Pin Dwr Trefor: GWYL Y GWANWYN

16eg Mai 2013 – cafwyd cyfarfod da iawn eto heddiw.  Celf oedd ein pwnc diddordeb a cawsom gwmni Tess Urbanska, Arlunydd lleol i ddod atom.  Bu pawb wrthi’n brysur iawn yn gwneud aderyn a dyma i chi rai o’r adar lliwgar fydd o gwmpas Trefor. … Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: DECHRAU DA!

15fed Mai 2013 – heddiw fe gawsom liwio llun o’n ti ni.  Wythnos nesa byddwn yn gwneud model o gartref ac mae’r gennod wedi penderfynnu gwneud castell!! Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Methu gweld yr eliffant ar ei stepan drws

Y ffaith bod Plaid Cymru ‘yn yr anialwch’ yn dilyn etholiadau lleol Ynys Mon ydi thema ein cyfaill yr wythnos yma.  Mae Gwil yn ymddangos yn hapus iawn bod Plaid Cymru yn y dywydedig anialwch, ac mae’n gwbl sicr ei farn mai’r rheswm am hynny ydi’r… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: dwy nofel

Mae’n anodd ffeindio pethau i’w gwneud ar awyren. (Does gen i iPhone na iPad.) Gan fod prin byddai’n medru cysgu ar sedd gul awyren, a dw i ddim yn hoffi gweld ffilmiau, mae siwrnai’n teimlo’n ofnadwy o hir. Efallai bydd darllen llyfrau diddorol yn helpu, ond bydd yn drafferthus eu cadw nhw yn ystod y siwrnai (does gen i Kindle chwaith.) Yna roeddwn i’n sylwi ar ryw nofelau Japaneg ar y silff a adawodd y myfyrwyr Japaneaidd cyn iddyn nhw ddychwelyd i Japan. Mae dau’n swnio’n ddiddorol (un ditectif a’r llall ffuglen wyddonol.) Gwych! Dw i’n bwriadu eu gadael nhw ar ôl eu gorffen i bwy bynnag fydd eisiau darllen arnyn nhw. Parhau i ddarllen

Glo Man: Byd y Teledu

Mae dau frawd o Heol y Cyrnol wedi bod yn brysur yn ddiweddar o flaen y camerau. Iestyn, mab ieuengaf Andrea a Dafydd Jones yw un o’r wynebau a welwyd ar hysbyseb “Western Power”, yn gwisgo cot a helmet ei “dad”. Roedd yn ddiddorol darllen yng nghylchgrawn y cwmni, sut y gwnaethpwyd yr hysbyseb.
Dechreuwyd ar y cynllun ym mis Ionawr 2012, adeiladwyd pentref dychmygol mewn stiwdio, trefnwyd cyfweliadau ar gyfer y “tad” a’r “mab” ac yna bu’r golygfeydd allanol yn ardal Caerffili – tipyn o broses technegol yn ôl yr erthygl. Gyda llaw, os am weld y pentref model, ewch i’r Sioe Amaethyddol, Llanelwedd – cewch weld y trên yn symud drwy’r twnel.

Mae Gruffudd, y brawd hyn, sy’n ddisgybl ym Maes yr Yrfa, hefyd wedi bod ym myd y teledu yn ystod y misoedd diwethaf yn “Casualty”, “Pobol y Cwm” ac yn y gyfres sydd newydd ddechrau, sef “Gwaith Cartref”. Dymuniadau gorau i’r ddau ohonynt.

Parhau i ddarllen

Glo Man: Masnach Deg

Bu nifer o aelodau Capel Newydd yn dathlu’r pumed “Banana Split” yn yr Arcade. Daeth tua 200 i fwynhau yr arlwy ac i estyn croeso i ffermwraig bananas masnach deg o St Lucia. Diolch i bawb a fu’n gysylltiedig yn y trefnu ac i’r ffermwraig Sandra Joseph am egluro sut oedd masnach deg yn gweithio yn St Lucia. Gweler dau o blant yr Ysgol Sul, Joshua a Sara, yn mwynhau yng nghwmni Sandra.

Parhau i ddarllen

Blog yr Hogyn o Rachub: Hen, hen graith

Mae ‘na rai creithiau yn ddyfnach na’i gilydd, a phrin bod llawer o ardaloedd lle mae’r hen greithiau’n aros yn y cof gyhyd â Dyffryn Ogwen. Eleni mae’n 110 o flynyddoedd ers diwedd y Streic Fawr. Does neb byw a gofia hi erbyn hyn, ond os gwn un peth am bobl fy Nyffryn i y peth hwnnw ydi eu bod nhw’n frogarwyr ffyrnig. Mae gan How Gets falchder enfawr yn eu hardal a’u treftadaeth, a hyd heddiw, hyd yn oed ymhlith fy nghenhedlaeth i, a phobl iau na fi (dwi’n mynd yn hen yn slo bach), mae’n hanfodol poeri ar ôl ynganu ‘Pennant’ neu ‘Arglwydd Penrhyn’.



Crëwyd craith ddofn, chwerw yn Nyffryn Ogwen ym 1900-3, a chanrif yn ddiweddarach, am ba reswm bynnag, mae’n dal ym meddyliau pobl y Dyffryn. Mae o fel petai pawb yn cofio’r Streic Fawr yn bersonol. Tydw i ddim yn gallu meddwl am lawer o ardaloedd sydd wedi dal eu gafael ar rywbeth penodol iddyn nhw o’r gorffennol pell mewn ffordd debyg. Bosib mai parhad y chwarel a’i thanio beunydd a’i phresenoldeb cyson sy’n cadw’r hen deimladau’n fyw. Wn i ddim.



Ond fel y dywedais, mae ‘na flas cas yn y geg o hyd pan sonnir am Arglwydd Penrhyn, ac yn benodol George Sholto Douglas Pennant, y ‘brenin y fro yn ei blas’ a oruchwyliasai’r Streic Fawr. Dydi’r teulu ddim yn byw yng Nghastell Penrhyn nac yng Nghymru mwyach, ond mae stâd y Penrhyn dal yn dirfeddiannwr helaeth yn yr ardal.



Roedd y cais cynllunio a gyflwynwyd i Gyngor Gwynedd i godi 69 o dai ym Maes Coetmor yn ddiweddar yn un digon hurt beth bynnag. Nid oes angen cynifer o dai ar Ddyffryn Ogwen pan fo eisoes 120 ar werth yn yr ardal – hyd yn oed os oes 20 o’r tai arfaethedig yn rhai fforddiadwy (llai na thraean). Yn gyffredinol yn yr ardaloedd Cymraeg, helpu pobl i allu fforddio tai sydd eisoes ar werth y dylem fod yn ei wneud yn hytrach na chodi tai.



Af i ddim i fanylion gwrthwynebu’r cais, mae nifer o rai da a dilys, ond wrth gwrs un o’r prif resymau ydi’r Gymraeg. Roedd canlyniadau cyfrifiad 2011 ar gyfer Dyffryn Ogwen yn galondid enfawr i mi, heb sôn am fod yn syndod mawr – gwelwyd cynnydd canrannol yn nifer y bobl a fedrai Gymraeg. Un bach iawn, ond tu allan i orbit Caernarfon, Dyffryn Ogwen oedd yr unig le yn y Fro a welodd gynnydd o gwbl.



Roedd hynny’n eithaf rhyfeddol. Mae’r Dyffryn o hyd yn un o gadarnleoedd yr iaith, hyd yn oed os ydi’r iaith ar lawr gwlad dan bwysau erchyll yno, ond nid y cynnydd ynddo’i hun oedd yn rhywbeth i’w groesawu. Dywed llawer am y Fro gyfoes fod Dyffryn Ogwen erbyn hyn ar ei ffin ddwyreiniol, i’r gogledd a’r dwyrain ohono mae Bangor a Llanfairfechan, sef dwy ardal Saesneg eu hiaith. Dyffryn Ogwen ydi’r ffin. Ydi, mae’r ffin wedi cyrraedd cadarnleoedd cryfaf y Gymraeg. Y peth gobeithiol a welwyd oedd y gall y Gymraeg sefydlogi hyd yn oed ar y ffin ieithyddol. Dydyn ni ddim yn gwneud popeth yn iawn yn Nyffryn Ogwen, ond mae ‘na rywbeth gwydn yno sydd yn, wel, iawn.



Beth fyddai ddim yn iawn fyddai cymeradwyo cais cynllunio o’r fath. Byddai’n ergyd drom i’r Gymraeg ym Methesda. Ni ddeuai’r rhan fwyaf o’r trigolion newydd o’r cylch, ac mae’n deg iawn rhesymegu mai Saesneg fyddai iaith llawer ohonynt. Efallai nad mwyafrif, hyd yn oed, ond byddai llenwi 30-40 o dai newydd gyda phobl ddi-Gymraeg yn y Dyffryn yn ddigon i lusgo’r iaith ar ei lawr.



Beth a wnelo hynny â theulu Pennant felly, meddech chwi? Ddyweda i wrthych. Er eu bod bellach yn byw yn Swydd Amwythig, teulu Pennant sydd bia’r tir ac sydd eisiau codi tai yno – dros 70% ohonynt ddim yn rhai fforddiadwy. Oni fu chwalu Ogwen unwaith yn ddigon i’r teulu, maent eto’n ceisio gwneud hynny ganrif wedi’r chwalfa fawr. Does ryfedd bod o hyd gasineb dwfn atynt yn y dyffryn.

Rhaid pwysleisio nad ydi’r cais eto wedi’i dderbyn. Alla i ond â gobeithio na chaiff ei dderbyn; a dweud y gwir oni fo gweinyddiaeth Gwynedd am fradychu pobl Dyffryn Ogwen yn llwyr alla i ddim gweld y cais yn cael ei gymeradwyo o gwbl. Ond mae o dal yn fy mhoeni i, ac nifer o bobl eraill yn y Dyffryn, o bob oed ac o bob math.



Os ydych chi’n byw yn Nyffryn Ogwen neu â Dyffryn Ogwen yn agos at eich calon, gallwch gyflwyno sylwadau ar y cais yma.



Arferai W.J. Parry fyw yng Nghoetmor – un o arwyr byd chwarela’r gogledd. Disgrifiodd yntau yn ei hunangofiant ddod i gysylltiad â George Sholto:

Yn y fan, clywn Colonel Pennant yn galw arnaf,- “Parry, come back. Call the men back…Tell them that he is my son and heir, George.” Wedi cyfieithu hyn iddynt, ychwanegodd,-”Tell them to beware not to offend George, for if they do he will never forgive, he can never forgive.” Wedi i mi gyfieithu hyn drachefn i’r dynion, troes Colonel Pennant at y mab, yr hwn oedd yn edrych allan drwy y ffenestr, a’i gefn atom, a dywedod,- “It is so George, is it not?. Edrychodd ytau dros ei ysgwydd, heb droi ac atebodd, “Let them try, and they will see

 
Tydi rhai pethau byth yn newid, nac ydyn? Parhau i ddarllen

Rhys Aneurin: Dyma’r poster ddaru mi ddarlunio at Sesiwn Fawr Dolgellau…

Dyma’r poster ddaru mi ddarlunio at Sesiwn Fawr Dolgellau 2013, a fydd yn cymryd lle rhwng y 19eg a’r 21ain o Orffennaf. 

Here’s the poster I created for Sesiwn fawr Dolgellau 2013, which will take place between the 19th and 21st of July. 

Parhau i ddarllen

S4C Caban: Mae ‘na Sion i bob Siân

Gyda’r mwgwd a’r clustffonau yn eu lle – ac mae cystadleuydd arall yn barod i chwarae Sion a Siân  Bob wythnos mae dau gwpwl yn cystadlu am y wobr fawr o £1,000.  Stifyn Parri a Heledd Cynwal sy’n cyflwyno Sion a …Darllen mwy Parhau i ddarllen

Y Neuadd: Tonnau

Mynediad am ddim? Carlamodd Bryn allan o’i oleudy i’r storm dan weiddi canu, ‘Wrth gwrs fe gei di gerdded ar hyd fy llwybr…’ cyn rhwygo ei chorff noeth oddi ar y creigiau. Lapiodd hi yn ei gôt a’i chario i mewn. Yn ofalus, fe’i rhoddodd i orwedd ger y tân a dechreuodd ei sychu gyda [...] Parhau i ddarllen

Y Neuadd: Newid Gêrs

I Bethan ‘’Rhosa yn second. Ma’n saffach i droi cornol.’ ‘Fforth rŵan, Dad. Ia? A wedyn ffuffth?’ ‘Aros yn llai fel rwyt ti yn fy nghof.’ ‘Dw i ar ffiffti ffôr. Fel dy oed di!’ ‘Dos lawr, bendith dduw, i fforti. Wedyn i thyrti. Wedyn i twenti. A bydd yn ddeg eto.’ ‘Manŵfyrs, Dad! Dwisho [...] Parhau i ddarllen

Y Neuadd: Canllaw Bach Caerdydd – Lowri Cooke

Mae gan bawb yng Nghaerdydd eu Caerdydd eu hun. Os daw ffrindiau neu deulu i aros, yna mae’n rhaid mynd â nhw i’ch hoff dafarn, i flasu’r bwyd yn eich hoff dŷ bwyta a mynd am dro i’ch hoff ran o’r parc.  Mae ‘eich Caerdydd’ felly ychydig yn gyfyngedig ar brydiau a dinas gymharol fechan [...] Parhau i ddarllen

Y Neuadd: Myfyrdodau

‘Maen nhw’n esgor a’u coesau ar led dros fedd, mae’r heulwen yn tywynnu eiliad, yna mae hi’n nos eto fyth …’: geiriau Pozzo yn Wrth Aros Godot, mantra Steffan am y dydd  hwn. Ni wyddai hyd sicrwydd ai dychwelyd i gynefin ei blentyndod oedd achos yr atsain diderfyn hwn rhwng ei ddwy arlais, ond yn [...] Parhau i ddarllen

Y Neuadd: Mynyddoedd a Grewyd Gan Ddyn

Mynyddoedd a Grewyd Gan Ddyn – Bob Mitchell Mae prosiect diweddaraf yr artist Bob Mitchell, ‘Man Made Mountains/ Mynyddoedd a Grewyd Gan Ddyn’ yn archwilio’r berthynas rhwng y diwydiannol a’r ôl-ddiwydiannol mewn ffordd ddeheuig, unigryw a blaengar. Cafodd yr artist ei ysbrydoli gan dirlun dramatig Blaenau Ffestiniog ac olion y diwydiant llechi sydd yn amgylchynu’r [...] Parhau i ddarllen

Y Neuadd: Ffenest

Nos Fawrth oedd hi. Roedd Sol yn gorwedd ar y soffa, yn gwylio’r teledu. Wrth ei ochr, ar gadair esmwyth, eisteddai bachgen chwe blwydd oed, yn cicio’i sodlau. Roedd yn hen bryd iddo fod yn y gwely, ond doedd dim amser gwely heb ei fam. Cododd Sol gan cwrw o’r llawr, rhoi siglad iddo, ac [...] Parhau i ddarllen

Ifan Morgan Jones: Pam ydw i’n cefnogi’r Llewod?


Mae’r adeg yna o’r flwyddyn unwaith eto pan mae Cymry cenedlaetholgar yn cymryd balchder mawr mewn datgan eu gwrthwynebiad i dîm rygbi’r Llewod. Efallai y dylwn i fod yn eu mysg nhw, gan fy mod i hefyd yn wrthwynebus i greu hunaniaeth Brydeinig ar draul hunaniaeth unigryw y Cymry, Saeson, Gwyddelod ac Albanwyr.
Felly pam cefnogi’r Llewod? Dyna’r cwestiwn y gofynnodd Busking Womble i mi ar Twitter, ac fe wnes i addo ysgrifennu blog pum munud i’w ateb. 
Wel, yn gyntaf am nad ydw i’n credu bod y Llewod yn cynrychioli hunaniaeth Brydeinig. Mae gwlad cyfan annibynol arall yn rhan o’r peth, wedi’r cwbwl. Ceisiwch argyhoeddi chwaraewyr Iwerddon eu bod nhw yn chwarae i dim Prydain.
Yn fy nhyb i perygl Prydeindod yw mai diwylliant Lloegr ydyw yn bennaf, nid undeb hafal o hunaniaethau pob gwlad fel sy’n cael ei awgrymu gan sloganau fel ‘Better Together’.  Pe bai tîm y Llewod wedi ei gyfansoddi o chwaraewyr Lloegr yn bennaf gydag ambell i Gymro a Sgotyn wedi eu cynnwys ar yr esgyll fe fyddwn i’n derbyn y feirniadaeth. Ond yn ddiweddar made’r Llewod wedi ymdebygu i gynghrair o chwaraewyr Celtaidd, gydag ambell i Sais yn y pac. 
Mae’r chwaraewyr yn dweud bod cynrychioli’r Llewod yn ‘anrhydedd anferth’ ond rwy’n credu bod gan hynny fwy i’w wneud efo’r ffaith ei fod yn dim hynod o anodd cael mynediad iddo, yn hytrach nag unrhyw falchder Prydeinig. Os all Ray Gravell gymryd balchder wrth eu cynrychioli mae’n anodd dadlau bod elfen Prydeinig iawn i’r peth.
Yn bersonol rwy’n gweld y tîm fel ryw fath o ‘y gorau o’r Chwe Gwlad heb Ffrainc a Sergio Parisse’. A dweud y gwir fe fyddwn yn ddigon hapus i ymestyn ffiniau’r tîm i ganiatáu i chwaraewyr eraill o Ewrop gymryd rhan, fel y digwyddodd â Cwpan Ryder. Beth sy’n atal hyn rhag digwydd? Y ffaith bod gan y chwaraewyr iaith yn gyffredin? Traddodiad? Pwy a wyr, ond dyna’r fformat. Hoffwn i symud tymor rygbi hemisffer y gogledd i’r haf, ond does gen i ddim rheolaeth dros y peth, felly rhaid derbyn y drefn fel ag y mae.
Efallai na fyddai angen y Llewod pe bai timoedd y Chwe Gwlad yn maeddu Seland Newydd, Awstralia a De Affrica yn aml. Ond y gwirionedd yw cyfuno ein chwaraewyr gorau fel ryw fath o Transformer-dal-wy yw un o’r unig gyfleon i gystadlu ar yr un lefel â nhw. Hyd yn oed wedyn rydyn ni wedi colli saith o’r wyth gêm prawf diwethaf.
Yn ogystal a hynny mae’r ffaith bod y gemau yn tueddu i fod yn rhai o safon uchel iawn. Oherwydd bod y gemau mor brin ac yn golygu cymaint, mae’r chwaraewyr yn gadael popeth ar y cae. Rwy’n siwr i mi glywed rhywun yn dweud unwaith bod y tair gêm prawf i gyd yn gyfystyr â ffeinal Cwpan y Byd, ac mae’n sicr yn teimlo felly. 
Ond efallai mai’r gwirionedd yw fy mod i’n dipyn o sucker am unrhyw fath o heip. Fe alla’i wylio unrhyw gamp dim ond bod y cyfryngau yn gwneud mor a mynydd o’r peth – a hynny er fy mod i’n ddarlithydd mewn adran cyfryngau ac yn ymwybodol o’r holl driciau y maen nhw’n eu defnyddio i greu’r fath gyffro ynddaf yn y lle cynta’.

Parhau i ddarllen

fel y moroedd: cyllell finiog

Ces i gyllell yn anrheg Diwrnod Mamau (dipyn yn hwyr) gan fy mab hynaf. Mae hi newydd gyrraedd, a dyma dorri llysiau i swper. Mae hi’n anhygoel o finiog! Roedd torri nionyn fel torri menyn efo cyllell boeth. Rhaid cyfaddef bod gen i hen gyllell bŵl a dw i’n gorfod “llifio” llysiau bob tro. Gwnaed yn Swistir ydy’r gyllell newydd; dwedodd y mab ei bod ganddi fil o adolygiadau cadarnhaol ar wefan Amazon! Dw i’n hynod o ddiolchgar. Rŵan dylwn i fod yn ofalus peidio torri fy mysedd!  Parhau i ddarllen

Pethe: Podlediad Pethe : Llyfr Y Flwyddyn

Ar ddiwrnod cyhoeddi rhestr fer gwobr llyfr y flwyddyn 2013 fe aeth Gwion Hallam draw i siop Palas Print, Caernarfon i gael ymateb dau sydd â diddordeb mawr yn y … Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Adolygiad Ffilm: Star Trek Into Darkness (12)

Y Sêr: Chris Pine, Zachary Quinto, Karl Urban, Zoe Saldana, Anton Yelchin, Simon Pegg, John Cho, Benedict Cumberbatch, Alice Eve Y Cyfarwyddo: J.J. Abrams Y Sgrifennu: Roberto Orci, Alex Kurtzman a Damon Lindelof Hyd: 132mun Adolygais Star Trek Into Darkness ar … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Hen Rech Flin: Siarad ar fy rhan neu siarad ar eu cyfer?

Yn y senedd ddoe bu lobio ar ran pobl sy’n dioddef efo clyw’r digwydd (epilepsi).

Roedd Darren Millar AC yn falch o weld pobl o bob parth o Gymru yno i gefnogi’r achos
Good to see people from across Wales at the @epilepsyaction event in the Senedd t… Parhau i ddarllen

bacpacio: Antigua

Yn Llanuwchllyn allwch chi ddim pasio neb ar y stryd heb ddeud helo neu gychwyn sgwrs. A pan mae na gar  yn pasio ac o gysgodion set y gyrrwr y gwelwch chi rhywun yn codi llaw, mi godwch chi law yn ol, a weithiau mi sylwch chi mai ar y person sy’n… Parhau i ddarllen

Lowri Haf Cooke: Merched y Ddinas yn Turin

Weithie, jyst weithie, mae angen dihangfa dros dro, a chyfle i swatio ym mynwes y teulu. Gyda Mam ar hyn o bryd yn derbyn cyfres o driniaethau, penderfynwyd y byddai’n dipyn o donic iddi gael gwibdaith i Turin- yng nghwmni fy chwiorydd a minnau! Trefnwyd … Parhau i ddarllen Parhau i ddarllen

Asturias yn Gymraeg: Pobl v Bleiddiaid

Mae’r blaidd yn ôl yn Ribadesella. Dyma’r mynyddoedd y tu cefn i’n tŷ ni, yn gwisgo het niwl. Edrych tua’r de mae’r llun, o gyfeiriad yr arfordir.  Yr ochr arall, mae nifer o gymoedd cul heulog lle mae rhai o’r cymdogion yn dal i fynd ag anifeiliaid i bori dros yr haf. A dyna lle […] Parhau i ddarllen

BlogMenai.com: Panig bach y Toriaid

Un o’r ychydig bethau cadarnhaol i ddod o lwyddiant diweddar UKIP ydi’r panig sy’n ymledu trwy’r Blaid Doriaidd.  Adlewyrchiad o’r panig hwnnw ydi penderfyniad pedwar o aelodau seneddol Toriaidd Cymru i gicio yn erbyn y tresi mewn perthynas ag Ewr… Parhau i ddarllen

fel y moroedd: mae yna dri

Dw i newydd weld tri aderyn bach yn y nyth ger y drws blaen! Doedd eu rhieni ddim yn ymddangos yn ffyddlon ond rhaid bod nhw’n gweithio’n galed wedi’r cwbl. Bach bach ydy’r nyth. Gobeithio na fydd y bychan yn syrthio. Rhaid gosod clustog o dani hi cyn … Parhau i ddarllen

agssc: Wales Video Gallery

Four interesting interviews, by Wales Video Gallery, arrived recently at the Archive – a fascinating selection of renowned Welsh people being interviewed. Paul Flynn MP Christopher Brain John Scott D. K. Jones Remember that you can come here to watch the material at the Archive.  Just make a request, for the items that you wish [...] Parhau i ddarllen

Pendroni: Newid Byd – A Whole New Adventure

Wel, dim gwleidyddiaeth heddiw. Am 1:36am fore dydd Sul, fe aned mab bach i Geraint a finna – Tomos Geraint (Twm). Mi yda ni wedi mopio’n llwyr hefo fo yn barod! Roedd o’n 7 pwys 3 owns, ac mae o’n berffaith. Diolch i bawb sydd wedi cysylltu hyd yma he… Parhau i ddarllen

Hen Rech Flin: Iaith Iechyd

Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg wedi dweud ei bod hi eisiau clywed gan y cyhoedd am eu profiadau nhw o ddefnyddio’r iaith Gymraeg ym myd gofal iechyd.

Gan fy mod yn Gymro Cymraeg ac yn Nyrs Cofrestredig mi gyfrannais bwt i’r Rhestr Termau Nyrsio … Parhau i ddarllen

Ailddysgu: Cnwd annisgwyl a mwy o’r ardd

Yn fy mhrofiad i, ar ol casglu tatws o’r pridd, dim ots faint dwi’n chwilio am y tatws bach, bach ac yn clirio nhw, mae wastad tameidiau o datws ar ôl, ac erbyn y Gwanwyn mae nhw yn tyfu i fynny trwy’r pridd, ac yn ymddangos.  Ond ddoe, wrth clirio’r gwely lle  roedd tatws yn tyfu llynedd, mi gefais cnwd annisgwyl fel gwelir yn y llun.  


Mae’n rhyfedd sut mae nhw wedi tyfu mor fawr dros y gaeaf a’r gwanwyn oer, tra bod planhigion y tatws dwi wedi plannu yn fwriadol yn fach, fach, fach…

Ar y funud, mae o’n oer yma gyda cawodydd drwm bob hyn a hyn.  Ond stori gwahanol iawn wythnos yn ol, dros y Gwyl Banc, lle roedd yn bosib, o’r diwedd, dal i fynny dipyn gyda gwaith yn yr ardd.  Felly llwyddais o’r diwedd i orffen plannu’r tatws, ac i wasgaru hadau betys a sbigoglys yn yr ardd, a ffa, courgettes, ciwcymbr a squash a mwy o letys yn y tŷ gwydr.  Dyma rhai o’r planhigion bach yn y tŷ gwydr.
Ffa Borlotti ydy’r rhain.  Mae nhw’n hardd iawn, yn fy marn i.  Dyma rhai llynedd

Dwi’n edrych ymlaen at tyfu dipyn mwy eleni.  Ac wrth gwrs mae o’n bosib sychu nhw ar gyfer y gaeaf.
Ond falle ddylwn i son am y brwydrau ac y methiannau hefyd.  Mi wnes i wasgaru hadau Rudbekia “Indian Summer” – ond  - dim byd, sydd yn drueni oherwydd eu bod mor hardd a defnyddiol.  Dyma un llun ohonyn nhw llynedd
Ac un peth newydd eleni ydy’r pys.  Am ryw reswm dwi erioed wedi tyfu pys o’r blaen, ond eleni, mae rhai yn y tŷ gwydr, yn mynd allan bob dydd rwan, i galedu.  Dwi wedi cael brwydr efo’r llygod  yn y tŷ gwydr - a dyna pam mae’r pridd braidd yn oren – powdwr chili i gadw’r llygod i ffwrdd!

Parhau i ddarllen

Anturiaethau Bwyd a Diod: Antur Alsace

Ar ôl misoedd o drefnu, cafodd Anturiaethau Bwyd a Diod gynnal ei noson blasu gwin gyntaf. Y thema oedd gwinoedd Alsace. Mae’r ardal yma sy’n swatio ar lân y fawreddog afon Rhein yng nghesail mynyddoedd y Vosges yn cynhyrchu gwinoedd gwych. Welwch chi mo lawer ohonyn nhw ar silffoedd yr archfarchnadoedd ond mae’n werth chwilota … Continue reading Parhau i ddarllen

fel y moroedd: adolygiad – wy aur

Mae’n ymddangos bod yna ddwy farn eithafol o ran y nofel hon – mae rhai’n gwirioni arni tra bod y lleill eisiau ei thaflu yn y bin. Mae gan Donna Leon farn bendant am bopeth ac mae hi’n ei mynegi drwy’r cymeriadau. Ei barn hi ydy o wedi’r cwbl. Dw i’n … Parhau i ddarllen

Cymdeithas Cymru-Llydaw: Crempogau a’r Llydaweg yng Nghaerdydd

Mae Dafydd Frayling am roi gwybod i unrhyw un sydd am ymarfer ei Lydaweg yng Nghaerdydd y bydd cyfarfod yn Nhŷ Crempogau Sophie, yng nghanol y ddinas, ar 18 Mai, rhwng 10 y bore a hanner dydd.  Parhau i ddarllen

Glo Man: Cylch meithrin Y Betws

Yn ddiweddar, daeth llyfryn i’m meddiant, trwy law caredig Shân Jones, yn olrhain hanes sefydlu’r cylch. Am beth amser, yn y saith degau, bu rhai o famau y pentref yn sôn am ddechrau Cylch Meithrin yn y Betws, yn hytrach na theithio i Rydaman neu Garnswllt. Felly, cynhaliwyd cyfarfod i drafod y syniad yng nghwmni Anne Roberts, swyddog datblygu Mudiad Ysgolion Meithrin. Roedd ganddi athrawes, sef Eirwen Stephens, yn barod i ymgymryd â’r gwaith, a dewiswyd swyddogion sef Cadeirydd – Bethan Davies, Ysgrifenyddes – Vicky James a Thrysorydd Joyce Wenfold. Penderfynwyd gofyn i flaenoriaid Capel Newydd am logi’r Festri, i gynnal y cylch a rhoddwyd caniatâd i’r cais. Bu’r pwyllgor yn brysur am wythnosau yn codi arian i brynu dodrefn, ac yn y blaen, ac ar fore Mawrth, 19 Ebrill 1977 am 9.30 y bore, agorwyd y cylch, sy’n dal i fynd o nerth i nerth.
Mae’r lluniau yn dangos y plant presennol, ac yna plant 1986 gyda’r athrawes Bethan Thomas, cynorthwywraig Dianne Rees a’r Cadeirydd Bethan Davies. Tybed, a wyddoch pwy yw y plant?

Parhau i ddarllen

Golwg Trwy'r Lens: Lun & Kevin

Llongyfarchiadau mawr i Lun a Kevin a briododd yn ddiweddar yng Nghapel Jerusalem, Llanberis gan ddilyn yng Ngwesty Meifod, Bontnewydd.  Yn ystod y seremoni bedyddwyd y plant hefyd gan y gweinidog, Parch Gwynfor Willliams.

Dyma ragflas o’r llunaiu – bydd y set gyflawn i’w gweld maes o law ar y brif wefan.

© Geraint Thomas 2013 Cedwir Pob Hawl – All Rights Reserved

Mae’r Holl luniau a’r deunydd ar y blog hwn yn berchen i Geraint Thomas, cedwir pob hawl.
All images and material is property of Geraint Thomas All Rights Reserved

Parhau i ddarllen

Pethe: Cyhoeddiad rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2013

Rydym yn falch o gael cyhoeddi rhestr fer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yma ar wefan ‘Pethe’. Gweler y fideo i wybod pa lyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn … Parhau i ddarllen

ywers: Cofleidio cyfrifiaduron!

Darllenais erthygl ddifyr iawn neithiwr yn trafod arferion yr athrawon mwyaf effeithiol yn ddefnyddio technoleg (7 Habits of Highly Effective Teachers Who Use Technology) Yn sicr, er mwyn gwneud y mwyaf o dechneoleg yn y dosbarth, mae’n rhaid deall pam ein bod … Continue reading  Parhau i ddarllen

fel y moroedd: diwrnod mamau

Dw i newydd ddod yn ôl o Muskogee, tref gyfagos i wneud y siopa (ceisio gwneud a dweud y gwir) a chael swper efo’r teulu. Er nad oeddwn i’n medru ffeindio beth roeddwn i eisiau, ces i bryd o fwyd da mewn tŷ bwyta newydd (i ni.) Roedd y lle’n llawn dop efo’r bobl eraill a oedden nhw’n dathlu Diwrnod Mamau. Roedd yn ddiwrnod braf cyn iddi fynd yn ofnadwy o boeth. Derbyniais gardiau/galwadau ffôn gan y plant. Diolchgar a hapus iawn ydw i. Parhau i ddarllen

Ar Asgwrn y Graig: Dydd Lluniau

 Mi fues i’n arbrofi efo newid gwedd y blog i rywbeth mae Blogger yn alw’n ‘dynamic view’ a bron a gwneud traed moch o bethau! Rhag eich diflasu efo manylion, digon ydi deud imi orfod ail osod lled a lliw a siap a steil y tudalennau. Peth peryg ydi hanner-gwybod be ti’n wneud yn de!

P’run bynnag, mi fues i allan rhwng cawodydd dros y penwythnos yn tynnu lluniau.

Dwi wedi bod yn ddiog dros y Parhau i ddarllen

Eglwysi Bro Aled: • Y Neges i Sardis (Datguddiad 3:1-6) – Rhodri Glyn (12.05.2013)

Eglwysi Bro Aled: • Y Neges i Sardis (Datguddiad 3:1-6) – Rhodri Glyn (12.05.2013)

http://eglwysibroaled.com/wp-content/uploads/podlediad/12052013_pm_rhodriglyn.mp3[/podcast
Parhau i ddarllen

Y Llwyfan: Fflur Dafydd

You Found Me Out – Beth oedd sbardun rhyddhau’r caneuon yn Saesneg? Daeth y sbardun i ryddhau’r caneuon eto yn Saesneg yn sgil cael ymateb mor ffafriol a chynnes wedi perfformio’n ddwyieithog ar Radio Wales. Am y tro cyntaf, nes … Continue reading  Parhau i ddarllen

Pin Dwr Trefor: CLWB HWYL A SBRI

12fed Mai 2013 – mae’n Wythnos Cymorth Cristnogol ac felly fe gawsom hanes Ivana o Bolivia.  Mae Cymorth Cristnogol wedi helpu teulu Ivana drwy roi ieir iddyn nhw a hefyd hyfforddiant sut i edrych ar ol planhigion coed coco.  Dyma i chi ddau … Parhau i ddarllen

bacpacio: Belize

Does gen i fawr i ddeud am Belize wrthochi. Nes i dreulio rhan fwyaf o’r amser yn cuddio rhag pobl do’n i ddim yn licio.Y cyntaf oedd Sam Tan. Cartwn o ddyn diflas di-ddimensiwn. Nes i lawenhau i ddechrau o glywed fod y dyn ma’n bwriadu teithio fyny i … Parhau i ddarllen

Llais Y Dderwent: Ymwelydd o China

Cawson ni weithdy diddorol iawn ddoe. Daeth dysgwr newydd sy’n byw yn Leicester. Mae Edward Yi He wedi byw yn dde Cymru am 5 mlynedd yn gweithio ym Mhorth Talbot cyn symud i Leicester. Wnaeth o ddysgu’r Gymraeg pan oedd o’n byw yng Nghymru. Chwarae teg i Edward mae o’n siarad yn dda iawn. Cawson ni sgwrs ddifyr yn ystod y gweithdy am y Wasg Cymraeg.


Ar ôl y Gweithdy mi es i am dro o amgylch Derby efo Martin (dysgwr o Clay Cross) cyn mynd draw i Nottingham ar gyfer y prynhawn. Yr oedden ni wedi cael gwahoddiad i gartref Viv Harris sy’n byw yn West Bridgford i chware Scrabble Cymraeg. Dydd llawn o siarad Cymraeg.

Parhau i ddarllen

Blog Answyddogol: Ateb i gwestiwn does ‘na neb yn ei ofyn

Stori fawr yr wythnos i tua 0.05% o boblogaeth Cymru ydi’r newyddion bod Alun Ffred yn bwriadu rhoi’r gorau iddi fel Aelod Cynulliad yn 2016. Fel rhywun sy’n byw yn Arfon, Ffred ydi fy aelod lleol, ac ers i mi fod ar y Cyngor dwi wedi dod i’w adnabod y… Parhau i ddarllen

Llafar Bro: Croeso tywysogaidd

Erthygl gan VPW a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill eleni, am gysylltiad rhwng Tanygrisiau a Phatagonia, ar ol galwad ffo^n gan ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin.


Cais am wybodaeth parthed teulu a ymfudodd o Danygrisiau i Batagonia ar ddechrau’r 20fed ganrif  oedd ganddo, ar ran Patricia Ramos, merch ifanc o Dir Halen yn y Wladfa, a oedd yn Aberystwyth ar brofiad gwaith, ac yn chwilio am rywbeth o hanes ei hen-daid, Griffith P.Jones, a’i deulu a ymfudodd yno o Lerpwl yn 1909. 
Wedi bod wrthi yn casglu ychydig fanylion, gyda chymorth fy nghyfaill Steffan ab Owain, dois ar draws ambell beth difyr yn ymwneud â’r teulu hwnnw. Cafwyd cofnodion am aelodau teulu taid Griffith yn trigo yn Nhalwaenydd ar ystadegau cyfrifiad 1851, gyda Robert Jones, y penteulu, neu Robin Siôn ar lafar, yn byw yno gyda’i deulu yntau. 
Roedd dau o blant yno, Laura, hen-hen nain Patricia, a’i brawd, William, ‘Gwaenydd’, a ddaeth yn arweinydd cyntaf seindorf enwog Gwaenydd, rhagflaenydd band enwocach, seindorf yr Oakeleys.
Ymhen deng mlynedd, roedd teulu Robert Jones wedi symud i fyw i Penllwyn, Tanygrisiau, ac erbyn 1881, preswylient yn rhif 1, Bryn Barlwyd, sydd bellach wedi ei ddymchwel. Yn y cyfamser, yr oedd William y mab, (Gwaenydd), wedi ymfudo i’r Wladfa yn 1874, rhai blynyddoedd cyn ei nai Griffith, ac yno y’i claddwyd yn 1906.  Fel y cyfeiriais ato, yn 1909 yr aeth Griffith, hen-daid Patricia i Batagonia, ac yno y claddwyd yntau yn y 1920a’u. 
B’nawn ddydd Llun, 18fed o Fawrth, pleser pur oedd cael tywys Patricia o amgylch yr ardal, i ddangos y mannau y bu ei chyn-deidiau’n troedio. Roedd hithau’n hynod falch o gael dilyn ei gwreiddiau yma, ond roedd un datganiad pwysicach i’w ddatgelu iddi. 
Tra yn ymchwilio i’w hachau, darganfyddais am fodolaeth disgynnydd o’r un teulu, a pherthynas i Patricia, yn dal i fyw nid nepell o hen gartrefi eu hynafiaid yn Nhanygrisiau. A’r perthynas hwnnw yw Kevin Evans, neu ‘Prinsi’ i bobl y fro, ac yn un o blygwyr rheolaidd y papur bro hwn. Felly, rhaid oedd cyflwyno y ddau i’w gilydd, gyda’r un ohonynt yn gwybod dim am fodolaeth y naill na’r llall, a da oedd profi’r croeso a gafodd Patricia Ramos, o Dir Halen, talaith Chubut, Patagonia yng nghartref ei chyfyrder, Kevin Evans, Tanygrisiau, y diwrnod hwnnw. 
 
Mae mam Kevin, Bella, a’i chwaer Mandy yn byw yn America ers rhai blynyddoedd, a deallaf fod aelodau eraill o’r teulu yn dal i fyw yn yr ardal ‘Stiniog. 
(Delwedd y faner o wefan Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Caerdydd) 
 

Parhau i ddarllen

Cael y System Allan o'm System: Dad-ansoddi, Cyf-un-drefn, Byw gan YOLO Morgrug/annwg

Pa beth yw byw? Gofynodd Waldo un ddiwrnod. Onid Waldo oedd y cyntaf? Naddo. Pa faint o hen blant bach na ofynodd, nac anghofiof (ar ol i lwch y byd ddod i’w lygaid ar ol i niwl yr oesoedd a fu aros drostynt ar ol i guriad llaw hen athro neu hen riant neu’r un […] Parhau i ddarllen

fel y moroedd: seremoni raddio

Es i’r seremoni raddio yn Ysgol Optometreg y brifysgol leol ddoe. Yn anffodus doedd y gŵr ddim yn medru bod yno achos ei fod o ar ei ffordd adref o Seattle ar y pryd. Yn ei le es i mewn ffordd er fy mod i ddim yn gwneud dim ond gweld y seremoni. Roeddwn i eisiau llongyfarch yn bersonol y ddau a chwaraeodd pêl-droed yn y tîm optometreg. Bydd un yn gweithio yn California a’r llall yn Efrog Newydd. Roedd yn seremoni dda iawn (er bod tair araith yn ormod!) ac roeddwn i’n falch o weld 30 doctor newydd hapus sydd wedi cyflawni camp fawr.

Parhau i ddarllen

Pethe: Cyhoeddiad rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2013

B’nawn Dydd Llun, Mai y 13eg, bydd rhestr fer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chyhoeddi ar wefan ‘Pethe’ am 2.00 p.m. Dyna pryd y cawn ni wybod pa … Parhau i ddarllen

fel y moroedd: yr ellysgen gyntaf


Mae’n gellysgen gyntaf ni newydd flodeuo. Wedi gweithio’n galed i gael gwared ar yr eiddew ystyfnig ar y gwely flodau ddiwrnodau cynt, dw i mor falch o’i gweld hi. Dan ni wedi “etifeddu” y blodau gan gyn perchennog y tŷ hwn, ac maen nhw’n blodeuo’n ffyddlon bob gwanwyn er gwaethaf y pridd anffrwythlon. Wrth weld y llun, dw i newydd sylwi’r chwyn! Rhaid i mi gael gwared arno fo ar unwaith! Parhau i ddarllen