta dwad ar ’u cownt nhw own nhw; felny, ar ol cerad a cherad am oria, cheson nhw ddim cynnyg ar seuthu dim at ddim, ond at un goch giam fiach; do’dd hono ddim yn gwpod dim am boiti nhw, ond fi ffilws Ianto a seuthu hono hed. 

Weti Ianto biach ffili seuthu’r goch giam, dyma Shoni’n dechra shimplo’r pystol, trw wed niag o’dd a ddim gwerth; nia laddsa fa ddim cleran withach ’deryn, a lot o rhw flagardath felny. Ro’dd Ianto’n cynnyg dala wager a fa, lladdsa fa fuwch ne geffyl; a felna o’n nhw’n tafoti a’u gilydd wtht gerad sha thre, nes to’n nhw o fla’n y Lion.

Fan ’ny, fi welws Shoni fochyn y Lion yn acor bedd iddo i hunan yn y doman. 

“Ianto,” eba Shoni, “wyt ti’n gwed y lladda dy bystol di fuwch ne geffyl, ond fi ddala i a ti ginog a dwrnad o farbls nawr nia ladda fa ddim mochyn.” 

“Fi dala i y consartina a ti,” ebe Ianto, “lladdiff a.”

“Nawr, ta, giad i ni wel’d, nawr, ta,” ’ba Shoni. 

Mwn mynad arath ne lai, ro’dd y mochyn yn cwmpo yn farw clotshan iddi fedd weti cial i seuthu’n gwmws yn ’i lycad whith. 

Gita bod y mochyn yn cwmpo, fi glwsan laish menw yn gwiddi: “Beth wyt ti’n neyd, y scowndral biach; am beth owt ti’n lladd y mochyn, Ianto?” &c. 

Gwraig y Lion o’dd y fenw. Ro’dd hi’n gwel’d y cwbwl, ond wydda hi ddim beth o’dd gita nhw mwn llaw, stodd y peth weti dicwdd.

’Don nhw ddim weti gwel’d hi cyn iddi widdi felna, ond nhw gwelson hi nawr; ond ethon nhw ddim i ddala pen stori a hi, achos fi rhytson nerth ’u trad i gwato i’r coud o’dd jest ar bwys ’no; a dyna lle buo nhw’ch tri yn gwato fan ’ny ys to hi’n nos pitsh. 

Ro’dd Mac Cinli, y’ch chi’n gwpod, gita nhw o’r dechra. Weti ’ddi fyn’d yn nos felny, fi ddechreuson ’u ffordd sha thre; ond ro’dd gormod o ofon cial ’i whado gian ’i fam ar Ianto i fyn’d i’r ty; i’r ardd i gwato yn y coud gwsberis a’th a, ond fi a’th Mac Cinli a Shoni sha’r ty’n streit. 

Ro’dd Ianto biach yn gwel’d ’i fam a Meri yn myn’d i whilo am dano, ac weti iddi nhw fyn’d, y slipws a i’r ty ac i’r gwely heb wmolch nia byta bwyd nia dim. 

Weti Ianto biach fyn’d drost ’i stori, dyma’r hen Ianto yn gofyn iddo:

“Ceso ti’r ginog a’r marbls gian Shoni?” 

“Do,” ’ba fynta. 

“O! dera di, ’ta,” eba’i diad, dan winco arna i, “dyw’r gollad ddim yn gollad i gyt, 

yto ’ta? Os gialla i gial gwaith i ti fori, gai di dechra gwitho dy’ Llun nesa’i ti gial talu am y mochyn yto. Wi weti setlo a Mac y Lion felna hono, wyt ti’n folon?”

“Otw i,” ’ba fa, a’r dwr yn tascu o’i lycid a, gian mor falch o’dd a i glwad. Ro’dd i diad yn rhoi dwy newydd dda iddo gita’u gilydd wtht wed felna. 

Fi gias Ianto waith i Ianto biach fel ro’dd a’n meddwl; ac fi gias Ianto biach ddechra gwitho’r dy’ Llun cynta’r ol ’ny; ac weti’n, ’nath a ddim llwar o ofid i neb gita’r pystol a’r consartina. 

Ro’dd Bill Hwals nawr yn dechra myn’d

yn fachgian drwg, ac o ddrwg i wath ro’dd a’n myn’d o hyd. 

Weti ’ddo ddechra ciaru, ro’dd a’n gias budur iddyn’ nhw yn ty, ac ro’dd a’n colli llwar tyrn ar ’i waith i herlid cwrw a potchan giam a phetha. Ro’dd a weti cial tair symans am botshan, ond do’dd a ddim weti dala dim giam; ac achos hyny a phetha, ro’dd i diad a fynta yn ffrio yn ty yn rown abowt fel ci a mochyn. 

Ond ta beth yn byd ’nelsa Bili, do’dd dim bai ar Bili gian ’i fam. Bili o’dd ffafrat ’i fam, a Ianto biach o’dd ffafrat i diad; ond dyn helpo Meri, pwr dab, do’dd neb yn ffafro llwar ar Meri. Ro’dd Ianto biach yn bwcwth prynu lot o betha iddi pun delsa fa’n rhowlar-man i enill saith a whech y dydd fel ro’dd Bili’n gneyd. 

Do’dd dim gwerth o giam am boiti Glyndwynant; ro’dd y pydlars a’u cwn a’u dryllia ar ’u gol nhw ddydd a nos; ond ro’dd Bili bown o gial myn’d i whilo o hyd, er i’r jestysed wed wthto’r tro dwetha buws a o’u blan

nhw ta carchar o’dd yn ’i haros a pun delsa fa ’no weti’n. 

Un bora, fi ballws Bili a chwnu i fyn’d sha’r gwaith; rodd ’i ben a rhy dost iddo witho, ’ba fa; ond fi gwnws heb fod yn hir i gial myn’d i whilo am sgwarnog; ro’dd a, ma’n depig, weti setlo y noswith cyn ’ny a Dic y Washman a Shoni’r Cwn ffor’ o’dd hi fod. 

Ro’dd ’i ben a’n iach net ’i fyn’d i gwrdd a Dic a Shoni boiti ddeg o’r gloch i’r Tinman’s, ac i fyn’d gita nhw a’r cwn weti’n i whilo am sgwarnog i dir Gelligron. Weti nhw whilo lot dyma nhw o’r diwadd yn cwnu sgwarnog, o’dd weti diwad ’no o rhwle arath, dyma hi’n hylyw fawr gita nhw stodd y lle’n eco. 

“Hylyw! Mac Cinli; O! iafal a!” ‘ba Bili, fel dyn yn crio acshwn jest.

“O! Topar biach a fa! O! nghi biach i; O! rhen gianon a fa,” eba Dic. [“]Hylyw, ngiast fiach i; O! ngh’loman i a hi!” eba Shoni. 

Erbyn hyn, ro’dd y sgwarnog ar gianol y ca, a’r cwn yn closo am boiti ’ddi. 

“Dyna hona’n reit., ta beth, ’ba Shoni; achos ro’dd a’n proffesu ’i fod a’i hunan yn dallt lot am boiti hela. Reit o gial ’i dala o’dd a’n feddwl o’dd y sgwarnog.” 

Pun o’dd y sgwarog yn gwel’d y cwn yn closo am boiti ’ddi felny, dyma hi’n rhoid naid lan boiti betar llath i’r air, ac wtht ’i gwel’d hi weti myn’d i golli felny, heb wpod iddyn nhw mor sytan, fi gretws Topar ta Flei, giast Shoni, o’dd weti llyncu ’ddi, ac fi gretws Fled ta Topar o’dd weti llyncu ’ddi, a dyma’n nhw myn’d i wmladd a’u gilydd yn ffyrnig. 

Fi farcws Mac Cinli’r sgwarnog yn dishgyn,

ac yn gwrsi yr a’th hi rhynti nhw hyd y berth. Fan ’ny, fi nidws y sgwarnog i ben clawdd, ac off a hi’n gros trw’n berth; a dyma Mac Cinli’n myn’d i roid naid drost ben y berth ar ’i gol hi; ond rhwffordd, fi slipws ’i ddwy trod ol a, ne rhwpath. Yn lle rhoid naid drost ben y berth, fel ro’dd a’n feddwl, rhoid naid nath a, stodd a’n dishgyn a’i ben yn erbyn poplan o’dd yn y clawdd ac weti’n, dyma fa’n dishgyn yn fon y clawdd fel cwtad o hoilon yn farw clotshan. Nawr, ro’dd y sgwarnog weti dianc, a Mac Cinli weti marw! 

Erbyn hyn, ro’dd Topar a Flei weti dwad i ddallt ffor’ o’dd petha’n iawn, ac yn dishgwl mor wirion a dwy ddafad ar gorph Mac Cinli, gita. Bili, Dic, a Shoni. Pun o’n nhw yn pendrwmu fan ’ny, uwchben corph Mac Cinli, ro’dd y dyn o’dd bia’r tir yn doti’u henwa nhw lawr mwn llyfyr rochor arath i’r berth; ac weti ’ddo fa gwpla, dyma fa’n gwed wthtyn nhw: 

“Wel, Wiliam Hwals, a Richad Lwys, a John Jones, gewch chi glwad am hyn yto. Dydd da chi heddi.” 

(I’w barhau.) Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Enghraifft o dafodiaith Shir Gâr ganrif yn ôl.

Darn yn nhafodiaith Sir Gaerfyrddin o’r “CARMARTHEN JOURNAL”, Mawrth 22, 1918.

LLITH TWM ‘BARELS.

BISNES Y BWYDIDD.

Wel ma rhiw helbil ofnadw inglin a chal tippin bach o fwyd i gadw corff ag ened wrth i gili. Idrich yn go dowill ma pethe nawr, ond yn ol pob tebig mi ddaw’r cwbwl yn well heb fod yn hir iawn. Nawr ma’r wlad ma yn gneid pethe ddilse fod wedi cal i gneid o ar ddachre’r rhifel. Ma un peth i weid inglin a’r bwyd, ma’r fflwr wedi gwella lot wrth fel wedd e os tippin nol. Stim cimint o’r Indian Korn indo nawr. We’r brawd [sic; = blawd] ny fowr o gownt. Mi fiodd lot o sharad amser y fflwr Indian Korn nag wedd hi ddim yn ffer fod ffarmers yn cal fflwr gwenith gatre iachis, a dinion erill yn gorffod bitta shwt stwff gwael. Ie, wel, wedd hi’n idrich dippin bach yn fflat prny, ond dina beth od fel i ni’n leiko idrich ar un wmed y ddalen. Cin y rhifel we dinion yn galler cal fflwr gwyn Extras, a’r rhan fwya o ffarmers yn bitta bara gwenith, a rhai o nhw hefid yn bitta bara barlis. We dim son prny nag wedd hinni ddim yn ffer i’r ffarmers. Wy’n cofio amser pan wedd plant ffarmers yn mind a’i tockin i’r iskol – bara menin gwenith ne farlis, a hwnnw yn go dowill i liw, a’r plant yn gorffod mind naill ochor i fitta fe, achos fod plant erill yn gneid sport am i pen nhw. Y plant ny, wedi tiddi finni nawr, si’n grwmlan fwya yn erbin pethe fel ma nhw nawr. Rownd ma’r rhod yn troi. Peth arall wedin. Wy’n cofio’r amser, ag ich chithe hefid, pan bise dyn yn mind i dre fowr, a dillad gwlad, ag wmed wedi browno yn yr hoil, beth we nobs y trefidd yn i galw nhw, — “kentri joskins,” “kentri klowns” ag enwe o’r short na. Ond ma’r nobs wedi gweld gwerth y “joskins” a’r “klowns” erbin heddi. We’r hen wlad ma wedi mind dippin bach yn rhi stuck-up, ag wedd hi’n hen brid tinni rhai o bleevs crand rhai o’r swanks. O, O, middech chi, grondwch ar Twm yn cadw part y ffarmers, ag inte wedi bod yn i whippo nhw mwy na neb. Do do, ag os bidd ishe’r whip to, ma Twm yn barod i hiwso hi. Ond sna i am feio neb ar gam. Thats ffer inuff ond iw e?

Wel nawr te, cin starto, wy am weid gaer ne ddoi inghilch consert

BLANCOD, GER CINWIL.

Ichi’n cofio i fi ofin cwpwl o gwestiwne i gomitti y consert ma. Mi ddoith aped o wrth un o’r comitti, ond down i ddim yn sattisffeid ar y partiklars, ag mi es i i whilo miwn i’r bisnes. Rown i am gal gweld yn iawn fod popeth yn cal i gario mlan yn streit. Wel ma dda gen i aller gweid fod y cwbwl yn iawn. Y dispiwt mwya we hin. Mi rowd ar ddiall nosweth y consert fod dros £10 wedi cal i caskli, ond ar ol ny dim ond cifri am £8 19: 6 ddoith. Nawr yn nattiriol we rhaid idrich mwn gal gweld shwt we pethe’n bod. Wy wedi cal gwbod shwt biodd y cam-ddialltwrieth, ond dima’r peth pwysig, we’r cwbwl yn reit streit, hinni iw, dim pinsho. Wy hefid wedi cal eitha explaneshon inglin a’r conserts, a’r amownts si wedi cal i rhoi i’r boys, ochodin ma gen i bleser i weid wrth y reeders fod y comitti yn reit streit mor belled, ag yn heiddi pob sipport.

Shwt biodd hi ar y cobin ny gwmpodd i’r afon sha Pentrecwrt? Wir ma adarn epeshal i gal fforna. Ma lot o ddigwiddiade doniol wedi cimrid lle forna [sic; = fforna] yn ddweddar, a wy’n gweld fod rhaid rhoi tro na emill waith. Peth arall hefid inglin a’r hewlidd. Ma’r Kownti hewl yn grand, wharre teg, ond am yr hewlidd bach, dyn helpo’r pwr begers si’n gorffod trottian drosti nhw’n amal. Ma nhw’n gweid wrthw i fod yr hewlidd yn Ffraink rhiw dippin bach yn wath na nhw, ond wy’n dowto tanimarw.

Shwt mai’n bod oboti streik y “needl-dreivers” sha Landissil? Wy wedi cal ar ddiall fod un o’r leeding boys wedd yn gweiddi am streik wedi mind nol i weitho heb y godiad. Wir, stwff gwael iawn wedd yn y boy na. Nid gweid dim am reits na rongs y streik odw i, ond cifeirio at y bachan ma yn gweiddi am streik, ag inte wedin yn troi yn gachgi. Wy’n leiko gweld dyn yn sticko dros i arfe, bidded e’n gledde ne nedwi.

Ma rhai yn grwmlan achos ma dim ond whilo beie ma Twm. Wel sda fi ddim i neid am hinni. Felna ces i ngeni sownd, ond wy mor barod a neb i roi credit le ma credit yn ddiledus. Wy’n cal ar ddiall fod rhai boys da iawn i gal sha ardal Landissil, shach mod in whippo pwer o rai o’r netivs. Mai’n debig fod un o’r gwd netivs ma yn gwerthi llath i gwstwmers am yr un pris o hid, hinni iw, ddim wedi codi o wrth yr hen bris. Ma kesis o’r short ma yn anamal iawn, a ma’r bachan ma, — Mistir Tomos Jons, Can-ton, yn heiddi camolieth am i dreetment i’w gwstwmers. Cofiwch chi nawr te, na fidd mo hwn yn cal un trwbwl i gal i waer miwn. Ol hands on deck to help a down-reit gwd chap. Pob lwc i ti machan i.

Ma gen i aer bach nawr i weid wrth ffarmer lan rochor icha Llandissil, sha ardal Alltrodin fforna. Mi ddoith bachan gatre am leev o’r Nevi, ar ol bod mas ar y mor am riw Too Yeers. Mi ath mas i whilo am weningen, a se chi’n y man na, mi fiodd mor anlwckis a mind dros dir ffarmer neilldiol heb feddwl insilto na gneid dim niwed i Skweier Spuds, ond o’r iechid, dina storrom mai’n debig. Hm, ie, bachan wedi bod mas am rhiw too yeers, wedi joino yn wirfoddol, ddim wedi bod yn cwdwmmo a Treibiwnals, ddim yn gneid gwd war proffits, ond dina fe, we dim gweningen i fod i’r heero. Lwk heer Meinabs, do yiw col that pleing the gem? I dont. That is teling yiw streit. Rho barch i’r bechgin si’n wmla drostot ti bachan. Paid bod yn frwnt.

Wy am ofin un cwestiwn bach i gomitti klwb piskotta Llambidder. Sawl mimber nowi dderbinion nhw pwy ddwarnod, a beth we’r boys, a faint gorffod i’r boys dali am gal dwad yn eilode? Beth ma’r comitti yn neid a’r dibs? Falle bidd infformeshon ar y kwestiwn yn intresting.

Beth iw’r mwstwr si gida rhai boys ifenk sha ardal Cwmdiad ar nos Silie? Mai’n well i chi boys i fod dippin bach yn fwy tawel, ne falle daw y bachan na yn y siwt kaki heibo i chi o Garfurddin. Ma lot o chi wedi cal kondishonal exemshon, ond nid exemshon i neid disterbans ar nos Silie, a gneid ich hinen yn niwsans i rai erill. Nid amser i wharre ffwl iw hi nawr, pan ma boys stedi, streit mas yn y trenshis yn wmla drostoch chi. Ffor shem yiw miserebl shurkers. Nawr, ma gen i list o enwe’r rhai fiodd yn wharre’r ffwl nos Seel, March 3. Os nad ichi’n bihafio, mi ffeinjwch chi’ch henwe miwn man nad ichi’n leiko.

Gaer bach at deekns a gwenidog

SALEM, HEWLGALED, LLANDEILO.

Mi leikswn gal gwbod pwy blan wedd gida chi i ddowis deekn nowi pwy ddwarnod? A odi’r eilode wedi cal llais yn y bisnes? Peth arall wedin, beth we gida’r cob na yn erbin cal dinion ifenk i gaskli at y comitti showdwirs?

Beth we gidag e yn i herbin nhw? Nawr te, ma gen i bos yn iawn ichi. Shwt ma peido mind yn dost? Ma hwn yn joli gwd eideea hefid. Mai’n debig fod boys y reilwei yn cal ginni yr wsnoth o war bonnis, ond os colla nhw ddwarnod, ma nhw’n colli y ginni, ag yn lle ny yn cal twelv bob sick pei. Rissult fowr iawn o sicknes. See the point. Diw hi ddim yn tali’r ffordd i find yn dost.

At eilode

WAR AGRIKELSHERAL COMMITTI,

shir Garfurddin. Prid ichi’n mind i gihoiddi balans sheet och ackownts? Mai shwr o fod yn brid gwlei gal gweld le ichi’n sefill. Plees ripplei, ne ma rhaid gweid rhagor ar y bisnes.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Y Gymraeg yn ysgolion Sir Fynwy yn 1913.

Dros ganrif yn ôl, yn ôl y pwt isod y deuthum o hyd iddo o’r ‘Abergavenny Chronicle’ (22 Mai 1913) yr oedd rhai ysgolion yn yr hen Sir Fynwy yn cynnig y Gymraeg fel pwnc i’r disgyblion. Ni wn a yw’r adroddiad yn cyfeirio at ysgolion cynradd yn unig neu rai uwchradd hefyd; ni hyd at ba le y mae’r ‘Cymoedd Rhymni a Thredegar’ yn ymestyn – O Rymni hyd at Bontlotyn? Neu’r Bargod? O Dredegar hyd at y Coed-duon? Neu Bont-llan-fraith?
Ond yr hyn sydd yn od yw nad oedd gwersi Cymraeg yn y gweddill o’r ysgolion – ar wahân i’r ysgolion yn Llanofer, Trinant a Phantygaseg.
Yn Llanofer gwelaf o bosibl ddylanwad hir-barhaol y Gymraes Augusta Waddington, sef yr Arglwyddes Llanofer (ganwyd Llanofer 1802-1896), neu yn ôl ei henw barddol Gwenynen Gwent, a osododd fri ar y Gymraeg yn y parthau hyn o’r wlad pan oedd y werin yn dechrau troi eu cefn arni (o herwydd addysg yn Saesneg, y mewnlifiad o siroedd gorllewinol Lloegr ac o Iwerddon, ayyb).
Ond pam Trinant a Phantygaseg, tybed?

Monmouthshire and Welsh.
According to a recent report of his Majesty’s inspectors of education in Monmouthshire, Welsh is taught in all the schools of the Rhymney and Tredegar Valleys, as well as Llanover, Trinant and Pantygasseg. The education authority (states the report) has had considerable difficulty in finding teachers with adequate knowledge of the language to undertake its instruction.
It was pleasing to note, however, that evening classes for teachers had been established to meet this difficulty, and teachers had availed themselves of these classes and had benefited considerably thereby. The attitude of the teachers towards the language was friendly and sympathetic.
A General Weakness.
In the majority of the schools the basis of the teaching was the direct method. A general weakness observable in the Welsh teaching was the lack of practice by the child of continuous and connected speech. It was pleasing to note that in one infants’ school “canu penhillion” [sic; = penillion] had been introduced with conspicuous success.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: NADOLIG GYDA’R CYMRY YN WORKINGTON (1881)

Cant ac un ar bymtheg a deugain o flynyddoedd yn ôl, yn y dref honno yn yr hen Cumberland yng ngogledd-orllewin Lloegr, cynhaliwyd Eisteddfod Nadolig gan Gymry’r cylch.


Adroddiad o Faner ac Amserau Cymru 12 Ionawr 1881.
 
NADOLIG GYDA’R CYMRY YN WORKINGTON

CEFAIS wythnos ddedwydd yn eu cymdeithas; croesaw cynnhes, mewn annedd hyfryd, gyda theulu hawddgar y pen cerddor coeth ac enwog, W. Griffiths, Ysw. (Ivander), perchenog y “Derwent Tinplate Works” – yr hwn, drwy ei fedr a’i ffyddlondeb, sydd wedi llenwi a chynnhesu calonau, nid yn unig ieuengctyd, ond teidiau a neiniau almonaidd tref Workington, a’r cylchoedd cymmydogaethol, o ysbryd a doniau cân; ac hefyd wedi magu awyddfryd yn ei heneidiau at lenyddiaeth goethedig. Cefais dridiau tawel yn ei dy^ i ddarllen a beirniadu cyfansoddiadau barddonol a rhyddieithol eu Heisteddfod Nadolig.

Yr oedd pwngc eu prif draethawd, sef “Dylanwad esampl,” yn un o fuddioldeb ymarferol, o’r natur mwyaf pwysfawr. Derbyniwyd pedwar traethawd rhagorol arno – dau yn Gymraeg, a dau yn Saesneg: cyfansoddiadau o anrhydedd i w^yl lenyddol. Gwnaeth y beirniad nodiadau ar bob un ohonynt; ond ei ddyfarniad oedd, rhanu y wobr rhwng yr ymgeisydd Cymreig, Llaw a Chalon, a’r ymgeisydd Saesnig, The Two Shamrocks – sef Mr. M. Humphreys (Amanwyson), Derwent Tinplate Works, a Mr. Boulton, Cockermouth. Annogodd y beirniad ar i’r trathodau gael eu hargraphu, am y gallent fod o fuddioldeb ëang a gwerthfawr, yn enwedig mewn cylchoedd teuluaidd 
 
Prif gangen y farddoniaeth oedd chwe phennill, wyth llinell yr un, ar “Ostyngeiddrwydd.” Denodd hawddgarwch y fath rinwedd grasol chwech o ymgeiswyr i’r gystadleuaeth – sef dau Sais, a phedwar Cymro. Yr oedd eu penillion yn rhai darluniadol a chynnwysfawr, mewn iaith goeth, ystwyth; ond dyfarnwyd y wobr i Glan yr-afon – sef Mr. Thomas Williams (Cariadfab), Derwent Tinplate Works.

Pwng arall oedd wyth llinell o farddoniaeth, “Cyfarchiad i’r Nadolig;” a daeth i law chwech o benillion tarawiadol a rhagorol, yn enwedig pan feddylir nad oedd gan yr ymgeiswyr ond llai nag awr i gyfansoddi ac ysgrifenu eu penillion. Dyfarnwyd y wobr i Mr. D. Shakespeare, Derwent Tinplate Works. Ennillwyd y wobr am yr araeth fyrfyfyr oreu ar “Dywyllwch” gan Mr. T. Morgan (Adi), Derwent Tinplate Works. Yr adroddiad difyr gan Mr. Alfred Spencer, a chan Gough Humphreys, bachgenyn siriol saith oed.

Cafwyd cystadlu rhagorol mewn cerddoriaeth. Ennillwyd y gwobrau fel y canlyn yn y gangen hon: – Y pianoforte solo gan Master Thompson, Workington; tenor gan Mr. Davies; darllen cerddoriaeth ar yr olwg gyntaf gan R. Reece a T. Williams; soprano song gan Miss M. J. Williams; bass song gan Mr. J. Armstrong; choral by children, y Derwent Juvenile Choir; instrumental quartette, y Mri. Grayburn a’i gwmni: deuawd, Davies a Hopkins; trio, Mr. T. Williams a’i barti; y canu corawl, y Derwent Choir, o dan arweiniad Mr. Levi Williams. Rhai cyflym a medrus iawn i dynu peroriaeth swynol y violin oedd y llangc gobeithiol, Taliesin ap Ivander, a’r Mri. Lewis a Brown. Cyflawnodd y llywydd, C. J. Valentine, Ysw., a’r ysgrifenydd, Mr. D. R. Winstone, eu gwaith yn y modd

boneddigeiddiaf. Ac aed drwy y program oll mewn o ddeutu pedair awr – amser cymmedrol.

Cafwyd cyngherdd poblog yn yr hwyr. Gan y band, cafwyd overture gref, ac wyth o ganau cynnhes gan gôr y lle, o dan arweiniad baton eu blaenor awenyddol, Ivander. Canasant ddarnau detholedig o weithiau anfarwol Mendelshon [sic] a Handel; a chanwyd amryw ganau swynol nodedig gan Mr. Metcalfe, ac yn arbenig gan Mr. Lizzie Williams (Llinos y De) a Mr. D. Lewis (Eos Dyfed). Nid oeddym yn synu chwaith fod seiniau treiddiol tannau mwynion violin Mr. E. Horace Packer yn gwefreiddio yr holl gynulleidfa.

Ond gallaf dystio, ar fỳr eiriau yn y fan yma, i mi fwynhau canu addoliad y Sabbath yn y cyssegr yn fwy na chaniadau cywreiniaf a melusaf y gyngherdd yn y Town Hall. Canwyd yn dyner iawn amryw o dônau Sankey yn yr Ysgol Sul; eithr yr hyn a’m cynhesodd fwyaf oedd yr hen emynau a’r hen dônau oeddid yn arfer ganu gan yr hen dadau a’r mamau Puritanaidd ar gychwyniad y ganrif bresennol – hen bennillion a hen alawon fyddant yn ysgwyd ac yn toddi cynnulleidfaoedd, yn dryllio y galon galed, yn denu holl gylchoedd eglwysi Cymru. A da iawn genyf feddwl fod y pencerdd, W. Griffiths, Ysw., Derwent Tinplate Works, Workington, ddetholiad o’r hen dônau a’r hen emynau hyny yn barod i’r wasg, i’w cyhoeddi yn llyfr cryno, cyfoethog, a rhadlawn; o blegid y mae llaweroedd eisoes yn credu y bydd ei gasgliad 
 
un o wasanaeth annhraethol effeithiol er cynnheau a melysau mawl a gweddïau eglwysi Cymru.

Y mae yn achos o galondid ac o lawenydd fod y Pencerdd Ivander, yr hwn sydd wedi cael ei ethol i fod yn un o feiriniaid cerddoriaeth leisiol ac offerynol yr Eisteddfod Genedlaerthol nesaf, a’r hwn sydd yn medru mwynhau a gwerthfawrogi yr alawon cywreiniaf, a’r dull mwyaf clasurol o’u canu, yn gosod ei fryd, gyda’r fath ofal, am ddwyn etto i arferiad yn ein cyssegroedd hen dônau cynnes a nefolaidd “amseroedd y diwygiadau;” a hyderwn y bydd i eglwysi Cymru gydymdroi o galon i’w gefnogi mewn anturaieth ag sydd yn debyg o effeithio mor ëang a pharhaol er lles i achos Cristionogaeth.

Y mae y baton aur ardderchog, a’r baton ifori modrwyog, a’r cwpanau arian, a’r organ a gafodd yn anrhegion oddi wrth y còrau cerddorol a fuont dan ei addysg, ynghyd â’r tystebau eraill a dderbyniodd, yn brofion amlwg o barch ei ddisgyblion iddo am ei lafur yn yr amser a aeth heibio. Ond er mor dderbyniol a defnyddiol y mae wedi bod, yr ydym yn hyderus mai ei ddetholiad o hen dônau a hen emynau amseroedd hyfryd y diwygiadau fydd coroniad ei wasanaeth i gân ei genedl; ac yr ydym yn hyderus y bydd i’w ddysgyblion a’i adnabyddwyr oll ei gefnogi ar unwaith mewn anturiaeth o’r fath gyfrifoldeb yn gystal a’r fath fuddiolddeb. – S. R.

Ôl-nodyn:

Marwolaeth – Blin iawn genym orfod cofnodi marwolaeth yr arweinydd poblogaidd, Mr. Levi Williams (ab Gwent), yr hyn a gymerodd le nos Sul diweddaf yn Workington. Dywedir mai o’r Cholera y bu efe farw. Mab ydoedd i’r diweddar Mr. Dd. Williams, un o ddiaconiaid parchus Jerusalem, Rhymni, ac am flynddau lawer yn Siloh, Tredegar. Bu Ab Gwent yn aelod ac yn arweinydd y côr am lawer o flynyddau yn nghapel Siloh, lle y teimlir hiraeth mawer ar ei ol. Yn herwydd marweidd-dra masnach y gwaith haiarn yn y lle hwn, tua phedair mlynedd yn ol, symudodd Levi i Workington, lle y bu farw ei anwyl briod. Un anwyl iawn gan bawb ydoedd Levi – pawb yn ei hoffi ac yn ei garu yn fawr yn y cymydogaethau hyn, ac yn ddiamheu genym ei fod yr un mor barchus ac anwyl i fyny yn ngwlad y Sais. Bu yn arweinydd Côr Undebol Tredegar am flynyddau. Claddwyd ef dydd Iau diweddaf yn Workington. Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: YR HENAFIAETHYDD

Rhestr hynod o ddiarhebion mewn papur newydd o Aber-dâr 
gant a deuddeg ar hugain o flynyddoedd yn ôl.  

Tarian y Gweithiwr. 11 Medi 1884.





































YR HENAFIAETHYDD
Diarebion

Yn canlyn, wele rai o nodwedd dywyll ac anneallus. A oes a ddeongla rai o honynt?

Anheu angen dyhewyn dir.
Anrhaith gyfludwyt taeog yn nhy ei gilydd.
Anwar fu felyn ei fraint.
Bychodedd minailed, alias mynialedd.
Coel can hadain.
Colles dy lad cystal i’r fuwch.
Colles dy gludwr a gyrchawdd ty gadwr.
Chweyrys gwawd o anianawd.
Da angen ar eiddiawg, fel taeawg.
Danof llwyr i gyfarwyre, fel Dangos.
Dofydd dihirwaith aros, potius Dafydd.
Ebawl ar ebawl i Dduw.
Elid ryw, ar barth pa yw.
Gorug ei waith a fach y fachdaith.
Goyaen a wêl ynghyfwng.
Gwaedlyd wrth faint dy drachywedd.
Gwasgu yr haid cyn no’i cherdded.
Gwell trw^ch nag arwynniad
Hir amod nid ä i dda, alias annod.
Mab tyfech ry pennid.
Mal un oll yn ieud Gragunan.
Mal y peilliant ymdeg.
Mûd arynaig y llafar.
Ni chymerai gogyl am ei gâr.
Ni elwir yn euog onis geirydd.
Ni asgyr a goffa trefgordd.
Nid gwr namyn gwrthmuni.





































Nid rhaid peidi yn llys arglwydd.

Nid ysgar angenawg ac anhychfryd.
O englyn ni ddaliaf haid.
Rhwy fu rhy fychod gynen.
Trengis a fremis, alias Trefwys.
Twyllid rhyfegid rhyfygiad. 

Dyma rai eto o nodwedd fyr:-
Cnoi awel.
Hael byrllofig.
Hiroed anniolch.
Hir lyngeswriaeth.
Iro blonhegen.
Llewid cywestach.
Llidiog lliosog.
Meithrin chwilerion.
Rhuthr mammaeth.
Rhygas rhywelir.
Addef yw tewi.
Addfed angeu i hen.
Abl i bawb ei gydradd.
Bid rydlyd dy arfau.
Bore i bawb pan goto.
Canu heb gywydd.
Can gwynted â’r gwynt.
Ceised pawb ddwfr i’w long.
Chwil gan nos.



Chwanog annoeth i ymliw.
Chwareu hen gi â chenau.
Dadleu gwedi barn.
Da daint rhag tafawd.
Dall yn barnu ar liwiau.
Echwyn yw nâg.
Edwyn hengath lefrith.
Eang yw’r byd i bawb.
Ffoi pob tlawd.
Ffordd Buallt i Henffordd.
Ffawd pawb yn ei dâl.
Gair gwraig gwneler.
Gwnawd ar eiddil ofalon.
Goreu canwyll pwyll i ddyn.
Harrd pob newdydd.
Haeddu anerch yw caru.
Hiraeth am farw ni weryd.
Iawn chwedlawg mab.
Iawn yn ymofyn meddyg.
Iro tin hwch â bloneg.
Llanw mewn llu.
Llaw lluaws ar waith.
Llawer gwir drwg ei ddywedyd.
Mal dyrnod pen.
Melus bys pan losgo.
Mynych y daw drwg fugail.
Neuadd pob diddos.
Nac ymddiried i estron.

Na wreica ond yn agos.
Odid difrio diwyd.
O daw ymenyn doed.
O’r badell ffrio i’r tân.
Pryn tra flingych.
Pryn hen pryn eilwaith.
Pawb a gâr eu gwala.
Rhygas pob rhywir.
Rhy dyn a dyr.
Rhag angau ni thycia ffo.
Swrth pob diog.
Sychu trwyn y swch.
Sef a ladd a gyhudd.
Teg pob hardd.
Temyl glwth ei gegin.
Tafawd aur yn mhen dedwydd.
Uchenaid at ddoeth.
Utgorn yw cwrw da.
Un geiniog a ddyly cant.
Wythnos y llwynog.
Wyneb llawen, llawn ei dy.
Y bendro wibwrn.
Yspys pawb pan ddarfo.
Ymguddio ar gefn y gist.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: TWYN-STAR

(Addasiad o sylw a ddodwyd gennyf ar y fforwm Enwau Lleoedd)

Wrth geisio dyfalu ym mha le yn Nhredegar y mae ‘Y Twyn’ penderfynais taw Twyn-star y dylai fod – hynny yw, os rhan o etholaeth Sir Frycheiniog bu Duketown ar un adeg. 



Bûm yn chwilio am ryw lun o Dwyn-star (Tredegar) fel y mae heddiw a chefais hyd i beth rhyfedd yno – arwydd heol dwyieithog lle mae’n ymddangos bod yr enw Cymraeg (ond bod gair Saesneg yn rhan ohono) wedi ei gyfieithu… i’r Gymraeg.

Yn Dukestown y mae Twyn-star / Twyn-y-star, o enw tafarn (The Star Inn) lled adnabyddus a fu yno ar un adeg. Bryncyn ac arno dafarn, felly.

Ond i bob golwg mae’r enw wedi ei ddehongli fel pe buasai’n enw Saesneg ag iddo’r ystyr ‘seren y twyn’.

Felly dyna’r enw Cymraeg o dan yr enw Saesneg ar arwydd heol ddwyieithog yn y lle hwnnw, sef ‘Seren Twyn’.



Tybed ai Twyn-star yw’r twyn dan sylw yn yr adroddiad uchod, mewn colofn yn y Darian sydd yn sôn am Dredegar? Ai’r ‘Star Inn’ yw ‘tafarn y twmp’ y cyfeirir ato yno?

Dyma lun arall o Dredegar. Nes at ganol y dre y mae arwydd dwyiethog arall ond yn anffodus, mae ‘ffordd’ wedi mynd yn ‘fford’ arno!



Rwy wedi dod o hyd i’r ddau lun o’r dre ar y rhyngrwyd – wn i ddim a yw’r arwyddion yn dal yno. Ond maent yn haeddu sylw bach, dybiwn i. Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: LLYWYDD SENEDD CATALONIA CARME FORCADELL O FLAEN Y LLYS

(Adroddiad wedi ei roi ar Facebook gennyf y bore ‘ma)
Y Ddraig Goch yn dangos cefnogaeth i Carme Forcadell (neu o leiaf, fi a Meic Gymro o flaen adeilad y llysty, a’m capan draig goch am fy mhen) am naw o’r gloch y bore ’ma, yn Passeig Lluís Companys, Barcelona). Yn y fideo (26 eiliad) dyma Carme’n mynd i mewn i’r adeilad.
Llywydd Senedd Catalonia yw Carme, ac mae hi’n wynebu ‘Cyfiawnder’ Gwladwriaeth Sbaen am ganiatáu trafodaeth a phleidlais yn y Senedd ar gasgliadau’r comisiwn y ‘Procés Constituent’. Comisiwn yw hwn a fu’n astudio llunio cyfansoddiad ar gyfer gweriniaeth annibynnol arfaethedig Catalonia.
Pam mae rhaid i lwydd Senedd fynd o flaen llys wedi ei chyhuddo o anufudd-dod a chamymddygiad bwriadol, a gwynebu cael eu gwahardd rhag bod yn aelod seneddol neu hyd yn oed cael ei defrydu i garchar? Y TSJC yw’r llys dan sylw (Tribunal Superior de Justícia de Catalunya / Tribiwnal Uchaf Cyfiawnder Catalonia), sef llys o farnwyr o Sbaen sydd yn gweinyddu cyfiawnder yng Nghatalonia.
Rhaid sylweddoli nad oes, i bob pwrpas, wahaniad pwerau yn bod yng ngwladwriaeth Sbaen, a’r pwerau gweithredol, deddfwriaethol a chyfreithyddol yn un, yn nwylo’r Partido Popular, sydd mewn grym ym Madrid.
A rhaid cofio mai olynwyr yr unben Franco sefydlodd y Partido Popular (neu o leiaf, yr Alianza Popular, a newidiodd ei enw nes ymlaen) sydd yn rheoli gwladwriaeth Sbaen. Mae dylanwad yr unben yn drwm ar y blaid honno, yn enwedig y syniad o’r ‘sagrada unidad de España’ (undod sanctaidd Sbaen). At hyn, fe wyddys mai dymuniad olaf yr unben Franco ar ei wely angau fu am i’r brenin, a roes yn ei le fel pennaeth y wladwriaeth, ‘amddiffyn undod sanctaidd Sbaen’.
Rhaid ychwnaegu fod y PSOE (Partido Socialista Obrero Español / Plaid Sosialaidd y Gweithiwr Sbaenaidd) a’u plaid ranbarthol yng Nghatalonia (Plaid Sosialaidd Catalonia) yn gant y cant o blaid y Partido Popular yn mynnu dwyn gwleiddyddion sy’n cefnogi annibyniaeth o flaen eu ‘gwell’.
Mae Senedd Catalonia am gynnal refferendwm ‘swyddogol’ (hynny yw, wedi ei drefnu ar ôl dod i gytundeb â llywodraeth Madrid) a chyfrwymol ar y fater, ond mae Madrid yn ddi-ildio ac yn gwrthod y syniad yn llwyr.
Un ffordd o ddistewi llais y werin, yn nhyb llywodraeth Sbaen, yw trwy ddwyn achos o drosedd yn erbyn gwleiddyddion sydd yn cefnogi annibyniaeth i Gatalonia, a gyrru ofn felly ar y mudiad dros annibyniaeth.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: GLENDOWER

(Addasiad o ysgrif a roddais ar y fforwm ‘Enwau Lleoedd’)

Yn lle paratoi rhyw ddeunydd ar gyfer fy ngwaith y pnawn yma, euthum ar gyfeiliorn wrth sylwi, ar Fapiau Google, fod yn Los Angeles, California, heol o’r enw Glendower Avenue.

A dyma fi’n dechrau chwilio am ragor o enghreifftiau.

Mae’r enw Glyn Dŵr / Glyndŵr*, ar ei wedd Saesneg Glendower / Glendowr, i’w weld mewn sawl gwlad, yn aml mewn mannau lle y bu Cymry alltud yn byw ar un adeg.

*Glyn Dŵr yn ôl Geiriadur yr Academi; Glyndŵr (llai cywir?) gan amlaf.

Mae’r rhan fwyaf o’r enwau hyn, tybiwn, yn cyfeirio yn uniongyrchol at Owain Glyn Dŵr fel emblem y Cymry, i goffáu’n harwr cenedlaethol, ond mae’n bosibl hefyd fod yr enw yn gyfeiriad anuniongyrchol mewn rhai o’r enwau (enw llong hwyrach; neu’r Glendower sydd yn gymeriad yn nrama Henry IV, Part 1 gan Shakespeare; enw ‘persain’ heb iddo gynnwys hanesyddol neu genedlaethol; enw bedydd neu enw barddol rhyw unigolyn; o ‘Glendower’ oedd yn enw tŷ neu ardal yn wreiddiol; ayyb. Er enghraifft, daw’r heolydd yn British Columbia yn y rhestr isod o’r mynydd Mount Glendower yn yr un dalaith o bosibl; ac o enw llong y daw enw’r greigres yn Queenland, Awstralia?)
Nid yw’r ffurf Gymraeg i’w gweld ar wahân i enwau yng Nghymru ei hun.

Cymru 
Glendower Place (??Maes Glyndŵr) Hanmer, Wrecsam
Glendower Buildings (??Tai Glyndŵr), Stryd yr Eglwys, Llansanffraid Glan Conwy
Glyndwr Street (??Stryd Glyndŵr), Dolgellau 
Glyndwr, Cnwclas
Glyndwr Road (??Ffordd Glyndŵr), Aberyswyth
Glendower Buildings (??Tai Glyndŵr), Dinbych y Pysgod
Glendower Street (?? Heol Glyndŵr), Dowlais, Merthyr Tudful 
Glendower Close (??Clos Glyndŵr) Bracla
Glyn-dwr Avenue (??Coedlan Glyndŵr), Pont-y-pridd
Glendower Court (??Llys Glyndŵr), Heol y Felindre, Yr Eglwysnewydd, Caerdydd
Glyndwr Road (??Heol Glyndŵr), Cwm-brân
Glendower Street (??Heol Glyndŵr), Trefynwy 
(Llwybr Glyndŵr / Glyndŵr’s Way, Llandrindod, Llanidloes, Treyclo, ayyb)
Heol Glyndwr (??Glyndŵr), Coed-poeth
Ffordd Glyndwr (??Glyndŵr), Northop

Yr Alban 

Glendower Way, Pàislig / Paisla / Paisley, Yr Alban

Iwerddon 
Glendower Street, Béal Feirste / Belfast
Glendower Court, Baile an Chollaigh / Ballincolig, Contae Chorcaigh / County Cork

Lloegr 
Glendower Avenue, North Shields
Glendower Street, Bootle, Lerpwl 
Glendower Road, Waterloo, Lerpwl
Glendower Drive, Cheetham, Manceinion
Glendower Park (enw ar heol), Adel, Leeds 
Glendower Road, Perry Barr, Birmingham 
Glendower Road, Walsall
Glendower Close, Gnosall, Stafford
Glendower Approach, Heathcote, Warwickshire

Glendower Avenue, Coventry 
Glendower Close, Daventry
Glendower Road, Llanllieni / Leominster, Swydd Amwythig 
Glendower Court, Greenfields, Amwythig / Shrewsbury 
Glendower Close, Churchdown, Caerloyw / Gloucester
Glendower Road, Mortlake, Llundain
Glendower Gardens, Mortlake, Llundain
Glendower Place, South Kensington, Llundain (Glendower Mansions, Glendower Preparatory School)
Glendower Road, East Sheen, Llundain 
Glendower Crescent, Orpington, Surrey
Glendower Road, Peverell, Plymouth

Unol Daleithiau America
Glendower Street, Ashland, Oregon
Glendower Avenue, Los Angeles
Glendower Place, Los Angeles
Glendower Road, Los Angeles
Glendower Stairs, Los Angeles
Glendower Plantation, Ashville, Florida 
Glendower Court, Jacksonville, Florida
Glendower Circle, Sun City Center, Florida 
Glendower Lane, Plano, Texas
Glendower Drive, Fairfax Village, Spring, Texas

Glendower Drive, Louisville, Kentucky
Glendower Place, Franklin, Tennessee
Glendower Court, Nashville, Tennessee
Glendower Court, Goodlettsville, Tennessee
Glendower Way, Knoxville, Tennessee

Glendower Cove, Cordova, Tennessee
(enw ar adeilad) The Glendower Building,
3630 N Meridian St, Indianapolis, Indiana
Glendower Way, Roswell, Georgia
Glendower Drive, Kirkwood, Missouri
Glendower Terrace, Elgin, Illinois
Glendower Place, Whitewater Township, Hanilton County, Ohio
Glendower Avenue, Columbus, Ohio
Glendower Street, Mapleton, Pennsylvania
Glendower Drive, Lancaster, Pennsylvania 
Glendower Road, Hamden. Connecticut
Glendower Road, Boston, Massachusetts 
Glendower Road, Roslindale, Massachusetts
Glendower Road, Melrose, Massachusetts
Glendower Circle, Pittsville, New York 
Glendower Way, Victor, New York
Glendower Drive, Salisbury, North Carolina
Glendower Road, Raleigh, North Carolina
Glendower Court, Springfield, Virginia 
Glendower Court, Ashburn, Virginia
Glendower Road, Midlothian, Virginia 
East / West Glen Dower Drive, Fredericksburg, Virginia
Glendower Road, Scotsville, Virginia 
Glendower Road, Natural Bridge, Virginia (yn y llun isod)
Glendower Court, Laurel, Maryland
Glendower Road, Gaithersburg, Maryland

(enw tŷ ) Glendower: (wedi ei drosi o’r wicipedia Saesneg): 
Tŷ hanesyddol yn arddull y Diwygiad Groegaidd yw Glendower, a elwir bellach yn Gofadail Daleithiol Glendower (Glendower State Memorial) neu Blasty Glendower (Glendower Mansion), ac wedi ei leoli yn 105 Coedlan Cincinnati (Cincinnati Avenue), Ffordd U.D.A 42 (U.S. Route 42), yn Lebanon , Ohio. Fe’i hadeiladwyd yn 1836 gan Amos Bennett ar gyfer John Milton Williams, masnachwr o Lebanon, ac fe’i henwyd ar ôl Owain Glyndŵr (Owen Glendower). Mae wedi’i ddisgrifio yn “un o’r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth yr Adfywiad Groegaidd yn y Gorllewin Canol”. Ar 10 Tachwedd, 1970, fe’i hychwanegwyd at y Gofrestr Genedlaethol o Leoedd Hanesyddol. Defnyddir yn aml dir Glendower gan ailgrewyr brwydrau’r Rhyfel Cartref.

Canada 
Glendower, Ontario, Canada (enw ardal ar bwys Gidfrey; enw gynt ar fwynglawdd)
Glendower Circuit, Scarborough, Ontario
Glendower Crescent, Georgina. Ontario
Glendowr [sic] Street, Sudbury, Ontario 
Glendower Road, Victoria, British Columbia, Canada
Glendower Drive, Richmond, British Columbia, Canada
Glendower Gate, Richmond, British Columbia, Canada
Mount Glendower, British Columbia

De Affrica 
(enw ar fynydd)
Glendower Peak, Port Alfred, Province of Eastern Cape

Glendower Drive, Pretoriuspark, Pretoria
Glendower, Dennemere, Cape Town 
Glendower Close, Sunningdale, Cape Town

Glendower Avenue, Dunvegan, Edenvale, Johannesburg (wrth ochr maes golff y Glendower Golf Club; mae’r maes mewn ardal o Edenvale o’r enw Dowerglen, sef elfennau Glendower o chwith mae’n debyg) 

Seland Newydd
Glendower ‘darn o dir yn Ponatahi, i’r de o Carterton’ gynt


Awstralia
(enw ar greigres) Glendower Point Reef, Queensland

(enw ar nant) Glendower Creek, Pinbeyan, New South Wales 

(enw ar fynydd) Glendower Mountain, Mulla Creek, New South Wales

(enw ar lwybr) Glendower Trail, Walcha, New South Wales 

(enw ar ffermdy) New Glendower, Queensland

(enw ar dŷ) Glendower, 5 Lloyds Road, Bathurst, Gormans Hill, New South Wales (Tŷ Eidalaidd Fictoraidd Diweddar)


(enw ar dŷ) Glendower, Burgmann’s Lane, Hillvue, New South Wales

Glendower Road, Holtze, Northern Territory
Glendower Street, Sunnybank, Brisbane, Queensland
Glendower Street, Mount Lofty, Queensland 
Glendower Close, Armidale, New South Wales
Glendower Street, Rivermeadow, New South Wales
Glendower Street, Gilead, New South Wales
Glendower Avenue, Eastwood, New South Wales 
Glendower Court, Mooroolbark, Victoria
Glendower Street, Perth, Western Australia 
Glendower Way, Spearwood, Western Australia
Glendower Road, Southern Cross, Western Australia
Glendower Road, Carrolup, Western Australia

Sri Lanka
Hotel Glendower, Nuwara Eliya, Central Province



(lluniau gan Google) Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Llanfadog, Penrhyn Gw:yr

(Nodyn bach anfonais i at y Fforwm ‘Enwau Lleoedd’ 29 Tachwedd 2016)

Newydd gywiro dau dudalen Saesneg o’r wicipedia – un am bentrefi Penrhyn Gw:yr lle y mynnid mai o ‘Médoc’ yn ‘Ffrainc’ y daw’r enw ‘Llanmadoc’ (sef Llanfadog) – yn y testun gwreiddol, dywedid mai’r esboniad ‘most likely’ oedd hwn!

Mae’r awdur yn meddwl mai enw ‘Ffrangeg’ yw Médoc, heb sylweddoli taw enw Ocsitaneg yw mewn gwirionedd (Medòc), ac mai ffurfiau lled wahanol a fyddai i’r enw gynt (mae’n debyg *Medouc < *Medolc).

Mae’r ffaith bod yno yn y cylch dywyn o’r enw ‘Landes de Medòc’ (o’r Ocsitaneg Landas de Medòc = Tywyn Medòc) wedi argyhoeddi’r awdur mai enw ‘Ffrangeg’ yw ‘Llanmadoc’! Ac i brofi’r tarddiad i’r carn: ‘Haplogroup R1b (Y-DNA) is consistent with the regions of Llanmadoc, Wales and Médoc, Bordeaux, France’.

Yr ail oedd tudalen ‘Madoc, Ontario’. Mae awdur hwn yn awgrymu bod y pentref hwnnw wedi ei enwi ar ôl Madog ab Owain Gwynedd (ond nid oes tystiolaeth ar gael ar hyn o bryd i’w gadarnhau).

Yna mae’n awgrymu damcaniaeth arall (nid oes cyfeiriad at yr un ffynhonnell, ac y mae’n ddi-sail, heb os nac onibai) – mai o ‘Llanmadoc’ ym Mhenrhyn Gw:yr y daw’r enw, ac wedyn yn ailadrodd y syniad a fu ar dudalen ‘List of Villages in Gower’ – ei fod yn ei dro yn seiliedig ar ‘Landes de Mèdòc’!

Bydd yn ddiddorol gweld a fydd yr haeriad mai enw Ffrangeg yw ‘Llanmadoc’ yn dechrau lledaenu, diolch i wicipedia! 

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Maelfa, Llanedern, Caerdydd

Tybed faint yw dylanwad William Owen-Pughe ar enwau lleoedd Cymru (a thu hwnt)?

Ceir yn Llanedern, Caerdydd, ganolfan siopa (a adeiladwyd yn 1974) a heol o’r enw Maelfa.
Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, ‘mael’ + ‘fa’ yw ‘maelfa’.

Daw ‘mael’ (= elw, mantais) o’r Saesneg ‘vail’ (> Cymraeg fael > mael).

Ystyr ‘maelfa’ yw ‘siop, marchnad, marchnadle, basâr, adeiladau busnes’.

Fe welir am y tro cyntaf yng ngeiriadur William Owen-Pughe (1803). Yn yr argraffiad o’r flwyddyn 1832, ceir ‘Maelfa… a market, a mart.’

Trwy gyd-ddigwyddiad, mae gair arall ‘maelfa’, efallai o’r gair ‘gafaelfa’, sydd / oedd ar lafar yn y parthau hyn. Yn ôl GPC ‘ymyl, dibyn; cyffiniau ty neu dir’ yw’r ystyr; ‘Ar lafar yn nwyrain Morg[annwg]. ‘ar faelfa’r graig’, ‘dod i faelfa Ty-fry’. Ond go brin taw hwnnw’r yw’r gair yn yr achos hwn.

Yn ôl y geiraduron Saesneg, o’r Hen Ffrangeg daw ‘vail’, Hen Ffrangeg vail- (bôn y ferf valoir) o’r Lladin valêre (= bod yn werth, bod yn gryf). (Mae ‘vail’ yn wreiddyn y gair Saesneg ‘avail’, sydd yn adffurfiad – ychwanegwyd yr ‘a’ am ryw reswm yn y 13fed ganrif).

Gwn am un enw lle arall y mae gair gwneud o Eiriadur Owen-Pughe ynddo, sef Bryn Athyn, 13.5 o filltiroedd i’r gogledd-ddwyrain o Philadelphia.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: HEWL Y PLWCA, CAERDYDD


HEWL Y PLWCA / PLUCCA LANE / CASTLE ROAD (1874) / CITY ROAD (1905)
Yn ôl Geiriadur y Brifysgol, ‘baw, llaid, llaca, clai’ yw ystyr plwca. Mae yno ddeg enghraifft o’r gair, yr un gynharaf mewn cerdd gan Rhys Goch Eryri (fl. 1385 – 1448).

Mewn ôl-nodyn dywedir: ‘Digwydd yr enw yn Plas Plwca, Cered[igion]; Heol y Plwca oedd hen enw ‘City Road’, Caerdydd.’

Ni wyddys tarddiad y gair. (Yn ôl GPC ‘?cf. S[aesneg] taf[odieithol] plucky ‘heavy, clogging, adhesive’.)

Ni ddywedir o ble daeth y wybodaeth hon, ond o chwilio ar y rhyngrwyd gwelir taw o Gyfrol 4 (1903) o waith Joseph Wright yw (‘The English Dialect Dictionary: Being the Complete Vocabulary of All Dialect Words Still in Use, Or Known to Have Been in Use During the Last Two Hundred Years’, tudalen 557).

Gwelodd Joseph Wright y gair yn Macmillan’s Magazine, Medi 1889, tudalen 360, sydd hefyd i’w gael ar y rhyngrwyd, mewn erthygl o’r enw ‘A REAL WORKING MAN’:

I may briefly state that there are five kinds of broad-work — stone-picking, carlicking (i.e. charlock-pulling), mangel-pulling, pea-picking, and gleaning — which is of [tudalen 360] course its own reward. The other four kinds are paid for — at a very low rate. Stone-picking the women reckon the hardest work of all; it begins very early in the year, when the heavy land is “dreening wet”, and the clay so “plucky” that the poor stone-pickers’ boots soon become twice their natural size and weight.

Ai gair brodorol yw plwca (er gwaethaf ei nodweddion anghymraeg), neu fenthyciad o’r Saesneg yw?

A oes enwau eraill â’r gair ‘plwca’ ynddynt, neu enwau lleoedd tebyg yn Lloegr?


Dywedir John Hobson Matthews yn y llyfr Cardiff Records (= Cofnodion Caerdydd), Cyfrol 5, 1905, fel hyn: (wedi ei gyfieithu o’r Saesneg)

PLWCA-HALOG (y cae brwnt neu aflan) Cae ar ffin ogleddol bwrdeistref Caerdydd a’r Waun Ddyfal, lle mae Heol y Castell a Heol y Crwys yn cwrdd â Heol Richmond a Heol Albany bellach – ar gornel yr ail a’r drydedd. Yma bu’r hen le dienyddio. Roedd cae arall o’r un enw yn yr Eglwysnewydd yn 1605.

PLWCA LANE, neu Heol y Plwca oedd enw gwreiddiol Heol y Castell, a newidiwyd i’r olaf ym 1874. Mae’n golygu “yr heol sy’n arwain at y cae’. Ceir y cae hwn mewn gweithred o’r flwyddyn 1811 ac fe’i disgrifiwyd fel “y cwbl o’r cae saith erw hwnnw o’r enw Plwca, rhan o dir Cwrt y Rhath.” 


(Testun gwreiddiol):  PLWCA-HALOG (the foul or defiled pleck.) A field on the northern boundary of the borough of Cardiff and the Little Heath, where now Castle and Crwys Roads meet Richmond and Albany Roads—at the corner of the second and third. Here was the ancient place of execution. There was another field of the same name at Whitchurch in 1605.


PLWCA LANE, or Heol-y-plwca was the original name of Castle Road, changed to the latter in 1874. It means “the road to the pleck.” This pleck was in a deed of 1811 described as “All that close of 7 acres called Plwca, parcel of the lands of Roath Court.”






Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: PWLL CAWL NEU BORTH CAWL FEL ARALL

Wrth fynd yma a thraw dros yr rhyngrwyd, deuthum, ar hap a damwain, ar draws papur newydd Cymreig o’r flwyddn 1857, a gwelais mewn hysbyseb fod yr enw ‘Porth Cawl’ yn ail i’r enw ‘Pwll Cawl’. Dyma’r pwt o’r newyddiadur.

(Ychwanegais y rhybudd at wepwyneb Enwau Lleoedd.)
https://www.facebook.com/groups/263839124470/

THE CARDIFF AND MERTHYR GUARDIAN, SATURDAY, JANUARY 3, 1857

LLYNVI VALLEY RAILWAY COMPANY
HARBOUR OF PWLL CAWL
OTHERWISE PORTH CAWL.

WHEREAS the LLYNVI VALLEY RAILWAY COMPANY, in pursuance of the powers contained in their Acts of Parliament (Local and Personal, 6 Geo. 4, c. 104, and 18 Vict., c.50), propose to make and pass certain Bye Laws, a copy of which is subjoined in the Schedule hereto, for the due Regulation of the Pilots belonging to the Harbour of Pwll Cawl, otherwise Porth Cawl, in the County of Glamorgan. AND WHEREAS the same have, in pursuance of 333rd section of the Merchant Shipping Act, 1854, been submitted to the Lords of the Committee of the Privy Council for Trade for their approval, previous to confirmation, as, by the said last-mentioned Act, directed. Now NOTICE is hereby given, that any person having any objection to the said proposed Bye Laws, or any or either of them, is hereby required, within 21 days from the publication hereof, to make and signify the same to  the Llynvi Valley Railway Company, being the Pilotage Authority, either at Pwll Cawl, otherwise Porth Cawl, aforesaid, or at their Office, No. 21, Westbourne-place, Paddington, in the County of Middlesex, or to the undersigned, in order that any objection  or observation may be submitted to the Lords of the Privy Council for Trade previously to the making and passing of the intended Bye Laws.

Dated this first day of January, 1857.

CLARKE & MORICE,
Solicitors to the said Llynvi Valley Railway Company.
29, Coleman-street, London. Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Tân ar y Mynydd

Tuag un o’r gloch y pnawn ’ma dyma glywed swn awyrennau bach yn agos iawn at y ty, a chlywed gwynt llosgi. Rhaid bod tân ar y mynydd. Y foment honno mae Genoveva yn derbyn, ar ei WhatsApp, adroddiadau o’i chyfeillion am y tân oedd i’w weld oddi lawr yn y ddinas, mae’n debyg.

Y mae adeiladau uchel tu ôl i’r adeilad hwn ac felly nid oes golwg ar y mynydd, ond ar bwys ysgol Turó de Roquetes y mae cael ei weld, neu o leif ran ohono.

Felly bant â fi i cael cipolwg ar beth sydd yn digwydd, a dyna’r mynydd ar yr ochr uchaf i Carretera Alta de les Roquetes (Heol Uchaf Y Cerrig Bach) yn fwg i gyd, a thafodau o dân yn neidio i fyny yma a thraw. Llawer o’r cymdogion ar yr heol yn edrych ar y mynydd yn llosgi.

Diolch byth cafodd y frigâd dân reolaeth ar y tân ar ôl rhai oriau, cyn iddo gyrraedd y faestref hon. Gwaith mawr a gyflawnwyd ganddynt.

Euthum i redeg ar hyd yr heol yn y cyfnos, a gweld bod y mynydd wedi ei losgi’n llwyr uwchben maestref Canyelles. Bu’r cerbydau’r frigâd dân yma a thraw ar yr heol o hyd, a’r gwyr tân yn dal i chwistrellu dwr lle yr oedd y mynydd yn mudlosgi.

Golwg truenus ar y mynydd – y ddaear yn ddu bitsch ac yn ddi-dyfiant, y prennau a’r prysgoed wedi eu llyncu gan y fflamau. 

Yr oedd gwynt llosgi dros bobman yn y rhan hon o’r ddinas, a gwynt mwg ar fy nillad hefyd pan gyrhaeddais y ty.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Teithio i’r Gorllewin Pell 1882

Y Drych, Dydd Iau, Hydref 19, 1882

Prif Reilffordd y Gorllewin.

Y Chicago & North Western Railway.

TAIR MIL O FILLDIROEDD O DAN YR UN ADOLYGIAD.

Y ffordd feraf, rwyddaf, a’r unig un i’r gwahanol Dalaethau Gorllewinol heb orfod newid cerbydau. Chicago i Omaha, Nebraska, drwy y rhanau goreu o Iowa. Cysyllta hon a’r Pacific Railroads; y ffordd feraf a’r oreu rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin – Wyoming, Colorado, Utah, Oregon, Washington Territory, Arizona a California. Gofaled teithwyr Cymreig sicrhau eu tocynau dros y ffordd hon, sef y Chicago and North Western Railway. Am fanylion pellach ymofyner yn un o’r swyddfeydd: New York, 415 Broadway, L. F. Booth; Chicago, Ill., 60 a 62 Clark Street.

Bydded i Gymry Talaethau y Tawelfor, neu eraill a ddymunai fanylion yn nghylch Utah, Nevada, Oregon, Washington Territory, Arizona, neu California, ohebu yn Gymraeg neu Saesonaeg a

MEREDITH DAVIES

Goruchwylydd Cyffredinol y Gorllewin,

P. O. BOX 1887, San Francisco, Calif.

W. H. STENNET, G. P. A. [= general passenger agent], Chicago, Ill.



Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: La Diada ym Marselona



11-09-2016 La Diada – Yr Unfed ar Ddeg o Fedi


Ddoe bu Diwrnod Cenedlaethol Catalonia (la Diada Nacional de Catalunya, o la Diada).

Buom yn ‘Tram 43’ (rhan 43 o’r llwybr) ym Marselona, a daeth llawer o’r bobl yno i siarad â ni –


Catalan rhyw 30 oed oedd wedi astudio Animeiddio ac Effeithiau Gweledol yn Sefydliad Addysg Uwch Gogledd Cymru (cyn 2008 mae rhaid, gan mai Prifysgol Glyndwr Wrecsam yw ef yn nawr),


Catalan rhyw 23 oed fu’n gweithio yng Nghaerdydd yn gynharach eleni, ac yn falch iawn o faner Cymru a roddwyd iddo yn anrheg ffarwel gan ei ffrindiau o Gymry;


Catalanes tua 40 oed y mae ei mam yn hanu o’r hen Sir Ddinbych – heb weld y ddwy ers blynyddau mawr – ers cymaint o amser fel nad oedd yn cofio ei henw – y fam yn Gymraeg ei hiaith, y plant yn siarad Catalaneg a fawr ddim o Gymraeg – Catalan yw’r tad;


Catalan tua 40 oed a ddysgodd Gymraeg gennyf mewn dosbarth Cymraeg yr oeddwn yn ei gynnal rai blynyddoedd yn ôl;


Catalan o’r cyfnod pan fûm yn astudio Basgeg, ac y bu yntau yn yr un dosbarth – ychydig o Gymraeg gyda fe hefyd – wyddwn i ddim yr oedd wedi dysgu rhywfaint ar un adeg;


benyw tua chwe deg oed yn rhoi diolch i ni am ddod (meddwl yr oedd ein bod wedi dod yn unionswydd o Gymru, buaswn yn meddwl, ond ryn ni’n byw yn y ddinas hon ers talwm);


llawer yn ein cyfarch â ‘Wales!’ a ‘Simrw!’ – Meic Gymro yn eu cywiro yn rhadlon – ‘Cymru’.


Ereill yn gofyn ‘Com es diu Visca Gal·les yn gal·lès?’ (Sut mae dweud Visca Gal·les yn Gymraeg?) (= Cymru am Byth).


Fel bob blwyddyn llawer yn gofyn ‘D’on és la bandera?’ (O ble daw’r faner?’).


Eleni yr oeddwn wedi pinio wrthi arwydd bach (fel yn y llun uchod) ag arno ‘País de Gal·les. Cymru. [k*mri]’ a chlywed llawer oedd wedi ei weld yn sylwi ‘Mira! És de Gal·les!’ (Edrych! O Gymru y mae!).


Felly, unwaith eto, Y Ddraig Goch Ddyry Cychwyn yn y gwrthdystiad a drefnwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Catalonia (l’ANC, l’Assemblea Nacional Catalana, mudiad dros annibyniaeth i’r wlad) i alw am sefydlu Gwerinlywodraeth Catalonia.


Bu tair plaid dros annibyniaeth yn bresennol:


Partit Demòcrata Cátala (PDC) / Plaid Ddemocrataidd Catalonia, plaid ganol-dde;


Esquerra República de Catalunya (ERC) / Chwith Werinlywodraethol Catalonia)


a’r CUP (Candidatura d’Unitat Popular / Ymgeisyddiaeth Undeb y Werin) (clymblaid o bleidiau bach adain-chwith).



Bu gwrthdystiadau bach yn erbyn annibyniaeth gan y pleidiau pro-Sbaen a gwrth-annibynniaeth:


Partit Socialista de Catalunya (PSC) / Plaid Sosialaidd Catalonia;


Partit Popular / Plaid y Bobl (PP), plaid oruchafiaethol Sbaenaidd adain-dde (eithafol) wedi ei sefydlu gan gefnogwyr yr unben Franco ar ôl i’r unbennaeth ddod i ben;


Cuidadanos (C’s), plaid arall oruchafiaethol Sbaenaidd adain-dde (eithafol) wedi ei ffurfio yng Nghatalonia ryw ddeng mlynedd yn ôl i hybu ‘dwyieithrwydd’, sef gwthio’r iaith Gatalaneg i’r neilltu o’r ysgolion a’r prifysgolion a’r neuaddau tre, lle y mae’n brif iaith ar hyn o bryd),


Podemos (yn Barcelona o dan yr enw Barcelona en Comú / Barcelona mewn Cyffredinedd) – plaid adain-chwith (un weriniaethol ond o blaid y frenhiniaeth ar yr un pryd!), yr unig blaid pro-Sbaen sydd yn ffafrio refferendwm ar annibyniaeth – i gael ymgyrchio wedyn yn erbyn annibybiaeth i Gatalonia).


Y pleidiau pro-Sbaen yn bychanu’r llywyddiant (‘llai o bol na llynedd; nid annibyniaethwyr oeddynt i gyd’); Podemos yn gwyrdroi amcan y cawbl a mynnu taw am ‘yr hawl i benderfynu’ yr oedd yr heidiau o bobl wedi meddiannu’r heolydd, ac nid am annibyniaeth – hynny yw, yr oeddynt yn ceisio’r hawl i gynnal refferendwm swyddogol gan lywodraeth Sbaen. Ond ‘Independència’ fu’r floedd a glywid dros bobman, a neb wedi gwaeddu ‘Dret a Decidir’.



Fel y dywedodd un o’r CUP, nid oes rhaid gofyn am hawl; arfer hawl y mae rhaid.

Bydd refferendwm cyfrwymol ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf 2017, doed a ddelo, yn ôl Arlywydd Catalonia ddoe.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Dyddlyfr y Bachan Main 2014-11-26 20:05:00

26 Tachwedd2014

Ar yr unfed-ar-bymtheg o fis Tachwedd bûm yn Ripoll yng Nghanolbarth Catalonia i gymryd rhan yn Hanner Márathon Tref Ripoll. Dyma’r lluniau (ar Youtube) o’r holl ras o’r cychwyn hyd y diwedd.

rhan 1 www.youtube.com/watch?v=C_UvAsMYsI8&list=UUB9Hc6yGoTmh7eTCYZHNdRQ 



_____

_____

_____


Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Dyddlyfr y Bachan Main 2014-11-09 21:46:00

9 Tachwedd 2014
Y bore ‘ma yn Manlleu yn sir Osona yng Nghanolbarth Catalonia. 
Bûm yno i gymryd rhan mewn ras ddeg cilomedr, un o’r rasys rhedeg sydd yn cael eu cynnal ‘dros annibyniaeth’ (Corre per la Independència / Rheda dros Annibyniaeth).
Bu’r ddraig goch yn hedfan trwy feusydd a choedwigoedd y cylch yn ystod y bore.
A bu llawer o’r rhedwyr yn dangos eu cefnogaeth i annibyniaeth Catalonia.
Dyma un o bosteri ar gyfer y ‘bleidlais anghyfreithlon’ – chwedl llywodraeth Sbaen – a rhoid wrth y drysau gan wirfoddolwyr yr ymgyrch yn y gymdogaeth hon.
Neges ar gyfer trigolion y gymdogaeth

Eich canolfan pleidleisio ar y nawfed o fis Tachwedd 2014 yw:

Ysgol Uwchradd Turó de Roquetes (Turó = bryn, roquetes = creigiau bach)
Heol Alcántara 22

Sylwer. Ni ellwch ddefnyddio ond y lleoliad a’r blwch pleidleisio sydd yn cyfateb i’ch enw.

 manylion eich Cerdyn AdnabodCenedlaethol (DNI) gwiriwchfod hon yw eich gorsaf bleidleisio drwy edrych ar www.participa2014 neu drwy ffonio‘r rhif 012.

Gellwch bleidleisio o naw yn y bore tan wyth yn yr hwyr

Er mwyn pleidleisio mae arnoch angen:
eich DNI (gwreiddiol, nid copi)os ydych yn ddinesydd y wladwriaeth,
eich pasbort a thystysgrif yn nodi eich bod ar y rhestr o drigolion y fwrdeistrefos ydych yn ddinesydd gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd,
eich pasbort a Cherdyn Adnabod Estroniad os ydych yn ddinaesydd gwlad nad yw o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Nid ydynt am i ni godi ein llais

A ydych yn mynd i ddweud dim byd?
Ac wedyn, ar ôl dychwelyd o Manlleu i’r brifddinas, bant â fi i’r orsaf bleidleisio i fwrw fy mhleidlais dros annibyniaeth i Gatalonia.
Ac yn awr – am hanner awr wedi deg yr hwyr, dyma aros am ganlyniadau’s bleidlais – yn ôl yr adroddiadau newyddion, aeth o bosibl ryw ddwy filiwn i fwrw pleidlais – y rhan fwyaf i alw am annibynaieth i’r wlad hon.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Dyddlyfr y Bachan Main 2014-10-07 05:51:00

(Dydd Mawrth 7 Hydref 2014) Cyfieithiad o lythyr yn ‘El Punt – Avui’ ddoe. Mae’r llythyr gwreiddiol i’w weld ar waelod y trosiad hwn. Yn y llythyr hwn ceir cysylltiad Cymreig….

Dydd Llun 6 Hydref 2014
CASINEB TUAG AT GATALONIA A’I HIAITH YN Y COLEG
Bûm yn gweithio am dair blynedd fel darlithydd mewn ieithoedd tramor yng Ngholeg ‘Formàtic Barna’, sydd wedi ei leoli mewn adeilad ar Rodfa Gràcia. Y flwyddyn academaidd ddiwethaf, cefais swydd fel pennaeth yr adran ieithoedd tramor yn y coleg twristiaeth preifat hwn, sydd hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddiant galwdigaethol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Catalonia (la Generalitat) ar gyfer darpar-arweinwyr twristiaid ac eraill sydd am weithio ym myd twristiaeth.
Wrth ddechrau yn y swydd hon gwelais fod yr iaith Gatalaneg yn hollol absennol yn nosbarthiadau y cyrsiau hyn.
Er mwyn cywiro’r sefyllfa ddifrifol hon – y gellid ei chyfiawnhau, yn ôl yr hyn a ddywedwyd i mi, am fod yr ysgol yn derbyn nifer o fyfyrwyr o wledydd eraill, – ymhlith y cynigion a wneuthum bu un i greu dosbarth dysgu Catalaneg a Chastileg (Sbaeneg) ar gyfer myfyrwyr newydd.
Gwrthodwyd y cynnig hwn gan weinyddiaeth y coleg.
Yn ôl deddf addysg Catalonia, y mae’n orfodol cynnal cyrsiau hyfforddiant galwedigaethol trwy gyfrwng yr iaith Gatalaneg. Gyda chymorth darlithwyr eraill dechreuais ddrafftio cynllun i adfer ein hiaith fel cyfrwng dysgu yn y cyrsiau, ac felly cydymffurfio â’r gyfraith.
Pan wneuthum hyn atebodd pennaeth y ganolfan, Mr José Luis Meneses, ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf, am i mi beidio â gwastraffu amser i normaleiddio sefyllfa’r iaith am na ddigwydd, ac yntau’n bennaeth, hyd nes y rhoir gwn yn erbyn ei frest, ymhlith sylwadau eraill, megis y megid casineb tuag at Sbaen yng Nghatalonia, yn ogystal â f’atgoffa yn ffyrnig am ddyfodiad milwyr Franco yng Nghatalonia.
[NODYN: Mae’n lled gyffredin i Sbaenwyr heb fawr o gariad tuag at y Catalaniaid sôn am sut, yn ôl eu barn hwy, y cafodd y Catalaniaid eu haeddiant pan ormeswyd Catalonia gan Franco a’i fyddin Ffasgaidd yn 1939, a lladdwyd miloedd ar filoedd o werin Gatalonia, a bu raid i filoedd ar filoedd eraill ffoi am eu bywyd o wladwriaeth Sbaen].
Nid wyf yn credu bod Prifysgol Girona a Phrifysgol Cymru, sydd yn rhoi tystysgrifau ar gyfer y radd mewn twristiaeth yn y ganolfan hon, gan fod ganddi gytundebau â hwy, yn gwybod pa mor gryf a nerthus y mae Formàtic Barna yn gweithredu yn erbyn yr iaith Gatalaneg. Afraid dweud i mi adael y swydd honno, a chwyflwyno cwyn i’r awdurdodau.
ANAND TORRENTS ALCARAZ / CORNELLÀ DE LLOBREGAT (BAIX LLOBREGAT)
Dilluns 06/10/14
CATALANOFÒBIA A LA UNIVERSITAT  
He treballat durant tres anys com a professor de llengües estrangeres a l’Escola Universitària Formatic Barna, amb seu al passeig de Gràcia. El curs passat vaig acceptar el càrrec de cap del departament de llengües estrangeres d’aquesta escola universitària privada de turisme, que ofereix també els estudis de cicles formatius de guies i agents turístics de la Generalitat.
En ocupar el meu càrrec ja em constava que a les aules dels esmentats estudis el català hi era totalment absent.
Per tal de corregir aquesta situació flagrant –que, segons se’m va dir, era “justificada” perquè l’escola rep una certa quantitat d’estudiants estrangers–, entre les propostes que vaig fer hi va haver la de crear una aula de suport lingüístic en català i en castellà per a estudiants nouvinguts.
Aquesta proposta va ser desestimada per la direcció de la universitat.
La llei de l’ensenyament de Catalunya especifica l’obligatorietat de l’ús vehicular del català als estudis de cicles formatius. Amb el suport d’altres ensenyants vaig començar a redactar una proposta per retornar la nostra llengua a les aules i complir la llei.
En plantejar aquesta proposta al director del centre, el Sr. José Luis Meneses, a la darreria del curs passat, em va respondre que no perdés el temps fent propostes de normalitzar la llengua perquè mentre ell fos el director de l’escola això no es faria fins que li posessin una pistola al pit, a més d’altres observacions que incloïen que a Catalunya s’havia fomentat l’odi contra Espanya, a més d’un recordatori abrandat de l’entrada de les tropes nacionals a Catalunya.
No crec que la Universitat de Girona i la Universitat del País de Gal·les, que emeten els certificats del grau de turisme d’aquest centre, amb qui tenen convenis, sàpiguen de quina forma activa i militant es discrimina la llengua catalana a Formatic Barna. No cal dir que vaig deixar aquesta feina i que he presentat les denúncies oportunes.

ANAND TORRENTS ALCARAZ / CORNELLÀ DE LLOBREGAT (BAIX LLOBREGAT)

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Dyddlyfr y Bachan Main 2012-07-24 11:40:00

Cyfweliad fu yma ddoe yng Nghatalonia ym mhapur newydd El Punt / Avui (23 Gorffennaf 2012).
Yr wyf wedi ychwanegu ambell sylw.
SARA MEDI JONES  INDEPENDENTISTA GAL·LESA ASSESSORA AL PARLAMENT EUROPEU
SARA MEDI JONES: ANNIBYNIAETHWRAIG O GYMRAES AC YMGYNGHORYDD YN SENEDD EWROP
PREGUNTA
6 de març del 2009. En un col·loqui amb treballadors de les institucions europees, Sara Medi Jones va fer la inesperada pregunta a Hillary Clinton, que va evitar mullar-se. L’endemà milers de persones es manifestaven a Brussel·les per l’Estat català.
CWESTIWN
6 Mawrth 2009. Mewn trafodaeth â gweithwyr y sefydliadau Ewropeaidd, gofynnodd Medi Sara Jones gwestiwn annisgwyl i Hillary Clinton, a osgôdd ei ateb yn ddiflewyn ar dafod..Y diwrnod wedyn bu miloedd o bobl ym gorymdeithio ym Mrwsel dros gael gwladwriaeth Gatalanaidd.

Catalunya podria ser independent el 2016

Gallai Catalonia fod yn annibynnol yn 2016


23/07/12 02:00 – Brwsel – Albert Segura

Foto: Sara Medi Jones amb una bandera de Gal·les al Parlament europeu
Llun: Sara Medi Jones â baner Cymru yn Senedd Ewrop

Assessora de la presidenta del Plaid Cymru independentista gal·lès a l’eurocambra, Sara Medi Jones va arrencar el 2009 a Hillary Clinton el compromís que els Estats Units no interferiran si Catalunya, Escòcia o Gal·les s’independitzen.

Ymgynghorydd yn Senedd Ewrop i Lywydd Plaid Cymru, plaid sydd yn sefyll dros annibyniaeth i Gymru, yw Sara Jones. Yn 2009 cafodd i Hillary Clinton ymrwymo na fyddai’r Unol Daleithau yn ymyrryd pe buasai Catalonia, yr Alban neu Gymru yn datgan eu hannibyniaeth.
.
“No interferiré en els afers interns de cap estat europeu”, li va respondre Clinton…
“Ni fyddaf yn ymyrryd ym materion mewnol unrhyw wladwriaeth Ewropeaidd,” atebodd Clinton …

Potser només se’m volia treure de sobre i era un no comment elegant. Però ho interpreto com el fet que els EUA no s’oposaran a la independència i això tranquil·litza molt els nostres electors. Ni Washington ni Brussel·les no permetran cap tipus de violència i Espanya seria molt estúpida si tornés a fer-la servir, perquè l’opinió pública internacional s’implicaria a fons a favor de Catalunya. No us podran aturar, no heu de tenir por.
“Ceisio cael gwared arnaf yr oedd efallai, ond ‘dim sylw’ ceinwych fu hwnnw. Ond yr wyf yn ei ystyried yn ddatganiad na fyddai yr Unol Daleithau yn wrthwynebus i annibyniaeth ac mae hynny yn galonogol iawn i’n hetholwyr ni. Ni fydd na Washington na Brwsel yn caniatáu yr un fath o drais, a byddai Sbaen yn hurt pe defnyddiai drais unwaith yn rhagor, am y byddai y cyhoedd mewn gwledydd eraill yn gadarn o blaid Catalonia. Ni allant eich stopio, ni ddylech fod arnoch ofn.”

L’expulsió de la UE i de l’euro és només un espantall?
Dim ond codi bwganod yw dweud y bydd Catalonia yn cael ei diarddel o’r Undeb Ewropeaidd ac o’r ewro?
A Brussel·les ningú no us voldrà fer fora, sou un país ric que ja compleix tots els requisits per ser-ne membre. No serà cap procés llarg i feixuc: quan el mur de Berlín va caure, els canvis a l’Alemanya de l’Est van ser molt ràpids. I passarà el mateix amb l’ampliació interior de la UE. Un efecte dominó.

Ym Mrwsel nid oes neb am eich gyrru allan, gwlad gyfoethog ych chi sydd eisoes yn bodloni’r holl ofynion ar gyfer aelodaeth. Ni fydd yn broses hir a beichus – pan syrthiodd Mur Berlin, bu’r newidiadau yn Nwyrain yr Almaen yn gyflym dros ben. A bydd yr un peth yn digwydd gydag ehangu mewnol yr UE. Effaith dómino fydd.

Qui guanyarà la cursa, qui s’independitzarà primer?
Pwy fydd yn ennill y ras, pwy gaiff gyntaf ei hannibyniaeth?
Els gal·lesos us portem alguns anys de retard, però també ens arribarà el dia, així que ajudem-nos els uns als altres. El més realista és pensar que Escòcia serà la primera, perquè el referèndum ja està convocat, el 2014, i si guanya el sí no crec que Catalunya pugui anar més ràpid. Cal fer les coses ben fetes: la consulta i tot el procés legislatiu han de ser impecables perquè ni Brussel·les ni ningú no pugui qüestionar-ne la legitimitat democràtica. Catalunya podria ser independent el 2016.
Mae Cymru rai blynyddoedd ar ei hôl hi, ond daw ein dydd ninnau hefyd. Yr ŷm yn cynorthwyo ein gilydd felly. Mae’n fwy realistig meddwl taw yr Alban fydd y gyntaf, gan fod y refferendwm wedi ei alw yn barod ar gyfer y flywddyn 2014, ac os enilliff yr “Ie” nid wyf yn meddwl y gall Catalonia fynd yn gyflymach na hwy. Rhaid gwneud pethau’n iawn a rhaid i’r pleidleisio a’r holl broses ddeddfwriaethol fod yn hollol gywir oherwydd ni all Mrwsel na neb arall fwrw amheuaeth ar ei ddilysrwydd. Gallai Catalonia fod yn annibynnol yn 2016.

I si guanya el no?
Ac os enilliff y ‘Na’?

No ens rendirem. Els gal·lesos ja vam perdre un referèndum per recuperar el nostre Parlament als anys setanta, però el 1999 ho vam tornar a intentar i vam guanyar. I l’any passat el sí va arrasar en una altra consulta per dotar-lo de capacitat legislativa total. Només el 10% dels gal·lesos som independentistes, però és esperançador que el 70% vulguin més competències. La llengua s’estava morint fa 30 anys, ens en vam adonar a temps i ara cada cop la parla més gent.
Fyddwn ni ddim yn plygu i’r drefn. Fe collom ni’r Cymry refferendwm i adfer ein Senedd yn y saithdegau, ond yn 1999 cynigiasom unwaith eto, ac ennill a wnaethom. A’r llynedd enillodd o bell mewn pleidlais arall i roi iddi bwerau deddfu llawn. Dim ond 10% o’r Cymry sydd yn annibyniaethwyr, ond mae’n galonogol bod 70% yn ymofyn mwy o rym. Bu’r iaith yn marw 30 mlynedd yn ôl, sylweddolasom mewn pryd a bellach mae mwyfwy o bobl yn ei siarad.

Què li sembla la iniciativa d’El Punt Avui?
Beth ych chi’n meddwl am fenter newydd* newyddiadur El Punt-Avui?*
[*Yr unig newyddiadur cenedlaethol yn Gatalaneg fu’r ‘Avui’ (Heddiw), a sefydlwyd yn 1979, a dros y blynyddoedd bu yn gyffredinol yn cefnogi’r blaid ‘wladgarol’ Convergència i Unió (CiU), clymblaid y dde-ganol sydd yn gwrthwynebu annibyniaeth i Gatalonia.
Rhwydwaith o bapurau newydd rhanbarthol fu El Punt; pan aeth yr Avui yn fethiant ariannol, fe’i prynwyd gan cwmni El Punt ac fe roed y ddau at ei gilydd yn 2011. Ar ddechrau mis Gorffennaf datganodd na fyddai ei safbwynt yn amwys fel o’r blaen, a’i fod wedi penderfynnu ymgyrchu dros annibyniaeth i’r genedl. Er bod, yn ôl pôl piniwn diweddar, 51% o drigolion Catalonia yn dymuno cael annibyniaeth, mae gweddill y wasg Gatalanaidd, ar wahân i ambell newyddiadur lleol, yn gwrthwynebu ymadael â Sbaen]

És meravellós que la societat civil i un diari es posin al capdavant i pressionin el govern i els partits, increïble, a Gal·les no tenim res de semblant. Us envejo perquè podeu votar més d’un partit independentista, triar dreta o esquerra, i nosaltres només tenim el Plaid Cymru. Però he de dir que als catalans us obsessiona repetir com de diferents sou dels espanyols, tot i que les similituds amb els andalusos o madrilenys són òbvies. S’ha de ser realista: jo reconec que tinc moltes coses en comú amb els anglesos i el fet de tenir humor britànic no em fa sentir menys gal·lesa.
Mae’n wych bod y cyhoedd a phapur newydd [dyddiol] yn achub y blaen ac yn rhoi pwysau ar y llywodraeth a’r pleidiau gwleidyddol*.
 [*Etifeddiaeth degawdau o unbennaeth Ffasgaidd efallai, a’r sustem ‘rhestr’ a ddefnyddir mewn etholiadau. Nid yw’r etholwyr yn disgwyl i’r gwleidyddion weithio dros yr etholwyr. I blaid y mae’r etholwyr yn pleidleisio, ac nid oes modd cael gwared o’r gwleidyddion sydd yn herwgipio’r blaid wedyn at eu dibenion eu hunain, ac sydd yn anwybyddu addewidion y maniffesto. Mae’r etholwyr wedyn yn trefnu protestiadau a gwrthdystiadau i ofyn i’w gwleidyddion wneud y gwaith y dylent ei gwneud]
Mae’n beth hynod – yng Nghymru nid oes gennym y fath beth. Yr wyf yn lled eiddigeddus am y gallwch bleidleisio i fwy nag un blaid annibyniaethol, a dewis naill ai’r chwith neu’r dde; Plaid Cymru yn unig sydd gennym ninnau.*
[*Nid yw’n hollol gywir. Plaid ranbarthol yn y bôn yw’r blaid dde-ganol CiU. O bryd i’w gilydd, i chwarae i’r gáleri a boddháu eu hetholwyr, y maent yn mynnu taw cenedl yw Catalonia – peth na all llywodraeth Sbaen ei dderbyn. Efallai fod mwyafrif eu pleidleiswyr o blaid annibyniaeth erbyn hyn, ond nid yw CiU wedi newid ei bólisi o fod yn fodlon aros fel rhanbarth o Sbaen ac ambell hawl arbennig].
Ond rhaid i mi ddweud y bydd y Catalaniaid yn dweud byth a hefyd hyd at syrffed mor wahanol yr ych o’ch cymharu â’r Sbaenwyr, er bod y tebygrwydd rhyngoch a phobl Andaliwsia neu Madrid yn amlwg.*
[*Peth ansicr yw hyn yn y fy marn i – mae’r gwahaniaeth yn un amlwg, yn y lle cyntaf am fod y Catalaniaid yn siarad eu hiaith eu hun. Efallai bod trigolion Catalonia yn ymddangos yn Sbaenwyr i lawer o’r tu allan am mai Sbaenwyr yw’r mwyafrif yma erbyn hyn – ar ôl y ddau fewnlifiad enfawr , y cyntaf o gyfeiriad Deheubarth Sbaen yn y chwedegau a’r saithdegau, a’r ail o ben baladr byd, ond yn enwedig o Dde América a Moroco, o ryw 1995 ymlaen, dim ond ryw drydedd ran o’r boblogaeth yw’r Cataloniaid yn eu gwlad eu hun.
Mae’r ffaith bod 51% o blaid annibyniaeth yn hynod – ond yn sicr iawn ysgogiadau economaidd sydd gan y mewnfudwyr a’u disgynyddion sydd yn cefnogi annibyniaeth, yn hytrach na dymuno achub yr iaith Gatalaneg, sydd yn prysur farw, a geir fel rheswm cryf dros annibyniaeth ymhlith y brodorion. Mae pólisi ‘tir llosg’ llywodaeth Sbaen, hynny yw i adael Catalonia yn rhanbarth mor dlawd fel na fydd annibyniaeth yn opsiwn yn y pen-draw, wedi effeithio hefyd ar y mewnfudwyr o Sbaen, sydd i fod yn bumed golofn o fewn y wlad yn ôl cynlluniau Franco yn y chwedegau.]
Rhaid fod yn realistig. Yr wyf yn cyfaddef bod gennyf lawer yn gyffredin ac nid yw’r ffaith fod gennyf synnwyr digrifwch Prydeinig yn gwneud i mi deimlo’n llai o Gymraes.

Pels gal·lesos som espanyols?
Sbaenwyr ŷn ni o safbwynt y Cymry?
Si canviéssiu el nom del Barça per Catalunya FC podríeu tenir estat propi demà, això us permetria que a l’estranger la gent del carrer no us associés a Espanya, les caceres a Botswana i el desastre dels bancs. Molts catalans heu de dir que sou de Barcelona, tot i no ser-ne, perquè us posin al mapa. Jo vagi on vagi del món no he d’explicar què és Gal·les gràcies a l’equip de rugbi.

Dim ond i chi newid enw Barça a’i alw yn “Glwb Pêl-droed Catalonia” fe fyddai gennych eich gwladwriaeth eich hunain yfory nesaf. Yn y modd hwnnw ni fydd pobl mewn gwledydd eraill yn eich cysylltu â Sbaen, â helféydd yn Botswana*
[*cafodd brenin Sbaen ddamwain yn Botswana ym mis Ebrill eleni a daeth i’r amlwg ei fod wedi teithio yno i saethu eliffantod â’i gariad, dan adael ei wraig gartref yn eu palas]
a thrychineb y banciau. Mae rhaid i lawer o Gatalaniaid ddweud taw rhai o Barcelona ŷnt, er nad ŷnt yn byw yno, i gael eu lleoli ar y map. Ar y llaw arall, i le bynnag yr wyf innau yn teithio nid oes rhaid i mi esbonio beth yw Cymru, diolch i’n tîm rygbi ni.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Dim byd o bwys – edrych ar ystadegau fy nhudalen youtube

Edrych heno ar dudalen ystadegau y sianel fideos sydd gennyf ar youtube.
Mae’r tudalen yn f’atgoffa imi ddodi’r fideo cyntaf ar y wefan ar yr wythfed ar hugain o fis Ionawr 2007. Mor bell yn ôl y bu? Synnu gweld y mae gennyf yno ryw 306 o fideos erbyn hyn.
Ond nid fideos go iawn mohonynt – rhibidires o ffotos yn hytrach. Bu gennyf le i roi lluniau ar Picasa ond cyn pen dim o amser yr oedd y lle wedi ei lyncu i gyd. Ar ôl peth crafu pen, penderfynais wneud arbrawf gyda Windows Movie Maker a rhoi’r lluniau ar ffurf fideo ar youtube.
Edrychais wedyn ar y deg uchaf o’r fideos – y rhai y gwelwyd fwyaf arnynt yn ystod y saith niwrnod diwethaf, a cheisio dyfalu pam. 
1. 09-04-2012. 1/2. Canovelles. XXII Cursa. 38
2. 09-04-2012. 2/2. Canovelles. XXII Cursa. 27
Tri-deg wyth a saith ar hugain o bobl wedi galw cael cipolwg. Rhan un a dau o fideo o ras a wneuthum ychydig dros wythnos yn ôl, mewn pentref ar bwys Granollers. Dodais i ddolen gyswllt ar wefan ar gyfer athletwyr – corredors.cat – a gweld bod y rhan fwyaf o’r ‘gynulleidfa’ wedi dod o’r cyfeiriad hwnnw.
3. 08-01-2011. Big Rock (Illinois) 2/2. Mynwent y Cymry. 24
Yn ystod yr wythnos hon mae 24 o bobl yn yr Unol Daleithau wedi edrych ar fideo o gerrig beddau’r Cymry yn y pentref hwnnw yn Illinois, heb fod ymhell o Chicago. Braidd yn anesboniadwy. Rhywun yn rhywle wedi sôn amdano ar Facebook, yn ôl y tudalen ystadegau, am ryw reswm.
4. 23-04-2011. Torroella de Montgrí. 1/2. Montgrí’ndependència. 22.
Dau ar hugain wedi edrych ar ran un o ddau fideo o ras a gynhaliwyd y llynedd yn Torroella, ras wedi eu threfnu gan y Pwyllgor dros Annibyniaeth i Gatalonia. Y rheswm – bydd ail ras eleni, yn cael ei chynnal y penwythnos hwn, a mae rhywun wedi rhoi dolen-gyswllt ar gyfer y fideo ar wefan y Pwyllgor.
5. 01-04-2012. 1/2. Els Hostalets de Balenyà. 17
Y fideo hwn ar y wefan redwyr hefyd. Dim ond ryw wythnos ers i mi ddodi’r fideo ar youtube ar ôl hala rhai diwrnodau yn trefnu’r lluniau. Rhai oedd wedi cymeryd rhan yn y ras yn edrych arno, yn debyg iawn.
6.23-04-2011. Torroella de Montgrí. 2/2. Montgrí’ndependència. 11
Rhai oedd heb ddanto ar ôl gweld lluniau’r rhan gyntaf wedi mynd ymlaen at yr ail ran.
7.03-04-2011. Barcelona. Cursa del Corte Inglés. 8
Y penwythnos hwn bu ras El Corte Inglés yn Barcelona, ras sydd yn rhad ac am ddim. 65,000 (!) wedi cymeryd rhan eleni. Ond er ei bod ar stepen drws imi fel petai, a minnau fel arfer yn ei rhedeg bob blwyddyn, eleni euthum i lawr i Tarragona i Ras Pont y Gw^r Drwg (el Pont del Diable yw’r enw ar lafar ar y ddyfrbont Rufeinaidd yn y dref honno).
Rhai felly a fu’n chwilio am luniau ras ddydd Sul diwethaf, buaswn yn meddwl, a chael hyd i luniau ras y llynedd.
Mae’r rhedwyr a’r cerddwyr yn mynd o Plaça de Catalunya hyd at y Stadiwm Olumpaidd ar Fryn Montjuïc, ac yno y mae’r dorf enfawr yn ymwthio i mewn i wneud tro ar y trac Olumpaidd (400 medr) cyn ymwasgu trwy’r allanfa i’r tu allan unwaith eto i ddal ar eu hynt tua’r llinell derfyn, yn ôl yn Plaça de Catalunya, o flaen adeilad siop El Corte Inglés.
8. 29-10-2010. Barcelona. Carrer Aiguafreda, Horta. 8
Wyth o bobl wedi edrych ar luniau o hen stryd yn y rhan hon o’r ddinas lle y bu golchwragedd yn byw ac yn ennill eu bywoliaeth trwy olchi dillad y bobl gefnog mewn golchdai bach yn eu gerddi ffrynt.  
9. 31-03-2012. 1/2. Tolosa. Anem Òc! Per la lenga occitana! 5
Pump wedi edrych ar luniau o’r gwrthdystiad dros yr iaith Ocsitaneg yn nhref Tolosa (Ffrangeg: Toulouse) y bûm ynddo ychydig dros bythefnos yn ôl.
10.01-04-2012. 2/2. Els Hostalets de Balenyà. 5
Rhai dewr eto wedi mynd ymlaen i weld y llwyth o luniau yn yr ail ran.
A dyma ddiwedd ar y dadansoddiad diangen a hirwyntog hwn.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Ras – Cursa del Roc Gros, 1 Ebrill 2012

Ar ôl y gwrthdystiad yn Tolosa ddydd Sadwrn cyraeddasom yn hwyr yn ôl ym mhrifddinas Catalonia. Bu’n ddau o’r gloch arnaf cyn cael cropian i mewn i’r gwely – a bu rhaid codi am saith i nôl y trên wyth i Els Hostalets de Balenyà, yn Swydd Osona, i gymryd rhan mewn hanner márathon mynydd (math ar Ras Eryri heb y glaw).
Ddim yn cofio llawer amdani – fel y mae rhai’n cerdded drwy eu hun, rwy’n amau imi redeg yn fy nghwsg. Ond mae rhaid fy mod wedi gwneud y ras am fod gennyf y lluniau i’w brofi. Ardderchog o le, golygfa wych o grib y mynydd dros Wastadedd Vic. Un o gadarnleoedd yr iaith Gatalaneg yw’r ardal hon (mae’r iaith   wedi diflannu i bob pwrpas ymhlith y rhan fwyaf o’r boblogaeth erbyn hyn, wrth i’r Catalaniaid ddod yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain. Ond stori arall yw honno).
Bydd ras debyg gennyf o fewn pythefnos – Hanner Márathon dros Annibyniaeth Catalonia, yn Torroella de Montgrí, yn Swydd Baix Empordà. Dyma sut y bu hi’r llynedd (dim ond ras 10km fu yn 2011).
http://www.youtube.com/watch?v=BZc4lfKwWT0Rhan 1 – hyd at feudwyfa Santa Caterina
http://www.youtube.com/watch?v=ZSNVCXlSk3cRhan 2 – yn ôl at y llinell gychwyn.

.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Y Ddraig Goch yn chwifio ar heolydd Tolosa, Ocsitania

(1) PONT
Ddydd Sadwrn diwethaf (31 Mawrth 2012) yr aeth aelodau o gymdeithas ‘Pont’ – Cymdeithas Efeillio Diwylliannau Cymru a Chatalonia – o Barcelona i Tolosa i gymryd rhan yn y gwrthdystiad dros yr iaith Ocsitaneg – i ymgrychu am hawliau cyflawn i siaradwyr iaith Ocsitania. 
(2) CAOC
Aethom i Tolosa fel rhan o Gymdeithas CAOC.
El Cercle d’Agermanament Occitano-Català (Cercle d’Afrairament Occitanocatalan en occità) o CAOC és una associació que vol fomentar les relacions entre les cultures occitana i catalana. Té seus a Barcelona i Tolosa.
Cylch Gefeillio Ocstania a Chatalonia (en Ocsitaneg Cercle d’Afrairament Occitanocatalan) – cymdeithas er hyrwyddo cysylltiadau rhwng diwylliannau Catalonia ac Ocstania. Mae ganddo swyddfeydd yn Barcelona a Tolosa.

(3) FIDEO 1: Y Ddraig Goch ymhlith môr o faneri Ocsitania

Bu i’r Ddraig Goch ddyroi cychwyn ar heolydd Tolosa (fe’i hyngenir tw-LW-zo) (Ffrangeg: Toulouse) am brynháwn cyfan.

Ar gychwyn y clip fideo y mae’r gwrthdystwyr yn canu ‘Se Canta’, anthem answyddogol Ocsitania. Yn ôl y sôn, gwaith Gaston III Fébus (1331-1391), Iarll Fois a Bearn, yw’r gân honno. Mae ar lafar gwlad yn Ocsitania benbaladr. Fel yr aeth ‘Cwm Rhondda’ a ‘Chalon Lân’ yn ganeuon mabwysiedig cefnogwyr y bêl gron yng Nghymru, felly y mae ‘Se canta’ yn gân rygbi Ocsitania. Ers 2010 mae’n anthem swyddogol Clwb Rygbi Tolosa.

(Y faner yn chwifio o funud 1.34 ymlaen)
http://www.youtube.com/watch?v=r-KBBwlFQsI&feature=relmfu 

Se Canta / Os caniff
Dejós ma fenèstra / O dan fy ffenestr
I a un aucelon / Y mae aderyn bach
Tota la nuèch canta / Mae’n canu gydol y nos
Canta sa cançon / Yn canu ei gân
Se canta, que cante / Os caniff, gad iddo ganu
Canta pas per ieu / Nid er fy mwyn innau y mae’n canu
Canta per ma mia / I’m cariad y mae’n canu
Qu’es al luènh de ieu  / Sydd ymhell oddiwrthyf
 
(4) FIDEO 2:
Dyma ein fideo ninnau o’r gwrthdystiad i gyd (braidd yn hir – 12 munud):
(5) L’INSTITUT D’ESTUDIS OCCITANS (Bwrdd Gwybodau Ocsitanaidd)
O dan nawdd Pwyllgor (“Anem Òc”) cynhaliwyd yr orymdaith, a greuwyd gan y Sefydliad i drefnu’r gwrthdystiadau dros yr iaith  
Bu gwrthdystiadau tebyg yn cael eu cynnal ar yr un pryd yn Breizh / Llydaw, yn Euskalherria / Ngwlad y Basg (y rhan o dan reolaeth Ffrengig), yn Nghatalonia (y rhan o dan reolaeth Ffrengig), ac yn Elsass / Alsás.

Rhan o wefan Institut d’Estudis Occitans  http://www.ieo-oc.org wedi ei throsi i’r Gymraeg:

La Coordinacion crida a una manifestacion (y mae’r pwyllgor yn trefnu gwrthdystiad) lo 31 de març de 2012 (ar yr unfed ar ddeg ar hugain o fis Mawrth 2012) que serà la seguida d’aquelei (a fydd yn dilyn) de 2005, 2007 e 2009 (rhai’r blynyddau 2005, 2007 a 2009) onte sigueriam de miliers (lle y byddwn wrth ein miloedd) per dire “Anem òc ! Per la lenga occitana !” (er mwyn dweud – Awn ni, Òc! Dros yr iaith Ocsitaneg)

La Manifestacion se farà a Tolosa (Cynhelir y gwrthdystiad yn Tolosa).
Aqueu 31 de mars de 2012 serà (Bydd yr 31 Mawrth hwnnw) una granda jornada au nivèu nacionau (yn ddiwrnod mawr ar raddfa genedlaethol) per totei lei lengas dichas regionalas (ar gyfer yr holl ieithoedd ‘rhanbarthol’, fel y’u gelwir) que vòlon una Lèi (sydd am gael Deddf).

Ja lei Bretons, Bascos, Catalans e Alsacians son partents (Bydd y Llydawiaid, y Basgiaid, y Catalaniaid a’r Alsasiaid yn cymeryd rhan) faràn una manifestacion (yn cynnal gwrthdystiad) dins sa region (yn eu rhanbarthau eu hunain) lo meteis jorn (yr un diwrnod).

(6) FIDEO ARALL

Yn y fan hyn y mae fideo arall am y gwrthdystiad, a hwnnw yn yr iaith Ocsitaneg
Mae’n debyg taw rhai sydd wedi dysgu’r iaith yw’r rhan fwyaf o’r siaradwyr- fel arfer fe’u hadnabyddir am bod yr ‘r’ Ffrangeg ganddynt.Yn draddodiadol nid yw’n rhan o sustem seinyddol yr iaith (er iddi ddechrau, yn ôl y sôn, treiddio i lafar trigolion Provença ychydig dros ganrif yn ôl). Math ar ‘r Gymraeg’ oedd ganddynt gynt – yn wir, peth hynod i’r Ffrancwyr oedd y ffaith bod yr Ocsitaniaid yn methu ynganu’r ‘r Ffrangeg’ wrth siarad iaith y wladwriaeth, yr iaith Ffrangeg.  
Er i rai adroddiadau sôn am 30,000 o wrthdystwyr, rwy’n amau ein bod yn rhyw 10,000 ar y gorau.
(7) AC UN ARALL ETO
A dyma Se Canta unwaith eto yn y gwrthdystiad:

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Pentref Wales, Iowa

Yn haf 2007 bûm ddwywaith ym mhentref Wales ar bwys Red Oak – dwy wibdaith mewn gwirionedd, ond yn ystod y deugain munud yr oeddwn yn y pentref cefais dynnu rhyw gant a hanner o luniau bob tro.
Dyma’r lluniau o’r ddau ymweliad:
Bu dau gapel yn y cylch ar un adeg – Gomer (1872) (Annibynwyr), a Wales (1874) (MC). Mae capel Wales yn dal i sefyll yn y pentref bach hwn o ryw hanner dwsin o adeiladau. Mae’r llall – Gomer – wedi diflannu ond ei fynwent yn dal i fod.
Dyma restr o’r enwau o’r rhai a gladdwyd yn y fan honno.
Mae hefyd Eglwys Saesneg i’r gogledd ddwyrain o Wales – Eglwys Center Ridge (1882). Yn y fynwent yn ei hymyl ceir y cyfenwau Morgan, Hughes, Woods a Lewis. Efallai taw Cymry oedd y rhai hyn hefyd.
Saesneg yw iaith y rhan fwyaf o’r beddau ym Mynwent Gomer, ond y mae ambell bennill yn Gymraeg wrth gwt rhai o’r arysgrifau coffa.
Canys byw i mi yw Crist a marw sydd elw

Ar ôl eu holl flinderau dwys  
Gorffwyso maent mewn hedd
Ymhell o  sŵn y byd a’i bwys
Heb boen yn llwch y bedd
Mor ddedwydd yw y rhai trwy ffydd
Sy’n mynd o blith y byw
Eu henwau’n perarogli sydd
A’u hun mor dawel yw
Ac un na chefais ddehongli: Canys y mae yr ……ardderchog (?)….ond…. mewn gwell.
Ar ambell un, yn ddiddorol iawn, y mae sôn am le geni’r unigolyn – Ceredigion, Cefn-coch, Cwm-gof, Bryn-mawr, Aberystwyth.
Henry Thomas
Born in Cardiganshire Wales June 29 1846
Died September 14 1908
Elizabeth S. [Thomas]
Born in Cotter, I[ow]a Feb 16 (?) 1850
Died Feb 23 1932
(Rhan o sefydliad Cymreig Long Creek yw pentref Cotter)
Susan wife of G. R. Jenkins
Born May 12 1849
at Cefn Coch
near Machynllath (sic)
Cardiganshire Wales
Dau of J and A Jones
Died Oct 24 1893

Tybed ai dylanwad tafodiaith y gogledd-orllewin yw’r -a yn lle -e (neu ai!) 

yn enw’r dref honno (Machynlleth / Machynllaith)? Hynny yw, bod y saer maen neu’r gweinidog o Wynedd, efallai.
Er nad yng Ngheredigion y mae Machynlleth wrth gwrs, ond yn yr hen Sir Drefaldwyn, cyfeirir at leoliad y  Cefn-coch y mae ‘Cardiganshire’ o bosibl. Y mae Cefn-coch yn Sir Drefaldwyn, ond ni wn a ellir dweud ei fod ar bwys Machynlleth. A oes fferm o’r cyfryw enw tybed rhwng y Borth a Machynlleth?
Dan H Davies
Late of Ferndale Glam[organshire]. S[outh].W[ales].
Born at Cwmgof Carmarthen
Died at Red Oak Iowa
April 4 1880
John Hughes
Born in Aberystwyth Wales
Sept 1833
Died Jan 22 1896
Mae lle wedi ei adael rhwng ‘Sept’ a’r flwyddyn – yn sicr ddigon i gael ychwanegu pa ddydd o’r mis y’i ganwyd oedd y bwriad.
Rebecca Morgan
July 24 1845
Bryn Mawr Breconshire South Wales
Mar 4 1910
Mae un garreg yn Gymraeg – ar wahân i dipyn o Saesneg wrth sôn am fan geni’r wraig a gladdwyd yno.
Elizabeth S.
Priod y Parch. Samuel Jones.
Ganwyd hi yn Carnarvonshire North Wales
Bu farw Ebrill 21 1888
yn 56 mlwydd oed
Yr hyn a allodd hon, hi a’i gwnaeth

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Yr Arloeswyr

Yn ddiweddar yr wyf wedi bod yn rhoi trefn ar rai o’r lluniau a wneuthum bron bum mlynedd yn ôl, yn haf 2007, yn Iowa.
Dyma rai o feddau Mynwent Riverside, yn Spencer, Clay County, a llawer yn eu plith yn eiddo Cymry’r cylch.
Yng nghyfrol II Hanes Cymry America (1872) ceir sôn am y sefydliad Cymreig yn Swydd Clay o dan yr enw “Peterson, Clay County”, sef un o’r pentrefi lle y bu canran uchel o Gymry.
Dywed: “Sefydlodd rhai Cymry yno yn niwedd y fl. 1864, ac ymfudodd llawer o Gymry o Wisconsin a Lime Spring, a manau ereill, yno ar ol hyny, ac y maent yn parhau i ymfudo yno… 
Mae gan y Bedyddwyr Cymreig achos crefyddol bychan yn y lle hwn, a golwg obeithiol arno. Mae Thomas Evans, a T. Bevan, ac R. Roberts, ac ereill, yn byw yno. Nid yw yn mhell o Sioux Rapids.”
(Ar y map uchod: Trigfannau Cymry Iowa yn 1872. Mae’r blaenlythrennau’n cynrychioli enwau’r swyddi. Bu Cymry Swydd Clay yn anad dim yn ne-orllewin Swydd Clay a gogledd-orllewin Swydd Buena Vista)
Rhyfedd meddwl bod Clay County yn gyrchfan i Gymry oddi ar 1864, ac erbyn heddiw nid oes cof amdanynt ymron – dim ond ambell fedd hwnt ac yma ym mynwentydd yr ardal, a mynwent “Capel Bedyddiol yr Arloeswyr o Gymry / yr Arloeswyr Cymreig” sef y “Welsh Pioneer Baptist Church” ar bwys Linn Grove. Mae’r capel wedi hen ddiflannu.
Sefydlwyd Gwladfa Patagonia flwyddyn ar ôl hynny a’r Gymraeg yn dal yn iaith fyw yno i raddau. Ond yn Iowa mae’r iaith wedi hen fynd i ebargofiant, ynglyn â’r cof am yr arloeswyr o Gymry yn y lleoedd lle y buont yn byw.
Ym Mynwent Spencer y mae bedd hynod (munud 1:34 yn y fideo uchod) lle y claddwyd Evan Jones (1829-1916) a Mary E. Jones (1841-1917). O dan y cyfenw Jones ar y garreg saif y gair “Pioneers”.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Gwalia Deg, Nebraska – eto

Dydd Sadwrn 10 Medi 2011. Bu’n daith led hir o gyffiniau Denver (Colorado) i Omaha (Nebraska). Cyn cychwyn yr oeddym yn amau’n sicr ddigon y byddai’n nos arnom cyn cyrraedd Lincoln ac Omaha.

Mae dwyrain Nebraska yn frith o fân sefydliadau Cymreig ac yr oeddym yn awyddus i achub ar y cyfle i weld o leiaf un ohonynt. Ond bu’r amser yn brin.
O wneud dargyfeiriad bach y byddai’n bosibl ymweld ag un o ddau sefydliad Cymreig yn y dwyrain – naill ai Shell Creek / Postville i’r gogledd o’r draffordd, neu Gwalia Deg i’r de.
Ar hanner y daith gwelasom taw dim ond rhyw awr o olau dydd byddai gennym erbyn i ni gyrraedd Aurora ar y draffordd. Dyma benderfynu mynd ar drywydd Gwalia Deg, sydd heb fod mor bell o’r hen Lincoln Highway.

Dyma luniau o’r daith honno:

http://www.youtube.com/watch?v=R5mknTq6zaw

Trwy ryw amryfusedd yr oeddwn wedi dod i’r Unol Daleithau heb y swmp o nodiadau ar y sefydliad hwn, ac eraill. Ar fy nesg o hyd, dros Fôr Iwerydd yn aros eu cludo. Ond bu cymaint o frys arnaf ar y funud olaf i nôl y metro i ganol y ddinas fel yr euthum allan o’r ty heb eu rhoi yn y bag.
Rywle yn ardal Clay Center, Harvard, Sutton yw / oedd Gwalia Deg. (Mae’n debyg taw enw ar lafar ymhlith y Cymry yn unig oedd hwn, ac ni fu erioed yn “swyddogol”. ).
Edrych y wlad fu’r daith i’r fro honno. Tipyn o ragchwilio, cael adnabod gwedd y tirwedd a dychwelyd ryw dro eto, os bydd ryw dro eto.
Fe droesom oddi ar y draffordd yn Aurora, ac aethom trwy’r wlad fflat, undonog, ag ambell llwyn coed ar ochr yr heol, yr hen breri wedi ei droi yn faesydd indrawn. Ar ôl rhyw ddeng milltir o daith daethom i Clay Center – fe’i henwyd felly am fod y dref yng nghanol Swydd Clay.
Yr oeddwn yn rhyfeddu bod cymaint o leoedd cleiog yn yr Unol Daleithiau mewn mannau heb fod yn amlwg am eu pyllau clai. Ond nid math o bridd yw’r ‘clay’ hwn, ond cyfenw (fel y cefais weld ar wikipedia!).
Planhigfäwr oedd Henry Clay (1777-1852) – bu ganddo blanhigfa â 22 o gaethweision – a aeth yn gyngreswr dros dalaith Kentucky. Bu’n Llefarydd Ty’r Cynrychiolwyr, ac yn un o’r rhyfelgarwyr (“war hawks”) yn y Ty o blaid mynd i ryfel yn erbyn Lloegr.
Cyhoeddwyd rhyfel ar Loegr yn 1812 (a barhaodd yr ymladd am ddwy flynedd a hanner).
Bu Lloegr yn rhyfela yn erbyn Ffrainc a gosododd gyfyngiadau ar fasnach rhwng Ffrainc a’r U.D., yn ogystal â chipio morwyr a anwyd yn y Deyrnas Unedig oddi ar  longau Americanaidd i’w gorfodi i wasanaethu yn llynges Lloegr i ymladd yn erbyn Ffrainc, am nad oedd ganddo ddigon o forwyr profiadol.
Yn ogystal yr oedd y Saeson yn rhoi cefnogaeth milwrol i’r Americanwyr brodorol er mwyn rhwystro ymdrechion yr Unol Daleithau i ymestyn eu tiriogaeth i diroedd sydd erbyn heddiw yn rhan o Ogledd-orllewin y wlad (a’u gadael i’w tynged i wynebu gwylltineb yr Americanwyr gwynion pan nad oeddynt yn ddefnyddiol mwyach).
Bu Clay yn gweithredu yn y Gyngres er lles pobl y Gorllewin, ac fe’i llysenwyd yn “Henry of the West” (Henri’r Gorllewin) a’r “Western Star” (y seren orllewinol). Yn ddiamau dyna’r rheswm dros gymaint o swyddi o’r enw Clay County yn y Gorllewin, megis yn Iowa, lle y bu ‘sefydliad Cymreig Swydd Clay’ (Clay County Welsh Settlement) o gwmpas Peterson hyd at Linn Grove (dros Afon Sioux Fechan yn Swydd Buena Vista).
Felly, yn Swydd Clay, Nebraska, ymweld a wnaethom â thair mynwent yr oeddwn wedi eu gweld ar ochr y ffordd yr oeddym yn teithio ar hyd-ddi.
Fe aethom i Clay Center a Sutton, a chael hyd i ddyrnaid o feddau a chyfenwau Cymreig arnynt yn y mynwentydd yno. Mynwent Gwyddelig oedd y llall, ar ymylon Sutton.
Ers dychwelyd o’r Unol Daleithau, ac ail-afael yn fy nodiadau, rwy’n gweld fod ambell fynwent fach yn y wlad rhwng y pentrefi. Tybed a oes mynwent Gymreig yn eu plith?
Yn ogystal, fe fuasai wedi bod yn well i fynd i Harvard o bosibl – yn ôl “Y Cenhadwr Americanaidd” (Ionawr 1878) tref Harvard oedd Gwalia Deg, neu yn ganolbwynt i Gymry y cylch.
Bydd y draul o New York i Lincoln, prif ddinas Nebraska, yn $28,60, a chyda’r express yn $44,45, ac ar ol cyrhaedd Harvard, taith 3 neu 4 awr o Lincoln, byddwch yn NGWALIA DEG…”
…am goed i adeiladu tai, cawn ddigonedd o honynt yn nhref Harvard yn ein hyml, am yn agos yr un bris ag a delir yn Chicago. Er tanwydd, ceir glo wrth y station yn Harvard, a phan orphenir y St. Joe a’r Denver R. R., daw y glo atom o Colorado yn llawer is ei bris nag y ceir yn awr.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: AR RUTHR YN CHICAGO

Dydd Gwener 16 Medi 2011. 
Am y cyntaf i gyrraedd canol Chicago. Yr olygfa o ffenest trên y Llinell Las rhwng gorsafoedd Irving Park, Addison a Belmont. Y mae’r draffordd a’r rheilfford yn cyd-redeg am ryw ysbaid, a chefais ffilmio dwy funud a hanner o ruthr gwyllt y cerbydau ar hyd yr heol.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: ELBA, PENTREF BYRHOEDLOG YN IOWA (1872-1882)

Ar dramp eto yn Iowa a’r taleithau amgylchynnol yn ystod yr haf. 
 
Ar hap a damwain, ar ôl ymweld â dau bentref Danaidd yn y cyffiniau, Elk Horn a Kimballton, daethpwyd ar draws mynwent hen bentref darfodedig Elba yn swydd Carroll, a gweld taw Cymry a fu’r pentrefwyr gan amlaf.
.
Ar gofgolfn o flaen y fynwent dywedir (o’i gyfieithu o’r Saesneg): Elba 1872-1882. Tref arloeswyr wedi ei lleoli ar bwys Mynwent Trefgordd Eden. Bu iddo swyddfa bost, siop ddefnydd, gefail gof, a bar. Protestaniaid fu’r rhan fwyaf o drigolion y cylch, ac o dras Gymreig. Pan aeth y rheilffordd i’r gogledd yn 1881 ganwyd tref Templeton.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Blackstone (Queensland, Awstralia)

Bu ffrind i mi ar daith i Awstralia yn ddiweddar a bu’n aros yn Toowong, maestref Brisbane (Queensland) sydd heb fod ymhell o Blackstone ym maes glo Ipswich. Bu ar un adeg yn bentref glofaol Cymreig. Un diwrnod aeth hi i rodio o amgylch Blackstone a thynnu ambell lun. Dyma’i ei lluniau sydd yn dangos bod olion Cymreictod y pentref a’r fro i’w gweld o hyd.

Aeth Cymry i ymsefydlu yn ardal Blackstone yn arbennig ar ôl i Lewis Thomas (1832-1913) agor pwll glo yn y cylch. O Dal-y-bont, Ceredigion yr oedd. Gweithiai mewn ffatri wlân leol, ac wedyn mewn mywngloddiau plwm yn yr ardal. Yn ddiweddarach aeth i weithio i Dde Cymru yn y pyllau glo a’r gweithiau haearn.
Ymfudodd i Awstralia yn 1859 i chwilio am aur, ond ni chafodd fawr o lwyddiant ac aeth i weithio ym mhyllau glo y Redbank, yn Ipswich.
 Agorwyd pwll glo ganddo fe a’i bartner yn 1866 yn Bundamba, Ipswich, a adnabyddid nes ymlaen fel yr  “Aberdare Mine” neu’r “Aberdare Colliery”.
Codwyd tŷ moethus ganddo yn Blackstone yn 1886 o’r enw Brynhyfryd. “The Castle” oedd ei enw ar lafar gwlad.
Prynwyd cwmni glo Lewis Thomas ar ôl ei farw gan gwmni y Rylance Collieries.
Dechreuwyd cloddio o dan y Brynhyfryd ond tanseilwyd y sylfaen a bu rhaid ei ddymchwel.
Y mae heddiw barc o’r enw Brynhyfryd Park ym mhentref Blackstone, sef  y tir fu’n amgylchynu tŷ Lewis Thomas. 

Mae enwau heolydd Blackstone yn dwyn atgof ohono fe a’i deulu bach –

Lewis Street (sef enw bedydd Lewis Thomas),
Thomas Street (sef ei gyfenw),
Anne Street (Anne Morris oedd enw ei wraig),
Mary Street (Mary oedd enw ei ferch).
Mae hefyd yno Jones Street (yn fwy na thebyg meddant ar ôl Rhys Jones, gweinidog y capel).

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Hiteman, Iowa

GWIBDAITH I HITEMAN A GEORGETOWN, IOWA. 
Rhan 1 – Hiteman

.. 

Y mae gennyf lif o luniau o’r ymweliad â’r un gyntaf o’r ddwy gymdogaeth Gymreig hyn ar youtube (Hiteman, Iowa):..

..

..

Y modd y daethom, trwy hap, ar draws mynwent arall yn Iowa lle y mae canran uchel o feddau Cymry alltud: 
··
 (Dydd Sul 4 Medi 2010). Y diwrnod hwnnw nid oedd gennym fawr o amser – teithio yr oeddym o Spencer yng nghwr gogledd-orllewinol y dalaith i Kirkville ym Missouri, gan obeithio dod o hyd i fotel neu westy modurwyr yn y dre honno am bris rhesymol, a chyrraedd cyn yr oriau mân!
..
Y diwrnod canlynol yr oedd yn fwriad gennym ymweld â thri sefydliad Cymreig ym Missouri – (New Cambria, Bevier, Dawn) o’r naw a restrwyd gan Iorthryn Gwynedd* (“1. St. Louis 2. New Cambria. 3. Bevier, a’i Gweithiau Glo. 4. Callao. 5. Macon City. 6. Brookfleld. 7. Chillicothe. 8. Utica. 9. Dawn, Livingston Co.”)
..
*Y Parch. R[obert] D[avid] Thomas, g. Llan-rŵst 1817, m. Knoxville, Tennessee 1888. Hanes Cymry America yn y Gorllewin Pell yn Nhalaethau Indiana, Michigan, Illinois, Wisconsin, Minnesota, Iowa, Missouri, Kansas, Nebraska, California, Oregon a’r Tiriogaethau.  1872.  
..

..

Ar ôl ymadael â Des Moines daethom i ardal yr hen feysydd glo, lle bu cannoedd o Gymry yn byw ryw ganrif yn ôl. Gresyn fyddai peidio â manteisio ar y cyfle i archwilio mynwent neu ddwy yn y cylch hwnnw wrth deithio trwyddo, meddyliais.
..
Ond yr oedd yn saith o’r gloch arnom yn barod, ac ymhen awr y byddai’r haul wedi machlud, a byddai crwydro o gwmpas mynwent yn y tywyllwch yn annoeth (heb sôn am fod yn anghyfreithlon).
..
Yr oeddym wedi clywed o bryd i’w gilydd bod Cymry wedi byw yn Hiteman ar un adeg, a dyma weld ar y map fod y pentre hwnnw heb fod ymhell o Ffordd Fawr Iowa Rhif 5 (Iowa Highway 5) – yr heol yr oeddym wedi ei chymryd i fynd tuag at y de i gyfeiriad y ffin daleithiol
..
Yn ôl y map byddai dwy heol fach ar y dde – Heol Cant Chwe-deg Pump (165th Street), a Heol Cant Saith-deg, ryw filltir a hanner tu hwnt iddi, y ddwy yn arwain i bentref Hiteman. Ond ni welwyd yr un arwydd, ac yr oeddym bron ar gyrion tref Albia. Wel, dyna anlwc. Sut yr oedd yn bosibl i ni fynd heibio i’r ddwy drofa heb i ni sylweddoli? Ymwelwn â phentre Hiteman y tro nesa – os bydd tro nesa.

Ond wrth ddynesu at dre Albia, a hithau’n awr yn ddeg munud wedi saith yn yr hwyr, dyma weld arwydd “Hiteman” – felly yr oeddym heb gyrraedd yr ail drofa – yr oedd yn nes o lawer i dre Albia nag yr oeddwn yn meddwl. Heol Cant Saith-deg. Arafu, troi a mynd ar hyd y lôn gul a wnaethom, a chyn hir dyna arwydd ag enw’r pentref arno, a’i boblogaeth presennol: “Hiteman. Population 101.”

··
Deallais wedyn, wrth ymchwilio i hanes Hiteman, fod dros ddwy fil o boblogaeth yma gan mlynedd yn ôl, pan fyddai’r pyllau glo ar eu hanterth. Erbyn hyn gwelir ambell dŷ diolwg yma a thraw, a glaswellt lle bu ugeiniau o dai ar un adeg.
..
Dim sôn am fynwent. Dim arwydd, dim maes crochenydd rhwng y tai. Bydd rhaid gofyn i rywun. Ond nid oedd yr un enaid byw i’w weld o gwmpas ym mhentre diffaith Hiteman. Ni wiw i ni stopio’r car a mynd at ddrws un o’r tai yma ar fachlud haul i ofyn… pwyll biau hi mewn gwlad lle y mae arf tanio gan lawer, a rhai ond yn rhy barod i saethu ar yr esgus lleia.
..
Wrth lwc dyma wraig tua deugain oed yn dod allan o ddrws ffrynt ei chartre i fynd at y garej wrth ochr y tŷ, a dyma sgwrs fach drwy weiddi o’r heol dros y ardd. Gofyn a oedd yn y cyffiniau ryw fynwent. Hithau’n gweiddi yn ôl eu bod yn ffaelu clywed, a cherdded drosodd atom, ond yn sefyll ryw bumllath o’r car, yn awyddus i helpu ond yn anfodlon dod yn rhy agos atom. Dweud a wnaeth fod y fynwent leol tu hwnt i’r pentre, hanner milltir i ffwrdd, ar fryncyn ar yr ochr chwith i’r heol.
..
Diolchasom iddi, a bant â ni i gyfeiriad machlud yr haul.
..
Y mae’n bum munud ar hugain wedi saith, a’r gwyll wedi disgyn ar rai o heolydd y pentre yn barod. Ond ar ben y bryncyn mae’n heulwen lachar o hyd. I mewn i’r fynwent, ac yn wir, Cymry a gladdwyd yma. Llu ohonynt.
..

··
Yn ddiweddar cefais hyd i restr o’r enwau o’r meirw yn y fynwent hon oddi ar wefan USGenWeb Project. Dyma’r cyfenwau Cymreig o’u plith:
..
(Gall fod yma yn y fynwent Gymry ag arnynt gyfenwau anghymreig heb eu cynnwys yma; mae un cyfenw felly wedi’i roi yn y rhestr – Baxter – am fod arysgrifiad y garreg fedd yn tystio iddo gael ei eni yn Llanidloes.)
Hefyd, efallai nad o dras Gymreig yw pob un yn y rhestr hon, er bod arno / arni gyfenw Cymreig.
..
Dyma’r cyfenwau Cymreig (47) sydd yn y rhestr
..
Elizabeth BAXTER 15 Mawrth 1851 – 24 Mai 1939
Harold L. BAXTER bu farw 31 Ionawr 1897
James BAXTER 15 Ebrill 1850 Llanidloes – 7 Mai 1914
Zola Mae BOWEN 18 Ionawr 1899 – 7 Mawrth 1899
Ella DAVIES 1861-1907
..
Griffith DAVIES 1851-1916
Henry EDWARDS bu farw 19 Chwefror 1910
Elenore ELLIS 31 Gorffennaf 1825 – 2 Rhagfyr 1910
Henry ELLIS 12 Mai 1895 – Ionawr 12 1897
Moses ELLIS 2 Mawrth 1859 – 8 Tachwedd 1896
··
Sefora ELLIS 18 Rhagfyr 1889 – 5 Rhagfyr 1894
Reverend William ELLIS 25 Mehefin 1863 – 19 Mehefin 1908
Edith HOWELLS bu farw 12 Ebrill 1903
Emma HOWELLS 1870-1914
Evan HOWELLS 1865-1939
..
Leona HOWELLS 31-Mawrth 1904 – 5 Medi 1909
Charles A. “Cub” JAMES 18 Gorffennaf 1871 – 23 Chwefror 1923
Emily JENKINS 1891-1894
Marguerite Z. JENKINS 1914-1922
Nellie JENKINS 1859-1948
..
Reese Edward JENKINS 18 Rhagfyr 1923 – 18 Mawrth 1966
W. S. JENKINS 1857-1921
Winchester JENKINS 1890-1974
Joe MORGAN 1920-1920
John Lewis MORGAN 1869-1913
..
Ruth MORGAN 1911-1912
Margaret G. “Madge” MOSES 20 Mai 1924 – 4 Mawrth 2009
Mary Ann MOSES 1878-1952
Matthew “Smokey” MOSES 24 Mehefin 1915 – 26 Mai 1995
Richard PHILLIPS bu farw Rhagfyr 1893
..
Albert A. ROBERTS 1910-1911
Delmar A. ROBERTS 1899-1914
John E. ROBERTS 1904-1909
Kenneth E. ROBERTS 1900-1901
Phyllis M. ROBERTS 1902-1910
..
Ralph N. ROBERTS 1909-1909
Jimmie SAMUEL bu farw 13 Medi 1909
Sarah SAMUEL bu farw 23 Gorffennaf 1900
Beulah THOMAS 1913-1972
Geneva THOMAS 1913-1076
..
Joe THOMAS 1911-1973
Lloyd A. THOMAS 1901-1989
Richard J. THOMAS 1986-1933
Sarah THOMAS 16-12-1870 – Gorffennaf 1918
Viola T. THOMAS 1909-1940
..
Fred Layton WATKINS 12 Mai 1918 – 29 Mai 1918
Nellie WILLIAMS bu farw 26 Mawrth 1905
..
Nid oedd dim yn Gymraeg ym Mynwent Hiteman.
..
Mae un garreg fedd yn datgan i’r Parch. William Ellis gael ei eni yn Ne Cymru (“Born in South Wales”). Arall yn sôn bod James Baxter wedi ei eni yn “Llanedloes” (gwall y saer maen? hynny yw, Llanidloes) ar 15 Ebrill 1850 (un o gyfenwau anghyfiaith y rhan hon o Faldwyn yw Baxter, wrth gwrs, ynghyd â Hamer, Mills, ac yn y blaen).
..

..
Yr oedd y golau’n cyflym bylu, ond o fewn ugain munud yr oeddwn wedi cael tynnu llun o’r rhan fwya, os nad y cyfan, o gerrig beddau’r Cymry.  
..
Yn ôl â ni wedyn i’r heol fawr, ac ymlaen i Albia yn y llwydnos.
..
Darnau o An Illustrated History of Monroe County, Iowa (= Hanes Darluniadol o Swydd Monroe, Iowa)
Frank Hickenlooper, 1896
..

(O’r Saesneg:) Mae twf mawr y diwydiant glo o fewn y sir wedi denu cenhedloedd eraill i’n plith dros y blynyddoedd diwetha. Cymry a Saeson yw’r rhan fwya o’r glowyr –  dyweder tri chwarter ohonynt. Americanwyr, Swediaid, ambell Eidalwr, Ffrancwyr, Sgotiaid a Belgiaid yw’r chwarter arall. Nid oes glowyr o Wyddelod, a dim ond ychydig o Almaenwyr. Ni fynn yr Iseldirwr fentro i’r tywyllwch, ac mae ar y Gwyddel chwant bod yn wastad ar y frig. Y Saeson a’r Cymry yw’r glowyr mwya llwyddiannus, am fod yr alwedigaeth yn etifeddol ganddynt ers canrifoedd. Ychydig o wahaniaeth genedlaethol sydd rhyngddynt. O Durham a Chernyw y mae’r Saeson….
..
Ym mha fan bynnag y mae camp mwyngloddio y mae cryn dipyn o Gymry. Mewn camp o, dyweder, fil o boblogaeth y mae rhyw hanner dwsin o wahanol deuluoedd o’r enw Thomas; ac y mae nifer debyg o Jamesiaid, Morganiaid, Lewisiaid, Williamsiaid, Reesiaid, Hughesiaid, Llewellyniaid a Jonesiaid. Maent i gyd yn enwau tra cyffredin ymlith y Cymry…
..
Y mae gan bentref Hiteman chwe chorff eglwysig, sef y Bedyddwyr, Yr Annibynwyr, y Lwtheriaid Swedaidd, y Methodistiaid Swedaidd, Y Bedyddwyr Cymreig, a’r Bedyddwyr Croenddu.
..
Sefydlwyd Eglwys yr Annibynwyr gan y Parch. William Thomas, a chodwyd addoldy yn 1892. Cymry yw’r rhan fwya yn yr eglwys, ac y mae iddi aelodaeth o ryw ddeugain ar hyn o bryd. Mae’r Parch. Owen Thomas, y gweinidog presennol, wedi bod yn pregethu i’r dosbarth ers dwy flynedd.
..
Codwyd addoldy gan y Bedyddwyr Cymreig yn 1890, 16 x 20 troedfedd o ran ei faint. Mae i’w corff hwythau aelodaeth o ryw bump ar hugain. Y Parch. D. R. Morgan yw eu gweinidog. 
DIWEDD.

  Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Hiteman, Iowa

GWIBDAITH I HITEMAN A GEORGETOWN, IOWA.  Rhan 1 – Hiteman.. Y mae gennyf lif o luniau o’r ymweliad â’r un gyntaf o’r ddwy gymdogaeth Gymreig hyn ar youtube (Hiteman, Iowa):….http://www.youtube.com/watch?v=z_L7ZFz4TKw..Y modd y daethom, trw… Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Carnarvon, Iowa

Y mae talaith Iowa yn frith o sefydliadau Cymreig. Yn rhyfedd ddigon, pentref Almeinig yn fwy na dim oedd Carnarvon, ac er bod sefydliad Cymreig ryw hanner can milltir i’r Gogledd (Peterson / Lynn Grove) ac un arall ryw bedwar ugain milltir i’r De (Wales), nid oedd yn y cylch hyn gymuned Gymreig fel y cyfryw. 
Sut felly aeth Carnarvon yn enw arno?
Yn ei hanes am Swydd Sac, Iowa (History of Sac County, Iowa) (1914) y mae’r awdur William H. Hart yn dweud fel hyn am y pentref (o’i drosi o’r Saesneg):
Carnarvon… Dyma’r unig bentref yn nhrefgordd Viola a gynlluniwyd a chofrestrwyd; 24 Hydref 1881 fu dyddiad ei gofrestru. Fe’i gosodwyd allan gan George W. Pitcher, yn adran 22, trefgordd 86, cylchfa 36.
Ar hyn o bryd mae iddo tua chant a hanner o drigolion. Cyffordd ar reilffordd y Chicago & Northwestern yw Carnarvon, lle y mae cangen Carroll yn ymadael â changen Tama.
Fe’i lleolir ychydig dros bedair milltir i’r de-ddwyrain o dref Wall Lake.
Fe enwyd y trefi fel a ganlyn… Carnarvon, ar ôl tref o’r un enw yng Nghymru, man geni y Goruchwyliwr Adran Hughes (“Division Superintendent Hughes”) o Gwmni Rheilffordd y Chicago & Northwestern…
Pwy yn union, tybed, oedd y Bonwr Hughes o Arfon?
Dyma luniau o Carnarvon a’r cylch yr wyf wedi eu rhoi at ei gilydd yn ddiweddar (sef ddoe):

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Carnarvon, Iowa

Y mae talaith Iowa yn frith o sefydliadau Cymreig. Yn rhyfedd ddigon, pentref Almeinig yn fwy na dim oedd Carnarvon, ac er bod sefydliad Cymreig ryw hanner can milltir i’r Gogledd (Peterson / Lynn Grove) ac un arall ryw bedwar ugain milltir i’r De … Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Dodi hen lyfrau Cymraeg ar-lein

Ers blynyddoedd bellach yr wyf, o bryd i’w gilydd, yn dodi hen destunau Cymraeg, sydd erbyn hyn yn eiddo i bawb (am fod yr hawlfraint arnynt wedi dod i ben), ar ein gwefan (Gwefan Cymru a Chatalonia). Mae’n fodd i “achub” hen lyfrau a’u rhoi o fewn… Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Dodi hen lyfrau Cymraeg ar-lein

Ers blynyddoedd bellach yr wyf, o bryd i’w gilydd, yn dodi hen destunau Cymraeg, sydd erbyn hyn yn eiddo i bawb (am fod yr hawlfraint arnynt wedi dod i ben), ar ein gwefan (Gwefan Cymru a Chatalonia).

Mae’n fodd i “achub” hen lyfrau a’u rhoi o fewn cyrraedd pawb (er nad oes fawr o werth llenyddol i lawer ohonynt erbyn heddiw – creiriau hanesyddol ynt yn hytrach). 
Mae pob testun Cymraeg ar y rhyngrwyd hefyd yn helpu creu corpws hwylus o’r iaith ar gyfer archwilwyr ieithyddol. (Weithiau, wrth chwilio am enghraifft o ryw air drwy Google, rwy’n gweld ei fod ar glawr mewn llyfr diberchennog o’m heiddo innau. Nid oedd yr holl waith yn ofer wedi’r cyfan!)
Yn ychwanegol, mae pob diferyn yn y môr hwn yn dod â’r Gymraeg i sylw gweddill y byd. 
Ac yn anad dim y mae eu paratoi yn fodd cael blas ar hyd yn oed y llyfrau mwyaf sych o’r ddeunawfed ganrif – casgliadau o bregethau hirwyntog a diderfyn, cofiannau sebonllyd, a barddonaiaeth ddiawen a di-fflàch. Ceir yma a thraw sylw diddorol am ryw unigolyn neu bentref, rhyw briod-ddull wedi mynd yn angof ers talwm, geiriau tafodieithol, sôn am lefydd a ystyrir yn gwbl Saesneg erbyn heddiw, ond yn Gymraeg os nad yn gwbl Gymraeg ganrif a hanner yn ôl, megis ym Mro Morgannwg neu yng Nghwm Sirhywi).
Wrth gwrs, mae llawer yn gwneud gwaith tebyg. Dros y blynyddoedd, y mae gwirfoddolwyr wedi bod wrthi’n paratoi testunau ar gyfer gwefannau fel Cywaith Gutenberg ac mae ambell lyfr dihawlfraint yn y Gymraeg wedi cymeryd ei le rhwng y miloedd sy ganddynt. Ond nid yw’r llyfr gwreiddiol ar gael ar ffurf delwedd yng ngwefan  y cywaith. 
Mae’n ddefnyddiol bod â delwedd o’r tudalen gwreiddiol i gael ei gymharu â’r testun teipiedig weithiau – wrth atgynhyrchu’r hen lyfrau ar ffurf testun electronaidd, mae’n anochel fod ambell wall yn ymwthio i’r testun yn ystod y gwaith copïo, neu’r cywiro ar y sganiad. Gall fod hefyd newid sylfaenol ar fformat tudalen er mwyn eu  gwneud yn addas ar gyfer dogfen testun electronaidd.

Erbyn hyn mae Google Books, Internet Archive, ac eraill, yn ychwanegu holl gynnwys ambell lyfrgell at yr adnoddau sydd i’w cael ar y Rhyngrwyd, ac ymhlith y pentyrrau hyn o lyfrau y mae llawer yn y Gymraeg. Yn ogystal â’r delwedd neu lun o’r tudalen, mae’r cymwynaswyr hyn yn ei drawsnewid yn destun electronaidd.
 

Sut bynnag, nid yw’r delwedd bob tro yn ddarllenadwy (y sganiad wedi methu yn rhannol neu’n gyfangwbl, er enghraifft); at hyn, y mae’r fersiwn destun electronaidd yn un “amrwd”, heb gywiro gwallau’r rhaglen ANG (Adnabod Nodau Gweledol).
Yr wyf wedi rhoi cynnig ar wahanol ffyrdd o gyferbynnu delwedd o’r tudalen gwreiddiol â’r testun electronaidd, ond nid yw’r atebion wedi bod yn gwbl foddhaol bob amser.
Problem fawr hefyd yw bod y delweddau’n llyncu llawer o le ar y wefan.
Mae’n bosil “allfudo”’r broblem hon, a rhoi’r delweddau ar wefan allanol megis ImageShack (am ddim). Dodir dolen gyswllt yng nghorff y testun electronaidd ar gyfer pob un o’r delweddau, ond bydd ambell ddolen yn torri am ryw reswm neu’i gilydd dros amser. Mae’n cymryd llawer o amser i fynd at bob delwedd, a’u gwneud yn fwy i gael eu gweld yn glir. Ac mae’r holl broses o baratoi testun yn y modd hyn yn un lafurus a hir.
Efallai taw rhoi delweddau o dudalennau’r llyfr yn ei gyfanrwydd ar “youtube” yw’r ateb.

O wneud hyn, gellir gweld hefyd sut yn union y mae llyfr o’r clawr blaen hyd at y clawr cefn. Er nad yw’r ansawdd o’r radd flaenaf, eto i gyd y mae’n bosibl darllen y testun gwreiddiol.
Yr wyf wedi rhoi ar “youtube” yn ddiweddar y llyfrau hyn (maent i’w gweld ar ffurf destun electronaidd hefyd yn y wefan): 

1) Chwedlau Aesop Glan Alun, a gyhoeddwyd gan Hughes a’i Fab, Wrecsam (dwy gyfrol, yn ddiddyddiad, efallai o 1850-1860).

Gwaetha’r modd, mae pryfed arian wedi difetha rhai o’r tudalennau yn y llyfr hwn.


(Nid y troseddwyr eu hunain sydd yma gyda llaw – o lun mewn erthygl wikipedia ar Lepisma saccharina y mae’r teulu bach uchod. Nid wyf byth yn gweld y diawliaid bach – dim ond ôl eu dinistr.)
2) “Murmuron Tawe” gan y Parch. D. G. Jones (Pontardawe), 1913. (Llyfr cerddi, “darnau adroddiadol i bobl ieuainc a phlant”)

3) Hanes Tonyrefail (Thomas Morgan, 1899). Yn yr achos hwn, mae’r tudalenau testun electronig wedi eu gosod rhwng y delweddau’r llyfr am fod ansawdd y delweddau gwreiddiol mor wael –  wedi’u gwneud ar sail llungopïau a wnaed ar llungopiwr cynteig mewn rhyw lyfrgell cyhoeddus ddeugain mlynedd yn ôl.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Vilobí d’Onyar (Swydd La Selva)

Bore Sul 23 Ionawr 2010. Mae hi’n oer, oer. Codi am chwech, rhedeg trwy heolydd gwag y ddinas – bron neb i’w weld, ar wahân i ambell rai sydd yn ymlusgo tuag adref ar ôl cael llwyth ym marau canol y dre.Cyrraedd Yr Orsaf Fysiau Ogleddol a dal y… Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Vilobí d’Onyar (Swydd La Selva)

Bore Sul 23 Ionawr 2010. Mae hi’n oer, oer. Codi am chwech, rhedeg trwy heolydd gwag y ddinas – bron neb i’w weld, ar wahân i ambell rai sydd yn ymlusgo tuag adref ar ôl cael llwyth ym marau canol y dre.
Cyrraedd Yr Orsaf Fysiau Ogleddol a dal y bws o Barcelona am saith i Faes Awyr Girona, rhyw awr a chwarter o daith. Mynd i Fryste y mae’r ychydig gyd-deithwyr – y mae awyren Ryanair yn ymadael am 10.20.
Ond mynd i ras 16 cílomedr yng nghefn gwlad Catalonia yr wyf innau – mewn pentre o’r enw Vilobí d’Onyar sydd ryw bedwar cílomedr o’r Maes Awyr. Anodd dros ben yw teithio yn gynnar, gynnar gyda thrafnidiaeth gyhoeddus ar fore Sul, ond trwy lwc dyma weld bod y bws hwnnw yn mynd yn lled agos ac yn cyrraedd dri chwarter awr cyn y saethir ergyd cychwyn y ras. Digon o amser i wibio rhwng y caeau llydrewog i’r pentre.
Dyma luniau o’r ras – y tymheredd islaw sero gydol y bore – ond haul braf yn tywynnu arnom.
Gwers Gatalaneg:
Vilobí d’Onyar [bi-lu-BI dun-IA]
SORTIDA [sur-TI-d*] llinell gychwyn
ARRIBADA [*-ri-BA-d*] llinell derfyn
* = llafariad dywyll

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Gwalia Deg, Nebraska – am y pumed tro

Soniais yn y dyddlyfr am Gwalia Deg yn nhalaith Nebraska ar 15 Gorffennaf 2006, 15 Medi 2008, 16 Medi 2008 a 8 Ebrill 2010. O dipyn i beth yr wyf wedi bod yn dodi at ei gilydd y wybodaeth sydd wedi dod i law am y sefydliad hwnnw, ac yr wyf wedi ychwane… Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Gwalia Deg, Nebraska – am y pumed tro

Soniais yn y dyddlyfr am Gwalia Deg yn nhalaith Nebraska ar 15 Gorffennaf 2006, 15 Medi 2008, 16 Medi 2008 a 8 Ebrill 2010. O dipyn i beth yr wyf wedi bod yn dodi at ei gilydd y wybodaeth sydd wedi dod i law am y sefydliad hwnnw, ac yr wyf wedi ychwane… Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Flint Creek, Iowa, eto

Ym mis Awst buom yn chwilio un prynhawn Gwener am fynwent y Cymry ar bwys Mediapolis, yn nhalaith Iowa, ond yn ofer. Rwy’n rhyfeddu erbyn hyn pa mor hawdd yw mynd ati o dref Mediapolis – ond y diwrnod hwnnw er chwilio amdani, dan fynd i lan ac i la… Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Flint Creek, Iowa, eto

Ym mis Awst buom yn chwilio un prynhawn Gwener am fynwent y Cymry ar bwys Mediapolis, yn nhalaith Iowa, ond yn ofer.

Rwy’n rhyfeddu erbyn hyn pa mor hawdd yw mynd ati o dref Mediapolis – ond y diwrnod hwnnw er chwilio amdani, dan fynd i lan ac i lawr y lonydd cefn (neu’r heolydd grafel a’r traciau pridd a bod yn fanwl), nid oedd modd ei darganfod.
Flint Creek oedd enw’r sefydliad – felly rhaid bod mewn rhyw fan ar lannau’r nant (Flint River yw’r enw erbyn heddiw).
Nid oedd brodorion y lle yn gwybod fawr ddim am y fynwent, a llai byth am yr hen arloeswyr o Gymry – mewn gwirionedd, pobl o bant oedd llawer mae’n debyg, wedi symud i fyw i gefn gwlad.
Yn y motel un noson, neu tu faes o dan y sêr yn y maes pebyll noson arall, bûm yn craffu ar fapiau lloeren Google ar y cyfrifiadur – ond megis chwilio am nodwydd mewn tas wair y bu’r cyfan.
Dychwelson ni’r archwilwyr ddau ddiwrnod wedyn i Swydd Des Moines, gan foduro i lawr o Iowa City, a’r tro hwnnw daeth llwyddiant i’n rhan. Ar lan y nant mewn llwyn o goed yr oedd y fynwent.
O edrych ar Mediapolis ar fapiau Google yn awr, dacw’r fynwent mor olau â’r dydd, lle mae Heol Mediapolis yn croesi’r nant o’r enw Flint Creek (Sylwer taw cilfach fôr yw creek y Sais, ond i’r Americaniaid nant yw’r ystyr)
Rhaid bod rhyw hen ddywediad yn crisialu’r syniad o ddod i adnabyddiaeth lle ar ôl oriau o chwilio amdano – efallai bod rhyw ddoethair bach yn Y Myfyryian  – rhywbeth megis “dieithr nes cyfarwydd”.
http://www.youtube.com/watch?v=hXU1GWdBKb8 Mynwent y Cymry yn Flint Creek



Yn yr iaith fain y mae’r rhan fwyaf o’r arysgrifiadau, er bod ambell un yn Gymraeg.
Mae llawer o’r arysgrifiadau yn amhosibl i’w darllen erbyn heddiw gwaetha’r modd, a llawer o’r cerrig beddau wedi eu torri yn eu hanner. 

Dyma Iorthryn eto yn sôn am y sefydliad hwn: (HANES CYMRY AMERICA; A’U SEFYDLIADAU, EU HEGLWYSI, A’U GWEINIDOGION, EU CERDDORION, EU BEIRDD, A’U LLENORION; YN NGHYDA THIROEDD RHAD Y LLYWODRAETH A’R REILFFYRDD; GYDA PHOB CYFARWYDDIADAU RHEIDIOL I YMFUDWYR
I SICRHAU CARTREFI RHAD A DEDWYDDOL. GAN Y PARCH. R. D. THOMAS  (IORTHRYN GWYNEDD.). 1872.)

6. FLINT CREEK, Des Moines Co., Iowa, (Pleasant Grove P.O.) – Saif y sefydliad Cymreig bychan hwn tua 25 milldir i’r de o sefydliad Long Creek. Gellir myned o Columbus Junction, neu o Burlington yno yn awr gyda y “Burlington, Cedar Rapids, and Minnesota R.R,” trwy ddisgyn yn Kossuth Depot. Pedair milldir sydd oddiyno at y capel. Nid yn Sperry Depot, a’r Morning Sun Station, lle mae Hugh Edwards, Ysw., a’i deulu yn byw, gynt o Geryg-y-Druidion [sic], Sir Ddinbych, G.C. Mae efe a’i deulu yn aelodau yn yr eglwys Annibynol yn Flint Creek. Gwlad ardderchog a ffrwythlon sydd oddiyno am filldiroedd hyd Flint Creek; ac oddiyno trwy Pleasant Grove, ar draws y wlad hyd New London, neu Danville, ar y “Burlington & Missouri R.R.”

Y sefydlwyr cyntaf yn Long Creek [sic – Flint Creek y dylai fod, mae’n debyg] oeddynt John Jones a’i wraig, o Sir Fon, G.C., aelodau crefyddol gyda y T.C. Daethant yno yn ngwanwyn y fl. 1842. Buont feirw tua’r fl. 1855, a chladdwyd hwynt yn y fynwent wrth y capel. Mae eu meibion, Edward Jones a John J. Jones, a’u teuluoedd, yn dyddynwyr parchus yn yr ardal eto. Wedi hyny daeth Jonah Morris, o Sir Gaer, D.C., yno gyda’i wraig a’i blant yn 1843. Claddwyd Mr. Morris yn Long Creek [sic – Flint Creek y dylai fod, mae’n debyg], a symudodd ei weddw i Newark, Ohio. Daeth James Thomas, o Sir Gaer, D.C., yno yn 1843. Claddwyd ef yn mynwent y capel Mai, 1868. Mae ei weddw a’i fab yn byw yn yr ardal eto. Daeth John Jacobs, Sir Gaer, D.C., yno yn 1843. Bu ef yn California. Joshua Jones a’i wraig a ddaeth yno o New York yn 1845. Claddwyd ef wrth gapel y Bedyddwyr Saesonig yno tua’r fl. 1856. Mae ei weddw yn byw yn yr ardal eto. Yr un fl., 1845, daeth Benjamin Jones a’i wraig yno o Lundain, Lloegr. Pobl grefyddol oeddynt gyda y T.C. Claddwyd ef mewn mynwent yn agos i Pleasant Grove yn y fl. 1846. Ei weddw ef yw Mrs. Jacobs; ei fab ef yw Benjamin Jones, a’i ferch ef yw gwraig Thomas Thomas (B.,) sydd yn byw yno eto. Thomas Evans, o Sir Aberteifi, a’i wraig a’i blant, a ddaethant yno yn 1845. Pobl grefyddol gyda yr Annibynwyr oeddynt. Bu ef a’i wraig a dwy o’i ferched farw o’r cholera, a chladdwyd hwynt yn mynwent y capel. Mae Mr. Henry Evans, eu mab, yn byw yn yr ardal eto. Eu merched hwy yw Mrs. Gowdy, o Flint Creek, a Mrs. Gartley yn Burlington. Daeth Robert Jones a’i wraig a’u plant, o Sir Fon, yno yn 1845. Yr oedd ef y pryd hyny yn aelod gyda’r Eglwyswyr, a’i wraig gyda’r Bedyddwyr. Yr oedd y ddau yn fyw yno yn niwedd y fl. 1870. Claddwyd dau o’u plant yn mynwent y capel; ond y mae y rhai canlynol yn fyw ac yn gysurus: – John E. Jones (A.,) David E. Jones (B.,) Isaac N. Jones (A.,) Sarah, gwraig y Parch. Thomas W. Evans, William W. Jones, Clay City, Clay Co., Illinois. Daeth Erasmus Evans a’i wraig, a’i feibion a’i ferched yno yn 1845, o rywle yn agos i dref Caernarfon, G.C. Prynasant 40 erw o dir tua milldir i’r gorllewin o’r capel. Dychwelasant i’r gweithiau glo, i’r dwyrain o St. Louis, Missouri. Pobl anghrefyddol oeddynt. Dichon eu bod wedi eu claddu. Os oes rhai o’u perthynasau yn fyw, dymunwyf eu hysbysu fod y tir heb ei gau i mewn eto, ac y gallant ei adfeddianu trwy dalu yr holl drethi.

Tua’r fl. 1850, ymfudodd amrai oddiyno i California, ac ni ddaeth llawer o honynt byth yn ol. Ymadawodd Thomas Lewis, John Davies, a David Williams, i leoedd ereill; ac ymadawodd Thomas Lewis (B.,) a’i deulu, gynt o Sir Benfro, D.C., i Dawn, Missouri, yn 1848. Lleihawyd y boblogaeth Gymreig.

Prynodd llawer o’r sefydlwyr cyntaf Land Warrants am $30 i $150, a sefydlasant ar diroedd da o goed a doldiroedd (prairies.) Mae aber fechan y Flint Creek yn rhedeg drwy yr ardal, ac oddeutu hono mae digon o goed ac o geryg. Mae rhai tai da wedi eu hadeiladu yn yr ardal gan y Cymry; ac y mae rhai o honynt yn bobl gyfoethog, a haelionus at bob achos da. Dyma restr o enwau y preswylwyr Cymreig yn Tachwedd, 1870: –

ENWAU. O BA LE O GYMRU? &C. PA BRYD?

Robert Jones / Mon, G.C. / 1843
John R. Jones / Mon, G.C. / 1843
David R. Jones / Mon, G.C. / 1843
Mrs. Joshua Jones / New York, N.Y. / 1843
Isaac N. Jones / Ganwyd yno yn / 1844
Mrs. Ann Thomas / Sir Gaer, D.C. / 1845
Henry Evans / Aberteifi, D.C. / 1845
Benjamin Jones / Llundain / 1845
Mrs. Jacobs / Llundain / 1845
Thomas Jones / Iowa / 1847
Edward P. Hughes / Liverpool / 1850
William E. Jones / Fflint, G.C. / 1853
Edward Jones / Mon, G.C. / 1855
John J. Jones / Mon, G.C. / 1846
William W. Williams / Mon, G.C. / 1853
William Lloyd / Ohio / 1858
William James / Sir Gaer, D.C. / 1858
William W.Jones / Arfon, G.C. / 1858
Thomas H. Evans / Ohio / 1865
William L. Roberts / Meirion / 1868
Hugh Jones / Mon / 1867
Richard Jones / Mon / 1868
William D. Roberts / Meirion / 1869

Mae yn yr ardal tua 24 o deuluoedd, a thua 120 o boblogaeth Gymreig. Yn eu plith mae amrai o bobl ieuainc yn gwasanaethu.

Ffurfiwyd yr Eglwys Gristionogol Undebol (The Christian Society) yn nhy Jonah Morris, gan y Parch. David Knowles (A.,) yn Mehefin, 1848, gydag ychydig o aelodau. Adeiladwyd y capel cyntaf yno gan yr hen Gristion ffyddlon John Jones (T.C.,) bron oll ar ei draul ei hunan. Gwnaed y capel newydd hardd presenol yn 1868. Traul, $11,100. Talwyd yr oll gan yr ardalwyr. Da iawn. Aelodau, 40; Ysg. Sab., 50; cynulleidfa, 80. Diaconiaid – Thomas Edwards, Richard Jones, trysorydd; a Benjamin Jones, Ysgrifenydd, Bu y gweinidogion canlynol yn llafurio yno: – Parchn. David Knowles, George Lewis, John Pryce Jones, John Price, Thomas W. Evans (14 o flyneddau); Evan Griffiths, am ychydig amser. Eu gweinidog presenol yw y Parch. Robert Evans, gynt o Waukesha Co., Wis.

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Sefydliad y Cymry yn Big Rock, Illinois

Dydd Calan 2011 (dydd Sadwrn) hyd Ddydd Sadwrn 8 Ionawr 2011. 

Wythnos yng Nghanolbarth Gorllewinol yr Unol Daleithiau, yn dioddef y tywydd oer oer – y tymheredd islaw sero gydol yr amser a gwynt main ar ben hynny. 

Ond cyfle heb ei ail i olrhain ambell un o’r hen sefydliadau’r Cymry. 
Ddydd Sul yr ail ddydd o’r flwyddyn newydd aethom ni’r olrheinwyr o Chicago i Ogledd-orllewin Iowa, trwy’r ardaloedd a fu gynt yn rhai Cymreig (a Chymraeg) ond ysywaeth heb gael aros i’w harchwilio am fod yr amser yn brin. 
Dim ond gweld yr enwau ar yr arwyddion heol, enwau sydd yn gyfarwydd o ddarllen cyfrol Iorthryn Gwynedd “Hanes Cymry America”. Racine, Milwaukee, Waukesha, Madison, Sun Prairie, Dodgeville, Blue Mounds, Mineral Point…

Yn Linn Grove, Swydd Clay, Iowa cefais dynnu lluniau wrth i’r haul fachlud o Fynwent yr Arloeswyr Cymreig (Welsh Pioneer Cemetery) a orweddai o dan haen denau o eira.
Llecyn hyfryd mewn llwyn o goed oedd y fynwent ddwy flynedd yn ôl, a’r coed yn arbed y cerrig beddau rhag mileindra’r gwynt, am mai ar yr hen breri y mae’r fynwent, uwchben pentre Linn Grove i lawr yn y cwm. Ond llwm a thrist ei golwg yr oedd y fynwent ym mis Awst – y coed i gyd wedi eu torri a’u clirio, a rhai  o’r cerrig beddau yn gorwedd blith draphlith ar lawr.  Meddwl yr oeddwn taw ôl fandaliaid a welwn, ond pam y cliriwyd y llwyn bach cysgydol? 

Rhywrai yn y cylch yn sôn wrthym wedyn am drowyntoedd yr haf oedd wedi achosi tipyn o ddifrod mewn ambell fan. Efallai dyna sydd yn esbonio yr olwg druenus arni.

Ar y daith yn ôl o Iowa i Chicago bu’n bosibl gwneud gwibdaith i dri sefydliad Cymreig yn nhalaith Illinois – Coal Valley ar bwys Rock Island a’r Afon Mississipi yng ngorllewin y dalaith; ac yn y dwyrain, Braceville, ar bwys Coal City a Wilmington, Illinois; a Big Rock, ar bwys Aurora, Illinois. Y ddau gyntaf yn hen ardaloedd y pyllau glo, ond erbyn hyn mae’r diwydiant glo wedi hen ddarfod. Naws ddeheuol i’r cyfenwau yno – Prosser, Morgan….

Nos Wener bûm yn aros yn Joliet, gan fwriadu teithio ddydd Sadwrn  i ddal yr awyren i Zürich ym Maes Awyr O’ Hare (hynny yw, Ó hEidhir!) yn Chicago. Gwelasom ei bod yn bosibl gwneud dargyfeiriad bach a mynd yno drwy bentref Big Rock, heb fod ymhell o Joliet. Soniwyd amdano gan Iorthryn Gwynedd fel un o sefydliadau Cymreig talaith Illinois.
Bûm am bum deg munud ar wib trwy’r fynwent yn yr oerni deifiol yn tynnu lluniau nes ei bod yn ddau o’r gloch. Bu rhaid cyrraedd y maes awyr ewrbyn pedwar. Lle tawel a llonydd oedd y fynwent honno, yr unig swn oedd ambell gar yn mynd heibio a lleisiau tri o lanciau oedd yn chwarae hoci iâ ar gae gerllaw, dros y nant sydd yn llifo gydag ochr goediog y fynwent.
http://www.youtube.com/watch?v=sSPaIvYFelc Rhan 1: Y daith o Joliet i Big Rock

http://www.youtube.com/watch?v=fNNWvZdPooE Rhan 2: Y cerrig beddau ym Mynwent Big Rock




HANES CYMRY AMERICA;
A’U SEFYDLIADAU, EU HEGLWYSI, A’U GWEINIDOGION,
EU CERDDORION, EU BEIRDD, A’U LLENORION;
YN NGHYDA
THIROEDD RHAD Y LLYWODRAETH A’R REILFFYRDD;
GYDA PHOB
CYFARWYDDIADAU RHEIDIOL I YMFUDWYR
I SICRHAU CARTREFI RHAD A DEDWYDDOL.

GAN Y PARCH. R. D. THOMAS,
(IORTHRYN GWYNEDD.)
UTICA, N.Y.
T. J. GRIFFITHS, ARGRAFFYDD, EXCHANGE BUILDINGS:
1872.

Sefydliad Cymreig BIG ROCK, Kane Co., Illinois. – Gorwedda Kane Co., tua 30  milldir i’r gorllewin o Chicago; a’r ffordd nesaf a rhwyddaf i fyned i sefydliad y  Cymry yno, yw myned gyda y train ar y “Chicago, Burlington, & Quincy Railroad,” o  ddinas Chicago i dref Aurora, (30 milldir,) yr hon yw prif dref marchnad y Cymry; ac y  mae ffordd dda i fyned oddiyno gyda cherbyd a cheffylau, neu gyda y Branch R.R. tua  12 milldir.  

Township yw Big Rock, yn 6 milldir o hyd wrth 6 o led. Yr oedd digon o dir rhad y  Llywodraeth i’w gael yno yn 1840. Tir lled wastad yw yr oll o hono; ond ceir ynddo rai  codiadau bychain; ac y mae arno lawer o goedydd da ar lanau yr afonydd bychain sy’n  rhedeg drwyddo, ac mewn manau ereill. Ceir ynddo hefyd lawer o ddoldiroedd  (prairies). Tir da ydyw oll, (black loam soil). Codir llawer o wenith, ac Indrawn, ceirch,  timothy, &c., ynddo . Lle da i fagu gwartheg a moch, &c. Gwenith, 15 bwsiel yr erw;  corn, o 40 i 50 bwsiel yr erw. Y mae yno lawer o berllanau a gerddi da; ychydig o goed  peaches. Fences da yn tyfu o hadau yr Osage Orange; ond fences byrddau a arferir  amlaf yno.   

Y sefydlwyr cyntaf oeddynt Edward Welding, Morris Price, (Llanidloes), a John Pierce,  (Dinbych). – Daethant yno yn 1840, ac y maent yno eto, yn bobl barchus a chyfoethog.  Yn fuan wedi hyny daeth Richard Roberts, (o Sir Fon), a Daniel Evans, (Neuaddlwyd),  a Richard Morris, (Mon), a David Evans, (Neuaddlwyd), ac ereill, yno. Ond pan ddaeth  Evan Ingram, o Langyniw, Maldwyn, yno, yn 1852, yr oedd pris y tiroedd wedi eu  diwyllio o $20 i $25 yr erw; a’r prairies o $4 i $5 yr erw. Y mae ganddo ef dyddyn  rhagorol yno yn awr; ac y mae yn byw yn dra chysurus arno. Nid ellir prynu tyddynau  diwylliedig yno heddyw heb dalu o $40 i $60 yr erw am danynt. Y mae yno yn awr  sefydliad cryf o Gymry crefyddol a chyfoethog. Y mae yno 73 o deuluoedd, ac oddeutu  365 o wyr, gwragedd, a phlant, gweision a morwynion. Y mae rhai o honynt wedi  priodi a chenhedloedd ereill, a thuag ugain o deuluoedd nad ydynt yn arfer siarad ein  hiaith, nac yn dilyn moddion gras yn y capelau Cymreig; ond y mae ganddynt fawr  barch i’w cenedl. Hyd y gauaf yn gyffredin yw pum’ mis – eira yn disgyn yn niwedd  Rhagfyr yn un droedfedd o drwch; rhewi yn galed, a bydd y ddaiar yn gloedig o  ddechreu Rhagfyr i ddechreu Mawrth.    

Ardal amaethyddol hollol yw Big Rock; nid oes yno un math o bentref; ond y mae yno  lawer o dyddynau ffrwythlon, ac o dai coed rhagorol arnynt. Ceir Post Office yno.  

Mae capel ac eglwys Saesnig gan y Bedyddwyr yn y plwyf, a’r Parch. John Jones, un o  sir Fflint, G.C., yn weinidog iddynt.  

Y ddwy Eglwys ANNIBYNOL Cymreig, – Dechreuwyd pregethu Cymraeg yn yr ardal  er ys llawer o flyneddau, gan y Parch. George Lewis, ac eraill. Sefydlwyd yr eglwys  gyntaf yn nhy John Pierce, Ysw., yn Hydref, 1852, pan urddwyd y Parch. John Daniels  yn weinidog iddynt. Adeiladwyd y capel cyntaf yn haf y flwyddyn 1853; capel coed,  26 wrth 32 tr. Traul, $500. Dim dyled. Aelodau yr hen gapel yn bresenol, 30; Ysgol  Sabbothol, 30; cynulleidfa, 95. Bu y brodyr canlynol yn gweinidogaethu yno: – John  Daniels, Rees M. Evans, Jenkin Jenkins, John Parry, John L. Richards, Benjamin Jones,  Richard Williams, Henry Davies.   

Yn 1860, yn amser y Parch. R. M. Evans, ymranodd yr eglwys, a darfu i un ran o honi  godi capel newydd o’r enw “Peniel,” o fewn dwy filldir i’r hen gapel. Capel da, o goed,  ydyw, 26 wrth 36 troedfedd. Traul, $700. Dim dyled. Aelodau, 30; Ysgol Sabbothol,  40; cynulleidfa, 90. Perthyna i hon hefyd lawer o dyddynwyr cyfoethog a pharchus.  (Bu y ddwy eglwys ar wahan am saith mlynedd; ond gwnaed undeb rhyngddynt yn  amser y Parch. Benjamin Jones, Llanidloes gynt – bu farw yn Iowa.) Y maent yn  cydweithredu yn siriol er ys blyneddau. Y gweinidogion a fu yn gwasanaethu yr  eglwys hon, mewn undeb a’r eglwys arall, oedd Benjamin Jones, Richard Williams, (yr  hwn sydd yn byw ar ei dyddyn yn yr ardal eto,) a’r Parch. Henry Davies, gynt o Nefyn,  Arfon, yr hwn a fu yno o Ionawr, 1869, hyd ddechreu y fl. 1871. Yn Tachwedd, 1870,  gwelais y Cymry parchus canlynol yn iach a chysurus, yn Big Rock: – John Pierce,  James Evans, Evan Ingram, Benjamin Davies, Thomas Jones, Thomas James, Evan  Morgan, David J. Evans, Peter Evans, David Thomas, John Jones, John James, Richard  L. Hughes, ac ereill.  

Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Sefydliad y Cymry yn Big Rock, Illinois

Dydd Calan 2011 (dydd Sadwrn) hyd Ddydd Sadwrn 8 Ionawr 2011. Wythnos yng Nghanolbarth Gorllewinol yr Unol Daleithiau, yn dioddef y tywydd oer oer – y tymheredd islaw sero gydol yr amser a gwynt main ar ben hynny.  Ond cyfle heb ei ail i ol… Parhau i ddarllen

Dyddlyfr y Bachan Main: Hunlle pob rhedwr

Ar ddechrau mis Awst euthum i ymweld â pherthnasau sydd erbyn hyn yn byw yng Ngwlad yr Haf, ac un prynhawn o gawodydd trymion ysbeidiol rhedais o dref Bridgwater i dref Ilminster ar draws Gwastadedd a Gweunydd Gwlad yr Haf (prynhawn heulog braf pan gychwynnais!). 
A’r diwrnod hwnnw, ar ôl pâr o oriau, bu mewn sefyllfa y mae pob rhedwr yn ei hofni – yr hunlle o fod wyneb yn wyneb â chi ymladdgar, a dim ffens neu glwyd rhyngom –  hynny yw, bwystfil maleisus sydd heb fod ar dennyn, a dim golwg ar ni pherchennog na lle i ymochel rhag y perygl.  
Ar ochr yr heol yr oedd bwthyn wedi ei amgylchynnu gan metel sgrap o bob lliw a llun, ac o ganol y ddyrysfa fetalaidd neidiodd ci praff dan gyfarthu rhuo mewn modd annymunol dros ben.
Felly dyma fi yn stond ar ganol y lôn a’r ci yn rhuthro arnaf dan chwyrnu’n ffyrnig. Ar yr eilaid olaf, cyn ymdaflu yn f’erbyn, petrusodd – i gael penderfynnu, siwr iawn, ym mha aelod o’r corff yr hoffai gladdau ei ddannedd gyntaf.
Y fi mewn penbleth ar ganol y lôn, fel delw, yn ymbaratoi ar gyfer poen y llarpiad oedd ar fin digwydd, a ryw lathen o’m blaen y ci hwnnw yn benderfynnol o ymosod.
Trwy lwc, ar y foment dyngedfennol, ar lôn dawel, ddi-draffig a gwag, daeth car rownd y gornel ac arafu yn sydyn wrth fy ngweld ar ganol y lôn, a minnau’n gweiddi yn awdurdodol ar y creadur am fynd oddi yno, ac ar yr un pryd yn meddwl yn galed sut oedd dianc rhagddo.
Llwyddais i fynd heibio iddo trwy sleifio ar hyd ochr arall y car, ac ennill tipyn o bellter.
Wrth i’r car gyflymu o’r fan honno (y gyrrwr yn meddwl fy mod yn mynd â’r ci am dro bach, yn ddiamau), dyma’r ci yn gweld ei fod wedi ei dwyllo, ag yn rhuthro ar f’ôl yn flinach fyth. A dyma wyrth arall – ail gar yn dod, ac yn difetha bwriad yr anifail am rai eiliadau yr eildro.
Erbyn hyn, wedi rhoi fy nhraed yn y tir, yr oeddwn gryn bellter i ffwrd o’r cyflafan nis cyflawnwyd. Saethodd y ci tuag ataf eto, ond yn ffodus dechrau anesmytho wrth ymbellháu o’r bwthyn min y ffordd..
A dyna beth òd – nes cyrraedd y pentref nesaf, gwaith hanner awr o’r fan honno – ni  welais yr un car arall ar y lôn.
Mae llun o’r ci hwnnw yn y ffilm bach a wneuthum wrth redeg o bentre i bentre. Bu ffrindiau a rhai o’m cydnabod yn gofyn imi – Ai hwnna yw’r ci? Y peth bach diniwed yna ar ganol y ffordd?
Ni all y cámera ddweud celwydd, meddan nhw. Ond rywsut y mae’r deuddeg miliwn o bicsels yn yr achos hwn wedi methu’n llwyr a dal y mileindra a’r ffyrnigrwydd oedd yn perthyn i’r mab hwnnw o deulu Annwn.

Parhau i ddarllen