blogiadur
Adolygiad Ffilm: The Raid (18)
Y Sêr: Iko Uwais, Joe Aslim, Ray Sahetapy, Pierre Gruno, Donny Alamsyha,  Yayan Ruhian
Sgrifennu: Gareth Evans
Cyfarwyddo: Gareth Evans
Hyd: 101mun
Mae’r disgwyl drosodd o’r diwedd, a ffilm fwyaf cynhyrfus y flwyddyn wedi cyrraedd y sinemáu.
Ar ôl disgwyl cyhyd amdani, pleser o’r mwyaf yw cael adrodd nad yw The Raid yn siomi am eiliad- yn wir,  iddi ’ngadael yn geg agored mewn rhyfeddod, ac yn llawn edmygedd o un Cymro sy di cyffroi cynulleidfaoedd ledled y byd.
Ychydig dros ddegawd yn ôl roedd Gareth Huw Evans ar ganol astudio ar gyfer gradd Meistr mewn sgriptio yng nghanolfan yr Atrium ym Mhrifysgol Morgannwg. Yna, dilynodd ei gariad i Indonesia, lle dysgodd y grefft o gynhyrchu ffilmiau ar gyfres o ffilmiau byrion a dogfen, gan ddod i ddeall y wlad dipyn gwell.
Tra’n ymchwilio i ddiwylliant Indonesia, dechreuodd Gareth ymddiddoru yn y gamp draddodiadol Pancek Silat- martial-art llawer mwy eithafol na Jujutsu a Karate- ac estynodd wahoddiad i bencampwr Pencak Silat  y wlad, Iko Uwais, i  serennu yn ei ffilm gynta, Merentau (2009).
Pan lwyddodd y cynhyrchiad hwnnw i ddenu cynulleidfa sylweddol, penderfynodd y ddau ddatblygu dilyniant, ond yn anffodus, ni sicrhawyd nawdd sylweddol o unrhyw fath. Felly, gyda’r ddau ar bigau’r drain i gynhyrchu hit lleol arall, penderfynwyd troi at eu cynllun wrth gefn: ffilm dipyn rhatach wedi’i gosod mewn un lleoliad, a’i chynhyrchu mewn cwta dri mis.
Nid yn unig lwyddodd y ffilm honno i hudo cynulleidfaoedd yn eu miliynau i sinemáu ledled y Dwyrain Pell, ond ar ôl creu argraff fawr yng ngwyliau ffilm Cannes a Toronto, sicrhawyd adweithiad Hollywoodaidd, ac fe’i disgrifiwyd fel “Die Hard Indonesia” – yr arf farchnata orau posib  i ffilm fechan ag iddi weledigaeth ffres.
Mae’r ffilm ei hun yn gyfuniad clyfar o nifer fawr o genres y sinema, gan gynnwys elfennau Iasoer, Ffilm Gowboi, ac Antur, ac yn  cynnwys stori syml iawn yn y bôn.
Danfonir tîm o ugain o aelodau o heddlu élite i drefnu cyrch gudd ar dŵr ddeg llawr ar hugain o uchder, sy’n gartref i ddihirod gwaethaf dinas Jakarta- gyda’r bwriad o ddod â diwedd i deyrnasiad gwenwynig y cyffurgi Tama Riyadi (Ray Sahetapy) unwaith ac am byth.
Ymysg yr aelodau o’r heddlu y mae’r lefftenant profiadol Wahyu (Pierre Gruno), ei sarjant anrhydeddus Jaka (Joe Aslim) , a’r rookie di-brofiad Rama (Iko Uwais), sydd ar fin dod yn dad.
Yn naturiol, gan mai ffilm antur yw hon, ymhen dim o beth aiff y cynllun o chwith, ac erbyn iddynt esgyn y chweched llawr daw’n gwbl glir eu bod yr heddlu allan o’u dyfnder yn llwyr.
O hynny mlaen, rhaid iddynt frwydro i oroesi, a cheisio cael y gorau ar eu gelynion, cyn i’w gelynion gael gafael arnyn nhw. Yn anffodus, mae’r dihirod dan sylw- gan gynnwys un cnaf o’r enw Mad Dog- ymysg  gwehilion gwaetha’r bydysawd, ac yn meddu ar gryn dipyn mwy o arfau na’r dynion da, gan gynnwys drylliau, machetes- a’r ysfa i ladd.
Heb feiddio datgelu rhagor o’r stori rhag sbwylio’r hwyl i neb, mi allaf gadarnhau fod yr sy’n dilyn yr ugain munud cyntaf llawn tensiwn  ymysg y golygfeydd mwyaf gwaedlyd a threisgar i mi eu profi erioed.
Serch hynny, diolch i berfformiad canolog teimladwy tu hwnt gan Iko Uwais dydy The Raid ddim yn ffilm gwbl ddi-enaid, a diolch i feistrolaeth lwyr o dechnegau cynhyrchu hynod feiddgar a mentrus , mae’r cynhyrchiad yn cydio o’r cychwyn , ac yn gwrthod yn lân â gadael fynd.
Yn wahanol i rai ffilmiau mawrion sydd yn mynnu gosod eu golygfa orau tua dechrau’r ffilm a gorffen â ffrwydriad neu ddau, mae hon yn ffilm sy’dd yn llwyddo i gynnal tensiwn trosgynnol wrth gynnig cyfres o olygfeydd uchelgeisiol sy’n rhagori ar eu rhagflaenydd, gan  arwain at ornest oruchaf sy’n gadael y gwyliwr yn chwys i gyd wrth wylio- heb sôn am yr actorion amatur, sy’n darbwyllo’n llwyr drwyddi draw.
Ar adegau, roedd  trac sain y bwledi’n fyddarol- heb sôn am y defnydd creadigol o oergell, lamplen, cadeiriau niferus a wal gudd- ond  mewn mannau eraill, dim ond curiad calon a sain anadl y gwyliwr oedd i’w clywed, gan gynyddu’r tensiwn fwy fyth.
Mae’n werth canmol rôl flaenllaw y gwaith coreograffi, sef seren fwya The Raid. Mae’r ffilm hon- yn fwy na’r un ffilm arall i mi’i gweld erioed-yn cynnig llwyfan amlwg i’r dynion hynny sy’n peryglu eu bywydau yn ddyddiol er mwyn cynnig adloniant i bawb. Ac fel y tanlinellodd y cyfarwyddwr mewn sesiwn gwestiwn ac ateb yng nghanolfan yr Atrium y prynhawn cyn premiere mawreddog Caerdydd, does dim gobaith i’r un ohonynt enill gwobr sylweddol, gan- yn wahanol i feysydd fel trin gwallt a cholur- dyw’r Oscars a’u tebyg ddim yn cydnabod crefft dynion “stynt”.
Yn yr un sesiwn, soniodd Gareth Evans fod sawl un wedi cymharu’r ffilm i gêm gyfrifiadurol sy’n gwobrwyo’r rheiny  sy’n llwyddo i gyrraedd y lefel uchaf, wrth i’r arwyr wynebu rhwystrau mwyfwy eithafol wrth esgyn y grisiau tuag at y dihiryn mwyaf pwdr yn ei swyddfa sinistr ar y pymthegfed llawr.
Wnaeth o ddim gwadu fod hynny’n wir , ond cyfeiriodd at ddylanwad gryn dipyn mwy arno,  sef yr atgofion melys o gael mynd i siop fideo Hirwaun yn blentyn gyda’i dad, a chael dewis ffilm wahanol i wylio bob penwythnos.
Amsugnodd bopeth- o ffilmiau uchel-ael i “sbwriel” poblogaidd, gan gynnwys The Seven Samurai, Once Upon a Time in The West, Scarface, Die Hard a Commando. Wrth baratoi’r ffilm hon creodd fformiwla yn cynnwys elfennau mwyaf llwyddianus ei hoff ffilmiau a hepgor ystrydebau di-ddim- gan daro ar  alcemi pur.
Dwi ddim yn cofio’r tro dwetha i mi fynychu’r sinema a phrofi’r wefr o dorf gyfan yn ymateb mor uniongyrchol, wrth chwerthin a chymeradwyo mewn anghrediniaeth drwyddi draw .
I’r rheiny ohonoch o anian bur sensitif, da chi, gwell osgoi The Raid. Ond am flas o’r ias, a phrofiad a hanner, mynwch brofi  campwaith dyn yr eiliad- Gareth Evans, yr auteur o Aberdâr.
Y Sgôr terfynol*
*Mae’r sgôr yn seiliedig ar y system sêr, gyda 5 Cookie yn cynrhychioli’r marc gorau ac 1 Cookie yn cynrhychioli’r gwaethaf. Mae 4 Cookie a hanner yn cyfateb i 9 allan o 10.
Dydd Sul, 20 Mai 2012
Mae’n anodd dychmygu’r byd heb ‘mobile phone’ bellach.  Ffôn symudol, ffôn ar y lôn neu’r ffôn bach – tybed beth yw eich enw Cymraeg chi arno? Mae cael signal da yn hanfodol a weithiau fe fydd y signal yn diflannu a’r sgwrs yn mynd yn unochrog iawn!  Er mwyn cael y signal yn ôl byddwn fel arfer yn gweiddi ‘Helo’ ddwy neu dair o weithiau gan godi’r llais wrth fynd cyn cau y ffôn yn glep yn ein siom na weithiodd o!
“Dydd Iau Dyrchafael” oedd hi dydd Iau diwethaf pryd yr oeddem yn cofio’r tro olaf i Iesu siarad hefo’r disgyblion wyneb yn wyneb cyn iddo ddyrchafu yn ôl at ei Dad.  Cyn mynd o’u golwg mae Iesu yn rhoi gorchymyn hefyd i’w ddilynwyr, sef iddynt fynd yn ôl i Jerwsalem ac aros yno am yr Ysbryd Glân – yr Ysbryd yr oedd wedi ei ddisgrifio mor fanwl yn ystod y sgyrsiau yn yr oruwchystafell (Ioan 14-17).
Mynd yn ôl ddaru nhw fel y gorchmynnodd Iesu, a buont yn aros am wythnosau cyn i’r hyn a addawodd Iesu ddigwydd, sef y ‘Pentecost’ rhyfeddol hwnnw pan ddaeth yr Ysbryd a’i sŵn fel gwynt nerthol o’r nef a’i bresenoldeb fel tafodau o dân yn syrthio ar bob un. Mae yna berthynas agos rhwng y ddau ddigwyddiad, Dydd Iau Dyrchafael a Dydd y Pentecost.
Roedd Iesu wedi addo na fyddai byth yn gadael ei ddisgyblion ond y byddai yn anfon yr Ysbryd atynt er mwyn iddo fod hefo pob disgybl ymhob man trwy’r holl fyd ac hyd ddiwedd y byd.  Ni fydd Iesu byth yn colli’r ‘signal’ sydd rhyngddo a’i ddisgyblion oherwydd mai trwy’r Ysbryd y mae yn siarad hefo ni – a thrwy ei Air bywiol.  Does dim perygl i’r Ysbryd golli ei nerth ac nid yw’n bosibl i ni ffoi i unlle oddi wrth yr Ysbryd – ddim hyd yn oed petaem yn gosod ein gwely yn uffern neu ein bod yn trigo yng nghanol y môr (Salm 139).  Does dim posibl i’r Gair golli cryfder ei signal chwaith – dyma Air ein Duw sydd yn sefyll am byth! (Eseia 40:8)
Felly, os ydym weithiau yn teimlo fod yr Arglwydd ymhell a’r signal yn wan – ein bod, fel y disgyblion yn Jerwsalem, yn aros yn ufudd a dim byd fel petai’n digwydd, cofiwn mai yn ein lle ni yr aeth Iesu i’r groes, er ein mwyn ni yr atgyfododd ac er ein mwyn ni y dyrchafodd i eiriol trosom.  Hyn i gyd, er mwyn i ddydd Iau Dyrchafael ac eiriolaeth dragwyddol Iesu droi yn Ddydd y Pentecost yn ein bywyd ni.
“Esgynnodd mewn gogoniant llawn, goruwch y nefoedd fry, ac yno mae, ar sail ei iawn, yn eiriol drosom ni.” (Emyn 543 – Caneuon Ffydd)
“Esgyn a wnaeth i entrych nef, i eiriol dros y gwan;  Fe sugna f’enaid innau’n lan – i’w fynwes yn y man.” (Emyn 493 – Caneuon Ffydd)
Aneurin
Llais Bro Aled 20.05.12(PDF)
Llais Bro Aled 20.05.12(Word)
Trafod y busnes llyfrau
Pysgotwyr Mewn Dŵr Twym
Trafferthion ariannol yn y wlad yr wyt ti’n ei rheoli? Cwyd dy faner ryfel a bant â ni!
Sawl gwaith ŷn ni wedi gweld hyn yn digwydd? Mae rhyfelau’n gallu bod o gymorth mawr i arweinwyr sydd yn ceisio glynu wrth y llyw ar dywydd drwg. Thatcher yn y Malvinas/Falklands. Cristina Kirchner yn yr un man heddiw. Ac yn awr Mariano Rajoy, prif weinidog Sbaen, yn Gibraltar. Mae’r nôl a mlaen parhaus ynglŷn â’r dyfroedd o amgylch y ‘Graig’ wedi codi i’r wyneb unwaith eto wrth ei fod ef yn ceisio edrych yn ‘ddyn mawr’ o flaen trigolion y penrhyn Iberaidd.
Dridiau yn ôl, yn ôl capteiniaid tri chwch pysgota Sbeinig, fe ddaeth aelodau o heddlu Gibraltar ar fwrdd eu llongau pan oedden nhw’n pysgota ‘yn agos at y Graig’ a chwilio’r cychod. Mae’n debyg eu bod yn gwneud hyn oherwydd deddf a basiwyd yn Gibraltar 20 mlynedd yn ôl ac sy’n cael ei gweithredu nawr, sydd yn gwahardd sawl math o rwyd ac offer dal pysgod er mwyn diogelu’r amgylchedd. Mae’r pethau a waherddir yn cael eu defnyddio o dan reolau pysgota Ewrop.
Yn awr, adwaith Madrid. O hyn ymlaen bydd heddlu Sbaen yn mynd mâs yn osgordd i ddiogelu’r cychod; bydd mwy o bobl sy’n croesi’r ffin rhwng Sbaen a Gibraltar yn cael eu stopio a’u chwilio, ac felly’n gorfod aros mwy o amser, – ac o ie, mae brenhines Sbaen wedi canslo’i thaith i Lundain ddydd Gwener i ddathlu jiwbili brenhines Lloegr.
Ac mae gyda fe’r amser i wneud hyn i gyd pan ddylai fe fod yn ceisio datrys y problemau ariannol.
storfa dros dro
Mae fy mab hynaf wedi dod â’i eiddo “am y tro” cyn iddo symud i Texas. Rŵan mae fy ail ferch wedi dod â’i heiddo achos ei bod hi’n gadael am Korea i ddysgu Saesneg am flwyddyn. Mae hi eisiau i ni ei gadw tra mae hi i ffwrdd. Mae’r tŷ wedi troi’n storfa o ganlyniad.
Dal i ddisgwyl
Iechyd mae’n ffrystretin weithiau.
Rhaglen ‘ddewr’ ac ‘arbennig’ gan Dewi Rhys
Rydych chi wedi canmol Dewi Rhys am ei raglen O’r Galon: Taith Dewi ar nos Fercher 16 Mai.
Roedd y rhaglen yn dilyn yr actor poblogaidd wrth iddo ddarganfod mwy am ei deulu gwaed, ac yntau wedi ei fabwysiadu pan oedd yn ifanc iawn.
Gallwch ddarllen mwy am ei daith ar y wefan a’i gwylio unrhyw bryd ar Clic.
Dyma rhai o’ch sylwadau chi am y rhaglen:
Wedi mwynhau rhaglen O’r Galon heno hefo Dewi Rhys. Arbennig o dda.
O’r Galon gyda Dewi Rhys ar #S4C heno yn rhaglen arbennig iawn.
Da iawn Dewi Rhys, rhaglen ddewr i rannu gyda ni gyd. Cofio chwarae rygbi efo Dewi yn Ysgol Syr Hugh.
Da iawn @CwmniDa O’r Galon Taith Dewi neithiwr yn gynnil ac effeithiol iawn.
O’r Galon: Taith Dewi @S4Carlein. Un o’r rhaglenni dogfen orau i fi weld yn y Gymraeg ers sbel.
Mae cyfle eto i weld O’r Galon: Taith Dewi ar S4C nos Sul 22 Mai 10.00pm.
Gwefan   Clic
Brwydr y Fwydlen – rhaglen i gogyddion amatur
Mae S4C yn chwilio am gogyddion amatur gorau Cymru i gystadlu yn y gyfres newydd Brwydr y Fwydlen
Os ydych chi yn gogydd o fri ac am gymryd rhan – neu os ydych chi eisiau enwebu rhywun i fod yn rhan o’r gyfres – cysylltwch â chwmni Teledu Avanti.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 1 Mehefin 2012
Ebost: brwydr@avantimedia.tv
Ffôn: 02920 838 149
Y Cynulliad yn cefnogi ymgyrch ‘Mae’n gwella. Heddiw.’ Stonewall
Mae’r Cynulliad yn falch o gefnogi ymgyrch ‘Mae’n gwella. Heddiw.’ Stonewall, sy’n dweud wrth bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol nad oes rhaid iddyn nhw aros i’w bywydau wella – gall pethau fod yn wych nawr. Rydym ni’n lwcus ein bod ni’n byw mewn gwlad lle y caiff pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol eu hamddiffyn gan y gyfraith. Drwy ymroddiad ymgyrchwyr unigol a sefydliadau gan gynnwys Stonewall,  diddymwyd adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988. O ganlyniad, mae modd hyrwyddo cyfunrywioldeb mewn ysgolion ac mae gan bobl cyfunrywiol hawl i gael partneriaeth sifil, gwasanaethu’n agored yn y fyddin, mabwysiadu plant a rhoi gwybod am achosion o homoffobia a thrawsffobia gan gyfeirio atynt fel troseddau casineb. Yn ogystal, cafwyd Deddf Cydnabod Rhyw.
Rydym ni’n genedl amrywiol a goddefgar, lle mae gan bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol fwy o hawliau a mesurau i’w hamddiffyn nag erioed o’r blaen. Gallwn ddathlu’r cyflawniadau yn y maes hwn, a chofiwch, os ydych chi’n berson lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol, mae hawl gennych i fod yn chi eich hun ac i fod yn falch o bwy ydych chi.
Yn y Cynulliad Cenedlaethol, byddwn ni’n parhau i frwydro dros gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ac i oresgyn homoffobia a thrawsffobia. Rydym ni i gyd yn haeddu bod yn hapus, yn rhydd o fwlio, ac i fyw mewn byd sy’n dathlu amrywiaeth.
Os ydych chi’n credu eich bod chi wedi cael profiad o homoffobia neu drawsffobia, cofiwch nad oes rhaid i chi ddioddef ar eich pen eich hun. Mae sefydliadau sy’n gallu helpu. Mae gan Stonewall, Cymru Ddiogelach a’r Heddlu (Gogledd Cymru, De Cymru, Dyfed Powys, a Gwent) oll brosesau i’ch helpu i roi gwybod am achosion o homoffobia a thrawsffobia gan gyfeirio atynt fel troseddau casineb.
I nodi Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia a Thrawsffobia ac i ddangos ein cefnogaeth i ymgyrch Stonewall mae Rosemary Butler AC, ein Llywydd, a Sandy Mewies AC,  ein Comisiynydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, a nifer o Aelodau’r Cynulliad ledled Cymru wedi recordio fideo yn nodi eu hymrwymiad i gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Yn eisiau:Siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd (ac yn arbennig o Gaerdydd)
Dyma neges gan David Willis o Brifysgol Caergrawnt am waith ymchwil mae’n gynnal i dafodiaethau y Gymraeg. Mae’n swnio’n ddiddorol iawn, mor ddiddorol fel y cytunais i fod yn fochyn cwta iddo heddiw.  Cysylltwch a fo os ydych yn gallu cyfrannu ar ei waith.
Mae’r Gymraeg, fel pob iaith arall, yn newid yn gyson. Dydy plant ddim yn siarad fel eu rhieni, er eu bod wedi dysgu’r iaith ganddynt. Sut mae patrymau ac ymadroddion newydd yn ymddangos ac yn lledu? Mae tafodieithoedd y Gymraeg yn rhan o’i chyfoeth, ond mae pobl heddiw yn fwy tebygol o glywed acenion o ochr arall y wlad nag oedden nhw ganrif yn ôl ac yn fwy tebygol o symud o un pen o Gymru i’r llall. Ydy gwahaniaethau mewn iaith yn diflannu yn sgîl hynny? Ydyn ni i gyd yn dechrau siarad yn fwy tebyg i’w gilydd? Mae pobl newydd yn dysgu’r iaith hefyd, y tu allan i’r ardaloedd traddodiadol. Ydy hynny’n effeithio ar yr iaith ac yn newid ei strwythur?
Dyna’r fath o gwestiwn ‘dyn ni’n trio ei ateb drwy greu Atlas Cystrawen Tafodieithoedd y Gymraeg. I wneud hynny, ‘dyn ni’n chwilio am bobl (yng Nghaerdydd ar hyn o bryd) sy’n fodlon treulio 15 munud yn mynd drwy holiadur/cyfweliad. Nawn ni ofyn ychydig o gwestiynau cyffredinol (lle ydych chi wedi byw, beth ydych chi’n neud) ac wedyn yn gofyn i chi ailadrodd rhestr o frawddegau fel byddwch chi’n dweud nhw mewn iaith pob dydd, mewn ffordd naturiol. Does dim atebion cywir neu anghywir, a ‘dyn ni ddim yn profi iaith neb.
Os ydych chi’n fodlon cymryd rhan drwy neud holiadur, neu drwy ofyn i bobl eraill gymryd rhan, neu mewn unrhyw ffordd arall, cysylltwch â fi, David Willis.